Sylw ar ardal Sir Ddinbych Gwanwyn 2013

Page 1

SYLW AR ARDAL

SIR DDINBYCH RHIFYN 5 | GWANWYN 2013

Goroesi’r newid i fudd­daliadau Mynd ar­lein, ffynnu ar­lein Ein datblygiadau diweddaraf yn eich ardal Gwasanaethau ffôn a theleofal Connect24


2 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

CYFLWYNIAD ANNE Croeso i rifyn gwanwyn 2013 Sylw ar ardal Sir Ddinbych, sy’n rhoi’r diweddaraf i chi am fentrau Tai Wales & West yn eich ardal chi. Mae’r rhifyn hwn yn cynnwys ein cymysgedd arferol o newyddion ynghylch rhai o’n prosiectau cyfredol yn benodol i’r sir, ynghyd â’r diweddaraf am faterion perthnasol drwy’r sefydliad cyfan. Yn gyntaf oll, yn dilyn ein Harolwg diweddaraf o Fodlonrwydd Preswylwyr, rwy’n falch iawn o ddweud wrthych fod 88% o’n preswylwyr wedi dweud wrthym eu bod nhw’n fodlon gyda’r gwasanaeth cyffredinol a ddarparwyd gan WWH. Mae hyn yn gynnydd o 2% o’i gymharu â’r arolwg a wnaethom yn 2011, ac yn gynnydd sylweddol o 7% ar y canlyniadau a gawsom yn 2007. Datblygiad sylweddol arall ers ein rhifyn diwethaf o Sylw ar ardal Sir Ddinbych yw ein buddsoddiad mewn saith swydd arloesol, sef y Swyddogion Cefnogi Tenantiaeth newydd. Ar ôl ymarfer recriwtio llwyddiannus, mae ein Swyddogion newydd wrthi’n dechrau ar eu gwaith newydd y foment hon ledled Cymru, ac fe fyddan nhw’n cymryd camau rhagweithiol ac ymarferol i helpu ein preswylwyr i oroesi storm y newid i fudd­daliadau. Ledled y busnes, rydym yn parhau i archwilio a buddsoddi mewn technoleg newydd, ac mae ein rhaglen cynhwysiant digidol yn parhau i ffynnu, ac yn chwarae rhan gynyddol bwysig yn y gwaith o helpu ein preswylwyr i ddelio â newidiadau sydd ar ddod i fudd­daliadau. Rydw i hefyd yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi cael swm sylweddol o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i’n helpu ni i adeiladu cartrefi fforddiadwy y mae eu hangen yn fawr ledled Cymru, yn gydnabyddiaeth o’n gallu fel cymdeithas sy’n datblygu. Pan anfonom ein Cynllun Busnes atoch ddiwedd yr hydref llynedd, dywedom wrthych y byddem yn darparu 800 o gartrefi newydd dros y pum mlynedd nesaf. Diolch i’r buddsoddiad newydd hwn, rydym yn awr yn debygol o allu darparu 1,000 o gartrefi newydd yn y pedair blynedd nesaf.

Serch hynny, dim ond rhan yn unig o’r hyn rydym yn ei wneud yw datblygu cartrefi newydd, ac felly i sicrhau ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar gwsmeriaid, ac yn atebol am yr hyn a wnawn, rydym yn ymgymryd â’n proses hunanasesu reolaidd. Rydw i a’m cyd­gyfarwyddwyr wedi bod yn cynnal ein sioeau teithio blynyddol i staff, a hyd yn hyn rydym wedi siarad â thros dri chwarter ein holl staff ledled Cymru, nifer ohonyn nhw’n byw yn y cymunedau lle maen nhw’n gweithio, gan gael cipolwg amhrisiadwy ar eu byd ac adborth ganddyn nhw. Yn olaf, mae’n bleser mawr gennyf ddweud wrthych fod rhestr cwmnïau gorau’r Sunday Times yn dangos mai ni yw sefydliad nid­er­elw gorau Cymru am yr ail flwyddyn yn olynol ­ ac rydym yn y 7fed safle yn rhestr y Deyrnas Unedig. Fe wnaethom nid yn unig godi un lle o’r 8fed safle a gawsom yn 2012, ond llwyddom hefyd i ddal gafael yn ein safon aur Tair Seren mawr ei bri. Rwy’n siŵr y cytunwch fod hwn yn ganlyniad boddhaus arall, ac yn glod i waith caled ac ymroddiad ein staff gwych. I gloi, rwy’n gobeithio y bydd y cylchlythyr briffio hwn yn fodd o roi gwybod i chi am y diweddaraf am lawer o’n gwaith ar lawr gwlad yn eich ardal chi, yn ogystal â darlun ehangach byd WWH. Peidiwch ag oedi cyn cysylltu unrhyw dro gyda’ch syniadau a’ch sylwadau ynghylch unrhyw agwedd ar ein gwaith. Yn gywir Anne Hinchey, Prif Weithredwr.


3 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

GOROESI’R NEWID I FUDD-DALIADAU Mae’r newidiadau i fudd­daliadau wedi bod yn nodwedd amlwg ar ein hagenda, ac yn parhau i fod felly, yn enwedig effaith y ‘dreth ar ystafelloedd gwely’ a ddaeth i rym ar 1 Ebrill. Drwy weithio’n effeithlon â thîm Budd­daliadau Tai Sir Ddinbych, rydym wedi gallu nodi’r 43 o aelwydydd WWH yn y sir a fydd yn cael eu heffeithio gan y newid. Mae ein staff wedi cysylltu â’r holl breswylwyr a gaiff eu heffeithio i esbonio’r newidiadau, trafod yr effaith bosibl ar gyllidebau aelwydydd a gweithio gyda nhw i ganfod atebion fforddiadwy. Hyd heddiw, mae’r mwyafrif llethol o’n preswylwyr wedi dweud wrthym eu bod nhw’n bwriadu aros yn eu cartrefi presennol, er y bydd nifer yn cael anhawster dod o hyd i’r arian sydd ei angen yn lle’r budd­dal a gollir. Gan gydnabod y bydd nifer o’n preswylwyr angen rhagor o help i gynnal eu tenantiaethau, rydym hefyd wedi buddsoddi’n drwm mewn darparu cymorth parhaus drwy greu saith swydd gwbl newydd – y Swyddogion Cefnogi Tenantiaeth.

Bydd y swyddogion yn dechrau gweithio gyda ni yn awr ledled Cymru, gyda phedwar (Natalie Davies, Amanda Collins, Stuart Lock a Sharon Jones) yn y De, un (Donna Steven) yn y Canolbarth a dau (William Brook a Jen Bailey) yn gweithio yng Ngogledd Cymru. Fe fyddan nhw’n gweithio gyda phreswylwyr i’w helpu nhw i ddelio ag effaith yr holl newidiadau arfaethedig i fudd­daliadau, gan gynnwys cyflwyno’r Credyd Cynhwysol, gan roi’r wybodaeth, y dewisiadau, y nerth a’r gobaith iddyn nhw allu goroesi’r storm. Wrth gwrs, un o effeithiau’r dreth ar ystafelloedd gwely yw ein bod ni’n gweld rhai o’n cartrefi mwy o faint – yn enwedig cartrefi teuluol â thair ystafell wely – ar gael. Unwaith eto, rydym yn gweithio’n agos gyda’n holl bartneriaid yn yr awdurdodau lleol, a phob partner priodol arall, i sicrhau fod y bobl briodol sydd angen tai yn cael mynediad at y cartrefi fforddiadwy hyn.


4 | | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

YMUNWCH Â’R SGWRS

Mae gennym dros 1,300 o ddilynwyr ar Twitter erbyn hyn. Ymunwch â’r sgwrs a dilynwch ni @wwha. Rydym yn trydar bob dydd am newyddion, swyddi, digwyddiadau cyfagos, cyfleoedd hyfforddi, mentrau codi arian elusennol, ffotograffau a llawer mwy. Gallwch hefyd ein gwylio ni ar ein sianel YouTube wwhahomesforwales.


5 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

AROLWG BODLONRWYDD PRESWYLWYR – SIR DDINBYCH Rydym yn cynnal ein Harolwg blynyddol o Fodlonrwydd Preswylwyr ymhlith traean o’n haelwydydd (tua 2,700) bob blwyddyn. Fe wnaethom gynnal ein hail arolwg blynyddol, a’r un mwyaf diweddar, yn ystod tymor yr hydref 2012. Dyma rai o’r prif ganlyniadau ynghyd â chipolwg ar yr hyn sy’n bwysig i’n preswylwyr yn Sir Ddinbych. Bodlonrwydd cyffredinol Rydym yn falch iawn o roi gwybod i chi fod 88% (pedwar o bob pum preswyliwr) yn fodlon gyda’r gwasanaeth cyffredinol y mae WWH yn ei ddarparu. Mae hyn yn gynnydd o 2% o’i gymharu â’r arolwg a wnaethom yn 2011, ac yn gynnydd sylweddol o 7% ar y canlyniadau a gawsom yn 2007.

yn Sir Ddinbych wedi rhoi sgôr gyfartalog o 8.2 allan o 10 am eu bodlonrwydd â’u cymdogaeth – diolch i’r ffaith bod dros draean wedi rhoi sgôr berffaith o 10. Y rhesymau pennaf a nodwyd oedd cymdogion da, gyda thros chwarter yr ymatebwyr yn nodi fod ganddyn nhw gymdogion da, a byw mewn man tawel (30% a 27% yn eu trefn).

Gwasanaethau cwsmeriaid Mae ein sgoriau ar gyfer safon y gwasanaethau cwsmeriaid pan oedd pobl yn cysylltu â ni yn dda iawn. Yn neilltuol felly, rhoddodd dros hanner yr aelwydydd (52%) sgôr berffaith o 10 i ni am natur gymwynasgar y staff, gyda’r sgôr gyfartalog yn cyrraedd 8.65 allan o 10. Yn ogystal, bu cynnydd sylweddol yn lefelau bodlonrwydd â chael ymateb prydlon (7.99 oedd y cyfartaledd, o’i gymharu â sgôr o 7.70 yn flaenorol).

Fe wnaethom hefyd ofyn i breswylwyr am eu barn ar ein blaenoriaethau er gwella amrywiaeth o feysydd gwaith dros y blynyddoedd a ddaw. Mae’r canlyniadau yn dangos yn glir ein bod yn bwriadu gwella’r modd rydym yn darparu gwasanaethau sy’n berthnasol i’n preswylwyr ac yn cael eu gwerthfawrogi ganddyn nhw. Y tair eitem amlycaf a nodwyd gan ein preswylwyr yn Sir Ddinbych yw:

Y cartref Ar y cyfan, roedd yr ymatebwyr yn fodlon gyda’u cartref, gyda sgôr gyfartalog o 7.99 allan o 10, gan gynnwys sgôr o 10 gan 32% o’r sampl. Yn gyffredinol, mae sgoriau cyfartalog pob nodwedd yn y cartref yr un fath (ac yn y rhan fwyaf o achosion, yn uwch) na’r sgoriau a nodwyd yn 2011. Canlyniadau penodol i Sir Ddinbych Yn gyffredinol, mae barn pobl am eu cymdogaeth fel arfer yn ffactor bwysig yn lefel eu bodlonrwydd â’u llety a’u landlord. Felly, mae’n galonogol gweld fod ymatebwyr

• gwneud ein cartrefi yn fwy effeithlon o ran ynni • adolygu sut rydym yn gosod cymhorthion ac addasiadau yng nghartrefi preswylwyr anabl • adolygu sut rydym yn ymdopi ag ymddygiad gwrthgymdeithasol Felly, beth nesaf? Rydym nawr yn archwilio canlyniadau’r arolwg hwn yn fwy trylwyr, gan graffu ar sylwadau penodol y preswylwyr. Bydd y rhain yn amhrisiadwy i ni wrth symud ymlaen a gwella ein gwasanaethau ymhellach.


