6 minute read

Jilly Edwards: Tapestri i’r 21ain Ganrif – Fiona Mathison

Next Article
Bywgraffiad dethol

Bywgraffiad dethol

Samplers (3 reels), 2009 (manylyn) Ystof cotwm. Anwe gwlân, cotwm, llin. Ar focs dur gorchudd powdr. 3cm x 200cm

Jilly Edwards: Tapestri i’r 21ain Ganrif

Advertisement

Mae cyflymdra’r ffordd rydym yn byw a gweithio yn y byd datblygiedig wedi newid o fod yn gyflym i fod yn gyflym eithriadol: mae gwybodaeth ar gael i ni, ac yn cael ei hawlio oddi wrthym, ar gyffyrddiad botwm ac rydym ar gysylltiad parhaol gydag eraill ar gyfer gwaith neu weithgareddau cymdeithasol. Mae bod yn chwilfrydig yn anghenrheidiol ar gyfer mwynhad a llwyddiant mewn bywyd. Mewn sawl ffordd mae gwehyddu tapestri i’r gwrthwyneb o hyn; proses araf, cymhleth a llafurus; mae pob penderfyniad yn gofyn am weithred drefnus gorfforol dros gyfnod o oriau nid munudau. Nid oes unrhyw fodd o dorri corneli, does dim pethma na theclyn electroneg, a mae artistiaid tapestri fel arfer yn gweithio yn unigol. Mae chwilfrydedd yn bwysig i’r gwehyddydd hefyd, ond daw’r atebion yn araf, a mae’r sgiliau angenrheidiol, er yn eitha syml ar y dechrau, yn dod yn fwyfwy cymhleth wrth i’r broses ddenu’r artist i ofyn mwy o’u hunain, eu hamser a’r cyfrwng; mae gwehyddu yn dod yn draserch llawn amser. Dim rhyfedd felly i dapestri fel cyfrwng fod yn brin iawn ymysg artistiaid ifanc. Mae prinder amser a thwf posibliadau’r byd rhithwir wedi gwneud i’r byd cyffyrddadwy grebachu o’n cwmpas. Mae’n well gan y llygad sydd wedi arfer edrych ar sgrîn yr arwynebau llyfn caboledig ac awyrgylch di-lwch. Er fod modd i’r archwiliad o gyfrwng tapestri esgor ar ymdriniaethau a syniadau diddorol sy’n ymwneud â gwneuthuriad ac amser mewn ffyrdd cysyniadol a chyfoes, mae hanes y cyfrwng wedi ei gyplysu’n agos gyda phaentio a’r lluniadol, sy’n golygu fod datblygiadau felly yn anhebyg. Wrth gwrs mae tapestri yn wledd i’r llygad, ond nid delwedd yn unig ydyw, mae yn llawer mwy na hynny.

8/9

Fe astudiodd Jilly Edwards yn Adran Dapestri Coleg Celf Caeredin o 1980–82, man oedd, yn naturiol, yn dilyn y traddodiad yna, gyda’i fodolaeth yn ganlyniad i Stiwdios Tapestri Dovecote yng Nghaeredin. Pwrpas y cyrsiau oedd hyfforddi artist wehyddwyr, felly roedd gweithio gyda delweddau i ddatblygu syniadau am liw a chyfansoddiad, datblygu lluniadau a brasluniau lliw i gyd yn rhan o’r rhychwant sgiliau, ynghyd â gwehyddu, oedd myfyrwyr tapestri fel Jilly yn ymarefer. Fe ddaeth Jilly i Gaeredin gyda diddordeb brwd ond yn fuan iawn fel ddatblygodd yn draserch llawn amser, o’r math sy’n nodweddiadol o’r gwehyddwr tapestri ymroddedig. Dros sawl blwyddyn, ac mewn sawl rhan o’r wlad, mae Jilly wedi hyrwyddo’r grefft, rhedeg oriel bwrpasol, wedi ymroddi gyda sefydliadau celf yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ac wedi ysgogi cyllido. Drwy gydol ei gyrfa mae wedi parhau i wehyddu, gan dreulio amser yn astudio i ail-archwilio, a datblygu ei hymarfer ei hun. Datblygodd ei llais atristig gwirioneddol groyw fel artist wedi iddi adael Caeredin. Fe ddaeth drwy chwennych cyfuno gwehyddu, gyda’i brosesau trylwyr a manwl, gyda syniadaeth o amser a lle, wrth iddi deitho ar draws Awstralia. Dechreuodd y broses gyda chofnod ysgrifenedig a lluniadol wnaed ar y pryd, math o femorandwm. Yna fe ddefnyddiodd y rhain, nid i gopïo ond i ddwyn i gof ei phrofiadau dyddiol a’u trosglwyddo i wehyddiad. Wrth wneud i ffwrdd â’r angen i gopïo’r nodiadau, fe greodd fodd i’w hun fynegi syniadau yn union drwy wehyddu. Atodwyd geriau yn reit naturiol i edau a’u gwehyddu i mewn i’r brethyn; mae ennyd yn cael ei ddwyn i gof, gyda’r lle yn yr ennyd yna. Mae arloesedd a natur uniongyrchol yn cyfleu pethau newydd ddargnanfyddwyd – yr anisgwyl, yr antur, y profiad wedi dwyn i gof. Nawr yn rhan annatod o’i hymarfer, mae Jilly wedi gadael i’w phroses o wehyddu ddatblgu yn fodd o fynegiant iddi, yn fodd uningyrchol a dilys o gyfeirio at brofiadau personol. Mae’r gweithiau bychan hyn, yn aml wedi eu rholio fyny ar hyd yr ystof, gan eu gwneud yn gyfrwng hawdd i’w

10/11

From Exmouth to Budleigh Salterton, 2008. From Dawlish to Totnes, 2008 Ystof cotwm. Anwe gwlân, cotwm, llin. 5cm x 22cm

Memories of the Jurassic Coastal Path, 2008 Monoffilament cof. Anwe gwlân, cotwm, llin. 7cm x 35cm yn cynnwys pennau’r ystof

Walk along the Dart, 2009 10 o stribedi o wahanol faint a hyd. Ystof cotwm. Anwe gwlân, cotwm, llin, shenîl. darn canol: 20cm x 400cm

Travellers Samples, 2009 Cyfrwng cymysg: tapestri gweuedig, lluniad ar bapur shoji, llythrennu ar bapur, tocyn tren, meinwe bwrdd plastr, cregyn, cerrig, a thagiau prisiau papur. Pob bocs acrylig ar wahan 17.5cm x 13cm x 6cm

cario o gwmpas a’u dad-rolio fel bo digwyddiadau arbennig yn eu hyd yn cael eu hail-ymweld a’u hail-archwilio. Mae’r ffordd yma o wneud cysylltiadau gyda amser, lle a chof wedi parhau i amlygu drwy ei gwaith. Roedd ei gwaith gosod diweddar yn High Cross House, A Sense of Place, yn cofnodi ei hymchwil a’i hystyriaeth am ddigwyddiadau o’r gorffennol a’r presennol yna. Fe ososdwyd y stribedi gweol cul wedi eu rholio, ond eu hymylon yn dechrau datod, ar y silffoedd ffenest ymysg y gwrthrychau gwreiddiol. Roedd cerddoriaeth gan Nigel Morgan, wedi ei gomisiynu yn arbennig gan Jilly i gyd-fynd gyda’r gosodiad, i’w glywed yn llenwi’r ’stafelloedd. Yn ymwybodol o’r syniadaeth gyfoes i gymysgu cyfryngau mae Jilly hefyd yn cydnabod pwysigrwydd cerddoriaeth yn y safle.

Dyma enghraifft o waith rhyng-gyfryngol llwyddiannus ond dyw’r dyhead i wneud cysylltiadau rhwng cyfryngau ddim o hyd yn foddhaol. Mae tapestri, yn debyg i gelf berfformiadol, angen cynulleidfa fyw. Mae hefyd angen amser araf, amser i ffwrdd o’n bywydau prysur, i’w werthfawrogi i’r eithaf. Er hyn, mae’n rhaid iddo hefyd fod o’r fath safon sy’n gallu sefyll archwiliad gan fynd a ni yn ôl i’r gofynion y byddwn yn ei wneud ar ein hunain ac ar y cyfrwng. Nid yw rhain yn alwadau o ddiffiniadau a chyfyngiadau i amddiffyn crefft dan fygythiad, ond o egni a dychymyg i roi bywyd newydd i gyfrwng. Egni ymroddgar yr ychydig sy’n sbarduno a chadw tapestri yn fyw, ac yn aml maent wedi gweithio yn y cyfrwng am flynyddoedd lawer, fel Jilly Edwards. Yr hyn maent i gyd am ei wybod yw os oes cenhedlaeth newydd o wehyddwyr tapestri i ddod? Ac o ba le?

Fiona Mathison Artist a Darlithydd mewn Rhyngyfryngau, gynt Tapestri Coleg Celf Caeredin

12/13

Prism of Porthmeor, 2001 Ystof cotwm. Anwe gwlân, cotwm a llin. 60cm x 115cm Casgliad Elgan Kobe, Siapan

Penwith Passage, 2001 Ystof cotwm. Anwe gwlân, cotwm a llin. 60cm x 120cm Casgliad Elgan Kobe, Siapan

This article is from: