Sut i greu
Adroddiad Effaith Blynyddol 2016
Eich canllaw cam wrth gam cam 1 cam 2 cam 3 cam 4 cam 5 cam 6 cam 7 cam 8 cam 9 cam 10
Sicrhau’r sylfaenol Cofio parhau i ddatblygu Mae newid mawr yr un mor dda a gorffwys Gwirio eich bod yn mynd i’r cyfeiriad cywir Dathlu gwaith da Gwirio eich cynnydd ar y daith Gwrando ar fyfyrwyr Rhoi’r penderfyniadau yn nwylo myfyrwyr Paratoi myfyrwyr ar gyfer y dyfodol Meithrin amgylchedd amrywiol
Adroddiad Effaith Blynyddol 2016 Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
cam 11 cam 12 cam 13 cam 14 cam 15 cam 16 cam 17 cam 18 cam 19
Darparu cyngor a chymorth pan fo angen Darparu’r bywyd cymdeithasol gorau Gwneud amser i therapi siopa bob tro Rhoi mynediad i’r cyfleusterau gorau Adeiladu arbenigrwydd dwyieithog Edrych ar ôl y ceiniogau Parhau i osod heriau Bod wrth galon bywyd Cathays Ymgynnull y tîm gorau
Sicrhau’r sylfaenol
cam 1
Sicrhau’r sylfaenol
Adroddiad Effaith Blynyddol 2016 Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
Dan Arweiniad Myfyrwyr Mae gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd (UMPC) weledigaeth i weithio â phob myfyriwr Caerdydd i wella’u profiadau prifysgol. Fel sefydliad annibynnol o’r Brifysgol sy’n cael ei arwain gan fyfyrwyr, mae UMPC yn cynrychioli myfyrwyr ac yn darparu ystod eang a chynhwysol o weithgareddau a gwasanaethau sy’n cyfoethogi bywydau myfyrwyr. Mae’r rhain yn cynnwys cyngor, hyfforddiant, datblygu sgiliau, cyfleoedd gwirfoddoli, cyflogadwyedd a gwasanaethau eraill sy’n hyrwyddo cynhwysiad, cyfeillgarwch a datblygiad personol. Mae UMPC yn cefnogi dros 200 o gymdeithasau myfyrwyr a 60 clwb chwaraeon gyda dros o 10,000 aelodau. UMPC yw llais cydnabyddedig myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, yn ymuno â myfyrwyr yn ymgyrchu am faterion sydd yn bwysig iddyn nhw.
Ein gweledigaeth
Mae UMPC wedi’i leoli ar Blas y Parc ac ar gampws Parc y Mynydd Bychan, yn cyflogi dros 100 aelod o staff parhaol a 300 o staff myfyrwyr. Mae cwmni is-masnachu UMPC, Gwasanaethau Undeb Caerdydd Cyf, yn rheoli cyfleuster pwrpasol yng nghanol Caerdydd ac yn gweithredu caffis, siopau, bariau a digwyddiadau sy’n helpu ariannu gweithgareddau elusennol UMPC. Mae’r sefydliad wedi’i restri yn y 100 uchaf o gwmnïau dielw i weithio iddyn yn ôl gwobr Cwmnïau Gorau Sunday Times, yn ogystal â dal statws Aur drwy Fuddsoddwyr Mewn Pobl a achrediad Rhagorol o dan farc ansawdd Ansawdd Undebau Myfyrwyr UCM. Mae UMPC yn dyheu am gael dylanwad positif ar y gymuned ehangach yng Nghaerdydd ac yn cael ei ystyried yn gyson fel yr Undeb Myfyrwyr gorau yng Nghymru ac yn y pump uchaf yn y DU am foddhad myfyrwyr.
• Annog arweinyddiaeth myfyrwyr
Gweithio gyda phob myfyriwr yng Nghaerdydd i wella eu profiad yn y brifysgol.
Ein gwerthoedd Byddwn yn: • Darparu cyfleoedd a rhoddi grym • Bod yn ardderchog yn yr hyn rydym yn ei wneud drwy fod yn gwbl gynhwysol
• Hwyluso newid cadarnhaol • Gwrando, cyfathrebu ac ymgysylltu
Ein diben Cyfoethogi addysg myfyrwyr Prifysgol Caerdydd er budd y cyhoedd drwy: • Hyrwyddo buddiannau a lles myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn ystod eu cwrs astudiaeth a chynrychioli, cefnogi a chynghori myfyrwyr; • Bod yn sianel gynrychiolaeth gydnabyddedig rhwng myfyrwyr a Phrifysgol Caerdydd ac unrhyw gyrff allanol eraill; • Darparu gweithgareddau cymdeithasol, diwylliannol, chwaraeon a hamdden yn ogystal â fforymau ar gyfer trafodaeth er mwyn datblygiad personol ein myfyrwyr. • .
Cofio parhau i ddatblygu
cam 2
Cofio parhau i ddatblygu
Adroddiad Effaith Blynyddol 2016 Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
Enillion Sylweddol Fel eich Llywydd Undeb Myfyrwyr, mae’n bleser gennyf gyflwyno Adroddiad Effaith Blynyddol Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Roedd y flwyddyn academaidd 2015/16 yn flwyddyn brysur a chyffrous gyda nifer o enillion sylweddol. Roedd llwyddiant Undeb y Myfyrwyr yn amlwg yn Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr lle rhestrwyd UMPC yr Undeb Myfyrwyr gorau yng Nghymru am y 5ed flwyddyn yn olynol gan fyfyrwyr blwyddyn olaf, a’r 5 uchaf o fewn y DU (eto!). Rydym hefyd wedi derbyn statws “Rhagorol” o fewn cynllun achredu Ansawdd Undeb Myfyrwyr yng Ngwobrau UCM, yr ail undeb myfyrwyr yn y DU i gyflawni statws ‘Rhagorol’. O ran y newidiadau ffisegol i Undeb y Myfyrwyr, rydym yn agor Y Stiwdio ym mis Tachwedd 2016 a llawr sbring, drychau ac yn gweithredu fel lleoliad aml-bwrpas mawr arall ar gyfer ein haelodau i ddefnyddio. Mae ailddatblygiad y Llawr Gwaelod nawr ar agor gyda siopau arferol a newydd i fyfyrwyr gan gynnwys Salon wedi ail-frandio (Salon), Swyddfa Bost (Inc), ac archfarchnad. Agorodd ein siop Caru Caerdydd ar yr Ail Lawr ym Medi 2015 yn gwerthu amrywiaeth eang o ddeunyddiau Prifysgol Caerdydd, ac rydym wedi adeiladu ystafell gyffredin yn Undeb y Myfyrwyr yn y Mynydd Bychan sydd wedi bod yn boblogaidd iawn ers agor! Yn ystod 2015/16 fe gyflwynom Swyddog Etholedig newydd “Is Lywydd Myfyrwyr Ôlraddedig” sydd yn eisoes wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar ein haelodau. Ers hynny rydym wedi credu strategaeth ôl-raddedig, lobïo’r brifysgol i fynd i’r afael â’r anghyfartaledd tâl ymhlith Ôl-raddedigion Ymchwil, ac wedi gweld cynnydd yn ein lefelu ymgysylltu ôlraddedig. Fe lansiom ein ymgyrch Nid Yw’n Jôc yn ymroddedig i addysgu ac atal myfyrwyr rhag mynd â “banter” cam yn rhy bell, yfed gormod, ac i atal pwysau gan gyfoedion. Mae hyn wedi arwain at gyflwyno Swyddogion Lles ym mhob clwb Chwaraeon, a Chriw Clwb Drinkaware. Rwyf yn falch o gyhoeddi ein bod wedi treulio blwyddyn yn datblygu ein Polisi Iaith Cymraeg sydd nawr yn y broses o gael ei weithredu. Mae’n bwysig i ni groesawu ein treftadaeth cenedlaethol ac ymdrechu i fod yn sefydliad dwyieithog. Mae ymgyrchoedd eraill wedi cynnwys #TorrirCostau, Achub Bwrsariaeth y GIG, brwydro yn erbyn toriadau Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW), cynaliasom Diwrnod Cerdded Allan Myfyrwyr ar y campws, ac fe hyrwyddom #CARUUMau. Yn ogystal, fe weithiom yn galed
i gynyddu cyfranogiad myfyrwyr mewn democratiaeth ehangach. Yn etholiadau Cynulliad Cymru eleni fe drefnom hustyngau a digwyddiadau gan gynnwys dodgems, a gyfrannodd at gynnydd o 7% o nifer a bleidleisiodd yn ein hetholaeth. Ym mis Medi 2015, lansiwyd ‘Gwirfoddoli Caerdydd’, mewn cydweithrediad ag elusen lleol arall i roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned. Mae bellach gennym dwbl y cyfleoedd gwirfoddoli na chynt ac mae gennym brosiectau newydd, megis cerdded cw ˆ n ar gyfer llochesi lleol, cynnig cefnogaeth i’r gymuned digartref a chynnal digwyddiadau mewn cartrefi gofal lleol. Yn gyffredinol, mae hi wedi bod yn flwyddyn lwyddiannus iawn. Hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i’r holl fyfyrwyr, staff ac yn arbennig y tîm Swyddogion Etholedig 2015/16 am eu hymroddiad, teyrngarwch a’u gwaith caled yn gwella profiad y myfyrwyr. Rwyf yn gobeithio y byddwch i gyd yn mwynhau darllen yr Adroddiad Effaith Blynyddol a pharhau i ddilyn ein datblygiad fel prif Undeb y Myfyrwyr.
Sophie Timbers
Llywydd Undeb y Myfyrwyr
Mae newid mawr yr un mor dda a gorffwys
cam 3
Mae newid mawr yr un mor dda a gorffwys
Adroddiad Effaith Blynyddol 2016 Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
Datblygiadau Adeiladu Mae’n rhoi pleser mawr i fi gyflwyno Adroddiad Effaith Blynyddol yr Undeb ac edrych yn ôl ar lwyddiannau’r sefydliad dros y flwyddyn ddiwethaf. Unwaith eto, rydym yn ein camau olaf o gwblhau’r newidiadau mawr i adeilad yr Undeb ac rydym yn hyderus y bydd ein myfyrwyr wrth eu bodd â’r newidiadau rydym wedi’u gwneud. Mae datblygiadau adeilad wedi dominyddu ein agenda dros y blynyddoedd diwethaf a dwi’n sicr eu bod wedi chwarae rhan fawr wrth gyfrannu at ein llwyddiannau eraill. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosib heb gefnogaeth hael gan y Brifysgol, sy’n haeddu rhannu yn ein llwyddiant.
Fel gydag Adroddiadau Blynyddol blaenorol, rydym wrth ein bodd i adrodd uchafion newydd mewn boddhad ac ymgysylltiad myfyrwyr yng ngweithgareddau’r Undeb eto eleni. Rydym yn hyderus fod yr uchafion yma’n adlewyrchu’r effaith gadarnhaol sydd gan yr Undeb o fewn profiad myfyrwyr Caerdydd. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod gwelliannau i’w gwneud, yn enwedig gyda myfyrwyr yn seiliedig ar gampws y Mynydd Bychan. Rydym wedi cael blwyddyn siomedig yn ariannol oherwydd addasiadau untro, ac rydym yn cynllunio i fynd i’r afael â hyn yn y flwyddyn i ddod. Er gwaethaf hyn, roedd ein perfformiad masnachol yn gryf ac rydym wedi parhau i amrywio ein ffrydiau incwm, fel y byddwn yn llai dibynnol ar werthu alcohol i ariannu ein gweithgareddau. Mae’r Undeb yn falch i gael ei gydnabod fel Undeb Myfyrwyr rhagorol, ac yn ystod y flwyddyn rydym wedi cadw ein achrediad fel cyflogwr rhagorol a chadw ein lle o fewn cwmni nid-er-elw 100 uchaf gorau y Sunday Times i weithio iddo. Yn ogystal, daeth yr Undeb yr ail Undeb Myfyrwyr yn y DU i dderbyn safon ‘rhagorol’ o fewn cynllun Ansawdd Undebau Myfyrwyr UCM. Dros y misoedd nesaf bydd yr Undeb yn datblygu ei strategaeth newydd ar gyfer 2017 ymlaen, ac fe fyddwn yn gweithio gyda’r Brifysgol i ddatblygu prosiect Canolfan Bywyd Myfyrwyr. Rwyf yn edrych ymlaen at weld pa gyfleoedd a ddaw i’n myfyrwyr o’r cyfleoedd hyn. Diolch am eich diddordeb yn yr Undeb ac rwyf yn gobeithio y byddwch yn mwynhau darllen ar yr hyn rydym yn ei wneud a’r myfyrwyr rydym yn gweithio gyda nhw.
daniel palmer
Prif Weithredwr
Gwirio eich bod yn mynd i’r cyfeiriad cywir
cam 4
Gwirio eich bod yn mynd i’r cyfeiriad cywir
Adroddiad Effaith Blynyddol 2016 Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
Twf mewn Gweithgareddau Myfyrwyr Mae cyfranogiad yng ngweithgareddau a gwasanaethau’r Undeb yn cael ei fesur yn flynyddol, ac rydym yn defnyddio’r wybodaeth er mwyn gwneud gwelliannau a sicrhau fod cyfranogiad myfyrwyr yn adlewyrchu amrywiaeth ein myfyrwyr. ymgysylltiad Myfyrwyr
Canolfan Cyngor 2515 Farsiti 3810 Cynrychiolwyr Academaidd 1069 Pleidleiswyr 6912 Cyfarfod Aelodau Blynyddol 564 SVC 222 Cymdeithasau 447 Gwirfoddoli (GC) Undeb Athletaidd 5204 808 Gosod Tai Myfyrwyr Caerdydd 1260 Lleoliadaus Gyrrwyr 189 9392 Ymgeiswyr Etholiad 118 Rho Gynnig Arni 5471
Gwasanaethau o dan Arweiniad Myfyrwyr 281 Urdd y Cymdeithasau 7978 Cyfryngau Myfyrwyr 458 Siop TG 739 Senedd y Myfyrwyr 29 Gwasanaeth Datblygu Sgiliau 2218 Siopswyddi 3076
Mae ein canlyniadau ar gyfer 2015/16 yn dangos ein bod yn parhau i weld cynnydd yng ngweithgareddau’r undeb, gyda chynydd sylweddol gyda myfyrwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau, teithiau a thripiau newydd. Yn ogystal, rydym yn parhau i weld cynnydd yn y gweithgareddau gyda chysylltiadau agos â chyflogadwyedd, megis Siopswyddi, gwirfoddoli a datblygu sgiliau. Mae’r rhain yn feysydd lle rydym yn cydnabod bod myfyrwyr am i ni ddarparu mwy o gefnogaeth. Dros y pum mlynedd diwethaf rydym wedi gweld nifer y myfyrwyr sy’n defnyddio ein canolfan Cyngor yn dyblu i dros 2,500 o fyfyrwyr – tua 10% o holl fyfyrwyr y Brifysgol Caerdydd. Mae’r rhan fwyaf o’n gwaith yn cefnogi a chynghori myfyrwyr sy’n mynd drwy gweithdrefnau ffurfiol gyda’r Brifysgol ac yn delio â phryderon tai myfyrwyr. Yn gyffredinol, mae ein cyfanswm nifer yr ymgysylltiadau myfyriwr wedi codi 12% yn y flwyddyn i dros 52,000, a yrrir gan ein ac mae’n ganlyniad o’n myfyrwyr yn defnyddio niferoedd cynyddol o wasanaethau a gweithgareddau’r Undeb. Yn ddiddorol, gwelsom ostyngiad sydyn yn nefnyddwyr lleoliadau’r Undeb dros y flwyddyn, er gwaethaf fwy o ymweliadau ac incwm. Rydym yn credu efallai fod y gostyngiad wedi’i achosi gan y sganio anghyson o gardiau adnabod myfyrwyr yn ystod y flwyddyn diwethaf.
boddhad Mae’r Undeb yn blaenoriaethu boddhad myfyrwyr ac wedi gosod targedau gwella o fewn ei strategaeth bresennol, gan gynnwys cyrraedd boddhad o 90% ymhob holiadur a gwneud gwelliannau gyda grwpiau sydd yn hanesyddol wedi rhoi sgoriau boddhad is. Rydym hefyd yn gweithio gyda’r Brifysgol yn datblygu boddhad myfyrwyr a dulliau adborth, megis yr Wythnos Siarad blynyddol a’r arolygon Croeso i Gaerdydd ac Astudio yng Nghaerdydd i helpu gyrru gwelliannau sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr ar draws y Brifysgol. Gweledigaeth yr Undeb yw ‘gweithio gyda pob myfyriwr Caerdydd i gyfoethogi eu profiad Prifysgol’ ac fe’i defnyddiwyd i lywio strategaeth cyfredol yr Undeb. Mae ein gweledigaeth wedi ein harwain i ddatblygu mwy o weithgareddau ar gyfer myfyrwyr unig a’r rheini sydd ddim fel arfer yn cymryd rhan mewn gweithgareddau grw ˆ p megis, ‘Rho Gynnig Arni’. Uchafbwynt ein llwyddiant boddhad myfyrwyr diweddar yw bod yr enillion wedi cael eu creu gan hyd yn oed fwy o fodlonrwydd ar draws demograffig ein myfyrwyr.
cam 4
Gwirio eich bod yn mynd i’r cyfeiriad cywir
Adroddiad Effaith Blynyddol 2016 Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
Boddhad yn undeb y Myfyrwyr
Cymhariaeth blwyddyn wrth flwyddyn yn ôl maint demograffig
91%
Rhan amser Du Gweddill y DU
89% 87% 85%
Pob un
Llawn amser Gradd gyntaf DU
Ethnigrwydd arall
83%
Ddim gyda’r GIG
Anabledd
81% 79%
Ifanc
Anhawster dysgu penodol
77% 75% 2010/11
2011/12
2012/13 Yr SES
NSS
2013/14
2014/15
2015/16
Croeso i Gaerdydd (is-raddedigion)
Gwyn
Rhyngwladol Asiaidd
GIG
Caerdydd 2016
Hyˆn Caerdydd 2015
Merch Bachgen Caerdydd 2014
Dilynwyr Instagram
Pobl yn hoffi ar Facebook
Yn gweld bob Snap Dilynwyr Trydar
Dathlu gwaith da
cam 5
Dathlu gwaith da
Adroddiad Effaith Blynyddol 2016 Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
Trawsnewid y Gofod Llawr Gwaelod
Y Stiwdio
Cychwynnodd y prosiect ailddatblygu llawr gwaelod i drawsnewid gofod a denu gwasanaethau newydd a manwerthwyr.