6 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

DATBLYGU CARTREFI NEWYDD YN SIR DDINBYCH Mae ein datblygiad tai â chymorth yng Nghil y Coed yn Henllan yn mynd o nerth i nerth, gydag adborth cadarnhaol iawn gan breswylwyr, gofalwyr a’u teuluoedd ar gyfer y cyfleusterau arbenigol a ddarperir yn y byngalos mewn grwpiau o dri.

Rydym wedi llwyddo i sicrhau cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru a fydd yn ein galluogi i ddarparu mwy na 1,000 o unedau yn ystod y pedair blynedd nesaf ar draws yr holl ardaloedd lle’r ydym yn gweithredu.

Roeddem hefyd wrth ein bodd yn ymuno ag Ysgol Henllan gerllaw’r datblygiad i helpu i enwi’r chwe chartref anghenion cyffredinol arall yr ydym wedi eu datblygu ar y tir hwn yn Garn Road. Mae preswylwyr cyntaf y cartrefi newydd hyfryd hyn ar rent fforddiadwy wedi ymgartrefu yno erbyn hyn. Yn awr, rydym yn ystyried cynlluniau ar gyfer y llain o dir sydd gennym yn weddill yn Henllan, ynghyd ag ystyried dewisiadau eraill i gwrdd ag amrywiaeth o ofynion tai i’r gymuned ehangach.

Mae darparu digon o gartrefi fforddiadwy o safon uchel yn parhau i fod yn fater o bwys. Serch hynny, rydym yn parhau’n hyderus o’n gallu i gwrdd ag amrywiaeth o anghenion. Rydym mewn sefyllfa gref yn ariannol, a diolch i hyn rydym nid yn unig yn gallu adeiladu rhagor o gartrefi newydd, ond rhagor o’r math priodol sy’n cwrdd â’r galw lleol. Drwy ddarparu cartrefi am brisiau gwahanol, rydym yn cynnig dewisiadau o ddifrif i ni, ac yn bennaf oll, i’n cwsmeriaid cyfredol ac arfaethedig hefyd.


7 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

CEFNOGAETH Â THENANTIAETH Rydym yn falch iawn o allu cyflwyno William Brook, ein Swyddog Cefnogi Tenantiaeth newydd ar gyfer ardal Sir Ddinbych. Bydd William yn helpu ein preswylwyr i ddelio â heriau niferus y newidiadau i fudd­daliadau, ynghyd â darparu cefnogaeth a chyngor ar gyllidebu’n effeithiol a gwybodaeth am gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant. Yn y lle cyntaf, bydd William yn canolbwyntio ei ymdrechion ar helpu’r preswylwyr hynny sydd eisoes wedi cael eu nodi fel rhai sydd mewn perygl o wynebu caledi ariannol, neu fynd i ddyled, o ganlyniad i newidiadau yn sgil y ‘dreth ar ystafelloedd gwely’ a newidiadau arfaethedig eraill i fudd­daliadau. Bydd William yn gweithio ochr yn ochr â Jen Bailey, ein hail Swyddog Cefnogi Tenantiaeth dros ardal gogledd Cymru, sydd ar hyn o bryd yn gweithio fel Cydlynydd y Prosiect Cynhwysiant Digidol Take Control.


8 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

GOFALU AM YR AMGYLCHEDD YN SIR DDINBYCH Mae’n un o’n blaenoriaethau corfforaethol ein bod yn lleihau’r effaith rydym yn ei gael ar yr amgylchedd, ynghyd ag effaith ein preswylwyr, hefyd. Rydym yn gwella effeithiolrwydd ynni ein cartrefi y tu hwnt i’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei fynnu, fel bod ein preswylwyr yn arbed arian, yn defnyddio llai o danwydd ac yn llai tebygol o ddioddef tlodi tanwydd. Rydym hefyd wedi buddsoddi £6 miliwn yn y pum mlynedd ddiwethaf i liniaru tlodi tanwydd yn ein cartrefi, ac fe wnawn ni barhau i fuddsoddi mewn mesurau i wella’r sefyllfa. Un enghraifft o hyn yw’r gwaith uwchraddio i’r systemau awyru mecanyddol ac adfer gwres yn ein cartrefi yn Erw Hir, Coychurch. Bydd y gwaith hwn yn sicrhau bod y system yn awyru’n rhagorol ac yn cadw’r cartrefi’n gynnes yr un pryd. Rydym hefyd yn cefnogi sawl prosiect amgylcheddol yn yr ardal hon, o’r rhai bychan iawn i rai tipyn mwy o faint. Un enghraifft yw’r prosiect gardd gymunedol yng nghynllun er ymddeol Buxton Court yn y Rhyl, lle’r ydym yn cefnogi preswylwyr i greu eu gerddi eu hunain. Mae preswylwyr yn awyddus i dyfu eu cynnyrch eu hunain, ac wedi clustnodi llain o dir y gallan nhw ei defnyddio, ac yn fuan byddan nhw’n arloesi drwy adeiladu gwelyau llysiau wedi’u codi a gosod casgenni dŵr. Mae cefnogaeth i’r grŵp wedi cynnwys biniau compost a gyfrannwyd gan Gyngor Sir Ddinbych, £250 o gynllun Grantiau Cyfalaf Bach Sir Ddinbych, ac yswiriant i grwpiau cymunedol gan Cadwch Gymru’n Daclus, ynghyd â Grant Amgylcheddol gan WWH. Mae preswylwyr hefyd wedi cyflwyno cais i Cadwch Gymru’n Daclus am dalebau i brynu eitemau amrywiol, gan gynnwys hadau. Nod y grŵp yw sicrhau y bydd yr ardd yn wirioneddol organig, gan ddefnyddio pethau a ailgylchwyd lle bynnag y

mae hynny’n bosibl. Fe wnaeth Owen Jones, Swyddog yr Amgylchedd a Chynaladwyedd WWH, ddyrannu £2,000 o’r Gronfa Amgylcheddol, gan ddweud “Maen nhw’n grŵp o unigolion gweithgar a llawn cymhelliant” Mewn mannau eraill yn Sir Ddinbych, cafodd preswylwyr cynllun gofal ychwanegol Nant y Môr ym Mhrestatyn chwe math o goed ffrwythau o Gymru, a gafodd eu plannu yng nghefn y cynllun ym mis Rhagfyr. Mae grŵp garddio Nant y Môr yn tyfu eu llysiau eu hunain (ac yn awr, eu ffrwythau eu hunain) gyda chefnogaeth ein Cronfa Amgylcheddol. Mae gan y grŵp fannau plannu newydd hefyd, wedi eu gwneud o loriau pren wedi’u hailgylchu. Am ragor o fanylion ynghylch ein Rhaglen Cynnal a Chadw wedi’i Gynllunio, cysylltwch â’r Rheolwr Masnachol, Mike Wellock. Ac am ragor o wybodaeth ynghylch ein gwaith Amgylcheddol; gan gynnwys ein Cronfa Amgylcheddol, cysylltwch ag Owen Jones, ein Swyddog Amgylchedd a Chynaladwyedd.

O’r chwith I’r dde – Margi Sharpe, Eric Fitton a Betty ei wraig.


8 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

UN LLWYBR MYNEDIAD AT DAI (SARTH) Ynghyd â darparwyr tai eraill yng Nghonwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint, rydym wrthi’n ymgynghori â phreswylwyr, ymgeiswyr a rhanddeiliaid eraill ynghylch cofrestr dai gyffredin ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru. Y nod yw i bob darparwr tai ddefnyddio dull cyson, gan ei gwneud yn haws i bobl ymgeisio am dai a darparu gwasanaeth gwell i unrhyw un sy’n chwilio am gartref newydd. Daw’r

cyfnod ymgynghori i ben ar 30 Ebrill 2013. Gallwch weld yr wybodaeth ymgynghori, yr arolwg a’r polisi llawn fan hyn: www.conwy.gov.uk/singleaccesssurvey

MONEYLINE CYMRU NAWR YN GWEITHREDU O’N CANOLFAN GWASANAETHAU CWSMERIAID

Mae Moneyline Cymru yn gweithredu mewn nifer o ganghennau, yn bennaf yn Ne Cymru, ac maen nhw eisiau cynnig gwasanaeth dros y ffôn i bobl o rannau eraill o Gymru, a phobl nad ydyn nhw’n gallu cyrraedd eu swyddfeydd. Felly, maen nhw nawr yn gweithredu o’n Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid yn ein Prif Swyddfa yng Nghaerdydd am gyfnod prawf. Aeth y gwasanaeth yn fyw ym mis Chwefror, ac mae’r tîm o dri wrthi’n ateb galwadau dros ben gan ganghennau presennol Moneyline Cymru.


9 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

CEFNOGI HOUSE SWAP WALES Gan gofio am yr angen i nifer o breswylwyr symud i gartrefi llai o faint o ganlyniad i’r dreth ar ystafelloedd gwely, rydym wedi ymuno â Chymdeithasau Tai Cadwyn a Linc i gefnogi creu prosiect House Swap Wales ar Facebook. Yn ei hanfod, ceir cyfres o grwpiau Facebook fesul sir – e.e. House Swap Cardiff, House Swap Wrexham ac ati – ac mae House Swap Wales wedi ei anelu at denantiaid tai cymdeithasol sydd angen symud o ganlyniad i newidiadau i fudd­daliadau, gan gynnwys y dreth ar ystafelloedd wely, neu sydd eisiau symud am resymau eraill. Mae’n darparu llwyfan

parod a syml ar­lein i breswylwyr hysbysebu eu cartrefi eu hunain yn rhad ac am ddim, chwilio am gartrefi posibl y gallen nhw symud iddyn nhw, a hwyluso’r gwaith o symud eu hunain. Rhagor o wybodaeth www.facebook.com/HouseSwapWales a dilynwch ni ar Twitter @HouseSwapWales


10 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

MYND AR-LEIN FFYNNU AR-LEIN Mae technoleg yn rhyddhau, yn grymuso ac yn galluogi. Mae mwy a mwy o wasanaethau, gan gynnwys mynediad at fudd­daliadau, ar gael drwy’r rhyngrwyd yn unig, ac eto nid yw mwyafrif ein preswylwyr wedi cysylltu â’r we. Felly, rydym yn parhau i annog ein preswylwyr i fynd ar­lein, a gwneud yn fawr o’r cyfle i fod ar­lein, drwy amrywiaeth o fentrau cynhwysiant digidol ledled Cymru. Ein bwriad yw: • helpu pobl i wneud yn fawr o’u hincwm a delio â newidiadau i fudd­daliadau, yn enwedig cyflwyno’r Credyd Cynhwysol • mynd i’r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol drwy alluogi preswylwyr i fod mewn cysylltiad gwell â’u cymunedau a thu hwnt • cynorthwyo preswylwyr i gael gwell gwerth am arian drwy gyrraedd gwybodaeth a phrynu nwyddau ar­lein • annog preswylwyr i fanteisio ar yr holl fuddiannau addysgol – a hwyl – bod ar­lein. Yn ne Cymru, mae ein cynllun peilot mynediad fforddiadwy at fand eang Wi­Fi yn Nhŷ

Pontrhun ym Merthyr Tudful yn sylfaen wych i ni ymestyn y fenter hon ymhellach, lle bynnag y bydd hynny’n bosibl, ledled Cymru. Ac yng ngogledd Cymru, rydym hefyd wedi galluogi Wi­Fi mewn lolfa gymunol yn Nant y Môr, ein cynllun gofal ychwanegol ym Mhrestatyn. Mae gwaith yn cael ei gynnal i alluogi Wi­Fi mewn lolfeydd cymunol yn nifer o’n cynlluniau er ymddeol yng ngogledd a de Cymru. Rydym hefyd yn cynnal sesiynau ‘deall sut’ gyda phreswylwyr, fel rhan o brosiect ‘Take Ctrl’, rydym yn ei gynnal ar ran Fforwm Gallu Ariannol Gogledd Cymru. Hyd yn hyn, mae Take Ctrl wedi helpu dros 500 o breswylwyr i fynd ar­lein, gyda chefnogaeth 48 o wirfoddolwyr. Mae Jen Bailey, un o’n swyddogion Cefnogi Tenantiaeth, yn canolbwyntio’n benodol ar y galw hwn.


11 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

CONNECT24

GWASANAETHAU

FFÔN A THELEOFAL YN WWH Rydym wedi bod yn darparu gwasanaethau ffôn a theleofal ers dros 10 mlynedd, a chymaint yw’r bri ar y rhan hwn o’n gwaith fel ein bod wedi rhoi enw penodol ar y gwasanaeth, Connect24. Pam Connect? Gan mai’r bwriad yw cysylltu pobl â’r gwasanaethau maen nhw eu hangen i’w galluogi i fyw’n annibynnol a diogel yn eu cartrefi. A 24? Gan ein bod ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, 52 wythnos y flwyddyn. Ar hyn o bryd, rydym yn darparu gwasanaethau larwm mewn argyfwng a theleofal Connect24 i dros 4,000 o aelwydydd ledled Cymru, ac mae gennym gontractau gyda: • Tai Cymoedd i’r Arfordir ym Mhen­y­bont ar Ogwr • Grŵp Tai Pennaf yng ngogledd a chanolbarth Cymru • Cymdeithas Tai Newydd yn ne a chanolbarth Cymru Rydym hefyd yn monitro larymau ar gyfer unigolion mewn llety ar rent ynghyd â pherchen­feddianwyr annibynnol. Mae system monitro larwm syml, gan gynnwys y cyfarpar, yn costio cyn lleied â £2.50 yr wythnos. Mae hyn yn helpu i roi tawelwch meddwl i bobl hŷn a phobl agored i niwed fel eu bod nhw’n gallu parhau i fyw’n annibynnol yn eu cartref eu hunain, a rhoi tawelwch meddwl i’w teuluoedd hefyd – y cyfan am bris fforddiadwy. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth llawn 24/7 y tu allan i oriau, ac mae gennym gontractau â’r cymdeithasau tai a ganlyn, sy’n golygu ein bod yn darparu gwasanaethau y tu allan i oriau i 27,000 o aelwydydd ledled Cymru: • Hafan Cymru ledled Cymru • Grŵp Gwalia ledled Cymru • Tai Cymunedol Bron Afon yn Nhorfaen

Am ragor o wybodaeth ynghylch Connect24, ewch i’n gwefan www.connect­24.co.uk neu cysylltwch â Jackie Edwards, Rheolwr y Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid, neu Cate Dooher, Pennaeth y Gwasanaethau Cymorth, ar 0800 052 2526.


12 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Di Barnes, Verity Kimpton ac Anne Hinchey – tîm awyrblymio dewr WWHA.

Y DIWEDDARAF AM ELUSENNAU Ar ôl dwy flynedd wych, pan gododd staff a phreswylwyr £25,000 tuag at Help for Heroes, ein helusen bartner gorfforaethol rhwng Ionawr 2013 a Rhagfyr 2015 yw Cymdeithas Strôc Cymru. Wedi ei mabwysiadu fel ein prif elusen bartner ym mis Ionawr eleni, rydym yn barod wedi codi dros £10,000 at yr achos da. Mae digwyddiadau yn cynnwys diwrnodau gwisg anffurfiol rheolaidd i staff, cymryd rhan yn ras hwyl Dydd Gŵyl Dewi, ac yn fwyaf diweddar, awyrblymio noddedig. Cafodd arweinydd tîm elusennol WWH, Di Barnes, gwmni’r swyddog gweinyddol Verity Kimpton a’r Prif Weithredwr Anne Hinchey yn yr awyren, a neidiodd y tair o 13,000 troedfedd uwchlaw maes awyr Abertawe ddydd Sadwrn 6 Ebrill. Diolch yn fawr iawn i bawb a’u cefnogodd nhw yn y fenter arswydus hon. Ceir

rhagor o fanylion am ddigwyddiadau elusennol a chodi arian sydd ar ddod ar ein gwefan ac ar Twitter @wwha. Mae elusennau eraill sydd wedi elwa yn sgil gwaith codi arian gan y staff, yn cynnwys Diwrnod trwynau coch Comic Relief a Banciau Bwyd Ymddiriedolaeth Trusell yng Nghaerdydd, Merthyr Tudful, Wrecsam, Bro Morgannwg a Phen­y­bont ar Ogwr.


12 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Ecoryfelwyr Western Court

CRYNODEB GWOBRAU Pan aed i’r wasg, roedd nifer o staff a phreswylwyr wedi cael lle ar restr fer sawl gwobr fawreddog. Maen nhw’n cynnwys: Gwobrau Cyfranogiad TPAS Cymru 2013:

Gwobrau Arwyr Tai CIH:

Mae Les Cooper wedi cael ei enwebu yn dilyn ei farwolaeth i gael y wobr i Gydweithiwr Ysbrydoledig. Bu farw Les yn annisgwyl fis diwethaf, ac roedd yn Swyddog Cyngor ar Arian i ni a oedd yn gweithio yn ein swyddfa yn y Fflint yng ngogledd Cymru. Roedd yn aelod gweithgar o Fforwm Gallu Ariannol Gogledd Cymru, ac roedd yn hynod ddylanwadol ac yn uchel iawn ei barch yn y sector. Cafodd effaith gadarnhaol iawn ar fywydau pawb a fu mewn cysylltiad ag ef.

Mae’r Rheolwr Cynllun Helen Jones o Landudno, Conwy, wedi cael lle ar y rhestr fer yng nghategori hynod boblogaidd Cydweithiwr Ysbrydoledig.

Mae’r garddwyr medrus ‘Ecoryfelwyr Western Court’ o’n cynllun er ymddeol Western Court ym Mhen­y­bont ar Ogwr wedi cael lle ar restr fer Gwobr Gwella’r Amgylchedd.

Les Cooper

Helen Jones

Gwobrau Rhagoriaeth mewn Adnoddau Dynol: Mae Anne Hinchey, y Prif Weithredwr, wedi cael lle ar restr fer Gwobr y Prif Weithredwr sy’n canolbwyntio fwyaf ar bobl yn y sector Elusennol / Nid­er­elw. Dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol y mae Anne wedi cael lle ar restr fer y wobr hon.

Anne Hinchey


13 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | STAFF LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

STAFF LLEOL Pob ardal:

O’r chwith i’r dde: Tony Wilson (Cyfarwyddwr Cyllid) Shayne Hembrow (Dirprwy Brif Weithredwr/Cyfarwyddwr Masnachol) Anne Hinchey (Prif Weithredwr) Steve Porter (Cyfarwyddwr Gweithrediadau)

Pob ardal:

Lynnette Glover, Pennaeth Tai Nikki Cole, Pennaeth Datblygu Alex Stephenson, Pennaeth Gwasanaethau Eiddo

SIR DDINBYCH Rheolwr Tai: Rheolwr Tai: Rheolwr Masnachol: Rheolwr Masnachol: Rheolwr Datblygu:

Cate Porter (Anghenion cyffredinol) Anne Caloe (Tai er ymddeol) Andrew Richards (Atgyweiriadau) Mike Wellock (Cynnal a chadw wedi’i gynllunio) Craig Sparrow

Swyddogion Tai:

Anghenion Cyffredinol Claire Sumner

Tai er ymddeol Lindy Brettell Karen Boyce (Dim swyddog Tai yn Nant y Môr)

Mentrau yn y Gymdogaeth: Bridget Garrod Vy Cochran (Swyddog Prosiect Datblygu Cymunedau) Claire Hammond (Swyddog Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr ) Swyddogion Rheoli Asedau: Dave Hughes Vaughan Williams Yr Amgylchedd:

Owen Jones

Swyddog Cefnogi Tenantiaeth: William Brook Jen Bailey Ffôn: E­bost: Gwefan:

0800 052 2526 joe.bloggs@wwha.co.uk www.wwha.co.uk


Tai Wales & West 3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2UD. ac Uned 2, Parc Busnes Acorn, Aber Road, y Fflint CH6 5YN. Ffôn: 0800 052 2526 Minicom: 0800 052 5205 E­bost: contactus@wwha.co.uk Gwefan: www.wwha.co.uk @wwha wwhahomesforwales

Cyhoeddwyd Ebrill 2013


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.