Sylw ar ardal Caerdydd Gwanwyn 2013

Page 1

SYLW AR ARDAL

CAERDYDD RHIFYN 5 | GWANWYN 2013 Goroesi’r newid i fudd­daliadau Mynd ar­lein, ffynnu ar­lein Ein datblygiadau diweddaraf yn eich ardal Gwasanaethau ffôn a theleofal Connect24


2 | Sylw ar ardal CAERDYDD | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

CYFLWYNIAD ANNE Croeso i rifyn gwanwyn 2013 Sylw ar ardal Caerdydd, sy’n rhoi’r diweddaraf i chi am fentrau Tai Wales & West yn eich ardal chi. Mae’r rhifyn hwn yn cynnwys ein cymysgedd arferol o newyddion ynghylch rhai o’n prosiectau cyfredol yn benodol i’r sir, ynghyd â’r diweddaraf am faterion perthnasol drwy’r sefydliad cyfan. Yn gyntaf oll, yn dilyn ein Harolwg diweddaraf o Fodlonrwydd Preswylwyr, rwy’n falch iawn o ddweud wrthych fod 88% o’n preswylwyr wedi dweud wrthym eu bod nhw’n fodlon gyda’r gwasanaeth cyffredinol a ddarparwyd gan WWH. Mae hyn yn gynnydd o 2% o’i gymharu â’r arolwg a wnaethom yn 2011, ac yn gynnydd sylweddol o 7% ar y canlyniadau a gawsom yn 2007. Datblygiad sylweddol arall ers ein rhifyn diwethaf o Sylw ar ardal Caerdydd yw ein buddsoddiad mewn saith swydd arloesol, sef y Swyddogion Cefnogi Tenantiaeth newydd. Ar ôl ymarfer recriwtio llwyddiannus, mae ein Swyddogion newydd wrthi’n dechrau ar eu gwaith newydd y foment hon ledled Cymru, ac fe fyddan nhw’n cymryd camau rhagweithiol ac ymarferol i helpu ein preswylwyr i oroesi storm y newid i fudd­daliadau. Ledled y busnes, rydym yn parhau i archwilio a buddsoddi mewn technoleg newydd, ac mae ein rhaglen cynhwysiant digidol yn parhau i ffynnu, ac yn chwarae rhan gynyddol bwysig yn y gwaith o helpu ein preswylwyr i ddelio â newidiadau sydd ar ddod i fudd­daliadau. Rydw i hefyd yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi cael swm sylweddol o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i’n helpu ni i adeiladu cartrefi fforddiadwy y mae eu hangen yn fawr ledled Cymru, yn gydnabyddiaeth o’n gallu fel cymdeithas sy’n datblygu. Pan anfonom ein Cynllun Busnes atoch ddiwedd yr hydref llynedd, dywedom wrthych y byddem yn darparu 800 o gartrefi newydd dros y pum mlynedd nesaf. Diolch i’r buddsoddiad newydd hwn, rydym yn awr yn debygol o allu darparu 1,000 o gartrefi newydd yn y pedair blynedd nesaf.

Serch hynny, dim ond rhan yn unig o’r hyn rydym yn ei wneud yw datblygu cartrefi newydd, ac felly i sicrhau ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar gwsmeriaid, ac yn atebol am yr hyn a wnawn, rydym yn ymgymryd â’n proses hunanasesu reolaidd. Rydw i a’m cyd­gyfarwyddwyr wedi bod yn cynnal ein sioeau teithio blynyddol i staff, a hyd yn hyn rydym wedi siarad â thros dri chwarter ein holl staff ledled Cymru, nifer ohonyn nhw’n byw yn y cymunedau lle maen nhw’n gweithio, gan gael cipolwg amhrisiadwy ar eu byd ac adborth ganddyn nhw. Yn olaf, mae’n bleser mawr gennyf ddweud wrthych fod rhestr cwmnïau gorau’r Sunday Times yn dangos mai ni yw sefydliad nid­er­elw gorau Cymru am yr ail flwyddyn yn olynol ­ ac rydym yn y 7fed safle yn rhestr y Deyrnas Unedig. Fe wnaethom nid yn unig godi un lle o’r 8fed safle a gawsom yn 2012, ond llwyddom hefyd i ddal gafael yn ein safon aur Tair Seren mawr ei bri. Rwy’n siŵr y cytunwch fod hwn yn ganlyniad boddhaus arall, ac yn glod i waith caled ac ymroddiad ein staff gwych. I gloi, rwy’n gobeithio y bydd y cylchlythyr briffio hwn yn fodd o roi gwybod i chi am y diweddaraf am lawer o’n gwaith ar lawr gwlad yn eich ardal chi, yn ogystal â darlun ehangach byd WWH. Peidiwch ag oedi cyn cysylltu unrhyw dro gyda’ch syniadau a’ch sylwadau ynghylch unrhyw agwedd ar ein gwaith. Yn gywir Anne Hinchey, Prif Weithredwr.


3 | Sylw ar ardal CAERDYDD | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

GOROESI’R NEWID I FUDD-DALIADAU Mae’r newidiadau i fudd­daliadau wedi bod yn nodwedd amlwg ar ein hagenda, ac yn parhau i fod felly, yn enwedig effaith y ‘dreth ar ystafelloedd gwely’ a ddaeth i rym ar 1 Ebrill. Drwy weithio’n effeithlon â thîm Budd­daliadau Tai Caerdydd, rydym wedi gallu nodi’r 333 o aelwydydd WWH yn y sir a fydd yn cael eu heffeithio gan y newid. Mae ein staff wedi cysylltu â’r holl breswylwyr a gaiff eu heffeithio i esbonio’r newidiadau, trafod yr effaith bosibl ar gyllidebau aelwydydd a gweithio gyda nhw i ganfod atebion fforddiadwy. Hyd heddiw, mae’r mwyafrif llethol o’n preswylwyr wedi dweud wrthym eu bod nhw’n bwriadu aros yn eu cartrefi presennol, er y bydd nifer yn cael anhawster dod o hyd i’r arian sydd ei angen yn lle’r budd­dal a gollir. Gan gydnabod y bydd nifer o’n preswylwyr angen rhagor o help i gynnal eu tenantiaethau, rydym hefyd wedi buddsoddi’n drwm mewn darparu cymorth parhaus drwy greu saith swydd gwbl newydd – y Swyddogion Cefnogi Tenantiaeth.

Bydd y swyddogion yn dechrau gweithio gyda ni yn awr ledled Cymru, gyda phedwar (Natalie Davies, Amanda Collins, Stuart Lock a Sharon Jones) yn y De, un (Donna Steven) yn y Canolbarth a dau (William Brook a Jen Bailey) yn gweithio yng Ngogledd Cymru. Fe fyddan nhw’n gweithio gyda phreswylwyr i’w helpu nhw i ddelio ag effaith yr holl newidiadau arfaethedig i fudd­daliadau, gan gynnwys cyflwyno’r Credyd Cynhwysol, gan roi’r wybodaeth, y dewisiadau, y nerth a’r gobaith iddyn nhw allu goroesi’r storm. Wrth gwrs, un o effeithiau’r dreth ar ystafelloedd gwely yw ein bod ni’n gweld rhai o’n cartrefi mwy o faint – yn enwedig cartrefi teuluol â thair ystafell wely – ar gael. Unwaith eto, rydym yn gweithio’n agos gyda’n holl bartneriaid yn yr awdurdodau lleol, a phob partner priodol arall, i sicrhau fod y bobl briodol sydd angen tai yn cael mynediad at y cartrefi fforddiadwy hyn.


4 | Sylw ar ardal CAERDYDD | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

YMUNWCH Â’R SGWRS

Mae gennym dros 1,300 o ddilynwyr ar Twitter erbyn hyn. Ymunwch â’r sgwrs a dilynwch ni @wwha. Rydym yn trydar bob dydd am newyddion, swyddi, digwyddiadau cyfagos, cyfleoedd hyfforddi, mentrau codi arian elusennol, ffotograffau a llawer mwy. Gallwch hefyd ein gwylio ni ar ein sianel YouTube wwhahomesforwales.


5 | Sylw ar ardal CAERDYDD | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

AROLWG BODLONRWYDD PRESWYLWYR - CAERDYDD Rydym yn cynnal ein Harolwg blynyddol o Fodlonrwydd Preswylwyr ymhlith traean o’n haelwydydd (tua 2,700) bob blwyddyn. Fe wnaethom gynnal ein hail arolwg blynyddol, a’r un mwyaf diweddar, yn ystod tymor yr hydref 2012. Dyma rai o’r prif ganlyniadau ynghyd â chipolwg ar yr hyn sy’n bwysig i’n preswylwyr yng Nghaerdydd. Bodlonrwydd cyffredinol Rydym yn falch iawn o roi gwybod i chi fod 88% (pedwar o bob pum preswyliwr) yn fodlon gyda’r gwasanaeth cyffredinol y mae WWH yn ei ddarparu. Mae hyn yn gynnydd o 2% o’i gymharu â’r arolwg a wnaethom yn 2011, ac yn gynnydd sylweddol o 7% ar y canlyniadau a gawsom yn 2007. Gwasanaethau cwsmeriaid Mae ein sgoriau ar gyfer safon y gwasanaethau cwsmeriaid pan oedd pobl yn cysylltu â ni yn dda iawn. Yn neilltuol felly, rhoddodd dros hanner yr aelwydydd (52%) sgôr berffaith o 10 i ni am natur gymwynasgar y staff, gyda’r sgôr gyfartalog yn cyrraedd 8.65 allan o 10. Yn ogystal, bu cynnydd sylweddol yn lefelau bodlonrwydd â chael ymateb prydlon (7.99 oedd y cyfartaledd, o’i gymharu â sgôr o 7.70 yn flaenorol). Y cartref Ar y cyfan, roedd yr ymatebwyr yn fodlon gyda’u cartref, gyda sgôr gyfartalog o 7.99 allan o 10, gan gynnwys sgôr o 10 gan 32% o’r sampl. Yn gyffredinol, mae sgoriau cyfartalog pob nodwedd yn y cartref yr un fath (ac yn y rhan fwyaf o achosion, yn uwch) na’r sgoriau a nodwyd yn 2011. Canlyniadau penodol i Gaerdydd Yn gyffredinol, mae barn pobl am eu cymdogaeth fel arfer yn ffactor bwysig yn lefel eu bodlonrwydd â’u llety a’u landlord. Felly, mae’n galonogol gweld fod ymatebwyr

yng Nghaerdydd wedi rhoi sgôr gyfartalog o 8.8 allan o 10 am eu bodlonrwydd â’u cymdogaeth – gyda thros hanner (56%) yn rhoi sgôr berffaith o 10. Y rhesymau pennaf a nodwyd oedd ‘man tawel’ (26%), ‘cymdogion da’ (24%) a mynediad at fwynderau (23%). Fe wnaethom hefyd ofyn i breswylwyr am eu barn ar ein blaenoriaethau er gwella amrywiaeth o feysydd gwaith dros y blynyddoedd a ddaw. Mae’r canlyniadau yn dangos yn glir ein bod yn bwriadu gwella’r modd rydym yn darparu gwasanaethau sy’n berthnasol i’n preswylwyr ac yn cael eu gwerthfawrogi ganddyn nhw. Y tair eitem amlycaf a nodwyd gan ein preswylwyr yng Nghaerdydd yw: • gwneud ein cartrefi yn fwy effeithlon o ran ynni • adolygu sut rydym yn ymdopi ag ymddygiad gwrthgymdeithasol • adolygu’r gwasanaethau i gefnogi preswylwyr hŷn a’u helpu i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi Felly, beth nesaf? Rydym nawr yn archwilio canlyniadau’r arolwg hwn yn fwy trylwyr, gan graffu ar sylwadau penodol y preswylwyr. Bydd y rhain yn amhrisiadwy i ni wrth symud ymlaen a gwella ein gwasanaethau ymhellach.


6 | Sylw ar ardal CAERDYDD | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

CEFNOGAETH Â THENANTIAETH HELPU PRESWYLWYR I DDEALL NEWIDIADAU I FUDD-DALIADAU A CHYLLIDEBU Rydym yn falch iawn o allu cyflwyno Mandy Collins, ein Swyddog Cefnogi Tenantiaeth newydd ar gyfer ardal Caerdydd Bydd Mandy yn helpu ein preswylwyr i ddelio â heriau niferus y newidiadau i fudd­daliadau, ynghyd â darparu cefnogaeth a chyngor ar gyllidebu’n effeithiol a gwybodaeth am gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant. Yn y lle cyntaf, bydd Mandy yn canolbwyntio ei hymdrechion ar helpu’r preswylwyr hynny sydd eisoes wedi cael eu nodi fel rhai sydd mewn perygl o wynebu caledi ariannol, neu fynd i ddyled, o ganlyniad i newidiadau yn sgil y ‘dreth ar ystafelloedd gwely’ a newidiadau arfaethedig eraill i fudd­daliadau. Rheolwr llinell Mandy yw’r Rheolwr Tai Jenny Williams.

MONEYLINE CYMRU NAWR YN GWEITHREDU O’N CANOLFAN GWASANAETHAU CWSMERIAID

Mae Moneyline Cymru yn gweithredu mewn nifer o ganghennau, yn bennaf yn Ne Cymru, gan gynnwys cangen Caerdydd ar Heol Ddwyreiniol y Bont­faen, ac maen nhw nawr yn ymestyn y ddarpariaeth i gynnig gwasanaeth dros y ffôn i bobl o rannau eraill o Gymru, a phobl nad ydyn nhw’n gallu cyrraedd eu swyddfeydd. Er mwyn gwneud hyn, mae Moneyline nawr yn gweithredu o’n Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid yn ein Prif Swyddfa yng Nghaerdydd am gyfnod prawf. Aeth y gwasanaeth yn fyw ym mis Chwefror, ac mae’r tîm o dri wrthi’n ateb galwadau dros ben gan ganghennau presennol Moneyline Cymru.


7 | Sylw ar ardal CAERDYDD | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

DATBLYGU CARTREFI NEWYDD

YNG NGHAERDYDD Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd ar amrywiaeth o gartrefi fforddiadwy newydd ledled y ddinas. Ar hyn o bryd, mae’r rhain yn cynnwys: Llaneirwg: Rydym yn falch iawn o allu cynnig 12 cartref newydd yn Brython Drive, Llaneirwg. Mae naw ar gael am rent fforddiadwy i bobl ar Restr Aros Gyffredin Caerdydd, tra bod y tri arall yn cynnig dewisiadau perchen cartrefi am bris isel. Taylor Wimpey yw’r contractwr ac mae disgwyl i’r gwaith adeiladu ddod i ben yn ystod yr hydref eleni. Penylan: Rydym hefyd yn y broses o gyfnewid contractau ar bedwar cartref newydd a gaiff eu hadeiladu ar Tŷ Gwyn Road, Penylan. Ein bwriad yw cynnig y rhain ar rent canolradd, ac rydym yn gobeithio y gallwn ddechrau dyrannu’n fuan. Bellway Homes yw’r contractwr, ac mae disgwyl i’r cartrefi hun gael eu cwblhau yn ystod yr haf. Fel arfer, byddai’r cartrefi dwy ystafell wely hyn yn costio dros £119,000, ond rydym yn eu gwerthu am £83,300 dan ein cynllun ecwiti a rennir. Am ragor o fanylion, gweler ein gwefan www.wwha.co.uk

Y Rhath: Mae disgwyl i Wates Living Space ddechrau gweithio ar 10 rhandy i ni yn Elm Street, y Rhath. Mae’r datblygiad hwn, sy’n werth £1 miliwn ac a gefnogir gan grant tai cymdeithasol, i fod i gael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn. Bydd yr holl gartrefi ar gael am rent fforddiadwy, ac fe’u dyrennir drwy Restr Aros Gyffredin Caerdydd. Rydym wedi llwyddo i sicrhau cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru a fydd yn ein galluogi i ddarparu mwy na 1,000 o unedau yn ystod y pedair blynedd nesaf ar draws yr holl ardaloedd lle’r ydym yn gweithredu. Mae darparu digon o gartrefi fforddiadwy o safon uchel yn parhau i fod yn fater o bwys yng Nghymru. Serch hynny, rydym yn parhau’n hyderus o’n gallu i gwrdd ag amrywiaeth o anghenion. Rydym mewn sefyllfa gref yn ariannol, a diolch i hyn rydym nid yn unig yn gallu adeiladu rhagor o gartrefi newydd, ond rhagor o’r math priodol sy’n cwrdd â’r galw lleol. Drwy ddarparu cartrefi am brisiau gwahanol, rydym yn cynnig dewisiadau o ddifrif i ni, ac yn bennaf oll, i’n cwsmeriaid cyfredol ac arfaethedig hefyd.


8 | Sylw ar ardal CAERDYDD | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Grŵp Caerau Potters

BOREAU COFFI CAERAU COURT

AC YMGYSYLLTU Â’R GYMUNED Rydym yn falch iawn o weld bod ymgysylltu â’r gymuned hefyd yn tyfu yng ngorllewin y brifddinas, gyda boreau coffi wythnosol a sesiynau cyfnewid llyfrau yn nodwedd reolaidd yn Caerau Court, Caerau. Rydym yn falch o ddweud bod y gwelliannau amgylcheddol sylweddol rydym wedi eu gwneud i’r ardal yn cael effaith o ddifrif erbyn hyn, gyda phreswylwyr yn awr yn ymgysylltu’n fwy brwd. Mae gan yr ardal ei gylchlythyr cymunedol ei hun gan WWH, ac mae disgwyl i nifer o breswylwyr elwa ar hyfforddiant a ddarperir fel rhan o’n Rhaglen Cyfranogiad Preswylwyr i’w helpu nhw i ysgrifennu a chynhyrchu eu newyddion eu hunain.

Mae dau grŵp preswylwyr gweithgar erbyn hyn, sef y Caerau Potters a Grŵp Gweithredu’r Towerblock. Yn olaf, byddwn yn parhau i weithio gyda phreswylwyr i ystyried gwneud rhagor o welliannau i’r ardal. Ar hyn o bryd, rydym yn canolbwyntio ar adnewyddu’r garejis o bosibl, gwella mannau wedi’u palmantu a pharhau i gefnogi’r grŵp rhagweithiol iawn, Caerau Potters – grŵp amgylcheddol dan arweiniad y preswylwyr.


9 | Sylw ar ardal CAERDYDD | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

GOFALU AM YR AMGYLCHEDD YNG NGHAERDYDD Mae’n un o’n blaenoriaethau corfforaethol ein bod yn lleihau’r effaith rydym yn ei gael ar yr amgylchedd, ynghyd ag effaith ein preswylwyr, hefyd. Rydym yn gwella effeithiolrwydd ynni ein cartrefi y tu hwnt i’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei fynnu, fel bod ein preswylwyr yn arbed arian, yn defnyddio llai o danwydd ac yn llai tebygol o ddioddef tlodi tanwydd. Rydym hefyd wedi buddsoddi £6 miliwn yn y pum mlynedd ddiwethaf i liniaru tlodi tanwydd yn ein cartrefi, ac fe wnawn ni barhau i fuddsoddi mewn mesurau i wella’r sefyllfa. Fe wnaethom osod gwres canolog nwy yn lle gwres canolog trydan mewn 300 o gartrefi ledled Cymru yn ystod 2012. Rydym wedi disodli gwresogyddion storio dros nos, a oedd yn ddrud, trwsgl a chyfleusterau rheoli cyfyngedig, i wres canolog nwy effeithlon yn y cartrefi a ganlyn yng Nghaerdydd: • 32 fflat yn Doyle Court, y Tyllgoed • 5 fflat yn School Court, Grangetown • 22 tŷ ym Moorland Court • 6 thŷ yn Dugdale Walk ac Albert Street yng Nglan­yr­afon • 35 fflat yn Penhill Close, Llandaf • 2 dŷ yn Firtree Close

Rydym hefyd yn cefnogi sawl prosiect amgylcheddol yn yr ardal hon, o’r rhai bach iawn irai mwy o faint. Un enghraifft yw Lord Pontypridd House, Treganna, lle darparodd ein Cronfa Amgylcheddol £100 o dalebau garddio i wella eu mannau bywyd gwyllt o gwmpas yr adeilad, ac i ategu’r lleiniau llysiau sydd wedi’u gosod yn barod ar y tir. Ym mis Medi 2012, gosododd WWH fan llechfeini yn St Clements Court, Pentwyn. Adeiladodd y preswylwyr welyau plannu wedi’u codi o gynnyrch blociau pren pîn ar­ loesol fel y gallan nhw dyfu eu ffrwythau a’u llysiau eu hunain. Gosodwyd drysau newydd yn y lolfa, gan ei wneud yn fwy agored i breswylwyr sydd eisiau tyfu eu ffrwythau a’u llysiau eu hunain. Darparodd Cronfa Amgylcheddol WWH £1,500 tuag at bridd, gwelyau plannu wedi’u codi, offer a hadau. Am ragor o fanylion ynghylch ein Rhaglen Cynnal a Chadw wedi’i Gynllunio, cysylltwch â’r Rheolwr Masnachol, Mike Wellock. Ac am ragor o wybodaeth ynghylch ein gwaith Amgylcheddol; gan gynnwys ein Cronfa Amgylcheddol, cysylltwch ag Owen Jones, ein Swyddog Amgylchedd a Chynaladwyedd.


