SUSAN O’BYRNE
pum chwaer a choeden deuluol
SUSAN O’BYRNE pum chwaer a choeden deuluol
2
fel y cloc o’r top chwith: Family Tree (Porcupine, Mouse Deer, Gobi Jerboa, Echidna, Possum), 2015. mwyaf: 70x145x60mm
CYNNWYS 7 Rhagair
gan Philip Hughes
11
Pum chwaer a choeden deuluol
gan Elizabeth Moignard
25
Bywgraffiad
28
Cydnabyddiaeth
Blue Turacos, 2015. 230x340x90mm yr un
5
RHAGAIR Mae Pum chwaer a choeden deuluol yn gasgliad newydd o serameg gan yr hynod dalentog Susan O’Byrne. Mae’n cynnig taith bersonol iawn i fyd preifat. “Mae fy ysbrydoliaeth yn dod o hanes fy nheulu fy hun, yn benodol ochr fy mam o’r teulu, ymfudodd o’r Almaen i Iwerddon yng nghanol yr 1800au. Fy nain a’i phedair chwaer yw y pum chwaer. Cynrychiolir pob un gan anifail serameg, a rhain yw’r darnau mwyaf yn yr arddangosfa.” Ysgrifenna Susan: “Mae’n plentyndod yn llawn o ddelweddau anifeiliaid, e’u holl enwau, siapiau, lliwiau a phatrymau yn tanio ein dychymyg cynnar. Drwy gydol hanes hefyd mae anifeiliaid wedi’u defnyddio mewn adrodd straeon, chwedlau a llên gwerin i symleiddio cymhlethdodau bywyd oedolyn. Yn yr un modd, rwy’n defnyddio ffurf anifail fel cyfrwng i fynegi emosiynau dynol.”
Deer with tree blanket, 2015. 880x730x280mm
7
Yn enedigol o Corc, Iwerddon, symudodd Susan O’Byrne i’r Alban i ddilyn cwrs yng Ngholeg Celf Caeredin yn 1994. Graddiodd yn 1999 gyda Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Dylunio a Chelf Gymhwysol, gyda Diploma Ôl-Radd mewn serameg i ddilyn. Yn fuan wedyn symudodd Susan ychydig i’r gorllewin i sefydlu ei hymarfer serameg stiwdio yn Glasgow. Mae hi wedi arddangos yn eang, wedi bod yn artist preswyl, ac hefyd yn llwyddo i ddod o hyd i amser i arwain llawer o brosiectau celf cymunedol arobryn. Mae Susan wedi derbyn nifer o wobrau a chanmoliaeth uchel, yn eu plith Nawdd Sefydlu Stiwdio gan Gyngor Celfyddydau’r Alban a Gwobr o Gronfa Ymddiriedolaeth Elusennol Cymdeithas y Crochenwyr Crefft i ymgymryd â thaith luniadu ac ymchwil i Kenya. Cefnogwyd datblygiad a gwireddiad y gwaith newydd i’r arddangosfa hon gan Gronfa Nawdd Prosiect Bychan Creative Scotland. Aeth Elizabeth Moignard, Athro Celf Clasurol ac Archaeoleg ym Mhrifysgol Glasgow, i ymweld â Susan yn ei stiwdio yn Glasgow ac ysgrifenna dros y dudalen.
Philip Hughes Cyfarwyddwr, Canolfan Grefft Rhuthun, 2015
Fables and Figments, Canolfan Grefft Rhuthun, 2011
9
PUM CHWAER A CHOEDEN DEULUOL Y ddelwedd o waith Susan sydd wedi glynnu yn y côf wedi ymweliad ag oriel leol yw cerflun maint llawn o oen, ar osgo braidd yn lletchwith fel petai am godi’n sydyn; meddyliais fod golwg nerfus, neu ofnus hyd yn oed ar ei wyneb, gyda llygaid tywyll dwys, a chlustiau ar led. Mae gan gnu yr oen ymyriadau patrymog – ei gefn yn rhannol fosaig o rannau tecstil neu fel teils. Nepell roedd mochyn daear yn eistedd i fyny, gyda’i fron a’i fol yn batrwm siec a thros ei ysgwyddau, patrwm gwrthweithiol o fleur-de-lis endoredig, a llinell goch annifyr i lawr un ochr i’w gefn. Mae’r ddau anifail yn disgwyl ymgysylltiad dwys iawn gyda’r gwyliwr: maent yn edrych i fyw eich llygad, ac yn disgwyl i gael eu harwisgo gyda phersonoliaeth neu ddehongliad o’u mynegiant ac osgo. Mae datganiad Susan, a sgwrs gyda’r artist ei hun, yn cadarnhau mai hyn oedd ei bwriad tra’n gweithio – rydym yn tueddu i roi persenoliaeth sy’n tarddu o’n profiad ein hunain i’r creaduriaid hyn, ac yn ôl pob tebyg yn gwneud yr un peth gyda chreaduriaid byw hefyd, p’un ai yn eu gweld wrth basio, neu yn anifeiliaid anwes annwyl rydym yn treulio amser yn sylwi ar eu harferion, a chredu ein bod yn eu deall.
Sheep (manylyn), 2015. 720x700x320mm
11
Mae yna lawer o gynrychioliadau o anifeiliaid yng nghasgliadau celf Glasgow, yn gyhoeddus a phreifat. Nid ydynt bob tro yn ymddangos fel prif ffocws y ddelwedd, ond mae’n ymarfer diddorol i weld beth allwch chi ddod o hyd iddo, hyd yn oed fel ymddangosiadau atodol. Mae gan gasgliad yr Hunterian ddau bortread grŵp 17fed ganrif o’r Iseldiroedd gyda phâr o sbanieliaid yn chwyrnu ar ei gilydd yn y tu blaen – nid oeddwn wedi sylwi arnynt nes i mi fynd i chwilio – maent yn nodwedd bychan ac mae rhywyn yn tueddu i edrych dros eu pennau. Heb fod ymhell i ffwrdd, fodd bynnag, mae Stubbs yn gwneud datganiad gwych am hwyliau’r Elc, anifail tywyll, llawn iselder dwys mewn tirlun diflas: cerdyn post yr arferwn ei anfon i gyd-ddioddefwyr ar amser arholiadau. Mae anifeiliaid yn brif nodwedd yn rhai o weithiau casgliadau cyhoeddus y ddinas – mae gwartheg yr ucheldir yn naturiol yn rhan o’r tirwedd amaethyddol cenedlaethol – ond ychydig 12
Zebra Finch, 2015. 70x120x30mm. Red-headed Finch, 2015. 70x130x30mm
sydd fel petaent yn sylwi bod anifeiliaid yn thema pwysig yng Nghasgliad Burrell gyda ffigurau anifeiliaid allweddol, o’r defaid beiddgar mewn tapestri canoloesol i ddau Minotor Groegaidd hynafol, i’r llawer o geffylau gweithio a rasio, cŵn a llewod Tsieineaidd a cheiliog balch mewn mosaig Rhufeinig. Byddwch yn sylwi fy mod, o leiaf yn rhannol, yn nodi dehongliadau dynol i’r delweddau hyn, ac hefyd bod y casgliadau yn adlewyrchu diddordeb lleol sy’n gymaint rhan annatod ohonom fel y gallwn eu pasio heibio heb sylwi. Fy nheimladau cyntaf am waith Susan oedd i dynnu sylw at y thema lleol yna, ac i fyfyrio ar y diddordeb ac ymrwymiad i anifeiliaid, a’u hymddygiad a’u seicoleg tybiedig neu yr arsylwyd arno, sydd mor amlwg yn y casgliadau lleol hyn. Go dda, cyn belled, a chredaf o hyd fod llinyn myfyriol pwysig yna, ond roedd ymweliad
Lovebird, 2015. 70x135x30mm
13
16
tudalen blaenorol: Guinea Fowl (manylyn), 2015. 540x400x210mm. Hornbill (manylyn), 2015. 170x340x70mm
â Susan yn ei stiwdio yn Glasgow, ar ddechrau beth ddatblygodd i fod yn ddiwrnod rhyfeddol, yn cyflwyno rhai myfyrdodau eraill ar ei gwaith ac ymarfer sy’n haeddu eu crybwyll hefyd. Dangosodd Susan rywfaint o’r gwaith ar y gweill ar gyfer yr arddangosfa hon i mi, wedi’u cwblhau at wahanol gamau, a thrafod ei phroses cynhyrchu araf, gofalus a manwl. Ar fwrdd agored yn ei stiwdio roedd oen arall, gyda chnu wedi’i frodio a golwg amwys ar ei wyneb, mochyn daear arall, ffowlyn-gini, a rhai adar llai. Rownd y gornel roedd gofod gyda mowldiau pen, gan gynnwys rhai o’r brain brawychus fydd yn y sioe, un o’r armatwrau metel y caiff yr anifeiliaid eu hadeiladu arno, a hambyrddau o glai papur fydd yn ffurfio rhai o’r wynebau. Cefais hefyd weld rhai o’r stensiliau dorwyd â laser a gaiff eu defnyddio i greu’r patrymau cymhleth iawn ar y clai papur. Yn raddol fe ffurfiais ymdeimlad o’r gwneud lle mae’r armatwr yn cael ei orchuddio gyda chrochenwaith caled ac yna haenen borslen sydd yn cymryd yr arwynebau rhannol batrymog a chaffael gwead a lliw.
Crows, 2015. 230x380x100mm yr un
17
Mae’r sylw gofalus i’r manylion a’r broses o wneud yn elfen allweddol o ymarfer Susan – mae’n cymryd amser, gofal dwys a chywirdeb ac mae’r canlyniadau yn bersonol a chyffyrddol. Dywedodd Susan rywbeth wrthyf am y bobl a ysbrydolodd y sioe hon: y pum chwaer o genhedlaeth flaenorol o’i theulu o wneuthurwyr clociau Gwyddelig-Almaenig, y bu i’w cariad tuag at decstilau, brodwaith a thapestrïau fwydo i mewn i ddefnydd Susan o batrwm, gyda’r ymrwymiad i fanylion a chymryd amser i gyflawni lefel uchel o safon gwneuthuriad yn amlwg yn etifeddol. Cafwyd sgwrs i ddilyn am aelodau benywaidd ein teuluoedd, â’u setiau penodol o sgiliau-llaw a’r pleser oeddynt yn cael wrth wneud, pethau gymerwyd yn ganiataol fwy neu lai fel rhan o ymarfer creadigol y cartref, p’un a’i oeddynt yn cyfrannu neu yn traws-gyfeirio, fel gwnaeth rhai fy mam, i weithgaredd proffesiynol: roedd ei sgiliau llawfeddygol yn cael eu hategu gan ei gallu fel gofaint metel, teiliwr a saer. Mae’n eglur bod Susan yn cario genynnau gwneud ei theulu; ond rwy’n amau braidd y gallwn i hawlio fy mod i, a chredaf ein bod fel cenhedlaeth, yn tueddu i gymryd yn ganiataol bod llawer o’r arferion a’r pleserau gwneud hyn yn llawer llai cyffredin nag yr arferent fod. Deer (manylyn), 2015. 880x730x280mm Ceirw heb eu tanio yn cael eu pacio mewn odyn
19
Wedi dweud hynny, yn ddiweddarach yr un diwrnod teithiais adref gyda dwy athro benywaidd nodedig, un yn beiriannydd a’r llall yn gymdeithasegydd diwylliannol, o seremoni lle roeddynt yn cael eu sefydlu fel Cymrodyr o gymdeithas ddysgeidiol bwysig. Roeddwn wedi sôn wrthynt am f’ymweliad â stiwdio Susan, ac yn fuan roeddem yn sgwrsio am setiau sgiliau benywaidd; fel yr oeddem yn siarad, dyma’r cymdeithasegydd yn tynnu hosan o’i bag yr oedd wrthi’n ei gwau mewn modd traddodiadol gyda phedwar gweillen, ar gyfer ei gŵr. Dywedais hyn wrth Susan yn ddiweddarach, a dywedodd ei bod hi hefyd yn mwynhau gwau neu grosio ar drafnidiaeth gyhoeddus. Nodyn clo hapus i ddiwedd diwrnod cymhleth gyda sawl llinyn meddwl yn dod at ei gilydd mewn diweddglo annisgwyl. A chyrhaeddais adref i ganfod ein cath fach drilliw yn eistedd ar dop y grisiau, yn syllu arnaf yn eu dringo gyda’i llygad effro tywyll yn y cysgod, a chlustiau ar lêd, yn debyg iawn i oen Susan. Elizabeth Moignard Mehefin 2015
20
Sheep, 2015. 720x700x320mm
21
22
Two Hornbills, 2015. 170x340x70mm yr un
23
24
BYWGRAFFIAD Addysg 2000 Coleg Celf Caeredin – Ôl-Radd mewn Serameg 1999 Coleg Celf Caeredin – Gradd mewn Cynllunio a Chelf Gymhwysol (dosb.1af) 1991 Ysgol Grennan Mill Craft – Co.Kilkenny Arddangosfeydd – Unigol 2015 Canolfan Grefft Rhuthun, Rhuthun 2012 Oriel Harley, Nottinghamshire Galerie Marianne Heller Heidelberg, Yr Almaen 2011 Galerie du Don Aveyron, Ffrainc 2001 Oriel Harley, Nottinghamshire Arddangosfeydd – Dau-berson 2014 Oriel Bircham, Holt Contemporary Ceramics, Llundain Arddangosfeydd – Grŵp (dethol) 2014 Detholiad yn Dovecoat Studios, Caeredin 2013 Amgueddfa Serameg Westerwald Hesse, Yr Almaen Craft Scotland yn SOFA, Chicago Detholiad yn Dovecoat Studios, Caeredin Canolfan Arddangos y Bluecoat, Lerpwl Oriel Billcliffe, Glasgow Oriel Grefft Genedlaethol Iwerddon, Kilkenny 2012 NCGOI yn COLLECT 2012, Llundain Ceramic Art London 2012, Llundain 2011 European Makers Gallery, Amsterdam, Yr Iseldiroedd Oriel Lavit, Corc Canolfan Grefft Rhuthun, Rhuthun Canolfan y Celfyddau Aberystwyth, Aberystwyth Galerie Terra Delft, Delft, Yr Iseldiroedd Ceramic Art London 2011, Llundain
