Adroddiad Blynyddol 18/19

Page 1

Adroddiad Blynyddol 2018/19 1

d a i d d o r d A 9 1 / 8 1 l o d n d o l y a n g y l h B d t r d y w i rd n e a d C o b r y n i w e r y Pam ad myf i f o pr


2 ADRODDIAD BLYNYDDOL 2018/19

Cynnwys 04 Ein Strategaeth 2018-20 07 Llwyddiannau Myfyrwyr 08 Prif Weithredwr Undeb y Myfyrwyr

15 Ein Hadrannau a Gwasanaethau 22 Ein Themâu 30 Ein Galluogwyr

10 Llywydd

40 Diweddariad Ariannol

12 Ymgysylltiad a Boddhad Myfyrwyr

42 Ymddiriedolwyr 2018-19 ac Uwch Aelodau o Staff 43 Blwyddyn lewyrchus


Adroddiad Blynyddol 2018/19 3

Gweithio gyda phob myfyriwr yng Nghaerdydd i wella eu profiad yn y brifysgol.


4 ADRODDIAD BLYNYDDOL 2018/19

UNDEB MYFYRWYR BLAENLLAW

Yn 2018, lansiodd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd strategaeth newydd 3 blynedd o hyd, yn gosod blaenoriaethau’r sefydliad a fydd yn cadarnhau safle’r sefydliad wrth galon profiad y myfyrwyr. Mae’r strategaeth nid yn unig yn ffocysu ar greu mwy o gyfleoedd ar gyfer Undeb y Myfyrwyr i gael effaith ar fywydau’r myfyrwyr, mae hefyd yn edrych i ddatblygu profiad blaenllaw, cynhwysol, cysylltiol i fyfyrwyr a dysgwyr, mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd. Wrth gyrraedd diwedd y flwyddyn gyntaf yn dilyn y strategaeth, mae’n gyfle perffaith i ddangos y datblygiadau a wnaethpwyd hyn yn hyn i gyrraedd ein hamcanion ac i edrych ar beth fydd y cymal nesaf.

EIN GWELEDIGAETH STRATEGOL weithio gyda phob myfyriwr yng Nghaerdydd i G wella eu profiad yn y brifysgol.

EIN GWERTHOEDD rweinyddiaeth Myfyrwyr A Cynhwysiad Partneriaeth Amrywioldeb


Adroddiad Blynyddol 2018/19 5

EIN DIBEN Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn cyfoethogi addysg myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd er budd y cyhoedd drwy: Hyrwyddo buddiannau a lles myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn ystod eu cwrs a chynrychioli, cefnogi a chynghori myfyrwyr;

B od yn sianel gynrychiolaeth gydnabyddedig rhwng myfyrwyr a Phrifysgol Caerdydd ac unrhyw gorff allanol arall; a D arparu gweithgareddau cymdeithasol, diwylliannol, chwaraeon a hamdden, yn ogystal â fforymau ar gyfer trafodaeth a dadlau ar gyfer datblygiad personol ein myfyrwyr.


6 ADRODDIAD BLYNYDDOL 2018/19

Tîm Swyddogion Sabothol 2018-19


Adroddiad Blynyddol 2018/19 7

07.

Llwyddiannau Myfyrwyr Bob blwyddyn, mae ein myfyrwyr yn ethol tîm o Swyddogion Sabothol i’w cynrychioli hwy a’i buddiannau academaidd. Mae tîm Swyddogion Sabothol yn gweithio ar nifer o brosiectau drwy’r flwyddyn. Mae hyn yn cynnwys lobio’r Brifysgol i newid a gwella’r hyn sy’n bwysig i’n haelodau. Mae’r rhain yn cynnwys amseroedd agor y llyfrgell a gofod astudio ychwanegol, ymgyrchu ar faterion sydd o bwys i fyfyrwyr fel tai ac iechyd meddwl a chynrychioli lleisiau myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.

Llwyddiannau Myfyrwyr 2018-19: “Rydyn ni wedi lobio’r Brifysgol i gynyddu’r nifer o lyfrau y gall myfyrwyr eu benthyg. Gallwch nawr fenthyg hyd at 35 llyfr yn hytrach na 15!” “Fe weithiom mewn partneriaeth gyda’r Brifysgol i gael cymeradwyaeth

i adnewyddu’r Ystafelloedd Seminar Radioleg a Haematoleg yn y Prif Ysbyty. Edrych amdanynt yn 2019!” “Fe weithiom mewn partneriaeth gyda’r tîm llyfrgelloedd i sicrhau fod yr ASSL ar agor 24 awr y dydd dros gyfnod y gwyliau Nadolig a’r Pasg, fel bod gennych le i astudio os ydych yn aros yng Nghaerdydd.” “Rydyn ni wedi gwrando ar adborth gan grwpiau o fyfyrwyr ac o ganlyniad rydyn ni wedi rhoi estyniad ar oriau agor ystafelloedd cyfarfod ar y pedwerydd llawr hyd at hanner nos bob dydd!” “Fe gawsom ymrwymiad ‘ie’ clir gan Brif Weinidog Mark Drakeford AS i wahardd ffioedd asiantaeth gosod erbyn Medi 2019.” “Yn dilyn adborth gan fyfyrwyr yn Ysgol Y Gyfraith, fe wnaethom ni gefnogi cynrychiolwyr y Panel Staff Myfyrwyr i ofyn am wythnos ddarllen yn ystod tymor yr Hydref. Rydyn ni’n falch i gyhoeddi y bydd hyn yn cael ei wireddu yn ystod

blwyddyn academaidd 2019-20.” “Fe ddiogelom ni gyllid gan y Brifysgol i ehangu ein gweithgaredd Mis Hanes Pobl Dduon, yn golygu ein bod ni’n gallu cynnal mwy o ddigwyddiadau i gynyddu amlygrwydd yr ymgyrch gwych hwn.” “O fis Medi 2019 ymlaen, am y tro cyntaf, bydd holl bwyllgorau cymdeithasau a chlybiau chwaraeon yn derbyn hyfforddiant proffesiynol ar ddulliau codi arian gan Adran Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd!”


8 ADRODDIAD BLYNYDDOL 2018/19

Prif Weithredwr Mae’n bleser gen i ysgrifennu rhagarweiniad i’r adroddiad hwn a myfyrio ar flwyddyn o lwyddiant anhygoel gan Undeb y Myfyrwyr. Yn ogystal â gwella boddhad myfyrwyr ymhellach a chyrraedd lefelau newydd o ymgysylltu â myfyrwyr, cyflawnwyd newid gwirioneddol ar ran ein haelodau gan ennill gwobrau cenedlaethol am ein gwaith. Fis Medi diwethaf lansiwyd ein strategaeth newydd - wrth galon profiad myfyrwyr Caerdydd - ac rydym eisoes wedi dechrau gweld cynnydd sylweddol: mae adeilad Canolfan Bywyd Myfyrwyr yn dechrau ymddangos, rydym wedi cwblhau’r cam cyntaf yn natblygiad y Neuadd Fawr (y Great OverHall). Rydym hefyd wedi sefydlu tîm ymgysylltu â myfyrwyr Campws Parc y Mynydd Bychan er mwyn helpu i leihau’r bwlch ym mhrofiad myfyrwyr rhwng y naill gampws a’r llall. Yn weithredol, rydym wedi cyflawni 14 o’n 20 prif darged ar gyfer y flwyddyn, yn ogystal â chyflawni pedwar arall yn rhannol, gan gynnwys ein holl dargedau ariannol. Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi gwneud camau sylweddol i amrywio ein ffynonellau incwm. Rydym bellach yn llai dibynnol ar werthu alcohol i ariannu ein gweithgareddau, a llynedd gwelwyd y lefelau uchaf erioed o incwm nad oedd yn gysylltiedig ag alcohol. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae ennill Gwobr Undeb Myfyrwyr y Flwyddyn UCM Cymru, ail-ymuno â rhestr y Sunday Times


Adroddiad Blynyddol 2018/19 9

o’r 100 Sefydliad Nid-er-Elw Gorau i Weithio Iddo ar gyfer 2018, a chael ein cynnwys ym Mynegai 100 Gorau’r Ganolfan Genedlaethol er Amrywioldeb. Hefyd llwyddwyd i sicrhau ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i wahardd ffioedd asiantaethau gosod eiddo erbyn mis Medi 2019, ac fe’n hystyrir ni fel 3ydd Undeb Myfyrwyr gorau y DU yn ôl Gwobrau Dewis y Myfyrwyr WhatUni 2019. Wrth edrych ymlaen, gallwn ddisgwyl llawer o newidiadau i’n hamgylchedd yn ystod y flwyddyn nesaf, gyda’r Ganolfan Bywyd Myfyrwyr bron â’i chwblhau, yr adeilad Mathemateg a Chyfrifiadureg yn cael ei adeiladu ar ein maes parcio, a bwrw ymlaen â cham dau o’r Great OverHall. Rwy’n hyderus y bydd y newidiadau hyn yn helpu i ddyrchafu profiad myfyrwyr Caerdydd i’r lefel nesaf gan gadarnhau safle Undeb y Myfyrwyr wrth galon Prifysgol Caerdydd.

“Rydyn ni wedi sefydlu tîm ymgysylltu â myfyrwyr Campws Parc y Mynydd Bychan er mwyn helpu i leihau’r bwlch ym mhrofiad myfyrwyr rhwng y naill gampws a’r llall. ” - Daniel Palmer, Prif Weithredwr


10 ADRODDIAD BLYNYDDOL 2018/19

Llywydd Undeb y Myfyrwyr 19-20 Nod ein Hadroddiad Effaith Blynyddol yw cyflwyno’r holl bethau anhygoel y mae Undeb y Myfyrwyr yn eu gwneud i sicrhau ein bod wrth galon profiad pob myfyriwr, ac mae’n bleser gen i gyflwyno’r adroddiad eleni. Aeth blwyddyn gyffrous arall heibio, gydag Etholiadau’r Gwanwyn a dorrodd pob record, nid yn unig o ran nifer yr ymgeiswyr, ond hefyd y nifer fwyaf o bleidleiswyr yn hanes Undeb y Myfyrwyr. Hefyd cafwyd y nifer fwyaf o bobl yn ymwneud â’n hymgyrch Wythnos Siarad, lle casglwyd 3,809 o gardiau. Roedd hon yn fuddugoliaeth enfawr i Undeb y Myfyrwyr, gan fod pob darn o adborth a gesglir yn bwydo i Argymhelliad Ysgrifenedig Myfyrwyr, lle bydd y Brifysgol wedyn yn gweithredu i wella pethau ar sail y data hwn. Rydyn ni bob amser yn dod â’r flwyddyn academaidd i ben gyda chyfres o ddathliadau er mwyn cyflwyno Gwobrau! Rydym yn gwobrwyo popeth o fyfyrwyr yn dathlu staff rhagorol yn y Brifysgol, i gydnabod y gwaith anhygoel a wneir gan ein myfyrwyr sy’n gwirfoddoli. Daeth ein holl dimau chwaraeon gwych at ei gilydd ar gyfer Dawns yr Undeb Athletau, yn dilyn buddugoliaeth syfrdanol dros Brifysgol Abertawe yn nhwrnamaint Farsiti Cymru; hefyd trefnwyd parti enfawr i’n cymdeithasau eithriadol lle cafwyd y nifer fwyaf o ymaelodaethau erioed.


Adroddiad Blynyddol 2018/19 11

Ni allai’r holl dorri recordiau a dathlu yma fod wedi digwydd heb dîm o staff ymroddedig. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’r holl staff yn Undeb y Myfyrwyr sydd yn sbarduno effaith yr Undeb ac yn cefnogi’r tîm Swyddogion Etholedig. Ni fyddai’r cyflawniadau a amlinellir yn yr adroddiad hwn wedi bod yn bosibl oni bai am weithlu ymroddedig a chefnogol. Rydym nawr yn edrych ymlaen at flwyddyn gadarnhaol a chynhyrchiol, gyda’r tîm Swyddogion Etholedig newydd ar gyfer 2019/20 yn edrych ymlaen at fynd i’r afael â’r dasg sydd o’u blaenau. Gobeithio y gwnewch chi fwynhau darllen am y gwaith rydyn ni wedi’i wneud a sut rydyn ni wedi cyfrannu at wella bywydau cymaint o fyfyrwyr.

“Hefyd cafwyd y nifer fwyaf o bobl yn ymwneud â’n hymgyrch Wythnos Siarad, lle casglwyd 3,809 o gardiau.” - Jackie Yip, Llywydd UM 2019-20


12 ADRODDIAD BLYNYDDOL 2018/19

Ymgysylltiad Myfyrwyr Data Ymgysylltu Ein gweledigaeth yw gweithio gyda phob myfyriwr yng Nghaerdydd i wella eu profiad yn y brifysgol. Mae rhan allweddol o gyflawni ein gweledigaeth yn cael ei adlewyrchu yn faint o fyfyrwyr sy’n ymwneud â’n gweithgareddau ac yn defnyddio ein gwasanaethau. Am y 7fed blwyddyn yn olynol cynyddodd ymgysylltiad myfyrwyr yn gyffredinol, gyda mwy o fyfyrwyr yn defnyddio mwy o’r gwasanaethau rydyn ni’n eu cynnig. Mae cyfanswm yr unigolion a ymgysylltodd â’r UM yn is na’r llynedd, ond unwaith y tynnwyd gwerthiant cardiau NUS Extra o’r ffigyrau (ni chyfrifwyd y rhain yn 2018/19) a gwnaed cymhariaeth tebygam-debyg, gwelsom ychydig bach o gynnydd. Cafwyd cynydd mewn nifer y myfyrwyr a oedd yn chwilio am gyngor drwy ein gwasanaeth Cyngor i Fyfyrwyr. Roedd hyn yn dilyn tuedd llynedd o newid mewn pa wasanaethau y mae ein myfyrwyr

yn eu defnyddio. Mae’r cynnydd hwn yn unol â’n disgwyliadau ac yn dilyn ein gwaith ymgyrchu i ddileu’r stigma sy’n perthyn i iechyd meddwl a’i gwneud hi’n haws i fyfyrwyr ddod o hyd i gymorth a’i gyrchu pan fydd ei angen arnynt. Yn ogystal â hyn, gwelwyd cynnydd yn nifer y myfyrwyr a gofrestrodd ar gyfer ein gwasanaeth Siopswyddi. Gyda 71% o’r holl fyfyrwyr â pherthynas â’r Undeb, mae gennym ni fwy o fyfyrwyr yn ymgysylltu â’r Undeb nag sydd o israddedigion yn y Brifysgol. Er y gellir cyflawni rhywfaint o dwf pellach, rydym yn annhebygol o weld llawer o gynnydd o flwyddyn i flwyddyn. Mae’n anodd gwneud cymhariaeth ag undebau myfyrwyr eraill, ond credwn fod ein lefelau ymgysylltu ymhlith yr uchaf ar gyfer unrhyw undeb myfyrwyr yn y DU.

Boddhad Mae’r Undeb yn blaenoriaethu boddhad myfyrwyr ac yn gosod targedau sydd â’r nod o wella’n barhaus. Mae hyn

yn cynnwys sefydlu gweithgareddau ymgysylltu penodol ar gyfer grwpiau o fyfyrwyr nad ydyn nhw ar hyn o bryd yn ymwneud llawer â’r Undeb. Mae’r Undeb yn anelu at sicrhau lefel boddhad o 90% drwy ei arolygon mewnol ac mewn arolygol boddhad cenedlaethol eraill a gynhelir gan fudiadau allanol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld nifer cynyddol o dablau cynghrair cenedlaethol ar gyfer boddhad mewn Undebau Myfyrwyr. Er nad yw’r Undeb yn gosod targedau ar gyfer safleoedd mewn tablau cynghrair, rydym yn disgwyl cael ein rhestru o fewn y pump uchaf yn y DU a dod i’r brig yng Nghymru; mae hyn yn rhywbeth rydym yn ei gyflawni’n rheolaidd.

“Gyda 71% o’r holl fyfyrwyr â pherthynas â’r Undeb, mae gennym fwy o fyfyrwyr yn ymgysylltu nag sydd o israddedigion yn y Brifysgol.”


Adroddiad Blynyddol 2018/19 13

Ymgysylltiad Myfyrwyr 2018-19 fesul adran. Farsiti | 6,518

Cyngor i Fyfyrwyr | 5,289 Cynrychiolwyr Academaidd | 925 Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol | 633 Cydgymunedau | 132

Pleidleiswyr | 7,540

Undeb Athletaidd | 5,278

Gosod Tai Myfyrwyr Caerdydd | 1,977

Gwirfoddoli Caerdydd | 1,293

Gyrwyr | 143 Ymgeiswyr Etholiadau | 166 Rho Gynnig Arni | 4,644

Lleoliadau | 11,299

Gwirfoddolwyr yr Undeb | 844 Gwasanaethau Dan Arweiniad Myfyrwyr | 234 Cyfryngau Myfyrwyr | 308 Senedd y Myfyrwyr | 25 Gwasanaeth Datblygu Sgiliau | 1,951

Urdd y Cymdeithasau | 8,159

Siopswyddi | 5,036


14 ADRODDIAD BLYNYDDOL 2018/19

Ein Staff yw calon ein sefydliad.


Adroddiad Blynyddol 2018/19 15

Ein Hadrannau a’n Gwasanaethau TÎM RHEOLAETH STRATEGOL Caiff ein staff gwych eu harwain gan y Prif Weithredwr a Thîm Rheoli Strategol ehangach sy’n cynnwys y Dirprwy Brif Weithredwr, y Cyfarwyddwr Cyfathrebu, y Cyfarwyddwr Ymgysylltiad a Chyfranogiad a’r Cyfarwyddwr Cyllid.

YMGYSYLLTIAD A CHYFRANOGIAD MYFYRWYR Mae’r Gyfarwyddiaeth Ymgysylltiad a Chyfranogiad Myfyrwyr yn hwyluso gweithgaredd myfyrwyr gan gynnwys chwaraeon, cymdeithasau, democratiaeth, cynrychiolaeth, cefnogaeth a lles yn Undeb y Myfyrwyr. Mae’r gwaith a wneir yn y meysydd hyn yn cael effaith barhaol ar brofiad myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda

thros 20,911 o fyfyrwyr yn cyfranogi mewn rhyw fath o weithgaredd.

Gweithgareddau Mae’r Adran Weithgareddau yn chwarae rhan sylweddol mewn gwella profiad myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r tîm yn hwyluso gweithgareddau dros 200 o gymdeithasau, 66 o glybiau chwaraeon, ein pedair adran o gyfryngau myfyrwyr a’n rhaglen Rho Gynnig Arni. Mae dros 14,000 o fyfyrwyr unigol yn ymwneud â’r gweithgareddau hyn bob blwyddyn, sy’n gwneud yr adran yn un ddeinamig a chyffrous i fod yn rhan ohoni. Mae gweithgareddau allgyrsiol yn rhan bwysig iawn o fywyd myfyrwyr, ar gyfer llesiant corfforol a meddyliol, ac rydym yn hynod falch o’r hyn sydd ar gael yma yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.

“Yn 2018-19, tyfodd aelodaeth yr Undeb Athletaiddi 5,278 cynnydd o 3%! ”

Gwirfoddoli Caerdydd Mae tîm Gwirfoddoli Caerdydd yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd gwirfoddoli gwahanol a chyffrous i fyfyrwyr. Drwy adeiladu perthnasoedd cryf ag elusennau a mudiadau, lleol a chenedlaethol, gallant osod myfyrwyr mewn prosiectau gwirfoddoli yn y gymuned leol. Mae’r tîm hefyd yn rhoi cymorth i fyfyrwyr ddatblygu eu prosiectau gwirfoddoli eu hunain. Mae’r tîm hefyd yn cynnal digwyddiadau a mentrau codi arian drwy gydol y flwyddyn.

“Ym mis Mawrth 2019, dewiswyd un o’n Prif Wirfoddolwyr ar gyfer Gwobr Point of Light Prif Weinidog.”


16 ADRODDIAD BLYNYDDOL 2018/19

Siopswyddi Mae Siop Swyddi yn gyfrifol am ddarparu pob math o waith cyflogedig rhan-amser a thros-dro i’n myfyrwyr, o amgylch eu hastudiaethau. Mae’n wasanaeth hanfodol i lawer o fyfyrwyr, nid yn unig fel ffynhonnell incwm ychwanegol, ond hefyd o ran profiad gwaith gwerthfawr a fydd yn gwella eu cyflogadwyedd yn y dyfodol.

“Yn 2018-19, cofrestrodd dros 5,000 o fyfyrwyr â’r Siop Swyddi - y nifer uchaf erioed “ Gwasanaeth Datblygu Sgiliau Mae’r Gwasanaeth Datblygu Sgiliau yn darparu ystod o gyrsiau a sesiynau hyfforddi i fyfyrwyr, â’r nod o feithrin hyder, gwella sgiliau trosglwyddadwy a chynyddu cyflogadwyedd. Mae ein tîm yn cynnwys hyfforddwyr sy’n staff gyrfaoedd llawnamser yn ogystal â myfyrwyr.

weithdrefnau disgyblu a rheoleiddio’r “Yn 2018-19, bu’r Brifysgol. Gwasanaeth Datblygu Llais Myfyrwyr Sgiliau yn cydweithredu Mae’r Adran Llais Myfyrwyr yn gweithio â charfannau o fyfyrwyr mewn partneriaeth â myfyrwyr Prifysgol Gofal Iechyd i ddarparu Caerdydd i sicrhau bod eu llais i’w glywed; ardystiad wedi’i deilwra’n o’r system Cynrychiolaeth Academaidd, gwasanaethau democrataidd, polisi ac benodol - cyflwynwyd 292 ymgyrchoedd, i ddarparu cymorth i’r tîm o dystysgrifau Datblygiad Swyddogion Etholedig. Rydym yn gweithio Personol yn ystod y flwyddyn gyda chydweithwyr o bob rhan o’r Brifysgol ac UCM i roi mwy o gyfleoedd i academaidd. “ fyfyrwyr gael eu cynrychioli.

Cyngor i Fyfyrwyr Mae’r Adran Cyngor i Fyfyrwyr yn darparu arweiniad cyfrinachol, annibynnol a didueddyn rhad ac ddim i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Mae’r gwasanaeth yn darparu myfyrwyr â gwybodaeth wrthrychol, ac yn egluro opsiynau, fel y gallant wneud y penderfyniadau gorau drostynt eu hunain. Mae’r tîm hefyd yn cynrychioli myfyrwyr wrth fynd drwy

“Yn 2018-19, llwyddodd ein tîm Llais Myfyrwyr i gael y nifer uchaf erioed o ymgeiswyr a phleidleiswyr yn Etholiadau’r Hydref a’r Gwanwyn, gan fynd ag ymgysylltiad â democratiaeth i’r lefel uchaf yn ein hanes.”


Adroddiad Blynyddol 2018/19 17

Ymgysylltodd y gyfarwyddiaeth Ymgysylltiad a Chyfranogiad Myfyrwyr â mwy na 20,911 o fyfyrwyr yn 2018-19.


18 ADRODDIAD BLYNYDDOL 2018/19

MASNACHOL Mae gweithgareddau’r Undeb yn cael eu rheoli o fewn grŵp o dri chwmni, Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd (UMPC), Gwasanaethau Undeb Caerdydd Cyf. (GUCC) a Gwirfoddoli Caerdydd (GC). Mae UMPC yn gwmni elusennol, sy’n dod ag arian i mewn drwy weithgareddau masnachol sy’n mynd tuag at ddarparu’r gwasanaethau eraill y mae Undeb y Myfyrwyr yn eu cynnig i fyfyrwyr. Mae Undeb y Myfyrwyr yn rhedeg nifer o leoliadau a chyfleusterau gan gynnwys asiantaeth gosod tai, clwb nos, lleoliadau ar gyfer cerddoriaeth fyw, tafarn, safleoedd arlwyo, siop ddillad a Swyddfa Bost.

Tîm Lleoliadau Mae’r Adran Lleoliadau yn croesawu cannoedd ar filoedd o gwsmeriaid drwy ddrysau Undeb y Myfyrwyr a nhw yw’r siop un stop ar gyfer adloniant myfyrwyr.


Adroddiad Blynyddol 2018/19 19

Yn ogystal â darparu bwyd a diod o’r radd flaenaf a chalendr adloniant llawn, maen nhw hefyd yn cyflogi bron i 300 o staff rhan-amser sy’n fyfyrwyr.

“Tyfodd y nifer a aeth i’n noson clwb bob nos Fercher i 76,779 gan olygu bod mwy o fyfyrwyr nag erioed wedi cael amser gwych ar y llawr dawnsio.“ Caru Caerdydd Caru Caerdydd yw siop boblogaidd Undeb y Myfyrwyr, sy’n cynnig nwyddau, deunyddiau ysgrifennu ac anrhegion â brand Prifysgol Caerdydd, ac mae’n gartref i’n Swyddfa Bost.

“Cynyddodd gwerthiant Caru Caerdydd 9.5%, gan ei gwneud y flwyddyn fwyaf

llwyddiannus hyd yma!” Gosod Tai Myfyrwyr Caerdydd Agorodd menter Gosod Tai Myfyrwyr Caerdydd yn 2006, ac roedd yn un o’r asiantaethau gosod cyntaf yn y DU i fod ym mherchnogaeth Undeb Myfyrwyr neu Brifysgol. Y prif nod oedd darparu gwasanaeth tai am ddim i fyfyrwyr (drwy beidio â chodi ffioedd asiantaeth), a gweithio gyda landlordiaid i wella ansawdd a safon llety myfyrwyr.

“Yn 2018-19, llwyddodd Gosod Tai Myfyrwyr Caerdydd i osod 40 yn fwy o dai na’u targed ar gyfer y flwyddyn, a olygodd fod 160 o fyfyrwyr ychwanegol wedi dod o hyd i gartref.”

Parc y Mynydd Bychan Ein Hundeb Myfyrwyr yn y Mynydd Bychan yw ein hail safle sy’n gwasanaethu’r myfyrwyr hynny sy’n astudio ar safle ysbyty Parc y Mynydd Bychan, gan ddarparu gweithgareddau a chymorth i fyfyrwyr sy’n astudio ar gyrsiau Meddygol, Deintyddol a Gofal Iechyd.

Eleni datblygwyd strategaeth newydd ar gyfer campws Parc y Mynydd Bychan, gan greu adran a thîm staffio newydd ym Mharc y Mynydd Bychan.


20 ADRODDIAD BLYNYDDOL 2018/19

GWASANAETHAU CYMORTH Yn ogystal â’n timau sy’n wynebu myfyrwyr a’n gwasanaethau masnachol, mae gan y mudiad nifer o dimau cymorth sy’n gweithio’n fewnol gyda staff a gwasanaethau i’w cynorthwyo yn yr hyn maen nhw’n ei wneud.

Gwasanaethau Cwsmeriaid a Gwerthiant Mae’r Adran Gwasanaethau Cwsmeriaid a Gwerthiant yn rheoli taith y cwsmer i’n holl aelodau. Maent yn gyfrifol am ffurfio a gweithredu safonau gwasanaeth cwsmeriaid ar draws y sefydliad ac yn goruchwylio partneriaethau hysbysebu allanol a cheisiadau am nawdd.

Cyfleusterau a TG Mae’r Adran Cyfleusterau a TG yn dîm canolog craidd yn Undeb y Myfyrwyr.

Mae’r adran hon yn cwmpasu gwasanaethau caled (cynnal a chadw’r adeilad a phrosiectau adeiladu), gwasanaethau meddal (glanhau) a chymorth TG i adrannau a gwasanaethau yn yr adeilad.

Cyllid Mae’r Adran Gyllid yn cyflawni’r swyddogaeth gyfrifon ar gyfer Undeb y Myfyrwyr a’i is-gwmnïau masnachu. Mae’n cwmpasu ystod eang o weithgareddau, o fantoli’r llyfrau cyfrifon i ddarparu gwybodaeth a chynorthwyo rheolwyr i wneud penderfyniadau strategol.

“Yn 2018, llwyddodd ein tîm Cyfleusterau i ostwng allyriadau CO2 o’n Adnoddau Dynol gweithgareddau ac anfonwyd Mae ein Hundeb Myfyrwyr yn ceisio llai o wastraff i safleoedd recriwtio staff eithriadol sydd â lefel uchel o sgiliau, medrau a nodweddion tirlenwi.” Y Swyddfa Weithredol Mae’r Swyddfa Weithredol yn gyfrifol am oruchwylio a hwyluso swyddogaethau llywodraethiant y sefydliad, yn ogystal â rhoi cymorth i’r tîm Swyddogion Sabothol a’r Prif Weithredwr yn eu rolau.

personol, er mwyn rhannu a chyflawni ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i fyfyrwyr. Mae’r Adran Adnoddau Dynol yn cefnogi dros 100 o staff gyrfa sy’n ymgymryd ag amrywiaeth eang o rolau.


Adroddiad Blynyddol 2018/19 21

“Yn 2018, cyflawnwyd achrediad Buddsoddwyr mewn Amrywioldeb Lefel 2, gan gyrraedd safle 94 yng Ngwobrau’r Ganolfan Genedlaethol er Amrywioldeb. ” Marchnata a Chyfathrebu Mae gan yr Adran Marchnata a Chyfathrebu’r gwaith cyffrous o hyrwyddo cyfathrebu rhwng Undeb y Myfyrwyr a’n 30,000+ o aelodau. Maent hefyd yn gyfrifol am farchnata’r pethau gwych y mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn eu gwneud mewn ffordd greadigol ac arloesol, gan gynnal ymchwil i ddeall yr hyn y mae myfyrwyr ei eisiau, a datblygu ein brand a’n is-frandiau.

Datblygu’r We a Data Mae’r Adran Datblygu’r We a Diogelu

Data yn darparu’r cymorth a’r arbenigedd technegol i sicrhau bod ein gwefan a’r gwasanaethau hynny sy’n gysylltiedig â’r we yn gweithredu’n ddiogel ac yn gywir. Mae gan ein hadran hefyd gyfrifoldeb cyffredinol am reoli’r platfform cyfathrebu mwyaf ymgysylltiedig ‘cardiffstudents.com’.

“Tyfodd y nifer a fu’n bwrw golwg ar dudalennau’n gwefan 18% eleni, cyfanswm o 6,449,604 rhwng 1af Awst 2018 a 31ain Gorffennaf 2019.”


22 ADRODDIAD BLYNYDDOL 2018/19

EIN THEMÂU

Wrth Galon Bywyd Myfyrwyr Cynnal ein lle wrth galon bywyd myfyrwyr a pharatoi ar gyfer Canolfan Bywyd y Myfyrwyr. Mae Canolfan Bywyd y Myfyrwyr yn brosiect dan arweiniad gwasanaeth a gynhelir mewn partneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd ac Undeb y Myfyrwyr. Dyma’r gwaith uwchraddio mwyaf ar y campws ers cenhedlaeth. Bydd y ganolfan yn gartref newydd i wasanaethau cymorth i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, gan gynnig mwy o fannau astudio cymdeithasol, ystafelloedd ymgynghori, darlithfa fawr a mannau tawel.

Yn sgil agosrwydd y prosiect at safle Undeb y Myfyrwyr yn Cathays, a gyda’r gwaith galluogi’n dechrau yn 2018, rydym wedi canolbwyntio ar leihau’r effaith ar ein myfyrwyr, cynnal presenoldeb ein brand, a gwella ac amrywio ein gwaith ymgysylltu mewn ffyrdd eraill er mwyn sicrhau bod y sefydliad yn parhau i fod yn llwyddiannus yn ystod y cyfnod o newid hwn.


Adroddiad Blynyddol 2018/19 23

EIN CYNNYDD Gwella ein gweithgareddau a’n gwasanaethau yn y Mynydd Bychan • Yn ystod 2018-19, cynhaliwyd adolygiad mawr o’r gwaith ymgysylltu yn y Mynydd Bychan ar draws y sefydliad, gan arwain at fwrdd yr ymddiriedolwyr yn cymeradwyo strategaeth newydd i Barc y Mynydd Bychan. O ganlyniad, mae hyn wedi ailstrwythuro ac ailbennu’r ffordd rydym yn ymgysylltu â’n myfyrwyr ar gampws y Mynydd Bychan ac yn gosod y sylfaen ar gyfer mwy o weithgareddau yn y dyfodol.

Mae 90% o’r myfyrwyr yn fodlon â’r Undeb • Mae’n argoeli’n dda y byddwn yn cyflawni hyn erbyn 2020. Yn yr arolwg Croeso i Gaerdydd (mis Rhagfyr 2018), roedd 87% o’r myfyrwyr israddedig newydd yn fodlon ag Undeb y Myfyrwyr. Yn ogystal â hynny,

cyrhaeddom dri uchaf Gwobrau WhatUni Student Choice Award 2019 am y tro cyntaf.

Mae 80% o’r myfyrwyr wedi cymryd rhan yn ein gweithgareddau ac wedi defnyddio ein gwasanaethau yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol • Roedd ein hymgysylltiad â myfyrwyr yn well nag erioed yn 2018-19. Cyfranogodd 22,377 o fyfyrwyr yn Undeb y Myfyrwyr, sef 71% o boblogaeth y myfyrwyr.

Mae pob myfyriwr yn ymwybodol o’r cymorth ac arweiniad sydd ar gael gan yr Undeb, y Brifysgol ac eraill • Rhoddodd ein tîm Cyngor i Fyfyrwyr gyngor i 5,289 o fyfyrwyr dros gyfnod y flwyddyn academaidd, sy’n cyfateb i 2,500 a mwy o oriau o gysylltiad un wrth

un ac 1,157 o sesiynau cyngor ynghylch amgylchiadau esgusodol. Yn ogystal â hynny, arweiniodd eu gwaith ymgyrch at 2,000 o gysylltiadau â myfyrwyr yn ystod Wythnos Iechyd Rhyw a 29,000 o gysylltiadau ar y cyfryngau cymdeithasol trwy ‘Iawn Mêt?’, sef ymgyrch i atal hunanladdiad ymysg dynion a chodi ymwybyddiaeth ohono.

BETH SYDD NESAF Bydd Canolfan Bywyd y Myfyrwyr yn dechrau cam newydd tua diwedd 2019, a bydd prif fynedfa Undeb y Myfyrwyr yn symud wrth i’r grisiau ym mlaen yr adeilad gael eu dymchwel er mwyn creu lle ar gyfer yr adeilad newydd. Bydd hwn yn gyfnod o anghyfleustra i Undeb y Myfyrwyr a byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar leihau’r effaith ar y myfyrwyr. Rydym hefyd yn bwriadu ymgorffori Strategaeth Myfyrwyr Parc y Mynydd Bychan trwy recriwtio a chadw’r tîm o staff ymroddgar, cynlluniau ymgysylltu newydd, a gwella bodlonrwydd y myfyrwyr.


24 ADRODDIAD BLYNYDDOL 2018/19

EIN THEMÂU

Cartref Llais Y Myfyrwyr Byddwn yn datblygu ein rôl fel cartref llais y myfyrwyr, yn meithrin ein cydberthnasau ar draws y Brifysgol, a chyfathrebu’n well â’n rhanddeiliaid. EIN CYNNYDD Mae ein myfyrwyr yn teimlo’n fwy grymus a gyda’r sicrwydd y bydd eu lleisiau’n cael eu clywed • Cwblhaodd mwy o fyfyrwyr nag erioed gardiau’r Wythnos Siarad, gan ddweud wrthym am eu profiad ym Mhrifysgol Caerdydd. Cwblhawyd 3,813 o gardiau a chasglwyd 7,535 o sylwadau, gan ddarparu sylfaen gref o ymchwil ar

gyfer ein Hargymhelliad Ysgrifenedig Myfyrwyr blynyddol, a gaiff ei greu gan dîm y Swyddogion Sabothol. • Roedd yn flwyddyn lwyddiannus o ran democratiaeth y myfyrwyr wrth i fwy o ymgeiswyr sefyll yn Etholiadau’r Gwanwyn yn 2019 nag erioed, ac aeth 6,960 o fyfyrwyr ati i fwrw eu pleidlais, sef y nifer fwyaf erioed. Mae mwy o ymgysylltu â’r etholiadau’n ein helpu i sicrhau ein henw fel y corff cynrychioladol annibynnol i fyfyrwyr ac yn codi ymwybyddiaeth o ddemocratiaeth.

Bydd yr Undeb yn cyfathrebu ac yn gweithio gydag amrywiaeth o staff y Brifysgol ar bob lefel y sefydliad yn rheolaidd • Mae’r Swyddogion Sabothol a staff Llais y Myfyrwyr wedi chwarae rôl allweddol yn y Prosiectau Partneriaeth sy’n bwriadu gweithredu ar holl adborth myfyrwyr, o daith y myfyrwyr rhyngwladol i gymorth academaidd, a hyd yn oed y ffordd y mae’r Brifysgol yn cyfathrebu.


Adroddiad Blynyddol 2018/19 25

• Yn ogystal â hynny, mae Undeb y Myfyrwyr wedi cynorthwyo’r Swyddogion a’n Cynrychiolwyr Academaidd i greu newid ar draws y Brifysgol. Ymhlith enghreifftiau o effeithiau cadarnhaol yn sgil hyn mae cynorthwyo Cynrychiolwyr y Paneli Staff Myfyrwyr i lobïo am wythnos ddarllen yn eu hysgol, cynorthwyo’r myfyrwyr i gynnal arolygon o garfannau cyfan ar syniadau a materion sy’n bwysig yn eu hysgol, a phartneru gyda’r Brifysgol a myfyrwyr yn yr Academi Meddalwedd Genedlaethol er mwyn datblygu prototeip o adnodd prosesu adborth fel rhan o’r grŵp partneriaeth Gwella Dealltwriaeth Asesu ac Adborth.

BETH SYDD NESAF Bydd 80% o’r myfyrwyr yn fodlon ein bod yn cynrychioli eu buddiannau academaidd

• Bob blwyddyn, mae’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn holi myfyrwyr blwyddyn olaf i nodi i ba raddau y maent yn cytuno â’r datganiad ‘Mae undeb (cymdeithas neu urdd) y myfyrwyr yn cynrychioli buddiannau myfyrwyr yn effeithiol.’ Yn 2019, gwelwyd cwymp yn sgôr sector yr undebau myfyrwyr yn ei gyfanrwydd, ac er nad ydym wedi cyrraedd ein targed o 80%, rydym yn sylweddol uwch na meincnod yr undebau myfyrwyr ac yn drydydd o blith prifysgolion Grŵp Russell. Bydd gwaith pellach yn cael ei gynnal eleni er mwyn ceisio gwella’r sgôr a chyfleu ein heffaith yn y maes hwn.

Datblygu cydberthnasau â’r staff academaidd a staff y gwasanaethau proffesiynol y tu hwnt i Fwrdd Gweithredol y Brifysgol • Mae Undeb y Myfyrwyr yn datblygu Strategaeth Gydberthnasau i’r Brifysgol

er mwyn cryfhau ein partneriaeth wrth symud ymlaen a byddwn yn cyfathrebu’n fwy gyda staff allweddol y Brifysgol.

Caiff mwy o gymorth ei gynnig a’i ddefnyddio gan garfan lawn o Gynrychiolwyr Academaidd • Datblygodd ein tîm Llais y Myfyrwyr Strategaeth Gyfathrebu â Chynrychiolwyr Academaidd y Myfyrwyr mewn partneriaeth â’r Brifysgol. Diben hyn oedd ceisio creu dull cyson o siarad â’n Cynrychiolwyr Academaidd. Llwyddodd y strategaeth hon i sicrhau nad ydym yn cysylltu gormod â’n cynrychiolwyr, gan sicrhau hefyd eu bod yn cael y negeseuon allweddol gan bob rhan o’r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr. Rhoddodd hyn wybod iddynt ynglŷn â chyfleoedd, digwyddiadau a’r cymorth sydd ar gael iddynt.


26 ADRODDIAD BLYNYDDOL 2018/19

EIN THEMÂU

Cyfleusterau A Gwasanaethau Blaenllawr Byddwn yn creu ac yn cynorthwyo’r gwaith o ddatblygu gweithgareddau a gwasanaethau sy’n arwain y sector ac sy’n helpu myfyrwyr i lwyddo. EIN CYNNYDD Cyfleusterau sy’n arwain y sector • Mae Undeb y Myfyrwyr o ddifrif am eu heffaith amgylcheddol a daeth hyn i’r amlwg pan ddatganodd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr Argyfwng hinsawdd ym mis Mehefin 2019. Ar lefel weithredol, mae’r Adran Cyfleusterau wedi lleihau allyriadau CO2 o’n gweithgareddau ac wedi lleihau swm y gwastraff a

anfonwyd i safleoedd tirlenwi. Cafodd 14.4% yn llai o drydan ac 8.8% yn llai o nwy eu defnyddio, ac mae’r defnydd o ddŵr wedi lleihau 6.8% ac mae 88.3% yn llai o wastraff wedi’i anfon i safleoedd tirlenwi.

Gwasanaethau sy’n arwain y sector Mae 80% o’n holl fyfyrwyr yn defnyddio’r gweithgareddau a gwasanaethau i fyfyrwyr

• Gwelwyd cynnydd o 39% yn nifer y myfyrwyr a gymerodd ran yn y rhaglen Rho Gynnig Arni yn ystod Semester y Gwanwyn (yn 2019 o’i gymharu â 2018). Datblygwyd rhaglen newydd o deithiau ym mis Gorffennaf a mis Awst 2019 er mwyn gweddu y myfyrwyr y mae eu cyrsiau neu eu hymrwymiadau astudio yn parhau yn ystod gwyliau’r haf. Mae hyn yn cynnwys y myfyrwyr ar gampws Parc y Mynydd Bychan, ôl-raddedigion, a myfyrwyr Saesneg cyn-sesiynol sydd heb ymgysylltu ag Undeb y Myfyrwyr o’r blaen.

Caiff gweithgareddau a gwasanaethau’r Undeb eu cydnabod am eu hansawdd uchel, eu heffeithlonrwydd a’u gwaith o arwain myfyrwyr.


Adroddiad Blynyddol 2018/19 27

• Cafodd 135 o fyfyrwyr eu hyfforddi gan y tîm Trafnidiaeth i yrru cerbydau Undeb y Myfyrwyr, sef cynnydd o 25% ar y nifer a hyfforddwyd yn 2017-18. Bydd hyn yn gwella annibyniaeth a pherchenogaeth ar y gweithgaredd dan sylw gan grwpiau’r myfyrwyr ac yn helpu i ddatblygu profiad a CVs y rheiny sy’n dewis dod yn yrwyr cofrestredig. Mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar gyllidebau grwpiau’r myfyrwyr hefyd trwy leihau’r angen i gael gyrwyr a cherbydau allanol. • Mae’r presenoldeb yn ein clwb nos i fyfyrwyr ar nos Fercher wedi cynyddu 6% yn ystod y flwyddyn, o 72,457 yn 2017-18 i 76,779 yn 2018-19. Mae’r Adran Lleoliadau wedi gweithio i ateb y galw hwn, gan gynnwys agor y drysau awr yn gynt bob wythnos a gweithio i wella’r systemau ciwio. Mae’r refeniw ychwanegol yn sgil y digwyddiad

poblogaidd hwn yn mynd tuag at gyllido gweithgareddau amrywiol Undeb y Myfyrwyr.

Bydd gennym bartneriaethau gyda sefydliadau allanol • Ym mis Hydref 2018, dechreuodd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd bartneriaeth gyffrous newydd gyda’r elusen trefnu cymunedol Citizens Cymru. Nododd y fenter hon, a gafodd ei sbarduno gan dîm Swyddogion Etholedig 2018-19, ymrwymiad newydd i gynorthwyo myfyrwyr o ran ymgyrchu ar faterion sy’n bwysig iddynt yn eu bywyd pob dydd. Mae’r bartneriaeth eisoes wedi bod yn allweddol o ran ysgogi’r newidiadau deddfwriaethol yng Nghymru a arweiniodd at ddileu ffioedd asiantaethau gosod i denantiaid (mis Medi 2019).

BETH SYDD NESAF Sicrhau y gall y myfyrwyr sy’n astudio yn y Mynydd Bychan, yng Nghasnewydd ac mewn mannau eraill yn y ddinas fanteisio ar yr un ddarpariaeth uchel ei hansawdd mewn mannau sy’n addas i’w hanghenion. • Dros y 12 mis nesaf, byddwn yn gweithredu canlyniadau ymchwil sydd eisoes wedi’i chynnal yn ein campysau gwahanol er mwyn creu presenoldeb ar gyfer Undeb y Myfyrwyr mewn partneriaeth â thimau’r Brifysgol yn yr ardaloedd hynny.


28 ADRODDIAD BLYNYDDOL 2018/19

EIN THEMÂU

Ymgysylltu  Chymunedau Llai Cysylltiedig Byddwn yn ymgysylltu â Pharc y Mynydd Bychan a chymunedau llai cysylltiedig o fyfyrwyr fel bod pob myfyriwr Caerdydd yn uniaethu â’r Undeb. EIN CYNNYDD Bydd myfyrwyr Parc y Mynydd Bychan, myfyrwyr rhyngwladol, myfyrwyr Cymraeg eu hiaith, ôlraddedigion a myfyrwyr mewn mannau eraill yn ymgysylltu ac yn fodlon â’r Undeb.

• Er mwyn ymgysylltu’n well â chymuned yr ôl-raddedigion, lansiodd ein rhaglen Rho Gynnig Arni deithiau diwrnod arbennig ar gyfer y grŵp hwn. Aeth 369 o ôl-raddedigion ar y teithiau hyn, gan roi cyfleoedd iddynt ymgysylltu â’u Hundeb Myfyrwyr yn ogystal â helpu i wella eu hymdeimlad o gymuned. • Gweithiodd yr Adran Marchnata a Chyfathrebu gydag IL Parc y Mynydd Bychan, myfyrwyr a’r tîm o staff ar gampws y Mynydd Bychan i ailddatblygu microwefan Parc y Mynydd Bychan ar

cardiffstudents.com, gan greu taith fideo o amgylch campws y Mynydd Bychan. Yn ogystal â denu mwy o ymwelwyr i’r microwefan (ymwelwyd â hi 3,069 o weithiau yn 2017-18 ond 4,005 o weithiau yn 2018-19), y gobaith yw y bydd y cynnwys gwell ar y we hefyd yn helpu’r myfyrwyr ar y campws hwn i deimlo fel rhan werthfawr o gymuned Undeb y Myfyrwyr. Bydd y fideo yn cael ei ddefnyddio ar ddiwrnodau agored ac ar ddechrau’r flwyddyn academaidd er mwyn creu gwell cysylltiad â’r myfyrwyr o’u diwrnod cyntaf ymlaen. • Ymgysylltodd Urdd y Cymdeithasau’n fwy â fforymau eu cymdeithasau er mwyn cael adborth gwerthfawr gan grwpiau o fyfyrwyr. Gwnaed hyn trwy gynnal sawl sesiwn yn hytrach na dim ond un, gan gynnal sesiwn benodol yn y Mynydd Bychan ar gyfer cymdeithasau a myfyrwyr yn y Mynydd Bychan nad


Adroddiad Blynyddol 2018/19 29

oeddent yn gallu mynychu’r sesiynau yn Cathays. Mynychodd 161 o fyfyrwyr dros y pythefnos, sef cynnydd o 18% ers y flwyddyn flaenorol. Cafwyd cynnydd yn y syniadau a’r farn a glywyd gan Undeb y Myfyrwyr a sylweddoli pwysigrwydd cyfranogi yn y digwyddiadau hyn. Roedd yr adborth o’r sesiwn yn y Mynydd Bychan yn gadarnhaol ac roedd y myfyrwyr yn teimlo bod gwell darpariaeth iddynt na’r hyn yn y gorffennol. • Ymgysylltwyd â mwy o fyfyrwyr nag erioed yn ystod eu cyfnod cyfarwyddo academaidd, gan ddarparu mwy o sesiynau siarad pwrpasol i wahanol gyfrannau o boblogaeth y myfyrwyr. Cynhaliwyd cyfanswm o 61 o sesiynau siarad a fynychwyd gan 5,517 o fyfyrwyr, yn ogystal â recordiad o sesiwn siarad ar Panopto yr oedd modd i ddysgwyr o

bell gael hyd iddo. Dyma gam cadarnhaol iawn, sy’n codi ymwybyddiaeth y myfyrwyr o’u haelodaeth o Undeb y Myfyrwyr a’n gwasanaethau.

BETH SYDD NESAF Datblygu a chyflawni cynlluniau ymgysylltu ar gyfer myfyrwyr Parc y Mynydd Bychan, ôl-raddedigion, myfyrwyr Cymraeg eu hiaith, myfyrwyr rhyngwladol, a’r rheiny sy’n astudio yn y Sgwâr Canolog ac yng Nghasnewydd. • Yn ystod 2018-19, datblygwyd strategaeth Parc y Mynydd Bychan a gafodd ei chymeradwyo gan fwrdd yr ymddiriedolwyr. Dros y 12 mis nesaf, bydd gwaith yn dechrau ar strategaeth

newydd i’r ôl-raddedigion i wella ein hymgysylltiad a chreu effaith ystyrlon ar y grŵp hwn o fyfyrwyr. • Byddwn hefyd yn creu darlun cliriach o’n myfyrwyr digyswllt trwy ddadansoddi’r data sydd gennym ar hyn o bryd. • Ym mis Tachwedd 2019, bydd y myfyrwyr yn cael cyfle i bleidleisio ar strwythur newydd y Tîm Sabothol ar ôl pleidlais yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn 2018 i gynnwys Swyddog y Gymraeg a’r Gymuned yn y tîm.


30 ADRODDIAD BLYNYDDOL 2018/19

EIN GALLUOGWYR

POBL BYDD YR UNDEB YN BLAENORIAETHU DATBLYGIAD POBL AC YN SICRHAU BOD EU GWIRFODDOLWYR A’U STAFF YN MEDDU AR Y SGILIAU A’R GALLUOEDD CYWIR I GYFLAWNI EU GWELEDIGAETH STRATEGOL. Bydd y myfyrwyr cyflogedig yn cael profiad gwych sy’n ateb eu dyheadau o ran cyflog, datblygiad personol a hyblygrwydd • Mae ein Hadran Lleoliadau’n cyflogi oddeutu 250-300 o fyfyrwyr bob blwyddyn. Cadwyd 166 o fyfyrwyr sy’n aelodau staff yn ystod 2018-19, sef cynnydd o 11% yn y tîm hwn o’i gymharu

â’r flwyddyn flaenorol. Mae hyn wedi ein helpu i ddatblygu grŵp mwy cysylltiedig o fyfyrwyr sy’n aelodau staff, gan greu amgylchedd tîm cadarnhaol lle cawn adborth agored a gonest a ddefnyddir i wella amgylchedd gwaith y myfyrwyr yn barhaus.


Adroddiad Blynyddol 2018/19 31

Mae o leiaf 90% o’r staff gyrfaoedd, y myfyrwyr sy’n aelodau staff a’r gwirfoddolwyr yn cytuno bod yr Undeb yn lle gwych i weithio • Mae’n braf gennym gyhoeddi y cyrhaeddodd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd rif 98 yng 100 uchaf The Sunday Times o ran sefydliadau nid er elw i weithio ynddynt yn y DU. Cawsom ein cyfradd ymateb uchaf i’r arolwg gan y staff ac mae’r data a gafwyd yn werthfawr o ran datblygu cynlluniau gweithredu yn y dyfodol. • •Cymerodd Undeb y Myfyrwyr ran yn arolwg ymgysylltu UCM a chafwyd lefelau uwch o ymgysylltu ar y cyfan ymysg y staff.

Bydd yr Undeb yn cyflawni statws lefel tri Buddsoddwyr mewn Amrywiaeth. Rydym yn falch o fod wedi ennill achrediad lefel dau Buddsoddwyr mewn Amrywiaeth a chyrraedd rhif 94 yng Ngwobrau’r Ganolfan Amrywiaeth Genedlaethol.

BETH SYDD NESAF • Dros y flwyddyn nesaf, rydym yn bwriadu sicrhau bod 90% o’r holl Uwchaelodau Staff a Phenaethiaid Adran yn ymgymryd â hyfforddiant mentora a hyfforddi er mwyn gwella’r cymorth a ddarperir gan reolwyr llinell yn y sefydliad a chryfhau ein sgiliau arwain. • Bydd Undeb y Myfyrwyr hefyd yn canolbwyntio ar eu rhaglen cyfarwyddo ar gyfer aelodau staff newydd ac yn datblygu pecyn cymorth i’r staff

mewnol sy’n cael eu dyrchafu i rolau rheoli.


32 ADRODDIAD BLYNYDDOL 2018/19

EIN GALLUOGWYR

Cyllid INCWM

BYDD YR UNDEB YN DATBLYGU EU HADNODDAU ARIANNOL ER MWYN GALLU DARPARU SYLFAEN GADARN I DYFU’R SEFYDLIAD. EIN CYNNYDD Datblygu cronfeydd wrth gefn er mwyn parhau i fuddsoddi mewn cyfleusterau a phrosiectau newydd • Cyflawnwyd ein targed cyllidebol am y drydedd flwyddyn yn olynol a buddsoddwyd cronfeydd gweddilliol mewn gwaith datblygu cyntedd y llawr cyntaf fel rhan o gam cyntaf prosiect y Neuadd Fawr. • Sicrhaodd Undeb y Myfyrwyr warged

ariannol gwerth £267,606 a bellach mae gennym gronfeydd wrth gefn gwerth un filiwn o bunnoedd (£1,008,172).

Amrywio ein ffrydiau incwm er mwyn dibynnu’n llai ar werthu alcohol • Roedd incwm yr Undeb ychydig yn llai na £10 miliwn dros y flwyddyn. Gwelwyd twf yn ein hincwm yn sgil gwerthu alcohol a digwyddiadau, yn ogystal â thwf mewn meysydd masnachol eraill, gan gynnwys manwerthu a’n hasiantaeth osod.

Grant bloc Grantiau/rhoddion eraill Siop Swyddi Buddsoddiadau

Manwerthu, asiantaeth osod a hysbysebu Incwm rhentu Lleoliadau Ffioedd cyfranogi – gweithgareddau’r myfyrwyr


Adroddiad Blynyddol 2018/19 33

• Parhaodd yr Undeb i geisio ffynonellau incwm newydd. Yn ystod y flwyddyn, codwyd £12,481 ar gyfer gosod cyfleusterau ymolchi yn yr adeilad a sicrhawyd grant gwerth £4,300 ar gyfer digwyddiadau Mis Hanes Pobl Dduon. Yn ogystal â hynny, cyflwynwyd treth ar docynnau er mwyn cyllido gwelliannau i’n darpariaeth cerddoriaeth fyw.

BETH SYDD NESAF • Byddwn yn cyflwyno cais am gyllid i’r Brifysgol i hybu ein cynlluniau i adfer y Neuadd Fawr.

1,400,000 1,200,000

RHYDDHAU’R CRONFEYDD WRTH GEFN

1,000,000 800,000 600,000 400,000 200,000

• Bydd Undeb y Myfyrwyr yn parhau i gyllidebu ar gyfer gwargedion ariannol er mwyn cyrraedd ein targed o gronfeydd wrth gefn gwerth £1.3 miliwn erbyn 2023.

0

Dyma werth isaf y cronfeydd wrth gefn sydd ei angen er mwyn sicrhau cynaliadwyedd ariannol hirdymor Undeb y Myfyrwyr.

-400,000

-200,000

-600,000 2015-16

2016-17

2017-18

2018-19

2019-20

2020-21

2021-22

2022-23


34 ADRODDIAD BLYNYDDOL 2018/19

EIN GALLUOGWYR

Cyfleusterau BYDD YR UNDEB YN CWBLHAU AILDDATBLYGIAD MODERN ADEILAD YR UNDEB EIN CYNNYDD Bydd holl ardaloedd cyhoeddus adeilad yr Undeb wedi cael eu hailddatblygu o fewn deng mlynedd. • Cynlluniwyd a chwblhawyd cam un o’r gwaith ailddatblygu’r Neuadd Fawr. Yn ystod gwyliau haf 2019, cafodd ardal y llawr cyntaf o gwmpas y Neuadd Fawr ei hailddylunio er mwyn ymestyn yr ardal a gwella hyblygrwydd ei defnydd i’n clybiau a’n cymdeithasau ac i ymestyn ardal y clwb nos yn ystod digwyddiadau.

• Yn ystod 2018-19, gwnaeth ein Hadran Cyfleusterau gynnydd mawr o ran gwella’r cyfleusterau cyflwyno yn yr ystafelloedd cyfarfod a gaiff eu defnyddio gan grwpiau o fyfyrwyr, y staff a sefydliadau allanol. Cafodd y systemau clyweledol eu disodli â rhai newydd yn Ystafell Fwrdd Syr Donald Walters ac ystafell gyfarfod 4J er mwyn gwella’r opsiynau o ran cysylltedd a’u gwneud yn fwy dibynadwy i’r defnyddwyr. • Yn ogystal â hynny, mae’r Adran Cyfleusterau yn gweithio i foderneiddio seilwaith ein hadeilad ar Blas y Parc, ac yn ystod y 12 mis diwethaf, maent wedi gwaredu’r tanc dŵr ar y to a gosod system ffrwd uniongyrchol yn ei le. Diben


Adroddiad Blynyddol 2018/19 35

hyn yw sicrhau dŵr poeth ac oer ar bwysedd y prif gyflenwad ym mhob tap, sy’n ddiogel i’w yfed ac sy’n lleihau costau cynnal a chadw yn y dyfodol.

Bydd gwell amrywiaeth o fannau cymdeithasol, mannau astudio a mannau perfformiad wedi eu datblygu. • Gwrandawom ar adborth gan grwpiau o fyfyrwyr ac, o ganlyniad, ymestynnwyd oriau agor yr ystafelloedd cyfarfod ar y pedwerydd llawr tan ganol nos bob dydd.

BETH SYDD NESAF • Dros y flwyddyn nesaf, byddwn yn ceisio parhau i osod cyfleusterau ymolchi yn yr adeilad trwy fireinio’r cynlluniau presennol, creu cyllideb i gyd-fynd â’r arian sydd ar gael, a cheisio cymorth gan

y cymunedau a fydd yn elwa o’r mannau. • Byddwn hefyd yn troi ein sylw at ail gam y gwaith o ddatblygu’r Neuadd Fawr. Bydd hyn yn cynnwys datblygu ein gweledigaeth gyffrous ar gyfer yr ardal, nodi sut y gall effeithio’n gadarnhaol ar brofiad y myfyrwyr, a cheisio cyfleoedd buddsoddi er mwyn troi’r weledigaeth yn realiti.


36 ADRODDIAD BLYNYDDOL 2018/19

EIN GALLUOGWYR

Technoleg Ddigidol BYDD YR UNDEB YN SICRHAU EI FOD YN ADNABOD EI AELODAU AC YN DATBLYGU EI DECHNOLEG DDIGIDOL. EIN CYNNYDD Datblygu a darparu adnoddau ar gyfer y myfyrwyr a grwpiau o fyfyrwyr. • Diolch i adborth adeiladol gan denantiaid a landlordiaid, cafodd gwefan Gosod Tai Myfyrwyr Caerdydd ei hailddatblygu’n llwyr er mwyn ei hintegreiddio yn y gronfa ddata tai gosod, gan alluogi Gosod Tai Myfyrwyr Caerdydd i gael llawer mwy o reolaeth a rhyddid o ran cynnwys. • Hefyd, cyflawnwyd gwaith sylfaenol y tu

ôl i’r llenni ar wefan Undeb y Myfyrwyr, cardiffstudents.com, er mwyn sicrhau ein bod yn cael y mwyaf o ddarparwr ein platfform aelodaeth ar-lein, MSL, yn ogystal â defnyddio cysyniadau a thechnolegau newydd a dulliau newydd o weithio. Gweithiodd Adran Datblygu’r We gyda Gwirfoddoli Caerdydd hefyd er mwyn sicrhau eu bod ar blatfform MSL. • Gwnaed gwelliannau hefyd i borth y Tîm Croeso er mwyn hybu’r gwaith o recriwtio a hyfforddi 200 a mwy o fyfyrwyr sy’n gwirfoddoli i helpu Undeb y Myfyrwyr i gyflawni ei weithgareddau croesawu ac Wythnos y Glas.


Adroddiad Blynyddol 2018/19 37

Creu seilwaith ar-lein y gellir cael hyd iddo y tu hwnt i safleoedd yr Undeb. • Gosododd yr Adran Data a Datblygu’r We wasanaethau wedi’u mudo a gweinyddion newydd er mwyn lleihau costau, cyflymu’r gwasanaeth, gwella diogelwch a chyflwyno proses leoli broffesiynol.

Bod yn fwy effeithlon • Mae’r adran wedi ailffactorio’r cod sylfaen ar gyfer gwefan Farsiti Cymru, gan wella diogelwch, ei gwneud yn haws ei defnyddio ac ychwanegu swyddogaethau ychwanegol, sydd bellach yn galluogi timau eraill i ddiweddaru’r cynnwys yn fyw o’r twrnamaint heb fod angen unrhyw wybodaeth ysgrifennu cod.

BETH SYDD NESAF Sicrhau bod yr Undeb yn cyfathrebu’n fwy amlwg a bod demograffeg, amgylchiadau ac ymgysylltu yn ysgogi hynny. • Bydd datblygiad gwefan newydd i lasfyfyrwyr ar gyfer y cyfnod rhwng mis Awst a mis Medi 2019 yn dangos i’r myfyrwyr yr amryw weithgareddau sydd ar gael iddynt. Bydd y dyluniad newydd yn tynnu sylw at ddigwyddiadau gyda’r dydd a chyda’r nos a digwyddiadau clybiau nos er mwyn ennyn mwy o ddiddordeb a chodi ymwybyddiaeth o ddigwyddiadau di-alcohol. Byddwn hefyd yn treialu’r gwaith o integreiddio â hysbysebion Facebook er mwyn targedu ymwelwyr

â’r safle a gwerthu mwy o docynnau. • Cwblheir cam cyntaf y gwaith arbrofi a datblygu ar addasiad cynnwys cyffrous sydd wedi’i deilwra ar wefan Undeb y Myfyrwyr. Bydd hyn yn galluogi’r defnyddiwr sydd wedi mewngofnodi i weld cynnwys sy’n berthnasol iddo. Mae tîm Datblygu’r We yn bwriadu lansio’r system hon ym mis Ionawr 2020, gan greu gwell ymdeimlad ymhlith y myfyrwyr fod yr Undeb yn eu hadnabod fel unigolion.


38 ADRODDIAD BLYNYDDOL 2018/19

Bydd yr Undeb yn gofyn i Brifysgol Caerdydd fuddsoddi ym mhrofiad y myfyrwyr dros y tair blynedd nesaf er mwyn sicrhau y caiff ansawdd yr addysgu a dysgu a chymorth i fyfyrwyr eu blaenoriaethu.


Adroddiad Blynyddol 2018/19 39

Partneriaeth EIN CYNNYDD Bob blwyddyn, mae Undeb y Myfyrwyr a’r Brifysgol yn cydweithio trwy nifer o grwpiau partneriaeth. Caiff canolbwynt y grwpiau hyn ei lywio gan gyflwyniad ysgrifenedig y myfyrwyr, a lunnir gan dîm y swyddogion sabothol, ar sail yr adborth a gesglir gan y myfyrwyr. Bydd y swyddogion sabothol a detholiad o’r staff o’r ddau sefydliad yn mynychu’r grwpiau partneriaeth.

Grwpiau Partneriaeth 2018-2019

BETH SYDD NESAF

• Cymorth Academaidd i Addysgu

Grwpiau partneriaeth 2019-2020

• Taith y Myfyrwyr Rhyngwladol • Gwella System y Tiwtoriaid Personol • Hybu Llythrennedd Adborth ac Asesu • Cyfathrebu’n Effeithiol â’n Myfyrwyr

• Arlwyo • Cymorth Bugeiliol i Ymchwilwyr Ôl-raddedig • Trafnidiaeth a Theithio • Llyfrgelloedd


40 ADRODDIAD BLYNYDDOL 2018/19

Cyllid

Incwm A Gwariant 2019 Cyllid Anghyfyngedig £

2019 Cyllid Cyfyngedig £

2018 Cyfanswm Cyllid £

2018 Cyfanswm Cyllid £

2,925,000 2,468,637 4,516,928 7,541 9,918,106

16,781 - - - 16,781

2,941,781 2,468,637 4,516,928 7,541 9,934,887

2,956,583 2,115,210 4,500,911 787 9,573,491

Codi cyllid Gweithgareddau Elusennol Cyfanswm Gwariant:

6,160,460 3,757,400 9,917,860

- 13,862 13,862

6,160,460 3,771,262 9,931,722

6,064,629 3,246,819 9,311,448

Incwm Net/ (gwariant) a Mudiad Net yn y gronfa

246

2,919

3,165

262,043

8,759,739 8,759,985

21,796 24,715

8,781,535 8,784,700

8,519,492 8,781,535

INCWM O: Rhoddion a chymynroddion Gweithgareddau Elusennol Gwiethgareddau Masnachol Eraill Buddsoddiannau Cyfanswm Incwm:

GWARIANT AR:

CYSONI CRONFEYDD: Cyfanswm yr arian a ddygwyd ymlaen Cyfanswm yr arian a gariwyd ymlaen

Cyfanswm yr incwm oedd £9,934,887 (2018: £9,573,491) a chyfanswm y gwariant oedd £9,931,722 (2018: £9,311,448) yn ystod y flwyddyn. Arweiniodd hyn at incwm net o £3,165 (2018: £262,043). Mae hyn yn cynnwys incwm grant cyfyngedig o £16,781 a gwariant o £13,862. Parhaodd is-gwmni masnachu’r Undeb, CUSL, i dyfu ei incwm yn 2019, gyda throsiant o £4,516,928 (2018: £4,500,911) er gwaethaf amgylchedd heriol. Ar y cyfan, gwnaeth y cwmni masnachu ddiffyg gweithredol o £-1,256,541 (2018: £323,781), yn dilyn lleihad sylweddol yn ei incwm grant. Mae’r lleihad yn cywiro gordaliadau a wnaed ers uno cwmnïau’r Undeb yn 2015.


Adroddiad Blynyddol 2018/19 41

Mantolen 2019 £

2018 £

ASEDAU SEFYDLOG Asedau diriaethol 12,049,699 12,426,877 Buddsoddion 73,563 73,563 Cyfanswm Asedau Sefydlog 12,123,262 12,500,440

ASEDAU PRESENNOL Stociau Dyledwyr Arian yn y banc ac mewn llaw Cyfanswm Asedau Presennol

70,786 825,778 1,655,788 2,552,352

39,936 539,582 1,174,851 1,754,369

RHWYMEDIGAETHAU CYFREDOL Credydwyr: symiau’n ddyledus cyn (1,593,028) (1,065,570) pen blwyddyn Asedau Net presennol/ (rhwymedigaethau) 959,324 688,799 Cyfanswm yr asedau llai rhwymedigaethau cyfredol 13,082,586 13,189,239 Darpariaethau ar gyfer rhwymedigaethau (4,297,886) (4,407,704) Asedau Net 8,784,700 8,781,535

CRONFEYDD ELUSEN Cronfeydd Cyfyngedig Cronfeydd Anghyfyngedig Cyfanswm Cronfeydd

24,715 8,759,985 8,784,700

21,796 8,759,739 8,781,535

Ar 31 Gorffennaf 2019, roedd cronfeydd rhydd wrth gefn Grŵp yr Undeb (h.y. cronfeydd anghyfyngedig nad ydynt ar ffurf asedau sefydlog) gwerth £1,008,172 (2018: £740,566) ac mae’r Ymddiriedolwyr yn fodlon fod gan yr Undeb sylfaen ariannol gadarn y gellir ei defnyddio er mwyn cyflawni ei amcanion a’i weithgareddau. Yn ogystal â hynny, cadwyd £24,715 pellach (2018: £21,796) ar ffurf cronfeydd cyfyngedig. Yn ystod y flwyddyn, cwympodd dyledion pensiwn y cwmni i £4,297,886 (2018: £4,407,704) ar ôl taliadau cyfraniadau diffygion a dad-ddirwyn y disgownt. Daw’r diffyg yn sgil rhwymedigaethau’r cwmni yn y dyfodol i Gynllun Pensiwn Undeb y Myfyrwyr, a gaewyd yn 2011 i’w gronni yn y dyfodol. Mae’r ymddiriedolwyr a’r cyfarwyddwyr yn fodlon bod digon o gronfeydd ariannol i gyflawni’r rhwymedigaethau i’r gronfa wrth iddynt godi dros gyfnod y cynllun adfer diffygion arfaethedig hyd at 2033.


42 ADRODDIAD BLYNYDDOL 2018/19

Ymddiriedolwyr 2018/19 ac Uwch Aelodau Staff YMDDIRIEDOLWYR SABOTHOL • Llywydd yr Undeb: Jackie Yip (o 1 Gorffennaf 2019) • Llywydd yr Undeb: Fadhila Al Dhahouri (hyd 1 Gorffennaf 2019) • IL Cymdeithasau a Gwirfoddoli: Orla Tarn (o 1 Gorffennaf 2019) • IL Cymdeithasau a Gwirfoddoli: Henrietta Page (hyd 1 Gorffennaf 2019) • IL Chwaraeon a Llywydd yr UA: Jude Pickett (o 1 Gorffennaf 2019) • IL Chwaraeon a Llywydd yr UA: Georgie Haynes (hyd 1 Gorffennaf 2019)

• IL Lles ac Ymgyrchoedd: James Wareham (o 1 Gorffennaf 2019) • IL Lles ac Ymgyrchoedd: Amr AlWishah (hyd 1 Gorffennaf 2019)

YMDDIRIEDOLWYR ALLANOL

MYFYRWYR YMDDIRIEDOLWYR

• Denise Rich

• Megan Perkins (hyd 1 Gorffennaf 2019) • Lewis Rigley (hyd 1 Gorffennaf 2019) • Niall Yasseen (hyd 1 Gorffennaf 2019)

• Richard Roberts CBE • Bethan Walsh Swyddfa Gofrestredig: Plas y Parc, Caerdydd, Cymru. CF10 3QN Rhif Cofrestru’r Cwmni: 07328777 Rhif Cofrestru’r Elusen: 1137163

• Gabriella Gropper (o 1 Gorffennaf 2019)

UWCH AELODAU STAFF

• Daniel Onafuwa (o 1 Gorffennaf 2019)

• Prif Weithredwr: Daniel Palmer

• Ryan Singh (o 1 Gorffennaf 2019)

• Dirprwy Brif Weithredwr: Ben Eagle

• IL Parc y Mynydd Bychan: Shekina Ortom (o 1 Gorffennaf 2019) • IL Parc y Mynydd Bychan: Jennifer Kent (hyd 1 Gorffennaf 2019)

YMDDIRIEDOLWYR A ENWEBIR GAN Y BRIFYSGOL

• Cyfarwyddwr Cyllid: Christine Akers

• Jayne Sadgrove (o 15 Mai 2019)

• IL Ôl-raddedigion: Nick Fox (o 1 Gorffennaf 2019) • IL Ôl-raddedigion: Jake Smith (hyd 1 Gorffennaf 2019)

• Ray Singh CBE (o 13 Tachwedd 2018)

• Cyfarwyddwr Ymgysylltu a Chyfranogiad: Steve Wilford

• IL Addysg: Tomos Evans (o 1 Gorffennaf 2019) • IL Addysg: Jackie Yip (hyd 1 Gorffennaf 2019)

• Cyfarwyddwr Cyfathrebu: Raechel Mattey


Adroddiad Blynyddol 2018/19 43

Blwyddyn Arobryn Rydym yn falch bod ein gwaith caled yn talu ar ei ganfed er budd ein myfyrwyr, ac rydym wrth ein bodd bod hyn wedi’i gydnabod yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mewn blwyddyn o newid cyflym yn lleol ac yn genedlaethol i fyfyrwyr, aeth yr Undeb ati i flaenoriaethu gweithgaredd ymgyrchu effeithiol, â’r nod o fynd i’r afael â materion sy’n effeithio’n negyddol ar

brofiad myfyrwyr. Mae’r ymgyrchoedd eleni wedi bod y gorau a welodd yr Undeb erioed ac maent wedi golygu annog cannoedd o fyfyrwyr i weithredu ar amrywiaeth o faterion. Mae sicrhau bod lleisiau myfyrwyr yn cael eu clywed yn y Brifysgol ac yn y gymuned leol yn un o amcanion craidd undebau myfyrwyr - ac rydym yn falch o fod wedi cyflawni hynny.

Rydym yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod cydnabyddiaeth genedlaethol i’n llwyddiannau. Eleni yn unig, mae’r Undeb wedi ennill y gwobrau isod o fewn y sector, gan gyflawni rhai o’n safleoedd uchaf hyd yn hyn. Rydyn ni’n falch ein bod ni’n dal ati i gyflawni mwy, ac rydyn ni am sicrhau bod holl fyfyrwyr Caerdydd yn dod o hyd i gartref yma.

Students’ Union of the Year


44 ADRODDIAD BLYNYDDOL 2018/19


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.