Lliwiau, Teithio a Thirlun ‘Gweledigaeth’ unigol Jilly Edwards, ei mewnwelediad neilltuol a’i hymatebion i emosiynau ac atgofion, i liwiau, siwrneau a thirluniau – yr elfennau hollbwysig i brofiad dynol – mae gallu a chyweinrwydd ei chrefftwaith yn eu trawsnewid a’u dehongli yn ei thapestrïau. Mae’r casgliad adolygol hwn o wehyddu Edwards, wedi ei drefnu gan Ganolfan Grefft Rhuthun, yn ein galluogi i weld sut mae llinynau thematig nodweddol yn bodoli yn ei gwaith, a sut mae’r motiffau yma yn croesi amser a pellter i ailymddangos mewn dehongliadau newydd. Gallwn ddilyn cydlifiad datblygiadau, effaith y newidiadau ac eginiad themau newydd. Ochr yn ochr â’r gwehyddiadau yn yr arddangosfa hon mae’r dyddiaduron, brasluniau a’r lluniadau gorffenedig – nid rhyw fath o eitemau i ddwyn i gof yn unig yw’r rhain, ond ffactorau hanfodol ym mhroses greadigol Edwards. Mae’n gwagu ei meddwl i’r dyddiaduron tra’n teithio, ac wedi nodi fod ‘ei “siwrneau” yn teimlo fel symudiad troellog, siwrne ddiwylliannol a gorchwyl dyddiol; yn pwysleisio’r myfyrdodau a’r syniadau sy’n dod yn waith gorffenedig.’1
Bundu Stones, 1998 Ystof cotwm. Anwe gwlân, cotwm, llin. 70cm x 120cm Casgliad preifat
Bundu Stones 2, 2000 Ystof cotwm. Anwe gwlân, cotwm, llin. 12cm x 15cm
Sacred Stones, 1999 Ystof cotwm. Anwe gwlân, cotwm, llin. 12cm x 15cm
Hefyd yn yr arddangosfa mae’r siapiau bocsus bach perspecs clir mae Edwards yn eu rhoi at ei gilydd i greu gosodweithiau ynddynt. Mae rhain yn dwyn y teitl Traveller’s Samples, gair sy’n cyfeirio’n ôl at yr amser oedd yn treulio gyda’r thad oedd yn drafeiliwr. Gellir gwerthfawrogi apel unigol y gwrthrychau, bob un wedi ei ynysu yn ei ‘ffram’, tra bydd yr olwg ehangach yn dangos fod y cregyn, cerrig, tuniau, stribedi gweuedig a geiriau yn gweithredu fel cyfraniad i greu un darn llawer mwy. Mae Edwards wedi galw’r gosodiadau yma yn ‘straeon ehangach’ o’r gwehyddu stribedi ddechreuodd wneud wedi ymweld â Siapan yn 2002. Yn y rhain mae
16/17