Gwybodaeth i’ch helpu yn eich profedigaeth
Llyfryn Cefnogaeth mewn Profedigaeth
Cyhoeddwyd gan RNS Publications © Ffôn: 01253 832400 R9
Ymdopi â’r pethau ymarferol yn dilyn profedigaeth .............................. 1 Pan fydd marwolaeth yn digwydd mewn ysbyty ................................... 1 Pan fydd marwolaeth yn digwydd yn y gymuned ................................. 4 Ymweld â’ch anwylyd .......................................................................... 4 Dillad a phethau gwerthfawr ............................................................... 5 Rhoi meinweoedd y corff ..................................................................... 5 Cysylltu â Threfnydd Angladdau ........................................................... 6 Y Crwner ............................................................................................. 7 Post-mortem ysbyty ............................................................................. 7 Os oes angen cwêst ............................................................................. 8 Cofrestru marwolaeth .......................................................................... 8 Map lleoliad Swyddfeydd Cofrestru ...................................................... 9 Ar ôl yr angladd ................................................................................... 13 Pan fydd rhywun yn marw ................................................................... 13 Sefydliadau Cefnogi ............................................................................. 16 Atal Post Sothach i’r un fu farw’n ddiweddar ....................................... 20 Beth all teulu a ffrindiau ei wneud i helpu ............................................ 21 Siarad â phlant am farwolaeth ............................................................. 22 Y dyfodol ............................................................................................. 22
Cynnwys
Ymdopi â’r pethau ymarferol yn dilyn profedigaeth
Hoffen ddatgan ein cydymdeimlad diffuant â chi a’ch teulu ar yr adeg hon.
Gall marwolaeth anwylyd fod yn drallodus iawn ac mae galaru yn ymateb normal i golled neu farwolaeth. Gall galar effeithio ar bobl mewn llawer o wahanol ffyrdd.
Yn aml gall y tasgau a’r elfennau ymarferol yn dilyn marwolaeth gymryd drosodd a llethu teuluoedd yn ystod yr wythnosau cyntaf.
Yn ystod yr amseroedd hyn mae’n anodd prosesu eich colled a dechrau galaru, efallai na fydd galar yn digwydd tan ar ôl i’r holl bethau ymarferol gael eu cyflawni.
Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn paratoi’r holl waith papur angenrheidiol, yn cysylltu â’r Swyddfa Gofrestru, a’r Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol, neu swyddfa’r Crwner i’ch cynorthwyo i gael y dystysgrif marwolaeth.
Gall Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda hefyd eich helpu i gael mynediad at Wasanaethau Profedigaeth Arbenigol a gwasanaethau yn eich cymuned a allai eich helpu yn ystod y cyfnod trallodus hwn.
Pan fydd marwolaeth yn digwydd mewn ysbyty
Yn unol â deddfwriaeth newydd, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithio’n agos gyda’r Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol i lenwi Tystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth. Mae’r Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol yn cynnal archwiliad annibynnol o bob marwolaeth. Bydd yn cysylltu â’r meddyg sy’n ymwneud â gofal eich anwylyd, i drafod achos y farwolaeth, bydd hefyd yn cysylltu â chi i gael eich safbwyntiau a’ch barn.
Unwaith y cytunir ar achos marwolaeth, anfonir y Dystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth i’r Swyddfa Gofrestru leol. Mae angen y Dystysgrif hon ar y Gwasanaeth Cofrestru i gofrestru’r farwolaeth.
Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen cynnwys y Crwner, a gallai hyn achosi oedi yn y broses hon.
1
Gallwch gysylltu â’r Gwasanaethau Profedigaeth ar y rhifau canlynol:
Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin
Ffoniwch y switsfwrdd ar 01267 235151 a gofyn am blîp 161, y Gwasanaeth Gofal ar ôl Marwolaeth, 8am - 4pm dydd Llun i ddydd Gwener.
Os bu farw eich anwylyd yn Uned Gofal Critigol Ysbyty
Glangwili, cysylltwch â’r adran yn uniongyrchol ar 01267 248691
Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli
Ffoniwch y switsfwrdd ar 01267 235151 a gofyn am blîp 161, y Gwasanaeth Gofal ar ôl Marwolaeth, 8am - 4pm dydd Llun i ddydd Gwener.
Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd
Cysylltwch â’r Swyddogion Profedigaeth ar: 01437 773564 Est: 3564 (WHTN 01720 3564) 01437 772347 Est: 2347 (WHTN 01720 2347)
Ysbyty Bronglais, Aberystwyth
Ffoniwch y clercod wardiau i’ch helpu ar 01970 623131
Os yn bosib, sicrhewch fod y wybodaeth ganlynol yn barod
• Eich rhif ffôn fel y gellir cysylltu â chi pan fydd y dystysgrif wedi’i hanfon ymlaen at y Gwasanaeth Cofrestru.
• P’un ai fydd claddedigaeth neu amlosgiad yn digwydd, a fydd yn galluogi paratoi’r gwaith papur perthnasol ar gyfer y trefnydd angladdau.
• Enw’r trefnydd angladdau yr ydych am ei ddefnyddio, os ydych wedi penderfynu hyn.
2
Pan fydd marwolaeth yn digwydd yn y gymuned
Os yw eich perthynas wedi marw gartref, mewn cartref gofal neu yn unrhyw un o’r Ysbytai Cymunedol sydd wedi’u lleoli yn rhanbarth Bwrdd
Iechyd Prifysgol Hywel Dda, bydd y Meddyg Teulu yn cytuno ar achos y farwolaeth gyda’r Archwiliwr Meddygol. Unwaith y cytunir ar achos marwolaeth, anfonir y Dystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth i’r Swyddfa Gofrestru leol. Mae angen hyn ar gyfer cofrestru’r farwolaeth.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, bydd eich Meddyg Teulu yn gallu rhoi cyngor penodol i chi.
Os bydd eich perthynas yn marw gartref yn annisgwyl ac nad yw wedi gweld ei Feddyg Teulu yn ystod y 28 diwrnod diwethaf, bydd Swyddfa’r Crwner fel arfer yn awdurdodi post-mortem i bennu achos y farwolaeth.
O fis Ebrill 2024 bydd y Gwasanaeth Archwilio Meddygol yn adolygu pob marwolaeth yn y gymuned oni bai bod angen ymchwiliad gan Swyddfa’r Crwner.
Bydd y ddeddfwriaeth newydd (o fis Ebrill 2024) hefyd yn caniatáu i Feddyg Teulu gwblhau Tystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth pan fydd wedi gweld y person mewn bywyd ac nid yn ystod y 28 diwrnod diwethaf.
3
Ymweld â’ch Anwylyd
Mae’n well gan y mwyafrif o bobl weld eu hanwyliaid yng Nghapel Gorffwys y Trefnydd Angladdau.
Os dymunwch ymweld â’ch anwylyd yn y Corffdy, cysylltwch â Thîm Gwasanaeth y Corffdy; byddant yn gallu trefnu eich apwyntiad, gan sicrhau bod gennych amser a chefnogaeth a gallant drafod opsiynau creu atgofion gyda chi.
Mae’r Gwasanaeth Corffdy ar gael trwy apwyntiad o ddydd Llun i ddydd Gwener. Gall amseroedd eraill fod ar gael trwy drefniant, ond dim ond mewn amgylchiadau neilltuol.
Gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Corffdy o ddydd Llun i ddydd Gwener 10.00am – 3.30pm.
Ysbyty Bronglais
Rhif ffôn: 01970 623131 (Mae’r holl gefnogaeth profedigaeth yn cael ei darparu gan y ward. Cysylltwch â’r switsfwrdd a gofyn am gael eich trosglwyddo i’r ward berthnasol).
Ysbyty Glangwili
Rhif ffôn: 01267 235151 (cysylltwch â’r switsfwrdd a gofyn am y gwasanaeth profedigaeth).
Ysbyty Tywysog Philip
Rhif ffôn: 01554 756567 (cysylltwch â’r switsfwrdd a gofyn am y gwasanaeth profedigaeth)
Ysbyty Llwynhelyg
Rhif ffôn: 01437 772347 (cysylltwch yn uniongyrchol â’r Swyddog profedigaeth)
01437 764545 (cysylltwch â’r switsfwrdd a gofyn am estyniad 2347)
4
Dillad a phethau gwerthfawr
Bydd angen i chi drefnu casglu unrhyw eiddo a phethau gwerthfawr gyda’r ward, neu cysylltwch â’r Gwasanaeth Profedigaeth am gyngor. Gall y ward a Gwasanaeth y Corffdy hefyd eich helpu gyda chreu atgofion.
Rhoi meinweoedd y corff
Mae llawer o bobl yn gweld rhoi meinwe yn ffynhonnell wych o gysur, ac yn rhywbeth cadarnhaol a all ddod allan o rywbeth trist. Defnyddir rhoddion o’r fath i achub a gwella bywydau pobl â chyflyrau sy’n bygwth bywyd neu gyflyrau gwanychol.
Am wybodaeth bellach, trowch at: nhsbt.nhs.uk/what-we-do/transplantation-services
Os hoffech drafod rhoi meinwe yn fwy manwl, gallwch gysylltu â nyrs o’r Ganolfan Atgyfeirio Genedlaethol ar 0800 432 0559 (Rhadffôn).
5
Cysylltu â Threfnydd Angladdau
Yn dilyn marwolaeth, gallwch gysylltu â Threfnydd Angladdau o’ch dewis cyn gynted ag y gallwch fel y gallant ddechrau gwneud trefniadau
rhagarweiniol ar eich rhan. Gallwch wneud hyn cyn i’r Dystysgrif Feddygol sy’n nodi achos y farwolaeth gael ei chyhoeddi. Ni fydd y Trefnydd Angladdau yn cwblhau unrhyw drefniadau hyd nes y byddant wedi cael cadarnhad bod y farwolaeth wedi ei chofrestru a bod y gwaith papur perthnasol ganddynt. Byddant yn gallu rhoi cymorth a chyngor ar lawer o’r pethau y mae angen i eu hystyried.
Efallai y byddwch am wneud hyn eich hun neu ystyried cymorth perthnasau neu ffrind y gallwch ymddiried ynddynt. Yn aml, mae perthnasau a ffrindiau eisiau eich helpu a’ch cefnogi mewn unrhyw ffordd y gallant.
Mae’r rhan fwyaf o drefnwyr angladdau ar gael saith diwrnod yr wythnos. Os dymunwch, byddant yn ymweld â’ch cartref i’ch helpu a’ch cynghori ar y trefniadau angenrheidiol. Mae gwybodaeth am rai Trefnwyr Angladdau ar gael yn y llyfryn hwn, neu efallai yr hoffech edrych ar restr lawn sydd ar gael yn www.yell.com
Os ydych yn derbyn credyd cynhwysol, credyd pensiwn, budd-dal tai neu gredyd teulu, gallwch wneud cais am help i dalu costau angladd. Bydd y Trefnydd Angladdau yn gallu eich helpu, neu gallwch gael taflen SF200 (Help pan fydd rhywun yn marw) gan eich Adran Gwaith a Phensiynau leol.
Gwiriwch y manylion hyn yn ofalus fel eich bod yn deall pa gostau y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn eu talu.
Os oes angen unrhyw gymorth ariannol arnoch ar unwaith, er enghraifft ynghylch costau angladd, gallwch ofyn am gyngor gan y Cronfeydd Cymdeithasol, ffoniwch: 0800 1690140
6
Mewn rhai amgylchiadau, efallai na fydd yn bosibl rhoi Tystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth. Gall hyn fod oherwydd bod y farwolaeth yn sydyn, heb esboniad neu’n annisgwyl.
Mae gan y Crwner gyfrifoldeb statudol a chyfreithiol i ymchwilio i farwolaethau sydyn neu farwolaethau a achosir gan ddamweiniau neu afiechydon diwydiannol.
Bydd y Crwner yn hwyluso cyhoeddi Tystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth neu, os oes angen cwêst, Tystysgrif Marwolaeth Dros Dro. Bydd Swyddog y Crwner yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi pryd i fwrw ymlaen â threfniadau’r angladd.
Post-mortem ysbyty
Ar adegau, efallai na fydd y Crwner angen post-mortem, fodd bynnag, gall y meddyg a oedd yn gofalu am eich anwylyd ofyn am bost-mortem ysbyty i’w helpu i bennu achos y farwolaeth ac i helpu i drin cleifion eraill yn y dyfodol. Bydd y tîm meddygol yn trafod hyn gyda chi.
Fe’ch gwahoddir i gydsynio i bost-mortem, sy’n cynnwys llenwi ffurflen ganiatâd post-mortem. Bydd aelod o’r staff clinigol yn eich cynorthwyo i lenwi’r ffurflen os byddwch yn cytuno i roi caniatâd.
Mae taflen fach hefyd, sy’n dod gyda’r ffurflen ganiatâd ac sy’n rhoi mwy o fanylion. Mae’r ysbyty yn sensitif iawn i unrhyw anghenion diwylliannol neu grefyddol penodol y mae’n rhaid cadw atynt. Gofynnir i chi am y rhain yn ystod y broses gydsynio.
Yn dilyn y post-mortem, byddwch yn gallu siarad â’r meddyg perthnasol i ganfod canlyniad y post-mortem.
P’un a ydych yn dewis cydsynio i’r archwiliad (post-mortem) ai peidio, dylai’r meddyg fod mewn sefyllfa i roi Tystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth.
Y Crwner
7
Os oes angen cwêst
Mae cwêst yn ymchwiliad i achos meddygol ac amgylchiadau’r farwolaeth, os yw achos y farwolaeth yn parhau i fod yn ansicr ar ôl y post-mortem.
Cofrestru marwolaeth
Unwaith y byddwch wedi cael gwybod bod y Dystysgrif Feddygol o Achos
Marwolaeth wedi’i chwblhau, dylech gysylltu â’r Swyddfa Gofrestru leol i wneud apwyntiad i gofrestru’r farwolaeth yn ffurfiol.
Mae angen i chi gofrestru’r farwolaeth yn yr un sir ag y digwyddodd y farwolaeth. Os oedd yr ymadawedig yn ymwelydd â’r ardal neu os nad ydych yn byw’n lleol yna mae’n bosibl cofrestru “marwolaeth trwy ddatganiad” yn eich Swyddfa Gofrestru leol. Fodd bynnag, bydd dal angen prosesu’r gwaith papur all achosi oedi. Gall eich Trefnydd Angladdau roi cyngor pellach.
Swyddfa Gofrestru Caerfyrddin: 01267 228210
Swyddfa Gofrestru Llanelli: 01554 744202
Swyddfa Gofrestru Rhydaman: 01269 598300
Swyddfa Gofrestru Sir Benfro, Archifdy Sir Benfro, Prendergast, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 2PE
Ffôn: 01437 775027 Ebost: registrar@pembrokeshire.gov.uk
Swyddfa Gofrestru Ceredigion, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth,Ceredigion SY23 3UE
Ffôn: 01970 633580
Ebost: cofrestrydd@ceredigion.llyw.cymru
Ebost: registrar@ceredigion.gov.uk
www.ceredigion.gov.uk
www.gov.uk/register-a-death
www.carmarthenshire.gov.wales/home/council-services/births-deathsmarriages-and-civil-partnerships/registering-a-death/
www.pembrokeshire.gov.uk/how-to-register-a-death
www.ceredigion.gov.uk/resident/births-deaths-marriages-civil-partnerships/ register-a-death/
Gweler Map Lleoliad Swyddfeydd Cofrestru ar y dudalen nesaf.
8
Ffordd Fishguard
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 2PZ
Archifau Sir Benfro Prendergast Hwlffordd SA61 2PE
ROAD A40 A40 B4329 B4329
CROVE QUEENSWAY PARK ROAD
ROAD THERISE
PRENDERGAST
BACKLANE CORONATIONAVENUESCOTCHWELLVIEWSTOKESAVENUE SCOTCHWELLLANE A40 A40
A40 A487
ROAD A40 A40 A40
ROAD A40 A40 H H
CARDIGAN
CHERRY
MILL
SHOALSHOOKLANE HALL PARK
JOCKEY FIELD
PICTONPLACE
FISHGUARD
NARBETH
Ysbyty Llwynhelyg Y Swyddfa Gofrestru
9 © RNS Publications 2024
Cofrestru’r farwolaeth:
Dylai perthynas agosaf dynodedig gofrestru’r farwolaeth.
Os and yw hyn yn bosibl, gall y bobl ganlynol wneud hyn:
• Rhywun sy’n bresennol ar adeg y farwolaeth
• Swyddog o’r ysbyty lle ddigwyddodd y farwolaeth
• Y person sy’n gwneud trefniadau’r angladd
Pan fyddwch chi’n mynd i’r Swyddfa Gofrestru, bydd angen i chi fynd â’r canlynol gyda chi:
• Tystysgrif Feddygol o Achos y Farwolaeth
• Tystysgrif Geni
• Carden feddygol neu rif GIG – gall yr ysbyty neu’r feddygfa roi hwn i chi
• Tystysgrif Priodas/Partneriaeth Sifil os yn berthnasol
Os na allwch ddod o hyd i unrhyw un o’r rhain, siaradwch â’r Swyddfa
Gofrestru am gyngor cyn i chi fynychu.
Mae angen i’r hysbysydd ddod â phrawf adnabod e.e., Trwydded Yrru, Pasbort neu Fil Cyfleustodau sydd â phrawf o gyfeiriad arno.
10
Bydd angen y wybodaeth ganlynol ar y cofrestrydd:
Enw llawn yr ymadawedig (ac unrhyw enwau blaenorol)
Eu dyddiad geni a man geni (tref, neu gwlad os cawsant eu geni y tu allan i Gymru neu Loegr)
..................................................................................................................
Cyfeiriad a chod post arferol
Os oedd yr ymadawedig yn briod neu mewn partneriaeth sifil, dyddiad geni’r weddw/gwˆr gweddw neu bartner sifil sy’n goroesi ..................................................................................................................
Galwedigaeth a math o ddiwydiant (Os oedd yr ymadawedig yn briod, mewn partneriaeth sifil, enw llawn a galwedigaeth y weddw/gwˆr gweddw neu bartner sifil sy’n goroesi)
..................................................................................................................
Enw’r Trefnydd Angladdau ac a fydd amlosgiad neu gladdedigaeth
11
Pan gaiff y farwolaeth ei chofrestru, bydd y Gwasanaeth/ Swyddfa Gofrestru yn rhoi’r canlynol i chi:
• Darperir tystysgrifau marwolaeth gan y Gwasanaeth Cofrestru am ffi, os oes angen mwy nag un copi arnoch gallwch brynu cymaint ag sydd ei angen arnoch. Bydd y Swyddfa Gofrestru yn gallu rhoi gwybod faint o gopïau y gallai fod eu hangen arnoch.
• Mae angen copïau ardystiedig o Gofrestriad y Farwolaeth ar gyfer materion fel yswiriant, cyfrifon banc, bondiau premiwm, hawliadau pensiwn, cyfreithwyr ac ati.
• Ffurflen Werdd – i'w rhoi i'ch Trefnydd Angladdau er mwyn cario ymlaen â threfniadau'r angladd.
• Bydd ‘Dywedwch Wrthym Unwaith’ yn cael ei gwblhau ar adeg cofrestru. Anogir Perthnasau Agosaf i lenwi gwybodaeth ar-lein neu dros y ffôn i’r Adran Gwaith a Phensiynau.
Mae ‘Dywedwch Wrthym Unwaith’ yn wasanaeth sy’n eich galluogi i adrodd am farwolaeth i’r rhan fwyaf o sefydliadau’r llywodraeth mewn un go. Pan fyddwch yn cofrestru’r farwolaeth, bydd y Swyddfa Gofrestru yn rhoi gwybod i chi am hyn.
Bydd y Swyddfa Gofrestru yn rhoi rhif i chi i’w ffonio. Bydd hyn yn cynnwys Relay UK os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn. Os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, mae gwasanaeth cyfnewid fideo ar gael os ydych ar gyfrifiadur – gweld sut mae defnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen.
12
Gall setlo ystâd yr ymadawedig fod yn ddryslyd, gall gymryd llawer o amser a gall beri gofid. Os ydych wedi cael eich enwi fel ysgutor mewn
Ewyllys, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod dymuniadau’r unigolyn, fel yr ydych yn eu deall, yn cael eu cyflawni. Bydd hyn yn cynnwys talu costau angladd, dyledion a threthi, yn ogystal â chael gwared ar eu heiddo ac asedau eraill.
Os bydd rhywun yn marw heb adael Ewyllys ddilys, gelwir hyn yn marw’n ddiewyllys. Mae angen cael ‘Grant llythyrau gweinyddu’ gan y Gofrestrfa
Brofiant er mwyn gweinyddu’r ystad. Dyma fanylion cyswllt Cofrestrfa
Brofiant Cymru:
Caerdydd: 029 2047 4373
Caerfyrddin: 01267 245057
Gellir cael rhagor o gyngor a gwybodaeth drwy’r Ganolfan Cyngor ar Bopeth www.citizensadvice.org.uk
Pan fydd rhywun yn marw
Mae profedigaeth yn brofiad unigryw a phersonol. Mae gan bob un ohonom yn galaru yn ein ffordd ein hunain.
Mae galar yn ymateb normal i golli rhywun yr oeddem yn ei adnabod neu'n ei garu ac mae'n broses normal sy'n ein helpu i ddod i delerau â newid. Nid oes unrhyw ffyrdd cywir nac anghywir o alaru ac yn anffodus, nid oes unrhyw ffyrdd hawdd.
Mae'n normal profi amrywiaeth o emosiynau megis teimlo sioc, diffyg teimlad, dicter, euogrwydd neu deimlo'n fwy pryderus. Gall anesmwythder fynd law yn llaw â hyn, yn enwedig yn y nos pan fydd cysgu’n anodd.
Mae'r rhain i gyd yn adweithiau naturiol i brofedigaeth ac nid ydynt yn arwydd nad ydych yn gallu ymdopi.
Yn ystod y cyfnod hwn, efallai y bydd angen cefnogaeth eraill arnoch.
Ar ôl yr angladd
13
Peidiwch â bod ofn siarad am eich teimladau â rhywun, mae hwn yn aml yn gyfnod anodd i deulu a ffrindiau hefyd. Efallai eu bod yn ofni siarad am eich anwylyd rhag ofn eich ypsetio. Efallai y bydd angen i chi gymryd y cam cyntaf a rhoi gwybod iddynt eich bod am siarad ac yr hoffech gael eu cefnogaeth.
Mae'n bwysig eich bod yn caniatáu amser i chi'ch hun i alaru a dod i delerau â'ch profedigaeth ym mha bynnag ffordd sy'n iawn i chi.
Caplaniaeth – arweiniad bugeiliol, crefyddol ac ysbrydol
Mae'r Tîm Caplaniaeth yn yr ysbyty ar gael i ddarparu gofal a chymorth. Mae caplaniaid yn helpu trwy roi amser a gwrando ar bobl, ac o brofiad gallant ddarparu cyngor ymarferol, ac nid ydynt yno ar gyfer y bobl grefyddol yn unig. Rydym yn cynnig gofal cefnogol i bobl o bob ffydd ac o ddim ffydd.
Mae capeli/ystafelloedd tawel ar gael ar bob safle acíwt. Mae’r rhain ar wahân i’r Capeli Gorffwys / Ystafelloedd Gwylio, a gallwch eu defnyddio ar gyfer tawelwch a myfyrio, p’un a ydych yn perthyn i enwad neu ffydd arbennig ai peidio.
Mae’r Gaplaniaeth yn cynnig ‘gwasanaeth gwrando’ anffurfiol iawn i’r rhai sydd wedi cael profedigaeth. Nid yw hwn yn wasanaeth cwnsela crefyddol neu hirdymor, ond gallai fod o gymorth i chi os hoffech siarad â rhywun y tu allan i'ch cylch teulu a ffrindiau agos. Gallwch gysylltu yn fuan ar ôl eich profedigaeth neu fisoedd lawer ar ôl eich colled.
Cysylltwch â switsfwrdd Ysbyty Glangwili ar 01267 235151 a gofyn am aelod o’r Tîm Caplaniaeth.
Mae siarad yn helpu
Mae angen mynegi poen a'n galar er mwyn ei brosesu. Efallai y bydd angen i chi siarad am y digwyddiadau a arweiniodd at farwolaeth eich anwylyd, ac am y farwolaeth ei hun, a hynny droeon. Mae hyn yn ddigon naturiol ac yn un o'r ffyrdd yr ydym yn raddol yn gwneud synnwyr o'r hyn sydd wedi digwydd. Mae'n dda siarad â theulu a ffrindiau neu geisio
cymorth proffesiynol a siarad â'ch meddyg teulu.
14
Osgoi ynysu
Gall galar fod yn brofiad hynod o unig ac ynysig. Gall bod gydag eraill, ffrindiau neu grwˆp cymorth, sydd hefyd wedi profi colled, fod yn help mawr.
Derbyniwch na fyddwch yn gweithredu mor effeithiol ag arfer am gyfnod. Mae diffyg canolbwyntio a chof gwael yn normal. Ceisiwch gefnogaeth i helpu a cheisiwch beidio â gosod tasgau afrealistig i chi'ch hun ar gyfer pob diwrnod. Efallai y byddwch yn teimlo allan o reolaeth i raddau helaeth. Mae'n aml yn ddefnyddiol rhoi ychydig o strwythur i'ch diwrnod, gan gynllunio tasgau cartref yn y bore ac ychydig o ymarfer corff ysgafn yn y prynhawn. Gellir teimlo ein galar yn ein cyrff felly gall mynd am dro hamddenol neu fath arall o ymarfer corff leddfu tensiwn. Cynlluniwch bethau i’w mwynhau hefyd i ganiatáu seibiant i chi'ch hun o'r boen. Ewch i weld ffilm neu ymweld â ffrind. Mae’r pethau hyn yn bwysig ac nid yw'n golygu eich bod chi mewn unrhyw ffordd wedi anghofio'ch anwylyd.
Cofiwch
Nid oes unrhyw reolau ar gyfer galar. Mae pawb yn unigryw, ac rydym yn galaru yn ein ffordd ein hunain ac yn ein hamser ein hunain. Efallai y bydd y canllawiau hyn yn ddefnyddiol i chi.
Dysgwch sut i wrando arnoch chi'ch hun, i ddarganfod beth sy'n gweithio i chi. Derbyniwch efallai na fydd yr hyn sy'n helpu i ddechrau yn helpu cymaint yn ddiweddarach.
Efallai y byddwch am geisio cymorth pellach i helpu yn eich galar. Mae'n bosibl y gall eich meddyg teulu eich helpu a dyma'r person i fynd ato yn y lle cyntaf. Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch, efallai y gallant argymell cwnselydd lleol neu grwˆp cymorth. Sefydliadau eraill a allai helpu:
15
A oes angen i chi siarad â rhywun nawr?
LLINELL GYMORTH 24 AWR
Y Samariaid 116 123 (UK) Ar gyfer unrhyw un, unrhyw bryd am unrhyw reswm
Childline 0800 1111
Silverline 0800 470 8090
Cefnogaeth i’r rhai 18 oed ac iau a’u teuluoedd
Cefnogaeth i’r rhai dros 50 oed
Gwasanaeth Cymorth mewn
Profedigaeth Hywel Dda
Mae’n cynnig cwnsela profedigaeth arbenigol i drigolion
Sir Gaerfyrddin, sy’n cynnwys plant ac ieuenctid. Gellir cysylltu â’r gwasanaeth i drafod anghenion
Cymorth Profedigaeth.
Rhif ffôn: 01267 227639 neu
01554 783564
Gofal Profedigaeth CRUSE
Yn cynnig cwnsela, cyngor, gwybodaeth a chyswllt
cymdeithasol mewn profedigaeth.
Llinell Gymorth: 0808 808 1677
Ebost: helpline@cruse.org.uk
Y Samariaid
Gellir cysylltu â’r Samariaid unrhyw bryd, ddydd neu nos, a bydd rhywun ar gael i wrando a darparu cymorth emosiynol cyfrinachol ac anfeirniadol.
Rhif ffôn: 0808 164 0123 (Cymraeg) neu 116 123 (Saesneg)
Testun: 07725 909090
Gwasanaethau Cymorth
Cleifion (adborth a chwynion)
Rhif ffôn: 0300 0200 159
Ebost: hdhb.patientsupportservices@ wales.nhs.uk
Ar-lein: Defnyddio ein ffurflen adborth (yn agor mewn tab newydd)
Post: Rhadbost Feedback @ Hywel Dda
Llinell Gymorth National Bereavement Partnership
Rhif ffôn: 0800 448 0800
Rhwng 7am a 10pm ar gyfer cefnogaeth emosiynol.
Grief Talk
Rhif ffôn: 0808 802 0111
Cefnogaeth i unrhyw un o unrhyw ffôn, a hynny am ddim. Sesiwn gyda chwnselydd Grieftalk. Dydd Llun i ddydd Gwener 9am9pm
Bereavement Advice Centre
Rhif ffôn: 0800 634 9494
Cyngor ymarferol (9am – 5pm)
16
Bereavement Trust
Rhif ffôn: 0800 435 455
Cyngor emosiynol ac ymarferol (6 – 10pm)
Survivors of Bereavement by Suicide
Rhif ffôn: 0300 111 5065 9am – 9pm bob dydd
The Compassionate Friends
Rhif ffôn: 0345 123 2304
Bob dydd rhwng
10am a 4pm, 7pm a 10pm
2Wish
Cefnogi marwolaethau sydym
ymhlith plant ac oedolion ifanc –www.2wish.org.uk
Tel: 01443 853125
The DPJ Foundation
Cefnogaeth i ffermwyr, contractwyr ffermio a’u teuluoedd
Ebost:
kate@thedpjfoundation.co.uk
The Jac Lewis Foundation –Rhydamand
Ebost:
admin@jaclewisfoundation. co.uk
Good Grief Trust
www.thegoodgrieftrust.org
Winston’s Wish
www.winstonswish.org
Rhif ffôn: 08088 020 021
Gwasanaeth Cwnsela Sir Benfro
Rhif ffôn: 01437 768708
HAHAV
Gwasanaethau Byw’n Dda a Phrofedigaeth
Plas Antaron, Southgate, Aberystwyth, SY23 1SF
Ffôn: 01970 611 550
www.hahav.org.uk
Children’s Bereavement
Support Services
Rhif ffôn: 01267 227639
Child Bereavement UK
Llinell Gymorth a Gwybodaeth. Rhif ffôn: 0800 028 8840
Sandy Bear
Cefnogaeth i blant ac ieuenctid
Europa House, 115 Charles Street, Aberdaugleddau, Sir Benfro, SA73 2HW
www.sandybear.co.uk
Marie Curie
Ffôn: 0800 090 2309
Ar agor dydd Llun i ddydd Gwener, 8am – 6pm
Ar agor dydd Sadwrn 11am – 5pm
Gwybodaeth a chefnogaeth
ymarferol a chlinigol ar bob agwedd ar ddiwedd oes a phrofedigaeth.
www.mariecurie.org.uk/help/ support/bereaved-family-friends/ practical-legal/register-a-death
17
Sefydliadau Penodol i Gymru
Nightingale House Hospice
Paul Sartori Foundation, Hwlffordd
Ebost: info@paulsartori.org
Mind Canolbarth a Gogledd Powys/Mind Caerfyrddin a Llanelli
Ebost: carers@mindcarmarthen.org.uk
Hope Again
Ebost: hopeagain@cruse.org.uk
Ebost: gdpr@cruse.org.uk
Platfform, Abertawe
Ebost: connect@platfform.org
Cefnogaeth Iechyd Meddwl i Bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
Ebost: supporterrelations@mind.org.uk
sahayak@rethink.org
bristolBME@rethink.org
Tîm Cefnogi Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru
Ebost: info@eyst.org.uk
Age Cymru
Ebost: reception@agecymrudyfed.org.uk
Ponthafren Association, Y Trallwng a’r Drenewydd
Long Bridge Street, Y Drenewydd, Powys SY16 2DY
Ffôn: 01686 621586
Ebost: admin@ponthafren.org.uk
LBGTQ+ Cymru
Ebost: info@lgbtcymru.org.uk
18
Dolenni defnyddiol eraill
Gwasanaethau Cymorth Arbenigol Cenedlaethol
Sue Ryder
Cymuned Ar-lein a Chwnsela Profedigaeth Ar-lein.
Sudden
Cefnogaeth i bobl sydd mewn profedigaeth oherwydd marwolaeth sydyn.
Muslim Bereavement Support Service
Cefnogaeth i fenywod Mwslimaidd ar ôl marwolaeth anwylyd.
Jewish Bereavement Support Services
Cefnogaeth i’r gymuned Iddewig ar ôl marwolaeth.
Sudden Arrhythmic Death Cyngor a chefnogaeth Syndrom Marwolaeth Sydyn Arrhythmic.
Drug and Alcohol Addiction
Cefnogaeth i rai sydd wedi colli rhywun oherwydd camddefnyddio sylweddau.
Road Peace
Gall y profiad emosiynol sydyn, annisgwyl a thrawmatig o farwolaeth neu anaf difrifol mewn damwain ffordd fod yn llethol. Ac mae ymchwiliadau'r heddlu, cwestau a gweithdrefnau llys a all ddilyn yn aml yn anghyfarwydd ac yn ddryslyd. Gall RoadPeace helpu.
Breaking Bad News
Cyngor ar dorri newyddion drwg i rywun ag anabledd deallusol.
Advocacy After Fatal Domestic Abuse
Helpu i dywys teuluoedd trwy
Ymholiadau gan gynnwys
Adolygiadau Dynladdiad Domestig ac Adolygiadau Iechyd Meddwl, ac rydym yn cynorthwyo ac yn cynrychioli ar Chwestau, ymholiadau Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu ac adolygiadau eraill.
Support after Suicide Partnership
Cyngor ac arweiniad i bawb yr effeithir arnynt gan hunanladdiad.
Survivors of Bereavement by Suicide
Helpu i oresgyn ynysu'r rhai sydd wedi cael profedigaeth oherwydd hunanladdiad (dros 18).
War Widows
Cyngor a chymorth i bawb sydd wedi dod yn weddw oherwydd gwrthdaro ers yr Ail Ryfel Byd.
London Friend
Cefnogaeth a chwnsela i’r gymuned LGB&T.
Grief Encounter
Cefnogaeth i blant mewn profedigaeth a’u teuluoedd
SAMMS
Cefnogaeth ar ôl Llofruddiaeth a Dynladdiad.
19
Os yw rhywun rydych chi'n ei nabod wedi marw, gellir lleihau'n sylweddol faint o bost marchnata diangen sy'n cael ei anfon ato.
Trwy gofrestru gyda’r gwasanaeth am ddim www.stopmail.co.uk mae enwau a chyfeiriadau’r ymadawedig yn cael eu tynnu oddi ar restrau postio, gan atal y rhan fwyaf o hysbysebu post o fewn cyn lleied â chwe wythnos. Os and ydych yn defnyddio’r rhyngrwyd, gallwch ffonio 0808 168 9607, lle gofynnir i chi am wybodaeth syml iawn a fydd yn cymryd ychydig funudau yn unig.
Bydd y gwasanaeth am ddim hwn a ddarperir gan y Rhwydwaith
Cefnogi Profedigaeth yn mynd ati i leihau’r post marchnata digroeso ond gall hefyd helpu i leihau’r tebygolrwydd o ddwyn hunaniaeth yn dilyn marwolaeth rhywun agos. Ni ddefnyddir y wybodaeth at unrhyw ddiben arall, a dim ond unwaith y bydd yn rhaid i chi wneud hyn.
Yn ogystal, i Stopio’r Post gellir cael mynediad at wasanaeth tebyg o'r Gofrestr Profedigaeth neu'r gwasanaeth Deceased Preference Service os byddai'n well gennych eu defnyddio.
Atal post sothach i’r un fu farw’n ddiweddar
20
Beth all teulu a ffrindiau ei wneud i helpu
• Trafodwch gyda'r unigolyn i weld a hoffai unrhyw gefnogaeth neu help gydag unrhyw beth
• Byddwch yn ymwybodol ein bod ni i gyd yn profi galar yn wahanol, does neb yn galaru yr un peth
• Byddwch yno i'r rhai sy'n galaru – nid oes angen dweud dim
• Caniatáu ar gyfer mynegi teimladau. Awgrymu cefnogaeth bellach os oes angen
• Help gyda'r pethau ymarferol a all deimlo'n llethol yn aml pan fyddwn yn profi profedigaeth
• Cynnig cefnogaeth, fel y gall yr unigolyn gael lle ac amser i brosesu a myfyrio
• Cydnabod y gall achlysuron fel penblwyddi a’r Nadolig fod yn fwy heriol, a gellir cynnig cymorth pellach ynghylch dyddiadau arwyddocaol
Gall fod yn anodd i bobl ddeall pam y gall y sawl sy’n galaru ddal i siarad dro ar ôl tro am yr un pethau a mynd yn ofidus yn eu cylch. Mae hyn yn rhan bwysig o alaru. Gall peidio â sôn am enw'r person sydd wedi marw arwain at ymdeimlad o unigedd a gall ychwanegu galar am yr un sydd wedi marw.
21
Siarad â phlant am farwolaeth
Fel oedolion, rydyn ni’n teimlo’r angen i amddiffyn ein plant rhag pethau a allai fod yn anodd. Gallwn dybio na fydd plant yn deall marwolaeth a phrofedigaeth, neu y bydd yn peri gormod o ofid iddynt.
Os oes gennych bryderon ynghylch plentyn a sut mae'n prosesu ei alar, siaradwch â meddyg teulu am gymorth.
Yn aml gallwn danamcangyfrif gallu plentyn i ymdopi. Fel oedolion, mae plant yn ei chael hi'n ddryslyd ymdopi os na ddywedir y gwir wrthynt am yr hyn sy'n digwydd a gallant gael eu dychryn gan eu dychymyg eu hunain.
Efallai yr hoffech ystyried cynnig y dewis i blant ynghylch a ydynt am fynychu'r angladd ai peidio.
Y Dyfodol
Mae cyfnod galaru yn amrywio o berson i berson. Efallai na fydd rhai pethau fel tristwch y farwolaeth a cholli'r person byth yn diflannu'n llwyr ond mae'r boen yn mynd yn llai gydag amser. Mae llawer o bobl yn gweld, er na fydd bywyd byth yr un fath eto, y daw amser pan fyddant yn gallu dechrau mwynhau byw eto.
Does dim disgwyl i alar ddod i ben ar ôl amser penodol, dydyn ni byth yn dod dros marwolaeth anwylyd, ond dros amser, rydyn ni’n dysgu addasu i fywyd gyda’n colled.
22
RHOI ER COF
Mae coffáu rhywun annwyl gyda rhodd yn ffordd hyfryd o anrhydeddu person arbennig yn ystod cyfnod anodd.
Trwy ddewis cefnogi eich elusen GIG leol, bydd y cof am eich anwylyn yn ein helpu i wella gwasanaethau GIG lleol.
Casgliadau mewn angladdau
Mae gofyn i ffrindiau a theulu roi rhodd yn lle blodau mewn angladd neu wasanaeth coffa yn ffordd ystyrlon o gofio am eich anwylyn. Os hoffech ofyn am roddion i gefnogi Elusennau
Iechyd Hywel Dda, cysylltwch â ni i ofyn am amlenni casglu i’w defnyddio yn y gwasanaeth.
Cronfeydd teyrnged
Mae cronfa deyrnged Elusennau Iechyd Hywel
Dda yn gofeb ar-lein y gallwch ei chreu a’i phersonoli er cof am anwylyn; mae’n lle i chi gofio am rywun sy’n arbennig i chi, a dathlu ei fywyd. Gallwch sefydlu eich cronfa deyrnged yn www.muchloved.com
Cymryd rhan mewn digwyddiad
Mae codi arian er cof yn ddull anhygoel o arbennig ac unigryw o anrhydeddu rhywun agos atoch. Pa un ai gwerthiant cacennau neu nenblymio fydd y digwyddiad, mae yna sawl dewis yn bodoli ar gyfer codi arian er cof am anwylyn.
Rhoi rhodd
Os hoffech ddathlu bywyd rhywun annwyl
trwy roi rhodd unwaith ac am byth i Elusennau Iechyd Hywel Dda, gallwch gyfrannu’n hawdd yn www.hywelddahealthcharities.org.uk
Os byddai’n well gennych gyfrannu
trwy’r post, gwnewch sieciau’n daladwy i ‘Elusennau Iechyd Hywel Dda’ a’u
hanfon i Elusennau Iechyd Hywel Dda, Hafan Derwen, Parc Dewi Sant, Ffordd Ffynnon Job, Caerfyrddin, SA31 3BB. Cofiwch gynnwys eich manylion cyswllt, a pheidiwch ag anfon arian parod yn y post.
Trwy ba ddull bynnag y byddwch yn dewis ein cefnogi er cof am rywun arbennig – diolch i chi.
Elusennau Iechyd Hywel Dda yw elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ac rydym yn bodoli i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, llesiant a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaethau a staff y GIG.
@ElusenHywelDda ElusennauIechydHywelDda Rhif elusen gofrestredig 1147863 elusennauIechydhyweldda.org.uk | #EichElusenGIG E: codiarian.HywelDda@wales.nhs.uk | Ff: 01267 239 815
Mae’r wybodaeth yn y llyfryn hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Hoffem ddiolch i’n noddwyr, ni fyddai’r llyfryn hwn yn bosibl hebddynt. Fodd bynnag, ni allwn gymeradwy’r gwasanaethau a hysbysebwyd.
Cyfeirnod: Llyfryn Profedigaeth Ysbyty Glangwili
Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2024
Dyddiad adolygu: Ebrill 2026
Nodiadau ...................................................................................................................................................................................... ...................................................................................................................................................................................... ...................................................................................................................................................................................... ...................................................................................................................................................................................... ...................................................................................................................................................................................... ...................................................................................................................................................................................... ......................................................................................................................................................................................
The Health Board would like to thank RNS Publications for publishing this information and the following pages contain some features from services o ering their help at this time.
Whilst the Health Board is grateful of their support it does not endorse or recommend any of the services that they provide.
It is distressing to deal with a bereavement and unsolicited mail can be insensitive and destructive during a grieving process.
By scanning the below QR code on your phone or visiting www.stopmail.co.uk, we are able to securely share this information with mailing organisations and under the Data Protection Act the information will not be used for any other purpose.
Other benefits reduce the possibility of identity fraud, such as assumed identity and you will only have to supply the information once.
�\\ bereavement ,�port network stopping mail STOPPING JUNK MAIL
www.stopmail.co.uk 0808 168 9607 from a landline 0333 006 8114 from a mobile © Bereavement Support Network Ltd 2024
This publication has been jointly developed between ourselves and the Board. We hope that it has been or will be of help at this time and we welcome any comments or suggestions that you may have.
Please contact us either by phone, email or by post. RNS Publications, Trium House, Broughton Way, Whitehills,
832400
A trading style of Turnside Marketing Ltd
Blackpool, Lancashire FY4 5QN 01253
enquiries@rns.co.uk