wildthing
wildthingintroduction The history of visual art is full of animals used as decoration, allegory, symbol; how they are depicted mirrors people’s fluctuating relationship with nature. The way in which animals are understood reflects the beliefs of the society of the time and animal images are potent signifiers of the natural world, speaking of the unity or separation between humans and the rest of nature. Portraying and thinking about the animal world can also give us a measure of distance, a structure within which to think about human behaviour at a remove - as Levi Strauss famously commented, animals are ‘good to think’. 1
Ideas and images of the natural world are richly rewarding sources of inspiration for artists working in many different media; Wild Thing shows contemporary British artworks which place the animal centre stage. Stephanie Quayle skilfully uses clay to render the energy and vitality of her animal subjects, capturing their visual essence while imbuing them with enormous character. Playing with the notion of a human-animal continuum she gives her creatures characteristics and expressions that are recognisably both animal and human - the monkey sitting like a disgruntled toddler - and often includes some of the trappings of human life in her sculptures such as cushions, books, a flower pot. Using the medium of paint to capture animals’ physicality, Georgia Hayes’ paintings also comment on the relationship between animals in close proximity to humans. In ‘Baobab’ a figure with binoculars watches exotic creatures, his lens trapping a deer; but the creatures in this painting are watching us too, a leopard traps us with his stare. ‘Zoo dogs’ is expressively painted with an economy of marks - the dogs are vital, purposeful; but the lines to left & right delineate the boundaries people have set around them. The hopeful pointing muzzles of ‘Zoo dogs’ are going nowhere fast --something ‘Baboon man’, like a man on the tube with legs akimbo, seems quite aware of. Hayes uses flat coloured backgrounds, graphic brushstrokes to express herself - these works are as much about paint and painting as about the subject. Dan Hays’ works too are an experiment in paint.; obviously fond of a pun he selected guinea pigs as his subject. Using the characteristics of textiles, Abigail Brown’s small bird sculptures are made using scraps of material - the short wispy threads and scraps of coloured material delineate the perky little figures, evoking the feathery quick movements and insubstantial forms. Stephen West’s lively drawings of dogs & cats, those human ‘familiars’, are vigorous portrayals, showing awareness of the tension which exists between the wild and domestic. These fawning ‘pets’ we treat as surrogate children are after all liable to rip a rabbit’s head off in a blink : ‘Dog as Wolf’ reminds us. The animals are fizzing with animated lines, full of a tremendous energy which is temporarily held in check while they are on the chair, by the kennel - around human stuff. Susan O’Byrne’s animals come to life, emerge from the making process with their construction clearly displayed - these are poetic creatures both of nature and of the story tale, and a reminder of the extent to which the animal we think of is a human construct. Kerry Stewart’s ‘Lucy’ refers to the fossil of a hominid who lived over 3 million years ago - the imagined figure presents a blank canvas, a recreation of how this ancestor might have looked; slight, forlorn, a bit dejected. We fill in the gaps - is this like us or like the zoo monkeys - or is there maybe only a little difference? We gaze in wonder at animals in the zoo or in wildlife parks but are anxious about encountering them elsewhere - the human upper hand in the relationship has a tenuous individual hold. As a society we can take a member of another species and create aberrations, monsters - something John Isaacs touches on in ‘Say it isn’t so’. In this sculpture a white-coated ‘crazy scientist’ proffers a test tube of - what? - our cinema experience tells us it is probably something about to unleash terror on the world. The figure is in fact a tailor’s dummy with a head created from a cast of a frozen chicken, but recognising the parts of this Frankenstein hotch-potch creature does not lessen its scariness; unfettered science allied with elastic morality creates a terrifying prospect. Clones, transplants and test tube life: all have benign uses, each has potential for rocking the natural world as David Farrer humorously reminds with his outsized sculpture of a genetically modified chicken. Sophie Woodrow’s works question boundaries between species. She takes her own look at ‘what if’ - what if an animal, human and ceramic object were to mix up, what then would be the result? Something like her pure white porcelain portraits of animals, which are a curious delicate and oddly beautiful hybrid of animal, human and ceramic object. Clearly creatures of imagination, they do nevertheless have an internal logic and rightness that makes them authentic and believable; they are a reminder of how truly strange is a giraffe or a chihuahua. Charlotte Cory’s animal portraits draw on the Victorian tradition of photographic visiting cards, but the human head has been replaced by that of an animal suitable to the occasion, borrowed from one of the many stuffed dead creatures the Victorians considered appropriate as decoration. Cory’s darkly humorous surreal images
rather brutally cut self-important humans down to size. The bull gazes soberly from the frame, dressed in his dark suit with long watch chain; the macau with his gaudy plumage and rakish hat gazes sideways, artistically holding his long cigar. Charlotte Cory’s works, full of familiar cues, encourage the viewer to imaginatively complete the story. Emrys Williams’ paintings too offer a compelling narrative, leading us into the world of the imagination. Far from nature as glimpsed through the window or on the horizon, the zebra out of its habitat is rendered safe - a symbol or a toy rather than the raw thing, an idea remembered from childhood books and zoo visits. This decorative exotic creature is removed from reality, a symbol representing a link to nature and a wider canvas ready to be experienced. It is also a painterly device, a lovely graphic shape with its stripes and solidity. These paintings remind us of the importance of a rich imaginative life - the incongruous animal is an object of inspiration, signalling what is still possible. Simon Ward’s portraits are a paean to the animal form; with each hair and tone of colour sharply delineated. The rich colours and deep contrast in light and shadow give these portraits a calm and tender beauty, requesting a respectful attention not usually afforded the creatures in life. Nichola Theakston’s work too gives the animal subject dignity and understanding; these works inspire the viewer to reflect on the common trials and destinies shared by all earth’s creatures. Clive Landen’s photographic portraits show us animals in a way that is very familiar though not pleasant - we usually try to avert our eyes in time but ironically roadkill is the most likely way we will see a badger, a fox, a marten in close up. Carefully photographed in great detail the images are presented formally, with the title naming the road where found and the creatures’ official Latin names - as in a scientific study or even a murder case. Animals abound in fairy tales; they are usually anthropomorphic creatures, used to illustrate key types of human behaviour. Sian Zeng allows the viewer to create their own narrative on magnetic wallpaper, using the fairy tale imagery ingrained in the childhood mind of talking animals, mysterious frogs and princesses. Her animated tale ‘Wick Vic’s final Robbery’ goes to the heart of the wild/tame divide, using simple story telling techniques to symbolise a shifting power equilibrium. Lucy Casson’s narratives in tin, wood and found objects are inspired by the familiar. She makes notes in her sketchbooks of everyday situations and transforms them into surreal and usually humorous dramas played out by the creatures in her alternative worlds. Skilfully manipulating scrap materials - old tins, bits of plastic and kitchen utensils - Lucy Casson’s close attention to detail makes these dramas of her part-human, part-animal creatures intensely attractive. Catrin Howell’s ceramic creatures are inspired by ancient myths and stories, including the stirring narratives of ancient Wales. Her beautifully observed and sculpted animals are grave, composed; these are totemic creatures, symbols in a recurring years-old narrative in which we use animals to understand more about ourselves in the world. Consuelo Seixas Radclyffe’s figurative sculptures create narratives drawn from childhood memories, the surfaces colours and wiry graphic shapes conveying intense feelings. The animals in these works express aspects of the human characters’ emotions; more than pets, these can be seen more as the daemons imagined by Philip Pullman - animal alter ego companions who reflect the person’s essence. Stephen Johnson is an artist designer whose works use familiar imagery in unexpected juxtaposition. In this exhibition he shows work from the series ‘Now isn’t that Lovely’ - small sculptures created from a variety of found objects, mostly sentimental kitsch ornaments like those which grace millions of homes, happy souvenirs from a trip or a child’s joyful gift. This familiar imagery is fondly used in the works. As sculptures these works also stand as surreal narratives - the kitcsh animals lose their associations of sideboards and seaside souvenir shops and gain a new abstract meaning when piled in outlandish combinations of species and scale, in gravitydefying columns. Finally, what’s in a word? Many of our everyday insults derogatively refer to animals - pig, bitch, snake; David Shrigley’s darkly witty anarchic works often include text alongside the images; his ‘road to beasthood’ appears to lead inevitably to the interior self. Animals have always figured prominently in the human imagination and so in art. In the recent past animals were often shown as symbols of status, as having their existence in relation to human owners or hunters or sentimentally as pets. Contemporary artists’ portrayals tend to second-guess the animals’ perspective, and indeed guilt or anxiety can be there too - knowledge of our society’s perceived crimes against nature. Animals are equal-but-different, and can also represent an idyll of nature; portrayals of animals as representatives of the ‘natural’ part of ourselves can emphasise the divide between human and animal, or show how thin that line is. Animal imagery can also question the role of science in framing the future, and even - whether intentionally or not - accustom us through its imagery to ideas such as cloning or cross-species experimentation. John Berger has written that our western culture can no longer have a ‘real’ encounter with the natural world -that our attitude is rooted in nostalgia and we use imagery of animals as compensation for our domesticated state: ‘’The image of a wild animal becomes the starting point of a daydream - a point from which the daydreamer departs with his back turned.’ 2 So on the one hand the image of an unattainable innocent ‘real’ relationship with nature and on the other the guilt of the consequences on the natural world of our method of living. The way in which animals are understood is grounded in a time and place. Most of the works selected here remind us positively of our connection to our surroundings but some also indicate our separation from the wild, from the natural world, and of our role as humans in altering its face. Ultimately artists’ use of animal imagery expresses far more about human beings and the boundaries of our understanding than it does about the creatures portrayed. Eve Ropek, Aberystwyth Arts Centre 2011 1 Claude Levi Strauss ‘The Savage Mind’ 1962 2 John Berger ‘Why look at animal’s 1962
wildthingcyflwyniad Mae hanes celf weledol yn llawn anifeiliaid yn cael eu defnyddio fel addurniad, alegori, symbolau; mae’r modd y maent yn cael eu portreadu yn adlewyrchu perthynas cyfnewidiol dyn gyda natur. Mae’r ffordd y mae anifeiliaid yn cael eu dehongli a’u portreadu yn adlewyrchu credau cymdeithas yr oes: mae delweddau anifeiliaid yn ddynodyddion cryf o’r byd naturiol, yn cyfleu’r unoliaeth neu’r ymwahaniad rhwng dynion a gweddill byd natur. Mae portreadu a meddwl am fyd yr anifail hefyd yn gallu rhoi i ni fesur o bellter, fframwaith lle y gellir meddwl am ymddygiad dynol o’r tu allan - mewn geiriau enwog Levi Strauss, mae anifeiliaid yn ‘gyfrwng da i feddwl.’ 1 Mae syniadau a delweddau o’r byd naturiol yn ffynhonnell gyfoethog ysbrydoliaeth ar gyfer artistiaid yn gweithio mewn llawer o wahanol gyfryngau; Mae Wild Thing yn arddangos gweithiau celf Prydeinig lle mae’r anifail yn ganolog i bob darn. Mae Stephanie Quayle yn defnyddio clai’n gywrain i gyfleu egni a sioncrwydd yr anifail, gan gyflwyno ei hanfod gweledol mewn modd sensitif a thrawiadol. Trwy chwarae gyda’r syniad o’r cyfuniad dyn-anifail, mae’n rhoi i’w chreaduriaid nodweddion y gellir eu hadnabod mewn dynion ac anifeiliaid - y mwnci’n eistedd fel plentyn pwdlyd - ac yn aml mae’n cynnwys eitemau sy’n gysylltiedig â’r bywyd dynol yn ei cherfluniau megis clustogau, llyfrau, pot blodau. Gan ddefnyddio cyfrwng paent i gyfleu corfforoldeb anifeiliaid mae paentiadau Georgia Hayes hefyd yn ymwneud â’r perthynas rhwng anifeiliaid a dynion. Yn Baobab mae ffigwr gyda binocwlars yn gwylio creaduriaid egsotig, ei lens yn ffocysu ar garw; ond mae’r creaduriaid yn y darlun hwn yn gwylio ni hefyd, mae’r llewpart yn syllu’n graff arnom. Mae Zoo dogs wedi’i baentio mewn modd cynnil - mae’r c_n yn fywiog, yn benderfynol; ond mae’r llinellau i’r chwith a’r de yn dynodi’r ffiniau y mae pobl wedi eu gosod o’u cwmpas. Mae trwynau brwdfrydig gobeithiol y Zoo dogs yn mynd i unlle’n gyflym - rhywbeth y mae’r Baboon man, fel dyn ar y tiwb