SYLW AR ARDAL
SIR Y FFLINT RHIFYN 5 | GWANWYN 2013 Goroesi’r newid i fudddaliadau Mynd arlein, ffynnu arlein Ein datblygiadau diweddaraf yn eich ardal Gwasanaethau ffôn a theleofal Connect24
2 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk
CYFLWYNIAD ANNE Croeso i rifyn gwanwyn 2013 Sylw ar ardal Sir y Fflint, sy’n rhoi’r diweddaraf i chi am fentrau Tai Wales & West yn eich ardal chi. Mae’r rhifyn hwn yn cynnwys ein cymysgedd arferol o newyddion ynghylch rhai o’n prosiectau cyfredol yn benodol i’r sir, ynghyd â’r diweddaraf am faterion perthnasol drwy’r sefydliad cyfan. Yn gyntaf oll, yn dilyn ein Harolwg diweddaraf o Fodlonrwydd Preswylwyr, rwy’n falch iawn o ddweud wrthych fod 88% o’n preswylwyr wedi dweud wrthym eu bod nhw’n fodlon gyda’r gwasanaeth cyffredinol a ddarparwyd gan WWH. Mae hyn yn gynnydd o 2% o’i gymharu â’r arolwg a wnaethom yn 2011, ac yn gynnydd sylweddol o 7% ar y canlyniadau a gawsom yn 2007. Datblygiad sylweddol arall ers ein rhifyn diwethaf o Sylw ar ardal Sir y Fflint yw ein buddsoddiad mewn saith swydd arloesol, sef y Swyddogion Cefnogi Tenantiaeth newydd. Ar ôl ymarfer recriwtio llwyddiannus, mae ein Swyddogion newydd wrthi’n dechrau ar eu gwaith newydd y foment hon ledled Cymru, ac fe fyddan nhw’n cymryd camau rhagweithiol ac ymarferol i helpu ein preswylwyr i oroesi storm y newid i fudddaliadau. Ledled y busnes, rydym yn parhau i archwilio a buddsoddi mewn technoleg newydd, ac mae ein rhaglen cynhwysiant digidol yn parhau i ffynnu, ac yn chwarae rhan gynyddol bwysig yn y gwaith o helpu ein preswylwyr i ddelio â newidiadau sydd ar ddod i fudddaliadau. Rydw i hefyd yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi cael swm sylweddol o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i’n helpu ni i adeiladu cartrefi fforddiadwy y mae eu hangen yn fawr ledled Cymru, yn gydnabyddiaeth o’n gallu fel cymdeithas sy’n datblygu. Pan anfonom ein Cynllun Busnes atoch ddiwedd yr hydref llynedd, dywedom wrthych y byddem yn darparu 800 o gartrefi newydd dros y pum mlynedd nesaf. Diolch i’r buddsoddiad newydd hwn, rydym yn awr yn debygol o allu darparu 1,000 o gartrefi newydd yn y pedair blynedd nesaf.
Serch hynny, dim ond rhan yn unig o’r hyn rydym yn ei wneud yw datblygu cartrefi newydd, ac felly i sicrhau ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar gwsmeriaid, ac yn atebol am yr hyn a wnawn, rydym yn ymgymryd â’n proses hunanasesu reolaidd. Rydw i a’m cydgyfarwyddwyr wedi bod yn cynnal ein sioeau teithio blynyddol i staff, a hyd yn hyn rydym wedi siarad â thros dri chwarter ein holl staff ledled Cymru, nifer ohonyn nhw’n byw yn y cymunedau lle maen nhw’n gweithio, gan gael cipolwg amhrisiadwy ar eu byd ac adborth ganddyn nhw. Yn olaf, mae’n bleser mawr gennyf ddweud wrthych fod rhestr cwmnïau gorau’r Sunday Times yn dangos mai ni yw sefydliad niderelw gorau Cymru am yr ail flwyddyn yn olynol ac rydym yn y 7fed safle yn rhestr y Deyrnas Unedig. Fe wnaethom nid yn unig godi un lle o’r 8fed safle a gawsom yn 2012, ond llwyddom hefyd i ddal gafael yn ein safon aur Tair Seren mawr ei bri. Rwy’n siŵr y cytunwch fod hwn yn ganlyniad boddhaus arall, ac yn glod i waith caled ac ymroddiad ein staff gwych. I gloi, rwy’n gobeithio y bydd y cylchlythyr briffio hwn yn fodd o roi gwybod i chi am y diweddaraf am lawer o’n gwaith ar lawr gwlad yn eich ardal chi, yn ogystal â darlun ehangach byd WWH. Peidiwch ag oedi cyn cysylltu unrhyw dro gyda’ch syniadau a’ch sylwadau ynghylch unrhyw agwedd ar ein gwaith. Yn gywir Anne Hinchey, Prif Weithredwr.
3 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk
GOROESI’R NEWID I FUDD-DALIADAU Mae’r newidiadau i fudddaliadau wedi bod yn nodwedd amlwg ar ein hagenda, ac yn parhau i fod felly, yn enwedig effaith y ‘dreth ar ystafelloedd gwely’ a ddaeth i rym ar 1 Ebrill. Drwy weithio’n effeithlon â thîm Budddaliadau Tai Sir y Fflint, rydym wedi gallu nodi’r 113 o aelwydydd WWH yn y sir a fydd yn cael eu heffeithio gan y newid. Mae ein staff wedi cysylltu â’r holl breswylwyr a gaiff eu heffeithio i esbonio’r newidiadau, trafod yr effaith bosibl ar gyllidebau aelwydydd a gweithio gyda nhw i ganfod atebion fforddiadwy. Hyd heddiw, mae’r mwyafrif llethol o’n preswylwyr wedi dweud wrthym eu bod nhw’n bwriadu aros yn eu cartrefi presennol, er y bydd nifer yn cael anhawster dod o hyd i’r arian sydd ei angen yn lle’r budddal a gollir. Gan gydnabod y bydd nifer o’n preswylwyr angen rhagor o help i gynnal eu tenantiaethau, rydym hefyd wedi buddsoddi’n drwm mewn darparu cymorth parhaus drwy greu saith swydd gwbl newydd – y Swyddogion Cefnogi Tenantiaeth.
Bydd y swyddogion yn dechrau gweithio gyda ni yn awr ledled Cymru, gyda phedwar (Natalie Davies, Amanda Collins, Stuart Lock a Sharon Jones) yn y De, un (Donna Steven) yn y Canolbarth a dau (William Brook a Jen Bailey) yn gweithio yng Ngogledd Cymru. Fe fyddan nhw’n gweithio gyda phreswylwyr i’w helpu nhw i ddelio ag effaith yr holl newidiadau arfaethedig i fudddaliadau, gan gynnwys cyflwyno’r Credyd Cynhwysol, gan roi’r wybodaeth, y dewisiadau, y nerth a’r gobaith iddyn nhw allu goroesi’r storm. Wrth gwrs, un o effeithiau’r dreth ar ystafelloedd gwely yw ein bod ni’n gweld rhai o’n cartrefi mwy o faint – yn enwedig cartrefi teuluol â thair ystafell wely – ar gael. Unwaith eto, rydym yn gweithio’n agos gyda’n holl bartneriaid yn yr awdurdodau lleol, a phob partner priodol arall, i sicrhau fod y bobl briodol sydd angen tai yn cael mynediad at y cartrefi fforddiadwy hyn.
4 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk
YMUNWCH Â’R SGWRS
Mae gennym dros 1,300 o ddilynwyr ar Twitter erbyn hyn. Ymunwch â’r sgwrs a dilynwch ni @wwha. Rydym yn trydar bob dydd am newyddion, swyddi, digwyddiadau cyfagos, cyfleoedd hyfforddi, mentrau codi arian elusennol, ffotograffau a llawer mwy. Gallwch hefyd ein gwylio ni ar ein sianel YouTube wwhahomesforwales.
5 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk
AROLWG BODLONRWYDD PRESWYLWYR - SIR Y FFLINT Rydym yn cynnal ein Harolwg blynyddol o Fodlonrwydd Preswylwyr ymhlith traean o’n haelwydydd (tua 2,700) bob blwyddyn. Fe wnaethom gynnal ein hail arolwg blynyddol, a’r un mwyaf diweddar, yn ystod tymor yr hydref 2012. Dyma rai o’r prif ganlyniadau ynghyd â chipolwg ar yr hyn sy’n bwysig i’n preswylwyr yn Sir y Fflint. Bodlonrwydd cyffredinol Rydym yn falch iawn o roi gwybod i chi fod 88% (pedwar o bob pum preswyliwr) yn fodlon gyda’r gwasanaeth cyffredinol y mae WWH yn ei ddarparu. Mae hyn yn gynnydd o 2% o’i gymharu â’r arolwg a wnaethom yn 2011, ac yn gynnydd sylweddol o 7% ar y canlyniadau a gawsom yn 2007. Gwasanaethau cwsmeriaid Mae ein sgoriau ar gyfer safon y gwasanaethau cwsmeriaid pan oedd pobl yn cysylltu â ni yn dda iawn. Yn neilltuol felly, rhoddodd dros hanner yr aelwydydd (52%) sgôr berffaith o 10 i ni am natur gymwynasgar y staff, gyda’r sgôr gyfartalog yn cyrraedd 8.65 allan o 10. Yn ogystal, bu cynnydd sylweddol yn lefelau bodlonrwydd â chael ymateb prydlon (7.99 oedd y cyfartaledd, o’i gymharu â sgôr o 7.70 yn flaenorol). Y cartref Ar y cyfan, roedd yr ymatebwyr yn fodlon gyda’u cartref, gyda sgôr gyfartalog o 7.99 allan o 10, gan gynnwys sgôr o 10 gan 32% o’r sampl. Yn gyffredinol, mae sgoriau cyfartalog pob nodwedd yn y cartref yr un fath (ac yn y rhan fwyaf o achosion, yn uwch) na’r sgoriau a nodwyd yn 2011. Canlyniadau penodol i Sir y Fflint Yn gyffredinol, mae barn pobl am eu cymdogaeth fel arfer yn ffactor bwysig yn lefel eu bodlonrwydd â’u llety a’u landlord.