Agorodd Y Stiwdio ym mis Tachwedd 2015 yn darparu gofod perfformiad a gynlluniwyd yn arbennig ar gyfer ein clybiau a chymdeithasau.
cathays
Campws Parc y Mynydd Bychan
Daeth Undeb y Myfyrwyr yn bartner allweddol ym Mhrosiect Adfywio Cathays i wella mannau hamdden mewn ardaloedd preswyl.
Caru Caerdydd Agorodd y siop ddillad Caru Caerdydd gyferbyn ag ardal prif dderbynfa’r adeilad, yn gwerthu amrywiaeth o gynhyrchion Prifysgol Caerdydd.
Adnewyddwyd Undeb y Myfyrwyr yng nghampws Parc y Mynydd Bychan, ynghyd â mwy o le ar gyfer staff a myfyrwyr sy’n cyfrannu at ein gweledigaeth hir dymor i ehangu ein presenoldeb ar y campws ymhellach.
Gwirio eich cynnydd ar y daith
cam 6
Gwirio eich cynnydd ar y daith
Adroddiad Effaith Blynyddol 2016 Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
Fe gyflawnom ni llawer, da iawn ni! 1. Cynhyrchu adroddiad cynnydd yn erbyn strategaeth 2014-17 yr Undeb ac i’r holl adrannau gael cynllun i gefnogi’r strategaeth, gan gynnwys targedau penodol Parc y Mynydd Bychan Wedi’i gyflawni’n rhannol 2. A ilsefydlu’r cynnydd arwyddocaol mewn cyfranogiad yn etholiadau blynyddol yr Undeb, gyda thystiolaeth gan leiafrif o 8,000 o bleidleisiau, cyfartaledd o 6.5 o ymgeiswyr sabothol ar gyfer bob swydd a fod cystadleuaeth ymhob swydd Wedi’i gyflawni’n rhannol 3. C ynyddu sgôr NSS yr Undeb yng nghampws y Mynydd Bychan i 83%, gyda sgôr cyffredin o o leiaf 88% ac i gyflawni o leiaf 4ydd safle ymysg Undebau Myfyrwyr Addysg Uwch Heb ei gyflawni 4. C yrraedd 75% o staff gyrfa a myfyrwyr yn dweud fod yr Undeb yn le gwych i weithio ynddo, cyflawni sgôr cyffredin gwell o fewn Cwmnïau Gorau a chynnal lle yn y 100 uchaf Sunday Times o gwmnïau nid-er-elw gorau i weithio iddynt. Wedi’i gyflawni’n rhannol 5. S icrhau deialog parhaus a chanlyniad derbyniol i bawb gyda’r Brifysgol ynghylch dylunio corfforol a dylunio gwasanaeth adeilad Canolfan Bywyd Myfyrwyr, gyda thystiolaeth o gymeradwyaeth llawn gan Bwrdd yr Ymddiriedolwyr o achos busnes Canolfan Bywyd Myfyrwyr Wedi’i gyflawni
(Arhoswch tan i chi weld yr ail dudalen!)
6. C ynyddu ymgysylltiad cyffredinol yr Undeb gydag aelodau unigol i o leiaf 22,500 myfyriwr, cynyddu canran o fyfyrwyr sy’n defnyddio mwy nag un gwasanaeth yr Undeb a datblygu asesiad cydraddoldeb ac amrywiaeth o ymgysylltu â’r Undeb Heb ei gyflawni 7. C omisiynu adroddiad ar effaith ymgysylltu undeb myfyrwyr ar berfformiad academaidd a rhagolygon gyrfa ar ôl y brifysgol erbyn 31 Ionawr 2016 Heb ei gyflawni 8. D anfon fideos personol a ‘phecynnau gofal’ i garfannau dethol o fyfyrwyr ar leoliad gwaith yn seiliedig ar Gampws Parc y Mynydd Bychan Wedi’i gyflawni 9. Ennill statws Best Bar None, cyflawni aur yn y gwobrau Effaith Gwyrdd a dod yn gydymffurfwyr ESOS, a lleihau defnydd o ynni a chynyddu canran y gwastraff a ailgylchir, y ddau o 5% flwyddyn i flwyddyn Heb ei gyflawni 10. Sicrhau fod o leiaf 80% o staff gyrfa yn cymryd rhan mewn rhaglenni a nodwyd o fewn Cynllun Hyfforddiant Canolog gydag o leiaf 10% o’r staff yn cymryd rhan yn y rhaglen hyfforddiant rheoli Wedi’i gyflawni
Eleni fe wnaethom osod Newydd yn llwyddiannus
cam 6
Gwirio eich cynnydd ar y daith
Adroddiad Effaith Blynyddol 2016 Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
Ie, pethau’n edrych yn dda 11. Pennu cyllidebau cost wedi’i ganoli ar gyfer UMPC a GUCC a chyflawni sefyllfa gwarged ac arian parod wedi’i gyllidebu gyffredinol y grw ˆ p o gwmnïau ar gyfer 2015/2016 Heb ei gyflawni 12. Cyflawni sefyllfa incwm cyffredinol a gyllidebwyd ar gyfer GUCC, gan gynnwys cynnydd o 20% yn trosiant arlwyo, digwyddiadau a chynadledda. Wedi’i gyflawni 13. C wblhau ailddatblygu’r llawr gwaelod ac agor Y Stiwdio a siop ‘Caru Caerdydd’ Wedi’i gyflawni 14. Sefydlu tîm herwyr cost gan staff ar draws yr Undeb i gael gwared ar gwastraff a sbarduno effeithlonrwydd a chyflawni gwell gwerth o 1% yn o leiaf 3 adran. Wedi’i gyflawni 15. Gosod mannau llawr gwaelod yr adeilad yn llwyddiannus a chyflawni y targedau incwm datganedig Wedi’i gyflawni
16. D atblygu neu brynu system rheolaeth perthynas cwsmer ar gyfer defnydd myfyrwyr gweithgareddau a gwasanaethau’r Undeb a chael y gallu i rannu’r defnydd a theilwra cyfathrebu i aelodau Wedi’i gyflawni’n rhannol 17. S icrhau y sefydlir atodlen archwilio mewnol o drefniadau cyllid a llywodraethu mewnol a bod o leiaf dau adolygiad yn cael eu cwblhau a’u cyflwyno i’r Pwyllgor Cyllid ac Archwilio. Wedi’i gyflawni 18. Cwblhau’r Marc Ansawdd UCM a chyrraedd sgôr o leiaf ‘da iawn’ Wedi’i gyflawni 19. Integreiddio’r weinyddiaeth, llywodraethu a chefnogaeth ar gyfer Gwirfoddoli Caerdydd yn llwyddiannus, gyda’r tystiolaeth o CV LTD o fewn grw ˆ p o gwmnïau’r Undeb Wedi’i gyflawni 20. Cwblhau’r holl gamau sydd angen i gyrraedd Siarter Iaith Gymraeg UCM a chreu polisi Iaith Gymraeg dwedi’i ddiweddaru Wedi’i gyflawni
Gwrando ar fyfyrwyr
cam 7
Gwrando ar fyfyrwyr
Adroddiad Effaith Blynyddol 2016 Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
Cynrychioli Myfyrwyr Caerdydd Mae gan yr Undeb hanes hir a balch o gynrychioli myfyrwyr Caerdydd a llunio profiad y dysgwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Bob blwyddyn caiff arweinyddiaeth myfyrwyr yr Undeb ei hethol gan fyfyrwyr, gyda chynrychiolwyr Coleg ac Ysgol yn cael eu hethol gan fyfyrwyr o’r llefydd hynny.
.
cynrychiolaEth Mae Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr yn chwarae rôl hanfodol yn y bartneriaeth rhwng myfyrwyr a’r Brifysgol a sicrhau fod llais y myfyrwyr yn cael ei gymryd o ddifri ar bobl lefel. Mae cynrychiolwyr yn mynychu paneli Staff-Myfyrwyr o fewn eu hysgolion er mwyn casglu adborth o’u cyd-fyfyrwyr ac argymell gwelliannau i’r profiad academaidd. Roedd 2015/2016 yn flwyddyn arall o lwyddiant i Lais y Myfyrwyr. Cynhaliwyd 32 sesiwn lle gymerodd 334 o bobl rhan mewn hyfforddiant. Cynhaliwyd 83 o drafodaethau ymsefydlu ar draws 24 o Ysgolion sy’n gynnydd o 58 o sgyrsiau mewn 22 Ysgol yn y flwyddyn flaenorol.
wythnoS Siarad Ym mis Chwefror 2016 fe drefnom ni Wythnos Siarad ar y cyd â’r Brifysgol. Wythnos yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr roi adborth ar eu profiad yn y brifysgol drwy bwyntiau adborth ar draws y ddau gampws. Llenwodd myfyrwyr 2,200 o gardiau Wythnos Siarad - cynnydd o 175% ar y llynedd. O’r 2,200 o gardiau roeddem wedi derbyn dros 5,013 o sylwadau unigol am y Brifysgol ag Undeb y Myfyrwyr. Yn ystod Wythnos Siarad cynhaliwyd y gynhadledd Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr blynyddol, gyda presenoldeb yn cynyddu o 350%. Roedd y Gynhadledd yn cynnwys sesiynau ar arfer gorau, yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr, cyflogadwyedd a goresgyn difaterwch.
O gardiau adborth wedi’u cwblhau
Cynnydd o 175% ers 2015
Sylwadau Wythnos Siarad unigol
Rhoi’r penderfyniadau yn nwylo myfyrwyr
cam 8
Rhoi’r penderfyniadau yn nwylo myfyrwyr
Adroddiad Effaith Blynyddol 2016 Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
Dylanwadu’r Cyfeiriad Rhoddir cyfle i holl fyfyrwyr Caerdydd gymryd rhan yn nemocratiaeth yr Undeb a dylanwadu ar gyfeiriad a pholisi’r sefydliad. Gwneir hynny mewn sawl ffordd, ond mae’n cynnwys ethol yr Ymddiriedolwyr Sabothol ym mis Mawrth bob blwyddyn a thrwy gyfranogiad mewn cyrff sy’n creu polisïau, megis Cyfarfod Blynyddol yr Aelodaeth a Senedd y Myfyrwyr. Roedd 50 ymgeisydd ar gyfer etholiadau Mawrth 2016, a 6,555 pleidleisiwr unigol – cynnydd o niferoedd pleidleiswyr llynedd.
Senedd Myfyrwyr Roedd 2015/16 yn flwyddyn cryf ar gyfer Senedd y Myfyrwyr gyda chynrychiolaeth gref gan y Campws Parc y Mynydd Bychan. Roedd cynigion a basiwyd yn cynnwys ehangu cynllun mentor myfyrwyr a lobïo’r brifysgol i ymestyn y ddarpariaeth Cofnodi Darlithoedd ar draws y Brifysgol. Drwy gydol y flwyddyn roedd digon o ddadl iach am nifer o gynigion gan gynnwys cefnogaeth ar gyfer y Cerdded Allan Cenedlaethol Myfyrwyr Rhyngwladol a mwy o ffynhonnau dw ˆ r yn cael eu gosod o amgylch y campws!
Paratoi myfyrwyr ar gyfer y dyfodol
cam 9
Paratoi myfyrwyr ar gyfer y dyfodol
Adroddiad Effaith Blynyddol 2016 Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
Yn fwy cyflogadwy Yn ogystal â chefnogi ein myfyrwyr wrth iddynt fynd i’r afael ag astudiaethau academaidd, rydym yma i helpu eu datblygu i adeiladu ar gyfer eu dyfodol wedi’r Brifysgol. Mae gwneud ein haelodau yn fwy cyflogadwy fel graddedigion yn bwysig i ni. Sut rydym yn gwneud hynny? Rydym yn darparu cyrsiau i ddatblygu eu sgiliau, rydym yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli o fewn y gymuned lleol, ac rydym yn darparu gwaith rhan amser hyblyg i roi profiad iddynt a’u helpu i ariannu bywyd myfyriwr. Y canlyniad? Effaith gadarnhaol ar y Brifysgol, y gymuned ehangach, a dyfodol bywydau ein myfyrwyr.
datblygu’r Sgiliau cywir Ni oedd yr Undeb Myfyrwyr cyntaf yn y DU i greu rhaglen datblygu myfyrwyr. Mae’r rhaglen yn cynnwys achrediad mewn meysydd fel arweinyddiaeth, effeithiolrwydd personol a chyfathrebu. Gall myfyrwyr ennill ardystiad am gwblhau pum uned yn y cyrsiau hyn. Yn ystod 2015/16, enillodd 113 o fyfyrwyr Cyfathrebu, 152 Effeithiolrwydd Personol a 169 Arweinyddiaeth. Cymerodd 2,561 o unigolion rhan yn y sesiynau datblygu sgiliau drwy gydol y flwyddyn ac fe wnaed 8,625 o gysylltiadau o ganlyniad i ail fynychu a gweithio’n agos gydag ysgolion unigol. Yn ogystal, daeth 144 o fyfyrwyr yn Swyddogion Cymorth Cyntaf Brys, 24 wedi ennill Lefel 2 Iechyd a Diogelwch, 13 wedi cwblhau Iaith Arwydd Prydain Lefel 1 ac 13 wedi derbyn Camau Sefydliad Pacific i Ragoriaeth ar gyfer Llwyddiant Personol.
rhoi rhywbEth yn Ôl Mae Undeb y Myfyrwyr yn cefnogi rhaglen helaeth o brosiectau gwirfoddoli yng Nghaerdydd a’r gymuned ehangach yn Ne Cymru. Yn 2015, sefydlwyd Gwirfoddoli Caerdydd fel elusen mewnol yr Undeb yn darparu cyfleoedd gwirfoddoli pwrpasol i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Yn ystod ei flwyddyn gyntaf, mae Gwirfoddoli Caerdydd wedi creu a darparu 28 o brosiectau gwirfoddoli craidd o dan themâu Plant, Pobl Ifanc Cymdeithasol, Pobl Ifanc Addysg, Lles, y Amgylchedd a’r Gymuned Ehangach, a Chwaraeon a Hamdden.
Erbyn diwedd y flwyddyn academaidd, roedd y rhaglen wedi ymgysylltu â 854 o fyfyrwyr a gwblhaodd 16,404 o oriau gwirfoddoli rhyngddynt. Darparwyd 27 o brosiectau gwirfoddoli un-tro gan ein rhaglen Rho Gynnig Arni ac Wythnos Gwirfoddoli Myfyrwyr. Mae Gwirfoddoli Caerdydd hefyd wedi dod yn hwb canolog ar gyfer cydlynu’r cynllun Gwirfoddolwyr Mileniwm Gwirvol ar draws y Brifysgol.
profiad gwaith ac arian yn Eich pocEd Mae’r Undeb yn gweithio mewn partneriaeth â’r Brifysgol i redeg y Siopswyddi, asiantaeth cyflogaeth i fyfyrwyr Caerdydd. Mae Siopswyddi yn gosod myfyrwyr mewn gwaith rhan amser a dros dro o fewn y Brifysgol a’r gymuned ehangach. Yng nghanol 2015 symudodd y Siopswyddi o’i gartref ar Lawr Gwaelod adeilad yr Undeb, i’r Pedwerydd Llawr, fel rhan o’r prosiect i ailddatblygu Llawr Gwaelod a Llawr Cyntaf adeilad yr Undeb. Roedd awydd o fewn y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr i ddefnyddio fwy o fyfyrwyr mewn swyddi cyflogedig wedi arwain at gynnydd aruthrol yn nifer y myfyrwyr sy’n cael eu gosod drwy Siopswyddi. Yn 2015/16, cofrestrwyd 3,627 o fyfyrwyr gyda’r gwasanaeth. Fe ddarparodd Siopswyddi 122,480 o oriau o waith drwy’r flwyddyn a thalu £1,158,691.70 i gyfrifon banc myfyrwyr.
Talodd Siopswyddi LLAWER o arian i gyfrifon banciau myfyrwyr
Meithrin amgylchedd amrywiol
cam 10
Meithrin amgylchedd amrywiol
Adroddiad Effaith Blynyddol 2016 Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
Darparu cyfleoedd i bawb Sefydlu maes chwarae agored Mae hi wedi bod yn flwyddyn lwyddiannus ar gyfer ein Undeb Athletaidd (UA). Mae gan Undeb y Myfyrwyr 65 o glybiau chwaraeon, yn goruchwylio gweithgarwch, a darparu cymorth i’r gwirfoddolwyr sy’n cael eu hethol sy’n rhedeg y clybiau hyn. Yn 2015-16 fe welwyd cynnydd o 5% mewn aelodau, yn parhau’r tueddiad diweddar o fwy o gyfranogiad mewn chwaraeon. Yn adeiladu ar lwyddiant 2014-15, cwblhaodd ein timau UA y flwyddyn gyda’r safle uchaf erioed yn BUCS sef 11eg yn y DU, a’r Brifysgol yn y safle uchaf yng Nghymru. Fe gynrychiolodd pum myfyriwr Prifysgolion y DU mewn athletau, rhwyfo a saethu pistol fel rhan o’r Bencampwriaeth Brifysgol y Byd mewn Athletaidd, yn ogystal â Pholo Dw ˆ r Dynion a thimau Merched yn gorffen fel enillwyr Uwch Gynghrair BUCS. Mae nifer o’n timau hefyd yn cystadlu ac yn rhagori mewn cynghreiriau amgen, gyda thîm Futsal Dynion yn dod y tîm cyntaf i ennill Cynghrair Cenedlaethol Futsal Cymdeithas Pêldroed Cymru a’r Cwpan Dwbl, yn arwain atyn nhw yn cynrychioli Cymru yn y Gwpan Futsal UEFA ym Moldova. Mae clwb Hoci Merched wedi cynrychioli Cymru yn y bencampwriaeth Eurohockey yn Gibraltar ac ennill eu hadran. .
Dod o hyd i bobl gyda diddordebau tebyg Mae Urdd y Cymdeithasau yn gasgliad amrywiol o grwpiau, wedi eu rhannu’n fras yn grwpiau gwleidyddol, hamdden, diwylliannol, a chyrsiau’n seiliedig ar gwrs. O ganlyniad i adborth gan ein grwpiau myfyrwyr, agorwyd Y Stiwdio yn Rhagfyr 2015, ein gofod gweithgareddau aml-bwrpas newydd sbon. Daeth y lleoliad hwn yn boblogaidd yn gyflym, gyda nifer o bobl yn ei ddefnyddio am resymau amrywiol gan gynnwys polion PoleSport, bachau bagiau bocsio a matiau martial arts. Rydym hefyd wedi cynnal gigs comedi, dramâu ac opera o fewn y lleoliad. Fe wnaeth Undeb y Myfyrwyr gefnogi a rhoi grym i’n Cymdeithasau i gael effaith enfawr ar y campws a thu hwnt. Er enghraifft, mae Gweithredu Myfyrwyr ar gyfer Ffoaduriaid (STAR) nawr yn cynnal sesiynau galw heibio lle mae dros 150 o ffoaduriaid lleol a’u digwyddiad Rhythmau Ffoaduriaid, a greodd cyfle cymdeithasol a diwylliannol i ffoaduriaid lleol, wedi denu dros 800 o bobl. Ar ôl y newyddion bod Vithiya Alphons, aelod o’r pwyllgor
sefydlu Cymdeithas Tamil, wedi cael diagnosis o leukaemia, unodd Cymdeithas Tamil â mêr Caerdydd a’r Gymdeithas Asiaidd i ddod o hyd i roddwr i Vithiya a chynyddu nifer y rhoddwyr duon a lleiafrifoedd ethnig ar y gofrestr. Mewn un wythnos yn unig, arwyddodd dros 5600 i’r gofrestr rhoddwr, yn rhoi gobaith newydd i bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig sydd angen trawsblaniadau mêr esgyrn. Fe wnaeth Go Global ddychwelyd i lwyfan y Neuadd Fawr ym Mawrth 2016, yn dathlu’r nifer o ddiwylliannau a gynrychiolir gan Urdd y Cymdeithasau gyda 13 o berfformiadau gan 11 o Gymdeithasau. Mae Gw ˆ yl Fringe Caerdydd bellach yn nodwedd barhaol yng nghalendr y cymdeithasau, gyda 17 ddigwyddiad gwahanol wedi’u trefnu gan fyfyrwyr eleni, gan gynnwys sioe gerdd, Opera a’r Arddangosfa Gelf Islamaidd. Hefyd, cynhaliodd y Gymdeithas Gomedi y rhagras leol ar gyfer y Gwobrau Gomedi Myfyrwyr Chortle, cystadleuaeth genedlaethol yn cydnabod y digrifwyr myfyrwyr gorau, yn dangos bod Fringe Caerdydd yn dechrau datblygu cydnabyddiaeth ledled y wlad.
cam 10
Meithrin amgylchedd amrywiol
Adroddiad Effaith Blynyddol 2016 Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
BOD YN WAHANOL darparu cyflEoEdd gwych mEwn ffordd Sy’n hawdd Ei ddEfnyddio Mae Rho Gynnig Arni yn cynnig modd gwahanol, heb fod yn seiliedig ar aelodaeth o ymgysylltu gyda nifer o weithgareddau a gwasanaethau’r Undeb. Yn dechrau ei ail flwyddyn, mae rhaglen Rho Gynnig Arni wedi ehangu beth maent yn gynnig i fyfyrwyr, yn ymgysylltu â nifer uwch nag erioed drwy gydol y flwyddyn. Erbyn diwedd y flwyddyn academaidd 2015-16, mae sesiynau, tripiau a digwyddiadau Rho Gynnig Arni wedi denu dros 5,848 o fyfyrwyr, cynnydd enfawr o 220% ar ei flwyddyn gyntaf. Cefnogir y Cydlynydd rhaglen gan dîm ymroddedig o wirfoddolwyr myfyrwyr, a weithiodd 3,295 o oriau gwirfoddol yn 2015-16.
datblygu gofod ar gyfEr crEadigrwydd Mae’r Undeb yn cefnogi amrywiaeth eang o allfeydd cyfryngau dan arweiniad myfyrwyr – Gair Rhydd, Quench, Xpress Radio a CUTV. Mae’r grwpiau cyfryngau hyn yn cael eu rhedeg fel cymdeithasau ac yn cynhyrchu cynnwys cyfryngau ar gyfer holl fyfyrwyr Caerdydd. Enillodd Radio Xpress tair gwobr yn y Gwobrau Radio Myfyrwyr ym mis Tachwedd 2015, yn ennill gwobr aur a dwy wobr arian. Roedd y rhain yn cynnwys Digwyddiad Byw Gorau neu Ddarllediadau Allanol, Sioe Arbenigol Gorau a’r Gwobrau Kevin Greening ar gyfer Creadigrwydd. Enillodd papur newydd Gair Rhydd wobr ar gyfer Darllediadau Chwaraeon Gorau yn y Gwobrau Cenedlaethol Cymdeithas Cyhoeddi Myfyrwyr 2016.
Awr gwirfoddol Rho Gynnig Arnis
Darparu cyngor a chymorth pan fo angen
cam 11
Darparu cyngor a chymorth pan fo angen
Adroddiad Effaith Blynyddol 2016 Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
Rhannu problemau Mae Undeb y Myfyrwyr yn rhedeg gwasanaeth cynghori myfyrwyr ymroddedig ar Trydydd Llawr adeilad yr Undeb, ac o Gampws y Mynydd Bychan. Mae ein tîm o Gynghorwyr Myfyrwyr naill ai’n cefnogi myfyrwyr yn uniongyrchol neu eu cyfeirio ymlaen at gymorth arbenigol. Mae staff Cyngor i Fyfyrwyr yn cynghori myfyrwyr ar amrywiaeth o faterion gan gynnwys academaidd, defnyddwyr, tai, cyflogaeth, cyllid myfyriwr, materion ariannol a materion personol.
Mae Cyngor i Fyfyrwyr yn gweithio’n rheolaidd mewn partneriaeth â’r Brifysgol yn ymgyrchu ar feysydd pwysig ar ran lles myfyrwyr. Eleni roedd hynny’n golygu gweithio’n agos gyda Cymorth i Fyfyrwyr yn darparu wythnos Arian Myfyrwyr Cenedlaethol llwyddiannus. Mae Cyngor i Fyfyrwyr wedi llywio a dylanwadu polisi a materion arfer, gan gynnwys adolygiad o’r Weithdrefn Ymddygiad Myfyrwyr a llawer o bolisïau eraill y Brifysgol.
Fe welodd y gwasanaeth 1,281 o fyfyrwyr gyda materion academaidd gan gynnwys 67 yn ymwneud ag arfer annheg (ymddygiad arholiad, llên-ladrad) ac wedi delio gyda mwy na dwbl y nifer arferol o achosion addasrwydd i ymarfer. Mae llawer o’r achosion hyn yn ddwys ac angen cefnogaeth sylweddol gan staff Cyngor i Fyfyrwyr dros gyfnod estynedig o amser. Yn 2015/16, cododd 1,016 myfyriwr faterion ynghylch tai yn cynnwys diffyg atgyweirio, blaendaliadau, gwiriadau contract tai, eisiau darganfod llety a materion landlord a tenant eraill. Mae Cyngor i Fyfyrwyr wedi cynorthwyo myfyrwyr i adennill iawndal mewn achosion diffyg atgyweirio a dychweliad blaendaliadau tenantiaeth.
Myfyrwyr a ofynnwyd am gymorth
o unigolion
achosion ac ymholiadau
Darparu’r bywyd cymdeithasol gorau
cam 12
Darparu’r bywyd cymdeithasol gorau
Adroddiad Effaith Blynyddol 2016 Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
Gadewch i ni eich diddanu O fewn ein hadeilad Plas-y-Parc mae gennym ofod clwb nos tair ystafell, tafarn, lleoliad cerddoriaeth fyw mawr a gofod llai, mwy personol ar gyfer partïon. Mae ein tîm Lleoliadau yn gweithio’n galed i ddarparu digon o gyfleoedd i’n haelodau myfyrwyr gael hwyl. Yn 201416, bu 58 gig byw, gyda dros 63,868 o gefnogwyr cerddoriaeth yn mynychu. Ar ben hyn, bu 68 noson glwb yn llenwi’r llawr ddawns, gyda dros 120,150 myfyriwr yn dod drwy’r drysau. Mae Arolwg Profiad Myfyrwyr Times Higher Education (THE) 2016 yn gosod Caerdydd yn y safle cyntaf ar gyfer bywyd cymdeithasol, ochr yn ochr â phrifysgolion yn Leeds, Sheffield a Newcastle. Bob blwyddyn rydym yn cynyddu ac yn amrywio’r amryw ffyrdd y gall myfyrwyr wneud y gorau o’u hamser cymdeithasol. Mae hyn yn golygu ein bod o hyd yn edrych ar ffyrdd newydd i helpu myfyrwyr i gymdeithasu, cwrdd â ffrindiau newydd a mwynhau eu hamser yn byw yng Nghaerdydd.
Bwyta, yfed a bod yn llawen Gwyddom ei bod yn anodd canolbwyntio gyda stumog wag, felly rydym yn ymdrechu i fwydo ein myfyrwyr am bris fforddiadwy. Yn 2015-16, gwerthwyd 6,400 brechdan glwb i gwsmeriaid myfyrwyr llwglyd yn y Taf, ein tafarn Undeb y Myfyrwyr ein hunain. Gwerthwyd 7,900 byrgyr a 1,400 lasagnes. Ochr yn ochr â’r prydau blasus, fe werthwyd 66,000 peint o gwrw oer.
Gwneud amser i therapi siopa bob tro
cam 13
Gwneud amser i therapi siopa bob tro
Adroddiad Effaith Blynyddol 2016 Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
Siop un Stop Ailddatblygwyd y Siop TG yn ystod 2015-16. Fel rhan o’r prosiect ailddatblygu, symudodd y siop TG o’r Llawr Gwaelod i gartref dros dro yn ein lleoliad Y Stiwdio newydd ym mis Mai 2016. Digwyddodd hyn er mwyn paratoi symud terfynol i siop newydd sbon pan agorwyd y Llawr Gwaelod ym mis Medi 2016, gydag ail-frandio llawn ac ailenwi’r siop yn Inc. Er gwaethaf y newid mawr hwn, fe lwyddodd y tîm Siop TG gyflawni 1,100 atgyweiriad a chwblhau 17,354 trafodion.
Does unman yn debyg i Gartref Mae Gosod Tai Myfyrwyr Caerdydd, asiantaeth gosod Undeb y Myfyrwyr, wedi bod yn gweithio’n galed yn darparu tai ar gyfer myfyrwyr ers 2006. Am dros ddegawd, maent wedi arbed arian myfyrwyr drwy beidio codi ffioedd asiantaeth. Yn 2015-16, fe gartrefon nhw 1,222 o fyfyrwyr, ac arbed £122,000 (yn seiliedig ar ffi asiantaeth gyfartalog o £100 y person). Maent hefyd yn teithio tua 500 milltir y mis, yn cludo myfyrwyr i ac o ddangosiadau.
Dilynwyr ffasiwn ymroddedig Agorodd ein siop ddillad newydd sbon, Caru Caerdydd, ym mis Medi 2015 yn ardal prif Dderbynfa’r adeilad. Daeth ein dillad brand a rhoddion o fewn proffil uchel yn yr adeilad a’n galluogi ni deilwra ein nwyddau i beth mae myfyrwyr eisiau. Mae Caru Caerdydd yn gwerthu nwyddau Cymraeg a Saesneg. Diweddodd y flwyddyn gyda gwerthiant nwyddau graddio penodol llwyddiannus ar stondin naid yn Neuadd y Ddinas.
Newidiadau cutting edge Roedd 2015-16 hefyd yn flwyddyn o newid i’n salon poblogaidd, Cutting Edge. Yn seiliedig ar y Llawr Gwaelod, caeodd Cutting Edge ym Mai i wneud lle ar gyfer yr ailddatblygu newydd. Rhoddodd hyn y cyfle i staff y salon fanteisio ar hyfforddiant ychwanegol er mwyn ehangu eu sgiliau. Mae triniaethau harddwch megis lliw haul a manicures nawr ar gael, yn dilyn adborth myfyrwyr. Ar ddiwedd y flwyddyn academaidd, cafwyd ailddatblygiad llwyr i Cutting Edge, yn ei drawsffurfio i’r Salon newydd, a symud i mewn i uned manwerthu newydd sbon.
Rhoi mynediad i’r cyfleusterau gorau
cam 14
Rhoi mynediad i’r cyfleusterau gorau
Adroddiad Effaith Blynyddol 2016 Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
Ymgysylltu gyda mwy o fyfyrwyr Roedd hi’n flwyddyn o newid ar gyfer Undeb y Myfyrwyr yn y Mynydd Bychan. Bu adnewyddiad llawn yn y Lolfa IV yn adeilad Neuadd Meirionnydd, er mwyn gwella’r gofod a chael yr un naws a’n hadeilad Plas-y-Parc. Roedd ailddatblygu swyddfa ac ystafell gyfarfod wedi helpu i ymgysylltu â mwy o fyfyrwyr nag erioed o’r blaen. Mae’r ystafell gyfarfod nawr yn cael ei ddefnyddio’n rheolaidd gan gymdeithasau a grwpiau myfyrwyr eraill. Mae hefyd yn darparu lle ar gyfer sesiynau hyfforddi megis sesiynau Cynrychiolwyr Myfyrwyr a phrofion trafnidiaeth. Mae’r ystafell gyfarfod yn cael ei ddefnyddio bob wythnos gan ein tîm Cyngor i Fyfyrwyr er mwyn iddynt ddarparu eu cymorth amhrisiadwy i fyfyrwyr sy’n seiliedig ar gampws y Mynydd Bychan. Am y tro cyntaf yn 2016, cynhaliwyd Ffair y Glas i fyfyrwyr sy’n ymuno â chwrs nyrsio bob blwyddyn ym mis Mawrth. Croesawyd 96 myfyriwr i Undeb y Myfyrwyr a chael eu cyflwyno i’r gwasanaethau rydym yn eu darparu. Digwyddodd hyn mewn ymateb uniongyrchol i adborth myfyrwyr gan grwpiau tebyg yn y blynyddoedd blaenorol. Lansiwyd y prosiect pecynnau lleoliad i ymgysylltu â myfyrwyr gofal iechyd sy’n mynychu eu lleoliad cyntaf. Dangosodd adborth myfyrwyr y gall y grwpiau hyn deimlo’n ynysig tra i ffwrdd o’r campws, gyda rhai yn mynychu eu lleoliad cychwynnol yn semester cyntaf y flwyddyn. Mae’r pecynnau lleoliad yn ceisio helpu’r myfyrwyr hyn i deimlo’n gysylltiedig ac i ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol a fydd yn eu helpu drwy gydol eu lleoliadau gwaith.
Adeiladu arbenigrwydd dwyieithog
cam 15
Adeiladu arbenigrwydd dwyieithog
Adroddiad Effaith Blynyddol 2016 Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
Seiliau ein gwaith maE dwy iaith yn wEll nag un
croESawu Ein diwylliant
Nid yr adeilad yn unig sydd wedi gweld datblygiad mawr. Roedd 2015-16 yn flwyddyn a sefydlwyd yr ymrwymiad mawr sydd gan Undeb y Myfyrwyr i ymgorffori’r iaith Gymraeg yn eu sylfeini. Sefydlwyd Grw ˆ p Llywio Iaith Gymraeg, gan ddwyn ynghyd staff Undeb y Myfyrwyr, Staff y Brifysgol, Swyddogion Etholedig a myfyrwyr. Un o brif lwyddiannau y gr�p hwn oedd llunio polisi iaith Gymraeg newydd ar gyfer Undeb y Myfyrwyr. Cymeradwywyd y polisi hwn gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr ym mis Mehefin 2016, ynghyd â chynllun cyflawni manwl i gefnogi’r polisi.
Fel sefydliad ym mhrifddinas Cymru, rydym yn hynod o falch o’n treftadaeth a diwylliant Cymraeg. Yn 2015-16, fe gymrom y cyfle i arddangos hyn drwy ddathlu diwrnod Shwmae Sumae yn Hydref, a boreau coffi Cymraeg i ymgysylltu â siaradwyr Cymraeg a ysbrydoli rheini sydd ddim yn siarad Cymraeg i ddarganfod mwy am yr iaith a’r diwylliant.
Penodwyd Cydlynydd y Gymraeg i’r tîm Marchnata a Chyfathrebu ym mis Tachwedd 2015 i hyrwyddo’r iaith Gymraeg a’r diwylliant, yn ogystal â darparu cymorth cyfieithu i’r sefydliad a chreu ymgyrchoedd marchnata wedi’i dargedu tuag at y Gymraeg.
Ym mis Chwefror fe gynhalion ni yr Eisteddfod Rhyngol blynyddol yma yn Undeb y Myfyrwyr, yn croesawu dros 500 o siaradwyr Cymraeg a dysgwyr o Brifysgolion ledled Cymru. Am yr ail flwyddyn yn olynol, fe aeth Undeb y Myfyrwyr hefyd i’r Eisteddfod Genedlaethol mewn partneriaeth gyda’r Brifysgol, yn galluogi staff i ymgysylltu’n uniongyrchol gyda darpar fyfyrwyr Cymraeg.
Cefnogi hyrwyddo’r
ein Cynllun 2014-17
Edrych ar ôl y ceiniogau
cam 16
Edrych ar ôl y ceiniogau
incwm a gwriant Datganiadau Ariannol Cyfunol ar gyfer y Flwyddyn a Ddaeth i Ben 31ain Gorffennaf 2016 Datganiad Cyfunol a Rhiant Elusen o Weithgareddau Ariannol (gan gynnwys cyfrif incwm a gwariant). Ym mis Awst fe gyfunwyd gweithgareddau’r Undeb i grw ˆ p o gwmnïau, gydag Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd (UMPC) yn gwmni rhiant i Wasanaethau Cyfyngedig Undeb Caerdydd (GCUC) a Gwirfoddoli Caerdydd (GC). O ganlyniad, cyfrifon eleni yw’r cyntaf i gael eu cyflwyno mewn ffurf cyfunol ac yn dangos effaith dod â rhwymedigaethau GCUC i’r Grw ˆ p. Mae’r nodiadau i’r cyfrifon yn darparu dadansoddiad cymeradwy ar gyfer mesur gweithgareddau parhaus a gellir eu gweld ar cardiffstudents.com/about-cusu/governance/ financial-statements. Yn gyffredinol, roedd 2015/16 yn flwyddyn wael yn ariannol, oherwydd costau untro sylweddol a gorwario mewn meysydd Gwasanaethau Canolog ac Aelodaeth. O fewn GCUC arweiniodd hyn at golled weithredol o £20,174 (2015: elw o £115,701) ac o fewn CUSU colled o £848 (2015: colled o £39,801). I fynd i'r afael â diffygion hyn dechreuodd yr Undeb yn gynllun effeithlonrwydd – Gweithrediad 200 – gyda'r nod o greu arbedion flwyddyn ar flwyddyn o ddim llai na £200,000 dros y dair blynedd nesaf. Mae'r Ymddiriedolwyr yn hyderus y cyflawnir yr arbedion effeithlonrwydd hyn heb unrhyw effaith sylweddol ar y gwasanaethau a ddarperir i fyfyrwyr.
Adroddiad Effaith Blynyddol 2016 Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
Cyfnerthedig Rhiant Elusen
Cyfanswm Cyfanswm Cyfanswm Cronfeydd Cronfeydd Cronfeydd Anghyfyngedig 2016 Anghyfyngedig 2016 Anghyfyngedig 2016
Incwm a Gwaddolion o Rhoddion a Chymynroddion - Grant Bloc 2,666,000 1,206,000 1,160,000 Rhoddion a Chymynroddion - Rhoddion mewn nwyddau – 927,064 Incwm Masnachu Arall 3,663,405 – – Gweithgareddau elusennol 1,600,597 1,591,850 1,414,012 Buddsoddiadau 878 – – Cyfanswm 7,930,880 2,797,850 3,501,076
Gwariant ar Codi arian Gweithgareddau elusennol Adnoddau eraill Cyfanswm Incwm Net / (gwariant) a symudiad Net mewn cronfeydd
5,611,021 2,806,569 2,294,577 10,712,167 (2,781,287)
– – 2,798,698 3,540,877 – – 2,798,698 3,540,877 (848) (39,801)
Cysoni cronfeydd Cyfanswm yr arian a ddygwyd ymlaen 1,194 Cyfanswm yr arian a gariwyd ymlaen (2,780,093)
1,194 346
40,995 1,194
cam 16
Edrych ar ôl y ceiniogau
mantolen Datganiadau Ariannol Cyfunol ar gyfer y Flwyddyn a Ddaeth i Ben 31ain Gorffennaf 2016 Mantolen Cyfnerthedig a Rhiant Elusen 31ain Gorffennaf 2016. Mae mantolen yr Undeb hefyd wedi’i gyflwyno mewn ffurf gyfunol am y tro cyntaf ac yn cydnabod asedau a rhwymedigaethau y tri cwmni. Arweiniodd cyfres o addasiadau untro at ddileu arwyddocaol asedau o fewn GCUC yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys £306,746 yn ymwneud â TAW, £46,887 yn ymwneud â thaliadau diswyddo staff a £26,295 o werthu cyfranddaliadau’r Undeb yng Ngosodiadau Tai Myfyrwyr Glamorgan. Arweiniodd yr addasiadau hyn at sefyllfa Rhwymedigaethau Cyfredol Net Diwedd y Flwyddyn, a’r Ymddiriedolwyr yn disgwyl i’r Grw ˆ p adennill oddi wrth yn 2017. Mae atebolrwydd mwyaf ar gyfer y grw ˆ p yn ymwneud â rhwymedigaethau GCUC yn y dyfodol o fewn y cynllun pensiwn SUSS, £2.7 M dros y 17 flynedd nesaf, sy'n cael ei gydnabod drwy gymhwyso FRS SORP 102. Mae rhwymedigaeth yr Undeb yn codi o'i gyfran o'r diffyg o fewn y cynllun, a gafodd ei gau i gronni dyfodol yn 2011. Yn 2016 diffyg ariannol yr Undeb oedd £183,911 ac mae cyfraniadau tebyg i’w disgwyl yn y blynyddoedd i ddod.
Adroddiad Effaith Blynyddol 2016 Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
Cyfnerthedig Rhiant Elusen
Cyfanswm Cyfanswm Cyfanswm Cronfeydd Cronfeydd Cronfeydd Anghyfyngedig 2016 Anghyfyngedig 2016 Anghyfyngedig 2016
Asedau Sefydlog Asedau sefydlog diriaethol Asedau sefydlog buddsoddiadau Cyfanswm asedau sefydlog
369,448 73,563 443,011
23,991 2,000 25,991
– 2,000 2,000
Asedau Cyfredol Stociau Dyledwyr Arian yn y banc ac mewn llaw Cyfanswm asedau cyfredol
75,114 – – 549,741 275,091 272,020 267,742 12,531 107,596 892,597 287,622 379,616
Rhwymedigaethau cyfredol Credydwyr: symiau’n ddyledus (1,452,330) cyn pen blwyddyn Asedau Cyfredol Net (559,733) Cyfanswm yr asedau llai (116,722) rhwymedigaethau cyfredol Atebolrwydd pensiwn net (2,663,371) Asedau Net (2,780,093)
(313,267)
(380,422)
(25,645) 346
(806) 1,194
– – 346 1,194
Cronfeydd yr elusen
Cronfeydd anghyfyngedig cyffredinol Cyfanswm cronfeydd elusen
1,194 1,194
(2,780,093) (2,780,093)
346 346
Parhau i osod heriau
cam 17
Parhau i osod heriau
cynnal pErthnaSau cryf, cynaliadwy a bodlon gyda rhan-ddEiliaid tra’n Sicrhau Eu bod yn cyfranogi yn goSod cynlluniau StratEgol a gwEithrEdol 1. Gweithio gydag Ymddiriedolwyr, staff, myfyrwyr a’r Brifysgol i ddatblygu strategaeth newydd ar gyfer yr Undeb
Adroddiad Effaith Blynyddol 2016 Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
parhau i wElla bEth maE’r undEb yn Ei wnEud tra’n arfogi Staff, Swyddogion a gwirfoddolwyr gyda’r Sgiliau a’r wybodaEth Sydd angEn arnynt i gyflawni gwElEdigaEth yr undEb.
2. Cynyddu cyfranogiad yn etholiadau blynyddol yr Undeb, gyda thystiolaeth lleiafswm o 7,000 o bleidleisiau a chyfartaledd o 7 ymgeisydd ar gyfer bob swydd ymgeiswyr sabothol
1. Cynyddu ymgysylltiad cyffredinol yr Undeb gydag aelodau unigol i o leiaf 25,000 myfyriwr, cynyddu canran o fyfyrwyr sy’n defnyddio mwy nag un o wasanaethau’r Undeb a datblygu asesiad cydraddoldeb ac amrywiaeth o ymgysylltiad gyda myfyrwyr ôlraddedig
3. Cyflawni cyfraddiad boddhad o 90% o fewn yr Arolwg Croeso i Gaerdydd ac Arolwg Profiad Myfyrwyr THE, tra’n sicrhau bod cwestiynau am foddhad Undeb y Myfyrwyr yn cael eu cynnwys o fewn yr Arolwg Astudio yng Nghaerdydd a / neu’r banc o gwestiynau dewisol yr NSS
2. Gweithio gyda’r Brifysgol i ddeall os mae ymgysylltu mewn gweithgareddau Undeb y Myfyrwyr wedi cael effaith gadarnhaol ar berfformiad academaidd ac i gytuno ar gynllun i ddatblygu dealltwriaeth ymhellach o ddatblygiad myfyrwyr mewn gweithgareddau cocwricwlaidd
4. Integreiddio staff myfyrwyr gyda staff gyrfa ymhellach gydag o leiaf 60% o staff fyfyrwyr yr Undeb yn argymell yr Undeb fel lle gwych i weithio
3. Cynyddu nifer y myfyrwyr Parc y Mynydd Bychan sydd yn cymryd rhan yn Undeb y Myfyrwyr a datblygu cynllun cymorth cyfoedion ar gyfer myfyrwyr Gofal Iechyd
5. Cytuno ar brydes wedi’i ddiweddaru gyda’r Brifysgol, yn diogelu brandio ac amlygrwydd yr Undeb ar Blas-y-Parc a sicrhau rheolaeth effeithiol o fynd i mewn ac allan o adeilad yr Undeb
4. Gwella goruchwyliaeth gweithrediadau a pherfformiad yr Undeb, gyda thystiolaeth gan ddatblygu cynllun adrodd rheolaeth newydd a chyfrifoldebau tîm rheoli uwch 5. Sicrhau bod o leiaf 15 Rheolwr / Penaethiaid Adrannau yn cwblhau arfarniad 360 gradd sy’n ffurfio cynlluniau gweithredu o fewn eu proses VIP
cam 17
Parhau i osod heriau
Adroddiad Effaith Blynyddol 2016 Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
cyflawni sefydlogrwydd ariannol drwy reolaeth ariannol cadarn, adolygu’r arferion presennol a buddsoddi yn adeilad a chyfleusterau’r undeb
Sicrhau bod SyStEmau, poliSÏau a gwEithdrEfnau’r undEb yn ychwanEgu gwErth, yn galluogi mwy o ymgySylltiad myfyrwyr, ac yn hawdd i’w dEall
1. Cyflawni’r cyllideb arian dros ben a’r sefyllfa arian parod ar gyfer gr�p cwmnïau ar gyfer 2016/2017
1. I gwblhau adolygiad cynhwysfawr o’r gweithdrefnau ariannol presennol yr Undeb, cytuno llawlyfr gweithdrefnau ariannol newydd a hyfforddi staff perthnasol mewn gweithdrefnau hynny
2. Cyflawni’r cyllideb sefyllfa incwm cyffredinol ar gyfer GUCC, gan gynnwys cynnydd flwyddyn wrth flwyddyn mewn incwm rhent 3. Cwblhau ailddatblygiad llawr gwaelod yr adeilad yn llwyddiannus 4. Dod o hyd i arbedion effeithlonrwydd sylweddol neu cynnydd yn y cyfraniad masnachol ar gyfer 2017/18, o’i gymharu â 2016/17 5. Datblygu cynllun prosiectau cyfalaf 10 mlynedd ar gyfer yr Undeb, gan gynnwys cynlluniau ar gyfer derbynfa wedi’i huwchraddio
2. Datblygu cynllun gweithredu yn erbyn y meysydd a nodwyr ar gyfer adolygiad drwy broses archwilio mewnol i sicrhau cynnydd o fewn yr holl feysydd 3. Adolygu’r cynnydd a wnaed yn erbyn y cynllun a nodir o fewn y polisi ‘Nid yw’n Jôc’ a chyhoeddi’r cynnydd a wnaed a’r camau nesaf 4. Gweithredu Polisi Iaith Gymraeg ac adolygu cynnydd a wnaed mewn adroddiad i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr 5. Adolygu trefniadau Llywodraethu a democratiaeth yr Undeb, gan ganolbwyntio ar wneud strwythurau’r Undeb yn fwy hygyrch i fwy o fyfyrwyr
Bod wrth galon bywyd Cathays
cam 18
Bod wrth galon bywyd Cathays
Partneriaid Bywyd Gyda chwblhau prosiect llawr gwaelod 2016, rydym wedi diweddaru’r rhan fwyaf o ardaloedd sy’n wynebu myfyrwyr yn y pum mlynedd diwethaf. Mae'r newidiadau hyn wedi'n galluogi i ailwampio ein gwasanaethau i fyfyrwyr ac wedi bod yn allweddol o ran gwella ein ymgysylltu a boddhad myfyrwyr. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod nad yw’r Neuadd Fawr yn edrych ar ei orau ac yn theatr ddarlithio amhoblogaidd, felly dros y misoedd nesaf byddwn yn siarad â myfyrwyr ynghylch sut y gellir gwella’r lle. Wrth edrych i'r dyfodol, mae rhai digwyddiadau cyffrous iawn ar y ffordd. Mae Undeb y Myfyrwyr yn bartner allweddol yn y Ganolfan Bywyd Myfyrwyr y mae’r Brifysgol yn gobeithio dadorchuddio yn 2020. Bydd yr adeilad pum llawr yn ffinio adeilad Undeb y Myfyrwyr Plas-y-Parc, yn cynnig man croeso ar gyfer myfyrwyr, cartref ar gyfer holl wasanaethau cefnogi myfyrwyr y Brifysgol, yn ogystal â theatr ddarlithio, gofod astudio ac allfeydd manwerthu. Rydym yn hyderus y bydd y datblygiad newydd hwn yn atgyfnerthu Undeb y Myfyrwyr wrth wraidd campws Cathays ac y bydd yn darparu adnodd ardderchog ar gyfer cenedlaethau myfyrwyr dyfodol Caerdydd. Blaenoriaeth arall ar gyfer Undeb y Myfyrwyr yw ailwampio'r cyfleusterau’r Undeb ar gampws Parc Mynydd Bychan. Un o’r saith nodau sydd yn Ein Cynllun (2014-17) yw i ‘adeiladu profiad myfyriwr Campws Parc y Mynydd Bychan’. Fel rhan o’r cynllun, mae gennym uchelgais i ddatblygu adeilad Undeb Myfyrwyr yn y Mynydd Bychan. Dros y misoedd nesaf byddwn yn lobïo’r Brifysgol i ystyried hyn fel rhan o unrhyw gynlluniau datblygu Parc y Mynydd Bychan.
Adroddiad Effaith Blynyddol 2016 Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
Ymgynnull y tĂŽm gorau
cam 19
Ymgynnull y tîm gorau
Adroddiad Effaith Blynyddol 2016 Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
Ymddiriedolwyr ac uwch staff Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd Ymddiriedolwyr Sabothol Llywydd – Sophie Timbers (o 1 Gorffennaf 2016) Llywydd – Claire Blakeway (o 1 Gorffennaf 2015, i 30 Mehefin 2016) IL Cymdeithasau – Milly Dyer (o 1 Gorffennaf 2016) IL Cymdeithasau – Hannah Sterritt (o 1 Gorffennaf 2015, i 30 Mehefin 2016) IL Chwaraeon a Llywydd UA – Elin Harding (o 1 Gorffennaf 2016) IL Chwaraeon a Llywydd UA – Sam Parsons (o 1 Gorffennaf 2015, i 30 Mehefin 2016) IL Addysg – Mo Hanafy (o 1 Gorffennaf 2016) IL Addysg – Sophie Timbers (o 1 Gorffennaf 2015, i 30 Mehefin 2016) IL Parc y Mynydd Bychan – Niko Ciecierski-Holmes (o 1 Gorffennaf 2016) IL Parc y Mynydd Bychan – Katey Beggan (o 1 Gorffennaf 2015, i 11 Mawrth 2016) IL Myfyrwyr Ôl-raddedig – Alex Kuklenko (o 1 Gorffennaf 2016) IL Myfyrwyr Ôl-raddedig – Katie Kelly (o 1 Gorffennaf 2015, i 30 Mehefin 2016) IL Lles – Hollie Cooke (o 1 Gorffennaf 2016) IL Lles – Kate Delaney (o 1 Gorffennaf 2015, i 31 Mawrth 2016)
Ymddiriedolwyr Myfyrwyr Matthew Williams Alexandra Thornton-Reid (hyd at 30 Mehefin 2016) Thomas Tilston (hyd at 30 Mehefin 2016) Sarah Hopkins-Weaver (o 18 Gorffennaf 2016) Alex Williams (o 18 Gorffennaf 2016)
Ymddiriedolwyr a Enwebir gan y Brifysgol Gethin Lewis Susan Gwyer-Roberts (o 30 Mehefin 2016) Mark Leighfield (o 18 Gorffennaf 2016)
Ymddiriedolwyr Allanol Richard Roberts CBE Rakesh Aggarwal Joseph Al-Khayat (i 17 Medi 2015) Bethan Walsh (o 2 Chwefror 2016)
Uwch Staff Prif Weithredwr – Daniel Palmer Cyfarwyddwr Cyllid – Alice Courtney-Hatcher (i 10 Rhagfyr 2015) Dirprwy Brif Weithredwr Dros Dro (Cyfarwyddwr Gweithrediadau) – Ben Eagle Cyfarwyddwr Gwasanaethau Aelodaeth – Steve Wilford Cyfarwyddwr Gwasanaethau Masnachol – Mark Cheeseman
Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, Plas y Parc, Caerdydd. CF10 3QN