CHWILIO AM GLIWIAU Ar drywydd eich cyndeidiau yn y Rhyfel Byd Cyntaf
Casglwyd y straeon personol a adroddir yn yr arddangosfa hon, a’r llyfrau troi gerllaw, o amrywiaeth eang o ffynonellau. Mae’n haws nag erioed ymchwilio i wasanaeth milwrol aelod o’ch teulu. Gallwch wneud llawer o’ch gwaith ymchwil ar y we, ac weithiau mae enw’n ddigon i ddechrau llenwi’r bylchau yn hanes eich perthynas. Gall llawer o gofroddion sydd yn nwylo’r teulu roi cliwiau i chi am gyfnod eich cyndeidiau yn y fyddin. Mae toreth o wybodaeth ddefnyddiol i’w chael drwy’r canlynol hefyd: • arteffactau fel medalau, bathodynnau cap catrawd neu fotymau lifrai • cofroddion megis ‘celf y ffosydd’ – teclynnau agor llythyrau, blwch llwch neu addurniadau lle tân • enw wedi’i naddu ar gofeb ryfel neu garreg fedd • erthyglau papur newydd lleol, cylchgronau plwyf neu ysgol, cardiau post a llythyrau wedi’u hysgrifennu ar y ffrynt a’u hanfon adref • ffotograffau, papurau swyddogol, darluniau a mapiau • tystiolaeth lafar, fel straeon teuluol wedi’u trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth, cyfweliadau sain neu fideo.
Mae'r llyfr troi hwn yn darparu nodiadau byr ar rai o'r eitemau hyn. Mae’r llyfr troi wedi ei ysbrydoli gan The Great War Medal Collectors Companion, llyfr gwych ar y pwnc gan Howard Williamsom.
Ar drywydd eich cyndeidiau Papurau galwad i’r gad Y dynion cyntaf i’w galw i’r frwydr ym 1914 oedd milwyr rhan-amser y Fyddin Diriogaethol a chyn-filwyr a morwyr oedd bellach yn sifiliaid ond yn dal yn filwyr wrth-gefn, y gellid galw arnynt i wasanaethu eto mewn cyfnod o angen. Heidiodd llawer ohonyn nhw i ymuno â’u hunedau cyn gynted ag y torrodd y newyddion yn y wasg, er i delegramau gael eu hanfon hefyd. Ar 5 Awst 1914, cafodd Rowland Lloyd delegram yn gorchymyn iddo ymbresenoli ar unwaith, gan ei fod yn Is-gapten y Llynges Frenhinol Wrth Gefn.
Erbyn mis Ionawr 1915, roedd dros filiwn o ddynion wedi ateb yr alwad i ymrestru, dan arweiniad yr Arglwydd Kitchener. Ond wrth i’r rhyfel barhau, a nifer y meirw’n cynyddu, buan y gwelwyd nad oedd y system wirfoddol yn ddigonol o bell ffordd. Ym mis Ionawr 1916 pasiwyd y Ddeddf Gwasanaeth Filwrol, a oedd yn gorfodi pob dyn sengl rhwng 18 a 41 oed i ymrestru. Roedd rhai eithriadau fodd bynnag – dynion mewn swyddi hanfodol adeg rhyfel, rhai a ddyfarnwyd yn anghymwys am resymau meddygol, gweinidogion crefyddol a gwrthwynebwyr cydwybodol. Cafodd y dynion eu rhannu i Ddosbarth yn ôl eu hoedran, a chawsant eu galw fesul Dosbarth trwy Ddatganiad Cyhoeddus wedi’i osod mewn lleoedd amlwg. Er bod hyn yn cael ei ystyried yn hysbysiad digonol, cafodd y rhan fwyaf o ddynion hysbysiad unigol hefyd. Cyfrifoldeb yr unigolyn oedd sylwi ar hysbysiadau o’r fath ac ymbresenoli. Roedd cosbau am beidio ag ymateb, ac am gymell neu gynorthwyo milwr wrth-gefn i fod yn absennol.
Milwyr wrth gefn Gwarchodlu’r Grenadwyr yn ateb yr alwad fis Awst 1914
Ar drywydd eich cyndeidiau Eithrio o wasanaeth milwrol Roedd angen dynion ar Brydain i weithio gartref yn ogystal ag ar faes y gad. Roedd yn rhaid i fywyd economaidd y wlad barhau, gyda diwydiannau penodol yn hollbwysig i’r ymdrechion rhyfel – gan gynnwys y llynges fasnach, y diwydiant glo a’r diwydiant arfau. Pan gyflwynwyd gorfodaeth filwrol ym 1916, cafodd gweithwyr y diwydiannau hyn eu heithrio o wasanaeth milwrol a rhoddwyd papurau eithrio arbennig iddynt. Gallai dynion apelio yn erbyn eu gorfodaeth am bob math o resymau, a sefydlwyd tribiwnlysoedd lleol a sirol i glywed yr apeliadau hyn. Cafodd rhai dynion eu heithrio’n llwyr rhag gwasanaethu, tra cafodd eraill ganiatâd i ohirio am ychydig fisoedd cyn ymrestru, er mwyn rhoi trefn ar faterion busnes neu ofalu am eu dibynyddion. Gwrthodwyd y rhan fwyaf o eithriadau fodd bynnag, ac roedd gweithwyr y diwydiannau allweddol hyd yn oed yn gallu bod yn gymwys i wasanaethu. Roedd llawer o lowyr wedi ymrestru ar ddechrau’r rhyfel, a dynion o feysydd eraill wedi cymryd eu lle yn y pyllau – rhai ohonyn nhw gyda’r gobaith o osgoi ymrestru. Wrth i’r rhyfel rygnu ’mlaen, bu sawl ymdrech i gael y dynion hyn o’r glofeydd ac i’r lluoedd arfog.
Bathodynnau gwasanaeth rhyfel Gyda chymaint o deuluoedd yn byw dan gysgod rhyfel, a naill ai mewn perygl o golli neu wedi colli anwyliaid yn y lluoedd arfog, roedd dynion o oed milwrol a arhosodd gartref dan oruchwyliaeth gyson. Roedd unrhyw un dan amheuaeth o osgoi’i ddyletswyddau rhyfel yn destun dirmyg, gwawd a hyd yn oed trais yn ei erbyn. Er mwyn rhwystro triniaeth o’r fath yn erbyn rhai oedd yn gwneud gwaith rhyfel go iawn, cafodd llawer o fathodynnau swyddogol ‘On War Service’ eu cynhyrchu, a rhai answyddogol hefyd.
Bathodynnau swyddogol
Bathodynnau answyddogol
Gweithiwr ffatri arfau
Ar drywydd eich cyndeidiau Bathodynnau cap catrawd Catrawd Sir Fynwy Roedd y gatrawd hon yn rhan o’r Fyddin Diriogaethol ac yn cynnwys tair bataliwn o gymoedd glofaol dwyreiniol y De a’r hen Sir Fynwy. Bu’r tri bataliwn yn gwasanaethu yn Ffrainc, gyda’r 2il Fataliwn yn glanio ym mis Tachwedd 1914 a’r Bataliwn 1af a’r 3ydd ym mis Chwefror 1915.
Y Gwarchodlu Cymreig Sefydlwyd y gatrawd newydd hon o un bataliwn gwasanaeth yn unig ym mis Chwefror 1915 a bu’n gwasanaethu yn y rhan fwyaf o brif frwydrau Ffrynt y Gorllewin fel rhan o Adran y Gwarchodlu.
Y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd y gatrawd hon yn cynnwys bataliynau o filwyr arferol, tiriogaethol a newydd wedi’u recriwtio o ogledd Cymru’n bennaf, yn ogystal â’r 15fed Bataliwn wedi’u recriwtio yn Llundain. Bu bataliynau’r gatrawd hon yn gwasanaethu yn y rhan fwyaf o gyrchoedd Prydain ledled y byd.
Y Gatrawd Gymreig Roedd y gatrawd hon yn cynnwys cymysgedd o fataliynau’r fyddin arferol, tiriogaethol a newydd wedi’u recriwtio’n bennaf o siroedd Caerfyrddin, Morgannwg a Phenfro. Gwasanaethodd bataliynau’r gatrawd yn y rhan fwyaf o gyrchoedd mawr Prydain ledled y byd.
Cyffinwyr De Cymru Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd y gatrawd hon yn cynnwys bataliynau’r fyddin arferol, tiriogaethol a newydd wedi’u recriwtio’n bennaf yn ne Cymru. Gwasanaethodd bataliynau’r gatrawd yn y rhan fwyaf o gyrchoedd mawr Prydain ledled y byd.
Y Magnelwyr Brenhinol Yn y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd y gatrawd hon yn cynnwys y Magnelwyr Ceffylau Brenhinol, y Magnelwyr Maes Brenhinol a Magnelwyr y Garsiwn Brenhinol, pob un yn gwasanaethu ar faes y gad.
Y Peirianwyr Brenhinol Roedd y Peirianwyr Brenhinol yn cynnwys dynion medrus o feysydd crefft a pheirianneg amrywiol, a dyfodd yn sefydliad enfawr a chymhleth o 295,668 o swyddogion a dynion.
Corfflu’r Gynnau Peiriant Crëwyd Corfflu’r Gynnau Peiriant ym Medi 1915. Roedd criwiau’r gynnau peiriant yn agored i beryglon o bob cwr ar faes y gad. O’r 170,500 o swyddogion a dynion, cafodd 62,049 naill ai eu lladd, eu hanafu neu eu colli.
Corfflu’r Tanciau Defnyddiwyd tanciau ar faes y gad am y tro cyntaf ym mis Medi 1916. Cynyddodd eu niferoedd ac ym mis Gorffennaf 1917 ffurfiwyd Corfflu’r Tanciau. Yn aml deuai’r dynion o unedau’r Gynnau Peiriant, gyda gyrwyr o Gorfflu Gwasanaeth y Fyddin.
Ar drywydd eich cyndeidiau Corfflu Gwasanaeth Brenhinol y Fyddin Roedd angen trefn anferth a chymhleth i symud cyflenwadau i fyddin o ddwy filiwn o ddynion o’r porthladdoedd i feysydd y gad. Roedd y Corfflu’n cynnwys 325,881 o swyddogion a dynion ac yn rheoli degau ar filoedd o labrwyr Indiaidd, Eifftaidd, Tsieniaidd a brodorol eraill.
Corfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin Roedd symud a thrin milwyr clwyfedig a sâl yn dasg aruthrol a gyflawnwyd gan dros 100,000 o luoedd meddygol Prydain ar Ffrynt y Gorllewin yn unig. Roedd y Groes Goch Brydeinig, Ambiwlans Sant Ioan, y Minteioedd Cymorth Gwirfoddol, Uned Ambiwlans y Cyfeillion a channoedd o fentrau preifat ac elusennol yn cynorthwyo’r Corfflu.
Catrodau Troedfilwyr Prydain Roedd cymaint os nad mwy o Gymry yn gwasanaethu mewn catrodau Seisnig, Gwyddelig neu Albanaidd ag oedd yn y catrodau Cymreig. Bu llawer o ddynion de Cymru yn gwasanaethu gyda chatrodau gorllewin Lloegr, fel y Duke of Cornwall's Light Infantry, Dorsetshire Regiment a’r Devonshire Regiment. Roedd dynion o ogledd Cymru yn aelodau o gatrodau Swydd Gaerhirfryn neu Swydd Gaer, a byddai bechgyn ysgolion gramadeg o bob cwr o Gymru yn aelodau o’r Ffiwsilwyr Brenhinol.
Is-adran y Llynges Frenhinol Sefydlwyd yr Is-adran hon o blith milwyr wrth-gefn a gwirfoddolwyr y Llynges Frenhinol a’r Môr-filwyr Brenhinol nad oedd eu hangen ar y môr. Yn hytrach, dyma nhw’n ymladd fel troedfilwyr mewn bataliynau a enwyd ar ôl llyngesyddion enwog Prydain, pob un â’i fathodyn cap ei hun.
Y Llynges Frenhinol Ym 1914 roedd y Llynges Frenhinol gyda’r mwyaf pwerus y byd. Gyda bron i 500 o longau rhyfel mawr, roedd yn fwy na’r ail a’r drydedd llynges nesaf gyda’i gilydd. Cynyddodd aelodau’r Llynges Frenhinol a’r Royal Marines o 250,000 ar ddechrau’r rhyfel i 450,000 erbyn y diwedd. Cafodd 34,642 eu lladd a 4,510 eu hanafu. Roedd rhuban ag enw’r llong roedden nhw’n gwasanaethu arni ar gapiau’r rhan fwyaf o griwiau.
Y Corfflu Awyr Brenhinol (RFC) a Gwasanaeth Awyr Brenhinol y Llynges (RNAS) Ym 1914, roedd gan Brydain 113 o awyrennau mewn gwasanaeth milwrol, rhwng yr RFC a’r RNAS. Gwylfeydd o’r awyr ar gyfer y lluoedd islaw oeddent i ddechrau ond cynyddodd gallu a niferoedd yr awyrennau a’r peilotiaid trwy gydol y rhyfel. Cyfunodd yr RFC a’r RNAS i ffurfio’r Awyrlu Brenhinol (RAF) ym mis Ebrill 1918, ac erbyn diwedd y rhyfel, roedd llu awyr Prydain yn cynnwys 290,000 o ddynion a thua 22,000 o awyrennau.
Ar drywydd eich cyndeidiau Teitlau ysgwydd catrodol Defnyddiwyd teitlau, wedi’u gwneud o frethyn neu fetel, ar y coler a’r ysgwydd i ddangos pa uned yr oedd milwr yn perthyn iddi.
Bathodynnau Brethyn Adrannol Cai’r bathodynnau adrannol eu defnyddio, fel y bathodynnau catrodol, i ddangos i ba uned y perthynai milwr iddi. Byddent yn cael eu gwisgo mewn parau ar ran ucha’r llawes, ar yr ysgwyddarn (epaulette), ar benwisg, ac yn cael eu paentio ar gerbydau’r uned ac arwyddion ffyrdd hefyd. Buan y sylweddolwyd bod yr arwyddion yn hwb i ysbryd y lluoedd, wrth i fataliynau unigol o fewn yr Adran ymfalchïo yn eu symbol eu hunain.
38ain Is-adran Gymreig
52fed Is-adran Gymreig
13eg Is-adran (Gorllewin)
Bathodynnau brethyn eraill Roedd llu o fathodynnau eraill ar lifrai’r milwyr hefyd, gan gynnwys arwyddnod ei reng, bathodynnau crefft a chymhwysedd, a streipiau Gwasanaeth Hir, Ymddygiad Da ac Anaf.
Ar drywydd eich cyndeidiau Botymau lifrai Roedd y rhan fwyaf o fotymau lifrai yn cynnwys symbol o’r Goron, er mwyn cynrychioli’r wladwriaeth a’r frenhiniaeth. Byddai rhai yn cynnwys seiffr personol y Brenin e.e. y Peirianwyr Brenhinol, neu seiffrau personol aelodau eraill o’r teulu brenhinol fel tywysog Cymru e.e. y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. O ran y gwledydd Celtaidd, gallai’r botymau gynnwys symbolau cenedlaethol fel y ddraig goch, yr ysgallen neu’r delyn. Roedd rhifau catrodol a’r Gangen e.e. y Magnelwyr Brenhinol i’w gweld ar ambell fotwm hefyd.
Anrheg Nadolig y Dywysoges Mary, 1914 Ym mis Tachwedd 1914, sefydlwyd Cronfa Nadolig y Milwyr a’r Morwyr gan y Dywysoges Mary, merch 17 oed Brenin Siôr V a’r Frenhines Mary. Roedd pawb a oedd yn gwisgo lifrai’r Brenin ac yn gwasanaethu dramor ar ddydd Nadolig 1914 yn cael rhodd gan y gronfa ‘ar ran y genedl’. Cafodd pob unigolyn flwch pres boglynnog yn cynnwys cerdyn Nadolig a llun o’r dywysoges, ond roedd gweddill y cynnwys yn amrywio : • byddai swyddogion a dynion a oedd yn brwydro ar y môr neu ar y ffrynt yn derbyn blwch gyda chetyn, taniwr, owns o faco ac 20 sigarét mewn papur lapio melyn unigryw â monogram arno • byddai dynion nad oeddynt yn smygu a bechgyn yn derbyn pensil bwled a phaced o losin • yn aml, losin a sbeisys gai milwyr Indiaidd • byddai’r nyrsys yn cael siocled. Roedd milwyr clwyfedig ar gyfnod o seibiant neu yn yr ysbyty, a gweddwon neu rieni’r rhai a laddwyd, yn derbyn rhodd hefyd. Cafodd anrhegion carcharorion rhyfel eu cadw wrth gefn tan iddyn nhw gael eu rhyddhau. Llai nag 20 y cant yn unig o’r anrhegion a ddanfonwyd erbyn Nadolig 1914, ond maes o law, cafodd dwy filiwn a hanner o flychau eu dosbarthu. Os oedd aelod o’ch teulu chi wedi derbyn un o flychau’r Dywysoges Mary, roedd hynny’n golygu ei fod yn aelod o’r lluoedd arfog ac yn gwasanaethu dramor erbyn Nadolig 1914.
Ar drywydd eich cyndeidiau Celf y Ffosydd Dyma’r enw ar eitemau addurnol a wnaed gan filwyr, carcharorion rhyfel neu sifiliaid. Dechreuodd celf o’r fath ymddangos yn ystod Rhyfeloedd Napoleon, a ffynnu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf gan fod cymaint o bobl yn rhan ohono.
Eitemau gan filwyr Byddai milwyr yn aml yn creu eitemau fel modrwyau a chyllyll papur, yn enwedig yn rhannau tawelach y ffrynt. Roedden nhw’n defnyddio’r deunyddiau oedd wrth law – ceiniogau, bathodynnau cap, casys pres bwledi wedi’u tanio, bwledi a phlwm o belenni shrapnel. Bydden nhw hefyd yn engrafu eitemau a oedd ganddynt eisoes, fel blychau snisin, poteli dŵr a chasys watsys. Mae bathodynnau catrodol, dyddaidau ac enwau llefydd yn ymddangos yn aml yng nghelf y ffosydd. Cai milwyr clwyfedig eu hannog i feithrin crefftau hefyd fel rhan o’r broses o wella, ac roedd brodwaith a gwaith coed syml yn gyffredin.
Eitemau gan garcharorion rhyfel Gyda diwrnodau diddiwedd heb fawr i’w wneud, a phrinder arian a bwyd, doedd hi’n fawr o syndod bod carcharorion rhyfel yn troi at greu gwrthrychau addurnedig. Bwriad llawer o’r carcharorion felly oedd creu gwrthrychau gorffenedig i’w cyfnewid am fwyd, arian neu freintiau eraill.
Eitemau gan sifiliaid Cafodd rhai eitemau eu creu gan sifiliaid yn ardal y frwydr er mwyn i’r milwyr eu hanfon adref. Crëwyd eraill gan gariadon adref i’w hanfon at filwyr ar faes y gad. Mewn ardaloedd oedd yn frith o filwyr, datblygodd y grefft o gynhyrchu cardiau post wedi’u brodio yn dipyn o ddiwydiant cartref. Byddai’r sifiliaid yn prynu fframiau ac yn brodio panel o liain rhwyllog ag arfbeisiau catrodau, baneri gwladgarol neu symbolau cenedlaethol. Cynhyrchwyd miliynau yn ystod y rhyfel. Ar ddiwedd y rhyfel, parhaodd y diwydiant i gyflenwi twristiaid oedd yn ymweld â hen feysydd brwydrau a mynwentydd milwrol. Dros yr ugain mlynedd dilynol, ailgylchwyd y mynyddoedd o falurion, casys sieliau ac offer, yn ogystal â’r tunelli o ddeunyddiau dros ben a werthwyd gan y llywodraeth; cafodd arfbeisiau trefi wedi’u masgynhyrchu eu gludo ar eitemau fel bwledi, casys sieliau a chapiau ffiws, a’u gwerthu i dwristiaid.
Ar drywydd eich cyndeidiau Medalau Medalau yw un o’r ffynonellau gwybodaeth gorau. Roedd enw, rheng, rhif ac uned y milwr wedi’u hargraffu ar ochr neu gefn y rhan fwyaf ohonynt. Cai medalau rhyfelgyrch eu dyfarnu am wasanaeth mewn ymgyrchoedd milwrol dramor. Dyfarnwyd medalau dewrder am wroldeb arbennig mewn cyrch arbennig.
Medalau rhyfelgyrch Pip, Squeak a Wilfred Dyma enwau poblogaidd a roddwyd i dair medal a gyflwynwyd i aelodau o luoedd Prydain a’r Ymerodraeth. Cymeriadau cartŵn hynod boblogaidd ym mhapur newydd y Daily Mirror oedd Pip (ci), Squeak (pengwin) a Wilfred (cwningen), a chafodd y medalau hyn eu cyflwyno yn y cyfnod pan oedd y cymeriadau comig hyn yn dod yn fwyfwy poblogaidd.
PIP: Seren 1914 a Seren 1914-15 Cyflwynwyd medal Seren 1914, neu’r Mons Star, i rai fu’n gwasanaethu yn Ffrainc a Gwlad Belg rhwng 5 Awst 1914 a 22 Tachwedd 1914. Dyfarnwyd 378,000 ohonyn nhw. Cyflwynwyd medal Seren 1914-15 i bawb a wasanaethodd ar faes y gad rhwng 5 Awst 1914 a 31 Rhagfyr 1915. Dyfarnwyd 2,350,000 o fedalau i gyd.
SQUEAK: Medal Ryfel Prydain 1914-1920 Dyfarnwyd am wasanaethu gyda lluoedd Prydain a’r Gymanwlad neu sefydliadau gwirfoddol penodol ar holl feysydd y gad, a chategorïau penodol o wasanaeth ym Mhrydain. Cyflwynwyd chwe miliwn o fedalau arian ac 110,000 o fedalau efydd i aelodau o gorffluoedd llafur amrywiol. Cyflwynwyd medalau hefyd i’r milwyr a wasanaethodd yn Rwsia ac am waith clirio ffrwydron.
WILFRED: Medal Buddugoliaeth 1914-1918 Medal efydd i goffau’r fuddugoliaeth fawr. Fe’i dyfarnwyd i’r rhai a dderbyniodd Seren 1914 neu Seren 1914-15 a’r rhai dderbyniodd Medal Ryfel Prydain – ni allai gael ei dyfarnu ar ei phen ei hun. Fe’i cyflwynwyd am wasanaeth ar holl feysydd y gad, a chategorïau penodol o wasanaeth ym Mhrydain. Cyflwynwyd tua 5,750,000 o fedalau i gyd.
Medalau Rhyfelgyrch Amrywiol Cyflwynwyd sawl medal arall am weithredoedd ac ymgyrchoedd unigol. Y prif rai oedd Medal Khedives Sudan, Medal Gwasanaeth Cyffredinol Affrica a Medal Ryfel y Lluoedd Tiriogaethol. Y fedal fwyaf cyffredin o’r rhai amrywiol hyn oedd Medal Ryfel y Llynges Fasnachol. Dyfarnwyd y fedal efydd hon dros 250,000 o weithiau gan Fwrdd Masnach y DU i aelodau’r Llynges Fasnach a wnaeth un fordaith neu fwy drwy ardal lle'r oedd rhyfel neu berygl.
Ar drywydd eich cyndeidiau Medalau Dewrder Croes Fictoria (VC) Dyma’r anrhydedd uchaf am wroldeb, a ddyfarnwyd ‘am ddewrder neilltuol, neu weithred o wroldeb neu hunanaberth heb ei ail, neu ymroddiad eithriadol i’w ddyletswydd yn wyneb y gelyn’. Roedd holl rengoedd y lluoedd arfog yn gymwys i dderbyn y fedal hon, a hyd yn oed sifiliaid os oedden nhw dan awdurdod milwrol ar yr adeg cyflawni’r weithred arwrol. Dyfarnwyd 615 Croes Fictoria yn ystod y Rhyfel Mawr. Tan 1918, roedd rhuban glas ar bob medal a ddyfarnwyd i aelodau’r llynges.
Medal Gwasanaeth Neilltuol (DSO) Dyfarnwyd y fedal hon yn bennaf i uwch-swyddogion am wasanaeth clodwiw neu neilltuol, fel arfer dan ymosodiad neu ym mhresenoldeb y gelyn. Roedd hefyd yn agored i swyddogion y Llynges Frenhinol a’r Awyrlu Brenhinol. Roedd hon yn fedal blaen heb enw arni, ond talodd rhai teuluoedd ac unigolion i engrafu’r manylion ar gefn y bar crog.
Y Groes Filwrol (MC) Dyfarnwyd i swyddogion hyd at reng Capten, a Swyddogion Gwarant, am ddewrder yn ystod cyrch ym mhresenoldeb y gelyn. Y Groes Hedfan Neilltuol (DFC) oedd medal gyfatebol yr Awyrlu Brenhinol a’r Groes Gwasanaeth Neilltuol (DSC) oedd fersiwn y llynges.
Medal Ymddygiad Neilltuol (DCM) Dyfarnwyd am ddewrder yn y maes yn wyneb y gelyn. Dyma fersiwn gyfatebol y ‘rhengoedd eraill’ o’r DSO. Mewn arysgrif ar y cefn mae’r geiriau ‘For Distinguished Conduct in the Field’. Roedd y Fedal Dewrder Neilltuol (CGM) yn cyfateb i’r DCM, a chafodd ei dyfarnu i rengoedd eraill am ddewrder yn erbyn y gelyn ar y môr neu yn yr awyr.
Y Fedal Filwrol (MM) Dyfarnwyd i rengoedd eraill am ddewrder a defosiwn i’w dyletswydd dan fwledi’r gelyn wrth frwydro ar dir. Mewn arysgrif ar y cefn mae’r geiriau ‘For Bravery in the Field’. Medal Hedfan Neilltuol (DFM) oedd fersiwn yr Awyrlu Brenhinol a’r Fedal Gwasanaeth Neilltuol (DSM) oedd fersiwn y llynges.
Medal Gwasanaeth Clodwiw (MSM) Dyfarnwyd am ddewrder neu wasanaeth neilltuol, a gellid eu dyfarnu yn y maes. Roedd y meini prawf dyfarnu ychydig yn wahanol ar gyfer y tri gwasanaeth, a nifer cyfyngedig o fedalau a ddyfarnwyd ym mhob gwasanaeth.
Enwyd mewn Adroddiadau (MID) Os cafodd unigolyn ei enwi am weithred o ddewrder neu wasanaeth nodedig mewn Adroddiad swyddogol a ysgrifennwyd gan gadlywydd maes, yna byddai’n derbyn tystysgrif a deilen dderw efydd y gellid ei gwisgo ar ruban Medal Buddugoliaeth Prydain.
Ar drywydd eich cyndeidiau Medalau Tramor Roedd Prydain a holl wledydd y cynghreiriaid yn cyflwyno medalau i dramorwyr a wasanaethodd gyda, neu ochr yn ochr â’u lluoedd eu hunain. Byddai cais yn cael ei gyflwyno i Brif Swyddog bataliwn enwebu dyn i dderbyn medal dramor. Gallai fod yn gyfle i’r Prif Swyddog gyflwyno enw rhywun na chafodd glod a bri am ei ymdrechion cyn hynny, neu roi gwobr bellach i ddyn a oedd eisoes wedi cael medal. Ymhlith y medalau yma mae Croix De Guerre Gwlad Belg, Médaille Militaire Ffrainc, Croes San Siôr Rwsia ac Urdd Karageorge Serbia.
Croix-de-Guerre Gwlad Belg
Medalau a Bathodynnau Nyrsys Medal Frenhinol y Groes Goch Cyflwynodd y Frenhines Fictoria y fedal hon am y tro cyntaf ym 1883, ac fe’i dyfarnwyd i nyrsys y fyddin am wasanaeth neilltuol, ymroddiad i ddyletswydd a chymhwysedd proffesiynol mewn nyrsio milwrol. Roedd dau ddosbarth: • Dosbarth 1af – Medal Frenhinol y Groes Goch (RRC) • 2il Ddosbarth – Medal Frenhinol Cydymaith y Groes Goch (ARRC) Ychwanegwyd y fedal 2il Ddosbarth ym mis Tachwedd 1915 a chyflwynwyd barrau i’r fedal Dosbarth 1af ym 1917. Cymdeithas y Groes Goch Brydeinig
Gwasanaeth Nyrsio Milwrol Ymerodrol y Frenhines Alexandra
Gwasanaeth Nyrsio Milwrol Ymerodrol Wrth-gefn y Frenhines Alexandra
Gwasanaeth Nyrsio’r Lluoedd Tiriogaethol
Cymorth Gwirfoddol
Ambiwlans Sant Ioan a’r Groes Goch
Ar drywydd eich cyndeidiau Rhyddhau Anrhydeddus Erbyn diwedd y rhyfel, roedd bron i ddwy filiwn o ddynion ag anabledd parhaus, gyda thros 40,000 wedi colli coesau neu freichiau. Yn ogystal â thystysgrif gan y brenin, cafodd y rhan fwyaf o’r rhai ag anableddau amlwg bensiwn gan y llywodraeth. Gadawodd maes y gad ei ôl ar ddynion a ddihangodd yn ddianaf hyd yn oed, yn sgil effeithiau hirdymor ymosodiadau nwy a sielsyfrdandod. Ni chafodd llawer o lowyr, fel Frank Richards DCM, MM o Frynmawr, bensiwn ar ôl y rhyfel er nad oedd yn ddigon abl i ddychwelyd i weithio danddaear. Tystysgrif rhyddhau anrhydeddus gan y Brenin
Ym 1922, roedd oddeutu miliwn o gyn-filwyr yn ddi-waith.
Bathodyn Arian y Rhyfel Dyfarnwyd Bathodyn Arian y Rhyfel i ddynion a gafodd eu rhyddhau’n anrhydeddus am resymau meddygol, ar ôl cael eu barnu’n anaddas yn gorfforol i wasanaethu. Roedd y bathodynnau wedi’u rhifo’n unigol, ac fel medalau rhyfelgyrch, gellir chwilio am y rhif hwn ar y we i weld pwy oedd derbynnydd gwreiddiol y bathodyn. Mae gwybodaeth ddefnyddiol i’w gael yn y cofrestrau Bathodynnau Rhyfel. Nodir dyddiad ymrestru’r milwr, ei rif, ei reng a’i uned pan gafodd ei ryddhau, dyddiad a rheswm dros ryddhau, unrhyw wasanaeth dramor, ac weithiau ei oedran.
Ar drywydd eich cyndeidiau Hysbysu am farwolaethau Yn swyddogol, byddai teuluoedd yn clywed am farwolaeth eu hanwyliaid trwy gyfrwng telegram gan y Swyddfa Ryfel. Byddai swyddogion yn llenwi’r bylchau ar delegram i deuluoedd Swyddogion Digomisiwn a rhengoedd eraill. Byddai oedi yn aml cyn cael hysbysiad swyddogol am farwolaeth, yn enwedig os nad oedd corff wedi’i ddarganfod. Golygai hyn y byddai teuluoedd yn aml yn clywed y newydd drwg mewn llythyr gan un o’i gydfilwyr, ei swyddog neu ei gaplan, neu hyd yn oed ar lafar gan filwr ar seibiant gartref. Byddai papurau lleol fel arfer yn cyfeirio at farwolaeth milwr. Cai rhestr o’r meirw ei lunio ar faes y gad a’i anfon i’r Swyddfa Rhyfel ac ymlaen i’r London Gazette, ac oddi yno i bapurau lleol. Gallwch weld copïau o bapurau newydd Cymreig ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Plac coffa Cyflwynwyd Plac Coffa (Dead Man's Penny) i berthynas agosaf unrhyw un a wasanaethodd ac a fu farw neu a laddwyd rhwng 1914 a 1918. Castin gwnfetel pres 12 centimedr oedd y plac, a thabled betryal ag enw’r ymadawedig wedi’i gastio arno. Ni chai rheng milwr ei dangos gan fod pawb yn gyfartal yn eu haberth. Ar ymyl y plât castiwyd y geiriau 'He died for freedom and honour'. Byddai’r plac yn cyrraedd gyda Sgrôl Goffa, llythyr o Balas Buckingham, ac weithiau llythyr gan brif swyddog y diweddar filwr hefyd.
Ar drywydd eich cyndeidiau Carcharorion rhyfel Gyda byddinoedd mwy nag erioed o’r blaen, roedd mwy o garcharorion nag erioed yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf hefyd. Cipiwyd dros 175,000 o ddynion o luoedd Prydain a’r Gymanwlad, a hynny ar Ffrynt y Gorllewin yn unig. Roedd y ddwy ochr yn awyddus i ddangos eu bod yn trin y dynion dan glo yn dda, a’r naill ochr yn cyhuddo’r llall o gamdrin eu carcharorion. Nid oedd pob cyhuddiad yn ddi-sail. Roedd amodau’r gwersylloedd yn aml yn afiach, a phob ochr yn troi’r carcharorion at llafur caled, weithiau’n agos iawn at faes y frwydr a dan gyrchoedd sielio eu milwyr eu hunain ar brydiau. Amodau gwersylloedd Rwsia a Thwrci oedd waethaf, gyda chyfraddau marwolaeth uwch o lawer na gwersylloedd Ffrynt y Gorllewin. Waeth ble’r oeddech chi’n garcharor, byddech yn well eich byd fel swyddog na milwr cyffredin. Dan Gonfensiwn yr Hag, roedd gan bob carcharor hawl i dderbyn ac anfon llythyrau, cardiau post a pharseli am ddim. Wedi dychwelyd adref ar ôl y rhyfel, cafodd pob cyn-garcharor Prydeinig lythyr croeso gan y Brenin Siôr V. Mae cofnodion carcharorion Prydain ar gael ar wefan yr Archif Genedlaethol a rhai gwefannau masnachol.
Llythyr croeso i’r Is-gorpral James Cordingley o Drefynwy gan y Brenin Siôr V, 1918