intouch HYDREF 2017 | RHIFYN 91| AM DDIM
Cylchgrawn preswylwyr Tai Wales & West
Yn y rhifyn hwn... Twf Adolygiad diogelwch tân Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth 2018 Credyd Pensiwn Logo bwyty
Beicio 350km ledled Cymru dros ON I T A N E
H T E
RID
Ride the Nation 2017 o Ewloe i Gastellnewydd Emlyn i Gaerdydd, rhwng 23 a 26 Medi. Dros 350km a 4500m o ddringfeydd, sy’n hanner uchder Everest! Gwerthfawrogir yr holl gefnogaeth a bydd yn hwb i fynd i fyny’r elltydd serth hynny. Cyfrannwch drwy fynd i: www.justgiving.com/companyteams/wwh
Llythyr y Golygydd a Chynnwys | intouch | www.wwha.co.uk | 03
Croeso Annwyl Breswylwyr
Croeso i rifyn yr ydref o InTouch - y cylchgrawn arbennig ar gyfer preswylwyr Tai Wales & West. Y thema ar gyfer y rhifyn hwn yw “Twf”, gan ei bod hi’n flwyddyn ers i ni groesawu ein preswylwyr yn y Gorllewin i'r gymdeithas. Fe welwch chi sut rydym, yn y flwyddyn ddiwethaf, wedi dechrau cyflwyno'r hyn a addawyd gennym, gyda buddsoddiad mawr mewn gwaith uwchraddio sydd wedi arwain at 350 o geginau newydd, 250 o ystafelloedd ymolchi newydd a miloedd o ffenestri a drysau newydd yn cael eu gosod mewn llawer o'r cartrefi a reolwyd gan Tai Cantref yn flaenorol yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Rydym hefyd wedi buddsoddi mewn cartrefi ym Mhowys, gyda'n 1000fed cartref yn y sir. Mae ein hadran Ar y Gweill (tudalen 9) yn rhoi syniad i chi o'r hyn sy'n cael ei gyflwyno o ran cynigion cynllunio ledled Cymru.
Cynnwys
Twf 04 Chwilair 13 Diweddariad - Tŵr Grenfell 14 Y tu ôl i’r llenni … 16 Logo bwyty 17 Byw’n Wyrdd 18 Crefftau 20 Adroddiad Chwarterol 21 Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth 28
Gwneud Gwahaniaeth i’ch Cymuned
31 Materion Ariannol 34 Rysáit yr hydref 35 Y Diweddaraf am Elusennau 36 Gwneud Gwahaniaeth i’ch Dyfodol 38 Cyfryngau Cymdeithasol 39 Digwyddiadau 40 Newyddion a Safbwyntiau 42
@wwha
Yn dilyn trasiedi Tŵr Grenfell yn Llundain, rydym wedi gweithio'n ddiflino i gynnal adolygiad diogelwch tân manwl o'n holl gynlluniau ac, o ganlyniad, gallwn ddweud yn hyderus nad oes gan unrhyw un o'n heiddo unrhyw ddeunydd cyfansawdd alwminiwm tebyg i’r hyn a ddefnyddiwyd ar Dŵr Grenfell.
Dilynwch ni ar twitter
Mae'r flwyddyn wedi hedfan wrth i ni gyhoeddi'r alwad am enwebiadau ar gyfer ein Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth nesaf. Bydd y seremoni, a gynhelir ar 9 Mawrth 2018, yn dathlu ysbryd cymunedol, dewrder, menter a charedigrwydd ein preswylwyr. Edrychaf ymlaen at weld eich enwebiadau.
Ieithoedd a fformatau eraill
Dros yr Haf, fe wnaethom gynnal adolygiad o InTouch a sut gellid ei wella - diolch i'r rhai a gymerodd ran yn yr arolwg hwnnw. Bydd y canlyniadau’n cael eu nodi yn rhifyn y gaeaf InTouch. Rydyn ni wrth ein bodd yn clywed gennych chi, felly e-bostiwch eich straeon (ynghyd â llun, lle bo modd) neu ffoniwch ni. E-bostiwch contactus@wwha.co.uk neu siaradwch â’n Tîm Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu ar 0800 052 2526. Hwyl ar y darllen, a cymerwch ofal wrth i’r dydd fyrhau yn ystod yr hydref!
Anne Hinchey, Prif Weithredwr
Wyddech chi eich bod chi'n gallu cael rhagor o newyddion a ddiweddariadau ar-lein yn awr?
Os hoffech gael copi o'r rhifyn hwn o In Touch yn Saesneg neu mewn iaith neu fformat arall - er enghraifft, print mawr, rhowch wybod i ni ac few wnawn ni helpu.
Cysylltwch â ni Tai Wales & West, Tŷ’r Bwa, 77 Parc Tŷ Glas, Llanisien, Caerdydd CF14 5DU Ffôn: 0800 052 2526 Testun: 07788 310420 E-bost: contactus@wwha.co.uk Gwefan: www.wwha.co.uk Gallwch hefyd gysylltu ag aelodau o staff yn uniongyrchol drwy e-bost. Er enghraifft, joe.bloggs@wwha.co.uk
04 | www.wwha.co.uk | intouch | Twf
FLWYDDYN ERS YR UNO... Flwyddyn yn ôl fe wnaethon ni uno â Tai Cantref, gyda’r addewid i wneud gwahaniaeth i’r 1500 o aelwydydd yn y Gorllewin a’r staff yng Nghastellnewydd Emlyn Yn yr amser hwnnw, rydym wedi buddsoddi mewn hyfforddiant a gweithdai i ddod â'n diwylliannau a'n gwerthoedd tebyg at ei gilydd ac adeiladu ar y gorau o'r ddau sefydliad. Rydym yn falch o'r cynnydd rydym wedi ei wneud hyd yn hyn. Rydym wedi gwrando ar yr hyn sy'n bwysig i'n preswylwyr newydd ar draws ardaloedd awdurdod lleol Sir Benfro, Ceredigion, Powys a Sir Gaerfyrddin ac wedi llunio ein gwasanaethau i ddiwallu eu hanghenion. Rydym yn:
Buddsoddi yn eich cartrefi Rydym wedi cynnal arolwg o eiddo ac wedi gwrando ar breswylwyr er mwyn darganfod beth sydd ei angen arnyn nhw i ddod â'u cartrefi uwchlaw a thu hwnt i'r safonau ansawdd a bennir gan Lywodraeth Cymru. O ganlyniad, rydym wedi ymrwymo i raglen o £10 miliwn o waith mawr i foderneiddio ein cartrefi ar draws y Gorllewin o nawr hyd at 2020.
Buddsoddi mewn pobl leol Yn ogystal â diogelu'r swyddi yn swyddfa’r Gorllewin yn Nghwrt y Llan, Castellnewydd Emlyn, rydym wedi creu chwe swydd newydd. Mae tri gweithiwr yn gweithio i'n cwmni cynnal a chadw mewnol Cambria yn y Gorllewin. Fe fyddan nhw’n ategu ein contractwyr presennol wrth i ni gynyddu'r buddsoddiad yn yr economi leol o £1 miliwn i £2.5 miliwn y flwyddyn. Rydym hefyd wedi recriwtio Rheolwr Masnachol, sydd wedi ei leoli yng Nghastellnewydd Emlyn, Cynorthwyydd Tai a Swyddog Anghydfodau Cymdogaethau i gynyddu ein staff a helpu preswylwyr â materion tenantiaeth.
Buddsoddi mewn busnesau lleol Yn ystod y tair blynedd nesaf, byddwn yn cynyddu'r buddsoddiad yn economi leol gorllewin Cymru o £1 miliwn i £2.5 miliwn. Rydym yn parhau i
Twf | intouch | www.wwha.co.uk | 05 Carol Scourfield, Rhian Williams ac Ann Tyson, aelodau o staff y Gorllewin, yng Nghynhadledd Staff WWH 2017
ddefnyddio'r contractwyr lleol sydd wedi gweithio i Tai Cantref ers nifer o flynyddoedd, ac rydym yn eu cefnogi i gyflawni ein rhaglen fuddsoddi.
Buddsoddi yn ein hiaith
Erbyn diwedd y flwyddyn rydym yn gobeithio lansio ein gwefan gyfan gwbl ddwyieithog i breswylwyr.
Buddsoddi mewn technoleg
Fe wnaethom ymrwymiad i gryfhau ein gwasanaethau dwyieithog fel y gallai cyn-breswylwyr Tai Cantref barhau i ddefnyddio'r Gymraeg fel eu hiaith o ddewis.
Y tu ôl i'r llenni rydym wedi cyflwyno systemau cyfrifiaduron a ffonau newydd yn ein swyddfa yn y Gorllewin i gyfathrebu’n fwy effeithlon rhwng ein prif swyddfa yng Nghaerdydd a'n swyddfa yn y Gogledd yn Ewloe.
Yn ein swyddfa yn y Gorllewin, Cymraeg yw’r iaith gyntaf ac mae mwy na hanner y staff yn siaradwyr Cymraeg, gyda rhai eraill yn dysgu. Cyflwynir ein gweithrediadau a'n gwasanaethau yn Gymraeg. Rydym hefyd yn cefnogi staff drwy gyllido amrywiaeth o gyfleoedd dysgu, o ddosbarthiadau nos i gyrsiau yn y gwaith a hyfforddiant un-i-un.
Rydym wedi ymestyn ein rhif 24 awr 0800 ar gyfer holl breswylwyr y Gorllewin. Mae'r dechnoleg newydd hon yn galluogi preswylwyr i gysylltu â'u staff tai lleol fel o'r blaen - ond yn rhad ac am ddim ac yn gyflymach. Fe allan nhw hefyd roi gwybod am atgyweiriadau brys ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos. Mae hefyd yn galluogi ymateb mwy effeithlon.
Ar draws y sefydliad cyfan, mae mwy o'n gohebiaeth â phreswylwyr, dogfennau busnes a gohebiaeth â staff bellach yn cael eu cynhyrchu'n ddwyieithog.
Yn barod rydym yn cael adborth cadarnhaol gan ein preswylwyr newydd yn y Gorllewin, sy'n dweud eu bod yn falch o'r pethau rydym yn eu gwneud sy'n gwneud gwahaniaeth.
06 | www.wwha.co.uk | intouch | Twf
CARTREFI NEWYDD I’R GORLLEWIN
Adeiladwyr lleol yn gweithio ar safle Dan y Bryn, Abergwaun Mae gwaith wedi dechrau ar ein cartrefi newydd cyntaf i gael eu hadeiladu yn y Gorllewin. Mae pâr o dai pâr dwy ystafell wely yn cael eu datblygu ar dir sbâr ym mhen draw ffordd bengaead yng nghynllun Dan y Bryn yn Abergwaun, Sir Benfro. Gyda disgwyl cael eu gorffen fis Chwefror nesaf, bydd y cartrefi
newydd yn dod â chyfanswm nifer y cartrefi ar y safle i 61. Amcangyfrifir bod y prosiect yn costio cyfanswm o £269,000 gyda £155,000 o gyllid drwy grant gan Lywodraeth Cymru. Mae Cyngor Sir Penfro hefyd wedi cymeradwyo cynlluniau WWH i greu 30 o gartrefi newydd ar Penwallis Road, i'r de o ganol tref Abergwaun.
Mae'r safle 1.5 hectar yn edrych dros Fae Abergwaun ac yn agos at ein cynlluniau yng Ngwelfor a Dan y Bryn. Disgwylir i'r gwaith ar y datblygiad sy’n werth £4 miliwn ddechrau ym mis Tachwedd. Bydd yn gymysgedd o 7 tŷ 3 ystafell wely, 12 â 2 ystafell wely, 6 fflat ag 1 ystafell wely a 5 byngalo â 2 ystafell wely.
Twf | intouch | www.wwha.co.uk | 07
Lesley Griffiths AC yn mwynhau paned gyda Jason O'Brien ac Anne Hinchey
Ysgrifennydd y Cabinet yn ymweld â chynllun pren o Gymru Roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi ei phlesio’n fawr pan ymwelodd â Chwrt Rhos Fynach yn Llandrillo-ynRhos, gan mai dyma un o'r cyntaf o'i fath i gael ei adeiladu o bren lleol. Mae Cwrt Rhos Fynach yn cynnwys 7 o fflatiau 1 ystafell wely a 4 o rai â 2 ystafell wely o ansawdd uchel, sy’n gartref i 26 o breswylwyr. Mae'r rhan fwyaf o ddatblygiadau yn defnyddio pren a gaiff ei fewnforio gan ei fod yn haws cael gafael arno, ond mae WWH eisiau adeiladu rhagor o gartrefi gan ddefnyddio pren lleol, gan greu rhagor o swyddi yn y gymuned leol a chadw'r
arian yng Nghymru.
Y pren a ddewiswyd ar gyfer y datblygiad £947,504, gyda chyllid o £590,320 gan Lywodraeth Cymru, yw pren sbriws Sitka sy'n cael ei dyfu’n lleol, ac a ddaw o felin lifio yn y Bontnewydd ar Ŵy yn y Canolbarth. Defnyddiwyd 112 o goed i gyd a chyflogwyd 32 o bobl. Fe wnaeth WWH, gyda chymorth Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, gontractio Williams Homes (y Bala) Ltd i ymgymryd â'r gwaith adeiladu. Cyfarfu Ysgrifennydd y Cabinet â Jason O’Brien, sy’n 37 oed ac sy’n gaiaciwr brwd, a oedd eisiau byw’n agos at y môr. Dywedodd Jason: “Rydw i’n hoffi cymeriad a
siâp y fflat, gyda’i nenfydau uchel yn gwneud iddo deimlo fel bod digon o le yma. Rydw i wrth fy modd yn byw yma, gan allu edrych allan tua’r môr.” Dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig: "Rwy'n gobeithio y bydd adeiladwyr tai eraill yn edrych ar yr hyn y mae WWH wedi ei wneud ac yn dechrau defnyddio pren lleol ar gyfer eu datblygiadau eu hunain. Byddai hyn yn cefnogi cadwyni cyflenwi ledled Cymru ac yn lleihau ein dibyniaeth ar bren wedi ei fewnforio. Gyda galw cynyddol am dai, dyma'r amser priodol i hyrwyddo hyn a gwneud popeth a allwn i gefnogi'r diwydiant coed yng Nghymru."