10 | Sylw ar ardal CAERDYDD | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

CEFNOGI HOUSE SWAP WALES Gan gofio am yr angen i nifer o breswylwyr symud i gartrefi llai o faint o ganlyniad i’r dreth ar ystafelloedd gwely, rydym wedi ymuno â Chymdeithasau Tai Cadwyn a Linc i gefnogi creu prosiect House Swap Wales ar Facebook. Yn ei hanfod, ceir cyfres o grwpiau Facebook fesul sir – e.e. House Swap Cardiff, House Swap Wrexham ac ati – ac mae House Swap Wales wedi ei anelu at denantiaid tai cymdeithasol sydd angen symud o ganlyniad i newidiadau i fudd­daliadau, gan gynnwys y dreth ar ystafelloedd wely, neu sydd eisiau symud am resymau eraill. Mae’n darparu llwyfan

parod a syml ar­lein i breswylwyr hysbysebu eu cartrefi eu hunain yn rhad ac am ddim, chwilio am gartrefi posibl y gallen nhw symud iddyn nhw, a hwyluso’r gwaith o symud eu hunain. Rhagor o wybodaeth www.facebook.com/HouseSwapWales a dilynwch ni ar Twitter @HouseSwapWales


11 | Sylw ar ardal CAERDYDD | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

MYND AR-LEIN FFYNNU AR-LEIN Mae technoleg yn rhyddhau, yn grymuso ac yn galluogi. Mae mwy a mwy o wasanaethau, gan gynnwys mynediad at fudd­daliadau, ar gael drwy’r rhyngrwyd yn unig, ac eto nid yw mwyafrif ein preswylwyr wedi cysylltu â’r we. Felly, rydym yn parhau i annog ein preswylwyr i fynd ar­lein, a gwneud yn fawr o’r cyfle i fod ar­lein, drwy amrywiaeth o fentrau cynhwysiant digidol ledled Cymru. Ein bwriad yw: • helpu pobl i wneud yn fawr o’u hincwm a delio â newidiadau i fudd­daliadau, yn enwedig cyflwyno’r Credyd Cynhwysol • mynd i’r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol drwy alluogi preswylwyr i fod mewn cysylltiad gwell â’u cymunedau a thu hwnt • cynorthwyo preswylwyr i gael gwell gwerth am arian drwy gyrraedd gwybodaeth a phrynu nwyddau ar­lein • annog preswylwyr i fanteisio ar yr holl fuddiannau addysgol – a hwyl – bod ar­lein. Yn ne Cymru, mae ein cynllun peilot mynediad fforddiadwy at fand eang Wi­Fi yn Nhŷ

Pontrhun ym Merthyr Tudful yn sylfaen wych i ni ymestyn y fenter hon ymhellach, lle bynnag y bydd hynny’n bosibl, ledled Cymru. Ac yng ngogledd Cymru, rydym hefyd wedi galluogi Wi­Fi mewn lolfa gymunol yn Nant y Môr, ein cynllun gofal ychwanegol ym Mhrestatyn. Mae gwaith yn cael ei gynnal i alluogi Wi­Fi mewn lolfeydd cymunol yn nifer o’n cynlluniau er ymddeol yng ngogledd a de Cymru. Rydym hefyd yn cynnal sesiynau ‘deall sut’ gyda phreswylwyr, fel rhan o brosiect ‘Take Ctrl’, rydym yn ei gynnal ar ran Fforwm Gallu Ariannol Gogledd Cymru. Hyd yn hyn, mae Take Ctrl wedi helpu dros 500 o breswylwyr i fynd ar­lein, gyda chefnogaeth 48 o wirfoddolwyr. Mae Jen Bailey, un o’n swyddogion Cefnogi Tenantiaeth, yn canolbwyntio’n benodol ar y galw hwn.


12 | Sylw ar ardal CAERDYDD | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Glenys Vandervolk, breswilwyr, Alison Hayes ac Alyson Robinson o WWH yn paratoi tir ar Newent Road

GERDDI CYMUNEDOL

LLANEIRWG Mae’r prosiect hwn yn datblygu’n dda, a gyda’r gwanwyn ar ddod – a thywydd brafiach yn fwy cyson, gobeithio – rydym yn edrych ymlaen at blannu rhagor o goed ffrwythau cynhenid o Gymru ar y safle yn Newent Road, Llaneirwg, ynghyd â gosod yr isadeiledd, gan gynnwys gwelyau plannu wedi’u codi. Mae grŵp craidd o hanner dwsin o breswylwyr yn chwarae rhan

weithredol yn y prosiect cyffrous hwn, ac mae gennym obeithion mawr y bydd y grŵp yn tyfu, diolch i safle Facebook y prosiect www.facebook.com/StMellonsCommunity­ Garden. Hyd yn hyn, mae’r prosiect wedi cael ei gyllido drwy £1,500 a gyfrannwyd gan WWH, ac aelodau eraill o Gompact Llaneirwg, ynghyd â grant o £500 gan Gronfa TNT Grŵp Rheoli Cymdogaethau Dwyrain Caerdydd.


13 | Sylw ar ardal CAERDYDD | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

CONNECT24

GWASANAETHAU

FFÔN A THELEOFAL YN WWH Rydym wedi bod yn darparu gwasanaethau ffôn a theleofal ers dros 10 mlynedd, a chymaint yw’r bri ar y rhan hwn o’n gwaith fel ein bod wedi rhoi enw penodol ar y gwasanaeth, Connect24. Pam Connect? Gan mai’r bwriad yw cysylltu pobl â’r gwasanaethau maen nhw eu hangen i’w galluogi i fyw’n annibynnol a diogel yn eu cartrefi. A 24? Gan ein bod ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, 52 wythnos y flwyddyn. Ar hyn o bryd, rydym yn darparu gwasanaethau larwm mewn argyfwng a theleofal Connect24 i dros 4,000 o aelwydydd ledled Cymru, ac mae gennym gontractau gyda: • Tai Cymoedd i’r Arfordir ym Mhen­y­bont ar Ogwr • Grŵp Tai Pennaf yng ngogledd a chanolbarth Cymru • Cymdeithas Tai Newydd yn ne a chanolbarth Cymru Rydym hefyd yn monitro larymau ar gyfer unigolion mewn llety ar rent ynghyd â pherchen­feddianwyr annibynnol. Mae system monitro larwm syml, gan gynnwys y cyfarpar, yn costio cyn lleied â £2.50 yr wythnos. Mae hyn yn helpu i roi tawelwch meddwl i bobl hŷn a phobl agored i niwed fel eu bod nhw’n gallu parhau i fyw’n annibynnol yn eu cartref eu hunain, a rhoi tawelwch meddwl i’w teuluoedd hefyd – y cyfan am bris fforddiadwy. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth llawn 24/7 y tu allan i oriau, ac mae gennym gontractau â’r cymdeithasau tai a ganlyn, sy’n golygu ein bod yn darparu gwasanaethau y tu allan i oriau i 27,000 o aelwydydd ledled Cymru: • Hafan Cymru ledled Cymru • Grŵp Gwalia ledled Cymru • Tai Cymunedol Bron Afon yn Nhorfaen

Am ragor o wybodaeth ynghylch Connect24, ewch i’n gwefan www.connect­24.co.uk neu cysylltwch â Jackie Edwards, Rheolwr y Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid, neu Cate Dooher, Pennaeth y Gwasanaethau Cymorth, ar 0800 052 2526.


14 | Sylw ar ardal CAERDYDD | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Di Barnes, Verity Kimpton ac Anne Hinchey – tîm awyrblymio dewr WWH.

Y DIWEDDARAF AM ELUSENNAU Ar ôl dwy flynedd wych, pan gododd staff a phreswylwyr £25,000 tuag at Help for Heroes, ein helusen bartner gorfforaethol rhwng Ionawr 2013 a Rhagfyr 2015 yw Cymdeithas Strôc Cymru. Wedi ei mabwysiadu fel ein prif elusen bartner ym mis Ionawr eleni, rydym yn barod wedi codi dros £10,000 at yr achos da. Mae digwyddiadau yn cynnwys diwrnodau gwisg anffurfiol rheolaidd i staff, cymryd rhan yn ras hwyl Dydd Gŵyl Dewi, ac yn fwyaf diweddar, awyrblymio noddedig. Cafodd arweinydd tîm elusennol WWH, Di Barnes, gwmni’r swyddog gweinyddol Verity Kimpton a’r Prif Weithredwr Anne Hinchey yn yr awyren, a neidiodd y tair o 13,000 troedfedd uwchlaw maes awyr Abertawe ddydd Sadwrn 6 Ebrill. Diolch yn fawr iawn i bawb a’u cefnogodd nhw yn y fenter arswydus hon. Ceir

rhagor o fanylion am ddigwyddiadau elusennol a chodi arian sydd ar ddod ar ein gwefan ac ar Twitter @wwha. Mae elusennau eraill sydd wedi elwa yn sgil gwaith codi arian gan y staff, yn cynnwys Diwrnod trwynau coch Comic Relief a Banciau Bwyd Ymddiriedolaeth Trusell yng Nghaerdydd, Merthyr Tudful, Wrecsam, Bro Morgannwg a Phen­y­bont ar Ogwr.


15 | Sylw ar ardal CAERDYDD | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Ecoryfelwyr Western Court

CRYNODEB GWOBRAU Pan aed i’r wasg, roedd nifer o staff a phreswylwyr wedi cael lle ar restr fer sawl gwobr fawreddog. Maen nhw’n cynnwys: Gwobrau Cyfranogiad TPAS Cymru 2013:

Gwobrau Arwyr Tai CIH:

Mae Les Cooper wedi cael ei enwebu yn dilyn ei farwolaeth i gael y wobr i Gydweithiwr Ysbrydoledig. Bu farw Les yn annisgwyl fis diwethaf, ac roedd yn Swyddog Cyngor ar Arian i ni a oedd yn gweithio yn ein swyddfa yn y Fflint yng ngogledd Cymru. Roedd yn aelod gweithgar o Fforwm Gallu Ariannol Gogledd Cymru, ac roedd yn hynod ddylanwadol ac yn uchel iawn ei barch yn y sector. Cafodd effaith gadarnhaol iawn ar fywydau pawb a fu mewn cysylltiad ag ef.

Mae’r Rheolwr Cynllun Helen Jones o Landudno, Conwy, wedi cael lle ar y rhestr fer yng nghategori hynod boblogaidd Cydweithiwr Ysbrydoledig.

Mae’r garddwyr medrus ‘Ecoryfelwyr Western Court’ o’n cynllun er ymddeol Western Court ym Mhen­y­bont ar Ogwr wedi cael lle ar restr fer Gwobr Gwella’r Amgylchedd.

Les Cooper

Helen Jones

Gwobrau Rhagoriaeth mewn Adnoddau Dynol: Mae Anne Hinchey, y Prif Weithredwr, wedi cael lle ar restr fer Gwobr y Prif Weithredwr sy’n canolbwyntio fwyaf ar bobl yn y sector Elusennol / Nid­er­elw. Dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol y mae Anne wedi cael lle ar restr fer y wobr hon.

Anne Hinchey


16 | Sylw ar ardal CAERDYDD | STAFF LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

STAFF LLEOL Pob ardal:

O’r chwith i’r dde: Tony Wilson (Cyfarwyddwr Cyllid) Shayne Hembrow (Dirprwy Brif Weithredwr/Cyfarwyddwr Masnachol) Anne Hinchey (Prif Weithredwr) Steve Porter (Cyfarwyddwr Gweithrediadau)

Pob ardal:

Lynnette Glover, Pennaeth Tai Nikki Cole, Pennaeth Datblygu Alex Stephenson, Pennaeth Gwasanaethau Eiddo

Caerdydd Rheolwr Tai: Rheolwr Tai: Rheolwr Masnachol: Rheolwr Masnachol: Rheolwr Datblygu:

Chris Walton (Anghenion cyffredinol) Jackie Bloxham (Tai er ymddeol) Robin Alldred (Atgyweiriadau) Mike Wellock (Cynnal a chadw wedi’i gynllunio) Swydd wag (i’w benodi/i’w phenodi)

Swyddogion Tai:

Anghenion Cyffredinol Alyson Robinson Alison Hayes Claire Jones Sarah Bolton Jo Brennan­Lloyd Meryl Thomas

Tai er ymddeol Elizabeth McEwan Deborah Cadwallader

Mentrau yn y Gymdogaeth: Bridget Garrod Herman Valentin (Swyddog Prosiect Datblygu Cymunedau) Claire Hammond (Swyddog Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr) Swyddogion Rheoli Asedau: Grant Gibbon Glyn Smith Yr Amgylchedd:

Owen Jones

Swyddog Cefnogi Tenantiaeth:

Mandy Collins

Ffôn: E­bost: Gwefan:

0800 052 2526 joe.bloggs@wwha.co.uk www.wwha.co.uk

Roy Preece David Morgan


Tai Wales & West 3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2UD. ac Uned 2, Parc Busnes Acorn, Aber Road, y Fflint CH6 5YN. Ffôn: 0800 052 2526 Minicom: 0800 052 5205 E­bost: contactus@wwha.co.uk Gwefan: www.wwha.co.uk @wwha wwhahomesforwales

Cyhoeddwyd Ebrill 2013


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.