CYMRAEG BBCYCYMREIGCENEDLAETHOLCHORWSACERDDORFA
TUDALEN 2 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC
TYMOR 22-23 | TUDALEN 3
–Neuadd– Hoddinott y BBC Lefel 2, Canolfan Mileniwm Cymru Plas Bute, Caerdydd, CF10 5AL Neuadd Dewi Sant Yr Aes, Caerdydd, CF10 1AH Neuadd Brangwyn The Guildhall, Abertawe, SA1 4PE – –Mae rhagor o wybodaeth am Gerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC ar gael yn bbc.co.uk/now neu drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol: Twitter: @BBCNOW @BBCNOWCYMRAEG Facebook: Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC Instagram: @_bbcnow – –Cofiwch roi cyfarwyddiadau i ni ar gyfer eich holl newyddion a chynnwys diweddaraf ar BBC NOW, ac rydyn ni bob amser yn falch o glywed gennych chi, felly cofiwch gysylltu drwy unrhyw un o’r uchod, neu drwy anfon e-bost atom yn now@bbc.co.uk –Gwaith– dylunio: Graffeg BBC Cymru Prif luniau: Kirsten McTernan, Yusef Bastawy, James Fear a Jake Bufton Cyfieithiad Cymraeg: Cymen TUDALEN 4 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC
Mae ein holl waith yn seiliedig ar bartneriaethau cryf, ac mae eu hysbrydoliaeth a’u her yn ein galluogi i gyflawni cenhadaeth graidd y BBC, sef ‘Gwybodaeth, Addysgu a Diddanu’.
Mae tymor newydd sbon o gerddoriaeth o’n blaenau bob amser yn rhywbeth i’w ddathlu, ond efallai eleni yn fwy nag erioed o’r blaen. Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd i bob un ohonom, ac mae hynny yn cynnwys BBC NOW, ond nawr mae llawer i edrych ymlaen ato. Ymunais â BBC NOW fel Cyfarwyddwr am y tro cyntaf yn gynnar yn 2020 a phan roeddwn i’n dechrau teimlo yn gartrefol, fe wnaeth Covid ein taro ac, ynghyd â hynny, daeth y rheidrwydd i ganslo cyngherddau: am ddechrau da i fy swydd newydd! Ond er gwaethaf anawsterau’r blynyddoedd diwethaf, mae pawb yng Ngherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC wedi dod at ei gilydd, ac rwyf mor falch o gynrychioli’r sefydliad gwych hwn.
CROESO CYNNES GAN EIN CYFARWYDDWR TYMOR 22-23 | TUDALEN 5
Mae’r tymor 22-23 yn golygu y gallwn ni fynd yn ôl at wneud yr hyn rydyn ni i gyd wrth ein bodd yn ei wneud: perfformio cerddoriaeth fyw i bawb ledled Cymru, a darlledu i’r Wlad a thu hwnt. Y tymor hwn, gallwch ddisgwyl i’r Gerddorfa a’r Corws ddychwelyd ar y llwyfan ar gyfer amrywiaeth o gyngherddau, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio mwy gyda’n Prif Arweinydd, Ryan Bancroft a llu o arweinwyr ac artistiaid gwadd dawnus. Ar y llwyfan, byddwn yn cyflwyno mentrau newydd a chyffrous i bobl ifanc a chymunedau Cymru ac yn cyflwyno cynnwys digidol arloesol, gan gynnwys rhagor o gyngherddau sy’n cael eu ffrydio’n fyw o’n cartref yn Neuadd Hoddinott y BBC, er mwyn i bawb ledled Cymru deimlo’n rhan o’r hyn rydyn ni’n ei wneud. I deuluoedd, mae gennym gyngherddau arbennig iawn ar y gweill a fydd yn apelio at bobl ifanc – a’r bobl sy’n ifanc eu hysbryd!
Dymuniadau gorau, Lisa Tregale Cyfarwyddwr
Rydw i’n edrych ymlaen i’ch gweld chi yn ystod y tymor!
TUDALEN GYNNWYS DATE CONCERT TITLE CONDUCTOR/ARTISTS VENUE PAGE 17/9/22 Nodoka Okisawa yn arwain… Nodoka Okisawa EGL 10 18/9/22 Nodoka Okisawa yn arwain… Nodoka Okisawa TH 10 22/9/22 Gŵyl Bro Morgannwg Jac Van Steen NHC 11 29/9/22 Archwiliadau Elfennol Nil Venditti TB 12 30/9/22 Archwiliadau Elfennol Nil Venditti GA 12 6/10/22 Cyngerdd i Agor y Tymor Ryan Bancroft NDS 17 15/10/22 The Opus Pocus Greg Arrowsmith NHC 18 21/10/22 Bach, Liebermann & Schmidt Jonathan Berman NHC 19 30/10/22 The Opus Pocus Greg Arrowsmith NBA 18 10/11/22 Elgar Cello Concerto Gergely Madaras CCA 22 11/11/22 Elgar Cello Concerto Gergely Madaras NPJ 22 12/11/22 Cyngerdd Cwpan y Byd BBC Radio Cymru Owain Roberts P 23 13/11/22 Elgar Cello Concerto Gergely Madaras VC 22 17/11/22 Mahler 9 gyda Markus Stenz Markus Stenz NDS 24 26/11/22 Stravinsky, Ravel & Boulanger Sofi Jeannin NHC 27 9/12/22 Ysbrydoliaethau Llenyddol Ryan Bancroft NHC 29 11/12/22 Carolau’r Ŵyl Adrian Partington NDS 30 14/12/22 Swingin’ Christmas Andrew Cottee NBA 31 15/12/22 Swingin’ Christmas Andrew Cottee NDS 31 18/12/22 Cyngherddau’r Nadolig i’r Teulu NHC 32 14/1/23 Disney Fantasia in Concert NBA 37 15/1/23 Disney Fantasia in Concert NDS 37 27/1/23 Marzena Diakun yn arwain… Marzena Diakun NHC 38 TUDALEN 6 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC
NDS NEUADD DEWI SANT, CAERDYDD NHC NEUADD HODDINOTT Y BBC, CAERDYDD NBA NEUADD BRANGWYN, ABERTAWE EGL EGLWYS GADEIRIOL LLANELWY TH THEATRE HAFREN, Y DRENEWYDD TB THEATR BRYCHEINIOG, ABERHONDDU GA GLAN YR AFON, CASNEWYDD CCA CANOLFAN Y CELFYDDYDAU ABERYSTWYTH NPJ NEUADD PRICHARD-JONES, BANGOR VC VENUE CYMRU, LLANDUDNO P PONTIO, BANGOR D DEPOT, CAERDYDD DATE CONCERT TITLE CONDUCTOR/ARTISTS VENUE PAGE 11/2/23 Fauré Requiem gyda Ludovic Morlot Ludovic Morlot NBA 43 12/2/23 Fauré Requiem gyda Ludovic Morlot Ludovic Morlot NDS 43 17/2/23 Mannau Clywed Matthew Coorey NHC 44 1/3/23 Dydd Gŵyl Dewi Jac Van Steen NDS 45 7/3/23 Cyfansoddi: Cymru Ryan Bancroft NHC 47 10/3/23 Nobody Knows the Trouble I See Ryan Bancroft NHC 48 16/3/23 Tchaikovsky Symffoni Rhif 5 Ryan Bancroft CCA 50 17/3/23 Tchaikovsky Symffoni Rhif 5 Ryan Bancroft NPJ 50 18/3/23 Ymlacio gyda Sian Eleri Owain Roberts P 51 19/3/23 Tchaikovsky Symffoni Rhif 5 Ryan Bancroft VC 50 24/3/23 Tadaaki Otaka yn arwain... Tadaaki Otaka NBA 53 25/3/23 Tadaaki Otaka yn arwain... Tadaaki Otaka NDS 53 6/4/23 Nelson Mass gan Haydn Christian Curnyn NHC 54 20/4/23 Y Freuddwyd Americanaidd Ryan Bancroft NDS 56 21/4/23 Y Freuddwyd Americanaidd Ryan Bancroft NBA 56 6/5/23 Stanford gyda Adrian Partington a BBC NCW Adrian Partington NHC 58 11/5/23 Symphonic Dances James Feddeck NDS 59 12/5/23 Symphonic Dances James Feddeck NBA 59 17/5/23 Cyngerdd Gemau Eímear Noone NDS 60 1/6/23 Cyngerdd Clo’r Tymor Ryan Bancroft NDS 62 2/6/23 Cyngerdd Clo’r Tymor Ryan Bancroft NBA 62 8/6/23 Colaboratory gyda Abel Selaocoe Clark Rundell D 65 Mae’r holl wybodaeth yn gywir adeg cyhoeddi. TYMOR 22-23 | TUDALEN 7
TROSOLWG O’R TYMOR MATTHEW WOOD Helo a chroeso i Dymor 2022-23, blwyddyn o ddathlu cerddorol wrth i ni gyflwyno ein rhaglen lawn gyntaf mewn dwy flynedd. Mae Ryan Bancroft yn cychwyn ein tymor gyda cherddoriaeth grymus Stravinsky, The Rite of Spring, ac mae’r Concerto Rhif 3 i’r Piano trawiadol gan Rachmaninov yn cael ei berfformio gan un o brif bianyddion y byd, Yeol Eum Son. Mae Ryan yn dychwelyd am ddau gyngerdd arall y tymor hwn, gan gynnwys dechrau ein harchwiliad cerddorol o’r modernydd Americanaidd Charles Ives, cerdd enfawr John Adams i donyddiaeth Harmonielehre a’r gerdd symffonig wych, Don Cuixote, gan Strauss. Mae’r meistrolydd James Ehnes yn dychwelyd gyda’r Concerto Brahms i’r Ffidil rhagorol, ac mae ein corws hyfryd yn ymuno â ni ar gyfer y Requiem angylaidd gan Faure. Mae Markus Stenz yn arwain symffoni olaf Mahler, ac mae ein ffrind annwyl a’n harweinydd, Tadaaki Otaka, yn dychwelyd i’r gerddorfa gydag Ail Symffoni eneidiol Elgar. Rydyn ni’n dathlu pen-blwydd y cyfansoddwr/pianydd mawr, Sergei Rachmaninov, yn 150 oed gyda’i sioe cerddorfaol Symphonic Dances, ac rydyn ni’n croesawu Daniel Ciobanu yn ôl ar gyfer Concerto Cyntaf i’r Piano gan Tchaikovsky, sy’n boblogaidd ac yn gyffrous iawn. Ym Mae Caerdydd, mae ein cyfres o Neuadd Hoddinott yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn cynnwys rhai cysyniadau newydd a hen ffefrynnau. O’r Brenin Arthur gan Purcell i gerddoriaeth sy’n cael ei hysgrifennu ar hyn o bryd, rydyn ni’n edrych ar amrywiaeth ein perfformiadau sy’n dangos amrywiaeth gerddorol drawiadol BBC NOW. Mae rhai o’r uchafbwyntiau’n cynnwys Concerto i’r Ffidil gan Liegti gydag Anthony Marwood, a symffoni olaf Schumann sy’n cloi ein cylch symffonig Schumann gyda Ryan Bancroft. Mae ein corws yn perfformio Offeren Nelson Haydn gydag unawdwyr gwych, ac mae Sofi Jeannin yn arwain gwledd o gampweithiau corawl a cherddorfaol eithriadol. Bydd Simon Háfele yn perfformio Concerto i’r Trwmped gan Zimmerman, ac mae Ryan Bancroft yn archwilio symffoni Die Nullte gan Bruckner. Mae pum cyfansoddwr o Gymru, gan gynnwys dau première byd, yn ymddangos yng Ngŵyl Bro Morgannwg, ac mewn première byd arall, sef Hearing Places gan Colin Riley, rydym yn cymryd rhan mewn cyfres o osodiadau amlgyfrwng o bob cwr o Gymru. Rydyn ni’n mynd ar daith i Efrog Newydd diolch i City Life gan Steve Reich, ac mae Freddy Kempf yn dychwelyd ar gyfer ei Ail Rhapsodi ar y Piano Gershwin. Rydym hefyd yn parhau â’n hymrwymiad i gerddoriaeth newydd yn ein gweithdai a chyngherdd Cyfansoddi: Cymru. Gan gadw gyda’r dathliadau, rydym yn talu teyrnged i Disney yn eu canmlwyddiant ac yn dathlu popeth sy’n ymwneud â ‘Hapchwarae’ wrth i ni berfformio’r traciau sain pendant i rai o’r gemau fideo mwyaf poblogaidd. Rydyn ni’n mynd i Depo warws Caerdydd lle rydyn ni’n croesawu’r canwr soddgrwth gwych a hyblyg Abel Selaobo i berfformio ochr yn ochr â’r Gerddorfa mewn caleidosgop o gyfuniad wedi’i ysbrydoli gan Affrica. Rydym yn dychwelyd i un o gystadlaethau lleisiol mwyaf mawreddog y byd wrth i gerddorfa BBC Canwr y Byd Caerdydd a’r Nadolig gael eu dathlu gyda’n cyngerdd carolau traddodiadol, ynghyd ag un Nadoligaidd arbennig a fydd yn cynnwys cerddoriaeth gan Frank Sinatra ac Ella Fitzgerald.
