9 minute read
Lliwiau, Teithio a Thirlun
Bundu Stones, 1998 Ystof cotwm. Anwe gwlân, cotwm, llin. 70cm x 120cm Casgliad preifat Bundu Stones 2, 2000 Ystof cotwm. Anwe gwlân, cotwm, llin. 12cm x 15cm
Advertisement
Sacred Stones, 1999 Ystof cotwm. Anwe gwlân, cotwm, llin. 12cm x 15cm
‘Gweledigaeth’ unigol Jilly Edwards, ei mewnwelediad neilltuol a’i hymatebion i emosiynau ac atgofion, i liwiau, siwrneau a thirluniau – yr elfennau hollbwysig i brofiad dynol – mae gallu a chyweinrwydd ei chrefftwaith yn eu trawsnewid a’u dehongli yn ei thapestrïau. Mae’r casgliad adolygol hwn o wehyddu Edwards, wedi ei drefnu gan Ganolfan Grefft Rhuthun, yn ein galluogi i weld sut mae llinynau thematig nodweddol yn bodoli yn ei gwaith, a sut mae’r motiffau yma yn croesi amser a pellter i ailymddangos mewn dehongliadau newydd. Gallwn ddilyn cydlifiad datblygiadau, effaith y newidiadau ac eginiad themau newydd. Ochr yn ochr â’r gwehyddiadau yn yr arddangosfa hon mae’r dyddiaduron, brasluniau a’r lluniadau gorffenedig – nid rhyw fath o eitemau i ddwyn i gof yn unig yw’r rhain, ond ffactorau hanfodol ym mhroses greadigol Edwards. Mae’n gwagu ei meddwl i’r dyddiaduron tra’n teithio, ac wedi nodi fod ‘ei “siwrneau” yn teimlo fel symudiad troellog, siwrne ddiwylliannol a gorchwyl dyddiol; yn pwysleisio’r myfyrdodau a’r syniadau sy’n dod yn waith gorffenedig.’ 1
Hefyd yn yr arddangosfa mae’r siapiau bocsus bach perspecs clir mae Edwards yn eu rhoi at ei gilydd i greu gosodweithiau ynddynt. Mae rhain yn dwyn y teitl Traveller’s Samples, gair sy’n cyfeirio’n ôl at yr amser oedd yn treulio gyda’r thad oedd yn drafeiliwr. Gellir gwerthfawrogi apel unigol y gwrthrychau, bob un wedi ei ynysu yn ei ‘ffram’, tra bydd yr olwg ehangach yn dangos fod y cregyn, cerrig, tuniau, stribedi gweuedig a geiriau yn gweithredu fel cyfraniad i greu un darn llawer mwy. Mae Edwards wedi galw’r gosodiadau yma yn ‘straeon ehangach’ o’r gwehyddu stribedi ddechreuodd wneud wedi ymweld â Siapan yn 2002. Yn y rhain mae
16/17
pob darn yn ran o siwrne, â’r cydrannau – pob un yr un faint â thocyn tren – wedi eu marcio yn unigol ond yn cyfuno i greu un ‘dogfen’ hir fel sgrol. Mae’r darnau, sydd wedi eu rholio fyny a heb fod yn weladwy i’r llygad, yn ein hatgoffa o’r pleser i’w gael wrth beidio gweld y cyfan bob tro, tra’n gydamserol, ac yn gyferbyniol, wedi eu dad-rolio ar eu hyd mae’r darnau yn darlunio diddordeb Edwards a’i sylweddoliad, wrth iddi wnïo’r ymylon, fod ‘yr ystof yn dod yn fframwaith’ ac mae modd dangos y tu cefn i’r defnydd. Mae Edwards wedi rhoi llawer o feddwl sut i ddatgan ei dyhead am dryloywder ac eglurdeb. Mae’r amcan yma yn cael ei wireddu yng Nghanolfan Grefft Rhuthun drwy fanteisio ar y gofod sy’n galluogi’r ymwelwyr weld rhwybeth o ddwy ochr y tapestrïau cul yma. Wrth ystyried y darnau hyn mae rhywyn yn gallu deall yr edmygedd mae Edwards yn ei deimlo tuag at yr artist Agnes Martin ac fe ddywed am ei gwaith ‘Rwy’n caru’r llinellol – gellir ei ddefnyddio mewn cymaint o wahanol ffyrdd’ Mae hwn yn sylwad fuasai yn berthnasol iawn i’w holl waith hithau hefyd. Mae Matthew’s Summer Garden (1980) – wnaed tra oedd Edwards dal yn astudio yn Adran Dapestri Coleg Celf Caeredin, yn ei gweld, am y tro cyntaf, yn symud oddi wrth agweddau cynrychiadol cynharach gan greu, o fewn paramedr grid llwyd, sbectrwm yn amrywio o’r melyn goleuaf i ddu tywyll. Mae’r rhimynau tennau, gyda’u haenau llorweddol o liw yn dathlu y pleserau mae’r artist ei hun wedi disgrifio fel ‘darganfyddiadau rhyfeddol o liw i’w gwneud tra’n archwilio ein hymwneud gyda’r tirwedd.’ 2
Tra yn Awstralia cafodd Edwards fwy o gymhelliad i weithio ar gyfres o weadau yn seiliedig ar feini cerrig ac sy’n esiamplau cymhellgar o fynegiadaeth haniaethol. Er i ni fethu gweld un o’i phrif ddehongliadau o’r thema yma, Bundu Stones (2001) am iddo dreulio ei amser yn teithio nô’l a blaen rhwng cartrefi ei berchnogion yn Sweden ac Israel, mae hwn yn thema mae Edwards wedi ei archwilio hefyd yn Northern Echoes (1991). Yma mae tri siap unionsyth mewn
18/19
Calm and Cool, 2000 Ystof cotwm. Anwe gwlân, cotwm, llin. 12cm x 18cm
Tudalen llyfr braslunio: Dyfrlliw a phensil.
Sense of Summer, 2000 Ystof cotwm. Anwe gwlân, cotwm, llin. 60cm x 125cm Casgliad preifat
A Journey of a Lifetime, 2000 Ystof cotwm. Anwe gwlân, cotwm, llin. 60cm x 135cm Casgliad Tolldy, South Shields
Southern Summer, 2001 Ystof cotwm. Anwe gwlân, cotwm. 3cm x 8cm
Early Morning, 1999 Ystof cotwm. Anwe gwlân, cotwm. 3cm x 11cm lliwiau cryf o goch, glas a melyn yn sefyll allan yn erbyn cefndir tywyll a phrudd, yn atgoffaol efallai, o ddefodau noson o aeaf; yn enwedig y streipen felen sy’n llosgi a llewyrchu fel golau yn y tywyllwch. Heb fod yn dymuno manylu na rhoi fframwaith deongliadol i’r gweithiau yma, mae’n rhaid i rywyn gydnabod sut mae’r sythlinau o liwiau cryf yn Northern Echoes yn fodd o wneud marciau ganfyddir hefyd ar dudalennau dyddiaduron yn ogystal â’r gweolion graddfa-bychan fel Southern Summer (3 x 8cm). Mae’n anodd bod ymysg gwehyddiaeth Jilly Edwards heb adweithio i’r rhythmau sy’n bodoli oherwydd y modd mae’r siapiau yn cydadweithio a’i gilydd o fewn y tapestrïau. Mae ‘canfas’ Summer Time (1989) yn cael ei ormesu gan symudiad plymiol dau ffurf sydd a’u cyffyrddiad yn y canol yn esgor ar newid eu lliw. Daw’r teitl Ma (2001) o ebychiad o syndod wnaed gan grwp o ymwelwyr Siapaneaidd wedi gweld gwaith yn ei stiwdio. Mae i’r gwead yma – sydd i’w wneuthurwr yn cynrychioli anterth siwrne yn nhermau ymarferol ac ysbrydol – streipiau llydan o liw tywyll ar hyd yr ymylon uchaf ac isaf sy’n ‘fframio’r’ siap sydd yn llawn siapiau llai mewn gwahanol arliwiau o las. Mae’r llygad yn cael ei denu tuag at siap petryal mewn dau ffurf, un yn las tywyll, y llall yn arlliw o wyn, sy’n awgrymu ffiolau, efallai gychod, cwpannau neu botiau. Nodwedd arall o waith tapestri Edwards yw’r modd maent yn creu awyrgylch fyfyriol. Gwaith bach yw Silent Red Bowl (1998) – yn mesur 3 x 12 cm yn unig – ond yn anochel bron, mae’n arwain at fyfyrdod ar arwyddocâd distawrwydd, absenoldeb a gwacter. Mae’r dehongliad yn cael ei adleisio gan y geiriau mae Edwards yn roi uwchben lun o’r gwaith yn y monograff o’r Gyfres Portffolio sy’n canolbwyntio ar ei gwaith, sef ‘Mae i safleodd Archeolegol ofodau sydd yr un mor bwysig â’r gwrthrychau.’ Mae’r arddangosfa hon yn ein galluogi i brofi a gwerthfawrogi gweuadau stribedog graddfa lai Edwards. Mae eu lled fel arfer yn 5cm, ond mae iddynt wahanol hyd,
20/21
rhai mor hir a 12m, sef yr hyd sy’n dynodi brethyn ‘dwbl’. Yr amrywiaeth yma sy’n ein hatgoffa fod y siwrneai byr dyddiol yr un mor bwysig i Edwards ag yw’r teithiau traws-gyfandirol. Mae’r torchau yma yn atgoffa o riliau ffilm neu fonyn mawr crwn o docynnau – ac mae’r ddwy ddelwedd yma yn cydymffurio âg ymarfer a diddordeb eu gwneuthurwr. Yn debyg i’w dyddlyfrau, mae ffilm sydd ganddo fodd i gofnodi ac i greu, a thocynnau, prun ai i dren lleol neu i siwrne awyren bell, le arbennig yn myd Edwards. Maent yn dynodi’r math o deithiau na feddyliodd byth, fel merch ifanc, y buasai yn eu gwneud, ac felly mae iddynt bwysigrwydd ac arwyddocad arbennig. Mae hunaniaeth gwreiddiol y tocynnau, sy’n ymddangos yn y gwaith gosod Travellers Samples, wedi newid cryn dipyn wrth iddynt gael eu paentio, pastio a’u hysgrifennu arnynt fel y dônt yn ganfasau bychan, yn llawn haenau cyfoethog. Wedi eu haddurno gyda phastel olew, ysgrifen, dalenni aur a thâp yn creu golwg agored fel lliain rhwyllog, mae i rai hefyd resi o fynyddoedd mewn pwythiadau rhiciog bach bach, yr hyn mae Edwards yn cyfeirio ato fel ‘pwytho’r llinell’. Fel y bocsus perspecs, does dim rhaid i’r dangosiad o’r sgroliau yma fod yn llawn goleuadau llachar a bod yn ymorchestol. ‘Dwi ddim am i bethau sgrechian allan atai’ meddai unwaith gan gyfeirio at y modd byddant yn cael eu cyflwyno. Mae cryfder tawel sydd yng ngeiriau, lliwiau a gweolion Jilly Edwards yn ein hannog i fyfyrio ar siwrneau ac ein calonogi wrth wneud rhai ein hunain.
Ian Wilson Awdur a Darlithydd Celfyddyd Cymhwysol a Dylunio
1. Art Textiles of the World – Great Britain. Cyfres 3 (20060 gol gan Matthew Koumis. Brighton: Telos Art Publishing. t.98 2. Jilly Edwards Portfolio Series (2000) gol. gan Matthew Koumis. Winchester. Telos Art Publishing. t.37
22/23
Silent Red Bowl, 1998 Ystof cotwm. Anwe cotwm, llin, gwlân. 3cm x 12cm Casgliad preifat
Tudalen llyfr braslunio: Pastel. Cerdyn post a selnod.
Ma, 2001 Ystof cotwm. Anwe gwlân, cotwm, llin, shenîl. 90cm x 230cm
uchod a de: Tudalennau llyfr braslunio, 2003/4 Dyfrliwiau, pensil, creion, tocynnau tren a phapurau fferins. Maint A5
trosodd: uchod chwith i’r dde High Tide – Full Moon, 2004 Markings + Tracking, 2004 Migrancy + Identity, 2004 Landscape + Memory, 2003 Miles of Silence, 2004 Oral + Visual, 2005 Ystof cotwm. Anwe gwlân, cotwm llin/anwe moher. I gyd 5cm x 22cm
trosodd de: Sampling + Practice, 2003 Yn crogi mewn bocs arcylig. 5cm x 22cm (maint y bocs: 10cm x 30cm x 5cm) Kendal to Kyoto, 2004 5cm x 100cm Ill dau: Ystof cotwm. Anwe gwlân, cotwm, llin.
Around the Red Hills, 2011 Ystof cotwm. Anwe gwlân, cotwm, llin. 90cm x 210cm
Ruthin sketches, Red Hill a–i, 2011 Ystof cotwm. Anwe gwlân, cotwm, llin. 5cm x 10cm