08 | www.wwha.co.uk | intouch | Twf
Safle hen dafarn yn troi’n gartrefi newydd O’r chwith i’r dde: Chris Lay a Michael Michael, Cynghorwyr Caerdydd dros Trowbridge, Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWH, Jeff Jones, Rheolwr Prosiect Pendragon Design & Build, Dan Cook a Jodine Bishop, Swyddogion WWH
Mae cartrefi fforddiadwy newydd yn codi o ludw hen dafarn yr Hendre yng Nghaerdydd. Mae WWH yn adeiladu 14 o gartrefi newydd ar safle'r dafarn, a ddymchwelwyd yn 2014 ar ôl cyfres o danau. Mae gwaith ar y datblygiad sy’n werth £2 filiwn ger Hendre Road wedi dechrau, a disgwylir y bydd yn cael ei gwblhau yn ystod y gwanwyn nesaf. Mae'r datblygiad yn cynnwys 2 fyngalo dwy ystafell wely, 6 fflat un ystafell wely, 4 fflat dwy ystafell wely a 2 tai tair ystafell wely. Bu hyn yn bosibl diolch i bartneriaeth gyda Chyngor Dinas Caerdydd a £1.2 miliwn o Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
Aeth dau o gynghorwyr Trowbridge, Michael Michael a Chris Lay, ar daith o gwmpas y safle gyda Phrif Weithredwr WWH Anne Hinchey ynghyd â rheolwyr safle’r contractwyr Pendragon Design and Build. Dywedodd y Cynghorydd Michael: "Rydyn ni'n bendant angen tai cymdeithasol o ansawdd da yn Trowbridge a dyna'n union beth fydd y datblygiad hwn yn ei gynnig." Ychwanegodd y Cynghorydd Lay: "Gan fod y dafarn wedi llosgi i’r lawr, bu problem gyda thipio anghyfreithlon a sbwriel yn yr ardal. Felly mae'r tai hyn i’w croesawu’n fawr. “Gyda chynlluniau ar gyfer gorsaf reilffordd newydd yn Llaneirwg a 10,000 o swyddi newydd yn dod i’r
ardal, bydd galw mawr am y cartrefi hyn.” Dywedodd Anne Hinchey, y Prif Weithredwr: "Dyma'r cartrefi newydd cyntaf i deuluoedd mae WWH wedi eu hadeiladu yng Nghaerdydd ers bron i 10 mlynedd ac mae'n dangos ein hymrwymiad i ddod â thai cynnes, diogel a fforddiadwy i'r brifddinas." "Ar hyn o bryd rydym yn berchen ar bron i 3,500 o gartrefi fforddiadwy ar draws Caerdydd, a'n nod yw i bawb gael cartref y gallan nhw ymfalchïo ynddo, mewn man lle maen nhw’n dymuno byw. “Ein huchelgais yw adeiladu 1000 yn rhagor o gartrefi newydd ynni effeithlon ledled Cymru dros y pum mlynedd nesaf a buddsoddi £250 miliwn yn ein cartrefi a’n cymunedau yng Nghymru.”
Twf| intouch | www.wwha.co.uk | 09
Y 1000fed cartref ym Mhowys Mae WWH yn dathlu ei hymrwymiad i ddarparu tai fforddiadwy ledled Powys gyda'i 1000fed cartref yn y sir. Mae WWH wedi caffael tua 100 o eiddo gan y Gymdeithas Tai Bromford o Wolverhampton, gan ddod â'i chyfanswm o gartrefi ym Mhowys i fwy na 1000. Mae'r cartrefi yn Llandrindod, y Trallwng a'r Drenewydd. Yn Llandrindod, mae WWH eisoes yn berchen ar gynllun er ymddeol Christchurch Court yng nghanol y dref a Finch Court a Llys Heulog yng ngogledd y dref. Y mae wedi ychwanegu mwy na 40 o gartrefi at ei stoc sydd o gwmpas Lôn Cwm yn bennaf, gyda thai yn Gilmour Court a Llyn Ddu House yn y Trallwng a Chae Camlas yn y Drenewydd. Dywedodd y Prif Weithredwr, Anne Hinchey: "Rydym yn ymdrechu i fod yn fwy na landlord. Mae ein swyddogion tai yn cydweithio'n agos â phreswylwyr yn eu cymunedau lleol i'w helpu i reoli eu harian, talu eu rhent ar amser, cyflawni eu dyheadau ac, yn y pen draw, i deimlo'n ddiogel yn eu cartrefi. "Erbyn hyn, rydym yn gallu ymestyn y gwasanaethau lleol hynny i'n preswylwyr newydd ym Mhowys."
Llyn Ddu House, Y Trallwng
AR Y GWEILL Y Gogledd Rhosymedre, Cefn, Wrecsam: Mae gwaith wedi dechrau ar 30 o gartrefi fforddiadwy Coed Onn Road, Oakenholt: bydd 23 o gartrefi’n cael eu hadeiladu – 2/3 byngalo ac 20 tŷ anghenion cyffredinol. Victoria Garage, Rhiwabon: Gwneir cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer pedwar tŷ Grange Hotel, y Rhyl: Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer mwy na 40 o fflatiau i rai dros 55 oed ar safle Gwesty’r Grange, gynt. Y Canolbarth Cae Glas, y Trallwng: Mae caniatâd cynllunio’n cael ei geisio ar gyfer chwe byngalo a fydd yn darparu llety o ansawdd uchel y mae ei angen yn fawr, gyda gofal a chymorth 24 awr y dydd i oedolion. Y De Eglwys Sant Paul, Grangetown: Caerdydd: Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer 12 fflatiau yng nghorff yr eglwys a dau gartref ychwanegol ar dir yr eglwys. Parc Farm, y Coety, Pen-ybont ar Ogwr: Rhoddwyd caniatâd cynllunio i adeiladu 24 o gartrefi. Y Gorllewin Parrog, Sir Benfro: Mae caniatâd cynllunio’n cael ei geisio ar gyfer wyth cartref fforddiadwy ar safle’r hen grochendy a’r iard.
10 | www.wwha.co.uk | intouch | Twf
Mae gwaith wedi dechrau i lanhau y tu allan i gartrefi yng nghynllun Gwelfor yn Abergwaun.
£150,000 ar gyfer yr ardal. Mae disgwyl i’r gwaith gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Hydref.
Mae'r 32 cartref yn yr ardal yn dioddef o algâu coch, ffwng sy'n ffynnu ar leithder a halen yn yr awyr ac yn effeithio ar y rendr ar y tu allan i lawer o gartrefi mewn ardaloedd glan môr.
Yn gyntaf, fe fyddan nhw’n glanhau'r algâu ar y rendr gan ddefnyddio cemegau arbenigol. Unwaith y bydd yn sych, fe fyddan nhw’n paentio'r holl waliau allanol. Fe fyddan nhw hefyd yn gweithio ar y fascias a'r soffits.
Mae'n broblem sy'n effeithio ar lawer o ardaloedd arfordirol ac yn achosi i'r eiddo edrych yn ddrwg. Dechreuodd WCS Environmental & Building Maintenance, cwmni adeiladu o Landysul, weithio ar y safle ym mis Awst fel rhan o raglen gwerth
Cyn i'r gwaith dechrau, rhoddwyd y cyfle i breswylwyr gwrdd â staff ar y safle a dewis pa liw roedden nhw ei eisiau o blith y dewisiadau, sef gwyn, llwyd neu hufen. Y dewis mwyaf poblogaidd oedd llwyd, yna hufen ac wedyn gwyn.
Twf | intouch | www.wwha.co.uk | 11
Cael gwared â’r coch
Symudodd un o’r preswylwyr, Rachael Lewis, (yn y llun bach) i'w chartref flwyddyn yn ôl. Dywedodd: "Mae'n dda gweld rhywbeth yn cael ei wneud yma. Nid gwaith cosmetig yn unig yw hwn, mae llawer o'r gwaith cynnal a chadw cyffredinol fel ffensys newydd hefyd yn cael ei adolygu a'i wneud. "Rydw i wedi prynu potiau newydd ar gyfer fy ngardd, felly unwaith y bydd y gwaith wedi ei wneud, gallaf eu rhoi allan a chael rhywfaint o falchder yn fy nghartref eto. Ar ôl 12 mis bydd fel cael cartref newydd." Mae’r gwaith yn rhan o raglen ailwampio sy’n werth £10 miliwn
i gartrefi ledled y gorllewin, a gynlluniwyd ar gyfer y tair blynedd nesaf. Bydd y gwaith uwchraddio yn cynnwys 350 o geginau newydd, 250 o ystafelloedd ymolchi newydd a miloedd o ffenestri a drysau newydd yn cael eu gosod mewn mwy na 1500 o gartrefi a reolwyd yn flaenorol gan Tai Cantref yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Mae rhaglen newydd i osod drysau a ffenestri newydd wedi ei threfnu hefyd ar gyfer preswylwyr Gwelfor yn 2019 fel rhan o gynllun buddsoddi dros gyfnod o dair blynedd.
12 | www.wwha.co.uk | intouch | Twf
Y symudiad iawn i Aimie
Nid yw Aimie Johnston, sy’n 32 oed, wedi difaru ers iddi symud i dŷ dwy ystafell wely newydd sbon yn Nhir Glas, Maes Glas, Sir y Fflint gyda'i mab 19 mis oed, Parker a’i chi bach, Hugo. "Dyma fy nhŷ cyntaf ac ni allai fod yn well," meddai Aimie, a oedd yn arfer byw gyda'i mam rownd y gornel. "Gwelais yr arwyddion yn cael eu codi tua thair blynedd yn ôl ar gyfer y datblygiad, ac fe wnes i ymholiadau cyffredinol. Pan es i’n feichiog gyda Parker, fe wnes i gais i fyw yno, gan nad oedd digon o le i fyw yn nhŷ fy mam. Ym mis Mawrth 2016 cysylltodd y Swyddog Tai Ann-Marie Rastin â mi ac fe wnes i gadarnhau fy niddordeb.
"Ym mis Ionawr eleni cefais alwad ffôn, pan ofynnwyd i mi a hoffwn i symud yno yr wythnos ganlynol! "Cefais yr allweddi i'm cartref newydd y diwrnod ar ôl fy mhenblwydd – roedd fy mreuddwydion wedi dod yn wir! Wedi dioddef llawer iawn yn sgil gorbryder cymdeithasol, mae'r cartref hwn wedi rhoi cychwyn newydd i mi. Mae gen i gartref newydd, babi a chi bach!” Roedd Aimie yn falch o'r holl gefnogaeth a gafodd gan WWH, gyda’r Canllaw Defnyddiwr Cartref o gymorth iddi ymgartrefu. "Esboniodd Tom Torok y posibiliadau o fân bethau’n mynd o’u lle mewn cartrefi newydd ac roedd y Cynorthwyydd Tai Karen Boyce eisoes wedi
mynd drwy’r broses cytuno ar gytundeb tenantiaeth gyda mi cyn i mi symud, gan ei gwneud hi’n haws ar y diwrnod. Mae talu drwy ddebyd uniongyrchol hefyd yn golygu nad oes rhaid i mi feddwl am fy rhent bob mis. "Roedd y boeler wedi ei gynnau felly nid oedd y tŷ yn oer ac roeddwn eisoes wedi trefnu i'r carpedi gael eu gosod cyn i'm heiddo ddod i mewn. Roedd hyd yn oed y bylbiau yn rhai golau effeithlon - dyma'r pethau nad ydych chi bob amser yn eu cofio wrth symud." A beth am ei chymdogion? "Maen nhw'n hyfryd – maen nhw i gyd i weld yn hapus iawn, a chydag ardal chwarae gerllaw, bydd gan Parker bob amser ffrindiau i chwarae gyda nhw."
Chwilair | intouch | www.wwha.co.uk | 13
Chwilair yr Hydref
Cyfle i ennill taleb siopa gwerth £30 gyda’n chwilair Hydref Mae chwilair y rhifyn hwn yn ymwneud â thai. Gellir dod o hyd i’r geiriau am yn ôl, am ymlaen, ar draws, ar i fyny, ar i lawr, neu’n groes gornel. Bydd yr holl atebion cywir yn cael eu rhoi mewn raffl fawr a bydd un yn cael ei ddewis fel enillydd lwcus taleb siopa £30 One for All. Anfonwch eich cais gyda'ch enw, eich cyfeiriad a manylion cyswllt i Jane Burgess, Tai Wales & West, Ty Draig, Parc Dewi Sant, Ewlo, Glannau Dyfrdwy CH5 3DT. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Hydref.
R
B
C A
A W Y L
I
O
L
E W B
C G B
F
H DD E O
D M Y O C G R
O A U M N V A
E
R
L M L
A
I TH T O
L
R A
E G
C
T
Y W W B
A
S
C
S CH N D
F
G O R G
I W N Y W A
L
A
E
E
E
B
E D N E RH P
E
L
D
I
C
P DD N
I
R
B
R
Y
L
O E N W Y
E
N A
T TH B
A N E
A W N
P N U S T
Y
L
E
P O T A R I
A N C
A G W R
T D A
T
B
L
A C U A
L DD E CH L
I
T
E U
G O
L
I
S
I
T
T
R
S
E
R
E
F O S
S O G
Y G
I
S
I W
A D Y
Y G M A C
E N E FF A
O N A C
M W C N
E
I
Y W N
L I
R W G
J
G W
Y D A N B
Y
C
Enillydd chwilair yr Haf Llongyfarchiadau i Kim Daniels preswyliwr yn Heol Treharne, Coytrahen, ger Pen-y-bont ar Ogwr, a enillodd daleb £30 yng nghystadleuaeth chwilair rhifyn yr haf.
R
AMGYLCHEDD ATGYWEIRIADAU BOELER CARTREF CEFNOGI CWYNION CYMUNED CYNNAL A CHADW DATBLYGIAD DRWS FFENEST GARDD GWRES CANOLOG GWRESOGI INCWM NWY OLEW PANEL SOLAR PRESWYLIWR RHENT SWN SWYDDOG TAI TAI TENANTIAETH TEULU TRYDAN
14 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a Gwybodaeth am WWH
Tawelwch meddwl ar ôl y tân yn Nhŵr Grenfell Rydym wedi cwblhau adolygiad diogelwch tân cynhwysfawr o’n holl eiddo i dawelu meddyliau preswylwyr yn dilyn y digwyddiadau trasig yn Nhŵr Grenfell. Roedd y sylw cychwynnol ar ôl y tân yn Nhŵr Grenfell ar lety mewn tyrau uchel. Mae gennym ddau gynllun y byddem yn eu cyfrif fel tyrau uchel; Caerau Court (wyth llawr) yn Nhrelái, Caerdydd a West Lee, Treganna (chwe llawr). Adnewyddwyd Caerau Court yn 2014 ac, yn dilyn argymhellion yn sgil y tân yn Lakanal House yn 2009, mae system chwistrellu dŵr llawn yno erbyn hyn i ategu'r ddarpariaeth darganfod tân llawn. Mae’r cladin sydd ar yr adeilad hwn wedi ei wneud o wlân mwynol a rendr. Nid yw West
Lee yn dŵr uchel nodweddiadol, gan fod gan bob eiddo ddrws at yr awyr agored ar hyd llwybrau, felly nid yw’r un lefel o risg yma. Gweithredom yn gyflym i dawelu meddyliau preswylwyr yr eiddo hyn o ran diogelwch tân, ac yn ogystal, cynhaliodd y Gwasanaethau Eiddo, Cydymffurfiaeth a Rheolwyr Diogelwch adolygiad trylwyr o'r holl eiddo i edrych ar ddiogelwch rhag tân, gan gynnwys deunyddiau cladin, rhwystro tân, rhannu unedau mewn adeilad, canfod tân a phob agwedd arall a allai ledaenu tân. O ganlyniad i hyn, gallwn ddweud yn hyderus nad oes gan unrhyw un o'n heiddo unrhyw ddeunydd cyfansawdd alwminiwm (ACM) o'r un math a ddefnyddiwyd ar Dŵr Grenfell.
Newyddion a Gwybodaeth am WWH | intouch | www.wwha.co.uk | 15
Pum ffordd o gadw eich cartref yn ddiogel 1. Cadwch yr holl fannau cymunol yn glir bob amser. 2. Sicrhewch nad yw drysau tân yn cael eu dal na’u gadael ar agor. 3. Rowch wybod i’r tîm atgyweirio am unrhyw ddifrod neu nam. 4. Sicrhewch fod canfodyddion yn eich eiddo mewn cyflwr da a heb eu datgysylltu mewn unrhyw ffordd. 5. Os oes tân yn eich cartref, gadewch eich cartref gan gau pob drws ar eich hôl. Peidiwch â chasglu eiddo personol. Yna, ffoniwch 999. Yn ogystal, ystyriwyd y dull gwacáu, ac yn y mwyafrif o achosion rydym yn hyderus mai oedi cyn gwacáu yw'r strategaeth fwyaf diogel. Mae ein hadolygiad wedi atgyfnerthu bod rhaniadau rhwng unedau unigol yn gadarn ac mae mesurau ar waith i gyfyngu unrhyw dân i’r fan lle dechreuodd. Cefnogwyd yr dull hwn gan y wasanaethau Tân ac Achub, pan fyddan nhw wedi archwilio ein cynlluniau a’n blociau o fflatiau. Rydym wedi bod yn cynnal asesiadau risg tân blynyddol mewn 280 o'n cynlluniau ers i'r Gorchymyn Diwygio Rheoleiddiol ddod i rym yn 2005. Cynhelir yr asesiadau hyn gan staff mewnol sydd i gyd wedi ymgymryd â chyrsiau hyfforddi a gydnabyddir yn rhyngwladol, a’u prif rôl yw sicrhau
bod yr holl eiddo’n cael eu cadw mewn cyflwr da. Bu gennym raglen barhaus o waith dros nifer o flynyddoedd i osod rhagofalon ychwanegol gan eu bod yn cael eu hargymell gan yr Awdurdod Tân ac Achub, a bydd hyn yn parhau cyhyd ag y bo’n angenrheidiol. Mae'r sefydliad wedi meithrin perthynas gref â gwasanaethau tân ac achub ledled Cymru, sydd wedi cymeradwyo ein hymagwedd at ddiogelwch tân. Drwy gydol mis Awst a mis Medi byddwn yn cysylltu â'n holl breswylwyr yn y 280 o gynlluniau, gan nodi manylion yr holl fesurau diogelwch yn eu cartrefi, y rhagofalon arferol a wnawn a'r pethau y gallan nhw eu gwneud i gadw eu hunain a'u teuluoedd yn ddiogel.
16 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a Gwybodaeth am WWH
Y tu ôl i’r llenni...
yn ein Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid Ydych chi erioed wedi pendroni beth sy’n digwydd pan rydych chi’n ffonio ein rhif 0800? Yn ein prif swyddfa yng Nghaerdydd mae tîm o Gynorthwywyr Gwasanaethau Cwsmeriaid yn barod i helpu gydag ymholiadau preswylwyr. O dalu rhent i roi gwybod am atgyweiriadau brys, maen nhw yno i helpu 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Maen nhw’n ateb mwy na 18,000 o alwadau ffôn bob mis, pob un yn cael eu hateb o fewn 43 eiliad ar gyfartaledd. A phan fydd pawb wedi mynd adref, maen nhw hefyd yn ateb galwadau atgyweiriadau brys gan 14 o gymdeithasau tai eraill yng Nghymru. Ond nid ateb galwadau ffôn yn unig maen nhw; maen nhw hefyd yn gofalu am les preswylwyr, gan fonitro offer larwm brys i bron i 8,500 o'r preswylwyr mwyaf agored i niwed ledled Cymru gyfan. Mae'r cwsmeriaid hyn yn breswylwyr WWH a chymdeithasau tai eraill - mae tua 17,000 o achosion o larwm yn cael ei seinio bob mis, a bydd y cynorthwywyr yn cysylltu ag ambiwlansiau, y gwasanaeth tân neu'r heddlu 20 gwaith ar gyfartaledd bob 24 awr i sicrhau bod pobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw, pan fyddan nhw ei angen. Rhyngddyn nhw, mae gan y 32 aelod o’r tîm sawl blwyddyn o brofiad. Mae’r aelod o staff sydd wedi gwasanaethau
am y cyfnod hwyaf wedi bod yno am bron i 29 mlynedd. "Rydyn ni'n cael llawer o alwadau anarferol, ond rwy'n credu mai'r un ryfeddaf oedd rhywun oedd wedi dod o hyd i neidr wedi dianc dan y bath," meddai un Cynorthwyydd Gwasanaethau Cwsmeriaid. "Pan fydd y tywydd yn ddrwg rydym ar ein prysuraf, gyda llawer o alwadau am atgyweiriadau brys i bethau fel toeau sy’n gollwng, teils rhydd, toriadau yn y cyflenwad pŵer neu ffensys gardd wedi torri. Byddai unrhyw beth a fyddai'n achosi risg i bobl neu eiddo yn cael ei ystyried fel argyfwng. "Mae'n rhaid i chi ganolbwyntio gan nad ydych chi'n gwybod beth sy'n dod nesaf. Gallai un alwad fod yn rhywun sydd eisiau gwneud taliad rhent. Gallai’r nesaf fod yn rhywun sydd wedi cwympo a bydd angen ambiwlans arnoch chi. "I rai o'n preswylwyr hŷn, mae’n bosibl mai ni yw'r unig un y maen nhw'n siarad â nhw'r diwrnod hwnnw, felly mae'n anodd peidio â theimlo cysylltiad â rhai pobl er nad ydym erioed wedi cwrdd â nhw. “Er bod llawer o bwysau ynghlwm wrth y swydd, mae’n brofiad gwerth chweil, yn enwedig pan fydd y galwr mewn angen dybryd ac rydych chi’n gwybod fod eich gweithredoedd wedi gwneud gwahaniaeth i’w diwrnod neu wedi achub bywyd, hyd yn oed.”
Newyddion a Gwybodaeth am WWH | intouch | www.wwha.co.uk | 17
"...mae'n wych gweld fy logo ar y waliau a mynedfa'r bwyty.”
Dewis logo Liam ar gyfer bwyty Ysbrydolwyd disgyblion Ysgol Penmorfa i’r fath raddau ar ôl ymweld â chynllun gofal ychwanegol Nant y Môr fel eu bod wedi meddwl am enw a logo ar gyfer y bwyty.
i wedi ennill, ac mae'n wych gweld fy logo ar y waliau a mynedfa'r bwyty."
Bu plant rhwng 5 ac 11 oed o Gyngor yr Ysgol ar ymweliad â'r cynllun, a thrwy weithio gyda'r preswylwyr, fe wnaethon nhw ddefnyddio eu sgiliau creadigol i weithio ar brosiect i enwi a chynllunio logo ar gyfer y bwyty.
Dywedodd eu hathrawes, Kate Roberts: "Mae Ysgol Penmorfa yn awyddus i ymgysylltu â'r gymuned leol ac roeddem ni'n llawn cyffro pan ofynnwyd i ni fod yn rhan o’r prosiect hwn. Roedd yn brofiad hyfryd gwylio disgyblion yn sgwrsio â phreswylwyr, ac rydym yn edrych ymlaen at bartneriaeth hir a buddiol iawn."
Roedd y logos mor dda fel bod nifer ohonyn nhw wedi cael lle ar y rhestr fer. Roedd Liam Astley, sy’n 11 oed, wrth ei fodd pan glywodd mai ei enw ‘Mountain View’ a'i logo ef oedd yn fuddugol pan gyhoeddwyd y newyddion mewn gwasanaeth yn yr ysgol. Fe'i gwahoddwyd i ddadorchuddio'r logo yn Nant y Môr gyda’r Cyngor Ysgol a'r preswylwyr. Dywedodd Liam: "Mae hyn yn wych – doeddwn i ddim yn gallu credu fy mod
Y rhai eraill ar y rhestr fer oedd Phoebe Haigh, Darcey Spruce, Aleksander Waszwikwcz ac Olivia Marsden.
Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr Tai Wales & West: "Roedd yn wych gweld sut roedd y preswylwyr wedi mwynhau cwrdd â'r disgyblion a sut mae Cyngor yr Ysgol wedi mwynhau creu enw a logo ar gyfer y bwyty. Ers i Nant y Môr agor yn 2011, mae’r preswylwyr wedi rhyngweithio'n dda gyda'r gymuned leol."
18 | www.wwha.co.uk | intouch | | Byw’n Wyrdd
Cynnydd Gerddi Tŷ Brynseion
Mae'r ardd yng nghynllun er ymddeol Tŷ Brynseion ym Merthyr Tudful wedi cael ei thrawsnewid dros y chwe mis diwethaf diolch i waith caled a natur benderfynol grŵp o wŷr bonheddig heini sydd wedi ymddeol. Dechreuodd y syniad gyda gwely plannu syml wedi ei godi, fel y gallai'r grŵp greu arddangosfa flodau. Plannodd hyn yr had i’r preswylwyr Robert Jones, David Morgan, Brian Griffiths, Joey Ferreira a Rob Jones i greu arddangosfeydd hyd yn oed mwy lliwgar a phlannu llysiau.
Mae hi wedi bod yn hyfryd gweld y newid yn y preswylwyr sydd nawr yn mwynhau’r ardd ac yn mwynhau cwmni ei gilydd”.
Dywedodd Sarah Willcox, Swyddog Prosiect Datblygu Cymunedol: "Pan ymwelais â'r cynllun am y tro cyntaf y llynedd, ychydig iawn oedd yn digwydd yno.
Dywedodd un o’r preswylwyr, Brian Griffiths: “Rydym wrth ein bodd yn mynd allan i'r ardd a gweithio gyda'n gilydd. Mae'r prosiect wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’r cynllun.”
Gwaith caled Fred yn dwyn ffrwyth
Staff yn helpu plant i dyfu llysiau
Mae grŵp brwd o breswylwyr Wilfred Brook wedi treulio'r flwyddyn ddiwethaf yn trawsnewid eu gardd gymunedol, ac yn awr maen nhw’n medi ffrwyth eu llafur drwy allu eistedd mewn man hyfryd yn yr awyr agored.
Fe wnaeth staff o’n swyddfa yng Nghastellnewydd Emlyn wirfoddoli eu hamser er mwyn helpu i dacluso’r ardd gymunedol yng Nglannant yn Llechryd.
Plannodd Fred Venables, un o’r preswylwyr, amrywiaeth hyfryd o flodau gyda chymorth ei gymdogion Helena Cowhig, Jean Meredith, Carol Burness, Mavis Payne a Pat George, a oedd wrth law i roi help a chyngor a gwneud y cwpaneidiau hynod bwysig hynny o de. Dywedodd Helena Cowhig: "Mae Fred wedi gweithio mor galed yn yr ardd; mae wedi gwario llawer o arian i sicrhau bod gan bawb ohonom le hyfryd i eistedd."
Ruby yn plannu llus gydag Adam a Jess
Yn ystod digwyddiad ym mis Chwefror, dywedodd y plant y bydden nhw’n hoffi tyfu ffrwythau a llysiau, y gallen nhw wedyn eu bwyta ar eu ffordd i'r ysgol. Felly, ar ôl ailosod y llwybrau, a chlirio'r holl chwyn o'r gwely plannu wedi ei godi, helpodd y staff y plant i blannu mefus, llus, pys, letys a pherlysiau.
Byw’n Wyrdd | intouch | www.wwha.co.uk | 19
Cynghorion garddio’r
Hydref 1. Plannwch flodau blynyddol, fel cerinthes, ammi, scabiosa a cornflowers, i flodeuo yn gynnar yn yr Haf flwyddyn nesaf.
2. Plannwch flodau’r fagwyr, pansis, nad-fi’n angof a phlanhigion eraill y gwanwyn mewn potiau a borderi. 3. Casglwch hadau aeddfed o’ch hoff flodau a’u storio mewn amlenni wedi eu labelu, yn barod i’w plannu yn y Gwanwyn.
Oakmeadow Court -
cyfle i’r preswylwyr ymlacio Mae preswylwyr yn Oakmeadow Court, Llaneirwg a gwirfoddolwyr yng Ngardd Gymunedol Llaneirwg yng Nghaerdydd wedi cael tair mainc yn rhodd. Roedd y meinciau mewn perygl o gael eu dinistrio yn sgil adeiladu safle Hwb Llaneirwg. Ond fe wnaeth y prif gontractwyr, ISg Construction, eu hachub drwy eu cynllun cymunedol 'Adeiladwyr Ystyriol'.
4. Plannwch bethau mewn potiau, fel cyclamen, grug, heucheras a phlanhigion lliwgar eraill ar gyfer potiau.
Rhoddwyd cyfle i hyfforddeion yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro fireinio eu sgiliau ac adfer y meinciau i'w hen ogoniant cyn iddyn nhw gael eu rhoi i'r gerddi yn Oakmeadow Court a Gardd Gymunedol Llaneirwg.
5. Plannwch lysiau gwyrdd, fel cêl, berwr tir, pak choi, mizuna, salad corn a mwstard, i’w casglu yn y Gaeaf. Gellir gwneud hyn ar sil ffenestr eich cegin.
Dywedodd Rob Boyd, uwch reolwr safle ISg Construction: “Rydym yn gobeithio y bydd y meinciau'n dod â llawer o bleser i’w perchenogion newydd ac ymwelwyr â'r gerddi.”
6. Rhowch berlysiau fel sifys a phersli mewn potiau, a’u rhoi ar sil ffenestr heulog i’w defnyddio yn ystod y Gaeaf. 7. Plannwch setiau nionod a sialóts mewn man heulog, 10cm ar wahân, gyda’r pen i’w weld fymryn uwchben y pridd. Gellir eu plannu hefyd mewn potiau ffenestri.
Dywedodd Steve Derrett, un o breswylwyr Oakmeadow Court: “Hoffem ddiolch i Rob ac ISg Construction am feddwl amdanom gyda’u cynllun cymunedol.”
20 | www.wwha.co.uk | intouch | Crefftau
Ricky’n cael hwyl ar bethau yn ei amser hamdden Mae’r môr wedi bod yn rhan bwysig o fywyd Ricky James, sy’n 74 oed, erioed. Gwasanaethodd yn y Llynges Frenhinol a'r Llynges Fasnachol pan oedd yn iau. Ac yntau’n byw yn Acrefair, Wrecsam, erbyn hyn, mae wedi gwneud modelau o sawl llong hanesyddol fawreddog, sy’n cael eu harddangos yn falch yn ei gartref. Ganwyd Ricky yn ystod y rhyfel yn Stepney, Llundain. "Rwy'n Gocni go iawn," meddai. "Roedd y seirenau'n seinio pan gefais fy ngeni. Roedd fy mam wedi cael ei hanfon i farwdy gan mai hwn oedd un o'r llefydd mwyaf diogel i famau beichiog, felly fe'm ganwyd yn llythrennol yn ystod cyrch bomio! " Gadawodd Ricky ei gartref yn 16 oed ac ar ôl gwneud nifer o swyddi, ymunodd â'r Llynges Frenhinol yn chwilio am ffrwydron am bum mlynedd. Yna ymunodd â'r Llynges Fasnachol. "Rydw i wedi ymweld ag 81 o wledydd - Israel oedd fy ffefryn." "Dechreuais adeiladu llongau pan ddaeth fy nghyfeillion ysgol, Binky a Georgie, i weithio ar y llong ffrwydron yr un pryd â mi pan oeddem yn ein 20au. Roedd Binky yn arfer gwneud llongau plastig fel hobi. "Meddyliais y buaswn i’n hoffi gwneud hynny ond allan o goed yn lle plastig. Felly, cefais gynlluniau’r llong Queen Mary a thrwy arbrofi, a chael ambell gam gwag, fe lwyddais.
“Mae gennyf bedair llong rwy’n wirioneddol falch ohonyn nhw – ar gyfartaledd maen nhw’n cymryd rhwng 2 a 3 blynedd i’w hadeiladu.” Mae Ricky yn adeiladu corff y llong allan o bren haenog yn gyntaf, yna mae'n gweithio ar yr asen ar waelod y llong, gan ddefnyddio stribedi o bren. Mae pob stribed yn cael ei ludo'n ofalus a'i hoelio yn ei le. Mae Ricky hyd yn oed yn smwddio darnau bach o bren yn ofalus er mwyn eu gwneud yn grwm. Yna rhoddir y gwaith rigio, a all gymryd awr ynddo'i hun. Ar y llong ddiweddaraf mae'n paentio'r cerbydau gwn yn goch a'r corff yn lliw hufen. Mae amynedd yn hanfodol. “Cael gafael ar gynlluniau’r llongau yw’r gwaith mwyaf heriol. Unwaith mae’r rheiny gennych chi, fe allwch chi ddechrau arni wedyn.” A’i long nesaf? “Y Titanic, wrth gwrs!”
Adroddiad Chwarterol | intouch | www.wwha.co.uk | 21
Adroddiad Chwarterol:
yr wybodaeth ddiweddaraf i chi Mae ein hadroddiad chwarterol wedi ei gynllunio i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar lwyddiant ein gwaith fel sefydliad a beth rydym yn ei wneud i wella ein gwasanaethau i chi - ein preswylwyr. Mae’r chwe graffigau gwybodaeth yn rhoi gwybodaeth allweddol ar sut mae Tai Wales & West yn perfformio, fel y gwelwch ar y tudalennau nesaf. Mae gwybodaeth am bob un o’n prif systemau. Y rhain yw: • Atgyweirio fy nghartref • Fy helpu i dalu • Rydw i eisiau cartref • Ymddygiad gwrthgymdeithasol • Rhagor o gartrefi • Sut rydym yn rhedeg ein busnes Felly, gallwch wybod popeth - o faint o dai rydym wedi eu hadeiladu hyd yn hyn eleni i pa mor hir mae’n ei gymryd i atgyweirio pethau.
Wyddech chi…? Rydyn ni eisiau i chi ddod o hyd i’r holl wybodaeth ynghylch ein perfformiad a’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn hawdd. O ganlyniad, rydyn ni wedi rhoi ein holl adroddiadau mewn un lle ar ein gwefan.
Cymerwch olwg dda, ac os oes gennych chi sylwadau, rhowch wybod i ni drwy e-bost contactus@wwha.co.uk neu ein ffonio ni ar 0800 052 2526. Mae hyn yn cynnwys ein graffigau gwybodaeth, adroddiadau blynyddol, datganiadau ariannol, dyfarniad ynghylch hyfywedd ariannol Llywodraeth Cymru ac adroddiad rheoleiddiol Llywodraeth Cymru. I weld yr adroddiadau hyn, ewch i’n gwefan www.wwha.co.uk a chlicio ar y ddolen ‘ein perfformiad’ ar y dde.
Atgyweirio fy nghartref Perfformiad
7219 Atgyweiriadau a gwblhawyd yn y chwarter hwn
Bodlonrwydd
9.4 allan o 10
yw’r sgôr a roddodd preswylwyr i ni am y gwasanaeth atgyweirio a gawson nhw
% 68%
days 8.5
Atgyweiriadau llwyddiannus ar ein hymweliad cyntaf
Beth mae preswylwyr yn ei hoffi Ansawdd y gwasanaeth | Ansawdd y gwaith | Staff cymwynasgar Beth mae preswylwyr eisiau eu gweld yn gwella Cwblhau atgyweiriadau’n gyflymach |Mwy o atgyweiriadau’n parhau’n llwyddiannus | Apwyntiadau’n cael eu cadw
Un o’r ffyrdd rydym yn canolbwyntio ar hyn yw defnyddio partneriaid cyflenwi lleol i sicrhau y bydd y gweithredwyr yn gallu cael yr offer a’r rhannau cywir
6-10 diwrnod 11-15 diwrnod 16+ diwrnod
Nifer cyfartalog y diwrnodau a gymerom i wneud atgyweiriad
Adborth gan breswylwyr
Y ffordd rydym yn rhedeg ein system atgyweirio yw ceisio sicrhau ei bod yn delio â’r hyn sy’n wirioneddol bwysig i chi. Mae’r hyn a ddywedwch wrthym yn bwysig, felly rydym yn sicrhau bod tasg yn cael ei gwneud yn iawn a’i bod yn llwyddiannus, ar adeg pan fo’n addas i chi a heb lawer o anghyfleustra.
0-5 diwrnod
Cwynion
4
cwyn allan o
7219 atgyweiriad a gwblhawyd
Sef tua 1 gŵyn am bob 1805 atgyweiriad a gwblhawyd
i ymgymryd â’r gwaith o leoliad sy’n gyfleus. Bu hyn yn ffocws allweddol yn ddiweddar. Yn ogystal, credwn mai’r allwedd yw bod ein rheolwyr yn cydweithio’n agos â’n gweithredwyr i’w helpu i ddatrys problemau, felly bydd ein sylw dros y tri mis nesaf ar sicrhau bod y rheolwyr hynny yn mynd gyda’r gweithlu i ddelio â’r pethau hyn
Chwarter 2 (Ebril - Mehefin 2017)
Helpwch fi i dalu Perfformiad
1661 Tenantiaethau heb drefniant i dalu eu hôl-ddyledion
Rydym wedi helpu preswylwyr i:
Gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ar-lein Rheoli’r cap ar fudd-daliadau, drwy ddechrau gweithio neu wneud y gorau o’u hincwm Cael cymorth ariannol ychwanegol os oes ganddyn nhw anabledd
57% Tenantiaethau yn talu eu rhent yn brydlon neu’n talu ôl-ddyledion
Nifer yr achosion o droi allan oherwydd ôl-ddyledion rhent
Preswylwyr yn talu drwy Ddebyd Uniongyrchol
Cwynion
5000
Preswylwyr
Cymorth
UN
DENANTIAETH
4000
0
3000 2000 1000 0
gŵyn April Ebr
May Mai
June Meh
Debyd Uniongyrchol yw’r ffordd rwyddaf o dalu, gyda thaliadau’n cael eu cymryd o’ch cyfrif banc 50 ar40ddyddiad wythnosol neu fisol 30 penodol addas i chi, fel nad oes 20 angen i chi boeni!
allan o
1661
tenantiaeth ag ôl-ddyled
10 0
Jan
Rydych chi wedi dweud wrthym fod talu eich rhent neu eich tâl gwasanaeth yn bwysig i chi, ac mae cael system syml yn rhan bwysig o hyn. Mae gennym system Debyd Uniongyrchol ar waith ar gyfer ein holl breswylwyr sy’n galluogi rhywun i dalu ar unrhyw ddiwrnod, ar amlder sy’n addas i chi. Erbyn hyn mae gennym dros 4200 o breswylwyr sy’n talu eu rhent drwy Ddebyd Uniongyrchol, sy’n gynnydd o bron i 1200 yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Rydym yn gweld y gall prosesu Budd-dal Tai effeithio ar eich cynlluniau talu weithiau, gan y gall newidiadau i Fudd-dal Tai gymryd amser i ddal i fyny yn dilyn newidiadau i’ch cyflog neu eich incwm arall. Rydym yn gweithio’n agos gydag adrannau Budd-dal Tai ym mhob un o’n hardaloedd awdurdod lleol i
Feb
Mar
ddeall y materion y gallen nhw fod yn eu hwynebu, ac i gynnig unrhyw gymorth iddyn nhw, ac i chi, er mwyn i’r broses i fod mor esmwyth â phosibl. Rydym yn gweld mwy a mwy ohonoch yn symud at y Credyd Cynhwysol, sy’n disodli llawer o’r Budddaliadau Lles sy’n gysylltiedig â gwaith, a bydd hyn yn parhau i gynyddu wrth i’r ‘Gwasanaeth Llawn’ gael ei gyflwyno ar draws Cymru dros y 12 mis nesaf. Rydym eisoes wedi gweld yr heriau rydych chi’n eu hwynebu gyda’r amser a gymerir i brosesu hawliadau a dechrau derbyn taliadau. Os ydych chi’n pryderu am y newid hwn, neu’r effaith y gallai ei gael ar eich amgylchiadau, cysylltwch â’ch Swyddog Tai, a fydd yn gallu helpu.
Chwarter 2 (Ebril - Mehefin 2017)
Rydw i eisiau cartref Perfformiad Anghenion cyffredinol
Gofal Ychwanegol
50 40
days
284
Ymddeol
30 20 10
50 40 30
Cartref a adeiladwyd gennym yn chwarter 2
0
Ar gyfartaledd mae’n cymryd 40 diwrnod i osod eiddo a chynorthwyo preswylwyr i sefydlu cartref
52% o’r amser, mae’r cartref yn addas i’r cyntaf sy’n ei weld
20 10 0
Bodlonrwydd
9.3 allan o 10
yw’r sgôr a roddodd preswylwyr i ni am ein gwasanaeth wrth ganfod cartref iddyn nhw
Adborth gan breswylwyr Beth mae preswylwyr yn ei hoffi Lleoliad eu cartref | Eiddo yn gweddu i’w hanghenion | Cymorth a chefnogaeth a ddarperir gennym Beth mae preswylwyr eisiau eu gweld yn gwella Cael ychydig mwy o amser i symud | Cwblhau atgyweiriadau’n gyflymach| Eiddo glanach
Rydych chi wedi dweud wrthym fod symud i’r eiddo priodol, gyda’r cymorth priodol, yn bwysig i chi. Rydym yn sicrhau ein bod ni’n cael y sgwrs briodol cyn i’r denantiaeth ddechrau er mwyn deall beth fyddai’n berffaith i chi, a pha gymorth y gallech chi fod ei angen i sefydlu a chynnal eich cartref newydd. Mae’r sgyrsiau hyn yn amrywio, o sicrhau bod costau rhedeg cartref yn fforddiadwy, i sefydlu cyfrif banc, helpu i ddod o hyd i ddodrefn, neu ganfod y llwybrau bysiau lleol er mwyn helpu i gynllunio’r teithiau i’r gwaith neu’r ysgol.
Cwynion
0
gŵyn allan o
284
cartref a osodwyd
gartref newydd fel y gallwn weithio gyda’r awdurdodau lleol i ddatblygu dulliau o ddiwallu anghenion pobl leol.
Rydym yn sicrhau ein bod ni’n cysylltu â’r holl breswylwyr newydd ar ôl iddyn nhw symud i mewn er mwyn ein helpu ni i ddeall eu profiad o symud i gartref newydd. Rydym yn falch o weld fod pobl yn hapus â’u cartref newydd, ei fod yn y lle priodol, a bod y cymorth priodol ar gael ar y pryd. Dywedwyd wrthym hefyd fod atgyweiriadau a glendid yn bryder mewn rhai ardaloedd. Rydym yn sicrhau ein bod ni’n mynd i’r afael â’r materion unigol cyn gynted Rydym yn cydweithio’n agos â 15 awdurdod lleol ledled ag y gallwn, ac yn parhau i weithio i sicrhau ein bod ni’n Cymru gyda datblygu’r Cofrestri Tai Lleol a Pholisïau darparu’r wybodaeth gywir am atgyweiriadau, ac yn cael Gosod Tai. Rydym yn gwrando arnoch chi, fel preswylwyr y sgwrs briodol gydag ymgeiswyr newydd am yr eiddo er ac ymgeiswyr, i ddeall yr hyn sy’n bwysig wrth chwilio am mwyn lleihau’r pryderon hyn yn y dyfodol.
Chwarter 2 (Ebril - Mehefin 2017)
@!
$%&
Ymddygiad gwrthgymdeithasol
$%&
@!
Perfformiad
56
SŴN
35
YMDDYGIAD BYGYTHIOL YN YMWNEUD AG ALCOHOL
Achos ymddygiad gwrthgymdeithasol a agorwyd / a ailagorwyd
Bodlonrwydd
6.6 allan o 10
yw’r sgôr a roddodd preswylwyr i ni am y cymorth a gawson nhw o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol
Achos ymddygiad gwrthgymdeithasol a ddatryswyd gennym
Y materion ymddygiad gwrthgymdeithasol mwyaf cyffredin
Adborth gan breswylwyr Hoff bethau preswylwyr Gallu siarad â’r swyddog priodol | Y gefnogaeth a ddarperir gennym ni a sefydliadau eraill Beth mae preswylwyr eisiau Ei weld yn gwella Datrys y broblem yn gyflymach | Cael gwybod y diweddaraf
Mae’n bwysig deall a ydym yn gwneud y peth iawn pan fyddwn ni’n mynd i’r afael â phroblemau yn y gymuned, ac a ydym yn darparu’r cymorth iawn ar yr adeg iawn er mwyn helpu i ddatrys problemau rhwng cymdogion. Rydym wedi bod yn gwrando arnoch chi er mwyn ein helpu ni i adolygu’r modd rydym yn darparu ein gwasanaeth ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac wedi dechrau defnyddio’r dull newydd hwn yn y ffordd rydym yn gweithio. Fe wnaethoch ddweud wrthym fod teimlo eich bod chi’n cael eich cefnogi i deimlo’n ddiogel yn eich cartref a’ch cymuned yn bwysig i chi a’ch teulu. Er mwyn gwneud hyn, fe wnaethoch nodi fod y gefnogaeth briodol a’r cymorth priodol ar
Cwynion
1
gŵyn allan o
56
achos ymddygiad gwrthgymdeithasol a adroddwyd
yr adeg iawn yn hanfodol, ynghyd â’r ffaith ein bod ni’n cymryd yr amser i wrando fel bod eich pryderon yn cael eu deall. Dywedoch wrthym hefyd fod cael gwybod y diweddaraf yn rhan bwysig o’r broses. Rydych chi wedi dweud wrthym fod datrys problemau yn gynnar, a bod yn rhan o’r darlun, yn bwysig i chi. Mae ein Swyddogion Tai a’n Swyddogion Anghydfodau mewn Cymdogaeth yn gweithio i ddod â phreswylwyr at ei gilydd, lle bo hynny’n bosib, i helpu pob parti i ddeall yr effaith y mae eu hymddygiad yn ei chael ar eu cymdogion a’r gymuned. Mae’r ymagwedd hon yn fuddiol, gan fod materion yn cael eu datrys yn gyflym, ac nad ydyn nhw’n digwydd eto.
Chwarter 2 (Ebril - Mehefin 2017)
Rhagor o gartrefi
Ar y safle Cwblhawyd
2017
183
2016
Perfformiad
Cartref wrthi’n cael eu hadeiladu yn chwarter 2
Fe wnaethom gwblhau 55 o gartrefi newydd
Bodlonrwydd
Adborth gan breswylwyr
8.9
Hoff bethau preswylwyr Lleoliad ac agosrwydd at fwynderau lleol | Cynllun yr eiddo | Lleoliad tawel braf | Biliau cyfleustodau rhatach
allan o 10
yw’r sgôr a roddodd preswylwyr i ni am eu cartref newydd
Beth mae preswylwyr eisiau Ei weld yn gwella Dyluniad gardd | Gerddi cymunol yn cael eu cadw’n well |Fflatiau’n cael eu hynysu rhag sŵn
Yn ystod y chwarter hwn, rydym wedi gwneud newidiadau i’n strwythur staffio i’n galluogi i ganolbwyntio mwy o adnoddau staff ar sut ryd-ym yn gweithio gyda’n contractwyr er mwyn adeiladu cartrefi o safon uchel sy’n diwallu ang-henion preswylwyr ac i wneud hynny cyn gynt-ed â phosibl. Bydd y newidiadau yn ein galluogi hefyd i chwilio am ragor o ddarnau newydd o dir mewn ardaloedd lle mae gwir angen am dai fforddiadwy.
Cwynion
0
cwyn allan o
55
cartref newydd a gwblhawyd
ddau gyn-llun, un yng Nghaerdydd ac un yn Sir y Fflint, i sicrhau ein bod yn cyflawni’r pethau hyn a hefyd yn lleihau’r cynnydd mewn costau sydd wedi digwydd yn ddiweddar ar draws y farchnad. Mae nifer o gynlluniau newydd mawr a chyff-rous hefyd yn cael eu paratoi, ac rydym yn bwr-iadu dechrau eu hadeiladu yn y flwyddyn new-ydd.
Rydym yn canolbwyntio ar y ffordd rydym yn adeiladu ac yn darparu tai newydd mewn par-tneriaeth â Yn eich adborth rydych wedi dweud wrthym beth sy’n chontractwyr sydd eisiau cydweithio â ni dros gyfnod hir. bwysig i chi am gartrefi newydd, eu bod yn fforddiadwy Mae contractau hirdymor yn caniatáu i sgiliau pob parti gynyddu dros am-ser a chael eu defnyddio’n effeithiol, i’w gwresogi a bod ganddyn nhw ofod defnyddiol ar felly byddwn yn datblygu dulliau caffael newydd i gyfer storio a garddio. Ar hyn o bryd rydyn ni’n rhoi ganiatáu sefydlu’r partneriaethau hirdymor hyn. cynnig ar ymag-weddau a chontractau gwahanol ar
Chwarter 2 (Ebril - Mehefin 2017)
Sut rydym yn rhedeg ein busnes Perfformiad Pob galwad arall
Galwadau ynghylch atgyweiriadau 4
10yb
33 Munudau
28,287
22
9yb
11
400
Meh
Ein cyfnodau prysuraf
Gwerth am arian
200
2
100
1
£
Mai
cyfartalog ateb eich galwadau
300
3
Gwariant
Ebr
500 Amser
4
10yb
11yb
0
Galwad a atebom yn ystod y chwarter
9yb
11yb
0
500
500
400
400
Cwynion
£ wedi ei wario fesul cartref Q1 2015Q2 2015Q3 2015Q4 2015Q1 2016Q2 2016Q3 2016Q4 2016
0
8
300 Q3300 015Q3 2015Q4 2015Q1 2016Q2 2016 2016Q4 2016
Q4 2016
Datblygiadau newydd Pobl Cynnal a chadw Ceginau, ystafelloedd ymolchi a chyfarpar newydd Llog ar fenthyciadau Atgyweiriadau mawr Gorbenion Ad-dalu benthyciadau
200
200
100
100
0
cwyn Ch1 Ch1 Q2 2016 Ch2Q3 2016 Ch3Q4 2016 Ch4 Q1 2015Q2Ch2 2015Q3Ch3 2015Q4 Ch4 2015Q1 2016 2015
2015
Rheoli
2015
2015
2016
Cynnal a chadw
2016
2016
2016
Arall
Faint mae’n ei gostio fesul cartref i redeg ein busnes
Arhosodd yr amser a gymerom i ateb eich galwadau am atgyweiriadau yn gyson yn ystod y chwarter hwn, ac fe wnaethom, leihau’r amser a gymerom i ateb pob galwad arall. Y newyddion da yw bod ein sylw ar ateb galwadau’n gyflym wedi llwyddo, gyda phob galwad yn cael ei hateb mewn llai na munud ar gyfartaledd yn ystod chwarter 2. Mae ein cyfnodau galwadau prysuraf yn parhau i fod yn y bore, gyda’r mwyafrif o alwadau tua 10am, a’r chwarter diwethaf yn 9am felly rydym yn eich annog eto i ffonio’n hwyrach yn y dydd os yw’n bosibl er mwyn lleihau eich amser aros. Cawsom wyth cwyn yn ystod y chwarter hwn, sy’n 19 yn llai na’r chwarter diwethaf, ac roedd hanner ohonyn nhw’n ymwneud â gwaith atgyweirio. Ar gyfartaledd, datryswyd tair o’r pedair cwyn am atgyweirio o
yn
cyfanswm yn ystod y chwarter hwn
fewn 10 diwrnod. Mae datrys unrhyw broblem sydd gennych chi yn bwysig i ni, ac er mwyn i ni wneud hyn yn y ffordd orau bosibl, rydym yn eich annog i ffonio, e-bostio neu siarad ag unrhyw aelod o staff. Mae gwerth am arian yn ffocws i ni ac rydym yn gwybod ei fod yn bwysig i’n preswylwyr. Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd o leihau ein costau a byddwn yn parhau i wneud hyn. Fel yn y chwarteri blaenorol, gwariwyd y mwyafrif o arian y preswylwyr ar wella ein cartrefi, gan gynnwys uwchraddio ceginau ac ystafelloedd ymolchi.
Chwarter 2 (Ebril - Mehefin 2017)
28 | www.wwha.co.uk | intouch |Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth
Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth 2018 A hwythau yn eu degfed blwyddyn erbyn hyn, mae ein Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth yn dathlu synnwyr cymunedol, dewrder, menter a charedigrwydd ein preswylwyr – yn arddull Tai Wales & West. Y flwyddyn nesaf, bydd y seremoni yn cael ei chynnal yng Nghyrchfan a Gwesty’r Fro, Hensol, Bro Morgannwg, ddydd Gwener 9 Mawrth 2018, lle bydd ein noddwyr digwyddiadau yn ymuno â ni unwaith eto i ddathlu llwyddiannau unigolion arbennig iawn
ryl Che field h Litc ayne P lydd Enil Cheryl Litchfield-Payne, enillydd Gwobr Camau at Lwyddiant 2017, gyda Mark Irwin o Envirovent a Sharon Lee, Cadeirydd Bwrdd WWH
Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth| intouch | www.wwha.co.uk | 29
Y Categorïau Cymydog Da
Dechrau o’r Newydd
Mae'r categori hwn yn dathlu caredigrwydd y bobl arbennig hynny y mae eu gweithredoedd bychain o ddydd i ddydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau eu cymdogion. O roi help llaw neu glust i wrando, mae'r unigolion calon gynnes hyn yn mynd allan o'u ffordd i helpu eraill sy'n byw gerllaw.
Gall bywyd fod yn llawn uchafbwyntiau ac isafbwyntiau, felly mae'r wobr hon yn cydnabod y bobl ddewr hynny sydd wedi dod drwy gyfnod anodd ac wedi troi pethau er gwell. Mae'r wobr hon hefyd yn cydnabod yr unigolion ymroddedig sydd wedi dechrau ar eu taith at lwyddiant drwy fynd yn ôl at gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant i wireddu eu breuddwydion. Mae'r unigolion hynod hyn yn esiampl i ni i gyd.
Byw’n Wyrdd Mae'r categori hwn yn cydnabod preswylwyr dawnus yn yr ardd sydd wedi gwneud gwahaniaeth o ddifrif i'w hamgylchedd. O dyfu arddangosfeydd blodeuog hyfryd i ailgylchu ac ailddefnyddio nwyddau yn yr ardd, neu hyd yn oed dyfu ffrwythau a llysiau i eraill eu mwynhau, mae'r preswylwyr hyn yn arwain y ffordd o ran byw’n wyrdd.
Hyrwyddwr Lles (categori newydd) Mae'r categori newydd hwn yn cydnabod yr unigolion neu'r grwpiau sydd naill ai wedi gosod esiampl eu hunain neu wedi annog pobl eraill i wneud newidiadau i’w ffordd o fyw er mwyn helpu i wella eu hiechyd a'u lles corfforol neu feddyliol.
Pontio’r Bwlch (categori newydd) Mae'r categori newydd hwn yn dathlu pobl ifanc a phobl hŷn yn gweithio gyda'i gilydd i wneud eu cymuned yn lle gwell neu i helpu eraill sy'n llai ffodus na nhw eu hunain. Eu nod cyffredin yw dysgu oddi wrth ei gilydd a bondio fel tîm.
Arwyr Cymunedol (categori newydd) Mae'r categori hwn yn rhoi sylw i'r unigolion a'r grwpiau hynny sydd wedi dechrau rhywbeth arbennig yn eu cymuned Tai Wales & West i gefnogi'r rhai sy'n byw yno. Mae'r prosiectau hyn yn aml yn helpu eraill, yn dod â phobl at ei gilydd ac yn newid y gymdogaeth er gwell. O redeg grwpiau cymunedol, mynd i'r afael â materion lleol a chodi arian ar gyfer elusennau - mae'r unigolion hyn yn ymroi eu hamser a’u hymdrechion i wneud gwahaniaeth.
Gwobr Arbennig y 10fed Pen-blwydd Bydd y wobr hon yn mynd i unigolyn neu grŵp sydd wedi ymdrechu’n eithriadol i wneud gwahaniaeth.
30 | www.wwha.co.uk | intouch | Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth
Yn ddiamau, mae nifer o arwyr di-glod yn ein cymunedau sy’n haeddu cydnabyddiaeth o’r fath – ac rydym angen i CHI ddweud wrthym amdanyn nhw erbyn 22 Rhagfyr. Mae’n hawdd enwebu – siaradwch â’ch Swyddog Tai, neu cysylltwch â’n Tîm Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu ar y rhif rhadffôn 0800 052 2526 a rhoi’r manylion iddyn nhw.
Ymunwch â Doeth am Iechyd Cymru Mae Doeth am Iechyd Cymru yn fenter ymchwil a fydd yn helpu GIG Cymru i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Drwy ateb cwestiynau am eich iechyd a'ch lles, gallwch gyfrannu at ymchwil ar atal a thrin cyflyrau fel clefyd coronaidd y galon, diabetes, canser, iechyd meddwl a dementia. Os ydych chi dros 16 oed ac yn byw yng Nghymru, mae Doeth am Iechyd Cymru angen eich help. Pa un ai a ydych chi'n ifanc neu'n hen, yn heini neu ddim yn yr iechyd gorau, drwy gofrestru ar-lein, gofynnir i chi ateb cwestiynau syml am eich iechyd a'ch ffordd o fyw bob chwe mis.
Bydd yr wybodaeth a ddarparwch yn helpu’r GIG yng Nghymru i gynllunio ar gyfer y dyfodol a diogelu iechyd y genedl. Dyma eich cyfle i fod yn rhan o lunio iechyd a lles cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth ac i ymuno, ewch i www.healthwisewales.gov. wales, neu ffoniwch 0800 9 172 172.
Gwneud Gwahaniaeth i’ch Cymuned| intouch | www.wwha.co.uk | 31
Dechrau da i dymor newydd y tîm ieuenctid
Jane Duckers, Swyddog Caffael WWH, gyda Deeside Phoenix JFC
Mae rhai o bobl ifanc Glannau Dyfrdwy yn edrych ymlaen at ddechrau’r tymor pêldroed newydd gyda saith tîm a chit newydd sbon, yn dilyn nawdd gan WWH. Roedd y plant, sydd rhwng 5 a 15 oed, yn falch o wisgo eu cit wrth iddyn nhw gofrestru ar gyfer y tymor pêl-droed newydd. Mae'r clwb yn ehangu gyda mwy o dimau, i annog pobl ifanc i chwarae’r gêm.
Dywedodd Jeff Dawson, yr Hyfforddwr Pêl-droed: "Mae pêl-droed yn ffordd wych o gadw'r plant oddi ar y stryd i ganolbwyntio ar weithgaredd iach, cadarnhaol, sydd wrth wraidd ethos ein clwb. Mae ein chwaraewyr yn tueddu i dyfu mewn pob math o ffyrdd cadarnhaol, a thrwy bêl-droed, maen nhw’n dysgu sut i weithio fel tîm, parchu ei gilydd a pharchu eu hamgylchoedd.
"Mae WWH wedi gwneud gwahaniaeth go iawn, ac mae Deeside Phoenix (yn ogystal â'r gynghrair) yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth hon." Dywedodd Ethan Dawson, mab Jeff: "Rwy'n hoffi'r logo ac mae deunydd y crys yn cŵl." Dywedodd Jay Duckers: "Rwy'n hoffi'r lliw ac yn teimlo'n dda yn gwisgo’r top newydd."
32 | www.wwha.co.uk | intouch | Gwneud Gwahaniaeth i’ch Cymuned Ann-Marie Rastin, Swyddog Tai yn WWH, gyda Kiara Leigh-Poulton a Zach Evans, aelodau o Popstarz
Clywed llais y plant - diolch i nawdd gennym ni Roedd criw o bobl ifanc wrth eu bodd fod modd i’w sioe barhau gydag offer sain gwell, diolch i nawdd gennym ni. Mae grŵp o 95 o blant rhwng 4 a 17 oed, dan yr enw Jaxx Martine's Popstarz Academy, yn grŵp celfyddydau perfformio yn Bagillt, Sir y Fflint. Prif ffocws y grŵp yw meithrin hyder y bobl ifanc drwy roi cyfle iddyn nhw berfformio mewn sioeau lle gallan nhw arddangos eu doniau. Fodd bynnag, ers i'r grŵp ddechrau bedair blynedd
yn ôl mae wedi tyfu’n fawr, felly roedd angen prynu microffonau llwyfan arbennig fel y gellid clywed lleisiau'r plant yn gliriach. Felly, gyda dwy sioe wedi eu cynllunio ar gyfer Mehefin a Gorffennaf, gofynnwyd i ni a allen ni helpu. Ac fe wnaethom ni! Dywedodd Paula Duncan, sy’n Bennaeth yr Academi ynghyd â'i gŵr Steve: "Rydym wrth ein bodd gyda'r nawdd. Mae'r clwb mor bwysig i ni ac i’n cymuned ac mae’n annog y plant i fod yn heini ac yn eu dysgu sut i weithio fel tîm.
Bydd yr offer newydd yn gwneud gwahaniaeth o ddifrif i'r sain, fel bod modd clywed eu holl leisiau. Pan ddechreuodd y grŵp yn gyntaf, dim ond 17 o blant oedd gennym - mae gennym 95 yn awr felly rydym yn chwilio am lwyfannau mwy o faint lle gallwn ni berfformio." Dywedodd Kiara-Leigh Poulton, sy’n 5 oed: "Rwy'n hoffi'r meicroffon newydd, ac er ei fod yn fy nghosi weithiau, mae fy llais i’w glywed yn uwch!"
Newyddion a Gwybodaeth am WWH | intouch | www.wwha.co.uk | 33
Cefnogi Dysgwyr Cymraeg Rhoddwyd cyfle i grwpiau o blant ysgol ledled De a Gorllewin Cymru ymweld ag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni yn Ne Cymru. Fe wnaethon ni noddi nifer o ysgolion ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin drwy roi tocynnau am ddim i'w disgyblion fynd i ŵyl ieuenctid flynyddol Cymru ym Mhencoed, ger Pen-y-bont ar Ogwr ym mis Mai. Roedd y nawdd yn golygu bod modd i ragor o ddisgyblion fynd i gefnogi eu cyd-
ddisgyblion a oedd yn cymryd rhan yn yr ŵyl.
roc yr ysgol, a oedd yn cystadlu yn yr Eisteddfod.
Yr ysgolion wnaeth elwa o'r tocynnau nawdd oedd Ysgol Cenarth, Ceridigion; Ysgol Penboyr Drefach Felindre, Sir Gaerfyrddin; ac Ysgol Gymraeg Bro Ogwr, Bracla ac Ysgol Gynradd Gymraeg Cwm Garw, Pontycymer (Peny-bont ar Ogwr ill dwy).
Dywedodd Prif Weithredwr WWH, Anne Hinchey: "Gydag Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal ym Mhen-y-bont ar Ogwr eleni, roeddem wrth ein bodd ein bod ni wedi gallu gwneud rhywbeth i gefnogi pobl ifanc sy'n siarad Cymraeg a’r diGymraeg fel ei gilydd yn y cymunedau o gwmpas ein cynlluniau tai.
Yn achos Ysgol Gynradd Gymraeg Cwm Garw, Pontycymer, Pen-ybont ar Ogwr, roedd y tocynnau ychwanegol yn golygu fod modd i ragor o ddisgyblion ymweld er mwyn cefnogi band
"Drwy noddi tocynnau, bydd y rhai a allai fod wedi methu â fforddio ymweld ag Eisteddfod yr Urdd yn gallu ymuno."
34 | www.wwha.co.uk | intouch | Materion Ariannol
Credyd Cynhwysol
Credyd Pensiwn
Mae Credyd Cynhwysol yn fudd-dal newydd sy’n cyfuno nifer o fudddaliadau yn un taliad misol.
Mae Credyd Pensiwn yn ychwanegu at incwm wythnosol at isafswm gwarantedig i’r rhai nad ydyn nhw’n gweithio mwyach.
Bydd unrhyw un sydd dan 65 oed sy'n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Budd-dal Tai a/neu Gredydau Treth yn cael eu symud i'r system newydd hon. Yn fuan, bydd unrhyw un sy'n gwneud cais newydd am y budd-daliadau a restrir uchod yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol. Mae pobl sydd eisoes yn hawlio budd-dal nad ydyn nhw’n cael eu heffeithio ar hyn o bryd yn annhebygol o gael eu symud i'r system hon cyn 2019. Fodd bynnag, nid yw byth yn rhy gynnar i baratoi ar ei chyfer.
Mynd ar-lein
Mae hawliadau’n cael eu gwneud a’u rheoli ar-lein. Os nad ydych chi’n defnyddio’r rhyngrwyd, dechreuwch feddwl am ffyrdd y gallech chi ei ddefnyddio, e.e. llyfrgelloedd neu gyrsiau gan y Cyngor.
Cyllidebu’n fisol
Telir Credyd Cynhwysol yn fisol, a allai fod yn wahanol i’r ffordd rydych chi’n cael eich incwm ar hyn o bryd. Mae ein gwefan yn cynnwys nifer o gynghorion ar reoli eich arian.
Cael cyfrif banc
Mae’n bosibl mai cyfrif Swyddfa’r Post sydd gennych chi, sy’n caniatáu i chi dynnu arian allan yn unig. Os felly, mae’n bryd agor cyfrif banc newydd fel y gallwch reoli eich arian yn well.
Os ydych chi wedi cyrraedd yr oedran cymhwyso isaf (sydd yr un fath ag oedran pensiwn y wladwriaeth, tua 64) a bod gennych incwm wythnosol islaw £192.35 os ydych chi'n sengl, a £280.50 os ydych chi'n gwpl, mae’n bosibl eich bod yn gymwys i gael Credyd Pensiwn. Bydd angen yr wybodaeth a ganlyn arnoch fel y gellir gwneud asesiad: • rhif Yswiriant Gwladol • faint o arian sydd gennych chi’n dod i mewn bob wythnos – e.e. manylion unrhyw bensiwn a gewch gan gyngyflogwr neu gynllun pensiwn personol, a pha mor aml y caiff ei dalu • manylion cynilion a buddsoddiadau - bydd y Gwasanaeth Pensiwn yn gofyn am falans cyfredol unrhyw gyfrif banc a chyfrif cynilo a manylion buddsoddiadau, fel cyfranddaliadau, bondiau premiwm neu dystysgrifau ymddiriedolaeth uned • gwybodaeth am gostau llety, fel llog morgais, taliadau gwasanaeth neu rent tir. Os oes gennych chi bartner, fe fyddan nhw angen yr un wybodaeth amdanyn nhw. I wneud cais am Gredyd Pensiwn, ffoniwch 0800 99 1234. Mae modd cael rhagor o wybodaeth ar https://www.gov.uk/pension- credit
Rysáit| intouch | www.wwha.co.uk | 35
Pasta pob blasus tiwna neu brocoli Dyma rysáit pysgodyn / llysiau blasus, rhad, cyflym a hawdd ei goginio ar gyfer y teulu cyfan. (Digon i 4. Amser paratoi 10 munud, coginio 35 munud. Gellir ei rewi.) Cynhwysion 300g pasta sych 1 nionyn wedi’i dorri 1 clof garlleg wedi’i wasgu 160g tiwna neu un pen brocoli 400g tomatos wedi’u torri 1 llwy de oregano sych 100g caws cheddar, 2 llwy fwrdd olew olewydd (Cynhwysion a brynwyd yn Tesco ar 09.08.17 = £1.04 y gyfran.) Dull 1. Coginiwch y pasta am 2 funud yn llai na'r cyfarwyddiadau ar y pecyn a draeniwch. (Os ydych chi'n gwneud yr opsiwn llysieuol, coginiwch y brocoli gyda'r pasta i arbed amser a sosbenni!)
2. Rhowch y popty ar 180oC/Nwy 4. 3. Rhowch yr olew olewydd (neu olew o'r tiwna os yw’r tiwna mewn olew) mewn padell a ffrio'r nionyn a'r garlleg. 4. Gwaredwch yr olew sy'n weddill (os ydych chi'n defnyddio tiwna mewn olew) ac ychwanegwch y tiwna neu'r brocoli i'r badell a'i wresogi a'i gymysgu. 5. Ychwanegwch y tomatos wedi'u torri, oregano a phupur du a choginiwch am 5-10 munud. 6. Ychwanegwch y gymysgedd hon at y pasta wedi'i goginio a'i gymysgu'n dda. 7. Rhowch y cyfan mewn dysgl bopty a rhoi’r caws wedi'i gratio drosto. 8. Craswch am 20-30 munud a mwynhewch!
36 | www.wwha.co.uk | intouch | Y Diweddaraf am Elusennau
Sêr rygbi’n helpu codi arian at ein helusen
Wynebodd aelodau o staff WWH gyn chwaraewyr rhyngwladol Cymru mewn gêm rygbi elusennol i godi arian i’n helusen staff Age Cymru.
cemotherapi. Mae ei deulu a'i ffrindiau wedi ffurfio Tîm Burns ac eisoes wedi codi dros £30,000 at driniaeth bosibl yn y dyfodol.
Dewisodd WWH dîm Select XV o chwaraewyr rygbi clwb proffesiynol a rhanbarthol i gystadlu yn erbyn Cynchwaraewyr y ‘Welsh Charitables RFC’ mewn digwyddiad yng Nghlwb Rygbi Penarth ddydd Gwener, 1 Medi.
Yn ystod y noson, roedd twrnamaint rygbi cyffwrdd saith bob ochr, lle bu staff WWH a chwe thîm arall yn cystadlu am hwyl. Enillwyd y twrnamaint gan dîm o Peacocks, a chyfartal oedd sgôr y gêm Select XV. Roedd yno weithgareddau teuluol, barbeciw, castell neidio, sleidiau gwynt, paentio wynebau, ac arwerthiant elusen memorabilia chwaraeon.
Roedd cyn-aelod o’r Llewod, Allan Bateman, ymhlith yr wynebau enwog ar y cae, ac roedd Colin Charvis yno ar yr ochr yn eu hannog. Cafodd yr arian a godwyd ei rannu'n gyfartal rhwng Age Cymru, elusen ddewisol ‘Welsh Charitables RFC’, ac elusen Matt Burns, y mae ei wraig Jo yn gweithio ym mhrif swyddfa WWH Caerdydd. Cafodd Matt ddiagnosis canser dwythell y bustl, a ledaenodd i'w afu, ac mae wedi cael triniaeth
Peter Jenkins, Rheolwr Masnachol yn WWH, fu’n trefnu’r digwyddiad ynghyd â Carwyn Thomas, sy'n gweithio i Thermal Earth, un o'n contractwyr. Dywedodd Peter: "Roedd yn llwyddiant ysgubol ac rydym yn gobeithio y gallwn ni wneud hwn yn ddigwyddiad blynyddol."
Y Diweddaraf am Elusennau | intouch | www.wwha.co.uk | 37
Y gymuned yn ymuno yn sbri’r ras hwyl Roedd ras hwyl 5k flynyddol Castellnewydd Emlyn yn llwyddiant mawr, gan godi dros £500 ar gyfer ein helusen enwebedig Age Cymru. Cymerodd tua 200 o redwyr a gwylwyr, ifanc a hen, ran yn y ras oedd yn cychwyn o swyddfa Cwrt y Llan ddydd Gwener 16 Mehefin. Enillwyr rasys y plant oedd Jac Thomas (dan 7 oed) a Rhodri Lewis (7-15 oed). Enillodd Rhys Davies y ras i oedolion a'r clwb rhedeg lleol 'The Zipperframers’ oedd y tîm cyntaf i orffen y ras.
Alys Humphrey ac Osian Driscoll oedd y rhedwyr yn y gwisgoedd ffansi gorau. Dywedodd y trefydd, Amanda Harries: "Roedd y tywydd yn arbennig a chawsom amser gwych. Hoffem ddiolch i'r gymuned a’r rhedwyr lleol a'n noddwyr Lee Poole & Sons; Afan Electrical; J & P Home Cyf; The Sandwich Shop a Jamsons am eu haelioni. "Gwerthfawrogwyd eu cefnogaeth, ac fe wnaeth hynny’r digwyddiad yn gymaint o lwyddiant."
O’r chwith i’r dde: The Zipperframers: Sian Owen, Wendy Tromans, Wendy Hoyland, Ali Rees a Gary Proven, gyda Maer Castellnewydd Emlyn, Peter Lewis
Rhys Davies
Osian Driscoll
Alys Humphrey
38 | www.wwha.co.uk | intouch | | Gwneud Gwahaniaeth i’ch Dyfodol
Bod yn fos arnoch chi eich hun Nesley a Lauren gyda Sharon Rouse, Tiwtor y cwrs
Mae dau breswyliwr creadigol wedi cael help llaw i ddechrau eu busnes eu hunain. Roedd Nesley Brown o Bracla, Pen-ybont ar Ogwr, tad i bedwar o blant, a Lauren Lichfield o Dwyncarmel, Merthyr Tudful, yn chwilio am help gyda chynllun Grant Dyfodol WWH i sefydlu eu busnes. Er mwyn rhoi’r cyfle gorau i’w syniadau busnes lwyddo, trefnodd WWH i'r pâr gymryd rhan mewn Cwrs Menter i Breswylwyr dros gyfnod o 12 wythnos gan y fenter gymdeithasol leol Oracle Services. Mae Nesley, sy'n gweithio'n rhan-amser fel gyrrwr nwyddau i Tesco, yn gobeithio
troi ei frwdfrydedd dros dynnu lluniau yn fusnes llwyddiannus drwy sefydlu gwasanaethau ffotograffiaeth digwyddiadau, teuluoedd a phriodasau Brownz. Mae WWH yn ei gefnogi gyda grant i brynu rhywfaint o offer. Ar yr un pryd, mae Lauren, sy’n 21 oed, yn anelu at droi ei dawn mewn celfyddyd gain yn yrfa ac mae'n chwilio am gymorth i'w helpu i sefydlu gwefan i werthu a dangos ei gwaith sy'n cynnwys paentiadau, mygiau, crysau T a bagiau siopa. Dywedodd Nesley: "Mae'r cwrs wedi bod yn ddefnyddiol iawn. Fe wnes i ddysgu sut i baratoi fy hun ar gyfer busnes a rhoddodd gymorth i mi wrth ddelio â chwsmeriaid." Eisoes, mae ganddo sawl priodas a digwyddiad cymunedol lleol yn ei ddyddiadur. Mae Lauren nawr yn paratoi i lansio ei gwaith ar safleoedd gwerthu ar-lein ac mae'n ystyried cynnal stondinau mewn gwyliau a ffeiriau crefft yn y dyfodol.
"Wrth fy modd â’m swydd"
Mae Olimpia Wiercigoroch, un o’n preswylwyr o Gaerdydd, wrth ei bodd â’i swydd lanhau newydd yn ein prif swyddfa yng Nghaerdydd. Aeth Olimpia, sy'n byw yn Drybrook Close, i sesiwn Gweithle – Argraff Gyntaf yn swyddfeydd WWH, a arweiniodd ati’n cael y swydd lanhau gyda'n chwaer gwmni, Mentrau Castell. "Mae'n llawer gwell i'n teulu fod gennyf swydd," meddai Olimpia. "Rwyf wrth fy modd yn glanhau, felly mae'r swydd hon yn un dda i mi."
Cyfryngau Cymdeithasol | intouch | www.wwha.co.uk | 39
Pethau sy’n ‘ap’elio i bawb Wyddech chi fod Apiau ar gael a allai wneud gwahaniaeth i chi neu i eraill? Street Link Ydych chi wedi mynd heibio i rywun digartref ac wedi dymuno y gallech chi wneud rhywbeth, ond nad oedd modd i chi wneud dim ar y pryd? Mae Street Link yn app sy'n eich galluogi i roi gwybod i awdurdodau lleol am rai sy’n cysgu allan yn eich ardal chi. Mae’n bosibl na fyddan nhw’n hysbys i wasanaethau lleol oherwydd eu bod yn aros allan o'r golwg, yn cysgu ar adegau gwahanol o’r dydd neu’r nos, ac yn symud o le i le. Nid yw pob un sy’n cysgu allan yn ymwybodol bod cyngor a chymorth ar gael iddyn nhw. Drwy ddweud wrth Street Link am rywun sy'n cysgu allan, byddwch yn helpu i gysylltu’r unigolyn hwnnw â'r gwasanaethau lleol sydd ar gael. Sut mae’n gweithio Gan ddefnyddio'r app Street Link a phwyso ar y botwm ‘Tell us about a rough sleeper’, gallwch lenwi ffurflen am rywun sy’n cysgu allan a'i leoliad. Gallwch hefyd ddefnyddio 'Locate me' os nad ydych chi'n siŵr ar ba stryd ydych chi. Gallai’r dasg ddau funud hon achub bywyd rhywun, a dim ond 6mb yw maint yr app felly ni fydd yn cymryd llawer o le ar eich ffôn - bydd yn werth ei gael.
Apiau Cymorth Cyntaf – Urdd Sant Ioan neu’r Groes Goch Nid yw rhywun fyth yn gwybod pryd y gallai fod mewn sefyllfa argyfyngus, ac y byddai angen gloywi eich gwybodaeth cymorth cyntaf. Creodd Ambiwlans Sant Ioan yr app cymorth cyntaf hwn ac maen nhw’n benderfynol na ddylai unrhyw un farw oherwydd bod angen cymorth cyntaf arnyn nhw a’u bod heb ei gael. Mae'r app hwn yn cynnwys y cyngor a phrotocolau cymorth cyntaf diweddaraf ar gyfer ymdrin â sefyllfaoedd argyfyngus. Mae'n syml i'w ddilyn gyda chanllawiau darluniadol a chyfarwyddiadau llafar. Mae’r apiau hyn ar gael yn app store Apple ac Android.
Gallwch hefyd fynd i http://www. streetlink.org.uk/ http://www.sja.org.uk/sja/first-aidadvice/free-mobile-first-aid-app.aspx ac i http://www.redcross.org.uk/en/ What-we-do/Emergency-response/ Emergency-app-landing
40| www.wwha.co.uk | intouch | Digwyddiadau
Digwyddiadau’r Hydref yng Nghymru Y GOGLEDD
7 Hydref, 11am-11pm, Eryri Real Ale Trail, Gwesty’r Llew, Cricieth, Gwynedd, LL52 0AA Gŵyl cwrw go iawn ar fysiau, yn ymweld â naw o’r tafarndai gorau yn Eryri. Ffôn: 07582 018979. 28 Hydref, 11am – 5pm, Hylabalŵ Calan Gaeaf! Fern Avenue, Prestatyn, Sir Ddinbych, LL19 9LR. Ffôn: 07947 603834. 30 Hyd 2017 - 1 Tach2017, 3pm-11pm Drysfa Arswydus Calan Gaeaf Neuadd Bentref Llanddulas, Beulah Avenue, Llanddulas, Conwy, LL22 8 FH. Ffôn: 07895 563527. 4-6 Tachwedd, 9am – 6pm, Gŵyl Gorawl Gogledd Cymru Venue Cymru, Y Promenâd, Llandudno, Conwy, LL30 1BB.
Y CANOLBARTH 27 – 28 Tachwedd Ffair Aeaf y Sioe Frenhinol Maes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd Pa un ai da byw, dofednod a cheffylau yn yr arenâu dan do fydd yn mynd â’ch bryd, neu’r cynnyrch gorau o Gymru gan gynhyrchwyr a wobrwywyd yn y neuadd fwyd, mae rhywbeth i bawb yma. Ffôn: 0844 545 0517.
Y DE
Tan 24 Medi Pabïau: ‘Weeping Window’. Y Senedd, Bae Caerdydd Rhaeadr o filoedd o babïau seramig a wnaed â llaw, a welwyd yn wreiddiol yn llifo o ffenestr uchel i’r llawr yn Nhŵr Llundain fel rhan o’r gosodiad dan y teitl ‘Blood Swept Lands and Seas of Red’. https://www.1418now. org.uk/ commissions/poppiesweeping- window-at-cardiff/ 1 Hydref Hanner Marathon Caerdydd Bydd miloedd o redwyr yn rhedeg drwy ganol dinas Caerdydd heibio lleoliadau eiconig ac adeiladau hanesyddol, gan ddechrau yng Nghastell Caerdydd, croesi morglawdd Caerdydd i Fae Caerdydd, a gorffen ger Neuadd y Ddinas. Ewch draw i annog y rhedwyr. Mae ein helusen Age Cymru yn chwilio am redwyr i gymryd rhan. Ffoniwch 029 2043 1555 am ragor o wybodaeth. 31 Hydref 2017 Castell Cyfarthfa, Brecon Road, Merthyr Tudful Gwnewch eich mymi arswydus eich hun, ac ewch ar helfa Calan Gaeaf. Galwch draw i greu eich mymi eich hunan a gweld a allwch chi ddod o hyd i’r holl wrthrychau rhyfedd a dirgel ar yr helfa Galan Gaeaf. Ffôn: 01685 724445.
Digwyddiadau | intouch | www.wwha.co.uk | 41
28, 29 a 31 Hydref Ewch ar y Trên Ysbrydion ar Reilffordd Treftadaeth Blaenafon. Bydd y trenau’n mynd o Orsaf Seidin Arswydus y Ffwrnais yn rheolaidd rhwng 4pm a 9pm. Anogir ymwelwyr i wisgo gwisgoedd ffansi (ond nid yw hyn yn hanfodol, a pharatowch eich hunain i gael eich dychryn!) Mae tocynnau’n £6. Ffôn: 01495 792263. Tan 5 Tachwedd 2017 Amgueddfa Cymru, Caerdydd - Babanod Dinosoriaid Bydd y casgliad rhyfeddol hwn o wyau ac embryonau dinosoriaid i’w weld am y tro cyntaf yng Nghymru. Mynediad yn £7 i oedolion, £5 consesiynau a £3 i blant (4-17).Ffoniwch: 0300 111 2 333. Ffair Aeaf y Sioe Frenhinol
Y GORLLEWIN
23-24 Medi Gŵyl Fwyd Arberth Digwyddiad cymunedol, wedi ei redeg yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr, gyda stondinau bwyd, cerddoriaeth fyw, theatr stryd, sgyrsiau a thameidiau blasu, arddangosiadau coginio a gweithgareddau am ddim i blant. Ffoniwch 07917 783001. Tan ddydd Sadwrn 21 Hydref Arddangosfa Edefyn Tywyllach 10am-5pm, Oriel Myrddin, Caerfyrddin. Ffoniwch 01267 222 775. Mae gan Gymru hanes balch o greu tecstilau gwaith a thecstilau addurnol nodedig. O flancedi wedi eu gwehyddu â phŵer i gwiltiau a bwythwyd â llaw, mae tecstilau’n rhan allweddol o ddiwylliant a hanes gweledol Cymru. Tan ddydd Sadwrn 4 Tachwedd Arddangosfa cwiltiau "Ni Cheir Gwell" Neuadd y Dref Llanbedr Pont Steffan, SA48 7BB 9:00am - 4pm Ffoniwch 01570 480 112.
Arddangosfa Edefyn Tywyllach
Babanod Dinosoriaid, Amgueddfa Cymru
42 | www.wwha.co.uk | intouch |Eich Newyddion a’ch Safbwyntiau
Preswylwyr yn camu’n ôl i’r 40au
Fe wnaeth y Cogydd James Roskell, sy’n 27 oed, blesio preswylwyr yn Llys Jasmine yn fawr pan feddyliodd am gynnal diwrnod y 40au. Ynghyd â Sharon Denman, o Gyngor Sir y Fflint, fe wnaethon nhw edrych ar fwydlenni a memorabilia a pherswadio Clwb y Merched i ddarparu baner Jac yr Undeb a baneri bach ar y byrddau yn y bwyty. Cafodd y preswylwyr ginio 3 chwrs gyda dewis o hash corn bîff, ffriteri spam a beef bourguignon, gyda jeli a hufen iâ, pwdin bara a tharten afal i ddilyn. Fe wnaeth y preswylwyr a’r staff wisgo dillad ar y thema a bu organydd yn chwarae cerddoriaeth o’r 40au. Dywedodd Terry Moore: “Roedd yn ddiwrnod
rhagorol wedi ei baratoi a’i gyflwyno’n dda. Trefnwyd y bwyd yn dda ac fe wnaeth pawb ei fwynhau a chael amser gwerth chweil.” Cytunodd Margaret Collins: “Fe wnaeth pawb ohonom fwynhau ein hunain, ac roedd hi’n hyfryd gweld y staff yn eu gwisgoedd.” A defnyddiodd trigolion Oak Court ym Mhenarth y grant Loteri "Dewch i Ddathlu!" i gynnal eu dathliadau diwrnod VE eu hunain ar gyfer y gymuned leol, fel y gwelir isod. Daeth preswylwyr â hen ffotograffau a chofnodion eraill, gan gynnwys llyfrau dogni a chwpons.
Eich Newyddion a’ch Safbwyntiau | intouch | www.wwha.co.uk | 43
Llwyddiant i lawer Llongyfarchiadau i’n preswylwyr a gafodd gydnabyddiaeth yng Ngwobrau Cyfranogiad TPAS Cymru eleni yng Nghaerdydd. Rydych chi i gyd yn wych. • Jan Derret, a enillodd wobr Tenant y Flwyddyn – haeddiannol iawn! • Naomi Wyard ac Emily Phillips a oedd yn gydradd 3ydd yn y categori Tenant Ifanc y Flwyddyn. • Cynllun Gofal Ychwanegol Llys Jasmine Cipiodd y Siop Fyrbrydau Gymunedol yn yr Wyddgrug y drydedd wobr yn y categori Cyfranogiad mewn Tai â Chymorth. • Gardd Gymunedol Llaneirwg, a enillodd y wobr Gweithredu yn y Gymuned – da iawn!
Te yn hwb i breswylwyr Gerddi’r Ffynnon Pan nad oedd y lifft yn gweithio am dair wythnos yng nghynllun er ymddeol Gerddi’r Ffynnon yn Aberystwyth, roedd nifer o’r preswylwyr a oedd yn byw ar yr ail a’r trydydd llawr yn teimlo’n unig. Roedden nhw’n gweld colli eu sgwrs reolaidd dros baned yn y lolfa gymunol. Felly, fe wnaeth y Swyddog Tai Glesni Hesford-Evans a’r Swyddog Datblygu Cymunedol Jess O’Connell drefnu bod y te’n dod atyn nhw.
Fe wnaethon nhw drefnu te parti ar bob llawr, ac ymunodd preswylwyr a allai ddefnyddio’r grisiau â nhw. Ac yn goron ar y cyfan, pobodd Jess sgons a’u gweini â hufen a jam ac fe wnaeth Glesni deisennau bach.
44 | www.wwha.co.uk | intouch | | Eich Newyddion a’ch Safbwyntiau
Tommy yn camu ymlaen at her elusennol
Mae Tommy Guest, sy’n 74 oed ac sy’n byw yn Centenary Court, y Fflint, yn haeddu rhoi ei draed i fyny, ar ôl iddo gerdded 250 milltir ym mis Mehefin, y cyfan ar gyfer ymgyrch elusennol Walk Over Cancer. “Roeddwn i’n gwylio’r teledu ac fe welais i’r ymgyrch Ymchwil Canser a oedd yn annog pobl i gerdded 10,000 cam bob dydd ym mis Mehefin, felly fe chwiliais i ar y we a phenderfynu cymryd rhan.” Fe wnaeth Tommy, a anafodd ei droed flynyddoedd yn ôl ar garreg anwastad, ganfod llwybr 5 milltir yn ei gar a fyddai’n cyflawni targed o 10,000 cam y diwrnod. “Bu farw fy mrawd o ganser gastrig bedair blynedd yn ôl, felly fe gerddais i er cof amdano yn ogystal ag eraill sy’n brwydro yn erbyn y salwch, gan gynnwys fy nghymydog, Ole Constantine.” Unwaith roedd Tommy wedi cyrraedd targed yr ymgyrch o 150 milltir, penderfynodd ddal ati a cherdded 100 milltir arall. “Tra’r oeddwn i allan yn cerdded, ffoniodd fy nith i ddweud wrthyf fod ganddi hithau ganser hefyd. Roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth i
helpu, felly roeddwn i’n mynd allan bob dydd, beth bynnag oedd y tywydd.” Pan orffennodd Tommy ei 250fed milltir, daeth criw bach at ei gilydd i’w groesawu i’r cynllun. “Roeddwn i’n teimlo’n wych – roeddwn i wedi cyrraedd y nod!” dywedodd Tommy, sydd wedi codi £500 at Ymchwil Canser. Os hoffech chi gyfrannu, ewch i fundraise.cancerresearchuk.org a chwiliwch am enw Tommy Guest, lle gwelwch chi fanylion am sut i gyfrannu.
Gardd Eden yn Llaneirwg Fe wnaeth garddwyr yng Ngardd Gymunedol Llaneirwg yng Nghaerdydd agor eu giatiau i gerddwyr elusennol oedd ar daith o amgylch Prydain. Fe wnaeth cerddwyr taith gerdded fawr prosiect Eden oedi yn yr ardd yn ystod eu taith 1400 milltir o gwmpas Prydain rhwng 29 Mai ac 18 Mehefin. Roedd y daith yn rhan o brosiect i roi sylw i grwpiau sy’n gwneud pethau gwych yn y gymuned ac yn gwneud newid er gwell lle maen nhw’n byw, gan helpu pobl a’r amgylchedd.
Eich Newyddion a’ch Safbwyntiau | intouch | www.wwha.co.uk | 45
VEST orau preswylwyr Western Court
Mae preswylwyr yn Western Court, Caerdydd, wedi helpu’r elusen drafnidiaeth leol V.E.S.T. (Voluntary Emergency Services Transport) ar eu taith at brynu bws newydd.
Mae’r ymdrech olaf yn golygu fod V.E.S.T. wedi cyrraedd eu targed £55,000 i brynu bws newydd gyda chadeiriau sy’n mynd am yn ôl, a lifft yn y cefn i ychwanegu rhywfaint o gysur i deithwyr y gymuned.
Fe wnaethon nhw godi cyfanswm o £2,050. Daeth £405 o fore coffi a’r gweddill o’r gymuned ehangach, a Felothon 140k Cymru. Roedd mab y rheolwr Ann White mewn tîm beicio a oedd yn cefnogi’r elusen.
Dywedodd Caroline, cydlynydd V.E.S.T: “Bu hon yn un o’n hymgyrchoedd codi arian gorau erioed, ac mae gallu prynu bws cyfforddus newydd ar gyfer teithiau hirach yn golygu ein bod ni hefyd yn gallu rhyddhau un o’r cerbydau eraill ar gyfer teithiau lleol”.
Diolch i gymdogion da yn Hanover Court Pan lewygodd mab Vera Wright yn y stryd, roedd hi’n ddiolchgar i’w chymdogion da, a ruthrodd i’w helpu. Mae Vera, sy’n 78 oed, yn byw yn Hanover Court, y Barri, ac roedd yn aros yn yr arhosfa fysiau gerllaw gyda’i mab 54 oed pan ddigwyddodd hyn. Aeth Vera i banig, ond yn ffodus roedd preswylwyr yn y cynllun wrth law i dawelu ei hofnau. Fe wnaethon nhw nôl clustog i’w rhoi dan ben ei mab
ac aros gyda hi nes i’r ambiwlans gyrraedd a mynd â nhw i’r ysbyty. Dywedodd Vera: “Rydw i eisiau diolch i bawb a ddaeth i’n helpu ni. Roedden nhw’n wych ac wn i ddim beth fyddwn i wedi ei wneud hebddyn nhw. “Mae fy mab yn cael trafferthion gyda’i galon ac roeddwn i’n poeni’n fawr amdano, ond roedd y merched sy’n byw yn y fflatiau mor garedig. Wn i ddim pwy oedden nhw, ond roeddwn i mor falch eu bod nhw yno i’n helpu ni.”
46 | www.wwha.co.uk | intouch |Eich Newyddion a’ch Safbwyntiau
Hafan gwenyn Hightown Galwodd cyfeillion Canolfan Adnoddau Cymunedol Hightown ar wirfoddolwyr i helpu Prosiect Gardd Gymunedol Hightown i greu hafan bywyd gwyllt i wenyn lleol yn Hightown. Mae’r safle yn un o’r 200+ o ‘Fydoedd Gwenyn’ sy’n cael eu hadeiladu o gwmpas y wlad fel rhan o ymgyrch Bee Cause yr elusen. Sicrhaodd y grŵp £1,500 o gyllid gan ‘Wrecsam Ynghyd’ a chyfraniadau o hadau blodau gwyllt gan Gyfeillion y Ddaear a Just Seed i drawsffurfio man gwyrdd y tu allan i Ganolfan Adnoddau Cymunedol Hightown yn ardd flodau gwyllt odidog, i ddarparu bwyd hanfodol i greaduriaid dan fygythiad sy’n peillio’n lleol.
Yn ystod yr haf, daeth 70 o blant i weithdy crefftau natur i greu darnau i’w defnyddio yn yr ardd natur gymunedol ac i fynd adref gyda nhw. Creodd y plant droellwyr gwynt, porthwyr adar syml, porthwyr gloÿnnod byw a darnau unigol ar gyfer y gwesty mawr i drychfilod.
Preswylwyr enfys Merthyr Dangosodd preswylwyr o Dŷ Brynseion ym Merthyr Tudful eu cefnogaeth i Mia Chambers, sy’n bump oed ac sy’n adnabyddus y lleol fel “Rainbow Warrior”, drwy drefnu taith noddedig. Ymunodd pobl leol ag ymgyrch ar thema enfys i helpu i godi £200,000 i’w hanfon i America ar gyfer treial clinigol. Ar hyn o bryd mae Mia yn cael ei thrin ar gyfer math prin o ganser, ac mae siopau, busnesau, ceir a chartrefi wedi’u haddurno gyda rhubanau enfys i godi arian ac ymwybyddiaeth. I ymuno â’r gwaith codi arian, clymodd preswylwyr yn Nhŷ Brynseion rubanau enfys i’w fframiau cerdded wrth iddyn nhw gynnal taith gerdded noddedig o gwmpas Parc Cyfarthfa, gan gasglu arian ar y ffordd. Cymerodd 12 preswyliwr ran, gan godi dros £1200.
Dywedodd Gwyneth Griffiths, un o’r trefnwyr: “Roeddem eisiau gwneud rhywbeth gan fod hen nain Mai yn byw yng nghynllun Tŷ Gwaunfarren. Daeth criw o 12 o breswylwyr ynghyd i gymryd rhan yn y daith. Roedd rhai’n defnyddio fframiau cerdded, gan fynd o gwmpas y parc un waith, ac fe wnaeth eraill a allai gerdded ymhellach ddwywaith neu dair o gwmpas y parc. Aeth rhai â’u cŵn gyda nhw, hefyd. “Roedd pobl yn y parc wedi rhyfeddu gweld grŵp o bensiynwyr yn casglu at elusen.” “Roedd Josh, tad Mia, yn teimlo’n emosiynol iawn pan roddom yr arian iddo.”
Eich Newyddion a’ch Safbwyntiau | intouch | www.wwha.co.uk | 47
“Roedden ni eisiau helpu” Cododd preswylwyr yn Nhŷ Gwynn Jones yn Abergele £523.40 ar gyfer Ysbyty Glan Clwyd drwy gynnal te mefus. Roedd Fran Parry, sy’n 70 oed, eisiau gwneud rhywbeth i helpu pan ganfu fod ei mab David, 51, sydd hefyd yn un o breswylwyr WWH yn Llys Bryniau, Llandudno, wedi cael diagnosis o lymphoma nad yw’n Hodgkins. Cafodd y diagnosis pan oedd yn disgwyl llawdriniaeth ar ei gefn, ond cododd ei besychiad cyson sylw at y salwch. Dywedodd Fran: “Pan mae eich mab mor sâl, rydych chi eisiau gwneud unrhyw beth i helpu. Mae’r uned ganser yn Ysbyty Glan Clwyd wedi bod yn wych gyda David, ond nid yw pobl yn deall fod ysbytai’n dibynnu ar godi arian i gael y cyfarpar maen nhw ei angen. Roedd un o’r oergelloedd meddygol mewn perygl o dorri, felly helpodd fy nghymdogion fi i drefnu te mefus i brynu un i’r ysbyty.
Dyna ddiwrnod braf…
Dyma lun rhai o breswylwyr Sydney Hall Court yn mwynhau diwrnod braf ym Mhwllheli a phenrhyn Llŷn.
Bu’r preswylwyr Chris Williams, Sally Clayton, Alison Sharpe ac Ann Badcott o gymorth i Fran, a thynnodd Steve Jeffery luniau a gwahodd grŵp dysgu creadigol cymunedol i’r digwyddiad. Dywedodd Fran: “Roedd David wrth ei fodd – roedd mor falch o gael dweud wrth y Brif Nyrs yn Ysbyty Glan Clwyd faint o arian a godwyd.”
Gwau ar gyfer eraill Yn y llun gwelir Anne Green, Mary Forbes a Lily Whitley yn gwau dillad ac eitemau ar gyfer Ysbyty Glan Clwyd. Carole Bull, sef chwaer Anne, oedd y trefydd, ac fe ddyluniodd flanced hefyd.
Cyfleoedd i gynorthwywyr arlwyo achlysurol a chogyddion yn yr Wyddgrug, Prestatyn a’r Drenewydd Ydych chi: • eisiau gweithio’n hyblyg o gwmpas eich ffordd o fyw? • yn barod i weithio ar rai penwythnosau a/neu Wyliau Banc? • yn barod i weithio fel rhan o dîm yn ein cynlluniau gofal ychwanegol?
Mae gennym gyfleoedd ar gyfer cynorthwywyr arlwyo chogyddion. Cynorthwywyr £8.45 yr awr
Cogyddion £9.22 yr awr
Oriau: Amrywiol Mae Castell Catering yn lle gwych i weithio ac yn croesawu pobl sy’n chwilio am gyfle i weithio’n achlysurol. Rydym yn gyflogwr Cyflog Byw.
I wneud cais, ewch i: www.castellventures.wales
a