intouch RHIFYN 73 | GAEAF 2012/13 | AM DDIM
Cylchgrawn preswylwyr Tai Wales & West
Oes gennych chi’r hyn sydd ei angen i fod yn
aelod o’r Bwrdd sy’n Breswyliwr? Wyddech chi eich bod chi, fel un o breswylwyr WWH, yn gallu cynnig eich enw i gael eich ethol yn aelod o’r Bwrdd, cyn belled â bod eich ĞŶǁ Ăƌ ĞŝĐŚ ĐLJƚƵŶĚĞď ƚĞŶĂŶƟĂĞƚŚ Ă͛ĐŚ ďŽĚ ĐŚŝ͛Ŷ ĐĂĞů ĞŝĐŚ ĞŶǁĞďƵ ŐĂŶ ddeg preswyliwr cymwys arall, fel yr ysgrifenna Kathy Smart, Cadeirydd Bwrdd WWH. Sut allech chi ddod yn aelod o’r Bwrdd sy’n Breswyliwr Dim ond dilyn pum cam hawdd: Cam 1:
Bydd gofyn i chi fynd i ‘Ddiwrnod Gwybodaeth’, gorfodol, lle byddwch chi’n dysgu am WWH, ei hegwyddorion ůůLJǁŽĚƌĂĞƚŚƵ͕ LJ īŽƌĚĚ LJ ŵĂĞ͛ƌ ǁƌĚĚ LJŶ gweithio, yr ymrwymiad sydd ei angen o ran ĂŵƐĞƌ͕ ĂĐ ĂƟ͘
Cam 2:
Ar ôl bod yn y Diwrnod Gwybodaeth, bydd ŐŽĨLJŶ ŝ ĐŚŝ ůĞŶǁŝ īƵƌŇĞŶ LJŶ ĐŽĨƌĞƐƚƌƵ ĞŝĐŚ diddordeb mewn dod yn Aelod o’r Bwrdd sy’n Breswyliwr.
Cam 3:
Yna, fe gewch chi gyfarfod Anne Hinchey, y Prif Weithredwr, a fydd yn trafod gyda chi beth yw swyddogaeth a chyfrifoldeb bod yn aelod o Fwrdd WWH sy’n breswyliwr.
Cam 4:
Nesaf, bydd gofyn i chi lenwi’r holl waith papur perthnasol.
Cam 5:
Os byddwn yn cael mwy o enwebiadau na’r lleoedd sydd ar gael, bydd angen i ni gynnal etholiad. Mae pob preswyliwr yn cael pleidleisio, ac mae’r canlyniadau yn ĐĂĞů ĞƵ ĐLJŚŽĞĚĚŝ LJŶŐ ŶŐŚLJĨĂƌĨŽĚ ĐLJīƌĞĚŝŶŽů blynyddol WWH.
Cynhelir y Diwrnod Gwybodaeth ar 21 Mawrth 2013 rhwng 10am a 4pm. Os oes gennych ddiddordeb, a’ch bod eisiau dod i’r Diwrnod Gwybodaeth, cysylltwch ag adain y Prif Weithredwr ar 0800 052 2526 cyn 13 Chwefror 2013.
Llythyr y golygydd | intouch | www.wwha.co.uk | 03
Llythyr y Golygydd Yn gyntaf oll – Blwyddyn Newydd Dda i bawb gennym ni i gyd yn Tai Wales & West. Nid oedd llynedd yn flwyddyn hawdd i lawer ohonom, a gyda rhagor o newidiadau i fudd-daliadau lles ar eu ffordd, mae’n ymddangos y bydd 2013 yn sicr o ddod â’i heriau ei hun i’w chanlyn. Ond nid ydych ar eich pen eich hun. Nid eich landlord ydym ni’n unig, rydym yma i helpu hefyd. Rydym yn gwybod fod arian yn brin i lawer ohonom, felly ar dudalennau 31 i 33 fe gewch ragor o wybodaeth am gyllidebu – mewn geiriau eraill, gwneud yn fawr o bob ceiniog sydd gennych chi. Mae gennym ganlyniadau cyntaf Arolwg Bodlonrwydd Preswylwyr eleni (tudalen 34 – eich sa wyn au ar sut hwyl rydym yn ei gael ar bethau.) Yn ogystal, gallwch adolygu ein ffigyrau perfformiad diweddaraf yn ein Hadroddiad Chwarterol ar dudalennau 18 - 23. Mae gennym gyfle rhagorol i’w gynnig i breswyliwr ifanc uchelgeisiol yn ein hadran gwaith. sgiliau. profiad (tudalen 38), ac rydych yn siŵr o gael eich ysbrydoli gan ein gardd gymunedol newydd yn Llaneirwg, Caerdydd (tudalennau 10 ac 11). Yn olaf, diolch am eich holl gynigion yn ein cystadleuaeth ffotograffau Nadoligaidd – awgrymodd un o’n preswylwyr, Jane Styles, ein bod yn cynnal cystadleuaeth ffotograffau drwy’r flwyddyn, felly rydym am wneud hynny yn awr – gweler y tu mewn i’r clawr cefn am ragor o fanylion. Cofion cynnes Sarah Manners, Rheolwr Cysyll adau Cyhoeddus a Marchnata
Cysylltu â ni
Cynnwys Newyddion a gwybodaeth am WWH Elusennau Cynnal a chadw a gynlluniwyd Adroddiad chwarterol Cyfranogiad preswylwyr Byw’n wyrdd Datblygiadau diweddaraf Materion ariannol Arolwg bodlonrwydd preswylwyr Gwaith. sgiliau. profiad Byw’n iach Ymddygiad gwrthgymdeithasol Eich newyddion a’ch sa wyn au Pen-blwyddi a dathliadau
4 12 15 18 24 28 29 30 34 38 40 44 46 50
Wyddech chi eich bod chi nawr yn gallu cael mwy o newyddion a diweddariadau ar-lein? Dilynwch ni ar twi er
@wwha
intouch mewn ieithoedd a fformatau eraill Os hoffech chi dderbyn copi o’r rhifyn hwn o In Touch yn y Saesneg neu mewn iaith neu fformat arall, er enghrai , mewn print bras, rhowch wybod i ni ac fe wnawn ni eich helpu chi.
Tai Wales & West Cyf., 3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2UD. Ffôn: 0800 052 2526 | Testun: 07788 310420 Ebost: contactus@wwha.co.uk | Gwefan: www.wwha.co.uk Minicom: 0800 052 5205. Gallwch hefyd gysylltu ag aelodau o staff yn uniongyrchol drwy e-bost. Er enghrai , joe.bloggs@wwha.co.uk
04 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a gwybodaeth gyffredinol
Cambria’r Gogledd nawr ar waith
Mae Cambria’r Gogledd, ail gam cynllun Tai Wales & West i ddarparu gwasanaethau cynnal a chadw ledled Cymru wedi bod ar waith ers 2 Ionawr 2013. Yn gweithredu o’i ganolfan yn Whi ord Road yn Nhreffynnon, mae’r cwmni’n darparu cyflogaeth fedrus a sefydlog i 42 o bobl leol, ar ôl ymgymryd â’r cyfrifoldeb dros gynnal a chadw gan Bushmede Ltd. Gyda fflyd o 35 fan, bydd Cambria’r Gogledd yn cynnal gwaith cynnal a chadw wedi’i gynllunio ac atgyweiriadau adweithiol i Tai Wales & West yng ngogledd Cymru, o Gonwy i’r Drenewydd yng nghanolbarth Cymru. Nodwch na fydd newid i’r modd y mae preswylwyr yn rhoi gwybod am yr angen am atgyweiriad. Os ydych yn byw yn un o’n cartrefi ac eich bod chi angen rhoi gwybod am atgyweiriad sydd angen ei wneud, ffoniwch rif rhadffôn WWH 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos 0800 052 2526, fel arfer.
Dywedodd Nigel Parry, Pennaeth Cambria’r Gogledd: “Mae hwn yn gyfnod gwirioneddol gyffrous i bawb ohonom, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i ddarparu gwasanaeth effeithlon o safon uchel i WWH a’i breswylwyr, gyda gwên ar ein hwynebau a sioncrwydd yn ein cerddediad.” Bydd defnyddio Cambria i ddarparu gwasanaethau cynnal a chadw ledled Cymru yn gwella ein gwasanaeth ymhellach ac yn helpu i leihau costau gweithredu drwy weithio ledled Cymru. “Fe wnaiff Cambria ein helpu ni i wneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd gennym,” meddai Steve Porter, Cyfarwyddwr Gweithrediadau WWH. “Fe wnawn nhw weithio gyda ni i ddarparu’r hyn sy’n bwysig o ddifrif i’n preswylwyr ledled Cymru, sef holl ddiben y cwmni.”
Newyddion a gwybodaeth gyffredinol | intouch | www.wwha.co.uk | 05
Cefnogi
wyth pren siaeth yn Wrecsam Dechreuodd y flwyddyn newydd yn dda i wyth o bobl ifanc yn Wrecsam, gyda phob un yn mwynhau buddiannau pren siaethau yn ein datblygiad £15m yn y dref. Mae’r wyth, pob un rhwng 16 a 26 oed, yn dysgu eu cre drwy weithio gyda’r contractwyr sy’n arbenigo ar waith brics, Alan Davies and Sons, a fydd yn gwneud llawer o’r gwaith ar ein dau ddatblygiad yn Kingsmills Road a Rivulet Road. Daw pedwar o Gyfadran Adeiladu a Pheirianneg Coleg Iâl, nid nepell o’r safleoedd, ac fe gawn nhw eu hyfforddi fel bricwyr, tra bydd y pedwar arall, o Barc Caia, yn gwneud gwaith adeiladu cyffredinol gyda’r cyfle i symud ymlaen at bren siaethau arbenigol. Dywedodd Iain Murray, Rheolwr adeiladu’r contractwyr Anwyl Construc on: “Mae’n bwysig i Dai Wales & West a ninnau fod y prosiect hwn yn darparu cymaint â phosibl o gyfleoedd hyfforddi o safon uchel.” Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Aelod Arweiniol Cyngor Wrecsam ar Dai a Chynllunio: “Mae hon yn enghrai arall o gydweithio’n llwyddiannus, ac rwy’n falch iawn y bydd pobl ifanc o’r ardal yn gallu
cael profiad gwerthfawr drwy weithio ar y datblygiad hwn.” Bydd ein datblygiadau deuol, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, yn arwain at godi 35 tŷ a rhandy ar Rivulet Road, 92 yn rhagor ar Kingsmills Road, ynghyd â Chyfleuster Meddygol ac Adnoddau Cymunedol newydd. Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr Tai Wales & West: “Rydym wedi ymrwymo i hwyluso cyfleoedd gwaith a hyfforddiant i bobl leol, a chefnogi’r economi leol drwy gyflogi cwmnïau lleol lle bynnag y mae hynny’n bosibl.” Cadwch olwg am newyddion a chyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant ar y datblygiad hwn ar www.hightownflats. com Ewch i dudalen 39 am ragor o newyddion ynghylch cyfleoedd gwaith a hyfforddiant yn Wrecsam.
06 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a gwybodaeth gyffredinol
Sut rydym yn gosod ein cartrefi Rydym yn bwriadu newid y ffordd rydym yn gosod ein cartrefi – a hoffem wybod beth yw eich barn. Yn nau rifyn diwethaf In Touch, fe wnaethom roi gwybod i chi am y ‘dreth ar ystafelloedd gwely’ a sut gallai effeithio arnoch chi. Ym mis Ebrill eleni, mae’r Llywodraeth yn torri faint o fudd-dal tai maen nhw’n ei dalu i unigolion a theuluoedd sydd yn eu barn nhw’n byw mewn tŷ neu fflat sy’n rhy fawr iddyn nhw. Mae hyn yn gymwys i bobl o oedran gweithio. Yn gyffredinol, mae’n golygu: • Pan fydd dau blentyn dan 10 oed mewn teulu, bydd disgwyl iddyn nhw rannu ystafell wely • Pan fydd dau o blant dan 16 oed ac o’r un rhyw, bydd disgwyl iddyn nhw rannu ystafell wely • Bydd pobl anabl sydd angen ystafell ychwanegol ar gyfer cyfarpar ddim ond yn cael hawlio un ystafell wely • Bydd cyplau sydd â chyflwr meddygol sy’n golygu eu bod nhw angen ystafelloedd ar wahân ddim ond yn cael hawlio un ystafell wely • Bydd rhieni unigol sydd â mynediad at blant ddim ond yn cael hawlio un ystafell wely
Felly, sut bydd hyn yn effeithio ar y ffordd rydym yn gosod ein heiddo? Nid yw ein polisi ar osod cartrefi’n newid, ond rydym yn bwriadu newid maint y llety rydym yn ei gynnig i rai teuluoedd.
Dim ond cartrefi a fyddai’n cael eu cyllido’n llawn drwy Fudd-dal Tai y byddwn yn eu gosod.
Rwy’n breswyliwr ar hyn o bryd. A fydd hyn yn effeithio arnaf? Efallai y bydd yn effeithio arnoch os ydych eisiau trosglwyddo o’ch cartref cyfredol gyda WWH i un gwahanol. Er enghrai , os yw teulu yn cynnwys rhieni a dau o blant dan ddeg oed, yna mae rheolau’r dreth ar ystafelloedd gwely yn dweud mai dim ond dwy ystafell wely maen nhw eu hangen yn eu cartref. Yn yr amgylchiadau hyn, os ydyn nhw eisoes yn byw mewn tŷ dwy ystafell wely ac eisiau symud i dŷ mwy o faint, ni fyddem yn ystyried eu cais i symud gan fod eu cartref y maint cywir i’w teulu dan reolau’r budd-dal tai. Petai’r un teulu angen symud i ardal arall i dderbyn cynnig o swydd, yna fe fyddem yn eu hystyried ar gyfer tŷ dwy ystafell wely yn yr ardal newydd. Mae’r tabl gyferbyn yn crynhoi’r prif newidiadau. Mae’n dangos pob math o lety sy’n cael eu gosod gennym a’r math o deuluoedd y byddem yn rhoi cartrefi ar osod iddyn nhw ar hyn o bryd, a’r math o gartrefi y byddem yn eu rhoi ar osod iddyn nhw yn y dyfodol. Gallai hyn newid yn y dyfodol os bydd y rheoliadau budd-daliadau tai yn newid hefyd.
Newyddion a gwybodaeth gyffredinol | intouch | www.wwha.co.uk | 07
CARTREF I’W GOFRESTRU
MATH O DEULU (PRESENNOL)
MATH O DEULU (ARFAETHEDIG)
Stiwdio/fflat/tŷ 1 ystafell wely Unigolyn
Unigolyn
Fflat / tŷ 1 ystafell wely
Cwpl heb blant
Cwpl heb blant
Rhiant unigol gyda mynediad at blentyn / plant Fflat, fflat deulawr neu dŷ dwy ystafell wely
Cwpl neu riant unigol gyda phlentyn
Cwpl neu riant unigol gyda phlentyn
Rhiant unigol gyda mynediad at blentyn
Cwpl neu riant unigol gyda 2 blentyn dan 10 oed Cwpl neu riant unigol gyda 2 blentyn o’r un rhyw dan 16 oed
Fflat, fflat deulawr neu dŷ tair ystafell wely
Cwpl neu riant unigol gyda 2 neu 3 phlentyn, heb ystyried eu rhyw
Cwpl neu riant unigol gyda bachgen a merch, gydag o leiaf un dros 10 oed
Rhiant unigol gyda mynediad at 2 neu 3 phlentyn, heb ystyried eu rhyw
Cwpl neu riant unigol gyda 3 phlentyn Cwpl neu riant unigol gyda 4 plentyn (2 fachgen a 2 ferch) Cwpl neu riant unigol gyda 4 plentyn (3 o’r un rhyw, 1 o’r rhyw arall, lle mae o leiaf 2 o’r plant dros 10 oed, a ddim o’r un rhyw)
Fflat, fflat deulawr neu dŷ pedair ystafell wely
Cwpl neu riant unigol gyda 4 neu 5 plentyn, heb ystyried eu rhyw
Cwpl neu riant unigol gyda 4 plentyn (3 o’r un rhyw, 1 o’r rhyw arall, lle mae o leiaf 3 o’r plant dros 10 oed) Cwpl neu riant unigol gyda 5 plentyn
Os bydd eich budd-dal tai yn cael ei ostwng gan nad ydych yn defnyddio eich cartref i’w lawn botensial, fe rown ni flaenoriaeth i chi symud i gartref llai o faint os mai dyna rydych chi ei eisiau. Os nad oes gennym gartrefi o’r maint cywir yn eich ardal chi, fe wnawn ni geisio helpu mewn ffordd arall gel gofyn a allai cymdeithas dai arall helpu.
08 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a gwybodaeth gyffredinol
A oes unrhyw eithriadau i’r rheol hon? Mewn achosion eithriadol, fe wnawn ni ystyried ymgeiswyr am ystafell wely ychwanegol. Mae hyn yn debygol o ddigwydd os oes rheswm meddygol cryf dros y cais. Efallai y bydd achosion prin pan nad oes gennym deulu o’r maint priodol i gartref. Dan amgylchiadau o’r fath, efallai y gwnawn ni gynnig cartref i deulu llai o faint. Er hynny, eithriad fydd hyn yn hytrach na rheol, ac ym mhob achos, fe wnawn ni wirio bod yr ymgeisydd yn gallu fforddio talu’r rhent sy’n ddyledus.
Pam rydym yn newid y rheolau Mae swm y budd-daliadau tai y bydd preswylwyr yn ei golli os nad ydyn nhw’n defnyddio eu cartrefi i’w botensial llawn yn amrywio, ond cyfrifwyd y bydd preswylwyr sydd ag un ystafell wely dros ben yn colli £10 yr wythnos ar gyfartaledd, y bydd yn rhaid iddyn nhw ei dalu drwy fudd-daliadau eraill neu incwm arall. Ein sa wynt ni yw mai dim ond cartrefi a fyddai’n cael eu cyllido drwy fudd-dal tai y dylem eu rhoi ar osod. Rydym yn credu nad yw hi’n iawn i ni osod cartref i deulu nhw’n gallu fforddio byw ynddo, a lle mae perygl o ddifrif y byddan nhw’n colli eu cartref os byddan nhw’n cronni ôl-ddyledion. Beth am breswylwyr sydd ddim ar fudd-daliadau tai? Rydym yn cynnig y bydd ein trefn newydd yn gymwys i bawb, beth bynnag yw eu hamgylchiadau ariannol. Rydym yn teimlo
y dylid cymhwyso’r drefn newydd yn gyfartal i’r rhai sy’n cael budd-daliadau tai a’r rhai nad ydyn nhw’n cael budd-daliadau tai a allai fforddio’r rhent. Nid yw cyfran cymharol fechan o’n preswylwyr yn cael budd-dal tai, ond o’n profiad ni mae amgylchiadau preswylwyr yn newid, ac fe allen nhw fynd o waith cyflogedig i fudd-daliadau lles ac yn ôl unwaith eto’n aml.
Felly, beth yw eich barn chi? Cofiwch roi gwybod i ni beth yw eich barn chi. Y dyddiad cau ar gyfer sylwadau yw dydd Gwener 15 Chwefror 2013.
Gallwch gysylltu â ni Drwy lythyr: Cate Dooher, Pennaeth Gwasanaethau Cefnogi, Tai Wales & West, 3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Caerdydd CF24 2UD Dros y ffôn: 0800 052 2526 Drwy e-bost: le ngs@wwha.co.uk Ar ein gwefan: h p://www.wwha.co.uk/ Pages/ContactUs.aspx Drwy neges destun: 07788 310420 Drwy siarad gyda’ch Swyddog Tai Mae modd i chi gael copi llawn o’n dogfen ymgynghori drwy gysylltu â’r Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 0800 052 2526 neu drwy lwytho copi i lawr o’r wefan www.wwha.co.uk
Newyddion a gwybodaeth gyffredinol | intouch | www.wwha.co.uk | 09
Gardd gymunedol newydd
yn Sylvester Court
Mae preswylwyr cynllun er ymddeol Sylvester Court yn Wrecsam yn dathlu ar ôl i’w gardd gymunedol newydd gael ei hagor ddiwedd Tachwedd. Y Cynghorydd David Griffiths, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol Oedolion, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, a gafodd y fraint o dorri’r rhuban i agor y gerddi newydd yn y cynllun poblogaidd ar Monger Road. Dywedodd Vy Cochran, Swyddog Prosiect Datblygu Cymunedau WWH: “Mae’r prosiect hwn, dan arweiniad y preswylwyr, wedi trawsffurfio safle a dyfodd yn wyllt yn hafan dawel, a helpodd partneriaid y prosiect i godi dros £2,800 yn ystod y deuddeg mis diwethaf er mwyn cyflawni’r gwaith hwn.” Mae’r nodweddion allweddol yn cynnwys: • gwelyau plannu wedi’u codi, sydd o fewn cyrraedd defnyddwyr cadeiriau olwyn • tŷ gwydr a sied, wedi’u cyfrannu gan breswylwyr lleol • lleiniau penodol i dyfu ffrwythau, llysiau, salad a blodau ar gyfer Clwb Cinio Sylvester Court, a • pa o gyda dodrefn gardd, lle gall y preswylwyr eistedd a myfyrio ar eu cyflawniadau.
Ychwanegodd Vy: “Ni fyddai’r prosiect hwn wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth gan nifer o sefydliadau.” Mae’r rhain yn cynnwys: • Cymunedau yn Gyntaf Hightown • Age Concern Gogledd Ddwyrain Cymru • Cadwch Gymru’n Daclus • Gwirfoddolwyr Ymddiriedolaeth Brawf Cymru • Cyngor Cymuned Offa • Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam • Tai Wales & West
“Mae eu cefnogaeth wedi ein galluogi i brynu’r offer a’r deunyddiau sydd eu hangen i wneud y prosiect hwn yn llwyddiant,”
meddai Val Groves, Cadeirydd grŵp garddio Preswylwyr Sylvester Court. Ewch i dudalennau 10 ac 11, a 26 a 27 am ragor o newyddion ynghylch gerddi cymunedol ledled Cymru.
Yn y llun uchod, gwelir y Cynghorydd David Griffiths yn torri’r rhuban i agor Gerddi Cymunedol Sylvester Court.
10 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a gwybodaeth gyffredinol
Tyfu gyda’n gilydd gyda Gardd Gymunedol Llaneirwg
Mae preswylwyr Llaneirwg yng Nghaerdydd yn gweithio gyda WWH i drawsffurfio llain o dir a dyfodd yn wyllt yn ardd gymunedol ffyniannus. Dyma Chris Walton, Rheolwr Tai ardal Caerdydd, yn egluro sut dechreuodd y cyfan… Dywedodd nifer o breswylwyr wrthym y bydden nhw’n hoffi gardd gymunedol yn Llaneirwg, felly daethom o hyd i lain addas ar Newent Road – rhan o ardd fwy o faint na allai’r preswyliwr presennol ei rheoli erbyn hyn.
Hammond, y grŵp i ymgeisio am yr arian hwn, a fydd yn helpu i dalu am: • Fylbiau, hadau blodau gwyllt a lafant i ddenu gwenyn a gloÿnnod byw • coed i wneud blychau adar ac ystlumod • offer llaw, menig a chompost.
Ym mis Medi 2012, daeth preswylwyr a staff Compact Llaneirwg (WWH, Hafod a Thai Linc) i weld yr ardd wag, a thros baned o goffi mewn canolfan arddio leol, dechreuodd y syniadau lifo.
Roedd y grŵp hwn yn un o sawl set o arddwyr brwd ledled Cymru a lwyddodd i ymgeisio am gyllid gan Cadwch Gymru’n Daclus. Gweler tudalennau 26 a 27 am ragor o wybodaeth.
Diwrnod clirio
A’r tamaid nesaf o newydd da yw bod rhagor o gyllid wedi cael ei bennu gan dri landlord Compact Llaneirwg, sydd wedi cyfrannu hyd at £500 yr un tuag at ddatblygu’r Ardd.
Penderfynodd y preswylwyr ein bod ni angen clirio’r ardd cyn i ni allu dechrau cynllunio. Felly, un diwrnod hyfryd o hydref ddiwedd Medi, cliriodd ein garddwyr gwirfoddol o Laneirwg yr holl chwyn a gwreiddiau dwfn o’r safle, paen o’r ffens a gosod llwybr newydd drwy ganol yr ardd.
Cael grant “Penwythnos gwyllt yng Nghymru” Cadwch Gymru’n Daclus Mae’r grŵp wedi cael grant o £200 yn barod gan Cadwch Gymru’n Daclus i annog bywyd gwyllt i fyw yn yr ardd. Helpodd Swyddog Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr WWH, Claire
Tudalen Facebook
Mae’r grŵp wedi sefydlu tudalen Facebook hefyd i helpu’r gymuned i gael clywed y diweddaraf a chadw mewn cysyll ad. Os ydych chi’n defnyddio Facebook, ewch i: www.facebook.com/StMellons CommunityGarden Bydd y grŵp yn defnyddio’r dudalen hon i rannu gwybodaeth, gan gynnwys:
Elusennau | intouch | www.wwha.co.uk | 11 • Sut bydd yr ardd yn edrych / yn cael ei defnyddio gan y gymuned (gweler cynllun yr ardd gymunedol, a lwythwyd i fyny yn ddiweddar) • cyfarpar/planhigion/hadau y gallwch eu rhannu • unrhyw syniad neu sgil y gallwch eu rhannu gyda’r grŵp. Felly, dywedwch wrthym beth yw eich barn am gynllun yr ardd, a rhannwch unrhyw syniad sydd gennych.
Beth nesaf?
Mae Swyddog yr Amgylchedd a Chynaladwyedd WWH, Owen Jones, wedi cael coed ffrwythau cynhenid i Gymru a ddylai ffynnu yn yr amgylchedd hwn, ynghyd â darparu digon o ffrwythau ffres, cartref i bobl leol flwyddyn nesaf! Yn barod, rydym wedi plannu tair coeden afalau, gydag un o’r preswylwyr, Glenys Vandervolk (isod) yn cael yr anrhydedd
o blannu’r goeden gyntaf. Y cam nesaf yw plannu coed ceirios, eirin a gellyg fel y bydd gennym gnwd gwych unwaith y byddan nhw wedi sefydlu. Bydd y gwelyau wedi’u codi yn cael eu hadeiladu dros y gaeaf fel y gallwn ddechrau plannu ffrwythau, llysiau a pherlysiau yn y gwanwyn. Rydym hefyd yn cynllunio man i blant, fel y gall preswylwyr iau Llaneirwg gael rhan o’r ardd gymunedol iddyn nhw eu hunain.
Os cawsoch eich ysbrydoli, ac yr hoffech gymryd rhan ym mhrosiect Gardd Gymunedol Llaneirwg, neu os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â mi, Chris Walton, y Rheolwr Tai, yn Tai Wales & West ar 0800 052 2526.
Yn y llun ar y dde, staff a phreswylwyr WWH, yn cynnwys Chris Walton (ar y chwith eithaf) yn dechrau gweithio ar Ardd Gymunedol Llaneirwg yng Nghaerdydd
12 | www.wwha.co.uk | intouch | Elusennau
Tîm elusennau WWH: Suzanne Round, Di Barnes, Charmaine Deen a Leah Jenkins
Ymdrech wirioneddol arwrol Ew – £24,523.66! Ie, dyna faint rydym wedi ei godi ar gyfer yr elusen dros filwyr a glwyfwyd, Help for Heroes. Mae hi wedi bod yn ddwy flynedd wych, gyda phawb a gymerodd ran yn codi arian ar gyfer elusen mor deilwng. Mae staff, preswylwyr WWH, ffrindiau a theuluoedd wedi trefnu dwsinau o ddigwyddiadau rhyfeddol, o foreau coffi, diwrnodau gwisgoedd anffurfiol, rafflau a phar on Nadolig i rai aelodau o staff yn ychwanegu’r ceiniogau o’u cyflogau misol at gronfa Help for Heroes. Yn wir, mae’r rhestr yn ddiddiwedd.
Os hoffech gymryd rhan mewn gweithgareddau codi arian o unrhyw fath, cysylltwch â’n m elusennol, Di Barnes, Charmaine Deen, Leah Jenkins a Suzanne Round, a fydd yn falch o’ch helpu chi. Naill ai ffoniwch 0800 052 2526, neu e-bos wch contactus@wwha.co.uk
Y cyfanswm rydym yn ei roi tuag at yr elusen wych hon yw £24,523.66. Gan edrych tua’r dyfodol, rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi mai Cymdeithas Strôc Cymru a ddewiswyd fel elusen enwebedig WWH ar gyfer 2013 - 2014.
Wyddech chi? Er 2005, mae staff, preswylwyr a Bwrdd WWH wedi codi dros £106,000 i ddwsinau o elusennau.
Elusennau | intouch | www.wwha.co.uk | 13
Cefnogi eich banc bwyd lleol Wyddech chi? • Yn ôl elusen Ymddiriedolaeth Trussell, mae 13 miliwn o bobl yn awr yn byw dan y llinell dlodi yn y Deyrnas Unedig. • Bob dydd, mae pobl yn y Deyrnas Un edig yn llwgu am resymau sy’n amrywio o ddiswyddiadau i gael bil annisgwyl ar incwm isel. • Yn 2011-12, bwydodd banciau bwyd 128,687 o bobl ledled y wlad, 100% yn fwy na’r flwyddyn flaenorol. • Mae banciau bwyd yn darparu lleiafswm o dri diwrnod o fwyd mewn argyfwng a chefnogaeth i bobl sy’n profi caledi yn y Deyrnas Unedig.
Yn awr, mae WWH yn cefnogi gwaith hanfodol banciau bwyd gyda’n mannau casglu ein hunain yn: • Y Brif Swyddfa • Swyddfa’r Fflint • Hanover Court, y Barri • Tŷ Ponthrun, Merthyr Tudful • Cwrt Anghorfa, Pen-y-bont ar Ogwr Croesewir cyfraniadau o fwydydd tun, a phethau nad ydyn nhw’n pydru, gan staff a phreswylwyr unrhyw dro. Am ragor o fanylion, ewch i www.trusselltrust.org./ foodbank-projects
Yn y llun uchod: Herman Valen n, Swyddog Prosiect Datblygu Cymunedau, gydag Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWH, Ian Purcell o Fanc Bwyd Caerdydd a Tony Graham o Ymddiriedolaeth Trussell.
14 | www.wwha.co.uk | intouch | Elusennau
Ydych chi’n cofio
Mis Tash-wedd?!?
Fe wnaeth sawl aelod o staff WWH, gan gynnwys Michael Barker (yn y llun uchod), Tom Griffiths a Nigel Canterbury helpu i godi dros £150 yn ystod ‘Mis Tash-wedd’ – mis Tachwedd gyda mwstas! Bydd yr holl arian a gasglwyd yn mynd tuag at yr elusen sy’n mynd i’r afael yn benodol â chanser y brostad. Fe ddechreuodd pawb ag wynebau wedi’u
Opera on
Christmas Child Llawer o ddiolch i Gyfrifydd Ariannol WWH, Louise Carpanini a’i thîm o helpwyr, ynghyd â’r rhai a gyfrannodd at y cynllun hwn, oherwydd gyda’i gilydd, fe wnaethon nhw sicrhau bod 103 bocs yn llawn anrhegion ar eu ffordd i Belarus, un o wledydd tlotaf a lleiaf datblygedig Ewrop.
Fe wnaeth yr anrhegion Nadolig hyn, gan gynnwys teganau, beiros, pensiliau a nwyddau ymolchi, he au gwlân a menig, helpu i ddod â gwên i wynebau rhai o blant tlotaf yr Undeb Ewropeaidd yn ystod cyfnod y Nadolig.
heillio ar 1 Tachwedd, ac yna ar hyd y mis fe wnaethon nhw dyfu mwstashis gwych. Da iawn i bawb a gymerodd ran!
Cynnal a chadw wedi’i gynllunio | intouch | www.wwha.co.uk | 15
“Rydw i wedi gwirioni gyda
fy ngwres canolog newydd” Yn ddiweddar, fe wnaethom osod gwresogyddion canolog nwy yn lle gwresogyddion storio dros nos yng nghartrefi pob un o 32 preswyliwr Doyle Court, y Tyllgoed, Caerdydd. Dywedodd Mrs Lillian Jacobs (yn y llun ar y dde), sydd wedi byw mewn fflat un ystafell wely yn Doyle Court er 2007, “Rwyf wrth fy modd gyda’m gwres canolog. “Mae’n wych, yn hawdd ei reoli gyda’r thermostat, ac mae’r gwres a’r dŵr poeth yn dod yn ddiymdroi. Mae’r bwyler ie hunan mor dawel ac wedi ffi o mor hawdd yn fy nghwpwrdd yn y gegin. Roedd y gweithwyr yn hyfryd a chwrtais, ac ni wnaethon nhw unrhyw lanast, gan gytuno ag unrhyw newid oeddwn i ei eisiau, fel rhoi rheiddiadur mewn lle penodol. Yn ogystal, fe wnaethon nhw ddweud wrthyf sut i’w ddefnyddio, a gadael gwybodaeth ddefnyddiol i mi. “Roedd y gwresogyddion storio dros nos, y daeth y bwyler nwy yn eu lle, yn drwsgl a hyll, ynghyd â bod yn anodd eu defnyddio, ac roedden nhw’n cymryd llawer o le. ” Cynhaliodd y contractwr PH Jones/Nwy Prydain y newid tanwydd, yn dilyn gosod cegin newydd gan GKR Maintenance. “Ar ben cael gwresogydd newydd, mae gen i gegin newydd hefyd, a gafodd ei
gosod rhyw bum mis yn ôl, ac rydw i’n teimlo fel plentyn wedi cael lolipop. “Rydw i wrth fy modd gyda’m fflat. Dyna beth rydw i’n ei hoffi ynghylch WWH, mae ganddyn nhw bobl gwrtais iawn yn gweithio iddyn nhw.” Rydym wedi cynnal 260 tasg newid tanwydd o drydan i nwy, mewn cartrefi ledled Cymru. Dywedodd Rheolwr Cynllun Doyle Court, Nigel Canterbury “Mae gwres canolog nwy gymaint gwell a glanach, mae modd ei reoli’n llwyr ac mae’n ymateb i anghenion y ffla au unigol. Roedd y gwresogyddion storio dros nos yn ferwedig drwy’r nos, a oedd yn sychu’r aer, ac roedden nhw’n oeri tua 5pm ar y rhan fwyaf o ddyddiau, felly roedd angen ategu’r gwres ar adegau. Mae’r bwyleri newydd hyn gymaint yn well.”
16 | www.wwha.co.uk | intouch | Cynnal a chadw wedi’i gynllunio
So do I really need to have my gas boiler serviced every year?
Yr ateb i’r cwes wn hwn yw OES! Fel eich landlord, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i sicrhau fod y bwyler nwy yn eich cartref yn cael ei wasanaethu bob blwyddyn, fel yr ysgrifenna’r Rheolwr Masnachol, Mike Wellock. Pam? I sicrhau ei fod yn gweithio’n iawn, nad yw’n gollwng nwyon carbon monocsid a allai fod yn farwol, ac nad yw eich iechyd a’ch lles mewn perygl. Mae carbon monocsid yn nwy hynod beryglus sy’n cael ei ollwng pan fydd tanwydd, gan gynnwys nwy, yn cael ei losgi pan nad yw eich cyfarpar gwresogi yn gweithio’n briodol, pan nad yw’r simnai yn glir neu pan nad yw’r ystafell wedi cael ei hawyru’n iawn. Bryd hynny, gall carbon monocsid gronni’n gyflym a mygu’r rhai sydd wrth law. Mae’r mwyafrif o’n preswylwyr yn deall ac yn gwerthfawrogi’r angen am y gwasanaeth blynyddol hwn, ac yn gweithio gyda ni i sicrhau fod modd i’r gwaith gael ei gynnal. Er hynny, yn anffodus mae ambell un sydd ddim yn meddwl bod y gwasanaeth blynyddol hwn yn angenrheidiol, ac nad ydyn nhw’n caniatáu i’r contractwyr ddod i’w cartref, sy’n golygu fod eu bwyler yn parhau heb ei brofi. Wyddech chi, fod tua 50 o bobl ar gyfartaledd yn marw o wenwyn carbon monocsid bob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig, a bod 200 yn cael niwed difrifol, a 4000 yn rhagor yn cael eu heffeithio bob blwyddyn, gan wynebu’r posibilrwydd o effeithiau hirdymor ar eu hiechyd?
Mae gwasanaethu bwyler yn broses sydyn a glân, felly helpwch ni i sicrhau nad ydych chi a’ch teulu yn dod yn rhan o’r ystadegau. Mae’n hawdd trefnu apwyn ad. Bydd ein contractwr PH Jones yn cysylltu â chi pan fydd eich bwyler angen gwasanaeth, a’r cyfan y mae’n rhaid i chi ei wneud ydi cytuno ar amser sy’n gyfleus i chi iddyn nhw gael dod i’ch cartref. Unwaith y byddan nhw wedi bod, fe fyddwch chi nid yn unig yn gwybod bod eich cartref yn ddiogel, ond fe gewch chi hefyd eich cynnwys yn ein raffl am un o ddwy wobr o £250 sydd ar gael bob tri mis. Yn achos y rhai sy’n gwrthod rhoi caniatâd i ni fynd i’w cartref i wasanaethu’r bwyler, efallai na fydd y canlyniadau mor llawen. Ar y gwaethaf, gallai arwain at farwolaeth neu niwed difrifol, ac ar y gorau bydd yn sicr o arwain at wŷs i fynd i’r llys, gorfod talu £150 tuag at gostau’r llys a gorfodi mynediad i’ch cartrefi, i wneud tasg y gallech chi fod wedi ennill siec am £250 am adael i ni ei gwneud.
Sicrhewch fod eich bwyler yn cael ei wasanaethu bob blwyddyn - rydych yn gwybod fod hynny’n gwneud synnwyr.
Cynnal a chadw wedi’i gynllunio | intouch | www.wwha.co.uk | 17
Cynnal a chadw wedi’i gynllunio, gwanwyn 2013 Ceginau Twyncarmel, Merthyr Tudful Victoria Road, y Rhyl Ystafelloedd ymolchi / Cawodydd dros faddonau Parhau â’r gwaith yn Spruce Close a Sapele Drive, East Tyndall Street, Caerdydd Cartrefi er ymddeol yn Hanover Court, y Barri Clos y Wern, Bracla, Pen-y-bont ar Ogwr Clos y Waun, Bracla, Pen-y-bont ar Ogwr
Cyfle i ennill £250 a bod yn
ENILLYDD ffodus Miss Kirsten Axon o Ben-y-bont ar Ogwr a Mr a Mrs Griffiths o Aberhonddu oedd enillwyr ffodus siec am £250, bocs o siocledi a thusw o flodau’r un. Yr unig beth oedd yn rhaid iddyn nhw ei wneud i fod yn gymwys ar gyfer y gystadleuaeth oedd sicrhau bod eu bwyler nwy yn cael ei wasanaethu ar eu hapwyn ad CYNTAF, neu roi o leiaf 48 awr o rybudd i ni ohirio’r ymweliad. Roedd Mr a Mrs Griffiths wedi synnu gymaint eu bod nhw wedi ennill, ac fe fyddan nhw’n rhoi’r arian i helpu eu mab hynaf, Joshua, sydd yn y brifysgol. Mae’n astudio i fod yn athro cynradd. Roedd Kirsten yn bwriadu rhoi’r arian tuag at anrhegion Nadolig. Mr a Mrs Griffiths gyda’u henillion (top) Miss Axon gyda’i phlant Shane a Madison (gyferbyn)
Ffenestri / Drysau St Catherines Court, Caerffili Newid tanwydd Hillbrook Court, Crughywel Cae Mawr, Llandudno
18 | www.wwha.co.uk | intouch | Crynodeb o’r flwyddyn - Ionawr i Ragfyr 2012
Beth sy’n bwysig i chi? Dyma ein trydydd rhifyn o’n herthygl nodwedd reolaidd ar berfformiad ym mhob agwedd ar ddarparu gwasanaethau. Y tro hwn rydym yn rhoi gwybod am ein perfformiad dros y 12 mis diwethaf. Fel bob amser, rydym yn gwerthfawrogi’n fawr cael clywed eich barn am y gwasanaethau rydym yn eu darparu, felly rydym bob amser yn croesawu eich sylwadau a’ch adborth.
Sylw ar ren
Yn y rhifyn hwn rydym wedi canolbwyn o ar ein gwasanaeth casglu rhen . Fel y byddwch yn ymwybodol, mae’r rhent rydym yn ei gasglu gan ein holl breswylwyr yn hanfodol i dalu am y gwasanaethau rydych eisiau i ni eu darparu. Mae’r rhain yn cynnwys gosod ac uwchraddio ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd, ffenestri a drysau newydd, gwasanaethau rheoli stadau a rheoli ymddygiad gwrthgymdeithasol. Felly, mae’n bwysig iawn i ni ein bod ni’n gwneud popeth allwn ni i’ch helpu chi i dalu eich rhent a rheoli eich arian yn effeithlon. Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o ddulliau talu, gan gynnwys y dewis didrafferth o dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol. Rydych wedi dweud wrthym yr hoffech chi ragor o ddewisiadau o ran dyddiadau talu, felly nawr rydym yn cynnig ystod ehangach o ddyddiadau.
i gynnig cefnogaeth wrth i amgylchiadau preswylwyr newid. Gallai hyn gynnwys dechrau gweithio, plant yn gadael cartref a newidiadau eraill yn y teulu. Gall pob un o’r rhain effeithio ar yr hawl i fudd-daliadau a faint mae angen i’n preswylwyr ei dalu. Gall ein swyddogion ddarparu cyngor i helpu i reoli’r newidiadau hyn. Yn ei hanfod, rydych wedi dweud wrthym mai’r pethau hyn sydd fwyaf pwysig i chi, a’ch bod chi eisiau gwybodaeth glir a manwl ar y materion a ganlyn: • Faint mae’n rhaid i mi ei dalu • Sut gallaf dalu – drwy ddulliau talu gwahanol ac ar adegau sy’n addas i mi • Sut gallaf ei fforddio • Sut gallaf gael mynediad at gyngor a chefnogaeth Rydym yn ceisio darparu ein gwasanaeth yn seiliedig ar yr hyn sy’n bwysig i chi.
Ydych chi’n cytuno â’r rhain? Ydyn ni’n canolbwyn o ar y pethau iawn yn eich barn chi?
Rydym yn cwrdd â phob darpar breswyliwr ac yn trafod cyllidebau eu teulu er mwyn rhoi syniad iddyn nhw beth fyddai cost byw yn un o’n cartrefi. Mae hyn yn rhoi’r wybodaeth gywir iddyn nhw i benderfynu a ydyn nhw eisiau derbyn tenan aeth gyda ni y gallan nhw ei fforddio a’i chynnal.
Os nad ydym, cofiwch ddweud wrthym beth yr hoffech i weld yma. Mae casglu rhent yn rhan ganolog o’n busnes, Rent felly rydym wedi rhoi cefnogaeth, hyfforddiant ac offer arbenigol i’n staff i’w helpu nhw i gynnig yr holl gefnogaeth rydych ei angen i reoli eich cyllidebau o ddydd i ddydd; talu eich biliau a’ch cyfeirio chi at sefydliadau partner eraill os byddwch angen cymorth arbenigol.
Drwy bob tenan aeth, mae ein swyddogion yn cadw mewn cysyll ad â phreswylwyr
Rydym yn ymwybodol o’r hinsawdd economaidd anodd iawn y mae pawb
Crynodeb o’r flwyddyn - Ionawr i Ragfyr 2012 | intouch | www.wwha.co.uk | 19 ohonom yn ei hwynebu, felly mae’n bwysig iawn ein bod ni’n gweithio gyda’n gilydd i roi’r holl gefnogaeth y gallwn ei roi i chi. Mae hyn, ynghyd â’r newidiadau i fudd-daliadau, gan gynnwys y ‘dreth ar ystafelloedd gwely’ fel y’i gelwir hi, yn golygu fod pawb ohonom yn wynebu dyfodol heriol dros y blynyddoedd nesaf. Serch hynny, rydym hefyd yn cydnabod nad yw pawb yn fodlon gweithio gyda ni i ddatrys
unrhyw faterion ynghylch rhent. Pan fydd hyn yn digwydd, byddwn yn cymryd camau i ddatrys pethau. Gall hyn arwain at lys yn rhoi gorchymyn troi allan, a’r preswylwyr yn colli eu cartref. Nid ydym eisiau troi pobl allan o’u cartrefi, ond efallai y bydd yn rhaid gwneud hynny fel dewis olaf os na fyddwch yn gweithio gyda ni i ddatrys ôl-ddyledion rhent.
Felly, sut rai ydym ni am gasglu rhent ac ym mhob agwedd arall ar y busnes? (Yr holl ffigyrau rhwng Ionawr a Rhagfyr 2012) Rydym wedi troi 18 preswyliwr allan o’u cartrefi
97.7% Rydym wedi casglu 97.7% o’r rhent sy’n ddyledus fan breswylwyr, sydd dros £37m
28% O’r rhain, mae ar 28% ohonyn nhw lai na £50
Rhent
18
33% 60%
Mae gan 33% o deuluoedd mewn tai rhent neu dai a reolir ôl-ddyledion - 3,133 o Mae 60% o deuluoedd tai breswylwyr rhent yn cadw at eu taliadau ac yn talu ôl-ddyledion
Er gwaetha’r amgylchedd economaidd heriol, mae staff wedi bod yn gweithio’n agos gyda phreswylwyr i’w helpu a’u cefnogi gyda’u taliadau rhent. Felly, mae’n wych gweld fod dros hanner y rhai sydd ag ôl-ddyledion yn gwneud taliadau ac yn gweithio i ostwng y dyledion hynny. Fel y nodwyd, nid ydym eisiau troi preswylwyr allan, ac rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gymorth, gan gynnwys atgyfeirio at y mudiad Cyngor Ariannol a sefydliadau perthnasol eraill. Serch hynny, fe wnawn ni droi preswylwyr allan os nad ydym yn gallu gweithio gyda nhw i ddatrys eu problemau.
20 | www.wwha.co.uk | intouch | Crynodeb o’r flwyddyn - Ionawr i Ragfyr 2012
98%
70%
158 o gartrefi’n weddill lle mae angen gwasanaethu’r offer nwy
Cydymffurfio â diogelwch nwy
Atgyweiriadau a gwblhawyd mewn un ymweliad Atgyweiriadau
9.5/
10
Bodlonrwydd preswylwyr
97% Atgyweiriadau llwyddiannus
18.5 Nifer cyfartalog y diwrnodau a gymerwyd i gwblhau atgyweiriad
Mae Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria wedi ehangu a chynyddu cwmpas ei waith yn ne a chanolbarth Cymru drwy gydol 2012. O’r mis hwn hefyd, mae Cambria yn darparu’r gwasanaethau cynnal a chadw yng Ngogledd Cymru. Yn dilyn adborth o arolygon bodlonrwydd amrywiol, rydym wedi arbrofi gyda’r ffordd rydym yn cyflawni atgyweiriadau adweithiol yn ne a chanolbarth Cymru, fel yn y mwyafrif o achosion, mae apwyn adau’n cael eu gwneud y tro cyntaf y bydd rhywun yn rhoi gwybod am yr angen am atgyweiriad. Yn erbyn y cefndir hwn, mae perfformiad drwy gydol 2012 wedi parhau’n gyson, ac mae sgoriau bodlonrwydd cwsmeriaid yn parhau’n uchel.
Crynodeb o’r flwyddyn - Ionawr i Ragfyr 2012 | intouch | www.wwha.co.uk | 21
478
1037/1079
wedi’u gwneud hyd yn hyn
96% wedi’u cwblhau hyd yn hyn
Gosod bwyleri newydd
Cynnal a chadw wedi’i gynllunio
592/601
250/253 99% wedi’u cwblhau hyd yn hyn
Gosod ffenestri newydd
Ystafelloedd ymolchi a gwblhawyd
99% wedi’u cwblhau hyd yn hyn
8.5/
Ceginau a gwblhawyd
10
Bodlonrwydd preswylwyr Mae rhaglen cynnal a chadw wedi’i gynllunio 2012 wedi cael ei chyflawni yn ôl y bwriad, gyda lefel uchel o fodlonrwydd ymysg preswylwyr yn gyson. Dim ond dau faes sydd wedi’u nodi fel rhai sydd angen eu gwella, sef addurno a chyfathrebu. Rydym yn dysgu yn sgil adborth, ac yn gweithio i sicrhau fod y materion hyn yn gwella. Roedd ein cwmni cynnal a chadw, Cambria, yn gyfrifol am osod nifer cynyddol o geginau ac ystafelloedd ymolchi, a bydd hyn yn parhau yn 2013.
22 | www.wwha.co.uk | intouch | Crynodeb o’r flwyddyn - Ionawr i Ragfyr 2012
Gosod ac adeiladu cartrefi
46 Nifer y tai newydd a adeiladwyd
9
Nifer y ffla au newydd a adeiladwyd
707 Rhoesom 707 o gartrefi ar osod
9.5/
10
Bodlonrwydd preswylwyr O blith y cyfanswm, cawsom 8 tŷ ac 1 fflat drwy ein cynllun achub morgeisi, lle gwnaethom helpu pobl gydag anawsterau ariannol i aros yn eu cartrefi eu hunain. Mae gennym raglen ddatblygu gref sy’n adeiladu cartrefi ledled Cymru, ac mae gennym nifer fawr o gynlluniau yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd. Rydym yn parhau i ailosod cartrefi ledled Cymru, ac mae galw mawr am ein cartrefi. Rydym yn gweithio’n agos gyda phartneriaid yn yr awdurdodau lleol sydd â rhestrau aros yng Nghaerdydd, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf, ac yn rhan o weithgorau ym Mhowys a gogledd Cymru sydd ar hyn o bryd yn datblygu llwybrau mynediad unigol at dai, gyda’r nod o’i gwneud yn haws i ymgeiswyr a phreswylwyr ymgeisio am dai drwy un modd.
127,472 Ffonau
203,347 75,875
Cyfanswm nifer y galwadau a atebwyd
Larwm mewn argyfwng
Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid / Larwm mewn argyfwng
98% Nifer y galwadau a atebwyd o fewn 30 eiliad
5
Hyd cyfartalog yr amser ateb - 5 eiliad
Crynodeb o’r flwyddyn - Ionawr i Ragfyr 2012 | intouch | www.wwha.co.uk | 23
778 Ymddygiad gwrthgymdeithasol (difrifol, gan gynnwys troseddol)
1436 Cymdogaethau sy’n gweithio
17 Nifer cyfartalog y dyddiau i archwilio - ASB
Digwyddiadau y cawsom wybod amdanyn nhw
10 Nifer cyfartalog y dyddiau i archwilio – rheoli ystadau
658 Materion rheoli ystadau sy’n effeithio ar denan aethau
7.8/
10
Bodlonrwydd preswylwyr
Mae nifer yr achosion rydym wedi delio â nhw yn 2012 wedi aros yn gyson gyda lefelau 2011, ond mae’r ffordd a’r cyflymder yr ydym wedi delio â nhw wedi gwella. Mae’r amser cyfartalog cyn i ni archwilio achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi gostwng o 22 diwrnod yn 2011 i 17 yn 2012, ac mae hyn wedi digwydd oherwydd ein bod wedi gweithio’n llawer agosach gyda phreswylwyr i ddatrys achosion a chymryd camau lle bo’r angen. Rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth o asiantaethau sy’n ceisio delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Yn aml rydym yn cydweithio â’r heddlu a thimau llygredd sŵn. Rydym hefyd yn atgyfeirio at Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol.
Felly, beth ydych chi’n ei feddwl am ein perfformiad? Os oes gennych chi sylwadau neu adborth ar unrhyw beth rydym wedi ei ddweud wrthych chi, cofiwch roi gwybod i ni. Gallwch gysylltu â ni ynghylch hyn neu unrhyw fater arall, unrhyw dro. Gellir rhoi adborth mewn amrywiaeth o ffyrdd – ar-lein drwy ein gwefan, e-bost, llythyr, ffôn, neges destun, neu wyneb yn wyneb ag aelod o staff yn ein swyddfeydd. • Rydym bob amser yn falch o glywed
gennych chi, pa un ai eisiau gofyn cwes wn ydych chi, dweud rhywbeth wrthym ni, awgrymu rhywbeth, canmol neu gwyno. • Mae’r adborth hwn yn ein helpu ni i wneud penderfyniadau ynghylch ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol a gwelliannau i’n gwasanaethau. Yn olaf, yn rhifyn nesaf In Touch, byddwn yn rhoi’r data diweddaraf i chi am ein perfformiad fel busnes yn ystod y cyfnod rhwng Ionawr a diwedd Mawrth 2013. Diolch!
24 | www.wwha.co.uk | intouch | Cyfranogiad preswylwyr
Mae eich barn yn gwella
ein gwasanaethau
Mae cyfranogiad preswylwyr yn golygu defnyddio eich sa wyn au i wella ein gwasanaethau a’ch cymuned. Llynedd, fe ddywedom wrthych am ein Strategaeth newydd ar Gyfranogiad Preswylwyr, sy’n amlinellu sut rydym yn gweithio yn unol â’n gwerthoedd i sicrhau fod ein gwasanaethau yn cwrdd â’ch anghenion, a sut gallwn gydweithio i wella lle’r ydych chi’n byw. Yn awr, rydym wedi diweddaru’r strategaeth yn dilyn adborth gan Lywodraeth y Cynulliad, gan gynnwys rhagor o fanylion ar y modd rydym yn adolygu cyfranogiad preswylwyr, sut mae’r strategaeth hon yn cysylltu â’n cynllun corfforaethol, a darparu canlyniadau cliriach.
Mae gan ein strategaeth nod newydd, hefyd, yr ydym yn teimlo ei bod yn adlewyrchu pam ein bod ni’n ymwneud â Chyfranogiad Preswylwyr. Y nod yw “cynnwys ein preswylwyr mewn gwella ein gwasanaethau a’u cymunedau, a chynyddu ein hatebolrwydd i’n preswylwyr.”
Rydym hefyd wedi diweddaru ein cynnydd dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys:
Fel bob amser, mae’r diweddariadau wedi cael eu cymeradwyo gan ein Grŵp Llywio Cyfranogiad Preswylwyr (RPSG) a’n Bwrdd Rheoli
• sut rydym yn bwriadu dweud wrthych chi am ein dull meddwl drwy systemau, a chynnwys preswylwyr yn well wrth i ni ail-ddylunio maes gwasanaeth. • ein dull newydd a symlach o ddelio â chwynion. • ein dull Cysylltu â ni a’n gwefan, lle gallwch rannu sylwadau gyda ni. • ein hadolygiad o Gynlluniau Gwella Ardaloedd, sy’n golygu bod penderfyniadau’n cael eu gwneud ar lefel leol, fel y gallwch weld sut rydym wedi gwella eich stad neu eich cynllun, yn seiliedig yn uniongyrchol ar yr hyn a ddywedoch. • sut rydym yn bwriadu cynnig adborth i chi ar ein cynnydd, beth rydych wedi dweud wrthym sy’n bwysig i chi a sut rydym wedi defnyddio eich sa wyn au i wneud gwelliannau.
I ddarllen y strategaeth lawn, ewch i: www.wwha.co.uk/Residents-Area/ Ge ng-Involved Neu, os nad ydych ar-lein eto, gallwn anfon copi papur atoch chi. Cysylltwch â ni drwy’r dulliau arferol: • 0800 052 2526 y Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid • Siaradwch gyda’ch Swyddog Tai • Anfonwch neges destun atom: 07788 310420 Claire Hammond Swyddog Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr
Cyfranogiad preswylwyr | intouch | www.wwha.co.uk | 25
Dysgu gan ein gilydd mewn cynadleddau cenedlaethol Fe wnaeth aelodau o’n Grŵp Llywio Cyfranogiad Preswylwyr (RPSG) fynd i ddwy gynhadledd a ddaeth â phreswylwyr a staff tai cymdeithasol ynghyd o bob rhan o Gymru. Cynhaliwyd cynhadledd flynyddol Tenan aid Cymru ym mis Medi yn Llandrindod, a chynhadledd flynyddol TPAS Cymru ym mis Tachwedd yng Nghaerdydd. Roedd y ddwy gynhadledd yn cynnwys nifer o weithdai ac anerchiadau gan siaradwyr gwadd, fel y gallai’r gynulleidfa ddysgu am y newyddion diweddaraf
Ydych chi’n ystyried prynu
eich cartref eich hun?
ynghylch cyfranogiad preswylwyr. Fel ein ffordd o gadw mewn cysyll ad â phobl am gyfranogiad preswylwyr, rydym yn teimlo ei bod yn bwysig i aelodau RPSG fynd i’r cynadleddau hyn i’w cadw nhw’n gyfredol. Y mae hefyd yn gyfle gwych iddyn nhw siarad gyda phreswylwyr landlordiaid cymdeithasol eraill a rhannu syniadau. Claire Hammond Swyddog Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr
Mae gennym dri chartref hyfryd newydd ar werth yn Llaneirwg, Caerdydd – am 70% o bris y farchnad yn unig. Fel arfer, byddai’r cartrefi 2 ystafell wely hyn, sy’n rhan o ddatblygiad newydd Wimpey ym Mharc Llaneirwg, yn cos o £119,000 - ond rydym wedi eu rhoi ar y farchnad am £83,300 yn unig dan ein cynllun ecwi a rennir. Fe fyddan nhw’n barod i’w perchnogion symud i mewn iddyn nhw o ddiwedd Mawrth ymlaen. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r dudalen perchnogaeth cartrefi cost isel ar ein gwefan www.wwha.co.uk, neu ffoniwch y rhif rhadffôn 0800 052 2526 a gofynnwch am gael siarad â’r m Dewisiadau Tai.
26 | www.wwha.co.uk | intouch | Cyfranogiad Preswylwyr
Penwythnosau gw
Fyddech chi’n hoffi annog rhagor o fyw Mae preswylwyr o chwe chynllun Tai Wales & West wedi cael cyllid grant i annog bioamrywiaeth leol, fel gwenyn, gloÿnnod byw, ystlumod ac adar i fyw yn eu gerddi cymunol. Daeth y cyllid drwy ymgyrch ‘Dathlwch Benwythnos Gwyllt Dros Gymru’ Cadwch Gymru’n Daclus, a gafodd ei gyllido gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Homebase. Cafodd preswylwyr (sydd yn y llun) o Ardd Gymunedol Llaneirwg, Wilfred Brook House a Caerau Po ers yng Nghaerdydd, Cwrt Pentwmpath, Wrecsam, Constan ne Court, y Rhondda a Western Court, Pen-y-bont ar Ogwr, hyd at £200 mewn talebau Homebase i brynu hadau blodau gwyllt, bylbiau a phlanhigion “Bee-happy” i ddenu gloÿnnod byw a gwenyn, ac offer llaw a choed i adeiladu blychau adar ac ystlumod. Bu ein Swyddog Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr, Claire Hammond; y Swyddog Prosiect Datblygu Cymunedau, Vy Cochran, a’r Rheolwyr Cynllun Julie Rowlands (Cwrt Pentwmpath), Maria Mulford (Constan ne Court) a Bill Ford (Wilfred Brook House) yn helpu preswylwyr i lenwi ac anfon eu ceisiadau am gyllid.
Grŵp Garddio Western Court, Pen-y-bont ar Ogwr
Dywedodd Cadwch Gymru’n Daclus wrthym eu bod nhw wedi cael nifer fawr iawn o geisiadau, felly fe wnaeth ein preswylwyr yn dda iawn i gael eu gran au. Nid oedd rhai o’n cynlluniau eraill a ymgeisiodd mor ffodus, ac rydym yn deall y gallai hyn fod wedi digwydd gan fod blaenoriaeth wedi cael ei roi i ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf. Os nad oedd eich grŵp yn llwyddiannus y tro hwn, neu os hoffech gynnal prosiect tebyg lle’r ydych chi’n byw, gallwn helpu gyda chyllid a chefnogaeth ymarferol. Gall ein Grant Amgylchedd helpu i dalu am brosiectau sy’n garedig i’r amgylchedd, a gall Owen Jones (Swyddog yr Amgylchedd a Chynaladwyedd) roi cyngor i chi ar beth fydd yn gweithio orau yn eich cynllun neu ar eich stad.
Cyfranogiad Preswylwyr | intouch | www.wwha.co.uk | 27
wyllt yng Nghymru!
wyd gwyllt i ddod i’ch gerddi cymunol?
Debbie Phillips a Stan Jones o Caerau Po ers, Caerdydd
Mae gennym ein grant Gwneud iddo Ddigwydd hefyd, sy’n helpu preswylwyr i ddod ynghyd a chymryd rhan mewn gweithgareddau lle’r ydych chi’n byw. Am ragor o wybodaeth ar y naill grant neu’r llall: • Siaradwch gyda’ch Swyddog Tai • ffoniwch 0800 05 2526 • e-bos wch owen.jones@wwha.co.uk am y grant Amgylchedd neu claire.hammond@wwha.co.uk am y grant Gwneud iddo Ddigwydd.
Peter Jones, Cwrt Pentwmpath, Wrecsam
28 | www.wwha.co.uk | intouch | Byw’n wyrdd
Gofalwch eich bod yn hawlio eich
Disgownt Cartrefi Cynnes
Ar gyfer gaeaf 2012 / 2013, fe allech chi gael disgownt o £130 ar eich bil trydan drwy’r Cynllun Disgownt Cartrefi Cynnes. Ni fydd y disgownt yn effeithio ar eich Taliad Tywydd Oer na’ch Taliad Tanwydd Gaeaf. Er hynny, ni all pawb gael y disgownt – mae’n rhaid i chi fod yn gymwys. Beth gewch chi Ar gyfer gaeaf 2012 i 2013, gallech gael gostyngiad o £130 ar eich bil trydan. Nid yw’r arian yn cael ei dalu i chi, gan ei fod yn ddisgownt untro ar eich bil trydan, fel arfer rhwng Hydref a Mawrth. Gall pobl sy’n defnyddio mesuryddion trydan talu ymlaen llaw neu dalu wrth fynd fod yn gymwys ar gyfer y disgownt, hefyd. Os ydych yn gymwys, gall eich cyflenwr trydan ddweud wrthych sut byddwch yn cael y disgownt, er enghrai , taleb y gallwch ei defnyddio i roi credyd yn eich mesurydd. Ydw i’n gymwys? Rydych chi’n gymwys ar gyfer y disgownt os oedd eich cyflenwr yn rhan o’r cynllun ar 21 Gorffennaf 2012, bod eich enw (neu enw eich partner) ar y bil a’ch bod chi naill ai: • yn 80 oed neu’n hŷn, ac yn cael yr elfen Credyd Gwarantedig o’r Credyd Pensiwn • dan 80 oed a dim ond yn cael yr elfen Credyd Gwarantedig o’r Credyd Pensiwn (ni fyddwch yn gymwys os ydych hefyd yn cael y Credyd Cynilion). Os ydych yn gymwys, fe gewch chi lythyr yn nodi un o’r canlynol: • y byddwch yn ei gael yn awtoma g • neu fod yn rhaid i chi ymgeisio am y disgownt erbyn 13 Mawrth 2013 - bydd y llythyr yn dweud wrthych chi pam a sut.
Caiff llythyrau eu hanfon rhwng Medi 2012 ac Ionawr 2013. Er hynny, os na fydd eich llythyr wedi cyrraedd erbyn Chwefror 2013, cysylltwch â Llinell Gymorth y Cynllun Disgownt Cartrefi Cynnes 0845 603 9439, o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am to 6pm. Os nad ydych yn gymwys Mae rhai cyflenwyr yn parhau i gynnig y disgownt i bobl fregus (e.e. y rhai ar incwm isel). Mae gan bob cyflenwr eu rheolau eu hunain ynghylch pwy sy’n gymwys ar gyfer y disgownt. Cyflenwyr ynni Mae’r rhain yn rhan o’r cynllun: • Atlan c • Nwy Prydain • EDF Energy • E.ON • Equipower (Ebico) • Equigas (Ebico) • Manweb – gweler Sco sh Power • M&S Energy • npower • Sainsbury’s Energy • Sco sh Gas - gweler Nwy Prydain • Sco sh Hydro • Sco sh Power • Southern Electric • SSE • SWALEC • U lity Warehouse
Datblygiadau diweddaraf | intouch | www.wwha.co.uk | 29
Rhagor o gartrefi newydd i Sir Ddinbych (o’r chwith i’r dde) Gareth Jarvis, Swyddog Datblygu, Tai Wales & West, Menai Baugh, pennaeth Ysgol Henllan, a Claire Sumner, Swyddog Tai WWH, gyda rhai o’r disgyblion, Jac Salusbury, 9 oed, Sophie Edwards, 9 oed, a Sco Parry-Jones, 9 oed (yn y blaen). Fe wnaeth y plant enwi ein chwe chartref newydd ar rent fforddiadwy ar Garn Road, Henllan, yr ydym wedi eu hadeiladu mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych. Symudodd y preswylwyr cyntaf i mewn mis diwethaf
Cartrefi fforddiadwy i Gonwy Drwy weithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, bydd ein datblygiad sy’n werth £1.6 miliwn yn Llys Bryniau yn darparu 12 cartref newydd o safon uchel – 8 tŷ tair ystafell wely a 4 tŷ dwy ystafell wely. Mae’r nodweddion ecogyfeillgar yn cynnwys bwyleri nwy hynod effeithlon, PV a chasgenni dŵr glaw, ac fe fyddan nhw’n cwrdd â Lefel 3 y Cod Cartrefi Cynaliadwy. Cyllidwyd y gwaith adeiladu’n rhannol gan Grant Tai Cymdeithasol o £900,000 gan Lywodraeth Cymru. Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWH: “Mae’r datblygiad hwn yn ganlyniad partneriaeth ragweithiol rhyngom ni a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ac rydym wrth ein bodd ein bod ni’n gallu helpu i roi sylw i’r angen am artrefi fforddiadwy o ansawdd da yn yr ardal hon. Bydd yn bleser croesawu ein preswylwyr newydd i’r cartrefi newydd hyn.”
Dywedodd y Cynghorydd Phil Edwards, Aelod Cabinet Cyngor Conwy dros Gymunedau: “Mae darparu tai fforddiadwy o ansawdd da i bobl sy’n byw yng Nghonwy yn flaenoriaeth fawr i’r Cyngor. Mae Llys Bryniau yn enghrai ragorol o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fyddwn yn cydweithio o ddifrif i gwrdd ag anghenion tai ein preswylwyr. Fe fydd y cartrefi hyn nid yn unig yn fforddiadwy i’w rhentu, ond fe fyddan nhw hefyd yn fforddiadwy i’w cynnal, diolch i’r nodweddion effeithlonrwydd ynni gwych. Rwy’n dymuno’r gorau un i’r preswylwyr newydd yn eu cartrefi newydd, ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda’n partneriaid i ddatblygu hyd yn oed mwy o gartrefi fforddiadwy yn y dyfodol.”
30 | www.wwha.co.uk | intouch | Newidiadau i fudd-daliadau
Cyllidebu’ Cynghorion doeth ar wneud y defnydd gorau o’ch arian O 1 Ebrill 2013, bydd newidiadau i Fudd-dal y Dreth Gyngor yn effeithio ar bob preswyliwr sydd ar hyn o bryd yn ei gael. Mae hyn yn golygu y bydd rhai pobl yn talu £150 yn fwy na’r hyn maen nhw’n ei dalu ar hyn o bryd bob blwyddyn. Bydd hyn, ynghyd â’r dreth ar ystafelloedd gwely, yn golygu y gallai rhai preswylwyr fod ar eu colled o tua £15 i £20 yr wythnos. Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y newidiadau hyn yn rhifynnau blaenorol In Touch ac ym Man Preswylwyr ein gwefan www.wwha.co.uk Yn y rhifyn hwn, rydym yn rhoi sylw i sut gallech chi arbed arian heb lawer o ymdrech er mwyn gwneud yn iawn am y diffygion ariannol hyn, a hynny heb ormod o newid i’ch ffordd o fyw gobeithio, er mwyn eich atal rhag mynd i ddyled.
Pe bai rhywun yn cynnig £500 i chi am ddiwrnod o waith ar gyfrifiadur neu’r ffôn, fyddech chi’n bachu’r cyfle? Ni fyddai’r rhan fwyaf ohonom yn meddwl ddwywaith am dderbyn y cynnig hwn. Ac eto nid yw nifer ohonom yn treulio awr neu ddwy, hyd yn oed, yn chwilio am ffyrdd o arbed arian i’n helpu ni i wneud y defnydd gorau o’n harian.
Y cam cyntaf yw cymryd rheolaeth o’ch arian. Mae gwybod beth rydych chi’n ei wario yn hanfodol i ddeall eich cyllid. Ysgrifennwch eich cyllideb, byddwch yn onest a sicrhewch eich bod chi’n ystyried yr holl bethau bach
Newidiadau i fudd-daliadau | intouch | www.wwha.co.uk | 31
’n well rydych yn eu prynu (tocynnau loteri, eich cinio yn y gwaith, eich hoff gylchgrawn ac a ) gan fod y cyfan yn cronni! Fe gewch chi ffurflenni cyllidebu manwl ar www.moneysavingexpert.co.uk, www.moneyadviceservice.org.uk neu cysylltwch â ni am gopi caled. Unwaith y byddwch wedi gorffen eich cyllideb, cymerwch olwg ar eich prif wariant (gwariant rheolaidd, rhent, ac
Debyd Uniongyrchol
Enillydd
a .). Yn y tabl ar dudalen 32 ceir rhai syniadau ar arbed arian, a gawsom gan breswylwyr a fu’n ystyried beth oedden nhw’n gwario llawer o’u harian. Drwy ddilyn yr holl gynghorion hyn, fe allech chi arbed miloedd o bunnoedd y flwyddyn, ond gallai gwneud un neu ddau, hyd yn oed, roi hwb o £10 yr wythnos i’ch incwm – sydd yr un peth â £500 braf bob blwyddyn.
£ £ £
Cyfle i ennill £100 drwy dalu eich rhent drwy Ddebyd Uniongyrchol.
Ms Sheila Pierce o Lys Bryn Eglwys, yr Wyddgrug, oedd enillydd ffodus y £100 yn ein cystadleuaeth Debyd Uniongyrchol yn y chwarter olaf. I fod yn gymwys i gymryd rhan yn y gystadleuaeth, y cyfan y mae gofyn i chi ei wneud yw talu eich rhent drwy Ddebyd Uniongyrchol. Mae mor hawdd â hynny,
ac mae’n hawdd iawn sefydlu’r taliadau. Cynhelir y gystadleuaeth nesaf yn gynnar ym mis Ebrill
Cysylltwch â’ch Swyddog Tai, a fydd yn eich helpu chi gydag unrhyw ymholiad a allai fod gennych, neu ffoniwch ein Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 0800 052 2526.
32 | www.wwha.co.uk | intouch | Materion ariannol
Torri eich costau Beth i’w wneud
Arbedion arferol
Taith wythnosol i’r archfarchnad. Osgowch wario mwy nag yr ydych ei angen ar eich siopa wythnosol. Cynlluniwch eich prydau, gwnewch restr siopa a phrynwch frandiau’r siop.Gall hyn arwain at arbedion sylweddol ar eich siopa wythnosol.
£5-10 yr wythnos - £250-£500 y flwyddyn wedi’i arbed
Adolygwch eich pecyn teledu. Ydych chi wir angen y sianelau teledu sydd gennych chi neu’r cyflymder band llydan rydych yn talu amdano? Ydych chi wedi bod yn talu’r biliau heb feddwl ers blynyddoedd? Gallai un alwad i’ch cyflenwr arbed hyd at 50% ar eich bil bob mis, gan arbed cannoedd o bunnoedd i chi’r flwyddyn.
£30 y mis - £360 y flwyddyn
Contract ffôn symudol. Ydych chi’n defnyddio’r 500 munud a’r 1000 neges destun rydych yn talu amdanyn nhw bob mis at hyn o bryd. Os nad ydych, siaradwch gyda’ch cyflenwr ynghylch gostwng eich tariff, neu os ydych chi ar ddiwedd eich contract, chwiliwch am y fargen orau, neu hyd yn oed yn well, ewch am y dewis talu wrth fynd.
£20 y mis - £240 y flwyddyn
Benthyciadau cost uchel. Ydych chi’n defnyddio benthycwyr carreg y drws neu’n talu am eitemau fel eich peiriant golchi neu eich oergell yn wythnosol? Mae talu am fenthyciadau neu gynnyrch fel hyn yn cos o cannoedd o bunnoedd yn rhagor. Cysylltwch â’ch Undeb Credyd lleol neu Moneyline Cymru i holi am gyfraddau mwy ffafriol.
£200 y flwyddyn ar fenthyciad o £500
Rhowch y gorau i smygu, neu lleihewch faint rydych yn ei smygu. Ac eithrio’r buddiannau i’ch iechyd chi a’ch teulu, mae smygu paced bob dydd yn cos o £50 yr wythnos ar gyfartaledd. Byddai hyd yn oed newid i dybaco yn gallu arbed £30 yr wythnos i chi.
30 yr wythnos - £1500 y flwyddyn
Cysylltwch â’ch cyflenwr ynni a newidiwch gwmni os na allan nhw roi gwell bargen i chi. Yn aml, bydd gan eich cyflenwr presennol dariff rhatach.
£3-£5 yr wythnos - £150 y flwyddyn
Gallai gwneud yr uchod arbed dros £50 yr wythnos i chi – mae hynny’n £2,500 y flwyddyn!
Materion ariannol | intouch | www.wwha.co.uk | 33 Gallwch ddarllen rhagor am y syniadau hyn, a darganfod hyd yn oed mwy o awgrymiadau i arbed arian, ar wefan www.moneysavingexpert. co.uk Gallwch gofrestru i gael neges e-bost wythnosol o’r wefan, yn llawn awgrymiadau defnyddiol. Wyddech chi fod dros 7 miliwn o bobl yn cael y negeseuon e-bost hyn ar hyn o bryd? Rhyngddyn nhw, maen nhw’n arbed miliynau o bunnoedd y flwyddyn, heb lawer o ymdrech.
Nawr eich bod chi ar eich ffordd i arbed pentwr o arian, mae’n bryd meddwl beth rydych yn mynd i’w wneud gyda’r incwm dros ben. Er mor ddeniadol yw’r syniad o brynu rhywbeth i chi eich hun ar unwaith, meddyliwch beth allech chi ei wneud â’r arian petaech chi’n ei gynilo bob mis. Gallai gwneud hynny olygu na fydd yn rhaid i chi fenthyg arian ar gyfer y Nadolig na phan fyddwch yn mynd ar wyliau – gall eich undeb credyd lleol neu eich banc roi gwybodaeth i chi am ei gyfrif cynilon. Ond beth os ydych chi wedi llenwi’r daflen gyllideb a gweld bod eich dyledion yn drech na chi? Peidiwch â digalonni. Nawr yw’r amser i reoli’r sefyllfa a cheisio cyngor ar ad-dalu eich dyledion mewn modd fforddiadwy. Nid oes angen talu cwmni am y cyngor hwn, gan fod nifer yn ei gynnig yn rhad ac
am ddim, gan gynnwys y rhain: Llinell genedlaethol dyledion 0808 808 4000 www.na onaldebtline.co.uk Stepchange 0800 138 1111 – rhadffôn, gan gynnwys o ffonau symudol. www.stepchange.org Ffoniwch neu ewch draw i’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol 08444 77 20 20. Mae galwadau’n cos o 5p y funud o linell ddaearol BT, a chostau o ffonau symudol yn amrywio. www.ci zensadvice.org.uk
Oes gennych chi unrhyw gyngor doeth arall am arbed arian? Ffoniwch neu e-bos wch Sarah Manners, y Rheolwr Cysyll adau Cyhoeddus a Marchnata ar sarah.manners@wwha.co.uk neu’r rhif rhadffôn 0800 052 2526. Fe gewch chi daleb Argos gwerth £10 am bob cyngor a gyhoeddir.
34 | www.wwha.co.uk | intouch | Arolwg bodlonrwydd preswylwyr
Arolwg bodlonrwydd
preswylwyr Ym mis Hydref a mis Tachwedd 2012 fe wnaethom gynnal ein harolwg bodlonrwydd preswylwyr blynyddol gan ddefnyddio cwmni annibynnol o’r enw ARP Research, fel yr ysgrifenna’r Dadansoddwr Data Corfforaethol, Gavin Jones. Yr arolwg hwn yw eich cyfle i ddweud wrthym beth rydych yn ei feddwl am ein gwasanaethau, a rhoi eich sa wyn au a’ch adborth ar amrywiaeth eang o wasanaethau. Mae’r arolwg hwn yn bwysig iawn i ni gan ein bod yn ei ddefnyddio i nodi’r camau y dylem eu cymryd i gwrdd ag anghenion ein preswylwyr, yn seiliedig ar yr hyn sy’n bwysig i chi.
Eleni, cawsom 774 o holiaduron wedi’u llenwi, sef 29% o’r rhai a anfonwyd (tua 2,700). Mae’r erthygl hon yn sôn am rai o brif ganlyniadau’r arolwg hwn. Roedd nifer o’r cwes ynau yn gofyn i’r ymatebwyr roi sgôr allan o 10 i ni, a oedd yna’n cael ei gyfuno â’r gweddill i roi sgôr gyfartalog i bob cwes wn. Rhoddodd yr holl gwes ynau eraill sgoriau canrannol allan o 100 i ni.
Rydym yn cynnal Arolwg Bodlonrwydd Preswylwyr bob blwyddyn, a phob tro rydym yn anfon holiaduron i draean ein preswylwyr, wedi’u dewis mewn ffordd sy’n gynrychioliadol o boblogaeth y preswylwyr gyda’i gilydd. Felly, os na chafodd eich cartref holiadur yn 2012 nac yn 2011, byddwch yn sicr o gael un yn 2013.
Bydd y tudalennau a ganlyn yn egluro rhai o brif ganfyddiadau’r arolwg, a byddwn yn defnyddio canlyniadau manylach pob cynllun i dargedu gwelliannau yn ein gwasanaethau ar lefel leol.
Gavin Jones
Arolwg bodlonrwydd preswylwyr | intouch | www.wwha.co.uk | 35 Bodlonrwydd cyffredinol Rydym yn falch o weld bod lefel bodlonrwydd cyffredinol ein preswylwyr gyda’r gwasanaethau maen nhw wedi ei dderbyn yn dal yn dda iawn – dywedodd 88% ohonoch eich bod chi’n fodlon, a dim ond 7% oedd yn anfodlon. Mae’r sgôr hwn yn uwch na’r hyn oedd yn ein harolwg blaenorol yn 2011 (86%). Mae ein cyfradd bodlonrwydd unwaith eto ychydig yn uwch na’r cyfartaledd ar gyfer darparwyr tai eraill yr ydym yn cymharu ein hunain â nhw.
Eich cartref Cafodd y ffiniau o gwmpas eich cartref sgôr dda o 7.38 allan o 10, sy’n dangos rhywfaint o welliant, er bod rhai ohonoch wedi crybwyll bod angen parhau i weithio yn y maes hwnnw. Mae nifer ohonoch yn fodlon â chost cynnal eich cartref (gan roi sgôr o 7.29 ar gyfartaledd), sy’n welliant sylweddol ar llynedd. Roedd sgoriau ar gyfer eich system wresogi yn debyg i 2011, er bod rhai ohonoch yn parhau i ddymuno i’ch systemau gael eu diweddaru, neu ein bod yn delio â dra iau.
36 | www.wwha.co.uk | intouch | Arolwg bodlonrwydd preswylwyr Eich cymdogaeth Bydd y gymdogaeth lle’r ydych chi’n byw bob amser yn effeithio ar ba mor fodlon ydych chi yn eich cartref. Er na allwn wella pethau ar ein pen ein hunain, mae’n dal yn bwysig i ni gael gwybod beth rydych chi’n ei feddwl am eich ardal leol, fel ein bod ni’n gallu gwneud beth bynnag allwn ni i’w wella.
Mae’r rhan fwyaf ohonoch yn hoffi’r ardal lle’r ydych yn byw (sgôr gyfartalog o 8.41) gyda chymdogion da, amgylchedd tawel a mynediad at fwynderau lleol yn cael eu nodi fel y thi phrif reswm eich bod yn hoffi byw lle’r ydych chi. Er hynny, dywedodd tua 1 o bob 10 ohonoch mai problemau gyda chymdogion oedd y prif reswm pam nad ydych yn hoffi byw lle’r ydych chi. Roedd tua chwarter ohonoch wedi profi ymddygiad gwrthgymdeithasol llynedd, gyda’r rhan fwyaf yn rhoi gwybod i ni am yr ymddygiad hwn (62%). Cawsom sgôr cyfartalog o 5.32 allan o 10 am sut gwnaethom ymdrin â’r ymddygiad, ac fe soniodd pobl am brofiadau tra gwahanol i’w gilydd – Rhoddodd 23% 1 allan o 10 yn unig i ni, ond rhoddodd 18% 10 allan o 10 i ni. Atgyweiriadau a chynnal a chadw Cafodd tua hanner ohonoch chi atgyweiriad llynedd, gyda’r grŵp hwn yn rhoi sgôr gyfartalog o 7.13 allan o 10 am y gwasanaeth a ddarparwyd. Y prif agweddau ar y gwasanaeth atgyweiriadau sy’n bwysig i chi yw bod y broblem yn cael ei hatgyweirio’n barhaol, a’n bod ni’n rhoi gwybod i chi beth sy’n digwydd drwy gydol y broses, gan gynnwys rhoi gwybod i chi pryd bydd yr atgyweiriad yn cael ei wneud. Cysylltu â ni The scores for the standard of customer service when making contact with us are generally good, so it was especially pleasing to see a significant improvement across the ra ngs on this topic. In par cular, more than half of you (52%) have given us a perfect score of 10 for the helpfulness of the staff (average overall score 8.65).
Arolwg bodlonrwydd preswylwyr | intouch | www.wwha.co.uk | 37 Cyfathrebu a gwybodaeth Roeddem yn falch o weld bod y mwyafrif llethol ohonoch yn teimlo ein bod ni’n dda am roi gwybod i chi am y pethau sy’n effeithio arnoch chi (83%), sy’n well na llynedd, ac yn gyson â’r sgoriau y mae cymdeithasau tai eraill yn eu cael.
Pan ofynnoch am wybodaeth, roedd tua 2 o bob 3 ohonoch yn cael beth oeddech chi ei eisiau (65%), ac roedd dros hanner ohonoch yn ei gael yn brydlon (54%). Y dull a ffafrir i dderbyn gwybodaeth gennym ni yw dogfennau papur drwy’r post, gydag 81% ohonoch yn nodi’r dull hwn. Byddai nifer cynyddol ohonoch yn dymuno i ni ddefnyddio e-bost fel ffordd o gael gwybodaeth (20%, cynnydd o’r lefel flaenorol, 13%) nawr bod rhagor ohonoch chi’n gallu defnyddio’r rhyngrwyd ar eich cyfrifiadur gartref neu ar ffôn symudol. Roedd hyn yn golygu bod tua 4 o bob 5 ohonoch yn teimlo ein bod yn rhoi digon o wybodaeth i chi er mwyn gallu barnu sut landlordiaid ydym ni. Cynnwys preswylwyr Roedd tua 2 o bob 3 ohonoch yn fodlon ein bod ni’n gwrando ar eich sa wyn au ac yn gweithredu’n briodol; er hynny, roedd 19% ohonoch yn anfodlon. Gan fod y sgôr bodlonrwydd cyffredinol wedi gostwng ychydig er 2011, bydd hwn yn faes y byddwn yn ei fonitro, a byddwn yn ymdrechu i’w wella yn ystod y flwyddyn hon.
Hoffem ddiolch i bawb ohonoch a roddoch o’ch amser i gymryd rhan yn yr arolwg hwn. Er bod y canlyniadau’n galonogol, y sylwadau a wnaethoch am sut gallwn wella pethau yw’r agwedd bwysicaf ar yr arolwg hwn bob amser. Fe wnawn ni ddefnyddio beth ddywedoch wrthym yn awr i ddatblygu ein gwasanaethau ymhellach.
38 | www.wwha.co.uk | intouch | Gwaith . sgiliau . profiad
Meithrin dyheadau
gyda’r cyfreithwyr Morgan Cole
Rydym wrth ein bodd ein bod ni’n ymuno â chwmni cyfreithwyr Morgan Cole unwaith eto eleni i ddarparu cyfle i ddau unigolyn ifanc uchelgeisiol i ymuno â’r cwmni cenedlaethol hwn o gyfreithwyr am wythnos o brofiad gwaith yn eu swyddfeydd yng nghanol dinas Caerdydd. Lansiodd Morgan Cole y cynllun llynedd, sydd wedi ei anelu at rai rhwng 15 ac 16 oed, nad oedd o bosibl wedi ystyried gyrfa ym myd y gyfraith o’r blaen. Mae hwn yn gyfle cyffrous, a fydd yn rhoi cyfle i ddau o breswylwyr ifanc WWH brofi sefyllfaoedd go iawn mewn cwmni o gyfreithwyr. Bydd staff yn Morgan Cole, o uwch bartneriaid i staff iau sydd newydd gymhwyso, yn rhoi o’u hamser i wneud y profiad yn werthfawr iawn. Pwy all ymgeisio? Os byddwch naill ai’n 15 neu’n 16 oed ym mis Gorffennaf 2013, ac yn byw yn un o’n cartrefi, gallwch ymgeisio. Pryd fydd hyn yn digwydd? Bydd y profiad, sy’n para am wythnos, yn cael ei gynnal yn ystod Gorffennaf 2013.
A oes unrhyw gostau ynghlwm? Rydym eisiau annog cymaint â phosibl o bobl ifanc i ymgeisio. Fe wnawn ni geisio rhoi cymorth â chostau teithio, a bydd eich ysgol yn gallu helpu gyda threfniadau lleoliadau gwaith. Diddordeb? Yna ewch ar-lein i’n gwefan wwha.co.uk i lwytho ffurflen gais i lawr. Llenwch hi i ddweud wrthym amdanoch eich hunan a pham eich bod yn meddwl y dylech gael y cyfle i gymryd rhan. Os nad oes gennych fynediad at gyfrifiadur gartref, siaradwch gyda’ch Ymgynghorydd Gyrfaoedd yn yr ysgol, a fydd yn barod i’ch helpu. Gallwch hefyd ein ffonio ni ar 0800 052 2526, anfon neges destun ar 07788 310420, a gofyn i ni bos o ffurflen gais atoch. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Mai 2013, felly mae gennych ddigon o amser i anfon eich ffurflen. Pob lwc! Byddwn yn gweithio gyda Morgan Cole i ddewis yr ymgeiswyr llwyddiannus ym mis Mehefin, a byddwn yn cysylltu â nhw’n unigol. Cadwch olwg am rifyn yr haf In Touch i weld pwy fyddan nhw.
Gwaith . sgiliau . profiad | intouch | www.wwha.co.uk | 39
Creu rhagor o gyfleoedd lleol,
targedu preswylwyr lleol Rydym wedi creu dwy swydd newydd o ganlyniad i’n datblygiad yn Hightown. Mae Grŵp Llywio yn helpu i oruchwylio’r cynlluniau, gydag aelodau o staff WWH, Cyngor Wrecsam, Cymunedau yn Gyntaf, cynghorwyr lleol a phreswylwyr. Rydym bob amser yn chwilio am aelodau newydd i ymuno â’r grŵp. Nid oes angen cymwysterau proffesiynol arnoch, ond mae’n bosib fod gennych sgiliau nad ydych yn sylweddoli y bydden nhw’n ddefnyddiol. Y cyfan rydych ei angen yw awydd o ddifrif i wella eich cymdogaeth. Gallech hefyd elwa ar brofiad a sgiliau newydd i wella eich cyfleoedd gwaith. Mae’r Grŵp Llywio hwn yn cyfarfod bob dydd Iau olaf yn y mis, ac rydym wedi creu swydd newydd i helpu i gefnogi’r grŵp hwn. Mae swydd newydd y Swyddog Cyswllt Cymunedol yn cael ei chefnogi dan gynllun Twf Swyddi Cymru ‘Go Wales’, menter gan Lywodraeth Cymru sydd wedi’i hanelu at raddedigion rhwng 16 a 24 oed nad ydyn nhw’n gweithio nac mewn addysg ar hyn o bryd. Mae disgwyl i’r ganolfan newydd agor yn ystod haf 2013, a chyllidir y swydd am 6 mis. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dechrau gweithio ar ddiwedd Ionawr 2013. Roeddem yn awyddus i bobl leol ymgeisio, ac fe
A chadwch olwg fanwl ar ein blog cymunedol www.hightownflats.com
wnaethom hysbysebu’r swydd ar ein gwefan, rhoi posteri yma ac acw, dosbarthu taflenni ac anfon neges destun at breswylwyr am y swydd hon. Cofiwch gadw golwg fanwl ar ein gwefan, oherwydd dyma’r fan lle’r ydym yn hysbysebu ein holl swyddi gwag. Creu cyfleoedd = creu swyddi Yn fuan iawn, byddwn yn hysbysebu ail swydd, sef Swyddog Cymorth Cyflogaeth a Hyfforddiant, i weithio gyda’r contractwyr sy’n un o’n partneriaid, Anwyl Construc on, am chwe mis – i’n helpu ni i nodi meysydd eraill lle gellid creu swyddi a chyfleoedd. Felly, os ydych chi wedi graddio, rhwng 16 a 24 oed, neu’n adnabod rhywun arall fyddai â diddordeb, trowch at ein gwefan am fanylion y swydd a sut i ymgeisio.
40 | www.wwha.co.uk | intouch | Byw’n iach
Pethau da yn lle Cynhelir Diwrnod Dim Smygu eleni ddydd Mercher 13 Mawrth 2013. Mae hwn yn ddigwyddiad cenedlaethol sy’n cael ei gynnal bob blwyddyn i gefnogi pobl sydd eisiau rhoi’r gorau i smygu, ac mae hefyd yn codi ymwybyddiaeth o’r peryglon iechyd sy’n gysyll edig ag smygu. Ydych chi’n smygu? Ac a ydych chi eisiau rhoi’r gorau iddi? Dyma eich cyfle i ddechrau cynllunio ar gyfer llwyddo nawr. Mae ymchwil wedi dangos fod nifer o bobl yn defnyddio’r Diwrnod Dim Smygu yn llwyddiannus fel targed i roi’r gorau i smygu. Eleni, mae Sefydliad Prydeinig y Galon (BHF) yn rhedeg ymgyrch ar Ddiwrnod Dim Smygu o’r enw ‘Pethau da yn lle baco’, gan fod ymchwil gan y BHF wedi canfod fod cost smygu yn ffactor fawr yn y penderfyniad i roi’r gorau i smygu. Am ragor o wybodaeth ynghylch Diwrnod Dim Smygu, ac ymgyrch ‘Pethau da yn lle baco’, ewch i: www.nosmokingday.org.uk Drwy roi’r gorau i smygu, byddwch yn: • arbed llawer o arian • bod yn llai tebygol o ddatblygu afiechyd cardio-anadlol a chanser fel canser yr ysgyfaint
• mwynhau cartref a char di-fwg • peidio â pheryglu ffrindiau a’r teulu drwy fwg ail law. Mae Dim Smygu Cymru yn cynnig cefnogaeth gyfeillgar, leol am ddim fan y GIG sy’n gweithio o ddifrif. Wyddech chi y byddwch chi 4 gwaith yn fwy tebygol o roi’r gorau iddi am byth drwy ddefnyddio rhaglen gymorth fel Dim Smygu Cymru? Fe wnaiff Dim Smygu Cymru eich helpu chi i gynllunio a pharatoi ar gyfer y dyddiad y byddwch yn rhoi’r gorau iddi, yn darparu cymorth a chyngor parhaus, ac yn bwysicaf, gyda chefnogaeth Dim Smygu Cymru ni rowch y gorau i geisio rhoi’r gorau iddi.
Felly, beth sy’n eich atal? Ffoniwch Dim Smygu Cymru am gefnogaeth am ddim yn eich ardal chi, ar 0800 085 2219 Rydym eisiau clywed eich hanesion ‘Pethau da yn lle baco’. Os ydych yn rhoi’r gorau iddi ac yn barod i rannu eich profiadau gyda ni, anfonwch e-bost at sarah.manners@wwha.co.uk neu ffoniwch hi ar 0800 052 2526. Fe gewch daleb Argos gwerth £10 am bob stori gaiff ei chyhoeddi.
baco!
Byw’n iach | intouch | www.wwha.co.uk | 41
Cynllun gofal ychwanegol a demen a yn yr Wyddgrug Mae ein cynllun gofal ychwanegol a demen a, sy’n werth £9.3 miliwn, yn yr Wyddgrug yn dod yn ei flaen yn dda, ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau yn ystod yr haf eleni. Bydd y cynllun, yr ydym yn ei ddatblygu mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint, yn darparu llety â chymorth o’r radd flaenaf i helpu pobl hŷn yn Sir y Fflint sydd ag anghenion gofal a chefnogaeth i fyw’n annibynnol cyn hired ag y gallan nhw. Bydd 61 rhandy yn y cynllun, a fydd yn cynnwys 15 rhandy wedi’u dylunio’n arbennig ar gyfer pobl â demen a, ynghyd â dau fyngalo dwy ystafell wely. Bydd staff gofal ar gael 24 awr y dydd i ddarparu gofal mewn argyfwng, neu mewn ymateb i gynlluniau gofal unigol. Bydd y rhandai ar gael i’w rhentu, neu i’w prynu, gan Tai Wales & West i’r bobl sy’n cwrdd â’r meini prawf cymhwyster. Am ragor o wybodaeth, ac i fynegi diddordeb: ffoniwch y rhif rhadffôn 0800 052 2526 Minicom 0800 052 2505 ysgrifennwch at: Tai Gofal Ychwanegol, Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid, Tai Wales & West, 3 Alexandra Gate, Tremorfa, Caerdydd CF24 2UD e-bost: contactus@wwha.co.uk www.wwha.co.uk
42 | www.wwha.co.uk | intouch | Byw’n iach
Beichiogrwydd a Dyma’r 5ed yn ein cyfres o erthyglau sy’n egluro Deddf Cydraddoldeb 2010 - yn y 4 rhifyn diwethaf, rydym wedi edrych ar oedran, anabledd, ailbennu rhywedd a phriodas a phartneriaethau sifil, fel yr ysgrifenna Claire Bryant, y Swyddog Polisi ac Amrywiaeth. Mae 9 ‘nodwedd wedi’u diogelu’ yn y Ddeddf, a nod yr erthyglau hyn yw dadansoddi’r materion cyfreithiol fel eu bod yn hawdd i bawb eu deall. Beth yw’r 9 nodwedd a ddiogelir? Oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, tueddfryd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, rhyw, ethnigrwydd, a chrefydd neu gred. Yn yr erthygl hon, rydym yn rhoi sylw i feichiogrwydd a mamolaeth. Mae beichiogrwydd a mamolaeth yn rhan sylfaenol o fywyd, ac yn sgil hynny mae’n gwbl synhwyrol bod y Ddeddf Cydraddoldeb yn cynnig amddiffyniad i’r 350,000 o ferched bob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig sy’n gweithio tra maen nhw’n feichiog. Mae cael baban fel arfer yn gyfnod cyffrous iawn i unrhyw gwpl, ond yn ôl y grŵp cynghori ac ymgyrchu, Maternity Ac on, mae tua 30,000 o ferched yn colli eu swyddi bob blwyddyn oherwydd gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd. Fe wnaeth gwaith ymchwil ganfod fod
tua hanner yr holl ferched beichiog yn y gweithle wedi profi rhyw fath o wahaniaethu ar sail beichiogrwydd. Brwydro yn erbyn y math hwn o wahaniaethu yw un o’r rhesymau pam mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn bodoli. Mae’n anghyfreithlon gwrthod ymgeisydd am swydd, neu wrthod cyfleoedd i weithiwr presennol gael hyfforddiant, trosglwyddiad, dyrchafiad neu fudd-daliadau eraill ar sail gwaith, oherwydd beichiogrwydd neu famolaeth, oni bai y byddai hynny’n ymyrryd ar reoliadau iechyd a diogelwch. Mewn sefyllfaoedd yn y gwaith, mae gan ddynes amddiffyniad ychwanegol yn ystod ei beichiogrwydd a’r cyfnod ar ôl y geni. (Mae mamolaeth yn cyfeirio at y cyfnod o 26 wythnos ar ôl y geni, sy’n adlewyrchu’r cyfnod absenoldeb mamolaeth arferol y mae gan y ddynes yr hawl i’w gymryd os ydyn nhw’n gyflogedig). Mae dynes sy’n bwydo ar y fron hefyd yn cael ei hamddiffyn rhag cael ei thrin yn anffafriol o ran darparu gwasanaethau, felly bydd cyflogwyr angen ystyried angen dynes i fwydo ar y fron yn ystod oriau gwaith, ac ni fydd
Byw’n iach | intouch | www.wwha.co.uk | 43
a mamolaeth lleoedd fel llyfrgelloedd, bwytai ac a yn cael gofyn i ddynes adael oherwydd ei bod yn bwydo ei baban. Amddiffyniad cyflogaeth i dadau Y mae hefyd yn anghyfreithlon trin tad yn anffafriol am resymau sy’n gysyll edig â beichiogrwydd ei bartner – er enghrai ,
os caiff ei ddisgyblu am fynegi pryderon iechyd a diogelwch ynghylch y modd mae ei wraig yn cael ei thrin yn yr un gweithle, neu os caiff ei ddiswyddo am gymryd amser o’r gwaith mewn argyfwng i ofalu am ei faban newydd. Yn y rhifyn nesaf, byddwn yn edrych ar hil.
Cefnogi gweithlu aeddfed Cymru Mae ein Bwrdd wedi cyfrannu £5,000 tuag at elusen Prime Cymru. Fe fydd hyn yn mynd tuag at helpu pobl dros 50 oed i fanteisio ar eu sgiliau a’u profiad. Ers ei sefydlu yn 2001 gan y Tywysog Siarl, mae Prime Cymru wedi helpu dros 2,700 o bobl i ddychwelyd i weithio, wedi cefnogi dros 6,000 o bobl y flwyddyn sy’n chwilio am waith, ac mae ganddi dros 300 o fentoriaid rheng flaen sy’n darparu cyngor a chefnogaeth wyneb yn wyneb. “Rwyf wrth fy modd yn derbyn y rhodd hael hon gan Tai Wales & West Housing tuag at weithgareddau Prime Cymru,” meddai David Pugh, y Prif Weithredwr. “Yng Nghymru mae gennym dros 200,000 o bobl rhwng 50 oed ac oedran pensiwn y wladwriaeth sy’n anweithredol yn economaidd ac sy’n wynebu tlodi yn ystod eu henoed ar ôl ymddeol.
Yn y llun: Y Prif Weithredwr Anne Hinchey, yn cyflwyno’r siec i David Pugh, Prif Weithredwr Prime Cymru, a Hayley Ridge-Evans, y Cyfarwyddwr Gweithrediadau
“Bydd y cyfraniad hwn yn ein galluogi i barhau i ddatblygu cefnogaeth arloesol a phwrpasol i gynorthwyo unigolion i newid eu bywydau drwy ddod yn weithgar yn economaidd, a’u galluogi nhw i gyfrannu at y cymunedau lle maen nhw’n byw.”
Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.prime-cymru.co.uk
44 | www.wwha.co.uk | intouch | Cymdogaethau sy’n gweithio
Cymdogaethau
sy’n gweithio
Yn rhifyn diwethaf In Touch, fe ddywedom wrthych ein bod ni’n newid sut rydym yn delio achwynion ynghylch niwsans. Yr erthygl hon yw ein hail mewn cyfres sy’n dweud wrthych beth rydym yn ei wneud, sut a pham, fel yr ysgrifenna Bridget Garrod, y Rheolwr Mentrau Cymdogaethau. Yn y rhifyn diwethaf, fe wnaethom egluro: • sut roeddem wedi gwrando arnoch chi i ddeall beth sy’n bwysig i chi pan rydych yn gwneud cwyn am rywun yn peri niwsans i chi neu i bobl eraill • ein bod ni’n peilota dull newydd yn seiliedig ar beth sy’n bwysig i chi, a deall ein rôl yn eich helpu chi. I weld a ydym yn gwneud y peth iawn wrth geisio cwrdd â’ch anghenion, rydym yn eich holi chi am eich profiad pan oeddem yn delio â’ch cwyn am niwsans. Rydym wedi bod yn brysur yn cysylltu â phreswylwyr sy’n byw yn ardaloedd peilot Caerau, Caerdydd a rhannau o Bowys, sydd wedi cwyno am niwsans, i weld pa mor fodlon ydyn nhw gyda’n dull newydd ni. Rydym yn gofyn cwes ynau i’r preswylwyr hynny yn seiliedig ar yr hyn maen nhw’n ei ddweud wrthym sy’n bwysig iddyn nhw. Os gwnawn ni hynny’n iawn, rydym yn gwybod y byddwn ar y trywydd iawn i ddylunio dull sy’n gweithio.
Ledled Cymru, rydym wedi gweld gostyngiad yn nifer y preswylwyr sy’n nodi cwynion am niwsans. Rydym yn gobeithio bod hyn yn golygu bod llai o ymddygiad sy’n peri niwsans. Ers i ni ddechrau treialu ein dull newydd ym mis Mehefin 2012, rydym wedi cofnodi 47 cwyn yn ein hardaloedd peilot. Rydym wedi ceisio cysylltu â phawb lle’r ydym wedi cymryd camau, a hyd yn hyn wedi siarad â 20 o’r 37 achwynwr i weld beth oedd eu barn ar y ffordd y gwnaethom ymateb i’w cwyn. Rydych eisiau:
“siarad gyda’r unigolyn priodol” Mae’n ymddangos ein bod ni’n gwneud hyn yn iawn, ond fe ddywedodd pedwar o bobl nad oeddem wedi gwneud hynny yn eu hachos nhw. Dywedodd rhywun ‘Roedd yn rhaid i’m merch ymyrryd i’r Swyddog Tai ddod atom’ ond eto dywedodd rhywun arall ei bod yn ‘hawdd cael gafael arnom.’ Gan fod Swyddogion Tai yn ateb yr alwad yn uniongyrchol, mae preswylwyr yn gallu siarad gyda’r unigolyn a fydd yn delio gyda’u cwyn.
Cymdogaethau sy’n gweithio | intouch | www.wwha.co.uk | 45 Rydych eisiau:
Rydych eisiau:
“cael ymateb cyflym”
“i ni atal y niwsans rhag digwydd eto”
Mae’n ymddangos ein bod ni’n gwneud hyn yn iawn. O’r 20 arolwg, dim ond tri oedd yn cynnwys sylwadau negyddol. Er enghrai , dyma un sylw: ‘Do, ar gyfer y gŵyn hon. Ond fe gymerodd y mater ynghylch parcio ychydig yn hirach iddo ei ddatrys.’
Mewn rhai achosion, roedd y niwsans wedi stopio, ond yn gyffredinol roedd preswylwyr yn gwybod gyda phwy y dylen nhw gysylltu petai’r niwsans yn dechrau eto. Pan ofynnwyd y cwes wn ‘ydych chi’n meddwl bod y niwsans wedi cael ei ddatrys’? dywedodd y mwyafrif o’r preswylwyr fod hynny wedi digwydd, ond mae’n ymddangos fod pryder sylfaenol y bydd y niwsans yn digwydd eto neu’n dechrau eto.
Rydych eisiau:
“i ni wneud y peth iawn i chi dan eich amgylchiadau” Mae’n ymddangos ein bod ni’n gwneud hyn yn iawn. Ni chafwyd sylwadau negyddol. Mae swyddogion yn defnyddio eu gwybodaeth a’u sgiliau i ddeall sut mae’r niwsans yn effeithio ar yr unigolyn sy’n gwneud y gŵyn, a chymryd y camau priodol. Rydych eisiau:
“cael gwybod am hynt eich cwyn wrth iddi gael ei harchwilio” Mae angen i ni weithio ar hyn o hyd, a deall sut y gallwn wella pethau. Mae pobl yn ymwybodol ein bod ni wedi cymryd rhywfaint o gamau, ond yn gyffredinol mae’n ymddangos eu bod nhw eisiau sgwrs yn dilyn hynny i gadarnhau beth sydd wedi cael ei wneud.
Ein gwaith:
“nodi’n glir beth allwn ni ei wneud i ddatrys y mater, neu beth allwn ei wneud er mwyn i chi allu goddef y sefyllfa’n haws”an do to make it more bearable” Mae’n ymddangos ein bod ni’n gwneud hyn yn iawn. Mae’r sylwadau a’r sgoriau cyffredinol allan o 10 yn awgrymu hynny. Felly, beth nesaf?
Rydych eisiau:
Rydym yn ymestyn y cynllun peilot i gynnwys rhagor o rannau o Gaerdydd. Ac fe wnawn ni barhau i geisio cysylltu â phob preswyliwr sy’n rhan o’r cynllun i weld beth yw oedd barn am y gwasanaeth y gwnaethom ei ddarparu.
“teimlo a bod yn ddiogel yn eich cartref a’r ardal lle’r ydych yn byw”
Cadwch olwg am ragor o ddiweddariadau yn rhifynnau nesaf In Touch.
Yn gyffredinol, mae pobl yn teimlo’n ddiogel, ac roedd y sylwadau ar y cyfan yn cyfeirio at hanes blaenorol o ddigwyddiadau.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith ail-ddylunio a sut rydym yn defnyddio sylwadau preswylwyr i lunio’r gwasanaeth newydd, cysylltwch â mi, Bridget Garrod, ar bridget.garrod@wwha.co.uk
46 | www.wwha.co.uk | intouch | Eich newyddion a’ch sa wyn au
a’r enillydd yw…
Enillydd cystadleuaeth ffotograff e-gerdyn Nadolig 2012 WWH oedd Jayne Orchard, Swyddog Gwasanaethau Cwsmeriaid ym Mhrif Swyddfa WWH. Diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran. Cawsom gynigion gwych, gan gynnwys y rhai gan: Jayne Styles, Cei Connah Zena Bundell, Pen-y-bont ar Ogwr Sian Evans, y Waun Ann Roberts, Llandrindod Freda Watkins, Pen-y-bont ar Ogwr M Arthurs, Pen-y-bont ar Ogwr Jane Morris, Prestatyn Graham White, Prestatyn Yveline Hands, Rheolwr Cynllun, Prestatyn Maria Mulford, Rheolwr Cynllun, Williamstown Fe wnaeth staff WWH ddefnyddio llun hyfryd Jayne o aeron gyda rhew drostyn
nhw yn pefrio yn yr haul fel e-gerdyn Nadolig y cwmni, ynghyd â phennill a ysgrifennwyd gan Gill Sanger, y Rheolwr Cyllid (Cyfrifon). Gan ein bod ni wedi arbed arian drwy beidio â phrynu cardiau traddodiadol, fe wnaethom gyfrannu £250 tuag at Help for Heroes yn lle hynny. Os ydych yn mwynhau tynnu lluniau, trowch at y tu mewn i glawr ôl y cylchgrawn hwn am ragor o wybodaeth am ein cystadleuaeth ffotograffau newydd, y byddwn yn ei chynnal yn rheolaidd. Fe allech ennill gwerth £100 o dalebau Argos drwy gymryd rhan.
Eich newyddion a’ch sa wyn au | intouch | www.wwha.co.uk | 47
Disgyblion Maes Hyfryd yn mwynhau plannu yn Ystad Goffa, y Fflint Brownies siriol Prestatyn yn dechrau’r dathliadau Nadolig Dechreuodd par Nadolig Nant y Môr gyda chanu carolau gyda 2il a 5ed cangen y Brownies ym Mhrestatyn, i gyfeiliant yr organydd Anthony Worrall. Fe wnaeth y preswylwyr a’r staff fwynhau bwffe ysblennydd gyda thŵr tair haen o deisennau bach yn ganolbwynt i’r cyfan, cyn i’r dawnsio ddechrau i gyfeiliant pibau.
Mae plant o Ysgol Maes Hyfryd, ysgol anghenion arbennig yn y Fflint, yn mwynhau prosiect garddio yng nghynllun er ymddeol Ystad Goffa yn y Fflint. Anfonodd y plant gerdyn Nadolig hyfryd wedi’i wneud â llaw, yn diolch i’r preswylwyr am eu cefnogi nhw gydau’r prosiect cymunedol. “Mae’n enghrai hyfryd o genedlaethau gwahanol yn cydweithio. Rydym wedi gweithio gyda’n gilydd ar brosiect yn y gorffennol, ac rwy’n gobeithio na wnawn ni byth golli’r cysyll ad arbennig rhyngom,” meddai Alison Moody, y Rheolwr Cynllun.
