Jilly Edwards – Adlewyrchiadau & Ymchwiliadau

Page 11

Jilly Edwards: Tapestri i’r 21ain Ganrif Mae cyflymdra’r ffordd rydym yn byw a gweithio yn y byd datblygiedig wedi newid o fod yn gyflym i fod yn gyflym eithriadol: mae gwybodaeth ar gael i ni, ac yn cael ei hawlio oddi wrthym, ar gyffyrddiad botwm ac rydym ar gysylltiad parhaol gydag eraill ar gyfer gwaith neu weithgareddau cymdeithasol. Mae bod yn chwilfrydig yn anghenrheidiol ar gyfer mwynhad a llwyddiant mewn bywyd. Mewn sawl ffordd mae gwehyddu tapestri i’r gwrthwyneb o hyn; proses araf, cymhleth a llafurus; mae pob penderfyniad yn gofyn am weithred drefnus gorfforol dros gyfnod o oriau nid munudau. Nid oes unrhyw fodd o dorri corneli, does dim pethma na theclyn electroneg, a mae artistiaid tapestri fel arfer yn gweithio yn unigol. Mae chwilfrydedd yn bwysig i’r gwehyddydd hefyd, ond daw’r atebion yn araf, a mae’r sgiliau angenrheidiol, er yn eitha syml ar y dechrau, yn dod yn fwyfwy cymhleth wrth i’r broses ddenu’r artist i ofyn mwy o’u hunain, eu hamser a’r cyfrwng; mae gwehyddu yn dod yn draserch llawn amser. Dim rhyfedd felly i dapestri fel cyfrwng fod yn brin iawn ymysg artistiaid ifanc. Mae prinder amser a thwf posibliadau’r byd rhithwir wedi gwneud i’r byd cyffyrddadwy grebachu o’n cwmpas. Mae’n well gan y llygad sydd wedi arfer edrych ar sgrîn yr arwynebau llyfn caboledig ac awyrgylch di-lwch. Er fod modd i’r archwiliad o gyfrwng tapestri esgor ar ymdriniaethau a syniadau diddorol sy’n ymwneud â gwneuthuriad ac amser mewn ffyrdd cysyniadol a chyfoes, mae hanes y cyfrwng wedi ei gyplysu’n agos gyda phaentio a’r lluniadol, sy’n golygu fod datblygiadau felly yn anhebyg. Wrth gwrs mae tapestri yn wledd i’r llygad, ond nid delwedd yn unig ydyw, mae yn llawer mwy na hynny.

Samplers (3 reels), 2009 (manylyn) Ystof cotwm. Anwe gwlân, cotwm, llin. Ar focs dur gorchudd powdr. 3cm x 200cm

8/9


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.