SYLW AR ARDAL
SIR DDINBYCH RHIFYN 6 | HAF 2014
2 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | Haf 2014 | www.wwha.co.uk
Cyflwyniad Anne Croeso i rifyn Haf 2014 Sylw ar ardal Sir Ddinbych. Mae’r rhifyn hwn yn cynnwys newyddion am ein gwaith yn Sir Ddinbych, yn ogystal ag ar draws Cymru. Mae’r 12 mis diwethaf wedi bod yn hynod o brysur yn WWH. Rydym yn cyflawni ein rhaglen adeiladu newydd fwyaf ers sawl degawd, ac mae blwyddyn wedi mynd heibio ers i lawer o ddiwygiadau lles gael eu cyflwyno gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae’r economi yn troi’r gornel ac mae 2014 yn argoeli i fod yn flwyddyn lawer mwy cadarnhaol na’r rhai diweddar. Rydym wedi helpu ein preswylwyr i ymdopi â’r newidiadau i fudddaliadau, ac osgoi ein hofnau gwaethaf y byddai llawer o bobl mynd i ddyled. Rydym wedi ategu nifer y staff rheng flaen i allu cynnig rhagor o gymorth i breswylwyr, ac mae ein harolwg diweddaraf o fodlonrwydd preswylwyr yn dangos bod hyn wedi cael derbyniad da. Mae ein gwasanaethau amrywiol yn parhau i ddatblygu, gan gynnwys cyngor ar ddyledion ac arian, help gyda biliau ynni, a chiniawau
poeth wedi’u darparu gan Castell Catering. Rydym yn gwrando ar ein preswylwyr fel eu bod yn llunio’r hyn rydym yn ei wneud a sut rydym yn ei wneud. Mae ein busnes wedi newid yn y blynyddoedd diwethaf, felly rydym nawr yn Grŵp o gwmnïau gyda thri is-gwmni yn canolbwyntio ar gynnal a chadw, datblygu a menter gymdeithasol a chyflogaeth. Rydym wedi newid i wneud ein hunain yn fwy effeithlon a defnyddio’r arian rydym wedi ei arbed i adeiladu cartrefi sydd hyd yn oed yn fwy fforddiadwy. Rydym wedi cynyddu maint ac amrywiaeth ein rhaglen adeiladu newydd mewn ymateb i’r angen cynyddol am gartrefi o ansawdd da, wedi’u dylunio’n dda a
3 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | Haf 2014 | www.wwha.co.uk
Wales & West Housing Group Structure
fforddiadwy i’w prynu a’u rhentu. Yn olaf, rwy’n falch iawn o ddweud ein bod nid yn unig wedi cadw ein statws fel y prif sefydliad nid-er-elw yng Nghymru ar restr y Sunday Times o Gwmnïau Gorau, ond hefyd wedi symud dau le i fyny’r rhestr i fod yn rhif 5 ledled y Deyrnas Unedig. Gyda thros 800 o sefydliadau nid-er-elw yn cymryd rhan ym mhroses achredu Cwmnïau Gorau y Sunday Times, rydym yn falch iawn o’n llwyddiant parhaus, sy’n tystiolaethu i’n staff ymroddedig sy’n gweithio’n galed.
I gloi, rwy’n gobeithio y bydd y briffiad hwn yn helpu i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein gwaith yn eich ardal chi a thu hwnt. Peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni unrhyw dro gyda’ch syniadau a’ch sylwadau am unrhyw agwedd ar ein gwaith. Yn gywir Anne Hinchey, Prif Weithredwr, Grŵp Tai Wales & West
4 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | Haf 2014 | www.wwha.co.uk
Ein rhaglen adeiladu
£150m yn parhau ar garlam
Ehangodd WWH ei rhaglen ddatblygu sawl blwyddyn yn ôl, ac yn 2013 gwelwyd cynnydd pellach yn nifer y cartrefi a gafodd eu cwblhau Ledled Cymru, cafodd 213 o gartrefi eu darparu ar rent cymdeithasol a thri ar werth fel dewisiadau ‘cartrefberchnogaeth cost isel’. Nikki Cole yw Pennaeth Datblygu WWH, ac wrth gydnabod bod anghenion tai ar lefelau critigol, dywedodd bod ystod ehangach o bobl nag erioed o’r blaen yn gofyn am dai. Hyd yn oed gyda marchnata tai ar gynnydd, mae llawer o bobl yn dal yn methu prynu na fforddio rhentu. Bydd ein strategaeth ddatblygu yn golygu y bydd WWH yn adeiladu cartrefi ar rent cymdeithasol, rhent fforddiadwy, ar werth a pherchentyaeth cost isel.
cymeradwyo rhaglen adeiladu £150 miliwn dros bum mlynedd i ddarparu mwy na 1,000 o gartrefi.
Rydym yn chwilio am safleoedd i’w datblygu ac mae ein Bwrdd wedi
Am ragor o wybodaeth ewch i www. wwha.co.uk
Mae 2014 yn argoeli i fod yn flwyddyn hyd yn oed yn fwy. Mae WWH ar y safle neu ar fin dechrau gweithio mewn 9 lleoliad, ac yn gobeithio cwblhau 550 o gartrefi – nifer drwy fenter arloesol Grant HF Llywodraeth Cymru. Rydym wedi datblygu arbenigedd credadwy fel sefydliad datblygu tai arbenigol ar gyfer pobl sy’n agored i niwed, tai cymdeithasol yn ogystal â thai gofal ychwanegol.
Llun wedi’i gynhyrchu gan gyfrifiadur o’r datblygiad newydd yn New Road, Porthcawl, Pen-y-bont ar Ogwr
5 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | Haf 2014 | www.wwha.co.uk
Dyma ddadansoddiad o brosiectau a gyflawnwyd gan WWH fesul awdurdod lleol yn 2013: Coed y Castell, Pen-y-bont ar Ogwr Brython Drive, Caerdydd a Thŷ Gwyn, Caerdydd
cynllun 23 ar rent cymdeithasol
West Shore, Conwy Sir Ddinbych
9 ar rent canolradd a 3 Perchnogaeth Cartref Cost Isel a 4 ar rent canolradd 12 ar rent cymdeithasol 0
Llys Jasmine, Sir y Fflint
63 gofal ychwanegol
Vulcan House, Merthyr Tudful
15 ar rent cymdeithasol
Cwmfalldau, Powys
9 ar rent cymdeithasol
Rivulet Road a Kingsmills Road, Wrecsam
78 ar rent cymdeithasol a Chanolfan Adnoddau Cymunedol Hightown 0
Bro Morgannwg
Nifer y tai oedd yn cael eu datblygu ar 31 Rhagfyr 2013: • Maesgwyn & New Road, Peny-bont ar Ogwr – 28 ar rent cymdeithasol a 40 ar rent cymdeithasol • Elm Street, Caerdydd – 10 tŷ er ymddeol • Flint House a Glan y Don, Sir y Fflint – tŷ er ymddeol a 58 ar rent cymdeithasol • Mynwent y Crynwyr, Merthyr Tudful – 17 ar rent cymdeithasol • Kingsmills Road a Rivulet Road, Wrecsam – 50 ar rent cymdeithasol ac 20 ar rent cymdeithasol • Townmills Road, Bro Morgannwg – 5 ar rent canolradd
Staff Datblygu WWH y tu allan i Gynllun Gofal Ychwanegol/Gofal Dementia Llys Jasmine, Sir y Fflint
6 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | Haf 2014 | www.wwha.co.uk
Y ‘dreth ar ystafelloedd gwely’
a diwygio budd-daliadau Yn Ebrill 2014 roedd hi’n flwyddyn ers cyflwyno’r ‘dreth ar ystafelloedd gwely’ a gweithrediad parhaus nifer o ddiwygiadau lles eraill. Mae’r newidiadau wedi cael effaith fawr ar lawer o’n preswylwyr, ac mae ein strategaeth i helpu pobl i ymdopi â’r newidiadau wedi bod yn effeithiol iawn. Cafodd dros 800 o breswylwyr WWH ostyngiad yn eu budd-dal tai yn Ebrill 2013, a chafodd budd-daliadau 12 o deuluoedd eu capio erbyn diwedd mis Medi 2013. Er gwaethaf llawer o lythyrau ac erthyglau yn ein cylchgrawn i breswylwyr, In Touch, ac ar ein gwefan, nid oedd pobl yn barod ar gyfer y newidiadau. Fe wnaethom ymweld â phawb yr oeddem yn meddwl y gallai’r newidiadau effeithio arnyn nhw, sef cyfanswm o dros 1,000 o breswylwyr. Roedd cyfarfodydd wyneb yn wyneb gyda phawb yn rhan hanfodol o’n llwyddiant o ran helpu pobl i ymdopi. Eglurodd Shayne Hembrow, y Dirprwy Brif Weithredwr: “Rydym wedi ceisio taro ar gydbwysedd rhwng cefnogi preswylwyr a sicrhau bod y rhent yn cael ei dalu. Mae wedi bod yn bwysig gwahaniaethu rhwng y rhai sydd ‘ddim eisiau talu’ a’r rhai sydd ‘ddim yn gallu talu’. Fe wnawn ni bopeth o fewn ein gallu i helpu’r rhai sy’n cydweithio â ni ac yn gwneud yr ymdrech.
Mae WWH wedi gwneud hyn: • Buddsoddi dros £180,000 y flwyddyn mewn Swyddogion Cefnogi Tenantiaeth. Crëwyd saith swydd newydd a recriwtiwyd swyddogion i helpu preswylwyr yn uniongyrchol. • Mae WWH wedi helpu pobl i gynyddu eu hincwm gymaint â £780 y flwyddyn drwy gael budd-daliadau a grantiau, ail-drafod dyledion a gwella rheolaeth ariannol. • Mae dros 100 o bobl wedi symud i gartref mwy addas, lle’r oedd un ar gael. • Mae 85% o bobl yn awr yn talu eu rhent yn llawn, sy’n gynnydd o’r 50% oedd yn gwneud hynny ym mis Mai 2013. Mae’r rhan fwyaf o bobl wedi dewis aros yn eu cartrefi. Mae rhai wedi gwneud hynny gan mai yn y gymuned
7 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | Haf 2014 | www.wwha.co.uk
honno maen nhw wedi byw erioed, ac nid ydyn nhw’n dymuno symud plant i ysgolion gwahanol, neu eu bod yn agos at lle maen nhw’n gweithio. Yn achos eraill, maen nhw’n methu symud oherwydd nad oes unrhyw gartref llai i symud iddo. Yn achos rhai o’n preswylwyr, mae’r tebygolrwydd hyd yn oed yn fwy anodd. Ni all preswylwyr anabl sy’n byw mewn cartrefi sydd wedi’u haddasu’n gynaliadwy ar gyfer eu hanghenion symud yn hawdd, ac nid oes gwarant o gael addasiadau mewn eiddo arall yn y dyfodol. Fe wnaethom hefyd gyhoeddi papur ymchwil ar y broblem hon a lobïo’r Llywodraeth i newid y rheolau ac eithrio preswylwyr anabl mewn cartrefi a addaswyd.
Roedd ein canfyddiadau yn arswydus, gyda chost bosibl o £40m i’r pwrs cyhoeddus yng Nghymru, ac rydym ni a’n partneriaid yn Tai Cymunedol Cymru wedi bod wrthi’n lobïo Aelodau Seneddol, Aelodau Cynulliad a rhanddeiliaid eraill i ymgyrchu i berswadio Llywodraeth y Deyrnas Unedig i newid y polisi hwn. Am ragor o wybodaeth, ewch i: http:// www.wwha.co.uk/About-Us/News/ Pages/Public-money-set-to-be-wasted. aspx Cymaint fu effaith y data yn ein hadroddiad fel ei fod wedi cael ei ddefnyddio’n helaeth gan y rhai sy’n ymgyrchu yn erbyn ac adrodd ar effaith diwygio lles yng Nghymru, gan gynnwys y Pwyllgor Dethol ar Faterion Seneddol Cymreig, a sesiynau llawn yn y Senedd.
Mae un o’n preswylwyr, Judith Parker, yn byw gyda’i merch Emma, sy’n 21 oed, a’i mab Luke, sy’n 17 oed, mewn byngalo wedi ei adeiladu’n bwrpasol yn Caerau, Caerdydd
8 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | Haf 2014 | www.wwha.co.uk
Ni yw’r cwmni nid-er-elw gorau yng Nghymru - eto! Y mae wedi bod yn chwe mis arbennig o lwyddiannus i WWH o ran dyfarniadau ac achrediadau. Ym mis Chwefror cyrhaeddodd y cwmni safle uchaf y gynghrair o gwmnïau nid-er-elw yng Nghymru am y drydedd flwyddyn yn olynol ym mhroses Cwmnïau Gorau’r Sunday Times, a oedd yn gosod Tai Wales & West yn y 5ed safle ledled y Deyrnas Unedig. Dan yr un broses, fe wnaeth WWH hefyd gadw safon aur gwobr achrediad tair seren y Cwmnïau Gorau. Yn ystod yr hydref y llynedd, cafodd WWH ei enwi yn rhestr agoriadol Housing 24 o’r 50 Landlord Tai Fforddiadwy gorau yn y Deyrnas Unedig, gan gyrraedd safle 42. Mae Vulcan Court, cynllun ailddatblygu Bragdy hanesyddol Vulcan ym Merthyr
Tudful, wedi ennill gwobr Datblygiad Bach y Flwyddyn yng Ngwobrau Tai mawreddog y Deyrnas Unedig 2014, a hefyd wedi cael ei enwi fel un o’r 50 Datblygiad Tai Fforddiadwy Gorau yn rhestr gyntaf Inside Housing. Cafodd Llys Jasmine, datblygiad gofal ychwanegol a gofal dementia arloesol WWH yn yr Wyddgrug, gogledd Cymru, le ar restr fer categori’r Cynllun Datblygiad Mawr y Flwyddyn Gwobrau Tai’r Deyrnas Unedig. Yn olaf, cawsom y wobr gyntaf yn y categori Arloesi gydag Ynni Adnewyddadwy yng Ngwobrau Ynni a’r Amgylchedd y Deyrnas Unedig 2014.
9 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | Haf 2014 | www.wwha.co.uk
Twf Connect24 Dros y 15 mlynedd diwethaf, rydym wedi bod yn ymateb i alwadau larwm mewn argyfwng ein preswylwyr ein hunain a darparu gwasanaeth ffôn 24 awr / 7 diwrnod yr wythnos sy’n delio â’r amrywiaeth lawn o faterion rheoli tai. Ers 2004 rydym wedi bod yn darparu’r gwasanaethau hyn ar gyfer cymdeithasau tai eraill ledled Cymru, a’r llynedd fe wnaethom groesi’r ffin i Loegr. Ers 2012, gan weithio dan is-frand y Grŵp, sef Connect24, rydym yn falch iawn o allu adrodd twf dramatig yn y rhan hon o’n busnes dros y chwe mis diwethaf, wrth i ni ennill dim llai nag wyth contract newydd gyda saith sefydliad gwahanol. Mae ein gwasanaeth Connect24 bellach yn monitro Larymau mewn Argyfwng mewn mwy na 7,700 o gartrefi ledled Cymru, ac yn ateb galwadau ffôn y tu allan i oriau i 50,000 o gartrefi. Er bod y cynnydd hwn yn ein busnes yn destun
boddhad, rydym yn ymwybodol o’r angen i ddarparu’r un gwasanaeth o safon a pharhau ein perthynas waith ymatebol dda gyda’n holl gleientiaid. Yn ddiweddar rydym wedi prynu system fonitro gwaith unigol, felly yn fuan byddwn yn gallu cynnig y gwasanaeth newydd hwn i gleientiaid hen a newydd, eto dan is-frand Connect24 WWH.
10 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | Haf 2014 | www.wwha.co.uk
Isod gwelir crynodeb o gontractau Connect24:
Sefydliad
Gwasanaeth a ddarperir gan Connect24 WWH
Cymdeithas Tai Abbey field Cymru Tai Cymunedol Bron Afon Cymdeithas Tai Charter Cymdeithas Tai Derwen Cymdeithas Tai Elim Grwp Gwalia Hafal Hafan Cymru Cymdeithas Tai’r Canolbarth Cartrefi Dinas Casnewydd
Larwm mewn argyfwng / Teleofal Ffôn y tu allan i oriau Ffôn y tu allan i oriau Ffôn y tu allan i oriau Ffôn y tu allan i oriau Ffôn y tu allan i oriau Ffôn y tu allan i oriau Ffôn y tu allan i oriau Larwm mewn argyfwng / Teleofal Larwm mewn argyfwng / Teleofal a Ffôn y tu allan i oriau Larwm mewn argyfwng / Teleofal Larwm mewn argyfwng / Teleofal Larwm mewn argyfwng / Teleofal a Ffôn y tu allan i oriau Ffôn y tu allan i oriau Larwm mewn argyfwng / Teleofal Ffôn y tu allan i oriau Larwm mewn argyfwng / Teleofal
Cymdeithas Tai Newydd Grŵp Tai Pennaf Tai Calon Temp2Perm Tai Cymoedd i’r Arfordir Wates Unigolion preifat
Os hoffech ragor o wybodaeth am y gwasanaethau a ddarparwn, cysylltwch â: Cate Dooher, Pennaeth Gwasanaethau Cefnogi ar 02920 415386 neu cate. dooher@wwha.co.uk Christine Bowns, Rheolwr y Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 02920 415341 neu christine.bowns@wwha.co.uk
11 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | Haf 2014 | www.wwha.co.uk
Castell Ventures
- menter gymdeithasol newydd Mae Castell Ventures yn gwmni newydd, sy’n rhan o Grŵp Tai Wales & West, ac sy’n ymroddedig i greu rhagor o fuddsoddiad cymdeithasol a menter mewn cymunedau ledled Cymru. Eglura Anne Hinchey, Prif Weithredwr Grŵp WWH a Chadeirydd Castell Ventures, pam y cafodd ei greu. “Mae Cymunedau angen cwmnïau moesegol cryf a chyfrifol, sy’n barod i roi blaenoriaeth i gwsmeriaid a gwasanaethu, a gofalu am y cymunedau lle maen nhw’n gweithredu. Maen nhw angen cwmnïau sy’n prynu’n lleol, yn gweithio’n lleol ac yn cyflogi’n lleol fel bod buddsoddiadau ac elw yn aros yn y gymuned.” Dywed Anne: “Bydd gan Castell Ventures lawer o ddimensiynau, a bydd yn darparu amrywiaeth o wasanaethau a chynnyrch y mae ein preswylwyr a’n cymunedau yn dweud wrthym eu bod nhw eu hangen. Bydd yn creu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant, ac yn cefnogi preswylwyr i gyrraedd eu potensial llawn.” Yr adran gyntaf yw Castell Catering. Fe’i sefydlwyd ym mis Hydref y llynedd i ddarparu prydau poeth i bobl hŷn yn ein cynlluniau gofal ychwanegol a’r gymuned ehangach. Mae ein gwaith gydag Age Connect Gogledd Ddwyrain
Cymru a’n cynlluniau gofal ychwanegol newydd wedi amlygu’r angen am wasanaethau prydau bwyd poeth, ac roedd Cyngor Sir y Fflint hefyd yn awyddus i ymchwilio i’r posibilrwydd o greu menter gymdeithasol i greu rhagor o gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant. Mae Castell Catering wedi sicrhau swyddi i 15 o bobl, ac erbyn hyn mae’n gweini dros 1,000 o brydau poeth blasus yr wythnos. Lle bynnag y bo modd, mae’r cynhwysion yn lleol ac mae’r adborth gan gwsmeriaid wedi bod yn wych. Am ragor o wybodaeth am Castell Catering, ffoniwch 0800 052 2526. Gallwch hefyd fynd i’r wefan www. wwha.co.uk
12| Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | Haf 2014 | www.wwha.co.uk
Adroddiad Blynyddol 2013 - cryf, cynaliadwy ac yma ar gyfer y tymor hir Mae ein Hadroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol ar gyfer 2013 wedi cael eu cyhoeddi erbyn hyn, a gwelwyd bod 2013 wedi bod yn flwyddyn wych i’r grŵp. Gyda throsiant o £40 miliwn, fe wnaeth y Grŵp warged o £8.5m a ail-fuddsoddwyd i gefnogi gwariant o £27m ar welliannau fel ceginau, ystafelloedd ymolchi a 213 o gartrefi newydd. Fel busnes cymdeithasol nid-er-elw, ni thalwyd difidendau cyfranddaliadau ac ni ddyfarnwyd taliadau bonws, oherwydd yn lle hynny aeth yr holl arian tuag at wasanaethau ar gyfer preswylwyr ac i gefnogi cymunedau. Mae cyflawni gwerth am arian i breswylwyr a phartneriaid wrth wraidd y ffordd rydym yn rhedeg ein busnes. Eglura Tony Wilson, y Cyfarwyddwr Cyllid: “Mae ein strategaeth i ddod â mwy o wasanaethau dan ein gofal ni, rheoli costau’n well a chael gwared ar wastraff wedi bod yn llwyddiannus iawn. Rydym wedi ailgynllunio gwasanaethau’n radical i ganolbwyntio’n well ar gyflawni gwerth am arian i breswylwyr, ac mae hyn
wedi ein gwneud ni’n fwy effeithlon, gan allu ail-fuddsoddi rhagor o adnoddau er budd ein cymunedau.” I weld copi o’r adroddiad : http://www.wwha.co.uk/AboutUs/Corporate-Information/Pages/ Corporate-reports.aspx
13 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | Haf 2014 | www.wwha.co.uk
Cambria
Maintenance Services
Mae Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria yn parhau i fynd o nerth i nerth, ac erbyn hyn y mae wedi treblu mewn maint bron â bod ers i ni ei sefydlu yn 2010 Ar ddechrau 2013, fe wnaethom ymestyn ein gwasanaethau i ogledd Cymru, sy’n golygu bod Cambria bellach yn darparu gwasanaethau cynnal a chadw adweithiol i’n holl eiddo ledled Cymru. Rydym yn hynod falch o’r llwyddiant hwn, a’r ffaith bod Cambria yn cyflogi dros 100 o staff ac yn hyfforddi nifer o brentisiaid. Ein gweledigaeth yw i Cambria barhau i dyfu a chynyddu ei lwyth gwaith. Heb
os, mae Cambria wedi ein helpu i wneud arbedion effeithlonrwydd sylweddol, gydag arbedion o £1.1 miliwn ers ei sefydlu yn 2010. Mae hyn yn cyfateb i 330 o geginau, 380 o ystafelloedd ymolchi neu 21 o gartrefi newydd wedi’u cyllido gan grant. Gallwn adrodd hefyd fod Cambria wedi cynnal 24,500 o atgyweiriadau yn 2013 yn unig, yn ogystal ag adnewyddu 228 o geginau a 466 o ystafelloedd ymolchi.
14 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | Haf 2014 | www.wwha.co.uk
Cefnogi cyfleoedd
cyflogaeth a hyfforddiant Mae Grŵp WWH yn ymrwymedig i gefnogi cymaint â phosibl o gyfleoedd gwaith a hyfforddiant drwy ei wahanol feysydd busnes. Drwy gydol 2013, fe wnaeth WWH gefnogi 58 o brentisiaethau, cyflawni mwy na 13,500 awr o hyfforddiant a chynnal cyfartaledd o 83.75% o ran y defnydd o lafur a chadwynau cyflenwi lleol. Rydym hefyd wedi llwyddo nid yn unig i ddarparu cyfleoedd gwaith a hyfforddiant drwy raglen Go Wales, y mae un o gyfranogwyr y cynllun - Libby Price - wedi mynd ymlaen i gael gwaith llawn amser fel rheolwr ein canolfan adnoddau cymunedol newydd yn Hightown, Wrecsam.
Enghraifft arall o leoliad gwaith llwyddiannus oedd myfyriwr Rheoli Digwyddiadau o Brifysgol Morgannwg, Lisa Williams, yn gweithio’n wirfoddol gyda’r tîm Cysylltiadau Cyhoeddus a Marchnata. Fe wnaeth Lisa helpu i godi dros £9,000 mewn nawdd ar gyfer Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth blaenllaw WWH ym mis Hydref 2013. Yn olaf, mae Jack Donald, myfyriwr adeiladu, dylunio a rheoli o Brifysgol Leeds, a gafodd leoliad gwaith gwirfoddol gyda’n tîm datblygu yng Ngogledd Cymru, erbyn hyn yn cael ei dalu am ei gyfraniad ar sail ansawdd ei waith. ‘Gwneud gwahaniaeth i fywydau, cartrefi a chymunedau’ yw ein bwriad, ac rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar lwyddiannau 2013 gyda chymorth sylweddol pellach ar gyfer cyfleoedd gwaith, cyflogaeth a hyfforddiant ledled Cymru. Yn y llun gwelir y myfyriwr Jack Donald (ar y chwith) gyda Craig Sparrow, Rheolwr Datblygu WWH
15 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | Haf 2014 | www.wwha.co.uk
Gostyngiad o 50% yn yr achosion
o ymddygiad gwrthgymdeithasol a nodwyd Yn 2013 fe wnaethom adolygu’r ffordd rydym yn ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac ers hynny rydym wedi cwblhau ailwampiad radical o’n system. Mae ein dull newydd sy’n canolbwyntio ar y cwsmer wedi arwain at gwymp enfawr o 50% mewn achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad niwsans a nodwyd - o 1260 o ddigwyddiadau a nodwyd yn 2012 i 625 yn 2013. Roedd grymuso preswylwyr i wneud penderfyniadau gwybodus, gan annog a chynorthwyo preswylwyr i ddod o hyd i atebion parhaol, a chynorthwyo preswylwyr i gynnal eu tenantiaethau drwy roi cymorth perthnasol ar waith yn sylfaen i’n llwyddiant hyd yn hyn.
Mynd yn groes i’r duedd o ran troi pobl allan Datblygiad arall rydym yn hynod falch ohono yw’r gostyngiad yn ein ffigurau ar gyfer troi pobl allan. Yn ddiweddar, mae’r cyfryngau wedi cyfeirio at gynnydd yn nifer yr achosion o droi tenantiaid allan o dai cymdeithasol, yn enwedig ar ôl cyflwyno’r diwygiadau lles. Fodd bynnag, mewn cyferbyniad llwyr, mae WWH yn mynd yn groes i’r tueddiad penodol hwn. Yn 2006 fe wnaethom droi allan 3 o deuluoedd oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol a 46 oherwydd ôlddyledion rhent, sef cyfanswm o 49 achos o droi allan. Yn 2013 fe wnaethom droi allan 6 o deuluoedd oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol a 10 oherwydd ôl-ddyledion rhent, sef cyfanswm o 16 achos o droi allan. Mae’r ffigurau hyn yn
cynrychioli gostyngiad o 67% dros gyfnod Recently the media reported a rise o saith blynedd.
in the number of evictions of social
housing tenants, in particular after Mae Lynnette Glover, Pennaeth Tai yn WWH, yn priodoli’r gostyngiad hwn the introduction of welfare reforms. iHowever, ‘newid llwyr yn ein diwylliant, syddWWH in complete contrast, wedi ein gweld ni’n rhoi anghenion is bucking this particular trend. ein cwsmeriaid yn gyntaf. Rydym yn gweithio’n i helpu pobl i gadw eu In 2006 wegaled evicted 3 households for tenantiaethau, gan ddefnyddio troi allan anti social behaviour and 46 for rent fel y dewis olaf. Mae ein dull newydd yn arrears, apaneli totalrhent of 49arloesol, evictions. cynnwys lle mae’r rhai nad ydyn nhw’n talu’n barhaus yn In 2013 we evicted 6 households for cael cyfle olaf sylweddol i fynd i’r afael â’u anti social abehaviour and 10 parhaol for renta problemau gwneud trefniant arrears, totalling justâ’u 16hôl-ddyledion, evictions. fydd yn mynd i’r afael These figures represent drop ofgan 67% ac mae’r rhain wedi cael eua canmol y drefn farnwrol yng Nghymru.’ over a seven year period.
16 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | Haf 2014 | www.wwha.co.uk
Safon Ansawdd Tai Cymru
a mynd i’r afael â thlodi tanwydd Rydym wedi cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn hyn, ac mae ein sylw parhaus yn parhau i fod ar fynd i’r afael â thlodi tanwydd, gan helpu i wneud cartrefi’n gynhesach a lleihau biliau. Yn Tai Wales & West rydym yn ymrwymedig i fynd i’r afael â thlodi tanwydd yn ogystal â gwneud ein heiddo mor ecogyfeillgar ag y bo modd. Dyma gipolwg ar rywfaint o’r gwaith rydym wedi’i wneud yn ystod y misoedd diwethaf i’r dibenion hyn: • Mae’r mwyafrif helaeth o eiddo WWH wedi cael eu hinsiwleiddio (waliau ceudod a llofft) • Rydym wedi gwneud dros 600 o newidiadau tanwydd i nwy gwres canolog ar gost o tua £1.5 - £2 miliwn • Rydym wedi gwario tua £1.3 miliwn ar y stoc presennol, gan gwblhau: 34 o osodiadau pympiau gwres o’r ddaear
49 o osodiadau pympiau gwres o’r awyr gyda monitorau a rheolyddion o bell • Byddwn yn gosod 4 system ynni deallus mewn tai cyfan (gwaith a gynlluniwyd ar gyfer Mai 2014 mewn partneriaeth â Phrifysgolion Caerdydd a Glyndŵr - rhan o’r prosiect SOLCER) • Roeddem yn enillwyr yng nghategori Arloesi mewn Ynni Adnewyddadwy yng Ngwobrau 2014 Ynni a’r Amgylchedd y Deyrnas Unedig • Fe wnaeth ein preswylwyr yng nghynllun er ymddeol Western Court ym Mhen-y-bont Ogwr ennill Gwobr Tenantiaid Cynaliadwy’r Flwyddyn 2014 yn y Deyrnas Unedig.
17 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | Haf 2014 | www.wwha.co.uk
Cefnogi Ymddiriedolaeth Trussell
a banciau bwyd ledled Cymru Yn gynharach eleni, rhoddodd Bwrdd Tai Wales & West £5,000 i Ymddiriedolaeth Trussell, y sefydliad sy’n gyfrifol am fanciau bwyd ledled Cymru. Fe wnaeth cynrychiolwyr Ymddiriedolaeth Trussell a chefnogwyr Banc Bwyd Merthyr Cynon gyfarfod â Phrif Weithredwr WWH Anne Hinchey yng nghynllun er ymddeol Tŷ Pontrhun ym Merthyr Tudful, de Cymru, i dderbyn y siec. Mae WWH, sy’n rheoli dros 9,500 o dai fforddiadwy mewn 12 ardal awdurdod lleol ledled gogledd, canolbarth a de Cymru, wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r Ymddiriedolaeth a banciau bwyd ledled Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae WWH yn gweithredu mannau casglu ar gyfer Banciau Bwyd mewn llawer o’i gynlluniau er ymddeol ledled Cymru, yn ogystal ag yn ei swyddfeydd yng Nghaerdydd a’r Fflint. Ledled Cymru mae staff a phreswylwyr WWH wedi cyfrannu dros 640kg o fwyd i fanciau bwyd yn Sir y Fflint, Wrecsam, Caerdydd, Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr, yn ogystal â Merthyr Cynon yn ystod y 12 mis diwethaf.
Dywedodd Tony Graham, un o reolwyr Ymddiriedolaeth Trussell Cymru, “Hoffwn ychwanegu ein diolch i Tai Wales & West am eu rhodd hael, a fydd yn ein galluogi i wella’r gwaith hanfodol y mae ein banciau bwyd yn ei wneud ledled Cymru. Wrth i bobl yng Nghymru weld bod eu hamgylchiadau yn mynd yn fwy anodd, mae Ymddiriedolaeth Trussell yn croesawu ein partneriaeth gyda Tai Wales & West, a’u cydnabyddiaeth o’r heriau y mae llawer o bobl ledled ein gwlad yn eu hwynebu.”
O’r chwith i’r dde: Karen Lewis, Rheolwr Cynllun WWH, Cleide Correia, Tony Graham ac Anne Hinchey
18 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | Haf 2014 | www.wwha.co.uk
Rhedeg Marathon Llundain dros Gymdeithas Strôc Cymru
Fe wnaeth Andrew Pritchard, Swyddog Tai gyda WWH, redeg The new Hightown Community Resource Centre Marathon Llundain mewn pedair awr, tri munud a 26 eiliad, gan godi mwy na £3,000 er budd Cymdeithas Strôc Cymru. Cafodd Andy, sy’n gweithio yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, ei ysgogi pan welodd drosto’i hunan effeithiau dinistriol strôc pan ddioddefodd ei nain gyfres o ymosodiadau. Llongyfarchiadau i Andy ar redeg ei farathon gyntaf, ac os hoffech gyfrannu arian, gallwch barhau i wneud hynny, ar ôl y digwyddiad, ar ei dudalen Virgin Money Giving: www.virginmoneygiving.com/ AndrewPritchardLondonMarathon 2014
Ongoing development works at Kingsmills Road, Hightown, Wrexham Left: The Polish community in Hightown celebrate Christmas at the new HCRC
19 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | Haf 2014 | www.wwha.co.uk
Cartrefi newydd
i Sir Ddinbych Yn y tair blynedd ddiwethaf mae WWH wedi bod yn weithgar yn y sir, ac mae wedi cwblhau 68 o gartrefi newydd ym Mhrestatyn a Henllan. Cynllun gofal ychwanegol cyntaf WWH oedd Nant y Môr, ac mae’n dathlu ei drydydd pen-blwydd eleni. Mae’r cynllun sy’n cynnwys 59 o fflatiau yn boblogaidd iawn gan ei fod yn agos at ganol y dref, gyda mynediad rheolaidd at fysiau o’r tu allan i’r cynllun. Mae preswylwyr yn dweud wrthym eu bod yn hoffi’r rhyddid o fyw’n annibynnol law yn llaw â’r sicrwydd o staff gofal ar gael 24 awr y dydd os oes angen cymorth. Yn ddiweddar, mae WWH wedi darparu
band eang am ddim i’r holl breswylwyr yn y cynllun fel rhan o’i Strategaeth Cynhwysiant Digidol, sydd wedi galluogi preswylwyr i fynd ar-lein a sgwrsio gyda ffrindiau a theulu. Mae WWH yn bwriadu cynnal cyfres o ddigwyddiadau dros y misoedd nesaf i sicrhau fod pobl hŷn sy’n byw yn y sir yn gwybod am fanteision byw mewn cynllun gofal ychwanegol, ac os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Jane Janaway ar jane.janaway@wwha.co.uk
Residents at Nant y Môr learning to use digital technology
20 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | Haf 2014 | www.wwha.co.uk
Cynlluniau’r preswylwyr am ardd
yn tyfu yn sgil sicrhau cyllid Mae Cefnogi ein preswylwyr i wneud eu hamgylcheddau yn lanach ac yn fwy gwyrdd yn flaenoriaeth allweddol i ni. Yn Sir Ddinbych, un enghraifft hyfryd o hyn yw creu gardd gloÿnnod byw a synhwyraidd ar gyfer preswylwyr yn ein datblygiad o’r enw Coed Cil yn Henllan.
Fel rydym wedi sôn mewn rhifynnau blaenorol o’r cylchlythyr hwn, mae Cil y Coed yn gymysgedd o dai fforddiadwy a byw â chymorth ar gyfer oedolion ifanc sydd ag anghenion ychwanegol. Mae’r prosiect eco, sy’n costio bron i £27,000, wedi cael ei gyllido’n rhannol gan Cadwyn Clwyd dan y Cynllun Datblygu Gwledig i Gymru, sydd ei hun yn cael ei gyllido gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Dywedodd Sarah Jones, Swyddog yr Amgylchedd a Threftadaeth Cadwyn Clwyd, wrthym: “Mae hwn yn brosiect rhagorol a fydd yn gwella’r mannau llawn neithdar yng nghymuned Henllan o ddifrif. Bydd y gerddi yn cynnig man yn yr awyr agored y mae ei angen yn fawr ar breswylwyr Cil y Coed, ac mae’n gweithredu fel adnodd defnyddiol ar gyfer y gymuned ehangach.”
Dywedodd Helen D’Aulby, Cadeirydd Grŵp Cadwraeth Henllan: “Mae Tai Wales & West wedi bod eisiau creu mannau agored yma, a buom yn gweithio gyda nhw i gynllunio’r gwaith o ddatblygu cynefin bioamrywiol llawn neithdar i gefnogi ieir bach yr haf, pryfed a bywyd gwyllt. “Mae Grŵp Cadwraeth Henllan yn gweithio i greu sawl hafan i fywyd gwyllt ledled y pentref. Mae gan Henllan glytwaith o erddi neithdar yn awr mewn gerddi preifat, fel Gardd Wenyn y Sefydliad, Banc Cadwraeth y Fynwent a’r gwely blodau yno, a’r ychwanegiad diweddaraf fydd yr ardd i ieir bach yr haf a’r ardd synhwyraidd yng Nghil y Coed. Rydym wedi cael effaith o ddifrif!”
21 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | Haf 2014 | www.wwha.co.uk
Swyddogion Cefnogi Tenantiaeth
– mynd i’r afael â diwygio lles Mae 56 o’n preswylwyr wedi cael eu heffeithio gan y dreth ar ystafelloedd gwely yn Sir Ddinbych. Mae Will Brooks, ein Swyddog Cefnogi Tenantiaeth sy’n gweithio ledled Gogledd Cymru, wedi bod yn cefnogi pob un o’r preswylwyr hyn i helpu i dalu neu symud i gartref mwy addas. Hyd yn hyn, mae 38 yn llwyddo i dalu, rhai gyda chefnogaeth y cyngor ac mae 5 o breswylwyr wedi cael cymorth i symud.
Cartrefi addas i bawb Cyflawnodd WWH Safon Ansawdd Tai Cymru yn gynharach y llynedd, ac mae wedi symud ffocws y buddsoddiadau yn y dyfodol at wneud cartrefi yn addas ar gyfer preswylwyr unigol. Gyda thros 24% o’r preswylwyr yn anabl, mae addasu cartrefi yn flaenoriaeth o bwys. Y llynedd gwariodd WWH dros £697,000 addasu 1,165 o gartrefi. Heb yr addasiadau hyn, byddai’n rhaid i nifer o breswylwyr fod wedi gadael eu cartrefi. Un enghraifft leol yw teulu o’r Rhyl. Estynnodd WWH eu cartref ar gyfer eu dau blentyn ifanc sydd â pharlys yr ymennydd gyda rhywfaint o arian gan Lywodraeth Cymru a’r gweddill gan WWH. Darparwyd ystafell wely, ystafell ymolchi a man chwarae diogel newydd, gan alluogi’r teulu i aros yn eu cymuned yn agos at ffrindiau a theulu.
22 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | Haf 2014 | www.wwha.co.uk
Nant y Môr yn dathlu
tair blynedd lwyddiannus Wrth i’r boblogaeth hŷn gynyddu, felly hefyd mae’r galw am ofal ychwanegol, yn enwedig yng Ngogledd Cymru. Nant y Môr oedd ein cynllun tai gofal ychwanegol cyntaf erioed, yr oeddem yn falch o’i ddatblygu mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych. Mae’n darparu cyfleusterau o’r radd flaenaf ar gyfer pobl dros 60 oed. Bu preswylwyr a staff yn dathlu trydydd pen-blwydd y cynllun yn ystod mis Mehefin, ac mae cyfres o ddigwyddiadau codi ymwybyddiaeth wedi’u cynllunio ar gyfer y misoedd nesaf i sicrhau bod pobl hŷn sy’n agored i niwed ac sy’n byw yn Sir Ddinbych, ynghyd â’u teuluoedd a’u cefnogwyr, yn gwybod am y dewisiadau sydd ar gael iddyn nhw drwy gyfrwng gofal ychwanegol. Wedi’i leoli’n ganolog ym Mhrestatyn, mae Nant y Môr yn edrych dros yr arfordir ar Marine Road ac mae’n cynnwys 59 o randai - 27 o rai un ystafell wely a 32 o rai dwy ystafell wely. Y mae o fewn cyrraedd hwylus i siopau canol y dref, a chyfleusterau cymunedol, gan gynnwys y llyfrgell, sinema, eglwysi a chaffis. Mae
gwasanaeth bws rheolaidd yn mynd a dod rhwng y cynllun a chanol y dref, ac mae’r orsaf drenau yn agos. Mae preswylwyr yn mwynhau’r rhyddid o fyw bywydau annibynnol dan yr un to, gyda’r sicrwydd eu bod yn ddiogel ac yn gyfforddus, a bod ganddyn nhw fynediad at staff gofal 24 awr y dydd. Mae’r cyfleusterau yn cynnwys rhandai gyda chawodydd mynediad gwastad en-suite a cheginau gyda’r holl gyfarpar, bwyty hunanwasanaeth sy’n gweini bwyd maethlon a gynhyrchir yn lleol, terasau a gerddi to gyda golygfeydd trawiadol, ystafell arddio, golchdy, parcio ar y safle, lolfeydd a mannau tawel gyda llyfrau, DVDs a gemau, ystafell i westeion, salon trin gwallt a chlwb cymdeithasol. Un o flaenoriaethau allweddol Tai Wales & West yw galluogi preswylwyr i gael mynediad at fand eang drwy WiFi, fel eu bod nhw’n gallu mynd ar-lein.
Yn ogystal â helpu i gynllunio dathliadau’r 3ydd pen-blwydd, mae preswylwyr Nant y Môr wedi bod yn mwynhau hyfforddiant am ddim i fynd ar-lein a defnyddio technolegau digidol, diolch i dri o breswylwyr WWH, sef Ole Constantine, Jane Styles a Jen Bailey, ein cyn Swyddog Cynhwysiant Digidol. Mae llawer a gymerodd ran yn y sesiynau yn defnyddio cyfrifiaduron
tabled neu gyfrifiaduron yn rheolaidd erbyn hyn, naill ai i siopa ar-lein, gwylio ffilmiau neu gysylltu â’u ffrindiau a’u perthnasau drwy Skype, gan roi cyswllt cyfathrebu iddyn nhw â’r byd ehangach. Am ragor o wybodaeth am Nant y Môr, ewch i www.wwha.co.uk neu ffoniwch 0800 052 2526. 052 2526.