ADRODDIAD BLYNYDDOL ............................................................ ADOLYGIAD O 2011-2012
Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
CYNLLUN STRATEGOL 2011-2014 | Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
EICH LLAIS cyflwyno eich barn chi lle y mae’n cyfrif
ADNODDAU yr adnodd cywir yn y lle cywir ar yr adeg gywir
YMGYSYLLTU Â’R GYMUNED eich annog i gael effaith bositif ar eich cymuned
LEIN GWELEDIGAETH
CYFLOGADWYEDD cefnogi cyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau a’ch gyfra
Ceisio cael effaith bositif ar fywyd pob myfyriwr a'i helpu i fwynhau ei amser yng Nghaerdydd GWASANAETHAU beth rydych am ei gael yn y fan lle rydych am iddo fod
IECHYD A LLES sicrhau eich bod yn hapus ac yn iach tra byddwch yn astudio yng Nghaerdydd HWYL A CHYFEILLGARWCH eich helpu i fwynhau eich amser yng Nghaerdydd a chwrdd â phobl newydd
Cymerwch ran, carwch Gaerdydd EIN GWERTHOEDD CRAIDD: Ansawdd | Diwylliant | Partneriaeth | Cyfathrebu | Cynaliadwyedd | Cyfleoedd
CYNNWYS 1| 2| 3| 4| 5| 7| 8| 9| 10| 11| 12| Croeso gan y Llywydd
Trosolwg o’r Undeb
Tîm Swyddogion Etholedig 11/12 Tîm Swyddogion Etholedig 12/13
Mapiau Llawr Undeb y Myfyrwyr
Yr Undeb Athletau
Urdd y Cymdeithasau
Cynrychiolwyr Academaidd y Myfyrwyr
Cyfryngau Myfyrwyr Caerdydd
Democratiaeth
Y Ganolfan Cynghori a Chynrychioli
13| 14| 15| 16| 17 | 18| 19| 20| 21| 22|
Gwasanaeth Datblygu Sgiliau Gwirfoddoli Myfyrwyr Caerdydd Canolfan Parc y Mynydd Bychan
Cyfathrebu
Yr Adran Lleoliadau
Gwasanaeth Gosod Tai Myfyrwyr Caerdydd
Siop Swyddi
Manwerthu
Canolfan y Graddedigion
Lluniau’r flwyddyn
CROESO GAN Y LLYWYDD Hoffwn fod y cyntaf i ddiolch i chi am gymryd diddordeb yn ein Sefydliad. Elusen yw Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, sy’n eiddo i bob myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, ac sy’n cael ei rhedeg gan swyddogion-fyfyrwyr etholedig a gefnogir gan 80 o staff llawn amser a 300 o staff rhan amser sy’n fyfyrwyr. Mae’r Undeb yn berchen yn llawn ar gwmni cyfyngedig sy’n cyflawni’r swyddogaeth o fasnachu, gan ail-fuddsoddi gwargedau mewn gwasanaethau i fyfyrwyr. Fel sefydliad, rydym yn ceisio helpu myfyrwyr i fwynhau eu hamser yng Nghaerdydd, gwneud ffrindiau a gadael y Brifysgol gyda sgiliau am yrfa yn y dyfodol. Yn gryno: ‘Cymerwch Ran, Carwch Gaerdydd’. Mae’r Undeb yn cynnig gwasanaethau, adnoddau a chefnogaeth i’w myfyrwyr. Rydym yn defnyddio’r arian a wneir drwy fariau, caffis, siopau a digwyddiadau, ynghyd â grant bloc gan y Brifysgol, i redeg y gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu a’u gwella. Mae’r rhain yn cynnwys cynghori a chynrychioli, hyfforddiant a datblygu sgiliau, chwaraeon, cymdeithasau a gwirfoddoli. Rydym hefyd yn cefnogi myfyrwyr wrth ymgyrchu am y materion sy’n bwysig iddynt ac yn anelu at gael effaith gadarnhaol ar y gymuned ehangach yng Nghaerdydd. Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi cyrraedd un o’r trobwyntiau mwyaf cyffrous ers 130 o flynyddoedd. Mae cyfleoedd o’n cwmpas ym mhobman. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Brifysgol wedi penodi Is-Ganghellor ac uwch dîm arwain newydd. Mae’r awyrgylch yn danbaid ac mae pobl yn teimlo y gallant gyflawni newid gwirioneddol. Creu newid effeithiol i fyfyrwyr yw ein bwriad yn Undeb y Myfyrwyr, ac mae tirwedd newidiol addysg uwch wedi rhoi hyd yn oed mwy o ddilysrwydd i ni wneud hyn.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi ennill statws Undeb Myfyrwyr UCM Cymru y flwyddyn a daethom yn 5ed Undeb Myfyrwyr gorau’r DU yn Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol 2012. Os hoffech gael sgwrs am unrhyw beth y byddwch yn ei ddarllen ar y tudalennau hyn, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Harry Newman LLYWYDD 2012/13
1
| Adroddiad Blynyddol 2011-2012
TROSOLWG O’R UNDEB Mae Undeb y Myfyrwyr wedi llwyddo unwaith eto ar gyfer ei aelodau, y Brifysgol a’r gymuned. Eleni, cyflawnodd yr Undeb wobr Efydd y Fenter Gwerthuso Undebau Myfyrwyr, enillodd y wobr am yr Undeb Myfyrwyr gorau yng Nghymru gan UCM a pharhaodd i ddatblygu ei wasanaethau i’n haelodau. Gwnaethom agor datblygiad y Lolfa sy’n cynnwys technolegau o’r radd flaenaf, sydd wedi cael sylwadau gan Undebau eraill o bob cwr o’r DU. Cewch weld yn yr adroddiad hwn bod ein sefydliad yn cynnig miloedd o gyfleoedd datblygu i’w aelodau. Rydym hefyd yn rhoi cyngor i’r Brifysgol ar anghenion ein haelodau. Yn bwysig iawn, rydym hefyd yn cynghori ac yn cynrychioli myfyrwyr sydd wedi eu cyhuddo gan y Brifysgol o dorri rheolau academaidd. Mae ein staff wedi cynrychioli myfyrwyr yn llwyddiannus fel y gallant barhau i astudio a chael y cymorth sydd ei angen arnynt. Mae hon wedi bod yn flwyddyn heriol i’r Cwmni, gyda nifer o gostau untro yn cael effaith ar yr alldro ar ddiwedd y flwyddyn. Eleni, bydd y Cwmni yn colli dros £250K, ond rydym yn hyderus iawn y byddwn yn gwneud elw yn y flwyddyn i ddod, oherwydd y penderfyniadau anodd a wnaethom eleni.
Gwn y bydd gwaith yr Undeb yn parhau am lawer o flynyddoedd i ddod, sef ceisio gwella profiad myfyrwyr Caerdydd tra’n eu cynrychioli i’r Brifysgol.
Dyma fydd fy adroddiad olaf fel Prif Weithredwr Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Credaf mai ein Hundeb ni yw’r gorau yn y DU ac o’m profiadau i, un o’r goreuon yn y byd. Dymunaf bob lwc i chi, yr aelodau ac Undeb y Myfyrwyr yn y dyfodol.
Jason Dunlop PRIF WEITHREDWR
Adroddiad Blynyddol 2011-2012 |
2
TÎM SWYDDOGION ETHOLEDIG 11/12 Llywydd: Marcus | Cyflawniadau yn ystod 11/12 • Sicrhau bod y Brifysgol yn darparu cyllid ar gyfer ein Canolfan Sgiliau, Datblygu a Menter newydd ar yr ail lawr. • Aildrefnu rolau swyddi y tîm o swyddogion etholedig llawn amser. • Arwain yr Undeb drwy broses ailstrwythuro staffio fawr. • Cyflawni gwobr efydd ym Menter Gwerthuso Undebau Myfyrwyr, Undeb Myfyrwyr y flwyddyn yng Ngwobrau UCM Cymru ac ennill teitl 5ed Undeb gorau yn y wlad yn yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol.
Swyddog Lles a Chyfathrebu: Chris | Cyflawniadau yn ystod 11/12 • Lansio prosiect “Hyrwyddwyr Amgylcheddol” gyda’r cyngor a Gwirfoddoli Myfyrwyr Caerdydd, gan annog myfyrwyr i ailgylchu a chreu cysylltiadau â’r gymuned. • Helpu i ddatblygu gwefan newydd Undeb y Myfyrwyr. • Cyflwyno ‘Bws Nos yr Heddlu’ ar nos Fercher a nos Sadwrn, gan sicrhau cludiant mwy diogel i fyfyrwyr. • Cynnal Etholiadau llwyddiannus a chystadleuol yn 2012, gan sicrhau nifer uwch o bleidleiswyr.
Llywydd yr Undeb Athletau: Ollie | Cyflawniadau yn ystod 11/12 • Sicrhau bod y Brifysgol yn buddsoddi mewn maes 3G newydd sbon yng nghaeau chwarae Llanrhymni. • Marchnata brand ‘Tîm Caerdydd’. • Cyd-drafod trefniant â Kukri er mwyn iddynt weithredu fel darparwr swyddogol cit yr Undeb Athletau a hefyd ddarparu nawdd hyd at £10,000. • Sicrhau gwasanaeth ffisiotherapi ‘Agile Therapy’ yn Undeb y Myfyrwyr; gan gynnig ffisiotherapi am bris gostyngol i aelodau’r Undeb Athletau.
Swyddog cyllid: Nick | Cyflawniadau yn ystod 11/12 • Gwell tryloywder ariannol: dechrau ymgyrch farchnata i ddangos o ble y mae’r arian yn dod ac i ble mae’n mynd e.e. dadansoddiad o ble mae £1 a gaiff ei wario yn Undeb y Myfyrwyr yn mynd. • Man cymdeithasol Neuadd y Brifysgol: Sicrhau £250,000 o’r Brifysgol i greu man cymdeithasol newydd. • Cyflawni’r wobr Efydd ym Menter Gwerthuso Undebau Myfyrwyr. • Cyflwyno cyllid Undeb y Myfyrwyr yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, a gymeradwywyd gan gorff y myfyrwyr. • Trefnu dawns haf diwedd y flwyddyn lwyddiannus o’r enw ‘The Dusk Till Dawn Ball 2012’.
Swyddog Cymdeithasau: Harry Newman | Cyflawniadau yn ystod 11/12 • Ailddatblygu ystafelloedd yr Undeb i greu cyfleusterau dawnsio. • Adeiladau man storio enfawr newydd ar gyfer cymdeithasau ar lawr daear Undeb y Myfyrwyr. • Sicrhau cynnydd yn y nifer o aelodau mewn cymdeithasau, er gwaethaf cyflwyno ffi’r urdd.
Swyddog Academaidd: Sam | Cyflawniadau yn ystod 11/12 • Helpu i sicrhau cyllid er mwyn i aelod o staff yr Undeb gydlynu’r system cynrychiolwyr academaidd y myfyrwyr. • Hyfforddi tua 300 o Gynrychiolwyr Academaidd y Myfyrwyr. • Lobïo’r Brifysgol i ymestyn oriau agor y llyfrgell.
Swyddog Integreiddio Gofal Iechyd: Sarah | Cyflawniadau yn ystod 11/12 • Cynllunio a lansio Arolwg Parc y Mynydd Bychan i bob myfyriwr gofal iechyd; gan arwain at adolygiad mawr ei angen i’r goleuadau, diogelwch a thrafnidiaeth ar safle’r Mynydd Bychan. • Datblygu Ystafell Gyffredin Myfyrwyr Gofal Iechyd. • Gwella arwyddion o gwmpas campws Parc y Mynydd Bychan. • Lansio digwyddiad croeso cyntaf erioed yn Undeb y Myfyrwyr ar gyfer y myfyrwyr nyrsio newydd ym mis Mawrth.
Pennaeth Cyfryngau Myfyrwyr: Ollie | Cyflawniadau yn ystod 11/12 • Llwyddo i greu a chynnal tair gwefan gyda dros 20,000 o ymweliadau yn ystod y ddau dymor cyntaf. • Cynnal gwobrau cyfryngau llwyddiannus gyda’r cyflwynydd radio, Adam Catterall, yn yr Hilton. • Llwyddodd pawb a weithiodd ar Gyfryngau Myfyrwyr Caerdydd i gael lle ar gwrs ôl-raddedig mewn newyddiaduriaeth.
3
| Adroddiad Blynyddol 2011-2012
TÎM SWYDDOGION ETHOLEDIG 12/13 Llywydd: Harry Newman | Targedau ar gyfer 12/13 • Sicrhau £2 filiwn er mwyn datblygu adeiladau’r Undeb i wella Solus, y 3ydd llawr a’r tu allan. • Gwella’r ffordd rydym yn cyfathrebu â’n haelodau a rhanddeiliaid. • Meithrin cydberthnasau â’r Is-ganghellor, Cadeirydd y Cyngor ac Uwch Dîm Rheoli newydd y Brifysgol. • Dangos i’r Brifysgol ble y dylai fuddsoddi yn unol â barn myfyrwyr o’r campws.
Swyddog Lles a Chymunedau: Megan David | Targedau ar gyfer 12/13 • Sicrhau cymorth iechyd meddwl y tu allan i oriau a/neu sesiynau iechyd meddwl galw heibio’n wythnosol a drefnir gan “Mind”. • Rhedeg Wythnos Byddwch Wyrdd yn llwyddiannus a Gwobrau Cynaliadwyedd newydd. • Codi nifer yr enwebiadau ar y Gofrestr Anrhydeddau.
Llywydd yr Undeb Athletau: Cari Davis | Targedau ar gyfer 12/13 • Datblygu ac arwyddo cytundeb partneriaeth gydag Adran Chwaraeon y Brifysgol, sy’n amlinellu rolau, cyfrifoldebau a disgwyliadau. • Gweithredu strwythur ar gyfer chwaraeon sy’n galluogi i dimau Meddygaeth barhau i gystadlu yn Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain. • Gwella strwythurau chwaraeon Gemau Mewn-Golegol a gwneud yr Undeb Athletau yn fwy cynhwysol i’r rheini sy’n cymryd rhan. • Sicrhau prif noddwr ar gyfer yr Undeb Athletau ar gyfer 2013-14.
Swyddog Datblygu’r Undeb a Materion Mewnol: Kieran Gandhi Targedau ar gyfer 12/13 • Cyflwyno cyllid Undeb y Myfyrwyr i’w gymeradwyo yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. • Datblygu ein gwasanaethau a digwyddiadau presennol. • Trefnu’r Ddawns Haf eleni.
Swyddog Cymdeithasau: Adam Curtis | Targedau ar gyfer 12/13 • Cyflwyno cynrychiolwyr RAG i bob cymdeithas. <
• Gwneud ‘Y Byd i Gyd yn Grwn’ yn well nagerioed, gyda mwy o gymdeithasau yn cymryd rhan a mwy o fyfywyr yn dod i’r wyl wythnos o hyd.
Swyddog Addysg: Beth Button | Targedau ar gyfer 12/13 • Recordio darlithoedd a’u rhoi ar system learning central. • Hyfforddi pob tiwtor personol ym maes cymorth cyntaf iechyd meddwl.
Swyddog Integreiddio Parc y Mynydd Bychan: Hannah Pask Targedau ar gyfer 12/13 • Ymchwilio i brofiad myfyrwyr o leoliadau clinigol a’u gwella (h.y. gwella darpariaeth y rhyngrwyd ar leoliad i bob myfyriwr gofal iechyd). • Cynnal yr Wythnos Croeso gyntaf erioed yn llawn gweithgareddau ar gyfer y myfyrwyr nyrsio newydd ym mis Mawrth.
Pennaeth Cyfryngau Myfyrwyr: Chris Williams | Targedau ar gyfer 12/13 • Creu cyfryngau myfyrwyr cynaliadwy sy’n agored ac yn hygyrch i bawb. • Gorffen y flwyddyn drwy gyflwyno app gair rhydd. • Rhoi CUTV yr arian a’r lle i gyflawni eu nodau.
Adroddiad Blynyddol 2011-2012 |
4
MAPIAU LLAWR UNDEB Y MYFYRWYR
5
| Adroddiad Blynyddol 2011-2012
Adroddiad Blynyddol 2011-2012 |
6
50
Mae’r Undeb Athletau yn rhoi cyfleoedd ym maes chwaraeon i bob myfyriwr sy’n dod i Brifysgol Caerdydd. Maent yn cofrestru ac yn helpu i weinyddu dros 60 o glybiau chwaraeon cysylltiedig, drwy gynnig gwasanaethau fel archebu cyfleusterau, trefnu digwyddiadau, cyngor diogelwch a chymorth ariannol. Mae’r Undeb Athletau hefyd yn helpu i gydlynu’r rhaglen Gemau Mewn-Golegol ac yn trefnu gemau i’r timau sy’n cystadlu yng nghynghreiriau a thwrnament Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS).
26
YR UNDEB ATHLETAU
o Aelodau yn y
Clybiau Chwaraeon
Trosolwg o 2011/12 Yn ystod 2011 - 2012 roedd 5026 o aelodau ar draws 60 o glybiau chwaraeon. Cafodd y clybiau hyn eu harwain gan 467 o fyfyrwyr gwirfoddol a roddodd o’u hamser i hyfforddi, rhoi cyfarwyddiadau a threfnu eraill. Gyda’i gilydd, roedd tua 160 o sesiynau hyfforddi yr wythnos ar gyfartaledd, ac felly 4800 o sesiynau hyfforddi y flwyddyn. Rhoddodd yr Undeb Athletau gyfanswm o £75,384 fel arian uniongyrchol i’r clybiau hyn fel y gallent gyflawni eu gweithgaredd.
Cyfanswm yr Arian yn
uniongyrchol i'r clybiau
£75,384.66 10,080
Nodau ac Amcanion 12/13 Y nod ar gyfer 2012/13 yw datblygu ac arwyddo cytundeb partneriaeth gydag Adran Chwaraeon y Brifysgol, sy’n amlinellu rolau, cyfrifoldebau a disgwyliadau. Bydd yr Undeb Athletau yn gweithredu strwythur newydd er mwyn hyrwyddo parhâd chwaraeon i’r myfyrwyr meddygaeth. Mae’r tîm hefyd yn gweithio ar sicrhau prif noddwr ar gyfer yr Undeb Athletau yn 2013-14.
o enghreifftiau
o fyfyrwyr yn cynrychioli
Prifysgol Caerdydd y flwyddyn
ASTUDIAETH ACHOS Eleni, adolygodd yr Undeb Athletau yr hyfforddiant sydd ar gael ar gyfer pwyllgorau a phenderfynwyd mabwysiadu dull gwahanol. Cynhaliwyd diwrnod hyfforddi ar ffurf cynhadledd, ac roedd yn cynnwys amrywiaeth o sesiynau rhyngweithiol y gallai’r rhai a oedd yn bresennol ddewis ohonynt. Rhoddodd staff o Undeb y Myfyrwyr o’u hamser i gynnal sesiynau, yn ogystal ag aelod o staff o UCM a siaradodd am bwysigrwydd cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mynychodd mwy na 150 o aelodau pwyllgor y gynhadledd gychwynnol a chynhaliwyd sesiwn ddilynol gyda’r nos ar ôl hynny. Gan ddefnyddio adborth cadarnhaol ac adeiladol o’r flwyddyn hon, bydd yr Undeb Athletau yn datblygu’r rhaglen hyfforddi hon ar gyfer 2012/13.
7
| Adroddiad Blynyddol 2011-2012
£ £
£442,410.74 Cyfanswm y Gwariant ar Chwaraeon
£ £
CYSYLLTWCH Â’R UNDEB ATHLETAU Ff: 029 2078 1438 E: AUPresident@cardiff.ac.uk
URDD Y CYMDEITHASAU Mae gan Undeb Myfyrwyr Caerdydd dros 150 o gymdeithasau (gan gynnwys gwasanaethau a chymdeithasau a arweinir gan fyfyrwyr) wedi’u cysylltu fel rhan o Urdd Cymdeithasau Caerdydd. Caiff y cymdeithasau eu cefnogi drwy gyllid gan yr Undeb a hefyd gallant godi eu harian eu hunain drwy ffioedd aelodaeth a gweithgareddau codi arian. Mae dod yn aelod o gymdeithas yn cyfrannu’n fawr iawn at ddatblygiad personol myfyrwyr, yn ogystal â rhoi sgiliau newydd iddynt a’u helpu i gyfarfod pobl newydd pan fyddant yn dod i Gaerdydd.
Nifer o
Aelodau'r Urdd
5409
Trosolwg o 11/12
Cyfanswm o aelodau
Yn 2011/12, cafodd islawr adeilad Undeb y Myfyrwyr ei ailddatblygu, gan alluogi i gymdeithasau gael mwy o le i storio o fewn yr Undeb. Rhoddwyd arian hefyd ar gyfer drychau mawr eu hangen a gafodd eu gosod yn yr ystafell gyfarfod fawr ar y 4ydd llawr. Galluogodd hyn i gymdeithasau dawns gael gofod ymarfer da. Roedd y Pentref Byd-eang yn llwyddiant mawr, gyda dros 6,000 o lawrlwythiadau o’r llif byw o amgylch y byd.
o bob cymdeithas
10737
Nodau ac Amcanion 12/13 Dechreuodd Ffair y Cymdeithasau ar ddechrau’r flwyddyn gyda chynnydd gwych o 12% mewn aelodaeth cymdeithasau o gymharu â’r llynedd! Ar ôl llwyddiant ‘Go Global’ y llynedd, mae mwy o gymdeithasau’n ymwneud â’r dathliadau wythnos gyfan o bopeth diwylliannol a rhyngwladol sy’n digwydd yn y brifysgol ac ymysg y myfyrwyr. Mae pwyllgor RAG eleni wedi torri record cyfanswm wythnos RAG ers y llynedd ar ôl cynnal wythnos o ddigwyddiadau elusennol llwyddiannus. Mae Urdd y Cymdeithasau wedi dechrau buddsoddi mewn cyfarpar mawr eu hangen i’r cymdeithasau, fel drychau symudol, seinyddion ac uwch-daflunwyr.
ASTUDIAETH ACHOS 800 o fyfyrwyr, 14 o Gymdeithasau, 2 Ddigwyddiad, 1 Noson. Ar y 6ed Rhagfyr daeth yr Undeb yn fyw. O fewn Solus, dangosodd 10 o gymdeithasau rhyngwladol i Brifysgol Caerdydd pa mor fywiog, amrywiol a chyffrous yw’r gwahanol ddiwylliannau. Roedd pob sedd wedi ei chymryd yn y Neuadd Fawr yn ystod y Gwasanaeth Carolau Blynyddol wrth i gannoedd o fyfyrwyr ganu nerth eu pen. Nosweithiau fel hyn sy’n dod ag arwyddair Urdd y Cymdeithasau, sef Cryfder mewn Amrywiaeth, yn fyw.
£110,712.15
Arian a godwyd i Elusennau
gan y Cymdeithasau £ £
£23,300
Arian a roddwyd yn uniongyrchol i gymdeithasau
£ £
CYSYLLTWCH AG URDD Y CYMDEITHASAU Ff: 029 2078 1427 E: SocietiesOfficer@cardiff.ac.uk
Adroddiad Blynyddol 2011-2012 |
8
CYNRYCHIOLWYR ACADEMAIDD Y MYFYRWYR Cynhaliwyd Mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd yn gweithio mewn partneriaeth i sicrhau y caiff llais myfyrwyr ei glywed a’i ystyried o ddifrif ar bob lefel. Mae Cynrychiolwyr Academaidd y Myfyrwyr yn chwarae rôl hanfodol yn y bartneriaeth hon drwy fynychu eu Paneli Staff-Fyfyrwyr yn eu Hysgol a bod yn gyswllt rhwng aelodau’r staff a’u cyd-fyfyrwyr.
Trosolwg o 11/12
27
o sgyrsiau sefydlu
i gyflwyno system Cynrychiolwyr Academaidd y Myfyrwyr
Llynedd gwelwyd diwedd cyfnod o dair blynedd o lobïo am arian er mwyn cynyddu’r cymorth ar gyfer system cynrychiolwyr academaidd y myfyrwyr, gan arwain at ariannu aelod o staff llawn amser i’r Brifysgol i gydlynu system y cynrychiolwyr; sy’n hanfodol ar gyfer datblygiad yn y dyfodol.
Cyflawniadau Allweddol Gwelwyd rhai newidiadau cyffrous iawn yn system cynrychiolwyr academaidd y myfyrwyr yn y flwyddyn academaidd hon, gyda brand newydd, mwy o hyrwyddo drwy gynnal sgyrsiau sefydlu, a strwythur cwbl newydd i gyd-fynd â’r system coleg newydd yn y Brifysgol. Caiff system cynrychiolwyr y myfyrwyr ei chyflwyno drwy’r tri choleg erbyn hyn, gyda fforymau coleg yn disodli’r cyngor academaidd sy’n caniatáu cyfleoedd i drafodaethau manylach a mwy penodol am faterion o fewn y colegau. Etholwyd y swyddogion gweithredol addysg drwy ddefnyddio strwythur y coleg, gyda dau fyfyriwr israddedig a dau fyfyriwr ôl-raddedig yn cynrychioli pob un o’r colegau.
Nodau ac Amcanion 12/13 Rydym wedi hyfforddi’r nifer fwyaf erioed o gynrychiolwyr myfyrwyr, wedi cyflwyno modiwl dysgu canolog i bob cynrychiolydd, yn ogystal ag adran ‘find your rep’ ar y Wefan sy’n eich galluogi i gysylltu â’ch cynrychiolydd yn hawdd. Eleni gwelir ‘speak week’ cyntaf y Brifysgol, sef wythnos wedi’i dynodi i gasglu adborth gan fyfyrwyr, a chynhadledd newydd i gynrychiolwyr academaidd y myfyrwyr.
CYSYLLTWCH Â CHYNRYCHIOLWYR ACADEMAIDD Y MYFYRWYR Ff: 029 2078 1428 E: AcademicOfficer@Cardiff.ac.uk
9
| Adroddiad Blynyddol 2011-2012
81%
o fyfyrwyr blwyddyn gyntaf yn ymwybodol o'r system cynrychiolwyr myfyrwyr
d
Hyfforddwyd y nifer fwyaf sef erioed o 479 gynrychiolwyr myfyrwyr
y olw
Eth
1 7 9
o gynrychiolwyr
myfyrwyr
ASTUDIAETH ACHOS Yn flaenorol, digwyddiad untro yn yr Undeb ar gyfer tua 300 o fyfyrwyr oedd hyfforddiant Cynrychiolwyr Academaidd y Myfyrwyr. Eleni, darparwyd hyfforddiant i gynrychiolwyr 32 o weithiau, ym mhob un o’r ysgolion academaidd, i bron i 500 o fyfyrwyr. Roedd darparu hyfforddiant yn unigol i bob un o’r ysgolion yn caniatáu iddo gael ei deilwra o amgylch natur benodol yr adran, a mynd i’r afael â materion sy’n berthnasol i’r cwrs neu gynlluniau gradd.
CYFRYNGAU MYFYRWYR CAERDYDD Mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn gartref i sefydliadau blaenllaw ym maes cyfryngau myfyrwyr. Mae Cyfryngau Myfyrwyr Caerdydd yn cynnwys y papur newydd wythnosol ifyfyrwyr gair rhydd, cylchgrawn myfyrwyr Quench a gyhoeddir bob pythefnos, Xpress Radio, sef gorsaf radio’r myfyrwyr, a gorsaf deledu myfyrwyr Teledu Undeb Caerdydd.
66
AELOD O GYFRYNGAU MYFYRWYR CAERDYDD
Trosolwg o 2011/12 Y llynedd, llwyddodd cyfryngau myfyrwyr i greu tair gwefan a’u cynnal a’u cadw gyda thros 20,000 o ymweliadau yn ystod y ddau dymor cyntaf. Gwnaethom hefyd gynnal gwobrau cyfryngau llwyddiannus yng nghwmni’r cyflwynydd radio, Adam Catterall, yng Ngwesty’r Hilton, Caerdydd. Yn ystod haf 2012, llwyddodd pawb a weithiodd ar Gyfryngau Myfyrwyr Caerdydd i gael lle ar gwrs ôl-raddedig mewn newyddiaduriaeth.
Cyflawniadau Allweddol Mae myfyrwyr sy’n rhan o gyfryngau myfyrwyr yn gwirfoddoli eu hamser i staffio’r papur, y cylchgrawn, y radio a’r orsaf deledu. Mae’n cymryd 283 awr i olygu a chysodi gair rhydd bob wythnos, ac nid yw hynny’n cynnwys yr amser y mae’n ei gymryd i gyfranwyr ysgrifennu erthyglau. Dros y flwyddyn, treuliodd myfyrwyr 7641 o oriau yn golygu gair rhydd, a threuliodd myfyrwyr sy’n gweithio ar Quench 1,788 o oriau yn golygu’r cylchgrawn.
Nodau ac Amcanion 12/13 Mae eleni yn nodi’r 1000fed rhifyn papur newydd y myfyrwyr, gair rhydd a 40 mlynedd ers sefydlu Cyfryngau Myfyrwyr Caerdydd - a ddatblygodd o fod yn un papur newydd â llond llaw o gyfranwyr i fod yn bapur newydd, cylchgrawn, gorsaf Deledu a gorsaf Radio â channoedd o gyfranwyr.
27
NEWYDDION
RHIFYN Tu a
26,560
o eiriau ym mhob rhifyn
Tua
135 O BOBL YN GWEITHIO AR ORSAF XPRESS RADIO
AC YN CYFRANNU ATI
CYSYLLTU Â CHYFRYNGAU MYFYRWYR CAERDYDD Ff: 029 2078 1495 E: HeadofStudentMedia@cardiff.ac.uk
Adroddiad Blynyddol 2011-2012 |
10
DEMOCRATIAETH Mae Undeb y Myfyrwyr yn sefydliad democrataidd. Felly, mae’n gwneud ei orau i gynrychioli’r boblogaeth myfyrwyr yn y ffordd y caiff ei redeg. I wneud hyn yn bosibl mae system gynrychiolaeth ar waith sy’n rhoi cyfle i’r myfyrwyr fod yn rhan o broses y sefydliad o wneud penderfyniadau. Golyga hyn fod holl aelodau Undeb y Myfyrwyr yn llywio cyfeiriad y sefydliad. Ar y lefel uchaf, gall hyn fod drwy refferendwm, Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ac ethol y Pwyllgor Gweithredol.
Safodd
PLEIDLAIS
x 51
o unigolion fel ymgeiswyr
yn Etholiadau'r Swyddogion
d
Trosolwg o 11/12 Aeth Cyngor y Myfyrwyr i’r afael â nifer o faterion a chyhoeddwyd polisïau ar amrywiaeth o faterion, yn cynnwys Masnach Deg, costau diodydd ysgafn yn y Taf, polisi dim goddefgarwch, gwahardd cynnyrch Nestle o’r Undeb a pheidio â gwerthu Cylchgronau Dynion y ‘Lads Magazines’ yn Siop yr Undeb. Cynhaliwyd Etholiadau’r Swyddogion ym mis Mawrth er mwyn ethol y Pwyllgor Gweithredol. Enwebwyd 51 o ymgeiswyr a phleidleisiodd 5018 o fyfyrwyr am eu hoff ymgeiswyr, sef lleihad o 8% o gymharu a’r flwyddyn flaenorol, ond gobeithio y bydd mwy yn pleidleisio yn 2013.
d o i is
8 1 0
e
l el id
P
5
o fyfyrwyr yn yr etholiadau
Cyflawniadau Allweddol Cynhaliwyd adolygiad llawn o’r strwythur democrataidd yn 2012 a chanlyniad hyn oedd yr argymhelliad i ailstrwythuro’r Cyngor Myfyrwyr. Rhoddwyd yr argymhellion hyn ar waith ym mis Medi 2012 o dan y teitl newydd y Weinyddiaeth Newid.
Nodau ac Amcanion 12/13 Y Weinyddiaeth Newid yw strwythur democrataidd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd ac mae wedi disodli’r Cyngor Myfyrwyr. Mae dyddiau’r jargon a’r cynigion gweithdrefnol wedi hen fynd. Cynlluniwyd y Weinyddiaeth Newid i fod mor hygyrch â phosibl. Gall myfyrwyr gynnig syniadau ar-lein drwy wefan yr Undeb, a gaiff eu casglu wedyn eu hanfon i’w trafod yn y fforwm perthnasol (Cymunedol, yr Undeb neu’r Brifysgol). Bydd y syniad naill ai’n cael ei gymeradwyo neu bydd yn methu neu caiff ei gynnig mewn refferendwm campws, a gall myfyrwyr ddilyn y broses gyfan drwy’r adnodd Olrhain Syniadau ar-lein. Hefyd ceir Pwyllgor Craffu sy’n gyfrifol am graffu ar waith yr wyth swyddog etholedig llawn amser a monitro cynnydd y prosiectau parhaus gan eu dwyn i gyfrif.
AetH 6 2 1
o fyfyrwyr i'r
CCB
CYSYLLTWCH Â’R ADRAN DDEMOCRATIAETH Ff: 029 2078 1433 E: Democracy@Cardiff.ac.uk
11
| Adroddiad Blynyddol 2011-2012
Y GANOLFAN CYNGHORI A CHYNRYCHIOLI Mae’r Ganolfan Cynghori a Chynrychioli wedi parhau i ddarparu cyngor, gwybodaeth a chymorth annibynnol a chyfrinachol ar amrywiaeth o faterion sy’n cynnwys materion academaidd, defnyddwyr, cyflogaeth, tai, ariannol, personol a llawer mwy. Gall myfyrwyr gysylltu â’r Ganolfan drwy e-bost, dros y ffôn, sesiynau galw i mewn ac apwyntiadau.
?
Ymatebodd y Ganolfan i fwy na
1500 O YMHOLIADAU AC ACHOSION NEWYDD YN YSTOD Y FLWYDDYN
Trosolwg o 11/12 Bu tîm ymroddedig y Ganolfan yn llwyddiannus yn cynghori nifer o fyfyrwyr a’u helpu i ddatrys eu problemau: materion academaidd a thai yw’r rhan helaeth o’r materion a gyflwynir i’r Ganolfan ond mae problemau eraill yn cynnwys amrywiaeth o ymholiadau ac achosion yn cynnwys arian, defnyddwyr, cyflogaeth a materion personol.
Dosbarthwyd
4400
o lyfrynnau tai
Cyflawniadau Allweddol Mae nifer y problemau academaidd a gyflwynir i’r Ganolfan wedi cynyddu wrth i Gofrestrfa’r Brifysgol roi gwybod i fyfyrwyr am ein gwasanaethau. Arweiniodd y newidiadau i reoliadau amgylchiadau esgusodol at gynnydd sylweddol o ran nifer y myfyrwyr a gysylltodd â’r Ganolfan ym mis Ebrill a Mai 2012. Yn ystod yr Wythnos Cyngor ar Dai ym mis Tachwedd, cydweithiodd y Ganolfan yn agos â swyddogion etholedig ac eraill i ddarparu amrywiaeth o weithgareddau yn cynnwys drafftio a dosbarthu llyfryn hawliau tai i fyfyrwyr mewn neuaddau preswyl, a darparu gwasanaeth gwirio contractau gosod tai.
£ 2435 o fyfyrwyr drwy Ymgysylltwyd â
Gynghorwyr Cyllid
Nodau ac Amcanion 12/13 Yn ystod 2012/2013, datblygodd y Ganolfan wasanaethau allgymorth yng nghanolfan y Mynydd Bychan a bu’n trosglwyddo mwy o wybodaeth am y Ganolfan drwy lwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Mae’r Ganolfan hefyd wedi parhau i weithio mewn partneriaeth a’r Ganolfan Cymorth Myfyrwyr i gyflwyno Cynghorwyr Cyllid, sy’n ceisio cynyddu ymwybyddiaeth o allu ariannol.
CYSYLLTU Â’R GANOLFAN Ff: 029 2078 1410
E: advice@cardiff.ac.uk
Adroddiad Blynyddol 2011-2012 |
12
GWASANAETH DATBLYGU SGILIAU Cafodd y Gwasanaeth Datblygu Sgiliau ei ailenwi ym mis Medi 2012, sef yr Uned Datblygu Myfyrwyr gynt. Mae’n galluogi myfyrwyr Prifysgol Caerdydd i feithrin sgiliau a gwybodaeth drwy weithdai a sesiynau hyfforddi. Mae’r rhain yn cynnwys sgiliau cyflogadwyedd a sgiliau personol i’w helpu i gael swydd ar ôl graddio a gwella eu heffeithiolrwydd a’u potensial.
Trosolwg o 2011/12 Roedd adborth ansoddol a roddir gan fyfyrwyr yn parhau i fod yn rhagorol. Parhaodd perthnasedd y sesiynau sgiliau i wella yn llygaid y brifysgol, gyda chwech o bynciau gorfodol yn cael eu cynnwys yn Nyfarniad newydd Caerdydd.
Cyflawniadau Allweddol Cafodd 1288 o fyfyrwyr eu hyfforddi gan y Gwasanaeth Datblygu Sgiliau yn 11/12, a oedd yn gynnydd o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Roedd llawer o fyfyrwyr yn mynychu mwy nag un cwrs, a arweiniodd at gyfanswm o 4,196 o fyfyrwyr ar draws yr holl gyrsiau. Gwnaeth nifer o fyfyrwyr sicrhau achrediad neu gwblhau cyrsiau yn llwyddiannus ar draws y rhaglen yn cynnwys 20 o fyfyrwyr a gwblhaodd gwrs iaith arwyddion, 14 o fyfyrwyr a gwblhaodd raglen ‘STEPS to Excellence’, a 6 myfyriwr a gwblhaodd gwrs Iechyd a Diogelwch Lefel 2, a llwyddodd 159 o fyfyrwyr ar y cwrs Cymorth Cyntaf.
Nodau ac Amcanion 12/13 Ein nod ar ddechrau blwyddyn academaidd 2012 oedd recriwtio 12 o hyfforddwyr cyfoedion myfyrwyr a Chydlynydd Hyfforddi a Datblygu Cynorthwyol i helpu gyda’r sesiynau. Dylai hyn sicrhau’r nifer mwyaf o slotiau cwrs sydd ar gael i fyfyrwyr, yn ystod y dydd a gyda’r nos.
Cyfanswm y nifer a
4272 ddaeth i'r
sesiynau Myfyrwyr a gwblhaodd dystysgrif
D a t b ly g i a d P r o f f e s i y n o l
83 Cyfathrebu 144 Effeithiolrwydd Personol 67 Arweinyddiaeth 15 Dysgu a Datblygu
= 309 Cyfanswm
+
Nifer y myfyrwyr a CYSYLLTWCH LÂ’R GWASANAETH DATBLYGU SGILIAU Ff: 029 2078 1489
13
E: SDS@cardiff.ac.uk
| Adroddiad Blynyddol 2011-2012
sicrhaodd dystysgrif CYMORTH Cyntaf Brys
143
Y NIFER A FYNYCHODD
y sesiynau byr iechyd
159
diogelwch a lles
!
GWIRFODDOLI MYFYRWYR CAERDYDD Elusen yw Gwirfoddoli Myfyrwyr Caerdydd (SVC) sy’n cael ei redeg gan y myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r myfyrwyr yn gwirfoddoli yng Nghaerdydd a’r cyffiniau yn gweithio gyda’r henoed, pobl ifanc, pobl dan anfantais a phobl sy’n agored i niwed yn y gymuned ar amrywiaeth eang o brosiectau gwahanol. Mae gwirfoddoli yn ffordd wych i’n myfyrwyr wneud gwahaniaeth yn y gymuned leol ac i gwrdd â phobl newydd - mae llawer o hwyl i gael hefyd! Gall myfyrwyr ennill llawer o sgiliau newydd a phrofiad i’w helpu i baratoi ar gyfer bywyd ar ôl y brifysgol.
Trosolwg o 11/12
1 0 0 0 o wirfoddolwyr gweithredol Wedi gweithio gyda
18
o ysgolion lleol Wedi cynorthwyo tua
<
Cafodd SVC flwyddyn gynhyrchiol iawn yn ystad 2011-12 gyda hyd yn oed mwy o fyfyrwyr yn ymwneud â gwirfoddoli nag erioed o’r blaen. Y flwyddyn hon, ein nod oedd canolbwyntio ar gyfleoedd byrdymor ac amrywiaeth ehangach o brofiadau gwirfoddoli. Cynhaliodd SVC ddeg diwrnod llawn digwyddiadau gwirfoddoli lle y gall ai unrhyw fyfyriwr droi fyny a gwirfoddoli am ychydig oriau yn unig (rydym yn ymwybodol na all pawb ymrwymo i wirfoddoli am flwyddyn academaidd lawn). Roedd hyn yn cynnwys mynd a chwn am dro, garddio mewn rhandiroedd lleol, glanhau traeth, a gwedd-newid Ysgol Gynradd i enwi ond rhai.
Wedi gweithio gydA
Cyflawniadau Allweddol Mae SVC, ar y cyd â RAG, hefyd wedi hwyluso digwyddiad ‘Jailbreak’ cyntaf erioed Prifysgol Caerdydd, gan godi dros £5,000 tuag at brosiectau gwirfoddoli newydd yn y gymuned. Eleni hefyd mae SVC wedi cynnal digwyddiadau er mwyn ymgysylltu â phobl ifanc o rai o ardaloedd difreintiedig Caerdydd, gan ddarparu digwyddiadau llawn ysbrydoliaeth i arddangos y Brifysgol a chodi dyheadau ar gyfer Addysgu Uwch.
Nodau ac Amcanion 12/13 Yn 2012-13 nod SVC yw ehangu ymhellach, gan gynnig mwy o gyfleoedd gwirfoddoli byrdymor ac adeiladu mwy o bartneriaethau gyda sefydliadau lleol a chenedlaethol. Bydd SVC yn cynnig mwy o gyfleoedd yn ein dau faes mwyaf poblogaidd sef iechyd meddwl ac addysg. Edrychwch am ein Wythnos Gwirfoddoli nesaf a fydd yn cynnwys dros 10 digwyddiad i fyfyrwyr gymryd rhan ynddynt, gan ddechrau gyda’n Dawns Gaeaf ddydd Sul 10fed Chwefror a chloi gyda digwyddiad Jailbreak RAG/SVC arall ddydd Gwener 15fed Chwefror.
o
160
b l a n t
Wedi darparu gwerth economaidd o
£ 1 7 6,0 0 0 i'r gymuned leol CYSYLLTWCH AG SVC Ff: 029 2078 1494
E: SVC@cardiff.ac.uk
Adroddiad Blynyddol 2011-2012 |
14
CANOLFAN PARC Y MYNYDD BYCHAN Canolfan y Mynydd Bychan yw canolbwynt gweithgareddau Undeb y Mynydd Bychan. Gall myfyrwyr gael mynediad at amryw o’r gwasanaethau a ddarperir gan Undeb y Myfyrwyr, gan gynnwys y Siop Swyddi, Gwasanaeth Gosod Tai Myfyrwyr Caerdydd, Y Ganolfan Cynghori a Chynrychioli, yn ogystal â chyrsiau’r Gwasanaeth Datblygu Sgiliau. Gall myfyrwyr gyfnewid sieciau chwaraeon a chymdeithasau am arian parod yn Y Ganolfan, archebu ystafelloedd cyfarfod, prynu tocynnau ar gyfer noson allan, yn ogystal â phrynu digon o ddeunydd ysgrifennu a nwyddau Prifysgol Caerdydd gan gynnwys hwdis a chrysau-t. Canolfan y Mynydd Bychan yw prif bwynt cyswllt Undeb y Myfyrwyr ar Blasy-Parc hefyd, gyda llinell ffôn uniongyrchol i’r Swyddogion Etholedig.
Trosolwg o 11/12 Mae lansiad Arolwg Parc y Mynydd Bychan y llynedd wedi arwain at well ymwybyddiaeth o anghenion myfyrwyr gofal iechyd, sydd wedi helpu i lunio blaenoriaethau’r brifysgol ar gyfer 2013 a thu hwnt. Ymhlith y prif welliannau mae’r canlynol: •
Goleuadau o gwmpas Campws y Mynydd Bychan, gan ystyried diogelwch myfyrwyr pan fyddant yn mynd i’r Llyfrgell Gofal Iechyd y tu allan i oriau;
•
Mwy o fannau cyfarfod cymdeithasol;
•
Gwella arwyddion o gwmpas Campws y Mynydd Bychan;
•
Darparu mwy o drafnidiaeth rhwng Campysau Parc y Mynydd Bychan a Cathays, a;
•
Gwella ymwybyddiaeth o gyfleusterau Cymorth Myfyrwyr yn y Mynydd Bychan.
Nodau ac Amcanion 12/13 Drwy ymgynghori â’r brifysgol, mae’r Undeb wedi gallu agor Ystafell Gyffredin newydd y Myfyrwyr Gofal Iechyd; gan ddarparu man cymdeithasu newydd iddynt gael cwrdd a bwyta gyda’i gilydd. Mae ymwybyddiaeth o’r gweithgareddau sy’n digwydd yn Undeb y Myfyrwyr wedi cynyddu yn y Mynydd Bychan eleni, gyda Chanolfan Cynghori a Chynrychioli newydd yn y Mynydd Bychan bob dydd Llun. Rydym hefyd wedi mynd ag ymgyrchoedd yr Undeb i Barc y Mynydd Bychan (Wythnos Sort Your Life Out ac Wythnosau Cynghori). Rydym yn gobeithio lansio cwrs datblygu penodol i fyfyrwyr gofal iechyd y flwyddyn nesaf, gan gynnig cyfleoedd datblygu pellach i fyfyrwyr gofal iechyd drwy gydol y flwyddyn. Mae’r Undeb wedi lobïo’r brifysgol yn llwyddiannus i leihau prisiau diodydd a gwella’r bwyd sydd ar gael yn y Lolfa IV, a pharhaodd i ddatblygu a hyrwyddo cynlluniau i greu ystafell tlysau newydd er mwyn arddangos tlysau’r timau chwaraeon meddygaeth.
15
| Adroddiad Blynyddol 2011-2012
6,969 Nifer y myfyrwyr sy'n astudio ym Mharc
y Mynydd Bychan
Cafwyd o ymholiadau gan fyfyrwyrym YM mis
62
Tachwedd 2011
Cafwyd
159
o ymholiadau gan fyfyrwyr
ym mis Tachwedd
2012
cynnydd o
156%
CYSYLLTWCH Â CHANOLFAN PARC Y MYNYDD BYCHAN Ff: 029 2078 1420 E: HeathParkOfficer@Cardiff.ac.uk
CYFATHREBU Yr Adran Gyfathrebu sy’n gyfrifol am yr holl gyfathrebu a wneir rhwng yr Undeb, ei 26,000 o fyfyrwyr sy’n aelodau o’r Undeb, ei randdeiliaid a chyfathrebu mewnol rhwng staff. Mae’r adran yn ymdrin â marchnata, dylunio graffeg, cyfieithu, ymchwil y farchnad, cysylltiadau digidol yn cynnwys negeseuon e-bost, cyfryngau cymdeithasol a chynnwys y wefan, yn ogystal â hysbysebu a gwerthiannau nawdd. Mae cyfathrebu’n wasanaeth canolog hanfodol, sy’n sicrhau bod myfyrwyr yn ymwybodol o’r gwasanaethau sydd ar gael iddynt a pha ddigwyddiadau a gynhelir yn Undeb y Myfyrwyr.
'hoffi' facebook cynnydd o
117%
10579 cynhaliwyd
Trosolwg o 11/12 <
Gwnaeth yr Adran Gyfathrebu farchnata pob un o’r digwyddiadau, ymgyrchoedd a gwasanaethau a ddarparwyd gan yr Undeb yn ystod 2011/12. Roedd hyn yn cynnwys pythefnos y glas, y Ddawns “Dusk ‘Til Dawn”, gwyl ddiwylliant ac amrywiaeth ‘Y Byd i Gyd yn Grwn’, Etholiadau, y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, nosweithiau clwb wythnosol a gynhaliwyd yn yr Undeb, agêm rygbi Varsity flynyddol a lwyddodd i werthu dros 15,000 o docynnau. Mae’r ffocws ar gyfathrebu digidol wedi cynyddu ac yn sgil hyn, cafodd prif wefan yr Undeb ei hailwampio ym mis Mehefin a Gorffennaf 2012 ar sail adborth gan fyfyrwyr a staff. Cafodd y cylchlythyr wythnosol sy’n dod drwy e-bost ei adolygu a’i wella, gan alluogi’r Undeb i gyfathrebu â myfyrwyr p’un a oeddent wedi’u lleoli yng Nghathays neu ar leoliadau rywle arall.
714
O BROSIECTAU DYLUNIO GRAFFEG
cwblahawyd
3584 AWR
AR WAITH DYLUNIO GRAFFEG
Cyflawniadau Allweddol Yn ystod 2011/12, gwnaeth yr Adran Gyfathrebu symleiddio’r llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a ddefnyddiwyd, a gweithiodd ar gynyddu’r rhyngweithio â myfyrwyr drwy’r dulliau hyn. Gwelwyd cynnydd mawr ym maes rhyngweithio’r cyfryngau cymdeithasol yn 2011-12. Bu cynnydd o 117% yn nifer y cofnodion ‘hoffi’ ar dudalen ffrindiau’r Undeb (facebook.com/ cardiffstudents) a bu cynnydd o 124% yn nifer y bobl sy’n dilyn Twitter dros y flwyddyn, ac mae bron wedi dyblu eto yn ystod 2012/13.
316,426 o ymweliadau ar
cardiffstudents.com
Nodau ac Amcanion 12/13 Gan ganolbwyntio ar farchnata digidol, gosodwyd system newydd er mwyn caniatáu i’r Undeb ddangos negeseuon trydar a facebook y tu allan i oriau swyddfa, gan roi’r sylw mwyaf posibl i’r gynulleidfa o fyfyrwyr. Defnyddir negeseuon e-bost hefyd i gysylltu â’r holl fyfyrwyr, felly edrychwch yn eich mewnflwch yn rheolaidd i gael y newyddion diweddaraf.
CYSYLLTWCH Â’R ADRAN GYFATHREBU Ff: 029 2078 1516
E: SomL@cardiff.ac.uk
Adroddiad Blynyddol 2011-2012 |
16
Er y bu nifer o heriau economaidd dros y 12 mis diwethaf, mae masnachu yn yr Adran Lleoliadau wedi bod yn llwyddiannus iawn. Mae cyfanswm y trosiant cyffredinol wedi cynyddu, gyda gwerthiannau bwyd Y Taf yn cynyddu 25% a gwerthiannau gwlyb yn cynyddu fwy na 130k. Yr Adran Lleoliadau sy’n cyflogi’r gweithlu myfyrwyr mwyaf yn yr Undeb yn cynnwys staff bar, cynorthwywyr y swyddfa docynnau, a chynorthwywyr hyrwyddo, a thalwyd gwerth 35,000 awr o gyflogau i fyfyrwyr yn 2011/12. Ymdriniodd Canolfan Cyfarfod Caerdydd â 418 o archebion ystafelloedd, 60% ohonynt yn archebion ar gyfer cymdeithasau a chlybiau chwaraeon, yn ogystal â helpu clybiau a chymdeithasau i drefnu digwyddiadau cymdeithasol, partïon a digwyddiadau eraill.
Nodau ac Amcanion 12/13 Yn ystod blwyddyn academaidd 2012/13, mae’r Adran Lleoliadau wedi parhau i gydweithio â myfyrwyr er mwyn gwella’r gwasanaethau a’r digwyddiadau a gynigir ar hyn o bryd. Rheolwyd cynnydd mewn costau hefyd er mwyn galluogi’r Undeb i gynnig y gwerth gorau am arian a’r gwasanaeth gorau i’r myfyrwyr.
CYSYLLTWCH Â CHANOLFAN CYFARFOD CAERDYDD Ff: 029 2087 4507
E: suevents@cardiff.ac.uk
CYSYLLTWCH Â’R ADRAN LLEOLIADAU Ff: 029 2087 1402
17
E: suvenues@cardiff.ac.uk
| Adroddiad Blynyddol 2011-2012
Gwerthwy
Trosolwg o 11/12
tunnell o sglodion
sglodion
sglodion
yn Y Taf
Mae’r lleoliadau a’r ardaloedd hyn yn cynnwys Y Gegin, Y Taf, clwb nos Solus, y Neuadd Fawr, y Swyddfa Docynnau, a Chanolfan Cyfarfod Caerdydd.
8
sglodion
Yr Adran Lleoliadau sy’n gyfrifol am ddarparu amrywiaeth o ardaloedd bwyd, bariau, digwyddiadau cerddoriaeth fyw, nosweithiau clwb, lleoliadau i’w llogi, a gwasanaethau tocynnau i fyfyrwyr sy’n aelodau o’r Undeb.
d gwerth
YR ADRAN LLEOLIADAU
Cynhaliwyd dros
o sioeau byw
gyda mwy na
65,000 yn mynychu
175,000 peint o lager, cwrw a seidr dracht
GWASANAETH GOSOD TAI MYFYRWYR Darparwyd tai ar gyfer CAERDYDD 1360 Gwasanaeth Gosod Tai Myfyrwyr Caerdydd (CSL) yw asiantaeth gosod tai Undeb Myfyrwyr Caerdydd. Fel gwasanaeth i fyfyrwyr, nid yw CSL yn codi ffi asiant, ac felly lles y myfyriwr sydd wrth wraidd y gwasanaeth.
Trosolwg o 11/12 Mae CSL wedi cael blwyddyn brysur, gan ddarparu mwy o dai ar gyfer myfyrwyr blwyddyn ar ôl blwyddyn ac yn cynyddu nifer yr eiddo sydd ar gael. Arbedodd yr asiantaeth gosod tai £80 yr un i fyfyrwyr ar gyfartaledd drwy beidio â chodi unrhyw ffioedd asiant. Mae hyn yn cyfateb i tua £108,800 dros y flwyddyn, arbediad arian enfawr i fyfyrwyr a chynnydd o 11% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
o fyfyrwyr y llynedd
Cyflawniadau Allweddol Enillodd CSL Wobr ‘Swyddfa Unigol Orau yng Nghymru’ yng Ngwobrau Asiantaeth Gosod Tai y Flwyddyn 2012 y Times a’r Sunday Times, a daeth yn ail orau hefyd yng ngwobrau ‘Rheoli Eiddo Gorau’ ac ‘Asiantaeth Gosod Tai i Fyfyrwyr Orau yn y DU’.
Nodau ac Amcanion 12/13 Yn 2012/2013, bydd CSL yn ymestyn ac yn adnewyddu’r swyddfa bresennol er mwyn gwneud mwy o le ym mlaen y swyddfa ar gyfer staff ychwanegol ac i ddiwallu anghenion mwy o fyfyrwyr. Bydd gennym hefyd swyddfa gefn i’w defnyddio ar gyfer gwaith gweinyddol ac fel gofod ychwanegol i’r swyddfa. Bydd y datblygiad yn golygu y gallai’r asiantaeth ddarparu ar gyfer hyd at wyth aelod o staff a mwy o seddi i fyfyrwyr, gan gynnwys bwrdd arwyddo contract newydd. Gyda mwy o le, rydym yn gobeithio darparu gwasanaeth mwy effeithlon a darparu mwy o dai ar gyfer myfyrwyr nag erioed o’r blaen.
Arbedodd y myfyrwyr
£108,800
drwy beidio â gorfod talu ffioedd asiant
CYSYLLTWCH AG CSL Ff: 029 2078 1525 E: cardiffstudentletting@cardiff.ac.uk G: cardiffstudentletting.com
Adroddiad Blynyddol 2011-2012 |
18
SIOP SWYDDI Siop Swyddi Unistaff yw Gwasanaeth Cyflogaeth Myfyrwyr Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Mae’r Siop Swyddi’n darparu gwasanaeth gwych am ddim i’r myfyrwyr o ran rhoi cyfleoedd cyflogaeth rhan amser a dros dro â thâl iddynt.
Trosolwg o 2011/12 Mae’r hinsawdd economaidd wedi parhau i’n herio dros y 12 mis diwethaf ac nid yw wedi bod yn hawdd o ran dod o hyd i gyfleoedd cyflogaeth newydd i fyfyrwyr, ond rydym wedi parhau i gynnal cydberthnasau cynhyrchiol gyda’r brifysgol a’n cleientiaid presennol.
Cofrestrwyd
2 2 2 9+ o fyfyrwyr ychwanegol
Cyflawniadau Allweddol
Darparwyd
Rydym yn falch iawn o’r ffordd y mae’r Siop Swyddi wedi parhau i feithrin cydberthnasau â chleientiaid mawr presennol fel Criced Morgannwg, Letheby & Christopher a Live Nation dros y 12 mis diwethaf, tra’n datblygu cydberthnasau â chleientiaid newydd fel Creative Events ar yr un pryd. O ganlyniad, mae ein myfyrwyr wedi cael cyfleoedd i weithio mewn sawl digwyddiad chwaraeon a cherddoriaeth mawr yng Nghaerdydd.
117,548 o oriau
Mae’r Siop Swyddi wedi rhoi gwaith dros dro i gannoedd o fyfyrwyr dros y 12 mis diwethaf, o fewn y Brifysgol a chyda chwmnïau allanol. Rhwng Awst 2011 a Gorffennaf 2012, rhoesom 117,548 awr o waith â thâl i fyfyrwyr a thalwyd bron i £970,000 yn uniongyrchol i mewn i’w cyfrifon banc.
ow
ait h
â thâl i fyfyr w
yr
Nodau ac Amcanion 12/13 Hoffwn weld y Siop Swyddi yn cynnal ein cydberthynas ragorol â’r Brifysgol a gweld ein busnes allanol yn tyfu, gan ei gwneud yn bosibl i ni gynnig hyd yn oed mwy o gyfleoedd i’n myfyrwyr.
