Rhaglen Haf 2019 - Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Page 1

haf 2019 aberystwytharts @aberystwytharts @aberystwytharts

Mai - Awst 01970 62 32 32 artstaff@aber.ac.uk www.aberystwythartscentre.co.uk


Gwybodaeth p.3 & p.44 Bwyta a Siopa p.4 Sinema a Sgriniadau Byw p.6 Perfformiadau a Digwyddiadau p.10 Cerddoriaeth Fyw p.18 Comedi p.23

Arddangosfeydd p.26 Stiwdios Creadigol p.33 Dysgu Creadigol p.34 Gweithdai Arbennig a Phrosiectau Cymunedol p.42 Dyddiadur p.45

Canolfan y Celfyddydau Prifysgol Aberystwyth SY23 3DE

Llun - Sad - 10am - 8pm Sul - 1.30 - 5.30pm

Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn adran o Brifysgol Aberystwyth ac yn rhan o Athrofa’r Celfyddydau a’r Dyniaethau. -----------------------------------------------------------------Cydnabyddir Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth gan Gyngor Celfyddydau Cymru fel Canolfan Ranbarthol y Celfyddydau. -----------------------------------------------------------------Mae Canolfan y Celfyddydau’n ddiolchgar i’r canlynol am eu cymorth ariannol: Cyngor Celfyddydau Cymru, Prifysgol Aberystwyth a Chyngor Sir Ceredigion. Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn aelod o Greu Cymru.

gwybodaeth

neuadd fawr

AUDITORIUM SEATING BALCONY SEATING WHEELCHAIR SPACE DOOR

35

36

37

38

39

40

41

42

35

36

37

38

39

40

41

42

35

36

37

38

39

40

41

42

35

36

37

38

39

40

41

42

35

36

37

38

39

40

41

42

35

36

37

38

39

40

41

42

36

37

38

39

40

41

42

Y

X

W V

U

E 34

34

34

34

33

33

33

33

32

32

32

32

31

31

31

30

30

29

F

34

34

34

33

33

33

32

32

32

31

31

31

31

30

30

30

30

29

29

29

29

28

28

28

28

27

27

27

26

26

Y

43

44

45

46

47

48

49

50

43

44

45

46

47

48

49

50

43

44

45

46

47

48

49

50

51

52

53

54

55

56

57

43

44

45

46

47

48

49

50

51

52

53

54

55

56

57

43

44

45

46

47

48

49

50

51

52

53

54

55

56

57

59

60

61

62

63

64

65

58

59

60

61

62

63

64

65

58

59

60

61

62

63

64

65

V

58

59

60

61

62

63

64

U

58

59

60

61

62

63

64

65

58

59

60

61

62

63

64

65

58

59

60

61

62

63

64

U

BALCONI CANOL

U

58

X

W

65

D 69

69

69

70

70

70

71

71

71

72

72

30

73

29

29

28

28

28

27

27

27

27

26

26

Y X W V

26

26

26

U T S

25

25

25

25

25

25

25

24

24

24

24

24

24

23

23

23

23

23

23

22

22

22

22

22

22

22

21

21

21

21

21

21

21

20

20

20

20

20

20

20

19

19

19

19

19

19

19

18

18

18

18

18

18

18

17

17

17

17

17

17

17

16

16

16

16

16

16

16

15

15

15

15

15

15

14

14

14

14

14

13

13

13

13

12

12

12

11

11

10

B

T

S

1

2

3

4

5

6

1

2

3

4

5

6

1

2

3

4

5

6

1

2

3

4

5

6

24

1

2

3

4

5

6

23

1

2

3

4

5

6

1

2

3

4

5

6

1

2

3

4

5

6

1

2

3

4

5

6

1

2

3

4

5

6

43

44

45

46

47

48

49

50

51

52

53

54

55

56

57

43

44

45

46

47

48

49

50

51

52

53

54

55

56

57

R

Q P

7

8

9

10

11

12

13

14

15

16

17

18

19

20

7

8

9

10

11

12

13

14

15

16

17

18

19

20

7

8

9

10

11

12

13

14

15

16

17

18

19

20

7

8

9

10

11

12

13

14

15

16

17

18

19

20

7

8

9

10

11

12

13

14

15

16

17

18

19

20

7

8

9

10

11

12

13

14

15

16

17

18

19

20

7

8

9

10

11

12

13

14

15

16

17

18

19

20

7

8

9

10

11

12

13

14

15

16

17

18

19

20

7

8

9

10

11

12

13

14

15

16

17

18

19

20

P

26

73

73

73

74

74

74

74

74

74

74

75

75

75

75

75

75

75

76

76

76

76

76

76

76

77

77

77

S T U

77

77

77

V W X Y

77

78

78

78

78

78

78

78

22

23

24

25

26

79

79

79

79

79

79

79

22

23

24

25

26

80

80

80

80

80

80

80

21

22

23

24

25

26

81

81

81

81

81

81

81

21

22

23

24

25

26

82

82

82

82

82

82

82

83

83

83

83

83

83

83

21

22

23

24

25

26

84

84

84

84

84

84

84

21

22

23

24

25

26

85

85

85

85

85

85

85

86

86

86

86

86

86

86

87

87

87

87

87

87

87

15

88

88

88

88

88

88

88

14

14

89

89

89

89

89

89

89

13

13

13

90

90

90

90

90

90

90

12

12

12

12

91

91

91

91

91

91

91

11

11

11

11

11

92

92

92

92

92

92

92

10

10

10

10

10

10

93

93

93

S T U

93

93

93

V W X Y

93

9

9

9

9

9

9

9

94

94

94

94

94

94

94

8

8

8

8

8

8

8

95

95

95

95

95

95

95

7

7

7

7

7

7

7

96

96

96

96

96

96

96

6

6

6

6

6

6

6

97

97

97

97

97

97

97

5

5

5

5

5

5

5

98

98

98

98

98

98

4

4

4

4

4

4

4

99

99

99

99

99

99

99

3

3

3

3

3

3

3

100

100

100

100

100

100

100

2

2

2

2

2

2

2

101

101

101

101

101

101

101

1

1

1

1

1

1

1

102

102

102

102

102

102

102

H

20

25

73

21

6

19

24

73

21

5

18

23

72

73

26

4

17

22

72

25

3

16

21

A

72

24

2

15

26

72

23

1

14

25

71

72

22

I

13

24

70

71

21

J

12

23

69

70

71

26

K

11

22

69

70

71

25

L

10

Q

21

69

70

24

N

9

R

69

23

M

8

S

C

22

O

7

T

21

Y X W V

Lleolir Canolfan y Celfyddydau yng nghanol campws Prifysgol Aberystwyth. Rydych yn troi i mewn i’r campws oddi ar yr A487 ar y ffordd i’r gogledd o ganol tref Aberystwyth. Ceir arwyddion clir. Gellir parcio ger y Ganolfan am ddim o 5pm ymlaen gyda’r nos a thrwy’r amser ar benwythnosau.Codir tâl bychan yn ystod y dydd.

Pe hoffech gopi o’r llyfryn hwn mewn print mawr ffoniwch 01970 623232 neu e-bostiwch artstaff@aber.ac.uk.

7

8

9

10

11

12

13

14

15

16

17

18

19

20

O N

M L

K J I

H

21

22

23

24

25

26

U T S

LWYFAN

theatr 3

S

R

1

Q

P

O

N

1

K I G

1

5

6

7

8

9

10

11

12

13

14

15

16

17

18

2

3

4

5

6

7

8

9

10

11

12

13

14

15

16

17

18

19

20

21

2

3

4

5

6

7

8

9

10

11

12

13

14

15

16

17

18

19

20

21

3

4

5

6

7

8

9

10

11

12

13

14

15

16

17

18

19

20

21

22

4

5

6

7

8

9

10

11

12

13

14

15

16

17

18

19

20

21

22

3 2

4 3

5 4

6 5

3 2

2 2

5 4

3 3

5 4

4

3

7 6

6 5

5

4

5

6 7

6 6

8

10

9

10

11

12

11

13

14

15

16

17

20

18

21

19

18

18

P

O

N

23

21

M

22

L

19 18

20 19

18

22

20

17

17 17 17

19

17

16

16 16 16

18

16

15

15 15 15

17

15

14

14 14 14

16

14

13

13 13 13

15

13

12

12 12 12

14

12

11

11 11

10

13

11

10

10 10

9

12

10 9

9 9

8

11

9 8

8 8

7

9 8

7

7 7

6

8 7

19

21 20

19

20

22 21

20

21

23 22

21

1

Q

3

2

R

22

2

2

1 1

4

2

1 1

H

3

L

J

4

S

2

1

1

98

SINEMA

1

1 1

M

BALCONI DWYREINIOL

Tocynnau: 01970 62 32 32 artstaff@aber.ac.uk www.aberystwythartscentre.co.uk

Dylunio: www.paddyomalleydesign.com Llun clawr: Saoirse Morgan

BALCONI GORLLEWINOL

cynnwys

22 22

23

2

3

4

5

6

7

8

9

10

11

12

13

14

15

16

17

18

19

20

21

22

23

F

1

2

3

4

5

6

7

8

9

10

11

12

13

14

15

16

17

18

19

20

21

K

24

J

23 23

24

H

24 24

F

2

25

I G

F E D

G

H

H

15

14

13

12

11

10

9

8

7

6

5

4

3

2

1

G

17

16

15

14

13

12

11

10

9

8

7

6

5

4

3

2

1

17

16

15

14

13

12

11

10

9

8

7

6

5

4

3

2

1

17

16

15

14

13

12

11

10

9

8

7

6

5

4

3

2

1

15

14

1

C

C

B

13 12

A

12 11

11 10

9

10 9

8

9 8

7

8 7

6

7 6

5

6 5

4

5 4

3

4 3

2

3 2

1

2 1

A

B

F E D

SGRIN

LLWYFAN

2

3


Bwyta a Siopa Sioe a Swper Gallwn ‘nawr gynnig i aelodau’n cynulleidfa swper y gellir ei harchebu ar yr un amser â’ch tocynnau. 2 gwrs a diod/hufen iâ yn ystod yr egwyl am £9.95 Edrychwch allan am y logo arbennig yn ein llyfryn i weld pa sioeau y gallwch archebu swper i gydfynd â nhw. Cysylltwch â’r swyddfa docynnau am ragor o fanylion.

caffis

----------------------------

Llun–Sadwrn 9am–8pm, Sul 12–5pm. Prydau poeth ar gael 12–2pm a 5.30–7.30pm Dydd Llun tan Dydd Sadwrn. Mae’n caffis poblogaidd yn cynnig dewis da o saladau, prydau poeth a byrbrydau ffres, a gwahanol fathau o ddiodydd. Bydd talebau ar gael sy’n cynnig pryd a diod am bris arbennig pan ‘rydych yn prynu tocynnau ar gyfer sioeau penodol.

Bar -------

Dydd Llun–Gwener 12 tan hwyr / Sadwrn 5pm tan hwyr. Cofiwch archebu eich diodydd i’r egwyl o flaen llaw - i osgoi ciwio! ‘Does dim rhaid i chi fod yn fynychwr theatr i fwynhau noson wych yn awyrgylch hyfryd bar Theatr y Werin. Awr Hapus Llun i Gwener 4-6yh

Siop Grefft a Dylunio Llun – Sadwrn 10am – 8.15pm. Sul 12 – 5.30pm Mae’r siop grefftau a dylunio yn cynnig dewis ardderchog ar gyfer pob achlysur, os ‘rydych am sbwylio’ch hun neu’n edrych am yr anrheg arbennig honno ar gyfer ffrindiau a theulu. Mae’r siop yn stocio serameg stiwdio, printiau gan artistiaid lleol, swfenirau o Aberystwyth yn ogystal ag amrediad gwych o lestri cyfoes, deunyddiau ysgrifennu, cardiau a gemwaith. A ydych yn creu Celf neu Grefft yng Nghymru? Gofynnwch am fanylion am Ffair Grefft ac Anrhegion y Gaeaf!

TOCYNNAU ANRHEG CANOLFAN Y CELFYDDYDAU: YR ANRHEG BERFFAITH I RYWUN SY’N MWYNHAU CELF A’R THEATR

Anrheg ddelfryfol ar gyfer ffrindiau a theulu – ar gael fel tocynnau £1, £5 neu £10 a gellir eu prynu ar ein system tocynnu ar-lein, ein e-siop, neu mewn person yn y Swyddfa Docynnau, y Siop Grefft a Dylunio neu’r Siop Lyfrau. Gellir eu defnyddio yn y Swyddfa Docynnau, y ddwy siop a’r Oriel. Edrychwch allan am Gerdyn Rhodd Aber!

Collectorplan: gwasanaeth credyd di-log i’ch helpu i brynu celf a chrefft gyfoes yng Nghymru.

Siop Lyfrau

----------------------------------------------

Llun–Sadwrn 10am–6pm 01970 628697 / bookshop@aber.ac.uk

GIAD GOSTYNr fwyd a O 10% nolfan y a yng Nghau os ydych d Celfyddy gos tocyn i yn dan diad yn y ddigwydolfan. Gan

4

Dyma siop flaenllaw Aberystwyth o safbwynt yr amrediad o deitlau academiadd ac eraill, yn stocio cymysgedd eclectig at ddant pawb! Hefyd mae gennym wasanaeth archebu prydlon ar gyfer unrhyw ofynion arbennig. Mae’r siop lyfrau ar gael yn ystod y noson i gynnal digwyddiadau megis lansio llyfrau, nosweithiau barddoniaeth, anerchiadau a nosweithiau cymdeithasol. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Hannah Poland bookshop@aber.ac.uk Staff a Myfyrwyr y Brifysgol - Gostyngiad o 10% ar bris llawn pob llyfr academaidd

LLUN: KEITH MORRIS

Cyfeillion Canolfan y Celfyddydau Mae Cyfeillion Canolfan y Celfyddydau yn fudiad a yrrir gan y gymuned. Ei bwrpas yw cefnogi Canolfan y Celfyddydau gydag amryw fenter gan gynnwys ymgyrchoedd codi arian a gweithgareddau hyrwyddo. Mae aelodaeth yn ddi-dal. Crewyd y mudiad gan ddymuniad ar ran y

gymuned yn Aberystwyth i gydnabod Canolfan y Celfyddydau fel sefydliad o’r safon uchaf gyda dylanwad enfawr ar y gymuned leol a thu hwnt. Mae Cyfeillion Canolfan y Celfyddydau yn chwilio I gefnogi’r Ganolfan mewn unrhyw ffordd bosibl y gellir ei dychmygu. Mae’r noddwyr yn cynnwys Taron Egerton, Jacob Ifan, Gillian Clarke, John Metcalf, Shani Rhys James, Yr Athro John Andrews a Stephen West. Mae Cyfeillion Canolfan y Celfyddydau yn elusen gofrestredig. Os hoffech ddod yn Gyfaill Canolfan y Celfyddydau, ewch artscentrefriends.co.uk 5


Sinema a Sgriniadau Byw

Sinema a Sgriniadau Byw

Mae sinema brysur y Ganolfan yn arddangos cymysgedd o ffilmiau newydd, sinema’r byd, clasuron, 3D, sinema gyfoes a dolenni byw i weithgareddau celf blaenllaw o bedwar ban y byd! Cyhoeddir ein rhaglen yn fisol fel y gallwn gael mynediad i’r ffilmiau diweddaraf - gwelir manylion llawn ar ein gwefan, neu godwch un o’n taflenni sinema arbennig. Dangosir ffilmiau bob dydd gyda ffilmiau prynhawn rheolaidd yn cynnwys ein Sgriniadau Arian poblogaidd yn ogystal â’n Sgriniadau Rhieni a Babis rheolaidd. Mae’n bleser gennym hefyd gynnig disgrifiadau clywedol, sgriniadau ar gyfer y sawl sy’n drwm eu clyw a sgriniadau ymlaciol ar gyfer cwsmeriaid sydd ag anghenion mynediad ychwanegol. Mae ein ‘Dolenni Byw’ cyffrous i gynyrchiadau o Theatr Genedlaethol Lloegr, y Cwmni Shakespeare Brenhinol, Bale’r Bolshoi a’r Met yn Efrog Newydd yn boblogaidd iawn gyda’n cynulleidfaoedd - fe’ch cynghorir i archebu’n gynnar!

BALE’R BOLSHOI YN FYW

CARMEN SUITE / PETRUSHKA 4pm, Dydd Sul 19 Mai £17 (£15, £10) NT YN FYW

AN AMERICAN IN PARIS 7pm, Nos Fawrth 7 Mai £17 (£15, £10) Yn dilyn ei llwyddiant ysgubol mewn sinemâu ledled y byd yn 2018, mae’n bleser mawr gennym ddod ag An American in Paris yn ôl i’r sgrîn fawr yn 2019. Gyda thonau hyfryd Gershwin (yn cynnwys y ffefrynnau clasurol ‘S Wonderful ac I Got Rhythm), dyluniadau syfrdanol a choreograffi anhygoel, ysbrydolwyd y sioe gerdd newydd fendigedig hon gan y ffilm MGM a enillodd wobr Oscar® ac mae’n adrodd y stori angerddol am filwr Americanaidd yn darganfod celf, cyfeillgarwch a serch yn y ‘Ddinas Oleuni’ ym 1945. Recordiwyd fel pe bai’n fyw. 155munud. 6

ALL MY SONS NY MET YN FYW

DIALOGUES DES CARMÉLITES 5pm, Nos Sadwrn 11 Mai £20 (£18, £12) Yannick Nézet-Séguin sy’n arwain cynhyrchiad clasurol John Dexter yn seiliedig ar stori ysgubol Poulenc am ffydd a merthyrdod. Mae’r mezzo-soprano Isabel Leonard yn canu rôl deimladwy Blanche ac mae’r soprano enwog Karita Mattila yn dychwelyd i’r Met fel y Briores. Cyflwynir portread aruthrol Poulenc yn fyw mewn HD am y tro cyntaf. 200 munud, i’w gadarnhau.

7pm, Nos Fawrth 14 Mai (yn fyw) & Nos Fercher 29 Mai (encôr) | £17 (£15, £10) Yn cael ei darlledu’n fyw o’r Old Vic yn Llundain, mae’r enillydd Gwobr Academi Sally Field (Steel Magnolias, Brothers & Sisters) a Bill Pullman (The Sinner, Independence Day) yn serennu yn nrama chwilboeth Arthur Miller, All My Sons. America, 1947. Er gwaethaf dewisiadau anodd ac ergydion anoddach byth, mae stori Joe a Kate Keller yn un llwyddiannus. Jeremy Herrin (NT yn Fyw: This House, People, Places & Things) sy’n cyfarwyddo cast sy’n cynnwys Jenna Coleman (Victoria), a Colin Morgan (Merlin). Mae All My Sons yn gynhyrchiad ar y cyd rhwng yr Old Vic ac Headlong. Amser rhedeg 165munud, i’w gadarnhau.

Mae Carmen yr un mor angerddol a phenderfynol ag erioed wrth iddi ffeindio’i hun yng nghanol triongl serch. Bydd y bale un-act deimladwy hwn gan y coreograffydd o Giwba Alberto Alonso, a ddyfeisiwyd yn wreiddiol ar gyfer prif ddawnswraig enwog y Bolshoi Maya Plisetskaya, yn swyno cynulleidfaoedd ochr yn ochr â Petrushka, creadigaeth newydd ar gyfer y Bolshoi gan y coreograffydd cyfoes Edward Clug, mewn noson sy’n ymgrynhoi enaid Bale Rwsiaidd. Tua 140 munud.

RSC YN FYW

THE TAMING OF THE SHREW 7pm, Nos Fercher 5 Mehefin £17 (£15, £10) Yn y flwyddyn 1590 a ailddychmygir, mae Lloegr yn fatriarchaeth. Mae Baptista Minola yn ceisio gwerthu ei mab Katherine i’r cynigiwr uchaf. Mae brwydr ffrwydrol rhwng y rhywiau yn dilyn yn y stori serch chwilboeth hon. Mae Justin Audibert (Snow in Midsummer, The Jew of Malta) yn troi comedi egnïol, ffyrnig Shakespeare am ryw a materoliaeth ar ei phen gan gynnig persbectif ffres ar ei phortread o hierarchaeth a phŵer. Amser rhedeg i’w gadarnhau.

TAKE THAT: GREATEST HITS LIVE 8pm, Nos Sadwrn 8 Mehefin £17 (£15, £10) Mae’n swyddogol - Mae Take That yn dod â’u taith Hoff Ganeuon 2019 i sinemâu am un noson yn unig, YN FYW ar Nos Sadwrn 8 Mehefin o Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd! Yn dathlu penblwydd y grŵp yn 30 oed, mae’r bechgyn yn barod i gyflwyno eu sioe fwyaf cyffrous hyd yma, yn llawn ffefrynnau’r ffans yn ymestyn dros dri degawd. Gyda sioeau blaenorol yn nodweddu waliau o ddŵr, hologramau anferth, eliffant mecanyddol enfawr a charwsél o ddawnswyr gydag aelodau’r band yn hongian o’r awyr, ni allwn aros i weld beth sydd gan Gary, Mark ac Howard mewn golwg ar gyfer y sioe arbennig hir-ddisgwyliedig hon! 150 munud.

GLÔB SHAKESPEARE YN FYW THE MERRY WIVES OF WINDSOR 7.20pm, Nos Iau 20 Mehefin £17 (£15, £10) Ceir digonedd o ystyron deublyg a chuddwisgoedd yn The Merry Wives of Windsor wrth i Syr John fynd ati i wella ei sefyllfa ariannol trwy geisio llaw’r Feistres Page a’r Feistres Ford. Ond yn fuan iawn mae’r ‘Gwragedd Llon’ yn dod i ddeall ei driciau ac yn penderfynu cael dipyn o hwyl eu hunain ar draul Falstaff … Tua 180 munud. 7


Sinema a Sgriniadau Byw

Sinema a Sgriniadau Byw NT YN FYW

NT YN FYW

SMALL ISLAND (15) 7pm, Nos Iau 27 Mehefin £17 (£15, £10) Addaswyd gan Helen Edmundson. Yn seiliedig ar y nofel gan Andrea Levy. Daw nofel arobryn Andrea Levy i fywyd mewn addasiad theatr newydd epig. Profwch y ddrama mewn sinemâu, wedi’i recordio’n fyw ar lwyfan fel rhan o 10fed benblwydd Theatr Genedlaethol Lloegr yn Fyw. Mae Small Island yn mynd â chi ar daith o Jamaica i Brydain, trwy’r Ail Ryfel Byd hyd at 1948 - y flwyddyn y bu’r HMT Empire Windrush yn glanio yn Tilbury. Mae’r ddrama’n dilyn tair stori sydd wedi eu cysylltu’n gywrain.

GLYNDEBOURNE

THE LEHMAN TRILOGY

SINDERELA [CENDRILLON]

7pm, Nos Iau 25 Gorffennaf. Encôr: 7pm, Nos Iau 8 Awst £17 (£15, £12)

5.30pm, Nos Sul 30 Mehefin £17 (£15, £10) Mewn cynhyrchiad newydd sbon a gyfarwyddir gan yr actores a chyfarwyddwraig uchel ei pharch Fiona Shaw (Harry Potter, Killing Eve), adroddir stori glasurol Sinderela gyda sgôr synhwyrus a chyfoethog y cyfansoddwr Massenet. Chwaraeir rôl y teitl gan un o ffefrynnau Glyndebourne, y seren ryngwladol Danielle de Niese, yn yr opera ddisglair a lliwgar hon. ‘Mae Fiona Shaw...yn troi’r cymysgedd finde-siècle hwn i mewn i stori dylwyth teg fodern gymhleth, stori am drawsffurfiad seicolegol.’ - Y Times

WESTLIFE: THE TWENTY TOUR LIVE 8pm, Nos Sadwrn 6 Gorffennaf £17 (£15, £10) Mae Westlife yn ôl! Mae’n 20 mlynedd ers i’r band ifanc talentog ruthro i mewn i’r siartiau gyda’u record Rhif 1 cyntaf ac ‘nawr mae eu taith aduniad hir-ddisgwyliedig – a werthodd allan mewn munudau - yn dod i sinemâu ledled y byd. Yn cael ei darlledu’n FYW bydd ‘The Twenty Tour’ yn nodweddu Shane, Nicky, Mark a Kian yn perfformio eu cerddoriaeth newydd sbon, yn ogystal â phob un o’u pedair cân ar ddeg a gyrhaeddodd dop y siartiau yn y DU. Tua 120 munud.

GLYNDEBOURNE

BARBWR SEVILLE (IL BARBIERE DI SIVIGLIA) [RECORDIWYD] 7pm, Nos Lun 15 Gorffennaf | £17 (£15, £10) Ceir digonedd o ddireidi a llanast llwyr yng nghomedi fwyaf poblogaidd Rossini. Mae Figaro, Barbwr enwog Seville, yn meddu ar gyfrwystra heb ei ail. Rhoddir bywyd newydd i’w egni chwareus yng nghynhyrchiad disglair a bywiog y gyfarwyddwraig Annabel Arden. Hefyd dyma gyfle arall i weld Danielle de Niese wrth iddi ymgymryd â rôl y Rosina benderfynol. 8

Hanes teulu a chwmni wnaeth newid y byd, wedi’i adrodd mewn tair rhan dros un noswaith. Mae’r enillydd Gwobrau Oscar Sam Mendes (Skyfall, The Ferryman) yn cyfarwyddo Simon Russell Beale, Adam Godley a Ben Miles sy’n chwarae’r Brodyr Lehman, eu meibion a’u hŵyrion. Mae’r ddrama glodfawr hon, a enwebwyd 5 gwaith ar gyfer Gwobr Olivier, yn cynnwys dylunio set gan Es Devlin (NT Live: Hamlet) a bydd yn cael ei darlledu’n fyw o West End Llundain fel rhan o ddathliadau 10 mlynedd National Theatre Live. Gan Stefano Massini, addasiad gan Ben Power. Cyfarwyddwyd gan Sam Mendes.

CYNGERDD MAASTRICHT 2019 ANDRE RIEU: SHALL WE DANCE 7pm, Nos Sadwrn 27 Gorffennaf & 3pm Dydd Sul, 28 Gorffennaf £17 (£15, £10) Byddwch yn barod i gael eich swyno’n llwyr gan y dathliad hudolus hwn o ddawns ar y sgrîn fawr o foethusrwydd eich sedd yn y sinema. Ymunwch ag André Rieu, ei Gerddorfa Johann Strauss, sopranos o’r safon uchaf, Tenoriaid Platin a gwesteion arbennig mewn profiad sinema unigryw. Bydd cynulleidfaoedd yn mwynhau cynnwys o’r tu ôl i’r llwyfan a chyfweliad arbennig gydag André ac fel arfer, ychydig o syrpreisys hyfryd. Tua 145 munud yn cynnwys egwyl.

GLYNDEBOURNE

Y FFLIWT HUDOL [DIE ZAUBERFLÖTE] 5.30pm, Nos Sul 4 Awst £17 (£15, £10) Mae comedi fwyaf hudolus Mozart, Y Ffliwt Hudol, yn dychwelyd i Glyndebourne am y tro cyntaf mewn dros ddegawd. Mae’r cynhyrchiad newydd hwn gan y deuawd cyfarwyddo/dylunio enwog Barbe & Douce yn addo i gymryd golwg ffres a chwareus ar themâu cythryblus yr opera. Mae’r bas Prydeinig blaenllaw Brindley Sherratt yn serennu fel Sarastro ochr yn ochr â chantorion ifanc cyffrous yn cynnwys Caroline Wettergreen, Sofia Fomina a Björn Bürger.

RSC YN FYW

MEASURE FOR MEASURE 7pm, Nos Fawrth 6 Awst | £17 (£15, £10) “At bwy y dylwn i gwyno?” Pan mae lleian newydd ifanc yn cael ei chyfaddawdu gan swyddog llygredig, sy’n cynnig achub ei brawd rhag cael ei ddienyddio os ydi hi’n cytuno cael cyfathrach rywiol ag ef, ‘does ganddi ddim syniad lle i droi am gymorth. Pan mae hi’n bygwth datgelu’r gwir amdano, mae’n dweud wrthi na fydd neb yn ei chredu. Ysgrifennodd Shakespeare y ddrama hon yn y 1600au cynnar, ac eto mae hi yr un mor berthnasol heddiw ag erioed. Y Cyfarwyddwr Artistig Gregory Doran sy’n cyfarwyddo’r cynhyrchiad newydd hwn. 9


Perfformiadau a Digwyddiadau

Perfformiadau a Digwyddiadau

LIGHTHOUSE THEATRE GYDA CHANOLFAN GELFYDDYDAU PONTARDAWE

THE KAISER AND I 7.45pm, Nos Wener 3 Mai £10 (£8) Dwy ddrama un-act gan Stuart Fortey THE KAISER AND I Berlin 1914. Mae Ewrop ar fin mynd i ryfel. Mae meistres ddawnsio’r Caiser yn aros am ei disgybl. Mae ei fyddin yn aros am eu gorchmynion. Gadewch i’r dawnsio ddechrau …. Cofnod comig tyner am gyfeillgarwch anghyffredin ar draws y gwahaniad.

CYSYLLTIADAU THEATR GENEDLAETHOL LLOEGR 2019

ON SCARBOROUGH FRONT Scarborough, Swydd Efrog, 1917 Mae milwr ifanc, Wilfred Owen, yn gwella o’i anafiadau mewn gwesty yn Scarborough. Yno, mae’n cyfarfod â’r Lefftenant-Cyrnol Gray, uwch swyddog sy’n wynebu ei ddemoniaid ei hun.

Dydd Sadwrn 4 Mai Pas yr Ŵyl: £24 (£20)

Cyfarwyddwr Joe Harmston Cyfansoddwr Andrew Griffiths gyda chymorth Tŷ Cerdd

Bob blwyddyn mae’r Theatr Genedlaethol yn comisiynu deg drama newydd i gael eu perfformio gan bobl ifanc, gan ddod â rhai o ysgrifenwyr mwyaf cyffrous y DU a pherfformwyr y dyfodol at ei gilydd. Mae 300 o gwmnïau theatr ieuenctid a thros 6,000 o bobl ifanc o bob rhan o’r DU yn cynhyrchu drama fel rhan o’r Ŵyl eleni. Y tair drama a berfformir yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth yw: Ysgol Aberconwy The Sad Club gan Luke Barnes Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth Stuff gan Tom Wells Ysgol Church Stretton Chaos gan Laura Thomas 10

POWDERHOUSE MEWN CYDWEITHREDIAD Â THEATR SHERMAN A THEATR GENEDLAETHOL CYMRU

SAETHU CWNINGOD 7.30pm, Nos Iau 9 Mai £10 (£8) Os gallaf saethu cwningod, gallaf saethu ffasgwyr. Wrth adael cartref yng nghanol nos, mae dyn ifanc yn teithio i Sbaen i frwydro dros ei gredoau. Yn ddihyfforddiant, yn ddibrofiad ac yn hollol amharod, mae’n wynebu dewis rhwng delfrydiaeth a gweithred. Fyddech chi’n mentro popeth dros ddemocratiaeth? Mae cerddoriaeth fyw a delweddau trawiadol yn gymysg â Chymraeg, Saesneg, Sbaeneg a Basgeg wrth ymchwilio i’r berthynas rhwng Cymru ac Ewrop mewn argyfwng.

CIRKUS XANTI & CHYNYRCHIADAU ALI WILLIAMS

AS A TIGER IN THE JUNGLE 2.30pm & 7.30pm, Dydd Sul 12 Mai £12 (£8) £32 teulu Mae tri pherfformiwr o Asia yn gofyn cwestiynau am fywyd, serch, tlodi a thrachwant. Gan ddefnyddio’r gair ar lafar, symudiad, syrcas a seremoni, maent yn adrodd y stori am sut y bu iddynt , er gwaethaf pob disgwyl, oroesi eu plentyndod a chreu eu tynged eu hunain. Perfformiad twymgalon, llym, dilys ac ysbrydoledig am fywyd a syrcas, adloniant a myfyrdod. Cynhyrchwyd trwy bartneriaeth ryngwladol rhwng cyfarwyddwyr artistig dau gwmni syrcas Ewropeaidd enwog. Dyma brofiad syrcas theatraidd unigryw! Addas ar gyfer 8 oed+ 11


Perfformiadau a Digwyddiadau

ASTUDIAETHAU DRAMA A THEATR PRIFYSGOL ABERYSTWYTH GILLIAN CLARKE AC IFOR AP GLYN

PROSIECTAU’R 3EDD FLWYDDYN

GILLIAN, IFOR… A DYLAN

12 hanner dydd - 5pm, Dydd Iau 16 a Dydd Gwener 17 Mai | AM DDIM

7.30pm, Nos Fawrth 14 Mai £15 (£12) £8 Myfyrwyr

Mae myfyrwyr trydedd flwyddyn y cwrs Astudiaethau Drama a Theatr yn cyflwyno rhaglen gyffrous o 10 o ddarnau byrion, yn nodweddu: straeon tylwyth teg, calonnau meirw, gorlwyth o gyfryngau cymdeithasol, hudoliaeth sy’n dda i ddim, dau angel angau a llawer mwy.

I ddathlu Dydd Dylan Thomas, daw dau Fardd Cenedlaethol Cymru, Gillian Clarke ac Ifor ap Glyn at ei gilydd i ddarllen eu gwaith eu hunain, ynghyd â’u hoff gerddi neu straeon gan Dylan.

Perfformiadau a Digwyddiadau

Stick by Me by Andy Manley and Ian Cameron Produced by Red Bridge Arts

ABERYSTWYTH MEWN RHYFEL

DOT A BILLY 7.45pm, Nos Iau 16 Mai a Nos Wener 17 Mai | £10 (£8) “Gadewch i ni fod yn gariadon … ti yn dy ffrog sipsi fratiog, a fi yn fy hen flaser.” Mae Dot yn fyfyrwraig; Billy yn filwr. Mae cyfarfod ar hap yn Aberystwyth yn sbarduno cyfeillgarwch sy’n troi’n garwriaeth. Ond a all cariad oroesi ar adeg rhyfel? Drama wreiddiol yn seiliedig ar lythyrau Dot French a Billy Burditt. Ysgrifennwyd gan Richard Hogger a Tom O’Malley. Rhan o brosiect Aberystwyth mewn Rhyfel: Profiad, Effaith, Etifeddiaeth 19141919.

RWTSH RATSH RALA RWDINS 1pm Dydd Mawrth 21 Mai, 10am & 1pm Dydd Mercher 22 Mai Perfformiadau i ysgolion £5 Mae Rala Rwdins yn dychwelyd i theatrau Cymru! Rwtsh Ratsh Rala Rwdins oedd cynhyrchiad cyntaf oll Arad Goch ac i ddathlu penblwydd y cwmni yn 30 oed, ‘rydym yn mynd â’r sioe ar daith unwaith eto! Ymunwch â’r anturiaeth yng ngwlad Rwla, wrth i’n hoff gymeriadau geisio datrys cyfrinach fawr y Dewin Dwl! Ysgrifennwyd gan awdures arobryn y gyfres Angharad Tomos a chyfarwyddir gan Jeremy Turner. Yn addas ar gyfer plant 3-8 oed a’u teuluoedd. 12

PROTEIN

CREU CYMRU

THE LITTLE PRINCE

STICK BY ME

2pm, Dydd Sul 26 Mai £10 (£8)

1pm & 3pm, Dydd Gwener 31 Mai | £8 (£6)

Pan ‘rwy’n deffro a ydych yno’n Barod? Gadewch i Sioe ddawns gyfareddol ar ni redeg, chwarae, cuddio. Marketing Pack gyfer plant ac oedolion fel ei Dilynwch fi, peidiwch â mynd gilydd! Yn seiliedig ar y stori ar goll, byddaf i’n ffyddlon i Contacts: fyd-enwog gan Antoine de chi os ‘dach chi’n ffyddlon i fi. Saint-Exupéry, daw The Little Dyma “lawen doniol” Alice McGrathsioe | Creative Director,a Red Bridge Arts alice@redbridgearts.co.uk 07780 607665 Prince yn fyw trwy ddefnyddio (Y Guardian) am|gyfeillgarwch cymysgedd arobryn cwmni a chwarae, a phwysigrywdd | Projects and General Manager, Red Bridge Arts Protein o ddawns, hiwmor Jennifer Cummins trysori’r pethau bach. Crewyd jennifer@redbridgearts.co.uk | 07941 875676 a’r gair ar lafar. Gyda sgôr y “sioe gyfareddol, hyfryd, wreiddiol gan Frank Moon, ddyfeisgar” hon (Y Wee dyluniad gan Yann Seabra a Review) gan Andy Manley goleuo gan Jackie Shemesh, ac Ian Cameron, cyd-grewyr mae sioe newydd Protein yn y sioe ryngwladol hynod ein gwahodd i edrych ar y byd lwyddiannus White. Gan trwy’r galon ac i ail-gysylltu Andy Manley ac Ian Cameron. â’n plentyn mewnol. Yn addas Cynhyrchwyd gan Red Bridge ar gyfer plant ifanc ac hen. Arts. Ar gyfer plant 3- 6 oed.

CICIO’R BAR 7.45pm, Nos Iau 6 Mehefin £7 Mae Eurig Salisbury ac Hywel Griffiths yn eich croesawu i Gicio’r Bar, y noson farddoniaeth a cherddoriaeth orau yn Aber, Ceredigion a’r byd. Barddoniaeth, caneuon a cherddoriaeth wych gan y cerddor a phrif ganwr Cowbois Rhos Botwnnog, Iwan Huws - o’i gasgliad cyntaf newydd sbon o farddoniaeth (Barddas) - a gan y gantores-gyfansoddwraig a thelynores Georgia Ruth.

THE FLANAGAN COLLECTIVE

ORPHEUS 7.45pm, Nos Sadwrn 8 Mehefin | £10 (£8) Mae Orpheus yn stori hynafol am serch a cholled ac anturiaeth. Mae Alexander Wright a Phil Grainger yn trawsffurfio’r hen fyth hwn i mewn i epig y dydd modern ynglyn â phobl, ein perthynas â’n gilydd a beth y gwnawn i geisio aros efo’n gilydd. Trwy gyfuniad o air ar lafar arwydus a cherddoriaeth ddwys, fyw, wreiddiol, mae ORPHEUS yn eistedd rhywle rhwng barddoniaeth ar lafar, gig acwstig a sioe theatr. 13


Perfformiadau a Digwyddiadau

Perfformiadau a Digwyddiadau

THEATR GENEDLAETHOL CYMRU YSGOL LWYFAN CANOLFAN Y CELFYDDYDAU ABERYSTWYTH

MULAN JR 7.30pm, Nos Wener 14 & Nos Sadwrn 15 Mehefin | £11 (£8) Yn seiliedig ar ffilm Disney a enwebwyd ar gyfer gwobr Oscar, mae Mulan JR yn ddathliad twymgalon o ddiwylliant, anrhydedd a’r ysbryd ymladdol. Gyda chaneuon poblogaidd a stori sy’n llawn gweithredu, hiwmor a chalon, mae Mulan JR Disney yn dod â’r Tsieina hynafol yn fyw gyda theimlad modern. Mae’r Hyniaid wedi heidio i’r wlad ac mae i fyny i’r misffit Mulan a’i phartner y ddraig ddireidus Mushu, i achub yr Ymerawdwr!

PWY ’SGRIFENNODD HONNA? 7.30pm, Nos Fercher 19 Mehefin Talwch beth a fynnwch Darlleniadau wedi eu rihyrso o ddramâu gan ddramodwyr lleol Miriam Elin Jones a Naomi Nicholas. Mae prosiect Grŵp Dramodwyr Newydd 2019 Theatr Genedlaethol Cymru yn dod i ben mwn cyfres o ddarlleniadau wedi eu rihyrso ar draws Cymru o ddramâu newydd gan y ton newydd o ddramodwyr yn yr iaith Gymraeg. Bydd pob digwyddiad yn cynnwys darlleniadau o ddwy ddrama gan ddau ddramodydd, gyda sgwrs gyda’r dramodyddion, y cast a’r cyfarwyddwyr yn dilyn. Mae hwn yn gyflwyniad yn yr iaith Gymraeg. Mae’r Grŵp Dramodwyr Newydd yn fenter Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad â S4C, Llenyddiaeth Cymru, Pontio, Theatr Clwyd, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Theatrau Sir Gâr, Canolfan Mileniwm Cymru a Theatr Sherman. LLENYDDIAETH CYMRU

GŴYL SERAMEG RYNGWLADOL

GWOBR LLYFR Y FLWYDDYN 2019

Dydd Gwener 5 - Dydd Sul 7 Gorffennaf | Pas yr Ŵyl: £150; Pas Dydd Sadwrn: £100; Pas Dydd Sul: £90

6pm, Dydd Iau 20 Mehefin | £7.50 (£5)

Mae’r Ŵyl Serameg Ryngwladol yn Aberystwyth yn gwbl angenrheidiol i’r sawl sydd wrth eu bodd ym myd serameg a chrefft. Dyma gyfle unigryw i weld seramegyddion eithriadol o bob rhan o’r byd wrth eu gwaith. Cynhelir arddangosiadau byw, anerchiadau, perfformiadau a thaniadau odyn dramatig gan seramegyddion o Tsieina, Ffrainc, yr Eidal, Siapan, Latfia, UDA ac Uzbekistan, yn ogystal â seramegyddion enwog o’r DU. Ceir hefyd saith safle arddangos yn ffocysu ar serameg yn ogystal â ffilmiau, stondinau masnach, gweithgareddau ymarferol ar gyfer oedolion a phlant a llawer mwy! Am ragor o wybodaeth am yr Ŵyl Serameg Ryngwladol ewch at dudalen 27.

Ymunwch â Llenyddiaeth Cymru ar gyfer un o uchafbwyntiau llenyddol mwya’r flwyddyn. Yn dilyn derbyniad gwin yng nghwmni awduron a beirniaid Gwobr Llyfr y Flwyddyn, cewch ddarganfod, mewn seremoni fawreddog, pa lyfrau sydd wedi dod i’r brig yn y categorïau Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol Greadigol, a pha enillwyr fydd yn mynd ymlaen i gipio’r brif wobr yn Gymraeg a Saesneg gan dderbyn yteitl Llyfr y Flwyddyn 2019. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru: 029 2047 2266 post@llenyddiaethcymru.org www.llenyddiaethcymru.org 14

15


Perfformiadau a Digwyddiadau

Perfformiadau a Digwyddiadau

YSGOL BALE CANOLFAN Y CELFYDDYDAU ABERYSTWYTH

ROWND GYNDERFYNOL Y TALWRN 7pm, Nos Fawrth 9 Gorffennaf | AM DDIM Recordio dwy raglen gynderfynol cystadleuaeth farddoniaeth BBC Radio Cymru am 2019. Wrth i gyfres Y Talwrn ddathlu 40 mlwyddiant, dyma un o uchafbwyntiau’r flwyddyn o gystadlu - dewch i wylio ac i gefnogi’ch hoff feirdd.

CLUSTER ARTS PTY LTD

NIMBLE BISCUITS CHORES AND OTHER 7.30pm, Dydd Mawrth 23 OFFERINGS Gorffennaf 7.30pm Nos Wener 19, 2.30pm & 7.30pm Dydd Sadwrn 20 Gorffennaf | £11 (£8) Mae’n bleser gan Ysgol Bale Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth gyflwyno ‘Nimble Biscuits and Other Offerings’. Dyma ddetholiad o ddawnsiau wedi eu coreograffu gan Miss Gilbert, Miss Hannah a Miss Laura. Yn nodweddu disgyblion o ddosbarthiadau Gradd 3 ac uwch. Ymunwch â ni ar gyfer offrwm o ddawns glasurol a chyfoes.

£10 (£8) £31 Tocyn teulu

Sioe syrcas gomedi llawn antur o Awstralia, sy’n adrodd stori am ddau frawd nad ydynt am wneud eu tasgau yn y tŷ a thacluso eu hystafell. Mae clowniaid talentog hyfforddedig yn gwneud styntiau arswydus, mewn sioe a fydd at ddant y teulu i gyd! Mae’r perfformiad yn llawn jôcs gwirion a digon i ddifyrru’r plant hŷn a’r oedolion yn y gynulleidfa hefyd. A ydych yn ei ffeindio’n anodd i gael eich plant i wneud eu tasgau? Ar ôl gweld y sioe hon, byddant wrth eu bodd yn cychwyn ar y gwaith!

THEATR GYMUNED CASTAWAY

CASTAWAY 7.45, Nos Wener 23 & Nos Sadwrn 24 Awst £12 (£10) Theatr Gymuned Castaway yw grŵp drama gymunedol i oedolion Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Fe’i ffurfiwyd ym 1991, ac erbyn hyn ‘rydym wedi llwyfannu dros 70 o gynyrchiadau, yn amrywio o adloniant ysgafn i’r teulu i gyd megis Wind in the Willows a’n haddasiad ein hunain o Lords and Ladies Terry Pratchett; i ddramâu hynod dwys ac anodd fel Crave and Phaedra’s Love gan Sarah Kane a The Balcony gan Genet. Yn ogystal, ‘rydym wedi bod yn ffodus iawn i gael dramodwyr sefydledig yn ysgrifennu ar ein cyfer megis Lucy Gough a Dic Edwards. 16

SIOE GERDD TYMOR YR HAF CANOLFAN Y CELFYDDYDAU ABERYSTWYTH

OLIVER! Dydd Gwener 9 - Dydd Sadwrn 31 Awst Perfformiadau 7.30pm: Nos Fawrth tan Nos Sadwrn. Sioeau prynhawn 2.30pm: Dydd Mercher, Dydd Iau, Dydd Sadwrn a Dydd Sul £30 (£28 Gostyngiadau a Grwpiau), Teulu £112 Prisiau Archebu’n gynnar tan 1 Mehefin: £28 (£26); £26 Grwpiau 8+; Teulu £99 Llyfr, Cerddoriaeth a Geiriau gan Lionel Bart. Trefniannau cerddorfaol gan William David Brohn. Offeryniaethau gwreiddiol wedi eu haddasu gan Stephen Metcalfe. Mae Richard Cheshire yn dychwelyd i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth i gyfarwyddo Sioe Haf broffesiynol y Ganolfan eleni, Oliver! Mae’r addasiad cerddorol arobryn o nofel glasurol Dickens yn dod yn fyw, yn nodweddu rhai o’r cymeriadau a chaneuon mwyaf cofiadwy i daro’r llwyfan erioed. Gwnewch eich hun yn gartrefol gyda sioe gerdd glasurol Lionel Bart yn seiliedig ar nofel Charles Dickens, Oliver Twist. Mae’r sioe, sydd wedi ennill gwobrau Tony ac Olivier, yn un o’r ychydig

sioeau cerdd i ennill Gwobr Academi am Ffilm Orau ac fe’i hystyrir yn eang fel gwir gampwaith theatraidd gan actorion ac aelodau’r gynulleidfa fel ei gilydd. Mae strydoedd y Lloegr Fictoraidd yn dod yn fyw pan ddaw Oliver, plentyn amddifad newynog sy’n byw mewn tloty, yn brentis i drefnwr angladdau creulon. Mae Oliver yn dianc i Lundain ac yn ffeindio’i hun yn cael ei dderbyn ymysg criw o fân ladron o dan arweiniad y Fagin oedrannus. Pan mae Oliver yn cael ei ddal am drosedd nad oedd wedi cyflawni, mae dioddefwr y lladrad, y Mr. Brownlow caredig, yn ei gymryd i mewn. Yn poeni am ddiogelwch ei guddfan mae Fagin yn cyflogi’r Bill Sikes sinistr a’r Nancy gydymdeimladol i’w gipio’n ôl, sy’n golygu bod cyfle Oliver i ddarganfod gwir gariad gyda theulu yn y fantol. Mae Oliver! yn gampwaith theatr gerddorol, sy’n arddangos yn berffaith talentau cast ensemble mawr wrth iddynt ddod â’r cymeriadau clasurol hyn a’r sgôr yn fyw ar y llwyfan. Perfformwyd Oliver! y tro olaf yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn 2005, pan fu’r actor adnabyddus lleol Taron Egerton yn serennu fel yr Artful Dodger ochr yn ochr â llu o berfformwyr ifanc talentog eraill. Er na fydd Taron yn dychwelyd, ‘rydym wrth ein bodd yn croesawu llawer o aelodau’r cast gwreiddiol o 2005 yn ôl, sydd erbyn hyn yn actorion proffesiynol - ac ‘rydym yn siwr y gwelir mwy o sêr y dyfodol ymysg ein cast newydd o bobl ifanc! Cyflwynir trwy drefniant gyda Music Theatre International (Europe) Ltd. 17


Cerddoriaeth fyw

Cerddoriaeth fyw

PRESENTS

R KARRIE BAND CYNGERDD PRIFYSGOL ABERYSTWYTH

vent, pecially

al with antom

CLWB CERDD

PETER KARRIE: DAU DDYN A PHIANO 7.30pm, Nos Iau 2 Mai £15

te mited.

Mwynhewch noson agosatoch yng nghwmni hoff Ffantom y byd i gyd, Peter Karrie! Mae Peter Karrie, hoff seren theatr gerddorol ryngwladol Cymru sy’n enwog am gymryd y brif ran yn Phantom of the Opera gan Andrew Lloyd Webber, yn dychwelyd i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth i gyflwyno noson hudolus o unawdau o’r sioeau cerdd mawrion a chaneuon o’r Great American Songbook. Ymunir â Peter gan gyfarwyddwr cerdd y Coleg To Cerdd a Drama book tickets please contact: Brenhinol, Michael Morwood, a berfformiodd yma gyda Peter yng nghynhyrchiad y Ganolfan o Legally Blonde yn 2015.

NICK HARPER: 58 FORDWYCH ROAD 7.45pm, Nos Iau 2 Mai £12 (£10) Yn ystod ei blentyndod cafodd Nick Harper ei gwmpasu gan dalentau cerddorol rhai o gyfansoddwyr a cherddorion uchaf eu parch y 60au, heb sôn am y ffaith ei fod yn fab i Roy Harper. Mae 20 mlynedd o greu caneuon a theithio’r wlad wedi cynhyrchu gitarydd a chyfansoddwr caneuon gwreiddiol a chwbl unigryw. 58 FORDWYCH ROAD, cartref y canwrcyfansoddwr ifanc Roy Harper a’i wraig Mocy yn Llundain yn y 1960au, oedd y lle y bu llawer o enwogion y cyfnod yn ymgynnull. ‘Un o gitaryddion gorau ei genhedlaeth’ Mojo

CHARLOTTE ASHTON (FFLIWT) A JOSEPH HAVLAT (PIANO) 8pm, Nos Iau 2 Mai £12 (£10) Myfyrwyr £3 Yn enillydd gwobrau niferus, graddiodd y ffliwtydd Charlotte Ashton o’r Academi Gerdd Fenhinol yn 2015. Ers 2016 mae wedi bod yn Brif Ffliwtydd gyda Cherddorfa Symffoni BBC yr Alban. Bu ei chyfeilydd, Joseph Havlat hefyd yn astudio yn yr Academi Frenhinol ac mae wedi perfformio mewn prif ganolfannau cyngerdd ledled y DU ac yn Ewrop, America, Siapan ac Awstralia. Bydd Charlotte a Joseph yn chwarae sonatas gan Bach, Poulenc a Prokofiev, yn ogystal â gweithiau gan Debussy, Messiaen a Schubert. Cefnogir y cyngerdd gan Ymddiriedolaeth Gerddorol yr Iarlles Munster fel rhan o’i Chynllun Datganiad.

THE UPBEAT BEATLES 8pm, Nos Wener 3 Mai £23 Mae’r Upbeat Beatles heb eu hail - lleisiau grymus, harmonïau cywir a gallu cerddorol gwych. Mae’r sioe yn mynd â chi ar hyd lwybr hir a throellog y grŵp o ddyddiau cynnar y Cavern trwy Beatlemania, America, Sergeant Pepper hyd at Abbey Road, gyda naratif a chyflwyniad aml-gyfryngol. Os ydych yn caru’r Beatles byddwch wrth eich bodd efo’r sioe hon! 18

7pm, Nos Fercher 8 Mai 2019 | £6 (£5) £2 myfyrwyr, am ddim i blant ysgol Band Cyngerdd Prifysgol Aberystwyth - arweinydd Harry Jepson gyda Band Arian Aberystwyth - arweinydd Brendan Coyle. Band Pres Ieuenctid Aberystwyth arweinydd Aidan Hassan Bydd Band Cyngerdd Prifysgol Aberystwyth yn cyflwyno cyngerdd ar y cyd eto eleni gyda Band Arian Aberystwyth a Band Pres Ieuenctid Aberystwyth, yn arddangos rhai o gerddorion talentog y dref. Bydd hon yn noson o adloniant cerddorol gwych, yn amrywio o gerddoriaeth o’r ffilmiau i’ch hoff glasuron band pres - bydd ‘na rywbeth yma at ddant pawb. Cyngerdd arbennig ar gyfer aelodau iau’r gynulleidfa. Tocynnau ar gael ar y drws. Ffoniwch 01970 622685 neu e-bostiwch music@aber.ac.uk am ragor o fanylion.

PYST

RICHARD DURRANT

LLEUWEN A’R BAND

CERDDORIAETH GANOL HAF

7.30pm, Nos Iau 9 Mai £12 (£10)

7.45pm, Nos Fercher 5 Mehefin £12 (£10)

Yn dilyn llwyddiant ei halbwm diweddaraf ‘Gwn Glân Beibl Budr’, bydd Lleuwen yn chwarae taith theatr bedwar dyddiad yng Nghymru ym mis Mai eleni. Yn perfformio’n fyw gyda’r band, dyma gyfle na ddylid ei fethu i weld perfformiad o’r albwm pwerus a theimladwy hwn. Yn addasu emynau hynafol i’w chyfansoddiadau hi ei hun, mae Gwn Glân Beibl Budr yn cymryd y llyfr emynau Cymreig ac yn ei daflu i mewn i’r Oes Gamhysbysrwydd.

Mae’r gitarydd a’r cyfansoddwr Richard Durrant yn dychwelyd gyda dathliad cerddorol o ganol haf a chyfres glasur arall o gyngherddau ar y cwsb gwerin/ clasurol. Wrth i’r heulsafiad nesáu mae Durrant yn datgelu casgliad o ddarnau newydd sbon, hen ffefrynnau, straeon o’r ffordd ac ambell i gân a ysbrydolwyd gan hirddydd yr haf. “Fy hoff gitarydd newydd …mae Richard Durrant yn eistedd yn gwbl ar wahân i’r genres arferol. Mae ganddo feddwl neilltuol a rhyfeddol.” Tom Robinson Cerddoriaeth BBC6

ADLONIANT HAKA MEWN CYDWEITHREDIAD Â CHANOLFAN Y CELFYDDYDAU ABERYSTWYTH

MO PLEASURE: FY MHLESER - TAITH GERDDOROL 7.30pm, Nos Wener 7 Mehefin | £26 (£24.50) Dechreuodd Mo Pleasure, sy’n syml un un o aml-offerynwyr mwyaf gwych ei genhedlaeth, ar ei yrfa broffesiynol yn chwarae gyda Ray Charles cyn symud ymlaen i weithio gydag enwogion megis George Duke, Christina Aguilera, Chaka Khan, Mary J Blige, Natalie Cole, Roberta Flack i enwi ond ychydig. Ar hyn o bryd ef yw Cyfarwyddwr Cerddorol y Bette Midler eiconig. Ymunir â Mo ar y llwyfan gan ei fand anhygoel, sy’n nodweddu rhai o gerddorion gorau’r DU, ynghyd ag ymddangosiadau gwadd gan artistiaid sy’n dod i’r amlwg yn ardal Aberystwyth. Noson o’r safon uchaf o ffync, enaid, R&B, pop a phopeth yn y canol! 19


Cerddoriaeth fyw

GARETH BONELLO, GEORGIA RUTH A TOBY HAY 7.30pm, Nos Sadwrn 8 Mehefin | £12 (£10) Mae tri o gerddorion cyfoes gorau Cymru yn dod â’u cydweithrediad cerddorol newydd i Ganofan y Celfyddydau Aberystwyth am y tro cyntaf. Yn tynnu ar ddeunydd gwreiddiol a thraddodiadol, bydd y triawd yn perfformio darnau newydd sy’n ystyried y rhwymau etheraidd rhwng y dirwedd a thrigolion Cymru. Gallwch ddisgwyl noson o ddarnau sydd wedi eu crefftio’n ofalus ac sy’n cymylu’r ffiniau rhwng y Gymru gyfoes a phleserau arallfydol Annwn.

Cerddoriaeth fyw

CERDDORIAETH ALAN BEARMAN

CWMWL TYSTION | WITNESS

LES MUSICALS CYNGERDD BYW

THE HORNETTES

8pm, Nos Fercher 12 Mehefin | £12 (£10)

7.30pm, Nos Iau 13 Mehefin £25, PBI £57.50

8pm, Nos Sadwrn 22 Mehefin | £10

Mae’r trympedwr Tomos Williams wedi hel cast o gerddorion Cymreig disglair at ei gilydd i berfformio Cyfres y Cwmwl Tystion, gwaith newydd sy’n ymgorffori elfennau o jas, yr avantgarde, gwaith byrfyfyr a cherddoriaeth werin Gymreig. Mae’r band yn cynnwys Huw Warren (piano) a Rhodri Davies (telyn), ynghyd â Mark O’Connor (drymiau), Huw V Williams (bas) a Francesca Simmons (feiolin, llif). Bydd Simon Proffitt yn cyfeilio i’r perfformiadau gydag effeithiau gweledol byw.

Mae Jonathan Ansell (G4 Frontman) a Jai McDowall (Enillydd - Britain’s Got Talent) wedi dod at ei gilydd i greu cyngerdd dramatig ac emosiynol. Mae’r noson hon o leisiau deinamig yn nodweddu hoff ganeuon y sioeau cerdd mwyaf poblogaidd erioed, yn cael eu cyflwyno i chi gan ddau o leisiau gorau’r byd. Dewch i ymgolli’n llwyr ym myd Theatr Gerddorol gyda chlasuron o Les Miserables, Phantom Of The Opera, Blood Brothers, Wicked, Jesus Christ Superstar, The Greatest Showman, Miss Saigon, Chess, We Will Rock You a llawer mwy…

Yn dilyn llwyddiant ysgubol eu sioe yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ym mis Mehefin y llynedd, mae’r Hornettes yn ôl gyda’u wigiau cwch gwenyn a’u ffrogiau secwin i ddathlu synau’r 60au. Ymunwch â nhw a Ric Lloyd ar yr allweddfwrdd ar gyfer noson yn llawn atgofion, hwyl, comedi, canu a dawnsio yn yr eiliau. Gyda repertoire o ganeuon gan The Supremes, The Four Tops, Lulu, The Shirelles, Ronettes a rhagor, archebwch ‘nawr ar gyfer beth sy’n addo i fod yn berfformiad ysblennydd.

MARTIN CARTHY 7.30pm, Nos Wener 28 Mehefin | £15 (£12) Am dros hanner canrif mae Marty Carthy wedi bod yn un o’r dyfeiswyr mwyaf ym maes cerddoriaeth werin, yn un o’i ffigyrau mwyaf poblogaidd, mwyaf brwdfrydig ac, ar adegau, mwyaf dadleuol yn ei ffordd dawel ei hun. Mae ei sgil, ei bresenoldeb ar y llwyfan a’i ddull naturiol wedi ennill iddo lu o edmygwyr, nid yn unig ar y sîn werin ond hefyd ymhell y tu hwnt iddi. `Gellir dadlau mai hwn yw’r perfformiwr, cyfansoddwr, casglwr a golygydd gorau oll ym maes canu gwerin Lloegr’ Cylchgrawn Q. Gwobr Cyflawniad Oes - Gwobrau Gwerin BBC Radio 2 2014.

CLWB LLEWOD ABERYSTWYTH LIONS CLUB

CYNGERDD HAF ELUSENNOL 7.30pm, Nos Wener 14 Mehefin £20 (£18) Band Mawr Rhys Taylor yn nodweddu Shân Cothi. Noson o gerddoriaeth sigl i dapio’ch troed iddi, tonau poblogaidd a nifer o syrpreisys hwyliog. Yr holl elw at Gefnogaeth Cancr MacMillan ac Amser Justin Time - Elusen Cancr Pancreatig Cymru. 20

YN DOD YN FUAN...

CYNGERDD YSGOLION CEREDIGION 7pm, Nos Fercher 3 Gorffennaf £7 (£4) Mae Pwyllgor Addysg Ceredigion yn cyflwyno cyngerdd gan Ysgolion Cynradd Ceredigion yn y Neuadd Fawr yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Tocynnau ar gael ar y drws neu ymlaen llaw o Gerdd Ystwyth Aberystwyth. Gyda chefnogaeth: Cyfeillion Cymdeithas Cerddorion Ifanc Ceredigion.

MONSTERS OF ROCK 8pm, Nos Wener 29 Tachwedd £25 (£22)

21


cerddoriaeth fyw

MUSICFEST Dydd Sadwrn 27 Gorffennaf Dydd Sadwrn 3 Awst Pas yr Ŵyl: £180 Pas a archebir yn gynnar cyn 1 Gorffennaf: £160 Pas cyngherddau’r hwyr: £130 Cyngherddau cerddorfaol: £24 (£22) Cyngherddau’r hwyr: £20 (£18) Cyngherddau amser cinio: £14 (£12) Plant a disgyblion Lefel A yn mynd am ddim! Cyfarwyddwr Artistig: David Campbell Ein gŵyl flynyddol o gyngherddau ac hwyl; un o’r gwyliau mwyaf cyfeillgar gydag awyrgylch bywiog a brwdfrydig ymysg y tiwtoriaid, y myfyrwyr a’r gynulleidfa gyda llawer yn dychwelyd blwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae hon yn ŵyl sy’n cefnogi rhagoriaeth mewn dysgu a pherfformio ac sy’n cynnig cyfle unigryw i gymryd rhan mewn gweithiau newydd a’r repertoire cyfarwydd. Agorir yr ŵyl gyda Chyngerdd Gala o dan arweiniad y Dr David Russell Hulme a’r Sinfonia Cambrensis gyda Tom Mathias (feiolin) mewn rhaglen ddyfeisgar a phrydferth. Ymysg yr uchafbwyntiau niferus yw concerto piano Schumann gyda Tom Poster fel yr unawdydd; 22

cerddoriaeth fyw & comedi

ar Nos Fercher bydd Cerddorfa Orion yn chwarae Symffoni Rhif 6 Beethoven; bydd Pedwarawd Solem yn perfformio Cyflwyniad ac Alegro Ravel ynghyd ag Ellie Turner (telyn), Lisa Nelsen (ffliwt) a David Campbell (clarinet). Mae Pedwarawd Sacconi yn dychwelyd gyda pherfformiad o Bedwarawd Llinynnol op.131 Beethoven a berfformir o’r cof yn y tywyllwch. Bydd y Sacconi hefyd yn perfformio, gyda Tom Poster, Pedwarawd Llinynnol Haydn, “The Lark” a Phumawd Piano Korngold. Yn newydd ar gyfer eleni ceir Ensemble Telyn Clare Jones, cyfle i glywed 24 o delynau, ac hefyd Band Pres Ieuenctid Cenedlaethol Cymru, Cerddorfa Ieuenctid Genedlaethol Cymru a Cherddorfa Linynnol Ieuenctid Genedlaethol Prydain Fawr. Gwelir manylion llawn o’r rhaglen ar wefan Musicfest: www.musicfestaberystwyth.org Ceir manylion am docynnau hefyd ar y wefan neu gellir eu harchebu trwy system tocynnu Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Pris Pas yr Ŵyl yw £180 gyda Phas a archebir yn gynnar ar gael tan 1 Gorffennaf am £160, arbediad sylweddol i selogion yr ŵyl.

CYNGERDD CÔR IEUENCTID CENEDLAETHOL CYMRU

MATT FORDE: BREXIT TRWY’R SIOP ANRHEGION

8pm, Nos Sadwrn 31 Awst £10 (£8) £5 o dan 25 oed

7.30pm, Nos Wener 10 Mai £15

Arweinydd: Tim Rhys Evans. Yn dilyn llwyddiant arbennig cyfres gyngherddau y llynedd, mae Tim Rhys Evans yn dychwelyd i arwain côr o 80 o gantorion ifanc mwyaf talentog Cymru. Yn 2018, enillodd y côr glod am raglen a fu’n ymestyn dros y canrifoedd ac mae’r rhaglen eleni yn addo rhagor o gerddoriaeth wych, yn cynnwys comisiwn newydd sbon a ysgrifennwyd gan y cyfansoddwr o Gymru, Huw Watkins. Cyngerdd na ddylid ei fethu!

YN DOD YN FUAN...

Mae’r holl sefyllfa’n llanast llwyr a ‘does dim ond un person a all ei datrys. Yn anffodus, ‘does gennym ddim syniad pwy yw’r person hwnnw. Ymunwch â digrifwr gwleidyddol blaenllaw Prydain, Matt Forde, yn dilyn llwyddiant ysgubol ei sioe yng Nghaeredin, wrth iddo ffarwelio â bywyd fel aelod o’r Undeb Ewropeaidd. Mae Matt wedi cyflwyno pedair cyfres o Unspun with Matt Forde ar Dave ac mae ei bodcast Parti Gwleidyddol ei hun ar dop y siartiau. “a oes ‘na well ddigrifwr gwleidyddol na Matt Forde yn gweithio yn y DU ar hyn o bryd? Ni allaf feddwl am un arall sy’n agos”★★★★½ Chortle

RUSSELL KANE: THE FAST AND THE CURIOUS 8pm, Nos Sadwrn 16 Tachwedd | £20

23


COMEDI

COMEDI

REGINALD D HUNTER: FACING THE BEAST TOM STADE: I SWEAR TO… 8pm, Nos Iau 30 Mai | £12 (£10) Marcel Lucont “Yn ffres, o fewn cyrraedd ac yn hynod doniol ” Y GUARDIAN Sara Barron “Aflan a diofn” ★★★★ Y TELEGRAPH Ignacio Lopez “Unigryw a hynod doniol” ★★★★ BUZZ MAGAZINE

LITTLE WANDER

8pm, Nos Iau 27 Mehefin

CLWB COMEDI

Kiri Pritchard Mclean “Yn uno hiwmor gyda realiti brathog mewn ffordd sy’n hynod pwerus” ★★★★★ THREE WEEKS

Mae Little Wander, y tîm y tu ôl i Ŵyl Gomedi Machynlleth, yn dod â’u clwb comedi hynod boblogaidd i Ganolfan y Celfyddydau bob mis. Dewch i wrando ar rai o ddigrifwyr ar-eu-sefyll mwyaf talentog y DU yn perfformio ar lwyfan y Stiwdio Gron. 24

Pat Cahill “Yn gwbl rhyfeddol” Y GUARDIAN Stuart Laws “Mae Laws ar ei orau ar hyn o bryd, yn siarad nonsens o’r radd eithaf ... digrifwr ar ei sefyll eithriadol” TIMEOUT

7.30pm, Nos Lun 3 Mehefin £17.50 (£16) Yn syth o Ŵyl Caeredin, ymunwch â Tom wrth iddo geisio gweithio allan lle yn union y mae’n ffitio i mewn i’r byd newydd hwn sy’n dod i’r amlwg o deimladau a FaceTime. Gyda’i swagro arferol a’i ddireidi chwareus, mae Tom yn ystyried y posau rhwng-cenedlaethau hyn, a llawer iawn mwy … Fel y’i gwelir ar Comedy Gala ar Sianel 4, Michael McIntyre’s Comedy Roadshow ar BBC 1, The John Bishop Show a Live at the Apollo.

YN DOD YN FUAN

8pm, Nos Wener 7 Mehefin £23 Yn dathlu ei ugeinfed benblwydd o weithio fel digrifwr yn byw ac yn perfformio yn y DU, mae Reginald D Hunter yn ymgymryd â thaith ddeugain dyddiad o’r DU ac Iwerddon yn 2019 gyda’i sioe newydd hir ddisgwyliedig. Mae deunydd gwbl onest Reginald wedi ennill iddo lu o ffans ffyddlon sy’n pontio pob cenhedlaeth. Mae ei ymddangosiadau ar y teledu wedi cynnwys y gyfres hynod boblogaidd ar BBC2, Reginald D Hunter’s Songs Of The South a’r dilyniant yr un mor lwyddiannus Reginald D Hunter’s Songs Of The Border. “Comedy of a rare scope” ★★★★★ TIMES

RUBY WAX: HOW TO BE HUMAN 8pm, Nos Iau 10 Hydref | £22

25


ARDDANGOSFEYDD

ORIEL 1

ORIEL 1

YN F’ESGIDIAU I CELF A’R HUNAN ERS Y 1990AU 16 Chwefror – 12 Mai

26

Mae poblogrwydd y ‘selfie’ mewn cymdeithas gyfoes ac adeiladu hunaniaethau digidol trwy’r cyfryngau cymdeithasol yn cynnig cyd-destun ehangach amserol ar gyfer yr arddangosfa hon. Mae Yn f’esgidiau i yn arddangosfa dwrio Casgliad Cyngor y Celfyddydau sy’n ystyried y ffyrdd y mae artistiaid sy’n gweithio yn y DU wedi cynrychioli eu hunain yn eu gwaith ers y 1990au. Yn cynnwys amrediad o gyfryngau yn cynnwys ffilm, ffotograffiaeth a cherflunwaith, mae Yn f’esgidiau I yn arddangos gwaith gan genedlaethau amryfal o artistiaid yn cynnwys: Tracey Emin, Sarah Lucas, Gavin Turk, Rachel McLean a Bedwyr Williams. Daw’r arddangosfa i ben gyda rhai o’r gweithiau mwyaf diweddar i gael eu cynnwys yng Nghasgliad Cyngor y Celfyddydau, rhai ohonynt yn cael eu harddangos yn gyhoeddus am y tro cyntaf.

IAITH CLAI INGRID MURPHY : GWELEDIG AC ANWELEDIG 22 Mai - 13 Gorffennaf

debot neu’n synau strydoedd Jaipur, mae ei darnau yn ein cysylltu gyda gwahanol bersbectifau a straeon. Mae Gweledig ac Anweledig yn estyniad ffraeth o ieithoedd a nodweddion clai.’ Ceri Jones, curadur y gyfres Arddangosfa yn y gyfres Iaith Clai, menter Teithio Cenedlaethol Mission Gallery. Am ragor o fanylion am yr Ŵyl Serameg Ryngwladol ewch at dudalen 15. https://www.languageofclay.wales https://www.iaithclai.cymru

Agoriad ar Gorffennaf 4ydd, 6yh, Oriel 1- ar noswyl ein Gwyl Serameg Rhyngwladol ‘Mae Ingrid Murphy yn chwarae gyda chonfensiynau ymarfer serameg. Mae ei gwaith yn gwahodd profiad a rennir yn hytrach na myfyrdod esthetig yn unig.’ Martina Margetts. ‘Mae cysylltedd yn hollbwysig i Ingrid Murphy, rhwng pobl a llefydd ac ar draws amser. Mae ei hymchwiliadau yn ein pryfocio a’n synnu wrth iddi gyfuno prosesau serameg traddodiadol gyda thechnolegau creadigol. Os yn olygfa o’r tu mewn i

27


ARDDANGOSFEYDD

ARDDANGOSFEYDD ORIEL 2

CELFYDDYDAU’R BORTH 13 Ebrill - 13 Mehefin Agoriad- Ebrill 18fed, 6pm Mae ‘Ar yr Ymyl’ yn arddangosfa o waith gan Gelfyddydau’r Borth, criw o artistiaid sy’n byw ac yn gweithio yn y Borth ac Ynyslas. Yn defnyddio amrywiaeth o gyfryngau a thechnegau, cysylltwyd ac ysbrydolwyd y grŵp amryfal hwn gan amgylchedd unigryw’r Borth - y môr, y traeth, mynyddoedd, lliw a’r golau sy’n newid o hyd. Mae’r artistiaid a’r lleoliad yn llythrennol ar yr ymyl, wedi eu dal rhwng y môr a’r mynyddoedd. Datblygodd Celfyddydau’r Borth allan o ddyhead i hyrwyddo’r Borth a’i hartistiaid trwy arddangosfeydd a gweithgareddau ar y cyd. Sefydlwyd y grŵp ym mis Chwefror 2016. Amcan y grŵp yw i gefnogi artistiaid sy’n byw ac yn gweithio’n lleol, nid yn unig trwy ddarparu cyfleoedd i arddangos eu gwaith, ond hefyd trwy greu cyfleoedd i rannu gwybodaeth a dysgu sgiliau newydd. Maent yn credu bod y celfyddydau a diwylliant yn chwarae rôl bwysig wrth gyfoethogi a datblygu lles y gymuned ehangach.

ORIEL 1

GARETH GRIFFITH: TRELAR 22 Gorffennaf– 7 Medi Agoriad 25ain Gorffennaf 6yh Dyma arddangosfa o waith newydd gan yr artist Gareth Griffith, sy’n gweithio yng Ngogledd Cymru. Mae’r Adeiladwaith a’r paentiadau yn ystyried y cysylltiadau rhwng lle ac amser ac yn cwestiynu materion cymdeithasol. Mae’r llefydd yn cynnwys Lerpwl, lle astudiodd yn y 1960au, Jamaica, lle bu’n byw efo’i deulu ifanc yn y saithdegau cynnar, a Mynydd Llandegai uwchben Dyffryn Ogwen lle y mae wedi byw a gweithio ers dros 40 mlynedd. Yn ei bedwar ugeinfed flwyddyn bellach, mae’r artist dylanwadol hwn yn cyflwyno gwaith sy’n defnyddio profiadau o’i einioes ac yn myfyrio ar y prosesau cynhyrchu a ddefnyddiwyd gan weithwyr ffatri yn y cymoedd a sut mae’r artist yn defnyddio’r un deunyddiau a phrosesau mewn ffyrdd gwahanol. “Yr wyf yn edrych am cysylltiadau rhwng cerflunio a paentiadau . Y mae na cydfyw rhwng y dau-y gosodiad a’r paentiad.” Gareth Griffith

28

ORIEL 2

DARLUNWYR CYMREIG 20 Mehefin - 22 Awst Agoriad- Mehefin 19eg, 6yh Dewch i weld y gorau ym maes darlunio Llyfrau Cymreig, o’r Mabinogion i Rala Rwdins. Mae’r arddangosfa hon yn dathlu’r gorau o ddarlunio cyhoeddedig Cymru i gydfynd â Llyfr Y Flwyddyn a gynhelir yng Nghanolfan y Celfyddydau ar 20fed Mehefin. Bydd yr arddangosfa yn cynnwys cyfres o ddigwyddiadau yn dathlu darllen ac adrodd straeongweler manylion o dan Dysgu Creadigol.

29


ARDDANGOSFEYDD

ARDDANGOSFEYDD

ORIEL Y CAFFI

DARGANFOD PENSAERNÏAETH CYMRU - Y GORFFENNOL, Y PRESENNOL A’R DYFODOL 6 Mai - 28 Mehefin Agoriad- Mai 9fed, 6yh Yn ogystal â chyfle i weld adeiladau arobryn 2018, mae’r arddangosfa hon yn amlygu datblygiad pansaernïol Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, wedi’i osod ochr yn ochr â chipolwg ar yr arteffactau a gynhwysir yn y gwahanol gasgliadau o archifau pensaernïol Cymru.

FFENEST Y PIAZZA

RUTH PACKHAM : DECHREUADAU A DIWEDDIADAU

ORIEL Y CAFFI

YN Y STIWDIO

14 Mai – 14 Gorffennaf

4 Gorffennaf – 29 Awst

Yn artist o’r Borth, mae Ruth yn gweithio gyda ffibr gwlân, yn defnyddio technegau ffeltio a ysbrydolir gan natur; golau, lliw, patrwm a ffurf, gydag adar yn cael eu hamlygu’n gyson, yn real ac yn ddychmygol. Mae’r gwaith a ddangosir gan Ruth yn deillio o ddyhead i herio’i sgiliau ffeltio tra’n amlygu thema hollbwysig gwastraff plastig a’i effaith ar fywyd gwyllt. Fydd Ruth yn rhedeg gweithdy ffeltio i gyd-fynd gyda’r arddangosfagweler o dan Dysgu Creadigol am wybodaeth.

Dewch i fwynhau arddangosfa gan y ffotograffwyr Ben Boswell a Matthew Otten sy’n rhoi cipolwg i ni o grefftwyr serameg yn ei stiwdio, i gydfynd â’n prif arddangosfa yn Oriel 1 Ingrid Murphy: Gweledig ac Anweledig a’r Ŵyl Serameg Ryngwladol yma yng Nghanolfan y Celfyddydau ar 5ed-7fed Gorffennaf.

FFENEST Y PIAZZA

CLAI 26 Mehefin – 14 Awst Dewch i weld sut mae ein hysgolion, colegau ac elusennau lleol yma yng Ngheredigion wedi ymateb i’r Ŵyl Serameg Ryngwladol.

FFENEST Y PIAZZA FFENEST Y PIAZZA

LINDA JANE JAMES - AMHENDANT 1 Mawrth - 6 Mai Gwaith a ddatblygwyd dros y flwyddyn ddiwethaf gan yr artist Linda Jane James yw Amhendant, sy’n mynegi ei theimladau ynglyn â’r llwythi aruthrol o ddeunyddiau a gwastraff yr ydym yn crynhoi o’n cwmpas a chanlyniadau di-ddiwedd, cymhleth ac haenog yr angen dynol i fod yn gynhyrchiol, i dyfu ac i ehangu. Mae deunyddiau yn cael eu hachub o gyflwr gorwedd o gwmpas. Gweddillion, yr hyn nad oes ei angen, niferoedd anhysbys, o ansawdd wael, heb eto eu claddu, eu llosgi, eu hailgylchu; maent yn ein hatgoffa am ormodedd ac aneffeithlonrwydd mewn byd cynhyrchiol sydd ag obsesiwn am dyfiant - yn ddiangen yn y camgymhariad rhwng cyflenwad a galw.

30

CATRIN DAVIES 20 Awst – 14 Hydref Yn fy ngwaith, ‘rwyf yn aml yn cyfeirio at y traddodiad paentio clasurol ac yn defnyddio gwahanol gyfryngau i ystyried ac i chwarae gyda’r traddodiad hwn. Mae symboliaeth o fewn paentio yn chwarae rôl bwysig yn fy ngwaith. Mae gweithiau newydd yn cyfuno fy mhaentiadau a’m darluniau gyda chyfryngau digidol. Defnyddir paentio tirlun i gynrychioli cyflyrau mewnol o fodoli. Trwy animeiddio’r delweddau, fy mwriad yw i bwysleisio ac amlygu‘r syniadau a ystyriwyd yn wreiddiol trwy’r darluniau. https://catrindavies.carbonmade.com https://www.catrinandlewis.com)

31


Stiwdios Creadigol

ARDDANGOSFEYDD

dd Enilly BA r RI b o Gw 2010

ORIEL SERAMEG

KATE HAYWOOD IAITH CLAI – OLION 13 Ebrill – 9 Mehefin Mae ffurfiau porslen coeth Kate Haywood yn hyderus ac yn gain yr un pryd. Wedi’u gwneud â sylw craff i fanylion, bydd pob ffurf yn fanwl gywir ac yn goeth. Mae gan Kate awch am wrthrychau, weithiau’n wrthrychau i afael ynddynt, gwrthrychau o’r gorffennol yn aml. Bydd yn chwilio casgliadau amgueddfeydd ac yn ymchwilio archifau i nodi darnau chwilfrydig a dibenion. Mae gwaith diweddar Kate wedi’i ysbrydoli gan emau plant, gemau o adeg pan fyddid yn eu chwarae’n rhwyddach yn y stryd nag y byddent heddiw, efallai. Bydd cyfuno ei cherfluniau serameg â defnyddiau eraill yn ychwanegu haenau o atgyfeiriadau ac apêl. Bydd pawb yn adnabod gwahanol olion yn ei chorff newydd o waith. Cyfres o arddangosfeydd cenedlaethol teithiol yw Iaith Clai, wedi’u trefnu gan y Mission Gallery a’u hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Gwiriwch ddyddiadur Canolfan y Celfyddydau neu www.ceramicsaberystwyth.com i gael y newyddion diweddaraf am gyflwyniadau a digwyddiadau. http://www.ceramics-aberystwyth.com

32

ORIEL SERAMEG

LLWYBR DARGANFYDDIAD – SERAMEG O UZBEKISTAN 22 Mehefin – 26 Awst 2019 Mae’r arddangosfa hon yn dangos enghreifftiau cyfoes o waith o’r saith ardal sy’n cynhyrchu crochenwaith yn Uzbekistan. Mae’n ymchwilio i dreftadaeth gyfoethog Uzbekistan mewn cynhyrchu serameg ochr yn ochr â thraddodiadau crochenwaith gwerin Cymreig megis crochenwaith slip Bwcle ac Ewenni sydd yng Nghasgliad Serameg Prifysgol Aberystwyth.

Bwriad yr unedau oedd datblygu swyddogaeth Canolfan y Celfyddydau fel man creadigol ar gyfer busnesau celf, asiantaethau datblygu’r celfyddydau, artistiad a chrefftwyr. Gwnaethpwyd y Prosiect Unedau Creadigol, sy’n werth £1 miliwn, yn bosibl yn sgil cefnogaeth gan Brifysgol Aberystwyth, Cronfa Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth y Cynulliad.

Y LLYGAD

Artistiaid a Chwmnïau Preswyl

Ceir rhaglen dreigl o ffilmiau byrion, animeiddiadau a ffotograffau yn ein hystafell wylio fechan.

Cwmni Dramatig y Wardens Gŵyl Gerddoriaeth Ryngwladol ac Ysgol Haf MusicFest Tim Walley, Dylunydd / Crefftwr Honno - Gwasg Menywod Cymru HAUL Celfyddydau mewn Iechyd Penseiri Trioni

Angela Goodridge, artist / crefftwraig AMP Media, gwneuthurwyr ffilm Cynyrchiadau Cwmni Awakennyn Clociau Tom Parry Tecstiliau Yvonne Gordon Os oes gennych ddiddordeb mewn rhentu un o’r Stiwdios Creadigol cysylltwch â Louise Amery ar 01970 622889 / lla@aber.ac.uk os gwelwch yn dda. 33


Dysgu Creadigol Dosbarthiadau Wythnosol

Dysgu Creadigol Dosbarthiadau Wythnosol 2019 yw Blwyddyn Ddarganfod Cymru, pryd y cawn ein hannog nid yn unig i ddarganfod Cymru ond hefyd ni’n hunain trwy’r doreth o atyniadau, anturiaethau a phrofiadau sydd gan y wlad i’w cynnig. Ymunwch â ni wrth i ni ddarganfod pleser llyfrau a llenyddiaeth, serameg, dawns a chelf trwy raglen amrywiol o weithgareddau, yn cynnwys ein dosbarthiadau rheolaidd, yn ogystal â digwyddiadau arbennig - rhai ohonynt am ddim! ‘Rydym wrth ein bodd yn rhannu ein rhaglen Ddysgu Creadigol gyda chi ar gyfer y tymor sydd i ddod. Credwn fod ‘na rywbeth yma at ddant pawb - o fodelu mewn clai i theatr ieuenctid, o animeiddiad i ddawnsio Bollywood. Mae gennym Ysgol Ddawns, Ysgol Lwyfan a Theatr Ieuenctid sy’n ffynnu, yn ogystal â dosbarthiadau rheolaidd yn y celfyddydau gweledol ar gyfer oedolion a phlant. ‘Rydym hefyd yn trefnu Prosiectau Cymunedol megis HEFCW - prosiect cymunedol newydd sy’n cysylltu campws y Brifysgol gyda’r gymuned yn Nhregaron a’r cyffiniau, yn cynnig gweithgareddau creadigol yn rhad ac am ddim i’r gymuned yn ogystal â threfnu i bobl broffesiynol gynghori myfyrwyr y brifysgol yn eu hastudiaethau, y cyfan yn ffocysu ar y thema ‘cartref’. ‘Rydym hefyd yn cynnal Gŵyl Gwanwyn - gŵyl flynyddol ar gyfer pobl 50 oed+ sy’n anelu at ddatblygu creadigedd a lles y sawl sy’n cymryd rhan. ‘Rydym yn dîm bach o 3, yn gweithio gyda thîm o dros 40 o artistiaid a thiwtoriaid talentog ac yn cynnal dros 7,000 o wersi bob blwyddyn. Mae gennym gyfranogwyr o bob oedran, o’r babis sy’n cymryd rhan yn ein Clwb 123 poblogaidd i ŵr bonheddig 94 oed a rannodd straeon o’i orffennol fel rhan o’r Clwb Gwanwyn. Mae llawer o’n cyfranogwyr yn astudio ar gyfer arholiadau LAMDA, RAD ac ISTD, ochr yn ochr â’n menter newydd fel canolfan Ddyfarniad Celfyddydol, sy’n gallluogi pobl ifanc 5-25 oed i ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol mewn amrywiaeth o ffurfiau celf. . ‘Rydym yn hyderus y byddwch yn ystyried bod prisiau’r dosbarthiadau yn rhesymol iawn, maent yn dechrau o gyn lleied â £4.50 y sesiwn! Hefyd ‘rydym yn cynnig ‘Pris Cynnar’ ar gyfer y rhan fwyaf o’n dosbarthiadau! Dewch ar eich pen eich hun neu dewch â ffrind i rannu’r hwyl! Gallwch ddysgu sgil newydd, datblygu crefft neu wella’ch sgiliau yn eich hoff ffurf gelf - y cyfan mewn amgylchedd cyfeillgar, cefnogol, gyda chyfleusterau rhagorol y byddai’n anodd dod o hyd iddynt unrhyw le arall yng Nghanolbarth Cymru. Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth! Mae’n bosibl yn aml i ymuno â dosbarth ar ôl y dyddiad cychwyn, jyst cysylltwch â ni i holi. Gweler y dyddiadau y mae’r holl ddosbarthiadau yn dechrau yn y llyfryn Cyrsiau Dysgu Creadigol ac ar ein gwefan.

DOSBARTH AMSER OED ------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

dydd llun Gwanwyn Ysgol Ddawns Animeiddiad Theatr Ieuenctid 2 (Break a Leg) Gweithdy Clytwaith a Chwiltio i Ddechreuwyr (NEWYDD!) Animeiddiad Crochenwaith i Ddechreuwyr Drymio Samba Theatr Gymuned Castaway

10.30am – 3.30pm 3.30pm - 9.00pm 4.00pm – 6.00pm 4.15pm – 6.15pm

Oedolion 50+ Pob oedran 8-12 oed 14 oed+

6.30pm – 9.30pm 6.30pm – 8.30pm 6.30pm – 9.00pm 6.30pm – 8.00pm 7.00pm – 9.00pm

14 oed+ 13 oed+ Oedolion 14 oed+ Oedolion

10:30am – 12:30pm 12:30pm – 3.00pm 3.30pm - 9.00pm 4.15pm – 6.15pm 7.00pm – 8.00pm

Oedolion 50+ Oedolion Pob oedran 12-13 oed Oedolion

6.30pm – 9.30pm 6:30pm – 9.00pm 7.15pm – 9.30pm

14 oed+ Oedolion Oedolion

10.00am - 3.00pm 1:30pm – 2:00pm 2:00pm – 2:30pm 3.30pm - 9.00pm 4.00pm – 6.00pm 5.00pm – 6.00pm 5.00pm – 8.00pm 6.15pm – 8.15pm 6.30pm – 8.30pm 6.30pm – 8.00pm

14 oed+ 2-4 oed 2-4 oed Pob Oedran 8-13 oed Oedolion 16+ Oedolion 13 oed+ Oedolion Oedolion

9.30am – 12.30pm 1.00pm – 4.00pm 3.30pm - 9.00pm 4.00pm - 8:15pm 4.00pm – 6.00pm 6.30pm – 8.00pm 6.30pm – 8.30pm 6.30pm – 8.30pm 6.30pm – 9.00pm

Oedolion Oedolion Pob Oedran 3 oed+ 10 - 16 oed Oedolion Oedolion Oedolion Oedolion

dydd mawrth Grŵp Celf a Chyfeillgarwch Crochenwaith i Bawb Ysgol Ddawns Theatr Ieuenctid 1 (Fourth Wall) Bale i Oedolion Gweithdy Gosod Papur gyda Pheiriant (NEWYDD!) Crochenwaith - Pob Lefel Côr Cymuned Heartsong

dydd mercher Cwrs Clytwaith a Chwiltio (NEWYDD!) Mini Movers Bale Babis Ysgol Ddawns Gwnio Creadigol i Blant (NEWYDD!) Tap i Oedolion Mynediad agored i’r ystafell dywyll Gwnio ar Beiriant i Blant (NEWYDD!) Grŵp Barddoniaeth - AM DDIM! Dawnsio Bollywood

dydd iau Arbrofi mewn Paentio ac Arlunio Printio Sgrîn Ysgol Ddawns Celfyddydau Acro Ffotograffiaeth i Bobl Ifanc Ysgrifennu Creadigol: Datblygu’r gwaith Dosbarth Celf Cyfrwng Cymysg Ffotograffiaeth Ddu a Gwyn Crochenwaith - Dosbarth Uwch 34

35


Dysgu Creadigol Dosbarthiadau Wythnosol

dysgu creadigol Gweithdai arbennig GWNEWCH GODEN FFELT GYDA RUTH PACKHAM

Dydd Sadwrn 18 Mai, £30 10-4pm Treuliwch ddiwrnod yn creu coden 3 dimensiwn gyda ffibr gwlân Cambriaidd yn defnyddio technegau ffeltio gwlyb. Yn addas ar gyfer dechreuwyr, ond byddwch yn ymwybodol y gall ffeltio gwlyb fod yn eitha’ blinedig yn gorfforol. 16 oed+ --------------------------------------------------------------

BYDDWCH YN BENSAER AM Y DYDD

DOSBARTH AMSER OED ------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

dydd gwener Clwb 1-2-3 Bale i Oedolion Theatr Ieuenctid Gymraeg Ysgol Ddawns

11.00am – 12.00pm 1.30pm – 2.30pm 12.30pm – 1.30pm 4.15pm – 6.15pm 4.00pm - 9.00pm

Plant bach a babis Plant bach a babis Oedolion 12 oed + Pob oedran

dydd sadwrn Ysgol Lwyfan 9.00am – 4.00pm 5-11 oed Ysgol Ddawns 9.00am – 3.00pm Pob oedran Bywluniadu 10.00am – 12.00pm Oedolion 12.15pm – 2.15pm Modelu mewn Clai 10.00am – 12.00pm 9 - 15 oed 12.30pm – 2.30pm 5 - 8 oed Gitâr 11am – 12pm Pob oedran Clwb Theatr Sêr Bach 1.15pm – 2.00pm 3-4 oed Y Profiad Barddoniaeth (Dydd Sadwrn cynta’r mis) 2.00pm – 5.00pm Oedolion Y Ddistyllfa Eiriau (3ydd Dydd Sadwrn y mis) 2.00pm – 5.00pm Oedolion Mae’n holl ddosbarthiadau yn dilyn dyddiadau Tymor Ysgol Cyngor Sir Ceredigion ac mae’r rhan fwyaf yn rhedeg am floc o 12 wythnos bob tymor. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â cymrydrhan@aber.ac.uk / 01970 622888 neu gymerwch gip ar ein llyfryn Cyrsiau Dysgu Creadigol. 36

Dydd Sadwrn 1 Mehefin10:00am-4:30pm AM DDIM! Cymerwch flas ar sut mae’n teimlo i fod yn bensaer yn y sesiwn undydd addysgiadol ac ymarferol hwn a drefnir gan Gymdeithas Frenhinol Penseiri Cymru fel rhan o Ŵyl Bensaernïaeth Cymru 2019. Mae’r cwrs yn rhad ac am ddim ond rhaid archebu lle trwy’r Swyddfa Docynnau. --------------------------------------------------------------

YSGRIFENNU’R FFANTASTIG

Dydd Sadwrn 22 Mehefin 2pm – 4pm, £7 Ymunwch â’r adroddwyr straeon ac awduron Fiona Collins a Peter Stevenson am brynhawn o Straeon Gwerin Cymreig, gydag anerchiad a gweithdy yn dilyn ar y ddawn o ysgrifennu straeon tylwyth teg. Mae Fiona a Peter wedi ysgrifennu llyfrau Straeon Gwerin niferus a gyhoeddwyd gan y Wasg Hanes. Ar gyfer pob oedran; rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn. Sesiwn dwyieithog. --------------------------------------------------------------

DARLUNIO LLYFRAU PLANT GYDA VALÉRIANE LEBLOND A PETER STEVENSON

Dydd Sadwrn 29 Mehefin 2pm - 4pm, £7 A ydych wedi meddwl erioed sut i ddarlunio llyfr i blant? Mae Valériane a Peter yn ddarlunwyr llyfrau plant proffesiynol sy’n gweithio gyda chyhoeddwyr yng Nghymru a ledled y byd. Byddant yn mynd â chi drwy’r proses o ddarlunio stori, ac efallai y byddwch yn creu eich llyfr eich hun. Ar gyfer pob oedran; rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn. Sesiwn dwyieithog.

Cyrsiau Hanner Tymor mis Mai i Blant a Theuluoedd CLAI GYDA GEIRIAU

Dydd Llun 27 a / neu Ddydd Mawrth 28 Mai 10am-12pm £10 (neu £18 am y ddau ddiwrnod) Gwnewch lyfr clai i ddathlu’ch hoff stori. Yn addas ar gyfer 5-12 oed --------------------------------------------------------------

HWYL A SBRI GYDA PHAENT

Dydd Mercher 29 Mai 10am-4pm 7 oed+ £20 Yn ôl yn sgil galw poblogaidd! Chwyrliadau troellog, ffrwydriadau trawiadol, a fedrwch wneud lliwiau i sboncio? Gadewch i ni roi cynnig arni! Byddwn yn arlunio ac yn paentio, yn rhwygo, yn gludio, yn sblatio ac yn chwistrellu! Pa mor swnllyd y gallwch chi wneud eich llun? Gwisgwch hen ddillad gan y byddwch yn siwr o gael paent arnynt! --------------------------------------------------------------

IOGA I RIENI A PHLANT BACH

Dydd Iau 30 Mai 10:30am-11:30am £5 Dosbarth symudiad ioga hwyliog a dengar ar gyfer rhieni a phlant bach i gryfhau ac ymestyn yn ogystal ag i deimlo’n dawel ac ymlacio. --------------------------------------------------------------

SYMUDIAD YSTYRIOL GYDA ROSA

Dydd Iau 30 Mai 2pm-4:30pm £10 Dosbarth symudiad a ysbrydolir gan ddawns a ioga i blant 8 oed+ sy’n eich dysgu sut i reoli’r corff pan mae’n agos at y llawr, gyda gwahanol ymarferion symud a chryfhau a fydd yn caniatau i’ch corff symud yn rhwydd ac yn ystyriol. Ysbrydolir gan ddawnsio-brêc, ioga a dawns gyfoes. --------------------------------------------------------------

DIWRNOD MEWN DAWNS

Dydd Gwener 31 Mai 10am-4pm £35 Ymunwch â Miss Gilbert am ddiwrnod dwys mewn dawns. Bydd y diwrnod yn cynnwys dosbarth bale, dosbarth pointe, a dysgu repertoire o ‘La Fille Mal Gardee’. Yn addas ar gyfer Gradd 3 ac uwch. 37


dysgu creadigol

dysgu creadigol

Cyrsiau Haf i Blant a Theuluoedd ZU AWYROL

Dydd Llun 5 a Dydd Mawrth 6 Awst 10am - 1pm 7oed+ £50 Ymunwch â ni i gael hwyl yn hedfan! Mae Zu Awyrol yn ôl eto efo’u gweithdai celfyddydau awyrol poblogaidd. Byddwch yn dysgu sgiliau ar raffau/sidan/trapîs. Ymarferion hwyliog ac offer syrcas ar y llawr. Dewch i ymuno yn hwyl y syrcas! 7oed+ --------------------------------------------------------------

Gweithdai Celf a Chrefft Gwyliau’r Haf 2019

AR FLAENAU’CH TRAED

Yn gweithio gyda gwhanol diwtoriaid, cynhelir y sesiynau poblogaidd hyn rhwng 10-12 hanner dydd i blant 5 oed+. £10 y sesiwn sy’n cynnwys deunyddiau sylfaenol, gyda chost ychwanegol o £2 am Brintio Sgrîn gyda Becky Knight am grys-T neu fag cynfas. DYDDIAD DOSBARTH TIWTOR --------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------Dydd Llun 22 Gorffennaf Dydd Mawrth 23 Gorffennaf Dydd Mercher 24 Gorffennaf Dydd Iau 25 Gorffennaf Dydd Gwener 26 Gorffennaf

38

Plât Picasso Ffrwyth a Llysiau! Can Arian ‘Mudhopper Makeover’ Fâs Bridget Riley

John Reading

Dydd Llun 5 Awst – Dydd Sadwrn 10 Awst 10am4pm £150 (£130 Pris Cynnar) £125 gostyngiad i ail blentyn. Ymunwch â Miss Gilbert a Miss Hannah am wythnos o Fale hudolus wrth i chi weithio ar repertoire o ‘Sinderela’. Yn ogystal â dosbarthiadau mewn Pointe a Repertoire, ceir gweithdy gyda Zu Awyrol yn cynnwys ymarferion bale cyfoes cyn mynd ymlaen i ddysgu sgiliau ar y rhaff/sidan/trapîs. Hefyd cawn ein hymweliad arferol â’r sinema, a gweithgareddau crefft. 7 oed+. Mae’r pris cynnar ar gael hyd at 6pm ar 20fed Gorffennaf. -------------------------------------------------------------Dydd Mercher 21 Awst 2pm-4pm £8 Pob oedran Dwyieithog

Dydd Iau 22 Awst 10:30am-11:30am £5 Dosbarth symudiad ioga hwyliog a dengar ar gyfer rhieni a phlant bach i gryfhau ac ymestyn yn ogystal ag i deimlo’n dawel ac ymlacio. --------------------------------------------------------------

Mae clocsio Cymreig yn apelio at bawb - plant, pobl hŷn, y sawl sydd erioed wedi dawnsio o’r blaen a’r rhai sydd wedi bod yn dawnsio ers blynyddoedd. Mae Alaw wedi bod yn dysgu plant ac oedolion i glocsio ers 15 mlynedd. Mae’n angerddol ynglyn â rhannu’r traddodiad ac wrth ei bodd yn dawnsio gan ei fod yn gwneud iddi wenu! Dysgir gan Alaw Griffiths.

Thursday 22 August 2pm-4:30pm £10 Dosbarth symudiad a ysbrydolir gan ddawns a ioga i blant 8 oed+ sy’n eich dysgu sut i reoli’r corff pan mae’n agos at y llawr, gyda gwahanol ymarferion symud a chryfhau a fydd yn caniatau i’ch corff symud yn rhwydd ac yn ystyriol. Ysbrydolir gan ddawnsio-brêc, ioga a dawns gyfoes.

CLOCSIO

Dydd Llun 29 Gorffennaf Dydd Mawrth 30 Gorffennaf Dydd Mercher 31 Gorffennaf Dydd Iau 1 Awst Dydd Gwener 2 Awst

Wynebau anghenfil ar olwynion Paent blêr ar olwynion Creaduriaid y môr ar olwynion Robotiaid ar olwynion Pefriad a Llewyrch ar olwynion

Dydd Llun 5 Awst Dydd Mawrth 6 Awst Dydd Mercher 7 Awst Dydd Iau 8 Awst Dydd Gwener 9 wst

Glan y môr Adar a phryfed Becky Deinosoriaid a dreigiau Knight Du a gwyn Tanddwr

Anna Evans

IOGA I RIENI A PHLANT BACH

SYMUDIAD YSTYRIOL GYDA ROSA

39


dysgu creadigol

dysgu creadigol

air o gyngor, gall y cwrs ymarferol, ymlaciol hwn fod o gymorth i chi. O dan arweiniad Ysgrifennwr Preswyl Canolfan y Celfyddydau DAMIAN GORMAN, bwriad HWB YSGRIFENNU yw i’ch helpu i ddatblygu hyder yn eich ysgrifennu a thrwy hynny i godi’ch llais. Mae DAMIAN GORMAN yn fardd ac yn ddramodydd, o Ogledd Iwerddon yn wreiddiol, sydd wedi bod yn byw yng Nghymru ers chwe blynedd. Mae ef wedi bod yn annog bobl i ysgrifennu ers dros ddeng mlynedd ar hugain mewn llefydd mor amrywiol ag Ynys Rathlin, Malta ac Armenia. Bu’n ddiweddar yn ddarlithydd gwâdd ym mhrifysgolion Rhydychen a Stanford, a derbyniodd MBE am ei wasanaethau i’r celfyddydau. Mae’r pris cynnar ar gael hyd at 6pm ar 31ain Gorffennaf. --------------------------------------------------------------

Cyrsiau Haf i Oedolion BYWLUNIADU

Dydd Llun 22 - Dydd Iau 25 Gorffennaf 2019 2pm-7pm 16 oed+ Am 4 diwrnod £150 (£140) (£130 Pris Cynnar) Am 2 ddiwrnod £85 (£75) (£70 Pris Cynnar) Byddwn yn ffocysu ar ddefnyddio cyfrwng sych: pensil, siarcol, pastel, a chreon conte du; a chyfrwng gwlyb - inc a phaent. Bydd ein modelau yn cynnwys dawnswyr hyfforddedig a modelau profiadol, yn ddynion a merched, yn gweithio’n unigol ac hefyd mewn parau. Darperir yr holl ddeunyddiau ond mae croeso i chi ddod â’ch offer eich hun pe dymunech. Er mwyn gwneud y defnydd gorau o’r gofod, cyfyngir y nifer o lefydd ar y cwrs i 14, felly archebwch yn fuan er mwyn osgoi cael eich siomi. Y gost am y cwrs llawn o bedwar diwrnod llawn yw £150 (£140 gostyngiad) gyda phris o £130 pe archebir yn gynnar. Pe dymunwch ddod am 2 ddiwrnod yn unig cost y cwrs yw £85 (£75 gostyngiad) gyda phris cynnar o £70. Mae’r pris cynnar ar gael hyd at 6pm ar 1af Gorffennaf. --------------------------------------------------------------

ZU AERIAL

Dydd Mawrth 6 Awst 2pm-4:30pm 16oed+ £18 Yn ôl yn sgil galw poblogaidd mae Zu Awyrol yn dod â’u dosbarth celfyddydau awyrol cyffrous i’r Ganolfan! Dewch i ddysgu hedfan a dringo ar raff/sidan a thrapîs yn y dosbarth hwyliog a chefnogol hwn. Dim angen profiad! 40

ARCHWILIO GEOMETREG A THECHNEG MANDALA

Dydd Sadwrn 17 a Dydd Sul 18 Awst 12pm-6pm £65 am y penwythnos (£60 gostyngiad) (£55 Pris Cynnar) Diwrnod Un: Blodyn Bywyd - Y Triongl, y Chweongl a Triskele Celtaidd Diwrnod Dau: Sgwario’r Cylch - Yr Octagon, Olwynion Moddion a Phatrymu Islamaidd Mae creu mandala (gair Sansgrit sy’n golygu cylch neu gyfanrwydd) yn cynnig llwybr gweledol ar gyfer dod i’r canol, tra ar yr un pryd yn dod ag elfennau ymylol i mewn i deimlad o harmoni cydgysylltiedig. ‘Rydym yn gwneud hyn trwy atsain geometreg gysegredig (iaith gyffredinol siapiau a symbolau), defnydd creadigol o olau, cysgod a lliw, a defnyddio grym diderfyn ein bwriadau. Yn y gweithdy hwn byddwn yn ystyried geometreg mewn natur, yn ogystal ag edrych ar mandalas o wahanol ddiwylliannau, er mwyn datblygu ein hymarfer. Byddwch yn dysgu sut i greu patrymau yn defnyddio arfau hynafol megis cwmpawd, min syth a phensil. Wedyn byddwn yn paentio gyda dyfrlliw ar bapur. Tiwtor: Mae Anne Thomas yn artist, athrawes a therapydd cyflenwol sy’n byw yn Ynyslas, Ceredigion. Mae’r pris cynnar ar gael hyd at 6pm ar 31ain Gorffennaf.

HEI CLAI!

GWEITHDY TAP Dydd Mawrth 20 Awst 10:30am-3pm 16 oed+ £25 (£20) Mae’r gweithdy hwn ar gyfer pob lefel o ddawnswyr tap. Felly os ydych wedi bod yn tapio ers blynyddoedd lawer, angen gloywi eich techneg neu jyst yn awyddus i ddysgu camau newydd, byddwn wrth ein bodd yn eich croesawu. Hyfforddwraig: Charlotte Davies. --------------------------------------------------------------

HWB YSGRIFENNU

Dydd Iau 22 - Dydd Sadwrn 24 Awst 10am - 3pm £85 (£75) (Pris Cynnar £65) Mae’r cwrs ysgrifennu creadigol tridiau hwn yn cynnig yn union beth mae’r teitl yn dweud: anogaeth a chefnogaeth ar gyfer ysgrifenwyr ar bob lefel. Os ydych yn cael trafferth yn gyrru ymlaen efo’ch nofel; yn ceisio dechrau llyfr ar ôl ei ohirio am flynyddoedd; neu jyst yn edrych am

Mae Hei Clai! yn ddathliad cenedlaethol o glai yn cynnig cyfle i bawb i ryddhau eu crochenydd mewnol! Bydd canolfannau ledled y wlad yn cynnig gweithgareddau gyda chlai yn rhad ac am ddim dros y penwythnos 18 – 19 Mai 2019 fel rhan o’r ŵyl Rhowch Gynnig ar Greu. Gemwaith mewn Papur a Chlai Dydd Sadwrn 18 Mai AM DDIM Tlysau, broetshis a bathodynnau I deuluoedd gyda phlant 3 oed a throsodd. Crëwch Lyfr mewn Clai Dydd Sul 19 Mai AM DDIM 2-4pm Nifer y llefydd yn gyfyng, rhaid archebu ymlaen llaw. Sesiwn crochenwaith yn addas ar gyfer teuluoedd ac unigolion (dylai plant o dan 10 oed fod yng nghwmni oedolyn). Rhowch Gynnig ar Greu Dydd Sadwrn 18 Mai 10am-12pm a Dydd Sul 19eg Mai 2pm-4pm Creu Bathodynnau. AM DDIM! 41


Gweithdai Arbennig a Phrosiectau Cymunedol LAMDA Mae arholiadau perfformiad LAMDA yn defnyddio drama i ddatblygu hunan-hyder, presenoldeb corfforol a llais llefaru cryf. Bob blwyddyn mae criw o fyfyrwyr o Ganolfan y Celfyddydau yn eistedd arholiadau Actio LAMDA. Fel rheol cynhelir yr arholiadau ym mis Ebrill/Mai. Os oes gennych ddiddordeb mewn rhoi enw eich plentyn i lawr ar gyfer yr arholiad, cysylltwch â Laura ar 01970 622888 neu lao8@aber.ac.uk DYFARNIAD CELFYDDYDOL Mae Canolfan y Celfyddydau yn Ganolfan Ddyfarniad Celfyddydol gofrestredig a gallwn gynnig i bobl ifanc gynllun hyfforddiant Dyfarniad Celfyddydol fel rhan o’u cwrs yma. Mae’r Dyfarniad Celfyddydol yn gymhwyster achrededig a gydnabyddir yn genedlaethol. Mae’n ysbrydoli pobl ifanc i ddatblygu eu talentau celfyddydol ac arweinyddiaeth: mae’n greadigol, yn werthfawr ac yn hawdd ei gyrraedd. Gellir cyflawni Dyfarniad Celfyddydol ar bum lefel, pedwar cymhwyster ac un dyfarniad rhagarweiniol. Cysylltwch â Laura ar 01970 622888 neu lao8@aber.ac.uk am ragor o wybodaeth.

GOFOD YMARFER UK MUSIC Ymunodd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth â chynllun Gofod Ymarfer UK Music yn 2017. Anela’r cynllun at gynorthwyo pobl ifanc ar draws y DU i ddod o hyd i’r offer a’r arbenigedd addas i’w cynorthwyo i greu cerddoriaeth. UK Music yw’r corff masnach ar gyfer y diwydiant cerddoriaeth a’r aelodau yw: AIM, BASCA, BPI, FAC, MMF, MPA, MPG, MU, PPL, PRS for Music a’r Live Music Group. Gweler rhagor o wybodaeth yma: http://www.ukmusic.org. Am ragor o wybodaeth ynglyn â’r cynllun Gofod Ymarfer neu waith arall UK Music cysylltwch â oliver.morris@ ukmusic.org. Mae sesiynau ymarfer AM DDIM ar gael - cysylltwch â cymrydrhan@aber.ac.uk am ragor o fanylion. 42

ACADEMI ACTIO HIJINX Mae’n bleser gan y Ganolfan weithio mewn partneriaeth gyda Theatr Hijinx i ddarparu rhaglen hyfforddiant i gynorthwyo actorion newydd gydag anableddau dysgu i ddilyn gyrfa yn y theatr neu i ennill sgiliau bywyd trwy ddrama. Am ragor o fanylion neu os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno cysylltwch â: jon.kidd@ hijinx.org.uk

Gweithdai Arbennig a Phrosiectau Cymunedol ‘CARTREF / HOME: snapshot 2019’ Mae ‘CARTREF / HOME: ciplun / snapshot 2019’ yn brosiect cymunedol naw-mis o dan arweiniad Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Mae’r prosiect yn deillio o bartneriaeth rhwng yr Adran Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu a Chanolfan y Celfyddydau ym Mhrifysgol Aberystwyth ac fe’i noddir yn ariannol gan Gyngor Ariannu Addysg Uwch Cymru (HEFCW). Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yn ardal Tregaron ac yn gofyn, ‘Beth ydi cartref yn golygu i chi?’ Y nod yw casglu straeon, creu ffilmiau, ysgrifennu erthyglau a chreu perfformiadau a gweithiau celf ar safleoedd neilltuol, er mwyn creu ciplun o Dregaron yn 2019, y cyfan yn cael ei rannu mewn arddangosfa gyhoeddus a thrwy archif ddigidol ar-lein. Arweinir y prosiect gan fyfyrwyr o’r Brifysgol a phobl broffesiynol creadigol, gydag ysgolion a grwpiau cymunedol o ardal

GWASANAETH CYFIAWNDER AC ATAL IEUENCTID Mae’n bleser gennym weithio mewn partneriaeth gyda grwpiau Gweithgaredd Strwythuredig Gwasanaethau Cyfiawnder ac Atal Ieuenctid Ceredigion a Chyfeillion Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth i gynnal sesiynau yn y celfyddydau gweledol, y celfyddydau perfformio a’r cyfryngau newydd, yn ogystal ag Ysgol Roc hynod lwyddiannus bob wythnos. Mae’r grwpiau’n agored i bobl ifanc 10-17 oed ac mae ‘na gyfleoedd i gofrestru fel gwirfoddolwr cymunedol i gynorthwyo gyda’r sesiynau. Cysylltwch â Jamie Jones-Mead ar 01970 633730 am ragor o wybodaeth. ARTISTIAID MEWN YSGOLION Gweithdai Testun Gosod TGAU a Lefel A Gweithdy am ddiwrnod cyfan yn gweithio ar destunau gosod TGAU a Lefel A mewn Saesneg a Drama. Wedi eu cynllunio i gyfarfod ag anghenion eich ysgol.

Tregaron yn penderfynu beth yr hoffent greu a pha straeon ynglyn â ‘Chartref’ y dymunent rannu. ‘Rydym eisoes yn gweithio gyda Bryntirion, Canolfan Deulu Tregaron, Ysgol Tregaron ac Ysgol Pontrhydfendigaid. Hyd y prosiect: Tachwedd 2018 – Gorffennaf 2019 Anna Evans o Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth yw cydlynydd y prosiect: are11@ aber.ac.uk 07779 270082 / 01970 622163

Criw Celf Ceredigion

RHAGLEN ADDYSG ORIEL I YSGOLION ‘Rydym yn cynnal rhaglen helaeth o weithgareddau i ysgolion gan gynnwys sesiynau Addysg Oriel ymarferol ar gyfer pob cyfnod allweddol yn gweithio gyda’n rhaglen arddangosfeydd; sesiynau Serameg ymarferol a theori mewn cysylltiad â chasgliad Serameg y Brifysgol; Dyddiau Celf lle y gall ysgolion ddod â hyd at 100 o blant i’r Ganolfan i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, a sesiynau byrrach a gynllunir yn benodol ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 1 & 2. Am fanylion ynglyn â sesiynau a gweithgareddau sydd ar gael y tymor hwn, cysylltwch â Rachael Taylor ar 01970 622163 / rmt@aber.ac.uk

Criw Celf Ceredigion is a project for keen and talented young artists aged 11-18. It involves workshops with professional artists at Aberystwyth Arts Centre, Ceredigion Museum and coach visits to galleries and to the University Fine Art Department. See more about Criw Celf by our project partner Oriel Davies at: www.orieldavies.org/en/criw-celf

Prosiect i artistiaid talentog, ifanc rhwng 11-18 oed yw Criw Celf Ceredigion. Mae’n cynnwys gweithdai hefo artistiaid proffesiynol yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, ac ymweliadau ar goets i orielau ac i Adran Gelf Cain Y Brifysgol. Mae mwy am brosiectau ein partner Criw Celf Oriel Davies ar: www.orieldavies.org/cy/criw-celf

Learners from Ceredigion can apply for a place from June 2018, to begin in October. There are no events during revision/exam periods.

Gall dysgwyr o Geredigion wneud cais o fis Mehefin 2018, i gychwyn ym mis Hydref. Does dim digwyddiadau yn ystod adegau adolygu/arholiadau.

Interested? Ask your Art teacher to nominate you, or contact us for more information. rmt@aber.ac.uk / 01970 622163

Diddordeb? Gofynnwch i’ch athro/awes Gelf enwebu chi, neu cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth. rmt@aber.ac.uk / 01970 622163

Supported by: / Cefnogwyd gan:

TEITHIAU TU CEFN I’R LLWYFAN Sesiwn am ddim ar gyfer myfyrwyr astudiaethau theatr gyda staff creadigol a thechnegol y Ganolfan i egluro sut mae theatr yn gweithio ar y llwyfan a thu cefn iddo. I drefnu ymweliadau, adnoddau a gweithdai ar gyfer ysgolion, cysylltwch â cymrydrhan@aber.ac.uk

Image: Criw Celf ‘Making our Mark’ Workshop led by Bethan Page. / Llun: Gweithdy ‘Gwneud ein Marc’ Criw Celf wedi ei arwain gan Bethan Page.

42


ARCHEBU TOCYNNAU Gallwn gadw tocynnau a archebir yn eich enw am bedwar diwrnod. Ar ôl hynny, cânt eu rhyddhau i’w gwerthu. Os byddwch yn archebu tocynnau ar ddiwrnod y digwyddiad/ ffilm, bydd yn rhaid i chi dalu’n llawn wrth archebu. Os byddwch wedi archebu tocynnau a heb dalu amdanynt erbyn diwrnod y digwyddiad/ffilm, cânt eu rhyddhau i’w gwerthu. AD-DALU A CHYFNEWID Os na allwch ddod iberfformiad neu ffilm yr ydych wedi archebu tocynnau ar eu cyfer, gallwch anfon eich tocynnau yn ôl hyd at ddau ddirwnod cyn y perfformiad ac fe anfonwn nodyn credyd llawn atoch. Neu gallwn newid eich tocynnau am berfformiad mwy cyfleus o’r un sioe neu ffilm. Os bydd y tocynnau i gyd wedi’u gwerthu, fe wnawn ein gorau i ailwerthu eich tocynnau i chi heb gost ychwanegol (ond ni allwn addo gwneud hyn). PRISIAU GOSTYNGOL Nodir y prisiau gostyngol mewn cromfachau trwy’r daflen hon. Mae’r pris hwn ar gael i bobl 60+ sydd wedi ymddeol yn llwyr, pobl ifanc o dan 16 oed, myfyrwyr amser llawn, pobl ddi-waith a phobl anabl. Croesewir babis i sioeau lle cynigir gostyngiad ar y pris i blant. HWYRDDYFODIAID Er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar gwsmeriaid eraill a pherfformwyr, gellir gofyn i bobl sy’n cyrraedd yn hwyr aros tan y bydd yn gyfleus cyn mynd i mewn i’r awditoriwm, yn ôl barn ein staff. O dan amgylchiadau eithriadol ac yn dibynnu ar y perfformiad, efallai ni fydd yn bosibl gadael hwyrddyfodiaid i mewn o gwbl. Felly gwnewch bob ymdrech os gwelwch yn dda i gyrraedd mewn da bryd. Ni roddir ad-daliad i gwsmeriaid sy’n methu rhan o’r perfformiad neu’r perfformiad cyfan am eu bod yn hwyr.

hynt Mae celf a diwylliant i bawb. Ond os oes gennych nam neu ofyniad mynediad penodol, yn aml, gall mwynhau ymweliad i theatr neu ganolfan gelf fod yn fwy cymhleth na dim ond 44

archebu tocynnau a dewis beth i’w wisgo. Mae Hynt yn gynllun cenedlaethol sy’n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celf ar draws Cymru i wneud pethau’n glir ac yn gyson. Mae gan rai â cherdyn Hynt hawl i gael tocyn yn rhad am ddim i gynorthwyydd personol neu ofalydd yn y Ganolfan y Celfyddydau a phob theatr a chanolfan gelf sy’n rhan o’r cynllun. Ewch i www.hynt.co.uk neu www.hynt.cym am wybodaeth ac arweiniad am y cynllun. Gallwch hefyd gael gwybod os gallwch chi neu’r person rydych yn gofalu amdano/i ymuno â’r cynllun a chwblhau ffurflen gais. CYFLEUSTERAU AR GYFER YMWELWYR ANABL Os hoffech holi am y cyfleusterau cyn dod i Ganolfan y Celfyddydau, ffoniwch 01970 623232 | artstaff@aber.ac.uk. Mae lle wedi’i gadw ger y brif fynedfa i yrwyr sy’n methu cerdded yn dda. Mae dau le yng nghefn y theatr hefyd, ar yr un gwastad â’r prif gyntedd. Gall pobl mewn cadeiriau olwyn fynd i holl awditoria a gweithdai’r Ganolfan. Mae’r prif gyntedd a’r swyddfa docynnau ar yr un gwastad â’r tu allan a gellir mynd mewn lifft i gyntedd y theatr ac ar lifft grisiau i lawr i’r lefel is. Mae croeso i gwn tywys a chwn cymorth. Gellir mynd mewn cadair olwyn i’r toiledau ar bob lefel ag eithrio’r cyntedd isaf. Ceir dolenni clywed yn y Neuadd Fawr, y Theatr a’r Sinema. Sylwch: Ni chaniateir offer ffotograffeg na fideo mewn unrhyw berfformiad. GWARCHOD DATA Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, fel rhan o Brifysgol Aberystwyth sy’n gweithredu fel rheolwr data, yn cydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data a’r Rheoliad Gwarchod Data Cyffredinol. Pan ‘rydym yn prosesu’ch archeb / pryniad, gofynnir i chi am eich enw, cyfeiriad, e-bost a rhif ffôn. Mae hyn yn hanfodol er mwyn prosesu archebion lle na ddefnyddir arian parod. . Efallai y gofynnir i chi hefyd gael eich hysbysu am ddigwyddiadau a gweithgareddau a gynhelir yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn y dyfodol. ‘Rydym yn cadw gwybodaeth bersonol at bwrpasau gweinyddu, hysbysebu, marchnata a chodi arian. Yn dibynnu ar beth yr ydych wedi dweud wrthym, byddwn yn i) prosesu’ch gwybodaeth ar y sail eich bod yn ymgymryd â chytundeb pan ‘rydych yn prynu tocynnau neu gynnyrch o’r Ganolfan neu pan ‘rydych yn cyflwyno rhodd (Erthygl 6(1)(b) y Rheoliad). ii) prosesu’ch gwybodaeth ar y sail eich bod wedi rhoi caniatâd ar gyfer y prosesu hyn ac ar gyfer cyfathrebiadau cysylltiedig (Erthygl 6(1)(a) y Rheoliad) a iii) prosesu’ch gwybodaeth ar y sail ei bod er ‘lles dilys’ y Ganolfan i wneud hynny (Erthygl 6(1)(f) y Rheoliad) sef bod angen y wybodaeth ar y Ganolfan er mwyn prosesu trafodion ariannol ac eraill ac i gadw cofnod o’r rhain. Defnyddir eich gwybodaeth gan staff y Ganolfan yn unig. Defnyddir trydydd partïon yn achlysurol i ddarparu cyfleusterau neu wasanaethau i helpu prosesu data. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth neu Swyddog Gwarchod Data’r Brifysgol ar infocompliance@aber.ac.uk

Dyddiadur Diary

Ymwelwch â’n gwefan neu’r daflen ffilm fisol am fanylion ynglyn â’n sgriniadua ffilm dyddiol. | Check the website or monthly film leaflet for details of our daily film screenings.

S/C Sinema | Cinema NF/GH Neuadd Fawr | Great Hall Th Theatr /Theatre St Stiwdio Berfformiad | Performance Studio O1/G1 Oriel 1 | Gallery 1

O2/G2 Oriel 2 | Gallery 2 OC/CG Oriel y Caffi / Café Gallery t/p Tudalen / Page

MAI | MAY 2 Peter Karrie: Two Men and a Piano 7.30pm (Th) t/p.18 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------2 Nick Harper: 58 Fordwych Road 7.45pm (St) t/p.18 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------2 Music Club 8pm (NF/GH) t/p.18 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------3 Lighthouse Theatre: The Kaiser and I 7.45pm (St) t/p.11 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------3 The Upbeat Beatles 8pm (NF/GH) t/p.45 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------4 National Theatre Connections 2019 (Th) t/p.10 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------7 An American in Paris 7pm (S/C) t/p.6 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------8 Aberystwyth University Concert Band 7pm (NF/GH) t/p.19 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------9 Agoriad Darganfod Pensaernïaeth Cymru / Discovering the Architecture of Wales opening 6pm (OC/CG) t/p.30 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------9 Lighthouse Theatre & Pontardawe Arts Centre: Saethu Cwningod / Shooting Rabbits 7.30pm (St) t/p.11 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------9 Pyst: Lleuwen a’r Band 7.30pm (Th) t/p.19 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------10 Matt Forde: Brexit through the Giftshop 7.30pm (Th) t/p.23 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------11 NY Met Live: Dialogues des Carmélites 5pm (S/C) t/p.6 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------12 Cirkus Xanti & Ali Williams Productions: As a Tiger in the Jungle 2.30pm & 7.30pm (Th) t/p.11 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------14 (& encore 29) NT Live: All My Sons By Arthur Miller 7pm (S/C) t/p.6 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------14 Gillian Clarke & Ifor ap Glyn: Gillian, Ifor …and Dylan 7.30pm (Th) t/p.12 45


Dyddiadur Diary

Dyddiadur Diary

-----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------16 – 17 Drama and Theatre Studies 3rd Year Projects 12-5pm (Th) t/p.12 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------16 - 17 Aberystwyth at War: Dot and Billy 7.45pm (St) t/p.12 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------19 Bolshoi Ballet Live: Carmen Suite / Petrushka 4pm (S/C) t/p.7 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------21 – 22 Arad Goch: Rwtsh Ratsh Rala Rwdins 1pm, 10am, 1pm (Th) t/p.12 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------26 Protein: The Little Prince 2pm (Th) t/p.13 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------30 Little Wander: Comedy Club 8pm (St) t/p.24 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------31 Red Bridge Arts: Stick by Me 1pm & 3pm (St) t/p.13

-----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------14 & 15 Ysgol Lwyfan / Stage School: Mulan Jr 7.30pm (Th) t/p.14 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------19 Agored Darlunwyr Cymreig / Welsh Illustrators opening 6pm (O2/G2) t/p.29 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------19 Theatr Gen Creu ar Daith: Pwy ‘Sgrifennodd Honna? 7.30pm (St) t/p.14 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------20 Llenyddiaeth Cymru: Gwobr Llyfr y Flwyddyn 6pm (Th) t/p.14 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------20 Shakespeare’s Globe Live: The Merry Wives of Windsor 7.20pm (S/C) t/p.7 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------22 The Hornettes 8pm (NF/GH) t/p.21 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------27 Little Wander: Comedy Club 8pm (St) t/p.24 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------27 NT Live: Small Island 7pm (S/C) t/p.8 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------28 Alan Bearman Music: Martin Carthy 7.30pm (Th) t/p.21 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------30 Glyndebourne: Cinderella (Cendrillon) live 5.30pm (S/C) t/p.8

MEHEFIN | JUNE 3 Tom Stade: I Swear To… 7.30pm (Th) t/p.25 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------5 RSC Live: The Taming of the Shrew 7pm (S/C) t/p.7 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------5 Richard Durrant’s Midsummer Music 7.45pm (St) t/p.19 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------6 Cicio’r Bar 7.45pm (St) t/p.13 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------7 Reginald D Hunter An American Facing the Beast 8pm (NF/GH) t/p.25 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------7 Mo Pleasure: My Pleasure – A Musical Journey 7.30pm (Th) t/p.19 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------8 Gareth Bonello, Georgia Ruth a Toby Hay 7.30pm (Th) t/p.20 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------8 The Flanagan Collective: Orpheus 7.45pm (St) t/p.13 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------8 Take That: Greatest Hits Live 8pm (S/C) t/p.7 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------12 Cwmwl Tystion / Witness 8pm (NF/GH) t/p.20 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------13 Les Musicals 7.30pm (NF/GH) t/p.20 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------14 Cyngerdd Clwb Llewod Aberystwyth Lion’s Club Concert 7.30pm (NF/GH) t/p.20 46

GORFFENNAF | JULY 3 Cyngerdd Ysgolion Ceredigion Schools’ Concert 7pm (NF/GH) t/p.21 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------4 Agored Iaith Clai – Ingrid Murphy: Gweledig ac Anweledig / The Language of Clay – Ingrid Murphy: Seen and Unseen opening 6pm (O1/G1) t/p.27 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------5-7 Gŵyl Rhyngwladol Serameg / International Ceramics Festival t/p.15 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------6 WESTLIFE: THE TWENTY TOUR LIVE 8pm (S/C) t/p.8 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------9 Y Talwrn 7.45pm (St) t/p.16 47


YN DOD YN FUAN... COMING SOON...

NEIL OLIVER: THE STORY OF THE BRITISH ISLES IN 100 PLACES 7.30pm, Nos Fercher | Wednesday 13 Tachwedd | November £23.50

-----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------15 Glyndebourne: The Barber of Seville (Il Barbiere di Siviglia) 7pm (S/C) t/p.8 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------19 & 20 Ysgol Bale / Ballet School: Nimble Biscuits and Other Offerings 7.30pm & 2.30pm (Th) t/p.16 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------23 Cluster Arts PTY LTD: Chores 7.30pm (Th) t/p.16 ----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------25 Agored Gareth Griffith: Trelar / Trailer opening 6pm (O1/G1) t/p. -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------25 (encore 8 August) NT Live: The Lehman Trilogy 7pm (S/C) t/p.9 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------27-28 Andre Rieu’s 2019 Maastricht Concert: Shall We Dance 7pm & 3pm (S/C) t/p.9 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------27 – 3 August Musicfest t/p.22

AWST | AUGUST 4 Glyndebourne: The Magic Flute (Die Zauberflöte) 5.30pm (S/C) t/p.9 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------6 RSC Live: Measure for Measure 7pm (S/C) t/p.9 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------9 - 31 Sioe Cerddorol yr Haf / Summer Season Musical: Oliver! (Th) t/p.17 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------23-24 Theatr Gymunedol Castaway Community Theatre 7.45pm (St) t/p.16 -----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------31 Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru National Youth Choir Wales 8pm (NF/GH) t/p.23 48


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.