Eich canllaw ar gyfer bywyd Ôl-raddedig yng Nghaerdydd

Page 1


2 UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD

Cynnwys 3 Croeso oddi wrth yr Is Lywydd Myfyrwyr Ôl-raddedig 4 Eich Undeb Myfyrwyr (Cathays a Pharc y Mynydd Bychan) 5

Eich Swyddogion Etholedig

6

Siopau a Gwasanaethau

8–9 Llais Myfyrwyr: Democratiaeth yn eich Undeb y Myfyrwyr

12–13 Gweithgareddau 14

Swyddi a Sgiliau

15

Gwirfoddoli a Menter

16 Cyngor Myfyrwyr 17 Eich Lles

Rydyn ni’n gwybod eich bod chi’n bobl brysur, felly rydyn ni am ei gwneud hi mor syml â phosib i chi gadw’n gyfoes â’r hyn sy’n digwydd o gwmpas y campws. E-bost pythefnosol

7 Cymdeithas Myfyrwyr Ôlraddedig Caerdydd

10–11 Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr

Cadwch mewn cysylltiad

Bob pythefnos, bydd IL y Myfyrwyr Ôlraddedig, Jake Smith, yn anfon e-bost atoch chi i sôn am yr hyn sy’n digwydd. O ddiweddariadau pwysig, pethau i gymryd rhan ynddynt a newyddion eraill, bydd hwn yn werth ei ddarllen. Gwefan Rydyn ni wedi datblygu ardal o’n gwefan ar eich cyfer chi. Ewch i cardiffstudents. com/postgrad i ganfod mwy. Cyfryngau Cymdeithasol cardiffstudentspostgrad @PostgradCSU

18–19 Digwyddiadau gwych 20

Map o’r campws

12-13 Gweithgareddau

Digwyddiadau gwych


UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD 3

Croeso i Gaerdydd! Croeso i’r ôl-raddedigion newydd sy’n ymuno â Phrifysgol Caerdydd. I’r rheini sydd wedi astudio ym Mhrifysgol Caerdydd cyn hyn, croeso nôl! Fel myfyriwr ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd rydych yn aelod o Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Mae hyn yn golygu fod gennych fynediad i amrywiaeth gwych o gymdeithasau a chlybiau chwaraeon, gwasanaethau cyngor a chynrychiolaeth i’w defnyddio os oes angen cymorth arnoch tra’n y Brifysgol. Rydych hefyd yn cael eich cynrychioli a’ch cefnogi gan Dîm Swyddogion Sabothol ac aelodau staff ymroddedig Undeb y Myfyrwyr. Rydym ni yn yr undeb yn ymrwymo i wneud eich amser fel ôl-raddedig yng Nghaerdydd y gorau gallai fod. Gwnawn hyn drwy eich cynrychioli i’r brifysgol ar faterion academaidd, cynnig gweithgareddau cymdeithasol a digwyddiadau, a chefnogi eich pryderon lles. P’un ai eich bod yn fyfyriwr ôlraddedig ymchwil neu ôl-raddedig a addysgir, rydym eisiau darparu gymaint o gyfleusterau fel eich bod yn gallu gwneud eich ymchwil, cyfleoedd i ddatblygu eich hun mewn cyrsiau datblygu sgiliau a chymuned ôl-raddedig bywiog i chi fod yn rhan ohono. Mae Undeb y Myfyrwyr yn gweithio i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed ar eich cwrs, drwy’r brifysgol ac o amgylch ein cymuned lleol.

Fel eich Is Lywydd Myfyrwyr Ôl-raddedig, rwyf yn edrych ymlaen i weithio gyda cymaint ohonoch â phosib, fel ein bod ni’n gallu gwella profiad myfyrwyr ôlraddedig yng Nghaerdydd. Gobeithio y byddwch wrth eich bodd yn astudio yn ein dinas a phrifysgol arbennig. Mae Undeb y Myfyrwyr yn cynnig gymaint i gyfoethogi eich amser yng Nghaerdydd, felly cymerwch ran. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, cysylltwch â mi. Fel arall, gallwch chi ddod o hyd i mi ar drydydd llawr Undeb y Myfyrwyr! Jake Smith IL Myfyrwyr Ôl-raddedig VPpostgraduate@Caerdydd.ac.uk PGradOfficerCSU @PostgradCSU


4 UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD

Eich Undeb Myfyrwyr

Campws Cathays Mae prif adeilad Undeb y Myfyrwyr ar Blas y Parc. Mae gan y lleoliad pwrpasol hwn bum llawr, tafarn, ardal ddysgu gymdeithasol 24-awr, allfeydd bwyd, amrywiaeth o siopau, llefydd cyfarfod ac ymarfer, lleoliad aml-bwrpas ar gyfer digwyddiadau gyda’r dydd a gyda’r nos, darlithfa a gorsaf radio. Mae Undeb y Myfyrwyr yn le gwych i ymlacio, cwrdd â ffrindiau, cael cymorth, canfod swydd, bwyta a chymryd rhan gyffredinol mewn bywyd myfyrwyr.

Undeb cyswllt hwn yn rhoi mynediad i chi i ystod o wasanaethau a ddarperir ar Blas y Parc, gan gynnwys Siop Swyddi, Gosod Myfyrwyr Caerdydd, Cyngor i Fyfyrwyr, Gwirfoddoli Caerdydd a chyrsiau Datblygu Sgiliau. Gallwch brosesu sieciau clybiau chwaraeon a chymdeithasau yma yn ogystal â phrynu offer ysgrifennu a nwyddau Prifysgol Caerdydd. Mae hefyd yn bosib i chi gynnal cyfarfodydd yng Nghampws Parc y Mynydd Bychan - gan fod gennym ystafelloedd cyfarfod y mae modd i chi eu llogi.

Campws y Mynydd Bychan Mae Undeb y Myfyrwyr yn y Mynydd Bychan yn yr IV Lounge ar lawr gwaelod adeilad Neuadd Meirionnydd. Mae’r

Caiff Undeb y Myfyrwyr yn y Mynydd Bychan ei redeg gan Neil felly dewch i ddweud helo!


UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD 5

Swyddogion Sabothol 2017-18 Mae’r Swyddogion Sabothol yn dîm o fyfyrwyr sy’n cael eu dewis gan fyfyrwyr eraill i arwain Undeb y Myfyrwyr. Maen nhw’n cynrychioli barn myfyrwyr ac yn arwain gweithgareddau ym mhob agwedd o fywyd myfyrwyr fel Addysg i israddedigion, ôl-raddedigion a myfyrwyr gofal iechyd, chwaraeon, cymdeithasau a lles. Caiff y Swyddogion Sabothol eu harwain gan Lywydd Undeb y Myfyrwyr.

Cewch gwrdd â’ch Swyddogion Sabothol ar 3ydd llawr adeilad Undeb y Myfyrwyr neu ar cardiffstudents.com


6 UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD

Siopau a Gwasanaethau Caru Caerdydd a Swyddfa Bost Mae ein Siop Caru Caerdydd estynedig nawr ar agor ar y Llawr Gwaelod. Mae’r siop mwy ar y llawr gwaelod yn cynnwys dewis ehangach o nwyddau brand Prifysgol Caerdydd. Yn ogystal â’r lle i fynd am ddillad brand Prifysgol Caerdydd, mae gan Caru Caerdydd Swyddfa Bost – yn barod i chi bostio’r anrhegion rydych wedi’u prynu yn Caru Caerdydd. 029 2078 1481 Gosod Myfyrwyr Caerdydd Mae Gosod Myfyrwyr Caerdydd yn asiantaeth gosod y mae Undeb y Myfyrwyr yn ei berchen a’i redeg. Wedi’i leoli ar lawr gwaelod Undeb y Myfyrwyr, mae’n wasanaeth rhad ac am ddim heb unrhyw ffi asiantaeth neu ffi weinyddol. cardiffstudentletting.com 029 2078 1525 cardiffstudentletting Y Cwrt Bwydydd yn Y Plas Pan fydd angen bwyd arnoch, bydd eich chwant yn ein dwylo. O saladau iachus i fyrgyr neu sglodion, ein hallfeydd bwyd yn Y Plas yw’r lle perffaith i fynd ar y ffordd i’ch darlithoedd. Maen nhw ar yr 2il lawr gyda llawer o seddi, wifi am ddim a socedi i blygio eich gliniadur - sgwrsio, astudio, bwyta, yfed. Mae’r cwrt bwyd yn cynnwys Starbucks, siop bastai, bar salad ac yn newydd ar gyfer 2017 ein bar bwyd stryd – Yr Hut.

Y Taf Y Taf yw tafarn Undeb y Myfyrwyr. Mae ein tafarn yn berffaith ar gyfer peint tawel neu rywbeth bach i fwyta ac mae yna hefyd gwis anhygoel, cerddoriaeth fyw a bargeinion gwych hefyd. Gwasanaethau Eraill Mae gan yr Undeb nifer o wasanaethau eraill gan gynnwys WHSmith, Blackwell’s Bookshop, Magic Wrap, Banc Santander, the Print Centre, Kodak Express, Coffi Co, Bubble Boba, Acute Barbers, Co-op a Falafel House.


UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD 7

Cydgymuned Myfyrwyr Ôl-raddedig Caerdydd Cymdeithas Myfyrwyr Ôl-raddedig Caerdydd Croeso cynnes i’r holl fyfyrwyr ôl-raddedig!

Nadolig a’n dathliad Gwyˆl Sant Padrig. Mae bob blwyddyn nawr yn gorffen gyda Noson Fawreddog Ôl-raddedigion!

Hoffai’r Pwyllgor Cymdeithas Myfyrwyr Ôl-raddedig ddymuno croeso cynnes mawr i chi, a danfon ein llongyfarchiadau ar gael eich derbyn i astudio gradd ôl-raddedig yma ym Mhrifysgol Caerdydd!

Rydym yn gyffrous iawn o dwf y gymuned ôl-raddedig dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a rydym yn gobeithio y byddwn yn gallu tyfu hyd yn oed yn gryfach gyda’ch help chi.

Dechreuodd y gymdeithas dair blynedd yn ôl, pan nad oedd yna gymuned ôl-raddedig traws-gampws. Ers hynny rydym wedi tyfu i fod yn gymuned bywiog a chynhwysol drwy gynnal digwyddiadau rheolaidd ac ymgyrchu i anghenion a chyraeddiadau ôl-raddedigion gael eu cydnabod o fewn y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr. Fe ymgyrchom i gyflwyno swyddog sabothol llawn amser ar gyfer y myfyrwyr ôlraddedig (y seithfed rôl o’r fath yn y wlad gyfan ar adeg ei gyflwyno).

Edrychwch ar ein digwyddiadau cymdeithasol sydd ar y gweill drwy’r flwyddyn a chymerwch ran. O bobi, dawnsio a heicio, i bartïon a phrydau bwyd – mae yna rywbeth i bawb. Felly, dewch o hyd i ni ar Facebook (facebook.com/ CardiffPGA) a hoffwch ni fel na fyddwch yn colli dim byd; gallwch hefyd ddanfon e-bost atom ar PostgraduateAssociation@ Caerdydd.ac.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau; neu gallwch alw heibio ein stondin yn y Ffair Gymdeithasau ym mis Medi am sgwrs.

Rydym yn ymdrechu i barhau i adeiladu ar ein llwyddiannau. Fe gyflwynom cwis dafarn bob pythefnos a ddaeth yn boblogaidd iawn yn gyflym. Fe drefnom ni ddigwyddiadau “blasu” gyda chlybiau a chymdeithasau eraill, a rhoddodd gyfle i fyfyrwyr ôl-raddedig i drio’r amrywiaeth o gymdeithasau a chwaraeon sydd gan Gaerdydd i’w gynnig. Cynhaliwyd nosweithiau ffilmiau, heb sôn am ein parti

Felly, unwaith eto, croeso i Gaerdydd – edrychwn ymlaen i’ch gweld chi ym mis Medi! Ar ran pwyllgor Cymdeithas Myfyrwyr Ôl-raddedig. Matthew Jenkins Cadeirydd y Pwyllgor


8 UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD

Llais Myfyrwyr

Mae Undeb y Myfyrwyr yn fudiad aelodaeth democrataidd, a’i brif ddiben yw cynrychioli eich buddiannau chi a’ch cyd-fyfyrwyr i’r Brifysgol a chymdeithas yn ehangach. Yn y gorffennol, mae’r Undeb wedi ymladd i osod ffioedd ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol, dros lyfrgelloedd 24 awr a rhyddhau amserlenni arholiadau ynghynt. Mae yna nifer o ffyrdd y gallwch fynd ati i godi materion y byddwch eisiau i’r Undeb fynd i’r afael â nhw. Mae disgrifiad cryno isod o’r gwahanol grwpiau sy’n arwain ein gwaith a sut y gallwch chi gyfranogi. Senedd y Myfyrwyr Mae Senedd y Myfyrwyr yn creu ac yn newid polisi Undeb y Myfyrwyr. Golyga hyn eu bod nhw’n penderfynu pa newidiadau neu welliannau y dylem eu

gwneud neu lobïo drostynt. Mae Senedd y Myfyrwyr yn cynnwys dau ddeg pump o seneddwyr a etholir yn Etholiadau’r Hydref. Mae’r Senedd yn cwrdd pum gwaith y flwyddyn ac mae’r cyfarfodydd yn agored i fyfyrwyr oll. Gall unrhyw fyfyriwr gyflwyno cynnig neu eitem i’w gosod ar yr agenda ar gyfer Senedd y Myfyrwyr, a gall unrhyw fyfyriwr fynychu’r cyfarfod a dadlau o blaid neu yn erbyn y pynciau sydd ar yr agenda. Mae’r agenda, y cofnodion a manylion y cyfarfod nesaf i’w gweld yma cardiffstudents.com/senate. Os oes rywbeth y gallwch feddwl all wneud profiad myfyrwyr ôl-raddedig y well o fewn Undeb y Myfyrwyr, cyflwynwch gynnig!


UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD 9

Etholiadau Gan ein bod yn fudiad democrataidd, caiff pob swydd gynrychioli, sydd â’r pw ˆ er i wneud penderfyniadau, ei llenwi drwy etholiad traws-gampws. Mae dwy set o etholiadau bob blwyddyn, a chynhelir y rhai cyntaf ym mis Hydref ar gyfer Senedd y Myfyrwyr a’r Pwyllgor Archwilio. Cynhelir yr ail set o etholiadau yn Chwefror i ethol y Swyddogion llawnamser sy’n cael eu talu a’r deg Swyddog Ymgyrchoedd. Mae’r tîm Swyddogion llawn-amser yn cynnwys y Llywydd a chwe Is-Lywydd, gan gynnwys yr IsLywydd Myfyrwyr Ôl-raddedig. Swyddi gwirfoddol sydd gan y Swyddogion Ymgyrchoedd, ac mae myfyrwyr yn ymgymryd â’r rhain ochr-yn-ochr â’u hastudiaethau. Maent yn cynrychioli grwpiau lleiafrifol a rhyddhad i Undeb y Myfyrwyr ac i’r Brifysgol. Mae angen amrywiaeth o leisiau o fewn y swyddi hyn, ac rydym yn chwilio am ôl-raddedigion i sicrhau bod eu lleisiau i’w clywed! Mae dwy brif ffordd o gyfranogi - gallwch gyflwyno eich hun ar gyfer swydd sydd o ddiddordeb i chi, neu gallwch bleidleisio dros yr ymgeisydd fydd yn eich barn chi’n gwneud gwaith da yn y swydd. Pwyllgor Craffu Mae’r Pwyllgor Craffu’n cynnwys 10 myfyriwr etholedig sy’n dal eich

cynrychiolwyr (gan gynnwys Llywydd Undeb y Myfyrwyr a’r IL Ôl-raddedig) i gyfrif. Maent yn gwasanaethu i archwilio adroddiadau Swyddogion Etholedig er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio er eich budd chi. Gall unrhyw fyfyriwr ymgeisio ar gyfer aelodaeth o’r Pwyllgor Craffu yn Etholiadau’r Hydref. Byddant yn cwrdd tua wyth gwaith y flwyddyn, ar nos Fawrth. Gallwch weld beth mae’r swyddogion yn gweithio arno a chofnodion o gyfarfodydd y Pwyllgor Craffu ar cardiffstudents.com/officers.

Etholiadau’r Hydref Byddwn yn cynnal Etholiadau’r Hydref i ethol y rolau Swyddogion Ymgyrch gwag yma: • Swyddog Moesegol ac Amgylcheddol • Swyddog LHDT+ (agored) • Swyddog LHDT+ (merched) • Swydd Myfyrwyr Hyˆn • Swyddog y Gymraeg • Swyddog Merched Os oes gennych ddiddordeb yn bod yn un o’n Swyddogion Ymgyrch, neu eisiau darganfod mwy am yr etholiadau, ewch i cardiffstudents.com/elections neu e-bostiwch Elections@Caerdydd.ac.uk.


10 UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD

Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr Beth yw Cynrychiolydd Academaidd Myfyrwyr? Mae Cynrychiolydd Academaidd Myfyrwyr yn wirfoddolwr myfyrwyr sy’n lleisio sylwadau, pryderon a chwestiynau o’u cyrsiau i’w hysgolion. Eu rolau yw casglu adborth o’u cyrsiau a’i anfon at Baneli Staff Myfyrwyr (PSM) a Byrddau Astudiaeth i sicrhau bod lleisiau’r myfyrwyr yn cael eu cymryd o ddifrif ar bob lefel. Mae gennym gyfanswm o tua 1,000 o Gynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn cynrychioli dros 30,000 o fyfyrwyr. Cynrychiolwyr Ol-raddedigion Ymchwil Bydd Cynrychiolwyr Ol-raddedig Ymchwil hefyd yn cael eu gwahodd i Fforymau prifysgol. Mae’r fforymau hyn, wedi’u cadeirio gan yr IL Ol-raddedig, yn rhoi mwy o gyfle i fyfyrwyr ymchwil i godi eu materion yn uniongyrchol ag Undeb y Myfyrwyr. Dewch yn Gynrychiolydd Mae cynrychiolwyr yn chwarae rhan annatod o rymuso lleisiau myfyrwyr ac rydym wastad yn edrych am recriwtiaid newydd. Nid yw profiad blaenorol yn angenrheidiol; y cyfan sy’n ofynnol yw brwdfrydedd a meddwl agored. Bydd y tîm Llais Myfyrwyr yn yr Undeb Myfyrwyr yn eich hyfforddi a chynnig cymorth, felly byddwch yn barod ar gyfer eich rôl. Os oes gennych ddiddordeb, mae croeso i

chi gysylltu â StudentReps@Caerdydd.ac.uk a gall y tîm anfon manylion y Cydgysylltydd Cynrychiolydd Myfyrwyr perthnasol atoch. Fel arall, gallwch gysylltu â swyddfa eich Ysgol a gallent anfon y manylion atoch. Beth yw’r manteision i mi? Fel ôl-raddedigion, mae eich anghenion addysgol yn aml yn arbenigol ac mae angen sylw penodol arnynt. Felly, trwy ddod yn Gynrychiolydd gallwch gymryd gafael ar eich addysg, gallwch helpu i lunio eich cwrs neu brofiad ymchwil ac amlygu unrhyw welliannau. Mae dod yn Gynrychiolydd yn gyfle perffaith i ymgysylltu â myfyrwyr sy’n ymchwilio ac yn astudio pynciau tebyg, byddwch yn cwrdd â llawer o bobl. Cewch gyfle i adeiladu rhwydweithiau gyda staff y Brifysgol i’ch helpu ymgysylltu ag uwch academyddion. Gallwch gymryd rhan mewn sicrwydd ansawdd a gwella safonau academaidd ym Mhrifysgol Caerdydd. Cymerwch ran, dewch yn Gynrychiolydd Academaidd Myfyriwr! Unrhyw gwestiynau? Cysylltwch â: Jake Smith – Is-lywydd Myfyrwyr ôl-raddedig VPpostgraduate@Caerdydd.ac.uk PgradOfficerCSU @PostgradCSU


UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD 11

Defnyddiwch eich Cynrychiolydd Pa fath o faterion mae Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr yn ymdrin â hwy? Gall Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr anfon unrhyw sylwadau cadarnhaol neu negyddol am yr Ysgol, pwnc neu fodiwl drwy fynychu Paneli Staff Myfyrwyr sy’n digwydd tua unwaith y tymor. O ganlyniad o gael eich hyfforddi i arwain myfyrwyr at y bobl berthnasol, mae Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr hefyd yn gallu darparu llawer o wybodaeth ynglyˆn â’r Gwasanaethau bydd ar gael o’r Brifysgol a’r Undeb Myfyrwyr.

Sut y gallaf gysylltu â fy Nghynrychiolydd Academaidd Myfyrwyr? Os hoffech rannu adborth am eich cwrs gyda’ch Cynrychiolydd Academaidd Myfyrwyr, gallwch fewngofnodi i cardiffstudents.com/reps a defnyddio’r nodwedd “Find my Rep”. Neu gallwch anfon e-bost at StudentReps@Cardiff. ac.uk neu bicio draw i drydydd llawr yr Undeb Myfyrwyr. Gallwch hefyd dderbyn e-byst o’ch cynrychiolydd yn gofyn am adborth. Sut allai ddarganfod rhagor? cardiffstudents.com/reps StudentReps@Caerdydd.ac.uk Cardiff Student Voice @CU_StudentVoice


12 UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD

Gweithgareddau Cymdeithasau Mae ymuno â chymdeithas neu bwyllgor yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn ffordd wych o rwydweithio, cymryd rhan mewn diddordeb neu eich cysylltu chi â phobl tebyg i chi. Mae yna dros 180 o gymdeithasau gan gynnwys cymdeithasau ar sail cwrs, grwpiau crefyddol, cymdeithasau rhyngwladol yn ogystal â chymdeithasau gwleidyddol a diwylliannol. Chwaraeon Caiff ein clybiau chwaraeon eu cefnogi gan yr Undeb Athletau, sy’n gofalu am fyfyrwyr sy’n rhedeg dros 60 o glybiau chwaraeon, gan gynnwys chwaraeon unigol a thîm, gweithgareddau awyr agored, chwaraeon d r a chrefft ymladd. Cydgysylltiadau Mae ein cydgysylltiadau myfyrwyr yn rhad ac am ddim a gall unrhyw fyfyriwr Prifysgol Caerdydd fod yn aelod. Mae pob cydgysylltiad yn cynrychioli gr p arbennig fel myfyrwyr LHDT+, myfyrwyr croenddu a lleiafrifoedd ethnig neu fyfyrwyr ôl-raddedig, ac yn ymgyrchu ar faterion all effeithio arnyn nhw. Gallwch ganfod mwy am ein cydgysylltiadau ar cardiffstudents.com/associations. Darganfyddwch mwy am weithgareddau yn Undeb y Myfyrwyr ar cardiffstudents.com/activities


UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD 13

Ffyrdd gwych eraill i gymryd rhan Cyfryngau Myfyrwyr Mae gennym ni ddiwylliant cyfryngau sy’n ffynnu yn Undeb y Myfyrwyr gyda gr p brwdfrydig o fyfyrwyr yn cynhyrchu ein papur newydd wythnosol, Gair Rhydd, a’n cylchgrawn misol, Quench, yn ogystal â gwirfoddoli gydag Xpress Radio, ein gorsaf radio, a CUTV, ein gorsaf deledu ar-lein. Gallwch gymryd rhan mewn cyfryngau myfyrwyr unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Gall fod yn ffordd wych o berffeithio eich sgiliau newyddiaduraeth yn ogystal â darparu ystod amrywiol o brofiad ar gyfer y dyfodol. Dysgwch Iaith Newydd Rhowch gynnig ar iaith newydd neu wella iaith bresennol, am ddim! Mae Ieithoedd i Bawb yn rhoi cyfle i chi wella eich sgiliau iaith ochr yn ochr â’ch astudiaethau. Mae eu hopsiynau astudio hyblyg yn golygu bod modd i chi ddysgu mewn ffordd sy’n addas i chi, boed yn wythnosol, yn ddwys neu’n annibynnol. P’un ai’ch bod chi’n dechrau o’r dechrau neu am wella eich sgiliau iaith presennol, rydyn ni’n cynnig rhywbeth ar gyfer pob gallu. Rydym yn cynnal cyrsiau mewn ystod eang o ieithoedd ac yn cynnal dosbarthiadau ar ein campysau ym Mharc Cathays a’r Mynydd Bychan. I ganfod mwy, ewch i cardiff.ac.uk/modern-languages.

Rhowch Gynnig Arni Mae Rhowch Gynnig Arni yn galendr llawn o weithgareddau anhygoel i chi roi cynnig arnynt tra eich bod chi’n fyfyriwr yng Nghaerdydd. Mae’n rhoi cyfle i chi roi cynnig ar yr holl bethau mae ein cymdeithasau yn eu gwneud, cymryd rhan mewn chwaraeon, dysgu iaith newydd, datblygu sgiliau hanfodol, gwirfoddoli, mynd ar deithiau diwrnod a phenwythnos, a llawer llawer mwy. Yr amcan yw eich annog chi i roi cynnig ar bethau newydd, cwrdd â phobl newydd a chael profiad anhygoel yng Nghaerdydd.


14 UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD

Swyddi a Sgiliau Siop Swyddi Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio ochr yn ochr â’ch cwrs ôlraddedig, mae’r Siop Swyddi’n lle gwych i ddechrau. Caiff y Siop Swyddi ei rhedeg gan Undeb y Myfyrwyr ac yn cynnig gwasanaeth cyflogi am ddim i holl fyfyrwyr y Brifysgol. Mae cyfleoedd gweithio ar gael yn y Brifysgol, Undeb y Myfyrwyr a chyflogwyr lleol, sy’n cynnig cyflogaeth am dâl sy’n gweddu eich ymrwymiadau academaidd. I ganfod mwy am y Siop Swyddi a sut i gofrestru, ewch i cardiffstudents.com/ Jobshop neu dewch heibio i’r Ganolfan Sgiliau ar 2il lawr Undeb y Myfyrwyr. Mae’n ffordd wych o ennill arian ychwanegol a rhoi profiad gwaith ar eich CV tra eich bod chi’n astudio! CardiffJobshop @CardiffJobshop Jobshop@Caerdydd.ac.uk 029 2078 1535

Y Gwasanaeth Datblygu Sgiliau Mae’r Gwasanaeth Datblygu Sgiliau’n darparu ystod o gyrsiau sy’n bwriadu eich paratoi chi ar gyfer y farchnad gyflogaeth. Mae’r cyrsiau hyn yn amrywio o wella eich sgiliau trosglwyddadwy, codi eich hyder a gwella eich cyflogadwyedd yn gyffredinol. Cyflwynir tystysgrifau am gwblhau’r cyrsiau’n llwyddiannus ac maen nhw’n hynod boblogaidd ymysg cyflogwyr. Mae tri phrif faes i’r cyrsiau a gynigir gan y Gwasanaeth Datblygu Sgiliau: • Tystysgrif Datblygiad Proffesiynol • Diploma Datblygiad Personol • Cyrsiau a achredir yn allanol Ceir gwybodaeth fwy manwl am y cyrsiau hyn ar cardiffstudents.com/jobs-skills. Cysylltwch â ni 029 2078 1489 SDS@Caerdydd.ac.uk CardiffSDS @SDScardiff


UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD 15

Gwirfoddoli Caerdydd Mae gwirfoddoli’n ffordd wych o wneud gwahaniaeth yn y gymuned leol yn ystod eich cyfnod yng Nghaerdydd. Mae’n cynnig profiad gwaith gwerthfawr ar gyfer eich CV yn ogystal â rhoi cyfle i chi gwrdd â phobl newydd a mwynhau! Mae Gwirfoddoli Caerdydd yn cynnig ystod eang o brosiectau gwahanol a chyffrous sy’n gallu gweddu eich amserlen prifysgol. Mae llawer o fyfyrwyr yn gwirfoddoli ar brosiectau o gwmpas dinas Caerdydd ac yn ymroi eu hamser i helpu gwella bywyd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol eraill yn y gymuned leol a datblygu sgiliau, profiadau a chreu ffrindiau newydd drwy ei wneud. I ganfod mwy am Gwirfoddoli Caerdydd a sut i gymryd rhan, ewch i cardiffstudents. com/volunteering neu galwch heibio’u swyddfa yn y Ganolfan Sgiliau ar 2il lawr Undeb y Myfyrwyr pan fyddwch yn cyrraedd Caerdydd. Mae’r swyddfa ar agor rhwng 09:00-17:00 ddydd Llundydd Iau a rhwng 09:00-16:00 ar ddydd Gwener. cardiffstudents.com/volunteering VolunteerCUSU @VolunteerCUSU @VolunteerCUSU

Menter Prifysgol Caerdydd Mae bod yn fentrus yn golygu bod â’r hyder a’r sgiliau i ddod a syniadau’n fyw. P’un ai os ydych eisiau dechrau busnes, creu a thyfu prosiect cymunedol, neu cael argraff ar gyflogwr, rydym yma i’ch cefnogi. Rydym yn cynnal cyfres o weithdai a digwyddiadau drwy’r flwyddyn i roi profiad i chi a chyfleoedd i gyfarfod â phobl proffesiynol ysbrydoledig. Gallwch hefyd ennill rhoddion ariannol i helpu ddod a’ch syniadau’n fyw. Mae yna hefyd ymgynghorydd arbenigol a all roi arweinyddiaeth un ar un a chynnig gofod swyddfa rhydd. Dewch o hyd i ni yn y Ganolfan Sgiliau yn Undeb y Myfyrwyr. Enterprise@Caerdydd.ac.uk studententerprise @CardiffUniE


16 UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD

Cyngor i Fyfyrwyr

Mae Undeb y Myfyrwyr yn cynnig cyngor cyfrinachol, annibynnol ac am ddim drwy ein gwasanaeth Cyngor i Fyfyrwyr. Mae ein tîm ymroddedig o gynghorwyr myfyrwyr yn darparu gwybodaeth ac arweiniad ar amrywiaeth o faterion myfyrwyr. Os ydych yn cael trafferth gyda’ch cwrs, gall y gwasanaeth nodi opsiynau a helpu yng nghyflwyniadau apeliadau, cwynion ac amgylchiadau esgusodol. Os ydych yn chwilio am lety, arwyddo cytundeb neu’n cael problemau gyda’ch tyˆ – gallwn help. Os ydych yn cael trafferth tra yn y Brifysgol – dewch i weld ni. Os na allwn helpu, gallwn eich cyfeirio at y rheini sy’n gallu.

Cysylltwch â ni: 029 2078 1410 cardiffstudents.com/advice Advice@Caerdydd.ac.uk Edrychwch ar ein wefan am fwy o wybodaeth. Gallwch gael mynediad i’n gwasanaeth Cyngor i Fyfyrwyr yn bersonol yn Undeb y Myfyrwyr Campws Cathays a drwy apwyntiad yng Nghampws y Mynydd Bychan. Mae apwyntiadau ar gael neu dewch draw yn ystod ein gwasanaethau galw-heibio dyddiol. Gallwch hefyd ffonio, e-bostio neu lenwi’r ffurflen ymholiadau ar-lein ar ein gwefan.


UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD 17

eich lles Gwasanaethau Dan Arweiniad Myfyrwyr Llinell Nos – Gwasanaeth ffôn gyfrinachol sy’n cynnig gwybodaeth a chlust i wrando. Ar agor bob nos 20:00-08:00 a gwasanaeth negeseuon gwib ar eu gwefan 20:00-00:00. 029 2087 0555 cardiffnightline.co.uk SHAG – Mae’r Grw ˆ p Ymwybyddiaeth Iechyd Rhywiol yn gweithio i ddarparu peiriannau condomau am ddim yn Undeb y Myfyrwyr a’r Lolfa IV. Maent hefyd yn cynnig Cerdyn-C. cushag.com Meddyliau Myfyrwyr – Maent yn helpu cefnogi myfyrwyr sydd ag anhwylderau bwyta drwy gynnal grwpiau hunan-gymorth wythnosol ar ddydd Iau 18:00-19:15 yn ystafell 4H yn Undeb y Myfyrwyr. Cardiff@studentminds.org.uk Cefnogaeth i Fyfyrwyr Mae Cefnogaeth i Fyfyrwyr yn wasanaethau proffesiynol a ddarperir gan y Brifysgol. Dyma’r prif wasanaethau maent yn eu darparu: Sgiliau Astudio Academaidd, Cyngor ac Arian, Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd; Cwnsela a Lles; Anabledd a Dyslecsia; Cymorth Myfyrwyr Rhyngwladol. Lleolir ar 50 Plas y Parc, Campws Cathays a Thyˆ Aberteifi, Campws Parc y Mynydd Bychan. Gwasanaeth galw heibio Lles – Llun i Gwener 15:00-15:45 yn cynnig apwyntiadau galw heibio 10-15 munud un wrth un yn 50 Plas y Parc.

Grw ˆ p cefnogaeth gan gynghreiriaid Ôl-raddedigion Mae’r rhain yn sesiynau sy’n darparu lle i siarad gydag ôl-raddedigion eraill am sut maent yn teimlo ac am ffyrdd o ymdopi gydag heriau bywyd ôl-raddedig. Mae’r tri sesiwn gyntaf yn Ystafell Hyfforddi, 0.01 llawr gwaelod, 51a Plas y Parc ar: • Dydd Iau Medi 28, 10:45-12:15 • Dydd Mawrth Hydref 10fed, 17:30-19:00 • Dydd Iau Hydref 26, 10:45-12:15 Er mwyn archebu lle ar un o’r grwpiau, chwiliwch am ‘Postgraduate Peer Support’ neu ‘Hyrwyddwyr Lles’ ar Intranet Myfyrwyr. Diddordeb mewn bod yn Gyfaill Cefnogi Ôl-raddedigion? wellbeingchampion@Caerdydd.ac.uk Gweithdai Lles Academi Ddoethurol Darperir 5 gweithdy yn benodol ar gyfer yr Academi Doethurol ar bynciau gan gynnwys: Rheoli Straen yn y PhD, Delio â Pherffeithiaeth, Rheoli Oedi Gwaith, Effeithiolrwydd Rhyngbersonol, a Phoeni Llai. Bydd manylion am y gweithdai hyn ar gael yn y Rhaglen Academi Doethurol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, dewch i 3ydd llawr Undeb y Myfyrwyr i siarad â Nick Fox, eich Is-lywydd Lles. VPWelfare@Caerdydd.ac.uk 029 2078 1422


18 UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD

Digwyddiadau Gwych Mae Caerdydd yn ddinas fywiog sydd ag amryw o ddigwyddiadau i’ch cadw chi’n ddifyr pan nad ydych chi’n gweithio’n galed. Rydym wedi creu rhestr fer yma ond nid popeth mo hyn – rydym yn argymell crwydro, chwilio a chadw llygad allan er mwyn manteisio ar eich cyfnod yn y ddinas. Tân Gwyllt Mae arddangosiad tân gwyllt blynyddol Caerdydd yn digwydd ddechrau mis Tachwedd i ddathlu Noson Guto Ffowc ac mae Round Table Caerdydd wedi ei drefnu am 30 blynedd a mwy. Fe’i cynhelir ym Mharc Biwt gyda’r castell yn y cefndir ac mae’n gyfle gwych i lapio’n gynnes a mwynhau’r goleuadau llachar. Digwyddiadau Bwyd Stryd Mae Caerdydd yn dod yn ddinas fwyfwy enwog am fwyd ac mae ganddi ddigon o gaffis a thai bwyta gwych i gadw’r rhan fwyaf o arbenigwyr yn hapus. Mae Bwyd Stryd wedi ymuno â’r duedd yn y blynyddoedd diwethaf gyda digwyddiadau hynod boblogaidd o gwmpas y ddinas. Hanner Marathon Caerdydd Prifysgol Caerdydd Mae Hanner Marathon Prifysgol Caerdydd bellach yn un o rasys ffordd mwyaf y Deyrnas Unedig. Dyma 2il hanner marathon mwyaf yn y byd, a ras ffordd mwyaf Cymru yn ogsytal â digwyddiad codi arian mwyaf Cymru.

Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnar ar ddydd Sul 2il Hydref eleni. Cofrestrwch i gymryd rhan ar cardiffhalfmarathon.co.uk Pencampwriaeth y Chwe Gwlad RBS Rygbi yw camp genedlaethol Cymru ac mae yna awyrgylch anhygoel yn y ddinas yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad. Gwyliwch Gymru’n herio Lloegr, Ffrainc, Iwerddon, yr Eidal a’r Alban ar sgriniau teledu o gwmpas y ddinas neu, petai chi’n lwcus iawn, gallwch gael gafael ar docyn i wylio gêm yn fyw yn Stadiwm Principality. Gwyl y Faeaf yng Ngaherdydd Yng Ng yl y Gaeaf, mae’r Ganolfan Ddinesig yn troi’n wynfyd Nadoligaidd sy’n cynnwys llawr sglefrio awyr agored, reidiau yn ogystal â bwyd blasus a stondinau diod.


UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD 19

Farsiti Cymru Dechreuodd Farsiti Cymru 20 mlynedd yn ôl fel gêm rygbi rhwng myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a myfyrwyr Prifysgol Abertawe. Mae cymaint mwy iddi heddiw. Mae Farsiti Cymru yn wythnos llawn digwyddiadau gyda thimoedd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn 30 a mwy o gampau i gynrychioli eu prifysgol. Bydd y diwrnod terfynol yn gorffen gyda gêm rygbi’r dynion o flaen miloedd o fyfyrwyr o’r ddwy brifysgol. Gwyl Tafwyl Mae Tafwyl yn yl flynyddol a sefydlwyd gan Menter Caerdydd i ddathlu’r defnydd o’r Gymraeg yn y ddinas. Y prif ddigwyddiad yw Ffair Tafwyl, sef cyfuniad o ddigwyddiadau artistig, cerddorol, diwylliannol a chwaraeon, i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg. Am fwy o wybodaeth, ewch i tafwyl.org. G yl Bwyd a Diod Ryngwladol Caerdydd Digwyddiad gwreiddiol Caerdydd a g yl fwyd fwyaf y ddinas gyda thros 100 o gynhyrchwyr lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Rhowch gynnig ar, a phrynwch y gorau o gawsiau ffermdy, bara arbenigol, siocledi wedi’u gwneud â llaw a gwirodlynnau arbenigol. Mae yna gerddoriaeth fyw gydol y digwyddiad hefyd i’ch cadw chi’n ddifyr.

Digwyddiadau Eraill Cofiwch edrych yn Motorpoint Arena Caerdydd am gerddoriaeth fyw a gigs comedi yn ogystal â Chanolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd, sy’n cynnal sioeau cerdd, operâu, bale a pherfformiadau theatr a dawns. Hefyd mae yna ddewis gwych o orielau celf o gwmpas y ddinas sy’n amrywio o ran maint a thestun, o beintiadau i ffotograffiaeth a cherflunwaith.

Mwy o lefydd gwych i ymweld yn ystod y flwyddyn Castell Caerdydd Yr Amgueddfa Genedlaethol Bae Caerdydd (Senedd Cymru, Canolfan y Mileniwm, Adeilad Pierhad a Chapel Noryweg) The Old Library / Yr Hen Llyfrgell Parc y Rhath a Bute


20 UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD

Map o’r campws A1

A2

16

Ardal Astudio Ol-raddedigion 17

ELD AV

AV

SUMMERFI

LD

FIE

H AT

HE

B1

AVENUE

EDINGTON

CLODIAN AD RO

INGLEFIEL

D AVENUE

LLANISHE B2N STR EET

MANOR STR

EET

TALYGARN STR

TR

EE

T

T

T EE

RY S BU

WK ES

BE

DA N

IE

RT

C3L ST

TIA

ST

RS

T

ST

RE

RE

ET

ET

C4

ET

ST

RE

T TS

CE

EN

RO

REET

T TREE

RM AN

EE

T Y ST NRO

GLE

12

AN

ST

EET

STREET

STR

2

ET

TRE

FA S

T H ST OR

RD

FO

1

7

ET

TRE

IS S

RTH CYFA

CROFT

BED

9

EET

W TAL

D4

LL

3

SSE

RU

10

D3

T

STR

RR EHA

TR

11

REE

H ST

POC

KEP

ARR

13 D2

US S

TR

15

D1

ANG

REET

T LD S

REET A ST

A DON

YS

E

TT

PLAC

LE ST

DIAN

NESS

INVER

MINISTER

REET A ST BELL

ARA

ST

14

T ED S

N ISA TR AN LL ST AIN RW HI M ER RT ST THTREHERBE YR ST RETREORKY ET

ALFR

PE NT

TR

ST D TE

EE

T

EN

FL OR

DARRAN

YR CH

C2

RS

T

ES

SP

NO

ET

IEL

MA L EE

GF DO

DI

TR

UC

PL

ES

RE

TR

H

VA N

ST

ES

RC

TO N

ITH

ITC HU

ES

G GA ELL RD IGA EN ER S

C1

BR

LIS

WH

M

DA R

ST RE ET

CO S

BR

NY TH ST

REET AER ST CW M

GELLIG

GWEN

EF AN

RE

TS

ET

TR

EE

T

EET

PARTRI

ELM

DGE RD

STREE

T

4

6 5 8 CR NG T LO REE ST

S

OS


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.