Y Cynllun Busnes
2017 tan 2021
Mae deall yr hyn sy'n bwysig i bobl a darparu'r hyn sy'n bwysig i bobl wrth wraidd yr hyn a wnawn. Felly os ydym yn adeiladu cartrefi newydd, yn cynnal tenantiaethau neu'n torri'r porfa, mae Tai Wales & West yn fusnes pobl; gyda phobl, am bobl ac ar gyfer pobl. Mae hyn yn amlwg iawn yn ein harfer o ddydd i ddydd, yn ogystal â'n gweledigaeth: Twf cynaliadwy cadarn er mwyn gwneud gwahaniaeth i fywydau, cartrefi a chymunedau pobl.
Anne Hinchey Prif Weithredwr
Mae'r geiriau ‘Gorau Chwarae, Cyd Chwarae’ yn ymddangos yn falch ar y bathodyn cenedlaethol ar grysau tîm pêl droed Cymru. Roedd yr ymadrodd hwn yn sail i ymgyrch y tîm ym mhencampwriaeth Euro 16, a sbardunodd ddychymyg ac a gipiodd galonnau'r genedl, cenedl y mae'n iawn ei bod yn falch o'i threftadaeth, ei diwylliant a'i phobl. Gan gyfeirio at slogan 'Gorau Chwarae, Cyd Chwarae' dywedodd FAW eu bod yn dymuno cael rhywbeth nad oedd yn ymwneud gymaint â llwyddiant, ond meddylfryd. Mae'r ffaith bod timau a phobl yn gryfach gyda'i gilydd yn gysyniad pwerus sy'n wir ym myd busnes ac wrth ddarparu gwasanaethau, yn ogystal ag mewn timau a chymunedau. Pan gaiff hyn ei seilio ar dreftadaeth, diwylliant ac uchelgais a rennir, mae'n agor y drws i'r cam o gyflawni ac o gynnal pethau gwych.
Sharon Lee
Cadeirydd
Mae Tai Wales & West yn falch o'i threftadaeth o gydweithio'n agos gyda phreswylwyr ac amrywiaeth eang o bartneriaid dros 50 mlynedd, er mwyn darparu'r cartrefi gwirioneddol fforddiadwy a'r gwasanaethau y mae eu hangen ar bobl. Lleolir ein 11,500 o gartrefi mewn cymunedau trefol a gwledig yn ardaloedd 15 o awdurdodau lleol ar draws Cymru, o arfordir y gogledd i lawr i arfordir y de, ac ar draws i arfordir y gorllewin. Mae gennym breswylwyr a chwsmeriaid o bob oed, o bob cefndir ac maent yn cynnwys rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas heddiw. Ar draws Cymru,
darparir ein gwasanaethau larwm ar gyfer dros 60,000 o gwsmeriaid, gan ymateb 24 awr y dydd i argyfyngau a phryderon, a chan ddarparu cyngor a chymorth mewn ffordd ddibynadwy. Bydd proses uno a gynhaliwyd yn ddiweddar gyda Thai Cantref, cymdeithas sydd â 1500 eiddo ac sy'n darparu cartrefi a gwasanaethau ar draws Gorllewin Cymru, yn caniatáu i gryfderau'r ddau sefydliad ddod ynghyd i wasanaethu preswylwyr ac i ddatblygu cartrefi a gwasanaethau y mae cryn angen amdanynt yn y dyfodol. Law yn llaw â'r cynnydd yng nghyfanswm y cartrefi, gwelwyd datblygiad strwythur grŵp dros y blynyddoedd diwethaf ac mae'n darpariaeth gwasanaethau uniongyrchol wedi ehangu i faes cynnal a chadw eiddo, arlwyo a gofal a chymorth, a disgwylir i'r broses hon o ehangu barhau dros y bum mlynedd nesaf. Wrth wraidd popeth, ein nerth pennaf fel busnes yw ein pobl. Mae staff yn ymrwymedig ac yn alluog, gan gydweithio i 'wneud y peth iawn' i'n cwsmeriaid ac i wneud gwahaniaeth i fywydau, cartrefi a chymunedau pobl, ddydd ar ôl dydd a fesul cyswllt. Mae'r diwylliant cadarn a chadarnhaol hwn yn amlwg iawn yn y gydnabyddiaeth a gawsom yng ngwobrau cwmnïau gorau Sunday Times, pan ddaethom i'r brig yng Nghymru ac yn ail yn y DU, ar ôl ymddangos yn rhestr y deg uchaf dros y bum mlynedd ddiwethaf. Rydym yn wirioneddol gryfach gyda'n gilydd. Gyda phreswylwyr a chwsmeriaid, rydym yn gwrando er mwyn deall eu profiadau a'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw, ar ôl iddynt ddefnyddio gwasanaethau ac allan yn eu cymunedau, gan ddefnyddio'r hyn a ddysgwn er mwyn cynllunio gwasanaethau yn gywir, fel nad oes yn rhaid i'r ateb fod yr un fath i bawb. Mae hyn yn wir am yr holl wasanaethau, o waith trwsio i gyngor ariannol ac o arlwyo i gymorth gyda chyllidebu.
Mae'r cam o sefydlu Gofal a Chymorth Castell dros y flwyddyn ddiwethaf er mwyn darparu gwasanaethau gofal o ansawdd uchel wedi dod yn sgil cydweithio gyda darparwyr gwasanaeth a phartneriaid mewn awdurdodau lleol, a disgwylir i'r gwasanaethau ehangu dros y blynyddoedd i ddod. Ar draws Cymru, rydym yn cydweithio gydag amrywiaeth eang o bartneriaid er mwyn cynorthwyo preswylwyr i greu cymunedau a chymdogaethau sy'n gweithio a chynorthwyo preswylwyr i gyflawni eu dyheadau trwy gyfrwng ein fframwaith grantiau a chymorth, Gwneud Gwahaniaeth. Gyda Llywodraeth Cymru, cynghorau lleol, cyllidwyr a phartneriaid contractio, rydym yn gweithio i atal digartrefedd, i ddeall yr angen am dai ac i ddarparu cartrefi newydd y mae angen dybryd amdanynt. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi cwblhau 158 o gartrefi newydd ac ar hyn o bryd, rydym yn datblygu 420 o gartrefi pellach, a bwriadwn gwblhau dros 1000 o gartrefi dros y bum mlynedd nesaf. Yn sgil ein ffocws clir ar ddeall yr hyn sy'n bwysig i breswylwyr, gwneud y peth iawn a chynllunio systemau er mwyn darparu'r hyn sy'n bwysig, gwelwyd dyfarniadau rheoliadol cadarnhaol a lefelau bodlonrwydd uchel parhaus ymhlith cwsmeriaid, yn ogystal â pherthnasoedd cadarn gyda phartneriaid ar sail ein hanes o ddarparu mewn ffordd ddibynadwy. Mae llwyddiant Tai Wales & Wales yn deillio o lwyddiant ei phobl yn cydweithio â'r bobl y mae'n eu gwasanaethu. Mewn byd lle y mae'r disgwyliadau'n newid a lle y ceir her gynyddol i gyflawni mwy trwy ddefnyddio llai, credwn mai'r ateb yw ein bod yn gryfach gyda'n gilydd.
CRYFACH GYDA'N GILYDD
Cyd-destun newidiol Mae'n ddymuniad greddfol ym mhob un ohonom i gael cartref sy'n bodloni ein hanghenion ac y gallwn ei fforddio. Mae cartrefi o'r fath yn cynnig sylfaen i fywydau, teuluoedd a chymunedau llwyddiannus. Mewn cyferbyniad amlwg â'r sefyllfa yn Lloegr, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi'r cam o gadw a darparu cartrefi rhent cymdeithasol fel rhan bwysig o'r farchnad dai ehangach yng Nghymru mewn ffordd weithredol. Wrth i nifer yr aelwydydd yng Nghymru barhau i godi ymhlith pobl ifanc a hefyd, ymhlith pobl hŷn, bydd darparu dewisiadau tai addas yn parhau i fod yn her allweddol, law yn llaw â'r rheidrwydd bod y cartrefi hyn yn parhau i fod yn wirioneddol fforddiadwy. Mae uchelgais gadarnhaol Llywodraeth Cymru yn amlwg i bawb, ac nid y lleiaf o'r rhain yw'r dyhead i sicrhau 20,000 o gartrefi newydd yn ystod tymor y llywodraeth gyfredol. Mae nifer o rwystrau i'w goresgyn er mwyn cyflawni'r dyhead hwn, a'r unig ffordd o'i gyflawni yw trwy gydweithio. Bydd lefelau is o ran cymhorthdal cyfalaf a chyfuno hyn gyda chymhorthdal refeniw yn golygu y bydd gofyn i gymdeithasau fanteisio ar eu capasiti ariannol penodol i gefnogi gwariant datblygu, ac mae hon yn ffaith a adlewyrchir yn ein cynlluniau ariannol cadarn. Ceir sialensiau o hyd o ran y tir sydd ar gael ac o ran cymhlethdod gofynion cynllunio statudol, yn ogystal â safonau adeiladu statudol sy'n gymharol uwch ar gyfer cartrefi cymdeithasol yn arwain at gyfyngu'r allbwn mewn ffordd anfwriadol. Mae'n banc tir iach ac sy'n tyfu, a'n profiad cadarn o waith datblygu llwyddiannus, yn ein rhoi mewn sefyllfa dda i ymateb i'r sialensiau hyn. Mae trefniadau parhaus i ddiwygio budddaliadau lles yn parhau i herio fforddiadwyedd cartrefi. Mewn gwirionedd, mae modd i aneffeithlonrwydd prosesau danseilio egwyddorion canmoladwy'r Credyd Cynhwysol,
symlrwydd a chyfrifoldeb personol, ac mae gofyn i'r rhan fwyaf o bobl gael cymorth cychwynnol sylweddol er mwyn sicrhau pontio llwyddiannus. Yn ogystal, mae rhewi cyfraddau lwfans tai lleol a'r cynigion i gyfyngu taliadau budd-dal tai i'r cyfraddau hyn yn creu her bosibl sylweddol i nifer, a bydd gofyn gwneud gwaith cynllunio a gweithredu gofalus os ydym yn mynd i osgoi caledi gormodol. Mae cyflymder ac effaith y newidiadau posibl hyn ymhell o fod yn sicr. Fodd bynnag, hyd yn oed os daw'r proffwydoliaethau lleiaf ffafriol yn wir, mae'n gwaith dadansoddi ni yn dweud wrthym bod ein cynllun busnes yn parhau i fod yn gadarn, ac efallai nad yw hyn yn wir am y sector cyfan. Mae'n debygol y bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i sicrhau bod proses y Swyddfa Ystadegau Gwladol o ailddosbarthu cymdeithasau tai fel rhan o'r sector cyhoeddus, a fydd yn digwydd cyn bo hir, yn cael ei ddadwneud. Fodd bynnag, gallai colli rhai o'r enillion sylweddol a wnaethpwyd yn null gweithredu cyd-reoleiddio Llywodraeth Cymru, sydd wedi datblygu i fod yn gadarnhaol ac yn effeithiol dros y blynyddoedd diwethaf, fod yn un o sgil-effeithiau hyn, a allai fod yn niweidiol. Er ei bod yn iawn bod angen cael dull gweithredu cadarn tuag at sicrhau a barnu gwerth, mae'n angenrheidiol bod unrhyw ddulliau ac offerynnau barnu yn cynnwys arlliw er mwyn ymdopi â gwahanol fathau o stoc, oedran, cyflwr a modelau darparu gwasanaeth amrywiol. Mae'n sylfeini, dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar y cwsmer a pherthynas cydreoleiddio gadarn sy'n bodoli eisoes, yn ein rhoi mewn sefyllfa dda i gydweithio'n agos â Llywodraeth Cymru yn y dyfodol. Mae uchelgais gadarnhaol Llywodraeth Cymru’n amlwg i bawb, ac nid lleiaf o’r rhain yw’r dyhead am
20,000 O dai newydd yn ystod tymor y llywodraeth presennol.
4
Cyfanswm y stoc
835
Conwy
11,278
244
Sir Ddinbych
435
Wrecsam
988
EAE
Mae'n cymunedau wedi'u gwasgaru ar draws Cymru ac maent yn cynnwys cymunedau ymddeol, cynlluniau Gofal Ychwanegol, llety byw â chymorth a chartrefi eraill wedi'u teilwra i anghenion penodol ein preswylwyr, yn ogystal â'n tai a'n fflatiau anghenion cyffredinol. At ei gilydd, rydym yn darparu cartrefi ar gyfer dros 17,600 o bobl.
CARD CARD CON CON DENFLI DEN FLI CON DEN
SWAN Sir benfro
345
Ceredigion
Powys
898
915
VOG
WREX
Sir Gaerfyrddin
162
Merthyr
423
Caerffili
Abertawe
96
Anghenion cyffredinol Ymddeol  chymorth Perchentyaeth Gofal Ychwanegol
RCT
228
310
FLICARM MERCER POWPEM RCT
G
N
Sir y Fflint
Pen-y-bont ar Ogwr
1,396
WREX
DEN
FLI
Bro Morgannwg
CARM 566
MER
Caerdydd
3,437
POW
C
Gadarnhaol am y dyfodol gyda'i gilydd Dros 50 mlynedd, mae Tai Wales & West wedi tyfu i fod yn ddarparwr cartrefi gwirioneddol fforddiadwy cadarn ac effeithiol ac mae ganddi hanes i'w fawr chwennych o ddarparu ac uchelgais barhaus a chadarn i wneud gwahaniaeth i bobl ar gyfer y dyfodol. Mae brics a morter yn fuddsoddiad solet, felly rydym yn sicrhau bod ein cartrefi yn cael eu cynnal a'u cadw i safon dda a'u bod yn addas i breswylwyr. Mae'n uchelgais gennym i gynyddu nifer y cartrefi sydd ar gael i breswylwyr mewn lleoliadau trefol a gwledig, ac rydym yn ymdrechu i fanteisio ar gyfleoedd ar draws Cymru lle y gwyddom y gallwn wneud gwahaniaeth go iawn i bobl dros yr hirdymor. Ein nod yw rheoli ein busnes er mwyn sicrhau bod ein hadnoddau bob amser yn canolbwyntio ar dwf cynaliadwy, rhagor o gartrefi i ragor o bobl. Mae'r hyn sy'n bwysig i'n preswylwyr am ein gwasanaethau craidd a'r ffordd yr ydym yn eu darparu yn ffocws go iawn ni, oherwydd bod deall hyn yn cyfleu ein gwir bwrpas. Ein nod yw crisialu'r pwrpas hwn ar gyfer ein holl wasanaethau craidd a barnu ein perfformiad yn eu herbyn, gan gadw persbectif cwsmer 'o'r tu allan i mewn' bob amser. Mae cynorthwyo a galluogi preswylwyr
i gychwyn eu tenantiaethau'n dda ac i'w cynnal am gyfnod mor hir ag y maent yn dymuno'u cynnal, yn hanfodol er mwyn gwneud busnes da, ac mae'n hanfodol er mwyn creu cymunedau sy'n gweithio. Wrth uno gyda Thai Cantref yn ddiweddar, gwelwyd cryfderau'r ddwy gymdeithas yn cael eu dwyn ynghyd i ddarparu gwasanaethau cadarn a diogel, ac y maent yn cynnwys ffocws lleol ar gyfer y dyfodol. Bydd y ffocws ar wneud gwahaniaeth gyda'n gilydd yn gweld gwasanaethau'n datblygu, gan ddyfnhau'r gwreiddiau cadarn a welir eisoes yng Ngorllewin Cymru. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae twf Tai Wales & West fel grŵp wedi cynnwys y broses o greu is-gwmnïau er mwyn darparu gwasanaethau cynnal a chadw ac arlwyo yn llwyddiannus, ac yn fwy diweddar, gwasanaethau gofal a chymorth. Bydd y ffocws hwn ar ffyrdd arloesol o ddarparu gwasanaethau o ansawdd mewn ffordd effeithlon yn parhau dros y blynyddoedd i ddod. Rydym yn teimlo'n gadarnhaol am y dyfodol gyda'n gilydd ac rydym wedi ymrwymo i'r tasgau dan sylw, gan wneud gwahaniaeth, yn gryfach gyda'n gilydd.
Ein 5 blaenoriaeth Gyda'n gilydd
gwneud gwahaniaeth ar draws Cymru
Mwy o gartrefi y mae eu hangen ar bobl Bywydau cynnal tenantiaethau a chymunedau Gofal pobl wrth wraidd y gwaith Effeithlon busnes hyblyg ac ymatebol
Ein gweledigaeth yw: "sicrhau twf cynaliadwy cadarn er mwyn gwneud gwahaniaeth i fywydau, cartrefi a chymunedau pobl."
7
Gyda'n gilydd gwneud gwahaniaeth ar draws Cymru Yn ystod 2016, unodd Tai Wales & West a Thai Cantref, cymdeithas â thua 1500 o gartrefi fforddiadwy ar draws Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Phowys. Roedd Tai Cantref yn chwilio am bartner uno a oedd yn rhannu'r un ethos â hi ac yr oedd ganddo'r nerth a'r capasiti ariannol i ddatblygu ac i reoli cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel ar draws Gorllewin Cymru, a dewisodd Dai Wales & West fel y partner mwyaf addas. Mae gan Dai Wales & West brofiad cadarn o ddarparu a rheoli cartrefi gwirioneddol fforddiadwy mewn cymunedau gwledig yng Nghymru ac mae wedi gwneud ymrwymiad hirdymor i gyflogaeth leol, partneriaethau lleol a darparu'r hyn sy'n bwysig i breswylwyr. O'r swyddfa sefydledig yng Ngorllewin Cymru yng Nghastellnewydd Emlyn, byddwn yn cydweithio i ddatblygu'r gwasanaethau sy'n bodoli eisoes ac i ddarparu'r hyn sy'n bwysig i breswylwyr, gan sicrhau manteision sylweddol i gymunedau lleol.
lefel ranbarthol. Bydd mwy o weithgarwch ymgysylltu lleol gyda phreswylwyr yn sicrhau hefyd bod gwasanaethau'n cael eu cynllunio ar eu cyfer nhw, a gwneir ymrwymiad parhaus i'r iaith Gymraeg. Wrth gyflawni ei chynlluniau, mae Tai Wales & West yn awyddus i gefnogi busnesau lleol, gan fuddsoddi yn sgiliau a chyfleoedd staff. Mae'r cynlluniau'n cynnwys dull gweithredu cyson tuag at gynllunio a darparu gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar breswylwyr ar draws Cymru, gan sicrhau ein bod wastad yn cadw ein llygad ar y bêl ar draws ein holl gartrefi a gwasanaethau.
Bydd cynnydd o bum deg y cant yn y buddsoddiad yn ein cartrefi ar draws Gorllewin Cymru yn cynnwys gwaith trwsio o ddydd i ddydd a gwaith adnewyddu rhagweithiol, a bydd ffocws ac ysgogiad y gwasanaethau'n parhau i fod ar
Cynnydd o bum deg y cant i'r buddsoddiad yn ein cartrefi ar draws Gorllewin Cymru, gan gefnogi busnesau a chymunedau lleol. 8
Mwy
o gartrefi y mae eu hangen ar bobl Er bod y dyhead i gael cartref sy'n bodloni ein hanghenion ac y gallwn ei fforddio yn ddymuniad naturiol ynom oll, mae hyn yn rhywbeth sy'n mynd yn anoddach fyth i nifer o bobl. Mae modd i lai o bobl brynu ac mae costau rhentu preifat yn parhau i godi, gan olygu bod yr angen am gartrefi fforddiadwy yn uwch nag erioed.
68
8
Sir y Fflint
1 Conwy
19 Wrecsam
56
53 17 Ceredigion
Powys
18 8 Sir Benfro
Nifer y cartrefi newydd y maent bellach ar y safle yn barod i'w trosglwyddo yn 2016 (243)
11 Merthyr
28
Cartrefi newydd a gwblhawyd hyd yn hyn yn ystod 2016 (139)
35
Bydd defnyddio deunyddiau arloesol sy'n arbed ynni a fframiau o bren a dyfir yn y wlad hon yn rhan o'r rhaglenni gwaith, fel ein bod yn dysgu sut i arbed cymaint o ynni ag y bo modd ar gyfer ein preswylwyr, gan ddwyn manteision i'r economi leol a gwneud gwaith adeiladu mwy gwyrdd. Yn ogystal, byddwn yn dysgu sut i ddatblygu cartrefi i'w gwerthu er mwyn sicrhau incwm i ddatblygu rhagor o gartrefi gwirioneddol fforddiadwy.
30
Disgwylir i'r boblogaeth gynyddu mewn ardaloedd fel Caerdydd a Wrecsam, a cheir pwysau am gartrefi fforddiadwy mewn lleoliadau gwledig. Ein nod yw rheoli ein daliadau tir mewn ffordd ragweithiol er mwyn sicrhau ein bod yn berchen ar dir digonol yn yr ardaloedd cywir er mwyn ein galluogi i fanteisio ar gyfleoedd da i ddatblygu cartrefi newydd lle y mae'r angen amdanynt yn amlwg. Gan fuddsoddi £30 miliwn bob blwyddyn, bwriadwn gwblhau 200 o gartrefi bob blwyddyn, a thrwy gydweithio â datblygwyr a chynghorau lleol, ein nod yw codi nifer y cartrefi a adeiladir gymaint ag y bo modd.
30 Bro Morganwg
Bywydau
cynnal tenantiaethau a chymunedau Rydym yn fwy na landlord yn unig; rydym yn dymuno cynorthwyo a galluogi pobl i ffynnu yn eu cartrefi ac yn eu bywydau. Mae gan bobl amrediad o anghenion ymarferol wrth droi tŷ yn gartref, yn ogystal â'r ffaith bod angen ychydig gymorth arnynt weithiau i wella'u sgiliau ac i gyflawni eu huchelgais. Mae'n timau sy'n delio â chwsmeriaid yn gallu'ch helpu gyda'r ddwy agwedd hon, o gyngor ynghylch budd-daliadau a chyllidebu i gymorth gyda chyflogaeth neu hyfforddiant. Ein nod yw sicrhau bod y cymorth cywir ar gael er mwyn sicrhau y trefnir tenantiaethau mewn ffordd gywir yn y lle cyntaf. Wrth i'r trefniadau i ddiwygio budd-daliadau lles fynd rhagddynt ac wrth i amgylchiadau neu incymau preswylwyr newid, byddwn yn mabwysiadu ymagwedd o gynorthwyo, gan fanteisio ar adnoddau ein partneriaid a'n staff arbenigol a medrus ni i roi cyngor ynghylch dyled neu gyllidebu, i gynorthwyo mentrau neu grwpiau cymunedol neu i hwyluso hyfforddiant sgiliau, lleoliadau gwaith neu gyfleoedd cyflogaeth.
Er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau y mae preswylwyr yn eu cael yn gost-effeithiol ac yn cyfateb â'r rhai cywir iddyn nhw, byddwn yn adolygu pa wasanaethau ystadau yr ydym yn eu cynnal, gan ystyried yr hyn sy'n bwysig i breswylwyr am y gwasanaethau hynny, er mwyn gallu eu teilwra'n gywir i bob lleoliad. Ein nod yw creu cymdogaethau a chymunedau sy'n gweithio, ac i'r perwyl hwn, byddwn yn adolygu sut yr ydym yn cynorthwyo preswylwyr i ddatrys ymddygiad gwrthgymdeithasol a materion sy'n ymwneud â rheoli ystadau, gan fabwysiadu dull gweithredu cynhwysol ac adferol.
Gofal
pobl wrth wraidd y gwaith Ar ryw adeg yn ystod ein bywydau, rydym oll yn debygol o fanteisio ar wasanaethau gofal a chymorth er mwyn ein helpu i gyflawni ein dyheadau. Pan ddarparir y gwasanaethau hyn mewn ffordd ddi-dor law yn llaw â swyddogaeth landlord, mae modd i ansawdd cyffredinol y gwasanaeth weddnewid bywydau. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'n his-gwmni, Castell Ventures Ltd, wedi cofrestru gydag AGGCC ac mae wedi ennill contractau i ddarparu gwasanaethau gofal a chymorth mewn lleoliadau gofal ychwanegol a byw â chymorth lle y mae Tai Wales & West yn landlord hefyd. Byddwn yn parhau i ddatblygu gwasanaethau gofal a chymorth cydgysylltiedig ac effeithiol ar sail dealltwriaeth dda o'r hyn sy'n bwysig i breswylwyr yn y lleoliadau gofal ychwanegol a byw â chymorth newydd a sefydlwyd. Mae'n cynlluniau'n cynnwys cynnal hyfforddiant cynhwysfawr ar gyfer staff ar draws y busnes er mwyn eu galluogi ymhellach i ddeall ac i empatheiddio gyda chwsmeriaid, ac i herio unrhyw dybiaethau sydd ganddynt yn barod. Yn ogystal, byddwn yn ceisio datblygu gwasanaethau gofal a chymorth newydd i'n preswylwyr, yn ogystal â chydweithio mewn ffordd ehangach gyda Byrddau Iechyd Lleol ar ddatrysiadau ar y cyd.
Gofal a Chymorth Castell mewn rhifau Rydym yn darparu gwerth 356 awr o gymorth bob wythnos - a 7 sesiwn cysgu i mewn Mae gennym 11 aelod o staff (15 ychwanegol erbyn diwedd 2016)
Effeithlon busnes hyblyg ac ymatebol Mae technoleg yn datblygu'n gyflym yn ein byd ni heddiw. Mae'r rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol yn newid y ffordd yr ydym yn cyfathrebu yn gyflym a'r ffordd yr ydym yn gwneud busnes. Mae technoleg yn datblygu'n gynyddol trwy gyfrwng 'apiau' a systemau technoleg gwybodaeth hyblyg, y maent yn addasu i ofynion eu defnyddwyr. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Tai Wales & West wedi darparu cyfleuster wifi am ddim i breswylwyr pryd bynnag y bydd yn gosteffeithiol gwneud hynny, gan hwyluso'r ffordd i breswylwyr droi at y byd digidol yn y ffordd y maent yn dymuno troi ato. Cam wrth gam, mae cymwysiadau technoleg gwybodaeth newydd yn cael eu datblygu a'u cyflwyno er mwyn darparu'r swyddogaethau cywir i breswylwyr ac i staff rheng flaen. Bwriadwn barhau i ddatblygu cymwysiadau pwerus a hyblyg er mwyn rhoi'r ymarferoldeb cywir i ddefnyddwyr, gyda'r gallu i ddiwygio'r rhain yn hawdd wrth i anghenion defnyddwyr newid. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau bod ymarferoldeb ar gael i ffwrdd o swyddfeydd ac yng nghartrefi pobl, yn ogystal â chreu systemau rheoli asedau newydd er mwyn cadw ac adrodd am wybodaeth fanwl am eiddo. Mae technoleg effeithlon a hyblyg yn golygu darparu gwasanaeth wedi'i deilwra, lle y rhoddir y
flaenoriaeth i ddarparu'r hyn sy'n bwysig i gwsmeriaid, nid galluogrwydd ein systemau. Yn yr oes hon lle y mae dulliau cyfathrebu a chyfryngau cymdeithasol yn newid yn gyflym, ceir nifer o safbwyntiau croes ynghylch yr hyn sydd fwyaf effeithlon a chost-effeithiol. Byddwn yn adolygu cynnwys ac ymarferoldeb ein gwefannau ac yn gweithio gyda phreswylwyr ar eu dewisiadau cyfathrebu er mwyn sicrhau bod yr hyn sy'n bwysig i breswylwyr eu hunain yn sylfaen y gwaith o gynllunio offerynnau cyfathrebu a'r wefan.
Galluogwyd preswylwyr i gysylltu 1,602 o ddyfeisiau â'r rhyngrwyd (Awst 2016) Defnyddiwyd 4.5Tb o ystod rhyngrwyd gan breswylwyr (Awst 2016)
Sefyllfa ariannol gadarn Mae meddu ar sefyllfa ariannol gadarn yn caniatáu i ni wneud y buddsoddiadau cywir ar yr adeg gywir er budd ein preswylwyr, ac i ganlyn twf cadarn er mwyn darparu rhagor o gartrefi y mae cryn angen amdanynt. Ein baromedr effeithlonrwydd ariannol canolog yw 'arian rhydd a gynhyrchir', gan ei fod yn adlewyrchu perfformiad gweithredol, lefel y gweithgarwch ailfuddsoddi yn ein hasedau a llog ar ein benthyciadau. Dros y blynyddoedd diweddar, gwelwyd y rhan fwyaf o'r arian rhydd a gaiff ei sicrhau yn cael ei fuddsoddi yn ein cartrefi er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fodloni neu i ragori ar Safon Ansawdd Tai Cymru. Yn 2015, llwyddom i sicrhau ein mewnlif arian rhydd a gynlluniwyd, sef £1.5 miliwn, ac yn y dyfodol, bwriadwn gadw swm o £3 miliwn yn rhydd bob blwyddyn ar gyfartaledd, er mwyn rhoi cadernid i ni ymateb i sialensiau neu i fanteisio ar y gyfleoedd. Mae'r sefyllfa ariannol gadarn hon a'r lefelau gwarant da sydd ar gael i ni yn caniatáu i ni
Buddsoddi
£250 MILIWN
fenthyca am gyfnodau hir ar gyfraddau llog isel, ac i fanteisio ar gyllid ar ffurf grantiau er mwyn cyflawni ein cynlluniau. Mae'n cynllun ar gyfer y bum mlynedd nesaf yn cynnwys buddsoddi £250 miliwn mewn darparu 1,000 o gartrefi newydd a buddsoddi yn ein heiddo presennol, gan ddwyn ysgogiad economaidd sylweddol i gymunedau ar draws Cymru. Mae'n hamcanestyniadau'n cymryd y bydd rhenti'n parhau i godi yn uwch na chwyddiant, ac yn arbennig, ar raddfa o chwyddiant ac 1.5% tan fis Mawrth 2019, fel y cytunwyd yn flaenorol gyda Llywodraeth Cymru. Pe byddai'r ymrwymiad hwnnw i roi caniatâd i godi'r rhent yn cael ei ddiddymu (fel sydd wedi digwydd yn Lloegr), byddem yn cymryd camau adferol i sicrhau bod ein hyfywedd ariannol parhaus o'r pwys mwyaf. Rydym yn ddigon cryf i ymdopi ag ergydion o'r fath, ond byddai newidiadau sylfaenol yn golygu y byddai'n anos i ni gyflawni ein holl ddyheadau ar gyfer y dyfodol.
Darparu
1,000 O GARTREFI NEWYDD
Cyfrif incwm a gwariant Ar gyfer y blynyddoedd yn Gorffen ar 31 Rhagfyr Incwm Costau gweithredol Gwarged gweithredol Gwaith trwsio mawr Llog sy'n daladwy Gwarged net
2017
2018
2019
2020
2021
£m 49.8 (34.2) 15.6 (2.8) (7.5) 5.3
£m 52.7 (36.2) 16.5 (3.1) (8.3) 5.1
£m 55.7 (38.0) 17.7 (2.9) (9.8) 5.0
£m 58.6 (39.4) 19.2 (3.0) (10.6) 5.6
£m 61.5 (41.1) 20.4 (2.9) (11.1) 6.4
2017 £m 665.2 (116.7) 548.5 (290.5) (209.9) 16.5 64.6
2018 £m 703.0 (126.5) 576.5 (300.1) (225.5) 18.6 69.5
2019 £m 740.4 (137.0) 603.4 (312.1) (238.2) 21.1 74.2
2020 £m 776.8 (148.2) 628.6 (323.0) (250.1) 23.8 79.3
2021 £m 811.8 (160.0) 651.8 (333.9) (262.9) 30.2 85.2
50%
52%
53%
53%
53%
32%
32%
32%
32%
32%
Mantolen ar 31 Rhagfyr Cost eiddo gros Dibrisiant Cost net eiddo Grant tai Benthyciadau Asedau eraill Asedau net a chronfeydd wrth gefn Cymhareb Gerio (gwerth net) Cymhareb Gerio (cost eiddo gros)
2017 -2021 £m 278.3 (188.9) 89.4 (14.7) (47.3) 27.4
Llif Arian ar gyfer y blynyddoedd yn gorffen ar 31 Rhagfyr Llif arian net gan weithrediadau Taliadau llog net Gwariant cyfalaf amnewid Cydrannau amnewid Mewnlif arian rhydd Gwariant datblygu Grantiau All-lif arian net cyn ariannu Tynnu cyfleuster hysbys i lawr Gofyniad am gyfleuster ychwanegol Prif ad-daliadau benthyciadau Cynnydd / (gostyngiad) net mewn arian
Rhagdybiaethau
ar gyfer y blynyddoedd yn gorffen ar 31 Rhagfyr Chwyddiant Rhenti Cyflogau Costau cynnal a chadw CPI Cyllid Cyfradd fenthyca newydd Cyfradd grantiau Cwblhau tai
2017
2018
2019
2020
2021
£m 22.1 (7.4) (0.8) (10.6) 3.3 (21.4) 10.9 (7.2) 2.3 5.0
£m 23.5 (8.4) (0.7) (10.5) 3.9 (31.5) 12.0 (15.6) (15.0) 33.4
£m 25.3 (9.6) (0.7) (10.1) 4.9 (30.2) 12.6 (12.7) 0.0 15.5
£m 27.1 (10.5) (0.7) (10.5) 5.4 (26.7) 9.9 (11.4) (20.0) 34.3
£m 28.8 (11.1) (0.9) (10.8) 6.0 (27.0) 8.6 (12.4) 0.0 15.3
20172021 £m 126.8 (47.0) (3.8) (52.5) 23.5 (136.8) 54.0 (59.3) (32.7) 103.5
(2.8) (2.7)
(2.8) 0.0
(2.8) 0.0
(2.9) 0.0
(2.9) 0.0
(14.2) (2.7)
2017
2018
2019
2020
2021
Cynllun
Cynllun
Cynllun
2.9% 2.9% 3.0% 1.5%
3.6% 2.8% 3.5% 2.0%
3.2% 2.7% 3.5% 2.0%
3.0% 2.5% 3.5% 2.0%
3.0% 2.5% 3.5% 2.0%
3.9% 58% 131
4.4% 58% 229
5.0% 58% 198
5.2% 58% 195
5.4% 58% 140
Cynllun Cynllun
www.wwha.co.uk | contactus@wwha.co.uk @wwha |
wwhahomesforwales
| 0800 052 2526