1 minute read
PUMP UCHAF Y SELAR ARTISTIAID I’W GWYLIO yn 2023
Yn ddiweddar, fe wnaeth Gruffudd ab Owain fynd ati i ddewis artistiaid ifanc y dylai dilynwyr Y Selar gadw llygad arnyn nhw dros y flwyddyn i ddod. Dyma saith o’r rhai y dewisodd.
MAES PARCIO Mae’r band pync trwm o Gaernarfon ac Ynys Môn, Maes Parcio, eisoes yn gyfarwydd i ddarllennwyr Y Selar a hwythau wedi rhyddhau eu sengl gyntaf, ‘Sgen Ti Awydd’, ar label Inois cyn y Nadolig.
Advertisement
TESNI HUGHES Cerddor ifanc o Langefni, Ynys Môn ydy Tesni Hughes, sy’n sgwennu caneuon gwreiddiol ac yn perfformio ers ychydig o flynyddoedd ar hyd Gogledd Cymru, ac mae hi hefyd wedi gwneud ambell gig yn y De.
BLE? O Gaerdydd y daw’r grŵp Ble? ffurfiodd mewn pryd ar gyfer perfformio hyd a lled y brifddinas dros yr haf llynedd. Maen nhw’n dweud fod eu sain nhw hefyd wedi’i ddylanwadu gan “fandiau fel Frizbee, Band Pres Llareggub, Fountains of Wayne ag Alffa.”
FRANCIS REES “Mae fy miwsig yn dream pop gyda ‘chydig o indie; dwi’n defnyddio fy MIDI Keyboard i gynhyrchu popeth,” esbonia Beth Pugh o Dywyn, Meirionnydd sy’n perfformio dan yr enw Francis Rees.
TALULAH THOMAS Daw’r cyfansoddwr a’r dylunydd sain Talulah Thomas o ardal Llangollen, ond mae hefyd yn ymgartrefu yng Nghaergrawnt.
MYNADD O ardal Y Bala daw’r grŵp newydd, Mynadd, sydd wedi ffurfio yn ystod y misoedd diwethaf. “Ar hyn o bryd, ‘den ni’n arbrofi wrth i ni drio ffeindio’n sain, ond ‘den ni hefyd yn hoffi’r syniad o ‘neud ‘chydig bach o bob dim,” meddai’r prif leisydd Elain.
CAI Prosiect cerddorol Osian
Cai yw Cai, a ddechreuodd yn y cyfnod clo 2020. Esbonia fod ei gynnyrch hyd yma “yn cyd-fynd â steil bedroom pop / dream pop.
Cadwch olwg am yr artistiaid yma yn ystod 2023!
GEIRFA pync – punk (cerddoriaeth drwm – lot o sŵn!) cyfnod clo – lockdown
Yr Iseldiroedd – The Netherlands senglau – singles (rhyddhau un trac ar ben ei hun) reslwr – wrestler