Ffurflen Gais Cyfansoddi Cymru 2019

Page 1

FFURFLEN GAIS Cyfansoddi: Cymru 2019 gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC Cyfansoddi: Cymru gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC Dydd Mercher 30 Ionawr, dydd Llun 18 Chwefror a dydd Mawrth 19 Chwefror 2019 gyda Tommy Andersson Y nod yw arddangos gwaith gan gyfansoddwyr yng Nghymru sy'n deilwng o sylw ehangach, a chaiff ei drefnu ar y cyd â Cyfansoddwyr Cymru, Tŷ Cerdd, Gŵyl Bro Morgannwg a Chymdeithas Cerddoriaeth Cymru. LLENWCH Y FFURFLEN HON A'I HANFON GYDA'CH CYFANSODDIAD Caiff cyfansoddwyr gyflwyno hyd at 2 waith i'w hystyried ar gyfer y prosiect. Llenwch ffurflen ar wahân ar gyfer pob cyfansoddiad.

Enw _____________________________________________________________________________ Cyfeiriad __________________________________________________________________________ _____________________________________________Cod Post _____________________________ E-bost -___________________________________________________________________________ Rhif ffôn ____________________________Ffon symudol __________________________________

Enw'r cyfansoddiad a gyflwynir ____________________________________________ Rhestrwch isod fanylion unrhyw berfformiadau amatur blaenorol o'r cyfansoddiad a gyflwynir: __________________________________________________________________________________ __________________________________________________________________________________ Offeryniaeth _____________________________________________________________________ __________________________________________________________________________________ __________________________________________________________________________________ __________________________________________________________________________________ Ydych chi wedi cynnwys recordiad o’r gwaith rydych yn ei gyflwyno?

_________ Ydw / Nac ydw

Os yw ar gael, anfonwch recordiad Finale neu Sibelius electronig neu CD o'r sgôr llawn. Sylwer: nid yw hyn yn hanfodol.

Trowch y Dudalen →


Rwy'n cadarnhau’r canlynol:

□ □ □

Nid yw fy nghais i Cyfansoddi: Cymru wedi cael ei berfformio o'r blaen gan gerddorfa broffesiynol. Rwyf wedi darllen a deall holl Ganllawiau Cyfansoddi: Cymru Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Mae fy nghais i Cyfansoddi: Cymru yn bodloni'r holl feini prawf.

Ticiwch un o'r blychau isod i nodi pa gategori mynediad yr ydych ynddo, ac ychwanegwch eich llofnod:

Rwy'n gyfansoddwr a aned yng Nghymru ac wedi cwblhau addysg drydyddol.

Rwy'n gyfansoddwr sydd wrthi'n astudio ar Lefel Ôl-radd yng Nghymru.

Rwy'n gyfansoddwr sy'n byw yng Nghymru ar hyn o bryd ac wedi cwblhau addysg drydyddol.

Rwy'n gyfansoddwr a aned yng Nghymru sy’n astudio cyfansoddi ar Lefel Ôl-radd y tu allan i Gymru.

Bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC hefyd yn ystyried sgoriau gan gyfansoddwyr a aned yng Nghymru neu sy'n byw yng Nghymru ar hyn o bryd ac sy'n gallu dangos hanes sicr o gyfansoddi, heblaw cwblhau gradd mewn cerddoriaeth neu gymhwyster cyfwerth. Sylwch fod yn rhaid i gyfansoddwyr allu dangos eu bod wedi cael addysg gyfwerth a bod ganddynt lefel addas o brofiad neu gymhwysedd sy’n cymharu â'r categorïau a restrir uchod. Rhestrwch y manylion isod:

LLOFNOD _____________________________ PRINTIWCH EICH ENW_________________________

Dychwelwch y ffurflen gyda'ch gwaith i Cyfansoddi: Cymru 2019 at: Cyfansoddi: Cymru 2019 Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Neuadd Hoddinott y BBC, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF10 5AL.

Ffôn: 0800 052 1812

E-bost: now@bbc.co.uk


Datgelu data Mae’ch ymddiriedaeth chi yn bwysig iawn i ni. Mae’r BBC wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd a diogelwch eich gwybodaeth bersonol chi. Mae'n bwysig eich bod yn darllen yr hysbysiad hwn, ynghyd ag unrhyw hysbysiad polisi arall y gallwn ei ddarparu ar adegau penodol pan fyddwn yn casglu neu'n prosesu gwybodaeth bersonol amdanoch, er mwyn sicrhau eich bod yn gwybod sut a pham rydym yn defnyddio'r wybodaeth honno. Mae rhagor o wybodaeth am brosesu’n deg ar gael ym Mholisi Preifatrwydd y BBC. Os bydd anghysondeb rhwng y dogfennau hynny a'r hysbysiad hwn, yr hysbysiad hwn fydd yn drech. Beth y byddwn yn ei gasglu a sut byddwn yn ei ddefnyddio? Bydd y BBC yn casglu’r wybodaeth bersonol rydych chi’n ei rhoi i ni yn y ffurflen hon, gan gynnwys eich enw a’ch gwybodaeth ynghylch mynediad/iechyd. Mae gan y BBC reswm cyfreithiol dros gasglu eich gwybodaeth bersonol at ddibenion caniatâd ac i fodloni gofynion o ran diogelu plant ac iechyd a diogelwch. Cadw eich gwybodaeth bersonol Bydd eich data yn cael ei storio mewn modd diogel a chyfrinachol yn Dropbox tan 30 Medi 2019, wedyn bydd eich ffurflen ganiatâd yn cael ei dileu. Bydd y BBC yn cadw’r wybodaeth bersonol a gafodd ei darparu ar eich ffurflen ganiatâd am gyfnod amhenodol mewn taenlen sydd â chyfrinair diogel, yn unol â’r ddeddfwriaeth ynghylch caniatâd cyfranwyr. Bydd unrhyw wybodaeth nad oes ei hangen mwyach at ddibenion caniatâd yn cael eu dileu pan fydd y prosiect yn cael ei gwblhau. Rhannu eich gwybodaeth Bydd yr wybodaeth rydych chi’n ei darparu yn cael ei rhannu â rheolwyr prosiect Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn ôl yr angen, ond ni fydd yn cael ei rhannu â thrydydd partïon. Bydd yr holl wybodaeth yn cael ei thrin yn gyfrinachol. Eich hawliau a rhagor o wybodaeth Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau am y ffordd y mae’r BBC yn delio â’ch gwybodaeth bersonol, neu os ydych yn dymuno cysylltu â'r BBC i arfer eich hawliau mewn perthynas â’ch gwybodaeth bersonol, ewch i http://www.bbc.co.uk/usingthebbc/privacy neu gysylltu â dpa.officer@bbc.co.uk. Os byddwch yn cyflwyno cwyn i’r BBC am y ffordd y gwnaeth ddelio â'ch gwybodaeth bersonol, ac nad ydych chi’n fodlon ag ymateb y BBC i’ch cwyn, mae gennych chi hawl i gwyno wrth awdurdod goruchwylio. Yn y DU, yr awdurdod goruchwylio yw Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). Gallwch gysylltu â’r Swyddfa yn: https://ico.org.uk/concerns/.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.