48 | www.wwha.co.uk | intouch | Eich newyddion a’ch sa wyn au
preswylwyr Cae Mawr
Dathliadau
Nadolig cynnar Ar 6 Rhagfyr, aeth deuddeg preswyliwr rhwng 50 a 90 oed o gynllun er ymddeol Cae Mawr i ginio Nadolig yng Ngwesty’r Queens yn Llandudno. Fe wnaeth un o’r preswylwyr, Mr M Pickwick, ddarparu’r drafnidiaeth i’r lleoliad ac yn ôl. Dyma’r ail ddigwyddiad cymdeithasol llwyddiannus yng Nghae Mawr yn ddiweddar, gyda nifer o breswylwyr hefyd yn mwynhau dathliad cymunedol cyn y Nadolig, a drefnwyd ar y cyd gan staff Cae Mawr, Grŵp Cymunedol Tudno Palace a Chartrefi Conwy.
Dim curo ar
Limebourne Court
yng nghystadleuaeth Caerdydd yn ei Blodau Mae cystadleuaeth Caerdydd yn ei Blodau wedi cael ei chynnal ers dros 25 o flynyddoedd, ac mae wedi bod yn hynod boblogaidd ar gyfer pob math o erddi. Yn 2012, Limebourne Court, yr Eglwys Newydd, Caerdydd a enillodd y wobr 1af yn y categori ‘Stryd neu ardal yn y ddinas â’r cynllun Gwarchod y Gymdogaeth gorau’. Dros y pymtheg mlynedd diwethaf, mae’r cynllun er ymddeol hwn wedi ennill naill ai’r wobr gyntaf neu’r ail wobr bob tro. “Mae’n anodd cael y gorau ar Limebourne Court, a bod yn onest. Maen nhw’n creu cryn argraff wrth i chi ddod rownd y gornel a gweld yr holl erddi. Nid y gerddi yn unig, ond yr holl gynhwysyddion a’r basgedi crog. Maen nhw’n gwneud cymaint, ac yn rhagori ar ymdrechion y flwyddyn flaenorol bob blwyddyn” meddai Ruth Mumford, Cydlynydd Caerdydd yn ei Blodau.
Ffotograff drwy ganiatâd caredig Caerdydd yn ei Blodau O’r chwith i’r dde, Mrs Carol Bayley (preswyliwr), Mrs Helen Smith, Beirniad Caerdydd yn ei Blodau, Mrs Georgia Mills (preswyliwr), Mrs Pat Lewis, o Gaerdydd yn ei Blodau, yn cyflwyno tlws y buddugwyr i Marilyn Berry, rheolwr Cynllun, Mr Anthony Constan ne (preswyliwr) yn y cefndir, gyda Ms Sheila Small (preswyliwr) ar y dde.
Eich newyddion a’ch sa wyn au | intouch | www.wwha.co.uk | 49
Preswylwyr
“Llawer o ddiolch i’r cogydd a’r staff gwych am ofalu mor dda amdanom” meddai’r rheolwr Cynllun Sandy Houdmont.
yn dathlu gyda’u ffrindiau a’u cymdogion
Yn ogystal, ar 13 Rhagfyr, fe wnaeth disgyblion o Ysgol Uwchradd Sant Teilo baratoi cinio bwffe i breswylwyr Oldwell Court ei fwynhau. Darparwyd cerddoriaeth hefyd, a chafodd pawb amser braf. Mae’r myfyrwyr wedi bod yn help mawr dros yr wythnosau diwethaf, a hoffem ddweud eu bod yn glod i’r ysgol.
Cwrt Pentwmpath Cwrt Pentwmpath re rement scheme in Llay, Wrexham celebrated their Christmas Get Together on 12th December. All WWH residents together with local friends and family joined in their fun, with entertainment from Steve Tempo who sang and played the guitar. They also enjoyed a day trip to Birmingham’s German Market.
Rhaid diolch yn fawr hefyd i diwtor y myfyrwyr, Sandra Roderick, am ei holl help.
Cinio Nadolig yn Western Court
Fe wnaeth preswylwyr cynllun er ymddeol Western Court ym Mhen-y-bont ar Ogwr fwynhau eu dathliadau, a thalwyd am y cyfan o’u cronfa garddio. Preswylwyr Cwrt Pentwmpath yn dathlu gyda’u ffrindiau a’u cymdogion.
Y tŷ’n llawn ar gyfer Nadolig Clwb y ‘Spring Chicken’ Fe wnaeth clwb y ‘Spring Chicken’ yn Oldwell Court, Caerdydd, fwynhau cinio Nadolig 3 chwrs yn y Nine Giants, Thornhill, Caerdydd ar 17 Rhagfyr. Fe wnaeth pryd hyfryd ac ambell wydraid o win beri i bawb fynd i hwyl yr ŵyl.
Preswylwyr cynllun er ymddeol Western Court ym Mhen-y-bont ar Ogwr
50 | www.wwha.co.uk | intouch | Pen-blwyddi a dathliadau celebrated her birthday on the 3rd December with a gathering of friends in the communal lounge. She is a keen Bingo player and loves to join in with the social events. Her family visits regularly and she loves to see them. Happy birthday, Gwladys! Y rhes flaen, o’r chwith i’r dde - Liz Hughes, Rheolwr y Ganolfan Ddydd, Cyngor Powys, Alec James, Carl Flowers, Cyngor Powys. Hefyd, yn y cefn, gwelir Rob Llewellyn, y Rheolwr Cynllun, gyda phreswylwyr a defnyddwyr y gwasanaeth.
Pen-blwydd hapus yn 100 oed, Alec Fe wnaeth Alec James, un o breswylwyr cynllun er ymddeol Maes y Ffynnon yng Nghrughywel, ddathlu mewn steil ddydd Llun, 26 Tachwedd, yng Ngwesty’r Manor, ynghyd â phedair cenhedlaeth o’i deulu. Ar y dydd Sul, cynhaliwyd par yn y cynllun, gyda thros 70 o ffrindiau, staff, gofalwyr a phreswylwyr. Mae Alec yn dad i bedwar, yn dad-cu i bedwar ac yn hen dad-cu i chwech o blant. Fe’i magwyd gyda phedair chwaer; fe wnaeth yr hynaf hefyd gyrraedd y 100fed pen-blwydd, ac mae wedi byw yn ardal Crughywel ers 77 mlynedd.
Vida yn dathlu ei phen-blwydd yn 102! Dathlodd Vida Price ei phen-blwydd yn 102 ar 19 Rhagfyr yn Ystad Goffa yn y Fflint. Cafodd ei hamgylchynu gan ffrindiau o’i heglwys a’r cynllun er ymddeol. Roedden nhw wedi darparu amrywiaeth o deisennau ynghyd â theisen ben-blwydd ryfeddol. Fe wnaeth pawb ganu pen-blwydd hapus, a gwnaeth Vida anerchiad bychan. Gellid clywed rhai’n llefain a chwerthin drwy’r cynllun cyfan. “Mae hi’n ddynes ryfeddol, ac mae’n fraint ei chael hi yn y cynllun. Pan rwy’n galw i’w gweld bob dydd ac yn gofyn iddi sut mae hi, mae hi bob amser yn ateb drwy ddweud ei bod hi’n “bwrw ymlaen gyda phethau” dywedodd Alison Moody, y Rheolwr Cynllun.
Gwladys, gynt o Fyddin y Tir yn 90 ifanc
Jean 83 years young
Gwladys Parry, resident at Ystad Goffa re rement scheme in Flint
Yn y llun, gwelir Jean Connolly yn dathlu yn ei phar pen-blwydd yn Western Court, Pen-y-bont ar Ogwr ar 20 Rhagfyr. Cyfarchion cynnes, Jean.
heini
Cystadleuaeth ffotograffau | intouch | www.wwha.co.uk | 51
Sut beth yw
Cyfeillgarwch yn eich golwg chi?
Byddwch yn barod i fod yn greadigol, gan ein bod yn chwilio am īŽƚŽŐƌĂīĂƵ ŐLJĚĂ͛ƌ t t īĂĐƚŽƌ yn ein cystadleuaeth ĐŚǁĂƌƚĞƌŽů ǁLJĐŚ ŶĞǁLJĚĚ ŝ ĂĚůĞǁLJƌĐŚƵ ďLJǁ Ă ŐǁĞŝƚŚŝŽ ŐLJĚĂ dĂŝ tĂůĞƐ Θ tĞƐƚ͘ ǁĐŚ ĂƟ ŝ ĚLJŶŶƵ ůůƵŶŝĂƵ͕ ĂĐ ĨĞ ĂůůĞĐŚ ĞŶŶŝůů άϭϬϬ Ž ĚĂůĞďĂƵ ƌŐŽƐ ĚƌǁLJ ĂŶĨŽŶ ĞŝĐŚ īŽƚŽŐƌĂīĂƵ Ăƌ ƚŚĞŵĂ ͚ĐLJĨĞŝůůŐĂƌǁĐŚ͛ ĂƚŽŵ͘ Eŝ ĐŚŽĚŝƌ ƚąů Ăŵ ŐLJŵƌLJĚ ƌŚĂŶ͕ ĂĐ ŵĂĞ͛ƌ ŐLJƐƚĂĚůĞƵĂĞƚŚ ŚŽŶ LJŶ ĂŐŽƌĞĚ ŝ ŚŽůů ďƌĞƐǁLJůǁLJƌ Ă ƐƚĂī tt, ůĞĚůĞĚ LJŵƌƵ͕ Ž ďŽď ŽĞĚƌĂŶ͘ ŶĨŽŶǁĐŚ ĞŝĐŚ ĐLJŶŝŐŝŽŶ ŶĂŝůů Ăŝ ĚƌǁLJ ĞͲďŽƐƚ ;īŽƌŵĂƚ :W ' ŽƐ ŐǁĞůǁĐŚ LJŶ ĚĚĂͿ Ăƚ͗ ŬĞƌŝ͘ũŽŶĞƐΛǁǁŚĂ͘ĐŽ͘ƵŬ dan y pennawd ‘Cyfeillgarwch’, eich enw, oedran, cyfeiriad a rhif īƀŶ͘ EĞƵ ŐĂůůǁĐŚ ĂŶĨŽŶ ĞŝĐŚ ůůƵŶŝĂƵ Ăƚ <Ğƌŝ :ŽŶĞƐ͕ dĂŝ tĂůĞƐ Θ tĞƐƚ LJĨ͕͘ ϯ ůĞdžĂŶĚƌĂ Gate, Ffordd Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2UD͘ ŽĮǁĐŚ ŐLJŶŶǁLJƐ ĂŵůĞŶ ą ƐƚĂŵƉ Ă ĐŚLJĨĞŝƌŝĂĚ ĂƌŶŝ ŽƐ ŚŽīĞĐŚ ŝ Ŷŝ ĂŶĨŽŶ LJ ůůƵŶŝĂƵ LJŶ ƀů ĂƚŽĐŚ͘
z ĚLJĚĚŝĂĚ ĐĂƵ Ăƌ ŐLJĨĞƌ ĐLJŶŝŐŝŽŶ LJǁ ĚLJĚĚ /ĂƵ Ϯϴ ŚǁĞĨƌŽƌ ϮϬϭϯ͕ Ă ďLJĚĚ WƌŝĨ Weithredwr WWH, Anne Hinchey, a Chadeirydd y ǁƌĚĚ͕ <ĂƚŚLJ ^ŵĂƌƚ͕ LJŶ dewis yr enillydd, a fydd yn ĞŶŶŝůů άϭϬϬ Ž ĚĂůĞďĂƵ ƌŐŽƐ͕ LJŶŐŚLJĚ ą ĐŚŽƉŝ Ž͛Ƶ ůůƵŶ ǁĞĚŝ͛ŝ īƌĂŵŝŽ͘ LJĚĚ LJ ůůƵŶ ďƵĚĚƵŐŽů LJŶ LJŵĚĚĂŶŐŽƐ LJŶ ƌŚŝĨLJŶ ŶĞƐĂĨ /Ŷ dŽƵĐŚ͕ Ă ďLJĚĚ ƉŽď ĐLJŶŶŝŐ LJŶ ĐĂĞů Ğŝ ĚĚĂŶŐŽƐ Ăƌ ĞŝŶ ŐǁĞĨĂŶ͘
ŶĨŽŶǁĐŚ ĞŝĐŚ īŽƚŽŐƌĂīĂƵ ĂƚŽŵ Ăŵ ŐLJŇĞ ŝ ĞŶŶŝůů͊
EŽĚǁĐŚ͕ ĚƌǁLJ ŐLJŵƌLJĚ ƌŚĂŶ LJŶ LJ ŐLJƐƚĂĚůĞƵĂĞƚŚ ŚŽŶ͕ ƌLJĚLJĐŚ LJŶ ĐLJƚƵŶŽ͛Ŷ ĂǁƚŽŵĂƟŐ LJ ŐĂůůĂŝ ƵŶƌŚLJǁ ůƵŶ Ă ĂŶĨŽŶǁĐŚ gael ei gynnwys er dibenion marchnata neu ŚLJƌǁLJĚĚŽ tt,͘
2HEFIN
ME
Bydd nifer ohonoch wedi cymryd rhan yn y ‘cinio mawr’ dros y blynyddoedd. Y nod yw cael cymaint â phosibl o bobl ledled y Deyrnas Unedig i gael cinio gyda’u cymdogion ƵŶǁĂŝƚŚ LJ ŇǁLJĚĚLJŶ ŵĞǁŶ ŐǁĞŝƚŚƌĞĚ ƐLJŵů Ž LJƐďƌLJĚ ĐLJŵƵŶĞĚŽů͕ ĐLJĨĞŝůůŐĂƌǁĐŚ Ă ŚǁLJů͘ Cynhelir y ‘cinio mawr͛ ĞůĞŶŝ ĚĚLJĚĚ ^Ƶů Ϯ DĞŚĞĮŶ ϮϬϭϯ ʹ ŐĂůů ĨŽĚ LJŶ ƵŶƌŚLJǁ ďĞƚŚ͕ Ž ŐŝŶŝŽ ƐLJŵů ŝ ďĂƌƟ ƐƚƌLJĚ ŵĂǁƌ͕ ŐLJĚĂ ƚŚƌŽĞůůǁLJƌ ĚŝƐŐŝĂƵ Ă ƌŚŽƐƟŽ ŵŽĐŚLJŶ͘ ŵ ƌĂŐŽƌ Ž ǁLJďŽĚĂĞƚŚ͕ ĞǁĐŚ ŝ www.thebiglunch.com Yno fe welwch syniadau ac arweiniad gam ǁƌƚŚ ŐĂŵ ŝ ĚƌĞĨŶƵ ĞŝĐŚ ĐŝŶŝŽ ŵĂǁƌ ĞŝĐŚ ŚƵŶĂŝŶ͕ ŶĞƵ ǁĞůĚ ƵŶ ƐLJ͛Ŷ ĐĂĞů Ğŝ ŐLJŶŶĂů LJŶ ůůĞŽů ŝ chi. Đ ŽƐ ŚŽīĞĐŚ ŚĞůƉƵ ŝ ĚƌĞĨŶƵ ĞŝĐŚ ĚŝŐǁLJĚĚŝĂĚ ĞŝĐŚ ŚƵŶ͕ ĐLJƐLJůůƚǁĐŚ ą Ŷŝ Ă ƐŝĂƌĂĚǁĐŚ ŐLJĚĂŐ ƵŶ Ž͛Ŷ ^ǁLJĚĚŽŐŝŽŶ WƌŽƐŝĞĐƚ ĂƚďůLJŐƵ LJŵƵŶĞĚĂƵ Ăƌ ϬϴϬϬ ϬϱϮ ϮϱϮϲ͘ Mwynhewch!