Croeso i Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd

Page 1

Croeso i Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd!


Croeso! Gobeithio eich bod chi’n mwynhau eich ymweliad ac yn cael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i’ch helpu chi i benderfynu pa Brifysgol i astudio ynddi. Mae’n braf gennyn ni gyhoeddi mai ni yw’r Undeb Myfyrwyr gorau yng Nghymru a’r pedwerydd gorau yn y DU yn ôl arolwg! Mae gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd lu o wasanaethau, cyfleusterau a chyfleoedd i’n holl aelodau a’n gwesteion. Mae’n bwysig iawn eich bod chi’n cael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn ystod eich ymweliad felly mae croeso i chi grwydro pob llawr yn Undeb y Myfyrwyr. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi holi aelod o staff a fydd yn gwisgo cortyn gwddf coch neu binc neu ewch i’r Ganolfan Groeso ar y 2il lawr. I’ch helpu chi i ddeall pa wasanaethau a chyfleusterau sydd ar gael ar bob lefel, dyma esboniad byr;

Llawr Gwaelod Yn ystod haf 2016, cafodd y llawr gwaelod ei ailddatblygu yn ei gyfanrwydd! Mae’r siopau blaenorol wedi parhau, ond mae gennym ni lawer o siopau a gwasanaethau newydd hefyd, gan gynnwys ein siop ddillad ein hunain, Caru Caerdydd, a Gosod Tai Myfyrwyr Caerdydd.

Llawr Cyntaf Y Stiwdio Cafodd hon ei adnewyddu yn 2016 a bellach mae ganddi wal ddrychau a llawr â sbringiau. Mae’n hynod boblogaidd ymysg ein cymdeithasau dawnsio a’n grwpiau crefftau ymladd, ac mae’n le gwych i gynnal digwyddiadau i fyfyrwyr. Y Neuadd Fawr Gall unrhyw beth ddigwydd yn y Neuadd Fawr! Ffeiriau’r Glas, darlithoedd, seremonïau gwobrau, arholiadau, sesiynau rhoi gwaed ac, wrth gwrs, cerddoriaeth fyw. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Stereophonics, Happy Mondays, Waterparks, Dodie, a The Wombats wedi perfformio.


Ail Lawr Y Ganolfan Sgiliau

Siopswyddi Gwasanaeth am ddim i fyfyrwyr ddod o hyd i waith rhan amser ac ennill tipyn bach o arian yn ystod eu hastudiaethau.

Gwirfoddoli Caerdydd Mae eu tîm yn darparu cyfleoedd i wirfoddoli yn y gymuned, sef ffordd wych o ennill profiad. Ymhlith eu prosiectau mae gweithio mewn clybiau ieuenctid, gyda phobl ddigartref, cynlluniau cyfeillio, prosiectau addysg, cynlluniau iechyd meddwl a llawer mwy. Hefyd maen nhw’n cynnal digwyddiad Jailbreak bob blwyddyn lle bydd timau o fyfyrwyr yn codi arian i weld pa mor bell o Gaerdydd ac yn ôl gallan nhw fynd mewn 52 awr heb unrhyw arian! Eleni, aeth y grŵp buddugol mor bell â’r Ynysoedd Dedwydd (Canary Islands)!

Clinig TG Mae Adran TG y Brifysgol yn darparu clinig TG rhad ac am ddim i’ch helpu chi i fanteisio i’r eithaf ar wasanaethau TG y brifysgol. Ewch i’r clinig TG am gymorth i gofrestru dyfeisiau symudol ar rwydwaith y brifysgol, cymorth â phroblemau â’ch cyfrif a chymorth cyffredinol.

Menter y Brifysgol Mae’r gwasanaeth hwn gan y Brifysgol yn cynnig cyfleoedd a gweithdai busnes i ddatblygu sgiliau cychwyn eich busnes neu fenter gymdeithasol eich hun.

Cwrt Bwyd Yma mae gennyn ni siop goffi, Snack Shack ar gyfer byrgyrs a sglodion, Toss’d ar gyfer salad ffres, a The Hut ar gyfer pitsa cartref. Mae’r cyfan yn fforddiadwy ac yn flasus!

Gwasanaeth Datblygu Sgiliau Yma mae amrywiaeth eang o gyrsiau ar gael, gan gynnwys sgiliau cyflwyno, gwaith tîm, iaith arwyddion, cymorth cyntaf a llawer mwy! Dyma ffordd wych o wella’ch cyflogadwyedd ar ôl y Brifysgol.

Y Plas Cafodd y lle anhygoel hwn ei ailddatblygu yn 2014. Dyma gartref ein dwy noswaith glwb wythnosol, digwyddiadau dawns rheolaidd, cerddoriaeth fyw ac mae’n le gwych i astudio yn ystod y dydd.

Y Taf Tafarn Undeb y Myfyrwyr yw’r Taf sy’n cynnig amrywiaeth o fwyd gwych, diodydd rhad, cwis wythnosol, cyfnewidfar (lle mae’r prisiau’n amrywio yn ôl y galw) a charferi ar y Sul am gyn lleied â £6.95!


Trydydd Llawr Y Lolfa Ardal heb alcohol gyda balconi hyfryd a golygfa o’r prif adeilad. Mae’r lle hwn ar agor 24/7 ac mae ganddo ystafell gyfarfod ac ystafell weddi aml-ffydd hefyd. Mae digon o seddi a desgiau felly dyma le gwych i astudio a gweithio mewn grŵp. Cyngor i Fyfyrwyr Mae ein gwasanaeth Cyngor i Fyfyrwyr yn darparu cyngor a gwybodaeth, eiriolaeth, cynrychiolaeth a chymorth trwy wasanaeth rhad ac am ddim, diduedd ac annibynnol i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Maen nhw’n darparu cymorth ar amrywiaeth eang o faterion sy’n ymwneud ag academia, tai, iechyd a lles, a chyflogaeth, ymhlith eraill. Llais y Myfyriwr Calon cynrychiolaeth myfyrwyr. Mae’r tîm hwn yn hybu buddiannau academaidd myfyrwyr drwy recriwtio Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr sy’n gwirfoddoli i gynrychioli’ch barn i’r Brifysgol. Maen nhw hefyd yn gyfrifol am ddemocratiaeth myfyrwyr drwy gynnal ein hetholiadau blynyddol a threfnu Senedd y Myfyrwyr, y corff sy’n pennu polisi Undeb y Myfyrwyr.

Swyddogion Sabothol Beth yw’r peth gorau am Undeb y Myfyrwyr? Mae’n cael ei arwain gan fyfyrwyr ac er myfyrwyr! Mae swyddogion sabothol yn cael eu hethol i’w rolau bob blwyddyn ac maen nhw’n aros yn eu rolau am flwyddyn fel swyddogion cyflogedig llawn amser. Mae’r tîm yn cael ei arwain gan Lywydd Undeb y Myfyrwyr sy’n goruchwylio’r IL Cymdeithasau a Gwirfoddoli, IL Chwaraeon, IL Addysg, IL Lles a Ymgyrchu, IL Myfyrwyr Ôl-raddedig a IL Parc Y Mynydd Bychan. Cymdeithasau Cymryd rhan mewn gweithgareddau yw’r ffordd orau o greu ffrindiau yn ystod eich cyfnod yn y Brifysgol. Mae gennyn ni 200 a mwy o gymdeithasau sy’n cael eu rhedeg gan fyfyrwyr ac mae ganddyn nhw 8,000 a mwy o aelodau! Mae’r rhain yn cynnwys grwpiau sy’n seiliedig ar gyrsiau, grwpiau dawnsio a pherfformio, grwpiau diwylliannol, gwleidyddol, elusennol a llawer mwy. Harry Potter, pobi, gemau bwrdd, awyrblymio, te… mae rhywbeth at ddant pawb!


Rho Gynnig Arni Ein rhaglen Rho Gynnig Arni yw eich cyfle i roi cynnig ar rywbeth newydd yn ystod eich cyfnod yng Nghaerdydd heb unrhyw ymrwymiad. Cewch roi cynnig ar sesiwn blasu cymdeithas neu glwb glybiau, pêl-droed swigen, gwibgaru, teithiau diwrnod, penwythnosau ar y cyfandir a llawer mwy! Undeb Athletau Yn ogystal â 200 o gymdeithasau, mae fwy na 60 o glybiau chwaraeon. Cewch chwarae’n gystadleuol, fel rhan o Bencampwriaeth Prifysgolion Prydain, neu beidio. Hefyd, rydyn ni’n cystadlu yn Farsiti Cymru, yr ail fwyaf yn y DU, sef diwrnod anhygoel o chwaraeon yn erbyn Prifysgol Abertawe a daw’r wledd gampau i ben gyda gêm rygbi yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd, neu Stadiwm Liberty yn Abertawe. Cyfryngau Myfyrwyr Mae cyfle i chi gael profiad o newyddiaduraeth hefyd gyda’n papur newydd, cylchgrawn, gorsaf radio a gorsaf deledu.


Pedwerydd Llawr Ystafelloedd cyfarfod Mae’r rhain yn boblogaidd gyda’n grwpiau myfyrwyr amrywiol!

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi ymweld â’r tîm yn y Ganolfan Groeso ar ail lawr Undeb y Myfyrwyr. Neu, cysylltwch â’r tîm ar StudentsUnion@Caerdydd.ac.uk neu ewch i cardiffstudents.com. Gobeithio cawn ni eich croesawu chi yn ôl i Undeb y Myfyrwyr yn y dyfodol fel aelod!


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.