1 minute read

HWYL ARUTHROL GYDA MAGNELAU

Yn ystod wythnos ddarllen 2022 bu myfyrwyr Dylunio Cynnyrch yn rhan o her ganoloesol! Roedd gan y myfyrwyr gardbord, tâp gludiog trwchus a choes brwsh i greu eu strwythur. Roedd gan bob tîm bwysau 5Kg i gynhyrchu pŵer.

Dyma weithgaredd wythnos o hyd na fydd yn cael ei asesu ac sydd wedi'i gynllunio i annog cydweithio, datrys problemau ac yn bwysicach fyth, rhyngweithio cymdeithasol rhwng gwahanol flynyddoedd y cwrs yn ogystal â myfy rwyr meistr ar y cwrs Dylunio Arloesi Cymhwysol.

Meddai Peredur Williams, Arweinydd academaidd y cwrs Dylunio Cynnyrch , “Am 09:00 o’r gloch ddydd Llun (dim codi’n hwyr yma!) cafodd y briff ei rannu. Dylunio ac adeiladu strwythur sy'n gallu taflu pêl jygl o mewn tair cystadleuaeth benodol. Yr her gyntaf oedd pwy allai daflu'r bêl jyglo bellaf. Her cyflymder oedd yr ail – faint o beli jyglo y gellid eu tanio o fewn munud, ac yn olaf her i anelu’n fanwl gywir – a allent daro targed oedd yn symud (yn araf iawn). Ar y dydd Gwener, ar y cae pob tywydd yn Ffriddoedd (diolch i ganolfan Brailsford am gael ei ddefnyddio) y cynhaliwyd uchafbwynt yr wythnos yn profi’r teclynnau ac yn taflu’r peli jyglo. Gorffennodd Peredur trwy ddweud “I fod yn onest, does gen i ddim c of pwy enillodd pa gystadleuaeth na phwy ddaeth i’r brig, ond nid yr ennill oedd yr elfen bwysicaf. Fe aethon ni i gyd i Far Uno i ddod â gweithgareddau’r Wythnos Ddarllen i ben.”

This article is from: