Sylw ar ardal Wrecsam Hydref 2012

Page 1

SYLW AR ARDAL

WRECSAM RHIFYN 4 | HYDREF 2012 Paratoi ar gyfer diwygio budd­daliadau Galluogi gwaith, hyfforddiant a phrofiad

Ehangu Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria Ein datblygiadau newydd diweddaraf yn eich ardal chi


2 | Sylw ar ardal WRESCAM | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

CYFLWYNIAD Croeso i rifyn hydref 2012 Sylw ar ardal Wrecsam, sy’n dod â’r diweddaraf i chi am fentrau Tai Wales & West yn eich ardal chi. Mae’r rhifyn hwn – y cyntaf sy’n defnyddio ein hunaniaeth brand newydd a gyflwynwyd gennym ym mis Ebrill eleni – yn cynnwys cymysgiad o newyddion ynghylch rhai o’n mentrau sy’n benodol i’r sir, ynghyd â’r diweddaraf am bethau perthnasol sy’n digwydd drwy’r sefydliad cyfan. Yn ystod y gwanwyn eleni, fe wnaethom groesawu Cadeirydd newydd i’n Bwrdd. Ar ôl tair blynedd lwyddiannus yn y gadair, fe wnaeth Ivor Gittens ymddeol, ond bydd yn parhau i fod yn aelod o Fwrdd WWH. Ei olynydd yw Kathy Smart, aelod adnabyddus o gymyned fusnes Caerdydd ac un sydd wedi hyrwyddo tai cymdeithasol ers tro. Mae’r newidiadau diweddar eraill wedi gweld Shayne Hembrow yn cael ei ddyrchafu o swydd y Cyfarwyddwr Gweithrediadau i swydd newydd y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Masnachol. Yn dilyn hyn, rwy’n falch o ddweud ein bod newydd benodi Steve Porter yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau. Gyda newidiadau Diwygio Budd­daliadau yn carlamu ymlaen, ar gefndir o ansicrwydd economaidd parhaus a chynnydd yn y pwysau ar gyllid cyhoeddus, rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno bod angen i ni wneud llawer iawn o bethau. Er bod yr heriau’n fawr, rydym yn parhau’n ymroddedig i’n gweledigaeth i wneud gwahaniaeth i fywydau, cartrefi a chymunedau ledled Cymru. Rydym yn gobeithio y bydd y cylchlythyr briffio hwn yn eich helpu chi i gael gwybod y diweddaraf am lawer o’n gwaith ar lawr gwlad yn eich ardal chi, yn ogystal â chael

gwybod am newyddion perthnasol ynghylch y sefydliad cyfan. Yn olaf, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â mi unrhyw dro gyda’ch sylwadau, syniadau ac adborth ynghylch unrhyw agwedd ar ein gwaith. Yn gywir Anne Hinchey, Prif Weithredwr

Dilynwch ni ar Twitter @wwha Gwyliwch ni ar ein sianel YouTube wwhahomesforwales


3 | Sylw ar ardal WRESCAM | NEWYDDION LLEOL | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

Y Gweinidog Huw Lewis gyda’r Cynghorydd Mark Pritchard, Prif Weithredwr WWH Anne Hinchey, Cyfarwyddwr Anwyl Construction Matthew Anwyl, a John Williams, un o breswylwyr WWH sydd hefyd yn aelod o’n Bwrdd.

Y DIWEDDARAF AM

KINGSMILLS ROAD A RIVULET ROAD Bu’n gyfnod prysur i’n datblygiad sy’n werth £17 miliwn yn ardal Hightown o Wrecsam, gyda gwaith yn dechrau ar y safle yn Rivulet Road, a digwyddiadau’n cael eu cynnal i hyrwyddo cyfleoedd hyfforddiant a phrentisiaethau posibl yn sgil y datblygiad. Yn gyntaf, roeddem wrth ein bodd bod Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth Llywodraeth Cymru, Huw Lewis, wedi dod atom drwy gawodydd trwm mis Gorffennaf i nodi dechrau swyddogol y gwaith ar y cynllun. Cafodd y Gweinidog gwmni’r Cynghorydd Mark Pritchard, Prif Weithredwr WWH Anne Hinchey, Cyfarwyddwr Anwyl Construction, Matthew Anwyl, ac un o breswylwyr ac aelod o Fwrdd WWH, John Williams, yn seremoni troi’r dywarchen gyntaf ar safle Kingsmills Road. “Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi datblygiad y cynllun hwn,”

meddai’r Gweinidog. “Mae’n enghraifft ragorol o weithio mewn partneriaeth, gyda sawl sefydliad gwahanol, Llywodraeth Cymru, Tai Wales and West, Cyngor Wrecsam, Cymunedau yn Gyntaf Hightown a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn gweithio gyda’i gilydd.” Mae disgwyl i’r 127 o gartrefi a fflatiau newydd gael eu gorffen erbyn diwedd 2013, gan ddarparu cartrefi o feintiau gwahanol ac amrywiaeth o ddaliadaethau, ynghyd â chanolfan gymunedol newydd a chyfleuster meddygol. Helpodd ysgolion lleol i awgrymu enwau strydoedd ar gyfer y datblygiadau. Gweler dros y dudalen.

http://www.youtube.com/watch?v=zg5w2CV12xA


4 | Sylw ar ardal WRESCAM | NEWYDDION LLEOL | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

Hightown, Wrecsam. Y Gweinidog Tai Huw Lewis gyda phobl ifanc p Ysgolion San Silyn a Sant Christopher, a enillodd y gystadleuaeth enwi strydoedd a gynhaliwyd gan Gymunedau yn Gyntaf Hightown, ac a gefnogwyd gan WWH. Roedd y gystadleuaeth yn rhan o ddathliadau dechrau’r gwaith ar safle Kingsmills Road ym mis Gorffennaf.

SWYDDI A CHYFLEOEDD HYFFORDDI Mae cefnogi pobl leol i gael gwaith a hyfforddiant yn flaenoriaeth allweddol i gwmni Tai Wales & West, ac mae Anwyl Construction yn gweithio mewn partneriaeth ag isgontractwyr i helpu i hwyluso cymaint â phosibl o gyfleoedd. Mae Anwyl wedi ymuno â Choleg Iâl, Twf Swyddi Cymru a Phartneriaeth Parc Caia i hwyluso cyfleoedd. Mae digwyddiadau diweddar wedi cynnwys Anwyl yn cynnal stondin yn Ffair Swyddi Hightown ym mis Medi, lle cofrestrodd mwy na 50 o bobl ddiddordeb mewn clywed rhagor am gyfleoedd sydd gerllaw. Cynhaliwyd digwyddiad llwyddiannus ‘Cyfarfod y Contractwyr’ hefyd, lle'r oedd isgontractwyr posibl yn gallu trafod prentisiaethau posibl a chyfleoedd i brentisiaid. Mae ein tîm Mentrau Cymdogaethau hefyd yn gweithio’n agos gyda phreswylwyr Hightown i edrych ar ffyrdd y bydd y ganolfan gymunedol newydd yn cael ei chyllido a’i rheoli. Ym mis Awst, mynegwyd pryderon am oglau a ryddhawyd yn ystod gwaith cloddio ar dir lle’r oedd pridd halogedig yn ein datblygiad tir llwyd yn Rivulet Road. Er hynny, profwyd yn fuan iawn nad oedd sail i’r pryderon hyn.

Cydweithiodd Tîm Tir Halogedig Cyngor Wrecsam a’r contractwyr Anwyl gyda chynrychiolwyr lleol i roi sylw i’r pryderon a fynegwyd, a chymryd camau i roi gwybod i bobl yn ardal Rivulet Road am y cynnydd oedd yn cael ei wneud ar y safle. Yn olaf, mae’r datblygiad hwn yn unol â’n hymrwymiad i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd. Bydd y 127 cartref newydd, y ganolfan adnoddau meddygol a’r ganolfan gymunedol yn cael paneli ffotofoltaidd i gynhyrchu trydan, a bydd dyfeisiau arbed dŵr fel rheolyddion llif dŵr yn cael eu rhoi ar y tapiau. Lle bynnag y bydd hynny’n bosibl, bydd deunyddiau adeiladu yn dod gan gyflenwyr lleol, ac mae gweithlu lleol yn cael eu recriwtio. Gallwch gadw golwg ar gynnydd y datblygiadau newydd yn Hightown drwy fynd i www.hightownflats.com


5 | Sylw ar ardal WRESCAM | NEWYDDION LLEOL | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

CYDNABYDDIAETH I

BRESWYLWYR WWH MEWN GWOBRAU CENEDLAETHOL

Ym mis Mai, cafodd dau o breswylwyr Tai Wales & West eu cydnabod am eu gwaith caled yn eu cymuned leol, ac fe gawson nhw wobr Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid Cymru (TPAS) yn Llandudno. Cafodd Sian Hope o Wrecsam yr 2il wobr yng nghategori Ruth Radley am Gyflawniad Eithriadol mewn Cyfranogiad am ei gwaith gyda’i sefydliad preswylwyr lleol a Grŵp Llywio Cyfranogiad Preswylwyr WWH. Fe wnaeth merch bymtheg oed o’r enw Lauren, hefyd o Wrecsam, ennill yr 2il wobr yng nghategori Tenant Ifanc y Flwyddyn, gan ddod yn agos i’r brig uwchlaw holl breswylwyr tai cymdeithasol Cymru.

Mae ein grant Gwneud iddo Ddigwydd yn rhoi swm ariannol £200 a £500 i ymgeiswyr lleol wella gweithgarwch cymunedol ac annog rhagor o ymgysylltu â’r gymuned. Os ydych yn gwybod am unrhyw un sy’n byw mewn llety WWH a fyddai ar eu hennill drwy gael y grant, cysylltwch â Claire Hammond, y Swyddog Strategaeth cyfranogiad Preswylwyr, ar Claire.hammond@wwha.co.uk

Gall ein cronfa Amgylchedd helpu i hwyluso prosiectau ecogyfeillgar fel tyfu ffrwythau a llysiau, gwelyau plannu wedi’u codi, neu goed ffrwythau cynhenid. Os ydych yn gwybod am unrhyw un sy’n byw mewn llety WWH a fyddai ar eu hennill drwy gael y grant, cysylltwch ag Owen Jones, Swyddog yr Amgylchedd a Chynaladwyedd, ar owen.jones@wwha.co.uk Yn y llun isod, gwelir enghraifft o un o’r gwelyau plannu wedi’u codi yr ydym wedi helpu i’w gyllido. Mae preswylwyr yn awr yn tyfu eu llysiau eu hunain, ac yn elwa ar yr ymarfer corff rheolaidd a ddaw drwy arddio, ynghyd â mwynhau’r cynnyrch maen nhw wedi ei dyfu.


6 | Sylw ar ardal WRESCAM | NEWYDDION LLEOL | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

PROSIECT SARTH GOGLEDD CYMRU

Mae prosiect SARTH (Un Llwybr Sengl i Dai), sy’n ceisio symleiddio’r broses ymgeisio am dai cymdeithasol yng ngogledd Cymru, yn datblygu’n dda. Y syniad y tu ôl i SARTH yw creu polisi cyffredin ar ddyrannu tai ledled y rhanbarth. Fe fydd hyn yn ei gwneud yn haws i ymgeiswyr, gan mai un set o reolau y bydd angen eu dilyn, yn hytrach na’r naw sy’n bodoli ar hyn o bryd. Rydym yn cynnal Swyddog Datblygu Prosiect SARTH, Nik Weatherall, ac yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Bwrdeistref Sirol Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint, Cartrefi Conwy, Cymdeithas Tai Clwyd Alyn, Cymdeithas Tai Clwyd a Thai Gogledd Cymru. Bydd polisi drafft yn cael ei lunio’n fuan ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus, a bydd i’w weld ar wefannau’r partneriaid.


7 | Sylw ar ardal WRESCAM | NEWYDDION LLEOL | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

Brian Williams and Margaret Guillain, Green Fingers Winners with Kathy Smart, Richard Leyshon of Wates Living Space, and Anne Hinchey WWH Chief Executive.

GWOBRAU GWNEUD GWAHANIAETH 2012 Fe wnaethom gynnal ein Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth blynyddol am y pumed tro eleni, ac unwaith eto roedd yn noson wych. Daeth cyfanswm o 159 o breswylwyr, staff a phartneriaid contractio i’r seremoni yng Ngwesty’r Village, Coryton, Caerdydd, nos Wener 19 Hydref. Roedd sawl preswyliwr o Wrecsam ymysg yr enillwyr a’r rhai a gyrhaeddodd y rowndiau terfynol, fel y gwelir isod: • Garddwyr Preswyl Gerddi Caia – enillwyr, Gwobr Garddwyr Gorau (Anghenion Cyffredinol) • Garddwyr Preswyl Langford Close – rownd derfynol Gwobr Garddwyr Gorau (Anghenion Cyffredinol) • Ros a Peter Whitaker, Cynllun er Ymddeol Sylvester Court – rownd derfynol, Gwobr Arwr Lleol • Amy ac Ashley Roberts, Llys yr Orsedd – rownd derfynol, Gwobr Dechrau Newydd (Adeiladau Newydd) • Adam Hawksford, Hightown – rownd derfynol, Gwobr Dechrau Newydd Roedd dau arall o ardal Wrecsam a gyrhaeddodd y rowndiau terfynol, ond oherwydd amgylchiadau domestig, fe wnaethon nhw ofyn am gael eu cadw rhag cyhoeddusrwydd yn sgil y digwyddiad hwn. Cawsom yn agos at 60 o enwebiadau o safon uchel o bob rhan o Gymru eleni ­ swm boddhaus iawn, ac mae’n dangos o ddifrif pa

mor dda y mae nifer o’n staff yn adnabod ein preswylwyr. Eleni, cawsom gefnogaeth wych gan ein contractwyr, gydag 11 yn cyfrannu’n fawr iawn at gyllideb y Gwobrau eleni. Mae Media Wales wrthi’n gwneud ffilm fer am y digwyddiad, a fydd yn cael ei llwytho i fyny i’n gwefan ac YouTube yn fuan iawn. Dywedodd Anne Hinchey, y Prif Weithredwr: “A hwythau’n cael eu dyfarnu am y pumed tro eleni, y Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth yw ein ffordd ni o gydnabod cryfder, natur anhunanol a synnwyr o gymuned sydd yn amlygu ei hun yn ein preswylwyr. Ein bwriad yw gweld twf cryf a chynaliadwy a fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau, cartrefi a chymunedau pobl, ac mae’r gwobrau hyn yn rhoi syniad da i bobl am rai o’r ffyrdd y mae hyn yn cael ei gyflawni. Mae hi wedi bod yn noson hyfryd, ac yn fraint o ddifrif cael clywed hanesion y rhai sy’n cymryd rhan.” Yn olaf, mae angen sôn am un wobr arall – y tro hwn, un a enillwyd gan ein tîm Cysylltiadau Cyhoeddus a Marchnata ein hunain, pan gydnabuwyd ein Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth gan Rwydwaith Cysylltiadau Cyhoeddus Cartrefi Cymunedol Cymru fel Digwyddiad Gorau Cymru 2012.


8 | Sylw ar ardal WRESCAM | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

PARATOI AR GYFER DIWYGIO BUDD-DALIADAU Efallai nad oes yr un mater yn dylanwadu’n fwy ar y sector tai ar hyn o bryd na Diwygio Budd­daliadau. Mae ein staff drwy’r sefydliad cyfan yn gweithio’n agos gyda’n holl bartneriaid mewn awdurdodau lleol, swyddogion budd­daliadau tai, Tai Cymunedol Cymru a phartneriaid eraill i hyrwyddo a rhoi cyhoeddusrwydd i’r newidiadau a ddaw, rhoi gwybod am y canlyniadau hynny i’n preswylwyr, a ffyrdd y gallen nhw helpu eu hunain. Rydym wedi edrych eto ar y gwasanaethau rydym yn eu darparu, ac yn sicrhau ein bod ni’n gwneud popeth allwn ni i helpu pobl rhag mynd i ddyled ac i geisio talu eu biliau. Yn neilltuol, rydym yn gweithio gyda phreswylwyr i’w helpu nhw i: • baratoi ar gyfer cyflwyno’r Credyd Cyffredinol a thaliadau uniongyrchol • darparu cymorth a chyngor wedi’i deilwra ynghylch cyllidebu

• deall effeithiau cyflwyno’r ‘dreth ystafell wely’, fel y’i gelwir hi, y flwyddyn nesaf, a lle bo’n briodol, helpu pobl i symud i gartrefi maen nhw’n gallu eu fforddio, ac sydd o faint priodol. Mae ein dau Swyddog Cyngor ar Arian hefyd yn gweithio’n agos â Moneyline Cymru (gweler isod) yn ogystal ag Undebau Credyd ledled Cymru, er mwyn helpu preswylwyr i gyllidebu’n effeithiol a chael mynediad at gredyd cost isel, sy’n ddiogel a fforddiadwy.

ARWAIN Y SECTOR GYDA’R

CYFLOG BYW Nid yw ein hymdrechion i fynd i’r afael â thlodi yn gyfyngedig i’n preswylwyr. Fel y gymdeithas tai gyntaf yng Nghymru i gyflwyno’r ‘Cyflog Byw’, rydym yn arwain y sector gyda’r fenter hon. Ar hyn o bryd, mae’r ‘Cyflog Byw’ yn £7.20 yr awr (i weithwyr y tu allan i Lundain), ac mae hynny’n sylweddol uwch na’r lleiafswm cyflog cyfreithiol, sy’n £6.08 yr awr ar hyn o bryd. Gyda mwy na 340 o weithwyr cyflogedig ledled Cymru, mae ein penderfyniad yn golygu nad oes unrhyw un yn gweithio i ni am lai na £7.20 yr awr, ac ers mis Awst eleni, mae 40 o’n gweithwyr cyflogedig wedi gweld cynnydd yn eu cyflogau o ganlyniad i’r polisi hwn.

Dywedodd Rhys Moore, Cyfarwyddwr y Sefy­ dliad Cyflog Byw:

“Rydym yn falch iawn o ddyfarnu nod cyflogwr Cyflog Byw i Tai Wales & West. Mae hon yn foment arwyddocaol, gan mai dyma’r gymdeithas tai gyntaf yng Nghymru i sicrhau’r nod.”


9 | Sylw ar ardal WRESCAM | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

LLEOLIADAU

GWAITH AR GAEL Mae helpu ein preswylwyr i elwa ar gyflogaeth a chyfleoedd hyfforddiant hefyd yn flaenoriaeth allweddol i ni. Drwy’r contractwyr sy’n bartneriaid i ni, rydym yn barod wedi cefnogi 33 o bobl i ddychwelyd i weithio, ac mae gennym nifer o brentisiaid yn gweithio ar ein prosiectau ledled Cymru. Mae rhai enghreifftiau o lle’r ydym wedi cael effaith yn ddiweddar yn cynnwys:

• Gogledd Cymru ­ Yn y Ffair Swyddi ddiweddar yn Hightown, Wrecsam, cofrestrodd dros 50 o bobl ddiddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth am gyflogaeth bosibl, a chyfleoedd hyfforddiant, a fydd yn cael eu hwyluso drwy ein contractwyr, Anwyl. Bydd y cyfleoedd hyn yn codi fel rhan o’n datblygiadau sy’n werth £17 miliwn ar Kingsmills Road a Rivulet Road, a bydd rhagor o fanylion yn dilyn yn rhifyn nau In Touch â Sylw ar ardal Wrecsam yn y dyfodol. • De Cymru – Mae Jordan Evans, sy’n 18 oed, newydd gwblhau prentisiaeth gwaith plymwr dros ddwy flynedd gyda’n his­gwmni Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria Ltd. Fe wnaeth Jordan, sy’n hanu o Ben­y­bont ar Ogwr, gyfuno hyfforddiant wrth weithio â Cambria gydag astudio am ddiwrnod yr wythnos yng Ngholeg Ogwr. “Byddwn yn argymell hyn fel ffordd dda o ennill cyflog ac astudio,” meddai Jordan. “Mae nifer o’m

Y plymwr dan hyfforddiant, Jordan Evans, sy’n 18 oed ac sy’n dod o Ben­y­bont ar Ogwr, gyda Neal O’Leary, aelod o fwrdd Cambria, a Peter Jackson, Pennaeth Cambria, mewn seremoni gyflwyno y tu allan i Stadiwm Dinas Caerdydd i nodi ei gymhwyster.

cyfeillion wedi gofyn i mi a yw hyn yn beth da i’w wneud, ac rwyf wedi dweud wrthyn nhw ei fod yn bendant yn syniad da.” Mae Cambria yn bwriadu cyflogi 3 o brentisiaid ychwanegol rhwng eu gwaith yng ngogledd a de Cymru dros y misoedd nesaf. • De Cymru ­ Fel rhan o’n cynllun Yn ôl i’r Gwaith (menter gan Dîm Llwybrau at Gyflogaeth Pen­y­bont ar Ogwr) rydym yn rhoi lle swyddfa i ddau ymgynghorydd ynni dan hyfforddiant. Wedi’u lleoli ym Mhen­y­bont ar Ogwr, mae Lynn a Howard wedi bod ar leoliad gennym ni am chwe mis, gan ennill profiad a fydd yn eu helpu nhw i ddod o hyd i gyflogaeth barhaol. Fe fyddan nhw’n hyrwyddo’r cynllun Disgownt Cartrefi Cynnes mewn cynlluniau er ymddeol yn ogystal â chynnig cyngor i breswylwyr ar ddefnyddio ynni yn fwy effeithlon ac arbed arian ar eu biliau. • Rydym yn gweithio gyda Thwf Swyddi Cymru yn ogystal â sawl asiantaeth arall i gysylltu pobl â chyfleoedd, lle bo hynny’n bosibl ac yn briodol. Rydym hefyd yn gallu cynnal nifer o leoliadau mewnol, naill ai fel profiad gwaith tymor byr heb dâl, lleoliadau gwaith (rhai â chyllid) a phrentisiaethau. Mae’r cyfleoedd hyn yn agored i bawb, heb ystyriaeth i oedran, cymwysterau na phrofiad blaenorol. Mae angen i’r rhai sydd â diddordeb lenwi Ffurflen Mynegi Diddordeb yn y Fenter Sgiliau Gweithle ar ein gwefan www.wwha.co.uk


10 | Sylw ar ardal WRESCAM | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

Defnyddwyr y gwasanaeth ym Mostyn, Sir y Fflint. Mae’r prosiect hwn yn cynnwys oedolion gydag anableddau dysgu a’u hyfforddi i ddefnyddio cyfrifiaduron, fel eu bod nhw’n gallu creu llyfrau cof digidol i breswylwyr yn ein cynlluniau er ymddeol.

CYNHWYSIANT DIGIDOL Rhywbeth arall allweddol sy’n cael sylw gennym yw ‘cynhwysiant digidol’ – sy’n galluogi ein preswylwyr i fynd ar­lein: cael mynediad at gyfarpar, meddalwedd a gwasanaethau cymorth priodol, cysylltu â’i gilydd a’u cymunedau drwy’r cyfrwng hwn, a gwneud dewisiadau gwybodus, ynghyd â’r gallu i gael mynediad at nwyddau am brisiau gostyngol. Y gyrwyr allweddol i ni yn ein buddsoddiad o ran cynhwysiant digidol yw: • helpu pobl i fod mewn sefyllfa well i ddelio â Diwygio Budd­daliadau, yn enwedig cyflwyno’r Credyd Cyffredinol • galluogi pobl i fod mewn cysylltiad gwell â’u cymunedau, a • helpu ein preswylwyr i gael gwell gwerth am arian drwy gael mynediad at wybodaeth a nwyddau ar­lein Mae ein cynllun peilot i ddod â mynediad band eang WiFi fforddiadwy i Dŷ Pontrhun ym Merthyr Tudful yn weithredol erbyn hyn. Ers 5 Gorffennaf, mae preswylwyr Tŷ Pontrhun a’u teuluoedd wedi gallu cysylltu â’r rhyngrwyd o unrhyw ystafell yn yr adeilad drwy ddyfais sy’n gallu cysylltu’n ddiwifr, gan ddefnyddio cyfrinair unigol.