GYDA
TUDALEN 8 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC
TUDALEN 9
TYMOR
Ar y ffordd rydyn ni’n mynd i Ganolbarth a Gogledd Cymru gyda dwy raglen, y cyntaf yn cynnwys seren Cenhedlaeth Gyntaf y BBC, Santiago Canon Valencia, yn perfformio Concerto i’r Soddgrwth gan Elgar, première byd gan Andrew Lewis a symffoni boblogaidd Franck ar ei 100fed pen-blwydd. Bydd Ryan yn arwain ein hail daith, sy’n cynnwys cerddoriaeth gan Tansy Davies, Concerto trawiadol i’r Ffidil gan Korngold gyda’r seren Clara-Jumi Kang, ac mae’n cloi gyda 5ed Symffoni bwerus Tchaikovsky. Rydym yn teithio i Lanelwy i ddathlu hanner canmlwyddiant Gŵyl Gerddoriaeth Ryngwladol Gogledd Cymru ac yn dychwelyd i Dyddewi, Abertawe, Bangor, Y Drenewydd, Casnewydd ac Aberhonddu. Ymhellach i ffwrdd, rydym yn teithio i Gaerloyw ar gyfer Gŵyl y Three Choirs, yn ogystal â gwyliau eraill yn Newbury, Lichfield ac wrth gwrs i Lundain ar gyfer yr un fwyaf, Proms y BBC. Yn y cyfamser, mae ein hymrwymiad i’n cynulleidfaoedd ifanc yn parhau gyda’n rhaglenni ysgolion a theuluoedd a nifer o brosiectau cymunedol eraill gyda’n sefydliadau partner gwych. Rydym hefyd yn parhau â’n gwaith recordio ar gyfer BBC Radio 3, Radio Cymru a phartneriaid masnachol, gan hefyd gynnal amserlen brysur o draciau sain ar gyfer ffilm a theledu.
Yn ystod fy nhymor cyntaf fel Pennaeth Cynhyrchu Artistig BBC NOW, mae’n fraint cael cyflwyno dathliad cerddorol mewn blwyddyn o ddechrau newydd, a gobeithio y gallwch ymuno â ni mewn blwyddyn sy’n argoeli i fod yn flwyddyn wych o brofiadau cerddorfaol byw gyda Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC. 22-23 |
NODOKA OKISAWA
Mae portread cerddorol ei gyd-Gymro, y cyfansoddwr Gareth Glyn, o stori Amaterasu yn datblygu naratif llenyddol y cyngerdd hwn.
Gan ddefnyddio’r unawd telyn i gynrychioli Amaterasu, dwyfoldeb golau crefydd Shinto, mae’r darn yn tywys y gwrandäwr drwy’r stori, o’i chreu a’i hieuenctid di-ofal, ei pherthynas gythryblus â’i brawd a’i theimladau o dristwch, a’r daith o dywyllwch i olau disglair.
Gan gyfuno symffoni pedwar symudiad a Requiem coffa, mae Trydedd Symffoni drawiadol Vaughan Williams yn llawn tawelwch a rhamant. Cyfansoddwyd y symffoni tra oedd ar wasanaeth gweithredol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac mae’n cyfleu anghyseinedd parhaus a chyfareddol i greu byd arallfydol, tra bod adrannau unigol nodedig ar gyfer y trwmped, sy’n dynwared biwgl milwrol, a soprano ddieiriau yn ychwanegu awgrym cryf o ddynoliaeth.
Bydd sgyrsiau offerynnol cyffrous yn arwain y cyngerdd yn agorawd meistrolgar Weber i Oberon. Gan agor gyda galwad y cyrn cyfriniol, sy’n adlewyrchu’r cyrn hud sy’n ganolog i blot yr opera, mae chwerthin syfrdanol y tylwyth teg sy’n cael ei bortreadu gan y chwythbrennau, yn arwain at ddarnau blodeuog meistrolgar a mawredd cordiol.
WEBER Oberon Agorawd MATHIAS Celtic Dances GARETH GLYN Amaterasu VAUGHAN WILLIAMS Symphony No. 3 NODOKA OKISAWA Arweinydd HANNAH STONE Telyn FFION EDWARDS Soprano DONAL BANNISTER Trombôn DYDD SADWRN 17/9/22 7.30PM Eglwys Gadeiriol Llanelwy DYDD SUL 18/9/22 3PM Theatre Hafren, Newtown TUDALEN 10 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC
GWRESOGOLARALLFYDOLRHYFEDDOL
Mae Celtic Dances Mathias yn llawn ysbryd a symudiad dawns. Gyda’r bwriad o gyfleu’r gorffennol mytholegol, mae lliwiau llachar, chwarëusrwydd, tynerwch, cynhesrwydd a bywiogrwydd rhythmig yn creu naws ac awyrgylch ar draws y pedair dawns.
YN ARWAIN…
DYDD IAU 22/9/22 2PM Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd FFRESCYMREIGGWREIDDIOL GŴYL BRO MORGANNWG Pa ffordd well o gychwyn Gŵyl Bro Morgannwg 2022 na gyda cherddorfa symffoni fwyaf blaenllaw Cymru yn perfformio rhaglen cwbl Gymreig, gan gynnwys tri pherfformiad cyntaf yn y byd? Roedd Grace Williams wedi torri tir newydd ac mae cenedlaethau o gyfansoddwyr o Gymru wedi dilyn ôl ei throed. Rydyn ni’n eithriadol o falch o gyflwyno cyngerdd o weithiau gan gyfansoddwyr o Gymru, sy’n ymestyn dros y degawdau hyd at heddiw gyda’r perfformiadau cyntaf erioed o waith gan Sarah Lianne Lewis, David Roche a Chyfarwyddwr yr Ŵyl John Metcalf. DAVID ROCHE Waves of Love [premiere byd] JOHN METCALF arr. DAVID ROCHE Calm [premiere byd] HUW WATKINS Spring SARAH LIANNE LEWIS New work [premiere byd] GRACE WILLIAMS Sinfonia Concertante JAC VAN STEEN Arweinydd CLARE HAMMOND Piano TYMOR 22-23 | TUDALEN 11
ARCHWILIADAU ELFENNOL
BRUCH Kol Nidrei FAZIL SAY Never Give Up [Premiere y DU] FABIEN WAKSMAN Protonic Games [Premiere y DU] BEETHOVEN Symffoni Rhif 7 NIL VENDITTI Arweinydd CAMILLE THOMAS Soddgrwth NOS IAU 29/9/22 7.30PM Theatr Brycheiniog, Aberhonddu NOS WENER 30/9/22 7.30PM Glan yr Afon, Casnewydd BYDDAROLDYFEISGAREGNÏOL TUDALEN 12 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC
Mae Kol Nidrei cyfareddol ac atgofus Bruch yn cael ei ysbrydoli gan alaw Iddewig draddodiadol. Er nad oedd yn Iddew ei hun, roedd gan Bruch gysylltiadau cryf â’r gymuned ac mae’n gwneud defnydd meistrolgar o’r unawd soddgrwth i ddarlunio’r cantor yn alaw Kol Nidrei, datganiad wedi’i adrodd yn Yom Kipper, ochr yn ochr â’r alawon Hebraeg ‘O Weep for Thers that wept on Babel’s Stream’. Mae concerto Fazil Say, Never Give Up, hefyd yn gwneud defnydd dyfeisgar o’r soddgrwth mewn ddatganiad gwleidyddol cryf am arswyd dychrynllyd ymosodiadau yn Ewrop a Thwrci, a’r angen am ryddid a heddwch. Mae nodau caled offerynnau taro wedi’u plethu â sgrechiadau’r chwythbrennau yn darlunio’r erchyllterau, cyn cloi’n fwy obeithiol gyda chân adar, tonnau a rhythmau traddodiadol Twrcaidd. Wedi’i ysgogi gan y ffordd y mae Beethoven yn cymryd micromotiff ac yn ei droi’n gampwaith gwych, ynghyd â diddordeb mewn ffiseg gronynnau a’r ffordd y mae gwrthdrawiadau egni uchel yn ymddwyn, mae Protonic Games Fabien Waksman yn cymryd saith motiff o Seithfed Symffoni Beethoven ac yn defnyddio’r rhain fel gronynnau sy’n gwrthdaro ac yn trawsnewid. Mae’r agoriad ffrwydrol yn ildio i gorawl sy’n pylu, cyn cloi gyda chord solar ecstatig. O gofio teyrnged Waksman i Seithfed symffoni Beethoven, mae’n gwbl briodol ein bod yn cloi’r cyngerdd hwn gyda’r campwaith gwreiddiol, sef Symffoni Rhif 7 Beethoven.
TYMOR 22-23 | TUDALEN 13
P’un ai a ydych chi’n arbenigwr ar gerddoriaeth gerddorfaol, neu’n gwbl newydd i’n cerddoriaeth, rydych chi’n siŵr o fwynhau gwefr a phŵer eich cerddorfa symffoni genedlaethol yn perfformio’n fyw – felly dewch draw!
Ydych chi’n fyfyriwr neu dan 26 oed? Yn BBC NOW, rydyn ni eisiau i chi fwynhau ein cyngherddau heb wario gormod.
Dyna pam mae BBC NOW yn cynnig tocynnau £5 ym mhob un o’n cyngherddau ac ym mhob un o’n lleoliadau!
Does dim angen cod hyrwyddo, dim ond archebu ar-lein, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb yn y lleoliad o’ch dewis, gan ddewis yr opsiwn tocyn myfyriwr.
TUDALEN 14 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC
Dathlwch Clasurol Caerdydd gyda thocynnau dan £20
Fel Cerddorfa Breswyl Neuadd Dewi Sant, rydyn ni’n eich croesawu i’n cyngherddau fel rhan o’r tymor ‘Clasurol Caerdydd’, gyda chynigion arbennig ar docynnau i fyfyrwyr a theuluoedd, a dros 500 o docynnau i bob cyngerdd am £20 neu lai! Mae modd prynu’r holl docynnau wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu ar-lein drwy swyddfa docynnau Neuadd Dewi Sant.
Mae rhagor o wybodaeth am holl gyngherddau BBC NOW yn Neuadd Dewi Sant ar gael ar wefan Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC drwy sganio’r cod QR neu drwy fynd i bbc.co.uk/now I archebu’n uniongyrchol yn Neuadd Dewi Sant, ewch i stdavidshallcardiff.co.uk neu ffoniwch 02920 878444 #ClasurolCaerdydd |
CYNGERDD500DROSTOCYNIBOBAM£20NEULAI! TYMOR 22-23
TUDALEN 15
Ymunwch â Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC y tymor hwn yn Neuadd Gyngherddau Genedlaethol Cymru, Neuadd Dewi Sant, a mwynhau’r gorau mewn cerddoriaeth gerddorfaol wrth i’r lleoliad eiconig hwn yng Nghaerdydd ddathlu ei ben-blwydd yn 40.
TUDALEN 16 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC
RACHMANINOV Concerto i’r Piano Rhif 3 STRAVINSKY Rite of Spring RYAN BANCROFT Arweinydd YEOL EUM SON Piano NOS IAU 6/10/22 7.30PM Neuadd Dewi Sant, Caerdydd SIONCRHAMANTAIDDCHWYLDROADOL TYMOR 22-23 | TUDALEN 17
Rydyn ni’n lansio ein tymor 2022-23 gyda Thrydydd Cyngerdd Piano meistrolgar Rachmaninov. O’i arwyddgan agoriadol mfelancolaidd ond urddasol i’r diweddglo rhythmig a ffyrnig, allwch chi ddim peidio â syrthio mewn cariad â’r gwead cerddorfaol cyfoethog, yr alawon canu a’r amrywiaeth o elfennau emosiynol.
RHAMANT A THERFYSG
Fe’i perfformiwyd am y tro cyntaf yn wreiddiol yn 1909 gyda’r cyfansoddwr ei hun wrth y piano, a heno rydyn ni’n croesawu’r pianydd ifanc amryddawn a chyffrous, Yeol Eum Son, i berfformio’r concerto Rhamantaidd a beiddgar hwn. Yn ystod y cyfnod roedd Rachmaninov ar ei anterth fel pianydd cyngerdd arddull Ramantaidd, roedd gŵr o Rwsia, Igor Stravinsky, newydd ddod i’r amlwg fel cyfansoddwr uchel ei barch, ac yn prysur greu partneriaeth greadigol hir gyda’r impresario bale Sergei Diaghilev. Yn ddadleuol o’r cychwyn, mae Rite of Spring Stravinsky yn gallu achosi rhyfeddod a sioc hyd heddiw, yn union fel y gwaeth yn y perfformiad cyntaf ym Mharis. Mae maint a ffyrnigrwydd y bale yn drawiadol. Mae’n dangos defod baganaidd lle dawnsiodd y forwyn aberthol ei hun i farwolaeth – mae’r ystumiau onglog a’r symudiadau o artaith yn gwrthgyferbynnu ag adegau o brydferthwch a llonyddwch, sy’n adlewyrchu’r Gwanwyn a bywyd newydd.
ANHYGOELLLIWGARANTURUS GREG ARROWSMITH Arweinydd SAM MORRIS Grandma Dingley DYDD SADWRN 15/10/22 11AM & 2PM Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd DYDD SUL 30/10/22 3PM Brangwyn Hall, Swansea 1001 ARABIAN NIGHTS Stori frawychus am Dywysoges, Swltan a Genie, llongddrylliad a môr-leidr anffodus sy’n cael ei drawsnewid yn fabŵn drwy’r amser! Ymunwch â Mamgu/Nain Dingley a BBC NOW am awr o antur gyda 1001 Arabian Nights Gyda Scheherazade godidog, synhwyrus a thymhestlog Rimsky-Korsakov yn llwyfan cerddorol i’r stori, mae Nain-gu Dingley hoffus, ond ychydig yn ecsentrig (rydych chi wedi cael rhybudd!!) wrth law i’ch arwain drwy’r stori, eich cyflwyno i’r gerddorfa a hyd yn oed eich arwain mewn gweithgareddau cerddorol, sy’n berffaith ar gyfer y teulu cyfan. TUDALEN 18 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC
BACH arr. MARKEVITCH Ricercare a 3 voce o The Musical Offering LOWELL LIEBERMANN Concerto i’r Ffliwt SCHMIDT Symffoni Rhif 2 JONATHAN BERMAN Arweinydd MATTHEW FEATHERSTONE Ffliwt NOS WENER 21/10/22 7.30PM Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd TYMOR 22-23 | TUDALEN 19
BACH, LIEBERMANN & SCHMIDT GYDA JONATHAN BERMAN
Ym mis Mai 1747, tra’n ymweld â’i fab yn llys y Brenin Frederick Fawr o Brwsia, wynebodd Bach her gerddorol eithaf anarferol...sef cyfansoddi ffiwg yn seiliedig ar linell o gerddoriaeth a ysgrifennwyd gan y Brenin. Y canlyniad oedd, The Musical Offering, yn cynnwys y Ricercare, ffiwg 3 rhan ar thema’r brenin, a glywn ar gyfer cerddorfa gan Igor Markevitch. Wedi’i gyfansoddi bron i 250 mlynedd yn ddiweddarach, mae Concerto disglair Liebermann i’r Ffliwt yn ffraeth, yn chwareus ac yn rhyfeddol o liwgar. Wedi’i gomisiynu a’i gyflwyno i un o’r ffliwtwyr enwocaf a fu, Syr James Galway, mae ein Prif Ffliwtydd, Matthew Featherstone, yn defnyddio ei feistrolaeth ryfeddol i arddangos y campwaith hwn. Mae cymhlethdod harmonig a chynildeb rhythmig yn ymgorffori llawer o gerddoriaeth Schmidt, Mae ei ail symffoni gorfoleddus, sef gwaith y mae wedi’i hyrwyddo’n bersonol, yn dangos y nodweddion hyn mewn modd beiddgar. Gyda mawredd Bruckner, ac arddull sy’n ein hatgoffa o Strauss, mae’n cynnwys cerddorfa enfawr, cyfres ddyfeisgar o amrywiadau ac adrannau araf moethus. Yn arwain mae neb llai na Jonathan Berman, ac mae’r Gerddorfa’n recordio holl Symffonïau Schmidt ar gyfer rhyddhau CD yn y dyfodol gydag ef.
ARUTHROLMAWREDDOGFFRAETH
TUDALEN 20 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC
LESLEY
symffonig gogoneddus y tymor hwn ar ôl y cyfyngiadau a osodwyd yn ystod y pandemig, ac mae danteithion cerddorol ar y gweill yn ystod y tymor nesaf. Rydw i’n edrych ymlaen yn arw at Rite of Spring gan Stravinsky ym mis Hydref gyda Ryan Bancroft, a 9fed Symffoni epig Mahler ym mis Tachwedd gyda Markus Stenz. Rydw i hefyd yn edrych ymlaen at Goncerto Brahms i’r Ffidil gyda’r fiolinydd gwych, James Ehnes, ym mis Chwefror. Bydd y gerddorfa gyfan (ac rwy’n siŵr, nifer o ffrindiau yn y gynulleidfa) yn falch iawn o groesawu Tadaaki Otaka yn ôl ym mis Mawrth, ar ôl sawl blwyddyn o absenoldeb, i berfformio 2il Symffoni Elgar.” HATFIELD Arweinydd BBC
Plas
“Mae mor dda cael mynd yn ôl i berfformio repertoire
NOW TYMOR 22-23 | TUDALEN 21
Camwch drwy’r drysau metel eiconig, cymerwch sedd a gwnewch eich hun yn gartrefol ar gyfer tymor newydd o gyngherddau yn Neuadd Hoddinott y BBC. Gyda seddi cyfforddus ar gyfer hyd at 350 o bobl, mae Neuadd Hoddinott y BBC yn lleoliad cyngerdd hawdd ei gyrraedd ar gyfer pob perfformiad, boed fel rhan o Gyfres o Gyngherddau neu berfformiadau allanol BBC NOW. Hwn hefyd yw prif stiwdio recordio ac ymarfer BBC NOW lle byddwn yn recordio ac yn perfformio traciau sain ar y teledu, cyngherddau ar y radio a recordiadau eraill. Wedi’i enwi ar ôl y cyfansoddwr enwog o Gymru, Alun Hoddinott, rydych chi’n siŵr o gael croeso cynnes iawn a chael gwrando ar y gerddoriaeth orau yng Nghymru, a’r tymor hwn byddwn ni hefyd yn ffrydio mwy o gyngherddau’n fyw yn uniongyrchol o Neuadd Hoddinott y BBC ledled Cymru, felly os nad ydych chi’n byw’n lleol, byddwch chi’n dal i deimlo’n gartrefol gyda ni! I gael gwybod pa ddarllediadau sy’n cael eu cynnal yn Neuadd Hoddinott y BBC, dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol neu edrychwch ar hafan ein HODDINOTT Y BBC Lefel 2, Canolfan Mileniwm Cymru Bute, Caerdydd, CF10 5AL CYSYLLTWCH:
now@bbc.co.uk
CROESOgwefan. I’N CARTREF… NEUADD
BARTÓK Brasluniau Hwngaraidd ELGAR Cello Concerto MENDELSSOHN Symphoni Rhif 3 ‘Albanaidd’ GERGELY MADARAS Arweinydd SANTIAGO CAÑÓN-VALENCIA Soddgrwth NOS IAU 10/11/22 7.30PM Canolfan y AberystwythCelfyddydau DYDD SUL 13/11/22 3PM Venue Cymru, Llandudno TUDALEN 22 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC
Mae Brasluniau Hwngaraidd Bartók wedi cael eu dylanwadu’n fawr gan y gerddoriaeth gwerin Hwngaraidd a Rwmanaidd a glywodd wrth deithio. Maen nhw’n cyfuno dawns hwyliog ag alawon telynegol rhagorol, yn ogystal â phortread doniol o berson meddw! Mae alawon rhapsodïaidd gyda chyfeiriadau fizzicato yn arwain y ffordd tuag at feistrolaeth a bravado Prydeinig yng Nghoncerto i’r Soddgrwth poblogaidd Elgar, er nad yw ei sarugrwydd ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf byth yn bell o’r wyneb, gyda themâu pendant ond grymus, egni sionc a rhinweddau myfyriol.
ELGAR CELLO CONCERTO
SIONCDARLUNIADOLBYWIOG
O ddatblygiadau stormus a scherzo sionc i berseinedd sentimental a naws ysgafn tebyg i’r un yn Midsummer Night’s Dream, cafodd Trydedd symffoni Mendelssohn ei hysbrydoli gan daith y cyfansoddwr i’r Alban nôl yn 1829. Wedi’i nodweddu gan egni ffyrnig, cyfalaw gyfrwys a nodweddion darluniadol byw, brasluniodd Mendelssohn rhan fwyaf o’i waith yn dilyn ei daith i ymweld ag adfeilion Palas Holyrood, er iddo beidio â chwblhau’r gwaith am dros 10 mlynedd yn ddiweddarach. Mae’n bleser gennym gyflwyno cynulleidfaoedd ledled Cymru i’r arweinydd Hwngaraidd hynod dalentog, Gergely Madaras.
ELGAR
CYNGERDD CWPAN Y BYD BBC RADIO CYMRU CELLO CONCERTO
GWRESOGDARLUNIADOLGORFOLEDDUSDIFYRFFASIYNOLTRYDANOL
Mae In Memory Andrew Lewis yn fyfyrdod ar fywyd gyda dementia, a phrofiadau’r rheini sy’n gofalu amdanynt. Mae dyfyniadau o sgyrsiau wedi’u recordio gyda theulu sy’n ofalwyr yn rhan o wead y darn – yn ffurfio ei alawon, ei harmonïau a’i rythmau. Mae alawon rhapsodïaidd gyda chyfeiriadau fizzicato yn arwain y ffordd tuag at feistrolaeth a bravado Prydeinig yng Nghoncerto i’r Soddgrwth poblogaidd Elgar, er nad yw ei sarugrwydd ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf byth yn bell o’r wyneb, gyda themâu pendant ond grymus, egni sionc a rhinweddau myfyriol.
O ddatblygiadau stormus a scherzo sionc i berseinedd sentimental a naws ysgafn tebyg i’r un yn Midsummer Night’s Dream, cafodd Trydedd symffoni Mendelssohn ei hysbrydoli gan daith y cyfansoddwr i’r Alban nôl yn 1829. Wedi’i nodweddu gan egni ffyrnig, cyfalaw gyfrwys a nodweddion darluniadol byw, brasluniodd Mendelssohn rhan fwyaf o’i waith yn dilyn ei daith i ymweld ag adfeilion Palas Holyrood, er iddo beidio â chwblhau’r gwaith am dros 10 mlynedd yn ddiweddarach. Mae’n bleser gennym gyflwyno cynulleidfaoedd ledled Cymru i’r arweinydd Hwngaraidd hynod dalentog, Gergely Madaras.
OWAIN ROBERTS Arweinydd TUDUR OWEN Cyflwynydd ANDREW LEWIS In Memory [Premiere Byd] ELGAR Cello Concerto MENDELSSOHN Symffoni Rhif 3 ‘Albanaidd’ GERGELY MADARAS Arweinydd SANTIAGO CAÑÓN-VALENCIA Soddgrwth NOS SADWRN 12/11/22 7.30PM Pontio, Bangor NOS WENER 11/11/22 7.30PM Neuadd Prichard-Jones, Bangor TYMOR 22-23 | TUDALEN 23
Nid yw’n gyfrinach mai Cymru yw gwlad y gân, ac ni fyddai unrhyw gêm Cymru yr un fath heb i’w chefnogwyr ganu a llafarganu. Felly ymunwch â BBC NOW a BBC Radio Cymru yn Pontio am noson i ddathlu llwyddiannau pêl-droed Cymru, gyda chaneuon poblogaidd fel Yma o Hyd a Can’t Take my Eyes off of You, wrth i ni edrych ymlaen at Gwpan y Byd 2022 yn Qatar – y tro cyntaf i Gymru ers 1958!
Mae’r cariad hwn at natur, ynghyd â’i feddyliau ynglŷn â marwolaeth, yn amlwg iawn yn y symffoni hon. Mewn llythyr at ei wraig, dywedodd y cyfansoddwr Alban Berg am Nawfed Symffoni Mahler “Y symudiad cyntaf yw’r un gorau i Mahler ei gyfansoddi erioed. Mae’n fynegiant o gariad aruthrol at y ddaear hon, y dyhead i fyw arni’n heddychlon a mwynhau natur ar ei gorau – hyn oll cyn marwolaeth. Oherwydd mae marwolaeth yn anochel”.
Roedd Mahler wrth ei fodd â byd natur a chafodd ei ysbrydoli gan ei anturiaethau awyr agored. Er iddo gael diagnosis o gyflwr ar y galon ym 1907 a roddodd ddiwedd ar hynny ac, yn ogystal â marwolaeth ei ferch 4 oed, doedd marwolaeth byth yn bell o’i feddwl. Ar ôl ei brofiadau trawmatig, roedd yn awyddus i ddod o hyd i rywle ymhell o’r atgofion o’r hyn a gollodd, ac felly treuliodd bob haf gyda’i deulu yn Toblach, ardal fynyddig ar y ffin rhwng Awstria a’r Eidal.
Os yw’r symudiad cyntaf mawreddog yn wledd i’r glust, yna mae’r diweddglo, sy’n cyfateb o ran hyd, yn sicr yr un fath. Mae ei awyrgylch angerddol a’i thôn fyfyriol, sy’n swnio’n arallfydol yn y diwedd yn gadael argraff ddofn.
MAHLER Symffoni Rhif 9 MARKUS STENZ Arweinydd NOS IAU 17/11/22 7.30PM Neuadd Dewi Sant, Caerdydd EPIGSWYNOLEMOSIYNOL TUDALEN 24 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC
MAHLER 9 GYDA MARKUS STENZ
Mae dawnsfeydd gwerin cymharol hamddenol ac osgeiddig yn treiddio drwy’r ail symudiad, cyn tywyllwch arswydus, sy’n llawn dwyster yn y trydydd, ac yna mae ffrwydradau dwys yn dilyn darnau ysgafn, gyda hyfedredd syfrdanol drwy’r holl waith.
TYMOR 22-23 | TUDALEN 25
TUDALEN 26 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC
Mae Symphonies of Wind Instruments gan Stravinsky yn defnyddio elfennau gwerin Rwsia ac ystyr gwreiddiol y symffoni, sef synau’n dod at ei gilydd. Mae gweddïau byr rhwng y gwahanol offerynnau yn cyfuno penodau gwrthgyferbyniol ar dri chyflymder gwahanol ond cysylltiedig ar yr un pryd. I’r gwrthwyneb i hynny, mae Vieille prière bouddhique gan Boulanger yn cyflwyno llafarganiadau cyfoethog dwyreiniol, ochr yn ochr ag unawdau ffliwt egsotig. Mae hyn yn datblygu’r gerddoriaeth gorawl ac yn cyfleu soniareddau cerddorol y Dwyrain Pell, yn ogystal ag arabesgau tonnog.
Wedi’i hysgrifennu ar gyfer cystadleuaeth Prix de Rome 1905, mae L’Aurore gan Ravel ar gyfer côr a cherddorfa gymysg yn agoriad addas i’r cyngerdd hwn, sy’n cynnwys Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC a’r arweinydd o Sweden a’r mezzo soprano Sofi Jeannin, sydd wedi sefydlu ei hun fel un o’r arbenigwyr corawl gorau a mwyaf uchel ei pharch heddiw.
SYNHWYRUSYSBRYDOLDENIADOL
RAVEL L’Aurore STRAVINSKY Symphonies of Wind Instruments [1947 revision] BOULANGER Vieille prière bouddhique RAVEL Le Tombeau de Couperin STRAVINSKY Symphony of Psalms SOFI JEANNIN Arweinydd CORWS CYMREIGCENEDLAETHOLYBBC NOS SADWRN 26/11/22 7.30PM Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd SOFI JEANNIN YN ARWAIN STRAVINSKY, RAVEL & BOULANGER TYMOR 22-23 | TUDALEN 27
Mae Le Tombeau de Couperin gan Ravel sy’n llawn lliwiau offerynnol dyfeisgar a synhwyrus, ac yn deyrnged i gerddoriaeth Ffrainc yn ystod y 18fed Ganrif, yn hytrach nag i Couperin. Mae lliwiau ffres a thonyddol yn cael eu cyfuno gyda ffurfdroadau rhythmig cynnil ond miniog, wedi’u hamlygu gan unawdau chwythbrennau dyfeisgar ag asbri syfrdanol. Yr un mor ddyfeisgar yw Symphony of Psalms gan Stravinsky sy’n defnyddio dulliau sy’n adleisio’r siant Gregoraidd traddodiadol, ynghyd â gwrthbwynt ffiwgol a motiffau dawns ecstatig i bortreadu testun y salmau...dyma waith o athrylith pur!
Bydd ein rhaglen newydd ‘Cwrdd â Cherddoriaeth’ o ddigwyddiadau ac adnoddau dysgu yn helpu pobl ifanc i ddarganfod hudoliaeth cerddoriaeth yn unol â’r Cwricwlwm Cymreig newydd. Ydych chi’n athro? Cadwch lygad am ein cyngherddau AM DDIM mewn ysgolion cynradd a’r gweithgareddau digidol sy’n cyd-fynd â nhw, ein hadnoddau ystafell ddosbarth a gweithdai byw Deg Darn, yn ogystal â chyfres newydd sbon o sesiynau hyfforddi athrawon ar gyfer pob lefel o brofiad. Ar gyfer myfyrwyr uwchradd, rydym yn lansio adnoddau byw ac ar-lein newydd gan gynnwys adnoddau digidol TGAU a Safon Uwch CBAC, a chynnig tocynnau am ddim i gyngherddau ledled Cymru ar gyfer ein holl Byddwngyngherddau.hefydynparhau i gynnal gweithdai ‘Cysylltu’r Dotiau’ mewn ysgolion Digidol ar gyfer pob ysgol neu leoliad nad ydynt yn gallu dod i gyngherddau ysgolion BBC
ÂRHAGLENNOW.CWRDDCHERDDORIAETHIgaelywybodaethddiweddaraf am y cyfleoedd hyn, a mwy, ewch i’n gwefan drwy ddefnyddio’r cod QR isod, neu anfonwch e-bost atom i: now@bbc.co.uk “Efallai ein bod ni’n rhagfarnllyd... ond mae ein gwaith ymgysylltu â’r Gymuned ac Addysg wir wrth galon yr hyn rydyn ni’n ei wneud yn BBC NOW. Mae’n cynnwys pobl o bob oed a gallu, a’i nod yw addysgu, grymuso, ysbrydoli ac ymgysylltu ag ystod eang o bobl. Rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau â’r gwaith hwn y tymor hwn!”
BEATRICE CAREY A RHONWEN JONES Cynhyrchwyr Addysg a Chymuned TUDALEN 28 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC
I ysgolion a lleoliadau addysg ledled Cymru, mae llawer i edrych ymlaen ato yn ein tymor 22-23!
Mae Ligeti’n llawn alawon symudliw a phrudd gwerinol. Mae’n cyfleu mwy na syniadau confensiynol tiwnio, brawddegu a chydbwysedd yn ei Goncerto i’r Ffidil, ac mae’n parhau i blethu traddodiad yn y broses.
YSBRYDOLIAETHAU LLENYDDOL
Mae Pedwaredd Symffoni Schumann yn gyforiog o ramantiaeth, sy’n nodweddiadol o’i holl gerddoriaeth. Mae wedi dylanwadu gan lenyddiaeth Ramantaidd, ac mae ansawdd y gwaith yn wyllt ac yn angerddol, hyd yn oed mewn cyfnodau o oleuni a llawenydd. I arwain y campweithiau hyn, mae’n bleser cael y Prif Arweinydd Ryan Bancroft i ymuno â ni.
BEETHOVEN Coriolan Agorawd LIGETI Concerto i’r Ffidil SCHUMANN Symffoni Rhif 4 RYAN BANCROFT Arweinydd ANTHONY MARWOOD Ffidil GWEFREIDDIOLANGERDDOLLLENYDDOL DYDD GWENER 9/12/22 7.30PM Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd TYMOR 22-23 | TUDALEN 29
Mae trasiedi llawn drama Coriolan gan Henrich Josephs von Collin yn 1804 wedi’i ddarlunio yn agorawd gythryblus Beethoven o’r un enw. Wrth geisio peidio â datgelu’r plot, mae Beethoven yn tynnu sylw at yr awyrgylch cyffredinol o wrthdaro, trychineb ac edifeirwch. Mae’r thema lleiaf yn cynrychioli’r prif gymeriad a’i dueddiadau rhyfelgar, ac mae’r thema fwyaf, tawel yn cynrychioli ochr dosturiol ei fam.
CAROLAU’R ŴYL A oes unrhyw beth gwell na gwrando ar Garolau Nadolig mewn siwmperi cynnes, gyda channoedd o blant yn canu’n llawen, a’r cyfle hefyd i ganu eich ffefrynnau Nadolig? Na, does dim byd gwell! Bydd darlleniadau gan eich hoff gyflwynwyr BBC Cymru Wales, yn ogystal â chyfeiliant gwych gan offerynnau pres ac offerynnau taro BBC NOW. Yn sicr dyma’r anrheg Nadolig berffaith ar brynhawn Sul i’r teulu cyfan. Ymunwch â Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC gyda’u cyfarwyddwr artistig Adrian Partington, ynghyd â Chôr Plant enfawr o ysgolion ledled Cymru ar gyfer yr ŵyl Nadolig flynyddol fawreddog hon. ADRIAN PARTINGTON Arweinydd CORWS CÔRCYMREIGCENEDLAETHOLYBBCPLANTUNEDIG ARBENNIGTYMHOROLLLAWEN DYDD SUL 11/12/22 3PM Neuadd Dewi Sant, Caerdydd TUDALEN 30 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC
SWINGIN’ CHRISTMAS Dathlwch yr ŵyl gyda’r arweinydd Andrew Cottee a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wrth i ni ddychwelyd gyda’n Cyngherddau Dathlu’r Nadolig poblogaidd yng Nghaerdydd ac Abertawe. Gyda chaneuon poblogaidd fel Santa Claus is Coming to Town, It’s the Most Wonderful Time of the Year a Sleigh Ride ymysg rhai o’r clasuron, pob un gyda naws jazz a swing, mae’r cyngerdd Nadoligaidd bywiog yma, sy’n berffaith i’r teulu cyfan, yn siŵr o greu naws yr ŵyl. Felly cofiwch wisgo eich siwmperi Nadolig a’ch hetiau Nadoligaidd, a mynd i Neuadd Dewi Sant/ Neuadd Brangwyn i gael noson ddisglair o gerddoriaeth. HWYLIOGJASAIDDGWLEDDOL ANDREW COTTEE Arweinydd NOS FERCHER 14/12/22 7.30PM Neuadd Brangeyn, Abertawe NOS IAU 15/12/22 7.30PM Neuadd Dewi Sant, Caerdydd TYMOR 22-23 | TUDALEN 31
CewchNADOLIGCYNGHERDDAU’RI’RTEULUeichsynnua’chswynogansynauhudolusCerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn y cyngerdd Nadoligaidd bywiog yma sy’n llawn o’ch holl ffefrynnau Nadoligaidd i’r teulu. Gyda chlychau a thinsel, alawon bachog a hyd yn oed y cyfle i ymuno â’r perfformiad, pa ffordd well o sbarduno naws y Nadolig? Oes gennych chi siwmper Nadolig? Dyma’r cyfle perffaith i’w gwisgo! Beth am het Nadolig, sliperi corrach neu dinsel? Gwych, mae’r rheini’n berffaith hefyd! Ymunwch â ni yn Neuadd Hoddinott y BBC am 2pm ar gyfer y cyngerdd yn Saesneg, neu 4pm ar gyfer y cyngerdd Cymraeg. DYRCHAFOLTEULUOLDATHLIADOL DYDD SUL 18/12/22 2PM & 4PM Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd TUDALEN 32 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC
“Rwy’n edrych ymlaen at y tymor newydd gan ei fod yn golygu y gallwn ni ddod â’n cerddorion hynod dalentog yn ôl i mewn i neuaddau cyngerdd, ac yn bwysicaf oll yn ôl o flaen cynulleidfaoedd byw, ledled Cymru a thu hwnt. Mae hefyd yn golygu y gallwn ailagor ein drysau yn Neuadd Hoddinott a chroesawu ein hurwyr allanol yn ôl, gan alluogi amrywiaeth o berfformwyr i ddefnyddio ein cyfleusterau pan nad ydym yn eu defnyddio ein hunain.”
ZOE POYSER Rheolwr y Gerddorfa TYMOR 22-23 | TUDALEN 33
LISA BLOFELD Rheolwr
Busnes Cynhyrchu “Rwy’n edrych ymlaen at dymor newydd o gyngherddau a pherfformiadau gan BBC NOW ledled Cymru yn ogystal â gweithio gyda cherddorion ein cerddorfa ar amrywiaeth o brosiectau cyffrous, diddorol ac ysbrydoledig. Bydd y tymor newydd sydd o’n blaenau yn gyfle gwych i ragor o bobl ledled Cymru a’r byd gael gwybod beth rydyn ni’n ei wneud.”
Oeddech chi’n gwybod eich bod yn gallu cael gafael ar holl raglenni BBC NOW ar-lein? Ewch i bbc.co.uk/now a chlicio ar ‘Rhaglenni Digidol’. Yma fe welwch y rhaglenni ar gyfer holl gyngherddau’r tymor diwethaf, a byddwn yn ychwanegu pob rhaglen y tymor hwn ychydig ddyddiau cyn pob cyngerdd er mwyn i chi allu darllen am y gerddoriaeth ymlaen llaw. Cewch wybodaeth am yr holl ddarnau, ochr yn ochr â bywgraffiadau’r arweinyddion a’r unawdwyr, yn ogystal â rhestr o holl offerynwyr gwych BBC NOW sy’n rhan o’r cyngerdd. Cadwch lygad am ein hysbysebion baner a’n codau QR ym mhob cyngerdd hefyd... sganiwch y cod gan ddefnyddio’r camera ar eich ffôn clyfar a bydd yn mynd â chi’n syth i’r dudalen rhaglenni. Ar ben hynny, mae’r rhaglenni digidol hyn yn ein helpu i leihau faint o bapur rydyn ni’n ei ddefnyddio, gan ddod â ni’n nes ac yn nes at gyflawni ein strategaeth werdd! Ond i’r rheini ohonoch sydd heb ffôn clyfar, neu sy’n ffafrio rhaglen wedi’i hargraffu, peidiwch â phoeni... bydd gennym nifer gyfyngedig o gopïau caled ar gael ym mhob cyngerdd hefyd.
RHAGLENNI CYNGHERDDAU DIGIDOL TUDALEN 34 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC
“I mi, mae BBC NOW i gyd am y gerddoriaeth... ond mae hefyd amdan y bobl. O hyrwyddo ein cerddorion anhygoel, i gydweithio â phartneriaid gwahanol o’r sectorau elusennol ac addysg, i weithio ochr yn ochr â’r lleoliadau cerddoriaeth gwych ledled Cymru a chwrdd ag aelodau gwych ein cynulleidfa mewn cyngherddau. Mae cwrdd a gweithio gyda’r gwahanol bobl sy’n gysylltiedig â’r hyn rydyn ni’n ei wneud bob amser yn rhywbeth rydw i’n edrych ymlaen ato!” SASSY HICKS Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd TYMOR 22-23 | TUDALEN 35
IN CONCERT LIVE TO FILM TUDALEN 36 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC
DISNEY’S FANTASIA IN CONCERT Peidiwch â cholli Fantasia in Concert, sy’n cynnwys uchafbwyntiau o ddwy o ffilmiau cartŵn mwyaf arloesol ac eithriadol Disney “Fantasia” (1940) a’r dilyniant “Fantasia 2000,” gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC! Bydd y cyngerdd yn cyfuno delweddau cartŵn a cherddoriaeth glasurol ac yn sbarduno dychymyg cenhedlaeth newydd. Bydd golygfeydd o’r naill ffilm eiconig a’r llall yn cael eu taflunio mewn manylder uwch ar sgrin fawr uwchben y gerddorfa wrth iddi berfformio rhannau clasurol gan gynnwys The Pastoral Symphony Beethoven, Clair de Lune Debussy, The Sorcerer’s Apprentice Dukas, ymysg eraill. NOS SADWRN 14/1/23 3PM Neuadd Brangwyn, Abertawe DYDD SUL 15/1/23 3PM Neuadd Dewi Sant, Caerdydd AMLGENEDLAETHOLHIRAETHUSHUDOLUS TYMOR 22-23 | TUDALEN 37
MARZENA DIAKUN YN ARWAIN…
Mae ffawn sy’n chwarae’r ffliwt, sy’n hanner dyn, hanner anifail, yn hudo dau nymff sy’n cysgu – dyma stori cerdd Stéphane Mallarmé, sef ‘L’aprèsmidi d’un faune’, a roddodd mwy na digon o ysbrydoliaeth i ddarn Debussy o’r un enw. Roedd y darn arloesol hwn, a gafodd ei berfformio am y tro cyntaf yn 1894, yn ddarn nad oedd unrhyw un wedi’i glywed o’r blaen. Roedd yr amwysedd a’r harmonïau tryloyw’n disgleirio gydag alawon wedi’u hysbrydoli gan y Dwyrain Pell, ac yn creu naws gynnil a harddwch pur. Cwbl syfrdanol... Nid ar draethau Bali y cyfansoddodd Thierry Pécou y Concerto Cara Bali, ond o’i gartref yn Rouen yn ystod cyfnod clo covid. Mae’r concerto, sydd wedi’i ysbrydoli’n ddwfn gan gerddoriaeth gamelan, ac wedi’i ysgrifennu ar gyfer unawdydd heddiw, Alexandre Tharaud. Mae’n defnyddio curiad y piano i ysgogi gongiau a metaloffonau ensemble gamelan, yn ogystal ag ysbryd Bali. Rydyn ni’n clywed hyn ochr yn ochr â Thrydedd Symffoni Martinů, a ysgrifennwyd fel arwydd digymell i ddathlu ugeinfed pen-blwydd cysylltiad Serge Koussevitzky â Cherddorfa Symffoni Boston. I arwain, rydyn ni’n croesawu’r arweinydd llwyddiannus, Marzena
Diakun. DEBUSSY Prélude à L’après-midi d’un faune THIERRY PÉCOU Cara Bali Concerto for Piano and Orchestra [Premiere DU] MARTINŮ Symffoni Rhif 3 MARZENA DIAKUN Arweinydd ALEXANDRE THARAUD PianoLLESMEIRIOLTAWELATMOSFFERIG NOS WENER 27/1/23 7.30PM Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd TUDALEN 38 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC
Holli Pandit, NOYO telynydd LANSIO
CERDDORFA GENEDLAETHOL IEUENCTID AGORED I GERDDORION ANABL IFANC YNG NGHAERDYDDIgaelrhagorowybodaeth a manylion ymgeisio, ewch i wefan y Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Agored yn noyo.org.uk TYMOR 22-23 | TUDALEN 39
Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Agored (NOYO) wedi cyhoeddi lansiad Canolfan NOYO Caerdydd, partneriaeth bwysig sy’n cynnig y llwybr datblygu cyntaf i gerddorion ifanc anabl talentog yn y rhanbarth.
Gyda’r nod o leihau allgáu cerddorol a datblygu sgiliau’r cerddorion ifanc hyn, tra’n cynyddu cefnogaeth y sector i artistiaid anabl, bydd y cerddorion yn cael eu cefnogi i wireddu eu potensial cerddorol drwy ymarferion misol a hyfforddiant un-i-un, yn ogystal â dod at ei gilydd gyda cherddorion o ganolfannau NOYO eraill yn Llundain, Bryste, Birmingham a Bournemouth ar gyfer digwyddiadau preswyl a Byddchyngherddau.canolfanNOYO
Caerdydd yn agor ym mis Medi 2023, gyda galwad ar gyfer cerddorion 11-25 oed anabl ac nad ydynt yn anabl i wneud cais am glyweliad o 1 Mawrth 2023 ymlaen. Bydd yr ymarferion yn dechrau yn yr Hydref. Mae cerddorion NOYO yn chwarae amrywiaeth eang o offerynnau acwstig ac electronig, fel y LinnStrument, Seaboard RISE a Clarion, ac mae rhai aelodau yn chwarae cerddoriaeth gyda symudiad eu corff.
“Does dim cerddorfeydd ieuenctid eraill sydd yr un mor frwdfrydig dros ddangos bod pobl anabl yn gallu chwarae cerddoriaeth ar yr un llwyfran â phobl nad ydynt yn anabl. Ffyddech chi ddim yn cael llawer o’r gerddoriaeth rydyn ni’n ei chwarae mewn cyngerdd cerddoriaeth glasurol ystrydebol – fyddech chi ddim gyda’r offerynnau! Rydyn ni’n credu ei bod hi’n well i gerddorion anabl a cherddorion nad ydynt yn anabl integreiddio gyda’i gilydd, ac wedyn gallwn feddwl am syniadau newydd ffres a bod yn fwy creadigol, gan archwilio gwahanol rannau o gerddoriaeth.”
Gwyliwch yr holl berfformiadau yng nghyfres cyngerdd digidol BBC NOW ar ein gwefan yn bbc.in/3nqb92OB O
O gampweithiau poblogaidd gan gynnwys Agorawd Hebrides Mendelssohn, Mother Goose gan Ravel a Phedwerydd Symffoni Beethoven, i berlau cudd gan gynnwys Ulysses Awakes gan John Woolrich, Four Novelletten gan Coleridge-Taylor a Symffoni Siambr Schreker, o’r perfformiadau cyntaf erioed o Five Waltzes gan Ryan Wigglesworth a Symffoni Rhif 6 gan Matthew Taylor i ferched modern sy’n arwain y ffordd yn y byd cerddorol heddiw, yn cynnwys Caroline Shaw, Carlijn Metselaar, Sarah Jenkins, Sally Beamish a Judith Bingham, rydych chi’n siŵr o ddod o hyd i gerddoriaeth sy’n uniaethu gyda chi.
CYFRES
GYNGHERDDAU DIGIDOL TUDALEN 40 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC
Mae’r perfformiadau agos a phersonol hyn yn archwilio amrywiaeth o gerddoriaeth mewn gwahanol arddulliau, ac o wahanol gyfnodau, gan gynnwys nifer o gyfansoddwyr byw, ac yn dod gyda’u nodiadau eu hunain ar y rhaglen, ac wedi’u hysgrifennu’n arbennig ar gyfer y gyfres er mwyn i chi ddarganfod y gerddoriaeth a’i hanes.
A
Dewch i ymuno â’n cyfres o gyngherddau digidol... Cewch brofi BBC NOW o gysur eich cartref eich hun, neu ar y bws, neu unrhyw le yn ein cyfres anhygoel o berfformiadau digidol, a ffilmiwyd yn Neuadd Hoddinott y BBC gan ddefnyddio ein system camera newydd sbon.
YN
GYMUNED
Sassy Hicks, Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd, BBC NOW Os hoffech chi fod yn rhan o’n gwaith allgymorth a chymunedol, GWAITH BBC NOW Y
Mae ein cerddoriaeth ar gyfer pawb ledled Cymru, a’r tymor hwn byddwn yn gweithio gyda gwahanol gymunedau a grwpiau gwirfoddol ledled y wlad i ddod â’n cerddoriaeth i gynulleidfaoedd newydd. Rydyn ni wedi bod yn gweithio i ddatblygu partneriaethau hirdymor a dylanwadol i gefnogi cyfleoedd i holl gymunedau Cymru yn y dyfodol ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gryfhau a dathlu’r rhain dros y tymor i ddod! Un enghraifft yw ein gwaith gyda Band Tredegar – Yn ogystal â pherfformio gyda’r band ym Mhroms y BBC yn 2022, byddwn hefyd yn datblygu gweithdai cerddoriaeth gyda nhw ar gyfer plant lleol gan annog pobl leol o Dredegar a’r cymoedd cyfagos i gymryd rhan. Yn ddiweddar, gwnaethom ffurfio partneriaeth newydd gyda Tempo, cynllun gwobrwyo gwirfoddolwyr lle gall gwirfoddolwyr ennill Credydau Amser Tempo digidol i gyfnewid am wasanaeth neu weithgaredd. Cynigiodd BBC NOW docynnau ar gyfer ein holl gyngherddau yn 2022 a bydd yn parhau i fod yn bartner i’r cynllun y tymor hwn. “Mae pawb yng Ngherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Tempo ac mae wedi bod yn wych cwrdd â’u gwirfoddolwyr anhygoel yn ein cyngherddau a chlywed am y gwaith maen nhw’n ei wneud i wneud Cymru yn lle gwell i ni i gyd. Mae gwirfoddolwyr yn gwneud cyfraniad enfawr a chadarnhaol i gymunedau ledled Cymru, a thrwy gynnig tocynnau i gyngherddau ar gyfer ein perfformiadau, rydym yn gobeithio y bydd gwirfoddolwyr Tempo yn gwybod pa mor werthfawr ydyn nhw.”
“Prif agwedd y tymor newydd rydw i’n edrych ymlaen ato fwyaf yw dysgu ymhellach ac ehangu fy ngwybodaeth farchnata er mwyn helpu i gynyddu llwyddiant BBC NOW drwy gydol y tymor newydd. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at deithio i leoliadau newydd ledled y wlad a phrofi amrywiaeth o ddarnau cerddorfaol a fydd yn cael eu chwarae gan BBC NOW.“ GILL Prentis y BBC TYMOR 22-23 | TUDALEN 41
JOSH
bbc.co.uk/tours
Ydych chi erioed wedi meddwl sut mae effeithiau sain yn cael eu hychwanegu at eich hoff bodlediadau? Neu sut beth yw darllen y newyddion?
Camwch i ddyfodol darlledu yn stiwdios diweddaraf a mwyaf blaengar y BBC yn 3 Sgwâr Canolog, Caerdydd
Bydd pob taith gerdded yn para tua 90 munud. Fel canolfan ddarlledu fyw a gweithredol, does dim dwy daith yr un fath, felly bydd pob ymweliad yn unigryw. I archebu tocynnau ar gyfer grwpiau, neu os oes gennych chi ofynion mynediad penodol, ffoniwch 029 2087 8444. ARCHEBWCH DOCYNNAU NAWR
Ymunwch â’n tywyswyr cyfeillgar i gael taith unigryw y tu ôl i’r llenni yn BBC Cymru Wales. Cewch ymweld â’n stiwdios teledu a radio diweddaraf i ddarganfod cyfrinachau creu rhaglenni’r BBC. Ar eich taith byddwch yn ymweld ag un o ystafelloedd newyddion mwyaf y BBC, sy’n llawn technoleg arloesol gan gynnwys realiti estynedig, rhith-wirionedd a chamerâu robotig, ac yn cael cipolwg ar orielau teledu a chyfleusterau darlledu eraill.
BRAHMS Concerto i’r Ffidil MESSIAEN O Sacrum Convivium FAURÉ Requiem LUDOVIC MORLOT Arweinydd JAMES EHNES Ffidil RHIAN LOIS Soprano NEAL DAVIES Baritôn CORWS CYMREIGCENEDLAETHOLYBBC NOS SADWRN 11/2/23 7.30PM Neuadd Brangwyn, Abertawe DYDD SUL 12/2/23 3PM Neuadd Dewi Sant, Caerdydd TYMOR 22-23 | TUDALEN 43
FAURÉ REQUIEM GYDA LUDOVIC MORLOT
Mae cyd-destun crefyddol i lawer o gerddoriaeth Messiaen, felly efallai ei bod yn syndod gwybod mai dim ond un darn o gerddoriaeth llais a ysgrifennodd erioed yn benodol ar gyfer yr eglwys, sef ei O Sacrum Convivium. Gydag ansawdd dyrchafol angerddol, mae’r darn eithaf dyrys hwn yn dawel a gwylaidd, ac yna’n codi i uchafbwynt mynegiannol wrth i’r darn sôn am ogoniant yn y dyfodol. I’r gwrthwyneb, ychydig iawn o gyflwyniad sydd ei angen ar Requiem Faure. Mae’n fwy personol o ran natur na’r darnau cyfatebol gan Verdi a Berlioz sydd yr un mor boblogaidd. Mae Requiem Faure yn ysgafn ac yn gysurus, gydag ymdeimlad dynol iawn o ffydd mewn gorffwys tragwyddol. Cyfareddol dros ben... PARCHUSGWRESOGOLATOCH
Gyda chyfuniad prin o feistrolaeth drawiadol, telynegiaeth dawel a sain bendant, mae’r feiolinydd o Ganada, James Ehnes, yn serennu fel unawdydd ar gyfer y gwaith hynod boblogaidd hwn.
AGOS
Mae Concerto telynegol hyfryd Brahms i’r Ffidil fel pe bai’n mynegi enaid y ffidil. O’i alawon hyfryd, breuddwydiol a mawreddog i gainc tymhestlog y diweddglo, mae’r galw digyfaddawd am chwarae meistrolgar yn ei wneud yn ddarn perffaith i unrhyw fiolinydd.
MANNAU CLYWED
Mae City Life eiconig Steve Reich, sy’n enwog am ddefnyddio samplau digidol ochr yn ochr â cherddorfa fyw, yn cyfleu bwrlwm ei dref enedigol, Efrog Newydd – o gyrn ceir, seiren yr heddlu a sŵn drysau’n cau’n glep, i glychau’r rheilffordd danddaearol, cyrn cychod a stancwyr. Mae Ail Rapsodi Gershwin, sydd hefyd yn cyfleu cyffro Efrog Newydd, yn llawn alawon sionc, lliwiau cerddorfaol byw a darnau disglair i’r piano, wedi’u llywio gan elfennau o jazz. Bydd y pianydd disglair, Freddy Kempf, yn ymuno â’r arweinydd, Mathew Coorey a BBC NOW ar gyfer y gwaith cyffrous hwn. Cyfansoddwr arall sy’n defnyddio samplau digidol yw Colin Riley. Yn y premiere byd hwn, mae darnau sain o leoliadau ledled Cymru yn ffurfio DNA cerddorol y gyfres hon o ddarnau aml-gyfrwng. Mae traw, tonau, rhythmau, alawon a digwyddiadau unigryw yn ymestyn o’r samplau drwy’r gerddorfa lawn, gan greu awyrgylch a golygfeydd unigryw.
STEVE REICH City Life GERSHWIN Rhapsody No. 2 COLIN RILEY Hearing Places [premiere byd] MATTHEW COOREY Arweinydd FREDDY KEMPF Piano BYWIOGBLAENGARYSBRYDOLEDIG NOS WENER 17/2/23 7.30PM Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd TUDALEN 44 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC
Ond nid rhywbeth sy’n perthyn i’r gorffennol yn unig yw Mythau yng Nghymru, mae’r gallu i gyfuno naratif a cherddoriaeth yr un mor berthnasol heddiw ag y bu erioed. O faledi gwerin Cymreig cyfredol a cherddoriaeth sy’n hanu o ardaloedd trefol Cymru, i straeon am fythau hynafol wedi’u hadrodd o’r newydd gan gyfansoddwyr cyfoes. Ymunwch â BBC NOW a’r arweinydd Jac van Steen ar gyfer cyngerdd Dydd Gŵyl Dewi a fydd yn dathlu traddodiadau amrywiol holl straeon enwog Cymru!
Mythau a Chwedlau Cymru – Ddoe a Heddiw
Mewn gwlad sydd wedi’i thrwytho mewn chwedloniaeth, mae straeon a cherddoriaeth wedi, ac yn dal i gyfuno, i ddylanwadu ar ddiwylliant Cymreig. Mae llu o bobl yng Nghymru yn gyfarwydd â’r straeon poblogaidd hyn, o chwedlau enwog y Mabinogi gyda’i straeon rhamant, trasiedi a sagâu arwrol, i lên gwerin arallfydol sy’n portreadu dreigiau, gwlad y tylwyth teg, marchogion dewr a nawddsaint.
DATHLIADOLBRWDCYFAREDDOL GAVIN HIGGINS Faerie Bride ARWEL HUGHES Molwn Di o Dewi Sant GRACE WILLIAMS 4 Illustrations for the Legend of Rhiannon GARETH GLYN Gwlad y Gân JAMES JAMES arr. JEFFREY HOWARD Mae hen wlad fy nhadau JAC VAN STEEN Arweinydd MARTA FONTANALSSIMMONS Mezzo Soprano PAUL CAREY JONES Bass-baritone CORWS CYMREIGCENEDLAETHOLYBBC NOS FERCHER 1/3/23 7.30PM Neuadd Dewi Sant, Caerdydd TYMOR 22-23 | TUDALEN 45
DYDD GŴYL DEWI
Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol, neu ewch i’n gwefan i gael rhagor o wybodaeth am Cyfansoddi: Cymru ‘23 a dyddiadau allweddol ar gyfer cyflwyniadau, gweithdai a pherfformiadau cyhoeddus. bbc.co.uk/now
TUDALEN 46 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC
Ydych chi’n gyfansoddwr sydd wedi’i eni neu wedi’i leoli yng Nghymru? Os felly, byddwch yn barod i gyflwyno eich ceisiadau i Cyfansoddi: Cymru 2023! Mae Cyfansoddi: Cymru yn arddangos doniau cyfansoddwyr o bob oed o Gymru neu sy’n byw yng Nghymru, a cafodd ei sefydlu gan BBC NOW yn 2010 gan helpu i hybu nifer fawr o yrfaoedd cyfansoddwyr. Mae’r prosiect yn gyfle i glywed eich gwaith yn cael ei berfformio gan gerddorfa lawn, ac i weithio gyda’n Prif Arweinydd Ryan Bancroft, y Cyfansoddwr Cysylltiedig Gavin Higgins a’r Cyfansoddwr Ymgysylltu Sarah Lianne Lewis mewn sesiynau mentora, a chlywed y fersiwn derfynol yn fyw mewn cyngerdd ac ar BBC Radio 3.
Dywedodd Mandy Leung, cyfranogwr o 2022: “Mae Cyfansoddi: Cymru wedi bod yn gatalydd ac wedi helpu i lansio fy ngyrfa cyfansoddi; erbyn hyn rwy’n cael fy nghefnogi gan gronfa PRS Women Make Music, a gomisiynwyd gan Opera North, a chael fy nghyfansoddiad wedi’i ddarlledu ar Radio 3. Dylai cyfansoddwyr fanteisio ar y cyfle i wneud cais gan fod yr arbenigedd a gefais yn hanfodol i’m datblygiad.”
CYFANSODDI: CYMRU 2023
CYFANSODDI: CYMRU Dewch i glywed y diweddaraf ym myd cerdd Cymru, a chyfansoddwyr sy’n haeddu cael eu clywed yn ehangach yn cael cyfle i glywed perfformio eu gweithiau gan y Gerddorfa. Mae’r prosiect blynyddol hwn, sy’n cael ei redeg ar y cyd â Chyfansoddwyr Cymru, Tŷ Cerdd, Gŵyl Bro Morgannwg a Chymdeithas Cerddoriaeth Cymru, yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu a thynnu sylw at dalent cyfansoddi o Gymru, ac yng Nghymru. Dan arweiniad Prif Arweinydd BBC NOW, Ryan Bancroft, bydd mentoriaid cyfansoddi eleni yn cynnwys ein Cyfansoddwr Cysylltiedig, Gavin Higgins, a’r Cyfansoddwr Ymgysylltu, Sarah Lianne Lewis. RYAN BANCROFT Arweinydd CYFOETHOGIYMCHWILIOLARLOESOL NOS FAWRTH 7/3/23 7PM Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd TYMOR 22-23 | TUDALEN 47
BEETHOVEN Agorawd Leonora Rhif 3 ZIMMERMAN “Nobody Knows the Trouble I See” BRUCKNER Symffoni Rhif 0 ‘Nullte’ RYAN BANCROFT Arweinydd SIMON HÖFELE Utgorn BYWIOGANNIRNADARWROL NOS WENER 10/3/23 7.30PM Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd TUDALEN 48 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC
I SEE O bryd i’w gilydd bydd cyfansoddwr yn ysgrifennu agorawd rhy ddramatig ac epig i’w bwrpas bwriadedig, ac mae hyn yn wir gydag agorawd Beethoven, Leonora Rhif 3. Gan adrodd hanes Fidelio, mae’r agorawd hon yn sefyll fel un arwrol, urddasol ac angerddol, ac eto’n ddarn wedi’i reoli ac yn ddarn dynol iawn sy’n sefyll ar ei ben ei hun. Yn wir, mae’n wahanol i unrhyw waith arall gan Beethoven. Yn yr un modd, mae Nobody Knows the Trouble I See yn nodweddiadol iawn o Zimmerman o’r cychwyn cyntaf. Mae’n defnyddio dyfyniadau cerddorol, yn ymgorffori alawon ysbrydol Affricanaidd-Americanaidd a’i ystumiau gwleidyddol ysgubol. Mae harmoni gromatig dwys yn bodoli ochr yn ochr â band pres mawr. Mae’n llawn offerynnau taro ochr yn ochr ag organ â sain yr efengyl, a phopeth wedi’i osod o dan linell unawd trwmped huawdl a grymus.
NOBODY KNOWS THE TROUBLE
Datganodd Bruckner ei Symffoni Rhif 0 hynod enigmatig a chymhleth yn ‘gilt nicht’, gan awgrymu nad oedd wedi’i argyhoeddi gan ei rinweddau, ac er iddo gael ei chyfansoddi yn 1869 ni chafodd ei berfformio am y tro cyntaf tan 55 mlynedd yn ddiweddarach! Mae’n anodd credu flynyddoedd wedyn bod Bruckner wedi teimlo bod y gwaith yn ofnadwy. Oherwydd er na chafodd y symffoni ei gadw yn y Llyfrgell Ymerodrol, ni ddinistriodd ef chwaith...
“Y peth rwy’n edrych ymlaen yn fawr ato am ein tymor 22-23 yw mynd â llawer o repertoire gwych i gynifer o gynulleidfaoedd gwahanol ledled Cymru. Gyda champweithiau gan enwogion cerddorol fel Mahler, Stravinsky, Vaughan Williams ac Elgar yn ogystal â llawer mwy, a chyngherddau mewn lleoliadau ledled Cymru gan gynnwys Bangor, Casnewydd, Llanelwy, Aberhonddu a Llandudno (fy ffefryn!), mae’n mynd i fod yn dymor cyffrous iawn i bob un ohonom yn BBC NOW, a gobeithio i’n cynulleidfaoedd hefyd!”
DAVE REES Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol “Dyma fy nhymor llawn cyntaf gyda BBC NOW ac mae 22-23 yn edrych fel un gwych i ddechrau gyda nhw!
Petai’n rhaid i mi ddewis rhai o fy uchafbwyntiau, byddwn yn dewis teithiau’r gerddorfa yng Ngogledd Cymru, cyfres gyffrous o gyngherddau ysgol ‘Opus Pocus’ yn Neuadd Hoddinott, Fantasia mewn cyngerdd a pherfformiad gydag Abel Selaocoe.”
STEVE BROWN Rheolwr Llwyfan a Thechnegol TYMOR 22-23 | TUDALEN 49
5
Bydd y Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, yn mynd i’r podiwm ar gyfer ein taith ym mis Mawrth, gan gychwyn y cyffro gyda Monolith gan Tansy Davies: I Extend My Arms. Mae strata o ganonau fel craig, yn ddwys ac yn dryloyw, ac yn creu ysbrydoliaeth ar gyfer y gwaith ergydiol, rhythmig a bythgofiadwy hwn. Gan agor gyda’r themâu mwyaf hudolus a mynegiannol, mae Concerto i’r Ffidil gan Sibelius yn llawn tensiwn a harmonïau synfyfyriol, ynghyd ag alawon hyfryd ac egni aruthrol. Mae’n bleser gennym groesawu’r feiolinydd aruthrol o dalentog, Clara-Jumi Kang, o dras Almaenig-Koreaidd i berfformio’r concerto gwych hwn, sydd mor gyffrous a meistrolgar ei gyfansoddiad ac sy’n galw am ddehongliad penigamp gan unrhyw berfformiwr.
Er bod Tchaikovsky wedi cael ei ysbrydoli gan gerddoriaeth werin gyfoethog ei wlad enedigol, gwrthododd agweddau cenedlaetholaidd Rwsia, ac nid oedd yn un o’r cymeriadau mwyaf poblogaidd yn ystod ei gyfnod. Fodd bynnag, mae ei gerddoriaeth yn sicr wedi parhau’n boblogaidd hyd heddiw, ac mae ymysg y gerddoriaeth y chwilir amdani fwyaf yng nghalendr cynulleidfaoedd heddiw, ac mae ei Bumed Symffoni yn brawf o hyn. Mae’r thema sy’n codi dro ar ôl tro, sef ‘ffawd’, wedi’i phlethu drwy gydol y symffoni ddramatig, hyfryd a nodedig hon, sydd wedi’i hysgrifennu’n feistrolgar gan un o’r symffonïwyr mwyaf sydd wedi byw erioed.
TANSY DAVIES Monolith: I Extend My Arms SIBELIUS Concerto i’r Ffidil TCHAIKOVSKY Symffoni Rhif 5 RYAN BANCROFT Arweinydd CLARA-JUMI KANG Ffidil NOS IAU 16/3/23 7.30PM Canolfan y AberystwythCelfyddydau NOS WENER 17/3/23 7.30PM Neuadd Prichard-Jones, Bangor DYDD SUL 19/3/23 3PM Venue Cymru, Llandudno TUDALEN 50 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC
SYMFFONITCHAIKOVSKYRHIF
CYFOETHOGARLOESOLDEINAMIG
HEDDYCHLONCYFAREDDOLCYSURUS YMLACIO GYDA SIAN ELERI Ymunwch â BBC NOW a’r cyflwynydd radio syfrdanol Sian Eleri yn Pontio am noson o glasuron hamddenol. Tynnwch eich esgidiau, eistedd nôl ac ymlacio i sain y gerddorfa symffoni gyda detholiad o gerddoriaeth a fydd yn siŵr o’ch tawelu. OWAIN ROBERTS Arweinydd NOS SADWRN 18/3/23 8PM Pontio, Bangor TYMOR 22-23 | TUDALEN 51
TUDALEN 52 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC
ARWAIN BRITTEN A
Mae gan gerddoriaeth Elgar le arbennig yng nghalon Tadaaki, ac mae cynulleidfaoedd yn cael gwledd go iawn gyda’i Ail Symffoni. Mae’r symffoni’n llawn egni, ysblander a mabolgampiaeth cerddorol, ac mae’n cyfleu llif o alawon gwreiddiol, rhythm chwareus a chywrain, a nodweddion disglair a meddal. Mae hwn yn sicr yn gyngerdd na ddylech ei fethu…
NOS WENER 24/3/23 7.30PM Neuadd Brangwyn, Abertawe NOS SADWRN 25/3/23 7.30PM Nueadd Dewi Sant, Caerdydd ELIZABETH MACONCHY Nocturne for Orchestra BRITTEN Violin Concerto ELGAR Symphony No. 2 TADAAKI OTAKA Arweinydd SIMONE LAMSMA Ffidil SYFRDANOLGODIDOGANGERDDOL TYMOR 22-23 | TUDALEN 53
Yn y rhaglen cwbl Brydeinig hon, sy’n edrych ar gerddoriaeth tri o gyfoedion yr 20fed Ganrif, mae Simone Lamsma, sy’n feiolinydd disglair o’r Iseldiroedd, yn ymuno â ni ar gyfer Concerto hynod boblogaidd Britten i’r Ffidil. Ceir cryn amwysedd yn y darn, sydd wedi’i fynegi drwy harmonïau cymhleth, themâu telynegol synfyfyriol, a nodau rhythmig bywiog. Mae’r concerto yn arddangosfa feistrolgar o bŵer eithriadol.
TADAAKI OTAKA YN
ELGAR
Bydd yr Arweinydd Llawryfog poblogaidd, Tadaaki Otaka, yn dychwelyd i BBC NOW i berfformio ffefrynnau cadarn gan Elgar a Britten, ochr yn ochr â Nocturne i Gerddorfa hudolus gan Elizabeth Maconchy.
Yn ôl athroniaeth, dechreuodd stori’r Creu gydag anhrefn; y pedair elfen mewn anghydfod – daear, aer, tân a dŵr, a’r angen iddynt fod yn gytûn: Dyma’r ysbrydoliaeth i Chaos Rebel o Les Elemens. Gyda gwahanol grwpiau o offerynnau’n cynrychioli pob un o’r elfennau, mae clystyrau o donau avant-garde a syniadau cerddorol yn cystadlu am sylw cyn i drefn gael ei chyflawni. Roedd y Brenin Arthur yn un o weithiau mwyaf llwyddiannus Purcell ar gyfer y llwyfan – wedi’i gyfansoddi gydag athrylith fawr, mae’n cynnwys telynegiaeth a harmoni gwych a oedd o flaen ei amser. Yma rydym yn clywed holl uchafbwyntiau’r opera mewn cyfres hyfryd, dan arweiniad Christian Curnyn, yr arbenigwr cerddoriaeth cynnar. Mae Missa in Angustiis Haydn (Offeren ar gyfer cyfnodau cythryblus), sy’n cael ei adnabod yn well gan ei lysenw, Nelson Mass, yn un o 6 gosodiad torfol a ysgrifennwyd yn nes at ddiwedd ei oes, ac o bosib dyma ei gyfansoddiad unigol gorau. Gan gymryd testun yr Offeren Ladin, mae’r campweithiau dihafal hyn yn cynnwys chwe symudiad, ac ar wahân i Kyrie, a’r Agnus Dei sy’n llawn mynegiant, yn arddangosfa gerddorol hwyliog iawn... sy’n berffaith ar gyfer dathlu pen-blwydd ei wraig, y comisiynwyd yr offeren ar ei chyfer!
NELSON MASS GAN HAYDN
REBEL Chaos o Les Elemens PURCELL Cyfres o King Arthur HAYDN Nelson Mass CHRISTIAN CURNYN Arweinydd ANNA DENNIS Soprano HILARY SUMMERS Mezzo CHARLESWORTHRUPERT Tenor TBC Bas CYMREIGCENEDLAETHOLCORWSYBBCMEISTROLGARDYMUNOLTELYNEGOL NOS IAU 6/4/23 7.30PM Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd TUDALEN 54 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC
Roedd uchafbwyntiau’r Tymor 21-22 yn cynnwys St Matthew Passion gan Bach gyda’r arbenigwr baróc Harry Bicket, taith 6 diwrnod i Rennes i berfformio Requiem Mozart gyda’r Orchestre Symphonieue de Bretagne a Symffoni’r Môr gan Vaughan Williams ym Mhroms y BBC, a ddarlledwyd hefyd ar BBC Four. Mae Tymor 22-23 yn argoeli i fod yn gyffrous iawn felly cadwch lygad am unrhyw sôn am y Corws yn y llyfryn hwn…
TYMOR 22-23 | TUDALEN 55
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC yw un o brif gorau cymysg y DU. Er bod ganddo statws côr amatur, mae’n gweithio yn ôl y safonau proffesiynol uchaf dan ofal Adrian Partington, y Cyfarwyddwr ITS Artistig. Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd yw cartref y Corws, a ffurfiwyd yn 1983, ac mae’n cydweithio’n rheolaidd â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn ogystal â pherfformio cyngherddau ar ei ben ei hun.
Ydych chi’n frwdfrydig dros ganu? Ydych chi erioed wedi meddwl sut i fod yn rhan o’n Corws? Wel, nid yw erioed wedi bod yn haws... anfonwch e-bost atom i’r cyfeiriad bbcncw@bbc.co.uk i fynegi eich diddordeb a threfnu clyweliad.
CORWS CYMREIGCENEDLAETHOLYBBC
Y FREUDDWYD
Gyda symudiadau cyflym yn archwilio tirweddau ecsotig, mae’r gwaith yn cael ei lunio gan raddfeydd dwyreiniol ac ebychiadau cerddorfaol bywiog, gydag arlliw o ddirgelwch a’r blues. Bydd y fiolinydd o Dde Korea, Bomsori Kim, yn ymuno â’r Prif Arweinydd Ryan Bancroft a BBC NOW ar gyfer y concerto disglair hwn. Mae llong enfawr yn codi oddi ar wyneb Bae San Francisco ac yn hyrddio’i hun i’r awyr fel roced o blaned Sadwrn... dyma’r freuddwyd a ysbrydolodd Harmonielehre John Adams. Mae’n llawn syrpreis, ond bob amser yn hudolus yn ei soniarusrwydd bywiog a disglair. Yn sicr mae’r gwaith mynegiannol hwn yn llawn egni, ac yn cael ei sbarduno gan ei symudiad harmonig Minimalaidd.
IVES Central Park in the Dark IVES The Unanswered Question SZYMANOWSKI Concerto i’r Ffidil Rhif 1 ADAMS Harmonielehre RYAN BANCROFT Arweinydd BOMSORI KIM Ffidil GOLEUOLEGNÏOLFFWDANUS NOS IAU 20/4/23 7.30PM Neuadd Dewi Sant, Caerdydd NOS WENER 21/4/23 7.30PM Neuadd Brangwyn, Abertawe TUDALEN 56 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC
AMERICANAIDD
Mae’r gwaith rhyfedd hwn yn aml yn cael ei ddisgrifio fel athroniaeth a fynegir mewn cerddoriaeth, ac mae’n delio â’r “cwestiwn parhaol ynglŷn â bodolaeth”, ac mae’n gwrthbwyso tri grŵp o offerynnau nad yw eu haenau byth yn cael eu cysoni’n llwyr.
Mae arddull gerddorol rymus ac eclectig Szymanowski yn gwrthod tonyddiaeth draddodiadol ac estheteg ramantus; ac yn ogystal â cherddoriaeth foethus, lesmeiriol a storïol sy’n rhaeadru, yn ildio i uchelfannau disglair y ffidil unawdol yn ei Goncerto Cyntaf i’r Ffidil.
Dychmygwch y cyfnod cyn ceir modur, wrth eistedd ar fainc yn Central Park ar noson o haf... clywid sŵn y nos a distawrwydd y tywyllwch, sŵn cantorion stryd, tylluanod nos, ragtime y piano, bandiau stryd pres a hyd yn oed injan dân. Dyma’r sŵn y mae Charles Ives yn ei greu yn ei ddarn Central Park in the Dark. Mae’n waith partner y darn ‘Two Contemplations’, mae The Unanswered Question yn llai adnabyddus ond heb fod yn llai ingol.
TYMOR 22-23 | TUDALEN 57
Yn yr un modd â’r Elegiac Ode, mae ei Te Deum, a gyfansoddwyd ar gyfer Gŵyl Leeds yn 1898, yn llawn alawon hardd, soniarusrwydd cynnes a mynegiant cyfoethog. Mae Stanford mor eiconig o Brydain fel bod croesawu unawdwyr o Brydain yn ddewis addas i berfformio’r gweithiau hyfryd hyn.
Mae cerddoriaeth Elegiac Ode wedi cael ei gosod i’r gerdd ‘When lilacs last in the Dooryard Bloom’d’ gan y bardd metaffisegol o America, Walt Whitman. Cafodd hyn ei argymell i Adrian gan Gymdeithas Stanford. Cafodd y gwaith ei ysgrifennu ar gyfer Gŵyl Norwich a Norfolk yn 1884, ac mae’n cael ei ystyried fel cerdd i farwolaeth yr Arlywydd o America, Abraham Lincoln. Er iddo gael ymateb cynnes yn y perfformiad am y tro cyntaf, nid yw’n cael ei berfformio mor eang heddiw â’i weithiau corawl cysegredig.
Ar ôl rhyddhau Offeren Stanford, sef ‘Via Victrix’ yn llwyddiannus ar CD, bydd Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, ynghyd â Chyfarwyddwr Artistig y corws, Adrian Partington, yn dychwelyd i’r llwyfan cyngerdd gyda pherfformiadau o Elegiac Ode a Te Deum gan Stanford.
STANFORD Elegiac Ode STANFORD Te Deum ADRIAN PARTINGTON Arweinydd RHIAN LOIS Soprano SAMANTHA CYMREIGCENEDLAETHOLMORGANALESSANDROPRICEFISHERPEARSEYBBCGWYCHCAINURDDASOL DYDD SADWRN 6/5/23 2PM Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd STANFORD GYDA ADRIAN PARTINGTON A BBC NCW TUDALEN 58 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC
Gyda harmonïau symudol hyfryd a bywiogrwydd rhythmig ei arddull ddiweddarach, mae cyfansoddiad cyflawn olaf Rachmaninov, sef Dawnsfeydd Symffonig, yn defnyddio motiffau sy’n deillio o gerddoriaeth Eglwys Rwsia ochr yn ochr â dyfyniadau o’i symffoni gyntaf ei hun. Mae hyn yn creu cymysgedd o hiraeth yn erbyn bwrlwm mawr y ddinas ac egni ‘America Fodern’.
ANNA CLYNE Masquerade TCHAIKOVSKY Concerto i’r Piano Rhif 1 RACHMANINOV Symphonic Dances JAMES FEDDECK Arweinydd DANIEL CIOBANU Piano NOS IAU 11/5/23 7.30PM Neuadd Dewi Sant, Caerdydd NOS WENER 12/5/23 7.30PM Neuadd Brangwyn, Abertawe TYMOR 22-23 | TUDALEN 59
SYMPHONIC DANCES
Mae Masquerade gan Anna Clyne wedi’i ysbrydoli gan y cyngherddau promenâd gwreiddiol yng nghanol y 18fed ganrif a gynhaliwyd yng ngerddi pleser Llundain, lle’r oedd pobl o bob cefndir yn mwynhau amrywiaeth eang o adloniant; cerddoriaeth ac acrobateg, dawnsio, tân gwyllt a dawns fasgiau. Mae’r gwaith yn ysgogi’r ymdeimlad o achlysur a dathliad, gan gyfuno themâu gwreiddiol gyda hen alawon dawnsio Seisnig. Mae Concerto Cyntaf mawreddog a brwd Tchaikovsky i’r Piano yn creu’r un ymdeimlad o achlysur. Gyda darnau blodeuog gwych, gorchestwaith taranllyd, adran lanw disglair ac alawon lliwgar, roedd yn llwyddiant ysgubol yn ei berfformiad cyntaf, ac mae’n parhau i fod yr un mor boblogaidd heddiw. Gan ddychwelyd i BBC NOW ar ôl cryn alw, mae’r pianydd hynod dalentog Daniel Ciobanu yn barod i’n harwain drwy ddatblygiadau stormus , alawon hyfryd a diweddglo tanllyd y gwaith.
DEINAMIGATGYFNERTHOLDRAMATIG
Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn dod â cherddoriaeth drawiadol o’r traciau sain a rhai o’r gemau fideo mwyaf poblogaidd yn y byd yn fyw yn y cyngerdd gwefreiddiol hwn, sy’n cael ei arwain gan un o fawrion cerddoriaeth gemau fideo, Eímear Noone.
O’r epig i’r arswydus, o’r dramatig i’r atmosfferig, ni fyddai gemau fideo yr un fath heb y gerddoriaeth, a bydd y cyngerdd hwn yn cynnwys traciau sain ffefrynnau fel Fortnite, Fallout 4, Halo, Resident Evil a World of Warcraft, i enwi ond ychydig.
EÍMEAR NOONE Arweinydd NOS FERCHER 17/5/23 7.30PM Neuadd Dewi Sant, Caerdydd LLACHARTHEATRIGLLONNOL TUDALEN 60 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC
Fel arweinydd a chyfansoddwr clodwiw ym myd gemau fideo a ffilmiau, mae Eímear wedi cyfansoddi rhai o’r seinweddau mwyaf oesol i gemau fideo poblogaidd, gan gynnwys World of Warcraft. Mae hi’n frwd dros gerddoriaeth a byd gemau fideo, ac mae hi’n dweud “bod gemau fideo wedi bod yn rym ym myd y celfyddydau ac adloniant ers blynyddoedd lawer, ar y sgrin a thrwy seinyddion. Mae llawer o bobl wedi tyfu i fyny yn chwarae gemau fideo, ac wedi dod i garu sain y Gerddorfa drwy eu chwarae. Mae llawer o’r sgoriau gorau yn ddarnau clodwiw ynddynt eu hunain; mae nifer fawr o bobl wrth eu bodd â nhw, ac maen nhw wedi dod yn rhan o’r diwylliant prif ffrwd.”
CYNGERDD
GEMAU
TYMOR 22-23 | TUDALEN 61
CYNGERDD CLO’R TYMOR
Roedd Strauss yn aml yn defnyddio stori i ysgogi ei ddychymyg cerddorol, ac mae Don Quixote, gyda’i ffantasïau’n llawn o’r straeon a ddarllenodd; y cyfareddau, y cweryla, y brwydrau, yr heriau, y cariad a’r stormydd, yn rhoi mwy na digon i gnoi cil arno. Alice Neary fydd yr unawdydd soddgrwth yn chwarae rhan Don Quixote, a Rebecca Williams fydd yr unawdydd fiola yn chwarae rhan ei was, Sancho. Mae Strauss yn sôn am lawer o anturiaethau Don yn y gerdd symffonig 10 symudiad eithaf lloerig hon.
GRACE WILLIAMS Concert Overture MOZART Symffoni Rhif 39 R. STRAUSS Don Quixote RYAN BANCROFT Arweinydd ALICE NEARY Soddgrwth REBECCA JONES FiolaCYWRAINSIONCYSMALA NOS IAU 1/6/23 7.30PM Neuadd Dewi Sant, Caerdydd NOS WENER 2/6/23 7.30PM Neuadd Brangwyn, Abertawe TUDALEN 62 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC
Nid yw’n nodweddiadol o arddull arferol Mozart, mae ei agoriad araf a mawreddog yn arwain at allegro egnïol; alaw droellog sy’n perthyn i’r Minuet egnïol, gyda’i alawon bythgofiadwy a’i nodweddion cyfareddol, cyn neidio i’r diweddglo un thema direidus.
Mae’r gyfansoddwraig o Gymru, Grace Williams, a gafodd ei geni yn y Barri wrth ei bodd yn cyfansoddi ar gyfer cerddorfa, ac mae ei darn Agorawd Cyngerdd, a glywn heno dan arweiniad y Prif Arweinydd Ryan Bancroft, yn dangos ei dawn cymharol gynnar yn y genre hwn. Clywn hyn ochr yn ochr ag un o symffonïau olaf Mozart, ei 39ain symffoni, sy’n llawn dirgelwch.
RYAN BANCROFT Prif Arweinydd
LENNY SAYERS Clarinet Bas
TYMOR 22-23 | TUDALEN 63
“Y tymor yma, rwy’n edrych ymlaen at berfformio Don Quixote gan Richard Strauss gyda Ryan Bancroft. Y tro diwethaf i mi berfformio hyn oedd ar ddiwedd fy wythnos gyntaf fel aelod newydd o BBC NOW, ym mis Hydref 2011 gyda’r arweinydd François-Xavier Roth. Yn y gerdd symffonig hon, mae’r unawd soddgrwth yn chwarae cymeriad Don Quixote, tra mae ei sgweier, Sancho Panza, yn cael ei ddarlunio gan y fiola unawdol, y tiwba tenor a’r clarinet bas – felly, i mi, mae’n un o’r rhannau mwyaf unawdol yn y repertoire cerddorfaol. Yn ystod fy wythnos gyntaf yn y swydd, roeddwn i’n teimlo allan o fy nyfnder cerddorol, felly bydd yn braf cael cymryd rhan unwaith eto pan nad ydw i ar brawf!”
“Mae llawer o bethau rydw i’n edrych ymlaen atyn nhw y tymor nesaf! I enwi ambell un: gallu cwrdd â mwy o’n cynulleidfa wych, archwilio llefydd nad wyf wedi’u harchwilio eto gyda’r gerddorfa, a chymryd rhan ym mhrosiect Cyfansoddi: Cymru. Os i fod yn hunanol, rydw i’n edrych ymlaen yn arbennig at weithio gydag Alice Neary a Rebecca Jones ar Don Quixote gan Richard Strauss ar gyfer cau’r tymor. Mae bob amser yn syniad gwych i ni gynnwys ein cerddorion ein hunain, felly rydw i’n ddiolchgar ac yn edrych ymlaen at hyn!”
“Rwy’n edrych ymlaen yn arw at gyngerdd CoLaboratory ag Abel Selacoe; roedd Prom 2021 BBC NOW ag Abel yn anhygoel, ac rwyf eisoes wedi nodi dyddiad y cyngerdd hwn yn fy nyddiadur! Rhai o’r uchafbwyntiau eraill i mi yw Concerto Ligeti i’r Ffidil, Monolith: I Extend My Arms gan Tansy Davies, ac wrth gwrs, Cyfansoddiad: Cymru a gynhelir ym mis Mawrth, a fydd – gan ystyried y blynyddoedd blaenorol – yn brosiect penigamp.” SARAH LIANNE LEWIS Cyfansoddwr Cydweithredol TUDALEN 64 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC
Mae’r chwaraewr soddgrwth o Dde Affrica, Abel Selaocoe, yn ailddiffinio ei offeryn, gan gyfuno arddulliau chwarae traddodiadol â byrfyfyrio, canu a defnyddio’r corff fel offeryn taro. Byddwch yn barod am gyngerdd sy’n croesi’r ffiniau gyda BBC NOW yn arddangos ei frand unigryw o gyfuno cerddorol. Gyda’i gymeriad dymunol a’i fedrusrwydd meistrolgar, mae Abel Selaocoe, y chwaraewr soddgrwth o Dde Affrica, yn ail-ddiffinio’r offeryn ac wrth ei fodd yn gwneud hynny. Mae ei berfformiadau bywiog yn gymysgedd unigryw o gerddoriaeth glasurol a cherddoriaeth y byd ac mae’n cyfuno arddulliau chwarae traddodiadol â byrfyfyrio, canu a defnyddio’r corff fel offeryn taro. Bydd Simo Lagnawi yn ymuno ag ef ar y guembri (liwt tri llinyn Morocaidd) yn ogystal ag aelodau eraill o’i driawd ei hun, Chesaba, a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ar gyfer cyngerdd sy’n cwmpasu agweddau cerddorol eang.
CLARK RUNDELL Arweinydd ABEL SELAOCOE Soddgrwth/Llais SIMO LAGNAWI Guembri CHESABA COLABORATORY GYDA ABEL SELAOCOE
UNIGRYWCYFAREDDOLBRWDFRYDIG NOS IAU 8/6/23 8PM DEPOT, Caerdydd TYMOR 22-23 | TUDALEN 65
June 10 - 18 Mehefin 2023 www.bbc.co.uk/cardiffsinger @cardiffsinger
Mae lleihau gwastraff a gwerthuso ein heffaith amgylcheddol gyffredinol yn hanfodol i bopeth a wnawn yn BBC NOW, ac mae pob aelod o deulu BBC NOW yn gweithio i’n Strategaeth Cynaliadwyedd Amgylcheddol bwrpasol. Mae gennym hefyd Dîm Gwyrdd BBC NOW penodol, sy’n cynnwys cerddorion a staff, sy’n cyfarfod yn rheolaidd i edrych ar ffyrdd newydd o leihau ein heffaith amgylcheddol ymhellach, a gweithio gyda chyflenwyr a chontractwyr i leihau effeithiau ein perfformiadau, ein cyhoeddiadau a’n hadeiladau. Ar gyfer y tymor 22-23, rydyn ni’n lleihau faint o ddeunyddiau print sydd ar gael ac yn rhoi mwy ar-lein (gan gynnwys y llyfryn hwn, a’n rhaglenni cyngerdd digidol newydd!), gan gydweithio â chydweithwyr eraill yn y gerddorfa i ganfod a rhannu atebion mwy gwyrdd ac annog ein cynulleidfaoedd i ddod i gyngherddau ar drafnidiaeth gyhoeddus. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith TYMOR 22-23 | TUDALEN 67
O leihau plastig untro yn ein swyddfeydd, i deithio mewn ffordd fwy cynaliadwy i leihau ein hallyriadau carbon, mae BBC NOW yn helpu i leihau effaith amgylcheddol ein gwaith sut bynnag y gallwn ni.
Oeddech chi’n gwybod bod y Gerddorfa wedi teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yn unig ar gyfer ei hymweliad diweddar â Ffrainc, fel y gwnaeth y Corws ar ei thaith ddiweddar i Rennes.
GWEITHIO TUAG AT DDYFODOL GWYRDDACH
TUDALEN 68 | CERDDORFA A CHORWS CENEDLAETHOL CYMREIG Y BBC
TYMOR 22-23 | TUDALEN 69