SYLW AR ARDAL
POWYS RHIFYN 4 | HYDREF 2012 Paratoi ar gyfer diwygio budddaliadau Galluogi gwaith, hyfforddiant a phrofiad
Ehangu Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria Ein datblygiadau newydd diweddaraf yn eich ardal chi
2 | Sylw ar ardal POWYS | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk
CYFLWYNIAD Croeso i rifyn hydref 2012 Sylw ar ardal Powys, sy’n dod â’r diweddaraf i chi am fentrau Tai Wales & West yn eich ardal chi. Mae’r rhifyn hwn – y cyntaf sy’n defnyddio ein hunaniaeth brand newydd a gyflwynwyd gennym ym mis Ebrill eleni – yn cynnwys cymysgiad o newyddion ynghylch rhai o’n mentrau sy’n benodol i’r sir, ynghyd â’r diweddaraf am bethau perthnasol sy’n digwydd drwy’r sefydliad cyfan. Yn ystod y gwanwyn eleni, fe wnaethom groesawu Cadeirydd newydd i’n Bwrdd. Ar ôl tair blynedd lwyddiannus yn y gadair, fe wnaeth Ivor Gittens ymddeol, ond bydd yn parhau i fod yn aelod o Fwrdd WWH. Ei olynydd yw Kathy Smart, aelod adnabyddus o gymyned fusnes Caerdydd ac un sydd wedi hyrwyddo tai cymdeithasol ers tro. Mae’r newidiadau diweddar eraill wedi gweld Shayne Hembrow yn cael ei ddyrchafu o swydd y Cyfarwyddwr Gweithrediadau i swydd newydd y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Masnachol. Yn dilyn hyn, rwy’n falch o ddweud ein bod newydd benodi Steve Porter yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau. Gyda newidiadau Diwygio Budddaliadau yn carlamu ymlaen, ar gefndir o ansicrwydd economaidd parhaus a chynnydd yn y pwysau ar gyllid cyhoeddus, rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno bod angen i ni wneud llawer iawn o bethau. Er bod yr heriau’n fawr, rydym yn parhau’n ymroddedig i’n gweledigaeth i wneud gwahaniaeth i fywydau, cartrefi a chymunedau ledled Cymru. Rydym yn gobeithio y bydd y cylchlythyr briffio hwn yn eich helpu chi i gael gwybod y diweddaraf am lawer o’n gwaith ar lawr gwlad yn eich ardal chi, yn ogystal â chael
gwybod am newyddion perthnasol ynghylch y sefydliad cyfan. Yn olaf, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â mi unrhyw dro gyda’ch sylwadau, syniadau ac adborth ynghylch unrhyw agwedd ar ein gwaith. Yn gywir Anne Hinchey, Prif Weithredwr
Dilynwch ni ar Twitter @wwha Gwyliwch ni ar ein sianel YouTube wwhahomesforwales
3 | Sylw ar ardal POWYS | NEWYDDION LLEOL | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk
Datblygiad arfaethedig yn Llanbedr, Powys
Y DIWEDDARAF RHAGOR O DAI FFORDDIADWY I LANBEDR
Rydym gam yn nes at allu dechrau adeiladu wyth cartref o safon uchel i’w rhentu a’u gwerthu yn Llanbedr, a’r cyfan heb angen Grant Tai Cymdeithasol. Mae’r datblygiad hwn yn ganlyniad partneriaeth gref rhwng Cyngor Sir Powys a WWH sy’n galluogi darpariaeth arloesol o dai fforddiadwy heb grant tai cymdeithasol. Mae Cyngor Powys wedi rhoi’r tir i WWH, ac mae WWH wedi cyfrannu swm sylweddol o gyllid preifat, a gwerthu dau gartref ar y farchnad agored, sy’n cyfrannu at gyllid y prosiect hwn. Tra bod y caniatâd cynllunio wedi symud ymlaen, mae’r broses gyfreithiol sy’n digwydd ochr yn ochr â hyn yn cael ei thrafod. Er hynny, rydym wrth ein bodd
gyda chefnogaeth ac ymroddiad parhaus y Cyngor Cymuned a rhanddeiliaid eraill i’r prosiect hwn. Rydym yn bwriadu dechrau’r gwaith yn gynnar yn 2013 os bydd pob caniatâd wedi ei roi. Mae WWH yn edrych ymlaen at ddatblygu’r safle i ddarparu tai fforddiadwy y mae angen mawr amdanyn nhw mewn ardal wledig, ac ymhellach, rydym hefyd yn gweithio â Chyngor Powys i sefydlu a ellir ailadrodd y dull cyflawni hwn mewn mannau eraill sy’n eiddo i’r Cyngor.
4 | Sylw ar ardal POWYS | NEWYDDION LLEOL | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk
SEVERNSIDE YARD YMGYNGHORIAD WEDI’I GYNLLUNIO AR GYFER
TAI FFORDDIADWY YN Y DRENEWYDD Bydd safle WWH yn Severnside Yard yn y Drenewydd yn cynnig amrywiaeth o lety. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda Chyngor Powys i gytuno ar y briff terfynol ar gyfer y datblygiad cyffrous hwn, sy’n elwa ar ei
leoliad agos i ganol y dref a’r ysbyty. Rydym wrthi’n trefnu i’r gwaith ddechrau tua diwedd 2013. Wrth i’r cynlluniau gael eu ffurfioli, cynhelir ymgynghoriad gyda’r gymuned ehangach.
CWMFALLDAU, ABERHONDDU Mae gennym 16 uned i’w rhentu hefyd ym Maes Halley, Parc Dewi Sant, Aberhonddu. Mae hon yn enghraifft arall o waith arloesol, gyda chartrefi newydd yn cael eu hadeiladu
heb grant, ac mae hefyd yn brosiect partneriaeth arall rhwng WWH, Cyngor Powys a’r contractwr Lovell.
Cartrefi newydd yng Nghwmfalldau, Aberhonddu, a adeiladwyd gan Lovell
5 | Sylw ar ardal POWYS | NEWYDDION LLEOL | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk
Tina Ames o Lys yr Arad yn mwynhau sgwrs gyda Huw Lewis, y Gweinidog Tai.
GWEINIDOG Y LLYWODRAETH
YN YMWELD Â LLYS YR ARAD Mae preswylwyr wedi ymgartrefu’n dda yn y datblygiad diweddaraf a gwblhawyd gennym ym Mhowys, sef Llys yr Arad yng nghanol tref Aberhonddu. Roeddem yn falch iawn o groesawu Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth Llywodraeth Cymru, Huw Lewis, fel ein gwestai gwadd i agor y cynllun yn swyddogol ym mis Mai eleni.
palmant o liw gwahanol. Yn ystod ymweliad y Gweinidog, fe wnaeth hyd yn oed aros i gael paned o de gydag un o breswylwyr Llys yr Arad, Mrs Tina Ames.
Mae pob un o’r 26 cartref fforddiadwy o safon uchel sydd ar safle’r hen orsaf heddlu ar Lion Street wedi cael eu hadeiladu yn unol ag ecoleg, pensaernïaeth a hanes cyfoethog yr ardal, diolch i’r bartneriaeth adeiladol rhwng WWH, Cyngor Sir Powys ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Dywedodd y Gweinidog, “Rydym wedi darparu ychydig dros £1.8 miliwn ar gyfer y cynllun hwn, sydd yn fy ngolwg i yn fuddsoddiad da; nid yn unig o ran ansawdd, ond yn bwysicach o ran darparu cartrefi newydd y mae’r preswylwyr eu hangen yn fawr. Mae cynlluniau fel hyn angen llawer o waith caled o’r dechrau i’r diwedd, a dim ond drwy gydweithio y gellir ei gyflawni. Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran am eu hymroddiad, ac rwy’n siŵr y bydd y cynllun hwn yn llwyddiant mawr – yn sicr, mae’n haeddu llwyddo.”
Cafwyd deunydd adeiladu cynaliadwy ar gyfer y cartrefi a oedd yn cyfateb i nodweddion hanesyddol yr ardal, ac yn ystod y gwaith adeiladu, darganfuwyd olion wal hanesyddol y dref, sydd wedi cael eu hamlygu gyda cherrig
http://www.youtube.com/watch?v=xOsmcpvH35I&feature=plcp
6 | Sylw ar ardal POWYS | NEWYDDION LLEOL | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk
CYFLEOEDD DATBLYGU
CYMUNEDOL YN STONELEIGH MANOR Mae Sarah O’Keeffe, y Swyddog Cefnogi Pobl, a Claire Hammond, y Swyddog Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr, wedi bod yn gweithio gyda phreswylwyr yn Stoneleigh Manor, aelodau o Gyngor Sir Powys, Cefni Lettings a Chyngor Tref Aberhonddu i sefydlu grŵp defnyddwyr gwasanaeth. Mae Dyfodol Newydd Stoneleigh Manor yn ceisio helpu preswylwyr i helpu eu hunain, yn bennaf drwy glwb garddio i dyfu eu llysiau eu hunain. Gobeithir hefyd y bydd y grŵp yn helpu i hyrwyddo’r defnydd o’r lolfa gymunol fel adnodd i’r gymuned leol.
Dan faner logo maen nhw wedi’i ddylunio ei hunain, mae Dyfodol Newydd Stoneleigh Manor hefyd yn gweithio tuag at sefydlu ei ardal adnoddau mewnol ei hunan a fydd yn cynnwys llyfrgell DVDs / llyfrau / cylchgronau a man cyfrifiaduron.
UWCHRADDIAD EFFEITHLONRWYDD YNNI
YN LLWYNBRAIN CLOSE Un o’n blaenoriaethau corfforaethol allweddol yw gostwng faint o adnoddau naturiol rydym yn eu defnyddio. Rydym yn rhoi hyn ar waith ym Mhowys gyda phob un o’n 14 cartref yn Llwynbrain Close yn Hywi, sy’n mynd i gael uwchraddiad effeithlonrwydd ynni. Wedi ei adeiladu ychydig cyn troad y ganrif, ac ar hyn o bryd yn defnyddio gwresogyddion storio gyda’r nos fel y prif ddull o wresogi, nid yw’r cartrefi hyn wedi cael eu cysylltu â’r rhwydwaith nwy oherwydd eu lleoliad gwledig, felly mae’r tenantiaid yn wynebu biliau ynni uwch na’r cyfartaledd. Bydd y gwaith yn ymgorffori ôlosodiadau effeithlonrwydd ynni ar y cartrefi, gyda ffenestri gwydr dwbl a drysau newydd,
pympiau gwres o’r awyr a naill ai paneli ffotofoltaidd (sy’n rhoi rhywfaint o drydan am ddim) neu baneli thermol solar (sy’n rhoi rhywfaint o ddŵr cynnes am ddim). Dylai’r gwaith gael ei gwblhau mewn pryd ar gyfer y Nadolig. Bydd preswylwyr hefyd ar eu hennill drwy gael cyngor ar arbed ynni a monitorau ynni, mewn ymdrech i geisio lleihau tlodi tanwydd.
7 | Sylw ar ardal POWYS | NEWYDDION LLEOL | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk
Ian Davies o Solar Windows, gyda Kathy Smart, Cadeirydd WWH, ac Alison Stallard, Codwr Arian Busnesau a’r Gymuned Tŷ Hafan
TŶ HAFAN Yn ddiweddar, cafodd cynrychiolwyr Tai Wales & West y pleser o gyflwyno siec am £600 i Dŷ Hafan, hosbis plant Cymru. Roedd yr arian yn rhan o gronfa a oedd yn cynnwys dros £2,500, a godwyd gan dîm llwyddiannus Tri Chopa Cymru GE Aviation Wales o bartneriaid contraction WWH, Solar Windows Limited. Fe wnaeth Ian Davies, Mark Anderson, Jeff Collins, Gary Seldon, Paul Miller a John Lewis, pob un yn gweithio i Solar Windows Ltd, gwblhau her y tri chopa mewn llai na 15 awr ym mis Mehefin. Ar ôl cyflwyno’r siec, fe wnaeth Kathy Smart, Cadeirydd WWH, ac Anne Hinchey, y Prif Weithredwr, ymuno â thîm Solar Windows ar daith o amgylch yr hosbis, sy’n cynnig gofal lliniarol i blant sydd â chyflyrau sy’n cyfyngu ar eu bywyd, eu teuluoedd a’u gofalwyr. Dywedodd John Lewis, rheolwr contractau yn Solar Windows, sydd wedi gweithio mewn partneriaeth â Wales & West er 2001: “Roedd y tywydd mor ddrwg fel na welom gopa unrhyw un o’r mynyddoedd y buom yn sefyll arnyn nhw! Ar Gader Idris, roedd cyfnodau a
roddodd fraw o ddifrif i ni, gan ei bod mor wlyb a gwyntog. Disgynnais ddwywaith fy hunan, ac nid oes llawer o bethau y gallwch eu gwneud i’ch paratoi ar gyfer hynny. Ychwanegodd: “Ond pan oedd pethau’n mynd yn anodd iawn, fe wnaethom gofio pam roeddem yn gwneud hyn, sef dros blant mewn sefyllfa waeth na ni ein hunain – ac fe roddodd hynny hwb i ni ddal ati”. Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWH: “Roedd yn fraint mynd o amgylch Tŷ Hafan, ac yn brofiad gwylaidd iawn gweld y gwaith anhygoel maen nhw’n ei wneud. Rydym yn falch iawn o fod wedi gallu cefnogi’r cyfleuster hwn, y mae angen mawr amdano, drwy ymdrechion clodwiw Solar Window Ltd yn ymateb i her Tri Chopa Cymru.” Mae Solar Windows yn gweithio tuag at statws carbon niwtral yn eu ffatri ym Medwas, ac maen nhw’n parhau i weithio mewn partneriaeth â Thai Wales & West i’n helpu ni i gadw at ein hymrwymiad o adeiladu tai cynaliadwy.
8 | Sylw ar ardal POWYS | NEWYDDION LLEOL | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk
GWOBRAU GWNEUD GWAHANIAETH 2012 Fe wnaethom gynnal ein Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth blynyddol am y pumed tro eleni, ac unwaith eto roedd yn noson wych. Daeth cyfanswm o 159 o breswylwyr, staff a phartneriaid contractio i’r seremoni yng Ngwesty’r Village, Coryton, Caerdydd, nos Wener 19 Hydref. Roedd sawl preswyliwr o Bowys ymysg yr enillwyr a’r rhai a gyrhaeddodd y rowndiau terfynol, fel y gwelir isod: • Yr athletwr Paralympaidd Robert Davies, 28 oed, o Aberhonddu, a enillodd Wobr Ysbrydoliaeth Arbennig • Clwb Garddio Cynllun er Ymddeol Maes y Ffynnon, Crughywel, a gyrhaeddodd rownd derfynol y categori Eco Bencampwyr • Jimmy Layton, 77 oed, o Landrindod, a gyrhaeddodd rownd derfynol Gwobr y Prosiect Cymunedol Cawsom yn agos at 60 o enwebiadau o safon uchel o bob rhan o Gymru eleni swm boddhaus iawn, ac mae’n dangos o ddifrif pa mor dda y mae nifer o’n staff yn adnabod ein preswylwyr. Eleni, cawsom gefnogaeth wych gan ein contractwyr, gydag 11 yn cyfrannu’n fawr iawn at gyllideb y Gwobrau eleni. Mae Media Wales wrthi’n gwneud ffilm fer am y digwyddiad, a fydd yn cael ei llwytho i fyny i’n gwefan ac YouTube yn fuan iawn. Dywedodd Anne Hinchey, y Prif Weithredwr: “A hwythau’n cael eu dyfarnu am y pumed tro
Robert Davies Special Inspiration Award Winnerwith Peter Jackson, Cambria Maintenance Services, Kathy Smart WWH Chair and Anne Hinchey WWH Chief Executive
eleni, y Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth yw ein ffordd ni o gydnabod cryfder, natur anhunanol a synnwyr o gymuned sydd yn amlygu ei hun yn ein preswylwyr. Ein bwriad yw gweld twf cryf a chynaliadwy a fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau, cartrefi a chymunedau pobl, ac mae’r gwobrau hyn yn rhoi syniad da i bobl am rai o’r ffyrdd y mae hyn yn cael ei gyflawni. Mae hi wedi bod yn noson hyfryd, ac yn fraint o ddifrif cael clywed hanesion y rhai sy’n cymryd rhan.” Yn olaf, mae angen sôn am un wobr arall – y tro hwn, un a enillwyd gan ein tîm Cysylltiadau Cyhoeddus a Marchnata ein hunain, pan gydnabuwyd ein Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth gan Rwydwaith Cysylltiadau Cyhoeddus Cartrefi Cymunedol Cymru fel Digwyddiad Gorau Cymru 2012.
