Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC Cyngerdd Ymlaciol Dydd Sul 2 Gorffennaf 2017
STORI WELEDOL Stori Weledol yw hon i'ch cynorthwyo ar eich ymweliad â Neuadd Dewi Sant. Ei nod yw helpu i baratoi ymwelwyr ar gyfer profiad newydd ac fel eu bod yn fwy cyfarwydd â’r hyn sydd o’u cwmpas.
Os carech fwy o wybodaeth neu gymorth cysylltwch â ni yn jbailey@caerdydd.gov.uk neu ffoniwch 02920 878700
Croeso i Neuadd Dewi Sant lle byddwch yn gweld a gwrando ar gyngerdd gerddoriaeth glasurol gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Prif Fynedfa
Prif Fynedfa
Mynedfa i’r Anabl
•
Lleolir Neuadd Dewi Sant yng nghanol dinas Caerdydd.
•
Mae 2 – 5 gris i’r adeilad (gan ddibynnu ar ba ddrws y defnyddiwch)
•
Mae’r fynedfa i’r anabl nesa at y prif ddrysau mynediad, i’r naill ochr.
•
Pan gerddwch drwy’r prif ddrws byddwch ar y llawr gwaelod.
Llawr Gwaelod •
Ar y Llawr Gwaelod mae ein Swyddfa Docynnau
•
Os nad yw’ch tocynnau gennych yn barod, bydd angen i chi eu casglu pan gyrhaeddwch.
•
Gall y Swyddfa Docynnau fod yn brysur, a gall fod ciw o bobl yn aros i godi tocynnau.
•
Mae yna hefyd lifft, grisiau a grisiau symudol i’ch codi i’r lloriau uwch.
•
Gall fod yn brysur pan fo pawb yn cyrraedd a gadael y cyngerdd.
•
Mae i Neuadd Dewi Sant un lifft ar gyfer ymwelwyr i’w cario i’r lloriau uwch. Bydd yn codi i’r lloriau sydd y tu mewn i’r adeilad, fel arfer Lefelau 2,3,4 a 5.
•
Mae’r lifft ar y llawr gwaelod gerllaw’r Swyddfa Docynnau
•
Mae drychau y tu mewn i’r lifft.
•
Mae 2 risiau symudol ar y llawr gwaelod, a 2 arall o lefel 1 i 2.
•
Pan fo pobl yn cyrraedd ac angen mynd i fyny’r grisiau i’r cyngerdd bydd y grisiau symudol yn symud i fyny. Ar ddiwedd y cyngerdd, pan fo pawb yn awyddus i adael yr adeilad bydd y grisiau symudol yn symud am i lawr.
Box Office
•
Ceir grisiau arferol yng nghefn y cyntedd ar y llawr gwaelod. Mae rhywfaint o risiau wedyn llwyfan sy’n parhau at 21 o risiau sy’n arwain at ben grisiau Lefel 1.
•
Mae set arall o risiau yn parhau at Lefel 2
•
Ar Lefel 1 bydd rhai offerynnau ar gael i chi roi cynnig arnynt.
•
Bydd un neu ddau o aelodau’r gerddorfa yno i ddangos i chi sut mae eu hofferynnau nhw’n gweithio, a gallwch holi unrhyw beth iddynt.
•
Pan ewch i fyny i Lefel 2 fe welwch ffotograffau o sioeau a chyngherddau eraill sydd wedi bod yn Neuadd Dewi Sant.
•
Os carech egwyl yn ystod y perfformiad, gallwch ddefnyddio’r mannau ymlacio – edrychwch am yr arwydd yma ar Lefel 2, Lefel 3 a Lefel 5.
Lefel 1
Lefel 2
•
Mae yna siop losin ar Lefel 2 yn agos i waelod y grisiau. Gallwch brynu losin, hufen iâ a diodydd meddal yno.
•
Dyma’r grisiau i fyny at Lefel 3
•
Gall pobl fynd i fyny neu i lawr dwy ochr y grisiau yr un adeg.
Lefel 3 •
Mae yna ardal lwyfan fechan ar un pen i’r cyntedd â ffenestr liw fawr yn gefn iddi.
•
Mae bar yn rhedeg ar hyd ochr gofod y cyntedd (ar yr ochr dde wrth i chi ddod i fyny’r grisiau)
•
Wrth y bar gallwch brynu diodydd a byrbrydau
•
Gall yr ardal yma fod yn brysur ac efallai y bydd ciw o bobl wrth y bar yn prynu diodydd a byrbrydau i’w cael cyn ac wedi’r cyngerdd. Efallai y clywch hefyd sŵn y peiriant coffi.
