Tymor Cyngherddau Abertawe 2014
Cynnwys Cyngherddau Theatr y Grand Abertawe
tud 4-10
Cyngherddau Neuadd Hoddinott y BBC
tud 11-12
Pecynnau a Gwybodaeth am Archebu Tocynnau
tud 13-14
Dyddiadur Cyngherddau 2013-14
tud 15
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
Noddwr HRH The Prince of Wales KG KT PC GCB Prif Arweinydd Thomas Søndergård Arweinydd Llawryfog Tadaaki Otaka CBE Cyfansoddwr Cysylltiedig Simon Holt Cyfansoddwr Preswyl Mark Bowden
Cyfarwyddwr Artistig Adrian Partington
Mae’r llyfryn yma ar gael hefyd mewn print bras ac ar dâp i bobol â nam ar eu golwg. I gael copïau, cysylltwch â ni ar 0800 052 1812, neu ysgrifennu atom yn: Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, RHADBOST SWC2803, Caerdydd, CF5 2GZ, neu e-bostio:now@bbc.co.uk Mae’r holl wybodaeth yn y llyfryn yma yn gywir ar adeg mynd i’r wasg. Fodd bynnag, o ganlyniad i ofynion darlledu, neu am reswm da arall, ceidw Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yr hawl i wneud newidiadau lle bo angen a heb rybudd ymlaen llaw. Os digwydd y fath beth byddem yn ymddiheuro am unrhyw drafferth a achoswyd ac yn rhoi ar ddeall i chi ei fod heb effeithio ar eich hawliau statudol fel defnyddiwr.
Croeso i Theatr y Grand Abertawe Croeso i dymor cyngherddau Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn Abertawe. Eleni rydym yn edrych ymlaen at droedio’r llwyfan yn Theatr y Grand, yn ystod ailwampio Neuadd Brangwyn – ond byddwch dawel eich meddyliau, byddwn yn ein holau yn ein hannwyl Neuadd Brangwyn pan ailagora yn hydref 2014. Mae gennym chwe chyngerdd ar eich cyfer yn cynnwys hoff glasuron ynghyd â rhai pethau prin. Bydd rhes o arweinwyr rhyngwladol yn cyfarwyddo’r perfformiadau, gan gynnwys ein Prif Arweinydd ein hunain Thomas Søndergård, ac mae’r unawdwyr y tymor yma, unwaith yn Artistiaid y Genhedlaeth Newydd y BBC Radio 3, bellach ymhlith perfformwyr ifainc blaenllaw’r byd. Gobeithio’n wir y dewch aton ni i’r hyn sy’n addo bod yn dymor symbylol a difyr.
0800 052 1812
bbc.co.uk/now
01792 475715
swanseagrand.co.uk
Y dyluniad gan Adran Graffeg BBC Cymru Wales Y lluniau © Huw John a Betina Skovbro Disgrifiadau’r cyngherddau gan Peter Reynolds Y cyfieithiad Cymraeg gan Annes Gruffydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC Neuadd Hoddinott y BBC, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF10 5AL
1
2
Artistiaid y Genhedlaeth Newydd BBC Radio 3
Symffoni New World Dvořák
Y tymor yma bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn perfformio yn Abertawe ochr yn ochr â chyn-aelodau o gynllun Artistiaid y Genhedlaeth Newydd BBC Radio 3 – ac un o gyn-aelodau’r cynllun yn perfformio ym mhob un o’n chwe chyngerdd.
GWENER 31.01.2014, 7.30pm
Mae cynllun Artistiaid y Genhedlaeth Newydd Radio 3 yn gymorth i gefnogi cerddorion dawnus i gyrraedd y camau nesaf ar eu gyrfaoedd, ac mae’n dod â pheth o ddawn fwyaf addawol y byd i wrandawyr trwy hyd a lled gwledydd Prydain drwy ddarllediadau Radio 3. Mae Artistiaid y Genhedlaeth Newydd yn dod o faes eang ac yn cynrychioli’r artistiaid ifainc mwyaf cyffrous o Brydain ac o bedwar ban byd.
DVOr˘ÁK Symffoni Rhif 9 (From the New World)
Bob hydref mae chwech neu saith o artistiaid neu grwpiau sy’n dechrau gadael eu hôl ar fyd cerdd yn y gwledydd hyn a gweddill y byd yn cael eu gwahodd i ymuno, ac yn rhan o’r cynllun mae’r artistiaid yn ymddangos ledled gwledydd Prydain gyda phum Cerddorfa’r BBC, yn ogystal ag ymddangos yn y BBC Proms ac ar recordiadau stiwdio arbennig.
Cyfansoddodd Miklós Rózsa rai o sgorau ffilm mwyaf Hollywood, megis Ben Hur, yn ogystal â dod â swyn y sgrin arian at ei weithiau cyngerdd – dewch aton ni i gael cyfle prin i glywed ei Concerto Fiola rhamantaidd. Dyma gychwyn y tymor yn wefreiddiol â Symffoni New World Dvor˘ák, sy’n byrlymu gan fywiogrwydd Americanaidd a dwyster Tsiec, dan arweiniad Anu Tali.
LISZT Prometheus RÓZSA Concerto Fiola
Arweinydd Anu Tali Fiola Lawrence Power
Bellach ar ei bedwaredd flwyddyn ar ddeg, mae’r cynllun wedi cynhyrchu cyn-aelodau o fri ac rydym wrth ein boddau o weld chwech o’r cyn-aelodau hynny yn ymuno â ni yn Theatr y Grand Abertawe eleni. Am ragor o wybodaeth ynghylch cynllun Artistiaid y Genhedlaeth Newydd Radio 3 ac i weld cymanfa 2013 sydd newydd ei datgelu ewch i bbc.co.uk/radio3 Abertawe yn 2014 – yn croesawu rhai o gyn-aelodau’r cynllun 31 Ionawr - Lawrence Power (fiola, 2001-2003) 21 Chwefror - Alban Gerhardt (soddgrwth, 1999-2001) 14 Mawrth - Emily Beynon (ffliwt, 1999-2001) 2 Mai - Andrew Kennedy (tenor, 2005-2007) 30 Mai - Ailish Tynan (soprano, 2003-2005) 20 Mehefin - Jennifer Pike (ffidil, 2008-2010)
3
Lawrence Power yn chwarae Concerto Fiola Rózsa
Barn y Beirniaid
Saethodd enw Lawrence Power i ben uchaf byd cerddoriaeth glasurol yn un o ganwyr fiola blaenllaw’r oes sydd ohoni, a’i ddyddiadur yn orlawn o alwadau gyda llawer o gerddorfeydd blaenllaw’r byd.
“Mae Lawrence Power yn canu â thôn cyn dywylled â soddgrwth a thechneg mor heini â ffidler – y cyfuniad delfrydol.” The Observer
4
Søndergård yn Arwain Mozart GWENER 21.02.2014, 7.30pm BARTÓK Divertimento BARBER Concerto Soddgrwth MOZART Symffoni Rhif 40 Arweinydd Thomas Søndergård Soddgrwth Alban Gerhardt Pan gyfansoddodd ei Ddeugeinfed Symffoni athrist roedd Mozart ar anterth ei greadigedd, serch ei bod yn fain arno a’i blentyn ieuaf wedi marw’n ddiweddar. Daw’r Prif Arweinydd Thomas Søndergård yn ei ôl i Abertawe i arwain symffoni fawr Mozart a’r Concerto Soddgrwth chwerwfelys gan Samuel Barber, sydd fwyaf adnabyddus ar gorn ei Adagio i’r Tannau sydd mor annwyl gennym.
Alban Gerhardt yn chwarae Concerto Soddgrwth Barber
Barn y Beirniaid
Mae Alban Gerhardt yn un o soddgrythorion eithriadol yr Almaen, bellach ar ei orau, a’i berfformiadau’n cyfuno ymateb teimladol i’r byw â phresenoldeb llwyfan sy’n hoelio’r sylw.
“Dyma i chi rywun gwirioneddol arbennig, pencerddor a chanddo dôn atseiniol, gwir gydnawsedd â llinell, bwa staccato medrus a smaldod cerddorol i’w groesawu.” The Independent
5
01792 475715
swanseagrand.co.uk
Eroica Beethoven
Hwyrgan y Gwanwyn
GWENER 14.03.2014, 7.30pm
GWENER 02.05.2014, 7.30pm
STRAVINSKY Concerto y D (Basle) CARL VINE Pipe Dreams: Concerto i’r ffliwt a’r tannau BEETHOVEN Symffoni Rhif 3 (Eroica)
RAVEL Le tombeau de Couperin BRITTEN Hwyrgan i Denor, Corn a Thannau DEBUSSY Petite suite SCHUMANN Symffoni Rhif 1 (Gwanwyn)
Arweinydd Jurjen Hempel Ffliwt Emily Beynon Fe fu i Symffoni Eroica Beethoven newid wyneb cerddoriaeth. Ysgubwyd cynulleidfaoedd cynnar gan ei grym elfennol a’i mawredd arwrol ac felly y mae hi hyd heddiw. Mae Pipe Dreams y cyfansoddwr o Awstralia Carl Vine, a chwaraeir gan y Gymraes Emily Beynon, yn deffro yn y cof fyd hiraethus meddyliol o synfyfyrdod tyner, tra mae Concerto Stravinsky yn llawn goleuni a gosgeiddrwydd.
Emily Beynon yn chwarae Concerto Ffliwt Cyntaf Mozart Mae’r Gymraes Emily Beynon, prif ganwr ffliwt Concertgebouw Amsterdam, wedi rhyddhau rhes o recordiau solo rhyngwladol ac mae newydd ymuno â’r Brodsky Quartet a’r Nash Ensemble mawr eu bri fel gwestai i roi perfformiadau byw trawiadol.
7
Barn y Beirniaid “Atgofus ... syfrdanol ... nid hawdd cymell cynulleidfaoedd i ddatganiadau ffliwt, ond mae gan Beynon y ddawn i gael gan lawer fynd yn ffrindiau â’i hofferyn.” The Sunday Times
Arweinydd Christoph König Tenor Andrew Kennedy Corn Tim Thorpe Mae Andrew Kennedy a Tim Thorpe (Prif Ganwr Corn Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC) wrth law i ganu i’r gynulleidfa hwyrgan Britten sy’n deffro’r gwyll a’r hwyrnos yn hudol yn y cof. Yn yr awyr agored rydym fyth yn Symffoni Gyntaf Schumann sydd, chwedl y cyfansoddwr, “yn llawn hiraeth am y gwanwyn a phopeth gwyrdd yn tyfu.”
Andrew Kennedy yn canu Hwyrgan Britten Yn yr wyth mlynedd ers ennill Gwobr Datganiad Rosenblatt BBC Canwr y Byd Caerdydd nid yn unig y daeth clod i ran Andrew Kennedy fel canwr opera ond daeth bron yn gyfystyr â thraddodiad cerddoriaeth Lloegr o Elgar hyd at Britten.
Barn y Beirniaid “Roedd yr unawdwyr Andrew Kennedy a Tim Thorpe yn dal i’r dim yr awyrgylch llymach, annaearol yn aml, sydd i’r gerddoriaeth,. Gyda’i gilydd daethant â drama operatig bron i’r Farwnad a buander hyfryd i ddelweddau hela’r Emyn.” The Guardian yn sôn am berfformiad Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC o Hwyrgan Britten
8
9
Pedwaredd Symffoni Mahler
Ail Symffoni Brahms
GWENER 30.05.2014, 7.30pm
GWENER 20.06.2014, 7.30pm
HAYDN Symffoni Rhif 87 MOZART Ah, lo previdi! MAHLER Symffoni Rhif 4
DVOr˘ÁK Agorawd Carnifal BRUCH Concerto Ffidil Rhif 1 BRAHMS Symffoni Rhif 2
Arweinydd Jac van Steen Soprano Ailish Tynan
Arweinydd Cornelius Meister Ffidil Jennifer Pike
Disgrifiwyd Pedwaredd Symffoni fwynlais Mahler fel “gwaith i blant ac i’r rheini a ddaw’n blant” a daw i ben mewn darlun o olwg plentyn ar y Nef, i soprano, a ganir yma gan Ailish Tynan. Mae ei hysbryd clasurol ysgafn gosgeiddig hefyd i’w glywed yn hwyliau da Haydn ac arnynt flas y pridd, ac yn aria gyngerdd fawr gyntaf Mozart a harddwch tyner ei hadran ganol.
Dau o weithiau dathliadol mawr: hwyliau da Agorawd Carnival Dvor˘ák nad oes maddau iddynt, a ffresni gwanwyn a hwyliau llawen Ail Symffoni Brahms, un o’r symffonïau rhamantaidd mwyaf poblogaidd oll. Mae yma hefyd angerdd glasoed Concerto Ffidil Cyntaf Bruch, gem o gerddoriaeth ffidil ramantaidd, a chwaraeir yma gan Jennifer Pike.
Ailish Tynan yn canu Mahler
Barn y Beirniaid
Yn ystod y degawd a aeth heibio bu beirniaid yn canmol i’r cymylau gyfuniad Ailish Tynan o ffraethineb Gwyddelig a swyn sionc, ynghlwm â’i llais soprano ffres ac ysgafn ond eto grymus.
“...Cyfareddol? Roeddwn yn meddwl fy mod wedi mynd i’r nef. Dyna lais. Dyna artist. Dyna ddifyrrwr naturiol.” The Herald, yr Alban
Jennifer Pike yn chwarae Concerto Ffidil Cyntaf Bruch Un o enillwyr cynt Cerddor Ifanc y BBC 2002 a bellach un o ffidleriaid ifainc blaenllaw Prydain.
Barn y Beirniaid “…y mwyaf trawiadol o’r canwyr heb flewyn ar dafod... A chanddi, yn un ar bymtheg oed, gyweirio aruthrol, cyflymdra, rheolaeth ar timbre ac amrywiaeth egni, tynnodd y lle i lawr.” The Independent
10
Cyngherddau yn Neuadd Hoddinott y BBC Mae cartref y Gerddorfa yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Neuadd Hoddinott y BBC yn llywyddu cyngherddau prynhawn a chyfres gyfareddol o gerddoriaeth gyfoes.
AMERICANA GWENER 18.10.2013, 2pm
GWENER 06.12.2013, 8pm
JOHN ALDEN CARPENTER
Er Clod i’r Côr DVOr˘ÁK Offeren yn D
Adventures in a perambulator
AARON COPLAND Concerto Piano WILLIAM Schuman Symffoni Rhif 3
Cerddoriaeth gan Clara a Robert Schumann, a Fanny a Felix Mendelssohn
Arweinydd Wilson Hermanto Piano William Wolfram
Arweinydd Adrian Partington Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
CYFOES MAWRTH 29.10.2013, 7.30pm
GWENER 20.12.2013, 2pm
BERG Concerto Ffidil SIMON HOLT The Yellow Wallpaper
MOZART Concerto Piano Rhif 26 (Coronation) DEBUSSY La Mer
(Darn comisiwn BBC Radio 3, Première Byd) FRANZ SCHMIDT Symffoni Rhif 4
Arweinydd Jun Märkl Piano Llyˆr Williams
Arweinydd Thierry Fischer Soprano Elizabeth Atherton Ffidil Baiba Skride
MAWRTH 29.04.2014, 2pm
MAWRTH 28.01.2014, 7pm POUL RUDERS Kafkapriccio PELLE GUDMUNDSEN-HOLMGREEN Symphony Antiphony Arweinydd Thomas Søndergård
MAWRTH 25.02.2014, 7pm PIERRE BOULEZ Domaines
MAWRTH 19.11.2013, 2pm
MAWRTH 21.01.2014, 7.30pm
NED ROREM Eagles JOHN ADAMS Gnarly Buttons DAVID Diamond Rounds for String Orchestra ROY Harris Symffoni Rhif 9
Dathliad Pumlwyddiant
Arweinydd Eric Stern Clarinét Mark Simpson (Artistiad y Genhedlaeth Newydd BBC Radio 3)
Arweinydd Grant Llewellyn Soprano Rosemary Joshua Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
Arweinydd Carlos Kalmer Ffliwt Adam Walker
11
Arweinydd Otto Tausk Clarinét Robert Plane
MAWRTH 25.03.2014, 7pm CYFANSODDI: CYMRU TOCYNNAU AM DDIM
Tocynnau Tymor Americana £9-£12
0800 052 1812 wmc.org.uk
bbc.co.uk/now
029 2063 6464
SMETANA Agorawd, Y Briodasferch a Ffeiriwyd TCHAIKOVSKY Amrywiadau Rococo SUK Symffoni Rhif 2 Arweinydd Christoph König Soddgrwth Leonard Elchenbroich
MAWRTH 03.06.2014, 2pm BARTÓK Cyfres Ddawns BRUCH Concerto i’r clarinét a’r fiola TCHAIKOVSKY Symffoni Rhif 2 Arweinydd Thomas Søndergård Fiola Lisa Berthaud Clarinét Robert Plane
MAWRTH 17.06.2014, 2pm
Arweinydd Jac van Steen
LLUN 02.12.2013, 2pm AARON COPLAND El Salon Mexico RANDALL THOMPSON Symffoni Rhif 2 HOWARD HANSON Elegy LEONARD Bernstein Halil WALTER PISTON The Incredible Flutist
Prynhawniau
Tymor Cyfoes a Dathliad y Corws £8-£10 Cyngherddau Prynhawn £9-£12 Cyngerdd y Pumlwyddiant £15
WAGNER Agorawd, Tannhauser MOZART Concerto Piano Rhif 21 R. STRAUSS Aus Italien Arweinydd Cornelius Meister Piano Zhang Zuo (Artistiad y Genhedlaeth Newydd BBC Radio 3)
Mae modd codi tocynnau naill ai drwy Linell Cynulleidfaoedd y Gerddorfa neu Swyddfa Docynnau Canolfan Mileniwm Cymru. Codi tocynnau drwy Ganolfan Mileniwm Cymru: Mae tâl o £1 y tocyn am godi tocynnau ar lein. Mae tâl o £1.50 y tocyn am godi tocynnau dros y ffôn, drwy’r post neu’n bersonol â cherdyn talu. Does dim tâl os codwch docynnau’n bersonol yn y swyddfa docynnau, a thalu ag arian parod neu docynnau anrheg CMC.
12
Pecynnau Cyngherddau: Ymunwch â’n Teulu Ni Dewch aton ni ar daith gerddorol trwy gydol y tymor ac arbed arian ar y ffordd!
Tocynnau Sengl Prisiau tocynnau:
Pecyn Cyngherddau – Codwch docynnau i bob un o’r chwe chyngerdd a chael: •
Tocynnau pris llawn 20% yn rhatach
•
Rhaglen cyngerdd AM DDIM ym mhob digwyddiad
•
Tocynnau Nwyddau Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC gwerth £12
•
Tocynnau am ddim i gyngherddau yn ein cyfres Cyfoes yn Neuadd Hoddinott y BBC
•
Dau gyngerdd arall a ddewiswch chi yn Neuadd Hoddinott y BBC 50% yn rhatach (gweler y manylion ar dudalen 11-12)
•
A gwahoddiad i groeso dethol i danysgrifwyr.
Pris Llawn
Tocyn Mantais (10%)
Tanysgrifiad (20%)
£15.50
£13.95
£12.40
£14
£12.60
£11.40
£12.50
£11.25
£10
Mae modd codi tocynnau sengl drwy Linell Cynulleidfaoedd y Gerddorfa ar 0800 052 1812 a thrwy Swyddfa Docynnau Theatr y Grand ar 01792 475715. Am godi tocynnau drwy Theatr y Grand, mae tâl o 50c y tocyn fel cyfraniad tuag at y Gronfa Atgyweirio. Mae tâl o £2.50 y pryniant am godi tocynnau ar lein. Ychwanegir tâl o 2% am godi tocynnau â cherdyn credyd.
AALN;6C
AA6LG <L6:AD9
8NA8= B6LG
8NA8= J8=6;
I godi’ch pecyn cyngherddau, ffoniwch ni am ddim yn Llinell Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ar 0800 052 1812. Tocynnau Mantais Mae disgowntiau ar gael i gyngherddwyr anabl, defnyddwyr cadeiriau olwyn, hawlwyr a phobol dros eu 65 - gofynnwch am fanylion pan fyddwch yn codi tocynnau.
Dyddiadau codi tocynnau Mae’r cyfnod codi pecynnau cyngherddau dros y ffôn a thrwy’r post bellach wedi dechrau, yn uniongyrchol gyda’r Gerddorfa’n unig. Mae’r cyfnod codi tocynnau i grwpiau o 10 neu fwy o bobol yn dechrau ar 28.10.2013. Mae’r cyfnod cyffredinol codi tocynnau i gyngherddau sengl yn dechrau ar 04.11.2013.
Teuluoedd Dewch aton ni fel teulu i arbed arian: 1 oedolyn a hyd at 2 o blant £12.50; 2 oedolyn a hyd at 4 o blant £18.
Myfyrwyr
Talebau Credyd Os codwch docynnau a chael eich bod yn methu dod, does rhaid i chi ond rhoi caniad i’r Llinell Cynulleidfaoedd a gallwn gredydu gwerth eich tocyn i chi’i ddefnyddio rywbryd eto.
Caiff myfyrwyr a chanddyn nhw gerdyn dilys Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr a phobol ifanc dan 18 oed godi’r tocynnau gorau sydd ar gael am ddim ond £6 yr un.
Grwpiau
0800 052 1812
bbc.co.uk/now
01792 475715
Dewch fel grw ˆ p o 10 neu fwy a chael disgownt 15%. swanseagrand.co.uk
Mae manylion llawn ein gwybodaeth archebu cyffredinol i’w cael ar ein gwefan: bbc.co.uk/now
13
14
BBC HH / NH y BBC SDH / NDS
8PM 7PM 2PM 3PM & 7PM 7.30PM 7.30PM 7.30PM 7.30PM 7.30PM 7.30PM 7.30PM 7.30PM 3PM 7.30PM 7.30PM 7.30PM
FRI / GWE 06.12.13 TUE / MAW 17.12.13 FRI / GWE 20.12.13 SAT / SAD 21.12.13 TUE / MAW 21.01.14 FRI / GWE 24.01.14 TUE / MAW 28.01.14 FRI / GWE 31.01.14 FRI / GWE 07.02.14 THU / IAU 13.02.14 FRI / GWE 14.02.14 SAT / SAD 15.02.14 SUN / SUL 16.02.14 THU / IAU 20.02.14 FRI / GWE 21.02.14 TUE / MAW 25.02.14
7.30PM 2PM 7.30PM
FRI / GWE 13.06.14 TUE / MAW 17.06.14 FRI / GWE 20.06.14
SWG / TGA
BBC HH / NH y BBC
SDH / NDS
BBC HH / NH y BBC
SWG / TGA
SDC / EGT
BBC HH / NH y BBC
SDH / NDS
SWG / TGA
BBC HH / NH y BBC
BBC HH / NH y BBC
SDH / NDS
Dvorˇák, Bruch, Brahms
Wagner, Mozart, R. Strauss
Haydn, Brahms
Bartók, Bruch, Tchaikovsky
Haydn, Mozart, Mahler
St Davids Cathedral Festival
NOW it’s your turn!
Vale of Glamorgan Festival / Gwˆ yl Bro Morgannwg
Vale of Glamorgan Festival / Gwˆ yl Bro Morgannwg
Brahms, Beethoven
Ravel, Britten, Debussy, Schumann
Smetana, Tchaikovsky, Suk
Composition: Wales / Cyfansoddi: Cymru
Martinu˚, Dvorˇák, Bartók
Stravinsky, Vine, Beethoven
St David’s Day Gala / Gala Dydd Gwˆyl Dewi
Boulez
Bartók, Barber, Mozart
Bartók, Barber, Mozart
Berlioz, Bruch, Rimsky-Korsakov
Berlioz, Bruch, Rimsky-Korsakov
Beethoven, Mozart, Schubert
Beethoven, Mozart, Schubert
Mahler
Liszt, Rózsa, Dvorˇák
Gudmundsen-Holmgreen, Ruders
Honegger, Rachmaninov, Fauré
Five Year Anniversary Concert / Dathliad Pumlwyddiant
Christmas Celebrations / Dathlu’r Nadolig
Mozart, Debussy
Christmas Celebrations / Dathlu’r Nadolig
Dvorˇák
Copland, Thompson, Hanson, Bernstein, Piston
Prokofiev, Rachmaninov
Elgar, Lloyd
Rorem, Adams, Diamond, Harris
Szymanowski, Brahms
Dvorˇák, Tchaikovsky
Dvorˇák, Tchaikovsky
Dvorˇák, Tchaikovsky
Stravinksy, Mozart
Berg, Holt, Schmidt
Carpenter, Copland, Schuman
PJH / NPJ - Neuadd Prichard-Jones Hall, Bangor WAH / NWA - Neuadd William Aston Hall, Wrexham / Wrecsam VC - Venue Cymru, Llandudno THC / NyDC - Town Hall / Neuadd y Dref, Cheltenham TC / EGT - Truro Cathedral / Eglwys Gadeirial Truro MC / CM - Marlborough College / Coleg Marlborough STP – Sir Thomas Picton School, Haverfordwest / Ysgol Syr Thomas Picton, Hwlffordd
Cornelius Meister
Cornelius Meister
Thomas Søndergård
Thomas Søndergård
Jac van Steen
Jac van Steen
Grant Llewellyn
David Atherton
Duncan Ward
Tadaaki Otaka
Christoph König
Christoph König
Jac van Steen
Jac van Steen
Jurjen Hempel
Grant Llewellyn
Otto Tausk
Thomas Søndergård
Thomas Søndergård
Nicholas Collon
Nicholas Collon
Nicholas Collon
Nicholas Collon
Thomas Søndergård
Anu Tali
Thomas Søndergård
Thierry Fischer
Grant Llewellyn
Grant Llewellyn
Jun Märkl
Grant Llewellyn
Adrian Partington
Carlos Kalmar
Elvind Gullberg Jensen
Martyn Brabbins
Eric Stern
Olari Elts
Michael Francis
Michael Francis
Michael Francis
Jac van Steen
Thierry Fischer
Wilson Hermanto
Conductor Arweinydd Programme Rhaglen
SWG / NGA - Swansea Grand Theatre / Neuadd y Grand Abertawe BBC HH / NH y BBC - BBC Hoddinott Hall, Cardiff / Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd SDH / NDS - St David’s Hall, Cardiff / Neuadd Dewi Sant, Caerdydd SDC / EGT - St David’s Cathedral / Eglwys Gadeiriol Tyddewi AAC / CyCA - Aberystwyth Arts Centre / Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Key Allwedd
2PM
TUE / MAW 03.06.14
7PM
SAT / SAD 17.05.14
7.30PM
7PM
WED / MER 14.05.14
FRI / GWE 30.05.14
SDH / NDS
7.30PM
FRI / GWE 09.05.14
7PM
7.30PM
FRI / GWE 02.05.14
7PM
2PM
TUE / MAW 29.04.14
FRI / GWE 23.05.14
7PM
TUE / MAW 25.03.14
THU / IAU 29.05.14
SDH / NDS
7.30PM
FRI / GWE 21.03.14
SDH / NDS
FRI / GWE 14.03.14
SWG / TGA
7PM 7.30PM
SAT / SAD 01.03.14
BBC HH / NH y BBC
SWG / TGA
THC / NyDC
VC
WAH / NWA
PJH / NPJ
AAC / CyCA
SDH / NDS
SWG / TGA
BBC HH / NH y BBC
STP
BBC HH / NH y BBC
SDH / NDS
BBC HH / NH y BBC
BBC HH / NH y BBC
SDH / NDS
TC
BBC HH / NH y BBC
SDH / NDS
2PM
7.30pm
FRI / GWE 15.11.13
VC
MON / LLUN 02.12.13
3PM
SUN / SUL 10.11.13
PJH / NPJ
7.30PM
7.30PM
SAT / SAD 09.11.13
AAC / CyCA
THU / IAU 28.11.13
7.30PM
FRI / GWE 08.11.13
MC
2PM
7.30PM
SUN / SUL 03.11.13
BBC HH / NH y BBC
7.30PM
7.30PM
TUE / MAW 29.10.13
BBC HH / NH y BBC
SAT / SAD 23.11.13
2PM
FRI / GWE 18.10.13
Venue Lleoliad
TUE / MAW 19.11.13
Time Amser
Date Dyddiad
2013-14 Concert Diary Dyddiadur Cyngherddau