JA_Cat_Cover_Reprint_190710
19/7/10
15:59
Page 1
Julie Arkell
Julie Arkell ISBN 1 900941 78 3
JA_Cat_Cover_Reprint_190710
19/7/10
15:59
Page 2
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
16/7/10
14:40
Page 1
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
16/7/10
14:40
Page 2
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
16/7/10
14:40
Page 3
Julie Arkell cartref
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
uchod Postcard pictures tudalen flaenorol Spare part doll with bird
16/7/10
14:40
Page 4
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
16/7/10
14:40
Page 5
cynnwys 8 Rhagair Philip Hughes 13 Cyflwyniad Polly Leonard 17 Julie Arkell Mary La Trobe-Bateman 31 Cartref Sara Roberts 51 Datganiad yr Artist 54 Bywgraffiad 58 Cydnabyddiaethau
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
16/7/10
14:40
Page 6
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
16/7/10
14:40
Page 7
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
16/7/10
14:40
Page 8
rhagair Gwneud y gorau o bethau. Cynilo yng ngenau’r sach. Un pwyth i arbed naw. Nid rhywbeth newydd sbon oedd ymadroddion y Gwasanaeth Hysbysrwydd adeg yr Ail Ryfel Byd. Pwysleisio wnaent bod pobl beniog bob amser wedi bod yn ddarbodus. Nid rhyw chwiw ar ddiwedd yr 20fed ganrif oedd y syniad o ail-gylchu eithr parhad o draddodiad cynhenid. Erbyn heddiw y mae’r syniad mai angen yw mam pob dyfais (gan ddilyn patrwm y 60au pan oedd Blue Peter yn gwneud gwyrthiau hefo’r pethau mwyaf annisgwyl) wedi cael ei ddisodli gan y modd y mae’r 21ain ganrif yn delio â sbwriel. Y mae Julie Arkell yn lladmerydd
huawdl o’r syniad o ail-gylchu ac yn gwneud hynny yn ei dull dihafal hi ei hun. Mae hi’n cadarnhau hynny drwy ailddefnyddio’r mymryn lleiaf o edau, dernyn o edafedd a phob rhyw fotwm er mwyn creu pethau a fydd yn sirioli a chodi gwên am flynyddoedd i ddod. Bu’n bleser mawr cydweithio gyda Julie Arkell yn sgil yr arddangosfa hon. Yr ydym yn arbennig o ddiolchgar i Mary La TrobeBateman OBE ac i Sara Roberts am eu hysgrifau craff am yr artist. Rhaid hefyd ddiolch i’r dylunydd Lisa Rostron a’r ffotograffydd Elaine Duigenan. Diolch hefyd
8
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
16/7/10
14:40
Page 9
i Polly Leonard, golygydd y cylchgrawn Selvedge, am ddod i Rhuthun i agor yr arddangosfa fydd yn mynd ar daith drwy’r Deyrnas Unedig, ac am ei rhagair yn y catalog hwn. Yn ei rhagair y mae Polly’n galaru diflaniad y siopau chwech a dime. Efallai y byddai hi a Julie’n cael modd i fyw pe baent yn ymweld â Bunners. Siop eironmongar yn hen dref Trefaldwyn yw Bunners ac y mae fel crair o’r hen ddyddiau. Mae’n llawn o bethau ‘all fod yn handi’ ac yr oeddym ‘wedi anghofio am eu bodolaeth’; anghenion traddodiadol nas gwelir yn ein siopau cyfoes. Ychydig iawn o
9
siopau o’r fath sydd yn bod y dyddiau hyn, dim ond mewn ambell dref fechan, sydd yn awgrymu’n gryf mai rhywbeth yn perthyn i gymunedau gwledig ydynt. Eithr y mae siopau elusennau a ffeiriau cist car yn rhan o’r un dilyniant. Ffenomen gyfoes yw cynildeb rhai fel Julie wedi’i wreiddio’n ddwfn mewn traddodiad ac yn berthnasol iawn i’n dyddiau ni. Philip Hughes Cyfarwyddwr yr Oriel, Canolfan Grefft Rhuthun
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
16/7/10
14:40
Page 10
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
16/7/10
14:40
Page 11
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
16/7/10
14:40
Page 12
Hanging farthingale frock
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
16/7/10
14:40
Page 13
cyflwyniad Go brin y medrech ddod o hyd i Siop Chwech a Dime go iawn heddiw. Y mae’r math honno o Ogof Aladin – siop yn llawn i’r ymylon gyda phob math o effemera yn apelio at blant – wedi diflannu. Heblaw efallai am ambell i gornel gudd yng nghefn gwlad Ffrainc. Nid yw’r awyrgylch iawn o fewn y siopau mawr, nid ydynt yn berchen y cyfuniad lledrithiol hwnnw o staff egsentrig ond gwybodus ac y mae eu stoc o fotymau’n echrydus o wael – dim pentyrrau toreithiog o liw, pwysau, graen, sglein. Os collwch fotwm waeth i chi daflu’r dilledyn yn hytrach na gwastraffu amser ac amynedd yn ceisio dod o hyd i’r botwm perffaith. Ond sylwer fel y mae Julie wedi buddsoddi gofal a manylder a chariad yn ei gwaith a’r cyfan yn canu cloch ac yn rhoi ystyr i’w bydysawd. Eithr fel islif yn ei gwaith y mae yna alargan a chawn ein hatgoffa bod y sgiliau hyn, sydd yn ein swyno’n lân mewn oriel, ar un adeg i’w canfod ym mhob cartref.
oherwydd ei bod mor awyddus i gofnodi pob atgof annwyl. Mae yna rywbeth anghyfforddus yn ei chreaduriaid, hanner dynol hanner anifail, cwbl egsentrig, Seisnig iawn. Mae eu personoliaethau’n llawn emosiwn amrwd, y math o beth ddaw mor naturiol i blant. Mae yna rywbeth clwyfus yn eu cylch a hwnnw wedi’i guddio y tu ôl i ffug-wroldeb.
Gyda’i phalet pastel y mae gwaith Julie’n llawn hiraeth a sentiment ond nid oes yma rithyn o kitsch na retro chic. Mae ei rysait hi’n llawn sbeis. Gwelir yn ei gwaith ymwybyddiaeth pryderus o dreigl amser ac y mae hi’n bradychu rhyw nerfusrwydd
Polly Leonard
13
Er bod Julie wedi bod yn hogi ei chrefft ac yn gori’r syniadau am rai blynyddoedd dim ond yn ddiweddar y mae hi wedi llwyddo i gipio dychymyg y cyhoedd. Y mae’r reddf i ‘aros gartref’ ac i ‘fod yn ddiogel’ sydd mor gyforiog yn y diwylliant gweledol ofnus y dyddiau hyn wedi dod benben â gweledigaeth Julie a’i ddwyn i sylw’r cyhoedd. Gwelir ieuo cymharus rhwng ei gwaith crefftus a’r syniad o dwtio a chlytio drwy gyfrwng papier maché a thecstiliau. Y mae’r clytwaith o emosiynau wedi dod i oed.
Golygydd, cylchgrawn Selvedge
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
16/7/10
14:40
Page 14
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
16/7/10
14:40
Page 15
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
16/7/10
14:40
Page 16
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
16/7/10
14:40
Page 17
julie arkell Os nad os unman yn debyg i gartref yna y mae Julie wedi dewis enw hynod o addas ar gyfer ei harddangosfa. Fe welir bod yna ofal cariadus yn ei holl waith ac y mae pob darn yn amlygu’r sgiliau feithrinwyd yn y cartref. Tŷ rhes gwyn ar y pen mewn stryd lydan yng ngogledd Llundain yw cartref Julie. Dyma lle y magwyd ei thad a’i chwaer ‘Auntie Violet’ a lle mae Julie a’i ffrind a’i phartner Douglas yn byw ac yn gweithio heddiw. Pan symudodd Julie yma yr oedd y tŷ’n fwrlwm o atgofion gyda phob dror yn cynnwys siwrwd o’r gorffennol ac y mae llawer o hwnnw wedi cael ei ymgorffori yn ei gwaith. Yn eistedd a’i phwys ar y wal ar y landin y mae doli ‘cwsg yn awr’ ac yn gwisgo coban Anti Violet. Y mae llawer o’r cardiau post a gafwyd ar wyliau tramor hefyd wedi cael eu pwytho a’u cymhwyso er mwyn gwneud darlun geiriol o’r byd sydd yn cael ei greu gan Julie. Un o hoffterau Julie pan yn blentyn oedd ‘chwarae’ drama gan ddefnyddio’r tri phyped Pelham a gafodd yn anrheg – y Wrach, Sindyrela a’r Hen Wraig – ac y mae ei gwaith hyd heddiw’n parhau i adrodd stori drwy ddefnyddio geiriau a gwrthrychau o’i phlentyndod. Y mae’r tri chymeriad yn disgrifio tair agwedd o bersonoliaeth Julie ac y mae hi’n llwyddo i arddangos y cymhlethdod difyr hwn yn ei gwaith. Wedi astudio tecstiliau ffasiwn yng Ngholeg St Martin penderfynodd Julie ei bod eisiau rhyddid i greu ei syniadau ei hun yn ei hamser ei hun, a hynny ar waethaf y ffaith ei bod yn hoff iawn o ddillad a ffabrigau. I ddechrau aeth ati i ymestyn a pheintio sidan llaw a defnyddio ei holl dameidiau i wneud atodion a’u gwerthu ar stondin grefftau yn Covent Garden yn y farchnad oedd newydd agor ar foreau Sadwrn. Bob nos Wener ai ati i beintio ei chardiau busnes er mwyn eu
17
chwith Pick up twigs Winged creature tudalen flaenorol Care for and Pine Knitted shadows
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
de The rest is silence... and hope Ragwort
16/7/10
14:40
Page 18
rhannu yn ystod y dydd ac erbyn canol dydd byddent oll wedi mynd. Datblygdd y cardiau busnes yn gardiau cyfarch ac arweiniodd hyn at swydd gyda chwmni yn yr UDA am gyfnod. Er bod Julie erbyn hyn yn derbyn incwm ac yn berchen fflat yn Islington nid oedd yn siwr i ba gyfeiriad i fynd. Daeth y weledigaeth un diwrnod yn yr Amgueddfa Brydeinig pan welodd y ffiolau Groegaidd mawr a sylweddoli ei bod yn ysu am gael gweithio gyda gwrthrychau. Gan ei bod yn teimlo y byddai clai’n cymryd gormod o amser dechreuodd gymysgu blawd a dŵr hefo papur newydd. Yr oedd cryfder y papier maché yn golygu ei bod yn medru gwneud math ar gerfluniau yn ogystal a broetsus bach, cadwenni ac effemera naci ac yn 1985 arddangosodd y rhain yn Ffair Grefftau Philippa Powell yn Chelsea gan ddenu prynwyr a chasglwyr, llawer ohonynt yn gyfarwydd â‘i chardiau cyfarch. Datblygodd ei gwaith a dechreuodd ei arddangos mewn gwahanol orielau. Ambell dro yr oedd ar raddfa eang ac yr oedd y gwrthrychau’n rhai amryfal. Yr oedd yna gychod hefo olwynion a hwyliau, pramiau’n llawn o gymeriadau talsyth. Maent oll yn edrych yn ddigon tebyg i’r pethau a gofiwn o’n plentyndod ac eto y maent yn gwbl wahanol. Mae yna rywbeth annifyr ynglyn â nhw ond rhaid ychwanegu nad yw gwaith Julie erioed wedi ymdebygu i beintiadau hunllefus Paula Rego. Tra mae Rego’n peintio ac yn arlunio ei breuddwydion a’i hunllefau y mae Julie’n creu creaduriaid sydd yn mynegi gobaith, llawenydd, tristwch ac amheuaeth. Ai oherwydd bod ei gwaith wedi’i wreiddio yn y crefftau a ddysgwyd yn y cartref: pwytho, gludo, gwnio, gwau? Y mae gwaith Julie wedi’i seilio ar papier maché ac y mae ganddi dechneg ddeheuig a chyflym. A siarad yn gyffredinol nid yw pobl yn gweld y sgiliau a’r meddylgarwch sydd y tu ôl i’r gwaith pan maent yn edrych arno. Mae’n llesmeiriol sylwi ar y modd y mae Julie’n pastio’r papur ac yn defnyddio ei dwylo i greu gwrthrychau a chreaduriaid – mae’r arwyneb yn rhoi’r argraff o ofal a meithrin. Daw’r papur allan o hen lyfrau clawr meddal, yn aml wedi eu casglu mewn
18
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
16/7/10
14:40
Page 19
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
16/7/10
14:41
Page 20
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
16/7/10
14:41
Page 21
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
16/7/10
14:41
Page 22
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
16/7/10
14:41
Page 23
marchnadoedd, arwerthiannau a siopau llyfrau cefn gwlad. Mae ei gwaith yn cael ei grynhoi allan o’r byd casglu, o wrthrychau sydd wedi cael eu piota, o’r trysorau y daeth ar eu traws mewn siopau offer caled a siopau manion teilwra. Mae ei thechneg yn syml – ei bwrdd mawr yn y stiwdio wedi’i ddosrannu’n bwrpasol ar gyfer papier maché, ar gyfer gludo gyda gwn gwm, ar gyfer pwytho ac ar gyfer peintio. Mae’r waliau wedi eu leinio gyda silffoedd o waith Douglas a dyma lle mae hi’n gosod y pethau a ddarganfu a’r trysorau a ddaw drwy law pobl eraill. Mae hi’n eu gosod lle medr eu gweld, yn byw hefo nhw am ychydig cyn mwynhau’r cyffro pwyllog wrth geisio eu cymhwyso i wneud doli wningen neu ben wedi’i wau neu deulu allan o bren. Fel y mae Julie’n eu creu y mae eu cymeriad a’u personoliaeth yn amlygu eu hunain. Mae rhai o’r doliau cwningen yn gwrthod dod allan o’r cwpwrdd, gwell ganddynt guddio yn y cysgodion; mae’r ddwy sydd yn gwisgo hetiau fel pe baent yn mwynhau sgwrs swil. Fy ffefryn i yw’r teulu pren. Fe’u gwnaed allan o flociau adeiladu a’r rhan fwyaf o’r lliw gwreiddiol wedi pylu. Ond y mae’r teulu – mam a thad a babi – yn berchen llygaid ac wynebau arbennig iawn a’r cyrff sgwâr syml yn gwisgo ychydig o ddillad wedi’u gwau. Mae ganddynt ddau anfail – llew a chwningen – gyda chynffonnau a mwng a chlustiau hirion ar eu wynebau bloc sgwâr ac y mae Julie’n gwenu’n braf wrth ddangos i mi ei bod yn bosibl newid yr wynebau drosodd ‘os ydych yn camfihafio’ yn union fel mewn llyfrau plant lle mae’r pen, y corff a’r traed yn medru cael eu troi i wahanol gyfeiriadau i greu ffurfiau od. Mewn cyferbyniad i’r newydd a’r dilychwin y mae gwaith Julie’n dathlu aeddfedrwydd a defnydd ac yn fwyaf arbennig farciau sydd yn arddangos gofal a sylw. Wrth gerdded ar hyd stryd yn Ffrainc yn ystod yr haf eleni gwelodd Douglas bwt o rhuban coch a’r gair MAMAN wedi’i frodio â llaw blentynnaidd arno. Fel y dywed Julie ‘y cyfan oedd arnaf ei eisiau yn y byd crwn oedd y darn rhuban hwnnw ac yr oedd Douglas wedi cydio ynddo.’ Yr oedd hi wedi gweld yn syth bod y
23
chwith Knitheads tudalen flaenorol The wooden block family
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
de Almost trosodd Small rabbit dolls
16/7/10
14:41
Page 24
dernyn hwn yn cynrychioli’r holl werthoedd y mae hi’n ceisio eu dathlu yn ei gwaith; mae’r darn rhuban yn ernes o hynny. Daeth adre a gwirioni ar frodio rhuban. Yn yr un modd y mae wedi dewis cardiau post gydag ychydig eiriau neu frawddegau byr wedi eu hysgrifennu ar y cefn. Gwnaeth amlinelliad o’r ychydig eiriau dwysbigol hyn a’u brodio fel rhan o ddarlun wedi’i adeiladu o gwmpas y cerdyn. Ambell dro y mae hi hefyd yn brodio rhannau o’r cerdyn i dynnu sylw at ryw fanylyn sydd wedi denu ei llygad. Wedyn mae hi’n eu pinio ar y wal er mwyn cydfyw hefo nhw am dipyn. Mae Julie wedi cael ei chyfareddu gan eiriau ers blynyddoedd. Mae’n gwrando ar y radio wrth weithio ac yn ymateb yn sensitif i eiriau a brawddegau byrion ac yn eu cofnodi yn ei llyfrau lloffion ochr yn ochr â’i darluniau a pheintiadau. Dyma’r syniadau ar gyfer y dyfodol. Mae’n eu dewis ar gyfer enwi’r creaduriaid – hosan goll, cwsg yn awr, llithro tipyn. Brodiodd eiriau’r bardd a ddywedodd pan ofynnwyd iddo ‘pam sgrifennu barddoniaeth’ ‘Pe bawn yn gwybod o ble y daw mi awn yno.’ Yngl ŷn â’i gwaith ei hun disgrifia fel y mae’n gwneud pethau a wêl o gornel ei llygad, yn gwneud pethau y mae arni eisiau eu gweld; fel y sylweddolodd mai’r rheswm pam ei bod yn gwneud pethau oedd oherwydd hebddi hi ni fyddent yno. Person tawel hyfryd yw Julie, wedi’i gwisgo mewn haenau o ddillad lliwgar digon tebyg i’r creaduriaid sydd yn cael eu creu ganddi. Daw â lliw, hwyl a chynhesrwydd i fywyd pobl drwy greu pethau sydd yn Seisnig eu hanfod, yn cyfleu odrwydd Seisnig, pethau fel gwyliau glan môr, ystafell y plantos yn llawn o bramiau, teganau a thai-doliau, ei byd ei hun. Fel y dywed hi ‘Rwyf yn mwynhau cipio eiliadau coll a chreu pethau sydd yn gwneud i mi chwerthin. Perfformiad yw’r arddangosfa hon – llwyfan i’r beirdd o wningod, pobl y jar, y pennau-gwau a llawer mwy. Cipolwg o fyd i bendroni drosto. Mary La Trobe-Bateman
24
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
16/7/10
14:41
Page 25
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
16/7/10
14:41
Page 26
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
16/7/10
14:41
Page 27
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
16/7/10
14:41
Page 28
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
16/7/10
14:41
Page 29
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
16/7/10
14:41
Page 30
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
16/7/10
14:41
Page 31
cartref Un peth sydd yn cael ei drysori a’i anwylo’n fwy na dim gan blentyn yw ei degan meddal – yn arbennig y ffefryn – hwnnw sydd yn cael y gofal ac yn clywed cyfrinachau, yn cael ei lusgo i bobman, ei gofleidio nes y mae wedi gwisgo’n dwll, ei stwffin allan, wedi colli ei aelodau, ei ailstwffio a’i glytio a’i ail-ddilladu. Y mae Julie Arkell wrth ei bodd gyda gwrthrychau o’r fath – yn llawn diddordeb yn eu hoed a’u harwyddocad emosiynol. Mae’n cofio gweld plentyn yng nghefn gwlad Ffrainc unwaith oedd yn berchen tegan o’r fath, wedi ei rwymo a’i glytio gyda gwahanol rubannau a charpiau nes ei bod yn amhosibl gwybod beth oedd y tegan gwreiddiol i fod. Ar yr un diwrnod yr oedd yn digwydd bod mewn amgueddfa yn Dijon oedd a’i silffoedd yn llawn o samplau bywydegol mewn jariau gwydr. Yr oedd y ffordd yr oedd y rhain yn cael eu harddangos yr un mor gyfareddol a dotiodd at y ffaith bod y gwrthrychau wedi eu gosod mewn modd ymarferol iawn oherwydd sylwodd bod tyllau wedi eu torri yn y silffoedd er mwyn i ambell ddarn lletchwith ffitio; hyd yn oed twll yng nghauad jar er mwyn i neidr hir fedru gorwedd yn daclus ynddo. Ysbrydolwyd hi gan yr hyn a welodd ac aeth ati i wneud casgliad o gymeriadau wedi eu stwffio, eu gwau a’u pwytho a’u gosod mewn cynhwysyddion gwydr, llond silff o hynodion gyda chapsiynau mewn clytwaith a phwythau sydd ond yn rhyw hanner awgrymu beth a phwy
31
chwith Jar creature, An Inkle... from the ancient world tudalen flaenorol Jar knit tops
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
uchod Sock jar people
16/7/10
14:41
Page 32
ydynt. Maent yn cael eu cyflwyno fel pe baent yn samplau. A’r fath gymysgedd cyfrin o samplau ydynt! Creaduriaid rhyfedd heb ddim yn gyffredin rhyngddynt – mewn na ffurf, nodweddion na nifer eu haelodau. Mae breichiau Inkle o’r henfyd yn dadfachu ond nid oes neb yn gwybod paham; nid oes dim byd yn gyffredin yn Ordinary Families – yn wir y mae’n deulu od ar y naw. Mae jar Toad Flax yn rhy fer ac felly rhaid oedd torri dau dwll yn y cauad er mwyn gwneud lle i’r ddwy glust cwningen sticio allan yn union fel y mae’r neidr wedi profi’n ormod i’r jar yn yr amgueddfa. Creadur tebyg i froga yw Stitch-back wedi’i osod a’i draed i fyny a’i ben i lawr a’i lynu wrth gauad y jar. Creadur gyda phedwar aelod yw Help heb ddim byd ar ei wyneb o gwbl ond bod y gair ‘help’ wedi’i frodio’n ofalus ar ei gorff, a’i glustiau neu ei aelodau uchaf yn sticio allan drwy’r jar jam. Y rhyfeddaf oll yw Shy, creadur eiddil gyda llygaid bychain wedi eu creu allan o fotymau clec metel, un benywaidd, un gwrywaidd. Mae’n bosibl eu popio, hynny yw, maent yn ffitio i’w gilydd a pheri i’r creadur swil syllu ar ei du mewn ei hun a chuddio popeth o fewn plyg ganolog. Gyda’r gweithiau hyn y mae Julie fel pe bai’n ymchwilio i mewn i’r emosiynnau amrwd gan greu geiriau a chysylltiadau dieithr
32
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
16/7/10
14:41
Page 33
allan o’i “geirfa” enfawr o ddeunyddiau, creaduriaid dioddefus sydd ag angen gofal a’u gosod y tu ôl i wydr. Dyma eu cartref. Cartref yw’r thema ganolog yn yr arddangosfa hon ac y mae’n dangos dylanwad dwfn ei dyddiau mebyd yn yr 1950au. Cyn inni oll gael ein cyflyrru gan y meddylfryd cyfoes, bod offer tŷ i’w ddefnyddio ac yna’i daflu, cyn dyddiau’r dillad rhad o wledydd tramor a phrydau parod, yr oedd y cartref yn rhywle prysur lle’r oedd popeth oedd yn cael wisgo neu ei fwyta wedi cael ei wneud yn y fan a’r lle. Honno oedd oes y siop wen, y siop nwyddau haearn a’r siop edafedd. Yr oedd mam Julie’n wraig ddarbodus, yn gwau sanau i’w gŵr, coginio bisgedi, gwneud ei dillad ei hun, ac i Julie a’i doliau. Nid yw Julie’n or-hoff o’r diwydiant masnachol Populuxe o’r 50au, y ceir adennog, y miwsig a’r ffasiwn; eithr y sentiment a’r anian, manion diwydiant y cartref o’r cyfnod hwnnw sydd yn parhau i fynd â’i bryd. Pan ofynnir iddi pa artistiaid sydd wedi dylanwadu arni y mae hi’n nodweddiadol wylaidd gan nad yw’n cael ei denu gan gelfyddyd fawreddog, eithr y personol a’r naci: “Rwyf yn mwynhau’r pethau
33
uchod Animals on wheels
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
uchod Red knit-wit
16/7/10
14:41
Page 34
agos-atoch chi sydd yn cael eu creu gan artistiaid, megis y gwaith a wnaed gan y cerflunydd Alexander Calder i’w deulu a’i gyfeillion.” Mae’n hoffi ffurfioldeb trefnus Giorgio Morandi, y ffaith ei fod wedi dychwelyd at ei wrthrychau dro ar ôl tro a’u hail-beintio a hynny drwy gydol ei oes. Mae hi hefyd yn cael ei chyfareddu gan yr awdur a’r arluniwr enigmatig hwnnw, yr Americanwr Edward Gorey. Ar yr olwg gyntaf y mae ei lyfrau yn edrych fel pe baent wedi cael eu hysgrifennu ar gyfer plant ond o edrych yn ofalus gwelir ynddynt hiwmor tywyll mwy addas i oedolion. Y mae yng nghartref Gorey, yr Elephant House ym Massachusetts, (a agorwyd i’r cyhoedd yn dilyn ei farwolaeth yn 2000) gasgliad o wrthrychau ganfyddwyd ar hap, wedi eu gosod yn
34
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
16/7/10
14:41
Page 35
drefnus fesul teulu; teganau, cerrig, trugareddau, a hyd yn oed teganau meddal wedi cael eu gwneud gan Gorey ei hun. Mae Julie ei hun yn gasglwr dibendraw. Mae ei chartref yng ngogledd Llundain, y t ŷ lle magwyd ei thad a’i modryb, yn llawn o effemera o’r dyddiau gynt, pethau a ddewisiwyd oherwydd eu lliw, graen, hiwmor, harddwch gwyw neu am eu bod yn amlwg wedi cael eu gwneud â llaw. Casgliad ydyw o fotymau, bathodynnau, papurau, brethynnau, rhubannau, edafedd, llyfrau, doliau, teganau, neu ddarnau mân o’r rhain i gyd. Maent yn cael eu harddangos yn drefnus ac yn sensitif, mewn jariau, droriau, silffoedd a blychau, yn rhoi’r argraff eu bod yn gwbl ddifywyd ac yn mynd i fod yno am byth. Ond nid yw Julie’n fursennaidd yngl ŷn â’i meddiannau gan fod ei chasgliad yn ysbrydoliaeth iddi yn ogystal a darparu cyflawnder o ddeunydd crai ar gyfer ei gwaith. Ymgorfforir llawer ohonynt yn ei gwaith. Cynyddodd y gydnabyddiaeth i Julie fel artist dros y degawdau, mae iddi enw fel un sydd yn gweithio mewn papier maché a oedd – cyn dyfodiad y ‘creaduriaid ffug-ddynol’ – yn addurnol a lliwgar dros ben. Mae’n gweithio gyda phethau bach yn y dull traddodiadol: papier maché, pwytho, gwau (gyda chymorth ei mam a’i ffrind Beth ambell dro) peintio, brodio, gludwaith. “Yr wyf yn hoffi gweithio gyda darnau o ddeunydd, edafedd a phapur sydd wedi cael eu gwisgo, eu rhwygo, eu defnyddio, eu darllen. Y mae rhestrau a ganfuwyd y tu mewn i ryw
35
uchod Box creatures
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
16/7/10
14:41
Page 36
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
16/7/10
14:41
Page 37
lyfr, darnau o hen ddillad, hen fotymau, hen glymau, geiriau cudd, straeon, teimladau coll, oll yn cael eu cyfuno megis cyfrinachau ar fap. Rwyf yn ymateb i amherffeithrwydd pethau. Mae yna ystyr ddyfnach i mi mewn pethau wedi rhaflu, pylu, staenio neu ddatod yn hytrach na gwrthrychau perffaith.” Mae hi wrth ei bodd gyda gwrthrychau sydd o werth emosiynol, yn arbennig y rhai sydd a wnelont rywbeth â gwaith llaw; darn o ruban coch gafwyd ar lawr mewn stryd yn Ffrainc gyda’r gair MAMAN wedi’i frodio’n amrwd arno; barf wedi’i ychwanegu â beiro ar wyneb merch fach ddiniwed mewn llyfr plant; negeseuon oddi ar gardiau post ail law. Drwy ddefnyddio darnau o ysgrifen a gwrthrychau sydd eisoes yn berchen hanes emosiynol y mae Julie’n cynnal y sentiment hwnnw ac yn anadlu bywyd newydd iddynt. Wrth ail-feddiannu’r deunydd y mae hi hefyd yn ail-feddiannu’r emosiwn sydd yn cael ei fuddsoddi yn y gwneuthuriad. Yr hosan ail-law o’r 50au, er enghraifft, a wisgwyd gan Julie, erbyn hyn wedi’i thrawsnewid i ffurfio cwpwl mewn trol: y mae ychydig o stwffin ac ambell i fotwm yn gwneud byd o wahaniaeth ac yn eu troi’n greaduriaid annibynnol ond bod y lliw a’r patina’n cyfleu’r stori. Mae yna gysylltiad agos rhwng y pethau y mae hi wedi dod o hyd iddynt a’r pethau sydd yn cael eu gwneud ganddi; mae hi’n sylwi sut y mae dillad wnaed â llaw wedi cael eu saernio mor ofalus ac mor gain ac y mae hi’r un mor fanwl gyda’i gwaith ei hun. Mae hi’n hynod o ddiffuant pan mae’n sôn am ei gwaith. “Yr wyf wedi gwirioni arnyn nhw”, “Roeddwn wrth fy modd yn gwneud hwn.” Mae hi’n cael ei
37
chwith Studio shelves ‘MAMAN’ uchod Sock carts
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
uchod Postcard picture Framed writing de Heidi grows up Pick up sticks
16/7/10
14:41
Page 38
hysgogi i wneud y math o bethau yr hoffai hi eu gweld o’i chwmpas. Mae hi’n creu byd addfwyn a thangnefeddus ond y mae hefyd yn cael ei chyfareddu gan dristwch. Er bod ei ffigurau’n llawn angerdd y maent hefyd yn enigmatig. Ffigurau yw mwyafrif ei gwaith a hyd yn oed pan maent wedi cael eu gosod mewn grwpiau teuluol neu’n cyd-deithio mewn trol neu gwch, ymddengys nad oes yna unrhyw gyfathrach rhyngddynt. Creaduriaid unig ydynt. Y math o greaduriaid sydd yn cael eu gadael ar ôl ac yn teimlo’n anghysurus ble bynnag y maent. Maent yn naci; mae gan ambell un nodweddion dynol, eraill a chlustiau cwningen – neu efallai mai’n gwisgo hetiau gwlân hefo clustiau cwningen arnynt y maent? Maent mewn sefyllfa anwadal; gyda phennau mawr a wynebau llydan plentynnaidd. Eu mynegiant yn gwbl ddi-ddweud gyda llygaid botymau, dim ond pwyth i arddangos byw’r llygad; y geg onid hollt wedi’i brodio; ambell dro edrychant yn hollol ddiniwed gyda gwefusau main a llygaid pen pin; neu efallai’n llawn arswyd gyda llygaid-trwyn-ceg wedi eu torri allan o gylchgronau sglein a’u gludo ar wynebau llwy bren. Ond y mae hi hefyd yn gwneud pethau sydd yn peri iddi chwerthin wrth gamosod, neu ddefnyddio geiriau allan o’u cyd-destun, cyfeiriadau at fywyd y gegin a’r bydol – tebyg i’r ysgrif a bwythwyd mor fanwl ar un o’i chardiau post crog mwyaf cofiadwy gyda’r geiriau ‘In Pursuit of Jam’. Sara Roberts 38
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
16/7/10
14:41
Page 39
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
16/7/10
14:41
Page 40
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
16/7/10
14:41
Page 41
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
Animals on stage
16/7/10
14:41
Page 42
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
16/7/10
14:41
Page 43
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
Glimpse in drawer
16/7/10
14:41
Page 44
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
16/7/10
14:41
Page 45
Farmyard shelf
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
16/7/10
14:42
Page 46
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
16/7/10
14:42
Page 47
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
16/7/10
14:42
Page 48
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
16/7/10
14:42
Page 49
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
16/7/10
14:42
Page 50
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
16/7/10
14:42
Page 51
datganiad yr artist Yr wyf bob amser wedi mwynhau gwneud pethau. Drwy ddefnyddio deunyddiau megis papur, glud, gwifren, cardfwrdd, pren, darnau o hen ffabrig a gwlân yr wyf yn medru gwneud pethau sydd yn mynegi’r hyn sydd yn fy meddwl, fy syniadau a theimladau, gan uno’r gorffennol a’r dyfodol. Rhan bwysig o’r elfen greadigol i mi yw bod yn gwbl ddigymell. Yn hytrach na gorfodi rhywbeth i droi allan gwell gennyf aros i weld beth all ddigwydd. Ymysg y ffynonellau pennaf y mae crefftau gwerin, gwaith plant a theganau gan fy mod yn teimlo eu bod yn rhan o hanfod bywyd pob dydd ac yn cael eu defnyddio a’u mwynhau oherwydd eu brwdfrydedd a’u diffuantrwydd. Julie Arkell
51
chwith Studio boxes uchod Julie Arkell yn ei gardd
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
16/7/10
14:42
Page 52
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
16/7/10
14:42
Page 53
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
16/7/10
14:42
Page 54
bywgraffiad de Tic-toc watches trosodd Chocolate box assortment
1955
Geni yn Llundain
Hyfforddiant 1977–78 BA Tecstiliau Ffasiwn, Coleg Celf S Martin, Llundain 1974–77 BA (Anrh) Tecstiliau, Coleg Celf a Dylunio Gorllewin Surrey 1999
Rhestr y Cyngor Crefftau o Wneuthurwyr Detholedig
Arddangosfeydd detholedig 2004 Cartref, The Gallery, Oriel Canolfan Grefftau Rhuthun (unigol, ar daith) Material Girl, Gemau Kath Libbert, Saltaire Casgliad bychan o bethau, oriel gelf jelly leg’d chicken, Reading 2003–04 Tales of the Unexpected, Siop Oriel y Cyngor Crefftau, Llundain 2003 Recollection, Oriel Dinas Leeds Dathlu Addysg, Celfyddydau Cymhwysol Cyfoes, Llundain 2002 Julie Arkell & Susie Freeman, sioe dwy, Celfyddydau Cymhwysol Cyfoes, Llundain 2001 Thirteen Hands, Prosiect Crefft Caol, Ystafell 13, Ysgol Gynradd Caol, Yr Aeban (ar daith) SPOONS: bach a mawr, Oriel Lesley Craze, Llundain 2000 Christmas Capers, Siop y Cyngor Crefftau, Amgueddfa’r V&A, Llundain Crefft Papur, Oriel y Black Swan, Frome Arddangosfa Nadolig, Oriel Flow, Llundain Memories, Celfyddydau Cymhwysol Cyfoes, Llundain Last Orders, Siop Oriel y Cyngor Crefftau, Llundain 1999 Julie Arkell, Linda Miller, Lynn Muir, Oriel Dinas Caerlyr All That Glisters, Oriel Agalma, Milan, Yr Eidal – trefnwyd gan y Cyngor Prydeinig (ar daith) 1998–2004 Künstlerisches Spielzeug, Munich, Yr Almaen 1997 Ffenest Nadolig, Celfyddydau Cymhwysol Cyfoes, Llundain 1995 Show of Hands, Oriel Show of Hands, Denver, UDA 1995–2002 Ffair Roddion Ryngwladol Efrog Newydd, UDA Gweithdai 2004 2002 2001–04 1994–98 1997
Gweithdy Artist and Display, Milwaukee, Wisconsin, UDA Ysbyty Great Ormond Street, Llundain (CAA) Gweithdy plant yn Ysgol Brecknock (CAA) Coleg Marlborough, ysgol haf – gweithdai wythnos DALI, Ysgol Haf S Martin Freetown, Gorllewin Affrica – gweithdy wythnos wedi’i drefnu gan y Cyngor Prydeinig Barbican, Llundain – gweithdai plant
54
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
16/7/10
14:42
Page 55
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
16/7/10
14:42
Page 56
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
16/7/10
15:40
Page 57
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
21/7/10
10:50
Page 58
cydnabyddiaethau de Sleep Tight (manylyn) trosodd Sleep Tight Sleep Might Sleep Now
Hoffai Julie Arkell ddiolch i bawb am y rhoddion o ffabrig, edafedd, doliau, dillad a botymau ac ati a fu’n gymaint o werth iddi yn ei gwaith dros y blynyddoedd. Diolch hefyd i’r canlynol am bob cymorth gyda’r arddangosfa hon: Y Celfyddydau Cymhwysol Cyfoes, yn arbennig Mary La TrobeBateman; Philip Hughes, Jane Gerrard a Chanolfan Grefftau Rhuthun; Elaine Duigenan a Stewart Keegan; Amanda Caines. Y gweuwyr: Jean Arkell, Mrs Phipps, Denise Washington, Josie Caines, Beth Morrison a Josie Firmin; Douglas Bevans am ei anogaeth diddiwedd. Y mae Canolfan Grefft Rhuthun yn dymuno diolch a chydnabod cymorth y canlynol: Mary La Trobe-Bateman OBE; Sara Roberts; Polly Leonard; Sonia Collins; Cyngor Celfyddydau Cymru a Nathalie Camus; Hafina Clwyd; Lisa Rostron; John Gillett, Elaine Duigenan; Dave Lewis; Roger Mansbridge; Pete Goodridge a ArtWorks. Y mae Dwylo Julie Arkell: cartref yn un o Arddangosfeydd Teithiol Canolfan Grefft Rhuthun gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru. Staff Arddangosfa Canolfan Grefft Rhuthun Philip Hughes a Jane Gerrard. Argraffwyd gydag inciau llysieuol ar bapur yn deillio o fforestydd cynaliadwy.
Sara Roberts Curadur ac ymgyngorydd annibynnol yw Sara Roberts. Yn ddiweddar bu’n gyfrifol am guradu 30/30 Vision Creative Journeys in Contemporary Craft ar ran y Cyngor Crefftau a’r arddangosfa deithiol Hand to Eye oedd yn portreadu prosesau crefft. Cyn hynny bu’n gweithio i PACA (Public Art Commissions Agency), Y Cyngor Prydeinig a sates.org yn Oriel Caerwynt. Mary La Trobe-Bateman OBE Mary La Trobe-Bateman MDesRCA OBE is about to retire as director of Contemporary Applied Arts, the awardwinning gallery in central London which she has steered for the last ten years. She is a trustee of The Making, a selector for COLLECT at the V&A, sits on committees for The Goldmiths’ Company and the Crafts Council, and from January 2005 will be working as a freelance consultant and curator. Dylunio: lawn 01244 674531 Ffotograffiaeth: Elaine Duigenan Argraffwyd gan: Synergy Cyhoeddwyd gan Yr Oriel, Canolfan Grefft Rhuthun. Testun h yr awduron a CGR 2004. ISBN 1 900941 78 3 Y mae Oriel Canolfan Grefft Rhuthun yn rhan o Gyngor Sir Ddinbych gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru. Yr Oriel Canolfan Grefft Rhuthun Heol y Parc, Rhuthun, Sir Ddinbych LL15 1BB Ffôn: 01824 704774
58
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
16/7/10
14:42
Page 59
30164_JA_Cat_English_Reprint_120710
16/7/10
14:42
Page 60
JA_Cat_Cover_Reprint_190710
19/7/10
15:59
Page 2
JA_Cat_Cover_Reprint_190710
19/7/10
15:59
Page 1
Julie Arkell
Julie Arkell ISBN 1 900941 78 3