9 | Sylw ar ardal POWYS | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk
PARATOI AR GYFER DIWYGIO BUDD-DALIADAU Efallai nad oes yr un mater yn dylanwadu’n fwy ar y sector tai ar hyn o bryd na Diwygio Budddaliadau. Mae ein staff drwy’r sefydliad cyfan yn gweithio’n agos gyda’n holl bartneriaid mewn awdurdodau lleol, swyddogion budddaliadau tai, Tai Cymunedol Cymru a phartneriaid eraill i hyrwyddo a rhoi cyhoeddusrwydd i’r newidiadau a ddaw, rhoi gwybod am y canlyniadau hynny i’n preswylwyr, a ffyrdd y gallen nhw helpu eu hunain. Rydym wedi edrych eto ar y gwasanaethau rydym yn eu darparu, ac yn sicrhau ein bod ni’n gwneud popeth allwn ni i helpu pobl rhag mynd i ddyled ac i geisio talu eu biliau. Yn neilltuol, rydym yn gweithio gyda phreswylwyr i’w helpu nhw i: • baratoi ar gyfer cyflwyno’r Credyd Cyffredinol a thaliadau uniongyrchol • darparu cymorth a chyngor wedi’i deilwra ynghylch cyllidebu
• deall effeithiau cyflwyno’r ‘dreth ystafell wely’, fel y’i gelwir hi, y flwyddyn nesaf, a lle bo’n briodol, helpu pobl i symud i gartrefi maen nhw’n gallu eu fforddio, ac sydd o faint priodol. Mae ein dau Swyddog Cyngor ar Arian hefyd yn gweithio’n agos â Moneyline Cymru (gweler isod) yn ogystal ag Undebau Credyd ledled Cymru, er mwyn helpu preswylwyr i gyllidebu’n effeithiol a chael mynediad at gredyd cost isel, sy’n ddiogel a fforddiadwy.
ARWAIN Y SECTOR GYDA’R
CYFLOG BYW Nid yw ein hymdrechion i fynd i’r afael â thlodi yn gyfyngedig i’n preswylwyr. Fel y gymdeithas tai gyntaf yng Nghymru i gyflwyno’r ‘Cyflog Byw’, rydym yn arwain y sector gyda’r fenter hon. Ar hyn o bryd, mae’r ‘Cyflog Byw’ yn £7.20 yr awr (i weithwyr y tu allan i Lundain), ac mae hynny’n sylweddol uwch na’r lleiafswm cyflog cyfreithiol, sy’n £6.08 yr awr ar hyn o bryd. Gyda mwy na 340 o weithwyr cyflogedig ledled Cymru, mae ein penderfyniad yn golygu nad oes unrhyw un yn gweithio i ni am lai na £7.20 yr awr, ac ers mis Awst eleni, mae 40 o’n gweithwyr cyflogedig wedi gweld cynnydd yn eu cyflogau o ganlyniad i’r polisi hwn.
Dywedodd Rhys Moore, Cyfarwyddwr y Sefydliad Cyflog Byw:
“Rydym yn falch iawn o ddyfarnu nod cyflogwr Cyflog Byw i Tai Wales & West. Mae hon yn foment arwyddocaol, gan mai dyma’r gymdeithas tai gyntaf yng Nghymru i sicrhau’r nod.”
10 | Sylw ar ardal POWYS | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk
LLEOLIADAU
GWAITH AR GAEL Mae helpu ein preswylwyr i elwa ar gyflogaeth a chyfleoedd hyfforddiant hefyd yn flaenoriaeth allweddol i ni. Drwy’r contractwyr sy’n bartneriaid i ni, rydym yn barod wedi cefnogi 33 o bobl i ddychwelyd i weithio, ac mae gennym nifer o brentisiaid yn gweithio ar ein prosiectau ledled Cymru. Mae rhai enghreifftiau o lle’r ydym wedi cael effaith yn ddiweddar yn cynnwys:
• De Cymru – Mae Jordan Evans, sy’n 18 oed, newydd gwblhau prentisiaeth gwaith plymwr dros ddwy flynedd gyda’n hisgwmni Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria Ltd. Fe wnaeth Jordan, sy’n hanu o Benybont ar Ogwr, gyfuno hyfforddiant wrth weithio â Cambria gydag astudio am ddiwrnod yr wythnos yng Ngholeg Ogwr. “Byddwn yn argymell hyn fel ffordd dda o ennill cyflog ac astudio,” meddai Jordan. “Mae nifer o’m cyfeillion wedi gofyn i mi a yw hyn yn beth da i’w wneud, ac rwyf wedi dweud wrthyn nhw ei fod yn bendant yn syniad da.” Mae Cambria yn bwriadu cyflogi 3 o brentisiaid ychwanegol rhwng eu gwaith yng ngogledd a de Cymru dros y misoedd nesaf. • De Cymru Fel rhan o’n cynllun Yn ôl i’r Gwaith (menter gan Dîm Llwybrau at Gyflogaeth Penybont ar Ogwr) rydym yn rhoi lle swyddfa i ddau ymgynghorydd ynni dan hyfforddiant. Wedi’u lleoli ym Mheny
Y plymwr dan hyfforddiant, Jordan Evans, sy’n 18 oed ac sy’n dod o Benybont ar Ogwr, gyda Neal O’Leary, aelod o fwrdd Cambria, a Peter Jackson, Pennaeth Cambria, mewn seremoni gyflwyno y tu allan i Stadiwm Dinas Caerdydd i nodi ei gymhwyster.
bont ar Ogwr, mae Lynn a Howard wedi bod ar leoliad gennym ni am chwe mis, gan ennill profiad a fydd yn eu helpu nhw i ddod o hyd i gyflogaeth barhaol. Fe fyddan nhw’n hyrwyddo’r cynllun Disgownt Cartrefi Cynnes mewn cynlluniau er ymddeol yn ogystal â chynnig cyngor i breswylwyr ar ddefnyddio ynni yn fwy effeithlon ac arbed arian ar eu biliau. • Gogledd Cymru Yn y Ffair Swyddi ddiweddar yn Hightown, Wrecsam, cofrestrodd dros 50 o bobl ddiddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth am gyflogaeth bosibl, a chyfleoedd hyfforddiant, a fydd yn cael eu hwyluso drwy ein contractwyr, Anwyl. Bydd y cyfleoedd hyn yn codi fel rhan o’n datblygiadau sy’n werth £17 miliwn ar Kingsmills Road a Rivulet Road, a bydd rhagor o fanylion yn dilyn yn rhifynnau In Touch â Sylw ar ardal Powys yn y dyfodol. Rydym yn gweithio gyda Thwf Swyddi Cymru yn ogystal â sawl asiantaeth arall i gysylltu pobl â chyfleoedd, lle bo hynny’n bosibl ac yn briodol. Rydym hefyd yn gallu cynnal nifer o leoliadau mewnol, naill ai fel profiad gwaith tymor byr heb dâl, lleoliadau gwaith (rhai â chyllid) a phrentisiaethau. Mae’r cyfleoedd hyn yn agored i bawb, heb ystyriaeth i oedran, cymwysterau na phrofiad blaenorol. Mae angen i’r rhai sydd â diddordeb lenwi Ffurflen Mynegi Diddordeb yn y Fenter Sgiliau Gweithle ar ein gwefan www.wwha.co.uk
11 | Sylw ar ardal POWYS | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk
Y Gweinidog Cyllid Jane Hutt yn ymweld â phreswylwyr yn Nhŷ Pontrhun, a oedd yn cymryd rhan mewn dosbarthiadau TG i gefnogi ein cynllun peilot WiFi band eang
CYNHWYSIANT DIGIDOL Rhywbeth arall allweddol sy’n cael sylw gennym yw ‘cynhwysiant digidol’ – sy’n galluogi ein preswylwyr i fynd arlein: cael mynediad at gyfarpar, meddalwedd a gwasanaethau cymorth priodol, cysylltu â’i gilydd a’u cymunedau drwy’r cyfrwng hwn, a gwneud dewisiadau gwybodus, ynghyd â’r gallu i gael mynediad at nwyddau am brisiau gostyngol. Y gyrwyr allweddol i ni yn ein buddsoddiad o ran cynhwysiant digidol yw: • helpu pobl i fod mewn sefyllfa well i ddelio â Diwygio Budddaliadau, yn enwedig cyflwyno’r Credyd Cyffredinol • galluogi pobl i fod mewn cysylltiad gwell â’u cymunedau, a • helpu ein preswylwyr i gael gwell gwerth am arian drwy gael mynediad at wybodaeth a nwyddau arlein Mae ein cynllun peilot i ddod â mynediad band eang WiFi fforddiadwy i Dŷ Pontrhun ym Merthyr Tudful yn weithredol erbyn hyn. Ers 5 Gorffennaf, mae preswylwyr Tŷ Pontrhun a’u teuluoedd wedi gallu cysylltu â’r rhyngrwyd o unrhyw ystafell yn yr adeilad drwy ddyfais sy’n gallu cysylltu’n ddiwifr, gan ddefnyddio cyfrinair unigol.
Cwmni Boyns o ogledd Cymru yw’r cyflenwr a ddewiswyd gennym ar gyfer y cynllun peilot hwn, ac maen nhw wedi gosod llinell ffôn yn yr adeilad, sy’n galluogi preswylwyr i gael hyd at 2Mb o fand eang WiFi. Ar hyn o bryd, mae ein preswylwyr yn cael cysylltiad am ddim am 6 mis, ac ar ôl hynny fe fyddan nhw’n talu swm fforddiadwy iawn o 63c yr wythnos. Ein nod yw dysgu o’r cynllun peilot hwn er mwyn ehangu WiFi a chysylltiadau band eang effeithlon a fforddiadwy i gymaint â phosibl o’n preswylwyr ledled Cymru, ac rydym yn awr yn dechrau gweithio ar ail brosiect peilot yn Nant y Môr, ein Cynllun Gofal Ychwanegol ym Mhrestatyn, Sir Ddinbych.
http://www.youtube.com/watch?v=QtmoCdwpVz4
12 | Sylw ar ardal POWYS | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk
AIL-FRANDIO Os ydych yn cael In Touch, ein cylchgrawn chwarterol i breswylwyr, fe fyddwch yn gwybod yn barod ein bod wedi ailfrandio ym mis Ebrill eleni. Rydym yn falch iawn o ddweud bod yr ymateb i’n gwedd newydd wedi bod yn gadarnhaol iawn, ac mae’n helpu i ledaenu’r neges am ein strwythur grŵp newydd, gyda Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria Ltd fel ein hisgwmni cyntaf. Yn ychwanegol at y rhifyn hwn o Sylw ar ardal Powys, rydym yn falch o anfon dolen at ein Cynllun Busnes 2012, sy’n amlinellu cyfeiriad strategol Grŵp Tai Wales & West ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Rhan arall o’r broses ailfrandio oedd creu ein hisfrand newydd cyntaf, Connect24. Mae hyn yn uno ystod gynhwysfawr o wasanaethau rydym yn eu darparu, gan gynnwys ein Larwm mewn Argyfwng, gwasanaethau y tu allan i oriau, a chymorth i weithwyr unigol. O fod wedi ychwanegu nifer o gwsmeriaid corfforaethol at ein portffolio yn ystod y misoedd diweddar, rydym nawr yn gofalu am fwy na 20,000 o gartrefi ledled Cymru drwy ein canolfan gwasanaethau cwsmeriaid, sydd wedi cael ei hachredu gan y Gymdeithas Gwasanaethau Teleofal, gan ein galluogi i wneud atgyweiriadau a helpu pobl i gael yr help maen nhw ei angen mewn argyfwng. Os hoffech siarad gyda ni am sut gallai ein Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid helpu sefydliadau yn eich ardal chi sydd angen cefnogaeth gan ganolfan alw, cysylltwch â Cate Dooher, Pennaeth y Gwasanaethau Cefnogi, ar 029 20415386.
Mrs Nancy Pilott o Gwrt Anghorfa, Penybont ar Ogwr, yn dangos ein botwm arddwrn larwm personol gan Connect24.
13 | Sylw ar ardal POWYS | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk
Tîm Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria o 40 o weithwyr wedi’u lleoli yn Ne a Chanolbarth Cymru. Mae 40 yn rhagor o swyddi medrus yn cael eu diogelu wrth i Cambria ehangu i Ogledd Cymru.
CAMBRIA YN YMESTYN
I OGLEDD CYMRU
Fe wnaethom sefydlu ein cwmni cynnal a chadw ein hunain yn 2011, gan ein harwain ni at strwythur Grŵp. Mae Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria wedi cael 20 mis cyntaf llwyddiannus iawn yn masnachu, gan ymgymryd ag atgyweiriadau yn ogystal â gosod ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd i WWH yn ne a chanolbarth Cymru. Gyda throsiant o £2.8m yn ei flwyddyn gyntaf, yn y blynyddoedd nesaf rydym yn rhagweld y bydd hyn yn treblu. Gan adeiladu ar lwyddiant sylweddol ei weithrediadau yn ne a chanolbarth Cymru, mae’r paratoadau wedi dechrau’n barod i Cambria ymestyn i ogledd Cymru, gyda’r adain hon yn dod yn weithredol tua dechrau 2013.
Bydd y symudiad hwn yn sicrhau dyfodol 40 swydd fedrus yng ngogledd Cymru, yn ogystal â darparu llwyfan diogel arall am ragor o gyfleoedd i gynnig lleoliadau gwaith a phrentisiaethau. Rhagwelwn y bydd Cambria yn gosod 4,000 o geginau ac ystafelloedd ymolchi ledled Cymru yn ystod y pum mlynedd nesaf.
14 | Sylw ar ardal POWYS | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk
CONSORTIWM SYNIAD Yn 2005 fe wnaethom ymuno â Linc Cymru a Thai Clwyd Alyn i ffurfio Consortiwm Syniad. Ers hynny, mae aelodau’r consortiwm wedi darparu mwy na 1,500 o unedau tai cymdeithasol, 11 o gynlluniau gofal ychwanegol, a galluogi hyfforddiant a phrentisiaethau i fwy na 150 o bobl, gan wneud y defnydd mwyaf posibl o fwy na £100m o grantiau tai cymdeithasol. Er hynny, gyda throsglwyddo’r rhaglen grantiau tai cymdeithasol i bartneriaid yn yr awdurdodau lleol, a’r gostyngiad mewn cymhorthdal cyhoeddus sydd ar gael i gartrefi newydd, fe wnaeth aelodau Syniad adolygu swyddogaeth y consortiwm. Y canlyniad oedd
bod y consortiwm wedi dod i ben ar 1 Mehefin eleni. Er gwaethaf diwedd y consortiwm, fe wnawn ni barhau i gydweithio lle bo’n briodol i ddarparu cartrefi newydd y mae eu hangen yn fawr ledled Cymru.
MONEYLINE CYMRU
YN EHANGU Mae Tai Wales & West, un o’r cyrff a sefydlodd Moneyline Cymru, yn parhau i ddarparu cymorth ariannol i’r fenter bwysig hon. Yn y cyfnod economaidd anodd iawn hwn, bydd angen i fwy a mwy o breswylwyr tai cymdeithasol gael mynediad at y gwasanaethau a ddarperir gan sefydliadau fel Moneyline Cymru ac undebau credyd lleol. Rydym yn falch o gefnogi’r naill a’r llall, ac yn awr mae WWH yn gweithio’n agos gyda Moneyline ac Undeb Credyd Caerdydd a’r Fro i ystyried sut y gellir datblygu gwasanaethau newydd i helpu preswylwyr i ymdopi â’r newidiadau a ddaw yn sgil cyflwyno’r Credyd Cyffredinol. Rydym hefyd wedi ymrwymo i gyllido ehangu Moneyline dros y 3 blynedd nesaf, ac mae’r
gangen ddiweddaraf wedi agor ym Merthyr Tudful yn ddiweddar. Bwriedir agor canghennau yn Abertawe a Wrecsam hefyd. Mae benthyciadau a roddwyd gan Moneyline yn y 3 blynedd ddiwethaf wedi arwain at arbe dion o £2.5m o ran llog mewn cymhariaeth â’r llog sy’n cael ei godi gan y Provident, y darparwr mwyaf cyffredin o fenthyciadau ar garreg y drws.
15 | Sylw ar ardal POWYS | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk
EIN PERFFORMIAD
ARIANNOL
Mae amgylchedd economaidd heriol heddiw yn golygu fod angen i ni fod yn effeithlon a buddsoddi’n ddoeth os ydym eisiau cyrraedd ein nod o dyfu a gwneud gwahaniaeth. Er nad yw bod yn fawr bob amser yn ddelfrydol, mae’n sicrhau cryfder ariannol a’r gallu i ddod drwy’r storm economaidd sydd ohoni yn ogystal â’r modd i arloesi, i fod yn greadigol, ac i gyflwyno syniadau newydd. Rydym yn disgwyl cyflawni cynnydd flwyddyn ar ôl blwyddyn yn ein gwargedion gweithredu drwy weithredu ein busnes yn effeithiol, hyd yn oed ar ôl amsugno’r dyledion drwg rydym yn disgwyl eu cael yn sgil newidiadau i fudddaliadau lles, yn enwedig cyflwyno’r Credyd Cyffredinol a’r ‘dreth ystafelloedd gwely’.
Nifer y cartrefi sy’n cael eu datblygu ar hyn o bryd yn ôl ardal Awdurdod Lleol Sir Ddinbych
9 Conwy
12
Sir y Fflint
121 Wrecsam
127
Dros y pum mlynedd nesaf, rydym yn disgwyl buddsoddi £36m mewn cynnal a chadw a gwella ein stoc bresennol. Ymhellach, mae gennym y gallu ariannol i fuddsoddi mwy na £100m mewn adeiladu a chaffael cartrefi newydd. Mae’n debyg mai dim ond un rhan o bump o’r buddsoddiad hwn fydd yn cael ei gyllido drwy grant tai cymdeithasol gan Lywodraeth Cymru, gyda £70m yn dod drwy fenthyciadau ychwanegol, a’r gweddill yn dod o arian dros ben a gynhyrchwyd yn fewnol. Am ragor o wybodaeth fanwl am ein sefyllfa ariannol, trowch at dudalennau 28 a 29 o’n Cynllun Busnes ar gyfer 2012 i 2017, y dylech fod wedi ei gael yn ddiweddar, neu gallwch ei weld ar ein gwefan www.wwha.co.uk Mae ein sefyllfa gref wedi cael ei hardystio gan Lywodraeth Cymru, a ddyfarnodd radd ‘pasio’ i’r Gymdeithas yn ei asesiad ariannol blynyddol.
Cyfanswm
393 Powys
24 Merthyr Tudful
15
Caerdydd Pen-y-bont
26
39 Bro Morgannwg
20
Mae’r ffigyrau hyn yn cynrychioli datblygiadau sydd ar y safle ar hyn o bryd, ac sydd wedi’u hamserlennu i ddechrau yn y 12 mis nesaf. Er hynny, gyda’i gilydd, rhagwelwn adeiladu a chaffael 450 uned yn ychwanegol yn y pum mlynedd nesaf, a fydd yn mynd â chyfanswm ein hadeiladau newydd yn ystod y cyfnod hwnnw i 850 uned.