Felly, mae’n galonogol gweld fod ymatebwyr yn Sir y Fflint wedi rhoi sgôr gyfartalog o 7.5 allan o 10 am eu bodlonrwydd â’u cymdogaeth diolch i’r ffaith fod traean (33%) wedi rhoi sgôr o 10. Y rhesymau pennaf a nodwyd gan breswylwyr oedd un o bob pump o’r ymatebwyr yn nodi fod ganddyn nhw gymdogion da a mynediad at fwynderau (21% yr un) a bod eu cymdogaeth yn dawel (19%). Fe wnaethom hefyd ofyn i breswylwyr am eu barn ar ein blaenoriaethau er gwella amrywiaeth o feysydd gwaith dros y blynyddoedd a ddaw. Mae’r canlyniadau yn dangos yn glir ein bod yn bwriadu gwella’r modd rydym yn darparu gwasanaethau sy’n berthnasol i’n preswylwyr ac yn cael eu gwerthfawrogi ganddyn nhw. Y tair eitem amlycaf a nodwyd gan ein preswylwyr yn Sir y Fflint yw: • gwneud ein cartrefi yn fwy effeithlon o ran ynni • adolygu sut rydym yn ymdopi ag ymddygiad gwrthgymdeithasol • adeiladu neu gaffael rhagor o gartrefi i’w rhentu a’u prynu. Felly, beth nesaf? Rydym nawr yn archwilio canlyniadau’r arolwg hwn yn fwy trylwyr, gan graffu ar sylwadau penodol y preswylwyr. Bydd y rhain yn amhrisiadwy i ni wrth symud ymlaen a gwella ein gwasanaethau ymhellach.
6 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk
O’r chwith i’r dde – y prentis Corby Atherton, yr aelod Seneddol, Sandy Mewies, Celia Williams, Rheolwr Cyflawni’r Ardal, CITBConstructionSkills a’r prentis Nathan Platt
DATBLYGU CARTREFI NEWYDD
YN SIR Y FFLINT
Maes Glas: Rhoddwyd caniatâd cynllunio i ni adeiladu 58 cartref newydd ym Maes Glas, gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint. Bydd Anwyl Construction yn dechrau gweithio ar y datblygiad, sy’n werth £7.2 miliwn, yn ystod yr haf eleni, gan ddefnyddio dyluniadau gan y penseiri Munro Associates. Mae’r datblygiad, a gyllidwyd yn rhannol drwy grant tai cymdeithasol o £4.6 miliwn gan Lywodraeth Cymru, i fod i gael ei gwblhau ym mis Hydref 2014. Dyluniwyd y cartrefi i gwrdd â Lefel 3+ y Cod Cartrefi Cynaliadwy, ac mae tîm datblygu WWH wedi gweithio’n agos gydag adran gynllunio Cyngor Sir y Fflint, arbenigwyr coedyddiaeth ac ecolegwyr ar y datblygiad hwn. Mae Anwyl Construction yn awr yn cyflogi prentisiaid lleol, labrwyr lleol a defnyddio cadwyni cyflenwi lleol ar draws y rhanbarth, lle mae hynny’n bosibl. Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Dai: “Rwy’n croesawu’r datblygiad newydd hwn o gartrefi fforddiadwy ym Maes Glas, a fydd yn helpu i ddarparu ar gyfer anghenion tai pobl leol. Rwy’n edrych ymlaen at weld y cynllun yn cael ei gwblhau.” Y Fflint: Unwaith eto, gan weithio’n agos â Chyngor Sir y Fflint, rydym yn bwriadu dechrau gweithio ar safle Old Flint House yn fuan, diolch i ganiatâd cynllunio i ddatblygu 30
rhandy newydd. Rydym yn hyderus y bydd y datblygiad hwn yn rhan fawr o’r gwaith ehangach o adfywio canol tref y Fflint. Gofal ychwanegol / gofal dementia, yr wyddgrug: Mae’r gwaith ar Lys Jasmine, ein cynllun gofal ychwanegol / gofal dementia sy’n werth £9 miliwn yn yr Wyddgrug yn mynd rhagddo’n dda, gyda disgwyl i’r rhandai cyntaf fod ar gael i’r preswylwyr cyntaf symud iddyn nhw yn ystod yr haf eleni. Wedi ei leoli ar Jasmine Crescent, hwn fydd y cyfleuster cyntaf o’i fath yng Nghymru â rhandai wedi eu hadeiladau’n bwrpasol ar gyfer pobl â dementia, ochr yn ochr â rhandai gofal ychwanegol. Gyda’i gilydd, mae’r cynllun yn cynnwys 61 rhandy, gan gynnwys 15 ar gyfer pobl â dementia, ynghyd â dau fyngalo dwy ystafell wely ar y safle. Wedi ei leoli’n agos at yr holl gyfleusterau sydd yng nghanol tref yr Wyddgrug, mae Llys Jasmine drws nesaf i Ysbyty Cymunedol yr Wyddgrug a Chanolfan Gymunedol Parkfield, ac mae’r adeilad tri llawr yn cynnig golygfeydd gwych o’r ardal leol. Bu swyddogion o Gyngor Sir y Fflint a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn gweld y gwaith adeiladu ym mis Chwefror, ac roeddem hefyd yn falch iawn o groesawu’r Aelod Seneddol Sandy Mewies i’r safle, i gefnogi Wythnos Prentisiaethau.
7 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk
“Fe wnes i fwynhau’n fawr gweld drosof fy hunan beth mae prentisiaeth yn ei olygu,” meddai wrthym. “Mae prentisiaethau yn dod â nifer o fuddion i gyflogwyr. Ni fu hi erioed yn bwysicach cefnogi ac annog pobl ifanc a gweithwyr cyflogedig i gymryd rhan mewn prentisiaethau.” Yn olaf, mae darparbreswylwyr, eu teuluoedd, ffrindiau a gofalwyr wedi cael cyfle arall i gael rhagor o wybodaeth am y cynllun, ac ymgeisio am le i fyw yno, mewn ail ddigwyddiad marchnata, a gynhaliwyd ddydd Mercher, 24 Ebrill yng Nghanolfan Daniel Owen, yr Wyddgrug, rhwng 10am a 6pm. Dywedodd Anne Caloe, Rheolwr Tai (Gogledd Cymru): “Mae digon o amser o hyd i ymgeisio am le i fyw yn Llys Jasmine, a byddwn yn gweithio’n galed gyda’n partneriaid yng Nghyngor Sir y Fflint i sicrhau fod y rhandai gwych hyn yn cael eu rhoi i’r rhai sydd eu hangen fwyaf.” Cynigir rhandai i bobl dros 65 oed sydd ag anghenion gofal a chefnogaeth,
gyda blaenoriaeth i’r rhai sy’n byw yn sir y Fflint yn awr, ac sy’n cwrdd â’r meini prawf cymhwyster. Gweler ein gwefan www.wwha.co.uk am ragor o fanylion, neu ffoniwch 0800 052 2526. Rydym wedi llwyddo i sicrhau cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru a fydd yn ein galluogi i ddarparu mwy na 1,000 o unedau yn ystod y pedair blynedd nesaf ar draws yr holl ardaloedd lle’r ydym yn gweithredu. Mae darparu digon o gartrefi fforddiadwy o safon uchel yn parhau i fod yn fater o bwys yng Nghymru. Serch hynny, rydym yn parhau’n hyderus o’n gallu i gwrdd ag amrywiaeth o anghenion. Rydym mewn sefyllfa gref yn ariannol, a diolch i hyn rydym nid yn unig yn gallu adeiladu rhagor o gartrefi newydd, ond rhagor o’r math priodol sy’n cwrdd â’r galw lleol. Drwy ddarparu cartrefi am brisiau gwahanol, rydym yn cynnig dewisiadau o ddifrif i ni, ac yn bennaf oll, i’n cwsmeriaid cyfredol ac arfaethedig hefyd.
CEFNOGAETH Â THENANTIAETH Rydym yn falch iawn o allu cyflwyno William Brook, ein Swyddog Cefnogi Tenantiaeth newydd ar gyfer ardal Sir y Fflint. Bydd William yn helpu ein preswylwyr i ddelio â heriau niferus y newidiadau i fudddaliadau, ynghyd â darparu cefnogaeth a chyngor ar gyllidebu’n effeithiol a gwybodaeth am gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant. Yn y lle cyntaf, bydd William yn canolbwyntio ei ymdrechion ar helpu’r preswylwyr hynny sydd eisoes wedi cael eu nodi fel rhai sydd mewn perygl o wynebu caledi ariannol, neu fynd i ddyled, o ganlyniad i newidiadau yn sgil y ‘dreth ar ystafelloedd gwely’ a newidiadau arfaethedig eraill i fudddaliadau. Bydd William yn gweithio ochr yn ochr â Jen Bailey, ein hail Swyddog Cefnogi Tenantiaeth dros ardal gogledd Cymru, sydd ar hyn o bryd yn gweithio fel Cydlynydd y Prosiect Cyn hwysiant Digidol Take Control.
8 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk
CYNHWYSIANT DIGIDOL Rydym yn ystyried gosod band eang WiFi, lle mae’n gost effeithlon gwneud hynny, i alluogi preswylwyr i fynd arlein, gan ddysgu o’n prosiect peilot llwyddiannus ym yn Sir y Fflint. Ar hyn o bryd, rydym yn gosod cysylltiad WiFi yn y lolfa gymunol yn Ystad Goffa Court, Maes Alaw, y Fflint, lle’r ydym wedi recriwtio gwirfoddolwr o blith y preswylwyr i gynorthwyo preswylwyr eraill i ddefnyddio cyfrifiaduron yn ddiogel. Unwaith y bydd hyn wedi’i gwblhau, bydd Jen Bailey o’r prosiect Take Ctrl hefyd yn cynnal sesiynau ‘deall sut’ gyda’r preswylwyr.
Rydym yn goruchwylio prosiect Take Ctrl ar ran Fforwm Gallu Ariannol Gogledd Cymru, ynghyd â rhoi cartref i’r prosiect. Mewn mannau eraill yng ngogledd Cymru, rydym eisoes wedi cynnal dwsinau o sesiynau ‘deall sut’ gyda phreswylwyr, a hyd yn hyn, mae Take Ctrl wedi helpu dros 500 o breswylwyr i fynd arlein, gyda chefnogaeth 48 o wirfoddolwyr.
GOFALU AM YR AMGYLCHEDD YN SIR Y FFLINT Mae’n un o’n blaenoriaethau corfforaethol ein bod yn lleihau’r effaith rydym yn ei gael ar yr amgylchedd, ynghyd ag effaith ein preswylwyr, hefyd. Rydym yn gwella effeithiolrwydd ynni ein cartrefi y tu hwnt i’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei fynnu, fel bod ein preswylwyr yn arbed arian, yn defnyddio llai o danwydd ac yn llai tebygol o ddioddef tlodi tanwydd. Rydym hefyd wedi buddsoddi £6 miliwn yn y pum mlynedd ddiwethaf i liniaru tlodi tanwydd yn ein cartrefi, ac fe wnawn ni barhau i fuddsoddi mewn mesurau i wella’r sefyllfa. Rydym yn cefnogi sawl prosiect amgylcheddol yn yr ardal hon, o’r rhai bach iawn i rai mwy o faint. Un enghraifft yw gosod pympiau gwres o’r ddaear ym Mhen y Ffordd. Roedd cysylltu cartrefi gwledig yn Sir y Fflint â’r prif gyflenwad nwy yn llawer rhy ddrud, yn ogystal â bod yn anodd. Felly, rydym wedi dewis gosod pympiau gwres o’r ddaear mewn 11 cartref yn Rhes Bryn Teg a Phlas y Cryb, Pen y Ffordd, gan sicrhau effeithlonrwydd ynni
safon SAP o leiaf 65%, a helpu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd. Rydym hefyd wedi gosod gwres canolog nwy yn lle gwres canolog trydan mewn 300 cartref ledled Cymru yn ystod 2012. Rydym wedi gosod gwres canolog nwy glân ac effeithlon yn lle gwresogyddion storio dros nos trydan, a oedd yn ddrud, trwsgl ac yn anodd eu rheoli. Fel rhan o’r rhaglen hon, fe wnaethom uwchraddio’r system wresogi mewn 17 cartref yn Langford Close, Wrecsam yn ystod mis Rhagfyr a 40 fflat yn St Mary’s Close, y Waun, erbyn mis Ebrill eleni. Am ragor o fanylion ynghylch ein Rhaglen Cynnal a Chadw wedi’i Gynllunio, cysylltwch â’r Rheolwr Masnachol, Mike Wellock. Ac am ragor o wybodaeth ynghylch ein gwaith Amgylcheddol; gan gynnwys ein Cronfa Amgylcheddol, cysylltwch ag Owen Jones, ein Swyddog Amgylchedd a Chynaladwyedd.
9 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk
CEFNOGI HOUSE SWAP WALES Gan gofio am yr angen i nifer o breswylwyr symud i gartrefi llai o faint o ganlyniad i’r dreth ar ystafelloedd gwely, rydym wedi ymuno â Chymdeithasau Tai Cadwyn a Linc i gefnogi creu prosiect House Swap Wales ar Facebook. Yn ei hanfod, ceir cyfres o grwpiau Facebook fesul sir – e.e. House Swap Cardiff, House Swap Wrexham ac ati – ac mae House Swap Wales wedi ei anelu at denantiaid tai cymdeithasol sydd angen symud o ganlyniad i newidiadau i fudddaliadau, gan gynnwys y dreth ar ystafelloedd wely, neu sydd eisiau symud am resymau eraill. Mae’n darparu llwyfan
parod a syml arlein i breswylwyr hysbysebu eu cartrefi eu hunain yn rhad ac am ddim, chwilio am gartrefi posibl y gallen nhw symud iddyn nhw, a hwyluso’r gwaith o symud eu hunain. Rhagor o wybodaeth www.facebook.com/HouseSwapWales a dilynwch ni ar Twitter @HouseSwapWales
10 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk
MYND AR-LEIN FFYNNU AR-LEIN Mae technoleg yn rhyddhau, yn grymuso ac yn galluogi. Mae mwy a mwy o wasanaethau, gan gynnwys mynediad at fudddaliadau, ar gael drwy’r rhyngrwyd yn unig, ac eto nid yw mwyafrif ein preswylwyr wedi cysylltu â’r we. Felly, rydym yn parhau i annog ein preswylwyr i fynd arlein, a gwneud yn fawr o’r cyfle i fod arlein, drwy amrywiaeth o fentrau cynhwysiant digidol ledled Cymru. Ein bwriad yw: • helpu pobl i wneud yn fawr o’u hincwm a delio â newidiadau i fudddaliadau, yn enwedig cyflwyno’r Credyd Cynhwysol • mynd i’r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol drwy alluogi preswylwyr i fod mewn cysylltiad gwell â’u cymunedau a thu hwnt • cynorthwyo preswylwyr i gael gwell gwerth am arian drwy gyrraedd gwybodaeth a phrynu nwyddau arlein • annog preswylwyr i fanteisio ar yr holl fuddiannau addysgol – a hwyl – bod arlein. Yn ne Cymru, mae ein cynllun peilot mynediad fforddiadwy at fand eang WiFi yn Nhŷ
Pontrhun ym Merthyr Tudful yn sylfaen wych i ni ymestyn y fenter hon ymhellach, lle bynnag y bydd hynny’n bosibl, ledled Cymru. Ac yng ngogledd Cymru, rydym hefyd wedi galluogi WiFi mewn lolfa gymunol yn Nant y Môr, ein cynllun gofal ychwanegol ym Mhrestatyn. Mae gwaith yn cael ei gynnal i alluogi WiFi mewn lolfeydd cymunol yn nifer o’n cynlluniau er ymddeol yng ngogledd a de Cymru. Rydym hefyd yn cynnal sesiynau ‘deall sut’ gyda phreswylwyr, fel rhan o brosiect ‘Take Ctrl’, rydym yn ei gynnal ar ran Fforwm Gallu Ariannol Gogledd Cymru. Hyd yn hyn, mae Take Ctrl wedi helpu dros 500 o breswylwyr i fynd arlein, gyda chefnogaeth 48 o wirfoddolwyr. Mae Jen Bailey, un o’n swyddogion Cefnogi Tenantiaeth, yn canolbwyntio’n benodol ar y galw hwn.
11 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk
MONEYLINE CYMRU NAWR YN GWEITHREDU O’N CANOLFAN GWASANAETHAU CWSMERIAID
Mae Moneyline Cymru yn gweithredu mewn nifer o ganghennau, yn bennaf yn Ne Cymru, ond maen nhw eisiau cynnig gwasanaeth dros y ffôn i bobl o rannau eraill o Gymru, a phobl nad ydyn nhw’n gallu cyrraedd eu swyddfeydd. Felly, maen nhw nawr yn gweithredu o’n Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid yn ein Prif Swyddfa yng Nghaerdydd am gyfnod prawf. Aeth y gwasanaeth yn fyw ym mis Chwefror, ac mae’r tîm o dri wrthi’n ateb galwadau dros ben gan ganghennau presennol Moneyline Cymru.
UN LLWYBR MYNEDIAD AT DAI (SARTH) Ynghyd â darparwyr tai eraill yng Nghonwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint, rydym wrthi’n ymgynghori â phreswylwyr, ymgeiswyr a rhanddeiliaid eraill ynghylch cofrestr dai gyffredin ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru. Y nod yw i bob darparwr tai ddefnyddio dull cyson, gan ei gwneud yn haws i bobl ymgeisio
am dai a darparu gwasanaeth gwell i unrhyw un sy’n chwilio am gartref newydd. Daw’r cyfnod ymgynghori i ben ar 30 Ebrill 2013. Gallwch weld yr wybodaeth ymgynghori, yr arolwg a’r polisi llawn fan hyn: www.conwy.gov.uk/singleaccesssurvey
12 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk
CONNECT24
GWASANAETHAU
FFÔN A THELEOFAL YN WWH Rydym wedi bod yn darparu gwasanaethau ffôn a theleofal ers dros 10 mlynedd, a chymaint yw’r bri ar y rhan hwn o’n gwaith fel ein bod wedi rhoi enw penodol ar y gwasanaeth, Connect24. Pam Connect? Gan mai’r bwriad yw cysylltu pobl â’r gwasanaethau maen nhw eu hangen i’w galluogi i fyw’n annibynnol a diogel yn eu cartrefi. A 24? Gan ein bod ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, 52 wythnos y flwyddyn. Ar hyn o bryd, rydym yn darparu gwasanaethau larwm mewn argyfwng a theleofal Connect24 i dros 4,000 o aelwydydd ledled Cymru, ac mae gennym gontractau gyda: • Tai Cymoedd i’r Arfordir ym Mhenybont ar Ogwr • Grŵp Tai Pennaf yng ngogledd a chanolbarth Cymru • Cymdeithas Tai Newydd yn ne a chanolbarth Cymru Rydym hefyd yn monitro larymau ar gyfer unigolion mewn llety ar rent ynghyd â pherchenfeddianwyr annibynnol. Mae system monitro larwm syml, gan gynnwys y cyfarpar, yn costio cyn lleied â £2.50 yr wythnos. Mae hyn yn helpu i roi tawelwch meddwl i bobl hŷn a phobl agored i niwed fel eu bod nhw’n gallu parhau i fyw’n annibynnol yn eu cartref eu hunain, a rhoi tawelwch meddwl i’w teuluoedd hefyd – y cyfan am bris fforddiadwy. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth llawn 24/7 y tu allan i oriau, ac mae gennym gontractau â’r cymdeithasau tai a ganlyn, sy’n golygu ein bod yn darparu gwasanaethau y tu allan i oriau i 27,000 o aelwydydd ledled Cymru: • Hafan Cymru ledled Cymru • Grŵp Gwalia ledled Cymru • Tai Cymunedol Bron Afon yn Nhorfaen
Am ragor o wybodaeth ynghylch Connect24, ewch i’n gwefan www.connect24.co.uk neu cysylltwch â Jackie Edwards, Rheolwr y Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid, neu Cate Dooher, Pennaeth y Gwasanaethau Cymorth, ar 0800 052 2526.
13 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk
Di Barnes, Verity Kimpton ac Anne Hinchey – tîm awyrblymio dewr WWHA.
Y DIWEDDARAF AM ELUSENNAU Ar ôl dwy flynedd wych, pan gododd staff a phreswylwyr £25,000 tuag at Help for Heroes, ein helusen bartner gorfforaethol rhwng Ionawr 2013 a Rhagfyr 2015 yw Cymdeithas Strôc Cymru. Wedi ei mabwysiadu fel ein prif elusen bartner ym mis Ionawr eleni, rydym yn barod wedi codi dros £10,000 at yr achos da. Mae digwyddiadau yn cynnwys diwrnodau gwisg anffurfiol rheolaidd i staff, cymryd rhan yn ras hwyl Dydd Gŵyl Dewi, ac yn fwyaf diweddar, awyrblymio noddedig. Cafodd arweinydd tîm elusennol WWH, Di Barnes, gwmni’r swyddog gweinyddol Verity Kimpton a’r Prif Weithredwr Anne Hinchey yn yr awyren, a neidiodd y tair o 13,000 troedfedd uwchlaw maes awyr Abertawe ddydd Sadwrn 6 Ebrill. Diolch yn fawr iawn i bawb a’u cefnogodd nhw yn y fenter arswydus hon. Ceir
rhagor o fanylion am ddigwyddiadau elusennol a chodi arian sydd ar ddod ar ein gwefan ac ar Twitter @wwha. Mae elusennau eraill sydd wedi elwa yn sgil gwaith codi arian gan y staff, yn cynnwys Diwrnod trwynau coch Comic Relief a Banciau Bwyd Ymddiriedolaeth Trusell yng Nghaerdydd, Merthyr Tudful, Wrecsam, Bro Morgannwg a Phenybont ar Ogwr.
14 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk
Ecoryfelwyr Western Court
CRYNODEB GWOBRAU Pan aed i’r wasg, roedd nifer o staff a phreswylwyr wedi cael lle ar restr fer sawl gwobr fawreddog. Maen nhw’n cynnwys: Gwobrau Cyfranogiad TPAS Cymru 2013:
Gwobrau Arwyr Tai CIH:
Mae Les Cooper wedi cael ei enwebu yn dilyn ei farwolaeth i gael y wobr i Gydweithiwr Ysbrydoledig. Bu farw Les yn annisgwyl fis diwethaf, ac roedd yn Swyddog Cyngor ar Arian i ni a oedd yn gweithio yn ein swyddfa yn y Fflint yng ngogledd Cymru. Roedd yn aelod gweithgar o Fforwm Gallu Ariannol Gogledd Cymru, ac roedd yn hynod ddylanwadol ac yn uchel iawn ei barch yn y sector. Cafodd effaith gadarnhaol iawn ar fywydau pawb a fu mewn cysylltiad ag ef.
Mae’r Rheolwr Cynllun Helen Jones o Landudno, Conwy, wedi cael lle ar y rhestr fer yng nghategori hynod boblogaidd Cydweithiwr Ysbrydoledig.
Mae’r garddwyr medrus ‘Ecoryfelwyr Western Court’ o’n cynllun er ymddeol Western Court ym Mhenybont ar Ogwr wedi cael lle ar restr fer Gwobr Gwella’r Amgylchedd.
Les Cooper
Helen Jones
Gwobrau Rhagoriaeth mewn Adnoddau Dynol: Mae Anne Hinchey, y Prif Weithredwr, wedi cael lle ar restr fer Gwobr y Prif Weithredwr sy’n canolbwyntio fwyaf ar bobl yn y sector Elusennol / Niderelw. Dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol y mae Anne wedi cael lle ar restr fer y wobr hon.
Anne Hinchey
15 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | STAFF LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk
STAFF LLEOL Pob ardal:
O’r chwith i’r dde: Tony Wilson (Cyfarwyddwr Cyllid) Shayne Hembrow (Dirprwy Brif Weithredwr/Cyfarwyddwr Masnachol) Anne Hinchey (Prif Weithredwr) Steve Porter (Cyfarwyddwr Gweithrediadau)
Pob ardal:
Lynnette Glover, Pennaeth Tai Nikki Cole, Pennaeth Datblygu Alex Stephenson, Pennaeth Gwasanaethau Eiddo
Sir y Fflint Rheolwr Tai: Rheolwr Tai: Rheolwr Masnachol: Rheolwr Masnachol: Rheolwr Datblygu:
Cate Porter (Anghenion cyffredinol) Catherine.porter@wwha.co.uk Anne Caloe (Tai er ymddeol) Andrew Richards (Atgyweiriadau) Mike Wellock (Cynnal a chadw wedi’i gynllunio) Craig Sparrow
Swyddogion Tai:
Anghenion Cyffredinol AnnMarie Rastin Cath Marland Sarah O’Keefe (Tai â chymorth)
Tai er ymddeol Lindy Brettell Rhian Marsh
Mentrau yn y Gymdogaeth: Bridget Garrod Vy Cochran (Swyddog Prosiect Datblygu Cymunedau) Claire Hammond (Swyddog Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr) Swyddogion Rheoli Asedau: Vaughan Williams Dave Hughes Annerley Brown Yr Amgylchedd:
Owen Jones
Swyddog Cefnogi Tenantiaeth:
William Brook / Jen Bailey
Ffôn: Ebost: Gwefan:
0800 052 2526 joe.bloggs@wwha.co.uk www.wwha.co.uk
Tai Wales & West 3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2UD. ac Uned 2, Parc Busnes Acorn, Aber Road, y Fflint CH6 5YN. Ffôn: 0800 052 2526 Minicom: 0800 052 5205 Ebost: contactus@wwha.co.uk Gwefan: www.wwha.co.uk @wwha wwhahomesforwales
Cyhoeddwyd Ebrill 2013