SYLW AR ARDAL
WRECSAM RHIFYN 5 | GWANWYN 2013 Goroesi’r newid i fudddaliadau Mynd arlein, ffynnu arlein Ein datblygiadau diweddaraf yn eich ardal Gwasanaethau ffôn a theleofal Connect24
2 | Sylw ar ardal WRECSAM | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk
CYFLWYNIAD ANNE Croeso i rifyn gwanwyn 2013 Sylw ar ardal Wrecsam, sy’n rhoi’r diweddaraf i chi am fentrau Tai Wales & West yn eich ardal chi. Mae’r rhifyn hwn yn cynnwys ein cymysgedd arferol o newyddion ynghylch rhai o’n prosiectau cyfredol yn benodol i’r sir, ynghyd â’r diweddaraf am faterion perthnasol drwy’r sefydliad cyfan. Yn gyntaf oll, yn dilyn ein Harolwg diweddaraf o Fodlonrwydd Preswylwyr, rwy’n falch iawn o ddweud wrthych fod 88% o’n preswylwyr wedi dweud wrthym eu bod nhw’n fodlon gyda’r gwasanaeth cyffredinol a ddarparwyd gan WWH. Mae hyn yn gynnydd o 2% o’i gymharu â’r arolwg a wnaethom yn 2011, ac yn gynnydd sylweddol o 7% ar y canlyniadau a gawsom yn 2007. Datblygiad sylweddol arall ers ein rhifyn diwethaf o Sylw ar ardal Wrecsam yw ein buddsoddiad mewn saith swydd arloesol, sef y Swyddogion Cefnogi Tenantiaeth newydd. Ar ôl ymarfer recriwtio llwyddiannus, mae ein Swyddogion newydd wrthi’n dechrau ar eu gwaith newydd y foment hon ledled Cymru, ac fe fyddan nhw’n cymryd camau rhagweithiol ac ymarferol i helpu ein preswylwyr i oroesi storm y newid i fudddaliadau. Ledled y busnes, rydym yn parhau i archwilio a buddsoddi mewn technoleg newydd, ac mae ein rhaglen cynhwysiant digidol yn parhau i ffynnu, ac yn chwarae rhan gynyddol bwysig yn y gwaith o helpu ein preswylwyr i ddelio â newidiadau sydd ar ddod i fudddaliadau. Rydw i hefyd yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi cael swm sylweddol o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i’n helpu ni i adeiladu cartrefi fforddiadwy y mae eu hangen yn fawr ledled Cymru, yn gydnabyddiaeth o’n gallu fel cymdeithas sy’n datblygu. Pan anfonom ein Cynllun Busnes atoch ddiwedd yr hydref llynedd, dywedom wrthych y byddem yn darparu 800 o gartrefi newydd dros y pum mlynedd nesaf. Diolch i’r buddsoddiad newydd hwn, rydym yn awr yn debygol o allu darparu 1,000 o gartrefi newydd yn y pedair blynedd nesaf.
Serch hynny, dim ond rhan yn unig o’r hyn rydym yn ei wneud yw datblygu cartrefi newydd, ac felly i sicrhau ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar gwsmeriaid, ac yn atebol am yr hyn a wnawn, rydym yn ymgymryd â’n proses hunanasesu reolaidd. Rydw i a’m cydgyfarwyddwyr wedi bod yn cynnal ein sioeau teithio blynyddol i staff, a hyd yn hyn rydym wedi siarad â thros dri chwarter ein holl staff ledled Cymru, nifer ohonyn nhw’n byw yn y cymunedau lle maen nhw’n gweithio, gan gael cipolwg amhrisiadwy ar eu byd ac adborth ganddyn nhw. Yn olaf, mae’n bleser mawr gennyf ddweud wrthych fod rhestr cwmnïau gorau’r Sunday Times yn dangos mai ni yw sefydliad niderelw gorau Cymru am yr ail flwyddyn yn olynol ac rydym yn y 7fed safle yn rhestr y Deyrnas Unedig. Fe wnaethom nid yn unig godi un lle o’r 8fed safle a gawsom yn 2012, ond llwyddom hefyd i ddal gafael yn ein safon aur Tair Seren mawr ei bri. Rwy’n siŵr y cytunwch fod hwn yn ganlyniad boddhaus arall, ac yn glod i waith caled ac ymroddiad ein staff gwych. I gloi, rwy’n gobeithio y bydd y cylchlythyr briffio hwn yn fodd o roi gwybod i chi am y diweddaraf am lawer o’n gwaith ar lawr gwlad yn eich ardal chi, yn ogystal â darlun ehangach byd WWH. Peidiwch ag oedi cyn cysylltu unrhyw dro gyda’ch syniadau a’ch sylwadau ynghylch unrhyw agwedd ar ein gwaith. Yn gywir Anne Hinchey, Prif Weithredwr.
3 | Sylw ar ardal WRECSAM | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk
GOROESI’R NEWID I FUDD-DALIADAU Mae’r newidiadau i fudddaliadau wedi bod yn nodwedd amlwg ar ein hagenda, ac yn parhau i fod felly, yn enwedig effaith y ‘dreth ar ystafelloedd gwely’ a ddaeth i rym ar 1 Ebrill. Drwy weithio’n effeithlon â thîm Budddaliadau Tai Bro Morgannwg, rydym wedi gallu nodi’r 37 o aelwydydd WWH yn y sir a fydd yn cael eu heffeithio gan y newid. Mae ein staff wedi cysylltu â’r holl breswylwyr a gaiff eu heffeithio i esbonio’r newidiadau, trafod yr effaith bosibl ar gyllidebau aelwydydd a gweithio gyda nhw i ganfod atebion fforddiadwy. Hyd heddiw, mae’r mwyafrif llethol o’n preswylwyr wedi dweud wrthym eu bod nhw’n bwriadu aros yn eu cartrefi presennol, er y bydd nifer yn cael anhawster dod o hyd i’r arian sydd ei angen yn lle’r budddal a gollir. Gan gydnabod y bydd nifer o’n preswylwyr angen rhagor o help i gynnal eu tenantiaethau, rydym hefyd wedi buddsoddi’n drwm mewn darparu cymorth parhaus drwy greu saith
swydd gwbl newydd – y Swyddogion Cefnogi Tenantiaeth. Bydd y swyddogion yn dechrau gweithio gyda ni yn awr ledled Cymru, gyda phedwar (Natalie Davies, Amanda Collins, Stuart Lock a Sharon Jones) yn y De, un (Donna Steven) yn y Canolbarth a dau (William Brook a Jen Bailey) yn gweithio yng Ngogledd Cymru. Fe fyddan nhw’n gweithio gyda phreswylwyr i’w helpu nhw i ddelio ag effaith yr holl newidiadau arfaethedig i fudddaliadau, gan gynnwys cyflwyno’r Credyd Cynhwysol, gan roi’r wybodaeth, y dewisiadau, y nerth a’r gobaith iddyn nhw allu goroesi’r storm. Wrth gwrs, un o effeithiau’r dreth ar ystafelloedd gwely yw ein bod ni’n gweld rhai o’n cartrefi mwy o faint – yn enwedig cartrefi teuluol â thair ystafell wely – ar gael. Unwaith eto, rydym yn gweithio’n agos gyda’n holl bartneriaid yn yr awdurdodau lleol, a phob partner priodol arall, i sicrhau fod y bobl briodol sydd angen tai yn cael mynediad at y cartrefi fforddiadwy hyn.
4 | Sylw ar ardal WRECSAM | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk
YMUNWCH Â’R SGWRS
Mae gennym dros 1,300 o ddilynwyr ar Twitter erbyn hyn. Ymunwch â’r sgwrs a dilynwch ni @wwha. Rydym yn trydar bob dydd am newyddion, swyddi, digwyddiadau cyfagos, cyfleoedd hyfforddi, mentrau codi arian elusennol, ffotograffau a llawer mwy. Gallwch hefyd ein gwylio ni ar ein sianel YouTube wwhahomesforwales.
5 | Sylw ar ardal WRECSAM | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk
AROLWG BODLONRWYDD PRESWYLWYR - WRECSAM Rydym yn cynnal ein Harolwg blynyddol o Fodlonrwydd Preswylwyr ymhlith traean o’n haelwydydd (tua 2,700) bob blwyddyn. Fe wnaethom gynnal ein hail arolwg blynyddol, a’r un mwyaf diweddar, yn ystod tymor yr hydref 2012. Dyma rai o’r prif ganlyniadau ynghyd â chipolwg ar yr hyn sy’n bwysig i’n preswylwyr yn Wrecsam. Bodlonrwydd cyffredinol Rydym yn falch iawn o roi gwybod i chi fod 88% (pedwar o bob pum preswyliwr) yn fodlon gyda’r gwasanaeth cyffredinol y mae WWH yn ei ddarparu. Mae hyn yn gynnydd o 2% o’i gymharu â’r arolwg a wnaethom yn 2011, ac yn gynnydd sylweddol o 7% ar y canlyniadau a gawsom yn 2007. Gwasanaethau cwsmeriaid Mae ein sgoriau ar gyfer safon y gwasanaethau cwsmeriaid pan oedd pobl yn cysylltu â ni yn dda iawn. Yn neilltuol felly, rhoddodd dros hanner yr aelwydydd (52%) sgôr berffaith o 10 i ni am natur gymwynasgar y staff, gyda’r sgôr gyfartalog yn cyrraedd 8.65 allan o 10. Yn ogystal, bu cynnydd sylweddol yn lefelau bodlonrwydd â chael ymateb prydlon (7.99 oedd y cyfartaledd, o’i gymharu â sgôr o 7.70 yn flaenorol).
yn Wrecsam wedi rhoi sgôr gyfartalog o 8.1 allan o 10 am eu bodlonrwydd â’u cymdogaeth, gyda llawer o’r diolch am hynny i’w briodoli i’r ffaith fod 42% wedi rhoi sgôr o 10. Ymysg y rhesymau pennaf a nodwyd, dywedodd dros chwarter o’r ymatebwyr (29%) fod ganddyn nhw ‘gymdogion da’, 25% eu bod yn byw mewn man tawel, a 19% yn canmol y mwynderau oedd gerllaw. Fe wnaethom hefyd ofyn i breswylwyr am eu barn ar ein blaenoriaethau er gwella amrywiaeth o feysydd gwaith dros y blynyddoedd a ddaw. Mae’r canlyniadau yn dangos yn glir ein bod yn bwriadu gwella’r modd rydym yn darparu gwasanaethau sy’n berthnasol i’n preswylwyr ac yn cael eu gwerthfawrogi ganddyn nhw. Y tair eitem amlycaf a nodwyd gan ein preswylwyr yn Wrecsam yw:
Y cartref Ar y cyfan, roedd yr ymatebwyr yn fodlon gyda’u cartref, gyda sgôr gyfartalog o 7.99 allan o 10, gan gynnwys sgôr o 10 gan 32% o’r sampl. Yn gyffredinol, mae sgoriau cyfartalog pob nodwedd yn y cartref yr un fath (ac yn y rhan fwyaf o achosion, yn uwch) na’r sgoriau a nodwyd yn 2011.
• adolygu sut rydym yn ymdopi ag ymddygiad gwrthgymdeithasol • gwneud ein cartrefi yn fwy effeithlon o ran ynni • adolygu’r gwasanaethau i gefnogi preswylwyr hŷn a’u helpu i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi
Canlyniadau penodol i Wrecsam Yn gyffredinol, mae barn pobl am eu cymdogaeth fel arfer yn ffactor bwysig yn lefel eu bodlonrwydd â’u llety a’u landlord. Felly, mae’n galonogol gweld fod ymatebwyr
Felly, beth nesaf? Rydym nawr yn archwilio canlyniadau’r arolwg hwn yn fwy trylwyr, gan graffu ar sylwadau penodol y preswylwyr. Bydd y rhain yn amhrisiadwy i ni wrth symud ymlaen a gwella ein gwasanaethau ymhellach.
6 | Sylw ar ardal WRECSAM | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk
DATBLYGU CARTREFI NEWYDD
YN WRECSAM Mae gwaith yn parhau ar garlam ar ein datblygiad sy’n werth £17 miliwn dros ddau safle, gyda disgwyl i’r cartrefi newydd cyntaf ar Kingsmills Road gael eu trosglwyddo i’w preswylwyr cyntaf o fewn wythnos neu ddwy. Yn ddiweddar, rhoddwyd caniatâd cynllunio am 20 cartref arall ar safle cyfagos Rivulet Road, gan fynd â chyfanswm y ddarpariaeth yn y datblygiad adfywio nodedig hwn gan Anwyl Construction ar ein cyfer, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, i 149 o gartrefi fforddiadwy newydd, ynghyd â’r Ganolfan Adnoddau Cymunedol a’r Cyfleuster meddygol newydd. Mae Libby Price newydd gael ei phenodi gennym yn Swyddog Cyswllt Cymunedol ar gyfer y datblygiad hwn, a thros y misoedd nesaf, bydd yn gweithio’n agos iawn â’r gymuned leol ynghylch datblygu’r Ganolfan Gymunedol. Mae Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Jane Hutt, ac Aelod Cynulliad Gogledd Cymru, Aled Roberts, wedi ymweld â’r safle. Roedd y ddau wedi cael eu plesio’n fawr gyda’r modd y mae’r datblygiad hwn yn cefnogi efo prentis ifanc, ynghyd â rhoi £50 miliwn (yn ôl yr amcangyfrifon) yn ôl i’r economi leol, diolch i’r defnydd o gadwynau cyflenwi lleol a labrwyr lleol.
Fe wnaeth helfa wyau Pasg a digwyddiad cymunedol ddenu dros 100 o bobl, gan gicdanio rhaglen gyfan o weithgareddau cymunedol dros y gwanwyn. I gael gwybod y diweddaraf am bopeth sy’n digwydd yn y datblygiad newydd cyffrous hwn, ewch i www.hightownflats.com – ein blog cymunedol ar gyfer yr ardal. Rydym wedi llwyddo i sicrhau cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru a fydd yn ein galluogi i ddarparu mwy na 1,000 o unedau yn ystod y pedair blynedd nesaf ar draws yr holl ardaloedd lle’r ydym yn gweithredu. Mae darparu digon o gartrefi fforddiadwy o safon uchel yn parhau i fod yn fater o bwys. Serch hynny, rydym yn parhau’n hyderus o’n gallu i gwrdd ag amrywiaeth o anghenion. Rydym mewn sefyllfa gref yn ariannol, a diolch i hyn rydym nid yn unig yn gallu adeiladu rhagor o gartrefi newydd, ond rhagor o’r math priodol sy’n cwrdd â’r galw lleol. Drwy ddarparu cartrefi am brisiau gwahanol, rydym yn cynnig dewisiadau o ddifrif i ni, ac yn bennaf oll, i’n cwsmeriaid cyfredol ac arfaethedig hefyd.
7 | Sylw ar ardal WRECSAM | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk
GWAITH ADNEWYDDU MAWR
MEWN ARDAL GADWRAETH Mewn man arall yn Wrecsam, rydym wrthi’n gweithio ar brosiect adnewyddu sy’n werth £80,000 o fila Fictoraidd yn ardal gadwraeth Wrecsam. Bydd y prosiect hen yn darparu cartref addas i gleientiaid Hafal, prif elusen Cymru ar gyfer pobl sydd ag afiechydon meddwl difrifol, ynghyd â’u gofalwyr. Mae ein
hisgontractwyr Cambria Maintenance Services yn cynnal y gwaith, ac yn bwriadu cadw cymaint â phosibl o’r nodweddion gwreiddiol i roi gorffeniad cynnes a chartrefol i’r adeilad. Mae disgwyl i’r gwaith gael ei gwblhau yn brydlon, gyda disgwyl i breswylwyr cyntaf Hafal ddechrau defnyddio’r adeilad ym mis Mai.
CEFNOGAETH Â THENANTIAETH Rydym yn falch iawn o allu cyflwyno William Brook, ein Swyddog Cefnogi Tenantiaeth newydd ar gyfer ardal Wrecsam. Bydd William yn helpu ein preswylwyr i ddelio â heriau niferus y newidiadau i fudddaliadau, ynghyd â darparu cefnogaeth a chyngor ar gyllidebu’n effeithiol a gwybodaeth am gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant. Yn y lle cyntaf, bydd William yn canolbwyntio ei ymdrechion ar helpu’r preswylwyr hynny sydd eisoes wedi cael eu nodi fel rhai sydd mewn perygl o wynebu caledi ariannol, neu fynd i ddyled, o ganlyniad i newidiadau yn sgil y ‘dreth ar ystafelloedd gwely’ a newidiadau arfaethedig eraill i fudddaliadau. Bydd William yn gweithio ochr yn ochr â Jen Bailey, ein hail Swyddog Cefnogi Tenantiaeth dros ardal gogledd Cymru, sydd ar hyn o bryd yn gweithio fel Cydlynydd y Prosiect Cynhwysiant Digidol Take Control.
8 | Sylw ar ardal WRECSAM | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk
GOFALU AM YR AMGYLCHEDD YN WRECSAM Mae’n un o’n blaenoriaethau corfforaethol ein bod yn lleihau’r effaith rydym yn ei gael ar yr amgylchedd, ynghyd ag effaith ein preswylwyr, hefyd. Rydym yn gwella effeithiolrwydd ynni ein cartrefi y tu hwnt i’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei fynnu, fel bod ein preswylwyr yn arbed arian, yn defnyddio llai o danwydd ac yn llai tebygol o ddioddef tlodi tanwydd. Rydym hefyd wedi buddsoddi £6 miliwn yn y pum mlynedd ddiwethaf i liniaru tlodi tanwydd yn ein cartrefi, ac fe wnawn ni barhau i fuddsoddi mewn mesurau i wella’r sefyllfa. Rydym yn cefnogi sawl prosiect amgylcheddol yn yr ardal hon, o’r rhai bychan iawn i rai tipyn mwy o faint. Un enghraifft yw’r man newydd i’r gymuned ar Barter Road – menter ar y cyd rhwng WWH a Chymdeithas Tenantiaid Barracksfield – a agorodd ei giatiau ym mis Ionawr 2013. Ei nod yw helpu i bontio’r bwlch rhwng pobl ifanc a phobl hŷn yn Hightown, drwy annog addysg i rai o bob oed, a dod â phobl o bob gallu ynghyd er budd ei gilydd. Mae ‘Prosiect Chwarae Rhwng y Cenedlaethau Hightown’ yn gartref i barc chwarae i blant bach a gwelyau wedi’u codi i blannu llysiau.
Bydd preswylwyr hŷn yn rhoi addysg i’r genhedlaeth iau ar arddio / ailgylchu a bwyd cartref er mwyn hyrwyddo byw’n iach a lleihau arwahanrwydd cymdeithasol. Bydd popeth a dyfir, o lysiau, saladau, ffrwythau a pherlysiau yn cael eu rhannu ymysg y garddwyr a Chlwb Cinio Sylvester Court Barracksfield. Cefnogir y prosiect hwn, sy’n werth £43,000, gan wirfoddolwyr a chyllid gan ein Grant Gwneud iddo Ddigwydd a’n Cronfa Amgylcheddol, ynghyd â sawl partner fel WREN, Cyngor Cymuned Offa, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam, HSS Tool Hire ac Anwyl Construction. Diolch yn fawr iawn i bawb. Am ragor o fanylion ynghylch ein Rhaglen Cynnal a Chadw wedi’i Gynllunio, cysylltwch â’r Rheolwr Masnachol, Mike Wellock. Ac am ragor o wybodaeth ynghylch ein gwaith Amgylcheddol; gan gynnwys ein Cronfa Amgylcheddol, cysylltwch ag Owen Jones, ein Swyddog Amgylchedd a Chynaladwyedd.
9 | Sylw ar ardal WRECSAM | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk
MONEYLINE CYMRU NAWR YN GWEITHREDU O’N CANOLFAN GWASANAETHAU CWSMERIAID
Mae Moneyline Cymru yn gweithredu mewn nifer o ganghennau, yn bennaf yn Ne Cymru, ac maen nhw eisiau cynnig gwasanaeth ffôn i bobl o rannau eraill o Gymru, a phobl nad ydyn nhw’n gallu cyrraedd eu swyddfeydd. Felly, maen nhw nawr yn gweithredu o’n Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid yn ein Prif Swyddfa yng Nghaerdydd am gyfnod prawf. Aeth y gwasanaeth yn fyw ym mis Chwefror, ac mae’r tîm o dri wrthi’n ateb galwadau dros ben gan ganghennau presennol Moneyline Cymru.
10 | Sylw ar ardal WRECSAM | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk
CEFNOGI HOUSE SWAP WALES Gan gofio am yr angen i nifer o breswylwyr symud i gartrefi llai o faint o ganlyniad i’r dreth ar ystafelloedd gwely, rydym wedi ymuno â Chymdeithasau Tai Cadwyn a Linc i gefnogi creu prosiect House Swap Wales ar Facebook. Yn ei hanfod, ceir cyfres o grwpiau Facebook fesul sir – e.e. House Swap Cardiff, House Swap Wrexham ac ati – ac mae House Swap Wales wedi ei anelu at denantiaid tai cymdeithasol sydd angen symud o ganlyniad i newidiadau i fudddaliadau, gan gynnwys y dreth ar ystafelloedd wely, neu sydd eisiau symud am resymau eraill. Mae’n darparu llwyfan
parod a syml arlein i breswylwyr hysbysebu eu cartrefi eu hunain yn rhad ac am ddim, chwilio am gartrefi posibl y gallen nhw symud iddyn nhw, a hwyluso’r gwaith o symud eu hunain. Rhagor o wybodaeth www.facebook.com/HouseSwapWales a dilynwch ni ar Twitter @HouseSwapWales
11 | Sylw ar ardal WRECSAM | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk
MYND AR-LEIN FFYNNU AR-LEIN Mae technoleg yn rhyddhau, yn grymuso ac yn galluogi. Mae mwy a mwy o wasanaethau, gan gynnwys mynediad at fudddaliadau, ar gael drwy’r rhyngrwyd yn unig, ac eto nid yw mwyafrif ein preswylwyr wedi cysylltu â’r we. Felly, rydym yn parhau i annog ein preswylwyr i fynd arlein, a gwneud yn fawr o’r cyfle i fod arlein, drwy amrywiaeth o fentrau cynhwysiant digidol ledled Cymru. Ein bwriad yw: • helpu pobl i wneud yn fawr o’u hincwm a delio â newidiadau i fudddaliadau, yn enwedig cyflwyno’r Credyd Cynhwysol • mynd i’r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol drwy alluogi preswylwyr i fod mewn cysylltiad gwell â’u cymunedau a thu hwnt • cynorthwyo preswylwyr i gael gwell gwerth am arian drwy gyrraedd gwybodaeth a phrynu nwyddau arlein • annog preswylwyr i fanteisio ar yr holl fuddiannau addysgol – a hwyl – bod arlein. Yn ne Cymru, mae ein cynllun peilot mynediad fforddiadwy at fand eang WiFi yn Nhŷ
Pontrhun ym Merthyr Tudful yn sylfaen wych i ni ymestyn y fenter hon ymhellach, lle bynnag y bydd hynny’n bosibl, ledled Cymru. Ac yng ngogledd Cymru, rydym hefyd wedi galluogi WiFi mewn lolfa gymunol yn Nant y Môr, ein cynllun gofal ychwanegol ym Mhrestatyn. Mae gwaith yn cael ei gynnal i alluogi WiFi mewn lolfeydd cymunol yn nifer o’n cynlluniau er ymddeol yng ngogledd a de Cymru. Rydym hefyd yn cynnal sesiynau ‘deall sut’ gyda phreswylwyr, fel rhan o brosiect ‘Take Ctrl’, rydym yn ei gynnal ar ran Fforwm Gallu Ariannol Gogledd Cymru. Hyd yn hyn, mae Take Ctrl wedi helpu dros 500 o breswylwyr i fynd arlein, gyda chefnogaeth 48 o wirfoddolwyr. Mae Jen Bailey, un o’n swyddogion Cefnogi Tenantiaeth, yn canolbwyntio’n benodol ar y galw hwn.
12 | Sylw ar ardal WRECSAM | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk
CONNECT24
GWASANAETHAU
FFÔN A THELEOFAL YN WWH Rydym wedi bod yn darparu gwasanaethau ffôn a theleofal ers dros 10 mlynedd, a chymaint yw’r bri ar y rhan hwn o’n gwaith fel ein bod wedi rhoi enw penodol ar y gwasanaeth, Connect24. Pam Connect? Gan mai’r bwriad yw cysylltu pobl â’r gwasanaethau maen nhw eu hangen i’w galluogi i fyw’n annibynnol a diogel yn eu cartrefi. A 24? Gan ein bod ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, 52 wythnos y flwyddyn. Ar hyn o bryd, rydym yn darparu gwasanaethau larwm mewn argyfwng a theleofal Connect24 i dros 4,000 o aelwydydd ledled Cymru, ac mae gennym gontractau gyda: • Tai Cymoedd i’r Arfordir ym Mhenybont ar Ogwr • Grŵp Tai Pennaf yng ngogledd a chanolbarth Cymru • Cymdeithas Tai Newydd yn ne a chanolbarth Cymru Rydym hefyd yn monitro larymau ar gyfer unigolion mewn llety ar rent ynghyd â pherchenfeddianwyr annibynnol. Mae system monitro larwm syml, gan gynnwys y cyfarpar, yn costio cyn lleied â £2.50 yr wythnos. Mae hyn yn helpu i roi tawelwch meddwl i bobl hŷn a phobl agored i niwed fel eu bod nhw’n gallu parhau i fyw’n annibynnol yn eu cartref eu hunain, a rhoi tawelwch meddwl i’w teuluoedd hefyd – y cyfan am bris fforddiadwy. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth llawn 24/7 y tu allan i oriau, ac mae gennym gontractau â’r cymdeithasau tai a ganlyn, sy’n golygu ein bod yn darparu gwasanaethau y tu allan i oriau i 27,000 o aelwydydd ledled Cymru: • Hafan Cymru ledled Cymru • Grŵp Gwalia ledled Cymru • Tai Cymunedol Bron Afon yn Nhorfaen
Am ragor o wybodaeth ynghylch Connect24, ewch i’n gwefan www.connect24.co.uk neu cysylltwch â Jackie Edwards, Rheolwr y Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid, neu Cate Dooher, Pennaeth y Gwasanaethau Cymorth, ar 0800 052 2526.
13 | Sylw ar ardal WRECSAM | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk
Di Barnes, Verity Kimpton ac Anne Hinchey – tîm awyrblymio dewr WWH.
Y DIWEDDARAF AM ELUSENNAU Ar ôl dwy flynedd wych, pan gododd staff a phreswylwyr £25,000 tuag at Help for Heroes, ein helusen bartner gorfforaethol rhwng Ionawr 2013 a Rhagfyr 2015 yw Cymdeithas Strôc Cymru. Wedi ei mabwysiadu fel ein prif elusen bartner ym mis Ionawr eleni, rydym yn barod wedi codi dros £10,000 at yr achos da. Mae digwyddiadau yn cynnwys diwrnodau gwisg anffurfiol rheolaidd i staff, cymryd rhan yn ras hwyl Dydd Gŵyl Dewi, ac yn fwyaf diweddar, awyrblymio noddedig. Cafodd arweinydd tîm elusennol WWH, Di Barnes, gwmni’r swyddog gweinyddol Verity Kimpton a’r Prif Weithredwr Anne Hinchey yn yr awyren, a neidiodd y tair o 13,000 troedfedd uwchlaw maes awyr Abertawe ddydd Sadwrn 6 Ebrill. Diolch yn fawr iawn i bawb a’u cefnogodd nhw yn y fenter arswydus hon. Ceir
rhagor o fanylion am ddigwyddiadau elusennol a chodi arian sydd ar ddod ar ein gwefan ac ar Twitter @wwha. Mae elusennau eraill sydd wedi elwa yn sgil gwaith codi arian gan y staff, yn cynnwys Diwrnod trwynau coch Comic Relief a Banciau Bwyd Ymddiriedolaeth Trusell yng Nghaerdydd, Merthyr Tudful, Wrecsam, Bro Morgannwg a Phenybont ar Ogwr.
14 | Sylw ar ardal WRECSAM | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk
Ecoryfelwyr Western Court
CRYNODEB GWOBRAU Pan aed i’r wasg, roedd nifer o staff a phreswylwyr wedi cael lle ar restr fer sawl gwobr fawreddog. Maen nhw’n cynnwys: Gwobrau Cyfranogiad TPAS Cymru 2013:
Gwobrau Arwyr Tai CIH:
Mae Les Cooper wedi cael ei enwebu yn dilyn ei farwolaeth i gael y wobr i Gydweithiwr Ysbrydoledig. Bu farw Les yn annisgwyl fis diwethaf, ac roedd yn Swyddog Cyngor ar Arian i ni a oedd yn gweithio yn ein swyddfa yn y Fflint yng ngogledd Cymru. Roedd yn aelod gweithgar o Fforwm Gallu Ariannol Gogledd Cymru, ac roedd yn hynod ddylanwadol ac yn uchel iawn ei barch yn y sector. Cafodd effaith gadarnhaol iawn ar fywydau pawb a fu mewn cysylltiad ag ef.
Mae’r Rheolwr Cynllun Helen Jones o Landudno, Conwy, wedi cael lle ar y rhestr fer yng nghategori hynod boblogaidd Cydweithiwr Ysbrydoledig.
Mae’r garddwyr medrus ‘Ecoryfelwyr Western Court’ o’n cynllun er ymddeol Western Court ym Mhenybont ar Ogwr wedi cael lle ar restr fer Gwobr Gwella’r Amgylchedd.
Les Cooper
Helen Jones
Gwobrau Rhagoriaeth mewn Adnoddau Dynol: Mae Anne Hinchey, y Prif Weithredwr, wedi cael lle ar restr fer Gwobr y Prif Weithredwr sy’n canolbwyntio fwyaf ar bobl yn y sector Elusennol / Niderelw. Dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol y mae Anne wedi cael lle ar restr fer y wobr hon.
Anne Hinchey
15 | Sylw ar ardal WRECSAM | STAFF LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk
LOCAL STAFF Pob ardal:
O’r chwith i’r dde: Tony Wilson (Cyfarwyddwr Cyllid) Shayne Hembrow (Dirprwy Brif Weithredwr/Cyfarwyddwr Masnachol) Anne Hinchey (Prif Weithredwr) Steve Porter (Cyfarwyddwr Gweithrediadau)
Pob ardal:
Lynnette Glover, Pennaeth Tai Nikki Cole, Pennaeth Datblygu Alex Stephenson, Pennaeth Gwasanaethau Eiddo
Wrecsam Rheolwr Tai: Rheolwr Tai: Rheolwr Masnachol: Rheolwr Masnachol: Rheolwr Datblygu:
Cate Porter (Anghenion cyffredinol) Anne Caloe (Tai er ymddeol) Andrew Richards (Atgyweiriadau) Mike Wellock (Cynnal a chadw wedi’i gynllunio) Craig Sparrow
Swyddogion Tai:
Anghenion Cyffredinol Tanya Bell Jill Wilcox Donna Sutton
Tai er ymddeol Rhian Marsh
Mentrau yn y Gymdogaeth: Bridget Garrod Vy Cochran (Swyddog Prosiect Datblygu Cymunedau) Claire Hammond (Swyddog Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr) Swyddogion Rheoli Asedau: Andrew Lester Swydd wag (i’w benodi/i’w phenodi) Yr Amgylchedd:
Owen Jones
Swyddog Cefnogi Tenantiaeth:
William Brook / Jen Bailey
Ffôn: Ebost: Gwefan:
0800 052 2526 joe.bloggs@wwha.co.uk www.wwha.co.uk
Tai Wales & West 3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2UD. ac Uned 2, Parc Busnes Acorn, Aber Road, y Fflint CH6 5YN. Ffôn: 0800 052 2526 Minicom: 0800 052 5205 Ebost: contactus@wwha.co.uk Gwefan: www.wwha.co.uk @wwha wwhahomesforwales
Cyhoeddwyd Ebrill 2013