16 | Sylw ar ardal POWYS | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk
PARTNERIAETH
GWASANAETH TÂN AC ACHUB DE CYMRU Mae delio â pheryglon tân yn uchel ar yr agenda ar hyn o bryd, ac rydym eisiau sicrhau fod ein holl gartrefi mor ddiogel ag y gallant fod. Rydym wedi ffurfio partneriaeth arloesol gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, gan gytuno i weithredu fel partner ‘enghreifftiol’ er mwyn eu helpu nhw i hyrwyddo arferion da o ran diogelwch tân yn y sector tai cymdeithasol ledled y wlad. Dywedodd Andy Petersen, Rheolwr Grŵp gyda’r Gwasanaeth Tân ac Achub, “Mae WWH wedi arddangos y pwysigrwydd maen nhw’n ei
roi ar ddiogelwch tân. Bydd ein partneriaeth yn darparu ffordd gadarnhaol o feddwl i’w galluogi i gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth diogelwch tân.” Rydym wrthi’n cynnal trafodaethau gyda Gwasanaeth Tân y Canolbarth a Gwasanaeth Tân y Gogledd i archwilio’r posibilrwydd o ehangu’r bartneriaeth hon ymhellach.
Andy Petersen, Rheolwr Grŵp Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Robin Alldred, Rheolwr Masnachol WWH, Jo Burns, Swyddog Iechyd a Diogelwch WWH, Anthony Williams, Swyddog Iechyd a Diogelwch WWH.
17 | Sylw ar ardal POWYS | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk
GWNEUD Y PETH IAWN… Ein nod yw gwneud y peth iawn o ran ein preswylwyr a’n staff, ac isod gwelir y gwobrau a’r achrediadau rydym wedi eu cael yn ddiweddar, sy’n cydnabod ac yn dathlu ein dull o weithio. • Rydym wedi cael y clod uchaf posibl dan system wobrwyo mawr ei bri Buddsoddwyr mewn Pobl, gan gael y safon Aur yn ein hasesiad diweddar. “Mae Tai Wales & West yn parhau i arddangos ei fod yn sefydliad sy’n meddwl am y dyfodol ac yn llwyddo fel busnes drwy arddangos ymddygiad arwain sy’n llawn gweledigaeth, wedi ei danategu gan werthoedd cryf ac ystyrlon,” meddai’r arbenigwraig ar Fuddsoddwyr mewn Pobl, Mavis ElliottSmith.
Gweithio am Hyrwyddo Gyrfaoedd i Weithwyr Hyblyg, a chawsom le yn y rownd derfynol yn y categorïau hyn: Y gorau o ran gyrfaoedd a gofal am bobl hŷn, Y gorau o ran ymgysylltu, a Gwobr Orau’r Grid Cenedlaethol am Arloesi. Dywedodd Sarah Jackson OBE, Prif Weithredwr Working Families:
• Mae Rhestr Cwmnïau Gorau'r Sunday Times 2012 wedi nodi mai ni yw sefydliad niderelw gorau Cymru, ac rydym yn yr 8fed safle yn y 100 sefydliad niderelw gorau ledled y Deyrnas Unedig. Ni hefyd yw’r unig gymdeithas tai o Gymru i gael y radd uchaf o 3 seren yn rhestr y Cwmnïau Gorau.
“Mae cyrraedd y rhestr fer mewn ped war o’r saith categori Gwobrau Arbennig yn gyflawniad eithriadol. Roedd polisïau arloesol Tai Wales & West i ymgysylltu â’u gweithwyr a’u cefnogi, yn enwedig gofalwyr a gweithwyr hyblyg, wedi creu cryn argraff ar y beirniaid.”
• Mae’r elusen sy’n ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd hamdden, Working Families, wedi ein rhoi ni ymysg y 30 cwmni gorau sy’n ystyriol o deuluoedd yn y Deyrnas Unedig am yr ail flwyddyn yn olynol. Yn eu seremoni wobrwyo ddiweddar, fe wnaethom hefyd ennill y Wobr Teuluoedd sy’n
• Mewn partneriaeth â GKR Maintenance & Building, rydym wedi cael Canmoliaeth Uchel yng nghategori gwobr Integreiddio a Chydweithio yng ngwobrau Constructing Excellence 2012. Dywedodd y beirniaid fod y tîm wedi gweithio’n galed, ‘gydag angerdd ac ymroddiad’, i dorri costau a lleihau gwastraff.
Steve Porter (ar y dde) Cyfarwyddwr Gweithrediadau WWH erbyn hyn, yn cael tlws yng Ngwobrau Adeiladu Arbenigrwydd 2012. Yn y llun fe’i gwelir gyda Jayne Rowland Evans, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cynnal a Chadw GKR a Phil Lumley, Pennaeth Gwasanaethau Eiddo Cyngor Sir Caerfyrddin
Tai Wales & West 3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2UD. ac Uned 2, Parc Busnes Acorn, Aber Road, y Fflint CH6 5YN. Ffoniwch ar 0800 052 2526 Minicom: 0800 052 5205 Ebost: contactus@wwha.co.uk Gwefan: www.wwha.co.uk @wwha wwhahomesforwales
Cyhoeddwyd Hydref 2012