intouch GAEAF 2016 | RHIFYN 88| AM DDIM
Cylchgrawn preswylwyr Tai Wales & West
Yn y rhifyn hwn... Nadolig Cynllun gofal ychwanegol cyntaf Powys Cartrefi newydd i breswylwyr yng ngorllewin Cymru Ysgrifennydd y Cabinet yn llawn edmygedd Llwyddiant wrth godi arian yng Nghwm Taf
Rydym wedi symud! Rydym wedi symud i’n Prif Swyddfa newydd a’n swyddfa newydd yn Ewloe. Mae ein holl fanylion cyswllt yn aros yr un fath, dim ond ein cyfeiriadau post sydd wedi newid:
Tŷ’r Bwa
77 Parc Tŷ Glas Llanisien CAERDYDD CF14 5DU
LLANISIEN
Tŷ Draig
Parc Dewi Sant Ewloe Sir y Fflint CH5 3DT
EWLOE
Rydym wedi llwyddo i gwblhau ein gwaith symud i'n Prif Swyddfa newydd yng Nghaerdydd a’n swyddfa newydd yng ngogledd Cymru yn Ewloe - felly mae pob un o'n gwasanaethau yn gwbl weithredol yn awr.
Oriau agor dros y Nadolig CAU I D E WDDYDD GWENER
GFYR A H R 23 TO D DDYD M A 0 H 8.3 AWRT M AWR 3 ION
3PM
Fel arfer byddwn wedi cau rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd
Os bydd argyfwng yn ystod cyfnod yr ŵyl a’ch bod chi angen cysylltu â ni, ffoniwch y Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid ar
0800 052 2526
Llythyr y Golygydd a’r Cynnwys| intouch | www.wwha.co.uk | 03
Croeso gan Anne Annwyl breswylwyr
Croeso i rifyn y gaeaf InTouch – y cylchgrawn arbennig i breswylwyr Tai Wales & West. Ni ddylai fod yn syndod mai prif nodwedd y rhifyn hwn yw’r Nadolig! Wrth i’r cylchgrawn lanio ar garreg eich drws, byddwch yn brysur yn paratoi ar gyfer yr Ŵyl. Mae gennym rai syniadau defnyddiol ar wneud addurniadau ac anrhegion Nadolig, ymweld â marchnadoedd i brynu cynnyrch o Gymru, lliniaru’r pryder am goginio i griw, a beth i'w wneud gyda’r anrhegion diangen hynny, pe bai’r fath beth yn digwydd! Diolch arbennig i'r ysgolion a addurnodd ein swyddfeydd yng ngorllewin Cymru ac Ewloe – ni wnaeth ein swyddfa yng Nghaerdydd gymryd rhan gan ein bod ni yn y broses o symud! Hefyd yn y rhifyn hwn, rydym yn falch o ddadorchuddio cynllun gofal ychwanegol cyntaf Powys sydd newydd agor ei ddrysau i breswylwyr - croeso cynnes iawn i chi. Rydym wrth ein bodd fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant AC, yn llawn edmygedd pan ymwelodd â’n cynllun newydd yn Abergele, lle cyfarfu â rhai o’r preswylwyr a dysgu am ein rhaglen Kickstart sy’n mynd o nerth i nerth. Mae’r nodweddion eraill yn cynnwys llwyddiannau codi arian, preswylwyr mor ifanc â 7 oed, cynghorion ar y Dreth Gyngor, adolygiad o'n Gwasanaeth Larwm mewn Argyfwng a chlwb cyfrifiadurol newydd sydd wedi cael ei lansio ar gyfer pobl ifanc. Os oes gennych chi syniadau ar gyfer InTouch neu syniadau am sut gallem ei wella, rhowch wybod i ni. Byddwn yn gwrando arnoch - boed hynny'n awgrym ar gyfer nodwedd reolaidd, neu sylw ar beth hoffech chi weld mwy ohono. Anfonwch e-bost: contactus@wwha. co.uk neu siaradwch â'n Tîm Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu ar 0800 052 2526. Dymunaf Nadolig Llawen a hedd y Flwyddyn Newydd. Anne Hinchey, Prif Weithredwr
Cynnwys
Oriau agor y Nadolig 02 Erthygl nodwedd y Nadolig 04 Newyddion a Gwybodaeth WWH 16 Byw’n Wyrdd 20 Adroddiad Chwarterol 21 Datblygiadau Diweddaraf 28 Gwneud Gwahaniaeth i’ch Dyfodol 32 Adroddiad Blynyddol y Larwm mewn Argyfwng 34 Materion Ariannol 36 Gwneud Gwahaniaeth i’ch Cymuned 38 Y Diweddaraf am Elusennau 39 Iechyd a Diogelwch 42 Eich Newyddion a’ch Safbwyntiau 43
Dilynwch ni ar twitter
@wwha
Wyddech chi eich bod chi'n gallu cael rhagor o newyddion a ddiweddariadau ar-lein yn awr?
Ieithoedd a fformatau eraill
Os hoffech gael copi o'r rhifyn hwn o InTouch yn Saesneg neu mewn iath neu fformat arall - er enghraifft, print mawr, rhowch wybod i ni ac few wnawn ni helpu.
Cysylltu â ni Tai Wales & West, Tŷ'r Bwa, 77 Parc Tŷ Glas, Llanisien, Caerdydd CF14 5DU Ffôn: 0800 052 2526 Testun: 07788 310420 E-bost: contactus@wwha.co.uk Gwefan: www.wwha.co.uk Gallwch hefyd gysylltu ag aelod o staff yn uniongyrchol drwy eu cyfeiriadau e-bost. Er enghraifft, joe.bloggs@wwha.co.uk
04 | www.wwha.co.uk | intouch | Nodwedd Nadolig
Ysgolion yn helpu i addurno ein swyddfeydd Mae ysgolion lleol wedi dod â hwyl yr ŵyl i'n swyddfeydd yn Ewlo ac yng Ngorllewin Cymru trwy greu addurniadau Nadolig ar gyfer y derbynfeydd. Mae'r staff wedi setlo i mewn yn dda yn eu swyddfa newydd sbon yng Ngogledd Cymru, ac roeddent wrth eu bodd bod Ysgol Gynradd Ewloe Green wedi cymryd rhan mewn cystadleuaeth i addurno eu derbynfa. Dywedodd Ruth Dyas, Pennaeth yr ysgol: “Roeddem yn fwy na bodlon cymryd rhan. Mae'r plant wedi mwynhau creu'r addurniadau ar gyfer
Tai Wales & West ac mae hyn wedi eu rhoi mewn hwyliau Nadoligaidd. Bydd yr enillwyr yn arbennig yn mwynhau darllen llyfrau newydd dros y Nadolig, diolch i'r tocynnau llyfrau a roddwyd fel gwobrau.” Sophie Yr enillwyr oedd: 1 - Sophie 2 - Amber 3 - Ellis
Craig Sparrow a Cate Porter yn helpu Sophie, Amber ac Ellis i addurno’r goeden yn Nhŷ Draig, Ewlo Amber
Ellis
Nodwedd Nadolig | intouch | www.wwha.co.uk | 05 Yn y cyfamser, yng Ngorllewin Cymru, mae'r staff yn ein swyddfa yng Nghastellnewydd Emlyn wedi mwynhau cael addurniadau gan Ysgolion Brynsaron, Pen-boyr, Cenarth, Beulah a Threwen. Cafwyd llu o addurniadau ac roedd hi'n benderfyniad anodd iawn, ond yn anffodus, dim ond un enillydd y gallem ei ddewis.
Crëwyd yr addurn buddugol, sef carw, gan Oliver Phillips, 8 oed, o Ysgol Brynsaron, a bydd Oliver yn cael tocyn rhodd i'w wario yn Siop Iago. Yr ysgol fuddugol oedd Ysgol Beulah, a fydd yn cael tocyn garddio i'w wario yng Nghanolfan Arddio Trefhedyn.
Diolch yn fawr iawn i'r holl ysgolion a wnaeth gymryd rhan. Y goeden wedi’i haddurno yng Nghwrt y Llan, Castellnewydd Emlyn
Nadolig gwyrdd Peidiwch ag anghofio y gallwch ailgylchu eich holl fwyd Nadolig dros ben, gan gynnwys eich twrci, yn eich bin cegin. Mae modd ailgylchu cardiau Nadolig hefyd, ond yn anffodus, nid oes modd ailgylchu papur lapio. Gellir ailgylchu coed Nadolig go iawn trwy fynd â nhw i Ganolfannau Ailgylchu Nwyddau Cartref.
06 | www.wwha.co.uk | intouch | Nodwedd Nadolig
Beth am wneud eich addurniadau a’ch anrhegion Nadolig eich hunain? Does dim byd gwell na chael anrheg Nadolig a wnaed yn arbennig ar eich cyfer chi. Gall hefyd fod yn llawer rhatach i'r un sy'n ei wneud... Beth am droi cardiau Nadolig y llynedd yn labeli anrhegion eleni? Maen nhw’n edrych yn dda, a gallwch ddewis eu maint. Gall anfon cardiau Nadolig drwy’r post fod yn ddrud. Beth am geisio cwtogi’r nifer drwy anfon cardiau at y rhai na welwch chi dros yr ŵyl yn unig.
Cafodd preswylwyr yn Hanover Court yn y Barri hwyl arni y llynedd.
Fel arall, ewch ar-lein ac anfonwch e-gerdyn! Mae’n hawdd eu gwneud nhw ac yn llawer o hwyl. Gallwch hyd yn oed lwytho lluniau personol i fyny.
PRYNHAWN
CREFFTAU ’DOLIG @ Dydd Llun 19 Rhagfyr 3-5pm Crefftau Nadoligaidd, Ogof Siôn Corn a lluniaeth i blant £2 y plentyn Bydd ymweliadau â Siôn Corn yn gyfyngedig i 100 gyda system docynnau a fydd yn cael eu rhoi wrth i chi gyrraedd. Rhaid i rieni aros gyda’u plant yn ystod y gweithgareddau. Wedi ei drefnu a’i gynnal gan Gyfeillion Canolfan Adnoddau Cymunedol Hightown.
Fusilier Way, Wrecsam, LL13 7YF 03001232070/ 07969814442 am ragor o wybodaeth
Nodwedd Nadolig | intouch | www.wwha.co.uk | 07
Prynu nwyddau o Gymru
Nadolig Llawen! Mae marchnadoedd a ffeiriau Nadolig lleol nid yn unig yn rhoi hwb i hwyl yr ŵyl ond hefyd yn cefnogi busnesau bach lleol wrth i stondinau gynnig crefftau, anrhegion wedi'u gwneud â llaw, bwyd, cynnyrch arbenigol ac addurniadau Nadolig. Ewch draw i’r ‘Welsh Gift Shop’ ar y we i brynu anrhegion gwych o Gymru: https://welshgiftshop.com/collections/ welsh-gifts-for-christmas Dyma rai o’r marchnadoedd Nadolig sy’n cael eu cynnal ledled Cymru ym mis Rhagfyr 2016:
Marchnad Nadolig Caerdydd – yn agored tan 23 Rhagfyr – o ddydd Llun i ddydd Sadwrn 10am i 5.30pm Dydd Sul 10am i 5.00pm; a 10am – 7pm bob dydd Iau drwy gydol mis Rhagfyr Marchnad Nadolig Abertawe - Yn agored tan 21 Rhagfyr - Dydd Llun i ddydd Sadwrn - 9.30am i 5.30pm; dydd Sul - 10.00am i 5.00pm Gardd Bodnant, Llanrwst: Gweithdai Corachod Siôn Corn. Penwythnosau mis Rhagfyr 17/18 a dydd Llun a dydd Mawrth 19/20 rhwng 10:30am a 2:30pm. Dewch i gyfarfod y corachod yn yr Hen Felin glyd a’u helpu i wneud crefftau ac addurniadau.
Neuadd y Waun: Nadolig Canoloesol traddodiadol gyda'r holl drimins. Gallwch ddisgwyl gweld cymeriadau Canoloesol, crefftau, a mwy ar gwrt y Castell - ymlaen 17 ac 18 Rhagfyr 11am tan 4pm.
Wrecsam: Ffair Nadolig Ysgol Clywedog – yn digwydd ddydd Mercher 14 Rhagfyr rhwng 5pm a 7pm. Mynediad am ddim. Cysylltwch â Mrs L Hope ar 01978 346800
Marchnad Stryd Bwyd Nadolig Aberteifi – dydd Gwener 16 Rhagfyr 4pm-9pm a Ffair Nadolig/ Cwrdd â’r Ceirw – dydd Sadwrn 17 10am – 4pm yn Neuadd y Dref
08 | www.wwha.co.uk | intouch | Nodwedd Nadolig
Awgrymiadau ar gyfer coginio i griw Yn coginio i griw o bobl y Nadolig hwn (6-8 o bobl)? Am gymryd y straen allan o'r dydd? Dyma rai awgrymiadau o'n swyddfa yng Ngorllewin Cymru! Y twrci traddodiadol Paratowch eich stwffin ymlaen llaw, ei rewi wedyn, a’i dynnu allan y noson cyn i chi baratoi eich twrci / dofednod. Cynheswch y popty i 190 ° C / nwy 5. Rhowch ychydig o bupur a halen ar y twrci, yna stwffio’r ceudod ag 1 lemwn a nionyn wedi’i chwarteru, a 3 deilen llawryf. Rhwbiwch lond llaw o fenyn o dan y croen, ac yna rhostio’r stwffin yn ôl y cyfarwyddiadau ar y pecyn. Os bydd angen, bydd yn bosib cadw’r twrci’n boeth am hyd at 1 awr mewn man cynnes, gorchuddio â ffoil wedi’i iro â menyn, a lliain sychu llestri. Tatws rhost * Rhowch eich tatws i ferwi am 10 munud, draeniwch, a’u hysgwyd yn dda. Gadewch i oeri’n iawn. Yna, gallwch eu rhewi neu eu rhoi yn yr oergell, wedi’u gorchuddio. Pan fydd y twrci wedi'i goginio, rhowch dun crasu â braster ynddo yn y popty a throi’r gwres i fyny am 5 munud. Rhowch y tatws i mewn yn y tun, sgeintio ychydig o halen drostyn nhw a’u troi drosodd i’w gorchuddio â’r braster. Rhostiwch nes eu bod yn frown euraid. Pannas a moron * Pliciwch a sleisiwch 500g (1lb 2oz) moron a 500g (1lb 2oz) pannas, yna eu blansio mewn dŵr berwedig. Codwch nhw i ddŵr oer, yna eu draenio a’u sychu, a’u rhoi yn yr oergell o dan haenen lynu.Yn y bore, chwisgiwch 2 lwy fwrdd olew olewydd, 4 llwy fwrdd mêl a 2 lwy fwrdd mwstard grawn cyflawn a'u cymysgu gyda'r llysiau. Rhowch ar dun crasu sydd wedi'i gynhesu ymlaen llaw, ychwanegu pupur a halen a'u rhostio am 30 munud nes byddan nhw’n dyner.
Ysgewyll a chnau castan * Dri diwrnod cyn y Nadolig, berwch 500g (1lb 2oz) ysgewyll wedi’u glanhau am 6-8 munud, yna eu torri yn eu hanner a’u cadw yn yr oergell o dan haenen lynu. Ar y diwrnod, yn union cyn eu gweini, tro-ffriwch yr ysgewyll am 1-2 munud, ychwanegwch 2 lwy fwrdd stoc llysiau neu ddŵr, a choginiwch am 2 funud. Ychwanegwch 200g (7oz) cnau castan (vacuum-packed) a choginiwch am 3-4 munud. Ychwanegwch bupur a halen. Saws bara * Cynheswch nionyn wedi ei dorri'n fân, a'r clof wedi’i falu’n fân, gyda 2 ddeilen llawryf, 600ml (1pt) llaeth a 50g (1¾oz) menyn. Gadael i fudferwi'n ysgafn am 20 munud, yna tynnwch oddi ar y gwres a'i adael i drwytho. Ychwanegwch 200g (7oz) briwsion bara, ychwanegwch nytmeg a phupur a halen. Mudferwch eto am 3-4 munud, ychwanegwch ychydig o hufen dwbl a’i weini’n gynnes. Saws aeron cymysg * Yn hytrach na saws llugaeron, beth am wneud saws aeron cymysg. Cymerwch becyn 300g (10½oz) o aeron cymysg wedi'u rhewi a'u mudferwi am 10 munud. Ychwanegwch 100g (3½oz) siwgr, ambell lond llwy fwrdd o win port a rhai darnau mawr o groen oren. Coginiwch am 10 munud arall nes bod y siwgr wedi toddi a’r saws wedi tewhau. Trosglwyddwch y saws i jar. (Bydd hwn yn cadw hyd at dri mis.) * Gellir eu paratoi ymlaen llaw
Nodwedd Nadolig | intouch | www.wwha.co.uk | 09
Rhost cnau llysieuol Mae'r dorth lysieuol flasus hon, gyda ffacbys, madarch cnau castan a chaws, yn cyd-fynd â holl drimins y cinio rhost clasurol. Cynhwysion 1 llwy fwrdd olew olewydd 15g menyn 1 nionyn mawr, wedi’i dorri’n fân 2 ddarn o seleri, wedi’u torri’n fân 2 clof garlleg, wedi’u torri’n fân 200g madarch castan, wedi’u torri’n fân 1 pupur coch , wedi’i haneru, tynnu’r hadau, a’i dorri’n fân. 1 moronen fawr, wedi’i
gratio 1llwy de oregano sych 1 llwy de paprica mwg 100g corbys coch 2 lwy fwrdd piwrî tomato 300ml stoc llysiau 100g briwsion bara ffres 150g cnau cymysg fel cnau Ffrengig, cnau pecan, cnau cyll a chnau Brasil, wedi’u torri’n fras 3 wy mawr, wedi’u curo’n
ysgafn 100g caws Cheddar aeddfed, wedi’i gratio dyrnaid o bersli dail llydan, wedi’i dorri’n fân Ar gyfer y saws tomato 2 llwy fwrdd olew olewydd extra virgin 2 clof garlleg, wedi’u tafellu’n fân 1 sbrigyn rhosmari 400ml passata
Dull 1 Cynheswch y popty i 180C / ffan 160C / nwy 4. Leiniwch waelod ac ochrau tun torth 1.5 litr â phapur memrwn. 2 Cynheswch yr olew a'r menyn mewn padell ffrio fawr a choginio'r nionyn a'r seleri am 5 munud nes bydd yn dechrau meddalu. Ychwanegwch y garlleg a'r madarch a'u coginio am 10 munud arall. 3 Ychwanegwch y pupur coch a’r foronen wedi'i gratio, a'u coginio am tua 3 munud. Yna ychwanegwch yr oregano a’r paprica a choginiwch am funud eto. 4 Ychwanegwch y corbys coch a'r piwrî tomato a'u coginio am tua munud, yna ychwanegwch y stoc llysiau a mudferwi’r cyfan dros wres isel iawn nes bod yr holl hylif wedi cael ei amsugno a’r gymysgedd yn weddol sych. Gadewch i oeri. 5 Ychwanegwch y briwsion bara, cnau, wyau, caws a'r persli a phinsiad o halen a rhywfaint o bupur du. Cymysgwch yn dda, yna rhowch y gymysgedd yn y tun a baratowyd a’i bwyso i lawr yn dda. Gorchuddiwch â ffoil a phobwch am 20 munud, yna tynnwch y ffoil a'i bobi am 10-15 munud arall nes bydd yn gadarn pan fyddwch yn pwyso arno’n ysgafn. 6 Yn y cyfamser, i wneud y saws, cynheswch yr olew yn araf, yna ychwanegwch y tafelli garlleg a’r sbrigyn rhosmari a’u cynhesu heb iddyn nhw frownio. Arllwyswch y passata ac ychwanegwch binsiad o halen a rhywfaint o bupur du. Mudferwch yn araf am ddim ond 15 munud. 7 Gadewch i'r dorth oeri yn y tun am tua 10 munud, yna ei throi allan ar fwrdd gweini neu blât. Tynnwch y papur pobi a thorri’r doth yn sleisys a'u gweini gydag ychydig o'r saws tomato.
10 | www.wwhha.co.uk | intouch |Nodwedd Nadolig
Moeseg anrhegion Nadolig digangen Rydyn ni i gyd yn gyfarwydd â’r sefyllfa. Ar ôl gorffen defodau diwrnod Nadolig, ochr yn ochr â’r anrhegion gwych a’r sbarion twrci a phwdin Nadolig, mae ambell anrheg sydd mor wael fel eich bod chi’n gwybod na wnewch chi fyth eu defnyddio.
Siopau elusen Beth am eu rhoi i elusen? Bydd eich siop elusen leol yn fwy na hapus i dderbyn unrhyw beth nad ydych ei eisiau, cyn belled â’i fod mewn cyflwr da. Gallwch nôl bag rhoddion o un o'ch siopau lleol neu gyfrannu ar-lein. Rhai o'r prif elusennau yn y Deyrnas Unedig a fydd yn hapus i gymryd eitemau diangen yw Sefydliad Prydeinig y Galon, Ymchwil Canser, Scope, Help the Aged, Oxfam a'r Groes Goch Brydeinig, i enwi ond ychydig.
Felly rydym wedi paratoi canllaw defnyddiol ar gyfer yr anrhegion hyn. Trawsffurfio’r rhoddion
Ailgylchu’r rhoddion i bobl eraill Mae gan y dull hwn reolau: dim ond pethau newydd sbon a/neu erioed wedi eu defnyddio, Peidiwch byth â lapio anrhegion cartref neu unigryw, peidiwch byth â rhoi'r anrhegion o fewn yr un grŵp o ffrindiau neu deulu a allai fod yn gwybod o ble daeth y rhodd, a thynnwch bopeth personol neu gliwiau ynghylch tarddiad y rhodd. Rydych eisiau rhoi'r argraff fod y rhodd wedi ei lapio gennych chi.
Os cewch chi rodd ddiangen, edrychwch arno mewn ffordd arall – oes modd ei ddefnyddio fel rhywbeth arall? Er enghraifft, os yw rhywun yn prynu cardigan i chi ond mai dim ond y botymau rydych chi’n eu hoffi, tynnwch nhw a’u defnyddio ar ddilledyn arall. Yn yr un modd, os cewch chi set ymolchi mewn blwch ffansi, defnyddiwch y blwch i storio pethau. Ystyriwch bob defnydd posibl cyn ei daflu i’r bin neu ei ailgylchu.
Cyfnewid rhoddion â phobl eraill Os ydych chi’n cael parti Nadolig yn y swyddfa, beth am gynal gêm cyfnewid anrhegion, neu gyfnewid anrhegion ymysg ffrindiau.
Nodwedd Nadolig | intouch | www.wwha.co.uk | 11 Eu gwerthu ar eBay Freecycle Nid ffordd o wneud arian yw’r dull hwn, ond mae Freecycle yn ddewis arall. Y syniad y tu ôl i’r safle yw cadw eitemau y gellir eu defnyddio rhag mynd ar y domen sbwriel. Rydych yn hysbysebu eich eitem drwy anfon e-bost at eich grŵp lleol yn nodi manylion yr eitem ac yn aros i ddefnyddwyr eraill y safle ymateb. Rhaid i bob eitem fod am ddim, yn gyfreithlon ac yn addas i bob oedran.
Wrth gwrs – eBay - y wefan arwerthu ddefnyddiol ar-lein sy’n berffaith ar gyfer cael gwared ag anrhegion diangen. Y cyfnod ar ôl y Nadolig yw un o’r adegau prysuraf i’r wefan hon, gyda phobl o amgylch y byd yn rhestru eu anrhegion diangen cyn i sleisen olaf y twrci gael ei bwta, hyd yn oed. Y llynedd, yn ystod pythefnos gyntaf Ionawr yn unig, rhestrwyd 4,556 eitem newydd ar eBay fel "anrhegion Nadolig nad oedd eu hangen".
Facebook/Twitter Mae cewri rhwydweithio cymdeithasol - Facebook a Twitter - wedi datblygu’n byrth cyntaf ar gyfer casglu gwybodaeth. Maen nhw hefyd yn ffordd wych o adael i'ch ffrindiau a’ch dilynwyr wybod fod gennych nwyddau i'w gwerthu neu efallai hyd yn oed bethau i’w cyfnewid neu eu rhoi i eraill am ddim. Ond byddwch yn ofalus nad yw'r un a roddodd yr anrheg i chi yn y lle cyntaf yn gweld y neges neu fe allech chi fod mewn lle cas.
Amazon Nid eBay yw’r unig le i werthu nwyddau ar-lein. Mae nifer o wefannau adwerthu’n cynnig adran gwerthwyr, a’r enghraifft orau yw Amazon Marketplace. Mae rhestru eitemau yn syml ac mae Amazon yn gwneud llawer o’r gweinyddu ar eich rhan.
Gair o rybudd...
Gumtree Gumtree yw safle mwyaf y Deyrnas Unedig ar gyfer hysbysebion lleol erbyn hyn, ac mae’n lle da i werthu nwyddau diangen (am ddim) ac efallai mynd am fargen eich hunan. Y syniad yw cwrdd â phrynwyr lleol wyneb yn wyneb i arbed ar gostau postio.
Dychwelyd y rhodd i’r siop Yn aml mae siopau’n rhoi talebau rhodd sy’n eich galluogi i gyfnewid anrhegion diangen drwy eu dychwelyd i’r siop a’u cyfnewid am rywbeth mwy addas heb wybod beth oedd gwerth y rhodd.
Nid ydym yn awgrymu eich bod chi’n cael gwared â’ch holl anrhegion yr eiliad ar ôl i chi orffen eich pwdin Nadolig. Gobeithio y bydd y rhan fwyaf o'ch anrhegion yn cael eu derbyn yn rasol gyda gwên ar eich wyneb, hyd yn oed os nad oedden nhw cweit y teledu 55 modfedd 4K OLED roeddech chi wedi gobeithio ei gael. Felly, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n meddwl yn ofalus cyn cael gwared ar eich anrhegion, ac os ydych chi’n mynd i’w gwerthu neu eu cyfnewid, byddwch yn ystyriol o deimladau eich anwyliaid.
12 | www.wwha.co.uk | intouch | Nodwedd Nadolig
CYNGOR A Wyddech chi eich bod chi’n gallu olrhain taith Siôn Corn? Ewch i www.noradsanta.org neu llwythwch yr ap i lawr
Gwych i blant! (ac oedolion)
Pegwn y Gogledd Symudol A message fr om Santa!
Beth am drefnu neges fideo hyfryd wedi ei phersonoli gan Siôn Corn er mwy’n i’r plant gyffroi! Ewch i www.portablenorthpole.com
Rhowch gynnig ar gystadlaethau ar y cyfryngau cymdeithasol Tua’r Nadolig mae cwmnïau yn aml yn rhoi anrhegion am rannu eu neges Gwiriwch fod y brand yn ddilys a darllenwch y telerau
Cludo i’r cartref Mae’r rhan fwyaf o archfarchnadoedd yn cynnig cludo i’r cartref wrth archebu ar-lein, gan olygu na fydd yn rhaid i chi orfod mynd i archfarchnad brysur o gwmpas yr ŵyl.
?
Siopa mawr? Ewch i www.mysupermarket.co.uk lle gallwch gymharu prisiau bwyd yn yr archfarchnadoedd mawr
Nodwedd Nadolig | intouch | www.wwha.co.uk | 13
AR Y WE Gwefannau diogel Wrth brynu anrhegion ar-lein, cofiwch sicrhau fod cyfeiriad y wefan yn dechrau gyda https:// cyn i chi wneud taliad
https://
Galwadau am ddim i’r teulu Os oes gennych chi gontract data neu WiFi gartref, beth am gysylltu â’ch anwyliaid (os oes ganddyn nhw’r un cyfleusterau) drwy eich ffôn clyfar gan ddefnyddio gwasanaethau fel Skype, WhatsApp neu Facetime Byddwch yn ddiogel ar y Cyfryngau Cymdeithasol Osgowch ddweud lle’r ydych chi ar Facebook, yn enwedig os ydych chi oddi cartref yn ystod y gwyliau. Osgowch rannu lluniau o anrhegion ac eitemau drud – wyddwch chi ddim pwy sy’n gwylio!
Chwilotwr Bargeinion Lleol Ebay Llwythwch yr app ‘Local Ebay’ i ddod o hyd i fargeinion yn lleol i chi!
Hot UK Deals Cymuned ar gyfer y rhai sy’n hoff o fargeinion! Llwythwch yr app neu ewch i www.hotukdeals.com
14 | www.wwha.co.uk | intouch | Nodwedd Nadolig
CHWILAIR Y
NADOLIG Cyfle i ennill taleb siopa gwerth £30 gyda’n chwilair Nadoligaidd! Mwynhewch y chwilair hwn dros y Nadolig. Mae’r holl eiriau i’w canfod drwy chwilio am yn ôl, am ymlaen, yn llorweddol, fertigol neu’n lletraws.
Bydd yr holl atebion cywir yn cael eu rhoi mewn het a bydd un yn cael ei ddewis fel enillydd lwcus taleb siopa Argos gwerth £30. Anfonwch eich cynnig gyda’ch enw, cyfeiriad a manylion cyswllt at Jane Janaway, Tai Wales & West, Tŷ Draig, Parc Dewi Sant, Ewloe, Glannau Dyfrdwy CH5 3DT. Y dyddiad cau ar gyfer cynigion yw 16 Ionawr 2017. E D O Y E T W R S I O N C O R N U W G CH
U S I C L D N A L E D L A T E W A DD E Y
DD E N O I S Y L E M W B E Y DD N C A I O
O T G R T A L H D R CH O H M B E I R A TH
ADDURNIADAU ANRHEGION CANHWYLLAU CARDIAU CEIRW CELYN
W I LL A LL O E Y I E A E LL O I LL N W FF A
C L Y CH A U C P U S TH G U R A E I TH B E
Y R W O G CH I U A I L Y W G CH Y O Y U I
F A A D M E TH W DD B E DD P D Y S R U P C
CERDDORIAETH CINIO CLYCHAU COEDEN CORACHOD CYFARCHION
A H E I O L U S U E T I FF I S I C R W T
R A N F H W Y L R L D M A H E O E LL S A
CH U DD R S Y B E N S I C N E W C R B O W
DATHLU EIRA GWYLIAU HOSAN HWYL LLAWENYDD
I B A H G DD T O I TH O TH T D C L DD O DD Y
O N I C Y N E M A E CH A C A U E O W G H
N A D O L I G P D LL U R R N P D R DD E N
MELYSION NADOLIG RHOI SIOCLEDI SION CORN SLED
D S G A O D A E A U D D O RH O I I Y TH S
G O B U TH A N I U P I A W E I D A N I R
M H A N A L A E RH A E B T G LL W E E O I
TEGANAU TWRCI TYMOR UCHELWYDD
W E CH Y T G U H U F S CH Y I E A TH W E L
FF P N H R O O TH F S L I D O CH C R A D B
I Y DD O E T D Y O I TH C A N H W Y LL A U
Nodwedd Nadolig| intouch | www.wwha.co.uk | 15
Yr esgid yn gwasgu? Yr esgid fach yn gwasgu’n barod? Peidiwch â phoeni, mae llawer o sefydliadau a fyddai’n gallu eich helpu chi. Er enghraifft, mae Moneyline Cymru yn sefydliad nid-er-elw sy'n cynnig benthyciadau bach tymor byr i gwsmeriaid sy'n cael eu heithrio rhag cael credyd prif ffrwd, ac mae’n ddewis arall i fenthycwyr cost uchel. Mae Moneyline Cymru yn cynnig benthyciadau yn seiliedig ar fforddiadwyedd yn hytrach na sgôr statws credyd, ac mae’n gwneud penderfyniad yn seiliedig ar drafod amgylchiadau'r cwsmer, wyneb yn wyneb yn ei ganghennau.
BENTHYCIADAU O £100 i £1000 FFONIWCH NI: 0345 643 1553 i weld sut gallwn ni helpu
Gall benthyciadau fod mor isel â £100 neu £1,000 a bydd y dyddiadau ad-dalu yn cael eu pennu ar adegau addas i'r unigolyn, a all fod yn wythnosol, bob pythefnos neu bob mis. Mae Moneyline Cymru yn helpu cwsmeriaid i gynyddu cydnerthedd ariannol drwy gynnig cynllun cynilo; "Round it up" lle gall cwsmeriaid roi cynilon o'r neilltu drwy dalgrynnu i fyny eu had-daliad wythnosol ar eu benthyciad.
Taliadau hyblyg Gwasanaeth yr un diwrnod Ar eich stryd fawr Canghennau ar draws de Cymru: Abertawe, Pen-y-bont, Cwmbrân, Casnewydd, Pontypridd, Merthyr, Caerdydd
16 | www.wwha.co.uk | intouch |Newyddion a Gwybodaeth am WWH
Powys yn falch o’i chynllun gofal ychwanegol cyntaf Roedd Russell George, AC Sir Drefaldwyn, a chynghorwyr sir a thref blaenllaw ym Mhowys wrth eu bodd ar eu hymweliad â Llys Glan yr Afon, ein datblygiad gwerth £7.5 miliwn, y cyntaf o'i fath ym Mhowys i ddarparu gofal ychwanegol.
Y Cyngh. Stephen Hayes, Shayne Hembrow, Prif Weithredwr Cyngor Sir Powys Jeremy Patterson a Russell George AC wedi eu plesio gan gynllun gofal ychwanegol cyntaf Powys
Mae'r cynllun o’r radd flaenaf, sy’n cael ei gyllido’n rhannol gan Grant Tai Cymdeithasol o £4 miliwn gan Lywodraeth Cymru, wedi cael ei ddatblygu gan Tai Wales & West mewn partneriaeth â Chyngor Sir Powys. Fe wnaethom gyllido’r gweddill gyda chyfraniad o £3.5 miliwn. Anwyl Construction gafodd y contract i ddarparu 48 o fflatiau sy’n defnyddio ynni’n effeithlon ar rent fforddiadwy, gan ddod â'r cyfanswm ein cartrefi fforddiadwy ym Mhowys i ychydig o dan 1000.
Y datblygiad yw ein trydydd cynllun gofal ychwanegol yn dilyn cynllun gofal ychwanegol Nant y Môr y dyfarnwyd gwobr iddo yn Sir Ddinbych, a Llys Jasmine yn Sir y Fflint. Fe wnaeth y gwesteion fwynhau bisgedi gan Arlwyo Castell, cangen arlwyo Tai Wales & West, a fydd yn darparu prydau bwyd maethlon a blasus ar gyfer preswylwyr ym mwyty’r Orendy pan fyddan nhw’n symud yno. Dywedodd Shayne Hembrow, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Masnachol WWH: “Rydyn ni’n falch
Newyddion a Gwybodaeth am WWH | intouch | www.wwha.co.uk | 17 iawn ein bod ni wedi gweithio mewn partneriaeth â chyngor Sir Powys i ddod â thai gofal ychwanegol i’r sir. Y cynllun hwn yw’r cyntaf o’i fath ym Mhowys i ddarparu gofal ychwanegol.” Dywedodd y Cynghorydd Stephen Hayes, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Oedolion: "Mae’r llety o’r radd flaenaf yn Llys Glan yr Afon yn cynnig cyfleuster gofal a chymorth o’r safon uchaf i drigolion y Drenewydd a'r ardal gyfagos yng nghanol y dref."
Dywedodd Russell George, AC Trefaldwyn: "Roeddwn yn llawn edmygedd wrth weld y cynllun. Roedd yn amlwg fod gan Tai Wales & West brofiad enfawr o ran cynnig safon uchel o ofal a chyfleusterau. Mae galw cynyddol am lety gofal cymdeithasol o safon yn yr ardal, ac rwy'n falch fod y gymdeithas tai hefyd wedi ffurfio perthynas waith dda gyda nifer o sefydliadau lleol."
Gwobr i ymgyrch diogelwch ar y ffordd Cafodd staff a phreswylwyr a fu’n gweithio mewn partneriaeth gyda'r Heddlu lleol ac asiantaethau eraill ar ymgyrch diogelwch ar y ffyrdd yn Rhondda Cynon Taf eu gwobrwyo am eu hymdrechion yn ddiweddar pan gawson nhw Wobr yn 10fed seremoni wobrwyo Partneriaeth y Comisiwn Heddlu a Throseddu. Bu amrywiaeth o asiantaethau partner yn cydweithio ar yr ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o faterion diogelwch ar y ffyrdd yng nghymunedau Ystrad, Gelli, Pentre a Thon Pentre, ar ôl i drigolion hŷn godi pryderon mawr ynghylch teimlo'n agored i niwed wrth groesi ffyrdd yn yr ardal. Yn ystod yr ymgyrch a barodd am wythnos, cymerodd trigolion hŷn a phlant ran mewn gwahanol weithgareddau ac arddangosiadau wedi eu hanelu at ddysgu pobl o’r newydd am beryglon goryrru, gyrru'n beryglus, parcio Mae'r Wobr yn cydnabod cyflawniadau anghyfreithlon a diogelwch cerddwyr. a chyfraniadau arwyddocaol a wnaed Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo gan y rhai sy'n gweithio i leihau troseddu fawreddog yn Neuadd Brangwyn yn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac Abertawe, a chasglwyd y wobr gan y mae'n dathlu’n benodol sut rydym Swddog Tai Alex Morris a’r Rheolwr yn gweithio gyda phartneriaid yn Cynllun Jan Bridgeman, ar ran Tai Wales llwyddiannus er mwyn gwella arferion & West, gan y Comisiynydd Heddlu Alun gwaith, diwallu anghenion cymunedau Michael a Carl Sargeant AC. lleol a'n bwriadau.
18 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a Gwybodaeth am WWH
“Dechrau newydd diolch i Kickstart” Nid yw Aaron a Mark wedi difaru symud i’w cartref newydd yn Abergele.
Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, gyda Mark, Kazia, y Rheolwr Gofal a Chymorth Gaynor Jones, y Gweithwyr Cymorth Faye Hughes a Chris Walls, Aaron a Shayne Hembrow, Dirprwy Brif Weithredwr WWH
Diolch i Kickstart, maen nhw wedi dysgu sut i ddod yn fwy annibynnol ac wedi magu hyder i ymdrin â sefyllfaoedd bob dydd heb y pryder a’r straen roedden nhw wedi ei brofi. Yn cael ei redeg gan Gofal a Chymorth Castell, cwmni sy'n eiddo i Tai Wales & West, mae Kickstart yn rhaglen sy'n helpu pobl sy'n agored i niwed i gael y sgiliau maen nhw eu hangen i fod yn annibynnol, delio â bywyd bob dydd ac wedyn yn mynd ymlaen i fyw yn eu cartref eu hunain. Dechreuodd y cyfan fis Mai diwethaf yn Abergele, a gyda staff yno 24 awr y
dydd mae wedi gwneud gwahaniaeth yn barod i'r unigolion sy'n byw yno. Roedd Aaron, sy’n 27 oed, wedi bod yn sâl yn yr ysbyty am 18 mis ac roedd yn byw mewn cartref gofal cyn iddo gyfarfod Gaynor Jones, Rheolwr Gofal a Chymorth gyda Gofal a Chymorth Castell. “Gaynor sydd wedi fy helpu i gyrraedd lle’r ydw i erbyn hyn,” meddai Aaron. “Fe wnes i ei chyfarfod hi gyntaf ym mis Mawrth eleni ac ar 3 Mai symudais i’r cartref gwych hwn, rydw i’n ei rannu gyda thri arall. Mae wedi rhoi hyder i mi ddechrau NVQ lefel 3
Newyddion a Gwybodaeth am WWH | intouch | www.wwha.co.uk | 19 mewn Cerddoriaeth gan fy mod i’n hoffi offerynnau pres, yn enwedig yr ewffoniwm. Gallaf ganu hefyd. “Rydyn ni’n cyd-dynnu y rhan fwyaf o'r amser ac mae'r staff yn dda iawn.” Mae Mark, sydd newydd droi’n 20 oed, wedi bod mewn 17 o gartrefi gwahanol. “Roeddwn i'n byw gyda fy mam ond ar ôl iddi gael ysgariad aeth yn sâl ac nid oedd yn gallu edrych ar fy ôl i a fy mrawd felly cawsom ein rhoi mewn gofal. Rydw i wedi symud 17 o weithiau, cyn belled i'r gorllewin â Môn ac wedi ymgartrefu yn Abergele erbyn hyn.” Mae Mark wedi cael trafferth gyda sawl agwedd ar fywyd. Mae'n greadigol iawn - gweler ‘I Believe’ isod. "Gall fod yn anodd weithiau gwneud pethau syml fel mynd i'r siopau ond ers i mi fod yma rydw i wedi setlo i lawr ac yn gallu mynd allan a gweld fy ffrindiau a’m teulu. Rydw i newydd basio fy NVQ lefel 2 mewn Celfyddydau Perfformio yng Ngholeg Llandrillo - byddwn wrth fy modd yn bod yn actor.”
I Believe
Dywed Nagina Butt, Gweithiwr Gofal a Chymorth: "Mae wedi bod yn wych gweithio yma a dod i adnabod y preswylwyr. Mae pawb ohonom yn deall ein gilydd yn iawn. Mae'r preswylwyr yn teimlo eu bod nhw’n gallu siarad gyda fi." Mae Roy Meyers, sydd hefyd yn Weithiwr Gofal a Chymorth, yn cytuno. “Rydw i’n gweithio ar Gam 2 Kickstart, lle mae preswylwyr yn byw yn eu cartref eu hunain gyda'n cefnogaeth ni. Rydw i wedi mynd ag un preswyliwr i bysgota ac roedd yn ddigon hyderus i fynd ar ei ben ei hun am y tro cyntaf yr wythnos ddiwethaf.” Dywedodd Gaynor Jones: "Mae wedi bod yn wych gweld sut mae'r preswylwyr wedi ymgartrefu yn eu cartrefi newydd mor gyflym ac wedi cyd-dynnu. Mae'r rhaglen Kickstart yn llwyddiant go iawn ac rwy'n edrych ymlaen at weld Aaron a Mark yn dechrau bywyd newydd yn eu cartrefi eu hunain yn y dyfodol agos.” Dyma fyfyrdodau llawn ysbrydoliaeth Mark:
it is fferent light, not how is left di a in ld or w e th e d no one y we will se I believe that one da munities joined, strengths combined, an truly blind. m co ty , er cie is today but bright of the mind when so ck tri a n, io vis a st ju behind, but this is children killed d crimes to endure, an te ha , ar w at d d an arms. Humanity separate they want is loving l al n he w bs m bo g n in all by dancin ption, greed, passio rru co l ta en m rn ve ound - change ruction, go Environmental dest ture is ours to realise, potential is all ar e fu hearts and eyes, th ed now. ed ne is needed – it’s ill be truly gone. then our troubles w ly on – e on as k or our humanity. nw Billions of voices ca t us free and to save se to y ke e th is n io ss I believe that compa
20 | www.wwha.co.uk | intouch | Byw’n wyrdd
Cynghorion garddio’r Gaeaf Mae Melanie Banner, un o’n preswylwyr o Abergwaun, wedi gofalu am randir ers saith mlynedd. Yn ystod misoedd yr haf mae Melanie yn treulio llawer o’i hamser ar y rhandir gyda’i dau blentyn bach. Dyma dri o’i chynghorion doeth ar baratoi eich gardd ar gyfer y Gaeaf: • Paratoi'r pridd - Mae'n bwysig llacio'r a throi'r pridd gyda fforch, ac yna troi llawer o wrtaith i mewn. Rydw i'n hoffi defnyddio tail a gwymon. Rydw i'n lwcus iawn fy mod i’n byw ger y môr, ac ar yr adeg hon o'r flwyddyn, rydw i’n mynd am dro i lawr i ran isaf Abergwaun i gasglu gwymon o'r aber. Mae'n bwysig gwneud hyn oherwydd mae agor y pridd yn caniatáu i rew y gaeaf ddadelfennu’r gwrtaith i fwydo'r pridd. • Tociwch bob coeden a llwyn ffrwythau. Cofiwch lanhau arfau miniog er mwyn osgoi lledaenu afiechyd o un planhigyn i un arall.
• Rwy'n hoffi tyfu bysedd y blaidd a bysedd y cŵn. Unwaith y byddan nhw wedi gorffen blodeuo rwy'n casglu'r hadau ac yn eu sychu. Unwaith y byddan nhw’n sych, byddaf yn eu plannu mewn hambyrddau hadau a'u cadw yn y tŷ gwydr tra byddan nhw’n tyfu ac yn magu gwreiddiau. Yn ystod mis Hydref/Tachwedd rwy'n eu plannu nhw allan yn yr ardd lle gallan nhw setlo dros fisoedd y Gaeaf. Yn ystod y Gwanwyn, rwy’n eu symud i lle byddan nhw’n blodeuo yn yr Haf.
Dyma rai ffotograffau o’i rhandir toreithiog yn ystod misoedd yr Haf …
Adroddiad Chwarterol| intouch | www.wwha.co.uk | 21
Adroddiad Chwarterol:
yr wybodaeth ddiweddaraf i chi Mae ein hadroddiad chwarterol wedi ei gynllunio i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar lwyddiant ein gwaith fel sefydliad a beth rydym yn ei wneud i wella ein gwasanaethau i chi - ein preswylwyr. Mae’r chwe graffigau gwybodaeth yn rhoi gwybodaeth allweddol ar sut mae Tai Wales & West yn perfformio, fel y gwelwch ar y tudalennau nesaf. Mae gwybodaeth am bob un o’n prif systemau. Y rhain yw: • Atgyweirio fy nghartref • Fy helpu i dalu • Rydw i eisiau cartref • Ymddygiad gwrthgymdeithasol • Rhagor o gartrefi • Sut rydym yn rhedeg ein busnes Felly, gallwch wybod popeth - o faint o dai rydym wedi eu hadeiladu hyd yn hyn eleni i pa mor hir mae’n ei gymryd i atgyweirio pethau.
Wyddech chi…? Rydyn ni eisiau i chi ddod o hyd i’r holl wybodaeth ynghylch ein perfformiad a’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn hawdd. O ganlyniad, rydyn ni wedi rhoi ein holl adroddiadau mewn un lle ar ein gwefan.
Cymerwch olwg dda, ac os oes gennych chi sylwadau, rhowch wybod i ni drwy e-bost contactus@wwha. co.uk neu ein ffonio ni ar 0800 052 2526. Mae hyn yn cynnwys ein Graffigau gwybodaeth, adroddiadau blynyddol, datganiadau ariannol, dyfarniad ynghylch hyfywedd ariannol Llywodraeth Cymru ac adroddiad rheoleiddiol Llywodraeth Cymru. I weld yr adroddiadau hyn, ewch i’n gwefan www.wwha.co.uk a chlicio ar y ddolen ‘ein perfformiad’ ar y dde.
Atgyweirio fy nghartref Perfformiad
7347 o atgyweiriadau wedi eu cwblhau yn ystod y chwarter hwn
Bodlonrwydd
9.3 allan o 10
yw’r sgôr a roddodd preswylwyr i ni am ein gwasanaeth atgyweirio
% 67%
days 9.3
o atgyweiriadau wedi eu cwblhau ar ein hymweliad cyntaf
Beth mae preswylwyr yn ei hoffi Gweithiwr cwrtais a chyfeillgar | Ansawdd y gwaith | Hawdd i roi gwybod am atgyweiriad Beth mae preswylwyr eisiau eu gweld yn gwella Rhagor o atgyweiriadau llwyddiannus | Atgyweiriadau wedi eu cwblhau’n gynt | Cadw at apwyntiadau’n well
Mae hyn wedi golygu edrych ar sut rydym yn trefnu gwaith yn wahanol ar draws Cymru drwy ofyn rhagor o gwestiynau pan roddir
6-10 diwrnod 11-15 diwrnod 16+ diwrnod
Nifer cyfartalog y dyddiau a gymerom i gwblhau atgyweiriad
Adborth gan breswylwyr
Fe ddywedoch wrthym yn y gorffennol eich bod chi eisiau i ni ganolbwyntio ar atgyweiriadau yn cael eu cwblhau yn gynt, yn llwyddiannus, a’n bod ni’n cyrraedd pan ddywedom y byddem yn gwneud hynny. Mae ein sylw wedi bod ar gael y gweithiwr priodol sydd â’r sgiliau, yr offer a’r deunyddiau priodol i ymgymryd â’r gwaith.
0-5 diwrnod
Cwynion
5
o gwynion o’r
7347
atgyweiriadau a gwblhawyd
Sydd tua un gŵyn am bob 1469 o atgyweiriadau a gwblhawyd
gwybod am y gwaith er mwyn sicrhau ein bod yn deall yr hyn sydd angen ei wneud. Rydym hefyd yn defnyddio’r bobl iawn i drefnu dyddiadur ein gweithiwr, sydd â gwell syniad am y ffyrdd lleol a’r sgiliau cywir i aseinio tasgau’n briodol. Mae hyn wedi arwain atom yn mynd drwy ragor o waith sydd yn ei dro yn golygu mynd at dasgau’n gyflymach, ond ar yr un pryd yn sicrhau eich bod yn gwybod ein bod ni ar ein ffordd. Byddwn yn parhau i weithio ar hyn yn ystod misoedd y gaeaf.
Chwarter 3 (Gorffennaf – Medi 2016)
Fy helpu i dalu Perfformiad
1309 o denantiaethau ddim mewn trefniant i dalu eu hôl-ddyledion
Fe wnaethom helpu preswylwyr i: Herio penderfyniadau i roi terfyn ar eu budddal anabledd Chwilio am waith ac adolygu eu cyllidebau i baratoi ar gyfer y Cap ar Fudd-daliadau Dodrefnu eu cartrefi wrth symud i eiddo newydd
85% o denantiaethau yn talu eu rhent yn brydlon neu’n talu eu hôl-ddyledion
Nifer yr achosion o droi allan oherwydd ôl-ddyledion rhent
Preswylwyr yn talu drwy Ddebyd Uniongyrchol
Cwynion
3500
Preswylwyr
Cymorth
PEDWAR
TENANTIAETH
3000
1
2500 2000 1500 1000
cwyn
500 0
Jan Ion
Feb Chwe
Mar Maw
Debyd Uniongyrchol yw’r ffordd hawsaf o dalu, gyda thaliadau yn cael eu50tynnu o’ch cyfrif banc ar ddyddiad sefydlog yn wythnosol neu’n fisol 40 30 sydd fwyaf addas i chi, felly nid oes 20 rhaid i chi boeni!
o’r
1309
o denantiaethau ag ôl-ddyledion
10 0
Jan
Rydym wedi canfod mai un o’r pethau sydd bwysicaf i chi yw eich bod yn gallu talu’r swm priodol o rent ar yr adeg gywir. Yn y chwarter hwn, fe wnaeth 85% o’n holl breswylwyr dalu’r swm priodol ar yr adeg briodol. Rydych chi’n dweud wrthym fod cael swydd lle mae’r oriau a’r cyflog yn newid, yn aml yn wythnosol, ynghyd â’r angen i roi gwybod i’r system Fudd-daliadau Tai am y newidiadau hyn, yn gallu ei gwneud yn anodd gwybod faint o rent sydd i’w dalu bob wythnos, neu bob mis. Mae ein Swyddogion Tai wedi bod yn gweithio
Feb
Mar
gyda phreswylwyr i ddeall sut gallwn weithio i ddatrys hyn, ac yn ystod y 2 chwarter diwethaf rydym wedi helpu dros 100 o breswylwyr i symud at gael eu Budd-dal Tai wedi ei dalu iddyn nhw eu hunain, a sefydlu Debyd Uniongyrchol i dalu’r rhent llawn, ar adeg sy’n gweddu orau iddyn nhw. Mae hyn yn golygu fod y preswylwyr hyn yn gwybod yn union faint o rent sy’n cael ei dalu, a phryd.
Chwarter 3 (Gorffennaf – Medi 2016)
Rydw i eisiau cartref Perfformiad Anghenion cyffredinol
Gofal Ychwanegol
50 40
days
211
Ymddeol
30
10
50 40 30
Nifer y cartrefi rydym wedi eu gosod yn ystod chwarter 3
54%
o’r amser, mae’r cartref yn addas ar gyfer yr unigolyn Ar gyfartaledd mae’n cymryd 32 cyntaf sy’n mynd i’w diwrnod i osod eiddo a chynorthwyo weld preswylwyr i sefydlu cartref 20
0
20 10 0
Bodlonrwydd
9.3 allan o 10
yw’r sgôr a roddodd preswylwyr i ni am ein gwasanaeth wrth ddod o hyd i gartref iddyn nhw
Adborth gan breswylwyr Beth mae preswylwyr yn ei hoffi Lleoliad eu cartref | Y gwasanaeth a ddarperir gan WWH | Nodweddion eu cartref Beth mae preswylwyr eisiau eu gweld yn gwella Atgyweiriadau wedi eu cwblhau yn gynt | Eiddo glanach | Rhagor o eiddo addas
Fel landlord, mae gennym eiddo yn 15 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Ar draws yr ardaloedd hyn mae sawl ffordd wahanol o wneud cais am dai, fel Cofrestri Cyffredin, Systemau Seiliedig ar Ddewis, a Rhestrau Aros, sy’n golygu bod ymgeiswyr wedi cael profiadau gwahanol o wneud cais am gartref, yn dibynnu ar ble maen nhw’n byw. Rydym wedi gwrando arnoch chi i ddeall beth sy’n bwysig i chi wrth feddwl am gartref newydd posibl.
Cwynion
0
cwynion o’r
211
o gartrefi a osodwyd
cartref priodol, neu’r ardal briodol, sydd bwysicaf. Dywedoch wrthym hefyd y byddech yn hoffi pe bai gwybodaeth gliriach ynghylch pa atgyweiriadau fyddai’n cael eu gwneud yn yr eiddo, a dywedodd rhai ohonoch wrthym hefyd eich bod chi’n teimlo y gallai’r eiddo fod wedi bod yn lanach.
Rydym wedi sefydlu adolygiad o’r system sydd ar waith i nodi pa waith y gall fod ei angen pan mae eiddo ar fin bod yn wag, ac rydym yn treialu dull newydd ym Mhen-y-bont Rydych chi wedi dweud wrthym mai’r eiddo priodol, ar Ogwr. Yn ogystal â’r adolygiad ehangach hwn, byddwn hefyd yn edrych yn ôl ar y materion unigol a godwyd yn y lle priodol, yw’r hyn sydd bwysicaf i chi, ac yn yr Arolygon Bodlonrwydd rydym yn eu cynnal, mae gennych fel ein bod ni’n dysgu’r gwersi priodol i wneud yn bron hanner ohonoch wedi dweud wrthym mai’r siŵr ein bod ni’n lleihau’r problemau hyn yn y dyfodol.
Chwarter 3 (Gorffennaf – Medi 2016)
@!
$%&
Ymddygiad gwrthgymdeithasol
$%&
@!
Perfformiad
66
SŴN
69
CAM�DRIN GEIRIOL YMDDYGIAD BYGYTHIOL
o achosion ymddygiad o achosion ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi gwrthgymdeithasol wedi eu hagor neu eu hailagor eu datrys gennym
Bodlonrwydd
8
allan o 10 yw’r sgôr a roddodd preswylwyr i ni am y cymorth a gawson nhw gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol
Y materion ymddygiad gwrthgymdeithasol mwyaf cyffredin
Adborth gan breswylwyr Beth mae preswylwyr yn ei hoffi Ymateb cyflym | Cael yr wybodaeth ddiweddaraf | Y broblem yn cael sylw Beth mae preswylwyr eisiau Ei weld yn gwella Ymateb cyflymach | WWH yn cymryd mwy o gamau | Yr Heddlu’n cymryd mwy o gamau
Yn y chwarter hwn rydych wedi dweud wrthym eich bod chi’n hapus â’r ymateb i’ch pryderon, ein bod wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi, a’n bod ni wedi eich helpu chi i fynd i’r afael â’r broblem. Rydym wedi gweld bod 14 o achosion wedi eu hailagor yn y chwarter hwn. Ar ôl siarad â’r preswylwyr dan sylw gwelsom mai’r un math o broblemau sy’n digwydd eto lle nad oeddem wedi helpu i ddatrys y broblem briodol. Byddwn yn gweithio gyda’r preswylwyr hyn yn y chwarter nesaf i sicrhau ein bod ni’n deall yn
Cwynion
2
cwynion allan o
66
anti-social behaviour cases reported
llawn beth yw achosion y problemau, a sut gallwn ni eu datrys. Mae’n bwysig ein bod ni’n sicrhau bod ein systemau i gefnogi preswylwyr wrth ddatrys problemau gyda’u cymdogion, neu yn eu cymuned, yn darparu’r gwasanaeth priodol. Rydym wedi bod yn gwrando, ac yn parhau i wrando, ar breswylwyr er mwyn deall yr hyn sy’n bwysig wrth gysylltu â ni am broblemau penodol. Rydym yn defnyddio’r sylwadau hyn, ynghyd â’r gwersi a ddysgwyd gennym mewn ardaloedd eraill, er mwyn gwella’r gwasanaeth a ddarparwn.
Chwarter 3 (Gorffennaf – Medi 2016)
Rhagor o gartrefi
Wedi dechrau Wedi cwblhau
2016
325
2015
2014
Perfformiad
Nifer y cartrefi roeddem yn eu hadeiladu yn chwarter 2
Fe wnaethom gwblhau 57 o gartrefi newydd
Bodlonrwydd
Adborth gan breswylwyr
8.5
Beth mae preswylwyr yn ei hoffi Faint o le storio sydd ar gael | Lleoliad | Mannau y tu allan, yn enwedig y rhai mewn cynlluniau fflatiau gyda balconïau
allan o 10
yw’r sgôr a roddodd preswylwyr i ni wrth ddisgrifio eu cartref newydd
Cwynion
0
cwynion allan o
Beth mae preswylwyr eisiau ei weld yn gwella Storfeydd biniau cymunol | Fflatiau cynllun agored
Yn dilyn eich adborth rydym yn adolygu cynlluniau fflatiau i greu cegin ar wahân ac yn osgoi’r trefniadau cynllun agored y dywedoch wrthym nad oedden nhw’n gweithio ym mhob sefyllfa. Fel rhan o’r adolygiad hwn o gynlluniau rydym yn edrych ble gellir ymgorffori balconïau i greu’r lle preifat y tu allan y dywedoch wrthym eich bod chi’n ei hoffi. Mae mannau storio biniau cymunedol yn broblem a nodwyd gennych chi, gan nad ydyn nhw bob amser yn ddigon mawr a bod bagiau yn cael eu taflu dros y giât.
57
o gartrefi newydd a gwblhawyd
Yn eich adborth rydych chi wedi cyflwyno’r awgrym o ganopi dros y storfa biniau i leihau’r sbwriel sy’n cael ei daflu drosodd. Mae’r awgrym hwn yn cael ei gyflwyno fel rhan o’r adolygiad o gynlluniau ynghyd â maint y man storio i alluogi mwy o barthau ailgylchu ar eich cais. Rydym yn falch bod y newidiadau rydym wedi eu gwneud i ddyluniadau’r ceginau wedi gwella’r defnydd o’r gypyrddau fel y sylwom yn yr adborth yn eich arolygon.
Chwarter 3 (Gorffennaf – Medi 2016)
Sut rydym yn rhedeg ein busnes Perfformiad Pob galwad arall
Galwadau ynghylch atgyweiriadau 4
10yb
33 Munudau
31,009
22
9yb
11
3
Arian a wariwyd
2 1
£
Ebr
Mai
Meh
500 Hyd cyfartalog yr amser a gymerom i ateb eich galwadau 400 4
0
500 500
Ein cyfnodau prysuraf o ran galwadau
300
Gwerth am arian
200 100 0
Cwynion
£ wedi ei wario fesul cartref
Q3 2014 Q4 2014 Q1 2015 Q2 2015 Q3 2015 Q4 2015 Q1 2016 Q2 2016
11
400 400
300 Q2 2016 300 1 2015 Q2 2015 Q3 2015 Q4 2015 Q1 2016
Q2 2016
Datblygiadau newydd Pobl Cynnal a chadw Ceginau, ystafelloedd ymolchi a chyfarpar newydd Llog ar fenthyciadau Atgyweiriadau mawr Gorbenion Ad-dalu benthyciadau
200 200
cwynion
100 100 0
9yb
11yb
0
Nifer y galwadau a atebwyd gennym yn ystod y chwarter hwn
10yb
11yb
Q3Q1 2014 Q4Ch2 2014 Q1Ch3 2015 Q2Ch4 2015 Q3Ch1 2015 Q4Ch2 2015 Q1Ch3 2016 Q2Ch4 2016
2014
2014
Rheoli
2014
2014
2015
Cynnal a chadw
2015
2015
2015
Arall
Faint mae’n ei gostio fesul cartref i redeg ein busnes
Rydym wedi gweithio’n galed i ateb galwadau yn gyflymach ac mae’r amser cyfartalog wedi gostwng i lai na munud yn ystod y chwarter diwethaf. Ar adegau prysur mae’n cymryd mwy o amser, a byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar leihau hyn. Rydym yn gwybod bod cael gwerth am arian yn bwysig i breswylwyr. Mae ein costau cynnal a chadw yn parhau i ostwng o fis i fis ac rydym yn cadw’r rhan fwyaf o gostau eraill yn gyson. Rydym yn buddsoddi mewn systemau TG gwell fel y gall ein staff weithio o bell yn fwy effeithiol
yn
cyfanswm ystod y chwarter hwn
a darparu’r amrywiaeth lawn o wasanaethau tai mewn cartrefi preswylwyr ac felly lleihau’r angen i deithio’n ôl i’r brif swyddfa. Roedd yr un ar ddeg o gwynion yn ystod y chwarter, yn bennaf am waith atgyweirio a chynnal a chadw (5) ac ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol (2). O’r rhain, cafodd 3 eu cadarnhau.
Chwarter 3 (Gorffennaf – Medi 2016)
28 | www.wwha.co.uk | intouch | Datblygiadau diweddaraf
Preswylwyr yn symud i gartrefi newydd Agorodd dau ddatblygiad yng ngorllewin Cymru yn ddiweddar, gydag un ym Mrynsalem, Felinfach, ac un yn y Foel Goch, Bow Street, Aberystwyth Fe wnaeth y preswylwyr a’r plant fwynhau hufen iâ tra agorwyd y datblygiadau yn swyddogol gan y Cyngh. Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion. Rhoddwyd mainc newydd ar y ddwy stad i bawb eu mwynhau. Roedd y cynghorydd lleol Lynford Thomas yn agoriad Brynsalem a chroesawyd y cynghorydd lleol, Paul Hinge, i agoriad Foel Goch. Roedd yn gyfle gwych i bawb gwrdd â'i gilydd ac roedd yn wych gweld teuluoedd yn setlo yn eu cartrefi newydd. Mae 23 eiddo ym Mrynsalem, wedi eu dyrannu i ymgeiswyr sydd â chysylltiad lleol â Felinfach neu bentrefi cyfagos,
Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn a Rhodri Jones gyda phreswylwyr wrth Brynsalem
ac mae 14 o deuluoedd wedi cael cartref yn y datblygiad. Yn Foel Goch dyrannwyd 26 o dai i ymgeiswyr sydd â chysylltiad lleol â Felinfach neu bentrefi cyfagos, ac mae 16 o deuluoedd wedi cael eu cartrefu yno. Cafwyd trosglwyddiad llwyddiannus yng Nghlos-yr-Helyg, Crymych, hefyd. Roedd staff o'r Timau Datblygu a Thai wrth law ar safle hen depo priffyrdd Cyngor Sir Penfro i groesawu preswylwyr newydd i'w cartrefi newydd. Mae'r datblygiad yn cynnwys 18 eiddo - 6 fflat 1 ystafell wely i 2 unigolyn, 5 cartref â 2 ystafell wely i 4 unigolyn a 7 cartref â 3 ystafell wely i 5 unigolyn, gan roi cartref i 12 o deuluoedd gyda’i gilydd.
Clos yr Helyg, Crymych
Datblygiadau diweddaraf| intouch | www.wwha.co.uk | 29
Creu argraff ar ysgrifennydd y cabinet Cafodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant AC, ei blesio’n fawr pan ymwelodd â’n datblygiad gwerth £2.4 miliwn o gartrefi fforddiadwy yn Abergele. Disgyblion o Ysgol Emrys ap Iwan ynghyd â phreswylwyr o Tŷ Gwynn Jones, cynllun tai â chymorth wrth ymyl y datblygiad, a feddyliodd am yr enwau, Llys Jenkin a Llys yr Ysgol. Cyfarfu Carl Sargeant AC â thrigolion a chafodd daith o amgylch y cynllun, sy'n cynnwys 31 o dai a fflatiau â 2 neu 3 ystafell wely. Mae gan un o’r preswylwyr, Michelle Roberts, sy’n 40 oed, ac sy'n dioddef o gyflyrau iechyd corfforol cronig
amrywiol, ystafell wlyb i lawr y grisiau yn ogystal â lifft grisiau. Dywedodd Michelle: "Mae ein cartref newydd yn hyfryd, anhygoel, gwych, clyd, cynnes, cartrefol a hollol arbennig. Diolch yn fawr am y cyfle gwych i dyfu fel teulu a mwynhau ein dechrau o'r newydd." Mae’r cynllun hefyd yn gartref i Kickstart, sef rhaglen gymorth sy’n cael ei rhedeg gan Gofal a Chymorth Castell. Trowch at dudalen 18.
Ar restr fer ar gyfer gwobr Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod ein cynllun yng Nghefn Coed, Scleddau, wedi ennill Gwobr Rhagoriaeth Adeiladu LABC Cymru Gyfan 2016 ar gyfer Tai Cymdeithasol a bellach wedi symud ymlaen i’r Gwobrau LABC clodfawr Prydain gyfan yn y Parc Plaza yn San Steffan yn Llundain.
30 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a Gwybodaeth am WWH
Chwilio am deigrod! Mae’r Tŷ Curig Tigers yn dîm pêl-droed a grëwyd ac a arweinir gan ddefnyddwyr gwasanaeth y Foyer. Gyda chymorth y staff, mae’r garfan yn cynnwys preswylwyr a chyn-breswylwyr y prosiect.
Maen nhw’n chwarae yng nghynghrair 6-bob-ochr Aberystwyth ac mae eu gemau wythnosol wedi bod yn rhywbeth i ganolbwyntio arno i lawer ohonyn nhw, ac maen nhw wedi datblygu eu sgiliau a'u hyder sydd wedi cael ei drosglwyddo i agweddau eraill ar eu bywydau. Ar hyn o bryd mae carfan o wyth yn dod at ei gilydd bob wythnos i gymryd rhan yn y gemau cystadleuol, ond o ganlyniad i’w broffesiynoldeb cymharol, mae galw cynyddol gan eraill am gael ymuno yn y sesiynau hyfforddi. Felly, rydym yn ystyried y posibilrwydd o greu tîm 11-bob-ochr. Mae'r sesiynau yn agored i unrhyw un o'r 20 o breswylwyr sydd yn y prosiect, yn ddynion a merched, ac unrhyw un o'u ffrindiau. Pan ymunom â’r gynghrair gyntaf tua 18 mis yn ôl, dim ond un bachgen oedd mewn cyflogaeth lawn
amser, gyda phawb arall, am nifer o resymau, ddim mewn unrhyw fath o addysg, hyfforddiant na chyflogaeth. Heddiw mae pob un o'r bechgyn wedi mynd ymlaen i sicrhau cyflogaeth, ac maen nhw wedi priodoli hynny, yn rhannol, i’r hyder a geir drwy fod yn rhan o'r tîm. Gorffennodd y Tigers y tymor hwn yn gymeradwy iawn yn y pedwerydd safle a hefyd dyfarnwyd gwobr Chwaraewr y Tymor y gynghrair gyfan i’r golwr Sion Clifton, ar ôl cael y nifer fwyaf o enwebiadau seren y gêm. Rydym hefyd wedi cael cymorth gan fusnes lleol, Clive's Menswear, a brynodd git ar gyfer diwrnodau gemau i’r tîm, a oedd yn hwb mawr i'r bechgyn gael rhywun a oedd yn credu ynddyn nhw ddigon i roi enw ei fusnes ar eu crysau.
Newyddion a gwybodaeth am WWH | intouch | www.wwha.co.uk 31
Hoffi bwyd, casáu gwastraff Pam mae gwastraff bwyd yn bwysig? Mae gwastraffu bwyd a diod yn wastraff arian. Wyddech chi y gallai'r teulu cyffredin arbed hyd at £700 y flwyddyn, dim ond drwy gael gwared ar lai o fwyd? Mae Hoffi bwyd, Casáu Gwastraff yn fenter genedlaethol i geisio mynd i'r afael â'r mater hwn. Mae'n cynnig cyngor ymarferol am nifer o fesurau arbed bwyd, o gynllunio i ddognau bwyd, o ddulliau gwell o storio bwyd i ddefnyddio bwyd dros ben. Dyma rai o'u hawgrymiadau doeth i'ch helpu i ddechrau gwastraffu llai o fwyd a diod, arbed arian a helpu'r amgylchedd.
• Gwiriwch y labeli dyddiad. Mae’r rhai 'AR EI ORAU CYN' yn cyfeirio at ansawdd yn hytrach na diogelwch bwyd, felly dylai’r bwydydd hyn fod yn ddiogel i'w bwyta ar ôl y dyddiad, ond efallai na fyddan nhw ar eu gorau. Mae dyddiadau 'DEFNYDDIO ERBYN' yn cyfeirio at ddiogelwch, felly gellir bwyta’r bwyd cyn y dyddiad hwn ond nid ar ôl. Wyddech chi, er mwyn ymestyn oes bwyd y tu hwnt i'w ddyddiad, gallwch ei rewi hyd at ei ddyddiad 'defnyddio erbyn', yna ei ddadrewi a'i ddefnyddio o fewn 24 awr.
• Cynllunio prydau ymlaen llaw yw un o'r ffyrdd symlaf o arbed arian; gwnewch yn siŵr eich bod yn prynu’r hyn rydych chi ei angen yn unig ac yn defnyddio’r hyn sydd gennych chi’n barod. Cyn mynd i siopa, cymerwch olwg i weld beth sydd yn eich cypyrddau, yna gwnewch restr fel eich bod yn prynu’r hyn sydd ei wir angen arnoch yn unig. • Storiwch eich bwyd yn briodol er mwyn ei gadw'n ffres yn hirach. Er enghraifft, rhowch afalau yn yr oergell, tatws mewn lle tywyll oer, a bara mewn cwpwrdd neu rewgell. • Gallai bwyd oedd dros ben neithiwr fod yn wledd heno. Nid oes rhaid i chi fod yn dduw neu dduwies ddomestig yn y gegin – gall meddwl am ryseitiau newydd syml i ddefnyddio’r bwyd sydd gennych chi dros ben wneud gwahaniaeth mawr rhwng bwyd yn mynd i’r bin (ynghyd â'ch arian), a bwyta bwyd blasus a’ch arian yn aros yn ddiogel yn eich poced.
Mae Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff hefyd yn cynnig sesiynau hyfforddi ar gyfer amrywiaeth o sefydliadau gan gynnwys awdurdodau lleol, busnesau a grwpiau cymunedol, sy'n dymuno mynd ati o ddifrif i leihau gwastraff bwyd. Mae'r hyfforddiant yn ymdrin â chefndir a materion yn ymwneud â gwastraff bwyd, yr ymddygiadau allweddol i helpu i leihau gwastraff bwyd, a chymorth ar ymgysylltu â phobl eraill a throsglwyddo negeseuon. Mae rhagor o fanylion am y fenter hon i’w cael ar
wales.lovefoodhatewaste.com
32 | www.wwha.co.uk | intouch | Gwneud gwahaniaeth i’ch dyfodol
Mamau’n dychwelyd i’r gwaith
Bob Jenkins yn rhoi cipolwg ar ffenestri solar i Gemma a Marie Yn ddiweddar, cwblhaodd tair o’n preswylwyr o Gaerdydd, sef Amy (28 oed), Gemma (32 oed), a Marie (30 oed) wythnos "llwybr carlam i'r gweithle" rhaglen yn ein Prif Swyddfa, gan ddysgu am WWH a rolau amrywiol yn yr adrannau Adnoddau Dynol, Cyllid, Dewisiadau Tai a'r Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid, ynghyd â hyfforddiant sgiliau cyflogadwyedd a throsglwyddadwy. Fe gawson nhw’r cyfle hefyd i ddylunio ac adeiladu cynnyrch bach a cheisio ei werthu i banel o feirniaid fel ffordd o ddatblygu hyder, gan ddangos menter, a phrofi sgiliau cyflwyno hefyd.
Er eu bod nhw’n gorfod gofalu am eu plant hefyd, roedd pob un o'r mamau yn awyddus i ddysgu sut mae gwaith yn "gallu gweithio" iddyn nhw drwy bolisïau sy'n ystyriol o deuluoedd, gan gynnwys gweithio hyblyg.
Ar y diwrnod olaf, rhoddodd Bob Jenkins, A ninnau’n un o'r 30 cyflogwyr mwyaf Rheolwr Gweithrediadau yn Solar cyfeillgar i deuluoedd yn y Deyrnas Windows, Caerffili, drosolwg o Solar a Unedig, dywed y Prif Weithredwr, Anne gwaith y cwmni gyda WWH, yn ogystal â Hinchey: "Yn WWH mae hyblygrwydd chynnal cyfweliadau ffug. Dywedodd Bob yn rhan o’n trefn arferol. Rydym yn ei "Nid yw’n hawdd ymuno â’r byd gwaith gwneud yn flaenoriaeth gorfforaethol i neu ddychwelyd iddo pan fydd gennych gefnogi ein staff i ddarparu gwasanaethau ymrwymiadau teuluol, a’r her anoddaf yw i breswylwyr gan sicrhau eu bod yn dal i datblygu hyder i ymgeisio am swyddi. Mae’r allu rhoi’r amser sydd ei angen i gwrdd ag cwrs yn gyfle delfrydol i wneud hynny”. ymrwymiadau teuluol." Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cofrestru ar gyfer y cwrs profiad gwaith nesaf, neu gael rhagor o gymorth cyflogaeth neu hyfforddiant, ewch i “Get job ready” ar ein gwefan neu ffoniwch 0800 052 2526.
Gwneud Gwahaniaeth i’ch Dyfodol | intouch | www.wwha.co.uk | 33
"Mae mwy o le i Henry yma!” Karen Buxton, sy’n 46 oed, oedd un o’r preswylwyr cyntaf i ymweld â’n swyddfa newydd yn Ewloe, gan ei bod hi’n lanhawraig yno! Mae Karen wedi bod yn un o breswylwyr Tai Wales & West yn Llaneurgain, Sir y Fflint, am 12 mlynedd ac mae hi wrth ei bodd yn ei chartref a’i swydd. "Mae fy mhlant Liam, sy’n 23 oed, a Kelly, sy’n 20 oed, wedi cael eu magu yn ein cartref yn Llaneurgain felly mae hwn wedi bod yn gartref i'r teulu o ddifrif," meddai Karen. “Mae'r swyddfa newydd yn drawiadol iawn - mae mwy o le nag oedd yn y swyddfa yn y Fflint ac mae'n dda cael popeth dan yr un to. Yn hytrach na gorfod storio popeth dan y grisiau, mae yna ddigon o le erbyn hyn - yn enwedig ar gyfer Henry y sugnwr llwch!”
Canllaw Cyfathrebu cyn mynd i’r Ysbyty Yr app sy’n helpu i gyfathrebu â’r rhai sydd wedi cael damwain sydd angen cymorth cyfathrebu ychwanegol: • • • •
Pobl sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw Pobl sydd ddim yn siarad Saesneg fel iaith gyntaf Pobl sydd ag anableddau dysgu Pobl y mae eu salwch neu eu hanaf yn effeithio ar eu cyfathrebu Mae’r app yn defnyddio delweddau a swm bychan o destun i’ch helpu chi i ddod o hyd i wybodaeth bwysig am rhywun neu beth sydd wedi digwydd iddyn nhw os ydyn nhw wedi cael damwain. Llwythwch yr app i lawr am ddim! iOS – chwiliwch am ‘PreHospApp’ Blackberry – chwiliwch am ‘pre hospital app’ Android – chwiliwch am ‘Pre-Hospital Communication App’
34 | www.wwha.co.uk | intouch | Adroddiad Blynyddol y Larwm mewn Argyfwng
Eich barn am y larwm
Adolygiad o’n Gwasanaeth Larwm, Gorffennaf 2015 – Mehefin 2016
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi parhau i ddatblygu ein gwasanaeth ac wedi gweithio ar wella ansawdd y ffordd rydym yn trin galwadau. Mae gennym aelodau newydd o’r tîm ac wedi gweithio'n galed ar ddiweddaru hyfforddiant y tîm ym mhob maes, ond yn enwedig ynghylch Diogelu Data a Diogelu yn gyffredinol.
Ym mis Tachwedd 2015, aethom i gynhadledd flynyddol y Gymdeithas Gwasanaethau Teleofal, lle gwnaethom gwrdd â darparwyr gwasanaethau eraill ac edrych ar amrywiaeth o gynhyrchion teleofal newydd sydd ar y farchnad.
Buom mewn cyfarfodydd gyda Heddlu Gogledd Cymru, y Gwasanaethau Ambiwlans a Thân, a GIG Cymru, gan weithio gyda Gwasanaethau Larwm eraill i ddatblygu dull cyson o ddelio â'r Gwasanaethau Brys.
Yn adroddiad y llynedd, dywedom wrthych am adolygiad o'n systemau cyfrifiadurol a'r feddalwedd a ddefnyddiwn i ateb ac ymateb i’r adegau y bydd ein cwsmeriaid yn seinio’r larwm. Rydym wedi cynnal proses dendro gystadleuol ac wedi dewis darparwr newydd ar gyfer y cyfarpar hwn, sy'n cael ei osod yn ein swyddfeydd newydd.
Rydym hefyd wedi cwrdd â Landlordiaid Cymdeithasol eraill ac wedi siarad gyda nhw ynghylch sut gall ein Gwasanaeth Larwm ddarparu cymorth i’w preswylwyr sy’n cael trafferth ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Rydym hefyd wedi ychwanegu Swyddog Gwasanaethau Cwsmeriaid newydd at ein tîm, gan roi cyfanswm o bedwar, a’n galluogi i sicrhau fod gennym oruchwyliwr yn y swyddfa i gefnogi ein tîm yn ystod y penwythnosau a gyda’r nos.
Yn y cyfnod rhwng Gorffennaf 2015 a Mehefin 2016: Gwnaethom
3,916 galwad frys
459 galwad y dydd Atebodd ein tîm
11,127
larwm wedi eu cysylltu * targedau’r Gymdeithas Gwasanaethau Teleofal
167,701 o alwadau
100% wedi eu hateb
mewn 3 munud (targed = 99%)*
99.3%
wedi eu hateb mewn 60 eiliad (targed = 97.5%)*
7,308 cartref â larwm
64,239
galwad i sicrhau eich bod chi’n iawn
28
o ymchwiliadau a gynhaliwyd i sylwadau, a darparwyd atebion i’r cwsmeriaid hynny Ni chofnodwyd unrhyw gwynion difrifol yn ystod y cyfnod
Adroddiad Blynyddol y Larwm mewn Argyfwng | intouch | www.wwha.co.uk 35
Bob blwyddyn rydyn ni’n anfon arolwg i ofyn am eich barn:
99%
yn canmol cwrteisi’r staff
98%
yn dweud bod staff yn garedig
96%
98%
yn canmol y gwerth am arian
yn canmol ein proffesiynoldeb
431
wedi dychwelyd arolygon
96%
yn fodlon â chyflymder yr ymateb
95%
yn fodlon â’r gwasanaeth a gawson nhw
Beth ddywedoch chi am ein gwasanaethau: "Mae’r gwasanaeth yn darparu synnwyr o ddiogelwch i’m mam a minnau. Diolch." "Rwyf wedi llenwi'r ffurflen hon ar ran fy mam a dyma ei hatebion a'i sylwadau. Mae fy mam yn hynod o hapus gyda'r gwasanaeth a ddarperir a byddai ar goll hebddo. Fel ei mab, fi yw'r rhif cyntaf ar y rhestr gan fy mod i’n byw’n agos, ac ni allaf ddiolch digon i’r staff a'r gwasanaeth am eu cymorth a'u natur ystyriol. Diolch o galon!"
"Gwasanaeth gwych! Yn enwedig i bobl mewn oed sy'n byw ar eu pen eu hunain, yn debyg i mi - yn ŵr gweddw ers deg mlynedd a hanner. Mae o gysur mawr pan fydd rhywun yn teimlo'n unig ac yn sâl. Dylai eich gwasanaeth i ddefnyddwyr y larwm gael rhagor o gyhoeddusrwydd!!" "Bu sawl digwyddiad yn ystod y blynyddoedd diweddar pan fu’r gwasanaeth hwn yn amhrisiadwy."
Edrych tua’r dyfodol Yn ystod gweddill 2016 ac i mewn i 2017 byddwn yn canolbwyntio ar hyfforddi’r tîm i ddefnyddio ein meddalwedd newydd a siarad gyda’n cwsmeriaid i helpu i weld sut gallwn arloesi i wella ansawdd y gwasanaeth rydyn ni’n ei
ddarparu. Fe rown ni wybod i chi am newidiadau yn ystod y flwyddyn newydd, ond gallwch fod yn dawel eich meddwl y byddwn ni yma bob awr o’r dydd, pryd bynnag y byddwch chi ein hangen ni.
Os oes gennych chi sylwadau am ein gwasanaeth neu awgrymiadau ar gyfer gwelliannau, cysylltwch â Rheolwr ein Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid, Christine Bowns.
0800 052 2526
36 | www.wwha.co.uk | intouch | Materion ariannol
Allwch chi hawlio rhywfaint o’ch Treth Gyngor yn ôl? Mae’n bosibl y gallai degau ar filoedd o bobl sy'n byw neu sydd wedi byw gyda rhywun sydd â 'nam meddyliol difrifol' hawlio rhywfaint o’r dreth gyngor yn ôl, yn ôl gwefan cyngor ariannol MoneySavingExpert.com Dyma sut i hawlio: Mae rhywun sydd wedi cael ei ardystio’n feddygol fel un sydd â chyflwr parhaol sy'n effeithio ar eu deallusrwydd a’u gweithrediad cymdeithasol (e.e. clefyd Alzheimer neu Parkinson) yn cael ei 'ddiystyru at ddibenion y Dreth Gyngor’ yng Nghymru, Lloegr a'r Alban - mewn ffordd debyg i fyfyrwyr, er enghraifft. Fel arfer os mai dim ond un sy’n byw mewn cartref, byddwch yn cael gostyngiad o 25% ar eich treth gyngor. Ond os ydych chi’n byw gyda rhywun sydd â nam meddyliol difrifol a dim un oedolyn arall - neu oedolion sy'n cael eu diystyru at ddibenion y Dreth Gyngor yn unig - gallwch hefyd hawlio 25% o ostyngiad. Gallwch hawlio am yn ôl hefyd. Ni ddylai unrhyw un sydd â nam meddyliol difrifol sy’n byw ar ei ben ei hun fod yn talu’r Dreth Gyngor o gwbl. Mae'n amhosibl pennu union swm y bobl sy'n byw gyda rhywun sydd â nam meddyliol difrifol ac sy’n talu gormod o
Dreth Gyngor, ond mae tair elusen fawr - y Gymdeithas Alzheimer, Parkinson UK a'r Gymdeithas Strôc - yn dweud fod ymwybyddiaeth o'r arbedion treth yn isel iawn ymysg y rhai sy’n cael eu heffeithio a'u hanwyliaid. Os ydych yn ymhlith y rhai sydd wedi bod yn colli allan ar yr arbediad, gallwch nid yn unig wneud yn siŵr eich yn elwa ar y gostyngiad o 25% yn y dyfodol, gallwch hefyd hawlio am yn ôl os ydych chi wedi talu gormod ar unrhyw adeg er 1993. Mae'n debygol y gallai degau neu hyd yn oed gannoedd ar filoedd gael ad-daliad.
Materion Ariannol | intouch | www.wwha.co.uk | 37
Pwy sy’n gymwys i gael ei ddiystyru ar gyfer dibenion y Dreth Gyngor? Mae nifer o resymau pam y byddai rhywun yn cael ei ddiystyru at ddibenion y Dreth Gyngor. Os oes gan rywun nam meddyliol difrifol, bydd yn cael ei ddiystyru os yw'r ddau amod a ganlynol yn berthnasol: 1. Maen nhw wedi cael eu hardystio yn feddygol fel rhai â nam meddyliol difrifol. Er enghraifft, os oes ganddyn nhw ddementia, clefyd Parkinson, anawsterau dysgu difrifol neu wedi cael strôc. 2. Maen nhw’n gymwys i gael o leiaf un o'r budd-daliadau a ganlyn: (nid yw'r rhain i gyd yn seiliedig ar brawf modd, ac nid oes angen iddyn nhw wneud cais am fudd-daliadau i gael y disgownt mewn gwirionedd)
- Lwfans gweini dan Adran 64 y Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol - Lwfans anabledd difrifol - Cyfradd uchaf neu ganol elfen ofal lwfans byw i'r anabl - Cydran byw bob dydd y taliad annibyniaeth bersonol - Cynnydd yng nghyfradd eich pensiwn anabledd - Credyd Treth Pobl Anabl - Budd-dal Analluogrwydd - Lwfans cyflogaeth a chymorth - Lwfans i'r Anghyflogadwy neu atodiad - Lwfans Gweini Cyson neu gymhorthdal incwm gyda phremiwm anabledd.
Pwy arall sy’n gymwys i gael gostyngiad ar eu Treth Gyngor? Nid yw hawlio gostyngiad o 25% wedi ei gyfyngu i'r rhai sy'n byw gyda rhywun sydd â nam meddyliol difrifol yn unig. Os mai chi yw'r unig oedolyn sy'n byw gyda rhywun sydd yn unrhyw un o'r categorïau hyn sy'n cael eu diystyru at ddibenion y Dreth Gyngor, dylech fod yn gallu hawlio: • Pobl yn y ddalfa • Pobl y mae budd-dal plant yn daladwy • Prentisiaid • Cynorthwywyr ieithoedd tramor • Myfyrwyr ar gyrsiau llawn amser • Myfyrwyr dan 20 oed ar gyrsiau cymwys
• nyrsys dan hyfforddiant • hyfforddeion ifanc • cleifion sydd â’u prif breswylfa yn yr ysbyty • cleifion mewn cartrefi • gweithwyr gofal • preswylwyr hostelau, llochesi nos • aelodau pencadlysoedd rhyngwladol/ sefydliadau amddiffyn • aelodau o gymunedau crefyddol • rhai sy’n gadael ysgol/coleg • pobl â chysylltiad perthnasol â’r lluoedd arfog • gŵr/gwraig tramor myfyrwyr.
Os ydych chi’n meddwl eich bod chi’n gymwys i gael disgownt oherwydd eich bod yn byw gyda rhywun sydd yn unrhyw un o'r categorïau hyn, dylech gysylltu â'ch cyngor. Efallai y byddwch hefyd yn gallu hawlio am flynyddoedd blaenorol (ar yr amod bod gennych dystiolaeth i gefnogi eich cais).
38 | www.wwha.co.uk | intouch | Gwneud Gwahaniaeth i’ch Cymuned
Datrys y cod
Mae plant ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn llawn cyffro bod clwb codio cyfrifiadurol newydd wedi cael ei lansio yng nghanol y dref diolch i arian gan Tai Wales & West.
Dywedodd Shaun Edwards, sef prif symbylydd y prosiect: "Nid oedd gennym arian i brynu’r offer cyfrifiadurol roeddem ei angen i sefydlu'r Clwb, felly aethom at Tai Wales & West, a gytunodd yn garedig i dal am y chwe gliniadur roedden ni eu hangen. Gyda 18 o blant wedi cofrestru’n barod, rydym yn gobeithio cynnal sawl sesiwn o’r Clwb bob wythnos". Cafodd y Clwb Codio, sy'n dysgu plant 9 - 11 oed hanfodion codio cyfrifiadurol drwy ddysgu sut i greu gemau, animeiddiadau a gwefannau gan ddefnyddio adnoddau a grëwyd yn arbennig, ei lansio ym mis Hydref a bydd yn rhedeg bob bore Sadwrn o’i bencadlys yn ORACLE Services ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Esboniodd Sharon Rouse, Prif Weithredwr ORACLE SERVICES, sut roedden nhw’n annog unigolion o bob oedran a chefndir i ddod i’r ORACLE. “Mae'r Clwb Codio yn gyfle gwych i ni ymgysylltu â phobl ifanc ac, yn eu tro, eu rhieni. Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth â WWH ers nifer o flynyddoedd ac mae eu haelioni wedi ein galluogi i sefydlu’r prosiect hwn”. Ychwanegodd Cadeirydd Bwrdd Tai Wales & West, Sharon Lee, a aeth draw i gyflwyno'r cyfrifiaduron newydd i’r Clwb: “Yn Tai Wales & West rydym yn credu mewn gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud gwahaniaeth i fywydau, cartrefi a chymunedau pobl. Dyma pam roeddem yn awyddus i gymryd rhan yn y prosiect gwych hwn sy'n rhoi cymaint o gefnogaeth ac anogaeth i’n pobl ifanc.”
Y diweddaraf am elusennau| intouch | www.wwha.co.uk | 39
Elusen ymadawyr gofal yn cael £10,000 Fe wnaeth elusen sy'n darparu cefnogaeth amhrisiadwy i'r rhai sy'n gadael gofal gymaint o argraff ar aelodau Bwrdd Tai Wales & West fel eu bod wedi cyfrannu rhodd hael o £10,000 at eu hachos. Cafodd y Care Leavers Foundation ei sefydlu yn 1999 gan dri o bobl a gyfrannodd £5 yn unig, ac o fewn saith mlynedd roedd wedi tyfu i fod yn elusen genedlaethol. Heb unrhyw fai arnyn nhw eu hunain, bydd llawer o bobl ifanc 18-29 oed wedi byw mewn mwy nag 20 o gartrefi maeth a/neu gartrefi plant gwahanol erbyn iddyn nhw adael gofal. Maen nhw angen cefnogaeth, anogaeth a chymorth ariannol gan nad oes ganddyn nhw deulu i ddibynnu arnyn nhw yn aml. Mae grantiau a roddir gan yr elusen yn ceisio cefnogi cyfleoedd datblygu personol, addysg, hyfforddiant a chyflogaeth. Mynegodd Janet Rich, Sylfaenydd ac Ymddiriedolwr yr elusen, ei ddiolch ar ran yr elusen am rodd mor hael. "Rydym yn rhoi tua £50,000 o grantiau bob blwyddyn a gallem roi pum gwaith y swm hwnnw pe bai gennym ni hynny i’w roi. Bydd y rhodd hon yn ein helpu i roi hwb i’n grantiau yng Nghymru a sicrhau bod mwy o bobl sy'n gadael gofal yng Nghymru yn gallu byw’n ddiogel yn eu cartrefi ac mynd ati i wneud bywyd fel oedolyn ar gyfer eu hunain heb y bygythiad o galedi ariannol.”
Yn y llun gwelir Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWH, Janet Rich, Care Leavers Foundation, Sharon Lee, Cadeirydd Bwrdd WWH, a Matthew Taylor, un o gynrychiolwyr y Care Leavers Foundation.
Dywedodd Sharon Lee, Cadeirydd Tai Wales & West, ei bod yn anrhydedd cefnogi elusen mor ysbrydoledig. "Mae'r Sefydliad yn cynnig cyfle gwych i bobl ifanc gael y cymorth gorau posibl i'w helpu i gyflawni eu potensial llawn. Fel sefydliad sy'n gyfrifol yn gymdeithasol, mae Tai Wales & West yn falch iawn o gefnogi elusen sy'n cefnogi rhai o'r unigolion mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.”
40| www.wwha.co.uk | intouch | Y diweddaraf am elusennau
Er cof am Yncl Charlie Yn ddiweddar, fe wnaeth Jak Beddows, sy’n ddisgybl 7 oed yn Ysgol Henry Richard yn Nhregaron, gynnal bore coffi Macmillan er cof am ei ewythr Charlie, ar ôl gwylio hysbyseb ar gyfer yr elusen canser ar y teledu.
Ar ôl gwylio'r hysbyseb gofynnodd Jak i’w fam Louise a allai gynnal ei fore coffi Macmillan ei hunan i godi arian er cof am ei ewythr Charlie, a fu farw ym mis Medi 2010 yn sgil canser y pancreas. Felly, penderfynodd Jak feddylgar ar ddyddiad a phwy oedd ef eisiau eu gwahodd. Roedd y prynhawn yn llwyddiannus iawn ac fe gododd £200. Mae ei fam a'i holl deulu yn falch iawn ohono ac yn meddwl ei fod yn beth hyfryd i rywun 7 oed ei wneud.
Y diweddaraf am elusennau | intouch | www.wwha.co.uk | 41
'Giving to Pink' Fe wnaeth preswylwyr o’n cynlluniau er ymddeol yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful godi £1,659 ddydd Gwener 14 Hydref gyda staff o Tai Wales & West. Rhoddwyd yr arian at ymgyrch Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf i sefydlu uned gofal canser y fron arbenigol yn ardal y bwrdd iechyd, sy'n cynnwys preswylwyr o awdurdodau lleol Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf. Cynhaliodd Tŷ Gwaunfarren fore coffi gyda chacennau hyfryd gan Tina Power, ffrind gwerthfawr i Dŷ Pontrhun, y mae hi'n pobi llawer o fwyd i’r preswylwyr. Gwerthwyd pob un o'r cacennau. O ganlyniad, bu’n rhaid i Tina bobi mwy o gacennau yn annisgwyl ar gyfer Tŷ Pontrhun, a oedd yn cynnal te prynhawn. Yn ogystal â chacennau, roedd gan y preswylwyr frechdanau blasus hefyd. Dyma’r ail dro i Dŷ Pontrhun gasglu ar gyfer elusen ganser o fewn wythnos, gan fod ganddyn nhw ddigwyddiad codi arian ar gyfer Nyrsys Macmillan ychydig ddyddiau ynghynt.
42 | www.wwha.co.uk | intouch | Iechyd a diogelwch
Herio troseddau ar garreg y drws
Mae'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu wedi bod yn gweithio gyda Heddlu De Cymru, asiantaethau partner a phreswylwyr lleol i ddatblygu dull newydd o fynd i'r afael â throseddau a sgamiau ar garreg y drws. Mae pob un o'r saith awdurdod lleol yn ne Cymru wedi cefnogi’r ymagwedd newydd hwn at yr ymgyrch 'Dim Galwyr Digroeso' traddodiadol. Cafodd y fenter newydd ei lansio gydag ymgyrch yn y cyfryngau ledled de Cymru i godi ymwybyddiaeth a rhoi gwybod i breswylwyr am eu hawl i ddweud ‘na’ wrth fasnachwyr heb wahoddiad a galwyr niwsans. Mae pob cartref yn cael cynnig sticer a llyfryn, sydd hefyd yn cyfeirio pobl at ragor o wybodaeth am sgamiau drwy'r post, dros y ffôn ac ar-lein. Mae Gwirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu a Swyddogion Cefnogi Cymunedau'r Heddlu yn cyflwyno'r llyfryn a’r sticer i’n cymunedau mwyaf bregus.. Os ydych chi’n gwybod am unrhyw wasanaeth cymunedol lleol arall a all fod yn gyfrwng da i ddosbarthu’r adnodd hwn i breswylwyr, yn enwedig aelodau o'r gymuned sy'n agored i niwed, anfonwch y manylion at: Deanna Lynda Young, E-bost: Deanna. Young@south-wales.pnn.police.uk Ffôn: 07469 907906.
Eich Newyddion a’ch Safbwyntiau | intouch | www.wwha.co.uk | 43
Boreau coffi Macmillan Hanover Court, Pen-y-bont
Wilfred Brook House, Caerdydd
Ddydd Gwener 30 Medi cynhaliodd cynllun er ymddeol Hanover Court ym Mhen-y-bont ar Ogwr Fore Coffi at elusen canser Macmillan.
Ar 21 Medi cynhaliodd preswylwyr yn Wilfred Brook House yn Grangetown, Caerdydd, eu bore coffi a’u harwerthiant nwyddau, a drowyd yn fore coffi Macmillan byrfyfyr.
Trefnwyd y diwrnod gan Ann Arnold, gyda chymorth Irene a Flo. Bu nifer o breswylwyr yn helpu gyda'r addurno ac roedd amrywiaeth anferth o wobrau raffl. Dymuna’r preswylwyr a ddaeth i’r digwyddiad hwn ddiolch yn fawr i bawb a gyfrannodd arian, a werthodd docynnau raffl ac a gymerodd arian mynediad ar y diwrnod, gan godi’r swm trawiadol o £550!
Llain Las, Sir Benfro Cynhaliodd trigolion a staff Llain Las ddigwyddiad Coffi a Chacen Prynhawn Macmillan ar 28 Medi. Roedd yr holl gacennau wedi eu gwneud gan y trigolion a chodwyd chyfanswm o £500. Tynnodd artist preswyl luniau o geir clasurol, a gafodd eu rhoi ar ocsiwn, a rhoddodd phreswylydd gwrywaidd arall awr o'i wasanaeth ar ocsiwn - gosod silffoedd, ffotograffau, ac ati. Trefnwyd raffl hefyd a chafodd pawb brynhawn ardderchog.
Darparodd aelodau staff Tai Wales & West y cacennau, daeth Lyn Bloc â’i llestri grisial a’i chanhwyllau cartref a bu Vicky Leach yn gwerthu ei ‘Phersawrau Nefolaidd’. Codwyd y swm gwych o £90.31 diolch i haelioni’r preswylwyr a rhoddion yn sgil gwerthu nwyddau. Da iawn bawb am godi arian at yr achos gwerth chweil hwn.
44 | www.wwha.co.uk | intouch | Eich Newyddion a’ch Safbwyntiau
Rhoddion Diolchgarwch
Roedd preswylwyr yng nghynllun er ymddeol Tŷ Ddewi yn y Rhondda wrth eu bodd yn ddiweddar pan gawson nhw hamper gŵyl y cynhaeaf gan y plant yn School Street, Ton Pentre.
Hwyl Calan Gaeaf Yn y llun gwelir preswylwyr arswydus a brawychus cynllun er ymddeol Llys yr Onnen yn Aberpennar, yn mwynhau eu parti Calan Gaeaf.
Eich newyddion a’ch safbwyntiau | intouch | www.wwha.co.uk | 45
Celf coed ar y strydoedd Dyfarnwyd grant i Gyfeillion Canolfan Adnoddau Cymunedol Hightown (FOHCRC) gan Gwanwyn, i ddathlu creadigrwydd ar gyfer y rhai dros 50 oed. Defnyddiodd y grŵp yr arian i gynnal gweithdai a oedd yn cynnwys bomio edafedd (celf gwau ar y stryd). Dywedodd Paula Hack, Cadeirydd FOHCRC: "Roedd yn wych gweld aelodau o'r gymuned yn arwain y prosiect hwn ac yn rhannu sgiliau gyda’i gilydd." Dyma’r grŵp yn arddangos eu bomio edafedd yma, gyda balchder.
Preswylwyr yn taro tant dros elusen Dywedodd Fiona Mcbeth, sy'n gweithio i MmiM: "Rydym yn defnyddio'r gair ‘meatballs’ gan fod pobl o bob lliw a llun, fel peli cig, ond gyda'i gilydd maen nhw’n gallu creu canlyniad blasus neu bryd o fwyd!"
Roedd preswylwyr caredig cynllun gofal ychwanegol Nant y Môr yn awyddus i roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned, felly cynhaliwyd digwyddiad codi arian ar gyfer elusen iechyd meddwl yn y Rhyl. Mae Musical Meatballs in Mind (MmiM) yn grŵp therapi cerdd/ perfformio ar gyfer oedolion y mae eu bywydau wedi cael eu heffeithio gan faterion iechyd meddwl.
Gwahoddodd preswylwyr Tai Wales & West o Nant y Môr y gymuned leol i ymuno â nhw am de prynhawn a thombola, gan godi £192 at MmiM. Dywedodd Mary Forbes, un o breswylwyr Nant y Môr: "Rydw i'n hoffi cefnogi elusennau lleol ac fe wnes i fwynhau'r diwrnod yn fawr iawn." Bydd yr arian yn mynd tuag at ddeunyddiau marchnata ar gyfer MmiM. I gael rhagor o wybodaeth am MmiM ffoniwch 01745 336787.
46 | www.wwha.co.uk | intouch |Eich Newyddion a’ch Safbwyntiau
25 mlynedd yng Ngerddi’r Ffynnon, Aberystwyth Mae Agnes Prosser yn 98 oed ac wedi byw yng Ngerddi’r Ffynnon ers i’r lle agor am y tro cyntaf ar 18 Tachwedd 1991. Mae hi'n cofio’r diwrnod hwnnw’n dda iawn ac yn dweud, "Roedd yn gyffrous iawn. Roedd tri theulu yn symud y diwrnod hwnnw, fi a fy ngŵr Verden, Thelma, Cilla a Harold; wrth gwrs maen nhw wedi ein gadael ni erbyn hyn. Roeddem i gyd ar yr un coridor, welwch chi. Cafodd y dynion symud dodrefn drafferth mawr oherwydd eu bod i gyd yma ar yr un pryd. Roedd yn llanast go iawn, bocsys a dodrefn ym mhob man. Ar ôl iddyn nhw adael, fe wnaethon ni ofyn i’n gilydd - oes gennych chi gadair nad oedd yn perthyn i chi? Roedd yn eithaf doniol. Roedd y lolfa gymunedol yn ddim ond ystafell wag. Erbyn y Nadolig cyntaf hwnnw roedd pawb ohonom wedi cyfrannu byrddau a chadeiriau sbâr, lluniau ac eitemau cartrefol eraill ac fe wnaethon ni hi’n lolfa gymunol i ni. Roedd gan Verden a finnau gramoffon. Ni fyddai'n ffitio yn ein fflat ac nid oeddem eisiau cael gwared ohono felly fe wnaethon ni ei roi yno ac fe wnaethon ni i gyd fwynhau gwrando ar y gerddoriaeth gyda’n gilydd. Roedd hen goeden Nadolig a thrimins blêr yno, hefyd.
“Ni chafodd unrhyw beth ei wneud yn yr ardd am o leiaf 10 mlynedd. Roedd Mary Oliver a minnau yn eistedd y tu allan un diwrnod ac roedd Rita y Warden oddi cartref. Dywedodd Mary: "Oni fyddai'n braf plannu rhywfaint o flodau cyn i Rita ddod yn ôl?” “Felly fe wnaethom gloddio stribed ar hyd y wal a phlannu rhai yno. Dywedodd un o'r preswylwyr ei bod hi mor hyfryd gweld y blodau.
Eich Newyddion a’ch Safbwyntiau | intouch | www.wwha.co.uk | 47
Dathlu 60 mlynedd o briodas Yn y llun uchod gwelir Agnes (ar y dde) gyda'i chyd-breswyliwr Mary Reed
Mewn dim o dro roedd rhywun arall wedi plannu rhagor o flodau ac yna daeth mwy a mwy, a dechreuodd yr ardd ddatblygu o ddifrif.
Dathlodd Mr a Mrs Hoy, o Gynllun Byw’n Annibynnol Llain Las yng ngogledd Sir Benfro, eu pen-blwydd priodas diemwnt ar 15 Medi.
"Symudodd preswylwyr newydd i mewn ac roedd un ohonyn nhw’n arddwr da – dechreuodd pawb ymddiddori o ddifrif mewn garddio ar ôl hynny ac aethom ymlaen i ennill llawer o gystadlaethau. Roedd yn ffordd wych i ni i gyd ddod at ein gilydd ac roeddem i gyd yn falch iawn. “Rydw i wedi hoffi byw yma yn fawr iawn - nid wyf yn gwybod beth fyddwn i wedi ei wneud ar ôl i fy ngŵr farw oni bai am y preswylwyr eraill. Mae pawb wedi bod yn gefnogol iawn ac wedi gofalu am ei gilydd. “Fe wnes i syrthio beth amser yn ôl a brifo fy nghefn, felly nid oeddwn yn gallu mynd allan rhyw lawer, ond byddai’r preswylwyr yn mynd i nôl y gadair olwyn a mynd â fi i lawr i'r lolfa gymunol bob prynhawn am de. “Rydw i wedi bod yn hapus iawn yma ac ni fyddwn i’n ei newid am unrhyw beth arall yn y byd.”
Fe wnaethon nhw symud i Abergwaun yn dilyn ymddeoliad Bob oddi o’r RAF yn 2009 i fod yn agos at eu mab a'r teulu. Roedden nhw wedi ymweld ag Abergwaun tra’r oedd Bob wedi ei leoli yng nghanolfan RAF Breudeth yn Sir Benfro ac wrth eu boddau yno fel eu bod wedi penderfynu ymddeol yma. Aeth y preswylwyr a’r Swyddog Byw'n Annibynnol, Helen Lucas, â nhw am ginio a chafodd pawb ddiwrnod pleserus. Cyflwynwyd anrhegion iddyn nhw ac fe gawson nhw gerdyn gan y Frenhines hefyd (fel y gwelir yn y llun uchod).
U A I L I G S h ic e N I R MEITH 7 Prentisiaethau 20ed1i 2017) ac y
M oed (neu’n 16 oed cyn 1 wr, Ydych chi rhwng 16 a 24 d yn Baentiwr ac Addurn do wn me b de or idd dd i byddai gennych ch ydan? Beiriannydd Nwy neu Dr u’n ne , wn da ryd Am r yn Weithiw
mbria, Ian Williams a bydd Cynnal a Chadw Ca n, lae ym 17 20 th wr Ma helpu chi i gael y O fis brentisiaid. Er mwyn eich i d ed eo cyfl eu i dd oe d i nifer o Dulux yn cyh nig y cyfle i breswylwyr fyn cyn n ni’ yn ryd , isio ge ym cyfle gorau wrth . Cewch gyfle i: Chwefror a mis Mai 2017 s mi ng rhw su bla u dia ddyd yddyn fydd yn recriwtio yn y flw a u nïa wm ch â rad sia a Gwrdd â'r crefftwyr ro, Gwaith nesaf arferol ar Baentio, Papu ym ig nn cy roi am th be ‘Try a Trade’, ilsio a Gosod Briciau Saer, Gwaith Plymwr, Te h sgiliau ar brawf eiladu a dylunio a rhoi eic ad an ch by t iec os pr au Cwblh dull Dragons’ Den drwy ein hymarfer yn ard aeth wrth wneud cais am Cael cymorth a chefnog brentisiaethau wis. aith imewn maes o’ch de Ymgymryd â phrofiad gw o ddiddordeb dibynnu ar y maes sydd yn , od rn diw 3 a 2 ng Mae’r cyrsiau rhw er o leoliadau. cael eu cynnal mewn nif i chi, ac fe fyddan nhw’n
I gofrestru eich diddordeb, cysylltwch â: Fran Maclean, y Swyddog Buddiannau Cymunedol, ar 02920 414039 neu ewch i www.wwha.co.uk a chlicio ar ‘Get job ready’ yn y Man Preswylwyr.