Cwmni Boyns o ogledd Cymru yw’r cyflenwr a ddewiswyd gennym ar gyfer y cynllun peilot hwn, ac maen nhw wedi gosod llinell ffôn yn yr adeilad, sy’n galluogi preswylwyr i gael hyd at 2Mb o fand eang Wi­Fi. Ar hyn o bryd, mae ein preswylwyr yn cael cysylltiad am ddim am 6 mis, ac ar ôl hynny fe fyddan nhw’n talu swm fforddiadwy iawn o 63c yr wythnos. Ein nod yw dysgu o’r cynllun peilot hwn er mwyn ehangu WiFi a chysylltiadau band eang effeithlon a fforddiadwy i gymaint â phosibl o’n preswylwyr ledled Cymru, ac rydym yn awr yn dechrau gweithio ar ail brosiect peilot yn Nant y Môr, ein Cynllun Gofal Ychwanegol ym Mhrestatyn, Sir Ddinbych. Mae WWH hefyd yn cynnal prosiect Take Ctrl ar ran Fforwm Gallu Ariannol Gogledd Cymru, sef bartneriaeth eang sy’n cynnwys Cymunedau 2.0.

http://www.youtube.com/watch?v=QtmoCdwpVz4


11 | Sylw ar ardal WRESCAM | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

Tîm Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria o 40 o weithwyr wedi’u lleoli yn Ne a Chanolbarth Cymru. Mae 40 yn rhagor o swyddi medrus yn cael eu diogelu wrth i Cambria ehangu i Ogledd Cymru.

CAMBRIA YN YMESTYN

I OGLEDD CYMRU

Fe wnaethom sefydlu ein cwmni cynnal a chadw ein hunain yn 2011, gan ein harwain ni at strwythur Grŵp. Mae Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria wedi cael 20 mis cyntaf llwyddiannus iawn yn masnachu, gan ymgymryd ag atgyweiriadau yn ogystal â gosod ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd i WWH yn ne a chanolbarth Cymru. Gyda throsiant o £2.8m yn ei flwyddyn gyntaf, yn y blynyddoedd nesaf rydym yn rhagweld y bydd hyn yn treblu. Gan adeiladu ar lwyddiant sylweddol ei weithrediadau yn ne a chanolbarth Cymru, mae’r paratoadau wedi dechrau’n barod i Cambria ymestyn i ogledd Cymru, gyda’r adain hon yn dod yn weithredol tua dechrau 2013.

Bydd y symudiad hwn yn sicrhau dyfodol 40 swydd fedrus yng ngogledd Cymru, yn ogystal â darparu llwyfan diogel arall am ragor o gyfleoedd i gynnig lleoliadau gwaith a phrentisiaethau. Rhagwelwn y bydd Cambria yn gosod 4,000 o geginau ac ystafelloedd ymolchi ledled Cymru yn ystod y pum mlynedd nesaf.


12 | Sylw ar ardal WRESCAM | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

CONSORTIWM SYNIAD Yn 2005 fe wnaethom ymuno â Linc Cymru a Thai Clwyd Alyn i ffurfio Consortiwm Syniad. Ers hynny, mae aelodau’r consortiwm wedi darparu mwy na 1,500 o unedau tai cymdeithasol, 11 o gynlluniau gofal ychwanegol, a galluogi hyfforddiant a phrentisiaethau i fwy na 150 o bobl, gan wneud y defnydd mwyaf posibl o fwy na £100m o grantiau tai cymdeithasol. Er hynny, gyda throsglwyddo’r rhaglen grantiau tai cymdeithasol i bartneriaid yn yr awdurdodau lleol, a’r gostyngiad mewn cymhorthdal cyhoeddus sydd ar gael i gartrefi newydd, fe wnaeth aelodau Syniad adolygu swyddogaeth y consortiwm. Y canlyniad oedd

bod y consortiwm wedi dod i ben ar 1 Mehefin eleni. Er gwaethaf diwedd y consortiwm, fe wnawn ni barhau i gydweithio lle bo’n briodol i ddarparu cartrefi newydd y mae eu hangen yn fawr ledled Cymru.

MONEYLINE CYMRU

YN EHANGU

Mae Tai Wales & West, un o’r cyrff a sefydlodd Moneyline Cymru, yn parhau i ddarparu cymorth ariannol i’r fenter bwysig hon. Yn y cyfnod economaidd anodd iawn hwn, bydd angen i fwy a mwy o breswylwyr tai cymdeithasol gael mynediad at y gwasanaethau a ddarperir gan sefydliadau fel Moneyline Cymru ac undebau credyd lleol. Rydym yn falch o gefnogi’r naill a’r llall, ac yn awr mae WWH yn gweithio’n agos gyda Moneyline ac Undeb Credyd Caerdydd a’r Fro i ystyried sut y gellir datblygu gwasanaethau newydd i helpu preswylwyr i ymdopi â’r newidiadau a ddaw yn sgil cyflwyno’r Credyd Cyffredinol. Rydym hefyd wedi ymrwymo i gyllido ehangu Moneyline dros y 3 blynedd nesaf, ac mae’r

gangen ddiweddaraf wedi agor ym Merthyr Tudful yn ddiweddar. Bwriedir agor canghennau yn Abertawe a Wrecsam hefyd. Mae benthyciadau a roddwyd gan Moneyline yn y 3 blynedd ddiwethaf wedi arwain at arbedion o £2.5m o ran llog mewn cymhariaeth â’r llog sy’n cael ei godi gan y Provident, y darparwr mwyaf cyffredin o fenthyciadau ar garreg y drws.


13 | Sylw ar ardal WRESCAM | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

EIN PERFFORMIAD

ARIANNOL

Mae amgylchedd economaidd heriol heddiw yn golygu fod angen i ni fod yn effeithlon a buddsoddi’n ddoeth os ydym eisiau cyrraedd ein nod o dyfu a gwneud gwahaniaeth. Er nad yw bod yn fawr bob amser yn ddelfrydol, mae’n sicrhau cryfder ariannol a’r gallu i ddod drwy’r storm economaidd sydd ohoni yn ogystal â’r modd i arloesi, i fod yn greadigol, ac i gyflwyno syniadau newydd. Rydym yn disgwyl cyflawni cynnydd flwyddyn ar ôl blwyddyn yn ein gwargedion gweithredu drwy weithredu ein busnes yn effeithiol, hyd yn oed ar ôl amsugno’r dyledion drwg rydym yn disgwyl eu cael yn sgil newidiadau i fudd­daliadau lles, yn enwedig cyflwyno’r Credyd Cyffredinol a’r ‘dreth ystafelloedd gwely’.

Nifer y cartrefi sy’n cael eu datblygu ar hyn o bryd yn ôl ardal Awdurdod Lleol Sir Ddinbych

9 Conwy

12

Sir y Fflint

121 Wrecsam

127

Dros y pum mlynedd nesaf, rydym yn disgwyl buddsoddi £36m mewn cynnal a chadw a gwella ein stoc bresennol. Ymhellach, mae gennym y gallu ariannol i fuddsoddi mwy na £100m mewn adeiladu a chaffael cartrefi newydd. Mae’n debyg mai dim ond un rhan o bump o’r buddsoddiad hwn fydd yn cael ei gyllido drwy grant tai cymdeithasol gan Lywodraeth Cymru, gyda £70m yn dod drwy fenthyciadau ychwanegol, a’r gweddill yn dod o arian dros ben a gynhyrchwyd yn fewnol. Am ragor o wybodaeth fanwl am ein sefyllfa ariannol, trowch at dudalennau 28 a 29 o’n Cynllun Busnes ar gyfer 2012 i 2017, y dylech fod wedi ei gael yn ddiweddar, neu gallwch ei weld ar ein gwefan www.wwha.co.uk Mae ein sefyllfa gref wedi cael ei hardystio gan Lywodraeth Cymru, a ddyfarnodd radd ‘pasio’ i’r Gymdeithas yn ei asesiad ariannol blynyddol.

Cyfanswm

393 Powys

24 Merthyr Tudful

15

Caerdydd Pen-y-bont

26

39 Bro Morgannwg

20

Mae’r ffigyrau hyn yn cynrychioli datblygiadau sydd ar y safle ar hyn o bryd, ac sydd wedi’u hamserlennu i ddechrau yn y 12 mis nesaf. Er hynny, gyda’i gilydd, rhagwelwn adeiladu a chaffael 450 uned yn ychwanegol yn y pum mlynedd nesaf, a fydd yn mynd â chyfanswm ein hadeiladau newydd yn ystod y cyfnod hwnnw i 850 uned.


14 | Sylw ar ardal WRESCAM | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

PARTNERIAETH

GWASANAETH TÂN AC ACHUB DE CYMRU Mae delio â pheryglon tân yn uchel ar yr agenda ar hyn o bryd, ac rydym eisiau sicrhau fod ein holl gartrefi mor ddiogel ag y gallant fod. Rydym wedi ffurfio partneriaeth arloesol gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, gan gytuno i weithredu fel partner ‘enghreifftiol’ er mwyn eu helpu nhw i hyrwyddo arferion da o ran diogelwch tân yn y sector tai cymdeithasol ledled y wlad. Dywedodd Andy Petersen, Rheolwr Grŵp gyda’r Gwasanaeth Tân ac Achub, “Mae WWH wedi arddangos y pwysigrwydd maen nhw’n

ei roi ar ddiogelwch tân. Bydd ein partneriaeth yn darparu ffordd gadarnhaol o feddwl i’w galluogi i gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth diogelwch tân.” Rydym wrthi’n cynnal trafodaethau gyda Gwasanaeth Tân y Canolbarth a Gwasanaeth Tân y Gogledd i archwilio’r posibilrwydd o ehangu’r bartneriaeth hon ymhellach.

Andy Petersen, Rheolwr Grŵp Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Robin Alldred, Rheolwr Masnachol WWH, Jo Burns, Swyddog Iechyd a Diogelwch WWH, Anthony Williams, Swyddog Iechyd a Diogelwch WWH.


15 | Sylw ar ardal WRESCAM | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

GWNEUD Y PETH IAWN… Ein nod yw gwneud y peth iawn o ran ein preswylwyr a’n staff, ac isod gwelir y gwobrau a’r achrediadau rydym wedi eu cael yn ddiweddar, sy’n cydnabod ac yn dathlu ein dull o weithio. • Rydym wedi cael y clod uchaf posibl dan system wobrwyo mawr ei bri Buddsoddwyr mewn Pobl, gan gael y safon Aur yn ein hasesiad diweddar. “Mae Tai Wales & West yn parhau i arddangos ei fod yn sefydliad sy’n meddwl am y dyfodol ac yn llwyddo fel busnes drwy arddangos ymddygiad arwain sy’n llawn gweledigaeth, wedi ei danategu gan werthoedd cryf ac ystyrlon,” meddai’r arbenigwraig ar Fuddsoddwyr mewn Pobl, Mavis Elliott­Smith. • Mae Rhestr Cwmnïau Gorau'r Sunday Times 2012 wedi nodi mai ni yw sefydliad nid­er­elw gorau Cymru, ac rydym yn yr 8fed safle yn y 100 sefydliad nid­er­elw gorau ledled y Deyrnas Unedig. Ni hefyd yw’r unig gymdeithas tai o Gymru i gael y radd uchaf o 3 seren yn rhestr y Cwmnïau Gorau. • Mae’r elusen sy’n ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd hamdden, Working Families, wedi ein rhoi ni ymysg y 30 cwmni gorau sy’n ystyriol o deuluoedd yn y Deyrnas Unedig am yr ail flwyddyn yn olynol. Yn eu seremoni wobrwyo ddiweddar, fe wnaethom hefyd ennill y Wobr Teuluoedd sy’n Gweithio am

Hyrwyddo Gyrfaoedd i Weithwyr Hyblyg, a chawsom le yn y rownd derfynol yn y categorïau hyn: Y gorau o ran gyrfaoedd a gofal am bobl hŷn, Y gorau o ran ymgysylltu, a Gwobr Orau’r Grid Cenedlaethol am Arloesi. Dywedodd Sarah Jackson OBE, Prif Weithredwr Working Families:

“Mae cyrraedd y rhestr fer mewn pedwar o’r saith categori Gwobrau Arbennig yn gyflawniad eithriadol. Roedd polisïau arloesol Tai Wales & West i ymgysylltu â’u gweithwyr a’u cefnogi, yn enwedig gofalwyr a gweithwyr hyblyg, wedi creu cryn argraff ar y beirniaid.” • Mewn partneriaeth â GKR Maintenance & Building, rydym wedi cael Canmoliaeth Uchel yng nghategori gwobr Integreiddio a Chydweithio yng ngwobrau Constructing Excellence 2012. Dywedodd y beirniaid fod y tîm wedi gweithio’n galed, ‘gydag angerdd ac ymroddiad’, i dorri costau a lleihau gwastraff.

Steve Porter (ar y dde) Cyfarwyddwr Gweithrediadau WWH erbyn hyn, yn cael tlws yng Ngwobrau Adeiladu Arbenigrwydd 2012. Yn y llun fe’i gwelir gyda Jayne Rowland Evans, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cynnal a Chadw GKR a Phil Lumley, Pennaeth Gwasanaethau Eiddo Cyngor Sir Caerfyrddin


Tai Wales & West 3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2UD. ac Uned 2, Parc Busnes Acorn, Aber Road, y Fflint CH6 5YN. Ffoniwch ar 0800 052 2526 Minicom: 0800 052 5205 E­bost: contactus@wwha.co.uk Gwefan: www.wwha.co.uk @wwha wwhahomesforwales

Cyhoeddwyd Hydref 2012


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.