ATL Cymru Education Manifesto (Welsh)

Page 1

ATL/PR59

MANIFFESTO ADDYSG ATL Cymru

#AddysgYnGyntaf


PWY YDYN NI ATL Cymru yw'r undeb ar gyfer proffesiynwyr addysg. Â ninnau'n weithredol yn y sectorau a gynhelir, annibynnol ac ôl-16, rydyn ni'n defnyddio profiadau ein haelodau i ddylanwadu ar bolisïau addysg ac rydyn ni'n gweithio â'r llywodraeth a chyflogwyr i warchod cyflogau, amodau a datblygiad gyrfaoedd. O'r blynyddoedd cynnar i AU, athrawon i staff cymorth, darlithwyr i arweinwyr, rydyn ni'n cefnogi ac yn cynrychioli ein haelodau gydol eu gyrfa.


YNGLŶN Â'N MANIFFESTO Rydyn ni'n credu y dylai ein holl blant a phobl ifanc dderbyn yr addysg orau posib a chyrraedd eu potensial. Er mwyn sicrhau hyn, rhaid i Lywodraeth Cymru wneud y canlynol: Datblygu cwricwlwm cryf sydd â chymwysterau cludadwy Datblygu gweithlu tra medrus Buddsoddi mewn addysg Darparu telerau ac amodau teg ar gyfer staff cymorth Cadw'r system addysg wladol #AddysgYnGyntaf


1 DATBLYGU CWRICWLWM CRYF SYDD Â CHYMWYSTERAU CLUDADWY Mae angen cwricwlwm eang a chytbwys ar ein pobl ifanc er mwyn iddynt gael y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt am oes. Fe groesawom ni Adolygiad Donaldson. Rhaid gwneud y newidiadau gorau i'r cwricwlwm unwaith ac am byth. Rydyn ni am weld llai o newidiadau i bolisïau a thargedau. Mae'n hanfodol bod pob person ifanc yn derbyn cyngor cyflawn a theg ynglŷn â'u hopsiynau, yn enwedig ôl-16, er mwyn sicrhau cynnydd priodol. Rhaid parchu ein cymwysterau ledled y DU a'r tu hwnt.

Mae dau draean o gyflogwyr am i gymwysterau ledled y DU fod yn uniongyrchol gymharus.1


DATBLYGU GWEITHLU TRA MEDRUS Gellir ond gwella safonau gydag amser ac adnoddau ar gyfer datblygiad personol parhaus. Mae angen i'r gweithlu addysg gael mwy o amser paratoi a marcio er mwyn datblygu sgiliau newydd a rhannu arferion gorau 창 chyd-weithwyr. Bydd hyn yn eu galluogi i gyflwyno cwricwlwm cyflawn a chyfiawn a diweddaru eu harbenigedd galwedigaethol. Pe bai darparwyr am fod yn wirioneddol atebol am wneud gwelliannau mewn ysgolion a cholegau AB, mae angen iddyn nhw fod yn rhan fawr o ddatblygiad y cwricwlwm ar bob cam.

Ni all ansawdd system addysg fod yn uwch nag ansawdd ei hathrawon.2

2 #AddysgYnGyntaf


£604 Y DISGYBL —

2/3

YN ÔL YR ADRODDIAD DIWETHAF YN 2010, Y BWLCH CYLLIDO RHWNG YSGOLION CYMRU A LLOEGR OEDD £604 Y DISGYBL.

O GYFLOGWYR AM I GYMWYSTERAU LEDLED Y DU FOD YN UNIONGYRCHOL GYMHARUS.


£637 MILIWN

6%

RHWNG 2010 A DIWEDD 2013, DEFNYDDIWYD £637 MILIWN ER MWYN SEFYDLU YSGOLION RHYDD YN LLOEGR SY'N ADDYSGU LLAI NA 22,000 O DDISGYBLION.

MAE COLEGAU AB YN WYNEBU TORIAD ERCHYLL O 6% O'U CYLLIDEB. #AddysgYnGyntaf


BUDDSODDI MEWN ADDYSG Yn ol yr adroddiad diwethaf yn 2010, y bwlch cyllido rhwng ysgolion Cymru a Lloegr oedd £604 y disgybl.3 Mae hynny'n golygu, ar gyfartaledd, y caiff ysgolion cynradd yng Nghymru eu tangyllido gan bron i £118,000 y flwyddyn ac ysgolion uwchradd gan dros £540,000.4 Mewn AB, mae llawer o sylwebwyr yn awgrymu y caiff hyd at 90% o ddysgwyr yng Nghymru eu tangyllido o gymharu â dysgwyr yn Lloegr. Mae colegau AB yn wynebu toriad erchyll o 6% o'u cyllideb.5 Mae dileu cyllid darpariaeth oedolion mewn AB a Dysgu yn y Gweithle wedi cael effaith anghyfartal ar ddysgwyr hŷn, yn enwedig menywod. Rhaid buddsoddi mewn addysg. Mae tangyllido yn peryglu dyfodol Cymru.

Mae’r toriadau hyn yn doriadau dwfn. Bydd Cymru yn teimlo eu heffeithiau am amser hir i ddod.6

3


4 TELERAU AC A MODAU TEG AR GYFER STAFF CYMORTH Rydyn ni'n croesawu proffesiynoldeb uwch y staff cymorth mewn ysgolion a cholegau.7 Er bod eu cyflog ac amodau yn amrywio'n fawr sy'n ei gwneud hi'n yrfa lai dengar. Nid yw rhai grwpiau cyflog yn sicrhau bod staff cymorth yn derbyn cyflog byw. Caiff staff cymorth eu targedu'n rheolaidd pan gaiff cyllid ei dorri a rolau cynorthwyo allweddol eu colli. Mae angen telerau ac amodau ffafriol ar staff cymorth i wneud hwn yn broffesiwn sy'n denu'r ymgeiswyr gorau. Rhaid gwobrwyo'r rheiny sy'n cynorthwyo dysgwyr yn briodol.

Er gwaetha'r cynnydd helaeth mewn rolau a chyfrifoldebau staff cymorth, mae eu cyflog o hyd yn gwbl annigonol, gyda llawer yn methu dianc rhag tlodi parhaol.8

#AddysgYnGyntaf


5 CADW'R SYSTEM ADDYSG WLADOL Mae'r system addysg wladol yn Lloegr yn cael ei difa gan y nifer cynyddol o 'academïau' ac 'ysgolion rhydd'. Mae'n hynod ddrud. Rhwng 2010 a diwedd 2013, defnyddiwyd £637 miliwn er mwyn sefydlu ysgolion rhydd sy'n addysgu llai na 22,000 o ddisgyblion.9 Rydyn ni am i'n hysgolion fod yn rhydd o breifateiddio ac am gynnal a chadw a datblygu system ysgolion wladol sy'n diwallu pob plentyn ac un sydd am ddim i bawb.

Rydyn ni am i gyllid cyhoeddus gael ei fuddsoddi mewn addysg dysgwyr, nid i lenwi pocedi rhanddeiliaid.10


1

Emma Watkins, CBI http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-29532598

2

https://mckinseyonsociety.com/how-the-worlds-best-performing-schools-come-out-on-top/

3

http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-12280492

https://statscymru.cymru.gov.uk/Catalogue/Education-and-Skills/Schools-and-Teachers/Schools-Census/Pupil-LevelAnnual-School-Census/Pupils

4

Nifer y disgyblion wedi'u rhannu gan nifer yr ysgolion: ysgol cynradd = 195 o ddisgyblion yr ysgol, ysgolion uwchradd = 898. Yn ol y gwir ffigyrau, tangyllidwyd: Ar gyfartaledd, ysgolion cynradd gan £117,780 y flwyddyn ac ysgolion uwchradd gan £542,392 http://www.collegeswales.ac.uk/cy-GB/toriadau_serth_i_sgiliau_oedolion_i_effeithio_ar_economi_cymru-728.aspx

5&6

http://dysgu.llyw.cymru/docs/learningwales/publications/131010-action-plan-promoting-the-role-and-development-ofsupport-staff-cy.pdf

7

8

https://www.atl.org.uk/media-office/media-archive/ATL-campaigns-to-fight-injustices-facing-school-support-staff.asp

9

https://www.tuc.org.uk/sites/default/files/Education_Not_For_Sale_Repor_Report.pdf http://educationnotforsale.org/

10

#AddysgYnGyntaf


SIARADWCH Â NI... Ewch i'n gwefan am fwy o wybodaeth: atl.org.uk/AddysgYnGyntaf E-bostiwch ni: AddysgYnGyntaf@atl.org.uk Ymunwch â'r drafodaeth: #AddysgYnGyntaf @ATLCymru


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.