Adroddiad Effaith Blynyddol 17/18

Page 1

Adroddiad Effaith Blynyddol 17/18 Ymateb i anghenion ein myfyrwyr


04 Gweledigaeth a Gwerthoedd

07 Llwyddiannau Myfyrwyr

09 Cyflwyniad y

Prif Swyddog Gweithredol

Cynrychiolaeth 17 Democratiaeth 19 Datblygiad 21 Myfyrwyr

25 Gweithgareddau 29 Cyngor i

Llywydd yr Undeb 11 Fyfyrwyr Ymgysylltiad a 13 33 Lleoliadau Bodlonrwydd Myfyrwyr 35 Gosod Tai Datblygiad cerdyn 14 sgorio cytbwys (2017-18)

Myfyrwyr Caerdydd

39 Parc y Mynydd Bychan

Cymraeg 41 42 Cyllid 46 Cerdyn sgorio cytbwys 2018-2019

48 Ymddiriedolwyr ac Uwch Aelodau O Staff



UNDEB MYFYRWYR BLAENLLAW

Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd (yr Undeb) yn cael ei gydnabod fel undeb myfyrwyr blaenllaw, a rhan annatod o Brifysgol Caerdydd. Yn ystod y tair blynedd nesaf bydd yr Undeb yn cadarnhau ei le wrth galon profiad myfyrwyr Caerdydd a bydd yn darparu mwy o gyfleoedd i greu effaith ar fywydau myfyrwyr. Mae ein Strategaeth 2018-2021 yn gosod allan ein gweledigaeth a’n blaenoriaethau fel y gallwn fanteisio ar y cyfleoedd unwaith mewn cenhedlaeth sydd o’n blaenau, a gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd i greu profiad myfyrwyr cynhwysol a rhyngweithiol sydd ymysg y gorau yn y sector.

EIN GWELEDIGAETH STRATEGOL Gweithio gyda phob myfyriwr yng Nghaerdydd i wella eu profiad yn y brifysgol.

EIN GWERTHOEDD

04.

Arweinyddiaeth Myfyrwyr Cynhwysiad Partneriaeth Amrywioldeb


EIN DIBEN Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn cyfoethogi addysg myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd er budd y cyhoedd drwy: Hyrwyddo buddiannau a lles myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn ystod eu cwrs astudiaeth a chynrychioli, cefnogi a chynghori myfyrwyr;

B od yn sianel gynrychiolaeth gydnabyddedig rhwng myfyrwyr a Phrifysgol Caerdydd ac unrhyw gorff allanol arall; a D arparu gweithgareddau cymdeithasol, diwylliannol, chwaraeon a hamdden, yn ogystal â fforymau ar gyfer trafodaeth er mwyn datblygiad personol ein myfyrwyr.



Llwyddiannau Myfyrwyr Drwy gydol y flwyddyn cyd-weithiodd y Brifysgol a Undeb y Myfyrwyr ar Grwpiau Partneriaeth. Canolbwyntiodd y grwpiau hyn ar faterion a godwyd o fewn yr argymhelliad ysgrifenedig myfyrwyr (adroddiad sy’n cynnwys yr holl adborth rydym yn ei gasglu gan fyfyrwyr). Rhoddwyd y grwpiau hyn ar waith i archwilio: • • • •

Y Profiad Parc y Mynydd Bychan Y Profiad Ôl-raddedig Adolygiad Cynrychiolaeth Academaidd Arholiadau ar ddyddiau Sadwrn, prynhawniau Mercher, a oriau gweddïo ar ddyddiau Gwener • Ehangu’r gofod astudio

Parc y Mynydd Bychan • Cynhaliodd Undeb y Myfyrwyr 4 Diwrnod Teulu Myfyrwyr llwyddiannus a ymgysylltodd gyda myfyrwyr sy’n rieni y eu darparu nhw gyda lle i rwydweithio gyda rhieni eraill sy’n fyfyrwyr. • Cyfnod ymsefydlu pwrpasol ar gyfer Nyrsys sy’n dechrau ym mis Mawrth gyda helfa drysor i helpu myfyrwyr newydd yn dechrau ar gyfnod gwahanol yn y flwyddyn i deimlo’n rhan o gymuned y brifysgol.

Democratiaeth

Chwaraeon

• Lansiodd y Swyddogion ymgyrch ‘Democratiaeth o’r Diwrnod Cyntaf’ a alluogodd myfyrwyr i ymgysylltu yn sydyn gyda materion a oedd o bwys iddynt hwy Roedd yr ymgyrch yn cynnwys y swyddogion yn mynd i ysgolion gyda thiwbiau a pheli ping-pong. Fe ymgysylltodd bob diwrnod ymgyrch gyda dros 100 o fyfyrwyr gan roi mewnwelediad gwerthfawr i mewn i ganfyddiadau o ‘Fuddiannau Academaidd’, yn ogystal â pha fath o fwyd y dylai gael ei weini yn y llys bwyd, ac o ganlyniad fe newidiodd yr Undeb i fwyty pitsa yn seiliedig ar adborth. • Gwelwyd y nifer mwyaf o bleidleisiau unigol a welwyd erioed yn yr etholiadau - gyda myfyrwyr yn pleidleisio am amrywiaeth o swyddi.

• Swyddogion Lles yn cael eu sefydlu i bob clwb chwaraeon i ddarparu ddulliau cefnogi pellach ar gyfer myfyrwyr.

Addysg • Cyflwynwyd recordio darlithoedd ledled y Brifysgol - ffrydiodd 8,000 o fyfyrwyr 1.23 miliwn o oriau o gynnwys wedi ei recordio yn wythnos cyntaf Mai yn unig! • Estynnodd y Llyfrgell y Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol (ASSL) ei oriau agor yn ystod y cyfnod y gaeaf i gefnogi myfyrwyr sy’n astudio a oedd dal yng Nghaerdydd a/ neu ddim yn dathlu’r Nadolig.

Y Gymraeg • Lansiwyd UMCC yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Lles • Lansiad ymgyrch ‘Nid yw’n jôc’ o amgylch aflonyddu rhywiol • Ariannu hyfforddiant atal hunanladdiad a ymyrraeth gwyliwr.

Myfyrwyr Ôl-raddedig • Rhoddwyd y cyfle i ddarpar fyfyrwyr Gradd Meistr i ddysgu sut y gallent fforddio Gradd Meistr drwy gyflwyniadau gan yr Is-lywydd Ôl-raddedig. • Cynhaliwyd 12 digwyddiad cymdeithasol ôlraddedig yn ystod y flwyddyn.

Cymorth Adolygu • Dosbarthwyd 2,000 cwpanaid o de a choffi i fyfyrwyr - yn eu tanio a’u ymlacio nhw ar gyfer adolygu, astudio a chyfnod arholiadau prysur.

07.



Cyflwyniad y Prif Swyddog Gweithredol Mae’n bleser mawr gen i gyflwyno’r adroddiad hwn a rhannu llwyddiannau ein haelodau myfyrwyr a chanlyniadau ac allbynnau staff a gwirfoddolwyr.

bydd ein gweithgareddau cyd-gwriciwlaidd ac allgyrsiol ar y cyd o safon ddiguro yn cefnogi myfyrwyr, datblygu eu potensial a’u paratoi nhw ar gyfer bywyd wedi iddynt raddio.

Mae’n anhygoel gweld fod yr Undeb wedi llwyddo cyrraedd uchelfannau newydd gyda lefelau bodlonrwydd ac ymgysylltu â myfyrwyr- etoyn 2017/18. Mae’r dilyniant hwn yn mynd yn ôl pedair blynedd ac rydym yn benderfynol o barhau’r llwyddiant hwn! I gyd, mae gan 74% o fyfyrwyr berthynas gyda’r Undeb ac mae 90% o fyfyrwyr yn fodlon gyda’r hyn rydym yn ei wneud. Rydym wedi llwyddo i gyrraedd lefelau uchaf y DU drwy barhau i wella’r hyn rydyn ni’n ei wneud ac amrywio ein hapêl. Mae rhaglenni a ffurfiwyd yn ddiweddar megis Rho Gynnig Arni a Farsiti y Meddygon wedi ein cyflwyno ni i fyfyrwyr newydd, tra mae meysydd sy’n prysur ehangu megis Gwirfoddoli Caerdydd, Cyngor i Fyfyrwyr a Chymdeithasau yn cael apêl ehangach.

Yn 2017-2018 gwelwyd datblygiad i’n Cynllun Strategaeth newydd, sy’n gosod ein nodau ac amcanion trefniadol ar gyfer y tair blynedd nesaf. Rydym yn ffocysu ar ein pedwar prif thema a phedwar galluogwyr a fydd yn ehangu rôl yr Undeb wrth galon profiad myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Datblygwyd ein cynllun wedi i ni gasglu adborth gan ein myfyrwyr, staff, gwirfoddolwyr a rhanddeiliaid y Brifysgol felly mae’n teimlo’n addas fod yr adroddiad hwn yn rhoi cipolwg o’r math o adborth rydym ni’n ei gasglu ac yn ymateb iddo yn barhaus. O lwyddiannau bach i newidiadau mawr, rydym yn gwrando ar ein myfyrwyr i wneud yn siŵr fod yr Undeb yn ymateb i’w anghenion.

Mae ein myfyrwyr, staff a gwirfoddolwyr wedi gwneud gwaith anhygoel er mwyn i ni gyrraedd yma ac eleni lansir y prosiect Canolfan Bywyd y Myfyrwyr, mewn partneriaeth gyda’r Brifysgol. Ein gobaith yw pan gaiff ei gyflawni yn 2021,

“Yn gyfan gwbl , mae gan 73% o fyfyrwyr berthynas gyda’r Undeb ac mae 90% o holl fyfyrwyr yn fodlon gyda’r hyn rydym yn ei wneud.” - Daniel Palmer, CEO

09.



SU President 18/19 Rydw i yn hynod o falch i rannu gyda chi llwyddiannau rydyn ni wedi eu cyflawni dros y flwyddyn academaidd 2017/18 a’r effaith rydym ni wedi ei greu gyda’n gilydd ar gyfer ein myfyrwyr. Yn 2017/18 roeddem ni’n ffocysu ar ymgysylltu gyda’n myfyrwyr a gweithio gyda myfyrwyr, ar gyfer myfyrwyr. Cyrhaeddwyd lefelau uchel o ymgysylltiad myfyrwyr ym mron bob adran o Undeb y Myfyrwyr, gydag ymgysylltiad cyffredinol yn cyrraedd 74%. Rydyn ni wedi lansio ymgyrch newydd o’r enw Democratiaeth o’r Diwrnod Cyntaf i wneud yn siŵr ein bod ni o hyd yn gwrando ar ein myfyrwyr. Yn ogystal, fe dorrwyd record nifer o gardiau Wythnos Siarad a lenwyd gan ein myfyrwyr, cyfanswm o 3425 gyda 7518 o sylwadau unigol. Profodd hwn i fod yn ffynhonnell gadarn a dibynadwy o lais y myfyrwyr a helpom ni i greu newid a fydd yn gwella eu profiad. Er enghraifft, fe wnaethom ni lobio’r Brifysgol a llwyddo pasio polisi recordio darlithoedd, a gyda’n gilydd fe lwyddom i ymestyn oriau agor Llyfrgell yr ASSL dros gyfnod y Nadolig a’r Pasg i 24 awr y dydd. Fe lansiwyd Cynhadledd Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr cyntaf a gafodd canran o 97% bodlonrwydd gan y myfyrwyr a fynychodd.

O ganlyniad i’r gwaith hwn a gwaith arall rydym ni wedi ei wneud i wella profiad academaidd y myfyrwyr, fe dderbyniom Wobr Addysg Cymru UCM! Am y tro cyntaf rydym ni wedi cydweithio gyda phum prosiect partneriaeth gyda’r Brifysgol, yn bennaf gwella’r Profiad Myfyrwyr y Mynydd Bychan, Ehangu’r Profiad Ôl-raddedig, Adolygiad Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr, Cydbwysedd rhwng Astudio a Bywyd, ac Ehangu Ardaloedd Astudio Cymdeithasol. Heb amheuaeth mae’n ffordd wych i gydweithio ac rydw i’n siŵr y bydd yn parhau i wella. Un o lwyddiannau mwyaf 2017/18 oedd cael Prifysgol Caerdydd i beidio buddsoddi mewn tanwydd ffosil wedi 3 mlynedd o ymgyrchu gan Undeb y Myfyrwyr a grwpiau myfyrwyr. Rydym ni hefyd wedi gweld lansiad Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd (UMCC), ein Hundeb y Myfyrwyr Gymraeg, yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Fe enillom y cais i gynnal Gwobrau Cenedlaethol Cymdeithasau yn ein Hundeb y Myfyrwyr a darparu noson hynod o lwyddiannus ym mis Mai. Fe wnaethom ni hefyd ennill bron i £10,000 mewn ymgais loteri a gyllidodd y ddarpariaeth o Hyfforddiant Atal Hunanladdiad. Yn olaf, rydym ni wrth ein boddau i lansio ein

Cynllun Strategaeth 2018-2021, sy’n atgyfnerthu fod Undeb y Myfyrwyr wrth galon profiad myfyrwyr Caerdydd. Mae’n dangos ein dyheadau, ymdrechion a chynlluniau i’r dyfodol newydd ar sut byddwn yn gweithio gyda bob myfyriwr Caerdydd i ehangu eu profiad. Mae’r rhain yn gipolwg yn unig o rai o lwyddiannau llynedd. Credaf y byddwn yn parhau i dyfu ac i gyflawni mwy ar gyfer ein myfyrwyr. Fe fyddwn yn parhau i geisio #Gwireddu.

“O ganlyniad i’r gwaith rydym ni wedi ei wneud i wella profiad academaidd y myfyrwyr, fe dderbyniom Wobr Addysg Cymru UCM!” - Fadhila A. Al Dhahouri

11.


Farsiti | 4,794

Canolfan Gyngor | 4,195

Cynrychiolydd Academaidd | 1,023 Cyfarfod Aelodau Blynyddol | 724

Pleidleisiwr | 6,578

Cymdeithasau | 251 Undeb Athletau | 5,493 Gwirfoddoli | 1,592 Gosod Tai Myfyrwyr Caerdydd | 1,623 Union Volunteers | 581

Gyrrwr | 175 Ymgeisydd Etholiad | 96

Gwirfoddolwyr yr Undeb | 12,073

Rho Gynnig Arni | 5,289

Gwasanaethau dan Arweiniad Myfyrwyr | 173 Cyfryngau Myfyrwyr | 30

Urdd Cymdeithasau | 9,528

Senedd Myfyrwyr | 306 Gwasanaeth Datblygu Sgiliau | 2,027

12.

Gwerthiant Cardiau NUS Extra | 1,554

Siopswyddi | 3,016


Ymgysylltiad a Bodlonrwydd Myfyrwyr YMGYSYLLTU Mae ymgysylltu gydag ein haelodau myfyrwyr yn annatod i’n llwyddiant ac mae ein gweithgareddau a gwasanaethau wedi eu ffocysu ar ehangu ein hapêl i bob adran o’r gymuned myfyrwyr. Llynedd gwelwyd cynnydd pellach mewn ymgysylltu, yn golygu fod gan dros 73% o fyfyrwyr berthynas gyda ni y gallwn ni ei fesur. Mae gennyn ni nawr gyfanswm o fyfyrwyr sy’n wedi ymgysylltu ac mae myfyrwyr israddedig yn y Brifysgol. Yn y flwyddyn flaenorol fe wnaethom ni ehangu ein cyfleoedd gwirfoddoli ar draws amrywiaeth o wasanaethau ac o ganlyniad fe welom gynnydd sylweddol mewn ymgysylltu a defnydd. Yn benodol fe welom ni gynnydd mawr o fewn Cyngor i Fyfyrwyr, Urdd y Cymdeithasau, Siopswyddi, Lleoliadau a Gwirfoddoli. Fe welom ostyngiad mewn nifer y myfyrwyr a fynychodd Farsiti eleni, ond mae hynny i’w ddisgwyl pan rydym yn chwarae oddi cartref yn Abertawe. Yn edrych i’r dyfodol, nid ydym ni’n disgwyl i

weld cynnydd parhad mewn cynnydd yn ein gwasanaethau sefydledig, ac yn hytrach yn gweld cynnydd yn bennaf yn dod o wasanaethau newydd neu wasanaethau sydd wedi eu hailddatblygu. Bydd ein ffocws yn symud tuag at ymgysylltu gyda grwpiau nad ydynt yn cael eu cynrychioli mewn gweithgareddau a sicrhau fod myfyrwyr sy’n astudio oddi ar gampws Cathays yn cael profiad myfyrwyr mwy cymaradwy.

“Mae gennym ni nawr mwy o fyfyrwyr yn ymgysylltu gyda ni nag oes yna o fyfyrwyr israddedig yn y Brifysgol.”

safle ymysg 4 Undeb Myfyrwyr uchaf y DU ac wedi ein lleoli yn 4ydd yn yr arolwg THE, 4ydd yn y WhatUni Student Choice Awards a’r 4 Uchaf o fewn Canllaw Prifysgol Which? O 2017 ymlaen, mae cwestiwn yr Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr (NSS) yn ymwneud ac undebau myfyrwyr wedi newid o fodlonrwydd cyffredinol i rôl yr Undeb yn cynrychioli buddiannau academaidd myfyrwyr yn unig. Yn 2018 fe ostyngodd ein sgôr ychydig i 65% (o 66%) ond rydym ni wedi cynnal ein lle fel y 3ydd Undeb Prifysgol Grŵp Russell i sgorio uchaf.

BODLONRWYDD Rydym yn falch o gael ein lleoli yn uchel gan ein myfyrwyr ac yn y flwyddyn ddiwethaf rydym ni wedi cynnal ein canran bodlonrwydd o 90% gydag ein harolwg mewnol ac yn arolwg y Times Higher Education (THE) Student Experience Survey. Yn ogystal, rydym wedi cyfnerthu ein

13.


Datblygiad cerdyn sgorio cytbwys (2017-18) BODLONRWYDD AC YMGYSYLLTU “Cynnal graddau bodlonrwydd rhagorol ymysg myfyrwyr, staff a’r Brifysgol, wrth gynyddu lefelau ymgysylltu ar draws bob adran o gymuned y myfyrwyr.” Targedau 1. I lansio strategaeth newydd yr Undeb - gan gynnwys strategaeth newydd Parc y Mynydd Bychan - i fyfyrwyr, staff a rhanddeiliaid y Brifysgol cyn y 31ain Hydref 2017

4. I gynnal 75% o staff myfyrwyr a staff gyrfa yn argymell yr Undeb fel lle gwych i weithio tra hefyd yn llwyddo i gael statws Cam 2 Buddsoddwyr Amrywiaeth erbyn 30ain Mehefin 2018

2. I sefydlu swyddogaeth mewnwelediad ac ymchwil, o fewn Cyfarwyddiaeth Gyfathrebu newydd yr Undeb, gan ddefnyddio’r cynllun strategol ar gyfer y Gyfarwyddiaeth fel tystiolaeth, erbyn 31ain Ionawr 2018

WEDI’I GYFLAWNI

WEDI OEDI

5. I ddatblygu cynllun cyfathrebu Canolfan Bywyd y Myfyrwyr erbyn 31ain Rhagfur 2017

3. I gytuno i Gytundeb Bartneriaeth gyda’r Brifysgol yn ymwneud â’r Siopswyddi sy’n cwrdd â gofynion a disgwyliadau rheoleiddio ar gyfer partneriaeth gydweithio ar gyfer y Ganolfan Bywyd Myfyrwyr erbyn 30ain Mehefin 2018

WEDI OEDI

WEDI’I GYFLAWNI

TWF A DYSGU

2. I weithredu canlyniadau’r adolygiad democratiaeth erbyn 31ain Rhagfur 2017

“Parhau i wella beth mae’r Undeb yn ei wneud wrth arfogi myfyrwyr a staff gyda’r sgiliau a’r wybodaeth sydd angen arnynt i gyflawni Gweledigaeth yr Undeb.”

WEDI’I GYFLAWNI 3. I gyflawni 90% o fodlonrwydd gan israddedigion, 75% gyda ÔR a addysgir a 85% gyda ÔR ymchwil yn Arolwg Croeso i Gaerdydd erbyn 28ain Chwefror 2018

WEDI’I GYFLAWNI

14..

Targedau 1. I sefydlu cynlluniau datblygu ar gyfer bob gwasanaeth sy’n delio yn uniongyrchol â myfyrwyr mewn ymateb i ddata cydraddoldeb yr Undeb, yn canolbwyntio ar ddatblygu mwy o ymgysylltiad gan grwpiau a than gynrychiolir erbyn 31ain Rhagfur 2017

AR WAITH

WEDI’I GYFLAWNI 4. I gyflawni statws 1-seren Best Companies ac i’n lleoli ar restr Sunday Times o’r 100 sefydliad uchaf i weithio gydag erbyn 31ain Ionawr 2018

HEB EI GYFLAWNI 5. I sicrhau fod o leiaf 50% o bob aelod o staff myfyrwyr goruchwylio a staff gyrfa goruchwylio yn ymgymryd â hyfforddiant datblygiad personol yn ystod 2017/18 erbyn 31ain Gorffennaf 2018

WEDI’I GYFLAWNI


CYNALADWYEDD “Cyflawni sefydlogrwydd ariannol tymor byr tra hefyd yn sicrhau sefydlogrwydd ariannol, strategol ac enw da tymor hir yr Undeb a chael effaith negyddol lleiaf posibl ar y gymuned leol ar amgylchedd.” Targedau 1. Cyflawni’r gyllideb arian dros ben a’r sefyllfa arian barod ar gyfer grŵp cwmnïau ar gyfer 2017/2018 erbyn 31ain Gorffennaf 2018

WEDI’I GYFLAWNI 2. Cyflawni sefyllfa incwm cyffredinol a gyllidwyd ar gyfer GUCC, gan gynyddu elw a/ neu gynyddu’r buddiannau cytundeb lliniaru CSL yr Undeb erbyn 31ain Gorffennaf 2018

WEDI’I GYFLAWNI 3. I ddatblygu a chyflwyno achos busnes ar gyfer ailddatblygu’r Neuadd Fawr, Derbynfa a’r Ganolfan Raddedigion blaenorol erbyn 28ain Chwefror 2018

WEDI OEDI

4. I gyflawni blwyddyn olaf Operation 200 a sefydlu rhaglen adolygiad effeithiolrwydd parhaol erbyn 31ain Mawrth 2018

WEDI’I GYFLAWNI 5. I lwyddo ariannu pecyn cynaladwyedd cynhwysfawr ar gyfer adeilad yr Undeb ac i gyflawni targedau blwyddyn un erbyn 31ain Gorffennaf 2018

WEDI OEDI ANSAWDD A SICRWYDD “Sicrhau fod gweithgareddau’r Undeb yn cael eu hategu gan systemau ansawdd, gyda gweithrediadau hawdd eu deall a geir eu dilyn a’u harchwilio yn aml.” Targedau 1. I gytuno i gytundeb partneriaeth adnewyddedig gyda’r Brifysgol, gan gynnwys rhannu gweledigaeth ar gyfer y Ganolfan Bywyd Myfyrwyr erbyn 28ain Chwefror 2018

HEB EI GYFLAWNI

2. I gwblhau archwiliad llywodraethu ac i gyflawni’r newidiadau a gynigir erbyn 31ain Mawrth 2018

AR WAITH 3. I sefydlu Polisi Dendro newydd ac i dendio o leiaf 5 o’r 10 cyflenwyr uchaf yr Undeb (allan o gytundeb) erbyn 31ain Gorffennaf 2018

AR WAITH 4. I adolygu a diweddaru’r System Reoli Iechyd a Diogelwch, gan gynnwys rhaglen archwilio wedi ei ddiweddaru erbyn 28ain Chwefror 2018

AR WAITH 5. I sicrhau fod gan yr Undeb arwyddion a brandio dwyieithog blaenllaw ar Blas y Parc, defnydd blaenoriaethol o deras y CBM a phrydles estynedig ar gyfer adeilad yr Undeb erbyn 28ain Chwefror 2018

AR WAITH

15.



Cynrychiolaeth Blwyddyn arall lwyddiannus ar gyfer Cynrychiolaeth a Democratiaeth ac i’r Ymddiriedolwyr Sabothol, Cynrychiolwyr Academaidd, Swyddogion Ymgyrch a’r Tîm Llais Myfyrwyr.

fyfyrwyr i hyfforddiant) Fe gyrhaeddodd canran boddhad ein hyfforddiant 98%!

Mae gan yr Undeb hanes hir a balch o gynrychioli myfyrwyr Caerdydd a llunio profiad y dysgwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Bob blwyddyn caiff arweinyddiaeth myfyrwyr yr Undeb ei ethol gan fyfyrwyr, gyda Chynrychiolwyr Colegau ac Ysgolion yn cael eu hethol gan fyfyrwyr o’r adrannau hynny.

WYTHNOS SIARAD

CYNRYCHIOLAETH

Mae Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr yn chwarae rôl hanfodol yn y bartneriaeth rhwng myfyrwyr a’r Brifysgol ac yn sicrhau fod llais y myfyrwyr yn cael ei gymryd o ddifri ar bobl lefel. Mae Cynrychiolwyr yn mynychu paneli staff-myfyrwyr o fewn eu hysgolion er mwyn casglu adborth o’u cyfoedion ac argymell gwelliannau i’r profiad academaidd. Roedd 2017/2018 yn flwyddyn arall o lwyddiant i Lais Myfyrwyr. Fe gynhaliom ni 43 sesiwn hyfforddi lle ymgymerodd 512 o fynychwyr mewn hyfforddiant (llynedd mynychodd 370 o

Derbyniodd bob ysgol sgwrs gyflwyniadol gan Undeb y Myfyrwyr.

Ym mis Chwefror 2018 fe drefnom Wythnos Siarad ar y cyd gyda’r Brifysgol; wythnos yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr roi adborth ar eu profiad yn y Brifysgol drwy fannau adborth ar draws y ddau gampws. Mae’r Wythnos Siarad wedi mynd o nerth i nerth bob blwyddyn, a yn 2018 fe dorrwyd record newydd gyda cyfanswm o 3,425 gardiau Wythnos Siarad wedi eu cwblhau. Derbyniwyd dros 7,500 o sylwadau unigol am y Brifysgol ag Undeb y Myfyrwyr ar y 3,425 o gardiau.

2018:

3,425 o gardiau adborth wedi’u cwblhau 7,518 o sylwadau unigol Wythnos Siarad

2017: 2,910 o gardiau adborth wedi’u cwblhau 6,885 o sylwadau unigol

2016:

2,200 o gardiau 5,013 o sylwadau unigol

“Newidiwyd yr hyfforddiant i Gynrychiolwyr rydym yn ei ddarparu yn ôl adborth gan Gynrychiolwyr Academaidd. Yn ystod bob sesiwn, anogir myfyrwyr i rannu eu barn a syniadau ar sut y gellir gwella y sesiynau hyn. Yn seiliedig ar hyn, fe wnaethom y sesiynau a ddarparwyd yn nhymor yr Hydref yn llawer mwy rhyngweithiol, gan gynnwys mwy o weithgareddau i gadw diddordeb myfyrwyr.” - Adran Llais Myfyrwyr

17.



Democratiaeth Rhoddir cyfle i holl fyfyrwyr Caerdydd i gymryd rhan yn nemocratiaeth yr Undeb a dylanwadu ar gyfeiriad a pholisi’r sefydliad. Gwneir hynny mewn sawl ffordd, ond mae’n cynnwys ethol yr Ymddiriedolwyr Sabothol ym mis Chwefror bob blwyddyn a thrwy gyfranogiad cyrff sy’n creu polisïau, megis Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr Aelodaeth a Senedd y Myfyrwyr. Fe roedd 73 o ymgeiswyr a redodd yn etholiadau mis Chwefror 2018, ac fe bleidleisiodd 6,205 o fyfyrwyr!

CCB Fe basiodd CCB llynedd bolisi ar gymorth ariannol ar gyfer ôl-raddedigion, yn gwella’r rolau o Is-lywydd Cymdeithasau a Is-lywydd Lles yn ogystal â gwell cyfleusterau ar gyfer myfyrwyr Mwslimaidd. Yn yr CCB yn 2016, trydarodd myfyrwyr yn dweud yr hoffent gael rhywbeth bach i wneud y CCB yn fwy o hwyl, felly eleni rydym wedi darparu bob un sy’n mynychu gyda rhyw fath o damaid i fwyta yn ystod y cyfarfod. Yng nghyfarfod 2017, roedd myfyrwyr yn anhapus gyda’r boteli plastig o ddŵr roeddem yn eu darparu felly yn 2018 byddwn yn darparu jygiau o ddŵr ac yn annog myfyrwyr i ddod a chwpan cadw neu botel a all ei ail lenwi gyda hwy.

SENEDD Y MYFYRWYR Pasiwyd cynigion sy’n cynnwys cael gwared o wellt plastig o Undeb y Myfyrwyr, rhoi mandad i’r UCM y DU i lobio llywodraeth y DU i ddarparu bwrsariaethau ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig, a gwell cefnogaeth i fyfyrwyr gyda dyletswyddau gofalu.

“Dywedodd ymgeiswyr yr etholiad yr hoffent i ni ganolbwyntio mwy ar eu lles - fe ddaeth hwn yn uniongyrchol gan ein ymgeiswyr mewn sesiwn adborth yn 2017. Fe wnaethom ni gynyddu’r ffrwythau, dŵr, pitsa a sesiynau hyfforddiant i gefnogi ymgeiswyr ar gyfer etholiadau Gwanwyn 2018.” - Adran Llais Myfyrwyr

19.



Datblygiad Myfyrwyr Eleni mae’r Siopswyddi wedi eu hail leoli i’r 2il lawr Undeb y Myfyrwyr ac mae’r Ganolfan Sgiliau, Mentrau a Gwirfoddoli blaenorol wedi cael eu hailenwi yn “Ganolfan Sgiliau”. Drwy waith Gwirfoddoli Caerdydd, Siopswyddi a’r Gwasanaeth Datblygu Sgiliau, ac mewn partneriaeth gyda Thîm Mentrau’r Brifysgol., fe wnaethom anelu i gae; o leiaf 25% o fyfyrwyr yn gwirfoddoli, yn ymgymryd â datblygiad myfyrwyr neu ymgymryd a menter y flwyddyn academaidd hon. Yn gyfan gwbl yn ystod y flwyddyn , fe ymgysylltodd timau y ‘Ganolfan Sgiliau’ gyda 8,329 o fyfyrwyr rhyngddynt, a gynrychiolodd ar gyfartaledd 26% o gorff y myfyrwyr.

DATBLYGU SGILIAU Yr Undeb oedd un o’r rhai cyntaf yn y DU i ddatblygu rhaglenni datblygu sgiliau myfyrwyr i ehangu sgiliau a chyflogadwyedd myfyrwyr. I gydnabod twf pwysigrwydd cyflogadwyedd, fe wnaeth yr Undeb ffurfio partneriaeth gyda’r Brifysgol i ddatblygu’r Ganolfan Sgiliau, Menter a Gwirfoddoli o fewn adeilad yr Undeb, wedi ei gyflawni yn 2012. Mae’r Ganolfan yn cynnig gofod gwych i ddarparu rhaglenni sgiliau’r Undeb mewn ardaloedd megis cyfathrebu, arwain a

effeithiolrwydd personol. Fe enillodd myfyrwyr achrediad am gyflawni am o leiaf 5 uned lluosog (sesiynau) ac yn 2017-18 cyflawnodd 124 Efydd (5 uned), cyflawnodd 48 Arian (10 uned), cyflawnodd 22 Aur (15 uned) a chyflawnodd 12 Platinwm (20 uned) cymrodd 2,029 o fyfyrwyr unigol ran mewn sesiynau sgiliau datblygu. I gyd gwnaethpwyd 6,698 o gysylltiadau o ganlyniad i ail ymweliadau a chydweithio’n agos gyda ysgolion unigol. Yn ogystal, daeth 158 o fyfyrwyr yn Swyddogion Cymorth Cyntaf Brys, 27 wedi ennill Lefel Sylfaen mewn Iechyd a Diogelwch, 8 wedi cwblhau Iaith Arwydd Prydain Lefel 1 ac 11 wedi derbyn The Pacific Institute® STEPS® i Ragoriaeth ar gyfer Llwyddiant Personol. Cymrodd 158 ran mewn Sesiynau Ymwybyddiaeth Byddar byr ac fe fynychodd 11 Ymwybyddiaeth Iechyd Medwl. Arbrofwyd gyda gwobr newydd yn 2017-18 gyda’r teitl Diploma Datblygiad Proffesiynol sy’n anelu i wobrwyo myfyrwyr mewn rolau gweithredol/arweinyddol/gorychwilio allweddol a oedd yn triongli presenoldeb mewn 5 prif sesiwn sgiliau arwain, rhwng 50 a 200 o oriau o waith profiadol, a bod yn bresennol mewn sesiynau mynegi a myfyrio. Llwyddodd 33 o fyfyrwyr ei gyflawni.

“Fe wnaethom ni weithredu gwobr prentisiaeth o fath newydd gyda’r teitl Diploma o Ddatblygiad Proffesiynol sydd ddilys i fyfyrwyr mewn safle o awdurdod. Mae’r wobr yn cyfuno pum sesiwn Arweinyddiaeth graidd, dysgu arbrofol, mynegi a myfyrio. Sbardunwyd y newid hwn o ganlyniad i adborth a gasglwyd gan fyfyrwyr.” - Gwasanaeth Datblygu Sgiliau

21.


FINDING PART-TIME WORK & GAINING WORK EXPERIENCE Mae ein Siopswyddi yn cynnig asiantaeth cyflogi myfyrwyr i holl fyfyrwyr Caerdydd. Mae’r Siopswyddi yn lleoli myfyrwyr mewn gwaith rhan amser a gwaith achlysurol o fewn y Brifysgol yn ogystal â’r gymuned ehangach ac mae wedi ei leoli yn y Ganolfan Sgiliau ar 2il lawr adeilad Undeb y Myfyrwyr. Mae’r flwyddyn academaidd hon wedi gweld cynnydd o 10% mewn nifer o gofrestriadau gyda dros 4,800 o fyfyrwyr yn cofrestru ar gyfer gwaith. Mae ‘r Siopswyddi yn darparu myfyrwyr gyda 149,641 o oriau o waith (cynydd o 11% o’r flwyddyn blaenorol) a thalu £1.6 miliwn i mewn i gyfrifon banc myfyrwyr yn ystod 2017-2018.

“Fe wnaethon ni adolygu ein hysbysebion swydd i gynnwys mwy o wybodaeth ynglŷn â’r profiad sydd ei angen ac amserlenni recriwtio yn dilyn adborth gan grwpiau ffocws myfyrwyr.”- Jobshop

22.

RHOI YN ÔL I’R GYMUNED Mae gwirfoddoli yn rhan gwerthfawr o brofiad y myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’n cysylltu myfyrwyr gyda’r cymuned ehangach, yn eu darparu nhw gyda chyfleoedd i ddysgu a datblygu. Gall eu helpu nhw i ymgartrefu mewn bywyd prifysgol, ehangu eu gorwelion a darparu cyfleoedd ar gyfer arweinyddiaeth a datblygiad sgiliau. Mae ein ymrwymiad i wirfoddolwyr a gwirfoddoli yn flaenoriaeth parhaol i ni ac rydym wedi gweithio’n galed eleni i ymgysylltu gyda phartneriaid i greu cyfleoedd gwych ar gyfer ein myfyrwyr a fydd yn gweddnewid bywydau myfyrwyr ac yn ysbrydoli cymunedau lleol. Dyma trydedd blwyddyn Gwirfoddoli Caerdydd mewn gweithrediad ac mae’n mynd o nerth i nerth. Mae portffolio’r prosiectau wedi cynyddu eleni i mwy na 60, yn darparu hyd yn oed mwy o gyfleoedd gwirfoddoli ar gyfer ein myfyrwyr yn ogystal â darparu manteision gwych i’r gymuned lleol. Eleni mae’r ffocws wedi bod ar chwech colofn gweithgareddau gwirfoddol – Plant, Pobl Ifanc, Amgylchedd, cymuned, Hamdden a Chwaraeon, a Lles; gyda mwy na 60 prosiect wythnosol yn Cel eu darparu ar draws y categoriau hyn.

Rydym ni’n deall fod myfyrywr yn dewis i wirfoddolu am sawl rheswm gwahanol, ac mae ehangu portffolio’r prosiect eleni yn adlewyrchu ein dyhead i gwmpasu hyn ac i sicrhau fod rhywbeth ar gael i bawb! Dros y flwyddyn diwethaf, mae Gwirfoddoli Caerdydd wedi ymgysylltu gyda dros 1,500 o fyfyrwyr sydd rhyngddyn nhw wedi gwirfoddoli dros 14,000 o oriau ar amryw o brosiectau parhaol a un-tro. Mae hwn yn lwyddiant gyflawniad gwych sydd wedi cyfrannu yn uniongyrchol i ddarpariaeth o rhai prosiectau newid bywyd ar draws Caerdydd. Eleni fe gymerodd 60 o fyfyrwyr y cyfle i fod yn Brif Wirfoddolwr - yn ennill Tystysgrif Datblygiad Personol mewn Arweinyddiaeth a hyfforddiant a sgiliau eraill wedi ei achredu ar hyd y ffordd. Mae llawer ohonynt wedi mynd ymlaen i gyflawni Diploma Datblygiad Proffesiynnol mewn Arweinyddiaeth, ac heb amheuaeth fe fyddant yn arweinwyr yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol wedi Prifysgol! Mae’n myfyrwyr gwirfoddol nid yn unig yn lysgenhadon ar gyfer Undeb y Myfyrwyr, ond Prifysgol Caerdydd hefyd a chymdeithas y myfyrwyr yn fwy cyffredinol – rydym yn hynod falch ohonynt i gyd!


Fe ddarparom ni gyfres o ddigwyddiadau gwirfoddoli un-tro Rho Gynnig Amserlenni fel rhan o’n rhaglen Wythnos y Glas a helpodd ni i ymestyn allan i fyfyrwyr a oedd yn awyddus i geisio gwirfoddoli am y tro cyntaf. Mae amrywiaeth eang o weithgareddau ar gael, yn cynnwys cerdded o amgylch Canol y Ddinas gyda Big Issue Cymru, cerdded cŵn gyda Cardiff Dogs Home a chefnogi pobl â nam ar eu golwg i fynd i fowlio gyda Sefydliad y Deillion Caerdydd, a helpodd i arddangos pa mor ddiddorol a gwahanol gall gwirfoddoli fod. Yn 2017-18, fe gynorthwyodd Gwirfoddoli Caerdydd nifer o fentrau dan arweiniad myfyrwyr sydd bellach yn brosiectau gwirfoddoli sefydledig. Mae Misglwyf mewn Tlodi yn brosiect sydd bellach wedi helpu sawl cannoedd o bobl lleol mewn angen i gael mynediad at gynnyrch misglwyf. Roedd prosiectau o dan arweiniad myfyrwyr eraill eleni yn cynnwys Gwneud Gwên (lle mae myfyrwyr yn gwisgo i fyny fel cymeriadau llyfr ac yn ymweld â myfyrwyr sâl mewn ysbytai) a’r Fenter Tosturi (sydd wedi cynllunio rhaglen ddysgu ar gyfer darparu i blant Ysgolion Cynradd lleol). Rydym ni’n barhaol wedi’n syfrdanu a’n ysbrydoli gan syniadau anhygoel y mae ein myfyrwyr yn eu cyflwyno i ni - ac y hynod falch i fedru eu helpu nhw wireddu eu syniadau i mewn i realiti.

“Dywedodd myfyrwyr wrthym fod y ffordd roeddynt yn cofrestru gyda phrosiectau a chyflwyno eu horiau yn drafferthus, felly rydym ni wedi ail ddylunio ein gwefannau yn llwyr, yn cynnwys buddsoddi mewn pecyn ychwanegol a fydd yn galluogi myfyrwyr i gofnodi eu horiau ac unrhyw sgiliau a enillwyd yn llefydd eraill ar lein i gyd mewn un lle” - Gwirfoddoli Caerdydd

23.



Gweithgareddau CHWARAEON Mae chwaraeon yn ffordd gwych i ddod a phobl ynghyd, boed yn athletwyr elitaidd yn cystadlu ar gyfer tlws hir ddisgwyliedig, neu yn grŵp astudio yn ffurfio tîm ar gyfer ychydig o ymarfer corff wythnosol. Mae ein Undeb Athletaidd yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, beth bynnag yw lefel eu sgil, yn rhoi siawns iddyn nhw barhau i gystadlu yn eu hoff chwaraeon neu geisio rhywbeth hollol newydd. Yn ystod 2017-18 ymunodd dros 5,000 o fyfyrwyr yr Undeb Athletaidd. Fe llwyddom i gynnal ein safle 11 ar restr BUCS allan o 150 o brifysgolion. Roedd hyn yn ein gosod ni fel y Brifysgol Cymreig uchaf ar y rhestr a’r Prifysgol Uchaf nad yw’n cynnig unrhyw raglenni gradd is-raddedig yn ymwneud â chwaraeon. Perfformiodd rhai o’n timau ni yn rhagorol o dda drwy gydol y flwyddyn, enillodd Criced Dynion y Tlws BUCS gan guro Loughborough yn y rownd derfynol, enillodd ein tîm Seiclo Menywod Pencampwriaethau Prawf Amser 25 Milltir BUCS ac fe ddyrchafwyd tîm 1af Rygbi Dynion i Gynghrair Swper Rygbi BUCS am y tro cyntaf erioed. Y tu allan i BUCS fe wnaeth ein Menywod Hoci gynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau EuroHockey yn Fienna a llwyddo i dychwelyd fel pencampwyr adrannol.

Wedi ennill Cwpan Cymru yn ddiweddar eto byddant yn teithio i Ewrop flwyddyn nesaf fel cynrychiolwyr Cymru yn y cystadlaethau. Tra bod y wybodaeth uchod yn seiliedig o amgylch yr elfen chwaraeon perfformiad o’r Undeb Athletaidd, mae hefyd yn bwysig i drafod y weithgaredd sy’n digwydd ar lefel mwy cyfraniadol/hamddenol. Rhedir cynghreiriau Mewn Golegol yn y ffurf o gemau wythnosol mewn pêl-droed, pêl-rwyd a phêl-droed 7 bob ochr. Mae’r cynghreiriau wedi eu ffurfio o 28 tîm pêl-droed, 40 tîm pêl-rwyd a 12 tîm pêldroed 7 bob ochr. Mae’r rhaglen hwn yn darparu dros 1,000 fyfyrwyr gyda’r cyfle i fod yn heini a chwarae chwaraeon mewn amgylchedd diogel a strwythuredig yn wythnosol. Mae’r Farsiti Cymreig bellach yn uchafbwynt enfawr yng nghalendr chwaraeon a chymdeithasol myfyrwyr. Mae wedi tyfu i un o’r digwyddiadau Farsiti Prifysgol mwyaf yn y DU gyda dros 40 gêm chwaraeon yn cael eu cynnal ar un diwrnod. Cynhaliwyd y digwyddiad 201718 yn Abertawe gyda bron i 6,000 o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn teithio ar hyd yr M4 i gefnogi bron i 500 o gyfranogwyr a oedd yn cefnogi eu timau penodol ar y diwrnod. Unwaith eto fe wnaethom ni ddychwelyd fel enillwyr

amlwg yn Nharian Farsiti Cymru ac fe goronodd y tîm Rygbi Dynion y cyfan drwy ennill y Gwpan Farsiti yng ngêm olaf y diwrnod a gynhaliwyd yn Stadiwm Liberty o flaen 12,000 o gefnogwyr..

CYMDEITHASAU Mae Urdd y Cymdeithasau yn gasgliad amrywiol o grwpiau, wedi eu rhannu’n fras yn grwpiau gwleidyddol, hamdden, diwylliannol, a chyrsiau’n seiliedig ar gwrs. Ymunodd dros 8500 o fyfyrwyr Urdd y Cymdeithasau sy’n gyfystyr â mwy na 25% o boblogaeth myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Roedd 207 o gymdeithasau yn gweithredu yn 2017-18, rhif record newydd. Mae Gwyl Fringe Caerdydd a Phrofiadau Byd-eang yn cael ei gynnal gan Urdd y Cymdeithasau ac yn ddathliad wythnos o hyd i ddathlu yr amrywiaeth a geir o fewn y grwpiau hyn. Cynhaliwyd digwyddiadau ym mis Mawrth 2018 ac roeddent yn lwyddiant ysgubol, gyda dros i 30 o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal gyda 50 o Gymdeithasau yn arddangos eu talentau.

25.


Am y tro cyntaf, cynhaliodd Undeb y Myfyrwyr Caerdydd y Gwobrau Cenedlaethol Cymdeithasau yn y Neuadd Fawr. Mynychodd bron i 300 o fyfyrwyr, aelodau o staff a swyddogion sabothol o ledled y DU. I goroni noson ffantastig coronwyd ein Cymdeithas Dawnsio Bollywood fel Cymdeithas Celfyddydau a Pherfformio Gorau’r DU ac enillodd CoppaFeel y wobr am y Gymdeithas Gwirfoddoli ac Elusennol Orau

RHO GYNNIG ARNI Mae Rho Gynnig Arni yn raglen amgen, nad yw’n seiliedig ar aelodaeth o ddigwyddiadau, gweithgareddau, a theithiau yn galluogi myfyrwyr i ymgysylltu mewn nifer o weithgareddau a gwasanaethau’r Undeb heb unrhyw ymrwymiad. Bellach yn ei thrydedd blwyddyn gweithredol, ymgysylltodd dros 5,500 o fyfyrwyr unigol gyda gweithgareddau, a cynigiodd dros 200 o Glybiau Chwaraeon a Chymdeithasau sesiynau blasu yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr geisio pethau newydd a chwrdd a phobl. Cynhaliwyd teithiau diwrnod i Gôr y Cewri, Y Gwyr, Rhydychen, Bryste, Arfordir Jwrasig, Brighton, Caergrawnt, Caerfaddon a Birmingham, tra cynhaliwyd teithiau preswyl i roi’r cyfle i fyfyrwyr brofi llefydd pellach i ffwrdd megis Prag a Madrid. Hwyluswyd y trip hwn gan ddefnyddio grŵp

26.

brwdfrydig o wirfoddolwyr myfyrwyr a roddodd o’u hamser a dysgu sgiliau newydd.

CYFRYNGAU MYFYRWYR Mae’r Undeb yn cefnogi amrywiaeth eang o allfeydd cyfryngau dan arweiniad myfyrwyr – papur newydd Gair Rhydd, cylchgrawn Quench, Xpress Radio a CUTV. Mae’r grwpiau cyfryngau hyn yn cael eu rhedeg fel cymdeithasau ac yn cynhyrchu cynnwys cyfryngau ar gyfer holl fyfyrwyr Caerdydd.

“Fe gafodd y myfyrwyr a roddodd o’u hamser i ennill profiadau gwerthfawr ym myd y cyfryngau flwyddyn llwyddiannus yn 2017-18. Enwebwyd Xpress Radio ar gyfer y Brandio Gorau ac ennill Efydd ar gyfer y Rhaglen Araith Orau yn y Gwobrau Radio Myfyrwyr 2017. Yng Ngwobrau Cyhoeddi Rhanbarthol

Myfyrwyr Cymru 2017, enillodd Gair Rhydd Newyddiaduraeth sy’n cael Effaith Gorau ac enillodd Quench Cyhoeddiad Gorau a Newyddiadurwr Gorau.” - Cyfryngau Myfyrwyr




Cymorth A Chefnogaeth I Newid Bywyd Yn 2017 - 2018, fe welodd Undeb y Myfyrwyr gynydd o 83% mewn niferoedd y myfyrwyr yn derbyn cymorth ac arweiniad gan ein gwasanaeth Cyngor i Fyfyrwyr ymroddgar. Ymwelodd 4,195 o fyfyrwyr Cyngor i Fyfyrwyr am help a chefnogaeth ar faterion academaidd, tai, ariannol a phersonol. Fe ddefnyddiwyd y gwasanaeth annibynnol a chyfrinachol gan dros 1,108 o fyfyrwyr UE a rhyngwladol, 747 myfyrwyr aeddfed, 708 o fyfyrwyr ôl-raddedig, 625 o fyfyrwyr Gofal Iechyd a 109 o fyfyrwyr rhan-amser. Helpodd ein tîm arbenigol o staff, 1,157 o fyfyrwyr ymgysylltu gyda’r weithdrefn amgylchiadau esgusodol i ddiogelu eu buddiannau academaidd. Fe helpom 712 o fyfyrwyr i wneud cais am apêl academaidd yn erbyn eu canlyniadau ac fe wnaethom ni gefnogi 157 myfyriwr drwy achosion ymarfer annheg cymhleth. Siaradom gyda 148 o fyfyrwyr a oedd yn ystyried tynnu’n ôl o astudio neu wneud cais i gael gohiriad o astudio. Cefnogodd ein tîm 90 o fyfyrwyr drwy ymchwiliadau yn seiliedig ar disgybledig a chynrychioli dros 40 o fyfyrwyr ar Baneli Prifysgol. I gyd fe dreuliom 56 awr yn eistedd yn yr adran achosion brys gyda myfyrwyr yn agored i niwed. Mae’r ymadrodd ‘iselder neu orbryder’ yn ymddangos mewn dros 850 o nodiadau achos

myfyrwyr. Mae syniadau am hunanladdiad yn thema mewn nodiadau achos dros 100 o fyfyrwyr. Mae gan dri aelod tîm gymwysterau cwnsela ac mae bob un wedi derbyn hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl. Mae dau aelod o’r tîm yn gymwys i ddarparu cwrs ‘Ymwybyddiaeth Hunanladdiad’ dwy awr o hyd ac rydym yn anelu i ddarparu hyn i dros 500 o fyfyrwyr yn 2018- 2019. Fe ddarparom gyngor cyfreithiol i dros 1,400 o fyfyrwyr mewn perthynas a materion tai. Fe gynghorom dros 812 o fyfyrwyr a oedd mewn anghydfod gyda’u landlord neu asiantaeth gosod tai. Fe wiriom 424 cytundeb tenantiaeth a chyfeirio dros 385 achos o ddadfeiliad tai i’r Awdurdodau Gorfodi Tai Lleol. Darparom gyngor i fyfyrwyr yn ymdaeru dros £300,000 o flaendaliadau tenantiaid. Cefnogodd ein tîm o staff grwpiau myfyrwyr ymroddgar a ddosbarthodd dros 4,000 o gondomau ac ateb 2,000 o alwadau Llinell Nos. Fe gefnogom 8 ymgyrch yn seiliedig ar les a buddsoddi dros £2,000 mewn negeseuon cyfathrebu yn seiliedig ar les. Derbyniodd ein gwefannau ‘Help a Chymorth’ dros 75,000 golwg unigryw ac fe fuddsoddom dros 800 o oriau staff i sicrhau fod ein gwefannau yn cael eu diweddaru. Yn 2017 fe wnaethom recriwtio mwy na 400 o wirfoddolwyr myfyrwyr angerddol i gefnogi

pontio myfyrwyr i fywyd prifysgol yn ystod Wythnos y Glas. Gadawom a hyfforddi 35 gwirfoddolwyr-myfyrwyr i gynorthwyo ein gweithdrefnau dydd i ddydd. O ganlyniad, fe ddosbarthodd ein desg derbynfa a arweiniwyd gan wirfoddolwyr dros 2000 o achosion myfyrwyr a delio gyda 1,600 o ymholiadau myfyrwyr. Fe grynhowyd dros 13,000 o oriau gwirfoddoli yn 2017 - 2018, sy’n gyfwerth i dros £100,000 mewn costau staff. Derbyniodd bob gwirfoddolwr 40 awr o hyfforddiant, ymgeisiodd saith am y swyddfa sabothol a daeth 13 yn aelodau cyflogedig o staff mewn Addysg Uwch. Fe ddosbarthodd un gwirfoddolwr 64 mins pei i fyfyrwyr a oedd yn astudio yn ein adeilad ar Ddiwrnod Nadolig hyd yn oed.

“ Fe gynhaliom dri sesiwn syniadau gwreiddiol gyda ein Pwyllgor Gwaith Gwirfoddoli a awgrymodd ein bod ni’n eu helpu nhw i lansio tri Gwasanaeth dan Arweiniad Myfyrwyr (Gofalu am eich Pen, Gweithredu Tai a Siarad Allan). Bydd y gwasanaethau newydd gwych hyn yn lansio ar gyfer myfyrwyr yn ystod 2018-19.” - Cyngor i Fyfyrwyr

29.


Gwasanaethau Dan Arweiniad Myfyrwyr Mae Gwasanaethau Dan Arweiniad Myfyrwyr yn grwpiau myfyrwyr sy’n dod at ei gilydd i ddarparu gwasanaethau i fyfyrwyr eraill a chymuned lleol Caerdydd. Mae’r myfyrwyr sy’n cymryd rhan fel rheol yn gwirfoddoli eu hamser i redeg y prosiectau, digwyddiadau neu wasanaethau ac o hyd yn chwilio am aelodau newydd i ymuno.

LLINELL NOS Mae Llinell Nos Caerdydd yn wasanaeth ffôn cyfrinachol dan arweiniad myfyrwyr. Mae gwirfoddolwyr yn darparu gwybodaeth ac yn cynnig clust i wrando i fyfyrwyr yn ardal Caerdydd. Mae’r Llinell Nos yn agored bob nos yn ystod y tymor rhwng 8pm a 8am. Mae’r gwirfoddolwyr yno i wrando ar fyfyrwyr sy’n dymuno i drafod rhywbeth yn gyfrinachol. Nid yw’r gwasanaeth yn rhoi cyfarwyddyd, dangos beirniadaeth nac yn cynghori ac mae’n cadw pawb yn ddienw ar y ddwy ochr.

SHAG Mae SHAG! yn wasanaeth dan arweiniad myfyrwyr yn ymrwymedig i gynyddu

30.

ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ar faterion iechyd rhywiol sylfaenol. Maent yn grŵp o fyfyrwyr gwirfoddol hynod o angerddol wedi ymrwymo i gynorthwyo lles corff myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Mae gwirfoddolwyr yn gweithio yn agos gyda staff a Swyddogion Sabothol yn Undeb y Myfyrwyr a amryw o sefydliadau iechyd rhywiol i ddarparu gwybodaeth gywir a pherthnasol. .

MEDDYLIAU MYFYRWYR CAERDYDD Mae Meddyliau Myfyrwyr Caerdydd yn helpu i gefnogi i fyfyrwyr gyda anhwylderau bwyta drwy hwyluso grwpiau cefnogi hunangymorth wythnosol. Maent hefyd yn anelu i godi ymwybyddiaeth o’r holl anhwylderau iechyd meddwl drwy ymgyrchoedd, a chynnal digwyddiadau codi arian drwy gydol y flwyddyn..

CEFNOGI EIN GRWPIAU CEFNOGAETH Cefnogodd ein staff tîm Cyngor i Fyfyrwyr grwpiau myfyrwyr ymroddgar a ddosbarthodd dros 4,000 o gondomau ac ateb 2,000 o alwadau Llinell Nos - llwyddiant a hanner!

“Yn ystod 2017-18, fe gefnogom ni grwpiau o fyfyrwyr i ddechrau datblygu gwasanaethau newydd dan arweiniad myfyrwyr. Bydd y gwasanaethau hyn yn cael eu lansio yn ystod blwyddyn academaidd 201819 a ffocysu ar dai, annog myfyrwyr i siarad ynglŷn â’u problemau a lles meddyliol.” - Cyngor i Fyfyrwyr




Adloniant, Lleoliadau a Arlwyo O fewn ein hadeilad Plas-y-Parc mae gennym ofod clwb nos tair ystafell, tafarn, lleoliad cerddoriaeth fyw mawr a gofod llai, fwy personol ar gyfer parti. Mae ein tîm Lleoliadau yn gweithio’n galed i ddarparu digon o gyfleoedd i’n aelodau myfyrwyr gael hwyl a chwrdd â ffrindiau newydd. Yn 2017-18 fe fynychodd, 58,685 o ddilynwyr cerddoriaeth ein sioeau cerddoriaeth byw (16,493 yn fwy na llynedd) gyda 20 allan o 51 sioe yn gwerthu allan yn gyfan gwbl. Bob blwyddyn rydym yn cynyddu ac yn amrywio yr amrywiaeth o ffyrdd y gall myfyrwyr wneud y mwyaf o’u amser cymdeithasol. Mae hyn yn golygu ein bod yn edrych yn barhaol am ffyrdd newydd i helpu myfyrwyr i gymdeithasu, cwrdd â ffrindiau newydd a mwynhau eu hamser yn byw yng Nghaerdydd. Dros gyfnod yr haf 2018, fe gydweithiom gyda’r Swyddogion LHDT+ i drefnu ein digwyddiad LHDT+ cyntaf erioed yn ystod y Glas. Rydym yn gwybod ei fod yn anodd canolbwyntio gyda stumog wag, felly rydym yn

cymryd ein cenhadaeth i fwydo ein myfyrwyr am bris fforddiadwy o ddifrif. Y 2017-18, fe weinom 1,067 o nachos wedi eu llwytho a 2,800 cinio Dydd Sul i fyfyrwyr llwglyd yn y Taf. Fe wnaethom hefyd werthu 1,400 o’n melts cyw iâr barbeciw a bacwn ac fe ddathlom gyda 1000 o brydau Nadolig. Ynghyd ar holl fwyd, fe weinom 4 tryc tancer o VK a 232 bath o gwrw.

“ Mae ein tîm Lleoliadau yn awyddus i wneud profiad y cwsmer yn well i fyfyrwyr sy’n mynychu ein digwyddiadau gyda’r nos. Yn dilyn adborth gan fyfyrwyr yn 2017-18, fe wnaethom ni adolygu a gwella ein systemau ciwio, agor mwy o doiledau yn yr adeilad, a chyflwyno bariau heb arian parod i gyflymu’r gwasanaeth.” - Tîm Lleoliadau

33.



Gosod Tai Myfyrwyr Caerdydd Gosod Tai Myfyrwyr Caerdydd

Manwerthu Llawr Gwaelod

Mae Gosod Tai Myfyrwyr Caerdydd, asiantaeth gosod tai Undeb y Myfyrwyr, wedi bod yn gweithio’n galed i ddarparu tai ar gyfer myfyrwyr ers 2006. Ers dros i ddegawd, maent wedi arbed arian myfyrwyr yn gyson drwy beidio codi ffioedd asiantaeth. Yn 2017-18 fe wnaethon nhw gartrefu 1,231 o fyfyrwyr, ac arbed £123,100 iddynt (yn seiliedig ar ffi asiantaeth o £100 y person) Maent hefyd yn teithio 500 milltir ar gyfartaledd y mis, yn cludo myfyrwyr i ac o ymweliadau.

2017-2018 oedd y flwyddyn gyntaf ym modolaeth y llawr gwaelod yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau ar draws 15 o wahanol ganolfannau manwerthu. Yn newydd i 2017-2018 oedd cyflwyniad Repair IT, gwasanaeth atgyweirio ffonau symudol, gliniaduron a chyfrifiaduron. Ym mis Tachwedd 2017 agorodd Uni Hair and Beauty eu drysau yn cynnig rhestr o wasanaethau gwallt a harddwch. Mae gofod y llawr gwaelod yn gartref i amrywiaeth o fanwerthwyr cenedlaethol a lleol oll gyda gofynion ac anghenion y myfyrwyr yn arwain eu gweithrediadau. Ar ddiwedd 2017/2018 roedd pob uned wedi eu gosod yn llwyddiannus.

“Dywedodd myfyrwyr wrthym ni yn anuniongyrchol nad oedd ein gwefan mor dda ag y gallai fod, felly rydym wedi gweithio gyda Datblygu Gwefannau i wella ein presenoldeb ar-lein.” - Gosod Tai Myfyrwyr Caerdydd

Swyddfa Bost Mae’r Swyddfa Bost nawr yn ei ail flwyddyn yn gweithredu, yn profi yn fythol boblogaidd gyda ein aelodau myfyrwyr, Staff Prifysgol Caerdydd a’r cyhoedd. Yn y flwyddyn diwethaf rydym wedi profi cynydd o 100% mewn gweithgaredd. Mae dros 55,000 o weithredoedd masnachol wedi cael eu prosesu drwy ein cownter Swyddfa Bost rhwng Awst 2017 a Gorffennaf 2018.

35.


Caru Caerdydd

Fe ehangwyd gweithrediadau Caru Caerdydd, ein siop ddillad a nwyddau, ar ddechrau 2017/2018. Yn agor siop ar lawr gwaelod ar y 4ydd o Fedi yn gyda phreswyl mewn uned yn wynebu’r blaen a oedd gynt yn Housing Inc. I ddechrau roedd y ddwy siop (Llawr gwaelod a’r Ail Lawr) yn weithredol. Wedi gweld fod mwyafrif o drosglwyddiadau gwerthiant i’r siop llawr gwaelod blaenllaw newydd gwnaethpwyd penderfyniad i gau y safle ar yr 2il lawr er mwyn defnyddio’r gwagle hwn i ehangu gofod gymdeithasol Y Taf. Mae Caru Caerdydd wedi cael blwyddyn arall o lwyddiant a chynydd; yn dyblu ffigyrau gwerthiant 2016/2017. Efelychwyd patrwm o’r fath ar draws ein stondin dros dro yn ystod y Graddio, bellach yn ei thrydedd blwyddyn fe llwyddom ni gynyddu gwerthiant 100% blwyddyn ar flwyddyn unwaith yn rhagor. Rydym yn sicrhau y dewisir nwyddau gyda safon a gwerth mewn golwg, gan sicrhau eu bod yn addas i fyfyrwyr yn eu cynllun, yn ogystal â hyn mae bob dilledyn yn cael eu prynu yn foesegol. Ym mis Rhagfur 2018 gwelwyd ail-lansiad ein siop ar-lein, yn ehangu ein gwasanaethau i ddarparu opsiwn ddosbarthu i archebion y DU a Rhyngwladol. Mae dros £7,000 o Werthiant Ar-lein llwyddiannus rhwng Rhagfur a Gorffennaf.

36.

“Fe wnaethom i dderbyn adborth gan fyfyrwyr rhyngwladol a graddedigion eu bod nhw eisiau gallu prynu ein nwyddau wedi eu brandio ar-lein felly fe wnaethon ni gyflwyno amrywiaeth yn shop. cardiffstudents.com ym mis Tachwedd 2017 gyda opsiynau cludo Rhyngwladol, UE a’r DU ar gael, yn ogystal â Clicio a Chasglu.” - Caru Caerdydd




Parc y Mynydd Bychan Undeb y Myfyrwyr yn y Mynydd Bychan yw ein hail safle yn benodol ar gyfer ein myfyrwyr sydd yn astudio ar safle ysbyty y Mynydd Bychan. Rydym wedi bod yn gweithio dros y blynyddoedd diwethaf i gynyddu faint rydym ni’n ymgysylltu gyda’r grŵp hwn ac mae’n ffocws parhaol i’r sefydliad. Mae ennill gwell dealltwriaeth o anghenion myfyrwyr Parc y Mynydd Bychan wedi bob yn hynod bwysig er mwyn cynyddu ymgysylltiad. Er enghraifft yn seiliedig ar adborth myfyrwyr ar wythnos y glas, ymholiadau wyneb yn wyneb a chardiau Wythnos Siarad, fe ehangodd Ffair Y Glas Y Mynydd Bychan i 84 stondin a gosodwyd arsyllfa i gynnwys mwy o glybiau/cymdeithasau a chwmnïau allanol. Fe gyrhaeddodd nifer cofrestradau’r Siopswyddi y Mynydd Bachan uchelfannau newydd gyda dros 400 o fyfyrwyr yn ymuno a’r gampws Y Mynydd Bychan. Rhoddodd y Siopswyddi ynghyd â IL Campws Parc Y Mynydd Bychan fwy o sylwadau allan ar y cyfryngau cymdeithasol a hysbysebu’r gwasanaeth wyneb yn wyneb gyda myfyrwyr i’w gwneud nhw’n ymwybodol fod y wasanaeth ar gael yn barod yn y Mynydd Bychan rhwng 09:00-17:00 yn ystod yr wythnos. Defnyddiodd mwy a holodd mwy o fyfyrwyr

ynglŷn â’r gwasanaeth Cyngor i Fyfyrwyr. Hyrwyddwyd y gwasanaeth hwn eto drwy gyfrwng y cyfryngau cymdeithasol a thrwy cysylltiadau gyda staff darlithio wedi i rai myfyrwyr adrodd yn ôl nad oeddynt yn gwybod lle i droi gyda rhai materion. Rhoddwyd cynlluniau yn eu lle a phenderfynwyd ar ddyluniad ar gyfer ailwampio Caffi’r Lolfa IV. Mae myfyrwyr wedi rhoi adborth cyson drwy yr Wythnos Siarad, cyfarfodydd wyneb yn wyneb, sylwadau a data wedi ei gofnodi o arolygon eu bod nhw eisiau i’r Lolfa IV gael ei adfywio a bod yn fwy cyfforddus i fwyta ynddo, yn ogystal a’i wneud yn fwy o fan astudio. Gweithiodd Undeb y Myfyrwyr mewn partneriaeth gyda’r Brifysgol i gynnal grwpiau adborth er mwyn galluogi’r myfyrwyr i fwydo’n uniongyrchol i mewn i’r cynlluniau dylunio a ddefnyddiwyd i adnewyddu’r gofod hwn. Rhoddwyd mwy o arwyddion Undeb y Myfyrwyr i fyny o amgylch y campws oherwydd i ni dderbyn adborth myfyrwyr nad oedd Undeb y Myfyrwyr yn ddigon gweladwy ac nad oedd rhai myfyrwyr yn ymwybodol o’r lleoliad. Roedd arwyddion newydd yn cynnwys labeli drysau ystafelloedd cwrdd, a arwydd mawr ar wal allanol i gyfeirio myfyrwyr i mewn i Undeb y Myfyrwyr a sticeri lloriau i arwain myfyrwyr ar draws o leoliadau’r brifysgol.

Bob blwyddyn ym mis Mawrth, mae myfyrwyr nyrsio yn ymrestru yn y Brifysgol. Mae’r grwp yn aml yn medru teimlo wedi eu dad gysylltu oherwydd nad ydynt yn cyrraedd yn ystod y prif gyfnod cynefino. Cyflwynodd IL y Mynydd Bychan helfa drysor i ymgysylltu ac addysgu myfyrwyr nyrsio mis Mawrth ar beth oedd gan y Mynydd Bychan i’w gynnig. Dilynodd 100 o fyfyrwyr nyrsio gliwiau a arweiniodd nhw o amgylch y campws i’r adeiladau a fyddai’n rhaid iddynt ymweld a gweithio ynddyn nhw yn ystod eu cyfnod yn Brifysgol. O ganlyniad i lwyddiant ysgubol yr helfa drysor, gofynnodd y Brifysgol i ni gynnal yr un helfa drysor yn ystod cyfnod cynefino Wythnos y Glas yn 2018.

“O ganlyniad i adborth y myfyrwyr drwy yr Wythnos Siarad, y cyfryngau cymdeithasol, cyfarfodydd wyneb yn wyneb a sylwadau yn ystod ymgyrchoedd fe gydnabuwyd fod angen gosod mwy o rheseli beiciau i fyfyrwyr ar gampws y Mynydd Bychan. O ganlyniad i’r bartneriaeth hon gyda’r Brifysgol a Ymddiriedolaeth y GIG gosodwyd 70 o reseli beiciau newydd ar safle’r Mynydd Bychan ym mis Mai.”

39.



Cymraeg Fel sefydliad ym mhrifddinas Cymru, rydym yn hynod o falch o’n treftadaeth a’n diwylliant Cymraeg.

DOD YN SEFYDLIAD DWYIEITHOG

Cydlynydd Yr Iaith Gymraeg a nifer o fyfyrwyr a oedd yn siaradwyr Cymraeg.

@UNDEBMYFYRWYR

Lansiwyd ein polisi dwyieithog yn gyhoeddus i fyfyrwyr ym mis Tachwedd 2016. Yn ystod y 12 mis cyntaf o weithredu, mae 93% o’r pwyntiau gweithredu yn y Polisi naill ai wedi’u cwblhau ac yn cael eu gweithredu, neu rydym ar y trywydd iawn er mwyn eu darparu. Dwy flynedd wedi i’r Polisi fod mewn grym, mae 97% o’r pwyntiau gweithredu naill llai wedi eu cwblhau ac yn cael eu gweithredu, neu ar waith.

Ers sawl blwyddyn, rydym wedi bod yn cyfathrebu gyda myfyrwyr drwy gyfrifon ymrwymedig i’r Iaith Gymraeg ar Facebook a Trydar. Eleni fe gyrhaeddon ni 1,000 o ddilynwyr ar @UndebMyfyrwyr ar Trydar sy’n ein gwneud ni’n hynod gyffroes! Rydym hefyd wedi dechrau darparu deunydd wedi ei dargedu drwy’r sianeli hyn, yn ogystal a ^ dyblygu cynnwys ein sianeli cyfrwng Saesneg i sicrhau ein bod ni’n cyfathrebu’n ddwyieithog.

UNDEB MYFYRWYR CYMRAEG CAERDYDD (UMCC)

CELEBRATIONS

Mae UMCC yn Undeb newydd o fewn yr Undeb sy’n cynrychioli siaradwyr a dysgwyr Cymraeg. Lansiwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd ym mis Awst 2018. Yn ystod 2017/18, sefydlwyd UMCC a’r Fforwm Integreiddio Cymdeithasol gyda’r nod o greu yr UMCC newydd. Roedd y Fforwm yn cynnwys Llywydd Undeb y Myfyrwyr, Is-lywydd Cymdeithasau, Swyddog yr Iaith Gymraeg,

Bob blwyddyn, rydym yn dathlu diwrnodau a^ arwyddocâd diwylliannol gan gynnwys Diwrnod Shwmae Su’mae ym mis Hydref a Dydd Gwyl Dewi ym mis Mawrth. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda Thîm Cymraeg i Bawb y Brifysgol i hyrwyddo cyfleoedd i ddysgu Cymraeg i fyfyrwyr. Yn ystod Wythnos Y Glas, fe wnaethon ni hefyd gynnig sesiynau dysgu Cymraeg drwy ein rhaglen Rho Gynnig Arni, yn caniatáu myfyrwyr i ddysgu ymadroddion syml i roi cychwyn arni.

“Fe wnaethom ni arbrofi gyda phostio rhai deunydd pwrpasol ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol Cymraeg a cafwyd ymateb gan fyfyrwyr. Yn seiliedig ar hyn, rydym yn cynyddu ein deunydd pwrpasol i ymgysylltu gyda mwy o fyfyrwyr!” - Tîm Marchnata a Chyfathrebu

41.


Cyllid Roedd perfformiad ariannol yr Undeb yn 2017/18 yn rhagorol ac yn dilyn y trosiant mewn perfformiad a enillwyd yn 2016/17. Parhaodd yr Undeb ei dwf o fewn ei weithgareddau masnachol ac elusennol a rhagorodd yr incwm cyffredinol £9 miliwn am y tro cyntaf. I gyd gwnaeth y Grŵp incwm net o £262K (wedi cyfraniadau diffygion dibrisiad a phensiwn) a symudodd o £121K rhwymedigaethau net i £689K asedau net presennol.

CRYNODEB UMPC

Parhaodd is-gwmni masnachu’r Undeb, GUCC, i gynyddu ei incwm yn 2018 gyda throsiant o £4,501K. Fe wnaeth y cwmni masnachu wneud elw ariannol gweithredol o £324K ar ôl codi tâl dibrisiant o £683K, gyda £602K yn codi o ddibrisiant adeilad yr Undeb.

Derbyniodd yr Undeb gynnydd cymedrol mewn grant bloc gan Brifysgol Caerdydd (£119K) o’u gymharu â’r flwyddyn flaenorol, a oedd yn bwysig i sicrhau fod yr Undeb yn medru cyrraedd eu costau pensiwn cynyddol heb ostwng cyllid ar gael ar gyfer gweithgareddau a chynrychiolaeth myfyrwyr. Mae’r Undeb yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth ychwanegol gan y Brifysgol ac yn cydnabod incwm presennol a chyfyngiadau gwariant y Brifysgol.

Disgynnodd rhwymedigaethau dyfodol yr Undeb i’w cynllun pensiwn, Cynlluniau Pensiwn Undeb y Myfyrwyr (SUSS), o £4,428K i £4,408K ar ôl diffyg taliadau cyfraniadau diffygion a datod y gostyngiad. Cafodd y cynllun ei gau i goroni dyfodol yn 2011 ac mae’r undeb yn fodlon fod ganddynt y cyllid i gwrdd â’u goblygiadau dros gwrs bywyd y cynllun adfer diffyg ariannol hyd at 2033 .

42.

Cynyddodd incwm ymgysylltiad a chyfranogiad myfyrwyr o £279K yn y flwyddyn, o ganlyniad i gynnydd sylweddol mewn gweithgaredd o fewn y Siopswyddi, Rho Gynnig Arni, Cymdeithasau a’r Drafnidiaeth. Mae’r cynnydd incwm hwn yn adlewyrchu’r cynnydd cyffredinol o ymgysylltu yn y gweithgareddau hyn, sy’n darparu buddiannau ariannol pellach yn ogystal â buddiannau anariannol.

CRYNODEB CUSL

Parhaodd gweithgareddau masnachu’r Undeb i dyfu gyda throsiant ychwanegol, elw gros a llif arian parod o weithgareddau parhaol. Roedd cynnydd sylweddol mewn incwm o adloniant gyda’r nos, gosod tai, gwerthiant hysbysebu a mannau wedi eu gosod. Ar ddiwedd blwyddyn fe wnaeth y Cwmni elw gweithredol o £324K, yn parhau gyda’r datblygiad a wnaethpwyd yn 2016/17. Fe gynyddodd trosiant GUCC i £4,501K yn ystod y flwyddyn a chostau gweinyddol yn gostwng i £3,592K yn creu elw cyn treth am y tro cyntaf ers rhwymedigaethau pensiwn a chostau dibrisiad adeilad gael eu cydnabod. Er y croesawir elw cyfrifeg, mae’n annhebygol y caiff ei gyflawni mewn blynyddoedd i ddod oherwydd effaith costau cyfrifeg pensiwn a dibrisiad adeilad yr Undeb..


Incwm a Gwariant

Datganiadau gweithgaredd ariannol cyfunol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Gorffennaf 2018

2018 Cyllid Anghyfyngedig £

2018 Cyllid Cyfyngedig £

2018 2017 Cyfanswm Cyllid £ Cyfanswm Cyllid £

2,925,000 2,115,910 4,500,911 787 9,542,608

30,883 - - - 30,883

2,955,883 2,115,910 4,500,911 787 9,573,491

2,806,000 1,856,246 3,975,803 424 8,638,473

Codi cyllid Gweithgareddau Elusennol Cyfanswm Gwariant:

6,064,629 3,237,732 9,302,361

- 9,087 9,087

6,064,629 3,246,819 9,311,448

7,657,086 2,946,177 10,603,263

Incwm Net/ (gwariant) a Mudiad Net yn y gronfa

240,247

21,796

262,043

(1,964,790)

8,519,492 8,759,739

- 21,796

8,519,492 8,871,535

10,484,282 8,519,492

INCWM O: Rhoddion a chymynroddion Gweithgareddau Elusennol Gwiethgareddau Masnachol Eraill Buddsoddiannau Cyfanswm Incwm:

GWARIANT AR:

CYSONI CRONFEYDD: Cyfanswm yr arian a ddygwyd ymlaen Cyfanswm yr arian a gariwyd ymlaen

43.


Y Fantolen

Mantolen Cyfnerthedig ar 31 Gorffennaf 2018 2018 £

2017 £

ASEDAU SEFYDLOG Asedau diriaethol 12,426,877 12,995,212 Buddsoddion 73,563 73,563 Cyfanswm Asedau Sefydlog 12,500,440 13,068,775

ASEDAU PRESENNOL Stociau Dyledwyr Arian yn y banc ac mewn llaw Cyfanswm asedau presennol

39,936 539,582 1,174,851 1,754,369

41,387 441,917 469,186 952,490

RHWYMEDIGAETHAU CYFREDOL Credydwyr: symiau’n ddyledus (1,065,570) (1,073,810) cyn pen blwyddyn Asedau Net presennol/ (rhwymedigaethau) 688,799 (121,320) Cyfanswm yr asedau llai rhwymedigaethau cyfredol 13,189,239 12,947,455 Darpariaethau ar gyfer rhwymedigaethau (4,407,704) (4,427,963) Asedau Net 8,781,535 8,519,492

CRONFEYDD ELUSEN Cronfeydd Cyfyngedig Cronfeydd Dynodedig Cronfeydd Anghyfyngedig

Cyfanswm Cronfeydd

21,796 8,019,173 740,566 8,781,535

8,519,492 8,519,492


Llif Arian

Datganiad Ariannol Cyfunol o Lif Arian ar gyfer y flwyddyn ddaeth i ben 31 Gorffennaf 2018

2018 £

Llif Arian o Weithgareddau gweithredol: Net arian a ddarparwyd gan weithgareddau gweithredol Llif Arian a weithgareddau buddsoddi: Difidend, llog a rent o fuddsoddion Pryniant o Asedau Sefydlog Diriaethol Net arian a ddefnyddiwyd mewn gweithgareddau buddsoddi:

828,361

2017 £

253,815

787 (123,483) (122,696)

418 (52,789) (52,371)

Newid mewn arian parod a chyfwerth arian parod yn y flwyddyn:

705,665

201,444

Arian parod a Chyfwerth arian parod a ddygwyd ymlaen

469,186

267,742

Arian parod a chyfwerth arian parod a gariwyd ymlaen

1,174,851

469,186

45.


Cerdyn sgorio cytbwys 2018/19 CYF

GWEITHGARWCH

CEFNOGAETH

DEILLIANT

BODLONRWYDD AC YMGYSYLLTIAD

Sefydlu bob elfen mewnbwn y cynllun strategol 2018-21 i mewn i gylch cynllunio’r Undeb.

Arwain adolygiadau cyfnodol datblygiad gyda’r Uwch Dîm Reoli a adrodd datblygiad i’r Bwrdd Ymddiriedolwyr chwarterol

Bob aelod o’r Uwch Dîm Reoli i ymgysylltu

Bob rhan o’r strategaeth i gael cynlluniau gweithredu a staff yn gyfrifol am eu goruchwilio.

Org2

Cynnal 87% o foddhad cyffredinol myfyrwyr o fewn Arolwg Croeso i Gaerdydd a 90% yn y THE Student Experience Survey

Org3

Bob aelod o’r Uwch Dîm Reoli i ymgysylltu; Adnoddau hapddigwyddiadau i fod ar gael i gyhoeddi mynediad newydd/ neges gyfathrebu ‘busnes fel yr arfer’

Cyrhaeddir metrigau y ddau arolwg yn a phan yn briodol, mae ymchwil ychwanegol yn cael ei sefydlu i nodi rhesymau dros gynydd/gostyngiadau sylweddol

Bydd o leiaf 70% o fyfyrwyr yn cytuno fod yr Undeb yn cynrychioli eu buddiannau academaidd drwy’r NSS

Hyrwyddo a goruchwylio’r cynllunio a darpariaeth o weithgareddau’r Glas yr Undeb; Sicrhau rheolaeth cyffredinol effeithiol o’r Undeb a gweithio i sicrhau cyn lleied o ymyrraeth o ganlyniad i adeiladu’r Ganolfan Bywyd Myfyrwyr rhwng Medi a Rhagfyr 2018

Org1

Org4

Org5

O leiaf 74% o’r holl fyfyrwyr wedi ymgysylltu â’r Undeb yn ystod 2018/19 gyda dros 80% o fyfyrwyr sy’n graddio wedi ymgysylltu gyda’r Undeb cyn graddio. Datblygu a lansio strategaeth myfyrwyr Parc y Mynydd Bychan gan gynnwys mwy o gefnogaeth staff.

Sicrhau datblygiad T2 y strategaeth newydd; cytuno ar gyllid ar gyfer ac i gefnogi recriwtio cefnogaeth ychwanegol i staff Llais Myfyrwyr; sicrhau datblygiad cynllun cyfathrebu ar gyfer buddiannau academaidd penodol; comisiynu dadansoddiad o’r bylchau C26 ACF.

Cytunwyd ar gyllid ychwanegol ar gyfer cefnogi staff

Sefydlu grŵp tasg a chwblhau i ddatblygu strategaeth; nodi adnoddau i gyrraedd yr ymrwymiad staff

Cytunwyd ar gyllid ychwanegol ar gyfer cefnogi staff

DYSGU A DATBLYGU

Org 6

Bydd holl adrannau’r Undeb wedi datblygu cynllun adrannol i gefnogi strategaeth yr Undeb.

Bydd pob Pennaeth Adran yn creu cynllun gyda mewnbwn gan staff a gymeradwyir gan yr Uwch Dîm Reoli

Y teclyn ‘My Strategy’ i gael ei ddatblygu

Org7

Cyflawni statws 1-seren Best Companies ac chael ein lleoli ar restr y Sunday Times o’r 100 sefydliad gorau i weithio ynddynt.

Sicrhau fod yr Undeb yn mynychu gwobrwyau eleni a bod y mwyafrif llethol o staff yn llenwi’r arolwg; Ymateb i adborth staff gan y arolwg ymgysylltiad staff UCM; adrodd datblygiad yn Niwrnod Datblygiad Staff mis Medi, drwy e-byst y Prif Swyddog Gweithredol a chyfarfodydd sefydlu

Cefnogaeth ychwanegol i weithgareddau ymgysylltu aelodau staff gan y Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol a’r Pennaeth Cefnogaeth Gweithredol

Org9

Org10

I sefydlu prif flaenoriaethau ar gyfer y myfyrwyr yn astudio yng Nghasnewydd a’r Sgwâr Canolog ac i gael cynllun gweithredu ar sut i’w hateb.

I ddatblygu a lansio cynllun cyfathrebu a pherthnasau I lansio’r teclyn datblygiad ‘My Strategy’ a sicrhau fod gan bob staff gyrfa eu cynlluniau personol eu hunain.

Sefydlu grwpiau tasgu a chwblhau ar gyfer y ddau gampws; casglu ymchwil ac ymgysylltu gyda myfyrwyr presennol i sefydlu anghenion; datblygu cynlluniau gweithredu ar gyfer cyflwyno’n fewnol; i reolwyr prifysgol a rhanddeiliaid eraill

Cyflawnir y sgôr boddhad a/ neu caiff yr Undeb gwell dealltwriaeth o sut i wella’r sgôr hwn mewn blynyddoedd i ddod.

Gwell dealltwriaeth o ymgysylltiad yr Undeb gyda myfyrwyr yn ystod eu cylch bywyd academaidd, yn sicrhau y ceir gweithgareddau, gwasanaethau a chyfathrebu eu cynllunio yn well yn y dyfodol

I barhau’r cynydd blynyddol mewn gweithgareddau/ gwasanaethau myfyrwyr a chefnogi’r Cyfarwyddwr Ymgysylltu a Chyfranogi i gynhyrchu’r data a’r dadansoddi yn ymwneud â chyfranogiad yn ystod cylch bywyd academaidd

Org8

46.

NOD

Yr Uwch Dîm Reoli i gyd;

Cytunir ar a lansir strategaeth newydd; mwy o fyfyrwyr yn ymgysylltu gyda gweithgareddau’r Undeb yn ystod y flwyddyn gyda chynlluniau ar gyfer twf sylweddol mewn blynyddoedd i ddod. Bydd gan bob adran strategaeth wedi ei gymeradwyo a bydd bob tîm yn gweithio tuag at amcanion cyffredin wedi eu datganoli yn addas Cyflawnir statws seren 1 Best Companies a chyflawnir statws 100 Uchaf NFP Companies y Sunday Times

DYDDIAD CAU 30Ain Mehefin 2019

30Ain Ebrill 2019

31Ain Gorffennaf 2019

31Ain Gorffennaf 2019

31Ain Rhagfur 2018

31ain Rhagfur 2018

31ain Ionawr 2019

31ain Mawrth 2019 Cytunir ar flaenoriaethau a chynlluniau gweithredu

31ain Ionawr 2019

I weithio gyda’r Cyfarwyddwr Cyfathrebu i ddatblygu cynllun cyfathrebu a pherthnasau, yn cyfeirio at y materion gwirioneddol neu dybiedig a godir o fewn QSU UCM ac adolygiad perthnasau wedi ei gomisiynu

Mewnbwn ymchwil gan Marchnata a Chyfathrebu

Bydd bob staff yn adolygu eu hamcanion gwaith a datblygiad personol o dan y llwyfan ‘My Strategy’ gwell

Dirprwy Prif Swyddog Gweithredu; Adnoddau Dynol

Datblygir cynllun, wedi ei lansio ei ddeall a’i gefnogi gan brif rhanddeiliaid, yn cynnwys prif arweinwyr y brifysgol 31ain Hydref 2018 Bydd gan bob aelod o staff eu cynlluniau eu hunain; gall yr Undeb gysylltu ei strategaeth i weithgareddau ei holl weithwyr

EFFAITH

DOLEN

Cynllwynwyd pob rhan o’r strategaeth newydd a dechreuodd gwaith ym mlwyddyn un, yn sicrhau fod yr Undeb yn (neu yn ceisio) gwneud yr hyn mae’n dweud y bydd yn ei wneud.

Y Cyfan

Bydd mwy o fyfyrwyr yn fodlon gyda’r Undeb nag unrhyw adeg arall, ers i farciau bodlonrwydd gael eu cofnodi

T1: Wrth galon bywyd myfyrwyr; E4: Technoleg Ddigidol

Bydd mwy o fyfyrwyr yn cytuno fod yr Undeb yn cynrychioli eu buddiannau academaidd

T2: Cartref Tîm Llais y Myfyrwyr; E4: Technoleg Ddigidol

Twf parhaus mewn ymgysylltiad myfyrwyr; gwell hygrededd mewn priodoli rôl mae’r Undeb yn ei chwarae ym mhrofiad y myfyrwyr, posibilrwydd o gynllunio gwasanaeth gwell

T1: Wrth galon bywyd myfyrwyr

Gostyngiad mewn bwlch boddhad rhwng y ddau gampws; dealltwriaeth pellach o anghenion y Mynydd Bychan; gwell hygrededd ar gyfer yr Undeb yn cynrychioli ‘bob’ myfyriwr.

T4: Ymgysylltu gyda’n cymunedau llai cysylltiedig

Dealltwriaeth gwell o gynlluniau’r Undeb; mwy o weithgareddau mewn cefnogaeth ar gyfer Strategaeth yr Undeb; mwy o gynnwys staff mewn amcanion y tu hwnt i ddeilliannau gweithredol o dimau unigol

Y Cyfan

Gwell morâl staff yn arwain at berfformiad gwaith gwell; cynyddu hygrededd gyda ymgeiswyr posibl ar gyfer recriwtio staff; Cynyddu hygrededd gyda’r Brifysgol Myfyrwyr yn y ddau gampws yn teimlo’n fwy o ran o’r Undeb ac o ganlyniad bydd gwell bodlonrwydd a ymgysylltiad mewn blynyddoedd i ddod Disgwyliadau clir wedi eu sefydlu yn fewnol; dyheadau wedi eu gwneud yn glir i brif rhanddeiliaid; gwell cyfathrebu a pherthnasau gyda myfyrwyr a rhanddeiliaid eraill Bydd o amser ac egni yn ffocysu ar ddarparu blaenoriaethau’r Undeb a gytunir arnynt; bydd staff yn teimlo’n fwy cysylltiedig gyda meini prawf llwyddiant yr Undeb; bydd staff yn gwerthfawrogi’r pwyslais mae’r Undeb yn ei roi ar eu datblygiad personol

E1: Pobl

T4: Ymgysylltu gyda’n cymunedau llai cysylltiedig; E4: Technoleg Ddigidol

Y cyfan; Perthynas â PC; E4 Technoleg Ddigidol

Y Cyfan/ E1: Pobl


CYF

NOD

CYNALIADWYEDD

Org11

Cyflawni’r cyllideb arian dros ben a’r sefyllfa arian parod ar gyfer grŵp cwmnïau ar gyfer 2018/2019

Org12

Cyflawni sefyllfa incwm cyffredinol a gyllidwyd ar gyfer GUCC, gan gynyddu elw a/neu gynyddu’r buddiannau cytundeb lliniaru CSL yr Undeb

Org13

I gytuno ar gyllid a datblygiad o leiaf dau achos busnes mewn perthynas â gwelliannau adeilad yr Undeb

Org14

Wedi creu a lansio rhaglen effeithiolrwydd adnoddau a chyflawni’r arbedion a nodir yn nghyllid 2018/19

Org15

I adolygu cynaladwyedd tymor-hir ein gwarged presennol yn cynhyrchu gweithgareddau ac i lansio gweithgaredd cynhyrchu incwm newydd neu un wedi adnewyddu

GWEITHGARWCH Sicrhau fod yr Uwch Dîm Reoli yn cael trosolwg o’r cyllid drwy gyfrifon rheoli misol a ffigyrau cyllidol wythnosol; i ymateb i berfformiad andwyol yn sydyn o fudd ac yn ôl buddiannau tymor hir yr Undeb

CEFNOGAETH

Pennaeth Cyllid

Gweithredu’r cynlluniau busnes a gytunwyd gan y Bwrdd GUCC; sicrhau fod y llwyfan prynu newydd Y Glas yn llwyddo twf incwm; yn sicrhau cyflwyno system EPOS Lleoliadau; yn sicrhau fod y Brifysgol yn cwrdd a’u rhwymedigaethau cytundebol a ‘mewn nwyddau’ i‘r Undeb o ganlyniad i’r ymyrraeth Ymchwilio, ysgrifennu a chreu cefnogaeth ar gyfer achosion busnes ar gyfer gwelliannau i adeilad yr Undeb; Cael cytundeb gan aelod o Bwrdd Gweithredol y Brifysgol i noddi o leiaf un o’r achosion busnes Nodi arbedion effeithlonrwydd angenrheidiol tebygol ar gyfer 2019/20 a 2020/21; sefydlu rhaglen ar gyfer staff i gyflwyno syniadau ar gyfer arbedion cenhedlaeth / effeithlonrwydd incwm newydd; sefydlu cynllun newydd yn seiliedig ar effaith sefydliadol ar dwf yn y dyfodol

DEILLIANT

DYDDIAD CAU

DOLEN

DYSGU A DATBLYGU

Bydd yr Undeb yn cyflawni ei gwarged cyllidol ar gyfer y flwyddyn

31ain Gorffennaf 2019

Bydd yr Undeb yn parhau ar y trywydd cywir i gwrdd â dyheadau cyllid tymor hir; bydd yr Undeb yn parhau i ymchwilio mewn i’w seilwaith

E2: Cyllid

Bydd y Cwmni yn cyflawni eu lefel elw dymunol ac yn rhoi’r arian hwnnw yn rhodd i UMPC i wario ar weithgareddau elusennol

31ain Gorffennaf 2019

Bydd yr Undeb yn cynnal ac yn tyfu ei incwm hunan gynhyrchiol, yn sicrhau twf yn ystod cyfnod o grantiau bloc cynyddol cyfyngedig gan Brifysgol Caerdydd

E2: Cyllid

Bydd gan adeilad yr Undeb mwy o ddefnydd, yn fwy aml ar gyfer ein myfyrwyr; bydd yr Undeb yn lleihau ei gorbenion cynaliadwy; mwy o incwm ac ymgysylltu posib a fydd yn deillio o’r mannau wedi’u hailwampio; gwell integreiddio gyda adeilad y Ganolfan Bywyd Myfyrwyr

T3: Cyfleusterau a gwasanaethau sy’n arwain y sector; E3: Cyfleusterau

Bydd yr Undeb yn parhau ei adferiad ariannol ac yn sicrhau os yw’n cwrdd a’i dargedau cronfeydd nawr ac i’r dyfodol agos

E2: Cyllid

Bydd yr Undeb yn deall eu allanoliadau incwm presennol dros gyfnod hirach a chynllunio ar gyfer newid tueddiadau yn gynt; Bydd yr Undeb yn arloesol o fewn mudiad Undeb y Myfyrwyr ar gyfer cynhyrchu syniadau busnes newydd; bydd yr Undeb yn cynhyrchu mwy o incwm i wario ar weithgareddau elusennol

T3: Cyfleusterau a gwasanaethau sy’n arwain y sector; E2: Cyllid

Bydd gwasanaethau yr Undeb i gael eu archwilio a’i ddilysu yn allanol; bydd bob ardal allweddol yn yr Undeb yn derbyn arweiniad ar ardaloedd o ddatblygiad pellach, bydd yr Undeb yn deall sut mae ei gryfderau a’i wendidau wedi datblygu dros y dair mlynedd diwethaf

Y Cyfan; T3: Cyfleusterau a gwasanaethau sy’n arwain y sector

Bydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn gwneud gwell penderfyniadau ac yn goruchwylio gwaith yr Undeb yn well o ganlyniad i gael prosesau a gweithdrefnau modern a fframweithiau wedi eu cefnogi gan y sector.

Y Cyfan

Ni fydd myfyrwyr yn profi unrhyw ostyngiad mewn ansawdd profiad myfyrwyr; bydd cefnogaeth myfyrwyr ar gyfer y Ganolfan Bywyd Myfyrwyr yn parhau yn uchel yn ystod y broses adeiladu

T3: Cyfleusterau a gwasanaethau sy’n arwain y sector; E3: Cyfleusterau

Lleihau digwyddiadau a / neu lleihau effaith negyddol ar fyfyrwyr a staff sy’n fodi o weithgareddau’r Undeb

T3: Cyfleusterau a gwasanaethau sy’n arwain y sector; E3: Cyfleusterau

Bydd yr Undeb yn derbyn cyllid ar gyfer o leiaf dau brosiect; bydd yr Undeb yn parhau ailddatblygiad modern i adeilad yr Undeb

31ain Mawrth 2019

Lansir y cynllun a bydd Penaethiaid Adran a staff eraill yn ymgysylltu yn y rhaglen; bydd yr Undeb yn cwrdd a’u targedau effeithiolrwydd ar gyfer 2019/20

31ain Ionawr 2019

I adolygu gweithgareddau cynhyrchu incwm presennol ac adnabod ardaloedd mwyaf tebygol i weld cynydd; Bod yn ymwybodol o ardaloedd risg uchel a all ddioddef dirwasgiad mewn incwm yn y dyfodol agos (E.e. Cardiau NUS Extra); Arwain proses a arweinir gan yr Uwch Dîm Reoli i gefnogi / datblygu achos busnes i le lle gellir ei gynnig yn y Bwrdd GUCC

Bydd gan fusnesau’r Undeb rhagolygon hir dymor ar gyfer cyfraniadau ariannol; bydd gan yr Undeb gyfleoedd busnes hyfyw, bydd yr Undeb yn lansio gweithgaredd cynhyrchu incwm newydd yn ystod y flwyddyn

31ain Gorffennaf 2019

Org16

I gwblhau Rhan A o gynllun QSU UCM ac i ddatblygu a chynllunio i ail lwyddo Rhan B yn 2019/20

I ail-sefydlu y dasg o orffen grŵp i gyflawni’r ansawdd; i adolygu ymarfer presennol yn erbyn y safon presennol; i ddechrau gweithio tuag at unrhyw safon wedi ei ddiweddaru o fewn mis o gyhoeddi’r safon newydd

Bydd gweithgareddau’r Undeb yn cadw safonau sicrwydd ansawdd gwych wrth ei gymharu gyda model UCM; Bydd yr Undeb yn cynnal ei enw da fel un o’r undebau myfyrwyr a reolir orau

31ain Gorffennaf 2019

Org17

Wedi meincnodi perfformiad llywodraethu yr Undeb yn erbyn y cod elusen wedi ei ddiweddaru a chod llywodraethu’r Undeb ac i gael cynllun mewn lle ar gyfer gwelliannau

I adolygu ymarfer presennol yn erbyn y ddau god; i sefydlu grŵp tasg a chwblhau i ddarganfod bylchau a gwneud awgrymiadau ar gyfer newid i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr ; i nodi newidiadau posib i y Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasu UMPC i sicrhau eu bod nhw’n gallu cael eu hystyried gan Prifysgol Caerdydd cyn 31ain Rhagfur 2018 (dyddiad cau EA1994)

Bydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr o gyda rhestr o argymhellion a gynigir ar gyfer datblygiadau llywodraethu; bydd dogfennau llywodraethu yr Undeb yn cael eu adolygu yn unol â’r atodlen lleiafrif EA1994

31ain Ionawr 2019

I sicrhau cyn lleied o ymyrraeth a phosibl i’r Undeb o’r safle adeiladau’r Ganolfan Bywyd Myfyrwyr, a brofir gan ymchwil wedi dargedu a chynnal ymgysylltiad myfyrwyr cyffredinol

I gynllunio ar gyfer newidiadau y safle ym mis Medi 2018; i ymateb i broblemau heb eu rhagweld yn sydyn ac yn derfynol; i sefydlu grwpiau ffocws i adnabod ffyrdd o liniaru effaith y safle pan ddigwyddith newidiadau; i gefnogi penaethiaid adran sy’n profi gostyngiad mewn ymgysylltiad â myfyrwyr a’u helpu nhw i ymateb

Ymchwil dan arweiniad Marchnata a Chyfathrebu

Bydd mynediad yr Undeb a mannau croeso yn parhau i fod yn groesawgar ac fe gaiff effaith negyddol isel; ni fydd ymgysylltiad myfyrwyr yn gostwng yn is na 23,000 ar gyfer 2018/19

31ain Gorffennaf 2019

Org19

Adolygu a archwilio bob gweithdrefn iechyd a diogelwch yn cynnwys datblygiad yn ffocysu ar ddiogelwch digwyddiadau ac adloniant

I adnabod bob gweithdrefnau iechyd a diogelwch a adolygu datblygiad yn eu herbyn nhw; i sefydlu adolygiad allanol o ddiogelwch adloniant a digwyddiadau; i gyflogi / prynu i mewn archwilydd iechyd a diogelwch, yn adrodd yn uniongyrchol i Iechyd Amgylchedd Cynaladwyedd a Diogelwch (HEMS)

Swydd Staff newydd / Angen cyllid

Bydd polisïau a gweithdrefnau iechyd a diogelwch yr Undeb yn fodern ac bydd staff a’r Ymddiriedolwyr yn eu deall; Bydd yr Undeb yn gweithredi datblygiadau pellach i ehangu diogelwch staff a myfyrwyr

30ain Mehefin 2019

Org20

I gytuno ar gytundeb perthynas newydd a memorandwm cyllidol gyda Prifysgol Caerdydd

Gweithio gyda Prif Swyddog Gweithredu PC i ddatblygu fframwaith cytundeb perthynas newydd yn seiliedig ar ymarfer da; I gael cefnogaeth gan Is-Ganghellor PC a Chadeirydd y Cyngor a chytuno iddynt i fod yn lofnodwyr PC; I sefydlu memorandwm ariannol yn datgan natur y berthynas ariannol rhwng y partïon sy’n diogelu annibyniaeth UMPC, wrth gynnal perthnasau cynghreiriol

Cefnogaeth gan Bwrdd yr Ymddiriedolwyr

Bydd y ddau gytundeb yn cael eu cymeradwyo gan PC a UMPC; Bydd seremoni fer a datganiad i’r wasg i arddangos partneriaeth cydweithio.

31ain Ionawr 2019

Org18

EFFAITH

Gwell perthynas parhaol gyd PC; Cyfleoedd pellach ar gyfer partneriaeth gydweithio; perthynas ariannol effeithiol ar y sail o gefnogaeth cydfuddiannol

Perthynas gyda Prifysgol Caerdydd

47.


Ymddiriedolwyr 2016/17 ac Uwch Aelodau O Staff YMDDIRIEDOLWYR SABOTHOL

YMDDIRIEDOLWYR MYFYRWYR

Llywydd: Fadhila Al Dhahouri (ers 1af Gorffennaf

Emma Mattin (hyd 1af Gorffennaf 2018)

2018)

Lilly Ryan Harper (hyd 1af Gorffennaf 2018)

Llywydd: Hollie Cooke (hyd 1af Gorffennaf 2018) IL Cymdeithasau: Henri Page (ers 1af Gorffennaf

Alex Williams (hyd 1af Gorffennaf 2018)

2018)

Megan Perkins (ers 1af Gorffennaf 2018)

IL Cymdeithasau: Lamorna Hooker (hyd 1af

Niall Yasseen (ers 1af Gorffennaf 2018)

Gorffennaf 2018)

IL Chwaraeon a Llywydd yr Undeb Athletau: Georgie Haynes (ers 1af Gorffennaf 2018) IL Chwaraeon a Llywydd yr Undeb Athletau: Tom Kelly (hyd 1af Gorffennaf 2018) IL Addysg: Jackie Yip (ers 1af Gorffennaf 2018) IL Addysg: Fadhila Al Dhahouri (hyd 1af Gorffennaf

YMDDIRIEDOLWYR ALLANOL

Bethan Walsh

1af Gorffennaf 2018)

Denise Rich (ers 1 Mai 2018)

IL Ôl-raddedigion: Jake Smith (hyd 1af Gorffennaf

Swyddfa Gofrestredig: Plas y Parc, Caerdydd, Cymru CF10 3QN

48.

Cyfarwyddwr Ymgysylltu a Chyfranogiad: Steve Wilford

(from June 2018)

Rakesh Aggarwal (hyd 23 Mawrth 2018)

IL Lles: Amr Alwishah (ers 1af Gorffennaf 2018) IL Lles: Nick Fox (hyd 1af Gorffennaf 2018)

Dirprwy Brif Weithredwr: Ben Eagle

Gethin Lewis Mark Leighfield (hyd 21 Mawrth 2018)

Richard Roberts CBE

2018)

Prif Weithredwr: Daniel Palmer

Pennaeth Cyllid: Christine Akers

IL Parc y Mynydd Bychan: Jennifer Kent (ers 1af IL Parc y Mynydd Bychan: Kirsty Hepburn (hyd

UWCH AELODAU O STAFF

YMDDIRIEDOLWYR A ENWEBIR GAN Y BRIFYSGOL

2018) Gorffennaf 2018)

Rhif Elusen Cofrestredig: 1137163

Rhif Cwmni Cofrestredig: 07328777

Director of Communications: Raechel Mattey


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.