Resonance - Cyseiniant Anthology

Page 1

Cyseiniant - Resonance Anthology 2017


FY NGHERDD ERDDIG I

MY ERDDIG POEM

Tra’n cerdded yng ngerddi Erddig gwelais y blodau prydferth ym mhob lliw yn tyfu’n dalog.

Whilst walking through the gardens in Erddig I saw beautiful multi-coloured flowers growing jauntily.

A’r coed yn ymestyn am y cymylau. Arogl y glaswellt newydd yn fy ffroenau.

The trees stretching up to the clouds and the scent of mown grass in my nostrils.

A’r waliau yn cadw cyfrinachau hudol ym mhob twll a chornel ers blynyddoedd maith.

Surrounding it all are the old mystical walls that hold secrets from many a year.

Tra’n cerdded yng ngerddi Erddig dychmygais hen fywyd pob dydd y gweision, yn gwario eu hegwyl yn gwylio’r blodau yn dawnsio fel tylwyth teg.

Whilst walking through the gardens in Erddig I imagine the olden days and the servants spending their break watching the flowers dancing like fairies.

Y coed yn sefyll yn syth fel milwyr mewn llinell yn gwarchod y tŷ.

The trees stand straight like soldiers in a row guarding the house.

Gwelais bysgod euraidd yn nofio ymysg ei gilydd.

I saw golden fish swimming amongst each other.

Tra’n cerdded yng ngherddi Erddig sylweddolais ar brydferthwch yr hen dŷ a’i gerddi ysblennydd.

Whilst walking through the gardens in Erddig I realise the beauty of the old house and its gardens.

Poppy Wright


Y GOEDEN FAWR

THE LARGE TREE

‘Rwyf wedi sefyll yma ers blynyddoedd maith yn gwarchod yr ardd, Yn gwylio’r lliwiau’n newid efo’r tymhorau.

I have been standing here protecting the garden for many a year, watching the colours change with the seasons.

Clywais yr adar yn canu’n swynol a gwelais yr enfys yn goleuo’r awyr.

I heard the birds’ engaging song and I saw the rainbow lighting the sky.

Arsylwais y merched tlws yn ymlacio ac yn mwynhau’r haul, a blodau’r balarinas yn dawnsio yn heulwen yr Haf.

I observed the pretty girls relaxing and enjoying the sun’s rays, and the fuchsias dancing their faces to the sun.

Y coed eraill yn sefyll yn syth fel milwyr mewn rhesi yn fy ngwarchod i.

The other trees stand straight like soldiers protecting me.

Dau rosyn sydd yn fy ngardd erbyn hyn, yn sefyll yn unig.

Only two roses remain, lonely, in my garden now.

Yr Hydref sydd wedi cyrraedd a’r amser i mi huno, er mwyn cael deffro i weld fy rhosod hardd unwaith eto.

Autumn has arrived and it is time for slumber, in order that I awake to see the beautiful roses once again.

Alys Edwards


I BLE’R AETH Y RHOSOD O’R ARDD?

WHERE DID THE ROSES GO?

I ble’r aeth y rhosod o’r ardd? Ydy’r blaidd wedi’u bwyta nhw? Ydy blodau’r balarina, sy’n edrych mor ddel, wedi eu dwyn? I ble’r aeth y rhosod o’r ardd?

Where did the roses go? Has the wolf eaten them? Have the fuchsias, that look so pretty, stolen them? Where did the roses go?

I ble’r aeth y rhosod o’r ardd? Dim ond dau ar ôl yn awr. I ble’r aeth eu ffrindiau i gyd? I ble’r aeth y rhosod o’r ardd?

Where did the roses from the garden? Only two to go now, Where did all of their friends? Where did the roses from the garden?

I ble’r aeth y rhosod o’r ardd? Ydy’r garddwr wedi eu clirio nhw? Ydy’r cwningod wedi’u bwyta nhw? I ble’r aeth y rhosod o’r ardd?

Where did the roses go? Has the gardener cleared them? Have the rabbits eaten them? Where did the roses go?

I ble’r aeth y rhosod o’r ardd? Dim ond dau bach ar ôl Ond dim am yn hir. I ble’r aeth y rhosod o’r ardd?

Where did the roses go? Only two lonely flowers left, but not for long. Where did the roses go?

Yr Hydref gymerodd y rhosod I’w gwarchod rhag y Gaeaf A’u cadw tan y Gwanwyn a’r haul Cyn eu gosod yn ôl yn yr ardd.

Autumn took the roses to protect them from the Winter to keep them until the Spring Before placing them back in the sun.

Abigail Hilson


ERDDIG YN YR HYDREF

ERDDIG IN AUTUMN

Blodau wedi diflasu sefyll yn syth, Blodau oedd mor ysblennydd.

The flowers are weary of standing tall, Flowers that were so splendid.

Planhigion prydferth o amgylch yr ardd fel enfys amryliw

Beautiful flowers that surrounded the walls like a multi-coloured rainbow.

Ac atgof o’r gwenyn yn dwyn y paill i wneud mêl melys.

Memories of the bees stealing the pollen to make sweet honey.

Coed fel milwyr yn gwarchod yr hen dŷ crand.

Trees stand like soldiers guarding the grand old house.

Gatiau haearn wrth y llyn yn sefyll yn gryf, Pysgod chwim yn nofio o ochr i ochr yn y dŵr.

Solid gates stand by the lake Watching over the agile fish as they swim from side to side.

Ffenestri mawr yn sgleinio wth gadw llygaid ar yr ardd. Blodau wedi diflasu sefyll yn syth.

Gruff Jones a Cynan Jones

Large windows shine as they keep an eye on the garden. The flowers are weary of standing tall.


PLAS ERDDIG – YMWELIAD Â’R GERDDI

PLAS ERDDIG; A VISIT TO ERDDIG GARDENS

Deugain mlynedd yn ôl bum yng ngerddi Erddig. Yno ‘roedd anialwch o fieri, drain a chwyn; blerwch llwyr. Heddiw gwedd newidiwyd y lle i wlad hyd a lledrith. Pobeth yn daclus; yn ddestlus; yn lliwgar.

Forty years ago I visited Erddig gardens. ‘Twas a wilderness of thorn bushes, briars and weeds. Today it is transformed, as if by magic; a land now of myths and legends.

Yn adlewyrchu gerddi’r plasau fel Fersai a Blenheim. Gyda ôl dychymyg, cynllunio, a brwdfydedd – Yn atgyfodi’r cynllun gwreiddiol o’r 18fed ganrif. Yn gwneud yn fawr o’r planhigion, y coed a’r blodau gwylltion. Dim gwastraff o’r amrywiol afalau -cyfoeth o fwyd a gwinoedd ar gyfer y gaeaf. Profiad gwefreiddiol; teithio’n ôl i gynllun yr ardd wreiddiol gyda chydbwysedd, mewn lliw a llun. Yn atgoffa ni o un o erddi plasau Sbaen. Lle i ymlacio, mwynhau a derbyn ysbrydoliaeth. Y gorau un yw ‘Ffau’r blaidd – lle gwyllt –i’r plant chwarae’n rhydd; yn apelio i’r dychymyg a’r ysbryd anturus. Gwych! Yma ceir ffurfiau, aroglau a lliwiau at ddant pawb; i godi’r ysbryd, tanio’r dychymyg a chyfoethogi’r bore bedigedig.

Dorothy Sellick

All is tidy, trim and colourful; a horticultural delight! Reflecting the original garden plan of the 18th century. No waste of a great variety of apples a wealth of food and wine for winter. An inspiring experience; transmitted back to the original 18th century garden, in style, balance and colour. It reminds me of Alhambra in Spain – relaxing, enjoying, spiritualising. Best is the ‘Wolf’s Den’ for children; wild free play – appealing to their imagination and adventurous spirit. Here are forms, perfumes and hues to please everyone; raising spirits, firing the imagination and enriching our morning.


ERDDIG

ERDDIG

Rhodd hen yw'r ddawn i ryddhau enaid o blaid y blodau.

An ancient gift is the talent to free a soul that loves flowers.

Ar y gair, daw blodau'r gwynt; godidog i gyd ydynt.

Suddenly the anemones arrived, each one wonderful.

Hen flodeugerdd yw Erddig, lliwio'r fro o wraidd i frig.

Erddig is an old anthology, colouring the land from root to top most branch.

Yma liciwn ymwacio ar lawnt sefydlwyd ar lo. 'Steddwch yn yr ardd harddaf, gosodwyd yn hud yr haf. Troellog yw'r Clywedog ir, nant amhendant o'r mawndir. Fe rannaf y gyfrinach; Dyna fo, ein Eden fach.

Les Barker

We like to relax here on a lawn built on coal. Sit in the most beautiful garden, set in the magic of summer. The eager Clywedog winds, undecided, from the moor. I will share the secret; here it is, our little Eden.


Y RHOSFA / YR ARDD ROSYNNAU

THE ROSE GARDEN

Syllwch i mewn i’r gorffennol A chael cipolwg a’r clebran a’r geiriau anhysbys, anarferol Sibrydai’r sgertiau, tincialai’r tebotau Mae’r morwynion yn gwibio fel gwenyn prysur Hymian, anweledig ar bnawn segur yr haf.

Peer into the past And glimpse the gossip and the unknown, unusual words Skirts whispering, teapots tinkling Maids flitting like busy bees Humming, invisible on a lazy summer day.

Mewn niwl y mae wynebau merched a blodau yn dadmer Ai beth sydd ar ôl erbyn heddiw? Dau rosyn gwyn trist fel yr eira a ddaw Wrth i flwyddyn arall droi A'u gadael yn y gorffennol newydd.

Rosemary Ralphes

Faces of the girls and flowers melt into a mist And this is what remains today? Two sad white roses like the snow that comes as another year turns and leaves them in the new past.


YR ARDD RHOSYNNAU

THE ROSE GARDEN

Mewn cylch o wair y n llyfn fel melfed,

In a circle of grass as soft as velvet,

Mae’ r hen goed uchel yn ymestyn I’r nefoedd;

The old tall trees stretch up to the heavens;

Yn gwarchod y lle cuddiedig mewn heddwch a llonyddwch.

Guarding this secret place in peace and stillness.

Yn gwylio’r bywyd dros flynyddoedd hir,

Watching the world as years pass by,

Eu brechiau yn cofleidio atgofion o amseroedd pell yn ol;

Their arms embracing memories of times long past,

Eu dail yn sibrwd cyfrinachau y gorffenol.

Leaves whispering secrets of old,

Lleisiau y gweision, bonheddwyr a’ r plant Yn atseinio ar awe l mwyn. Blodau yn ffrwydro eu lliwiau fel tan gwyllt, Gemau llachar ar wely gwyrdd. Wrth I’r flynyddoedd ruthro heibio, Gwelir genedigseth , marwolaeth, tyfiant a newid ; Ond mae’n aros yn gadarn; Tragwyddol am byth.

Sylvia Thomas

Echoing on the gentle breeze. Flowers exploding in colour like fireworks, Sparkling jewels on a bed of green. As the years race by With birth , death, growth and change It remains. Steadfast. Unchanging. Eternal.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.