Guinea Fowl, 2015. 540x400x210mm
Gwobrau 2015 Creative Scotland – Cronfa Nawdd Prosiect Bach 2014 Inches Carr Trust – Bwrseriaeth Crefft 2012–13 Cyngor Crefft Iwerddon – Detholiad Beirniadol Portffolio Crefft Iwerddon 2010 Creative Scotland – Nawdd Datblygu Creadigrwydd 2003 Cyngor Celfyddydau’r Alban – Nawdd Datblygiad Unigol 2001 Cyngor Celfyddydau’r Alban – Nawdd Sefydlu Stiwdio 2000 New Designers – Gwobr Cymeradwyad Uchel Gwobr Cronfa Elusennol CPA – Lluniadu bywyd gwyllt ac ymchwil yn Kenya 1999 Coleg Celf Caeredin – Ysgoloriaeth Ôl-Radd Andrew Grant Coleg Celf Caeredin – Cymynrodd Helen A Rose 1996 Coleg Celf Caeredin – Cymynrodd Teithio Andrew Grant Preswyliad Artist Kreisspk, Bernberg, Yr Almaen, Meh–Hyd 2004; Sŵ Caeredin, Ion–Medi 2002 Cyhoeddiadau Additions to Clay Bodies, Kathleen Standen, 2013; Sculpting and Handbuilding, Claire Loder, 2013; Irish Craft Portfolio Critical Selection, 2013–2014; Awst 2012; AD Architectural Digest (ALMAEN), 2012; Keramiek (Iseldiroedd) (Tudalennau 14–15), Meh 2011; Brandpunt Terra, Ebrill 2011; Ceramic Review (Tudalennau 28–33) erthygl nodwedd, Mawrth 2011 Aelodaeth Aelod o Portfolio, Cyngor Crefft a Dylunio Iwerddon; Aelod Proffesiynol Cymdeithas y Crochenwyr; Aelod o Contemporary Applied Arts
25
26
Family Tree (manylyn), 2015
27
CYDNABYDDIAETH Hoffai Canolfan Grefft Rhuthun ddiolch i Susan O’Byrne, Dr Elizabeth Moignard, Sefydliad Esmée Fairbairn, Creative Scotland; Lisa Rostron, Stephen Heaton a Rachel Shaw yn Lawn, Gregory Parsons, Pete Goodridge ac ArtWorks; Cyngor Celfyddydau Cymru a’r holl dim yng NgGRh.
Cynhyrchir pob gwrthrych o haenau o glai papur porslen wedi’u printio â’u patrymu, ac yna eu cymhwyso i greu croen ar fframyn weiren cyn eu tanio yn yr odyn.
Hoffai Susan O’Byrne roi diolch arbennig i Creative Scotland, Bruno Gallagher, Madeleine O’Byrne a phawb yn Stiwdio Serameg Glasgow a Chanolfan Grefft Rhuthun.
clawr: Deer (manylyn), 2015. 880x730x280mm tudalen 3: Red-headed Finch, 2015. 70x130x50mm clawr cefn: African Finches, 2015 mwyaf: 70x130x50mm
Staff arddangosfa ac addysg Canolfan Grefftau Rhuthun: Philip Hughes, Jane Gerrard, Sioned Phillips, Joe Jubb a Einir Wyn Jones Ffotograffiaeth: Bruno Gallagher Dylunio: Lawn Creative, Lerpwl Printio: Team Impression, Leeds Cyfieithu: Nia Roberts Cyhoeddwyd gan Ganolfan Grefft Rhuthun Testun h Yr Awduron 2015 ISBN 978-1-905865-73-4 Canolfan Grefft Rhuthun, Canolfan y Celfyddydau Cymhwysol Ffordd y Parc, Rhuthun, Sir Ddinbych LL15 1BB Ffôn: +44 (0)1824 704774 www.canolfangrefftrhuthun.org.uk Ariennir refeniw Canolfan Grefft Rhuthun gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac mae’n rhan o Gyngor Sir Ddinbych. Mae’r cyhoeddiad hwn ar gael hefyd yn Saesneg. Ni chaniateir atgynhyrchu’r llyfr hwn yn gyfan nac yn rhannol mewn unrhyw ffurf heb ganiatâd ysgrifenedig gan y cyhoeddwr.
28