1 minute read

ADOLYGIAD Yr Arwerthiant Cymreig

1 Ebrill 2023

Lotiau: 421

Gwerthwyd: 85%

Cyfanswm: £349,810

Cynhaliwyd Arwerthiant Cymreig cyntaf 2023 yn yr un cywair â 2022 a bu pobl o bob cwr yn cystadlu am weithiau celf a serameg. Roedd yr arwerthiant yn cynnwys tri deg pedwar o weithiau gan Syr Kyffin Williams; dim ond pedwar ohonynt a fethodd â dod o hyd i berchnogion newydd. Yn yr un modd ag y gwelwyd yn 2022, mae’r farchnad ar gyfer printiau a gweithiau ar bapur gan Kyffin wedi bywiogi’n fawr, yn ddi-os.

Y record ar gyfer arwerthu gwaith a luniwyd ar bapur gan Kyffin yw £18,000 – a ni sy’n berchen ar y record honno. Ym mis Ebrill, daeth Lot 278, ‘Andes Patagonia’, yn ail yn y ras ar ôl llwyddo i werthu am £12,000 – y pris arwerthu drytaf ond un ar gyfer gwaith ar bapur gan Syr Kyffin Williams.

Roedd gennym ni record yr arwerthiant am brint Kyffin yn barod hefyd, ac ym mis Ebrill fe’i curwyd eto. Mae marchnad argraffu KW mor fywiog ag y bu erioed.

Er bod y farchnad ar gyfer printiau a gweithiau ar bapur gan Kyffin wedi cryfhau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gwelir cynnydd eithriadol ym mhrisiau gwaith y diweddar Roger Cecil (1942-2015).

Tan yn ddiweddar, ni roddwyd ryw lawer o sylw i weithiau Cecil, ond bellach cânt eu cydnabod ac mae casglwyr yn ymlafnio i brynu enghreifftiau o’i weithiau. Llwyddodd pob un o’r enghreifftiau yn Arwerthiant Cymreig mis Ebill i fynd ymhell y tu hwnt i’r amcangyfrifon.

Mae darluniau eraill a ragorodd ar yr amcangyfrifon yn Arwerthiant Cymreig mis Ebrill yn cynnwys enghreifftiau hynod gasgladwy gan Valerie Ganz a Claudia Williams.

Gan droi ein golygon at adrannau eraill, llwyddodd plât porslen wedi’i addurno â golygfa hanesyddol o Calcutta gan Thomas Baxter, o gasgliad Syr Leslie Joseph, i ddod o hyd i gartref newydd.

A dyna hefyd fu hanes cath crochenwaith Ewenni –yn wir, cafwyd brwydr draddodiadol rhwng darpar brynwr yn yr ystafell arwerthu a darpar brynwr ar y ffôn. Y prynwr ar y ffôn a enillodd o drwch blewyn!

This article is from: