Sylw ar ardal Bro Morgannwg Gwanwyn 2013

Page 1

SYLW AR ARDAL

BRO MORGANNWG RHIFYN 5 | GWANWYN 2013

Goroesi’r newid i fudd­daliadau Mynd ar­lein, ffynnu ar­lein Ein datblygiadau diweddaraf yn eich ardal Gwasanaethau ffôn a theleofal Connect24


2 | Sylw ar ardal BRO MORGANNWG | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

CYFLWYNIAD ANNE Croeso i rifyn gwanwyn 2013 Sylw ar ardal Bro Morgannwg, sy’n rhoi’r diweddaraf i chi am fentrau Tai Wales & West yn eich ardal chi. Mae’r rhifyn hwn yn cynnwys ein cymysgedd arferol o newyddion ynghylch rhai o’n prosiectau cyfredol yn benodol i’r sir, ynghyd â’r diweddaraf am faterion perthnasol drwy’r sefydliad cyfan. Yn gyntaf oll, yn dilyn ein Harolwg diweddaraf o Fodlonrwydd Preswylwyr, rwy’n falch iawn o ddweud wrthych fod 88% o’n preswylwyr wedi dweud wrthym eu bod nhw’n fodlon gyda’r gwasanaeth cyffredinol a ddarparwyd gan WWH. Mae hyn yn gynnydd o 2% o’i gymharu â’r arolwg a wnaethom yn 2011, ac yn gynnydd sylweddol o 7% ar y canlyniadau a gawsom yn 2007. Datblygiad sylweddol arall ers ein rhifyn diwethaf o Sylw ar ardal Bro Morgannwg yw ein buddsoddiad mewn saith swydd arloesol, sef y Swyddogion Cefnogi Tenantiaeth newydd. Ar ôl ymarfer recriwtio llwyddiannus, mae ein Swyddogion newydd wrthi’n dechrau ar eu gwaith newydd y foment hon ledled Cymru, ac fe fyddan nhw’n cymryd camau rhagweithiol ac ymarferol i helpu ein preswylwyr i oroesi storm y newid i fudd­daliadau. Ledled y busnes, rydym yn parhau i archwilio a buddsoddi mewn technoleg newydd, ac mae ein rhaglen cynhwysiant digidol yn parhau i ffynnu, ac yn chwarae rhan gynyddol bwysig yn y gwaith o helpu ein preswylwyr i ddelio â newidiadau sydd ar ddod i fudd­daliadau. Rydw i hefyd yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi cael swm sylweddol o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i’n helpu ni i adeiladu cartrefi fforddiadwy y mae eu hangen yn fawr ledled Cymru, yn gydnabyddiaeth o’n gallu fel cymdeithas sy’n datblygu. Pan anfonom ein Cynllun Busnes atoch ddiwedd yr hydref llynedd, dywedom wrthych y byddem yn darparu 800 o gartrefi newydd dros y pum mlynedd nesaf. Diolch i’r buddsoddiad newydd hwn, rydym yn awr yn debygol o allu darparu 1,000 o gartrefi newydd yn y pedair blynedd nesaf.

Serch hynny, dim ond rhan yn unig o’r hyn rydym yn ei wneud yw datblygu cartrefi newydd, ac felly i sicrhau ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar gwsmeriaid, ac yn atebol am yr hyn a wnawn, rydym yn ymgymryd â’n proses hunanasesu reolaidd. Rydw i a’m cyd­gyfarwyddwyr wedi bod yn cynnal ein sioeau teithio blynyddol i staff, a hyd yn hyn rydym wedi siarad â thros dri chwarter ein holl staff ledled Cymru, nifer ohonyn nhw’n byw yn y cymunedau lle maen nhw’n gweithio, gan gael cipolwg amhrisiadwy ar eu byd ac adborth ganddyn nhw. Yn olaf, mae’n bleser mawr gennyf ddweud wrthych fod rhestr cwmnïau gorau’r Sunday Times yn dangos mai ni yw sefydliad nid­er­elw gorau Cymru am yr ail flwyddyn yn olynol ­ ac rydym yn y 7fed safle yn rhestr y Deyrnas Unedig. Fe wnaethom nid yn unig godi un lle o’r 8fed safle a gawsom yn 2012, ond llwyddom hefyd i ddal gafael yn ein safon aur Tair Seren mawr ei bri. Rwy’n siŵr y cytunwch fod hwn yn ganlyniad boddhaus arall, ac yn glod i waith caled ac ymroddiad ein staff gwych. I gloi, rwy’n gobeithio y bydd y cylchlythyr briffio hwn yn fodd o roi gwybod i chi am y diweddaraf am lawer o’n gwaith ar lawr gwlad yn eich ardal chi, yn ogystal â darlun ehangach byd WWH. Peidiwch ag oedi cyn cysylltu unrhyw dro gyda’ch syniadau a’ch sylwadau ynghylch unrhyw agwedd ar ein gwaith. Yn gywir Anne Hinchey, Prif Weithredwr.


3 | Sylw ar ardal BRO MORGANNWG | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

GOROESI’R NEWID I FUDD-DALIADAU Mae’r newidiadau i fudd­daliadau wedi bod yn nodwedd amlwg ar ein hagenda, ac yn parhau i fod felly, yn enwedig effaith y ‘dreth ar ystafelloedd gwely’ a ddaeth i rym ar 1 Ebrill. Drwy weithio’n effeithlon â thîm Budd­daliadau Tai Bro Morgannwg, rydym wedi gallu nodi’r 37 o aelwydydd WWH yn y sir a fydd yn cael eu heffeithio gan y newid. Mae ein staff wedi cysylltu â’r holl breswylwyr a gaiff eu heffeithio i esbonio’r newidiadau, trafod yr effaith bosibl ar gyllidebau aelwydydd a gweithio gyda nhw i ganfod atebion fforddiadwy. Hyd heddiw, mae’r mwyafrif llethol o’n preswylwyr wedi dweud wrthym eu bod nhw’n bwriadu aros yn eu cartrefi presennol, er y bydd nifer yn cael anhawster dod o hyd i’r arian sydd ei angen yn lle’r budd­dal a gollir. Gan gydnabod y bydd nifer o’n preswylwyr angen rhagor o help i gynnal eu tenantiaethau, rydym hefyd wedi buddsoddi’n drwm mewn darparu cymorth parhaus drwy greu saith

swydd gwbl newydd – y Swyddogion Cefnogi Tenantiaeth. Bydd y swyddogion yn dechrau gweithio gyda ni yn awr ledled Cymru, gyda phedwar (Natalie Davies, Amanda Collins, Stuart Lock a Sharon Jones) yn y De, un (Donna Steven) yn y Canolbarth a dau (William Brook a Jen Bailey) yn gweithio yng Ngogledd Cymru. Fe fyddan nhw’n gweithio gyda phreswylwyr i’w helpu nhw i ddelio ag effaith yr holl newidiadau arfaethedig i fudd­daliadau, gan gynnwys cyflwyno’r Credyd Cynhwysol, gan roi’r wybodaeth, y dewisiadau, y nerth a’r gobaith iddyn nhw allu goroesi’r storm. Wrth gwrs, un o effeithiau’r dreth ar ystafelloedd gwely yw ein bod ni’n gweld rhai o’n cartrefi mwy o faint – yn enwedig cartrefi teuluol â thair ystafell wely – ar gael. Unwaith eto, rydym yn gweithio’n agos gyda’n holl bartneriaid yn yr awdurdodau lleol, a phob partner priodol arall, i sicrhau fod y bobl briodol sydd angen tai yn cael mynediad at y cartrefi fforddiadwy hyn.


4 | Sylw ar ardal BRO MORGANNWG | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

YMUNWCH Â’R SGWRS

Mae gennym dros 1,300 o ddilynwyr ar Twitter erbyn hyn. Ymunwch â’r sgwrs a dilynwch ni @wwha. Rydym yn trydar bob dydd am newyddion, swyddi, digwyddiadau cyfagos, cyfleoedd hyfforddi, mentrau codi arian elusennol, ffotograffau a llawer mwy. Gallwch hefyd ein gwylio ni ar ein sianel YouTube wwhahomesforwales.


5 | Sylw ar ardal BRO MORGANNWG | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

AROLWG BODLONRWYDD PRESWYLWYR – BRO MORGANNWG Rydym yn cynnal ein Harolwg blynyddol o Fodlonrwydd Preswylwyr ymhlith traean o’n haelwydydd (tua 2,700) bob blwyddyn. Fe wnaethom gynnal ein hail arolwg blynyddol, a’r un mwyaf diweddar, yn ystod tymor yr hydref 2012. Dyma rai o’r prif ganlyniadau ynghyd â chipolwg ar yr hyn sy’n bwysig i’n preswylwyr ym Mro Morgannwg. Bodlonrwydd cyffredinol Rydym yn falch iawn o roi gwybod i chi fod 88% (pedwar o bob pum preswyliwr) yn fodlon gyda’r gwasanaeth cyffredinol y mae WWH yn ei ddarparu. Mae hyn yn gynnydd o 2% o’i gymharu â’r arolwg a wnaethom yn 2011, ac yn gynnydd sylweddol o 7% ar y canlyniadau a gawsom yn 2007. Gwasanaethau cwsmeriaid Mae ein sgoriau ar gyfer safon y gwasanaethau cwsmeriaid pan oedd pobl yn cysylltu â ni yn dda iawn. Yn neilltuol felly, rhoddodd dros hanner yr aelwydydd (52%) sgôr berffaith o 10 i ni am natur gymwynasgar y staff, gyda’r sgôr gyfartalog yn cyrraedd 8.65 allan o 10. Yn ogystal, bu cynnydd sylweddol yn lefelau bodlonrwydd â chael ymateb prydlon (7.99 oedd y cyfartaledd, o’i gymharu â sgôr o 7.70 yn flaenorol). Y cartref Ar y cyfan, roedd yr ymatebwyr yn fodlon gyda’u cartref, gyda sgôr gyfartalog o 7.99 allan o 10, gan gynnwys sgôr o 10 gan 32% o’r sampl. Yn gyffredinol, mae sgoriau cy­ fartalog pob nodwedd yn y cartref yr un fath (ac yn y rhan fwyaf o achosion, yn uwch) na’r sgoriau a nodwyd yn 2011. Canlyniadau penodol i Fro Morgannwg Yn gyffredinol, mae barn pobl am eu cymdogaeth fel arfer yn ffactor bwysig yn lefel eu bodlonrwydd â’u llety a’u landlord. Felly, mae’n galonogol gweld fod ymatebwyr ym Mro Morgannwg wedi rhoi sgôr gyfartalog o

7.9 allan o 10 am eu bodlonrwydd â’u cymdogaeth. Mae hyn diolch i’r ffaith bod mwy na thraean (34%) wedi rhoi sgôr o 10. Roedd y rhesymau pennaf dros eu bodlonrwydd yn cynnwys: bron i draean yr ymatebwyr (31%) yn nodi eu bod yn byw mewn man tawel, 14% yn nodi bod mynediad da at fwynderau, tra bod 11% ohonom wedi dweud fod ganddyn nhw gymdogion da. Fe wnaethom hefyd ofyn i breswylwyr am eu barn ar ein blaenoriaethau er gwella amry­ wiaeth o feysydd gwaith dros y blynyddoedd a ddaw. Mae’r canlyniadau yn dangos yn glir ein bod yn bwriadu gwella’r modd rydym yn darparu gwasanaethau sy’n berthnasol i’n preswylwyr ac yn cael eu gwerthfawrogi ganddyn nhw. Y tair eitem amlycaf a nodwyd gan ein preswylwyr ym Mro Morgannwg yw: • gwneud ein cartrefi yn fwy effeithlon o ran ynni • adolygu’r gwasanaethau i gefnogi preswylwyr hŷn a’u helpu i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi • adolygu sut rydym yn gosod cymhorthion ac addasiadau yng nghartrefi preswylwyr anabl Felly, beth nesaf? Rydym nawr yn archwilio canlyniadau’r arolwg hwn yn fwy trylwyr, gan graffu ar sylwadau penodol y preswylwyr. Bydd y rhain yn amhrisiadwy i ni wrth symud ymlaen a gwella ein gwasanaethau ymhellach.


6 | Sylw ar ardal BRO MORGANNWG | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

DATBLYGU CARTREFI NEWYDD

YM MRO MORGANNWG Rydym wrthi’n archwilio nifer o ddewisiadau gyda Chyngor y Fro, ynghyd â gweithio’n agos â darparwyr tai lleol eraill i sicrhau bod rhagor o dai fforddiadwy ar gael fel rhan o’r gwaith o adfywio Glannau’r Barri. Rydym wedi llwyddo i sicrhau cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru a fydd yn ein galluogi i ddarparu mwy na 1,000 o unedau yn ystod y pedair blynedd nesaf ar draws yr holl ardaloedd lle’r ydym yn gweithredu. Mae darparu digon o gartrefi fforddiadwy o safon uchel yn parhau i fod yn fater o bwys. Serch hynny, rydym yn parhau’n hyderus o’n

gallu i gwrdd ag amrywiaeth o anghenion. Rydym mewn sefyllfa gref yn ariannol, a diolch i hyn rydym nid yn unig yn gallu adeiladu rhagor o gartrefi newydd, ond rhagor o’r math priodol sy’n cwrdd â’r galw lleol. Drwy ddarparu cartrefi am brisiau gwahanol, rydym yn cynnig dewisiadau o ddifrif i ni, ac yn bennaf oll, i’n cwsmeriaid cyfredol ac arfaethedig hefyd.

CEFNOGAETH Â THENANTIAETH HELPU PRESWYLWYR I DDEALL NEWIDIADAU I FUDD-DALIADAU A CHYLLIDEBU Rydym yn falch iawn o allu cyflwyno Stuart Lock, ein Swyddog Cefnogi Tenantiaeth newydd ar gyfer ardal Bro Morgannwg. Bydd Stuart yn helpu ein preswylwyr i ddelio â heriau niferus y newidiadau i fudd­daliadau, ynghyd â darparu cefnogaeth a chyngor ar gyllidebu’n effeithiol a gwybodaeth am gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant. Yn y lle cyntaf, bydd Stuart yn canolbwyntio ei ymdrechion ar helpu’r preswylwyr hynny sydd eisoes wedi cael eu nodi fel rhai sydd mewn perygl o wynebu caledi ariannol, neu fynd i ddyled, o ganlyniad i newidiadau yn sgil y ‘dreth ar ystafelloedd gwely’ a newidiadau arfaethedig eraill i fudd­daliadau. Rheolwr llinell Stuart yw’r Rheolwr Tai Chris Walton.

Stuart Lock, Swyddog Cefnogi Tenantiaeth dros Ben­y­bont ar Ogwr


7 | Sylw ar ardal BRO MORGANNWG | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

HELPU I DDATBLYGU

YMATEBION I ASB Rydym yn parhau i rannu ein harbenigedd mewn mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASB) gyda swyddogion o’r Cyngor ynghyd â’r heddlu ac asiantaethau partner eraill i helpu i roi mesurau effeithiol ar waith yn lleol i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae canlyniadau cychwynnol ein cydweithio yn galonogol iawn, ac rydym yn edrych ymlaen at allu gwneud rhagor yn yr ardal hon. Ym mis Chwefror 2013, fe wnaeth Llys Sirol Caerdydd roi meddiant llwyr ar unwaith i Dai Wales & West o’u heiddo yng Nghlos Tyniad Glo, Glannau’r Barri, yn dilyn ymddygiad gwrthgymdeithasol eithafol a pharhaus gan y dyn 30 oed oedd yn byw yno fel tenant. Bu Wales & West yn gweithio mewn partneriaeth â Heddlu De Cymru, ac o ganlyniad i’r cydweithio hwn, fe wnaethom nid yn unig sicrhau meddiant o’r eiddo, ond

cael Gwaharddiad gyda grym i arestio a gosod parth eithrio, fel na allai’r dyn ddod yn agos at y lleoliad eto. Roedd y dioddefwyr, a oedd i gyd yn bobl hŷn, wedi dioddef misoedd o niwsans sŵn a bygythiadau i’w lladd, a defnyddiwyd yr adeilad yn gysylltiedig â chyffuriau a phuteindra. Ni lwyddodd Wales & West â’r cais i gau’r adeilad, ac nid oedd modd i’r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol gynorthwyo, gan eu bod o’r farn mai dewis personol oedd y ffordd hon o fyw, ac nad oedd yn gysylltiedig ag afiechyd meddwl y preswyliwr. Fe wnaeth y Barnwr Rhanbarth Rodgers nodi mai hwn oedd un o’r achosion tristaf yr oedd wedi ei weld erioed, a chanmolodd Wales & West am eu hymdrechion i ganfod canlyniadau amgen, na lwyddodd y tro hwn, ac a’u gorfododd i geisio meddiannu’r lle.

MONEYLINE CYMRU NAWR YN GWEITHREDU O’N CANOLFAN GWASANAETHAU CWSMERIAID

Mae Moneyline Cymru yn gweithredu mewn nifer o ganghennau, yn bennaf yn Ne Cymru, ac maen nhw hefyd eisiau cynnig gwasanaeth ffôn i bobl o rannau eraill o Gymru, a phobl nad ydyn nhw’n gallu cyrraedd eu swyddfeydd. Felly, maen nhw nawr yn gweithredu o’n Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid yn ein Prif Swyddfa yng Nghaerdydd am gyfnod prawf. Aeth y gwasanaeth yn fyw ym mis Chwefror, ac mae’r tîm o dri wrthi’n ateb galwadau dros ben gan ganghennau presennol Moneyline Cymru.


8 | Sylw ar ardal BRO MORGANNWG | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

CYNHWYSIANT DIGIDOL Ar hyn o bryd, rydym wrthi’n galluogi Wi­Fi yn lolfeydd cymunol dau o’n cynlluniau er ymddeol – Hanover Court, y Barri, ac Oak Court, Penarth – i’n galluogi i gynnal dosbarthiadau a gynhelir gan brosiect AdvatAGE Canolfan Cymdeithasau Gwirfoddol y Fro, sy’n rhan o brosiect mwy o faint ledled Cymru.

GOFALU AM YR AMGYLCHEDD YM MRO MORGANNWG Mae’n un o’n blaenoriaethau corfforaethol ein bod yn lleihau’r effaith rydym yn ei gael ar yr amgylchedd, ynghyd ag effaith ein preswylwyr, hefyd. Rydym yn gwella effeithiolrwydd ynni ein cartrefi y tu hwnt i’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei fynnu, fel bod ein preswylwyr yn arbed arian, yn defnyddio llai o danwydd ac yn llai tebygol o ddioddef tlodi tanwydd. Rydym hefyd wedi buddsoddi £6 miliwn yn y pum mlynedd ddiwethaf i liniaru tlodi tanwydd yn ein cartrefi, ac fe wnawn ni barhau i fuddsoddi mewn mesurau i wella’r sefyllfa. Rydym wedi gosod gwres canolog nwy yn lle gwres canolog trydan mewn 300 cartref ledled Cymru yn ystod 2012. Rydym wedi gosod gwres canolog nwy glân ac effeithlon yn lle gwresogyddion storio dros nos trydan, a oedd yn ddrud, trwsgl ac yn anodd eu rheoli. Yn lleol, mae hyn wedi cynnwys uwchraddio’r systemau gwres canolog yn ein cartrefi yn Havant Close, y Rhws ac yn St Donat’s Close, Llanilltud Fawr. Yn ychwanegol, rydym yn cefnogi sawl prosiect amgylcheddol arall yn yr ardal hon,

o’r rhai bach iawn i rai mwy o faint. Un enghraifft yw Hanover Court, Dinas Powys, lle mae ein preswylwyr wedi gwella’r llain fechan yng nghanol y cynllun drwy droi’r rhan laswelltog a phlannu planhigion a llwyni i wella a denu bywyd gwyllt i’r ardal. Fe wnaethom eu cefnogi drwy roi grant o £100 o’n Cronfa Amgylcheddol. Rydym hefyd wedi uwchraddio’r system awyru fecanyddol a’r systemau adfer gwres yn Chapel Close Sain Tathan i awyru’r lle yn dda, gan gadw’r cartrefi’n gynnes yr un pryd. Am ragor o fanylion ynghylch ein Rhaglen Cynnal a Chadw wedi’i Gynllunio, cysylltwch â’r Rheolwr Masnachol, Mike Wellock. Ac am ragor o wybodaeth ynghylch ein gwaith Amgylcheddol; gan gynnwys ein Cronfa Amgylcheddol, cysylltwch ag Owen Jones, ein Swyddog Amgylchedd a Chynaladwyedd.


9 | Sylw ar ardal BRO MORGANNWG | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

CEFNOGI HOUSE SWAP WALES Gan gofio am yr angen i nifer o breswylwyr symud i gartrefi llai o faint o ganlyniad i’r dreth ar ystafelloedd gwely, rydym wedi ymuno â Chymdeithasau Tai Cadwyn a Linc i gefnogi creu prosiect House Swap Wales ar Facebook. Yn ei hanfod, ceir cyfres o grwpiau Facebook fesul sir – e.e. House Swap Cardiff, House Swap Wrexham ac ati – ac mae House Swap Wales wedi ei anelu at denantiaid tai cymdeithasol sydd angen symud o ganlyniad i newidiadau i fudd­daliadau, gan gynnwys y dreth ar ystafelloedd wely, neu sydd eisiau symud am resymau eraill. Mae’n darparu llwyfan

parod a syml ar­lein i breswylwyr hysbysebu eu cartrefi eu hunain yn rhad ac am ddim, chwilio am gartrefi posibl y gallen nhw symud iddyn nhw, a hwyluso’r gwaith o symud eu hunain. Rhagor o wybodaeth www.facebook.com/HouseSwapWales a dilynwch ni ar Twitter @HouseSwapWales


10 | Sylw ar ardal BRO MORGANNWG | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

MYND AR-LEIN FFYNNU AR-LEIN Mae technoleg yn rhyddhau, yn grymuso ac yn galluogi. Mae mwy a mwy o wasanaethau, gan gynnwys mynediad at fudd­daliadau, ar gael drwy’r rhyngrwyd yn unig, ac eto nid yw mwyafrif ein preswylwyr wedi cysylltu â’r we. Felly, rydym yn parhau i annog ein preswylwyr i fynd ar­lein, a gwneud yn fawr o’r cyfle i fod ar­lein, drwy amrywiaeth o fentrau cynhwysiant digidol ledled Cymru. Ein bwriad yw: • helpu pobl i wneud yn fawr o’u hincwm a delio â newidiadau i fudd­daliadau, yn enwedig cyflwyno’r Credyd Cynhwysol • mynd i’r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol drwy alluogi preswylwyr i fod mewn cysylltiad gwell â’u cymunedau a thu hwnt • cynorthwyo preswylwyr i gael gwell gwerth am arian drwy gyrraedd gwybodaeth a phrynu nwyddau ar­lein • annog preswylwyr i fanteisio ar yr holl fuddiannau addysgol – a hwyl – bod ar­lein. Yn ne Cymru, mae ein cynllun peilot mynediad fforddiadwy at fand eang Wi­Fi yn Nhŷ

Pontrhun ym Merthyr Tudful yn sylfaen wych i ni ymestyn y fenter hon ymhellach, lle bynnag y bydd hynny’n bosibl, ledled Cymru. Ac yng ngogledd Cymru, rydym hefyd wedi galluogi Wi­Fi mewn lolfa gymunol yn Nant y Môr, ein cynllun gofal ychwanegol ym Mhrestatyn. Mae gwaith yn cael ei gynnal i alluogi Wi­Fi mewn lolfeydd cymunol yn nifer o’n cynlluniau er ymddeol yng ngogledd a de Cymru. Rydym hefyd yn cynnal sesiynau ‘deall sut’ gyda phreswylwyr, fel rhan o brosiect ‘Take Ctrl’, rydym yn ei gynnal ar ran Fforwm Gallu Ariannol Gogledd Cymru. Hyd yn hyn, mae Take Ctrl wedi helpu dros 500 o breswylwyr i fynd ar­lein, gyda chefnogaeth 48 o wirfoddolwyr. Mae Jen Bailey, un o’n swyddogion Cefnogi Tenantiaeth, yn canolbwyntio’n benodol ar y galw hwn.


11 | Sylw ar ardal BRO MORGANNWG | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

CONNECT24

GWASANAETHAU

FFÔN A THELEOFAL YN WWH Rydym wedi bod yn darparu gwasanaethau ffôn a theleofal ers dros 10 mlynedd, a chymaint yw’r bri ar y rhan hwn o’n gwaith fel ein bod wedi rhoi enw penodol ar y gwasanaeth, Connect24. Pam Connect? Gan mai’r bwriad yw cysylltu pobl â’r gwasanaethau maen nhw eu hangen i’w galluogi i fyw’n annibynnol a diogel yn eu cartrefi. A 24? Gan ein bod ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, 52 wythnos y flwyddyn. Ar hyn o bryd, rydym yn darparu gwasanaethau larwm mewn argyfwng a theleofal Connect24 i dros 4,000 o aelwydydd ledled Cymru, ac mae gennym gontractau gyda: • Tai Cymoedd i’r Arfordir ym Mhen­y­bont ar Ogwr • Grŵp Tai Pennaf yng ngogledd a chanolbarth Cymru • Cymdeithas Tai Newydd yn ne a chanolbarth Cymru Rydym hefyd yn monitro larymau ar gyfer unigolion mewn llety ar rent ynghyd â pherchen­feddianwyr annibynnol. Mae system monitro larwm syml, gan gynnwys y cyfarpar, yn costio cyn lleied â £2.50 yr wythnos. Mae hyn yn helpu i roi tawelwch meddwl i bobl hŷn a phobl agored i niwed fel eu bod nhw’n gallu parhau i fyw’n annibynnol yn eu cartref eu hunain, a rhoi tawelwch meddwl i’w teuluoedd hefyd – y cyfan am bris fforddiadwy. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth llawn 24/7 y tu allan i oriau, ac mae gennym gontractau â’r cymdeithasau tai a ganlyn, sy’n golygu ein bod yn darparu gwasanaethau y tu allan i oriau i 27,000 o aelwydydd ledled Cymru: • Hafan Cymru ledled Cymru • Grŵp Gwalia ledled Cymru • Tai Cymunedol Bron Afon yn Nhorfaen

Am ragor o wybodaeth ynghylch Connect24, ewch i’n gwefan www.connect­24.co.uk neu cysylltwch â Jackie Edwards, Rheolwr y Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid, neu Cate Dooher, Pennaeth y Gwasanaethau Cymorth, ar 0800 052 2526.


12 | Sylw ar ardal BRO MORGANNWG | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Di Barnes, Verity Kimpton ac Anne Hinchey – tîm awyrblymio dewr WWH.

Y DIWEDDARAF AM ELUSENNAU Ar ôl dwy flynedd wych, pan gododd staff a phreswylwyr £25,000 tuag at Help for Heroes, ein helusen bartner gorfforaethol rhwng Ionawr 2013 a Rhagfyr 2015 yw Cymdeithas Strôc Cymru. Wedi ei mabwysiadu fel ein prif elusen bartner ym mis Ionawr eleni, rydym yn barod wedi codi dros £10,000 at yr achos da. Mae digwyddiadau yn cynnwys diwrnodau gwisg anffurfiol rheolaidd i staff, cymryd rhan yn ras hwyl Dydd Gŵyl Dewi, ac yn fwyaf diweddar, awyrblymio noddedig. Cafodd arweinydd tîm elusennol WWH, Di Barnes, gwmni’r swyddog gweinyddol Verity Kimpton a’r Prif Weithredwr Anne Hinchey yn yr awyren, a neidiodd y tair o 13,000 troedfedd uwchlaw maes awyr Abertawe ddydd Sadwrn 6 Ebrill. Diolch yn fawr iawn i bawb a’u cefnogodd nhw yn y fenter arswydus hon. Ceir

rhagor o fanylion am ddigwyddiadau elusennol a chodi arian sydd ar ddod ar ein gwefan ac ar Twitter @wwha. Mae elusennau eraill sydd wedi elwa yn sgil gwaith codi arian gan y staff, yn cynnwys Diwrnod trwynau coch Comic Relief a Banciau Bwyd Ymddiriedolaeth Trusell yng Nghaerdydd, Merthyr Tudful, Wrecsam, Bro Morgannwg a Phen­y­bont ar Ogwr.


13 | Sylw ar ardal BRO MORGANNWG | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Ecoryfelwyr Western Court

CRYNODEB GWOBRAU Pan aed i’r wasg, roedd nifer o staff a phreswylwyr wedi cael lle ar restr fer sawl gwobr fawreddog. Maen nhw’n cynnwys: Gwobrau Cyfranogiad TPAS Cymru 2013:

Gwobrau Arwyr Tai CIH:

Mae Les Cooper wedi cael ei enwebu yn dilyn ei farwolaeth i gael y wobr i Gydweithiwr Ysbrydoledig. Bu farw Les yn annisgwyl fis diwethaf, ac roedd yn Swyddog Cyngor ar Arian i ni a oedd yn gweithio yn ein swyddfa yn y Fflint yng ngogledd Cymru. Roedd yn aelod gweithgar o Fforwm Gallu Ariannol Gogledd Cymru, ac roedd yn hynod ddylanwadol ac yn uchel iawn ei barch yn y sector. Cafodd effaith gadarnhaol iawn ar fywydau pawb a fu mewn cysylltiad ag ef.

Mae’r Rheolwr Cynllun Helen Jones o Landudno, Conwy, wedi cael lle ar y rhestr fer yng nghategori hynod boblogaidd Cydweithiwr Ysbrydoledig.

Mae’r garddwyr medrus ‘Ecoryfelwyr Western Court’ o’n cynllun er ymddeol Western Court ym Mhen­y­bont ar Ogwr wedi cael lle ar restr fer Gwobr Gwella’r Amgylchedd.

Les Cooper

Helen Jones

Gwobrau Rhagoriaeth mewn Adnoddau Dynol: Mae Anne Hinchey, y Prif Weithredwr, wedi cael lle ar restr fer Gwobr y Prif Weithredwr sy’n canolbwyntio fwyaf ar bobl yn y sector Elusennol / Nid­er­elw. Dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol y mae Anne wedi cael lle ar restr fer y wobr hon.

Anne Hinchey


14 | Sylw ar ardal BRO MORGANNWG | STAFF LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

STAFF LLEOL Pob ardal:

O’r chwith i’r dde: Tony Wilson (Cyfarwyddwr Cyllid) Shayne Hembrow (Dirprwy Brif Weithredwr/Cyfarwyddwr Masnachol) Anne Hinchey (Prif Weithredwr) Steve Porter (Cyfarwyddwr Gweithrediadau)

Pob ardal:

Lynnette Glover, Pennaeth Tai Nikki Cole, Pennaeth Datblygu Alex Stephenson, Pennaeth Gwasanaethau Eiddo

Bro Morgannwg Rheolwr Tai: Rheolwr Tai: Rheolwr Masnachol: Rheolwr Masnachol:

Chris Walton (Anghenion cyffredinol) Jackie Bloxham (Tai er ymddeol) Robin Alldred (Atgyweiriadau) Mike Wellock (Cynnal a chadw wedi’i gynllunio)

Swyddogion Tai:

Anghenion Cyffredinol Alison Pearce

Tai er ymddeol Deborah Cadwallader

Mentrau yn y Gymdogaeth: Bridget Garrod Herman Valentin (Swyddog Prosiect Datblygu Cymunedau) Claire Hammond (Swyddog Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr) Swyddogion Rheoli Asedau: Andrew Lester Yr Amgylchedd:

Owen Jones

Swyddog Cefnogi Tenantiaeth:

Stuart Lock

Ffôn: E­bost: Gwefan:

0800 052 2526 joe.bloggs@wwha.co.uk www.wwha.co.uk


Tai Wales & West 3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2UD. ac Uned 2, Parc Busnes Acorn, Aber Road, y Fflint CH6 5YN. Ffôn: 0800 052 2526 Minicom: 0800 052 5205 E­bost: contactus@wwha.co.uk Gwefan: www.wwha.co.uk @wwha wwhahomesforwales

Cyhoeddwyd Ebrill 2013


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.