1 minute read

Rhagair gan Philip Hughes

RHAGAIR

Mae Pum chwaer a choeden deuluol yn gasgliad newydd o serameg gan yr hynod dalentog Susan O’Byrne. Mae’n cynnig taith bersonol iawn i fyd preifat. “Mae fy ysbrydoliaeth yn dod o hanes fy nheulu fy hun, yn benodol ochr fy mam o’r teulu, ymfudodd o’r Almaen i Iwerddon yng nghanol yr 1800au. Fy nain a’i phedair chwaer yw y pum chwaer. Cynrychiolir pob un gan anifail serameg, a rhain yw’r darnau mwyaf yn yr arddangosfa.” Ysgrifenna Susan: “Mae’n plentyndod yn llawn o ddelweddau anifeiliaid, e’u holl enwau, siapiau, lliwiau a phatrymau yn tanio ein dychymyg cynnar. Drwy gydol hanes hefyd mae anifeiliaid wedi’u defnyddio mewn adrodd straeon, chwedlau a llên gwerin i symleiddio cymhlethdodau bywyd oedolyn. Yn yr un modd, rwy’n defnyddio ffurf anifail fel cyfrwng i fynegi emosiynau dynol.”

Advertisement

Yn enedigol o Corc, Iwerddon, symudodd Susan O’Byrne i’r Alban i ddilyn cwrs yng Ngholeg Celf Caeredin yn 1994. Graddiodd yn 1999 gyda Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Dylunio a Chelf Gymhwysol, gyda Diploma Ôl-Radd mewn serameg i ddilyn. Yn fuan wedyn symudodd Susan ychydig i’r gorllewin i sefydlu ei hymarfer serameg stiwdio yn Glasgow. Mae hi wedi arddangos yn eang, wedi bod yn artist preswyl, ac hefyd yn llwyddo i ddod o hyd i amser i arwain llawer o brosiectau celf cymunedol arobryn. Mae Susan wedi derbyn nifer o wobrau a chanmoliaeth uchel, yn eu plith Nawdd Sefydlu Stiwdio gan Gyngor Celfyddydau’r Alban a Gwobr o Gronfa Ymddiriedolaeth Elusennol Cymdeithas y Crochenwyr Crefft i ymgymryd â thaith luniadu ac ymchwil i Kenya. Cefnogwyd datblygiad a gwireddiad y gwaith newydd i’r arddangosfa hon gan Gronfa Nawdd Prosiect Bychan Creative Scotland. Aeth Elizabeth Moignard, Athro Celf Clasurol ac Archaeoleg ym Mhrifysgol Glasgow, i ymweld â Susan yn ei stiwdio yn Glasgow ac ysgrifenna dros y dudalen.

Philip Hughes Cyfarwyddwr, Canolfan Grefft Rhuthun, 2015

This article is from: