SYLW AR ARDAL
SIR Y FFLINT RHIFYN 4 | HYDREF 2012 Paratoi ar gyfer diwygio budddaliadau Galluogi gwaith, hyfforddiant a phrofiad
Ehangu Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria Ein datblygiadau newydd diweddaraf yn eich ardal chi
2 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk
CYFLWYNIAD Croeso i rifyn hydref 2012 Sylw ar ardal Sir y Fflint, sy’n dod â’r diweddaraf i chi am fentrau Tai Wales & West yn eich ardal chi. Mae’r rhifyn hwn – y cyntaf sy’n defnyddio ein hunaniaeth brand newydd a gyflwynwyd gennym ym mis Ebrill eleni – yn cynnwys cymysgiad o newyddion ynghylch rhai o’n mentrau sy’n benodol i’r sir, ynghyd â’r diweddaraf am bethau perthnasol sy’n digwydd drwy’r sefydliad cyfan. Yn ystod y gwanwyn eleni, fe wnaethom groesawu Cadeirydd newydd i’n Bwrdd. Ar ôl tair blynedd lwyddiannus yn y gadair, fe wnaeth Ivor Gittens ymddeol, ond bydd yn parhau i fod yn aelod o Fwrdd WWH. Ei olynydd yw Kathy Smart, aelod adnabyddus o gymyned fusnes Caerdydd ac un sydd wedi hyrwyddo tai cymdeithasol ers tro. Mae’r newidiadau diweddar eraill wedi gweld Shayne Hembrow yn cael ei ddyrchafu o swydd y Cyfarwyddwr Gweithrediadau i swydd newydd y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Masnachol. Yn dilyn hyn, rwy’n falch o ddweud ein bod newydd benodi Steve Porter yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau. Gyda newidiadau Diwygio Budddaliadau yn carlamu ymlaen, ar gefndir o ansicrwydd economaidd parhaus a chynnydd yn y pwysau ar gyllid cyhoeddus, rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno bod angen i ni wneud llawer iawn o bethau. Er bod yr heriau’n fawr, rydym yn parhau’n ymroddedig i’n gweledigaeth i wneud gwahaniaeth i fywydau, cartrefi a chymunedau ledled Cymru. Rydym yn gobeithio y bydd y cylchlythyr briffio hwn yn eich helpu chi i gael gwybod y diweddaraf am lawer o’n gwaith ar lawr gwlad yn eich ardal chi, yn ogystal â chael
gwybod am newyddion perthnasol ynghylch y sefydliad cyfan. Yn olaf, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â mi unrhyw dro gyda’ch sylwadau, syniadau ac adborth ynghylch unrhyw agwedd ar ein gwaith. Yn gywir Anne Hinchey, Prif Weithredwr
Dilynwch ni ar Twitter @wwha Gwyliwch ni ar ein sianel YouTube wwhahomesforwales
3 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | NEWYDDION LLEOL | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk
Anne Caloe, Rheolwr Tai WWH, a Joan French, Rheolwr Prosiect Cyngor Sir y Fflint, yn trafod dewisiadau gyda’r rhai oedd yn bresennol yn ein diwrnod gwybodaeth i’r gymuned llwyddiannus yn Llys Jasmine ym mis Gorffennaf.
Y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint a’r Aelod Cabinet dros Gyllid, yn trafod tai gofal ychwanegol a’n datblygiad yn Llys Jasmine gyda Craig Sparrow, Rheolwr Datblygu WWH.
GALW MAWR AM
OFAL YCHWANEGOL Mae Anwyl Construction yn gwneud cynnydd da ar ein cynllun gofal ychwanegol sy’n werth £8.5 miliwn yn Llys Jasmine, sef ein datblygiad gofal ychwanegol yn Sir y Fflint, ac mae disgwyl i’r cynllun fod yn arloesol yng Nghymru gan fod 15 rhandy pwrpasol yno ar gyfer gofal dementia, ochr yn ochr â rhandai gofal ychwanegol ar yr un safle. Wedi’i ddylunio gan y penseiri Ainsley Gommon, mae Llys Jasmine wedi’i leoli yn yr Wyddgrug, ac mae’n cynnwys 61 rhandy. Mae’r ddau fyngalo gofal ychwanegol sy’n rhan o’r cynllun wedi cael eu cwblhau’n brydlon ac o fewn y cyfyngiadau ariannol, ac mae gweddill y gwaith adeiladu arloesol yn mynd rhagddo’n dda. Dywedodd Shayne Hembrow, y Dirprwy Brif Weithredwr a’r Cyfarwyddwr Masnachol “Rydym yn falch iawn gyda’r contractwr, Anwyl Construction, sy’n rhoi gwaith lleol i bobl leol, yn adeiladu cyfleuster o’r radd flaenaf a fydd nid yn unig yn ased mawr i’r gymuned leol ond a fydd yn feincnod i’r math hwn o ddatblygiad ledled Cymru.” Gyda thros 80 o bobl hŷn yn bresennol yn y diwrnod gwybodaeth ynghylch Llys Jasmine a gynhaliwyd yn ddiweddar, mae’n amlwg bod galw mawr am y math hwn o gyfleuster yn y
sir. Roedd y rhai a oedd yn bresennol yn cynnwys Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, a’r Aelod Cabinet dros Gyllid, y Cynghorydd Bernie Attridge, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, ynghyd â’r Cynghorydd Helen Brown, yr Aelod Cabinet dros Dai. Rydym yn awr yn croesawu ceisiadau gan breswylwyr o Sir y Fflint sydd dros 60 oed ac sydd ag anghenion gofal, felly cymerwch olwg ar ein gwefan www.wwha.co.uk am ragor o wybodaeth. Mewn partneriaeth â’r cyngor, rydym yn cwblhau’r cynlluniau i ddatblygu Glan y Don, Bagillt, Treffynnon, a fydd yn arwain at ddatblygu 58 o dai a fflatiau newydd. Bydd rhai o’r cartrefi hyn yn addas i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, ac mae disgwyl i’r gwaith ddechrau yn gynnar yn 2013, gyda disgwyl iddo ddod i ben yng nghanol 2014.
4 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | NEWYDDION LLEOL | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk
Gary Angell, sy’n mwynhau bywyd fel un o breswylwyr Llys Binwydden, ein Cynllun Tai â Chymorth diweddaraf.
CYNLLUN TAI Â CHYMORTH YN SIR Y FFLINT
YN CAEL LLE YN ROWND DERFYNOL GWOBRAU TAI’R DEYRNAS UNEDIG Fe wnaeth ein cynllun byw â chymorth o’r radd flaenaf yn yr Wyddgrug, Llys Binwydden, gyrraedd rownd derfynol categori Datblygiad y Flwyddyn (Cynlluniau Bach) yng Ngwobrau Tai’r Deyrnas Unedig yn gynharach eleni. Drwy weithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint, roeddem wrth ein bodd yn cael ein cydnabod am y datblygiad arloesol hwn, sydd wedi’i ddylunio’n benodol ar gyfer oedolion sydd ag ystod o anawsterau dysgu ac anhwylderau ar y sbectrwm awtistig. Mae chwe chartref pwrpasol Llys Binwydden yn hyrwyddo byw’n annibynnol, gan roi mynediad i breswylwyr at gefnogaeth 24 awr y dydd ar y safle. Dywedodd Gary Angell, sy’n 54 oed ac sy’n byw yn un o’r rhandai: “Symudais i’r fflat llynedd mae’n ardal braf ac fe wnaeth
wahaniaeth i’m bywyd. Rwy’n fodlon iawn yma ac mae fy mywyd wedi newid er gwell.” Ychwanegodd Gary, sydd ag anableddau dysgu: “Rwy’n mynd i siopa’n lleol ac yn coginio i mi fy hun. Mae hi’n gynnes braf yn y fflat ac rydw i’n llawer hapusach.” Adeiladwyd y datblygiad i gwrdd â’r lefelau amgylcheddol a chynaladwyedd uchaf posibl o fewn y gyllideb, gan wneud y defnydd mwyaf posibl o ynni solar drwy ddefnyddio gwresogyddion dŵr ffotofoltaidd a bwyleri nwy sy’n arbed gwres.
5 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | NEWYDDION LLEOL | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk
PROSIECT SARTH GOGLEDD CYMRU Mae prosiect SARTH (Un Llwybr Sengl i Dai), sy’n ceisio symleiddio’r broses ymgeisio am dai cymdeithasol yng ngogledd Cymru, yn datblygu’n dda. Y syniad y tu ôl i SARTH yw creu polisi cyffredin ar ddyrannu tai ledled y rhanbarth. Fe fydd hyn yn ei gwneud yn haws i ymgeiswyr, gan mai un set o reolau y bydd angen eu dilyn, yn hytrach na’r naw sy’n bodoli ar hyn o bryd. Rydym yn cynnal Swyddog Datblygu Prosiect SARTH, Nik Weatherall, ac yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Bwrdeistref Sirol Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint, Cartrefi Conwy, Cymdeithas Tai Clwyd Alyn, Cymdeithas Tai Clwyd a Thai Gogledd Cymru. Bydd polisi drafft yn cael ei lunio’n fuan ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus, a bydd i’w weld ar wefannau’r partneriaid.
6 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | NEWYDDION LLEOL | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk
Caption: Bob Jenkins, of category sponsors Solar Windows Ltd, with Keith Ellis, Jane Styles and Paula Ellis of Cwrt Leighton Residents’ Association, finalists in the Community Project category, and Kathy Smart, Chair of WWH
GWOBRAU GWNEUD GWAHANIAETH 2012 Fe wnaethom gynnal ein Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth blynyddol am y pumed tro eleni, ac unwaith eto roedd yn noson wych. Daeth cyfanswm o 159 o breswylwyr, staff a phartneriaid contractio i’r seremoni yng Ngwesty’r Village, Coryton, Caerdydd, nos Wener 19 Hydref. • Cyrhaeddodd rhai o breswylwyr Sir y Fflint, sef Cymdeithas Preswylwyr Cwrt Leighton, rownd derfynol categori Gwobr y Prosiect Cymunedol. • Cawsom yn agos at 60 o enwebiadau o safon uchel o bob rhan o Gymru eleni swm boddhaus iawn, ac mae’n dangos o ddifrif pa mor dda y mae nifer o’n staff yn adnabod ein preswylwyr. Eleni, cawsom gefnogaeth wych gan ein contractwyr, gydag 11 yn cyfrannu’n fawr iawn at gyllideb y Gwobrau eleni. • Mae Media Wales wrthi’n gwneud ffilm fer am y digwyddiad, a fydd yn cael ei llwytho i fyny i’n gwefan ac YouTube yn fuan iawn.
Dywedodd Anne Hinchey, y Prif Weithredwr: “A hwythau’n cael eu dyfarnu am y pumed tro eleni, y Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth yw ein ffordd ni o gydnabod cryfder, natur anhunanol a synnwyr o gymuned sydd yn amlygu ei hun yn ein preswylwyr. Ein bwriad yw gweld twf cryf a chynaliadwy a fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau, cartrefi a chymunedau pobl, ac mae’r gwobrau hyn yn rhoi syniad da i bobl am rai o’r ffyrdd y mae hyn yn cael ei gyflawni. Mae hi wedi bod yn noson hyfryd, ac yn fraint o ddifrif cael clywed hanesion y rhai sy’n cymryd rhan.” Yn olaf, mae angen sôn am un wobr arall – y tro hwn, un a enillwyd gan ein tîm Cysylltiadau Cyhoeddus a Marchnata ein hunain, pan gydnabuwyd ein Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth gan Rwydwaith Cysylltiadau Cyhoeddus Cartrefi Cymunedol Cymru fel Digwyddiad Gorau Cymru 2012.
7 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk
PARATOI AR GYFER DIWYGIO BUDD-DALIADAU Efallai nad oes yr un mater yn dylanwadu’n fwy ar y sector tai ar hyn o bryd na Diwygio Budddaliadau. Mae ein staff drwy’r sefydliad cyfan yn gweithio’n agos gyda’n holl bartneriaid mewn awdurdodau lleol, swyddogion budddaliadau tai, Tai Cymunedol Cymru a phartneriaid eraill i hyrwyddo a rhoi cyhoeddusrwydd i’r newidiadau a ddaw, rhoi gwybod am y canlyniadau hynny i’n preswylwyr, a ffyrdd y gallen nhw helpu eu hunain. Rydym wedi edrych eto ar y gwasanaethau rydym yn eu darparu, ac yn sicrhau ein bod ni’n gwneud popeth allwn ni i helpu pobl rhag mynd i ddyled ac i geisio talu eu biliau. Yn neilltuol, rydym yn gweithio gyda phreswylwyr i’w helpu nhw i: • baratoi ar gyfer cyflwyno’r Credyd Cyffredinol a thaliadau uniongyrchol • darparu cymorth a chyngor wedi’i deilwra ynghylch cyllidebu
• deall effeithiau cyflwyno’r ‘dreth ystafell wely’, fel y’i gelwir hi, y flwyddyn nesaf, a • lle bo’n briodol, helpu pobl i symud i gartrefi maen nhw’n gallu eu fforddio, ac sydd o faint priodol. Mae ein dau Swyddog Cyngor ar Arian hefyd yn gweithio’n agos â Moneyline Cymru (gweler isod) yn ogystal ag Undebau Credyd ledled Cymru, er mwyn helpu preswylwyr i gyllidebu’n effeithiol a chael mynediad at gredyd cost isel, sy’n ddiogel a fforddiadwy.
ARWAIN Y SECTOR GYDA’R
CYFLOG BYW Nid yw ein hymdrechion i fynd i’r afael â thlodi yn gyfyngedig i’n preswylwyr. Fel y gymdeithas tai gyntaf yng Nghymru i gyflwyno’r ‘Cyflog Byw’, rydym yn arwain y sector gyda’r fenter hon.
Ar hyn o bryd, mae’r ‘Cyflog Byw’ yn £7.20 yr awr (i weithwyr y tu allan i Lundain), ac mae hynny’n sylweddol uwch na’r lleiafswm cyflog cyfreithiol, sy’n £6.08 yr awr ar hyn o bryd.
Gyda mwy na 340 o weithwyr cyflogedig ledled Cymru, mae ein penderfyniad yn golygu nad oes unrhyw un yn gweithio i ni am lai na £7.20 yr awr, ac ers mis Awst eleni, mae 40 o’n gweithwyr cyflogedig wedi gweld cynnydd yn eu cyflogau o ganlyniad i’r polisi hwn.
Dywedodd Rhys Moore, Cyfarwyddwr y Sefydliad Cyflog Byw:
“Rydym yn falch iawn o ddyfarnu nod cyflogwr Cyflog Byw i Tai Wales & West. Mae hon yn foment arwyddocaol, gan mai dyma’r gymdeithas tai gyntaf yng Nghymru i sicrhau’r nod.”
8 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk
LLEOLIADAU
GWAITH AR GAEL Mae helpu ein preswylwyr i elwa ar gyflogaeth a chyfleoedd hyfforddiant hefyd yn flaenoriaeth allweddol i ni. Drwy’r contractwyr sy’n bartneriaid i ni, rydym yn barod wedi cefnogi 33 o bobl i ddychwelyd i weithio, ac mae gennym nifer o brentisiaid yn gweithio ar ein prosiectau ledled Cymru. Mae rhai enghreifftiau o lle’r ydym wedi cael effaith yn ddiweddar yn cynnwys:
• Gogledd Cymru Yn y Ffair Swyddi ddiweddar yn Hightown, Wrecsam, cofrestrodd dros 50 o bobl ddiddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth am gyflogaeth bosibl, a chyfleoedd hyfforddiant, a fydd yn cael eu hwyluso drwy ein contractwyr, Anwyl. Bydd y cyfleoedd hyn yn codi fel rhan o’n datblygiadau sy’n werth £17 miliwn ar Kingsmills Road a Rivulet Road, a bydd rhagor o fanylion yn dilyn yn rhifynnau In Touch â Sylw ar ardal Sir y Fflint yn y dyfodol. • De Cymru – Mae Jordan Evans, sy’n 18 oed, newydd gwblhau prentisiaeth gwaith plymwr dros ddwy flynedd gyda’n hisgwmni Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria Ltd. Fe wnaeth Jordan, sy’n hanu o Benybont ar Ogwr, gyfuno hyfforddiant wrth weithio â Cambria gydag astudio am ddiwrnod yr wythnos yng Ngholeg Ogwr. “Byddwn yn argymell hyn fel ffordd dda o ennill cyflog ac astudio,” meddai Jordan. “Mae nifer o’m
Y plymwr dan hyfforddiant, Jordan Evans, sy’n 18 oed ac sy’n dod o Benybont ar Ogwr, gyda Neal O’Leary, aelod o fwrdd Cambria, a Peter Jackson, Pennaeth Cambria, mewn seremoni gyflwyno y tu allan i Stadiwm Dinas Caerdydd i nodi ei gymhwyster.
cyfeillion wedi gofyn i mi a yw hyn yn beth da i’w wneud, ac rwyf wedi dweud wrthyn nhw ei fod yn bendant yn syniad da.” Mae Cambria yn bwriadu cyflogi 3 o brentisiaid ychwanegol rhwng eu gwaith yng ngogledd a de Cymru dros y misoedd nesaf. • De Cymru Fel rhan o’n cynllun Yn ôl i’r Gwaith (menter gan Dîm Llwybrau at Gyflogaeth Penybont ar Ogwr) rydym yn rhoi lle swyddfa i ddau ymgynghorydd ynni dan hyfforddiant. Wedi’u lleoli ym Mheny bont ar Ogwr, mae Lynn a Howard wedi bod ar leoliad gennym ni am chwe mis, gan ennill profiad a fydd yn eu helpu nhw i ddod o hyd i gyflogaeth barhaol. Fe fyddan nhw’n hyrwyddo’r cynllun Disgownt Cartrefi Cynnes mewn cynlluniau er ymddeol yn ogystal â chynnig cyngor i breswylwyr ar ddefnyddio ynni yn fwy effeithlon ac arbed arian ar eu biliau. • Rydym yn gweithio gyda Thwf Swyddi Cymru yn ogystal â sawl asiantaeth arall i gysylltu pobl â chyfleoedd, lle bo hynny’n bosibl ac yn briodol. Rydym hefyd yn gallu cynnal nifer o leoliadau mewnol, naill ai fel profiad gwaith tymor byr heb dâl, lleoliadau gwaith (rhai â chyllid) a phrentisiaethau. Mae’r cyfleoedd hyn yn agored i bawb, heb ystyriaeth i oedran, cymwysterau na phrofiad blaenorol. Mae angen i’r rhai sydd â diddordeb lenwi Ffurflen Mynegi Diddordeb yn y Fenter Sgiliau Gweithle ar ein gwefan www.wwha.co.uk
9 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk
Y Gweinidog Cyllid Jane Hutt yn ymweld â phreswylwyr yn Nhŷ Pontrhun, a oedd yn cymryd rhan mewn dosbarthiadau TG i gefnogi ein cynllun peilot WiFi band eang
CYNHWYSIANT DIGIDOL Rhywbeth arall allweddol sy’n cael sylw gennym yw ‘cynhwysiant digidol’ – sy’n galluogi ein preswylwyr i fynd arlein: cael mynediad at gyfarpar, meddalwedd a gwasanaethau cymorth priodol, cysylltu â’i gilydd a’u cymunedau drwy’r cyfrwng hwn, a gwneud dewisiadau gwybodus, ynghyd â’r gallu i gael mynediad at nwyddau am brisiau gostyngol. Y gyrwyr allweddol i ni yn ein buddsoddiad o ran cynhwysiant digidol yw: • helpu pobl i fod mewn sefyllfa well i ddelio â Diwygio Budddaliadau, yn enwedig cyflwyno’r Credyd Cyffredinol • galluogi pobl i fod mewn cysylltiad gwell â’u cymunedau, a • helpu ein preswylwyr i gael gwell gwerth am arian drwy gael mynediad at wybodaeth a nwyddau arlein Mae ein cynllun peilot i ddod â mynediad band eang WiFi fforddiadwy i Dŷ Pontrhun ym Merthyr Tudful yn weithredol erbyn hyn. Ers 5 Gorffennaf, mae preswylwyr Tŷ Pontrhun a’u teuluoedd wedi gallu cysylltu â’r rhyngrwyd o unrhyw ystafell yn yr adeilad drwy ddyfais sy’n gallu cysylltu’n ddiwifr, gan ddefnyddio cyfrinair unigol.
Cwmni Boyns o ogledd Cymru yw’r cyflenwr a ddewiswyd gennym ar gyfer y cynllun peilot hwn, ac maen nhw wedi gosod llinell ffôn yn yr adeilad, sy’n galluogi preswylwyr i gael hyd at 2Mb o fand eang WiFi. Ar hyn o bryd, mae ein preswylwyr yn cael cysylltiad am ddim am 6 mis, ac ar ôl hynny fe fyddan nhw’n talu swm fforddiadwy iawn o 63c yr wythnos. Ein nod yw dysgu o’r cynllun peilot hwn er mwyn ehangu WiFi a chysylltiadau band eang effeithlon a fforddiadwy i gymaint â phosibl o’n preswylwyr ledled Cymru, ac rydym yn awr yn dechrau gweithio ar ail brosiect peilot yn Nant y Môr, ein Cynllun Gofal Ychwanegol ym Mhrestatyn, Sir Ddinbych. Mae WWH hefyd yn cynnal prosiect Take Ctrl ar ran Fforwm Gallu Ariannol Gogledd Cymru, sef bartneriaeth eang sy’n cynnwys Cymunedau 2.0.
http://www.youtube.com/watch?v=QtmoCdwpVz4
10 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk
AIL-FRANDIO Os ydych yn cael In Touch, ein cylchgrawn chwarterol i breswylwyr, fe fyddwch yn gwybod yn barod ein bod wedi ailfrandio ym mis Ebrill eleni. Rydym yn falch iawn o ddweud bod yr ymateb i’n gwedd newydd wedi bod yn gadarnhaol iawn, ac mae’n helpu i ledaenu’r neges am ein strwythur grŵp newydd, gyda Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria Ltd fel ein hisgwmni cyntaf. Yn ychwanegol at y rhifyn hwn o Sylw ar ardal Sir y Fflint, rydym yn falch o anfon dolen at ein Cynllun Busnes 2012, sy’n amlinellu cyfeiriad strategol Grŵp Tai Wales & West ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Rhan arall o’r broses ailfrandio oedd creu ein hisfrand newydd cyntaf, Connect24. Mae hyn yn uno ystod gynhwysfawr o wasanaethau rydym yn eu darparu, gan gynnwys ein Larwm mewn Argyfwng, gwasanaethau y tu allan i oriau, a chymorth i weithwyr unigol. O fod wedi ychwanegu nifer o gwsmeriaid corfforaethol at ein portffolio yn ystod y misoedd diweddar, rydym nawr yn gofalu am fwy na 20,000 o gartrefi ledled Cymru drwy ein canolfan gwasanaethau cwsmeriaid, sydd wedi cael ei hachredu gan y Gymdeithas Gwasanaethau Teleofal, gan ein galluogi i wneud atgyweiriadau a helpu pobl i gael yr help maen nhw ei angen mewn argyfwng. Os hoffech siarad gyda ni am sut gallai ein Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid helpu sefydliadau yn eich ardal chi sydd angen cefnogaeth gan ganolfan alw, cysylltwch â Cate Dooher, Pennaeth y Gwasanaethau Cefnogi, ar 029 20415386.
Mrs Nancy Pilott o Gwrt Anghorfa, Penybont ar Ogwr, yn dan gos ein botwm arddwrn larwm personol gan Connect24.
11 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk
Tîm Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria o 40 o weithwyr wedi’u lleoli yn Ne a Chanolbarth Cymru. Mae 40 yn rhagor o swyddi medrus yn cael eu diogelu wrth i Cambria ehangu i Ogledd Cymru.
CAMBRIA YN YMESTYN
I OGLEDD CYMRU
Fe wnaethom sefydlu ein cwmni cynnal a chadw ein hunain yn 2011, gan ein harwain ni at strwythur Grŵp. Mae Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria wedi cael 20 mis cyntaf llwyddiannus iawn yn masnachu, gan ymgymryd ag atgyweiriadau yn ogystal â gosod ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd i WWH yn ne a chanolbarth Cymru. Gyda throsiant o £2.8m yn ei flwyddyn gyntaf, yn y blynyddoedd nesaf rydym yn rhagweld y bydd hyn yn treblu. Gan adeiladu ar lwyddiant sylweddol ei weithrediadau yn ne a chanolbarth Cymru, mae’r paratoadau wedi dechrau’n barod i Cambria ymestyn i ogledd Cymru, gyda’r adain hon yn dod yn weithredol tua dechrau 2013.
Bydd y symudiad hwn yn sicrhau dyfodol 40 swydd fedrus yng ngogledd Cymru, yn ogystal â darparu llwyfan diogel arall am ragor o gyfleoedd i gynnig lleoliadau gwaith a phrentisiaethau. Rhagwelwn y bydd Cambria yn gosod 4,000 o geginau ac ystafelloedd ymolchi ledled Cymru yn ystod y pum mlynedd nesaf.
12 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk
CONSORTIWM SYNIAD Yn 2005 fe wnaethom ymuno â Linc Cymru a Thai Clwyd Alyn i ffurfio Consortiwm Syniad. Ers hynny, mae aelodau’r consortiwm wedi darparu mwy na 1,500 o unedau tai cymdeithasol, 11 o gynlluniau gofal ychwanegol, a galluogi hyfforddiant a phrentisiaethau i fwy na 150 o bobl, gan wneud y defnydd mwyaf posibl o fwy na £100m o grantiau tai cymdeithasol. Er hynny, gyda throsglwyddo’r rhaglen grantiau tai cymdeithasol i bartneriaid yn yr awdurdodau lleol, a’r gostyngiad mewn cymhorthdal cyhoeddus sydd ar gael i gartrefi newydd, fe wnaeth aelodau Syniad adolygu swyddogaeth y consortiwm. Y canlyniad oedd
bod y consortiwm wedi dod i ben ar 1 Mehefin eleni. Er gwaethaf diwedd y consortiwm, fe wnawn ni barhau i gydweithio lle bo’n briodol i ddarparu cartrefi newydd y mae eu hangen yn fawr ledled Cymru.
MONEYLINE CYMRU
YN EHANGU
Mae Tai Wales & West, un o’r cyrff a sefydlodd Moneyline Cymru, yn parhau i ddarparu cymorth ariannol i’r fenter bwysig hon. Yn y cyfnod economaidd anodd iawn hwn, bydd angen i fwy a mwy o breswylwyr tai cymdeithasol gael mynediad at y gwasanaethau a ddarperir gan sefydliadau fel Moneyline Cymru ac undebau credyd lleol. Rydym yn falch o gefnogi’r naill a’r llall, ac yn awr mae WWH yn gweithio’n agos gyda Moneyline ac Undeb Credyd Caerdydd a’r Fro i ystyried sut y gellir datblygu gwasanaethau newydd i helpu preswylwyr i ymdopi â’r newidiadau a ddaw yn sgil cyflwyno’r Credyd Cyffredinol. Rydym hefyd wedi ymrwymo i gyllido ehangu Moneyline dros y 3 blynedd nesaf, ac mae’r
gangen ddiweddaraf wedi agor ym Merthyr Tudful yn ddiweddar. Bwriedir agor canghennau yn Abertawe a Wrecsam hefyd. Mae benthyciadau a roddwyd gan Moneyline yn y 3 blynedd ddiwethaf wedi arwain at arbedion o £2.5m o ran llog mewn cymhariaeth â’r llog sy’n cael ei godi gan y Provident, y darparwr mwyaf cyffredin o fenthyciadau ar garreg y drws.
13 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk
EIN PERFFORMIAD
ARIANNOL
Mae amgylchedd economaidd heriol heddiw yn golygu fod angen i ni fod yn effeithlon a buddsoddi’n ddoeth os ydym eisiau cyrraedd ein nod o dyfu a gwneud gwahaniaeth. Er nad yw bod yn fawr bob amser yn ddelfrydol, mae’n sicrhau cryfder ariannol a’r gallu i ddod drwy’r storm economaidd sydd ohoni yn ogystal â’r modd i arloesi, i fod yn greadigol, ac i gyflwyno syniadau newydd. Rydym yn disgwyl cyflawni cynnydd flwyddyn ar ôl blwyddyn yn ein gwargedion gweithredu drwy weithredu ein busnes yn effeithiol, hyd yn oed ar ôl amsugno’r dyledion drwg rydym yn disgwyl eu cael yn sgil newidiadau i fudddaliadau lles, yn enwedig cyflwyno’r Credyd Cyffredinol a’r ‘dreth ystafelloedd gwely’.
Nifer y cartrefi sy’n cael eu datblygu ar hyn o bryd yn ôl ardal Awdurdod Lleol Sir Ddinbych
9 Conwy
12
Sir y Fflint
121 Wrecsam
127
Dros y pum mlynedd nesaf, rydym yn disgwyl buddsoddi £36m mewn cynnal a chadw a gwella ein stoc bresennol. Ymhellach, mae gennym y gallu ariannol i fuddsoddi mwy na £100m mewn adeiladu a chaffael cartrefi newydd. Mae’n debyg mai dim ond un rhan o bump o’r buddsoddiad hwn fydd yn cael ei gyllido drwy grant tai cymdeithasol gan Lywodraeth Cymru, gyda £70m yn dod drwy fenthyciadau ychwanegol, a’r gweddill yn dod o arian dros ben a gynhyrchwyd yn fewnol. Am ragor o wybodaeth fanwl am ein sefyllfa ariannol, trowch at dudalennau 28 a 29 o’n Cynllun Busnes ar gyfer 2012 i 2017, y dylech fod wedi ei gael yn ddiweddar, neu gallwch ei weld ar ein gwefan www.wwha.co.uk Mae ein sefyllfa gref wedi cael ei hardystio gan Lywodraeth Cymru, a ddyfarnodd radd ‘pasio’ i’r Gymdeithas yn ei asesiad ariannol blynyddol.
Cyfanswm
393 Powys
24 Merthyr Tudful
15
Caerdydd Pen-y-bont
26
39 Bro Morgannwg
20
Mae’r ffigyrau hyn yn cynrychioli datblygiadau sydd ar y safle ar hyn o bryd, ac sydd wedi’u hamserlennu i ddechrau yn y 12 mis nesaf. Er hynny, gyda’i gilydd, rhagwelwn adeiladu a chaffael 450 uned yn ychwanegol yn y pum mlynedd nesaf, a fydd yn mynd â chyfanswm ein hadeiladau newydd yn ystod y cyfnod hwnnw i 850 uned.
14 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk
PARTNERIAETH
GWASANAETH TÂN AC ACHUB DE CYMRU Mae delio â pheryglon tân yn uchel ar yr agenda ar hyn o bryd, ac rydym eisiau sicrhau fod ein holl gartrefi mor ddiogel ag y gallant fod. Rydym wedi ffurfio partneriaeth arloesol gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, gan gytuno i weithredu fel partner ‘enghreifftiol’ er mwyn eu helpu nhw i hyrwyddo arferion da o ran diogelwch tân yn y sector tai cymdeithasol ledled y wlad. Dywedodd Andy Petersen, Rheolwr Grŵp gyda’r Gwasanaeth Tân ac Achub, “Mae WWH wedi arddangos y pwysigrwydd maen nhw’n ei
roi ar ddiogelwch tân. Bydd ein partneriaeth yn darparu ffordd gadarnhaol o feddwl i’w galluogi i gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth diogelwch tân.” Rydym wrthi’n cynnal trafodaethau gyda Gwasanaeth Tân y Canolbarth a Gwasanaeth Tân y Gogledd i archwilio’r posibilrwydd o ehangu’r bartneriaeth hon ymhellach.
Andy Petersen, Rheolwr Grŵp Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Robin Alldred, Rheolwr Masnachol WWH, Jo Burns, Swyddog Iechyd a Diogelwch WWH, Anthony Williams, Swyddog Iechyd a Diogelwch WWH.
15 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk
GWNEUD Y PETH IAWN… Ein nod yw gwneud y peth iawn o ran ein preswylwyr a’n staff, ac isod gwelir y gwobrau a’r achrediadau rydym wedi eu cael yn ddiweddar, sy’n cydnabod ac yn dathlu ein dull o weithio. • Rydym wedi cael y clod uchaf posibl dan system wobrwyo mawr ei bri Buddsoddwyr mewn Pobl, gan gael y safon Aur yn ein hasesiad diweddar. “Mae Tai Wales & West yn parhau i arddangos ei fod yn sefydliad sy’n meddwl am y dyfodol ac yn llwyddo fel busnes drwy arddangos ymddygiad arwain sy’n llawn gweledigaeth, wedi ei danategu gan werthoedd cryf ac ystyrlon,” meddai’r arbenigwraig ar Fuddsoddwyr mewn Pobl, Mavis ElliottSmith. • Mae Rhestr Cwmnïau Gorau'r Sunday Times 2012 wedi nodi mai ni yw sefydliad niderelw gorau Cymru, ac rydym yn yr 8fed safle yn y 100 sefydliad niderelw gorau ledled y Deyrnas Unedig. Ni hefyd yw’r unig gymdeithas tai o Gymru i gael y radd uchaf o 3 seren yn rhestr y Cwmnïau Gorau. • Mae’r elusen sy’n ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd hamdden, Working Families, wedi ein rhoi ni ymysg y 30 cwmni gorau sy’n ystyriol o deuluoedd yn y Deyrnas Unedig am yr ail flwyddyn yn olynol. Yn eu seremoni wobrwyo ddiweddar, fe wnaethom hefyd ennill y Wobr Teuluoedd sy’n Gweithio am Hyrwyddo Gyrfaoedd i Weithwyr
Hyblyg, a chawsom le yn y rownd derfynol yn y categorïau hyn: Y gorau o ran gyrfaoedd a gofal am bobl hŷn, Y gorau o ran ymgysylltu, a Gwobr Orau’r Grid Cenedlaethol am Arloesi. Dywedodd Sarah Jackson OBE, Prif Weithredwr Working Families:
“Mae cyrraedd y rhestr fer mewn pedwar o’r saith categori Gwobrau Arbennig yn gyflawniad eithriadol. Roedd polisïau arloesol Tai Wales & West i ymgysylltu â’u gweithwyr a’u cefnogi, yn enwedig gofalwyr a gweithwyr hyblyg, wedi creu cryn argraff ar y beirniaid.” • Mewn partneriaeth â GKR Maintenance & Building, rydym wedi cael Canmoliaeth Uchel yng nghategori gwobr Integreiddio a Chydweithio yng ngwobrau Constructing Excellence 2012. Dywedodd y beirniaid fod y tîm wedi gweithio’n galed, ‘gydag angerdd ac ymroddiad’, i dorri costau a lleihau gwastraff.
Steve Porter (ar y dde) Cyfarwyddwr Gweithrediadau WWH erbyn hyn, yn cael tlws yng Ngwobrau Adeiladu Arbenigrwydd 2012. Yn y llun fe’i gwelir gyda Jayne Rowland Evans, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cynnal a Chadw GKR a Phil Lumley, Pennaeth Gwasanaethau Eiddo Cyngor Sir Caerfyrddin
Tai Wales & West 3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2UD. ac Uned 2, Parc Busnes Acorn, Aber Road, y Fflint CH6 5YN. Ffoniwch ar 0800 052 2526 Minicom: 0800 052 5205 Ebost: contactus@wwha.co.uk Gwefan: www.wwha.co.uk @wwha wwhahomesforwales
Cyhoeddwyd Hydref 2012