4 minute read
MYFYRWYR A STAFF YN ARCHWILIO
Yn nigwyddiad trwsio’r blaned yr ysgol, bu myfyrwyr a staff yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig yn archwilio datrysiadau posibl, dyluniadau unigryw, ac yn creu fideo byr yn cyflwyno’u syniadau. Cynhaliwyd y digwyddiad ar 1 Tachwedd 2022, a hynny i ddathlu 'Diwrnod Cenedlaethol Peirianneg' 2022.
Cynhaliwyd y gweithdy trwsio’r blaned ar y 1af o Dachwedd 2022. Cynhaliwyd y digwyddiad diwrnod o hyd i ddathlu 'Diwrnod Cenedlaethol Peirianneg' 2022. Nod yr ymgyrch, a redir gan yr Academi Beirianneg Frenhinol, gyda’r ysgol yn bartner, yw helpu i ddathlu peirianneg, a herio hen gamsyniadau a safbwyntiau hen ffasiwn o beth yw peirianneg.
Dywedodd Dr Daniel Roberts (Darlithydd mewn Peirianneg Electronig, ac arweinydd Cyswllt Myfyrwyr) a helpodd i drefnu’r digwyddiad: “Mae’r Wythnos Ddarllen yn rhoi cyfle i ni, fel ysgol, wneud pethau gwahanol a dod â’r disgyblaethau lluosog yn yr ysgol at ei gilydd. Roedd y digwyddiad hwn yn herio pawb i feddwl am yr hinsawdd, a’r hyn y gallwn ni ei wneud i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Braf oedd trefnu’r digwyddiad hwn a gwell fyth oedd trefnu’r digwyddiad i ddathlu pobl ym myd peirianneg ac i gefnogi’r ymgyrch `Dyma Beirianneg’, i herio ein hunain, ac i feddwl am newid hinsawdd..”
Cafodd y 'Gweithdy Trwsio Planedau' trwy brofiad ei ddylunio a'i gadeirio gan Chris Walker, hwylusydd a darlithydd sy'n pontio byd busnes a'r byd academaidd. Dechreuodd Chris Walker trwy egluro bod yr her o wibddylunio atebion arloesol wedi'i hysgogi gan sut y gallwn ni 'drwsio'r blaned'.
Dywedodd y Dr Iestyn Pierce (Pennaeth yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig), a groesawodd bawb i’r gweithdy: “Roedd yn wych gweld sut y bu i bobl drafod y syniadau gwahanol a dylunio datrysiadau a allai helpu i liniaru effeithiau newid hinsawdd. Ar ddiwedd y dydd, cyflwynodd pobl eu syniadau mewn fideo byr gan esbonio’u cysyniadau. Mae goresgyn problemau, lliniaru newid hinsawdd, a meddwl am faterion cynaliadwyedd, yn heriau enfawr. Materion yw’r rhain sydd wrth galon cenhadaeth y Brifysgol. Roedd yn wych gweld pawb yn ymroi i’r her; edrychaf ymlaen at weld pen draw’r syniadau hyn!”
Rhoddwyd chwe awr i’r cyfranogwyr weithio ar eu syniadau, a denodd y digwyddiad fyfyrwyr o bob rhan o’r ysgol – yn israddedigion, ôl-raddedigion a phrentisiaid gradd o faes cyfrifiadureg, peirianneg electronig a dylunio cynnyrch.
Dywedodd Pramod (Paul) Kusuma, myfyriwr sy'n astudio ar gyfer ei MSc mewn Gwyddor Data Uwch, “Cefais brofiad dysgu gwych ddoe yn y gweithdy trwsio’r blaned. Dw i’n falch i mi fynd. Dysgais am newid hinsawdd, pa mor gynhyrchiol y gall gwaith tîm fod, a thrafod syniadau gwahanol mewn cyfnod byr o amser. Dysgais yn arbennig gan un o aelodau ein tîm sut mae gan algâu a bacteria swyddogaeth hanfodol o ran lles yr hinsawdd. Dyma wybodaeth na wyddwn i erioed o'r blaen. Dysgais hefyd am bwysigrwydd cyfathrebu a delweddu effeithiol i egluro cysyniadau i eraill.”
Aeth Paul yn ei flaen i ddweud, “Dysgais hefyd nad oes rhaid gwneud rhywbeth mawr i fod yn fod yn rhan o newid hinsawdd. Does dim angen i mi ei adael yn gyfrifoldeb y cwmnïau mawr. Yn lle hynny, gall ddechrau'n fach, a dechrau gyda mi.Gwneud pethau’n wahanol, defnyddio llai o blastig, lleihau gwast raff bwyd, annog, dysgu eraill i wneud yr un peth, ac ati.”
Dywedodd Rhodri Williams, myfyriwr sy'n astudio ar gyfer ei BSc mewn Seiberddiogelwch Cymhwysol, “Mi ges i ddiwrnod wrth fy modd. Roedd yn wych cyfarfod a sgwrsio ag eneidiau hoff cytûn. Fel myfyriwr sy’n brentis gradd, rwy’n gweithio i M-SParc wrth astudio ar gyfer fy ngradd. Gallaf weld cyfleoedd enfawr i ddatblygu’r syniadau hyn ymhellach. Yn enwedig gan mai cenhadaeth M-SParc yw helpu pobl i arloesi a helpu creu Cymru fwy cynaliadwy.”
Chwith: Myfyrwyr yn cymryd rhan yn nigwyddiad Trwsio’r
Blaned
Credit: Lluniau gan Daniel Roberts
Esgorwyd ar syniadau lu; a chafwyd diwrnod bendigedig gan bawb
Cyflwynodd tri grŵp eu canlyniadau, gyda phob un yn canolbwyntio ar her wahanol. Meddyliodd y grŵp cyntaf am y broblem y mae methan yn ei chreu i’r amgylchedd. Roedd yr ail grŵp yn canolbwyntio ar farn pobl gan feddwl sut gallen nhw newid eu harferion. Canolbwyntiodd y trydydd grŵp ar wastraff. Roeddent yn cloriannu sut y gallent wella sut mae pobl yn ailgylchu ac yn gwaredu eu sbwriel, gan ddatblygu bin sbwriel arbennig.
Dywedodd Eva Voma, myfyrwraig brentis sy’n astudio ar gyfer ei BEng mewn Systemau Peirianneg Fecanyddol Gymhwysol: “Roeddwn yn aelod o’r grŵp newid arferion. Ar y naill law, roedd yn anodd meddwl am syniadau gwahanol a'u ffurfio yn un ateb cadarn. Ar y llaw arall, roedd yn hyfryd bod gyda llawer o bobl ddeallus o gefndiroedd gwahanol”.
Dywedodd Luba Monksfield, sy'n astudio ar gyfer ei BSc mewn Dylunio Cynnyrch, “Roedd hwn yn ddiwrnod gwych. Roeddwn i'n gweithio yn y grŵp oedd yn meddwl am wastraff. Fe wnes i wir fwynhau cymhwyso’r sgiliau dylunio rydw i wedi bod yn eu dysgu ar y cwrs. Cynhyrchodd y grŵp y syniad o fin arbennig. Dyna’r diwrnod y cafodd y bin Bobi ei eni!”
Cyflwynodd y grwpiau eu gwaith, ynghyd â rhoi cyflwyniad fideo byr. Ar ôl trafod, penderfynodd y trefnwyr y dylid rhoi’r wobr am y cyflwyniad gorau i'r grŵp a oedd yn ystyried yr her methan.
Diolch i’r beirniaid Jasmine Parkes (sy’n astudio ar gyfer ei Gradd Meistr drwy Ymchwil, ac aelod o’r tîm a enillodd y wobr yn 2021), Dr Daniel Roberts (Darlithydd mewn Peirianneg Electronig, Arweinydd Staff/Myfyrwyr, a Chyfarwyddwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yr Ysgol) a Dr Michael Ruston (Uwch Ddarlithydd Ymchwil, y mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar ynni niwclear, systemau cynaliadwy, a datgarboneiddio).
Yn olaf, diolch yn fawr i Chris Walker am hwyluso'r digwyddiad, ac i hwyluswyr tîm o Syniadau Mawr Cymru a Real ICE a gyflwynodd rai o'u heriau a'u datrysiadau peirianneg.
Uchod Chwith: Myfyrwyr yn cyflwyno eu syniadau
Chwith: Beirniaid yn pendroni
Credit: Lluniau gan Jonathan Roberts