2 minute read
GWOBR ARBENNIG AM GYFRANIAD EITHRIADOL I DDARLLEDU: HYWEL GWYNFRYN
GWOBR ARBENNIG AM GYFRANIAD EITHRIADOL I DDARLLEDU: HYWEL GWYNFRYN
Ychydig yn y byd darlledu byd-eang sy’n gallu cystadlu â phrofiad Hywel Gwynfryn. Yn enw cyfarwydd ym myd teledu a radio Cymraeg, mae wedi bod yn bresenoldeb cyson yn y cyfryngau ers dros chwe degawd. Gwynfryn sy’n derbyn y Wobr Arbennig am Gyfraniad Eithriadol i Ddarlledu eleni.
Wedi’i eni yn Llangefni, Ynys Môn, ac yn byw yng Nghaerdydd ers 1960, mae wedi bod yn rhan o deledu’r BBC yng Nghymru ers 1964 – pan ymunodd â thîm Heddiw – ac wedi bod yn cyflwyno ar BBC Radio Cymru ers ei sefydlu yn 1977. Mae ei ddull tosturiol, ynghyd â chwestiynau treiddgar, wedi ennyn cyfweliadau cymhellol a dadlennol gyda degau o filoedd o bobl ac mae wedi adrodd ar sawl agwedd arwyddocaol ar fywyd Cymru a thu hwnt.
Mae wedi arwain rhaglenni plant a rhaglenni dogfen poblogaidd Cymru hefyd, gan gynnwys ei gyfres deithiol gyffrous Ar dy Feic, ac mae hefyd wedi bod yn ohebydd bythol bresennol o wyl flynyddol Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Fel awdur, mae wedi ysgrifennu sawl pantomeim a llyfr, gan gynnwys cofiant craff i’r actor Cymreig Hugh Griffith a enillodd Oscar.
Ynghylch derbyn y Wobr Arbennig hon, dywed Gwynfryn: “Am y 60 mlynedd diwethaf, mae pobl wedi rhannu straeon am bopeth dan haul gyda fi wrth i mi eistedd a gwrando. Rydw i wedi teithio’r byd ac wedi cael fy nhalu am gael amser bendigedig. Nawr rydw i’n derbyn BAFTA. Mae’n goron ar y cyfan.”