Nansi Richards Telynores Maldwyn

Page 1

Gwneuthur gan Arfon Gwilym


Cafodd Nansi Richards ei geni yn 1888. Bu farw yn 1979, yn 91 oed. Mae ei bedd ym mynwent Pennant Melangell.

Fferm Penybont, Penybontfawr, oedd ei chartref, ond bu'n byw mewn rhannau eraill o Gymru hefyd.

Roedd hi'n enwog fel telynores, ac am ei gwaith yn hybu un offeryn yn arbennig - y delyn deires. Roedd hi hefyd yn berson annwyl a phoblogaidd iawn. Roedd hi'n adnabod llawer o hen gymeriadau, ac yn un dda iawn am ddweud stori. Nansi yn 18 oed. Cafodd y llun yma ei dynnu o flaen tafarn y Castell yn Llangynog, yn 1906.

1


Ei hathro telyn cyntaf oedd Telynor Ceiriog. Roedd hi’n cael gwersi ganddo yn nhafarn y Castell yn Llangynog. (Mae’r dafarn wedi cau erbyn hyn ond mae’r adeilad yn dal yno). Roedd hi hefyd wedi clywed llawer o hen alawon gan y sipsiwn Cymreig - teulu Abram Wood. Byddai’r sipsiwn yn crwydro’r wlad o le i le a byddent yn aml yn dod i aros am wythnos neu ddwy i Fferm Penybont cysgu yn y gadlas a chynnal noson lawen bob nos!

Dysgu o’r glust fyddai Telynor Ceiriog, ac nid o gopi; ac wrth gwrs, ni fyddai’r sipsiwn byth yn defnyddio copi. Roedd Nansi felly wedi dysgu cannoedd o alawon ar ei chof.

TELYNOR CEIRIOG (ar y dde) Roedd Tom Lloyd, Telynor Ceiriog, yn enwog am ennill cystadleuaeth yn Ffair y Byd yn Chicago yn 1893 - cystadleuaeth gwneud telyn a’i chwarae. Tipyn o gamp! (Mae’r llun yma hefyd wedi ei dynnu o flaen tafarn y Castell yn Llangynog, yn 1906) 2


PETHAU PWYSIG YN HANES NANSI

Enillodd y brif wobr am ganu’r delyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol dair blynedd yn olynol - 1908, 1909 a 1910. Pan enillodd y tro cyntaf roedd clychau eglwys Penybontfawr a Llanfyllin yn canu er mwyn dathlu!

Aeth i goleg cerdd y Guild Hall yn Llundain. Roedd yn arfer galw yn 10 Downing Street i ddiddanu teulu’r Prif Weinidog, Lloyd George. Bu hefyd yn perfformio yn y music halls yn Lloegr.

Yn 1923 bu yn America. Cafodd glod mawr yno fel telynores a daeth yn ffrindiau efo teulu Kellogg, oedd yn gwneud Corn Flakes.

Bu’n aelod amlwg o Gôr Telyn Eryri, parti a fu’n cynnal nosweithiau llawen ar hyd a lled y wlad.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu’n teithio ar hyd a lled Prydain yn diddanu’r milwyr.

Cafodd yr hawl gan y brenin George V i ddefnyddio’r teitl ‘Telynores Frenhinol’ - ond ni ddefnyddiodd y teitl erioed.

Yn 1976 bu cyfarfod mawr ym Mhafiliwn Corwen i dalu teyrnged iddi. Daeth i’r llwyfan ar ddiwedd y cyfarfod a dweud “Dim ond un peth dwi am ddeud: Tase gen i gynffon mi fyswn i’n ei hysgwyd hi!”

Yn 1977 cafodd Radd er Anrhydedd gan Brifysgol Cymru.


PAM FOD LLUN CEILIOG AR BACEDI CREISION? I NANSI MAE’R DIOLCH! 4

Pan aeth Nansi i America yn 1923 daeth yn ffrindiau mawr efo teulu Kellogg. Y teulu hwnnw oedd yn gwneud corn f lakes. Ar y pryd, roedd corn f lakes yn cael eu gwerthu mewn bagiau, yn rhydd. Ond roedd y cwmni isio dechrau eu gwerthu mewn pacedi lliwgar, i’w gwneud yn fwy deniadol i’r cwsmeriaid. Roedd Nansi yn aml yn aros yng nghartref y teulu Kellogg. Un bore, pan ddaeth Nansi i lawr i frecwast, esboniodd perchennog y cwmni, William Kellogg, beth oedd ei fwriad. “Nansi,” gofynnodd. “Have you any suggestions what we could put on the new packaging?” Meddyliodd Nansi….mmm, mae’r enw Kellogg yn debyg iawn i’r gair Cymraeg ceiliog….a hefyd wrth gwrs mae’r ceiliog yn canu yn y bore, sef amser brecwast. Dyna’r ateb perffaith!


EISTEDDFOD CORWEN 1919 ! CYFEILIO YN EI CHRYS NOS! !

! Yn !Eisteddfod Genedlaethol Corwen roedd Nansi ! yn chwarae’r delyn yn seremoni’r orsedd am i fod ! ! yn y bore. Ond fe gysgodd yn hwyr. Dyma hi’n 8.30 ! a chlywed sŵn band pres yr Orsedd yn pasio yn y deffro ! ! y tu allan. stryd ! ! ! Nansi o’i gwely. Doedd dim amser i Neidiodd ! yn iawn, felly gwisgodd gôt fawr dros ei choban wisgo ! nos! a rhedeg nerth ei thraed i’r seremoni. Cyrhaeddodd â’i !!gwynt yn ei dwrn fel yr oedd y seremoni ar fin ! cychwyn. ! ! dim amser wedyn i fynd yn ôl i’r tŷ i newid Doedd ! gan!! fod y rhagbrofion yn cychwyn ar unwaith, ac yn syth ! ar ôl y rhagbrofion roedd yn rhaid mynd i ! y Pafiliwn. Felly y bu, yn brysur drwy’r dydd, lwyfan ! yn !dal yn ei chôt fawr a’i choban - a hithau yn ! ddiwrnod poeth o haf ! ! ! ! “Tynnwch eich côt Nansi fach, ’dach chi’n chwys ! domen,” ! meddai rhywun wrthi. ! ! dwi’n lecio gwres,” meddai hithau yn swta. “Na, ! 5


TAID NANSI - EDWARD RICHARDS Roedd taid Nansi, Edward Richards, yn hoff iawn o ganu a dawnsio, ac yn hoff iawn o gwmni’r sipsiwn Cymreig (teulu Abram Wood). Byddai’r sipsiwn yn cael croeso mawr - bwyd a llety - ar fferm yr Hafod, Cymdu. Un tro roedd Edward Richards wedi mynd i neithior (parti priodas) yn Llanyblodwel, yng nghwmni’r sipsiwn. Mawr oedd yr hwyl, yn sŵn y ffidil a’r delyn a’r pibgorn - a’r dawnsio, wrth gwrs. Ond fe yfodd Edward Richards ormod o gwrw, ac aeth i’w wely yn y llofft i gysgu am dipyn. Ond rywbryd yn oriau mân y bore fe ddeffrodd a chlywed sŵn y dawnsio a’r offerynnau yn y gegin o dan y llofft. Cododd o’r gwely yn sydyn a dechrau dawnsio. Ond fe ddigwyddodd trychineb - fe syrthiodd i lawr y grisiau a bu farw yn y fan a’r lle. Y flwyddyn oedd 1875.

FFAIR CHWARTER GŴYDD Byddai Edward Richards wrth ei fodd yn mynd i ffair arbennig yn Llanrhaeadr ym Mochnant - Ffair Chwarter Gŵydd. “Yn y ffair hynod honno mi fyddech chi’n cael chwarter gŵydd gyfan, moron a stwmp maip am swllt,” meddai Nansi.

TAD NANSI - THOMAS RICHARDS Roedd tad Nansi,

Thomas Richards, yn andros o gymeriad - ac yn gerddor brwd. Meddai Nansi amdano: “Fo ddaru ddysgu sol-ffa a hen nodiant i ardal Cymdu i gyd. Roedd gynno fo gôr. O’dd o’n mynd ar ’i ferlyn rownd y wlad i dorri sol-ffa mewn stable ar ddryse ac ar ddistie, i ddysgu pobl i ganu. Canu oedd popeth ganddo fo.”

SIÂN Y FRÂN DDOF “Oedd ’Nhad yn cadw anifeilied dof o bob math. Oedd genno ni frân ddof unwaith. Siân oedd ’i henw hi. Mi fydde hi’n byta nes bydde hi’n methu cau ’i cheg, ac wedyn mi fydde hi’n mynd ar ben y to a gwthio’r cig o’i cheg o dan slaten y to. Roedd pobl y pentre yn rhoi cig neu ddarn o fara allan i’w cathod ac mi ddoi’r frân y tu ôl i’r gath a’i phigo hi yn ’i chynffon, a thra bydde’r hen gath yn troi rownd i warchod ei chynffon roedd y frân wedi dwyn y cig i fyny i’r awyr. Ond roedd hi’n lladd cywion ieir pobl, ac yn y diwedd, mi gafodd ei dal mewn trap, a thorri ei choes. Ond mi roddodd Dr Kenrick Jones, Llan, goes bren iddi. Coes bren i’r frân! A fuodd hi byw am flynyddoedd efo coes bren. Fedre hi ddim gorwedd ar bren. Ar frig y to fydde hi’n cysgu ag un goes, y goes bren, yn hongian i lawr…Roedd hi’n frân ryfedd.” 6


HEN GYMERIADAU DYFFRYN TANAT

CORNELIUS WOOD

Un o deulu Abram Wood (y sipsiwn). “Y rhyfeddaf o’r criw oedd Cornelius - pwtyn byr a’i wyneb fel lleuad llawn, boche cochion, gwallt cyrliog du fel y nos,a llygaid croes. Edrychai bob amser fel pe bai’n chwythu gwybed iddi ar flaen ei drwyn, a chariai ffidil wedi ei gwneud o focs sebon. Roedd Cornelius yn weddïwr hefyd, cyn cysgu’r nos ac wrth godi yn y bore - gofyn bendith ar ei ffidil cyn cychwyn allan. Yn iaith y Romani y dywedai ei bader.”


Un o straeon Nansi: Y BABI BACH HEB DAD NA MAM Stori ydi hon am fachgen ifanc o’r enw Ifan, oedd yn byw yng Nghwmnantyffyllon flynyddoedd maith yn ôl. Un diwrnod, pan oedd Ifan yn 18 oed, dyma’i dad yn dweud wrtho: “Ifan, mae’n bryd i ti fynd i chwilio am waith.” “Ond, y nhad,” medde Ifan, “i ble dwi’n mynd i chwilio am waith?” “Cer i ochre Llangollen - mae nhw’n deud fod na ddigon o waith ffordd hynny.” Ac i ffwrdd â fo - cychwyn yn fore a cherdded drwy Lanrhaeadr i gyfeiriad Glyn Ceiriog. Tua diwedd y pnawn roedd o wedi cyrraedd lle o’r enw Allt y Badi, heb fod ymhell o Glyn Ceiriog, a dyma ddod ar draws gwraig ifanc, yn cario babi ar ei braich. “Dech chi’n mynd ymhell machgen i?” medde hi. “I Langollen dwi’n mynd.” “Wel yno dw inne’n mynd hefyd. Ga’i gyd-gerdded efo chi? Mae hi’n dechre nosi ac mae genna i ofn y nos,” medde hi. Ac i ffwrdd â nhw. “Lle dech chi’n aros yna?” gofynnodd toc. “O yn y gwesty bach ar lan yr afon,” medde Ifan. “Wel dyna beth rhyfedd, yno dw inne’n aros hefyd. Lle bach glân neis. Naw ceiniog am wely a tair ceiniog am ddŵr poeth a bwyd.” O’r diwedd dyma’r ddau yn cyrraedd Llangollen ac yn mynd i mewn i’r gwesty efo’i gilydd. Roedd Ifan wedi blino’n lan ar ôl cerdded milltiroedd o Gwmnantyffyllon. Aeth i’w wely yn gynnar a chysgodd yn drwm. Yn gynnar yn y bore cafodd Ifan ei ddeffro gan sŵn babi yn crïo ar droed y gwely. Dim golwg am fam y babi bach yn unlle. Doedd o ddim yn deall o gwbl, a dyma fo’n codi a mynd lawr y grisiau a gofyn i wraig y gwesty: “Pam ydech chi wedi rhoi’r babi yna ar ’y ngwely i?” “Wel, ar wely pwy arall dech chi’n ddisgwyl i mi ei roi o - chi ydi tad y babi ynde?”

“ ‘Dydi o ddim yn fab i mi,” medde Ifan. “Wel yn enw’r dyn,” medde hi. “Mi wnaethoch chi gyrraedd yma efo’ch gwraig neithiwr. Mae hi wedi mynd allan yn gynnar y bore ‘ma, i brynu bwyd i chi medde hi. Mae hynny ers meityn, a dydi hi byth wedi dod yn ôl.” Suddodd calon Ifan, a sylweddolodd yn syth fod y wraig ifanc wedi ei dwyllo. Roedd y babi bach erbyn hyn yn crïo isio bwyd, a gwraig y gwesty yn dechrau mynd yn flin. “Os na ewch chi â’r babi yna o’ma rwan mi af i moyn y plismon,” medde hi. Doedd dim pwrpas i Ifan daeru mai nid y fo oedd pia’r babi. Doedd dim ond un peth amdani - byddai raid iddo fynd yn ôl adre a’r babi efo fo. “Wel be ddeuda i wrth fy mam? Mynd adre yn fy ôl mor fuan a babi yn fy mreichie!” Wel, dyma ddechrau ar y daith hir yn ôl adre. Heb fod yn bell o bentre bach Pandy mae yna riw serth, Allt y Pandy. Yn dod i’w gyfarfod i lawr yr allt yr oedd hen wraig, yn amlwg mewn tipyn o strach. “Esgusodwch fi, ’machgen i,” medde hi, “tybed fedrwch chi fy helpu i? Tybed ewch chi i wahanu’r ddau hwrdd acw yn y cae? Mae nhw’n ymladd ers orie. Mae nhw’n siwr o ladd i gilydd.” “Wel cydiwch chi yn y babi ma,” medde Ifan, a dyma fo’n rhoi y babi i’r hen wraig, neidio dros ben y gwrych a rhedeg i gyfeiriad y ddau hwrdd. Ond yn lle mynd ar ôl yr hyrddod, dianc wnaeth o dros y cae a gadael y babi bach efo’r hen wraig. A welodd o erioed mo’r babi wedyn…. Flynyddoedd lawer ar ôl hynny, roedd tad Nansi Richards, Thomas Richards, yn was priodas i Dr Kenrick Jones, Llanrhaeadr. Roedd y briodas yn digwydd mewn swyddfa yn Llangollen. Yn y swyddfa hefyd y diwrnod hwnnw, yn aros i briodi, yr oedd gŵr ifanc, yn brysur yn llenwi ffurflenni. Clywodd Thomas Richards y gŵr ifanc yn dweud wrth y swyddog: “Wel alla i ddim deud wrthach chi pwy ydi nhad na mam i, ond cael fy magu ddaru mi gan ryw hen wraig o’r Pandy,” medde fo. “Cael gafel arna i ddaru hi o rywle. A hi magodd fi. Wn i ddim byd pwy ydw i,” medde fo.


Y DELYN DEIRES ! Beth sy’n gwneud y delyn deires yn wahanol i delynau eraill? 1. Tair rhes o dannau. Dim ond un rhes sydd mewn telynau eraill. 2. Dim pedalau. Mae hi felly yn ysgafnach. 3. Y sgrôl ar frig y llorf (y polyn hir). 4. Mae’n cael ei galw wrth yr enw “Y Delyn Gymreig”


CWM CAM CEILIOG Ar fynydd y Berwyn ers talwm roedd cawr a chawres yn byw. Pan oedden nhw yn cario llwyth o gerrig dros ryw hafn yn y mynydd, dyma geiliog yn canu yn rhywle. Mae’n gas gan gewri sŵn ceiliog. Yn eu dychryn dyma nhw’n gollwng y cerrig…ac yno mae nhw hyd y dydd heddiw. Os sefwch chi cyn dod i mewn i Langynog ac edrych i fyny i’r dde, fe welwch chi’r cwm cul yma: Cwm Cam Ceiliog. Y GARN “Ar gorun y Garn mae Creigie Pebyll. Agennau dyfnion ydynt….eu safnau a lyncodd ambell i ddaergi. “Mae yno olion hen Eglwys Llanhafan a dau fedd anferthol eu maint. Beddi cewri, meddai’r hen bobol! Ar grib y Garn mae Bwlch Brathiad y Cawr Mawr.”

Dyma lun a gafodd ei dynnu o Nansi Richards yn Llanrhaeadr tua dechrau’r 1950au. Roedd yna ymgyrch fawr genedlaethol ar y pryd i gael Senedd i Gymru.! Tybed a fedrwch weithio allan ymhle y mae’r llun wedi cael ei dynnu?


PENNANT MELANGELL Ewch â mi’n ôl i dir Maldwyn, Nid ydyw y siwrne yn faith, Mae f’enaid i yno cyn cychwyn Yn barod at ddiwedd y daith. Mae anadl ei thir yn fy ffroenau, A’r llwybr yn disgwyl fy nhroed, Mae f’enw i lawr yn ei llyfrau Cyn cerddias i gyntaf erioed. Mae patrwm fy medd yng Nghwm Pennant Bum troedfedd a modfedd o hyd; I’m hymyl daw’r Grugiar a’r Ffesant, Yn swiliach, daw Rhegen yr Yd. Rwy’n gwybod yn eithaf bryd hynny Na fyddaf yn cysgu’n rhy drwm I glywed Nant Ewin yn canu Ei solo i Bistyll Blaen-cwm. Mae mynwent Cwm Pennant fel soned, (Ni ellir rhoi soned ar fap); Os deui i’w cherdded, fy nghariad, Paid dyfod heb dynnu dy gap.


BUGAIL BACH CWM TYLO Bugail bach Cwm Tylo A throwsus melfared, Menyg am ei ddwylo, Plu’r Gweunydd yn ei het. Myned mae i ofyn, Yn wrol, medde fo, I Neli fach Dol-llechwyn A wnaiff ei briodi o. “Wel na wnaf, wir,” medd Neli, “Pe cawn i drigain punt, Mae’th ben fel buddai gorddi, A’th geg fel ffatri wynt. “Mwstas fel twmpath eithin, A gwallt fel gwrych o ddrain, Cyn bod i ti yn perthyn, Mi briodwn fwgan brain.”


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.