CYSYLLTWCH Â’R SIOP SWYDDI Ff: 029 2078 1535 E: jobshop@cardiff.ac.uk
19
| Adroddiad Blynyddol 2011-2012
£
Talwyd gwerth
£969,162
£
mewn cyflogau yn uniongyrchol i £ gyfrifon banc myfyrwyr £
MANWERTHU Mae Undeb y Myfyrwyr yn cynnig ystod o wasanaethau manwerthu: Siop yr Undeb a’r Siop TG. Mae Siop yr Undeb yn gwerthu amrywiaeth eang o nwyddau swyddogol Prifysgol Caerdydd, gan gynnwys dillad a rhoddion. Mae’r Siop hefyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau amser cinio, melysion, cardiau cyfarch, papurau newydd a chylchgronau. Y Siop TG yw canolfan atgyweirio cyfrifiaduron Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Rydym hefyd yn gwerthu deunydd ysgrifennu, defnyddiau traul ac ategolion cyfrifiadurol. Gan mai’r Undeb sy’n berchen arnom, caiff ein holl elw ei ailfuddsoddi mewn gwasanaethau myfyrwyr a chaiff ein deunydd ysgrifennu ei werthu am brisiau UCM.
Trosolwg o 2011/12 Roedd 2011/12 yn flwyddyn brysur ar gyfer y Siop TG, â gwerthiannau o dros £260,000. Cafwyd hyfforddiant staff a threfnwyd cytundebau newydd â chyflenwyr er mwyn lleihau effaith y dirwasgiad ar gwsmeriaid sy’n fyfyrwyr.
Gwerthodd Siop yr Undeb
7587 o gynigion prydau gan arbed
£8,421.57 i fyfyrwyr
Gwerthwyd cyfanswm o
2 5 6 4 1 6
o unedau o stoc gan Siop yr Undeb
Cyflawniadau Allweddol Gwerthodd Siop yr Undeb y swm mwyaf erioed o ddillad brand yn ystod yr wythnos Raddio drwy redeg is-siop yn Neuadd y Ddinas. Atgyweiriwyd 1300 o gyfrifiaduron gan y Siop TG, sy’n cynrychioli arbediad o £32,500 i fyfyrwyr o gymharu â phrisiau PC World.
1300
Nodau ac Amcanion 12/13 Mae Siop yr Undeb wedi lansio amrywiaeth newydd o gynigion prydau, sydd eisoes yn boblogaidd iawn. Caiff hyn ei ddatblygu drwy gydol y flwyddyn, a rhoddir sylw i gael adborth cwsmeriaid ar yr amrywiaeth er mwyn sicrhau bod y Siop yn darparu’r hyn y mae myfyrwyr am ei gael. Bydd Siop yr Undeb hefyd yn ehangu’r dewis o ddillad brand ac yn cyflwyno amrywiaeth ehangach o gynhyrchion Masnach Deg. Mae’r Siop TG yn parhau â’i gwasanaeth atgyweirio cyfrifiaduron gwych, gan wella ac ehangu yn ôl yr angen ymysg y myfyrwyr. Cyflwynwyd cynhyrchion gwerth am arian newydd, ac mae’r Siop TG yn parhau i weithio gyda’r Brifysgol ar newidiadau i’w rhwydwaith, gan sicrhau ei bod yn cynnig y cymorth a chyngor gorau.
Nifer yr Atgyweiriadau gan y Siop TG Cyfanswm arbedion ar atgyweiriadau
i fyfyrwyr gan y Siop TG
£ 3 2,5 0 0
CYSYLLTWCH Â’R SIOP TG
CYSYLLTWCH Â SIOP YR UNDEB
Ff: 029 2078 1454 E: theitshop@Cardiff.ac.uk
Ff: 029 2078 1470 G: store.cardiffstudents.com
Adroddiad Blynyddol 2011-2012 |
20
CANOLFAN Y GRADDEDIGION Mae Canolfan y Graddedigion yn bartneriaeth rhwng y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr; mae Undeb y Myfyrwyr yn darparu bwyd a diod yn y Bar Caffi, yn ogystal â chymorth diogelwch, glanhau, cynnal a chadw a chymorth technegol ag adloniant, tra bod staff y Brifysgol yn rheoli digwyddiadau, gwasanaethau a pholisïau’r Ganolfan.
91% nifer yr ôl-raddedigion sydd o'r farn bod Digwyddiadau'r
Pythefnos Groeso
yn Dda YN Dda Iawn
Adolygiad o 11/12 Aeth dros 1,400 o fyfyrwyr ôl-raddedig i ddigwyddiadau yn ystod y Pythefnos Groeso, ac aeth dros 500 o fyfyrwyr ôlraddedig i ‘Anerchiad Croeso blynyddol yr Is-ganghellor’ a gaiff ei gynnal yn ystod yr wythnos gyntaf.
Cyflawniadau Allweddol Crëwyd Canolfan i Raddedigion ar gampws Parc y Mynydd Bychan, a gostiodd £40,000 ac sy’n darparu man cymdeithasu ac astudio gwerthfawr ar gyfer myfyrwyr Ôl-raddedig. Buddsoddwyd £17,441 hefyd ar gyfer moderneiddio ac adnewyddu’r lolfa boblogaidd, yng Nghampws Parc Cathays.
CYSYLLTWCH Â CHANOLFAN Y GRADDEDIGION Ff: 029 2087 4748
21
G: cardiff.ac.uk/gradc
| Adroddiad Blynyddol 2011-2012
Cafwyd
2283
= 7065 ar gyfer
awr
Yn Arolwg Dod i Gaerdydd, roedd 95% o ôl-raddedigion newydd o’r farn bod cyfleusterau Canolfan y Graddedigion yn ‘Dda’ neu’n ‘Dda Iawn’, o gymharu â’r 93% y llynedd.
defnyddio
ystafelloedd cyfarfod aW man NAU cymdeithasu Teithiodd
o fyfyrwyr 1725 ar deithiau bws undydd Canolfan y Graddedigion
18
ar
o deithiau
cynnydd o
23%
L LUNIAU’ R FLWY DDY N AWST Agorodd y Lolfa i ddarparu man astudio a chymdeithasu, gyda chyfrifiaduron, setiau teledu a phodiau Skype.
MEDI Mynychodd 2,800 o fyfyrwyr Ddawns y Glas a oedd yn cynnwys rhaglen lawn o gerddoriaeth fyw a DJ’s.
HYDREF Chwaraeodd y band poblogaidd Noah and the Whale i dorf enfawr yn y Neuadd Fawr.
TACHWEDD Cafodd myfyrwyr ail gyfle i ddysgu mwy am Glybiau a Chymdeithasau yn y Ffair Weithgareddau.
RHAGFYR Daeth tymor yr hydref i ben gyda chyfle i Yfed y Bar yn Sych cyn i fyfyrwyr adael am y Nadolig.
IONAWR Rhoddodd Ail Wythnos y Glas gyfle i fyfyrwyr gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys bwyta’n iach ac ymarfer corff.
Adroddiad Blynyddol 2011-2012 |
22
L LUNIAU’ R FLWY DDY N CHWEFROR <
Cynhaliodd cymdeithasau amrywiaeth eang o ddigwyddiadau fel rhan o ‘Go Global’, sef gwyl flynyddol diwylliant ac amrywiaeth.
MAWRTH Creodd Etholiadau Myfyrwyr Caerdydd gyffro o amgylch y campws wrth i fyfyrwyr geisio ennill pleidleisiau i ddod yn Swyddogion Etholedig.
EBRILL Enillodd Prifysgol Caerdydd y gwpan mewn gêm rygbi fywiog yn erbyn Abertawe yn y Gêm Varsity Cymru flynyddol
MAI Yn ei hail flwyddyn, dyfarnwyd gwobr Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr i staff Prifysgol Caerdydd am eu gwaith caled a’u hymroddiad.
MEHEFIN Bu myfyrwyr yn dathlu rhwng 6pm a 6am yn y Ddawns ‘Dusk ‘Til Dawn’ hynod o boblogaidd yn Undeb y Myfyrwyr.
GORFFENNAF <
Ffarweliodd yr Undeb â grwp rhyfeddol arall o fyfyrwyr yn ystod wythnos o seremonïau graddio.
23
| Adroddiad Blynyddol 2011-2012