GWIRFODDOLI CAERDYDD CYFLEOEDD GWIRFODDOLI 2017/18 HELPU CHI I HELPU ERAILL
YCHYDIG AMDANON NI Sefydlwyd Gwirfoddoli Caerdydd ym mis Awst 2015 er mwyn darparu gwasanaeth gwirfoddoli cynhwysfawr ar gyfer holl fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Ni yw elusen mewnol Undeb y Myfyrwyr a reolir gan Fwrdd o Ymddiriedolwyr, gan gynnwys myfyrwyr presennol. Mae’r Aelodau Bwrdd yn cwrdd sawl gwaith dros y flwyddyn academaidd i wneud penderfyniadau allweddol am y ffordd y mae’r elusen yn cael ei gynnal. Mae gennym dros 65 o brosiectau yn gweithio gydag amrywiaeth o grwpiau yn y gymuned, gan gynnwys plant, pobl ifanc, yr henoed, a’r rheini gydag anghenion ychwanegol a llawer mwy! Mae gennym amrywiaeth o brosiectau rheolaidd a chyfleoedd unigryw, felly bydd rhywbeth sy’n addas ar gyfer pawb sydd eisiau cael blas ar wirfoddoli.
Rydym yn y Ganolfan Sgiliau ar 2il lawr Undeb y Myfyrwyr. Yma fe welwch Bennaeth Gwirfoddoli a’r Cydlynwyr Gwirfoddoli, a fydd yn gallu ateb unrhyw gwestiynau cyn i chi wneud cais. Ein Cydlynwyr Gwirfoddoli sy’n gyfrifol am ddigwyddiadau o ddydd i ddydd yr elusen, gan gynnwys cyfathrebu gydag Arweinwyr Gwirfoddoli a threfnu digwyddiadau. Rydym yma bob diwrnod gwaith i’ch helpu chi ddarganfod mwy am holl agweddau o waith gwirfoddoli, o’n prosiectau i wirfoddoli ar gyfer elusennau allanol. Bydd y tîm yn darparu cymaint o wybodaeth am y prosiect â phosib a chynnig cymorth a chyngor gyda’r broses gais a mwy. Rydym yn griw cyfeillgar felly peidiwch â bod ofn dod heibio’r swyddfa os fyddwch eisiau help, cyngor neu sgwrs gyfeillgar!
CWRDD A’R TIM Michelle Lenton-Johnson
Tumi Williams
Kelly Marlow
Katie Dougan
Pennaeth Datblygiad Myfyrwyr
Cydlynydd Gwirfoddoli
Cydlynydd Gwirfoddoli
Cydlynydd Gwirfoddoli
2
Gwirfoddoli Caerdydd
RHOI RHYWBETH YN ÔL Mae Gwirfoddoli Caerdydd yn elusen gofrestredig. Fel elusen, rydym yn dibynnu ar godi arian drwy gydol y flwyddyn i helpu cefnogi ein gwaith. Rydym yn gwneud hyn drwy gynnal digwyddiadau fel Jailbreak a’r Sleepout Myfyrwyr. Ar ôl agor siop Co-op newydd sbon ar lawr gwaelod adeilad Undeb y Myfyrwyr ym mis Rhagfyr llynedd, rydym yn gyffrous i gyhoeddi bod elusen Gwirfoddoli Caerdydd wedi cael ei ddewis fel un o’r achosion lleol y maent yn ei gefnogi. O nawr tan Hydref 2017, bydd yr holl arian sy’n cael ei godi gan gynllun aelodaeth Co-op yn mynd at helpu Gwirfoddoli Caerdydd i gynnal eu prosiectau gwych a helpu darparu cyfleoedd gwirfoddoli i fyfyrwyr. Trwy ddod yn aelod o’r cynllun gallwch ennill pwyntiau bob tro byddwn yn siopa. Gallwch wario’r pwyntiau hyn yn y dyfodol, a bydd 1% o bopeth byddwch yn ei wario yn mynd at elusen o’ch dewis. Yr oll sydd angen i chi wneud yw dewis Gwirfoddoli Caerdydd fel eich elusen ac yna fe fyddant yn derbyn 1%. Ewch heibio i’ch siop Co-op agosaf (mae un ar llawr gwaelod Undeb y Myfyrwyr) casglwch Gerdyn Aelodaeth, ewch ar-lein a dewiswch elusen (ni gobeithio!) a dechreuwch arbed arian yn ogystal â helpu Gwirfoddoli Caerdydd.
Gwirfoddoli Caerdydd
3
ARWEINWYR GWIRFODDOLI Mae ein harweinwyr gwirfoddoli yn fyfyrwyr sydd wedi ymgymryd â chyfrifoldeb ychwanegol o reoli prosiect. Nhw yw’r prif bwynt cyswllt ar gyfer gwirfoddolwyr a nhw sy’n rheoli presenoldeb, trefnu gweithgareddau a chynnal goruchwylio rheolaidd i sicrhau bod holl wirfoddolwyr yn hapus. Mae bod yn Arweinydd Gwirfoddoli yn ffordd wych o ennill sgiliau cyflogadwyedd gwerthfawr a fydd yn ychwanegu gwerth i’ch CV a’ch helpu gyda gyrfaoedd y dyfodol. Mae ein holl Arweinwyr Gwirfoddoli yn derbyn hyfforddiant penodol yn arwain at Dystysgrif Datblygiad Personol (Efydd) ac yn gymwys i gymryd rhan yn y Diploma Datblygiad Proffesiynol mewn Arweinyddiaeth newydd. Bydd Arweinwyr Gwirfoddoli hefyd yn derbyn cydnabyddiaeth ffurfiol o’r rôl ar drawsgrifiad HEAR y Brifysgol gyda’u cymhwyster gradd. Efallai bydd llefydd ar ôl ar brosiectau penodol ar gyfer Arweinwyr Gwirfoddoli – cysylltwch â ni os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu ffurflen gais!
“Dechreuais wirfoddoli gyda Hyrwyddwyr yr Amgylchedd yn ystod fy ail flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd. Dwi’n astudio Daearyddiaeth a Chynllunio ac oherwydd nad oes llawer o oriau cyswllt bob wythnos, roeddwn yn awyddus i wneud rhywbeth gwahanol gyda fy amser rhydd yn ystod yr wythnos (pan nad oeddwn i yn Llyfrgell Bute)! Flwyddyn yn ddiweddarach fe ddes i’n Arweinydd Gwirfoddoli ar y prosiect ac mae hyn wedi rhoi mwy o hyder i mi a Gwen Rhys Thomas gwella fy sgiliau cyfathrebu a threfnu Arweinydd Gwirfoddoli Hyrwyddwyr yr Amgylchedd 2016/17 tra’n rhoi profiadau na fyddwn ni wedi’u cael drwy ganolbwyntio ar fy astudiaethau academaidd yn unig. Rwyf wedi cwrdd â nifer o bobl newydd y tu hwnt i gymuned y myfyrwyr, ac wedi gwirfoddoli ar brosiectau y mae Hyrwyddwyr yr Amgylchedd yn falch iawn ohonynt. Rwyf wedi mwynhau fy amser fel Arweinydd Gwirfoddoli ar brosiect gwerth chweil ac effeithiol a byddwn yn annog pawb sydd â diddordeb i wirfoddoli dros achos y maent wir yn ymddiddori ynddo yn ystod eu hamser ym Mhrifysgol Caerdydd”.
4
Gwirfoddoli Caerdydd
10 RHESWM DROS WIRFODDOLI 1
Cwrdd â phobl newydd! Mae o hyd yn braf i gwrdd â phobl newydd sydd â safbwyntiau a diddordebautebyg i chi.
2
Adeiladu Hyder. Mae gwirfoddoli yn ffordd hyfryd i feithrin sgiliau cymdeithasola’ch hyder.
3
Sgiliau trosglwyddadwy. Mae gwirfoddoli yn rhoi tystiolaeth bendant o sgiliau, gan gynnwys rheoli amser, trefnu, cyfathrebu a datrys problemau.
4
Profiad ar gyfer eich CV. Mae angen tystiolaeth ac enghreifftiau i ategu yr hyn ar eich CV mewn cyfweliad swydd neu gais.
5
Rhoi yn ôl i’r gymuned. Mae’n siwr y byddwch chi’n dod i garu’r ddinas hardd yma, ac mae gwirfoddoli yn un ffordd y gallwch roi rywbeth yn ôl i’ch cartref newydd.
6
Teimlo’n dda. Mae cysylltiadau wedi cael eu gwneud rhwng gwirfoddoli a gwell iechyd meddwl, ond nid oes angen prawf wyddonol i wybod bod dim byd yn well na’r teimlo o wella diwrnod rhywun.
7
Gwobr Caerdydd. Mae gwirfoddoli yn rhan annatod o Wobr Caerdydd. Felly os fyddwch yn gwneud cais ar gyfer y cynllun hwn, gallwn ein helpu i daclo’r oriau gwirfoddoli mewn moddsy’n gweddu orau i chi.
8 9 10
Gwneud gwahaniaeth. Mae gwirfoddolwyr yn darparu gwasanaeth hynod o werthfawr i’r gymuned. Bydd eich gwaith yn cael ei werthfawrogi gan bartneriaid ysgolion, cartrefi gofal ac mae sefydliadau allanol o hyd yn ddiolchgar am eich cefnogaeth. Tystysgrifau Byddwch yn derbyn tystysgrif 50, 100 a 200 awr o wirfoddoli! Mwynhau! Mae gwirfoddoli yn hwyl – boed os rydych yn cymryd rhan mewn prosiect wythnosol, mynychu un digwyddiad fel Jailbreak, Sleep-outs neu’r Gemau Goroesi gallwn sicrhau y byddwch yn cael amser gwych!
Gwirfoddoli Caerdydd
5
GWYBODAETH DDEFNYDDIOL Hyfforddiant
Rydym am eich paratoi chi ar gyfer eich profiad gwirfoddoli, felly rydym yn cynnal sawl sesiwn hyfforddi ar ddechrau’r flwyddyn academaidd. Ar gyfer rhai prosiectau bydd hyfforddiant yn cynnwys ymweliad â’r lle byddwch yn gwirfoddoli. Bydd rhai o’r sesiynau yn orfodol ac mae’n rhaid i chi fynychu i gael eich hystyried ar gyfer y prosiect. Mae’r holl wirfoddolwyr yn derbyn hyfforddiant sy’n arbennig ar gyfer y prosiectau - gall hyn gynnwys Amddiffyn Plant, Profiad Ystafell Ddosbarth, Ymwybyddiaeth Dementia, Cymorth Cyntaf Sylfaenol a Datrys Gwrthdaro. Anogir ein holl gwirfoddolwyr i gymryd rhan mewn hyfforddiant benodol yn arwain at Dystysgrif Datblygiad Personol (Efydd) ac mae’r rheini mewn rôl arweinyddiaeth yn gymwys i gymryd rhan yn y Diploma Datblygiad Proffesiynol mewn Arweinyddiaeth newydd.
Tystysgrifau
Mae Gwirfoddoli Caerdydd yn rhedeg y Cynllun Gwirfoddolwyr y Mileniwm a bydd tystysgrifau yn cael eu dyfarnu ar ôl cwblhau 50, 100 a 200 awr o wirfoddoli. Mae’r rhain yn ffordd wych o ddangos eich ymrwymiad a sgiliau i gyflogwyr y dyfodol... ac maent yn edrych yn wych ar y wal hefyd!
6
Gwirfoddoli Caerdydd
Trafnidiaeth
Mae ein holl brosiectau o fewn yr ardal leol ac mae’n hawdd i’w cyrraedd drwy gwahanol fathau o drafnidiaeth. Bydd eich cydlynydd yn gallu dweud wrthych pa ffordd o deithio sydd orau ar gyfer eich prosiect, rhoi gwybod pa fws neu dren i’w ddal ac o le! Cofiwch ein bod ni’n elusen, felly defnyddiwch y ffordd rataf o deithio sydd ar gael i fynd a chi yn ôl ac ymlaen i’ch prosiect. Gan ddibynnu ar leoliad y prosiect a’r niferoedd sy’n teithio, efallai y bydd tacsis yn rhatach – bydd eich cydlynydd yn gallu rhoi cyngor ar hyn.
Polisïau a gweithdrefnau
Er mwyn i chi dderbyn y gefnogaeth fel gwirfoddolwyr, rydym wedi sicrhau bod gennym y polisïau a gweithdrefnau cywir ar waith. Bydd staff yn hapus i ddangos rhain i chi.
Treuliau
Byddwch yn derbyn unrhyw gostau teithio ac adnoddau ar gyfer gweithgareddau yn ôl i’ch cyfrif banc (ond mae’n RHAID i chi gadw’r holl dderbynebau/ tocynnau!) Nid yw’n costio dim i roi yn ôl i’r gymuned.
GWIRIADAU DBS! Mae’n rhaid i chi gael DBS er mwyn cymryd rhan mewn nifer o’n prosiectau. Os rydych wedi dewis prosiect lle bo angen gwiriad DBS, ni fyddwch yn gallu dechrau gwirfoddoli nes bod gennych un!
Beth yw DBS?
Pryd dwi angen gwneud cais?
Dylech ddechrau’r broses DBS cyn gynted ag sy’n bosib oherwydd gall y broses gymryd rhwng 2 i 8 wythnos. Cofiwch - ni fyddwch yn gallu dechrau gwirfoddoli ar brosiect sydd angen gwiriad DBS heb un!
Gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yw DBS (mae’n cael ei ddefnyddio i wirio Cofnodion Troseddol). Mae’n wiriad gan y llywodraeth i wirio os oes gennych unrhyw euogfarnau troseddol.
Gallwch wneud cais am DBS gyda ni ar unrhyw adeg, ond yn ystod y Glas byddwn yn cynnal syrjeri DBS ar y dyddiadau canlynol i’ch helpu i gyflymu’r broses:
Pam fod angen un?
Dyddiadau Syrjeri DBS
Os rydych wedi dewis gwirfoddoli ar brosiect lle byddwch mewn cyswllt agos a chyson gyda phlant neu oedolion sy’n agored i niwed, mae’n ofynnol, yn ôl y gyfraith i ni wirio eich cefndir troseddol.
Sut dwi’n cael un?
Mae gwiriadau DBS ar gyfer gwirfoddolwyr am ddim felly nid oes yn rhaid i chi dalu. Gall staff Gwirfoddoli Caerdydd eich tywys drwy’r broses. Dewch i nôl ffurflen DBS o’n swyddfa yn yr Undeb, cwblhewch y ffurflen (mewn inc DU a phriflythrennau!), yna dychwelyd y ffurflen gyda phroflenni (gwreiddiol) – peidiwch â phoeni, gallwn gynghori beth sy’n iawn i’w ddefnyddio! Byddwn wedyn yn danfon y ffurflen i ffwrdd ac yna fe fyddwch yn derbyn eich tystysgrif DBS, yna dod i’w ddangos i ni, ac yna byddwn ni’n barod i fynd!
Canolfan Sgiliau, Ystafell Hyfforddi 2 Medi: Dydd Gwener 29ain 10:00-14:00 Hydref: Dydd Mercher 4ydd – 17:00-20:00 Dydd Mawrth 10fed – 14:00-17:00 Dydd Mawrth 17eg – 17:00-20:00 Dydd Llun 23ain – 17:00-20:00 Mwy o wybodaeth ar: cardiffstudents.com/jobs-skills/ volunteering/dbs/
Gwirfoddoli Caerdydd
7
MYFYRWYR RHYNGWLADOL Os rydych yn fyfyriwr rhyngwladol, mae gwirfoddoli yn gallu bod yn ffordd wych i chi roi yn ôl i’ch cartref newydd, cwrdd â phobl newydd a dysgu sgiliau gwerthfawr. Dywedodd Chuma Amazigo, Gwirfoddolwr y Flwyddyn llynedd:
Cyfyngiadau Fisa
“Dywedodd Mohammed Ali unwaith: ‘Mae gwasanaethu eraill yn rent yr ydych yn ei dalu am eich ystafell ar y Ddaear’. Dwi’n credu bod angen rhoi mwy yn ôl na beth rydym yn ei dderbyn. Dwi’n cael mwy o lawenydd yn gweld y wen ar wyneb y rhai llai ffodus na gwylio fy hoff dîm pêl-droed yn ennill. Dyma sy’n sbarduno fy angerdd am fod yn wirfoddolwr”
Os oes gennych Fisa Ymwelydd Myfyrwyr nid ydych yn gallu rhan mewn prosiectau gwirfoddoli hir dymor ond gallwch gymryd rhan yn ein digwyddiadau un-tro - gall staff Gwirfoddoli Caerdydd eich cynghori ynglyˆn â hyn.
Newyddion da! Mae ein holl brosiectau yn cael eu cyfri fel gwirfoddoli a NID gwaith gwirfoddol, nid ydynt yn rhan o’r Fisa Haen 2, cyfyngiadau gwaith ar gyfer myfyrwyr y tu allan i’r UE.
Mae angen gwiriad DBS (cofnod troseddol) ar gyfer rhai prosiectau, os fyddwch yn gweithio gydag oedolion sy’n agored i niwed neu blant. Gall y gwiriadau hyn amrywio yn dibynnu ar eich gwlad cartref. Dewch i’n swyddfa am gyngor. Os rydych wedi byw yn y DU am llai na 5 mlynedd bydd hefyd angen gwiriad cofnod troseddol o unrhyw wlad arall rydych wedi byw ynddo - mae’r rhain weithiau yn cael eu galw yn “Certificate of Good Conduct”/ “Certificate of No Criminal Record” neu “National Police Check”. Y peth hawsaf i’w wneud yw ffonio eich Llysgenhadaeth yn Llundain a thrafod gyda nhw. Cofiwch - bydd hefyd angen gwiriad DBS ar gyfer yr amser y byddwch yn y DU, gall staff Gwirfoddoli Caerdydd helpu gyda hyn. Edrychwch am y bathodyn Dim-DBS i ddod o hyd i brosiectau nad oes angen y gwiriad. Bydd hyn yn arbed amser i chi os rydych am ddechrau gwirfoddoli yn syth.
Chuma Amazigo Gwirfoddolwr y Flwyddyn 2016/17
8
Gwirfoddoli Caerdydd
CYFLEOEDD UNTRO Rydym yn sylweddoli bod cydbwyso gwirfoddoli gyda darlithoedd, cymdeithasau, chwaraeon a’ch bywyd cymdeithasol yn gallu bod yn anodd, felly rydym hefyd yn cynnig nifer o ddigwyddiadau untro yn ystod y flwyddyn. Mae’r digwyddiadau arddull ‘Rho Gynnig Arni’ yma yn rhoi’r cyfle i chi gymryd rhan mewn gwirfoddoli a rhoi rywbeth yn ôl i’r gymuned heb unrhyw ymrwymiad parhaus. Rydym wedi nodi rhai o’n cyfleoedd unigryw isod, ond edrychwch ar ein gwefan cardiffstudents.com/ volunteering am fwy o ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn!
volunteering/ neu gysylltu â Naomi Warner ar volunteers@run4wales.org.
Dydd Mercher 4ydd Hydref: Murlun Cofio
Dewch â’ch offer peintio a helpu ni beintio ‘Murlun Cofio’ ar wal Cartref Nyrsio Burges House, Ffordd Newport i helpu preswylwyr gydag Altzeimers i gofio eu hatgofion. Bydd lluniaeth yn cael ei ddarparu. Cyfarfod yn swyddfa Gwirfoddoli Caerdydd am 13:30. 13:30-17:00.
Dydd Mercher 4ydd a Dydd Dydd Sul 1af Hydref: Hanner Iau 5ed Hydref: Cyflwyniad yr Amgylchedd Marathon Caerdydd Prifysgol Hyrwyddwyr Os rydych yn ystyried dod yn wirfoddolwr Caerdydd ar gyfer ein prosiect Hyrwyddwyr yr Prifysgol Caerdydd yw prif noddwyr Hanner Marathon Caerdydd sy’n digwydd eleni ar ddydd Sul 1af Hydref. Dyma uchafbwynt y flwyddyn chwaraeon yng Nghaerdydd. Dyma ail hanner marathon fwyaf yn y DU, gyda 25,000 o redwyr yn dod i redeg y cwrs 13 milltir o amgylch Caerdydd. Yn cael ei ddarlledu yn fyw ar deledu BBC Wales, fe gododd mwy na 2.3 miliwn o bunnoedd ar gyfer elusen llynedd.
Os hoffech fod yn rhan o’r digwyddiad cyffrous, ond ddim awydd rhedeg 13 milltir, gallwch gofrestru i wirfoddoli. Mae yna lefydd ar y llinell dechrau/orffen a nifer o Stondinau Dw ˆ r ar hyd y llwybr. Bydd yr holl wirfoddolwyr yn derbyn dillad hanner marathon a lluniaeth ar gyfer y diwrnod. Gallwch weld mwy o wybodaeth ar http://www.cardiffhalfmarathon.co.uk/
Amgylchedd, ond ddim yn siw ˆ r os mai dyma’r prosiect i chi, dewch i’n noson sgwrs gychwynnol. Dewch i ddysgu mwy am fanteision gwirfoddoli, darganfod y cyfleoedd a digwyddiadau sydd ar gael a chael blas o’r hyfforddiant y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud. Os rydych yna’n penderfynu dod yn Hyrwyddwr Amgylcheddol, gwych! Os nad, mae hynny yn iawn! Cyfarfod yn Nerbynfa Neuadd y Ddinas Caerdydd am 17:30. 17:30-10:00, naill ddydd
Dydd Mercher 11eg Hydref: Cerdded Canol Dinas Big Issue
Ewch am daith unigryw o amgylch Caerdydd, cyfle i gwrdd â gwerthwyr sy’n gweithio i wella’u bywydau ac ymweld â phencadlys Big Issue Cymru. Gwirfoddoli Caerdydd
9
Defnyddiwch y cyfle hwn i ddarganfod mwy am ein prosiect Gwirfoddoli Big Issue, sy’n rhoi’r cyfle i chi ddarparu cymorth a chyngor i gwerthwyr Big Issue di-gartref o amgylch Canol Caerdydd. Cyfarfod yn swyddfa Gwirfoddoli Caerdydd am 14:00 i gerdded o amgylch rhai o fannau mwyaf gwerthwyr Big Issue – yn gorffen ym Mhencadlys Big Issue am daith o’u swyddfeydd a sgwrs wybodaeth gan staff. Pryd: 14:00-16:00
Dydd Mercher 18fed Hydref: Clirio Cathays
Os rydych yn teimlo’n angerddol am y lle rydych yn byw yna dyma’r digwyddiad i chi! Ymunwch â ni y tu allan i fynediad Ffordd Senghennydd yr Undeb am 13:00 i glirio strydoedd lleol Cathays. Byddwch yn rhan o dîm gwych o bobl brwdfrydig, yn cynnwys trigolion lleol, Heddlu De Cymru, Cadw Cymru’n Daclus a staff Undeb y Myfyrwyr. Byddwch yn derbyn crys-t, menig, codwr ysbwriel, a bwyd am ddim... yn ogystal â’r teimlad hyfryd hwnnw eich bod wedi gneud gwelliant enfawr i’ch tref newydd! Cofrestrwch ar wefan Gwirfoddoli Caerdydd. Pryd: 13:00-15:00
Dydd Iau 19eg Hydref: Bowlio Dall
Awydd gêm bowlio 10 ychydig yn wahanol? Dewch i ryngweithio gyda’r rheini sydd â nam golwg yn ystod gêm o fowlio deg, yn cynnwys cael eich hyfforddi fel tywyswyr y dall gan staff Sefydliad y Deillion Caerdydd.
10
Gwirfoddoli Caerdydd
Byddwch yn cael y cyfle i brofi’r namau golwg yn uniongyrchol yn defnyddio sbectol arbennig! Cyfarfod yn swyddfa Gwirfoddoli Caerdydd am 17:00. Cofrestrwch ar ein gwefan. 17:00-20:00
Dydd Sadwrn 24ain Hydref: Pwer Cwn Bach
Dewch i fynd â chw ˆ n am dro yn yr awyr iach a rhoi sylw iddynt! Cyflwyniad gwych i brosiect cerdded cw ˆ n rheolaidd Gwirfoddoli Caerdydd. Os rydych chi’n colli eich ci chi yn barod ac eisiau dysgu mwy am y gwaith yng Nghartref Cw ˆn Caerdydd, yna dyma yw’r prosiect ar eich cyfer chi! Gwisgwch hen ddillad ac esgidiau addas. Byddwn yn darparu trafnidiaeth. Cyfarfod yn swyddfa Gwirfoddoli Caerdydd am 13:00. Cofrestrwch ar wefan Gwirfoddoli Caerdydd. Pryd: 13:00-16:00
Chwefror 19eg - 25ain Wythnos Gwirfoddoli Myfyrwyr
Safiwch y dyddiad! Mae Wythnos Gwirfoddoli Myfyrwyr rhwng 19eg – 25ain Chwefror flwyddyn nesaf. Yn ystod yr wythnos byddwn yn cynnal nifer o gyfleoedd gwirfoddoli un-tro a digwyddiadau y gallwch gymryd rhan ynddynt. Edrychwch ar wefan Gwirfoddoli Caerdydd y tymor nesaf i weld beth sy’n mynd ymlaen!
DIGWYDDIADAU CODI ARIAN Rydym ni’n caru digwyddiadau codi arian yma yn Gwirfoddoli Caerdydd! Mae ein gweithgareddau codi arian yn ddigwyddiadau cyffrous yng nghalendr y myfyrwyr. Fel elusen annibynnol, rydym o hyd yn chwilio am ffyrdd i gynyddu ein refeniw fel ein bod ni’n gallu cefnogi mwy o brosiectau yn y gymuned. Dyma restr o’r prif ddigwyddiadau codi arian y gallwch gymryd rhan ynddynt:
Sleepout Myfyrwyr: Hydref 13eg
Dyma’r cyntaf o’n digwyddiadau Sleepout Myfyrwyr. Mae’n rhoi’r cyfle i fyfyrwyr brofi cysgu ar y strydoedd am noson. Mae’n brofiad gwerth chweil, gyda’r arian i gyd yn mynd tuag at ddatblygu ein prosiectau digartrefedd a llawer o rai eraill. Byddwch yn cysgu o dan y sêr (wel o dan canopi ar waelod grisiau’r Undeb ar Blas y Parc) rhwng 19:00 a 07:00. Bydd y rhai sy’n para’r noson gyfan yn derbyn brecwast poeth yn y Taf a chrys-t ‘Dwi wedi goroesi’! Awydd ymuno â ni? Gallwch gofrestru yn ystod y Glas neu edrych ar ein gwefan am fwy o fanylion.
Jailbreak18: 9fed - 11eg Mawrth
Cynhelir ein digwyddiad codi arian blynyddol rhwng y 9fed a 11eg Mawrth 2018. Ffurfiwch dîm er mwyn rasio mor bell o Gaerdydd a nôl eto mewn 52 awr, heb wario unrhyw arian ar drafnidiaeth! Llynedd fe wnaeth y tîm buddugol dorri record Prifysgol Caerdydd a mynd i Cyprus a nôl eto, gyda 5 munud i’w sbario cyn y terfyn amser! Meddwl gallwch chi fynd yn bellach? Cymerwch ran! Byddwn hefyd yn cynnal digwyddiad Detio Cyflym Jailbreak18 yn Hydref i’ch helpu i ddod o hyd i’ch tîm JAILBREAK perffaith! Gwirfoddolwyr JAILBREAK18 Byddwch yn rhan o dîm Jailbreak sydd yn yr Undeb yn ystod penwythnos Jailbreak. Bydd y gwirfoddolwyr yma yn tracio pa mor bell mae’r holl dimau yn mynd, ac yn bwysicach oll helpi i’w cadw nhw’n saff. Mae hyn yn cyfrif tuag at oriau Gwobr Caerdydd. Mwy o wybodaeth ar ein wefan.
Sleepout Myfyrwyr: Y Gemau Goroesi: 10fed Rhagfyr Ebrill 27ain Digwyddiad codi arian newydd sbon ar gyfer 2017/18! Mae Tributes yn cael eu cyflwyno mewn parau (o glybiau, cymdeithasau neu ffrindiau) am frwydr gwn NERF ar ail lawr Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Pwy bynnag fydd yn llwyddo codi mwyaf o arian ar gyfer Gwirfoddoli Caerdydd, nhw fydd yn cael dewis yr arfau gyntaf. Dewch i risgio popeth, ac osgoi cael eich bwrw allan gan fwledi NERF a chleddyfau sbwng. Gallwch chi fod yn Bencampwr y Gemau Goroesi eleni? Dewch i ddarganfod!
Dyma ein ail ddigwyddiad Sleepout Myfyrwyr Mawr. Mae’n rhoi’r cyfle i fyfyrwyr brofi cysgu ar y strydoedd am noson. Mae’n brofiad gwerth chweil, gyda’r arian i gyd yn mynd tuag at ddatblygu ein prosiectau digartrefedd a llawer o rai eraill. Byddwch yn cysgu o dan y sêr rhwng 19:00 a 07:00. Bydd y rhai sy’n para’r noson gyfan yn derbyn brecwast poeth yn y Taf a chrys-t ‘Dwi wedi goroesi’! Awydd ymuno â ni? Gallwch gofrestru yn ystod y Glas neu edrych ar ein gwefan am fwy o fanylion. Gwirfoddoli Caerdydd
11
GWIRFODDOLI RHEOLAIDD Rydym yn gweithio llawer gyda phartneriaid lleol a grwpiau cymuned i ddarparu nifer o gyfleoedd gwirfoddoli gwych ar gyfer myfyrwyr Caerdydd. Eleni mae gennym dros 50 o brosiectau gwych y gallwch gymryd rhan ynddynt, ac mae’r rhain wedi’u grwpio i chwech ‘thema’ cyffredinol i’ch helpu gael syniad gwell ar yr hyn maent yn ganolbwyntio arnynt.
(Pics of 6 coloured circles)
12
Gwirfoddoli Caerdydd
PLANT Clybiau ar ôl Ysgol Cyngor Caerdydd
Bydd gwirfoddolwyr yn darparu cefnogaeth un wrth un i blentyn gydag anghenion ychwanegol / anabledd yn y ddarpariaeth chwarae agored yn yr Awdurdod Lleol, yn cynorthwyo nhw i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys celf a chrefft / chwaraeon ayyb. Bydd y plant rhwng 5-14. Mae’r Clybiau ar ôl ysgol yn digwydd bob diwrnod o’r wythnos mewn amryw o leoliadau o amgylch Caerdydd felly mae’n sicr y bydd diwrnod ac amser addas ar gyfer eich amserlen! Pryd: Dydd Llun - Dydd Gwener, 15:3018:00 (Amser tymor yn unig). Ble: Lleoliadau amrywiol yng Nghaerdydd. Angen DBS: Oes.
Cynlluniau Chwarae’r Gwyliau Cyngor Caerdydd Mae Cynlluniau Chwarae’r Gwyliau Cyngor Caerdydd yn digwydd mewn amryw o leoliadau yn ystod gwyliau’r ysgol (heblaw am wythnos y Nadolig) rhwng 10:00 – 13:00 a 14:00 – 17:00 dyddiau’r wythnos. Maent wedi’u anelu at blant rhwng 5-14. Bydd gwirfoddolwyr yn cynorthwyo gyda gweithgareddau (gan gynnwys tripiau oddi ar y safle) a darparu cymorth un wrth un i blant ag anghenion ychwanegol / anableddau.
Dathlu’r Plant
Mewn partneriaeth â Dathlu’r Plant DU, mae hwn yn grw ˆ p Sgiliau Cymdeithasol ar gyfer plant a phobl ifanc ar y sbectrwm awtistiaeth. Mae’r dull Perthynas Datblygiadol Unigol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r plant a datblygu sgiliau cymdeithasol drwy ryngweithio ystyrlon yn seiliedig ar brofiad. Bydd gwirfoddolwyr yn helpu darparu amrywiaeth o weithgareddau grw ˆ p e.e Amser cylch, gemau parasiwt, cyrsiau rhwystr yn ogystal â chwarae plant un wrth un lle bydd staff a gwirfoddolwyr yn cefnogi eu plentyn i reoleiddio, ymgysylltu, cyfathrebu, datrys problemau a meddwl yn annibynnol. Bydd gwirfoddolwyr yn derbyn hyfforddiant gan aelod o staff profiadol. Bydd hyfforddiant ffurfiol ar y dull Perthynas Datblygiadol Unigol yn cael ei ddarparu hefyd. Pryd: Dydd Sadwrn (amser tymor yn unig) 09:00-11:00: Plant 3-8 oed a 11.1513.15: 9-16 oed. Ble: Neuadd bentref St Ffagan, Caerdydd, CF5 6DU. Angen DBS: Oes.
Cwtch gyda’n Gilydd
Mae’r prosiect hwn ar gyfer plant sydd ag anghenion ychwanegol / anableddau. Mae’r plant yn mynychu gyda’u rhieni, gofalwyr, brodyr a chwiorydd neu weithwyr cefnogi.
Pryd: Dydd Llun - Dydd Gwener, 10:0013:00 a 14:00-17:00 (Gwyliau ysgol yn unig). Ble: Lleoliadau amrywiol yng Nghaerdydd. Angen DBS: Oes. Gwirfoddoli Caerdydd
13
Bydd gwirfoddolwyr yn hwyluso gweithgareddau chwarae megis celf a chrefft / chwaraeon ayyb mewn modd grw ˆ p neu un wrth un.
Pryd: Dydd Llun-Gwener, 10:00-15:00 (gwyliau ysgol). Ble: Canolfan Chwarae Riverside Angen DBS: Oes.
Pryd: Ddydd Sadwrn, 10:00-16:00. Ble: Canolfan Gymunedol Reach Grangetown. Angen DBS: Oes.
Clwb Gwaith Cartref: Ysgol Gynradd Allensbank
Cynllun Cyfeillion
Prosiect partneriaeth yn cael ei redeg gan Gwasanaeth Blant Cyngor Caerdydd, mae Cynllun Cyfeillion yn gynllun cyfeillio ar gyfer plant sydd ar y gofrestr Plant Mewn Angen. Mae gwirfoddolwyr yn mynd â’r plant allan unwaith yr wythnos am tua 2 awr i wneud rhywbeth hwyl a diddorol! Bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu gan Dîm Gwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd. Pryd: Wythnosol (hyblyg sy’n addas ar gyfer eich amserlen). Ble: Lleoliadau amrywiol yng Nghaerdydd. Angen DBS: Oes.
Clwb Funshine
Mae’r Clwb Funshine yn gynllun chwarae mynediad caeedig yr Awdurdod Lleol sy’n digwydd bob gwyliau’r ysgol heblaw am wythnos y Pasg a’r Nadolig. Mae’r clwb gwyliau ar gyfer plant rhwng 8 – 11 sydd ag anghenion arbennig / anableddau. Bydd gwirfoddolwyr yn hwyluso gweithgareddau chwarae mewn amgylchedd mynediad gaeedig saff a diogel.
14
Gwirfoddoli Caerdydd
Mae gwirfoddolwyr yn cefnogi plant 9-11 mlwydd oed sydd wedi’u nodi fel rhai sydd angen cymorth ychwanegol gyda gwaith ysgol. Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr brwdfrydig, llawn cymhelliant sy’n amyneddgar ac yn ddeallgar. Pryd: Dydd Iau, 14:45-16:30. Ble: Ysgol Gynradd Allensbank, Caerdydd. Angen DBS: Oes.
Gwneud Gwên
Mae Gwneud Gwên yn fenter dan arweiniad myfyrwyr lle mae gwirfoddolwyr yn ymweld ag amryw o wardiau ysbyty plant a chanolfannau wedi gwisgo fel cymeriadau adnabyddus i blant. Bydd gwirfoddolwyr yn derbyn hyfforddiant i fynychu amrywiaeth o ddigwyddiadau gan gynnwys digwyddiadau elusen, partïon pen-blwydd ayyb. Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr hwyl sy’n gallu actio fel cymeriad, bod yn angerddol am y gwaith a chanolbwyntio ar y plant. Pryd: Oriau amrywiol sy’n addas o amgylch eich amserlen (isafswm o 10 awr y tymor). Ble: Lleoliadau amrywiol yng Nghaerdydd. Angen DBS: Oes.
TY Nightingale
Mae Tyˆ Nightingale (rhan o Gymdeithas Tai Cadwyn) yn hostel ar gyfer teuluoedd digartref sydd angen cymorth. Bydd gwirfoddolwyr yn cynnig cefnogaeth, gofal ac anogaeth i blant digartref yn yr hostel gan ddarparu gofal plant mewn awyrgylch crèche a fydd yn galluogi eu rhieni i gymryd rhan mewn addysg, hyfforddiant a gweithgareddau cyflogaeth. Mae hwn yn gyfle gwych i wneud gwahaniaeth i fywydau teuluoedd digartref a phlant, yn ogystal ag ennill profiad yn gweithio gyda’r digartref a’r sector cymorth. Mae Tyˆ Nightingale yn gofyn am ymrwymiad o 2-3 awr yr wythnos am leiafswm o 6 mis i feithrin perthynas da gyda’r cleientiaid. Bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu. Pryd: Dydd Mercher, 13:30-16:30. Ble: Tyˆ Nightingale, Ffordd Newport. Angen DBS: Oes.
Tiwtora Ysgol Gynradd
Mae’r prosiect hwn yn ddelfrydol ar gyfer ennill profiad yn yr ystafell ddosbarth, neu’r rheini sydd angen cwblhau oriau penodol ar gyfer eu cwrs TAR. Gwirfoddoli fel cynorthwyydd dosbarth, fe fyddwch yn cael mewnwelediad i awyrgylch yr ystafell ddosbarth a’r cwricwlwm Cyfnod Allweddol un a dau. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â 12 ysgol gynradd lleol ac mae cyfleoedd yn cynnwys gwaith grw ˆ p, cymorth un wrth un a chefnogaeth anghenion arbennig. Isafswm o hanner diwrnod yr wythnos mewn unrhyw ysgol ond fe fyddai llawer yn croesawu mwy os yn bosib!
Pryd: Hyblyg (er mwyn gweddu eich amserlen) Ble: Gwahanol ysgolion yng Nghaerdydd Angen DBS: Oes
Arwyr Gwyddoniaeth Myfyrwyr
DIM DBS
Mae Ymchwil Canser Cymru yn chwilio am fyfyrwyr i helpu datblygu pecyn gwybodaeth ysgolion i godi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd a rhyfeddodau gwyddoniaeth o oedran cynnar. Byddwch yn gweithio’n agos gyda Chodwyr Arian Cymunedol Ymchwil Canser Cymru a’u Rheolwr Prosiectau a Chyfathrebu Gwyddonol, Dr Lee Campbell i ddatblygu eu rhaglen ysgolion NEWYDD. Unwaith bydd y pecyn wedi’i ddatblygu’n llawn fe fydd yn ffurfio yn rhan o raglen addysg eang Cymru ar gyfer ysgolion cynradd gyda’r myfyrwyr yn cael cynnig y cyfle i gefnogi / darparu sesiynau. Pryd: Hyblyg (er mwyn gweddu eich amserlen). Ble: Cyfarfod cychwynnol yn swyddfeydd Ymchwil Canser Cymru, yr Eglwys Newydd, yna hyblyg. Angen DBS: Na.
Gwirfoddoli Caerdydd
Y Fenter Tosturi
Mae tua un o bob pedwar yn profi problem iechyd meddwl yn y DU bob blwyddyn (Mind UK). Mae Therapi sy’n Canolbwyntio ar Dosturi yn system o seicotherapi sy’n dysgu pobl sut i edrych ar ôl eu iechyd meddwl eu hunain drwy ymyriadau therapiwtig. Mae ymchwil wedi dangos bod gan y therapi nifer o fanteision megis llai o iselder a phryder. Mae’r Fenter Tosturi yn brosiect dan arweiniad myfyrwyr a fydd yn gweithio gydag ysgolion lleol i greu a darparu gwersi a gweithdy am y therapi a fydd yn helpu myfyrwyr i fonitro a gwella eu iechyd meddwl eu hunain. Pryd: Dydd Mawrth, 18:30-19:30. Ble: Undeb y Myfyrwyr. Angen DBS: Oes.
Y Clwb Dysgu
Yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth â ACE, Caerdydd. Bydd gwirfoddolwyr yn helpu darparu sesiynau dysgu ar gyfer plant ysgol gynradd o ardaloedd mwyaf difreintiedig Caerdydd sydd angen eich cymorth gyda’u haddysg. Yn ddelfrydol ar gyfer y rheini sy’n gallu rhoi 2 awr yr wythnos, sydd wir yn gallu gwneud gwahaniaeth. Nid yw profiad o ddysgu yn hanfodol. Pryd: Dydd Mercher a dydd Iau 17:0019:00 a 10:00-12:00 ar ddydd Sadwrn. Ble: Lleoliadau amrywiol yng Nghaerdydd. Angen DBS: Oes.
16
Gwirfoddoli Caerdydd
Thrive
Mae Thrive yn grw ˆ p cymorth ar gyfer plant rhwng 0-12 oed gydag amrywiaeth o anghenion ychwanegol. Mae’r grw ˆ p yn cyfarfod mewn dwy ganolfan chwarae meddwl dan do yng Nghaerdydd ar wahanol ddyddiau ac amser yr wythnos. Mae gwirfoddolwyr yn cefnogi, diddanu ac ennyn diddordeb y plant, yn rhoi cyfle i’w rhieni a’u gofalwyr i gael seibiant. Pryd: Bob dydd Gwener 18:00-19:30 ac phob yn ail dydd Sul 09:00-11:00. Ble: Caerdydd. Angen DBS: Oes.
Clwb Dydd Mercher
Clwb gweithgarwch ar ôl ysgol mewn dwy ysgol gynradd lleol. Mae gwirfoddolwyr yn darparu gweithgareddau ar gyfer plant yn cynnwys celf a chrefft, coginio, chwaraeon awyr agored a gemau dan do sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm. Pryd: Dydd Mercher, 14:30-16:30. Ble: Ysgol Gynradd Glan-Yr-Afon a Ysgol Gynradd Stacey. Angen DBS: Oes.
CYMUNEDOL Big Issue - Ffrindiau Myfyrwyr
Darparu cymorth gwerthfawr i gwerthwyr Big Issue ar strydoedd Caerdydd, yn darparu cymorth i bobl sy’n gweithio’n galed i fynd yn ôl i’r gwaith, o dan do ac allan o dlodi. Byddant hefyd ym mhencadlys Big Issue Cymru, yn cyfrannu at eu gweledigaeth hanfodol o ddileu tlodi. Pryd: Wythnosol (er mwyn gweddu eich amserlen). Ble: Canol Dinas Caerdydd i. Angen DBS: Oes.
Cyfeillion CIB
DIM DBS
Bydd gwirfoddolwyr yn cynorthwyo mewn darparu digwyddiadau cymdeithasol misol ar gyfer pobl lleol gyda nam ar eu golwg, mewn partneriaeth â Sefydliad y Deillion Caerdydd. Gallai hyn gynnwys canu, crwydro, bowlio, beicio, sesiynau yn y gampfa ac ati. Darperir hyfforddiant llawn. Pryd: Misol. Ble: Swyddfeydd Sefydliad y Deillion, Canol Dinas Caerdydd. Angen DBS: Na.
Cyfeillion Dimensiynau
Mae’r prosiect Cyfeillion Dimensiynau yn gyfle i chi wneud rhywbeth hwyl tra’n helpu eraill! Bydd gwirfoddolwyr yn cyfeillio gydag oedolion ag anawsterau dysgu a/neu awtistiaeth ar sail un wrth un, darparu cwmnïaeth, cymhelliant a chefnogaeth. Byddwch yn cwrdd â’r cyfaill yn eu cartref yna’n mynd gyda nhw ar weithgaredd o’u dewis e.e bowlio, sinema, coffi ayyb. Bydd ad-daliad am
yr holl dreuliau (ond cofiwch gadw eich derbynebau!) a darperir hyfforddiant llawn gan ein partner, Dimensiynau. Pryd: Hyblyg (er mwyn gweddu eich amserlen). Ble: Lleoliadau amrywiol yng Nghaerdydd. Angen DBS: Oes.
Llysgenhadon Myfyrwyr Kyle’s Goal DIM DBS
Elusen newydd yw Kyle’s Goal, wedi’i sefydlu gyda’r bwriad o adeiladu canolfan adsefydlu ar gyfer plant a phobl ifanc ag anafiadau i’r ymennydd yng Nghymru. Mae angen eich cymorth i helpu gyda’r prosiect ym Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd i helpu godi arian tuag at yr achos. Bydd gwirfoddolwyr yn cynorthwyo gyda chasgliadau bwced, gwerthu nwyddau a chodi ymwybyddiaeth ar ymadawiad ar ddydd Llun, Mercher, Gwener, Sadwrn a ddydd Sul i gyd-fynd gydag amseroedd hedfan rhyngwladol. Mae’n rhaid cael mynediad i gar ar gyfer y prosiect hwn. Mae parcio am ddim ar gyfer y gwirfoddolwyr a byddwch yn derbyn costau teithio. Pryd: Hyblyg (er mwyn gweddu eich amserlen). Ble: Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd. Angen DBS: Na.
Gwirfoddoli Caerdydd
17
Let’s Get Social
DIM DBS
Mae Ymchwil Canser Cymru angen myfyrwyr cyfryngau brwdfrydig a meistrolgar! Os rydych yn hoffi trydar, yn ffan o Facebook neu’n siriys am Snapchat rydym eich angen chi! Bydd angen i wirfoddolwyr adeiladu presenoldeb yr elusen ar-lein, dylunio a datblygu graffeg a helpu codi ymwybyddiaeth. Mae’r prosiect hefyd angen ffotograffwyr a chrewyr fideo i helpu adeiladu a datblygu llyfrgell o adnoddau. Boed yn tynnu lluniau rhoddion yn y siop briodas, Pritchard and Moore neu saethu fideos hyrwyddo ar gyfer digwyddiadau, mae’r rhestr yn ddiddiwedd! Pryd: Hyblyg (er mwyn gweddu eich amserlen). Ble: Hyblyg gyda’r opsiwn i weithio o swyddfeydd ymchwil canser Cymru, yr Eglwys Newydd. Angen DBS: Na.
Cynllun Cyfeillio Byw Gyda Aspergers
Cynllun cyfeillio, delfrydol ar gyfer myfyrwyr seicoleg (ond yn agored i bawb). Bydd y prosiect hwn yn paru myfyrwyr gyda phobl ag Aspergers, awtistiaeth ac heriau dysgu, a rhoi mewnwelediad ar brofiadau dyddiol pobl sy’n byw ar y sbectrwm. Pryd: Oriau a drefnwyd rhwng y cleient a’r myfyriwr. Ble: Lleoliadau amrywiol yng Nghaerdyddi. Angen DBS: Oes.
18
Gwirfoddoli Caerdydd
Grwp Cyfraith Byw gydag Aspergers
DIM DBS
Prosiect penodol ar gyfer myfyrwyr y gyfraith i gymryd rhan mewn ymchwil, ennill mewnwelediad i hawliau pobl anabl, y Ddeddf Cydraddoldeb a’r gyfraith wrth ddelio â fformatau hygyrch ar gyfer pobl ag anawsterau dysgu. Bydd angen lefel benodol o ymrwymiad, fodd bynnag fe fydd cyfleoedd pellach yn y dyfodol i’r rheini sydd â diddordeb amlwg. Pryd: 4 awr yr wythnos. Ble: Gweithio gartref. Angen DBS: Na.
Grwp Cymdeithasol MIRUS
Mae’r Grwpiau Cymdeithasol MIRUS yn cefnogi pobl gydag anableddau dysgu ac yn eu galluogi i gymryd rhan mewn gweithgareddau ac adeiladu cyfeillgarwch. Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i ymuno ag un o’r grwpiau gyda’r nos a chefnogi aelodau, fel ffrind, tra eu bod yn mwynhau gweithgareddau megis mynd am fwyd fel grw ˆ p, bowlio, chwarae golff mini, karaoke, neu unrhyw weithgaredd arall o’u dewis. Mae cyfeillio un wrth un hefyd ar gael. Pryd: Unwaith bob pythefnos ar noson o’r wythnos gwaith: 18:00-20:00 neu 19:00-21:00. Ble: Lleoliadau amrywiol yng Nghaerdydd. Angen DBS: Oes.
Grŵp Iechyd a Lles MIRUS
Mae grw ˆ p Iechyd a Lles MIRUS yn cynnig cyfleoedd i bobl ag anableddau i gymryd rhan mewn gweithgareddau byw yn iach, megis ymarfer corff, chwaraeon a bwyta’n iach.
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i ymuno â’r grw ˆ p a chefnogi aelodau, fel ffrind, tra’n cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau iechyd a lles. Efallai y bydd cyfleoedd i wirfoddolwyr gynnal gweithgareddau os oes ganddynt unrhyw sgiliau/gwybodaeth arbennig. Pryd: Bob Dydd Mawrth, 14:00-16:00 neu ddydd Gwener, 18:00-20:00. Ble: Canolfan Chwaraeon Tal-y-bont. Angen DBS: Oes.
Canolfan Ddydd Oldwell Court
DIM DBS
Mae Canolfan Ddydd Oldwell Court, ar gyfer pobl gyda dementia, yn chwilio am wirfoddolwyr i drefnu gweithgareddau ar gyfer defnyddwyr eu gwasanaeth. Gall y gweithgareddau fod yn gelf a chrefft, cerddoriaeth, barddoniaeth neu unrhyw beth arall sydd gennych ddiddordeb ynddynt, ond mae’n rhaid eu bod ar y lefel cywir ar gyfer rheini sydd â dementia i ymgysylltu â nhw. Hoffem wirfoddolwyr i sgwrsio gyda defnyddwyr y ganolfan ddydd a’u cynorthwyo i wneud y gweithgareddau, gyda goruchwyliaeth aelodau staff. Mae’r prosiect hwn yn cael ei gynnal mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Alzheimer a fydd yn darparu hyfforddiant llawn. Pryd: Bob Dydd Mawrth, 13:30-15:00. Ble: Oldwell Court, Penylan, Caerdydd. Angen DBS: Na.
Camau Cadarnhaol
Yn cael ei redeg mewn partneriaeth â’r Gwasanaeth Brenhinol Gwirfoddol, mae’r rhaglen Camau Cadarnhaol yn ceisio cynyddu hyder, gwella lles
meddwl a chorfforol a lliniaru unigrwydd cymdeithasol gyda phobl hyˆn sy’n byw yng Nghaerdydd. Mae gwirfoddolwyr yn darparu cymorth tymor byr i alluogi buddiolwyr i ddarganfod eu diddordebau a chyfleoedd cymdeithasol o fewn eu cymuned leol, gan eu helpu i integreiddio. Mae gofal fel arfer yn para tua 8 wythnos ar gyfer pob buddiolwr. Bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu gan y Gwasanaeth Brenhinol Gwirfoddol a’r Groes Goch Brydeinig. Pryd: Oriau hyblyg (er mwyn gweddu eich amserlen). Ble: Lleoliadau amrywiol yng Nghaerdydd. Angen DBS: Oes.
Ochr yn Ochr
Mae Ochr yn Ochr yn wasanaeth Cymdeithas Alzheimer sy’n helpu pobl gyda dementia i barhau i wneud y pethau maent yn garu gyda chefnogaeth gwirfoddolwr. Mae’r cymorth un wrth un yn ei gwneud hi’n haws i bobl gyda dementia, a allai deimlo’n unig neu yn ei gweld yn anodd i adael eu cartrefi, barhau’n weithgar a theimlo’n rhan o’r gymuned lleol. Drwy wneud pethau fel mynd am dro, i gêm bel-droed, neu ymuno â dosbarth lleol gyda’ch gilydd, gall gwirfoddolwyr gefnogi pobl gyda dementia i ymgymryd â diddordebau a mynd allan. Byddai angen i chi ymrwymo i’r prosiect am leiafswm o chwech mis. Bydd hyfforddiant a chefnogaeth llawn yn cael ei ddarparu. Pryd: 2-3 awr yr wythnos (i weddu eich amserlen). Ble: Caerdydd, yn y gymuned. Angen DBS: Oes. Gwirfoddoli Caerdydd
19
Prosiect Gwyl
DIM DBS
Ydych chi’n godwr arian brwdfrydig a chreadigol sydd eisiau helpu cymuned lleol, neu os oes gennych chi ddiddordeb mewn cynllunio digwyddiad a marchnata? Prosiect gw ˆ yl yw eich cyfle i gymryd rhan mewn rhywbeth mawr. Rydym yn chwilio am dîm o fyfyrwyr trefnus a brwdfrydig i gynllunio, trefnu a chynnal Gw ˆ yl Flynyddol Grangetown. Byddwch yn gwneud gwahaniaeth i gymuned fywiog, defnyddio eich creadigrwydd a datblygu eich sgiliau. Pryd: Dydd Sadwrn 16eg Mehefin 2018 (gyda chyfarfodydd rheolaidd o Hydref 2017). Ble: Gerddi Grange ar gyfer y Gw ˆ yl (Undeb Myfyrwyr ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd). Angen DBS: Na.
Bowlio Dall
20
Gwirfoddoli Caerdydd
VO Locity
DIM DBS
Prosiect sy’n cael ei redeg mewn partneriaeth â NewLinks Cymru. Bydd gwirfoddolwyr yn darparu cymorth i bobl sy’n camddefnyddio sylweddau ac a phroblemau lles - helpu atal niwed, cynyddu dealltwriaeth, a dangos pobl sy’n adfer sut i ailafael yn eu bywydau . Bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu gan gynnwys “Cyflwyniad i Wirfoddoli” a “Chamddefnyddio Sylweddau Lefel 1”. Bydd yr hyfforddiant, y sgiliau, y profiad, a’r bobl fyddwch yn cwrdd i gyd yn ychwanegu at brofiad hynod o werthfawr Pryd: Amrywiol (i weddu eich amserlen isafswm o 4 awr yr wythnos). Ble: Caerdydd a’r Fro. Angen DBS: Na.
AMGYLCHEDD Hyrwyddwyr yr Amgylchedd
DIM DBS
Prosiect partneriaeth gyda Cyngor Caerdydd, Cadw Cymru’n Daclus, Llety Caerdydd a SVC. Nod y prosiect yw gwella’r ardaloedd rydym yn byw ynddo, gwneud Caerdydd yn lanach, mwy diogel ac yn wyrddach. Mae amrywiaeth o ddigwyddiadau rheolaidd yn ystod y flwyddyn, o bigo sbwriel, glanhau traethau ac ymgyrchoedd cnocio drysoedd megis Gwaredu’r Gwastraff Caerdydd, ac yn gorffen gyda digwyddiad dathlu ‘Diolch’ gyda Maer Caerdydd ar ddiwedd y flwyddyn!
garddio organig wythnosol yn y Gerddi Byd-eang yn y Mynydd Bychan a swper misol yn Embassy Café er mwyn cefnogi’r rheini sy’n ceisio lloches, gan gynnwys ffoaduriaid. Helpu yn yr ardd neu’r gegin a chymryd rhan yng nghynllun cyfeillio Embassy Cafe. Pryd: Dydd Sadwrn, 15:00-18:00. Ble: Y Mynydd Bychan, Caerdydd. Angen DBS: Na.
Fferm Ymddiriedolaeth Amelia
Pryd: Dyddiadau ac amseroedd hyblyg. Ble: Lleoliadau amrywiol. Angen DBS: Na.
Ffrindiau Fferm Ymddiriedolaeth Amelia DIM DBS
Mae Fferm Ymddiriedolaeth Amelia yn cefnogi pobl ifanc sy’n ddifreintiedig ac yn agored i niwed i ddysgu mewn amgylchedd therapiwtig. Bydd ffrindiau’r fferm yn helpu gyda thasgau dyddiol megis rheoli coetiroedd, garddio a DIY. O bryd i’w gilydd efallai y bydd angen ichi i helpu gyda gofal anifeiliaid! Pryd: Dydd Mercher, 13:30-17:00 (gan gynnwys amser teithio). Ble: Fferm Ymddiriedolaeth Amelia, darperir trafnidiaeth. Angen DBS: Na.
Prosiect Gerddi Byd-Eang
DIM DBS
Mae’r Prosiect Gerddi Byd-Eang yn annog dod ynghyd i ddathlu amrywiaeth ecolegol a diwylliannol. Mae’r sesiynau
Cynllun Cymydog Da
DIM DBS
Ydych chi’n byw yn/o amgylch Cathays? Gallwch chi fod yn un o’n ‘Hyrwyddwyr Stryd’ newydd ar y Cynllun Cymydog Da. Ynghyd ag ymdeimlad o falchder, byddwch hefyd yn derbyn manteision unigryw a’r cyfle i ennill parti stryd gwych ar gyfer chi a’ch cymdogion! Os rydych yn gofalu am eich amgylchedd lleol, eich Dinas, ac yn bwysicach oll, eich stryd yna dyma’r prosiect ar eich cyfer chi. Pryd: Hyblyg (er mwyn gweddu eich amserlen). Ble: Eich stryd! Angen DBS: Na. Gwirfoddoli Caerdydd
21
Pop-Up a Chymdeithasu
DIM DBS
Mae Bobath Cymru, elusen plant yng Nghaerdydd, yn gofyn am gymorth yn sefydlu ‘Siop Pop-Up Elusen’. Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i sefydlu siop elusen ddydd Mercher cyntaf bob mis yn Undeb y Myfyrwyr lle bydd disgwyl iddynt drefnu a rheoli pob agwedd o’r siop. Bydd myfyrwyr yn ymweld â warws Bobath Cymru yn wythnosol (prynhawn Mercher) i drefnu a sortio’r rhoddion er mwyn dewis yr eitemau i’w gwerthu yn y siop. Pryd: Dydd Mercher, 13:00-17:00. Ble: Warws Llanisien ac adeilad Undeb y Myfyrwyr. Angen DBS: Na.
Caffi Atgyweirio
DIM DBS
Mae Repair Cafe Wales yn trwsio pethau rhag iddynt orfod mynd i’r safleoedd tirlenwi – Gallwch chi helpu? Mae angen pobl sydd yn gallu trwsio dillad, gwaith coed, eitemau trydanol neu cyfrifiaduron ayyb. Nid oes angen ichi fod yn arbenigwr, ond yn awyddus i helpu! Pryd: Dydd Sadwrn cyntaf bob mis, 10:00-14:00. Ble: The Table, Stryd Pentyrch, Y Rhath. Angen DBS: Na.
Prosiect Dim Gwastraff
DIM DBS
Myfyrwyr yn helpu ailddosbarthu bwydydd o fannau arlwyo Undeb y Myfyrwyr i elusennau digartrefedd lleol. Mae gwirfoddolwyr yn casglu bwydydd diangen mewn bocsys oeri o gaffis a siopau coffi’r Brifysgol ac yn mynd â nhw i Fws Porffor y Salvation Army ar ddydd Mercher a Chanolfan Digartref Huggard ddydd Gwener. Bydd pobl mewn angen yn elwa o hyn ac fe fydd yn gwneud defnydd da o’r bwyd a fyddai fel arall yn cael ei daflu i’r bin. Mae gwirfoddolwyr hefyd yn helpu lleihau gwastraff cyffredinol Undeb y Myfyrwyr. Pryd: Bob Dydd Mercher a Dydd Gwener, am 16:00-18:00. Ble: Adeiladau’r Brifysgol / Canol Dinas. Angen DBS: Na.
22
Gwirfoddoli Caerdydd
CHWARAEON A HAMDDEN Cynorthwyydd Marchnata Game On Wales DIM DBS
Mae Game on Wales yn rhan o’r Ymddiriedolaeth Coalfields Regenration, sefydliad adfywio blaenllaw sy’n ymroi i wella ansawdd bywydau cymunedau glo Prydain. Drwy chwaraeon, mae Game On Wales yn helpu pobl ennill sgiliau newydd, cael cymwysterau a dod yn fwy gweithgar o fewn eu cymunedau. Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno â sefydliad chwaraeon bywiog. Bydd y gwirfoddolwyr Cynorthwyol Marchnata yn helpu hyrwyddo Game On Wales a’i wasanaethau drwy ddarparu, golygu ac uwchlwytho cynnwys sy’n addas ar gyfer bob digwyddiad a chynulleidfa darged. Pryd: Amrywiol (er mwyn gweddu eich amserlen). Ble: Pontypridd yn bennaf ond cymunedau eraill yn y Cymoedd hefyd. Angen DBS: Na.
Arweinydd Pêl-droed Game On Wales
Pryd: Dydd Mercher, 17:00-18:00. Ble: Heol Sardis, Pontypridd. Angen DBS: Oes.
Chwaraeon Cynhwysol Cynllun lle mae gwirfoddolwyr yn cefnogi oedolion a phlant gydag anghenion dysgu a chorfforol i gymryd rhan mewn amrywiaeth o chwaraeon gwahanol. Nid yw gwirfoddolwyr yn cynnal na’n hyfforddi’r sesiynau ond yn hytrach helpu’r rheini sy’n cymryd rhan. Mae gofalwyr yr unigolion hefyd yno yn ystod y sesiynau felly mae digon o gymorth ar gael. Prosiect hwyl a gwerthfawr iawn. Pryd: Sesiwn oedolion - bob Dydd Iau, 13:30-15:00 / Sesiwn blant - bob dydd Sadwrn 11:00-12:30. Ble: Canolfan Chwaraeon Tal-y-bont. Angen DBS: Oes.
Ffrindiau Cwn Myfyrwyr
Mae Game on Wales yn rhan o’r Ymddiriedolaeth Coalfields Regenration, sefydliad adfywio blaenllaw sy’n ymroi i wella ansawdd bywydau cymunedau glo Prydain. Drwy chwaraeon, mae Game On Wales yn helpu pobl ennill sgiliau newydd, cael cymwysterau a dod yn fwy gweithgar o fewn eu cymunedau. Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno â sefydliad chwaraeon bywiog. Bydd y gwirfoddolwyr arweinydd pêl-droed yn helpu i ddarparu gweithgareddau chwaraeon a digwyddiadau i bobl ifanc lleol.
Gwirfoddoli Caerdydd
23
Pwer Cwn Bach
DIM DBS
Mae’r prosiect Pw ˆ er Cw ˆ n Bach yn digwydd yn y ganolfan achub cw ˆ n lleol. Bydd gwirfoddolwyr yn helpu mynd â’r cw ˆ n am dro a chyfrannu at weithgareddau a digwyddiadau codi arian. Bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu ar ôl i chi ddechrau. Byddwn yn cynnal sesiwn gerdded grw ˆ p wythnosol, ond unwaith y byddwch wedi eich hyfforddi gallwch fynd mor aml ag y dymunwch yn annibynnol! Pryd: Sesiynau grw ˆ p – bob dydd Mawrth, 13:00-15:00 / Sesiynau grw ˆ p - Pryd. bynnag y gallwch chi ac mor aml ag y dymunwch. Ble: Cartref Cw ˆ n Caerdydd Angen DBS: Na.
Dreigiau RaceRunning
Mae RaceRunning yn chwaraeon hwyl ar dair olwyn yn cefnogi’r rheini sydd methu cerdded fel eu bod yn gallu dechrau cerdded neu redeg. Mae’r clwb yn agored i bawb, ond yn dueddol o gael plant a phobl ifanc hyd at 25 oed. Mae angen i wirfoddolwyr helpu gyda chymorth technegol, atgyweiriadau, a chynnal a chadw offer beicio. Mae’r clwb hefyd yn chwilio am wirfoddolwyr a fydd yn gallu helpu yn sefydlu templed ar gyfer cylchlythyr, taflenni, tystysgrifau, a phrosiectau dylunio eraill. Pryd: Bob dydd Gwener, 17:00-19:00 (Amser y tymor yn unig). Ble: Tymor 1, Stadiwm Leckwith, Termau 2 & 3, Tyˆ Chwaraeon, Maes Pêl-droed Dinas Caerdydd. Angen DBS: Oes.
24
Gwirfoddoli Caerdydd
Ffrindiau Myfyrwyr Theatr Sherman
DIM DBS
Rôl y gwirfoddolwr fydd gwella a chyfoethogi profiad theatr ar gyfer noddwyr Theatr Sherman, darparu cymorth blaen y tyˆ ar gyfer y Rheolwr ar Ddyletswydd, sicrhau diogelwch a lles y noddwyr, annog gair cadarnhaol ar gyfer y sioeau a felly cael effaith gadarnhaol ar werthiant tocynnau, a bod yn llysgenhadon ar gyfer y theatr. Prosiect gwych gyda nifer o fanteision! Pryd: Wytnosol/misol yn ystod cynyrchiadau (amser shifft hyblyg rhwng 2-4 awr yr un). Ble: Theatr Sherman Cymru, Cathays. Angen DBS: Na.
Hyfforddi Teithwyr
DIM DBS
Bydd Ymchwil Canser Cymru a’u cefnogwyr yn mynd i Machu Picchu am daith bythgofiadwy ym mis Medi 2018. Er mwyn i’r cefnogwyr gyrraedd eu nod a sicrhau lefelau ffitrwydd digonol, maent yn chwilio am fyfyrwyr i ddatblygu hyfforddiant a rhaglenni maeth wedi’i deilwra ar gyfer y Teithwyr. Bydd y rheini sy’n dylunio’r rhaglenni yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn digwyddiadau hyfforddi cyn y daith, bydd hyn yn rhoi gwell dealltwriaeth o anghenion a nodau’r cyfranogwyr.
Gwirfoddolwyr Canolfan y Mileniwm Cymru
DIM DBS
Mae cynllun gwirfoddoli Canolfan y Mileniwm yn cynyddu mynediad i gelf, diwylliant a chreadigrwydd. Bydd myfyrwyr gwirfoddoli yn gweithio gyda chyflogwyr fel Tywyswyr Lleoliad, sy’n dîm gwych sy’n cyfrannu at greu profiad cwsmer ysbrydoledig. Pryd: Hyblyg: Lleiafswm o 3 shifft y mis, mae shiffts rhwng 4-5 awr Ble: Canolfan Mileniwm Cymru Angen DBS: Na
Bydd yr elusen hefyd yn cynnal sesiynau wybodaeth ar gyfer y Teithwyr ac angen cefnogaeth, gyda’r cyfle i fyfyrwyr gynnal eu sesiwn wybodaeth Machu Picchu eu hunain yn Undeb y Myfyrwyr. Os rydych wedi teithio o’r blaen, wedi trefnu digwyddiad mawr neu â diddordeb mewn chwaraeon a maeth dyma’r prosiect ar eich cyfer chi! Pryd : Hyblyg er mwyn gweddu eich amserlen. Ble : Undeb Myfyrwyr neu mewn lleoliad o’ch dewis. Angen DBS: Na.
Gwirfoddoli Caerdydd
25
LLES Llysgenhadon Beat
DIM DBS
Beat yw elusen anhwylder bwyta’r DU. Mae Beat yn darparu gobaith ac yn gwella bywydau unrhyw un sy’n cael eu heffeithio gan anhwylder bwyta. Mae Llysgenhadon Beat yn rwydwaith cenedlaethol o wirfoddolwyr ysbrydoledig sydd wedi profi a gwella o anhwylder bwyta neu wedi cefnogi rhywun drwy wellhad. Mae Llysgenhadon yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau cyffrous a buddiol, yn rhannu eu profiadau i ysbrydoli eraill ac i helpu mwy o bobl i dderbyn y cymorth a’r ddealltwriaeth sydd angen arnynt! Mae hefyd cyfle i chi gymryd rhan yn cefnogi gwaith Beat drwy ymgyrchu a chodi arian. Pryd: Dyddiadau ac amseroedd hyblyg. Ble: Caerdydd a De Cymru. Angen DBS: Na.
Cynllunwyr Parti 5 Ffab
Grw ˆ p o wirfoddolwyr yn cynllunio a darparu 4 neu 5 digwyddiad thema mewn cartref gofal preswyl lleol drwy gydol y flwyddyn academaidd. Mae gwirfoddolwyr y gorffennol wedi cael hwyl yn cynnal partïon Nadolig, Sant Ffolant a chystadlaethau bonedi Pasg! Mae’r prosiect hwn yn llawer o hwyl ac yn wobrwyol! Pryd: 4-5 digwyddiad pob blwyddyn academaidd a sesiynau cynllunio. Ble: Ffordd Newport, Caerdydd. Angen DBS: Oes.
Gwirfoddoli Hostel Teulu Greenfarm
Mewn partneriaeth â Gwasanaethau Tai Cyngor Caerdydd, fel gwirfoddolwr, mae gennych y cyfle i ymgysylltu â phobl mewn perygl o ddigartrefedd yn yr hostel teulu hwn. Gall weithgareddau amrywio o gelf a chrefft i chwarae gemau neu bobi i gael cwpaned o choffi a sgwrs. Darperir cludiant. Hyfforddiant llawn gan Gyngor Caerdydd. Pryd: Dydd Mercher, 15:30-18:30 (gan gynnwys amser teithio). Ble: Hostel Greenfarm, Ely. Angen DBS: Oes.
Gwirfoddoli Ysbyty Myfyrwyr
Cyfle i wirfoddoli ar wardiau ysbyty yn y Mynydd Bychan a Llandough yn darparu cymorth i staff a chleifion, cyfeillio a darparu gweithgareddau lles. Edrychwch ar ein gwefan am swydd ddisgrifiad manwl. Bydd angen tystysgrif iechyd galwedigaethol i gymryd rhan, byddwn yn eich helpu gyda hyn os byddwch yn derbyn cyfweliad. Ar gyfer y prosiect penodol hwn, byddwn yn cynnal cyfweliad anffurfiol 10-15 munud. Os byddwch yn llwyddiannus, bydd diwrnod hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu gan y LHB. Ceisiadau’n cau: 29ain Medi 2017 ar 23:00.
Dyddiadau cyfweliad
Dydd Mercher 4ydd Hydref 2017 rhwng 09:00-16:00. Dydd Mawrth 12eg Tachwedd 2017 rhwng 09:00-16:00.
26
Gwirfoddoli Caerdydd
Pryd: Hyblyg,2 awr neu’n fwy o ffitio o amgylch eich amserlen. Ble: Ysbyty Prifysgol Cymru (Campws y Mynydd Bychan) ac Ysbyty Llandough. Angen DBS: Oes, a thystysgrif iechyd galwedigaethol.
Gwirfoddolwyr Myfyrwyr Oasis Caerdydd DIM DBS
Mae Oasis Caerdydd yn gweithio gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Mae’r ganolfan ar agor dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9:30 a 16:00 a rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sydd yn gallu rhoi cwpwl o oriau yr wythnos yn ystod yr amseroedd hyn. Mae’r rôl yn amrywiol iawn, gallwch fod yn cynnal gweithgareddau cymdeithasol, helpu buddiolwyr yn llenwi ffurflenni, cynorthwyo yn y gegin, helpu ar y dderbynfa, cynorthwyo gyda dosbarthiadau Saesneg neu dod yn ffrindiau ag unigolion. Pryd: Hyblyg (er mwyn gweddu eich amserlen). Ble: Oasis Caerdydd, Sblot. Angen DBS: Na.
Gweithwyr Chwarae Oasis Caerdydd
Mae Oasis Caerdydd yn gweithio gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Mae crèche yn y ganolfan sy’n rhedeg rhwng 10.30 12:00 bob dydd Llun-dydd Iau, gan alluogi buddiolwyr i adael eu plant yn ddiogel tra eu bod yn mynychu dosbarthiadau a hyfforddiant yn y ganolfan. Bydd gwirfoddolwyr yn annog plant i ymgysylltu mewn gweithgareddau chwarae.
Pryd: Dydd Llun-dydd Iau, 10.30-12:00 (lleiafrif o un sesiwn yr wythnos). Ble: Oasis Caerdydd, Sblot. Angen DBS: Oes.
Cynllun Cyfeillio Paratoi’r Ffordd
Cynllun cyfeillio i ddarparu cymorth un wrth un i unigolion sy’n profi iechyd meddwl, gan annog a’u cefnogi i gymryd rhan mewn gwirfoddoli, hyfforddiant, neu gyflogaeth. Bydd cyfeillion myfyrwyr yn darparu cyswllt, cymorth, cyngor a chyfeirio at fuddiolwyr. Fe fydd yn giliad cymorth wedi’i gynllunio ac yn cael ei ddarparu ar adegau penodol y flwyddyn. Edrychwch ar ein gwefan am fwy o wybodaeth. Pryd: Bydd hyn yn dibynnu ar y buddiolwyr, isafswm o 2 awr yr wythnos. Ble: Canol Dinas Caerdydd - lleoliadau amrywiol. Angen DBS: Oes.
Misglwyf mewn Tlodi
DIM DBS
Prosiect dan arweiniad myfyrwyr newydd sy’n trefnu pwyntiau rhoddion ar gyfer cynhyrchion misglwyf ar gyfer pobl lleol mewn caled - megis pobl sy’n ddigartref/ ffoaduriaid/ llochesi teulu. Mae yna nifer o rolau gwirfoddoli, megis cyfryngau cymdeithasol, trefnu casglu a dosbarthu’r rhoddion a mwy! Pryd: Misol/Wythnosol – hyblyg i weddu eich amserlen. Ble: Caerdydd - Lleoliadau o amgylch a thu hwnt. Angen DBS: Na.
Gwirfoddoli Caerdydd
27
Cynllun Gwirfoddoli Heddlu Myfyrwyr
Sefydlwyd y Cynllun Gwirfoddoli Heddlu Myfyrwyr i helpu Heddlu De Cymru i gynnal ymgyrchoedd atal troseddu ac ymgyrchoedd cymunedol amlwg. Byddwch yn gweithio gyda Swyddogion Heddlu i ddarparu cynlluniau atal troseddu lleol yn ogystal â’r prosiect Bws Diogel Myfyrwyr. Mae’r prosiect hwn yn bartneriaeth rhwng Heddlu De Cymru, Prifysgol Caerdydd, Gwirfoddoli Caerdydd, SVC, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru ac eu Hundebau Myfyrwyr. Edrychwch ar ein wefan am dyddiadau ymgeisio a manylion y rôl. Mae yna o leiaf dau weithgaredd y mis fel arfer ar gyfer gwirfoddolwyr myfyrwyr. Pryd: Dyddiadau ac amseroedd hyblyg (dyrennir sifftiau ar sail rota). Ble: Lleoliadau amrywiol. Angen DBS: Mae’r prosiect hwn yn gofyn am weithdrefnau fetio penodol a drefnir gan Heddlu De Cymru, ac hyfforddiant penodol ar gyfer y prosiect.
Prosiect SEARCH
Mae prosiect SEARCH yn rhaglen arloesol i helpu oedolion ifanc ag anableddau dysgu a/neu ar y Sbectrwm Awtistig i gael gwaith cyflogedig. Ar y cyd â Asiantaeth Cyflogedig Elite Supported, Coleg Caerdydd a’r Fro a Phrifysgol Caerdydd, bydd deg intern yn cymryd rhan mewn tri interniaethau dros y flwyddyn academaidd gyda’r bwriad o gael gwaith cyflogedig erbyn y diwedd. Mae angen gwirfoddolwyr i gynorthwyo’r interniaid yma yn dysgu tasgau newydd
28
Gwirfoddoli Caerdydd
a monitro eu cynnydd drwy gydol eu interniaethau yn ogystal â chynorthwyo eu dechrau yn y byd gwaith. Mae’r rôl yn cynnwys: • Arsylwadau interniaid yn y gweithle. Bwydo gwybodaeth yn ôl i’r tîm prosiect SEARCH. • Cynorthwyo interniaid yn dysgu tasgau newydd gan ddefnyddio dull systematig. Darparu hyfforddiant mewn Cyfarwyddiadau Tasg Penodol. • Hyfforddiant teithio ar gyfer interniaid newydd ac ymgyfarwyddo llwybr. • Cwblhau’r uchod ar gyfer interniaid sydd wedi bod yn llwyddiannus yn dod o hyd i waith cyflogedig yn allanol o’r Brifysgol. • Cynorthwyo interniaid mewn sesiynau hyfforddi. Pryd: Hyblyg (i weddu eich argaeledd) Isafswm o 3 awr yr wythnos. Ble: Ar gampws Prifysgol y Ddinas a Champws Parc y Mynydd Bychan, o bosibl yn allanol, yn dibynnu ar ble a phryd mae’r interniaid yn derbyn cyflogaeth. Angen DBS: Oes.
Mentoriaid SOVA
Rôl fentora, gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth Sova ACE (oedolion o’r cymunedau croenddu a lleiafrifoedd ymfudwyr). Mae’r gwirfoddolwyr yn cael eu cyfateb i ddefnyddiwr y gwasanaeth yn ôl eu sgiliau a’u diddordebau. Bydd y gwirfoddolwr yn gweithio gyda’r unigolyn i feithrin perthynas fentora yn canolbwyntio ar nodau. Bydd gwirfoddolwyr yn cefnogi unigolion tuag
at cyflogaeth, hyfforddi neu gwirfoddoli. Pryd: Hyblyg (er mwyn gweddu eich amserlen) Ble: Yn y gymuned leol Angen DBS: Oes
Cerdded Diogel Myfyrwyr
Datblygwyd y cynllun hwn i gefnogi myfyrwyr sy’n teimlo’n anghyfforddus yn cerdded ar ben eu hunain yn hwyr yn y nos. Bydd gwirfoddolwyr “yn ac o amgylch” Undeb y Myfyrwyr ac yn cynnig gwasanaeth cerdded i fyfyrwyr ar nosweithiau dethol, yn darparu diogelwch, cyngor a chyfeirio at wasanaethau eraill megis y Cynllun Tacsi Diogel. Darperir hyfforddiant Cymorth Cyntaf a Datrys Gwrthdaro. Pryd: Bob dydd Mercher/dydd Sadwrn (amser tymor) 22:00-03:00. Gofynnwn i chi ymrwymo i leiafswm o 2 shifft y mis. Ble: Undeb y Myfyrwyr. Angen DBS: Oes.
Te a Chwmni
Cynllun lle mae gwirfoddolwyr yn gweithio gyda dau gartref preswyl ym Mhenarth. Nid yw rhai o’r trigolion yn derbyn unrhyw ymwelwyr, felly mae ein gwirfoddolwyr yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr drwy bod yno ar eu cyfer, cael te a sgwrs, chwarae gem, ymuno â/annog gweithgareddau, darllen i’r trigolion a mwy. Bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu.
Criw Croeso
DIM DBS
Mae’r Criw Croeso yn grw ˆ p hyfryd o wirfoddolwyr sy’n cyfarch a helpu myfyrwyr newydd i ymgartrefu ym Mhrifysgol Caerdydd. Maent hefyd yn gwirfoddoli yn ystod diwrnodau agored Prifysgol Caerdydd, fel y pwynt gwybodaeth a chroesawu ymwelwyr. Edrychwch ar ein gwefan am fwy o fanylion am y rolau sydd ar gael. Pryd: Hyblyg (Wythnos y Glas/diwrnodau agored/cyfleoedd amrywiol eraill). Ble: Fel arfer yn Undeb y Myfyrwyr. Angen DBS: Na.
Partneriaid Cymraeg i Oedolion
DIM DBS
Cynorthwyo dysgwyr Cymraeg oedolion sydd ag anghenion cymorth. Bydd gwirfoddolwyr fel arfer yn gweithio gydag un oedolyn dros flwyddyn academaidd yn eu cefnogi nhw gyda thasgau amrywiol yn nosbarthiadau Cymraeg i Bawb. Bydd rhywfaint o Gymraeg yn fuddiol, yn dibynnu ar lefel iaith y myfyriwr, ond nid yw’n hanfodol. Pryd: Fel arfer 2 awr, 1 noson yr wythnos, hyd at 30 wythnos. Ble: Adeilad John Percival, yn ogystal â safleoedd posibl eraill. Angen DBS: Na.
Pryd: Ymweliadau grw ˆ p: Bob dydd Mercher, 14:00-16:00 / Ymweliadau. unigol: hyblyg i weddu eich amserlen. Ble: Penarth. Angen DBS: Oes. Gwirfoddoli Caerdydd
29
POBL IFANC ACE (Addysg Cyfathrebu Awtistiaeth)
Mae ACE yn cynnig darpariaeth o ansawdd ar gyfer oedolion ifanc ag awtistiaeth a chyflwr cysylltiedig. Maent yn defnyddio dull Perthynas Unigol Datblygiadol i unigoli pecyn gofal sy’n cael ei ddarparu ar gyfer pob plentyn, yn darparu cyfleoedd ar gyfer cyfathrebu, dysgu sgiliau bywyd hanfodol a chyfleoedd galwedigaethol. Mae gweithgareddau’n cynnwys; garddio, coginio, cerddoriaeth, celf a chrefft, grwpiau cyfathrebu, nofio ayyb. Bydd gwirfoddolwyr yn helpu cefnogi oedolion ifanc ar sail un wrth un i gael mynediad i’r gweithgareddau ac ymgysylltu â’r cyfoedion. Pryd: Dydd Llun-Dydd Gwener, 09:0015:00. Oriau gwirfoddoli yn hyblyg rhwng yr amseroedd hyn. Ble: Canolfan STARS, Brackla, Pen-ybont. Angen DBS: Oes.
Dyfodol Hyderus
Cynllun mentora wedi’i ddylunio i annog pobl ifanc rhwng 14-19 mewn gofal i ddatblygu eu sgiliau a chael mynediad at Addysg Uwch. Mae gwirfoddolwyr yn cwrdd unwaith y pythefnos i ddod yn ffrindiau, ysbrydoli a helpu pobl ifanc i ddarganfod eu potensial a chyrraedd eu nodau. Bydd gwirfoddolwyr yn mentora’r bobl ifanc a helpu cynnal sesiynau a sesiynau torri iâ i chwalu rhai o’r rhwystrau traddodiadol at Addysg Uwch a brofir gan y grw ˆ p hwn. Mae hwn yn brosiect partneriaeth gyda thîm Ehangu Cyfranogiad Prifysgol Caerdydd
30
Gwirfoddoli Caerdydd
Pryd: Bob yn ail ddydd Mawrth, 17:3019:30. Ble: Canolfan Sgiliau, Undeb y Myfyrwyr. Angen DBS: Oes.
Cynorthwyydd Darllen Corpus Christi
Mae gwirfoddolwyr yn cynorthwyo myfyrwyr blwyddyn 7 i ddarparu cymorth un wrth un drwy sesiynau darllen mewn parau. Mae disgyblion sydd angen help i wella eu darllen a llythrennedd yn elwa’n fawr o’r cyfle hwn i gael cymorth ychwanegol. Pryd: Dydd Mercher / Gwener 13:0016:00. Ble: Ysgol Uwchradd Corpus Christi. Angen DBS: Oes.
Darganfod
Cynllun mentora yn annog pobl ifanc rhwng 14-19 sydd â Syndrom Asperger i ddatblygu eu sgiliau a hyder a chael mynediad i gyrsiau Addysg Uwch. Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sydd yn amyneddgar, yn gallu gwrando ac sy’n frwdfrydig ynghylch prifysgol. Mae hwn yn brosiect partneriaeth gyda thîm Ehangu Cyfranogiad Prifysgol Caerdydd. Bydd gwirfoddolwyr yn mentora’r bobl ifanc a helpu cynnal sesiynau a sesiynau torri iâ i chwalu rhai o’r rhwystrau traddodiadol at Addysg Uwch a brofir gan y grw ˆ p hwn. Pryd: Bob yn ail ddydd Mawrth, 17:3019:30 Ble: Canolfan Sgiliau, Undeb y Myfyrwyr Angen DBS: Oes
Clwb Dysgu EYST (E.T.C)
DIM DBS
Mae hwn yn brosiect partneriaeth gyda Thîm Cymorth Ieuenctid Ethnig. Bydd gwirfoddolwyr yn darparu tiwtora un wrth un ar gyfer pobl ifanc rhwng 1018 i’w grymuso drwy addysg. Tiwtora Mathemateg, Saesneg, a Gwyddoniaeth mewn amgylchedd o dan oruchwyliaeth, buddiol i’r ddwy ochr, am awr neu ddwy bob wythnos. Pryd: Bob dydd Llun a dydd Mercher, 17:00-19:00 Ble: Butetown a Grangetown Angen DBS: Na
Uwch. Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sydd ag Lefel A yn Saesneg, Mathemateg neu Wyddoniaeth sydd hefyd â diddordeb yn dysgu fel gyrfa. Os hoffech cael eich hystyried ar gyfer y prosiect mathemateg, er enghraifft, yna byddai’n rhaid i chi gael Lefel A mathemateg, a rhoddir blaenoriaeth i’r rheini sy’n astudio mathemateg ar lefel gradd. Mae hwn yn brosiect partneriaeth gyda thîm Ehangu Cyfranogiad Prifysgol Caerdydd. Bydd gofyn i’r gwirfoddolwyr fentora pobl ifanc mewn ysgolion yn ac o amgylch De Ddwyrain Cymru, a bydd hyfforddiant llawn yn cael ei roi ar hyd y ffordd. Pryd: Bob prynhawn Mercher neu fore dydd Gwener, amseroedd amrywiol Ble: I’w Gadarnhau (Ysgolion ar draws Caerdydd, Merthyr, RCT, Pen-y-bont, Bro Morgannwg) Angen DBS: Oes
Arweinwyr Hybu Myfyrwyr
Mathemateg/Saesneg/ Gwyddoniaeth TGAU
Cynllun mentora, a ariennir gan First Campus, yn annog pobl ifanc oedran TGAU i gynyddu eu cyrhaeddiad academaidd yn yr ysgol fel eu bod yn gallu mynd ymlaen at Addysg Bellach ac
Rydym angen arweinwyr myfyrwyr i weithio ar raglen ddatblygu ar gyfer pobl ifanc 16-18 oed. Mae’r bob ifanc hyn yn derbyn hyfforddiant gwirfoddoli, arweinyddiaeth a entrepreneuraidd eu hunain ar hyn o bryd, a gyda’ch cymorth chi, yn gweithio mewn ardaloedd difreintiedig i ddarparu gweithgareddau a digwyddiadau hwyl ar gyfer plant a theuluoedd. Mae’r gwaith y mae’r bobl ifanc hyn yn ei wneud yn werthfawr iawn, ac yn cael ei werthfawrogi gan y cymunedau y maent yn gweithio ynddynt. Darperir hyfforddiant llawn ac fe fydd penwythnos preswyl arweinwyr ym mis Hydref. Gwirfoddoli Caerdydd
31
Prosiect Pobl Ifanc Hwb Llanrhymni
Mae hwn yn gyfle gwych i greu a chynnal clwb weithgaredd gyda Cyngor Caerdydd. Bydd gwirfoddolwyr yn cynllunio, creu a darparu prosiect wythnosol i bobl ifanc yn Llanrhymni. Boed os rydych yn darparu clwb gwaith cartref, clwb hobi, gweithdy blogio, clwb lyfrau neu hyd yn oed cynnal grw ˆ p ffocws i ddarganfod beth mae’r plant eisiau – mae fyny i chi! Mae’r manteision yn cynnwys bod yn fentor Cyngor Caerdydd, cyrsiau hyfforddi cyflogadwyedd am ddim, profiad gwaith a chanolwyr Awdurdod Lleol. Pryd: Bob dydd Mercher, 16:00-17:00 / Bob dydd Sadwrn, 11:00-12:00. Ble: Hwb Llanrhymni. Angen DBS: Oes.
SHARE gydag Ysgolion
DIM DBS
Mae hwn yn brosiect dan arweiniad myfyrwyr sydd yn trefnu gweithdai allgymorth mewn gwahanol ysgolion uwchradd. Mae’r gwersi yn seiliedig ar bynciau SHARE (Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd). Bydd gwirfoddolwyr yn darparu gweithdai sy’n cynnwys trin gwrthrych atgynhyrchiol, ac ennill sgiliau darparu cyflwyniad a dysgu. Nid oes angen gwybodaeth pwnc dim ond llawer o frwdfrydedd. Darperir hyfforddiant a chyflwyniad i’r gweithdai, a chludiant i’r ysgolion. Pryd: Dyddiadau ymweld ag ysgolion i’w cadarnhau. Bydd sawl dyddiad ymweld ar gael drwy gydol y flwyddyn, yn amrywio o ychydig o oriau i ddiwrnod llawn. Ble: Ysgolion uwchradd yng Nghaerdydd a Chwm Cynon. Angen DBS: Na.
Grwp Ieuenctid Ty Celyn
Mae hwn yn glwb ieuenctid wythnosol ar gyfer plant yn eu harddegau ac oedolion ifanc ag amrywiaeth o anableddau dysgu a chorfforol. Mae gwirfoddolwyr myfyrwyr yn cynorthwyo staff y clwb mewn nifer o weithgareddau gan gynnwys celf a chrefft, pool, pobi a chwaraeon. Pryd: Dydd Sul, 17:00-20:00. Ble: Canolfan Ieuenctid Gabalfa. Angen DBS: Oes.
32
Gwirfoddoli Caerdydd
GWASANAETHAU DAN ARWEINIAD MYFYRWYR Mae Gwasanaethau Dan Arweiniad Myfyrwyr yn grwpiau myfyrwyr sy’n dod at ei gilydd i ddarparu gwasanaethau ar gyfer myfyrwyr eraill a chymuned lleol Caerdydd. Mae’r myfyrwyr sy’n cymryd rhan fel arfer yn gwirfoddoli eu hamser i redeg y prosiectau, digwyddiadau neu gwasanaethau ac o hyd yn chwilio am aelodau newydd i ymuno.
Nightline Caerdydd
DIM DBS
Mae Nightline Caerdydd yn wasanaeth gwrando o dan arweiniad myfyrwyr, yn darparu cymorth emosiynol i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, Met Caerdydd a RWCMD ar y ffôn a negeseuon sydyn rhwng 20:00-08:00 bob noson o’r tymor. Fel gwirfoddolwr, byddwch yn derbyn galwadau gan fyfyrwyr, datblygu empathi a sgiliau gwrando gweithredol, ac yn cwrdd â phobl anhygoel drwy wneud hynny. Mae’r gwirfoddoli yn hyblyg gallwch ddewis eich oriau eich hunan sy’n ffitio o amgylch eich ymrwymiadau eraill. Mae’n rhaid i’r holl wirfoddolwyr fynychu’r penwythnos hyfforddiant ar 21ain – 22ain Hydref.
Pryd: Hyblyg (er mwyn gweddu eich amserlen) Ble: Undeb y Myfyrwyr Angen DBS: Na
Meddyliau Myfyrwyr
DIM DBS
Mae Meddyliau Myfyrwyr yn bwriadu codi ymwybyddiaeth a lleihau stigma sy’n gysylltiedig â meddwl iechyd. Mae’n lle perffaith i gymryd rhan mewn gwirfoddoli yn ogystal â chynnal ymgyrchoedd ynghylch materion iechyd meddwl drwy gydol y flwyddyn y gallwch chi wirfoddoli cyn lleied neu mor aml a sy’n eich gweddu chi! Pryd: Hyblyg (er mwyn gweddu eich amserlen) Ble: Undeb y Myfyrwyr Angen DBS: Na
Pryd: Hyblyg (i weddu eich amserlen) Lleiafswm o 3 x shifft 12 awr bob tymor Ble: Undeb y Myfyrwyr Angen DBS: Na
SHAG
DIM DBS
Mae SHAG, y grw ˆ p ymwybyddiaeth iechyd rhywiol, yn edrych ymlaen i ddechrau’r flwyddyn academaidd gyda’u holl rolau pwyllgor wedi’u llenwi ac o hyd yn chwilio am fwy o wirfoddolwyr i helpu ar yr amrywiaeth o ymgyrchoedd maent yn eu cynnal drwy gydol yr wythnos.
Gwirfoddoli Caerdydd
33
GWIRFODDOLI RHYNGWLADOL Os oes gennych ddiddordeb yn teithio ychydig ymhellach dros wyliau’r haf, mae tîm Cyfleoedd Byd-eang y Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o brosiectau gwirfoddoli dramor. Mae eu prosiectau yn agored i holl fyfyrwyr isradeddig Prifysgol Caerdydd ac fel arfer yn para pedair wythnos yn ystod gwyliau’r haf. Mae bwrsariaethau ar gael i holl fyfyrwyr y helpu gyda’ch costau! Yn 2017, roedd eu prosiectau yn cynnwys:
Think Pacific
Datblygiad chwaraeon gwreiddiau a dysgu Saesneg. Mae gwirfoddolwyr yn treulio pedair wythnos ar y prosiect yn Fiji yn gweithio mewn ysgolion yn ystod y diwrnod, ac yna cynnal rhaglenni chwaraeon ar ôl ysgol, er mwyn paratoi ar gyfer cystadleuaeth chwaraeon rhyng-ysgolion. Bydd gwirfoddolwyr yn cael eu cartrefu gyda theuluoedd Fijian o fewn yr un pentref traddodiadol. Cost Brosiect: £1195 Bwrsariaeth y Brifysgol: £600 Dyddiadau: 4 tîm drwy gydol Mehefin, Gorffennaf a Awst
UGANDA - Meysydd Chwaraeon Dwyrain Affrica Adeiladu cae chwaraeon newydd o’r dechrau i’r diwedd.
Bydd gwirfoddolwyr yn helpu trawsffurfio ysgol gymuned yn Uganda drwy adeiladu maes chwarae o’r dechrau i’r diwedd. Yn ogystal â hyn, bydd gwirfoddolwyr yn cymryd rhan mewn rhaglen Celf a Chwarae i ysbrydoli’r plant yn yr ysgol i ddysgu, darganfod a datblygu eu hunain tra’n rhoi lle gwych iddynt chwarae. Cost y Brosiect: £1100 Bwrsariaeth y Brifysgol: £600 Dyddiadau: Canol Mehefin - Canol Gorffennaf
34
Gwirfoddoli Caerdydd
JAPAN - Hokkaido
CAMBODIA - ardal Siem Reap
Wedi’i rannu ar draws ddau leoliad ar ynys gogleddol Japan, bydd gwirfoddolwyr yn ymgymryd ag amrywiaeth o dasgau gan gynnwys ffermio a gweithio gydag ymwelwyr mewn fferm gymuned organig. Ail ran y prosiect yw treulio amser ar brosiect Pentref Eco Hokkaido - arddangos pob agwedd o fywyd cynaliadwy
Mae’r diffyg mynediad at addysg yn effeithio ar lawer o blant yn yr ardal hwn oherwydd eu bod yn aml yn helpu eu teuluoedd yn hytrach na mynychu gwersi. Bydd gwirfoddolwyr yn gallu ymgysylltu mewn hyfforddiant athrawon a chefnogi athrawon yn cyflwyno eu gwersi i’r plant.
Byw cynaliadwy drwy ffermio, cadwraeth ac addysg.
Cost y Brosiect: £850 Bwrsariaeth y Brifysgol: £600 Dyddiadau: Canol Mehefin - Canol Gorffennaf
Cynorthwyo athrawon yn addysgu plant sydd mewn perygl.
Cost y Brosiect: £600 Bwrsariaeth y Brifysgol: £500 Dyddiadau: Gorffennaf, Awst
RHAGOR O WYBODAETH
Dyma rhai o’r prosiectau gwirfoddoli y mae Cyfleoedd Byd-eang yn eu cynnig. Er mwyn gweld yr holl brosiectau, edrychwch ar ‘spend time abroad’ ar yr intranet; ewch i weld nhw yn 51a Plas y Parc, e-bostiwch nhw ar go@caerdydd.ac.uk neu dewch o hyd iddynt ar gyfryngau cymdeithasol: @GlobalOppsCU CardiffGOC
Gwirfoddoli Caerdydd
35
SUT I YMGEISIO Mae’n hawdd i chi ddechrau eich taith gwirfoddoli gyda ni. Ewch ar cardiffstudents.com/volunteering a gwnewch gais ar-lein Cysylltwch â ni Gwirfoddoli Caerdydd Canolfan Sgiliau, 2il Lawr Undeb y Myfyrwyr, Plas y Parc, Caerdydd. CF10 3QN
02920 781494 cardiffstudents.com/volunteering volunteering@Caerdydd.ac.uk @volunteerCUSU @volunteerCUSU volunteercusu