6 minute read

Pum chwaer a choeden deuluol gan Elizabeth Moignard

Next Article
Cydnabyddiaeth

Cydnabyddiaeth

PUM CHWAER A CHOEDEN DEULUOL

Y ddelwedd o waith Susan sydd wedi glynnu yn y côf wedi ymweliad ag oriel leol yw cerflun maint llawn o oen, ar osgo braidd yn lletchwith fel petai am godi’n sydyn; meddyliais fod golwg nerfus, neu ofnus hyd yn oed ar ei wyneb, gyda llygaid tywyll dwys, a chlustiau ar led. Mae gan gnu yr oen ymyriadau patrymog – ei gefn yn rhannol fosaig o rannau tecstil neu fel teils. Nepell roedd mochyn daear yn eistedd i fyny, gyda’i fron a’i fol yn batrwm siec a thros ei ysgwyddau, patrwm gwrthweithiol o fleur-de-lis endoredig, a llinell goch annifyr i lawr un ochr i’w gefn. Mae’r ddau anifail yn disgwyl ymgysylltiad dwys iawn gyda’r gwyliwr: maent yn edrych i fyw eich llygad, ac yn disgwyl i gael eu harwisgo gyda phersonoliaeth neu ddehongliad o’u mynegiant ac osgo. Mae datganiad Susan, a sgwrs gyda’r artist ei hun, yn cadarnhau mai hyn oedd ei bwriad tra’n gweithio – rydym yn tueddu i roi persenoliaeth sy’n tarddu o’n profiad ein hunain i’r creaduriaid hyn, ac yn ôl pob tebyg yn gwneud yr un peth gyda chreaduriaid byw hefyd, p’un ai yn eu gweld wrth basio, neu yn anifeiliaid anwes annwyl rydym yn treulio amser yn sylwi ar eu harferion, a chredu ein bod yn eu deall.

Advertisement

Mae yna lawer o gynrychioliadau o anifeiliaid yng nghasgliadau celf Glasgow, yn gyhoeddus a phreifat. Nid ydynt bob tro yn ymddangos fel prif ffocws y ddelwedd, ond mae’n ymarfer diddorol i weld beth allwch chi ddod o hyd iddo, hyd yn oed fel ymddangosiadau atodol. Mae gan gasgliad yr Hunterian ddau bortread grwˆ p 17fed ganrif o’r Iseldiroedd gyda phâr o sbanieliaid yn chwyrnu ar ei gilydd yn y tu blaen – nid oeddwn wedi sylwi arnynt nes i mi fynd i chwilio – maent yn nodwedd bychan ac mae rhywyn yn tueddu i edrych dros eu pennau. Heb fod ymhell i ffwrdd, fodd bynnag, mae Stubbs yn gwneud datganiad gwych am hwyliau’r Elc, anifail tywyll, llawn iselder dwys mewn tirlun diflas: cerdyn post yr arferwn ei anfon i gyd-ddioddefwyr ar amser arholiadau. Mae anifeiliaid yn brif nodwedd yn rhai o weithiau casgliadau cyhoeddus y ddinas – mae gwartheg yr ucheldir yn naturiol yn rhan o’r tirwedd amaethyddol cenedlaethol – ond ychydig

sydd fel petaent yn sylwi bod anifeiliaid yn thema pwysig yng Nghasgliad Burrell gyda ffigurau anifeiliaid allweddol, o’r defaid beiddgar mewn tapestri canoloesol i ddau Minotor Groegaidd hynafol, i’r llawer o geffylau gweithio a rasio, cwˆ n a llewod Tsieineaidd a cheiliog balch mewn mosaig Rhufeinig. Byddwch yn sylwi fy mod, o leiaf yn rhannol, yn nodi dehongliadau dynol i’r delweddau hyn, ac hefyd bod y casgliadau yn adlewyrchu diddordeb lleol sy’n gymaint rhan annatod ohonom fel y gallwn eu pasio heibio heb sylwi.

Fy nheimladau cyntaf am waith Susan oedd i dynnu sylw at y thema lleol yna, ac i fyfyrio ar y diddordeb ac ymrwymiad i anifeiliaid, a’u hymddygiad a’u seicoleg tybiedig neu yr arsylwyd arno, sydd mor amlwg yn y casgliadau lleol hyn. Go dda, cyn belled, a chredaf o hyd fod llinyn myfyriol pwysig yna, ond roedd ymweliad

â Susan yn ei stiwdio yn Glasgow, ar ddechrau beth ddatblygodd i fod yn ddiwrnod rhyfeddol, yn cyflwyno rhai myfyrdodau eraill ar ei gwaith ac ymarfer sy’n haeddu eu crybwyll hefyd. Dangosodd Susan rywfaint o’r gwaith ar y gweill ar gyfer yr arddangosfa hon i mi, wedi’u cwblhau at wahanol gamau, a thrafod ei phroses cynhyrchu araf, gofalus a manwl. Ar fwrdd agored yn ei stiwdio roedd oen arall, gyda chnu wedi’i frodio a golwg amwys ar ei wyneb, mochyn daear arall, ffowlyn-gini, a rhai adar llai. Rownd y gornel roedd gofod gyda mowldiau pen, gan gynnwys rhai o’r brain brawychus fydd yn y sioe, un o’r armatwrau metel y caiff yr anifeiliaid eu hadeiladu arno, a hambyrddau o glai papur fydd yn ffurfio rhai o’r wynebau. Cefais hefyd weld rhai o’r stensiliau dorwyd â laser a gaiff eu defnyddio i greu’r patrymau cymhleth iawn ar y clai papur. Yn raddol fe ffurfiais ymdeimlad o’r gwneud lle mae’r armatwr yn cael ei orchuddio gyda chrochenwaith caled ac yna haenen borslen sydd yn cymryd yr arwynebau rhannol batrymog a chaffael gwead a lliw.

Mae’r sylw gofalus i’r manylion a’r broses o wneud yn elfen allweddol o ymarfer Susan – mae’n cymryd amser, gofal dwys a chywirdeb ac mae’r canlyniadau yn bersonol a chyffyrddol. Dywedodd Susan rywbeth wrthyf am y bobl a ysbrydolodd y sioe hon: y pum chwaer o genhedlaeth flaenorol o’i theulu o wneuthurwyr clociau Gwyddelig-Almaenig, y bu i’w cariad tuag at decstilau, brodwaith a thapestrïau fwydo i mewn i ddefnydd Susan o batrwm, gyda’r ymrwymiad i fanylion a chymryd amser i gyflawni lefel uchel o safon gwneuthuriad yn amlwg yn etifeddol. Cafwyd sgwrs i ddilyn am aelodau benywaidd ein teuluoedd, â’u setiau penodol o sgiliau-llaw a’r pleser oeddynt yn cael wrth wneud, pethau gymerwyd yn ganiataol fwy neu lai fel rhan o ymarfer creadigol y cartref, p’un a’i oeddynt yn cyfrannu neu yn traws-gyfeirio, fel gwnaeth rhai fy mam, i weithgaredd proffesiynol: roedd ei sgiliau llawfeddygol yn cael eu hategu gan ei gallu fel gofaint metel, teiliwr a saer. Mae’n eglur bod Susan yn cario genynnau gwneud ei theulu; ond rwy’n amau braidd y gallwn i hawlio fy mod i, a chredaf ein bod fel cenhedlaeth, yn tueddu i gymryd yn ganiataol bod llawer o’r arferion a’r pleserau gwneud hyn yn llawer llai cyffredin nag yr arferent fod.

Wedi dweud hynny, yn ddiweddarach yr un diwrnod teithiais adref gyda dwy athro benywaidd nodedig, un yn beiriannydd a’r llall yn gymdeithasegydd diwylliannol, o seremoni lle roeddynt yn cael eu sefydlu fel Cymrodyr o gymdeithas ddysgeidiol bwysig. Roeddwn wedi sôn wrthynt am f’ymweliad â stiwdio Susan, ac yn fuan roeddem yn sgwrsio am setiau sgiliau benywaidd; fel yr oeddem yn siarad, dyma’r cymdeithasegydd yn tynnu hosan o’i bag yr oedd wrthi’n ei gwau mewn modd traddodiadol gyda phedwar gweillen, ar gyfer ei gwˆ r. Dywedais hyn wrth Susan yn ddiweddarach, a dywedodd ei bod hi hefyd yn mwynhau gwau neu grosio ar drafnidiaeth gyhoeddus. Nodyn clo hapus i ddiwedd diwrnod cymhleth gyda sawl llinyn meddwl yn dod at ei gilydd mewn diweddglo annisgwyl. A chyrhaeddais adref i ganfod ein cath fach drilliw yn eistedd ar dop y grisiau, yn syllu arnaf yn eu dringo gyda’i llygad effro tywyll yn y cysgod, a chlustiau ar lêd, yn debyg iawn i oen Susan.

Elizabeth Moignard Mehefin 2015

This article is from: