PUM CHWAER A CHOEDEN DEULUOL Y ddelwedd o waith Susan sydd wedi glynnu yn y côf wedi ymweliad ag oriel leol yw cerflun maint llawn o oen, ar osgo braidd yn lletchwith fel petai am godi’n sydyn; meddyliais fod golwg nerfus, neu ofnus hyd yn oed ar ei wyneb, gyda llygaid tywyll dwys, a chlustiau ar led. Mae gan gnu yr oen ymyriadau patrymog – ei gefn yn rhannol fosaig o rannau tecstil neu fel teils. Nepell roedd mochyn daear yn eistedd i fyny, gyda’i fron a’i fol yn batrwm siec a thros ei ysgwyddau, patrwm gwrthweithiol o fleur-de-lis endoredig, a llinell goch annifyr i lawr un ochr i’w gefn. Mae’r ddau anifail yn disgwyl ymgysylltiad dwys iawn gyda’r gwyliwr: maent yn edrych i fyw eich llygad, ac yn disgwyl i gael eu harwisgo gyda phersonoliaeth neu ddehongliad o’u mynegiant ac osgo. Mae datganiad Susan, a sgwrs gyda’r artist ei hun, yn cadarnhau mai hyn oedd ei bwriad tra’n gweithio – rydym yn tueddu i roi persenoliaeth sy’n tarddu o’n profiad ein hunain i’r creaduriaid hyn, ac yn ôl pob tebyg yn gwneud yr un peth gyda chreaduriaid byw hefyd, p’un ai yn eu gweld wrth basio, neu yn anifeiliaid anwes annwyl rydym yn treulio amser yn sylwi ar eu harferion, a chredu ein bod yn eu deall.
Sheep (manylyn), 2015. 720x700x320mm
11