Cymer Ran - Gaeaf 2018

Page 1

Cylchgrawn Gwirfoddolwyr Amgueddfa Cymru

cymerran Gaeaf 2018

Ar y clawr Penderfyniad Pwy? – tudalen 4

Tu ôl i’r Llenni Creu gwisgoedd Llys Llywelyn – tudalen 7


Cyflwyniad Croeso! Welcome! Rydyn ni am ddechrau 2018 drwy ddiolch o galon i’n gwirfoddolwyr i gyd am eu gwaith caled dros y flwyddyn ddiwethaf. Yn y rhifyn hwn o Cymer Ran byddwn ni’n edrych yn ôl ar nifer o’r projectau gwirfoddoli gwych ddigwoddodd yn Amgueddfa Cymru. Bydd y brif erthygl yn edrych ar Penderfyniad Pwy – arddangosfa ryfeddol newydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a grëwyd ar y cyd â The Wallich a churaduron gwirfoddol sydd wedi bod yn ddigartref eu hunain. Mae’n werth ymweld os cewch chi gyfle! Byddwn hefyd yn teithio o Fôn i Fynwy i adrodd ar y straeon diweddaraf yn Amgueddfa Wlân Cymru ac Amgueddfa Lechi Cymru. Mwynhewch y cylchlythyr, a gobeithio y cewch chi ddechrau dedwydd i’r flwyddyn newydd.

Babi newydd! CROESO NÔL Ffion Davies mae’n bleser dymuno llongyfarchiadau mawr i Ffion a Ryland ar enedigaeth Llewelyn Ifor Stenner. Mae Ffion wedi bod ar gyfnod mamolaeth ers Mehefin 2017 a newydd ddychwelyd i’w swydd fel Uwch-gydlynydd Gwirfoddolwyr. Althea Cooley a Haf Neale sydd wedi ysgwyddo’r baich fel Cydlynwyr Gwirfoddolwyr yn y cyfamser. Gallwch chi weld bod Llewelyn wedi bod yn brysur yn barod yn ymweld ag amgueddfeydd ac arddangosfeydd!

2

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau cysylltwch â’r Cydlynydd Gwirfoddolwyr drwy e-bostio gwirfoddoli@amgueddfacymru.ac.uk


Cynnwys Prif Stori 4

Penderfyniad Pwy?

Cip ar y Casgliadau 6

Llys Llywelyn

7

Creu gwisgoedd Llys Llywelyn

8

Cwrdd â’r Staff – Haf Neale

9

Cwrdd â’r Gwirfoddolwyr – Owen

10

Gwirfoddoli dros y Nadolig yn Drefach

11

Digwyddiadau Gwirfoddoli yn Sain Ffagan

12

Newyddion a Digwyddiadau

4 6

7

Cyfraniadau gan: Grace Todd, Uwch-swyddog Addysg, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd Dafydd Wiliam, Prif Guradur Adeiladau Hanesyddol, Sain Ffagan Marjorie Sheen, Gwirfoddolwr Clwb Crefftau Sain Ffagan Elen Roberts, Rheolwr Dysgu, Amgueddfa Lechi Cymru Kate Evans, Swyddog Gweinyddol, Amgueddfa Wlân Cymru Mared Maggs, Rheolwr Digwyddiadau Golygwyd gan Althea Cooley, Cydlynydd Gwirfoddolwyr.

9

7 3


Prif Stori Penderfyniad Pwy? Creu Cysylltiadau gyda Chelf Gyfoes Gan Grace Todd, Uwch-swyddog Cyfranogiad, Addysg ac Ymgysylltu Mae casgliadau’r Amgueddfa yn eiddo i bawb, ond dim ond nifer fechan o bobl all benderfynu beth gaiff ei gasglu a’i arddangos. Yw hyn yn deg? Dyma Amgueddfa Cymru felly yn gwahodd grw ˆ p o elusen The Wallich, sy’n cefnogi’r digartref yng Nghymru, i ddethol a dehongli arddangosfa o gelf fodern a chyfoes eu hunain. Cyfrannodd y curaduron gwirfoddol at bob agwedd o greu arddangosfa fawr Penderfyniad Pwy?, o ddewis gweithiau i baentio waliau, datblygu deunydd marchnata, a chynllunio digwyddiadau a gweithgareddau.

4

Ar ddechrau’r fenter doedd mwyafrif y deg gwirfoddolwr heb ymweld ag orielau celf Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ond dros chwe mis dyma nhw’n dod yn rhan o’r tîm gan helpu i ddatblygu arddangosfa gyfan. Dyma nhw’n gwirfoddoli cyfanswm o 1000 o oriau mewn gweithdai a gweithgareddau er mwyn: • Dethol o’r 600 o luniau, cerfluniau, ffilmiau, printiau a gosodweithiau y mae’r Amgueddfa ac Ymddiriedolaeth Derek Williams wedi’u caffael dros y deng mlynedd diwethaf. • Ysgrifennu 6581 o eiriau yn dehongli’r gweithiau • Yfed dros 100 cwpaned o de!


Mae’r arddangosfa yma yn dathlu 10 mlynedd o gasglu cyfoes a 25 mlynedd o bartneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru ag Ymddiriedolaeth Derek Williams. Roedd gwirfoddolwyr The Wallich yn fwy na pharod i rannu eu profiadau gyda ni:

“Roedd gweld tu ôl i’r llenni sut mae arddangosfa yn cael ei chreu yn gyffrous iawn. Fe dyfon ni’r cyfan o gasgliad o luniau ar sgrin yn “Helo, Mareth ydw i ac roeddwn i mor arddangosfa sy’n dangos y gweithiau falch o gael cymryd rhan yn arddangosfa ddewison ni i gyd.” Penderfyniad Pwy?. Mae wedi bod yn Colin, Gwirfoddolwr o’r Wallich wych cael gweithio fel tîm a chanfod gweithiau celf sy'n golygu cymaint i ni. “Rydw i wedi mwynhau dysgu am y Mae celf yn rhywbeth i bawb. Rydyn straeon tu ôl i rai o’r gweithiau, ond ni wedi dewis y gweithiau celf sy’n hefyd ychwanegu fy stori fy hun i’r golygu rhywbeth (mawr) i ni, ond labeli.” Michelle, Gwirfoddolwr o’r rydyn ni am i chi benderfynu dros eich Wallich hun hefyd.” Mareth, Gwirfoddolwr o’r Wallich Mae’r syniad bod lle i farn pawb yn greiddiol i’r arddangosfa. Mae “Fyddwn i byth wedi tywyllu’r curaduron The Wallich wedi gwahodd amgueddfa cyn hyn, ond nawr ‘mod i ymwelwyr i leisio eu barn drwy greu yma, rydw i wrth fy modd. Does gen i system i bleidleisio dros weithiau ddim ofn dod yma fy hun bellach.” newydd i’w harddangos, a chardiau Mike, Gwirfoddolwr o’r Wallich gyda chwestiynau i’w hateb.

5


Tu ôl i’r Llenni

Llys Llywelyn Gan Dafydd Wiliam, Prif Guradur Adeiladau Hanesyddol Datblygiad diweddaraf Sain Ffagan yw Llys Llywelyn, ailgread o un o lysoedd y Tywysog Llywelyn Fawr o’r 13eg ganrif. Seiliwyd y gwaith ar weddillion ei lys yn Rhosyr, Ynys Môn yn dilyn ymchwiliad archaeolegol. Gan taw dim ond metr ar y mwyaf o’r gweddillion sy’n dal i sefyll, llywiwyd y gwaith hefyd gan ddadansoddiad o adeiladau hysbys eraill o’r cyfnod, yn ogystal â thystiolaeth dogfennau o nifer o sefydliadau Cymreig.

6

Yn dal y to gwellt mae ffrâm bren gain gaiff ei haddurno â phatrymau a lliwiau fydd yn dwyn i gof hen briordy Penmon, adeilad arall o’r 13eg ganrif ar Ynys Môn. Dyluniwyd baneri ar gyfer y waliau gan blant cynradd yr ynys ar y cyd â’r artist Cefyn Burgess. Maen pob un yn adrodd stori hanesyddol ac wedi’u cynhyrchu gan Urdd Brodwyr Môn ac Arfon. Toeon gwellt sydd ar y prif adeiladau i gyd, ond bydd un adeilad llai yn cael ei doi â llechi pren, wedi’u creu o dderw gydag offer haearn. Dros y misoedd diwethaf mae pobl wedi bod yn brysur yn Sain Ffagan yn creu’r llechi pren gan gynnwys grwpiau cymunedol a staff, a Gwirfoddolwyr Digwyddiadau.


Tu ôl i’r Llenni Creu gwisgoedd Llys Llywelyn Gan Marjorie Sheen, Gwirfoddolwr Clwb Crefftau Sefydlwyd y Clwb Crefftau tua dwy flynedd yn ôl, yn wreiddiol i greu matiau rhacs ar gyfer rhai o’r adeiladau. Roedden ni wrth ein bodd yn dysgu sgil newydd ac ymchwilio i ddeunyddiau addas i’w defnyddio. Ar ôl creu matiau ar gyfer pob adeilad oedd angen rhai, dyma ni’n troi at greu dillad ar gyfer y gweithgareddau fyddai’n cael eu cynnal yn Llys Llywelyn. Roedden ni am greu gwisgoedd credadwy, addas, a dyma ddechrau drwy wnïo popeth â llaw. Bydd y gwisgoedd yn cael eu golchi’n gyson, ac roedd yn rhaid gweld a fyddai’r gwlân, y lliain a’r cotwm naturiol yn crebachu yn y golch.

Fe sylweddolon ni ar ôl golchi’r wisg gyntaf nad oedd technegau gwnïo’r oesoedd canol wedi rhagweld nerth peiriannau golchi modern, a dechreuodd holl wniadwaith gofalus y sêm a’r hem ddatod. Rydyn ni felly wedi defnyddio peiriant ar y sêm a’r hem, a gwnïo popeth arall â llaw. Rydyn ni’n cwrdd ar yr un diwrnod bob mis, ac yn mwynhau’r cwmni yn fawr. Mae’n hafan dawel mewn byd prysur lle gallwn ni eistedd, sgwrsio a gwnïo mewn heddwch. Rydyn ni wedi gwneud ffrindiau a dysgu sgiliau newydd (ac ail-ddysgu hen sgiliau!) a’r cyfan wrth wneud gwaith fydd gobeithio’n cael ei ddefnyddio am flynyddoedd i ddod.

7


f: Haf Neale r Cwrdd â’r StafCyd lynydd Gwirfoddolwy Pam oeddet ti am fod yn gydlynydd gwirfoddolwyr yn Amgueddfa Cymru? Fe astudiais i Gelfyddyd Gain yn y Brifysgol, ac ar ôl graddio yn 2008 roedd hi’n anodd penderfynu beth i wneud nesaf a dyma fi’n neidio o un swydd i’r llall. Fe sylweddolais i mod i am wneud rhywbeth oeddwn i’n ei fwynhau, a mynd ar brofiad gwaith i Archifau Morgannwg a threulio diwrnod yr wythnos ym mhob adran.

Beth wyt ti wedi’i ddysgu wrth dy waith? Roeddwn i wastad yn ymwybodol bod nifer o resymau pam fod pobl yn gwirfoddoli ac ers dechrau’r swydd rydw i wedi gweld pobl o bob lliw a llun yn rhoi o’u hamser am resymau sydd wir wedi fy ysbrydoli. Mae’n wych gweld gwirfoddolwyr yn elwa cymaint o gyfrannu ag y byddwn ni o weithio gyda nhw.

Roeddwn i wrth fy modd â’r diwrnod yn yr adran gadwraeth. Ar ddiwedd y profiad gwaith roeddwn i’n ffodus i gael aros fel gwirfoddolwr cadwraeth yn glanhau dogfennau, atgyweirio tudalennau wedi rhwygo a rhoi clawr newydd ar hen lyfr hyd yn oed.

Yn 2017 rhoddodd Gwirfoddolwyr Amgueddfa Cymru 24,834 awr o’u hamser prin. Byddai’r Amgueddfa yn lle gwahanol iawn heb gyfraniad ein gwirfoddolwyr.

Roeddwn i wrth fy modd yn gwirfoddoli ac roedd e’n help i ganfod gwaith roeddwn i’n ei fwynhau. Pan ges i gyfle i helpu pobl i wirfoddoli yma yn Amgueddfa Cymru, doedd dim angen meddwl ddwywaith.

8

Beth yw dy hoff beth am weithio yn Amgueddfa Cymru? Rydw i wedi mwynhau cyfarfod amrywiaeth o wirfoddolwyr a gweld yr holl bethau sy’n cael eu cadw tu ôl i’r llenni yn y casgliadau.


Cwrdd â’r Gwirfoddolwyr:

Owen

Lleoliad Datblygu Sgiliau Amgueddfa Lechu Cymru

Gan Elen Roberts, Rheolwr Addysg, Amgueddfa Lechi Cymru

Person ifanc awtistig yw Owen a ddechreuodd wirfoddoli yn Llanberis yn Ebrill 2017, ac sydd wedi magu hyder mewn nifer o ffyrdd ers hynny. Mae wedi dod yn gyfarwydd â’r staff a’r systemau, datblygu gwybodaeth ymarferol o iechyd a diogelwch yn y gweithle, a mwynhau mas draw!

‘Rydw i’n hoffi gweld y gwahaniaeth ar ôl glanhau pres Una – yn troi o fod yn fudr i sgleinio. Rydw i wedi mwynhau dysgu defnyddio’r polish yn iawn.’ Mae Owen wedi cyfrannu at bob math o weithgareddau yn yr Amgueddfa – paratoi injan Una ar gyfer y cyhoedd, paentio ac iro peiriannau’r casgliad. Yn ogystal â chyfraniad Owen i waith yr Amgueddfa, mae’r staff hefyd wedi dod i ddeall Owen a magu hyder a dealltwriaeth o wahanol agweddau awtistiaeth wrth gydweithio ag ef.

9


Cwrdd â’r Gwirfoddolwr:

Gwirfoddoli dros y Nadolig yn Drefach gan Kate Evans, Swyddog Gweinyddol, Amgueddfa Wlân Cymru Cynhaliwyd cyfarfod gwirfoddolwyr Amgueddfa Wlân Cymru ar 6 Rhagfyr. Dyma pawb yn mwynhau sgwrs amserol Steph Mastoris ar Darddiad y Cerdyn Nadolig a’r te prynhawn a ddarparwyd gan y Caffi i ddilyn y sgwrs. Diolch i’r gwirfoddolwyr i gyd, Steph Mastoris a’r Caffi. “Diolch am y sgwrs ddiddorol am gardiau Nadolig a’r bwyd blasus. Cofiwch ddweud ‘diolch arbennig’ i’r arlwywyr. Mae pawb yn yr Amgueddfa mor gyfeillgar a chroesawgar bob tro.” Margaret, Gwirfoddolwr “Sgwrs ddiddorol iawn, lluniaeth hyfryd, diolch. Nadolig Llawen i bawb!” Chris, Gwirfoddolwr

10

Croesawodd Fforum Ieuenctid Amgueddfa Wlân Cymru (mewn partneriaeth ag Ysgol Emlyn a Menter Gorllwein Sir Gâr) 65 o ddisgyblion CA2 o ddwy ysgol gynradd wahanol fel rhan o ddiwrnod Kids in Museums. Arweiniodd wyth o’r Fforwm Ieuenctid ddiwrnod hwyliog o greu addurniadau moch daear glitter, coeden Nadolig bapur anferth, cardiau Nadolig a chymeriadau Nadoligaidd o foch daear. Yn goron ar y cyfan dyma pawb yn mwynhau caneuon Nadoligaidd a mynd i hwyl yr w ˆ yl. Bu’r cardiau i gyd yn cystadlu am wobr yr Addurn Nadolig Gorau, gyda’r y Fforwm Ieuenctid yn cyhoeddi’r enillwyr yn y Cyngerdd Carolau lle cafodd yr addurniadau i gyd eu harddangos. Diolch o galon i’r Fforwm Ieuenctid am arwain y gweithdai ac i’r Gwirfoddolwyr i gyd am flwyddyn wych.


Gwirfoddolwyr ar Waith

Digwyddiadau Gwirfoddoli yn Sain Ffagan Gan Mared Maggs, Rheolwr Digwyddiadau Roedd rhaglen digwyddiadau mawr ˆ yl Sain Ffagan 2017 yn cynnwys yr W Fwyd flynyddol ym mis Medi, ac atgyfodiad Nosweithiau Calan Gaeaf a Nadolig wedi pum mlynedd. Mae’r rhain yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr yr Amgueddfa ac yn bwysig wrth ddenu cynulleidfaoedd newydd, cynhyrchu incwm a dehongli ein casgliadau mewn dulliau newydd a mentrus. Mae nhw’n ddigwyddiadau hefyd sy’n cael effaith mawr ar y safle a’i adnoddau felly mae cyfraniad ein gwirfoddolwyr yn hanfodol er mwyn iddynt redeg yn esmwyth.

Eleni bu’r gwirfoddolwyr yn ein helpu drwy addurno’r safle cyn pob digwyddiad, croesawu a chyfeirio ymwelwyr, casglu gwybodaeth werthuso, rheoli torfeydd, cynnal gweithgareddau crefft ac wrth gwrs, morio ambell garol yn nigwyddiad olaf y flwyddyn. Roedd yn bleser cydweithio â’r gwirfoddolwyr ym mhob un o’r digwyddiadau a dod i adnabod unigolion dros y flwyddyn. Gobeithio bod y gwirfoddolwyr yn elwa cymaint o’r digwyddiadau a ni’r staff sy’n cydweithio â nhw.

11


Newyddion a Digwyddiadau • Ers y rhifyn diwethaf mae’r adeiladau newydd yn Sain Ffagan wedi agor ac mae’n wych eu gweld mewn defnydd – galwch draw i weld drosoch eich hun! Bydd yr orielau newydd sy’n rhan o’r gwaith ailddatblygu yn agor ym mis Hydref 2018 a pleser fyddai rhannu’r cyffro gyda chi yn yr agoriad mawreddog. • Byddwn ni’n chwilio am wirfoddolwyr ar gyfer orielau newydd Sain Ffagan er mwyn gwella profiad yr ymwelydd a dod â’r casgliadau yn fyw! Cadwch lygad am ragor o wybodaeth. • Rydyn ni hefyd yn datblygu cyfleoedd hyfforddi cyffrous ar gyfer gwirfoddolwyr, gan gynnwys ymgysylltu â’r cyhoedd a rhaglen newydd ar gyfer digwyddiadau. • Rydyn ni’n symud. Mae swyddfeydd yr adran a’r hyb gwirfoddoli newydd yn Tyˆ Gwyrdd yn Sain Ffagan. Bydd ofod arbennig i wirfoddolwyr yn Sain Ffagan ac yn gyfle gwych i ddechrau ar ardd gymunedol newydd. Allwn ni ddim aros!

12

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli yn Amgueddfa Cymru, edrychwch ar ein gwefan neu cysylltwch â’n Cydlynydd Gwirfoddolwyr i ddysgu am leoliadau a chyfleon newydd. Rydyn ni’n hysbysebu pob rôl wirfoddol yn gyhoeddus er tegwch i bawb. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am unrhywbeth yn y cylchlythyr, cysylltwch â’r Cydlynydd Gwirfoddolwyr drwy e-bostio gwirfoddoli@amgueddfacymru.ac.uk neu ffonio (029) 2057 3419.

I glywed y newyddion a’r cyfleon diweddaraf, dilynwch ni ar

b @amgueddfavols

W www.facebook.com/amgueddfavols


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.