efo’i goesau ar led, yn gwbl ymwybodol ohono. Mae Hayes yn defnyddio cefndiroedd lliwgar fflat gwych a strociau brws graffig i fynegi ei hun - mae’r gweithiau hyn yn dweud gymaint am baent a phaentio ag ydynt am y pwnc dan sylw. Mae darnau Dan Hays hefyd yn arbrawf mewn paent. Mae’n amlwg ei fod yn mwynhau chwarae gyda geiriau a dewisodd foch cwta fel ei bwnc; fe’u portreadir mewn modd annwyl, efallai yn edrych braidd yn ddryslyd, yn y gyfres hon o ddarluniau symbylol. Gan ddefnyddio cyfrwng tecstiliau, creuwyd cerfluniau Abigail Brown o adar bach yn gywrain allan o ddarnau o ddeunydd - mae’r edau byr, tuswaidd a’r tameidiau o ddeunydd lliwgar yn dynodi’n fanwl y cyrff bach bywiog, yn tynnu sylw at y symudiadau pluog cyflym a’r ffurfiau disylwedd. Mae lluniau bywiog Stephen West o gathod a ch_n, y creaduriaid hynny sydd mor gyfarwydd i ddyn, yn bortreadau egniol a sionc, yn dangos ymwybyddiaeth o’r tensiwn sy’n bodoli rhwng y gwyllt a’r dof. Mae’r anifeiliaid anwes yr ydym yn tueddu i ystyried fel plant yn medru, wedi’r cyfan, rhwygo pen cwningen i ffwrdd mewn chwinciad: Mae Dog as Wolf yn ein hatgoffa o hyn. Mae’r anifeiliaid yn byrlymu gyda llinellau bywiog, llawn egni aruthrol sy’n cael ei gadw dan reolaeth dros dro tra bod yr anifeiliaid ar y gadair, wrth y cwt - hynny yw, o gwmpas pethau dynol. Mae proses creadigol trylwyr Susan O’Byrne, a ddatblygwyd i roi i’w hanifeiliaid eu hymddangosiad o fregusrwydd diniwed, yn golygu gosod darnau bach o bapur clai printiedig a phatrymog mewn ‘croen’ dros fframwaith o weiren cyn tanio. Mae’r anifeiliaid yn dod yn fyw, yn dod allan o’r proses tanio gyda’u ffurfiau’n ymddangos yn gwbl eglur - mae’r rhain yn greaduriad barddonol o fyd natur a byd straeon, ac maent yn ein hatgoffa i ba raddau y mae’r anifail yr ydym ni’n meddwl amdano yn deillio o’r dychymyg dynol. Mae darn Kerry Stewart o dan y teitl Lucy yn cyfeirio at ffosil hominid a fu’n byw dros 3 miliwn o flynyddoedd yn ôl - mae’r ffigwr a ddychmygir yn cyflwyno cynfas gwag, ailgread o sut y byddai’r hynafiad hwn wedi edrych efallai; yn eiddil, yn ddigalon, braidd yn drist. ‘Rydym ni’n llenwi’r bylchau - ydi hyn fel ni neu fel y mwnciod yn y s_ - neu a oes ond ychydig bach o wahaniaeth? ‘Rydym yn syllu mewn rhyfeddod ar anifeiliaid yn y s_ neu mewn parciau bywyd gwyllt ond ‘rydym yn anghysurus wrth gyfarfod â nhw rhywle arall - nid yw uchafiaeth dyn yn y perthynas yn beth cryf iawn. Fel cymdeithas gallwn gymryd aelod o rywogaeth arall a chreu creadur abnormal, anghenfil - rhywbeth y mae John Isaacs yn cyfeirio ato yn Say it isn’t so. Yn y cerflun hwn mae ‘gwyddonydd gwallgof’ mewn cot wen yn cynnig i ni diwb prawf yn cynnwys - beth? - mae ein profiad o’r sinema yn dweud wrthym mai rhywbeth erchyll ydio mwy na thebyg. Dymi teiliwr ydi’r ffigwr mewn gwirionedd gyda phen a greuwyd allan o gast o gyw wedi’i rewi, ond nid yw adnabod y gwahanol rannau o’r creadur Frankensteinaidd hwn yn ei wneud yn llai arswydus; mae gwyddoniaeth di-ymatal wedi’i gyfuno â moesoldeb elastig yn creu posibiliadau dychrynllyd. Cloniaid, trawsblaniadau a bywyd mewn tiwb prawf: mae ganddynt i gyd eu pwrpas diniwed ac mae ganddynt i gyd y potensial i chwalu’r byd naturiol, fel y mae David Farrer yn ein hatgoffa’n hwyliog gyda’i gerflun anferth o gyw iâr sydd wedi’i addasu’n genetig. Mae gwaith Sophie Woodrow yn cwestiynu’r ffiniau rhwng rhywogaethau. Mae’n gofyn y cwestiwn ‘be’ tase?’ - be’ tase anifail, dyn a darn serameg yn cael eu cymysgu, beth fyddai’r canlyniad? Rhywbeth fel ei phortreadau porslen gwyn pur o anifeiliaid, sy’n hybrid anghyffredin, cywrain ac annisgwyl o brydferth o anifail, bod dynol a darn serameg. Er eu bod yn amlwg yn greaduriaid dychmygol, mae ganddynt serch hynny resymeg a chywirdeb mewnol sy’n eu gwneud yn ddilys ac yn gredadwy; maent yn ein hatgoffa mor wirioneddol od yw jiraff neu shiwawa. Mae portreadau Charlotte Cory o anifeiliaid yn tynnu ar y traddodiad Fictoraidd o gardiau ymweld ffotograffig, ond yn lle’r pen dynol gwelir pen anifail sy’n gysylltiedig â’r achlysur, wedi ei fenthyg oddi wrth un o’r creaduriaid meirwon stwffiedig a ystyrwiyd gan y Fictoriaid i fod yn addas fel addurniad. Mae delweddau swreal hwyliog-dywyll Cory yn rhoi bodau dynol hunan-bwysig yn eu lle. Mae’r tarw’n syllu’n sobr o’r ffrâm, wedi’i wisgo yn ei siwt dywyll gyda chadwyn oriawr hir; mae’r macaw gyda’i blu gorliwgar a’i het dalog yn rhythu i’r ochr, yn dal ei sigâr hir mewn modd artistig tra bod Miss Ratty wedi’i gwisgo yn ei dillad dosbarth-canol gorau. Mae gwaith Charlotte Cory, sy’n llawn awgrymiadau cyfarwydd, yn annog y gwyliwr i gwblhau’r naratif yn ei ddychymyg. Mae paentiadau Emrys Williams hefyd yn cynnig naratif cymhellol, yn ein harwain i mewn i fyd y dychymyg. Ymhell oddi wrth natur fel y’i gwelir trwy’r ffenest neu ar y gorwel,
mae’r sebra y tu allan i’w gynefin yn ymddangos yn ddiogel - yn symbol neu’n degan yn hytrach na’n rhywbeth crai, syniad sy’n cael ei gofio o lyfrau plentyndod ac ymweliadau â’r s_. Mae’r creadur egsotig addurnol hwn yn cael ei symud oddi wrth realiti, yn symbol sy’n cynrychioli cysylltiad â natur a chynfas ehangach sy’n aros i gael ei brofi. Mae’n hefyd yn ddyfais arluniol, siâp graffig hyfryd gyda’i streipiau a’i gaderndid. Mae’r paentiadau hyn yn ein hatgoffa o bwysigrwydd bywyd dychmygus cyfoethog - mae’r anifail rhyfedd yn ffynhonnell ysbrydoliaeth, yn arwydd o’r hyn sy’n bosibl. Mae portreadau Simon Ward yn fawlgan i ffurf yr anifail. Yn defnyddio techneg lle mae’n sganio’n araf corff marw anifail, mae ei ddelweddau cymhellol wedi eu cyfansoddi’n ofalus ac yn ddwys, gyda phob blewyn ac amrywiaeth o liw wedi’i ddynodi’n graff. Mae’r lliwiau cyfoethog a’r cyferbyniadau rhwng y golau a’r cysgod yn rhoi i’r portreadau hyn ryw brydferthwch tawel a thyner, sy’n hawlio sylw parchus nad yw’n cael ei roi i’r creaduriaid hyn fel arfer mewn bywyd. Mae gwaith Nichola Theakston hefyd yn rhoi urddas a dealltwriaeth i’r anifail. Mae ei phortreadau serameg yn dal nodweddion corfforol y creadur ac mae hi hefyd yn cyfleu eu hanfod, eu bywyd mewnol, yn ffocysu ar eu hunigolrwydd a’u hysbryd. Wedi eu creu mewn modd deallus a sensitif, mae’r gweithiau hyn yn ysbrydoli’r gwyliwr i fyfyrio ar y treialon a’r tyngedau cyffredin a rennir gan holl greaduriaid y ddaear. Mae portreadau ffotograffig Clive Landen yn dangos anifeiliaid i ni mewn ffordd sy’n gyfarwydd iawn ond nad yw’n bleserus - fel arfer ‘rydym yn ceisio osgoi edrych mewn pryd ond y gwir yw mai fel cyrff meirwon ar y ffordd yr ydym yn fwyaf tebygol o weld y mochyn daear, y cadno neu’r bele. Wedi eu ffotograffu’n ofalus ac yn fanwl cyflwynir y delweddau’n ffurfiol, gyda’r teitl yn enwi’r ffordd lle y’u canfyddwyd ac yn nodi enwau Lladinaidd swyddogol y creaduriaid - fel mewn astudiaeth wyddonol neu hyd yn oed achos llofruddiaeth. Mae straeon tylwyth teg yn llawn anifeiliaid; maent fel arfer yn greaduriaid anthropomorffig, yn cael eu defnyddio i ddynodi mathau allweddol o ymddygiad dynol. Mae Sian Zeng yn caniatau’r gwyliwr i greu ei naratif ei hun ar bapur wal magnetig, yn defnyddio delweddau tylwyth teg o gof plentyndod o anifeiliaid sy’n siarad, brogaod a thywysogesau hudolus. Mae ei stori fywiog Wick Vic’s final Robbery yn mynd yn syth at galon y gwahaniaeth rhwng y gwyllt a’r dof, yn defnyddio technegau adrodd straeon syml i symboleiddio’r newid yng nghydbwysedd y pwer rhyngddynt. Ysbrydolir gwaith Lucy Casson mewn tun, pren ac eitemau cyffredin gan yr hyn sy’n gyfarwydd. Mae hi’n gwneud nodiadau yn ei llyfrau sgetshio am sefyllfaoedd bob-dydd a thrwy eu defnyddio fel man cychwyn mae’n eu trawsffurfio i mewn i ddramâu swreal ac fel arfer doniol yn nodweddu’r creaduriaid yn ei bydoedd amgen. Gan ddefnyddio darnau o ddeunydd mewn modd cywrain - hen duniau, darnau o blastig ac offer cegin - mae manylder Lucy Casson yn gwneud y dramâu hyn o’i chreaduriaid rhan-ddynol, rhan-anifail yn ddeniadol iawn. Ysbrydolir creaduriaid serameg Catrin Howell gan fythau a straeon hynafol, gan gynnwys hen naratifau cynhyrfus Cymreig. Mae ei hanifeiliaid cerfluniedig hyfryd yn ddwys, yn ddigyffro; mae’r rhain yn greaduriaid totemig, symbolau mewn hen naratif cyfarwydd lle ‘rydym yn defnyddio anifeiliaid i ddeall mwy am ein lle ni ein hunain yn y byd. Mae cerfluniau ffiguraidd Consuelo Seixas Radclyffe yn creu naratifau sy’n tynnu ar atgofion plentyndod, gyda’r arwynebedd, y lliwiau a’r siapiau graffig gwifriog yn cyfleu teimladau dwys. Mae’r anifeiliaid yn y darnau hyn yn mynegi agweddau o emosiynau’r bod dynol; yn fwy nag anifeiliaid anwes, gellir gweld y rhain yn fwy fel y daemoniaid a ddychmygwyd gan Philip Pullman - cymheiriaid alter ego byd yr anifail sy’n adlewyrchu hanfod y person. Artist a dylunydd yw Stephen Johnson sy’n defnyddio delweddau cyfarwydd mewn ffyrdd annisgwyl. Yn yr arddangosfa hon mae’n dangos gwaith o’r gyfres Now isn’t that Lovely - cerfluniau bychain a greuwyd allan o amrywiaeth o ddarnau, yn bennaf addurniadau kitsch sentimentalaidd fel y rhai a ganfyddir mewn miliynau o gartrefi (llai crand?), swfenirau hapus o wibdaith neu anrheg lawen oddi wrth blentyn. Defnyddir y delweddau cyfarwydd hyn mewn ffordd hoffus, yn ddathliad o’r ffactor aah da-deimlad. Fel cerfluniau mae’r gweithiau hyn hefyd yn sefyll fel naratifau swreal - mae’r anifeiliaid kitcsh yn colli eu cysylltiadau â seldfyrddau a siopau swfenir glan-y-môr ac yn ennill ystyr haniaethol newydd pan maent yn cael eu gosod mewn cyfuniadau anghyffredin a thrawiadol, mewn colofnau ecsentrig. Yn olaf, beth sydd mewn gair? Mae llawer o’n sarhadau bob dydd yn cyfeirio mewn modd dirmygus at anifeiliaid - mochyn, gast, neidr; mae gweithiau anarchaidd ffraeth tywyll David Shrigley yn cynnwys yn aml testun ochr yn ochr â’r delweddau; ymddengys bod ei ‘ffordd i fwystfildra’ yn arwain yn anochel at yr hunan mewnol. Mae anifeiliaid wedi bod yn nodwedd amlwg yn y dychymyg dynol erioed ac felly hefyd ym maes celf. Yn y gorffennol portreadwyd anifeiliaid yn aml fel symbolau o statws, cyflwynwyd eu bodolaeth mewn cysylltiad â’r dynion oedd yn berchen arnynt neu’n eu hela neu, yn sentimentalaidd, fel anifeiliaid anwes. Mae portreadau artistiaid cyfoes yn tueddu i ail-ddyfalu persbectif yr anifail, ac yn wir gellir gweld euogrwydd neu bryder yno hefyd - ymwybyddiaeth o droseddau cydnabyddedig ein cymdeithas yn erbyn natur. Mae anifeiliaid yn gydradd-ond-yn-wahanol, a gallant hefyd gynrychioli eidyl o natur; gall portreadau o anifeiliaid fel cynrychiolwyr o’r darn ‘naturiol’ o ni’n hunain bwysleisio’r gwahaniaeth rhwng dyn ac anifail, neu ddangos pa mor denau yw’r llinell honno. Gall delweddau o anifeiliaid hefyd gwestiynu rôl gwyddoniaeth wrth fframio’r dyfodol, a gall hyd yn oed - yn fwriadol neu ddim - ein cyfarwyddo â syniadau megis clonio neu arbrofi traws- rywogaethol. Eve Ropek, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth 2011 1 Claude Levi Strauss ‘The Savage Mind’ 1962 2 John Berger ‘Why look at animal’s 1962
Abigail Brown “My work with birds evolved because I think of them as one of the most beautiful creatures. So precious, so fragile and yet so animated and positively bursting with life. Each piece develops its own character which is told through the twist of its head or its own individual stance. My work centres on animals because they give me comfort, they are truly heart warming, they make me smile…and that is the same reaction I hope to evoke in others.” Abigail Brown graduated in Surface Design and Textiles in 2003 and produces each bird individually using both new and recycled materials from her studio in Cockpit Studios in London. “Mae fy ngwaith gydag adar wedi datblygu oherwydd ‘rwy’n meddwl amdanynt fel rhai o’r creaduriaid mwyaf prydferth. Maent mor werthfawr, mor fregus ac eto mor sionc ac yn llawn egni a bywyd. Mae pob darn yn datblygu ei gymeriad ei hun a bortreadir trwy droad ei ben neu ei safiad unigryw ei hun. Mae fy ngwaith yn canolbwyntio ar anifeiliaid oherwydd maent yn rhoi cysur i mi, maent yn wir codi’m calon, maent yn gwneud i mi wenu …a dyna’r ymateb ‘rwy’n gobeithio cael gan eraill.” Graddiodd Abigail Brown mewn Dylunio Arwynebedd a Thecstiliau yn 2003 ac mae’n cynhyrchu pob darn yn unigol gan ddefnyddio deunyddiau newydd, a rhai sydd wedi eu hailgylchu, yn ei stiwdio yn Llundain.
www.abigail-brown.co.uk
Lucy Casson Lucy Casson spent much of her childhood “constructing things out of jumble sale finds and bits lying around”. Despite growing up in the illustrious Casson family of potters, she was not tempted to choose ceramics and after studying textiles at Camberwell began her career as a weaver. In the early 1980s she began making sculptures out of recycled tin and this has become her ‘trademark’ medium, often incorporating a variety of other materials and found objects. Lucy Casson’s sculptures depict creatures that are not quite human or animal, but a curious mix of both; they act out a detailed narrative which can appear familiar or other-worldly. She uses sketchbooks to record her everyday observations, and it is this keen attention to detail, allied with her skill in using and combining materials, that gives her surreal scenarios the feeling of authenticity. Lucy Casson is based in London. Treuliodd Lucy Casson oriau yn ystod ei phlentyndod yn “creu pethau allan o eitemau a darnau oedd yn gorwedd o gwmpas”. Er gwaethaf tyfu i fyny fel aelod o’r teulu Casson sy’n grochenwyr blaenllaw, ni chafodd ei themtio i ddewis serameg ac ar ôl astudio tecstiliau yn Camberwell dechreuodd ar ei gyrfa fel gwehydd. Yn ystod y 1980au cynnar dechreuodd wneud cerfluniau allan o dun wedi’i ailgylchu ac mae’r dull hwn bellach yn nodweddiadol o’i gwaith. Mae cerfluniau Lucy Casson yn aml yn portreadu creaduriaid nad ydynt yn hollol ddynol neu’n anifeiliaid, ond yn gymysgedd rhyfedd o’r ddau; maent yn actio allan naratif manwl sy’n medru ymddangos yn gyfarwydd neu’n arall-fydol. Mae hi’n defnyddio llyfrau sgetshio i gofnodi sylwadau bob dydd ac mae’r manylder hwn, ynghyd â’i sgil wrth ddefnyddio a chyfuno deunyddiau, yn rhoi rhyw deimlad o ddilysrwydd i’w senarios swreal. Mae Lucy Casson yn byw ac yn gweithio yn Llundain.
A Scene from Formica Table 2011
Charlotte Cor y “Victorian ‘Cartes-de-visite’, photographic calling cards, were a craze - millions were made and now lie anonymous and discarded in junk shops. Can there be anything more wretched than a person proudly got up in their best bib and tucker, preserved for a posterity that is no longer interested? And yet there is something sadder: stuffed animals in museums, shot long ago not on glass plates but with guns, their very bodies likewise preserved for posterity to gawk at. Where did this moth-eaten tiger sniff his last antelope, over what distant verdure did that dusty parrot flap tremulous emerald wings? One day it came to me: why not recycle the dispossessed pictures and long dead creatures grant them all a new lease of life: better, more colourful, more deserving than before.” Charlotte Cory is a photographic artist and writer who works in London. “‘Roedd y ‘Cartes-de-visite’ Fictoraidd, cardiau ymweld ffotograffig, yn ffasiynol iawn - gwnaethpwyd miliynau ohonynt sydd erbyn hyn yn gorwedd yn anhysbys ac yn angof mewn siopau hen bethau. A oes rywbeth gwaeth na rhywun wedi’i wisgo i fyny yn ei ddillad gorau, yn cael ei gadw am byth ar gyfer oes nad oes ganddi unrhyw ddidordeb ynddo? Ac eto mae ‘na rywbeth sy’n fwy trist: anifeiliaid stwffiedig mewn amgueddfeydd; wedi eu saethu blynyddoedd yn ôl dim ar blatiau gwydr ond gyda gynnau, eu cyrff wedi eu cadw er mwyn i bobl rhythu arnynt. Un dydd cefais y syniad: beth am ailgylchu’r lluniau dieiddo a’r creaduriaid meirwon druan - a rhoi iddynt i gyd fywyd newydd: bywyd gwell, mwy lliwgar, mwy haeddiannol na’r un blaenorol.” Mae Charlotte Cory yn artist ffotograffig ac yn ysgrifenwraig sy’n gweithio yn Llundain.
Parrot’s wedding 2009
www.charlottecory.com
David Far rer David Farrer is an artist who specialises in working with pâpier maché - a material he began to use after observing the intense recycling habits, born of necessity, in South Africa. Farrer’s interests in green issues and his love of the natural environment and of its wildlife led to his specialising in animal portrayals, including tongue-in-cheek ‘trophy heads’ (and rear ends too).These playful works reflect a healthy sense of fun and of the ridiculous, but carry a more serious message. David Farrer studied at Sunderland and Leeds, graduating in Printmaking. He now lives and works in North Yorkshire and in rural Surrey. Mae David Farrer yn artist sy’n arbenigo mewn gweithio gyda papier mache - deunydd y dechreuodd ei ddefnyddio ar ôl gweld bobl yn ailgylchu o ddifrif, allan o angenrheidrwydd, yn Ne Affrica. Bu diddordeb Farrer mewn materion gwyrdd a’i hoffter o’r amgylchedd naturiol a’i fywyd gwyllt yn arwain at ei arbenigedd mewn portreadau anifeiliaid, gan gynnwys darnau sydd ag elfen o hiwmor. Mae’r darnau chwareus hyn yn adlewyrchu teimlad iach o hwyl a’r gwirion ond mae ganddynt hefyd neges sydd o ddifrif. Astudiodd David Farrer yn Sunderland a Leeds a graddiodd mewn Gwneud Printiau. Bellach mae’n byw ac yn gweithio yng Ngogledd Swydd Efrog ac yn Surrey wledig.
G.M. Chicken 2005
www.davidfarrer.com
Georgia Hayes “After a first visit to Africa and Central America in 2006 I started painting animals: some wild, being watched or watching humans, others in captivity or domestic. I saw humans and other animals watching each other. This subject seems to fit with the work I have done in museums, another place of concentrated viewing and recording. As usual, the paint, colour and form dictate how the image evolves. All worIds, memories and means are there to be plundered; and I use drawings from direct experience, photographs, images from tv and newspapers, folk and street art, etc. I aim to paint with a freedom that allows for unpredictable changes and hope that something surprising will come about that may make us look at the familiar with renewed interest.” Georgia Hayes studied painting with Roy Oxlade between 1977 and 1982. Born in Scotland, she now lives and works in Sussex. “Ar ôl f’ymweliad cyntaf ag Affrica ac America Ganolog dechreuais baentio anifeiliaid: rhai gwyllt, yn cael eu gwylio neu’n gwylio dynion, eraill mewn caethiwed neu’n ddof. Gwelais ddynion ac anifeiliaid yn gwylio ei gilydd. Teimlaf fod y pwnc hwn yn cydfynd â’r gwaith yr wyf wedi gwneud mewn amgueddfeydd, safle arall lle mae pobl yn gwylio ac yn cofnodi. Fel arfer, mae’r paent, y lliw a’r ffurf yn arddweud sut mae’r ddelwedd yn datblygu. ‘Rwy’n cael f’ysbrydoli gan bob math o bethau ac ‘rwy’n defnyddio lluniau o brofiad uniongyrchol, ffotograffau, delweddau o’r teledu a phapurau newydd, celf werin a stryd ac yn y blaen. Anelaf at baentio gyda rhyddid sy’n caniatau newidiadau anrhagweladwy gan obeithio y bydd rhywbeth annisgwyl yn digwydd sy’n ein gorfodi i edrych ar yr hyn sy’n gyfarwydd gyda rhyw ddiddordeb newydd.” Astudiodd Georgia Hayes baentio gyda Roy Oxlade rhwng 1977 a 1982. Wedi’i geni yn yr Alban mae hi bellach yn byw ac yn gweithio yn Sussex.
Baboon man 2007 Oil on canvas
www.georgiahayes.com
Catrin Howell Catrin Howell draws inspiration for her sculptures from legend, myth and fantasy. “I am fascinated by animals and the way they are used to convey narratives: from the roles they play in mythology as iconic symbols, and their ability to convey complex messages. I am drawn to myth because it allows the impossible to happen - challenging perceptions by playing with assumptions of the real and the supposed. I am interested in the universality of myth, of narrative and symbolism, and how common themes exist in the mythology of more than one culture.” Catrin Howell graduated from the University of Wolverhampton and the Royal College of Art in London; she lives and works in west Wales. Mae Catrin Howell yn tynnu’r ysbrydoliaeth ar gyfer ei cherfluniau oddi wrth chwedlau, myth a ffantasi. “‘Rwy’n ymddiddori’n fawr mewn anifeiliaid a’r ffordd y maent yn cael eu defnyddio i gyfleu naratif: y rolau maent yn chwarae mewn mytholeg fel symbolau eiconig a’u gallu i gyfleu negeseuon cymhleth. ‘Rwy’n cael fy nenu at fyth oherwydd mae’n caniatau i’r amhosibl ddigwydd - yn herio canfyddiadau trwy chwarae gyda’r hyn yr ydym yn cymryd yn ganiataol am y real a’r posibil. ‘Rwy’n ymddiddori mewn cyffredinolrwydd y myth, naratif a symboliaeth a sut mae’r un themâu yn bodoli mewn mytholeg gwahanol ddiwylliannau.” Graddiodd Catrin Howell o Brifysgol Wolverhampton a’r Coleg Celf Brenhinol yn Llundain; mae’n byw ac yn gweithio yng ngorllewin Cymru.
Stephen Johnson Stephen Johnson’s work in this exhibition is titled ‘Now Isn’t That Lovely’ : a series of small sculptures which appear to be surreal piled-high versions of kitsch ornamentation. A winsome creature with big dark eyes and meticulously rendered fur, precariously perched above a bird with its head at a cute tilt …these flamboyant works are made up of elements we are used to seeing, conventionally ‘pretty’ and safe representations of animals which tend to elicit an automatic response. These artworks have no practical value but they are less a critique of our need for comfort, familiarity, nostalgia and visual humour than a celebration of it. “Through a lack of interest in the confines of reality (this work) defies so many of its facets like scale, weight, gravity and rules of nature, depicting a life harmonious and utopian.” Stephen Johnson gradated from the Royal College of Art in 2007; he lives and works in London. Teitl gwaith Stephen Johnson yn yr arddangosfa hon yw Now Isn’t That Lovely: cyfres o gerfluniau bach a ymddengys fel fersiynau swreal o addurnwaith kitsch. Gwelir creadur dengar gyda llygaid mawr tywyll a ffwr taclus yn sefyllian yn beryglus uwchben aderyn pert … mae’r darnau llachar hyn yn cynnwys elfennau o’r hyn sy’n gwbl gyfarwydd i’r gwyliwr, cynrychiolaethau ‘del’ confensiynol a diogel o anifeiliaid sy’n tueddu i ennyn ymateb awtomatig. Nid oes gan y darnau celf hyn unrhyw werth ymarferol: nid ydynt gymaint yn feirniadaeth o’n hangen am gysur, agosatrwydd, hiraeth a hiwmor gweledol ond yn hytrach yn ddathliad o’r pethau hyn. “Trwy ddiffyg ddiddordeb mewn cyfyngiadau realiti (mae’r gwaith hwn) yn herio llawer o’i ffasedau megis maint,pwysau, disgyrchiant a rheolau natur, gan bortreadu bywyd cytun ac iwtopiaidd.” Graddiodd Stephen Johnson o’r Coleg Celf Brenhinol yn 2007; mae’n byw ac yn gweithio yn Llundain. www.stephenjohnson.biz
Susan O’Byr ne “Our childhoods are filled with animal images, their many names, shapes, colours and patterns fuel our early imaginations. Throughout history animals have also been used in storytelling, legend and folklore to simplify the complexities of adult life. In the same manner I use the animal form as a vehicle for the expression of human emotions. I aim to give my animals a certain awkward vulnerability, which is achieved through a personal making process. I make a wire framework on to which layers of printed and patterned pieces of porcelain paper clay are applied to form a skin. The natural twists of the wire frame and the shrinkage of the clay around it during firing are allowed to dictate the posture of the finished animal. The element of chance in these processes is central to my work.” Susan O’Byrne was born in Cork, Ireland and after graduating from Edinburgh College of Art she now works in Glasgow. “Mae’n plentyndod yn llawn delweddau o anifeiliaid, mae eu haml enwau, siapiau, lliwiau a phatrymau’n bwydo’n dychymyg cynnar. Ar hyd y blynyddoedd defnyddiwyd anifeiliaid hefyd mewn straeon, chwedlau a llên werin i symleiddio cymhlethdodau’n bywyd fel oedolion. Yn yr un modd ‘rwy’n defnyddio ffurf yr anifail fel ffordd i fynegi emosiynau dynol. Anelaf at roi i’m hanifeiliaid ryw fregusrwydd lletchwith, a gyflawnir trwy broses personol o greu. ‘Rwy’n gwneud fframwaith o weiren a gosod arno ddarnau addurniedig o glai papur porslen i ffurfio croen. Mae’r troadau naturiol yn y weiren a’r ffaith bod y clai’n lleihau yn ystod y proses tanio yn cael effaith ar siâp ac ystum yr anifail gorffenedig. Mae’r elfen o siawns yn y prosesau hyn yn ganolog i’m gwaith.” Ganwyd Susan O’Byrne yn Cork, Iwerddon ac ar ôl graddio o Goleg Celf Caeredin mae hi bellach yn gweithio yn Stiwdios Serameg Glasgow.
www.susanobyrne.com
Stephanie Quayle Manx artist Quayle is developing and pushing the boundaries of working in clay, vigorously hand building sculptures which capture the raw essence and energy of the animals - confronting the animal before and within us. Dealing with a fascination for ‘animal-ness’, of what it is like to be animal, she works with the untamed clay in a direct and energetic way until it becomes inhabited with its subject rather than merely reflecting an image of it. The clay allows a fast, direct and uninterrupted way of drawing in space and confronting its audience, and her works bring a disturbing sense of the untamed nature of the wild into our ordered interiors. Quayle’s upbringing on a farm amongst the livestock as well as time spent in the wilderness of the world’s jungles informs and drives her work. Graduated from the Royal College of Art in 2007 she lives and works in London. Mae’r artist o Ynys Manaw Stephanie Quayle yn datblygu ac yn gwthio’r ffiniau o weithio mewn clai, yn adeiladu cerfluniau â’r llaw sy’n portreadu hanfodion crai ac egni’r anifeiliaid - yn wynebu’r anifail o’n blaen ac y tu mewn i ni. Yn canolbwyntio ar sut mae’n teimlo i fod yn anifail, mae hi’n gweithio gyda’r clai sylfaenol mewn ffordd uniongyrchol ac egniol nes ei fod rhywsut yn amsugno’r pwnc dan sylw yn hytrach nag yn adlewyrchu delwedd ohono yn unig. Mae’r clai yn caniatau ffordd gyflym, uniongyrchol a di-baid o arlunio mewn gofod ac o wynebu’r gynulleidfa, ac mae ei gwaith yn dod â theimlad o natur nas dofwyd i fyd trefnus y gwyliwr. Ysbrydolir gwaith Quayle gan ei magwraeth ar ffarm ymysg yr anifeiliaid yn ogystal ag amser a dreulwyd yn niffeithwch jynglau’r byd. Graddiodd o’r Coleg Celf Brenhinol yn 2007 ac mae’n byw ac yn gweithio yn Llundain.
Little Monkey 2011
Consuelo Seixas Radclyffe “ I make figurative three-dimensional sculptures from clay, wire and paper; I consider my work as narratives, and my main theme is memories of childhood, borrowing freely from diverse cultural traditions specially my country of birth, Brazil. My characters and stories are formed by the presence of clothing and objects of comfort, moments in the past - playtimes, sibling rivalry, imaginary friends; creating metaphors intimately associated with nostalgia, loss and belonging. The expressions in the figures’ faces reveal things that we all felt during our growing up times. Their expressions are often somewhat mutinous, displaying plainly the darker emotions - feelings of rejection and isolation, and cravings for belonging - which usually remain hidden or go unnoticed. To complement my work I bring discarded found objects - it is vital that these found pieces are present in most of my groups as they become part of the whole story. Finally the most rewarding feeling is that I most believe that the viewers when see my work can contemplate the inner universe of each piece and consequently establish a connection with their own childhood.” “‘Rwy’n creu cerfluniau tri-dimensiwn ffiguraidd allan o glai, weiren a phapur. ‘Rwy’n ystyried fy ngwaith yn naratif a’m prif thema yw atgofion o’m plentyndod, yn tynnu’n helaeth o wahanol draddodiadau diwylliannol yn arbennig o’m mamwlad sef Brasil. Ffurfir fy nghymeriadau a’m straeon gan bresenoldeb darnau o ddillad ac eitemau sy’n rhoi cysur, enydau yn y gorffennol amseroedd chwarae, brodyr a chwiorydd, ffrindiau dychmygol; yn creu metafforau sy’n gysylltiedig ag hiraeth, colled a pherthyn. Mae’r golwg ar wynebau’r ffigyrau yn datgelu pethau y buom i gyd yn eu teimlo wrth dyfu i fyny. Yn aml gwelir yr emosiynau tywyllach ar yr wynebau -gwrthodiad ac unigrwydd, a dyheu am berthyn - teimladau sydd fel arfer yn cael eu cuddio neu eu hanwybyddu. I ychwanegu at fy ngwaith ‘rwy’n defnyddio eitemau a daflwyd i ffwrdd - mae’n hanfodol bod y darnau hyn yn bresennol yn y rhan fwyaf o’m grwpiau gan eu bod yn rhan bwysig o’r stori gyfan. Mae’n rhoi pleser i mi fod y gwyliwr, wrth ystyried fy ngwaith, yn gallu myfyrio ar fydysawd mewnol pob darn a thrwy hynny sefydlu cysylltiad gyda’i blentyndod ei hun.”
When I was that big 2011 photo:Sussie Alhburg
www.consueloradclyffe.com
Nichola Theakston “I aim to capture each animal’s unique spirit and convey a sense of its grace and nobility. It is difficult to intensely observe another creature without some self-reflection, enlightenment and an awareness of the complexities of our mutual relationship. I use clay because it is sympathetic to my subject, conveying warmth and vitality.” Nicholas Theakston studied fine art at Exeter University and completed her MA in ceramic sculpture at Cardiff College of Art and Design; she lives and works in Lincolnshire. “‘Rwy’n anelu at ddal ysbryd unigryw pob anifail a chyfleu syniad o’i osgeiddrwydd a’i urddas. Mae’n anodd i wylio creadur arall yn ddwys heb brofi rhywfaint o hunan-fyfyrdod ac ymwybyddiaeth o gymhlethdodau’r perthynas rhyngddom ni a’r creaduriaid hynny. ‘Rwy’n defnyddio clai oherwydd mae’n addas ar gyfer fy mhwnc, yn cyfleu cynhesrwydd a bywiogrwydd.” Astudiodd Nichola Theakston gelf gain ym Mhrifysgol Exeter a chyflawnodd ei MA mewn cerflunwaith serameg yng Ngholeg Celf a Dylunio Caerdydd; mae hi’n byw ac yn gweithio yn swydd Lincoln.
Japanese Macaque no.4 2011
www.nicholatheakstonceramics.vpweb.co.uk
Simon Ward Simon Ward created the ‘photographs’ in this exhibition by placing animal corpses on a flatbed digital scanner, then slowly reproducing their intricate surfaces. These carefully composed elegant images of creatures in death have tremendous grace and clarity, the rich contrast between light and dark recalling for example the still lives of the Dutch masters. They present a respectful tribute to creatures rarely afforded a passing glance in everyday life, inspiring reflection on the end we will share. “Photography for me has to release a kind of physical emotion, placing me as close to the subject as I can and experiencing a personal challenge to represent the subject in its greatest veracity despite the intensity of the situation... Each image is created digitally on a scanner with the real artefact. This allows me to absorb the smells and textures forming a simple but carefully composed reflection, a stillness of life, a focus to detail made by a single ‘brushstroke’ of scanned light.” Simon Ward graduated from the Royal College of Art in 2007; he lives and works in London. Bu Simon Ward yn creu’r ‘ffotograffau’ yn yr arddangosfa hon trwy osod cyrff anifeiliaid meirwon ar sganiwr digidol, ac wedyn yn raddol yn ailgynhyrchu eu harwynebau cymhleth. Mae gan y delweddau cywrain manwl hyn o greaduriaid mewn marwolaeth osgeiddrwydd ac eglurder arbennig, y cyferbyniad cyfoethog rhwng y golau a’r tywyllwch yn atgoffa un o waith bywyd llonydd meistri’r Iseldiroedd. Maent yn cyflwyno teyrnged barchus i greaduriaid na fyddant dan amgylchiadau eraill yn denu unrhyw sylw, ac yn gwneud i ni fyfyrio ar y diwedd y byddwn i gyd yn rhannu. “I mi rhaid i ffotograffiaeth ryddhau rhyw fath o emosiwn corfforol, yn fy ngosod mor agos at y gwrthrych ag sy’n bosibl, yn gwneud i mi brofi sialens bersonol i gyflwyno’r gwrthrych ar ei orau er gwaethaf dwyster y sefyllfa … mae pob delwedd yn cael ei chreu’n ddigidol ar sganiwr gyda’r arteffact real. Mae hyn yn fy nghaniatau i gymryd i mewn yr arogleuon a’r teimlad, yn ffurfio cofnod syml sydd wedi’i gyfansoddi’n ofalus, tawelwch bywyd, ffocws ar fanylyn a greuir gan un strôc gyda’r brws o olau sganiedig.” Graddiodd Simon Ward o’r Coleg Celf Brenhinol yn 2007; mae’n byw ac yn gweithio yn Llundain.
Blackbird 2007, Archival digital C-type print.
www.simonwardphoto.com
Stephen West “When I showed my stone carvings in the former tannery building next to Machynlleth’s Museum of Modern Art Wales in 2009, I heard the story of three dogs attached to the working tannery who guarded the building; chewing traces of meat from the hides and contributing their excrement to the tanning process. This inspired my series of dog drawings, imagining three special dogs for the tannery; one of them, Ci Tanerdy, won a Contemporary Arts Society Wales purchase prize in 2009. Dogs can occasionally savage us to death but more usually love and emotionally bond with us. It is this balance between the wild and the domestic which makes the image of a dog a powerful metaphor for human society. These drawings and my dog carvings also reference great Welsh animal sculpture such as the wooden beasts from Llanrwst Almshouse, the Acton Park dog at Wrexham Museum and the hidden polychrome lions under the Britannia Bridge in Menai.” Stephen West studied at St Martins School of Art and the Royal College of Art; he works from his studio in mid Wales. “Pan fum yn arddangos fy ngherfluniau yn adeilad yr hen danerdy y drws nesaf i Amgueddfa Celf Fodern Machynlleth yn 2009, clywais stori am dri chi a fu’n gwarchod y tanerdy yn yr hen ddyddiau, yn cnoi gweddillion y cig oddi ar y crwyn ac yn cyfrannu ^ sy’n dychmygu tri chi arbennig ar gyfer y eu baw tuag at y proses barcio. Bu’r stori yn ysbrydoli fy nghyfres o ddarluniau o gwn,
tanerdy. Enillodd un ohonynt, Ci Tanerdy, wobr gan Gymdeithas Celf Gyfoes Cymru yn 2009. ^ weithiau ymosod arnom a’n lladd ond yn amlach maent yn ein caru ac yn ffurfio perthynas agos gyda ni. Y balans hwn Gall cwn
rhwng y gwyllt a’r dof sy’n gwneud delwedd y ci yn fetaffor pwerus ar gyfer y gymdeithas ddynol. Mae’r darluniau hyn a’m ^ hefyd wedi cael eu dylanwadu gan cerfluniau o gwn
gerflunwaith blaenllaw Cymreig megis y bwystfilod pren o Elusendy Llanrwst, ci Parc Acton yn Amgueddfa Wrecsam a’r llewod aml-liwiog cuddiedig o dan Bont Britannia ym Menai.” Astudiodd Stephen West yn Ysgol Gelf San Martin a’r Coleg Celf Brenhinol. Mae’n gweithio o’i stiwdio yng nghanolbarth Cymru.
www.stephen-west.com
Dog as wolf, 2010
Emr ys Williams “Through painting I explore images that I have related to the idea of “topography of the mind”, a mental space analogous to reality. It is important for me to work in the moment, following a path that is revealed to me through the interaction with materials, through fluidity in the use of oil or watercolour or a more accretional impulse to build and construct. In either case the most important thing is to create something that feels beyond oneself, something that is open and vulnerable. The work feeds off a wide range of impulses and sources; music affects the work as it proceeds, disparate experiences seem to have an influence in the studio. The most recent paintings are about night-time, moonlight, walking in the dark. The animal motifs are part of this “mise en scene”, referencing the natural world whilst at the same time increasing a sense of displacement. I would hope that the spectator is taken into a space that is perhaps difficult to define but where there is some level of recognition, like a place half remembered, a feeling rather than rationalisation.” Emrys Williams was born in Liverpool and studied at the Slade School of Fine Art in London. He lives in north Wales where he currently lectures at Coleg Menai, Bangor. “Trwy fy mhaentio ‘rwy’n archwilio delweddau sy’n gysylltiedig â’r syniad o “dopograffeg y meddwl”, gofod meddyliol sy’n ddigon tebyg i realiti. Mae’n bwysig i mi i weithio yn y foment, yn dilyn llwybr a ddatgelir i mi trwy’r cydadwaith gyda deunyddiau, trwy hyblygrywdd wrth ddefnyddio olew neu ddyfrlliw, neu ddyhead i adeiladu a ffurfio. Y peth pwysicaf yw i greu rhywbeth sy’n teimlo’r tu hwnt i mi fy hun, rhywbeth sy’n agored ac yn fregus. Mae’r gwaith yn cael ei ddylanwadu gan amrywiaeth helaeth o bethau; mae cerddoriaeth yn effeithio ar y gwaith wrth iddo ddatblygu, mae profiadau amrywiol yn cael dylanwad yn y stwidio. Mae’r paentiadau mwyaf diweddar yn ymwneud â’r nos, golau’r lleuad, cerdded yn y tywyllwch. Mae motiffau’r anifeiliaid yn rhan o’r “mise en scene” hwn, yn cyfeirio at y byd naturiol tra ar yr un pryd yn cynyddu’r teimlad o ddadleoli. Gobeithiaf y bydd y gwyliwr yn cael ei ddenu i mewn i ofod sydd efallai yn anodd i ddiffinio ond lle mae ‘na ryw lefel o gydnabyddiaeth, fel lle sy’n teimlo’n gyfarwydd, teimlad yn hytrach na rhywbeth y gellir ei egluro. Ganwyd Emrys Williams yn Lerpwl ac astudiodd yn Ysgol Celfyddydau Cain y Slade yn Llundain. Mae’n byw yng Ngogledd Cymru lle mae’n darlithio ar hyn o bryd yng Ngholeg Menai, Bangor.
www.emryswilliams.co.uk
Zebra house mountain oil & wax on canvas 2009
Sophie Woodrow Sophie Woodrow’s ceramics are made by coiling clay to shape the form, then incising and impressing the surface to create the desired delicate textures - an intricate and labour- intensive technique. These sculptures depict strange half-familiar creatures, which combine references to the animal or plant world alongside those of human activity, often also including some of the conventions of traditional ceramic forms. The hybrid creatures thus created are usually satisfyingly benign rather than nightmarish, with a visual logic that defies rational explanation. Sophie Woodrow is particularly interested in the Victorians’ ideas regarding the separation of human and animal spheres, and thinks of her sculptures as the ‘might-have-beens’ of this world. Sophie Woodrow graduated in ceramics from Falmouth College of Art and now works in Bristol. Gwneir darnau serameg Sophie Woodrow drwy dorchi clai i siapio’r ffurf, wedyn trwy dorri i mewn i’r arwyneb i greu’r effaith gynnil a chywrain - techneg fanwl a medrus. Mae’r cerfluniau hyn yn dynodi creaduriaid od, hanner-gyfarwydd, sy’n cyfuno cyfeiriadau at fyd yr anifeiliaid neu blanhigion, ochr yn ochr â gweithgaredd dyn, yn aml yn cynnwys hefyd rhai o gonfensiynau ffurfiau serameg traddodiadol. Mae’r creaduriaid hybrid a greuir fel hyn fel arfer yn rhai hynaws ac addfwyn yn hytrach na rhai hunllefus, gyda rhesymeg weledol sy’n herio eglurhad synhwyrol. Mae Sophie Woodrow yn ymddiddori’n benodol mewn syniadau Fictoraidd ynglyn â gwahanu sfferau dynion ac anifeiliaid, ac mae hi’n meddwl am ei cherfluniau fel ‘yr hyn a allai fod’ yn y byd hwn. Graddiodd Sophie Woodrow mewn serameg o Goleg Celf Falmouth ac mae hi bellach yn gweithio ym Mryste.
www.sophiewoodrow.co.uk
Sian Zeng Sian Zeng was born in China and moved to Hungary with her parents when she was seven. Since graduating in Textile Design from Central Saint Martins she has launched a collection of fabric and of wallpaper as well as undertaking designs for clients. In 2008 she was awarded the William Atkinson scholarship by Central Saint Martins for her designs on Little Red Riding Hood and in 2010/2011 she received the Elle Decoration young talent of the year award by Elle Decoration Hungary. Her work is often inspired by her own fairy-tale-like narratives, with which she explores the use of both traditional and new technology. Included in this exhibition is an animated tale, and also example of magnetic wallpaper, which encourages the viewer to alter the narrative through interaction. Sian Zeng lives and works in London. Ganwyd Sian Zeng yn Tsieina a symudodd i Hwngari efo’i rhieni pan ‘roedd yn saith oed. Ers graddio mewn Dylunio Tecstiliau o Goleg Canolog San Martin mae wedi lansio casgliad o ffabrigau a phapurau wal yn ogystal ag ymgymryd â chomisiynau dylunio ar gyfer cleientiaid. Yn 2008 enillodd ysgoloriaeth William Atkinson gan San Martin Canolog am ei dyluniau ar Hugan Fach Goch ac yn 2010/2011 derbyniodd wobr am dalent ifanc y flwyddyn oddi wrth Elle Decoration yn Hwngari. Ysbrydolir ei gwaith yn aml gan ei straeon tylwyth teg ei hun, lle mae’n archwilio defnydd technoleg draddodiadol a newydd. Cynhwysir stori wedi’i hanimeiddio yn yr arddangosfa hon ac hefyd enghreifftiau o bapur wal magnetig Sian Zeng sy’n annog y gwyliwr i newid y naratif trwy gydadwaith. Mae Sian Zeng yn byw ac yn gweithio yn Llundain.
Wick Vic’s Final Robbery l (still from animation)
www.sianzeng.com
Wild Thing also includes works on loan from the wonderful national resource that is the Arts Council Collection the largest national loan collection of modern and contemporary British art which supports UK artists through buying their work for the Collection and through exhibiting their work. Founded in 1946, the Arts Council Collection is the largest national loan collection of modern and contemporary British art in the world, containing over 7,500 works which include fine examples of work by all of this country’s most prominent artists. Works in Wild Thing include: Dan Hays five works, Guinea Pig 1995 John Isaacs Say it isn’t so 1994 Clive Landen Mustelid (A48) 1994 Clive Landen phasianus colchicus (A38) 1994 David Shrigley See the little creature in the giant cage..., 1998 David Shrigley The road to beasthood..., 1998 Kerry Stewart Untitled (Lucy) 1996 All Arts Council collection, Southbank, London. The Arts Council Collection is managed by the Southbank Centre, London, on behalf of Arts Council England and is based in London and at Longside, Yorkshire Sculpture Park. Mae Wild Thing hefyd yn cynnwys darnau sydd wedi eu benthyg oddi wrth Gasgliad cenedlaethol Cyngor y Celfyddydau - y casgliad benthyciadau cenedlaethol mwyaf o gelf Brydeinig, sy’n cefnogi artistiaid yn y DU trwy brynu eu gwaith ar gyfer y Casgliad a thrwy arddangos eu gwaith. Wedi’i sefydlu ym 1946, Casgliad Cyngor y Celfyddydau yw’r casgliad benthyciadau cenedlaethol mwyaf o gelf fodern a chyfoes Brydeinig yn y byd, yn cynnwys dros 7,500 o weithiau gydag enghreifftiau gwych o waith gan artistiaid mwyaf blaenllaw’r wlad. Mae’r darnau a nodweddir yn
Wild Thing yn cynnwys: Dan Hays pum darn, Guinea Pig 1995 John Isaacs Say it isn’t so 1994 Clive Landen Mustelid (A48) 1994 Clive Landen phasianus colchicus (A38) 1994 David Shrigley See the little creature in the giant cage...,1998 David Shrigley The road to beasthood...,1998 Kerry Stewart Untitled (Lucy) 1996 Rheolir Casgliad Cyngor y Celfyddydau ar ran Cyngor Celfyddydau Lloegr gan Ganolfan Southbank, Llundain, sydd â’i phencadlys yn Llundain ac yn Longside, Parc Cerflunwaith Swydd Efrog.
Abigail Brown Lucy Casson Charlotte Cory David Farrer Georgia Hayes Catrin Howell Stephen Johnson Susan O’Byrne Stephanie Quayle Consuelo Radclyffe Nichola Theakston Simon Ward Stephen West Emrys Williams Sophie Woodrow Sian Zeng
Dan Hays John Isaacs Clive Landen David Shrigley Kerry Stewart
wildthing
canolfan y celfyddydau aberystwyth arts centre www.aberystwythartscentre.co.uk
ISBN 978-0-9550874-5-5
Design Stephen Paul Dale Design spdale@live.com Cover/Clawr Stephen Johnson Now isn’t that lovely