1 minute read

Os ydych yn dymuno mynegi pryder?

Datrys eich ymholiadau:

Swyddog Gwasanaeth Cymorth Cyngor a Chyswllt Cleifion (PALS) yn gwneud eu gorau i ddatrys problemau a materion yn sydyn ac yn uniongyrchol gyda’r staff mewn sylw. Mae ganddynt fynediad at uwch reolwyr yn y Bwrdd Iechyd am gymorth i ddatrys materion os yw hynny’n angenrheidiol.

BCU.PALS@wales.nhs.uk

Ffôn: 03000 851 234

OS YDYCH YN DYMUNO MYNEGI PRYDER?

Os ydych yn teimlo eich bod yn gallu gwneud, y man cychwyn gorau yw siarad ag aelod o’n tîm pryderon, gallwch gysylltu â’r tîm ar: 01248 384194. Gallant geisio datrys eich pryder ar unwaith. Os nad yw hyn yn helpu neu os nad oes arnoch eisiau siarad â staff a ddarparodd y gwasanaeth, yna, fe allwch gysylltu ag aelod o Dîm Pryderon y Bwrdd Iechyd:

Mewn amgylchiadau mor eithriadol â marwolaeth a achoswyd gan Covid-19, efallai na fyddwch wedi gallu gweld a ffarwelio gyda’ch anwyliaid. Efallai bod gennych ychydig o gwestiynau i’w codi neu ymholiadau sydd angen eu hateb, neu efallai eich bod yn dymuno mynegi pryder.

Ffôn: 03000 851 851 E-bost: concernsteam.bcu@wales.nhs.uk Llythyr: Y Tîm Pryderon, Ysbyty Gwynedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW.

Os oes angen mwy o gymorth arnoch gallwch ffonio’r Cyngor Iechyd Cymuned sy’n gorff annibynnol a sefydlwyd i gynrychioli buddiannau a phryderon cleifion a’u teuluoedd. Conwy/Gwynedd: 01341 422236 Sir Ddinbych/Sir y Fflint/Wrecsam: 01978 356178

This article is from: