Sylw ar ardal Powys Gwanwyn 2013

Page 1

SYLW AR ARDAL

POWYS RHIFYN 5 | GWANWYN 2013 Goroesi’r newid i fudd­daliadau Mynd ar­lein, ffynnu ar­lein Ein datblygiadau diweddaraf yn eich ardal Gwasanaethau ffôn a theleofal Connect24


2 | Sylw ar ardal POWYS | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

CYFLWYNIAD ANNE Croeso i rifyn gwanwyn 2013 Sylw ar ardal Powys, sy’n rhoi’r diweddaraf i chi am fentrau Tai Wales & West yn eich ardal chi. Mae’r rhifyn hwn yn cynnwys ein cymysgedd arferol o newyddion ynghylch rhai o’n prosiectau cyfredol yn benodol i’r sir, ynghyd â’r diweddaraf am faterion perthnasol drwy’r sefydliad cyfan. Yn gyntaf oll, yn dilyn ein Harolwg diweddaraf o Fodlonrwydd Preswylwyr, rwy’n falch iawn o ddweud wrthych fod 88% o’n preswylwyr wedi dweud wrthym eu bod nhw’n fodlon gyda’r gwasanaeth cyffredinol a ddarparwyd gan WWH. Mae hyn yn gynnydd o 2% o’i gymharu â’r arolwg a wnaethom yn 2011, ac yn gynnydd sylweddol o 7% ar y canlyniadau a gawsom yn 2007. Datblygiad sylweddol arall ers ein rhifyn diwethaf o Sylw ar ardal Powys yw ein buddsoddiad mewn saith swydd arloesol, sef y Swyddogion Cefnogi Tenantiaeth newydd. Ar ôl ymarfer recriwtio llwyddiannus, mae ein Swyddogion newydd wrthi’n dechrau ar eu gwaith newydd y foment hon ledled Cymru, ac fe fyddan nhw’n cymryd camau rhagweithiol ac ymarferol i helpu ein preswylwyr i oroesi storm y newid i fudd­daliadau. Ledled y busnes, rydym yn parhau i archwilio a buddsoddi mewn technoleg newydd, ac mae ein rhaglen cynhwysiant digidol yn parhau i ffynnu, ac yn chwarae rhan gynyddol bwysig yn y gwaith o helpu ein preswylwyr i ddelio â newidiadau sydd ar ddod i fudd­daliadau. Rydw i hefyd yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi cael swm sylweddol o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i’n helpu ni i adeiladu cartrefi fforddiadwy y mae eu hangen yn fawr ledled Cymru, yn gydnabyddiaeth o’n gallu fel cymdeithas sy’n datblygu. Pan anfonom ein Cynllun Busnes atoch ddiwedd yr hydref llynedd, dywedom wrthych y byddem yn darparu 800 o gartrefi newydd dros y pum mlynedd nesaf. Diolch i’r buddsoddiad newydd hwn, rydym yn awr yn debygol o allu darparu 1,000 o gartrefi newydd yn y pedair blynedd nesaf.

Serch hynny, dim ond rhan yn unig o’r hyn rydym yn ei wneud yw datblygu cartrefi newydd, ac felly i sicrhau ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar gwsmeriaid, ac yn atebol am yr hyn a wnawn, rydym yn ymgymryd â’n proses hunanasesu reolaidd. Rydw i a’m cyd­gyfarwyddwyr wedi bod yn cynnal ein sioeau teithio blynyddol i staff, a hyd yn hyn rydym wedi siarad â thros dri chwarter ein holl staff ledled Cymru, nifer ohonyn nhw’n byw yn y cymunedau lle maen nhw’n gweithio, gan gael cipolwg amhrisiadwy ar eu byd ac adborth ganddyn nhw. Yn olaf, mae’n bleser mawr gennyf ddweud wrthych fod rhestr cwmnïau gorau’r Sunday Times yn dangos mai ni yw sefydliad nid­er­elw gorau Cymru am yr ail flwyddyn yn olynol ­ ac rydym yn y 7fed safle yn rhestr y Deyrnas Unedig. Fe wnaethom nid yn unig godi un lle o’r 8fed safle a gawsom yn 2012, ond llwyddom hefyd i ddal gafael yn ein safon aur Tair Seren mawr ei bri. Rwy’n siŵr y cytunwch fod hwn yn ganlyniad boddhaus arall, ac yn glod i waith caled ac ymroddiad ein staff gwych. I gloi, rwy’n gobeithio y bydd y cylchlythyr briffio hwn yn fodd o roi gwybod i chi am y diweddaraf am lawer o’n gwaith ar lawr gwlad yn eich ardal chi, yn ogystal â darlun ehangach byd WWH. Peidiwch ag oedi cyn cysylltu unrhyw dro gyda’ch syniadau a’ch sylwadau ynghylch unrhyw agwedd ar ein gwaith. Yn gywir Anne Hinchey, Prif Weithredwr.


3 | Sylw ar ardal POWYS | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

GOROESI’R NEWID I FUDD-DALIADAU Mae’r newidiadau i fudd­daliadau wedi bod yn nodwedd amlwg ar ein hagenda, ac yn parhau i fod felly, yn enwedig effaith y ‘dreth ar ystafelloedd gwely’ a ddaeth i rym ar 1 Ebrill. Drwy weithio’n effeithlon â thîm Budd­daliadau Tai Powys, rydym wedi gallu nodi’r 93 o aelwydydd WWH yn y sir a fydd yn cael eu heffeithio gan y newid. Mae ein staff wedi cysylltu â’r holl breswylwyr a gaiff eu heffeithio i esbonio’r newidiadau, trafod yr effaith bosibl ar gyllidebau aelwydydd a gweithio gyda nhw i ganfod atebion fforddiadwy. Hyd heddiw, mae’r mwyafrif llethol o’n preswylwyr wedi dweud wrthym eu bod nhw’n bwriadu aros yn eu cartrefi presennol, er y bydd nifer yn cael anhawster dod o hyd i’r arian sydd ei angen yn lle’r budd­dal a gollir. Gan gydnabod y bydd nifer o’n preswylwyr angen rhagor o help i gynnal eu tenantiaethau, rydym hefyd wedi buddsoddi’n drwm mewn darparu cymorth parhaus drwy greu saith swydd gwbl newydd – y Swyddogion Cefnogi Tenantiaeth.

Bydd y swyddogion yn dechrau gweithio gyda ni yn awr ledled Cymru, gyda phedwar (Natalie Davies, Amanda Collins, Stuart Lock a Sharon Jones) yn y De, un (Donna Steven) yn y Canolbarth a dau (William Brook a Jen Bailey) yn gweithio yng Ngogledd Cymru. Fe fyddan nhw’n gweithio gyda phreswylwyr i’w helpu nhw i ddelio ag effaith yr holl newidiadau arfaethedig i fudd­daliadau, gan gynnwys cyflwyno’r Credyd Cynhwysol, gan roi’r wybodaeth, y dewisiadau, y nerth a’r gobaith iddyn nhw allu goroesi’r storm. Wrth gwrs, un o effeithiau’r dreth ar ystafelloedd gwely yw ein bod ni’n gweld rhai o’n cartrefi mwy o faint – yn enwedig cartrefi teuluol â thair ystafell wely – ar gael. Unwaith eto, rydym yn gweithio’n agos gyda’n holl bartneriaid yn yr awdurdodau lleol, a phob partner priodol arall, i sicrhau fod y bobl briodol sydd angen tai yn cael mynediad at y cartrefi fforddiadwy hyn.


4 | Sylw ar ardal POWYS | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

YMUNWCH Â’R SGWRS

Mae gennym dros 1,300 o ddilynwyr ar Twitter erbyn hyn. Ymunwch â’r sgwrs a dilynwch ni @wwha. Rydym yn trydar bob dydd am newyddion, swyddi, digwyddiadau cyfagos, cyfleoedd hyfforddi, mentrau codi arian elusennol, ffotograffau a llawer mwy. Gallwch hefyd ein gwylio ni ar ein sianel YouTube wwhahomesforwales.


5 | Sylw ar ardal POWYS | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

AROLWG BODLONRWYDD PRESWYLWYR - POWYS Rydym yn cynnal ein Harolwg blynyddol o Fodlonrwydd Preswylwyr ymhlith traean o’n haelwydydd (tua 2,700) bob blwyddyn. Fe wnaethom gynnal ein hail arolwg blynyddol, a’r un mwyaf diweddar, yn ystod tymor yr hydref 2012. Dyma rai o’r prif ganlyniadau ynghyd â chipolwg ar yr hyn sy’n bwysig i’n preswylwyr ym Mhowys. Bodlonrwydd cyffredinol Rydym yn falch iawn o roi gwybod i chi fod 88% (pedwar o bob pum preswyliwr) yn fodlon gyda’r gwasanaeth cyffredinol y mae WWH yn ei ddarparu. Mae hyn yn gynnydd o 2% o’i gymharu â’r arolwg a wnaethom yn 2011, ac yn gynnydd sylweddol o 7% ar y canlyniadau a gawsom yn 2007.

sgôr gyfartalog o 8.2 allan o 10 am eu bodlonrwydd â’u cymdogaeth, gyda llawer o hynny i’w briodoli i dros hanner (53%) ohonyn nhw’n rhoi sgôr o 10. Ymysg y rhesymau pennaf a nodwyd (37%) roedd agosatrwydd at fwynderau, cymdogion da (21%) a’u bod yn byw mewn man tawel ­ 19%.

Gwasanaethau cwsmeriaid Mae ein sgoriau ar gyfer safon y gwasanaethau cwsmeriaid pan oedd pobl yn cysylltu â ni yn dda iawn. Yn neilltuol felly, rhoddodd dros hanner yr aelwydydd (52%) sgôr berffaith o 10 i ni am natur gymwynasgar y staff, gyda’r sgôr gyfartalog yn cyrraedd 8.65 allan o 10. Yn ogystal, bu cynnydd sylweddol yn lefelau bodlonrwydd â chael ymateb prydlon (7.99 oedd y cyfartaledd, o’i gymharu â sgôr o 7.70 yn flaenorol).

Fe wnaethom hefyd ofyn i breswylwyr am eu barn ar ein blaenoriaethau er gwella amrywiaeth o feysydd gwaith dros y blynyddoedd a ddaw. Mae’r canlyniadau yn dangos yn glir ein bod yn bwriadu gwella’r modd rydym yn darparu gwasanaethau sy’n berthnasol i’n preswylwyr ac yn cael eu gwerthfawrogi ganddyn nhw. Y tair eitem amlycaf a nodwyd gan ein preswylwyr ym Mhowys yw:

Y cartref Ar y cyfan, roedd yr ymatebwyr yn fodlon gyda’u cartref, gyda sgôr gyfartalog o 7.99 allan o 10, gan gynnwys sgôr o 10 gan 32% o’r sampl. Yn gyffredinol, mae sgoriau cyfartalog pob nodwedd yn y cartref yr un fath (ac yn y rhan fwyaf o achosion, yn uwch) na’r sgoriau a nodwyd yn 2011. Canlyniadau penodol i Bowys Yn gyffredinol, mae barn pobl am eu cymdogaeth fel arfer yn ffactor bwysig yn lefel eu bodlonrwydd â’u llety a’u landlord. Felly, mae’n galonogol gweld fod ymatebwyr ym Mhowys wedi rhoi

• gwneud ein cartrefi yn fwy effeithlon o ran ynni • adolygu sut rydym yn pennu taliadau gwasanaeth ac yn rhoi gwybod i breswylwyr am y taliadau hynny • adolygu sut rydym yn ymdopi ag ymddygiad gwrthgymdeithasol Felly, beth nesaf? Rydym nawr yn archwilio canlyniadau’r arolwg hwn yn fwy trylwyr, gan graffu ar sylwadau penodol y preswylwyr. Bydd y rhain yn amhrisiadwy i ni wrth symud ymlaen a gwella ein gwasanaethau ymhellach.


6 | Sylw ar ardal POWYS | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

CEFNOGAETH Â THENANTIAETH Rydym yn falch iawn o allu cyflwyno Donna Steven, ein Swyddog Cefnogi Tenantiaeth newydd ar gyfer ardal Powys. Bydd Donna yn helpu ein preswylwyr i ddelio â heriau niferus y newidiadau i fudd­daliadau, ynghyd â darparu cefnogaeth a chyngor ar gyllidebu’n effeithiol a gwybodaeth am gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant. Yn y lle cyntaf, bydd Donna yn canolbwyntio ei hymdrechion ar helpu’r preswylwyr hynny sydd eisoes wedi cael eu nodi fel rhai sydd mewn perygl o wynebu caledi ariannol, neu fynd i ddyled, o ganlyniad i newidiadau yn sgil y ‘dreth ar ystafelloedd gwely’ a newidiadau arfaethedig eraill i fudd­daliadau. Rydym hefyd wedi bod ar daith, gyda sesiynau galw heibio i helpu i ledaenu’r gair am y newidiadau i fudd­daliadau, gan gynnwys sesiwn galw heibio yn Neuadd y Dref yn Aberhonddu. Fe wnaeth Donna, ynghyd â’r Cynorthwyydd Tai Liz Daniels, ymuno â’r Cynghorydd Matthew Dorrance a phartneriaid eraill i

helpu i gynghori unrhyw un sy’n pryderu ynghylch y newidiadau arfaethedig i fudd­daliadau. Llawer o ddiolch i’r Cynghorydd Dorrance am ei ymdrechion yn cydlynu’r digwyddiad gwerth chweil hwn.

CEFNOGI DATBLYGU COFRESTR DAI GYFFREDIN Rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid ar y Gofrestr Dai Gyffredin arfaethedig i Bowys, gan sicrhau ei fod yn fecanwaith sydd mor effeithiol â phosibl i sicrhau bod y bobl hynny sydd angen tai yn gallu ymgeisio am y cartrefi

priodol iddyn nhw pan maen nhw eu hangen nhw. Mae prosiect peilot newydd ddechrau yn ardal y Drenewydd yn y sir, ac rydym yn gobeithio dysgu llawer yn sgil hynny.


7 | Sylw ar ardal POWYS | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

DATBLYGU CARTREFI NEWYDD

YM MOWYS Llanbedr: Ar ôl llawer iawn o waith gyda’r gymuned leol, gyda llawer o amynedd a menter ar y ddwy ochr, rydym yn hynod falch ein bod wedi caffael tir yn Llanbedr ar gyfer prosiect newydd cyffrous iawn, lle byddwn yn adeiladu chwe chartref newydd. Bydd dau ar werth ar y farchnad agored, a bydd yr arian a godir yn sgil gwerthu’r rhain yn helpu i dalu am adeiladu’r pedwar cartref arall. Bydd y datblygiad ecogyfeillgar hwn hefyd yn elwa ar randiroedd cyfagos.

Y Drenewydd: Rydym wrthi’n gweithio ar gais cynllunio ar hyn o bryd, a fydd yn canolbwyntio ar adfywio safle tir llwyd yn Severside, y Drenewydd. Mae’r safle – iard adeiladwyr Boys and Boden, gynt – wedi cael ei glirio ers peth amser, ac rydym yn awr yn gweithio â’r cwmni lleol Hughes Architects a thimau o Gyngor Sir Powys, gan gynnwys y gwasanaethau cymdeithasol, tai ac iechyd ar y cynlluniau ar gyfer math o dai gofal ychwanegol.

Mae Swyddog yr Amgylchedd WWH, Owen Jones, a’n Swyddog Cyfranogiad Datblygu Cymunedau, Alison Chaplin, nawr yn gweithio’n agos â’r Cyngor Cymuned lleol i lunio fframwaith cadarn i reoli’r rhandiroedd hyn. Unwaith y bydd hynny yn ei le, gall y datblygiad symud ymlaen at y cam nesaf.

Rydym wedi llwyddo i sicrhau cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru a fydd yn ein galluogi i ddarparu mwy na 1,000 o unedau yn ystod y pedair blynedd nesaf ar draws yr holl ardaloedd lle’r ydym yn gweithredu.

Aberhonddu: Mae’r datblygwyr Lovell yn awr wedi cwblhau 16 cartref newydd i ni yng Nghwmfalldau, Parc Dewi Sant, Aberhonddu, ac mae’r cyfan wedi cael eu rhoi ar osod ar rent canolradd.

Mae darparu digon o gartrefi fforddiadwy o safon uchel yn parhau i fod yn fater o bwys. Serch hynny, rydym yn parhau’n hyderus o’n gallu i gwrdd ag amrywiaeth o anghenion. Rydym mewn sefyllfa gref yn ariannol, a diolch i hyn rydym nid yn unig yn gallu adeiladu rhagor o gartrefi newydd, ond rhagor o’r math priodol sy’n cwrdd â’r galw lleol. Drwy ddarparu cartrefi am brisiau gwahanol, rydym yn cynnig dewisiadau o ddifrif i ni, ac yn bennaf oll, i’n cwsmeriaid cyfredol ac arfaethedig hefyd.


8 | Sylw ar ardal POWYS | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

GOFALU AM YR AMGYLCHEDD YM MHOWYS Mae’n un o’n blaenoriaethau corfforaethol ein bod yn lleihau’r effaith rydym yn ei gael ar yr amgylchedd, ynghyd ag effaith ein preswylwyr, hefyd. Rydym yn gwella effeithiolrwydd ynni ein cartrefi y tu hwnt i’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei fynnu, fel bod ein preswylwyr yn arbed arian, yn defnyddio llai o danwydd ac yn llai tebygol o ddioddef tlodi tanwydd. Rydym hefyd wedi buddsoddi £6 miliwn yn y pum mlynedd ddiwethaf i liniaru tlodi tanwydd yn ein cartrefi, ac fe wnawn ni barhau i fuddsoddi mewn mesurau i wella’r sefyllfa. Rydym wedi gosod gwres canolog nwy yn lle gwres canolog trydan mewn 300 cartref ledled Cymru yn ystod 2012. Rydym wedi gosod gwres canolog nwy glân ac effeithlon yn lle gwresogyddion storio dros nos trydan, a oedd yn ddrud, trwsgl ac yn anodd eu rheoli mewn 17 cartref ar stad Brynawelon yn Llanwrtyd a phum cartref yn Fosse Way, Bronllys, Aberhonddu. Mewn mannau eraill yn y sir, rydym wedi gosod pympiau gwres o’r ddaear mewn naw cartref yng Nghlos Pontganol, Llangynidr, a phum tŷ a chwe fflat ym Maes yr Onnen, Llanfair Caereinion. Ac yn Llwynbrain Close, Hywi, rydym wedi gosod drysau a ffenestri newydd mewn 13 cartref yn ogystal â gosod pympiau gwres o’r awyr i roi hwb i’r systemau inswleiddio a gwresogi. Mae paneli solar thermol wedi cael eu gosod mewn 8 cartref, gan ddarparu dŵr poeth, a gosodwyd paneli solar ar 6 chartref arall, gan ddarparu trydan am ddim/rhatach pan maen nhw’n cynhyrchu ynni. Cafodd y gwaith hwn ei gwblhau ym mis Tachwedd 2012, gan helpu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd i’r holl breswylwyr.

Yn ychwanegol, rydym yn cefnogi sawl prosiect amgylcheddol arall yn yr ardal hon, o’r rhai bach iawn i rai mwy o faint. Un enghraifft yw Menter Gymunedol Ashfield (ACE) sydd wedi ennill Gwobr Trydydd Sector y WCVA am "Godi arian arloesol ". Mae ACE yn fenter gymunedol sy’n hyfyw yn ariannol ac yn gynhwysol o safbwynt cymdeithasol, sy’n tyfu bwyd ar gyfer pobl leol, ac yn darparu lle a gweithdai i fusnesau newydd, gan hyrwyddo ffordd iach o fyw. Wedi ei leoli mewn dau adeilad wedi’u hailwampio yn Hywi dan berchnogaeth a rheolaeth WWH, mae rhanddeiliaid Ashfield yn berchen ar y safle 7.5 erw ac yn ei redeg a’i reoli er budd y gymuned, gan ddefnyddio egwyddorion organig. Dywedodd Jenny Williams, y Rheolwr Tai “Rydym yn falch ein bod yn gallu cefnogi’r gwaith da y mae Ashfield yn ei wneud yn yr ardal.” Wedi ei gofrestru fel Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol, mae Ashfield dafliad carreg o Landrindod, ac yno ceir pum twnnel polythen, dau dŷ gwydr, swît hyfforddi, sawl gweithdy a thŷ chwe ystafell wely sy’n cael ei roi ar rent fel dwy uned o dai fforddiadwy. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.ashfieldce.org.uk Am ragor o fanylion ynghylch ein Rhaglen Cynnal a Chadw wedi’i Gynllunio, cysylltwch â’r Rheolwr Masnachol, Mike Wellock. Ac am ragor o wybodaeth ynghylch ein gwaith Amgylcheddol; gan gynnwys ein Cronfa Amgylcheddol, cysylltwch ag Owen Jones, ein Swyddog Amgylchedd a Chynaladwyedd.


9 | Sylw ar ardal POWYS | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

MONEYLINE CYMRU NAWR YN GWEITHREDU O’N CANOLFAN GWASANAETHAU CWSMERIAID

Mae Moneyline Cymru yn gweithredu mewn nifer o ganghennau, yn bennaf yn Ne Cymru, a hefyd eisiau cynnig gwasanaeth ffôn i bobl o rannau eraill o Gymru, a phobl nad ydyn nhw’n gallu cyrraedd eu swyddfeydd. Felly, maen nhw nawr yn gweithredu o’n Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid yn ein Prif Swyddfa yng Nghaerdydd am gyfnod prawf. Aeth y gwasanaeth yn fyw ym mis Chwefror, ac mae’r tîm o dri wrthi’n ateb galwadau dros ben gan ganghennau presennol Moneyline Cymru.


10 | Sylw ar ardal POWYS | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

CEFNOGI HOUSE SWAP WALES Gan gofio am yr angen i nifer o breswylwyr symud i gartrefi llai o faint o ganlyniad i’r dreth ar ystafelloedd gwely, rydym wedi ymuno â Chymdeithasau Tai Cadwyn a Linc i gefnogi creu prosiect House Swap Wales ar Facebook. Yn ei hanfod, ceir cyfres o grwpiau Facebook fesul sir – e.e. House Swap Cardiff, House Swap Wrexham ac ati – ac mae House Swap Wales wedi ei anelu at denantiaid tai cymdeithasol sydd angen symud o ganlyniad i newidiadau i fudd­daliadau, gan gynnwys y dreth ar ystafelloedd wely, neu sydd eisiau symud am resymau eraill. Mae’n darparu llwyfan

parod a syml ar­lein i breswylwyr hysbysebu eu cartrefi eu hunain yn rhad ac am ddim, chwilio am gartrefi posibl y gallen nhw symud iddyn nhw, a hwyluso’r gwaith o symud eu hunain. Rhagor o wybodaeth www.facebook.com/HouseSwapWales a dilynwch ni ar Twitter @HouseSwapWales


11 | Sylw ar ardal POWYS | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

MYND AR-LEIN FFYNNU AR-LEIN Mae technoleg yn rhyddhau, yn grymuso ac yn galluogi. Mae mwy a mwy o wasanaethau, gan gynnwys mynediad at fudd­daliadau, ar gael drwy’r rhyngrwyd yn unig, ac eto nid yw mwyafrif ein preswylwyr wedi cysylltu â’r we. Felly, rydym yn parhau i annog ein preswylwyr i fynd ar­lein, a gwneud yn fawr o’r cyfle i fod ar­lein, drwy amrywiaeth o fentrau cynhwysiant digidol ledled Cymru. Ein bwriad yw: • helpu pobl i wneud yn fawr o’u hincwm a delio â newidiadau i fudd­daliadau, yn enwedig cyflwyno’r Credyd Cynhwysol • mynd i’r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol drwy alluogi preswylwyr i fod mewn cysylltiad gwell â’u cymunedau a thu hwnt • cynorthwyo preswylwyr i gael gwell gwerth am arian drwy gyrraedd gwybodaeth a phrynu nwyddau ar­lein • annog preswylwyr i fanteisio ar yr holl fuddiannau addysgol – a hwyl – bod ar­lein. Yn ne Cymru, mae ein cynllun peilot mynediad fforddiadwy at fand eang Wi­Fi yn Nhŷ

Pontrhun ym Merthyr Tudful yn sylfaen wych i ni ymestyn y fenter hon ymhellach, lle bynnag y bydd hynny’n bosibl, ledled Cymru. Ac yng ngogledd Cymru, rydym hefyd wedi galluogi Wi­Fi mewn lolfa gymunol yn Nant y Môr, ein cynllun gofal ychwanegol ym Mhrestatyn. Mae gwaith yn cael ei gynnal i alluogi Wi­Fi mewn lolfeydd cymunol yn nifer o’n cynlluniau er ymddeol yng ngogledd a de Cymru. Rydym hefyd yn cynnal sesiynau ‘deall sut’ gyda phreswylwyr, fel rhan o brosiect ‘Take Ctrl’, rydym yn ei gynnal ar ran Fforwm Gallu Ariannol Gogledd Cymru. Hyd yn hyn, mae Take Ctrl wedi helpu dros 500 o breswylwyr i fynd ar­lein, gyda chefnogaeth 48 o wirfoddolwyr. Mae Jen Bailey, un o’n swyddogion Cefnogi Tenantiaeth, yn canolbwyntio’n benodol ar y galw hwn.


12 | Sylw ar ardal POWYS | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

CONNECT24

GWASANAETHAU

FFÔN A THELEOFAL YN WWH Rydym wedi bod yn darparu gwasanaethau ffôn a theleofal ers dros 10 mlynedd, a chymaint yw’r bri ar y rhan hwn o’n gwaith fel ein bod wedi rhoi enw penodol ar y gwasanaeth, Connect24. Pam Connect? Gan mai’r bwriad yw cysylltu pobl â’r gwasanaethau maen nhw eu hangen i’w galluogi i fyw’n annibynnol a diogel yn eu cartrefi. A 24? Gan ein bod ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, 52 wythnos y flwyddyn. Ar hyn o bryd, rydym yn darparu gwasanaethau larwm mewn argyfwng a theleofal Connect24 i dros 4,000 o aelwydydd ledled Cymru, ac mae gennym gontractau gyda: • Tai Cymoedd i’r Arfordir ym Mhen­y­bont ar Ogwr • Grŵp Tai Pennaf yng ngogledd a chanolbarth Cymru • Cymdeithas Tai Newydd yn ne a chanolbarth Cymru Rydym hefyd yn monitro larymau ar gyfer unigolion mewn llety ar rent ynghyd â pherchen­feddianwyr annibynnol. Mae system monitro larwm syml, gan gynnwys y cyfarpar, yn costio cyn lleied â £2.50 yr wythnos. Mae hyn yn helpu i roi tawelwch meddwl i bobl hŷn a phobl agored i niwed fel eu bod nhw’n gallu parhau i fyw’n annibynnol yn eu cartref eu hunain, a rhoi tawelwch meddwl i’w teuluoedd hefyd – y cyfan am bris fforddiadwy. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth llawn 24/7 y tu allan i oriau, ac mae gennym gontractau â’r cymdeithasau tai a ganlyn, sy’n golygu ein bod yn darparu gwasanaethau y tu allan i oriau i 27,000 o aelwydydd ledled Cymru: • Hafan Cymru ledled Cymru • Grŵp Gwalia ledled Cymru • Tai Cymunedol Bron Afon yn Nhorfaen

Am ragor o wybodaeth ynghylch Connect24, ewch i’n gwefan www.connect­24.co.uk neu cysylltwch â Jackie Edwards, Rheolwr y Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid, neu Cate Dooher, Pennaeth y Gwasanaethau Cymorth, ar 0800 052 2526.


13 | Sylw ar ardal POWYS | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Di Barnes, Verity Kimpton ac Anne Hinchey – tîm awyrblymio dewr WWH.

Y DIWEDDARAF AM ELUSENNAU Ar ôl dwy flynedd wych, pan gododd staff a phreswylwyr £25,000 tuag at Help for Heroes, ein helusen bartner gorfforaethol rhwng Ionawr 2013 a Rhagfyr 2015 yw Cymdeithas Strôc Cymru. Wedi ei mabwysiadu fel ein prif elusen bartner ym mis Ionawr eleni, rydym yn barod wedi codi dros £10,000 at yr achos da. Mae digwyddiadau yn cynnwys diwrnodau gwisg anffurfiol rheolaidd i staff, cymryd rhan yn ras hwyl Dydd Gŵyl Dewi, ac yn fwyaf diweddar, awyrblymio noddedig. Cafodd arweinydd tîm elusennol WWH, Di Barnes, gwmni’r swyddog gweinyddol Verity Kimpton a’r Prif Weithredwr Anne Hinchey yn yr awyren, a neidiodd y tair o 13,000 troedfedd uwchlaw maes awyr Abertawe ddydd Sadwrn 6 Ebrill. Diolch yn fawr iawn i bawb a’u cefnogodd nhw yn y fenter arswydus hon. Ceir

rhagor o fanylion am ddigwyddiadau elusennol a chodi arian sydd ar ddod ar ein gwefan ac ar Twitter @wwha. Mae elusennau eraill sydd wedi elwa yn sgil gwaith codi arian gan y staff, yn cynnwys Diwrnod trwynau coch Comic Relief a Banciau Bwyd Ymddiriedolaeth Trusell yng Nghaerdydd, Merthyr Tudful, Wrecsam, Bro Morgannwg a Phen­y­bont ar Ogwr.


13 | Sylw ar ardal POWYS | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Ecoryfelwyr Western Court

CRYNODEB GWOBRAU Pan aed i’r wasg, roedd nifer o staff a phreswylwyr wedi cael lle ar restr fer sawl gwobr fawreddog. Maen nhw’n cynnwys: Gwobrau Cyfranogiad TPAS Cymru 2013:

Gwobrau Arwyr Tai CIH:

Mae Les Cooper wedi cael ei enwebu yn dilyn ei farwolaeth i gael y wobr i Gydweithiwr Ysbrydoledig. Bu farw Les yn annisgwyl fis diwethaf, ac roedd yn Swyddog Cyngor ar Arian i ni a oedd yn gweithio yn ein swyddfa yn y Fflint yng ngogledd Cymru. Roedd yn aelod gweithgar o Fforwm Gallu Ariannol Gogledd Cymru, ac roedd yn hynod ddylanwadol ac yn uchel iawn ei barch yn y sector. Cafodd effaith gadarnhaol iawn ar fywydau pawb a fu mewn cysylltiad ag ef.

Mae’r Rheolwr Cynllun Helen Jones o Landudno, Conwy, wedi cael lle ar y rhestr fer yng nghategori hynod boblogaidd Cydweithiwr Ysbrydoledig.

Mae’r garddwyr medrus ‘Ecoryfelwyr Western Court’ o’n cynllun er ymddeol Western Court ym Mhen­y­bont ar Ogwr wedi cael lle ar restr fer Gwobr Gwella’r Amgylchedd.

Les Cooper

Helen Jones

Gwobrau Rhagoriaeth mewn Adnoddau Dynol: Mae Anne Hinchey, y Prif Weithredwr, wedi cael lle ar restr fer Gwobr y Prif Weithredwr sy’n canolbwyntio fwyaf ar bobl yn y sector Elusennol / Nid­er­elw. Dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol y mae Anne wedi cael lle ar restr fer y wobr hon.

Anne Hinchey


14 | Sylw ar ardal POWYS | STAFF LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

STAFF LLEOL Pob ardal:

O’r chwith i’r dde: Tony Wilson (Cyfarwyddwr Cyllid) Shayne Hembrow (Dirprwy Brif Weithredwr/Cyfarwyddwr Masnachol) Anne Hinchey (Prif Weithredwr) Steve Porter (Cyfarwyddwr Gweithrediadau)

Pob ardal:

Lynnette Glover, Pennaeth Tai Nikki Cole, Pennaeth Datblygu Alex Stephenson, Pennaeth Gwasanaethau Eiddo

Powys Rheolwr Tai: Rheolwr Tai: Rheolwr Masnachol: Rheolwr Masnachol: Rheolwr Datblygu:

Jenny Williams/Anne Caloe (Anghenion cyffredinol) Jackie Bloxham/Anne Caloe (Tai er ymddeol) Robin Alldred/Andrew Richards (Atgyweiriadau) Mike Wellock (Cynnal a chadw wedi’i gynllunio) Lyndon Griffiths/Craig Sparrow

Swyddogion Tai:

Anghenion Cyffredinol Wendy Fryzer Gill Jonas

Tai er ymddeol Rhian Marsh (Gogledd) Marcelle Mackay (De)

Mentrau yn y Gymdogaeth: Bridget Garrod Alison Chaplin/Vy Cochran (Swyddog Prosiect Datblygu Cymunedau) Claire Hammond (Swyddog Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr) Swyddogion Rheoli Asedau: John Harrison Darrell Smith Mentrau yn y Gymdogaeth: Bridget Garrod Alison Chaplin (Swyddog Prosiect Datblygu Cymunedau) Claire Hammond (Swyddog Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr) Yr Amgylchedd:

Owen Jones

Swyddog Cefnogi Tenantiaeth:

Donna Steven

Ffôn: E­bost: Gwefan:

0800 052 2526 joe.bloggs@wwha.co.uk www.wwha.co.uk


Tai Wales & West 3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2UD. ac Uned 2, Parc Busnes Acorn, Aber Road, y Fflint CH6 5YN. Ffôn: 0800 052 2526 Minicom: 0800 052 5205 E­bost: contactus@wwha.co.uk Gwefan: www.wwha.co.uk @wwha wwhahomesforwales

Cyhoeddwyd Ebrill 2013


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.