Ystafell Llanelwy—Lefel 3 •
Mae Ystafell Llanelwy ychydig i’r naill ochr o’r prif gyntedd ar Lefel 3
•
Os carech egwyl yn ystod y perfformiad, gallwch ddod allan a threulio amser yn y babell synhwyro a fydd wedi ei godi yn yr ystafell yma. Gallwch ddychwelyd i’r cyngerdd pryd bynnag y dymunwch.
•
Dyma’r grisiau i fyny at Lefel 4
•
Gall pobl fynd i fyny neu i lawr dwy ochr y grisiau yr un adeg.
Fynedffa Awditoriwm—Lefel 3 (Drws A ac Drws B) •
Dyma’r drysau i fynd drwyddynt i’r prif awditoriwm i wylio’r cyngerdd.
•
Bydd staff y perfformiad yno i’ch helpu chi.
•
Efallai yr holan nhw i gael gweld eich tocyn fel y gallan nhw eich hebrwng chi i’ch sedd.
•
Dyma’r grisiau i fyny at Lefel 5.
•
Gall pobl fynd i fyny neu i lawr dwy ochr y grisiau yr un adeg.
•
Os carech egwyl yn ystod y perfformiad, gallwch ddefnyddio’r mannau ymlacio – edrychwch am yr arwydd yma ar Lefel 2, Lefel 3 a Lefel 5.
•
Dyma’r patrwm sydd i’w weld ar garped y cyntedd yn yr adeilad drwyddi draw.
Lefel 5
Cyfarfod y Staff... •
Bydd staff y Swyddfa Docynnau yn gwisgo topiau coch.
•
Bydd staff arlwyo Gwrywaidd a Benywaidd yn gwisgo crysau duon
•
Staff Blaen y Tŷ (awditoriwm, ystafell gotiau a’r siop losin) – bydd y merched yn gwisgo coch a du, a’r dynion yn gwisgo crys gwyn a thei goch.
Gwybodaeth Ychwanegol •
Mae sgrin deledu wedi ei osod ar y wal ar Lefelau 2,3 a 5 a fydd yn dangos yr hyn sy'n digwydd ar y llwyfan.
•
Caniateir cŵn tywys yn yr awditoriwm – rhowch wybod i ni wrth archebu tocynnau fel y gallwn wneud trefniadau.
•
Mae system glywed is goch yn yr awditoriwm ac mae modd ei ddefnyddio gyda neu heb gymorth clyw
•
Mae toiledau hygyrch wedi eu lleoli ar Lefelau 2,3,4, a 5. Mae cyfleusterau cymorth cyntaf a newid cewynnau babis ar gael ar Lefel 2. I gael gwybodaeth fanwl am y cyfleusterau sydd ar gael cysylltwch â joanne.john@caerdydd.gov.uk
•
Mae toiledau safonol i Ferched a Dynion ar lefelau 2,3 a 5
Awditoriwm •
Gelwir y brif neuadd yn Awditoriwm Dyma lle byddwch yn gwylio’r cyngerdd.
•
Byddwch yn gallu mynd i’r awditoriwm awr cyn dechrau’r perfformiad.
•
Y llwyfan yw lle bydd y gerddorfa yn chwarae. Mae yn y blaen ac yn uwch fel y gallwch weld popeth.
•
Bydd sgrin y tu ôl i’r gerddorfa a fydd yn dangos y bobl ar y llwyfan a symbolau i’ch helpu i weld y sioe yn well.
•
Bydd eich sedd yn edrych fel hyn
•
Bydd y cyngerdd yn para am un awr heb egwyl.
Y Gerddorfa •
Y gerddorfa yw grŵp o gerddorion sy’n chwarae ar y cyd.
•
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yw eu henw.
•
Enw’r arweinydd ar gyfer y cyngerdd hwn yw Grant
•
Pan fydd yn cerdded i’r llwyfan bydd y cyngerdd yn dechrau.
•
Bydd cyflwynydd o’r enw Andy a fydd yn cyflwyno’r darnau o gerddoriaeth
•
Bydd y cyngerdd hwn yn llawer o hwyl a bydd canu a dawnsio
Grant
Andy
Y Gerddoriaeth •
Bydd Grant a’r gerddorfa yn chwarae rhywfaint o gerddoriaeth. Bydd rhywfaint yn alawon y clywsoch o’r blaen, ac efallai y bydd rhai yn newydd i chi.
•
Os carech wrando ar y gerddoriaeth cyn dod i’r cyngerdd, cliciwch ar y ddolen isod fydd yn mynd â chi at wefan y BBC.
h ps://www.bbc.co.uk/events/exbzc8
Ar derfyn y cyngerdd, bydd y gerddorfa yn moesymgrymu a bydd hi’n adeg ymadael. Rydym yn gobeithio eich bod wedi mwynhau eich ymweliad.
Hwyl Fawr