Eich canllaw ar gyfer bywyd ôl-raddedig yng nghaerdydd

Page 1

Eich r a w a l l n ca wyd y b r e f y g yng g i d e d d a ôl-r dd nghaerdy


2 UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD

Cynnwys Cysylltwch â ni

3 Croeso gan Is-lywydd y Myfyrwyr Ôl-raddedig 4 Eich Undeb Myfyrwyr (Cathays a Pharc y Mynydd Bychan) 5

Eich Swyddogion Sabothol

6

Siopau a Gwasanaethau

Ebostio Cylchlythyrau

7 Pwyllgor Gweithredol Ôlraddedigion Caerdydd 8–9 Llais Myfyrwyr: Democratiaeth yn eich Undeb Myfyrwyr 10–11 Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr 12–13 Gweithgareddau 14

Swyddi a Sgiliau

15

Gwirfoddoli a Menter

16 Cyngor Myfyrwyr 17 Eich Lles 18–19 Digwyddiadau gwych 20

Map o’r campws

Rydyn ni’n gwybod eich bod chi’n bobl prysur, felly rydyn ni am ei gwneud hi mor syml â phosib i chi gael eich diweddaru ar beth sy’n digwydd o gwmpas y campws. Bydd IL y Myfyrwyr Ôl-raddedig, Nick Fox, yn anfon e-bost atoch chi i sôn am yr hyn sy’n digwydd. O ddiweddariadau pwysig, pethau i gymryd rhan ynddynt a newyddion arall, bydd werth ei ddarllen. Bydd ôlraddedigion a addysgir yn derbyn e-bost bob yn ail fis tra bydd ôl-raddedigion ymchwil yn derbyn e-bost yn fisol. Gwefan Rydyn ni wedi datblygu ardal o’n gwefan ar eich cyfer chi. Ewch i cardiffstudents.com/ postgrad i ganfod mwy. Cyfryngau Cymdeithasol PGradCSU @PostgradCSU

12-13 Gweithgareddau

Digwyddiadau gwych


UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD 3

Croeso i Gaerdydd! Croeso i Gaerdydd! Croeso mawr i’r holl ôl-raddedigion newydd yn dechrau ym Mhrifysgol Caerdydd, a chroeso mawr yn ôl i’r holl ôl-raddedigion sydd wedi astudio yng Nghaerdydd o’r blaen. Fel myfyriwr ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd, rydych chi’n aelod awtomatig o Undeb y Myfyrwyr. Mae hyn yn golygu fod gennych chi fynediad at ein hamrywiaeth eang o glybiau chwaraeon a chymdeithasau, cymorth gan ein gwasanaeth Cyngor i Fyfyrwyr cyfrinachol ac annibynnol, cefnogaeth a chynrychiolaeth gan dîm o saith Swyddog Sabothol etholedig, 10 Swyddog Ymgyrch rhan amser ac aelodau staff ymroddgar Undeb y Myfyrwyr. Ein swydd ni yn Undeb y Myfyrwyr yw gwneud yn siwr fod eich profiad chi fel myfyriwr ôl-raddedig y gorau y gall fod, Ein rôl yw helpu adeiladu cymuned ôlraddedig sy’n ffynnu gyda digwyddiadau cymdeithasol, gwrando i’ch llais a’ch adborth chi fel myfyriwr a gweithio gyda’r Brifysgol fel y gallwn ni wella sut rydyn ni’n eich cefnogi chi gyda’ch materion academaidd a phryderon lles. Mae Undeb y Myfyrwyr yn gweithio’n galed i sicrhau fod eich llais fel myfyriwr ôl-raddedig yn cael ei glywed yn eich ysgol drwy System Gynrychioladol, ar lefel coleg drwy fforymau ôl-raddedig ymchwil ac ôl-raddedig â addysgir, ac o amgylch ein cymuned leol ar sector ehangach. Fe ddechreuais fy amser fel Is-lywydd Ôl-raddedig ym mis Gorffennaf, ac rydw

i’n edrych ymlaen at weithio gyda cymaint ohonoch â phosibl drwy gydol y flwyddyn fel ein bod ni’n gwneud profiad myfyrwyr ôl-raddedig yng Nghaerdydd yn hyd yn oed gwell. Mae Caerdydd yn ddinas anhygoel a bywiog gyda llawer yn digwydd. Allai i ddim pwysleisio ddigon pa mor bwysig ydi hi i daflu eich hun i bopeth a chymryd rhan, gan fod cymaint o gyfleoedd i gwrdd â phobl newydd a chael ychydig o hwyl. Peidiwch ag anghofio, dydi Undeb y Myfyrwyr ddim i israddedigion yn unig! Cofiwch gysylltu â fi os oes gennych unrhyw gwestiynau neu broblemau. Nick Fox Is Lywydd Myfyrwyr Ôl-raddedig VPpostgraduate@Caerdydd.ac.uk PGradOfficerCSU @PostgradCSU


4 UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD

Eich Undeb Myfyrwyr

Campws Cathays Mae prif adeilad Undeb y Myfyrwyr wedi ei leoli ar Blas y Parc. Mae’r lleoliad yma yn lledaenu dros bump llawr ac yn gartref i dafarn (Y Taf), mannau astudio cymdeithasol 24awr, llefydd bwyd, gofod i gyfarfod ac i ymarfer, Y Plas - ein lleoliad amlbwrpas ar gyfer digwyddiadau dydd a nos, y Neuadd Fawr a gorsaf radio. Mae Undeb y Myfyrwyr yn le gwych i ymlacio, cwrdd â ffrindiau, cael cymorth, darganfod swydd, cael tamaid i fwyta a chymryd rhan ym mhrofiad y myfyrwyr yn gyffredinol.

Campws y Mynydd Bychan Mae Undeb y Myfyrwyr yn y Mynydd Bychan wedi ei leoli yn Lolfa IV ar lawr gwaelod adeilad Neuadd Meirionydd. Mae’r Undeb Myfyrwyr loeren yn cynnig mynediad ar yr holl wasanaethau a ddarparir ym Mhlas y Parc yn cynnwys y Siopswyddi, Gosod Tai Myfyrwyr Caerdydd, Cyngor i Fyfyrwyr, Gwirfoddoli Caerdydd, a Chyrsiau Datblygu Sgiliau ac mae ganddynt ei haelodau staff eu hunain; gallwch hefyd archebu ystafelloedd cyfarfod yma.

Mae Undeb y Myfyrwyr hefyd yn gartref i Ardal Astudio Ôl-raddedig ar 3ydd llawr. Mae hwn yn safle penodol i ôl-raddedigion, gyda mynediad drwy sganio eich cerdyn myfyrwyr, lle ceir cyfrifiaduron a mannau astudio i grwpiau ac i astudio yn annibynnol. Mae’r gofod ar agor rhwng 08:00-21:30.

Mae Man Astudio Ôl-raddedig ar Gampws Parc y Mynydd Bychan hefyd. Mae ar agor 24/7 ac mae wedi ei leoli ar 2il lawr prif adeilad yr ysbyty.


UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD 5

Swyddogion Sabothol 2019-20 Mae’r Swyddogion Sabothol yn dîm o fyfyrwyr sy’n cael eu dewis gan fyfyrwyr eraill i arwain Undeb y Myfyrwyr. Maen nhw’n cynrychioli barn myfyrwyr ac yn arwain gweithgareddau ym mhob agwedd o fywyd myfyrwyr megis addysg i israddedigion, ôl-raddedigion a myfyrwyr gofal iechyd, chwaraeon, cymdeithasau a lles. Caiff y Swyddogion Sabothol eu harwain gan Lywydd Undeb y Myfyrwyr.

Ymgyrchu dros faterion ôl-raddedig Mae Undeb y Myfyrwyr yn cynrychioli pob myfyriwr ôl-raddedig a materion penodol i ôlraddedigion. Yn ddiweddar mae’r Is-Lywydd Myfyrwyr Ôl-raddedig a Undeb y Myfyrwyr wedi bod yn ymgyrchu dros:

Cewch gwrdd â’ch Swyddogion Sabothol

• Hawliau a statws addysgu i ôl-raddedigion ymchwil • Iechyd Meddwl Myfyrwyr Ôl-raddedig • Swyddfeydd ar gyfer ymchwil • Sut i ariannu astudio ôl-raddedig • Llety rhad mewn neuaddau preswyl dros yr Haf

ar 3ydd llawr adeilad Undeb y Myfyrwyr neu ar cardiffstudents.com

Jude

Orla

Nick

Jackie

VP Sports & AU President IL Chwaraeon a Llywydd Yr UA

VP Societies & Volunteering IL Cymdeithasau a Gwirfoddoli

VP Postgraduate IL Ôl-raddedig

SU President Llywydd Yr UM

Tomos

Shekina

James

VP Education IL Addysg

VP Heath Park IL Parc Y Mynydd Bychan

VP Welfare & Campaigns IL Lles ac Ymgyrchoedd


6 UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD

Siopau a Gwasanaethau Caru Caerdydd a Swyddfa Bost Mae ein Siop Caru Caerdydd ar lawr gwaelod Undeb y Myfyrwyr. Mae’r siop yn cynnwys amrywiaeth helaeth o ddillad nodedig Prifysgol Caerdydd, o siwmperi a hwdis i grysau-t a throwsus. Mae’r siop hefyd y gwerthu deunydd swyddfa ac anrhegion, ac yn cynnwys Swyddfa Bost. LoveCardiff@caerdydd.ac.uk 029 2078 1481 Gosod Tai Myfyrwyr Caerdydd Mae Gosod Tai Myfyrwyr Caerdydd yn asiantaeth gosod y mae Undeb y Myfyrwyr yn ei berchen a’i redeg. Wedi’i leoli ar lawr gwaelod Undeb y Myfyrwyr, mae’n wasanaeth rhad ac am ddim heb unrhyw ffi asiantaeth neu ffi weinyddol. cardiffstudentletting.com 029 2078 1525 cardiffstudentletting Y Cwrt Bwyd yn Y Plas Pan fydd angen bwyd arnoch, y cwrt bwyd yw’r lle i fod. O saladau iachus i fyrgyr neu sglodion, ein hallfeydd bwyd yn Y Plas yw’r lle perffaith i fynd ar y ffordd i’ch darlithoedd. Maen nhw ar yr 2il lawr gyda llawer o seddi, wifi am ddim a socedi i blygio eich gliniadur - sgwrsio, astudio, bwyta, yfed. Mae’r Cwrt Bwyd yn cynnwys Starbucks, bar salad a lle bwyd cyflym.

Y Taf Y Taf yw tafarn Undeb y Myfyrwyr. Mae ein tafarn yn berffaith ar gyfer peint tawel neu rywbeth bach i fwyta ac mae yna hefyd gwis anhygoel, a bargeinion gwych hefyd. Gwasanaethau Eraill Mae gan yr Undeb nifer o wasanaethau eraill gan gynnwys Uni Hair and Beauty, Repair IT, Blackwell’s Bookshop, Bagel Place, Banc Santander, the Print Centre, Kodak Express, Boba Time, Acute Barbers, Co-op a Falafel House.


UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD 7

Cymrwch ran yn y gymuned ôl-raddedig Yn ogystal â chael eu cynrychioli gan yr IL Ôl-raddedig, mae Undeb y Myfyrwyr yn darparu cyfleoedd i ôl-raddedigion helpu arwain ymgyrchoedd a threfnu digwyddiadau cymdeithasol a chyfleoedd.

fod yn rhan o’r Pwyllgor Gwaith eleni neu edrychwch allan am y ffurflenni cais pan fydd cyfle yn hwyrach ymlaen yn y tymor.

Bydd Nick yn eich hysbysu sut i ymuno â’r Pwyllgor yn ystod Medi a Hydref. Fel arall e-bostwich: - VPPostgraduate@ cardiff.ac.uk Pwyllgor Gweithredol Ôl-raddedigion Caerdydd Gall ymuno â’r Pwyllgor Gwaith Ôlraddedig fod yn ffordd arall o fod yn rhan o’r bywyd ôl-raddedig o amgylch y campws. Mae’r pwyllgor hwn yn gasgliad o ôlraddedigion sy’n gweithio’n agos gyda’r IL Ôl-raddedig i gynnal ymgyrchoedd ac i gynrychioli ôl-raddedigion ar draws y Brifysgol. Llynedd fe drefnwyd a chynhaliwyd digwyddiadau ôl-raddedig, hysbyswyd ôl-raddedigion ar fanteision ynghlwm a bod yn aelod o undeb llafur, cynrychiolwyd ôl-raddedigion ar ran yr IL yng nghyfarfodydd y Brifysgol a mwy. Os hoffech chi helpu i wella profiad myfyrwyr ôl-raddedig, mae hyn yn ffordd wych i ddechrau ymwneud ag ymgyrchoedd Undeb y Myfyrwyr. E-bostiwch Nick os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais i

pic


8 UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD

Llais Myfyrwyr

Mae Undeb y Myfyrwyr yn fudiad aelodaeth annibynnol, ddemocrataidd, a’i brif ddiben yw cynrychioli eich buddiannau chi a’ch cyd-fyfyrwyr i’r Brifysgol a chymdeithas yn ehangach. Yn y gorffennol, mae Undeb y Myfyrwyr wedi ymladd ffioedd ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol, dros lyfrgelloedd 24 awr a rhyddhau amserlenni arholiadau ynghynt. Mae yna nifer o ffyrdd y gallwch fynd ati i godi materion y byddwch eisiau i Undeb y Myfyrwyr fynd i’r afael â nhw. Mae disgrifiad cryno isod o’r gwahanol grwpiau sy’n arwain ein gwaith a sut y gallwch chi gyfranogi. Senedd y Myfyrwyr Mae Senedd y Myfyrwyr yn creu ac yn newid polisi Undeb y Myfyrwyr. Golyga hyn eu bod nhw’n penderfynu pa newidiadau neu welliannau y dylem eu

gwneud neu lobïo drostynt. Mae Senedd y Myfyrwyr yn cynnwys dau ddeg pump o seneddwyr a etholir yn Etholiadau’r Hydref. Mae’r Senedd yn cwrdd pum gwaith y flwyddyn ac mae’r cyfarfodydd yn agored i bob myfyriwr. Gall unrhyw fyfyriwr gyflwyno cynnig neu eitem i’w gosod ar yr agenda ar gyfer Senedd y Myfyrwyr, a gall unrhyw fyfyriwr fynychu’r cyfarfod a dadlau o blaid neu yn erbyn y pynciau sydd ar yr agenda. Mae’r agenda, y cofnodion a manylion y cyfarfod nesaf i’w gweld yma cardiffstudents.com/senate. Os oes rywbeth y gallwch feddwl all wneud profiad myfyrwyr ôl-raddedig yn well o fewn Undeb y Myfyrwyr, cyflwynwch eich syniadau yma: cardiffstudents.com/ideas


UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD 9

Etholiadau Gan ein bod yn fudiad democrataidd, caiff pob swydd gynrychioladol, sydd â’r pŵer i wneud penderfyniadau, eu llenwi drwy etholiad traws-gampws. Mae dwy set o etholiadau bob blwyddyn, a chynhelir y rhai cyntaf ym mis Hydref ar gyfer Senedd y Myfyrwyr, Cynrychiolwyr NUS, a’r Pwyllgor Archwilio. Cynhelir yr ail set o etholiadau ym mis Chwefror i ethol y Swyddogion llawnamser sy’n cael eu talu yn ogystal â deg Swyddog Ymgyrchoedd. Mae’r tîm Swyddogion llawn-amser yn cynnwys y Llywydd a chwe Is-Lywydd, gan gynnwys yr Is-Lywydd Myfyrwyr Ôlraddedig. Swyddi gwirfoddol sydd gan y Swyddogion Ymgyrchoedd, ac mae myfyrwyr yn ymgymryd â’r rhain ochryn-ochr â’u hastudiaethau. Maent yn cynrychioli grwpiau lleiafrifol a grwpiau rhyddhau yn Undeb y Myfyrwyr a’r Brifysgol. Mae angen amrywiaeth o leisiau o fewn y swyddi hyn, ac rydym yn chwilio am ôl-raddedigion i sicrhau bod eu lleisiau i’w clywed! Mae dwy brif ffordd o gyfranogi gallwch gyflwyno eich hun ar gyfer swydd sydd o ddiddordeb i chi, neu gallwch bleidleisio dros yr ymgeisydd a fyddai’n gwneud gwaith da yn eich barn chi. Pwyllgor Craffu Mae’r Pwyllgor Craffu’n cynnwys 10 myfyriwr sy’n dal eich cynrychiolwyr (gan gynnwys Llywydd Undeb y Myfyrwyr a’r IL Ôl-raddedig) i gyfrif. Maent yn gwasanaethu i archwilio adroddiadau Swyddogion Etholedig er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio er eich budd chi.

Gall unrhyw fyfyriwr ymgeisio ar gyfer aelodaeth o’r Pwyllgor Craffu yn Etholiadau’r Hydref. Byddant yn cwrdd tua wyth gwaith y flwyddyn. Gallwch weld ar beth mae’r swyddogion yn gweithio a chofnodion o gyfarfodydd y Pwyllgor Craffu ar cardiffstudents.com/officers CCB Mae’r Cyfarfod Cenedlaethol Blynyddol yn gyfarfod gyda 700 o aelodau sydd hefyd yn gallu trafod a phasio polisïau ar gyfer Undeb y Myfyrwyr, cwestiynu ymddiriedolwyr y sefydliad, a derbyn cyllid y flwyddyn. Mae’n gyfle gwych i weld democratiaeth yn gweithio yn ogystal â sut caiff Undeb y Myfyrwyr ei gynnal. Cynhelir CCB eleni am 18:00 ar Ddydd Iau 21ain Tachwedd 2019, gallwch ddarganfod mwy o fanylion ar cardiffstudents.com/agm


10 UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD

Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr Beth yw Cynrychiolydd Academaidd Myfyrwyr? Mae Cynrychiolydd Academaidd Myfyrwyr yn wirfoddolwr myfyrwyr sy’n lleisio sylwadau, pryderon a chwestiynau o’u cyrsiau i’w hysgolion. Eu rolau yw casglu adborth o’u cyrsiau a’i anfon at Baneli Staff Myfyrwyr (PSM) a Byrddau Astudiaeth i sicrhau bod lleisiau’r myfyrwyr yn cael eu cymryd o ddifrif ar bob lefel. Mae gennym gyfanswm o tua 1,000 o Gynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn cynrychioli dros 30,000 o fyfyrwyr. Cynrychiolwyr Ôl-raddedigion Ymchwil Bydd Cynrychiolwyr Ôl-raddedig Ymchwil hefyd yn cael eu gwahodd i Fforymau prifysgol. Mae’r fforymau hyn, wedi’u cadeirio gan yr IL Ôl-raddedig, yn rhoi mwy o gyfle i fyfyrwyr ymchwil i godi eu materion yn uniongyrchol gydag Undeb y Myfyrwyr. Byddwch yn Gynrychiolydd Mae cynrychiolwyr yn chwarae rhan annatod o rymuso lleisiau myfyrwyr ac rydym wastad yn edrych am recriwtiaid newydd. Nid yw profiad blaenorol yn angenrheidiol; y cyfan sy’n ofynnol yw brwdfrydedd a meddwl agored. Bydd y tîm Llais Myfyrwyr yn Undeb y Myfyrwyr yn eich hyfforddi a chynnig cymorth, felly byddwch yn barod ar gyfer eich rôl. Os oes gennych ddiddordeb, mae croeso

i chi gysylltu â StudentReps@Caerdydd. ac.uk i gael manylion y Cydgysylltydd Cynrychiolydd Myfyrwyr perthnasol. Fel arall, gallwch gysylltu â swyddfa eich Ysgol a gallent anfon y manylion atoch. Beth yw’r manteision i mi? Fel ôl-raddedigion, mae eich anghenion addysgol yn aml yn arbenigol ac mae angen sylw penodol arnynt. Felly, trwy fod yn Gynrychiolydd gallwch gymryd gafael ar eich addysg, gallwch helpu i lunio eich cwrs neu brofiad ymchwil ac amlygu unrhyw welliannau. Mae bod yn Gynrychiolydd yn gyfle perffaith i ymgysylltu â myfyrwyr sy’n ymchwilio ac yn astudio pynciau tebyg, byddwch yn cwrdd â llawer o bobl. Cewch gyfle i adeiladu rhwydweithiau gyda staff y Brifysgol i’ch helpu ymgysylltu ag uwch academyddion. Gallwch gymryd rhan mewn sicrwydd ansawdd a gwella safonau academaidd ym Mhrifysgol Caerdydd. Cymerwch ran, ymgeisiwch i fod yn Gynrychiolydd Academaidd Myfyrwyr Unrhyw gwestiynau? Cysylltwch â: Nick Fox – Is-lywydd Myfyrwyr Ôl-raddedig VPpostgraduate@Caerdydd.ac.uk PgradOfficerCSU @PostgradCSU


UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD 11

Defnyddiwch eich Cynrychiolydd Pa fath o faterion mae Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr yn ymdrin â hwy? Gall Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr anfon unrhyw sylwadau cadarnhaol neu negyddol am yr Ysgol, pwnc neu fodiwl drwy fynychu Paneli Staff Myfyrwyr sy’n digwydd tua unwaith y tymor. O ganlyniad o gael eich hyfforddi i arwain myfyrwyr at y bobl berthnasol, mae Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr hefyd yn gallu darparu llawer o wybodaeth ynglŷn â’r Gwasanaethau sydd ar gael o’r Brifysgol a’r Undeb Myfyrwyr.

Sut y gallaf gysylltu â fy Nghynrychiolydd Academaidd Myfyrwyr? Os hoffech rannu adborth am eich cwrs gyda’ch Cynrychiolydd Academaidd Myfyrwyr, gallwch fewngofnodi i cardiffstudents.com/reps a defnyddio’r nodwedd “Find my Rep”. Neu gallwch anfon e-bost at StudentReps@Cardiff. ac.uk neu bicio draw i drydydd llawr Undeb y Myfyrwyr. Efallai y byddwch yn derbyn e-byst gan eich cynrychiolydd yn gofyn am adborth. Darganfod mwy: cardiffstudents.com/reps StudentReps@Caerdydd.ac.uk Cardiff Student Voice @CU_StudentVoice


12 UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD

Gweithgareddau Cymdeithasau Mae ymuno â chymdeithas neu bwyllgor yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn ffordd wych o rwydweithio, parhau gyda’ch diddordebau neu eich cysylltu chi â phobl tebyg i chi. Mae yna dros 200 o gymdeithasau gan gynnwys cymdeithasau ar sail cwrs, grwpiau crefyddol, cymdeithasau rhyngwladol, cymdeithasau gwleidyddol a chymdeithasau diwylliannol. Chwaraeon Caiff ein clybiau chwaraeon eu cefnogi gan yr Undeb Athletaidd, sy’n gofalu am fyfyrwyr sy’n rhedeg dros 60 o glybiau chwaraeon, gan gynnwys chwaraeon unigol a thîm, gweithgareddau awyr agored, chwaraeon d r a chrefft ymladd. Cydgysylltiadau Mae ein cydgysylltiadau myfyrwyr yn rhad ac am ddim a gall unrhyw fyfyriwr Prifysgol Caerdydd fod yn aelod. Mae pob cydgysylltiad yn cynrychioli grŵp arbennig fel myfyrwyr LHDT+, myfyrwyr croenddu a lleiafrifoedd ethnig neu fyfyrwyr hŷn, ac yn ymgyrchu ar faterion all effeithio arnyn nhw. Gallwch ganfod mwy am ein cydgysylltiadau ar cardiffstudents.com/associations. Darganfyddwch mwy am weithgareddau yn Undeb y Myfyrwyr ar cardiffstudents.com/activities


UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD 13

Ffyrdd gwych eraill i gymryd rhan Cyfryngau Myfyrwyr Mae gennym ddiwylliant cyfryngau sy’n ffynnu yn Undeb y Myfyrwyr gyda grŵp brwdfrydig o fyfyrwyr yn cynhyrchu ein papur newydd wythnosol, Gair Rhydd, a’n cylchgrawn misol, Quench, yn ogystal â gwirfoddoli gydag Xpress Radio, ein gorsaf radio, a CUTV, ein gorsaf deledu ar-lein. Gallwch gymryd rhan mewn cyfryngau myfyrwyr unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Gall fod yn ffordd wych o berffeithio eich sgiliau newyddiaduraeth yn ogystal â darparu ystod amrywiol o brofiad ar gyfer y dyfodol. Dysgwch Iaith Newydd Rhowch gynnig ar iaith newydd neu wella iaith bresennol, am ddim! Mae Ieithoedd i Bawb (IiB) yn rhoi cyfle i chi wella eich sgiliau iaith ochr yn ochr â’ch astudiaethau. Mae eu hopsiynau astudio hyblyg yn golygu bod modd i chi ddysgu mewn ffordd sy’n addas i chi, boed yn wythnosol, yn ddwys neu’n annibynnol. P’un ai’ch bod chi’n dechrau o’r dechrau neu am wella eich sgiliau iaith presennol, rydyn ni’n cynnig rhywbeth ar gyfer pob gallu. Mae IiB yn cynnal cyrsiau mewn ystod eang o ieithoedd ac yn cynnal dosbarthiadau ar gampysau ym Mharc Cathays a’r Mynydd Bychan. I ganfod mwy, ewch i cardiff.ac.uk/modernlanguages.

Rho Gynnig Arni Mae Rho Gynnig Arni yn galendr llawn o weithgareddau anhygoel i chi roi cynnig arnynt tra eich bod chi’n fyfyriwr yng Nghaerdydd. Mae’n rhoi cyfle i chi roi cynnig ar yr holl bethau mae ein cymdeithasau yn eu gwneud, cymryd rhan mewn chwaraeon, dysgu iaith newydd, datblygu sgiliau hanfodol, gwirfoddoli, mynd ar deithiau diwrnod a phenwythnos, a llawer llawer mwy. Yr amcan yw eich annog chi i roi cynnig ar bethau newydd, cwrdd â phobl newydd a chael profiad anhygoel yng Nghaerdydd.


14 UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD

Swyddi a Sgiliau Siop Swyddi Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio ochr yn ochr â’ch cwrs ôlraddedig, mae’r Siop Swyddi’n lle gwych i ddechrau. Caiff y Siop Swyddi ei redeg gan Undeb y Myfyrwyr ac mae’n cynnig gwasanaeth cyflogi am ddim i holl fyfyrwyr y Brifysgol. Mae cyfleoedd gweithio ar gael yn y Brifysgol, Undeb y Myfyrwyr a chyflogwyr lleol, sy’n cynnig cyflogaeth am dâl sy’n gweddu eich ymrwymiadau academaidd. I ganfod mwy am y Siop Swyddi a sut i gofrestru, ewch i cardiffstudents.com/ Jobshop neu dewch heibio i’r Ganolfan Sgiliau ar 2il lawr Undeb y Myfyrwyr. Mae’n ffordd wych o ennill arian ychwanegol a rhoi profiad gwaith ar eich CV tra eich bod chi’n astudio! CardiffJobshop @CardiffJobshop Jobshop@Caerdydd.ac.uk 029 2078 1535

Datblygu Sgiliau Mae’r Gwasanaeth Datblygu Sgiliau’n darparu ystod o gyrsiau a fydd yn eich paratoi chi ar gyfer y farchnad gyflogaeth. Mae’r cyrsiau hyn yn amrywio o wella eich sgiliau trosglwyddadwy, codi eich hyder a gwella eich cyflogadwyedd yn gyffredinol. Cyflwynir tystysgrifau am gwblhau’r cyrsiau’n llwyddiannus ac maen nhw’n hynod boblogaidd ymysg cyflogwyr. Mae tri prif faes i’r cyrsiau a gynigir gan y Gwasanaeth Datblygu Sgiliau: • Tystysgrif Datblygiad Proffesiynol • Diploma Datblygiad Personol • Cyrsiau a achredir yn allanol Ceir gwybodaeth fwy manwl am y cyrsiau hyn ar cardiffstudents.com/jobs-skills. Cysylltwch â ni 029 2078 1489 SDS@Caerdydd.ac.uk CardiffSDS @SDScardiff


UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD 15

Gwirfoddoli Caerdydd Mae gwirfoddoli’n ffordd wych o wneud gwahaniaeth yn y gymuned leol yn ystod eich cyfnod yng Nghaerdydd. Mae’n cynnig profiad gwaith gwerthfawr ar gyfer eich CV yn ogystal â rhoi cyfle i chi gwrdd â phobl newydd a mwynhau! Mae Gwirfoddoli Caerdydd yn cynnig ystod eang o brosiectau gwahanol a chyffrous sy’n gallu gweddu eich amserlen prifysgol. Mae llawer o fyfyrwyr yn gwirfoddoli ar brosiectau o gwmpas dinas Caerdydd ac yn ymroi o’u hamser i helpu gwella bywyd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol eraill yn y gymuned leol a datblygu sgiliau, profiadau a chreu ffrindiau newydd wrth wneud hynny. I ganfod mwy am Gwirfoddoli Caerdydd a sut i gymryd rhan, ewch i cardiffstudents. com/volunteering neu galwch heibio’u swyddfa yn y Ganolfan Sgiliau ar 2il lawr Undeb y Myfyrwyr pan fyddwch yn cyrraedd Caerdydd. Mae’r swyddfa ar agor rhwng 09:00-17:00 ddydd Llundydd Iau a rhwng 09:00-16:00 ar ddydd Gwener. cardiffstudents.com/volunteering VolunteerCUSU @VolunteerCUSU @VolunteerCUSU

Menter Prifysgol Caerdydd Mae bod yn fentrus yn golygu bod â’r hyder a’r sgiliau i ddod a syniadau’n fyw. P’un ai os ydych eisiau dechrau busnes, creu a thyfu prosiect cymunedol, neu cael argraff ar gyflogwr, rydym yma i’ch cefnogi. Rydym yn cynnal cyfres o weithdai a digwyddiadau drwy’r flwyddyn i roi profiad i chi a chyfleoedd i gyfarfod â phobl proffesiynol ysbrydoledig. Gallwch hefyd ennill rhoddion ariannol i helpu ddod a’ch syniadau’n fyw. Mae yna hefyd ymgynghorydd arbenigol a all roi arweinyddiaeth un wrth un a chynnig gofod swyddfa rhydd. Dewch o hyd i ni yn y Ganolfan Sgiliau yn Undeb y Myfyrwyr. Enterprise@Caerdydd.ac.uk studententerprise @CardiffUniE


16 UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD

Cymorth a Chyngor

Mae Cyngor i Fyfyrwyr yma i helpu. Rydym yn darparu canllawiau cyfrinachol a diduedd yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd. Caiff y gwasanaeth hwn ei ddarparu gan Undeb y Myfyrwyr, mae hyn yn golygu ein bod ni’n gweithio ar wahân i’r Brifysgol ac rydym yn gweithio er eich budd chi yn unig. Rydym yn gweld miloedd o fyfyrwyr bob blwyddyn - a channoedd o fyfyrwyr ôlraddedig - a’n nod yw eich darparu chi â gwybodaeth wrthrychol fel y gallwch chi wneud penderfyniadau er eich budd chi eich hunain. Yn ogystal â darparu gwybodaeth, gall ein tîm profiadol o ymgynghorwyr ymuno a chi ach cynrychioli yn ystod gweithdrefnau ymddygiad a disgyblu y Brifysgol.

Os oes gennych chi gwestiwn bach, neu broblem fawr, gallwn ni helpu. Cyngor Academaidd Rydyn ni’n darparu cymorth ac arweiniad i fyfyrwyr ar faterion academaidd bob dydd. P’un a fyddwch chi’n ceisio ymgysylltu â gweithdrefnau cymhleth y Brifysgol neu wedi cael ei darostwng gan broses yn y Brifysgol, gall ein cynghorwyr profiadol eich helpu: • Apeliadau Academaidd • Cwynion ac Achwyniadau • Materion Disgyblu • Amgylchiadau Esgusodol • Cymhwyster i Ymarfer • Gweithdrefnau Monitro Cynnydd ac Ymchwil • Cwynion Goruchwyliwr • Arferion Annheg


UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD 17

Cyngor Ar Dai Rydyn ni hefyd yn darparu cyngor ar dai am ddim. Bob blwyddyn rydyn ni’n darparu cyngor i filoedd o fyfyrwyr sy’n dechrau’r broses o rentu tŷ i fyfyrwyr, neu sy’n wynebu anawsterau gyda’u cartref, gan gynnwys: • Gwirio Contractau • Anghydfodau yn ymwneud â blaendaliadau • Dod o hyd i lety • Gadael contract yn fuan • Llwydni, lleithder a Diffyg Atgyweirio • Talu Biliau a Threth Cyngor • Problemau gyda Neuaddau A Mwy! Yn ogystal â materion academaidd a thai gallwn hefyd helpu gyda materion defnyddwyr, problemau cyflogaeth, cwestiynau ynglŷn â gwasanaeth iechyd, materion ariannol a llawer mwy. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr y Brifysgol ac os na allwn ni helpu- gallwn ni eich arallgyfeirio i wasanaeth a fydd yn gallu helpu. Mae llawer o wybodaeth ar gael ar ein gwefan, cymrwch gip olwg cardiffstudents.com/advice

Cysylltwch â ni: 029 2078 1410 Advice@Caerdydd.ac.uk cardiffstudents.com/advice


18 UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD

eich lles Gwasanaethau Dan Arweiniad Myfyrwyr Llinell Nos – Gwasanaeth ffôn gyfrinachol sy’n cynnig cefnogaeth a chlust i wrando. Ar agor bob nos 20:00-08:00 a gwasanaeth negeseuon gwib ar eu gwefan, cardiffnightline. co.uk, 20:00-00:00. SHAG – Eich Grŵp Ymwybyddiaeth Iechyd Rhywiol . Mae SHAG yn llenwi eich dosbarthwyr condoms yn Undeb y Myfyrwyr a’r Lolfa IV yn Y Mynydd Bychan, a hefyd yn rhedeg sesiynau Cerdyn-C. Meddyliau Myfyrwyr - Mae Meddyliau Myfyrwyr yn elusen genedlaethol, sy’n ceisio hyrwyddo iechyd meddwl da i fyfyrwyr ar hyd a lled y wlad! Mae eich cangen yng Nghaerdydd yn cynnal grwpiau cefnogi. Maent hefyd yn cynnal digwyddiadau wedi ei ffocysu ar les yn ystod cyfnodau eraill yn y flwyddyn academaidd, er enghraifft Diwrnod Y Plentyn Mewnol! STASH - Mae Cymorth Alcohol a Sylweddau i Fyfyrwyr yn Wasanaeth Dan Arweiniad Myfyrwyr newydd sbon, sefydlwyd yn 2019 i ymgyrchu dros leihau niwed a brofir gan fyfyrwyr sy’n ymwneud ag alcohol a sylweddau. Mae STASH yn cydweithio ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a WEDINOS i ddarparu myfyrwyr â gwybodaeth a dulliau i’w helpu i gadw’n ddiogel. Gweithredu ar Dai - Grŵp o fyfyrwyr yw Gweithredu ar Dai a’u bwriad yw addysgu a hysbysu myfyrwyr am broblemau cyffredin o ran tai myfyrwyr, a chynnig awgrymiadau ar sut mae datrys problemau posib neu gyfyngu arnynt. Cadwch lygad allan amdanynt mewn

pwyntiau allweddol yn ystod y flwyddyn, er enghraifft yn ystod Pythefnos Tai! Gofalu Am Eich Pen - Gwasanaeth yw Gofalu Am Eich Pen sy’n gweithio i hyrwyddo ymgyrchoedd iechyd meddwl gydol y flwyddyn academaidd a chyfeirio myfyrwyr at wasanaethau cymorth perthnasol. Maen nhw hefyd yn trefnu caffis iechyd meddwl drwy gydol y flwyddyn, gan ddod â myfyrwyr at ei gilydd a hwyluso trafodaethau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl. Siaradwch Amdano - Gwasanaeth gwrando yw Siaradwch Amdano sy’n gweithredu yn ystod y dydd. Gall myfyrwyr siarad â gwirfoddolwyr myfyrwyr cymwys, mewn amgylchedd gyfrinachol, am unrhyw beth sy’n peri pryder iddyn nhw, p’un a ydych chi wedi diflasu, yn unig, neu am gael sgwrs â rhywun cyfeillgar. Cynllun Cyfeillio - Mae Cynllun Cyfeillio Undeb y Myfyrwyr gerllaw i helpu myfyrwyr newydd i ymgartrefu yng Nghaerdydd ac i ddod yn rhan o gymuned fywiog y myfyrwyr. Mae’ch cyfeillion gerllaw i helpu gyda’ch holl gwestiynau am fywyd myfyrwyr ac i fod yn gyswllt â’r holl gyfleoedd anhygoel mae Undeb y Myfyrwyr yn eu cynnig. Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch. Cofrestrwch yn y Plas yn ystod Y Glas. Bwyta’n Dda - Mae Bwyta’n Dda wedi ei gynllunio i addysgu myfyrwyr ar sut i fwyta’n well am lai o arian. Mae’r wasanaeth yn anelu at ddarparu myfyrwyr gyda chynghorion siopa a choginio, a rhannu gwybodaeth ar bwysigrwydd maeth. Rydych chi’r hyn yr ydych chi’n ei fwyta!


UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD 19

Cefnogaeth i Fyfyrwyr Mae Cefnogaeth i Fyfyrwyr yn wasanaethau proffesiynol a ddarperir gan y Brifysgol. Dyma’r prif wasanaethau maent yn eu darparu: Sgiliau Astudio Academaidd, Cyngor ac Arian, Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd; Cwnsela a Lles; Anabledd a Dyslecsia; Cymorth Myfyrwyr Rhyngwladol. Lleolir ar 50 Plas y Parc, Campws Cathays a Thŷ Aberteifi, Campws Parc y Mynydd Bychan.

Gweithdai Academi Ddoethurol Darperir 5 gweithdy yn benodol ar gyfer yr Ymchwilwyr Ôl-raddedig presenol drwy’r Academi Doethurol ar bynciau gan gynnwys: Delio â Pherffeithiaeth, Rheoli Oedi Gwaith, Rheoli Straen a Gorbryder wrth wneud eich PhD a Gwella eich Rhwyngweithio gydag Eraill. Darganfyddwch fwy yn y Rhaglen Academi Ddoethurol ar dudlaen we Prifysgol Caerdydd.

Gwasanaeth galw heibio Lles - Chwiliwch am ‘Gwasanaeth galw heibio Lles’ ar fewnrwyd y myfyrwyr.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, dewch i 3ydd llawr Undeb y Myfyrwyr i siarad â Nick, eich IL Ôl-raddedig neu James, eich IL Lles ac Ymgyrchoedd.

Grŵp cefnogaeth cyfoedion ôl-raddedigion Dyma’r sesiynau sy’n darparu gofod i siarad ag ôl-raddedigion eraill am sut rydych chi’n teimlo a ffyrdd o ymdopi gyda sialensiau bywyd ôl-raddedig. Bydd y 3 sesiwn nesaf yn Ystafell Hyfforddi, 0.01 llawr gwaelod, 51a Plas y Parc ar: • Dydd Mawrth 18fed Medi 2019 10:30 • Dydd Mawrth 23ain Hydref 2019 10:30 • Dydd Iau 22ain Tachwedd 2019 10:30 I archebu lle ar un o’r grwpia, chwiliwch am ‘Cefnogaeth Cyfoedion Ôl-raddedig’ ar Fewnrwyd y Myfyrwyr. Diddordeb mewn bod yn Gefnogwr Cyfoedion Ôl-raddedig? wellbeingchampion@caerdydd.ac.uk

VPPostgraduate@Caerdydd.ac.uk 029 2078 1408 VPWelfare@Caerdydd.ac.uk 029 2078 1422


20 UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD

Digwyddiadau Gwych Mae Caerdydd yn ddinas fywiog sydd ag amryw o ddigwyddiadau i’ch cadw chi’n brysur pan nad ydych chi’n gweithio’n galed. Rydym wedi creu rhestr fer yma ond nid popeth mo hyn – rydym yn argymell crwydro, chwilio a chadw llygad allan er mwyn manteisio ar eich cyfnod yn y ddinas. Tân Gwyllt Mae arddangosiad tân gwyllt blynyddol Caerdydd yn digwydd ddechrau mis Tachwedd i ddathlu Noson Guto Ffowc ac mae Round Table Caerdydd wedi ei drefnu am 30 blynedd a mwy. Fe’i cynhelir ym Mharc Biwt gyda’r castell yn y cefndir ac mae’n gyfle gwych i lapio’n gynnes a mwynhau’r goleuadau llachar. Digwyddiadau Bwyd Stryd Mae Caerdydd yn dod yn ddinas fwyfwy enwog am fwyd ac mae ganddi ddigon o gaffis a thai bwyta gwych i gadw’r rhan fwyaf o arbenigwyr yn hapus. Mae Bwyd Stryd wedi ymuno â’r duedd yn y blynyddoedd diwethaf gyda digwyddiadau hynod boblogaidd o gwmpas y ddinas. Hanner Marathon Caerdydd Prifysgol Caerdydd Mae Hanner Marathon Prifysgol Caerdydd bellach yn un o rasys ffordd mwyaf y Deyrnas Unedig. Dyma 2il hanner marathon mwyaf yn y byd, a ras ffordd mwyaf Cymru. Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal ar ddydd Sul 6fed Hydref eleni.

Pencampwriaeth y Chwe Gwlad RBS Rygbi yw camp genedlaethol Cymru ac mae yna awyrgylch anhygoel yn y ddinas yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad. Gwyliwch Gymru’n herio Lloegr, Ffrainc, Iwerddon, yr Eidal a’r Alban ar sgriniau teledu o gwmpas y ddinas neu, petai chi’n lwcus iawn, gallwch gael gafael ar docyn i wylio gêm yn fyw yn Stadiwm Principality. Gŵyl y Gaeaf yng Ngaherdydd Yng Ng yl y Gaeaf, mae’r Ganolfan Ddinesig yn troi’n wynfyd Nadoligaidd sy’n cynnwys llawr sglefrio awyr agored, reidiau yn ogystal â bwyd blasus a stondinau diod.


UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD 21

Farsiti Cymru Dechreuodd Farsiti Cymru 20 mlynedd yn ôl fel gêm rygbi rhwng myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a myfyrwyr Prifysgol Abertawe. Mae cymaint mwy iddi heddiw. Mae Farsiti Cymru yn wythnos llawn digwyddiadau gyda thimoedd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn 30 a mwy o gampau i gynrychioli eu prifysgol. Bydd y diwrnod terfynol yn gorffen gyda gêm rygbi’r dynion o flaen miloedd o fyfyrwyr o’r ddwy brifysgol. Gŵyl Tafwyl Mae Tafwyl yn yl flynyddol a sefydlwyd gan Menter Caerdydd i ddathlu’r defnydd o’r Gymraeg yn y ddinas. Y prif ddigwyddiad yw Ffair Tafwyl, sef cyfuniad o ddigwyddiadau artistig, cerddorol, diwylliannol a chwaraeon, i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg. Am fwy o wybodaeth, ewch i tafwyl.org. G yl Bwyd a Diod Ryngwladol Caerdydd Gŵyl Fwyd gwreiddiol a fwyaf Caerdydd gyda thros 100 o gynhyrchwyr lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Rhowch gynnig ar, a phrynwch y gorau o gawsiau ffermdy, bara arbenigol, siocledi wedi’u gwneud â llaw a gwirodlynnau arbenigol. Mae yna gerddoriaeth fyw gydol y digwyddiad hefyd i’ch difyru chi.

Digwyddiadau Eraill Cofiwch edrych yn Motorpoint Arena Caerdydd am gerddoriaeth fyw a gigs comedi yn ogystal â Chanolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd, sy’n cynnal sioeau cerdd, operâu, bale a pherfformiadau theatr a dawns. Hefyd mae yna ddewis gwych o orielau celf o gwmpas y ddinas sy’n amrywio o ran maint a thestun, o beintiadau i ffotograffiaeth a cherflunwaith.

Mwy o lefydd gwych i ymweld yn ystod y flwyddyn Castell Caerdydd Yr Amgueddfa Genedlaethol Bae Caerdydd (Senedd Cymru, Canolfan y Mileniwm, Adeilad Pierhad a Chapel Noryweg) The Old Library / Yr Hen Llyfrgell Parc y Rhath a Bute


Mae Rho Gynnig Arni yn cynnal teithiau diwrnod drwy gydol y flwyddyn felly gallwch fwynhau dyddiau allan ar draws Cymru a Phrydain. Eleni rydyn ni wedi cadw rhai teithiau i ôl-raddedigion fel chi!

Teithiau Ôl-raddedig Rho Gynnig Arni Tymor yr Hydref Arfordir Jurassic - 5ed Hydref | £20 Mae’r Arfordir Jwrasig yn gyfle i chi grwydro drwy amser yn llythrennol gyda chreigiau a ffosiliau yn adrodd hanes y Ddaear drwy ffurfiannau a thraethau. *Trefnir bws i ôl-raddedigion yn unig os oes galw am un.

Côr y Cewri a Salisbury - 19eg Hydref | £25 Yn llawn dirgelwch mae, Côr y Cewri yw un o henebion mwyaf adnabyddus ac enwog y DU. *Trefnir bws i ôl-raddedigion yn unig os oes galw am un.

Rhydychen - 20fed Tachwedd | £20 Ewch i Rydychen; tref hardd sy’n gartref i un o brifysgolion gorau’r byd! *Trefnir bws i ôl-raddedigion yn unig os oes galw am un.

Caergrawnt - 23ain Tachwedd | £25 Ymunwch â ni wrth i ni deithio i un o drefi prifysgol fwyaf adnabyddus ac enwog Prydain; Caergrawnt! *Trefnir bws i ôl-raddedigion yn unig os oes galw am un.

Marchnad Nadolig Caerfaddon - 1af Rhagfur | £19 Ni fyddai’r Nadolig yr un peth heb daith i’r marchnadoedd Nadolig byd-enwog - ac mae Caerfaddon ymysg rhai o’r goreuon. *Trefnir bws i ôl-raddedigion yn unig os oes galw am un.

Dilynwch ‘Nick Fox SU’ ar Facebook a @PostgradCSU ar Trydar i glywed am ddigwyddiadau cymdeithasol ôl-raddedig a fydd yn digwydd drwy gydol y flwyddyn yn ogystal â Theithiau Rho Gynnig Arni a fydd yn cael eu cynnal yn nhymor y Gwanwyn.


Yn darparu amrywiaeth o gyrsiau ardystiedig i adeiladu eich hyder a chynyddu eich potensial cyflogadwyedd.


24 UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD

Map o’r campws A1

A2

16

Ardal Astudio Ol-raddedigion 17

ELD AV

AV

SUMMERFI

LD

FIE

H AT

HE

B1

AVENUE

EDINGTON

CLODIAN AD RO

INGLEFIEL

D AVENUE

LLANISHE B2N STR EET

MANOR STR

EET

TALYGARN STR

TR

EE

T

T

T EE

RY S BU

WK ES

BE

DA N

IE

RT

C3L ST

TIA

ST

RS

T

ST

RE

RE

ET

ET

C4

ET

ST

RE

T TS

CE

EN

RO

REET

T TREE

RM AN

EE

T Y ST NRO

GLE

12

AN

ST

EET

STREET

STR

2

ET

TRE

FA S

T H ST OR

RD

FO

1

7

ET

TRE

IS S

RTH CYFA

CROFT

BED

9

EET

W TAL

D4

LL

3

SSE

RU

10

D3

T

STR

RR EHA

TR

11

REE

H ST

POC

KEP

ARR

13 D2

US S

TR

15

D1

ANG

REET

T LD S

REET A ST

A DON

YS

E

TT

PLAC

LE ST

DIAN

NESS

INVER

MINISTER

REET A ST BELL

ARA

ST

14

T ED S

N ISA TR AN LL ST AIN RW HI M ER RT ST THTREHERBE YR ST RETREORKY ET

ALFR

PE NT

TR

ST D TE

EE

T

EN

FL OR

DARRAN

YR CH

C2

RS

T

ES

SP

NO

ET

IEL

MA L EE

GF DO

DI

TR

UC

PL

ES

RE

TR

H

VA N

ST

ES

RC

TO N

ITH

ITC HU

ES

G GA ELL RD IGA EN ER S

C1

BR

LIS

WH

M

DA R

ST RE ET

CO S

BR

NY TH ST

REET AER ST CW M

GELLIG

GWEN

EF AN

RE

TS

ET

TR

EE

T

EET

PARTRI

ELM

DGE RD

STREE

T

4

6 5 8 CR NG T LO REE ST

S

OS


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.