Jilly Edwards – Adlewyrchiadau & Ymchwiliadau

Page 1

Jilly Edwards



adlewyrchiadau & ymchwiliadau


uchod a de: Textures of Memory, 2005 Ystof cotwm. Anwe gwlân, cotwm, llin, shenîl, moher a phapur. 5cm x 1200cm


Cynnwys 5

Cyflwyniad – June Hill

9

Jilly Edwards: Tapestri i’r 21ain Ganrif – Fiona Mathison

17

Lliwiau, Teithio a Thirlun – Ian Wilson

31

Bywgraffiad dethol

36 Cydnabyddiaethau


Tudalen llyfr braslunio: Pastel, pastel olew, dyfrlliw a phensil.

Matthew’s Summer Garden, 1980 (manylyn) Ystof cotwm. Anwe gwlân, cotwm, llin, shenîl. 150cm x 120cm


Cyflwyniad Nid oes cyfnod penodol i wireddu arddangosfa. Mae rhai yn cymryd blynyddoedd i ddatblygu; eraill fisoedd, tra mae rhai prin yn ffurfio mewn mater o funudau. O feddwl am yr amser mae’n gymryd i wehyddu mi fyddai’n naturiol i ragdybio buasai Adlewyrchiadau ac Ymchwiliadau wedi bod angen cyfnod go hir i’w datblygu: mewn gwirionedd, fe ddaeth yr arddangosfa at ei gilydd yn eitha sydyn, deunaw mis yn treulio rhwng cadarnhau’r prosiect a gosod y gwaith yn yr oriel yn Rhuthun. Mae’r elfen ôl-syllol i Adlewyrchiadau ac Ymchwiliadau, fodd bynnag, yn lledawgrymu at y cyferiadau yng nghwaith Edwards at dreigl tipyn hirach o amser. Gwehyddwyd y gwaith cynharaf i’w ddangos yma, Matthew’s Summer Garden, yn y 1980au tra roedd Jilly yn astudio yng Ngholeg Celf Caeredin, yn yr Adran Dapestri adnabyddus. Roedd wedi bod yn wehyddydd am ddeng mlynedd cyn hyn, ond roedd y cyfnod yna yng Nghaeredin yn dyngedfennol i’w datblygiad diweddarach fel artist. ‘Yna’, meddai ‘oedd y lle a’r amser i mi ganfod fy llais fel gwehyddydd.’ Mae lle ac amser yn elfennau pwysig yn ymarfer Jilly Edwards. Mae i’r gwaith gwehyddu a’i phaentiadau synnwyr cryf o le. Mae lliwiau a rhythmau ei gwaith yn adlewyrchu llygad graff a threiddgar, yn ogystal â sensitifrwydd cynhenid cyd-destun ei bodolaeth. Mae ei diddordeb mewn siwrneia – yn gorfforol ac yn greadigol – mor ganolig i’r modd mae’n gweithredu ag ydi ei phwnc. Yn y blynyddoedd diweddar mae Edwards wedi cyfuno ei diddordeb mewn lle gyda rhyfeddod cynyddol gyda thraul amser – gyda gwehyddu yn aml yn

ymddangos fel ffurf corfforol ohono. Mae’r syniadaeth y tu ôl i’r Symudiad Araf1 wedi bod yn symbyliad am lawer o drafod ar y pwnc yng nghyd-destun crefft ac mae gan Edwards ddiddordeb cryf yn y drafodaeth yma. Mae’n ymdriniaeth sy’n atseinio gyda’i phrofiad hi o wehyddu ynghyd â’r amser mae’n gymryd i greu. Dyma ei hymwybyddiaeth, nid yn unig o’r broses gorfforol o wneud, ond hefyd o dreftadaeth y grefft. Nid yw bod yn rhan o barhad yr ymarfer yn gysyniad haniaethol i Edwards: mae’n rhywbeth sy’n gyfannol i’w gwehyddu. Roedd y cyfnod dreuliodd yng Nghaeredin yn fodd i sefydlu ei gwaith yn rhan o etifeddiaeth y grefft gelfyddydol dechnegol hon. Yn ymwybodol o’r etifedd hwn ac yn ymwybodol o’r drafodaeth gyfoes ym myd tapestri, gobaith Edwards yw y bydd yr ardangosfa yn herio ystyriaeth ynglyn â’r ddealltwriaeth gyfoes o wehyddu tapestri. Nid yn gymaint oherwydd ei statws hi ei hun ond o ran y cyfrwng yn ei gyfanrwydd. Mae Edwards am weld parhad iach i’r grefft gan y to newydd o wehyddwydd; gwehyddwyr sydd – fel hi – yn ymchwlio ac adlewyrchu ar ymarfer cyn cychwyn ar siwrne fydd yn mynd â’r grefft hon i’r dyfodol.

June Hill Curadur yr Arddangosfa

1. http://makingaslowrevolution.wordpress.com/

4/5


Twist of Light, 2001 Ystof cotwm. Anwe gwlân, cotwm. 23cm x 70cm Casgliad preifat


Follow the Path of the Heart, 2005 Ystof cotwm. Anwe gwlân, cotwm, llin, shenîl. 50cm x 125cm


Tŷ High Cross

Samplers (3 reels), 2009 Ystof cotwm. Anwe gwlân, cotwm, llin. 3cm x 200cm


Jilly Edwards: Tapestri i’r 21ain Ganrif Mae cyflymdra’r ffordd rydym yn byw a gweithio yn y byd datblygiedig wedi newid o fod yn gyflym i fod yn gyflym eithriadol: mae gwybodaeth ar gael i ni, ac yn cael ei hawlio oddi wrthym, ar gyffyrddiad botwm ac rydym ar gysylltiad parhaol gydag eraill ar gyfer gwaith neu weithgareddau cymdeithasol. Mae bod yn chwilfrydig yn anghenrheidiol ar gyfer mwynhad a llwyddiant mewn bywyd. Mewn sawl ffordd mae gwehyddu tapestri i’r gwrthwyneb o hyn; proses araf, cymhleth a llafurus; mae pob penderfyniad yn gofyn am weithred drefnus gorfforol dros gyfnod o oriau nid munudau. Nid oes unrhyw fodd o dorri corneli, does dim pethma na theclyn electroneg, a mae artistiaid tapestri fel arfer yn gweithio yn unigol. Mae chwilfrydedd yn bwysig i’r gwehyddydd hefyd, ond daw’r atebion yn araf, a mae’r sgiliau angenrheidiol, er yn eitha syml ar y dechrau, yn dod yn fwyfwy cymhleth wrth i’r broses ddenu’r artist i ofyn mwy o’u hunain, eu hamser a’r cyfrwng; mae gwehyddu yn dod yn draserch llawn amser. Dim rhyfedd felly i dapestri fel cyfrwng fod yn brin iawn ymysg artistiaid ifanc. Mae prinder amser a thwf posibliadau’r byd rhithwir wedi gwneud i’r byd cyffyrddadwy grebachu o’n cwmpas. Mae’n well gan y llygad sydd wedi arfer edrych ar sgrîn yr arwynebau llyfn caboledig ac awyrgylch di-lwch. Er fod modd i’r archwiliad o gyfrwng tapestri esgor ar ymdriniaethau a syniadau diddorol sy’n ymwneud â gwneuthuriad ac amser mewn ffyrdd cysyniadol a chyfoes, mae hanes y cyfrwng wedi ei gyplysu’n agos gyda phaentio a’r lluniadol, sy’n golygu fod datblygiadau felly yn anhebyg. Wrth gwrs mae tapestri yn wledd i’r llygad, ond nid delwedd yn unig ydyw, mae yn llawer mwy na hynny.

Samplers (3 reels), 2009 (manylyn) Ystof cotwm. Anwe gwlân, cotwm, llin. Ar focs dur gorchudd powdr. 3cm x 200cm

8/9


Fe astudiodd Jilly Edwards yn Adran Dapestri Coleg Celf Caeredin o 1980–82, man oedd, yn naturiol, yn dilyn y traddodiad yna, gyda’i fodolaeth yn ganlyniad i Stiwdios Tapestri Dovecote yng Nghaeredin. Pwrpas y cyrsiau oedd hyfforddi artist wehyddwyr, felly roedd gweithio gyda delweddau i ddatblygu syniadau am liw a chyfansoddiad, datblygu lluniadau a brasluniau lliw i gyd yn rhan o’r rhychwant sgiliau, ynghyd â gwehyddu, oedd myfyrwyr tapestri fel Jilly yn ymarefer. Fe ddaeth Jilly i Gaeredin gyda diddordeb brwd ond yn fuan iawn fel ddatblygodd yn draserch llawn amser, o’r math sy’n nodweddiadol o’r gwehyddwr tapestri ymroddedig. Dros sawl blwyddyn, ac mewn sawl rhan o’r wlad, mae Jilly wedi hyrwyddo’r grefft, rhedeg oriel bwrpasol, wedi ymroddi gyda sefydliadau celf yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ac wedi ysgogi cyllido. Drwy gydol ei gyrfa mae wedi parhau i wehyddu, gan dreulio amser yn astudio i ail-archwilio, a datblygu ei hymarfer ei hun. Datblygodd ei llais atristig gwirioneddol groyw fel artist wedi iddi adael Caeredin. Fe ddaeth drwy chwennych cyfuno gwehyddu, gyda’i brosesau trylwyr a manwl, gyda syniadaeth o amser a lle, wrth iddi deitho ar draws Awstralia. Dechreuodd y broses gyda chofnod ysgrifenedig a lluniadol wnaed ar y pryd, math o femorandwm. Yna fe ddefnyddiodd y rhain, nid i gopïo ond i ddwyn i gof ei phrofiadau dyddiol a’u trosglwyddo i wehyddiad. Wrth wneud i ffwrdd â’r angen i gopïo’r nodiadau, fe greodd fodd i’w hun fynegi syniadau yn union drwy wehyddu. Atodwyd geriau yn reit naturiol i edau a’u gwehyddu i mewn i’r brethyn; mae ennyd yn cael ei ddwyn i gof, gyda’r lle yn yr ennyd yna. Mae arloesedd a natur uniongyrchol yn cyfleu pethau newydd ddargnanfyddwyd – yr anisgwyl, yr antur, y profiad wedi dwyn i gof. Nawr yn rhan annatod o’i hymarfer, mae Jilly wedi gadael i’w phroses o wehyddu ddatblgu yn fodd o fynegiant iddi, yn fodd uningyrchol a dilys o gyfeirio at brofiadau personol. Mae’r gweithiau bychan hyn, yn aml wedi eu rholio fyny ar hyd yr ystof, gan eu gwneud yn gyfrwng hawdd i’w

10/11

From Exmouth to Budleigh Salterton, 2008. From Dawlish to Totnes, 2008 Ystof cotwm. Anwe gwlân, cotwm, llin. 5cm x 22cm


Memories of the Jurassic Coastal Path, 2008 Monoffilament cof. Anwe gwlân, cotwm, llin. 7cm x 35cm yn cynnwys pennau’r ystof

Walk along the Dart, 2009 10 o stribedi o wahanol faint a hyd. Ystof cotwm. Anwe gwlân, cotwm, llin, shenîl. darn canol: 20cm x 400cm


Travellers Samples, 2009 Cyfrwng cymysg: tapestri gweuedig, lluniad ar bapur shoji, llythrennu ar bapur, tocyn tren, meinwe bwrdd plastr, cregyn, cerrig, a thagiau prisiau papur. Pob bocs acrylig ar wahan 17.5cm x 13cm x 6cm


cario o gwmpas a’u dad-rolio fel bo digwyddiadau arbennig yn eu hyd yn cael eu hail-ymweld a’u hail-archwilio. Mae’r ffordd yma o wneud cysylltiadau gyda amser, lle a chof wedi parhau i amlygu drwy ei gwaith. Roedd ei gwaith gosod diweddar yn High Cross House, A Sense of Place, yn cofnodi ei hymchwil a’i hystyriaeth am ddigwyddiadau o’r gorffennol a’r presennol yna. Fe ososdwyd y stribedi gweol cul wedi eu rholio, ond eu hymylon yn dechrau datod, ar y silffoedd ffenest ymysg y gwrthrychau gwreiddiol. Roedd cerddoriaeth gan Nigel Morgan, wedi ei gomisiynu yn arbennig gan Jilly i gyd-fynd gyda’r gosodiad, i’w glywed yn llenwi’r ’stafelloedd. Yn ymwybodol o’r syniadaeth gyfoes i gymysgu cyfryngau mae Jilly hefyd yn cydnabod pwysigrwydd cerddoriaeth yn y safle. Dyma enghraifft o waith rhyng-gyfryngol llwyddiannus ond dyw’r dyhead i wneud cysylltiadau rhwng cyfryngau ddim o hyd yn foddhaol. Mae tapestri, yn debyg i gelf berfformiadol, angen cynulleidfa fyw. Mae hefyd angen amser araf, amser i ffwrdd o’n bywydau prysur, i’w werthfawrogi i’r eithaf. Er hyn, mae’n rhaid iddo hefyd fod o’r fath safon sy’n gallu sefyll archwiliad gan fynd a ni yn ôl i’r gofynion y byddwn yn ei wneud ar ein hunain ac ar y cyfrwng. Nid yw rhain yn alwadau o ddiffiniadau a chyfyngiadau i amddiffyn crefft dan fygythiad, ond o egni a dychymyg i roi bywyd newydd i gyfrwng. Egni ymroddgar yr ychydig sy’n sbarduno a chadw tapestri yn fyw, ac yn aml maent wedi gweithio yn y cyfrwng am flynyddoedd lawer, fel Jilly Edwards. Yr hyn maent i gyd am ei wybod yw os oes cenhedlaeth newydd o wehyddwyr tapestri i ddod? Ac o ba le?

Fiona Mathison Artist a Darlithydd mewn Rhyngyfryngau, gynt Tapestri Coleg Celf Caeredin

12/13


Prism of Porthmeor, 2001 Ystof cotwm. Anwe gwlân, cotwm a llin. 60cm x 115cm Casgliad Elgan Kobe, Siapan


Penwith Passage, 2001 Ystof cotwm. Anwe gwlân, cotwm a llin. 60cm x 120cm Casgliad Elgan Kobe, Siapan



Lliwiau, Teithio a Thirlun ‘Gweledigaeth’ unigol Jilly Edwards, ei mewnwelediad neilltuol a’i hymatebion i emosiynau ac atgofion, i liwiau, siwrneau a thirluniau – yr elfennau hollbwysig i brofiad dynol – mae gallu a chyweinrwydd ei chrefftwaith yn eu trawsnewid a’u dehongli yn ei thapestrïau. Mae’r casgliad adolygol hwn o wehyddu Edwards, wedi ei drefnu gan Ganolfan Grefft Rhuthun, yn ein galluogi i weld sut mae llinynau thematig nodweddol yn bodoli yn ei gwaith, a sut mae’r motiffau yma yn croesi amser a pellter i ailymddangos mewn dehongliadau newydd. Gallwn ddilyn cydlifiad datblygiadau, effaith y newidiadau ac eginiad themau newydd. Ochr yn ochr â’r gwehyddiadau yn yr arddangosfa hon mae’r dyddiaduron, brasluniau a’r lluniadau gorffenedig – nid rhyw fath o eitemau i ddwyn i gof yn unig yw’r rhain, ond ffactorau hanfodol ym mhroses greadigol Edwards. Mae’n gwagu ei meddwl i’r dyddiaduron tra’n teithio, ac wedi nodi fod ‘ei “siwrneau” yn teimlo fel symudiad troellog, siwrne ddiwylliannol a gorchwyl dyddiol; yn pwysleisio’r myfyrdodau a’r syniadau sy’n dod yn waith gorffenedig.’1

Bundu Stones, 1998 Ystof cotwm. Anwe gwlân, cotwm, llin. 70cm x 120cm Casgliad preifat

Bundu Stones 2, 2000 Ystof cotwm. Anwe gwlân, cotwm, llin. 12cm x 15cm

Sacred Stones, 1999 Ystof cotwm. Anwe gwlân, cotwm, llin. 12cm x 15cm

Hefyd yn yr arddangosfa mae’r siapiau bocsus bach perspecs clir mae Edwards yn eu rhoi at ei gilydd i greu gosodweithiau ynddynt. Mae rhain yn dwyn y teitl Traveller’s Samples, gair sy’n cyfeirio’n ôl at yr amser oedd yn treulio gyda’r thad oedd yn drafeiliwr. Gellir gwerthfawrogi apel unigol y gwrthrychau, bob un wedi ei ynysu yn ei ‘ffram’, tra bydd yr olwg ehangach yn dangos fod y cregyn, cerrig, tuniau, stribedi gweuedig a geiriau yn gweithredu fel cyfraniad i greu un darn llawer mwy. Mae Edwards wedi galw’r gosodiadau yma yn ‘straeon ehangach’ o’r gwehyddu stribedi ddechreuodd wneud wedi ymweld â Siapan yn 2002. Yn y rhain mae

16/17


pob darn yn ran o siwrne, â’r cydrannau – pob un yr un faint â thocyn tren – wedi eu marcio yn unigol ond yn cyfuno i greu un ‘dogfen’ hir fel sgrol. Mae’r darnau, sydd wedi eu rholio fyny a heb fod yn weladwy i’r llygad, yn ein hatgoffa o’r pleser i’w gael wrth beidio gweld y cyfan bob tro, tra’n gydamserol, ac yn gyferbyniol, wedi eu dad-rolio ar eu hyd mae’r darnau yn darlunio diddordeb Edwards a’i sylweddoliad, wrth iddi wnïo’r ymylon, fod ‘yr ystof yn dod yn fframwaith’ ac mae modd dangos y tu cefn i’r defnydd. Mae Edwards wedi rhoi llawer o feddwl sut i ddatgan ei dyhead am dryloywder ac eglurdeb. Mae’r amcan yma yn cael ei wireddu yng Nghanolfan Grefft Rhuthun drwy fanteisio ar y gofod sy’n galluogi’r ymwelwyr weld rhwybeth o ddwy ochr y tapestrïau cul yma. Wrth ystyried y darnau hyn mae rhywyn yn gallu deall yr edmygedd mae Edwards yn ei deimlo tuag at yr artist Agnes Martin ac fe ddywed am ei gwaith ‘Rwy’n caru’r llinellol – gellir ei ddefnyddio mewn cymaint o wahanol ffyrdd’ Mae hwn yn sylwad fuasai yn berthnasol iawn i’w holl waith hithau hefyd. Mae Matthew’s Summer Garden (1980) – wnaed tra oedd Edwards dal yn astudio yn Adran Dapestri Coleg Celf Caeredin, yn ei gweld, am y tro cyntaf, yn symud oddi wrth agweddau cynrychiadol cynharach gan greu, o fewn paramedr grid llwyd, sbectrwm yn amrywio o’r melyn goleuaf i ddu tywyll. Mae’r rhimynau tennau, gyda’u haenau llorweddol o liw yn dathlu y pleserau mae’r artist ei hun wedi disgrifio fel ‘darganfyddiadau rhyfeddol o liw i’w gwneud tra’n archwilio ein hymwneud gyda’r tirwedd.’2 Tra yn Awstralia cafodd Edwards fwy o gymhelliad i weithio ar gyfres o weadau yn seiliedig ar feini cerrig ac sy’n esiamplau cymhellgar o fynegiadaeth haniaethol. Er i ni fethu gweld un o’i phrif ddehongliadau o’r thema yma, Bundu Stones (2001) am iddo dreulio ei amser yn teithio nô’l a blaen rhwng cartrefi ei berchnogion yn Sweden ac Israel, mae hwn yn thema mae Edwards wedi ei archwilio hefyd yn Northern Echoes (1991). Yma mae tri siap unionsyth mewn

18/19

Calm and Cool, 2000 Ystof cotwm. Anwe gwlân, cotwm, llin. 12cm x 18cm

Tudalen llyfr braslunio: Dyfrlliw a phensil.


Sense of Summer, 2000 Ystof cotwm. Anwe gwlân, cotwm, llin. 60cm x 125cm Casgliad preifat


A Journey of a Lifetime, 2000 Ystof cotwm. Anwe gwlân, cotwm, llin. 60cm x 135cm Casgliad Tolldy, South Shields


lliwiau cryf o goch, glas a melyn yn sefyll allan yn erbyn cefndir tywyll a phrudd, yn atgoffaol efallai, o ddefodau noson o aeaf; yn enwedig y streipen felen sy’n llosgi a llewyrchu fel golau yn y tywyllwch. Heb fod yn dymuno manylu na rhoi fframwaith deongliadol i’r gweithiau yma, mae’n rhaid i rywyn gydnabod sut mae’r sythlinau o liwiau cryf yn Northern Echoes yn fodd o wneud marciau ganfyddir hefyd ar dudalennau dyddiaduron yn ogystal â’r gweolion graddfa-bychan fel Southern Summer (3 x 8cm). Mae’n anodd bod ymysg gwehyddiaeth Jilly Edwards heb adweithio i’r rhythmau sy’n bodoli oherwydd y modd mae’r siapiau yn cydadweithio a’i gilydd o fewn y tapestrïau. Mae ‘canfas’ Summer Time (1989) yn cael ei ormesu gan symudiad plymiol dau ffurf sydd a’u cyffyrddiad yn y canol yn esgor ar newid eu lliw. Daw’r teitl Ma (2001) o ebychiad o syndod wnaed gan grwp o ymwelwyr Siapaneaidd wedi gweld gwaith yn ei stiwdio. Mae i’r gwead yma – sydd i’w wneuthurwr yn cynrychioli anterth siwrne yn nhermau ymarferol ac ysbrydol – streipiau llydan o liw tywyll ar hyd yr ymylon uchaf ac isaf sy’n ‘fframio’r’ siap sydd yn llawn siapiau llai mewn gwahanol arliwiau o las. Mae’r llygad yn cael ei denu tuag at siap petryal mewn dau ffurf, un yn las tywyll, y llall yn arlliw o wyn, sy’n awgrymu ffiolau, efallai gychod, cwpannau neu botiau.

Southern Summer, 2001 Ystof cotwm. Anwe gwlân, cotwm. 3cm x 8cm

Early Morning, 1999 Ystof cotwm. Anwe gwlân, cotwm. 3cm x 11cm

Nodwedd arall o waith tapestri Edwards yw’r modd maent yn creu awyrgylch fyfyriol. Gwaith bach yw Silent Red Bowl (1998) – yn mesur 3 x 12 cm yn unig – ond yn anochel bron, mae’n arwain at fyfyrdod ar arwyddocâd distawrwydd, absenoldeb a gwacter. Mae’r dehongliad yn cael ei adleisio gan y geiriau mae Edwards yn roi uwchben lun o’r gwaith yn y monograff o’r Gyfres Portffolio sy’n canolbwyntio ar ei gwaith, sef ‘Mae i safleodd Archeolegol ofodau sydd yr un mor bwysig â’r gwrthrychau.’ Mae’r arddangosfa hon yn ein galluogi i brofi a gwerthfawrogi gweuadau stribedog graddfa lai Edwards. Mae eu lled fel arfer yn 5cm, ond mae iddynt wahanol hyd,

20/21


rhai mor hir a 12m, sef yr hyd sy’n dynodi brethyn ‘dwbl’. Yr amrywiaeth yma sy’n ein hatgoffa fod y siwrneai byr dyddiol yr un mor bwysig i Edwards ag yw’r teithiau traws-gyfandirol. Mae’r torchau yma yn atgoffa o riliau ffilm neu fonyn mawr crwn o docynnau – ac mae’r ddwy ddelwedd yma yn cydymffurio âg ymarfer a diddordeb eu gwneuthurwr. Yn debyg i’w dyddlyfrau, mae ffilm sydd ganddo fodd i gofnodi ac i greu, a thocynnau, prun ai i dren lleol neu i siwrne awyren bell, le arbennig yn myd Edwards. Maent yn dynodi’r math o deithiau na feddyliodd byth, fel merch ifanc, y buasai yn eu gwneud, ac felly mae iddynt bwysigrwydd ac arwyddocad arbennig. Mae hunaniaeth gwreiddiol y tocynnau, sy’n ymddangos yn y gwaith gosod Travellers Samples, wedi newid cryn dipyn wrth iddynt gael eu paentio, pastio a’u hysgrifennu arnynt fel y dônt yn ganfasau bychan, yn llawn haenau cyfoethog. Wedi eu haddurno gyda phastel olew, ysgrifen, dalenni aur a thâp yn creu golwg agored fel lliain rhwyllog, mae i rai hefyd resi o fynyddoedd mewn pwythiadau rhiciog bach bach, yr hyn mae Edwards yn cyfeirio ato fel ‘pwytho’r llinell’. Fel y bocsus perspecs, does dim rhaid i’r dangosiad o’r sgroliau yma fod yn llawn goleuadau llachar a bod yn ymorchestol. ‘Dwi ddim am i bethau sgrechian allan atai’ meddai unwaith gan gyfeirio at y modd byddant yn cael eu cyflwyno. Mae cryfder tawel sydd yng ngeiriau, lliwiau a gweolion Jilly Edwards yn ein hannog i fyfyrio ar siwrneau ac ein calonogi wrth wneud rhai ein hunain.

Ian Wilson Awdur a Darlithydd Celfyddyd Cymhwysol a Dylunio

1. Art Textiles of the World – Great Britain. Cyfres 3 (20060 gol gan Matthew Koumis. Brighton: Telos Art Publishing. t.98 2. Jilly Edwards Portfolio Series (2000) gol. gan Matthew Koumis. Winchester. Telos Art Publishing. t.37

22/23

Silent Red Bowl, 1998 Ystof cotwm. Anwe cotwm, llin, gwlân. 3cm x 12cm Casgliad preifat

Tudalen llyfr braslunio: Pastel. Cerdyn post a selnod.


Ma, 2001 Ystof cotwm. Anwe gwlân, cotwm, llin, shenîl. 90cm x 230cm


uchod a de: Tudalennau llyfr braslunio, 2003/4 Dyfrliwiau, pensil, creion, tocynnau tren a phapurau fferins. Maint A5


trosodd: uchod chwith i’r dde High Tide – Full Moon, 2004 Markings + Tracking, 2004 Migrancy + Identity, 2004 Landscape + Memory, 2003

Miles of Silence, 2004 Oral + Visual, 2005 Ystof cotwm. Anwe gwlân, cotwm llin/anwe moher. I gyd 5cm x 22cm

trosodd de: Sampling + Practice, 2003 Yn crogi mewn bocs arcylig. 5cm x 22cm (maint y bocs: 10cm x 30cm x 5cm)

Kendal to Kyoto, 2004 5cm x 100cm Ill dau: Ystof cotwm. Anwe gwlân, cotwm, llin.




Around the Red Hills, 2011 Ystof cotwm. Anwe gwlân, cotwm, llin. 90cm x 210cm


Ruthin sketches, Red Hill a–i, 2011 Ystof cotwm. Anwe gwlân, cotwm, llin. 5cm x 10cm



Bywgraffiad Dethol Arddangosfeydd 2011 Canolfan Grefft Rhuthun, Rhuthun, Sir Ddinbych ‘Adlewyrchiadau ac Ymchwiliadau’ 2010 Corham Court, Vaults Gallery, ‘Material Evidence’ High Cross House, Dartington Hall, Dyfnaint ‘Sense of Place’ Urdd Crefftwyr Dyfnaint, Bovey Tracey ‘Collection’ 2008 Amg. Bankfied a Dean Clough, Halifax, G. S. Efrog ‘Tapestry 08’ 2007 Oriel BSW, Exeter, Dyfnaint ‘East to West’ Stroud International Textile Festival, Museum in the Park ‘One Step Forward’ Highlights Rural Tours – William Jefferies a Jilly Edwards 2006 South Hill Park, Bracknell, Berkshire ‘Off the Wall’ Canolfan Astudio Crefftau, Farnham, Surrey ‘Off the Wall’ 2005 Oriel Ozone, Tokyo 2004 Oriel Fiberart, St.Ives, Cernyw Oriel St. James, Caerfaddon ‘21st Anniversary Exhibition’ ‘COLLECT’, V&A, Llundain 2003 The Scottish Gallery, Caeredin Oriel Fiberart, St.Ives, Cernyw Oriel Grefft Bilston, Wolverhampton ‘Beside the Seaside’ RAMM, Exeter, Academi’r De Orllewin ‘Summer Exhibition’ 2002 GalleryGallery, Kyoto, Siapan Art Planning Room, Tokyo

30/31


2002 2001 2000

Sefydliad Daiwa, Llundain Customs House, South Shields UCL, Preston Canolfan Gelfyddydau Gracefield, Dumffris Oriel Warehouse, Canolfan Gelfyddydau Brewery, Kendal ‘Journeys and Journals’, teithio 2001–02 Rhwng 1973 – 2000 cafodd Edwards nifer o arddangosfeydd unigol a grŵp yn y DU, Ewrop ac UDA.

Dyfarniadau 2011 Ymddiriedolaeth Gane 2010 Cyngor Celfyddydau Lloegr 2009 Ymddiriedolaeth Madelaine Mabey 2008 Ymddiriedolaeth Theo Moorman – ymchwil 2006 Cyngor Celfyddydau Lloegr – gwaith newydd i Ŵyl Decstiliau Ryngwladol Stroud 2007 2004 Cyng. Celf. Lloegr – gwaith newydd i Ganolf. Astudiaeth Grefft. Farnham 2002 Sefydliad Daiwa (hefyd 1999) 2002 Sefydliad Sasakawa (hefyd 1999) 2001 Cyngor Celfyddydau Lloegr (Cynllun Arddangos Cenedlaethol) 2000 Celfyddydau’r Gogledd – Cynllun Mentora Comisiynau 2008 Comisiwn preifat, Swydd Nottingham 2003 Goldman/Cook, Cyhoeddwyr, Los Angeles, UDA 2001 Ove Arup, Newcastle Upon Tyne

32/33

A Splash of Blue, 1983 (yn y fan) Casgliad Ove Arup


From Porthmeor Beach to Zennor, 2000 (yn y fan) Casgliad Ove Arup

Memories of Travels, 2003 (yn y fan) Casgliad preifat



Casgliadau 2007 Casgliad Amgueddfa Hampshire 2005 Kobe, Japan 2002 Customs House, South Shields Cyhoeddiadau 2011 Crafts Magazine, Mai/Mehefin Craftarts, Mawrth 2010 Journal of Weavers, Rhagfyr Embroidery Magazine, Medi/Hydref Crafts Magazine, Medi/Hydref ‘Sense of Place’, llyfryn 2009 Crafts Magazine, Mawrth/Ebrill 2005 Cyhoeddiadau Telos, ‘Textiles of the World Great Britain 3’ 2004 Embroidery Magazine 2002 Crafts Magazine, Mawrth/Ebrill 2001 ‘Journeys and Journals’, catalog 2000 Telos, Portfolio Series No.1 – Jilly Edwards Addysg 2003–04 Prifysgol y Celfyddydau Creadigol – Ymchwil Pellach 1980–82 Coleg Celf Caeredin, Adran Dapestri, Cwrs Arbennig 1966–69 Coleg Celf Gorllewin Lloegr, Bryste – Tecstiliau Mae Edwards wedi dysgu a darlithio mewn sefydliadau Addysg Uwch a Phellach ar draws y DU a Siapan.

34/35


Cydnabyddiaethau Cyflwynir i Bridget Hoffai Jilly Edwards ddiolch i: June Hill; Philip Hughes; Lisa Rostron; Mei Lim; Fiona Mathison; Ian Wilson; Anne Barron; Robert a Mark Edwards; Mr a Mrs. A. Padkin; Mr a Mrs. C. Helmore, Mr a Mrs. R. Goldman; Mr. Jim Burridge, Ove Arup; Tod Grimwade; y tim yn Rhuthun a Lawn. Hoffai CGRH ddiolch i: Jilly Edwards; Robert Edwards; Timandra Gustafson; Alison Carter; Gwasanaethau Amgeuddfeydd a Chelf Cyngor Hampshire; Sarah Howard; Lynette a Chris Helmore; Ove Arup; Anne Jackson; Nick Smirnoff; teulu Lawrence; Fiona Mathison; Ian Wilson; Mei Lim; Nia Roberts; Lisa Rostron; Stephen Heaton; Tod Grimwade; June Hill; Gregory Parsons; Pete Goodridge ac ArtWorks. Curadwyd gan: June Hill Ffotograffiaeth: Wayne Baillie: clawr, t.4, 16, 17 isod, 18 uchod, 19–23. Pamela Goldman: t.33 de. Chris Holmes: t.6, 14, 15, 17 uchod. James Johnson: t.36. Mei Lim: t.1, 4 chwith, 8–13, 22 isod, 28–31, 34, 35. Keith Paisley t.32. David Westwood: t.2, 3, 7, 24–27. Staff arddangos ac addysg CGR sef Philip Hughes, Jane Gerrard ac Elen Bonner. Cynllun: Lawn Creative Cyfieithu: Nia Roberts Testun Yr Awduron 2011. ISBN: 978-1-905865-36-9 Cyhoeddwyd gan Ganolfan Crefft Rhuthun. Mae fersiwn Saesneg ar gael. Mae Caolfan Grefft Rhuthun yn rhan o Gyngor Sir Ddinbych ac yn derbyn cyllid refeniw gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Ni ellir atgynhychu’r llyfr hwn nac unrhyw rannau ohono mewn unrhyw fodd heb ganiatâd ysgrifenedig gan y cyhoeddwr. Canolfan Grefft Rhuthun, Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol Heol y Parc, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1BB Tel: +44 (0)1824 704774 www.canolfangrefftrhuthun.org.uk

36

Reflection of Time 1, 1995 Ystof cotwm. Anwe gwlân, cotwm, llin, shenîl. 10cm x 15cm

clawr: Ma, 2001 Ystof cotwm. Anwe gwlân, cotwm, llin, shenîl. 90cm x 230cm

t1: Shadows and Shapes, 2010 Ystof cotwm. Anwe gwlân, cotwm, llin, moher. 30cm x 60cm




Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.